– Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2017.
Symudwn yn awr at eitem 7 ar yr ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, a galwaf ar Angela Burns i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6594 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wrth iddi waethygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r gwaith o gyflenwi gwasanaethau;
b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd iechyd at ei statws arferol; ac
c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i wella canlyniadau i gleifion.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Paul Davies. Fe welwch o'n cynnig ar y papur trefn y gellir ei gymryd ar ffurf pedwar pwynt ar wahân. Rydym yn talu teyrnged i'r staff, rydym yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, ond credwn fod y mesurau arbennig hynny wedi methu ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau gweithredu ar waith.
Rydym wedi dewis canolbwyntio ar Betsi Cadwaladr am mai dyma yw ein bwrdd iechyd mwyaf, a'r un sydd wedi bod o dan fesurau arbennig am yr amser hiraf a hoffwn ddechrau fy nghyfraniad, cyn i mi wneud unrhyw beth arall, drwy dalu teyrnged i'r gwaith caled y mae staff y GIG yn Betsi Cadwaladr yn ei wneud. Maent yn gweithredu mewn amgylchedd anodd iawn gydag adnoddau mor gyfyngedig a phwysau cynyddol, ac oni bai am y staff ymroddedig hyn sydd dan bwysau ac yn aml heb eu gwerthfawrogi, buasai'r sefyllfa'n waeth o lawer nag ydyw ar hyn o bryd. Ymwelais â nifer o ysbytai yn rhanbarth Betsi Cadwaladr, ac mae gwaith y staff a'r staff eu hunain bob amser wedi creu argraff arnaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn amdano.
Dylem atgoffa ein hunain yn fyr o faint yr her, gan mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yw'r mwyaf yng Nghymru ac mae'n darparu gwasanaethau ar gyfer yn agos at 700,000 o bobl ac yn cyflogi tua 16,500 o weithwyr. Mae maint ystâd y bwrdd yn enfawr—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Bydd yn rhaid i chi fod yn gyflym.
A gaf fi ofyn, drwoch chi, i Ysgrifennydd y Cabinet roi'r gorau i'r hyn y mae'n ei wneud a gwrando ar y ddadl?
Mae maint ystâd y bwrdd yn enfawr. Mae'n cynnwys tri ysbyty dosbarth, 22 o ysbytai cymunedol ac acíwt eraill, 19 o ganolfannau meddygol a 121 o bractisau meddygon teulu. Ac fel y gwn wrth yrru i fyny yno, mae mewn ardal ddaearyddol eithaf amrywiol a gall gymryd oriau yn llythrennol i fynd o un ochr i'r llall.
Fodd bynnag, dylem hefyd atgoffa ein hunain, gan gydnabod yr heriau sy'n wynebu sefydliad o'r maint hwn, fod y bwrdd iechyd wedi bod o dan fesurau arbennig ers bron i ddwy flynedd a hanner bellach—ers mis Mehefin 2015. Penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru oedd hwn, a heddiw rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu diweddariad cynhwysfawr ar statws y bwrdd iechyd ar hyn o bryd. Er mwyn ei staff a'r cleifion yn ogystal â'r cyhoedd yng ngogledd Cymru, rhaid i ni wybod pa mor agos rydym i weld y bwrdd yn symud allan o fesurau arbennig a pha welliannau o bwys a gafwyd ers gosod mesurau arbennig 29 mis yn ôl.
Mae hyn yn bwysig oherwydd, er ei fod o dan y ffurf uchaf o reolaeth gan Llywodraeth Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar ei hôl hi o gymharu â chwe bwrdd iechyd arall Cymru ar nifer o ddangosyddion perfformiad mawr. Yn ogystal â bod â'r diffyg rhagamcanol mwyaf yn y gyllideb, mae amseroedd aros am driniaethau cyffredin wedi ymestyn i'r entrychion, gyda nifer y cleifion sy'n aros yn hwy na 52 wythnos am lawdriniaethau cyffredin wedi codi 2,550 y cant, sy'n syfrdanol, ac roedd 2,491 o unigolion ar y rhestr honno ym mis Medi 2017. O gofio bod mwy na £10 miliwn yn ychwanegol wedi'i wario ar gadw'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig a bod ei orwariant ar y gyllideb ar y ffordd i gyrraedd £50 miliwn, rwy'n bryderus ein bod yn dal heb weld cynllun cydlynol ar gyfer gwella gan y Llywodraeth, gan Ysgrifennydd y Cabinet a chan ei dîm.
Bydd cyfranwyr eraill yn edrych yn fanylach ar rai o'r materion allweddol sy'n effeithio ar Betsi Cadwaladr. Maent yn ACau lleol sydd, gyda'u teuluoedd a'u ffrindiau, yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd y mae'r ymddiriedolaeth yn ei gynnig yn rheolaidd, ac maent yn gweld yn eu meddygfeydd yn rheolaidd pa broblemau y mae cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth iechyd lleol yn eu hwynebu. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at un mater allweddol y teimlaf ei fod yn crisialu'r neges hon: rhoddwyd cynlluniau 100 diwrnod ar waith er mwyn cyflawni gwelliannau ar frys, ond dros ddwy flynedd ers sefydlu'r fframwaith gwella, erys pryderon difrifol am allu'r bwrdd iechyd i reoli ei arian ac i ddarparu gwasanaethau diogel, cynaliadwy ac amserol i bobl gogledd Cymru. Yn ogystal â hyn mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi cynnal mwy na 90 o gyfarfodydd neu drafodaethau gyda'r bwrdd iechyd ers iddynt gael eu rhoi mewn mesurau arbennig, yn ogystal â chyfarfodydd a gynhaliwyd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru, ac eto nid yw'n ymddangos bod cyfeiriad strategol trosfwaol cydlynus i ymdrechion y bwrdd i ddod allan o fesurau arbennig.
Ac nid Betsi Cadwaladr yn unig sydd o dan y cwmwl hwn wrth gwrs. Yn sicr nid oes angen i mi atgoffa'r Aelodau fod tri bwrdd iechyd arall yn gweithio o dan y lefel ymyrraeth a dargedir o gymorth gan y Llywodraeth—sef byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda.
Felly, soniwn am fesurau arbennig ac ymyriadau wedi'u targedu, ond beth y mae'r termau hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i bobl ar lawr gwlad? Dylai mesurau arbennig gyfeirio at amrywiaeth o gamau gweithredu y gellir eu cymryd i wella byrddau iechyd mewn amgylchiadau eithriadol, h.y. fel dewis olaf, ac mae'n digwydd pan nad yw bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth yn gwneud y gwelliannau a ddisgwylir a cheir pryderon bod yr arweinyddiaeth a'r rheolwyr angen cymorth allanol. Daw ymyrraeth wedi'i thargedu un lefel yn is na'r mesurau arbennig ac mae'n golygu y gall Llywodraeth Cymru roi camau ar waith sy'n cynnwys trefnu mentora ar gyfer aelodau unigol o'r bwrdd neu'r tîm gweithredol a phenodi unigolion profiadol sydd â'r sgiliau clinigol a/neu sgiliau llywodraethu ar y bwrdd am gyfnod cyfyngedig.
Mae dogfen trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd GIG Cymru Llywodraeth Cymru, a gynhyrchwyd yn 2014, yn amlinellu'r ffyrdd y gellir isgyfeirio ymyriadau. Felly, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Cynulliad beth yw'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer Betsi Cadwaladr, a ydynt wedi eu bodloni, ac os nad ydynt, pa bryd y mae disgwyl iddynt gael eu bodloni? Gofynnaf y cwestiwn yn sgil ymateb a gefais i gwestiwn ysgrifenedig ar 23 Tachwedd, yn gofyn am hyder Ysgrifennydd y Cabinet fod byrddau iechyd Cymru yn dangos gwell perfformiad ariannol. Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Rwy'n siomedig nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dangos y camau gweithredu angenrheidiol hyd yma i gael cyfanswm rheolaeth. Mae fy swyddogion wedi comisiynu adolygiad annibynnol o drefniadau llywodraethu ariannol y Bwrdd Iechyd sydd ar waith ar hyn o bryd.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch egluro i mi beth yn union a olygir wrth 'gyfanswm rheolaeth'? Yr hyn sy'n fy mhoeni yw bod gennych fwrdd iechyd yma sydd o dan fesurau arbennig ac eto mae angen cael rhagor o ymyrraeth i fynd i'r afael â phroblemau ariannol. Yn sicr, ar ôl yr holl amser ac arian a fwydwyd i mewn i'r bwrdd iechyd hwn yn ystod ei amser o dan fesurau arbennig, esgeuluso dyletswydd yw methu sylweddoli tan yn awr fod angen cynnal adolygiad annibynnol o'r trefniadau llywodraethu ariannol. Mae'n ymddangos i mi y dylid bod wedi cynnal archwiliad ariannol ar ddechrau'r broses hon, Ysgrifennydd y Cabinet, nid 30 mis yn ddiweddarach. Faint yn waeth y mae angen i bethau fynd cyn i'r sefyllfa hon gael y sylw manwl y mae cymaint o'i angen? Yn sicr ni fydd hyn ond yn oedi'r broses o adael mesurau arbennig i'r bwrdd iechyd. Ac mae hyn yn hanfodol, oherwydd, tra bo'r bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig, caiff ei enw da ei lychwino, mae ei staff yn digalonni, mae'n ei chael hi'n anodd recriwtio pobl, a cheir amrywiaeth eang o effeithiau o ganlyniad i fod o dan broses y mesurau arbennig.
Nid oes gennyf broblem o gwbl gyda chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, gyda chi fel Llywodraeth Cymru, yn edrych ar rywbeth a dweud, 'Nid yw'n perfformio'n ddigon da—rhaid i ni ei wella; fe'i gosodwn o dan fesurau arbennig.' Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. Ond yr hyn nad wyf yn credu y bydd neb arall yn ei dderbyn yw beth y mae'r mesurau arbennig hynny'n ei olygu, oherwydd, ar ôl bron i 30 mis, dylem fod wedi gweld rhywfaint o welliant, ac nid yw'r lefel honno o welliant yno. Buaswn yn awgrymu wrth y Llywodraeth, mewn gwirionedd, fod y broblem hon yn eich wynebu drwy eich holl ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, oherwydd rydym wedi gweld addysg, rydym wedi gweld cynghorau, yn cael eu rhoi o dan fesurau arbennig, o dan fyrddau adolygu ar gyfer cynghori'r Gweinidog, o dan ymyriadau wedi'u targedu, ac nid wyf yn credu bod cydlyniad ynglŷn â'r hyn y mae mesurau arbennig yn ei olygu.
Nodais y dylai fod llwybrau clir i mewn ac allan o fesurau arbennig, a ffyrdd clir o isgyfeirio, ac mae diffyg eglurder o'r fath yn arwain at ddryswch go iawn i bobl Cymru, ac yn yr achos hwn, i bobl gogledd Cymru. Credaf mai cefnogaeth arwynebol a rowch i ymyrraeth; credaf fod angen cael dull cyffredin o weithredu ar draws adrannau, a dealltwriaeth glir a diffiniadwy ynglŷn â beth yw'r ymyrraeth uchaf mewn bwrdd iechyd. Credaf y dylai mesurau arbennig fod yn opsiwn olaf; dylai olygu gwaith ar lawr gwlad, adolygiad trylwyr o bob agwedd ar y bwrdd iechyd—nid adolygu agweddau, wyddoch chi, pan fyddwch hanner ffordd drwodd, neu yn yr achos hwn, 30 mis yn ddiweddarach—a dylai fod gennym ffordd eglur i'r byrddau iechyd, a'r bwrdd iechyd penodol hwn, allu symud allan o fesurau arbennig. A gofynnaf i chi wrando ar ein dadl heddiw, gwrando ar y sylwadau y mae fy nghyd-Aelodau yn mynd i'w gwneud, gan eu bod ar y rheng flaen, ac yn gallu cynnig cynllun clir a chydlynol y gall pob un ohonom ei ddeall.
Nid yw mesurau arbennig yn dda i ddim os yw'n golygu 90 o sgyrsiau â chi a'ch swyddogion a dim mwy na hynny. Mae'n rhaid iddo fod yn weladwy, ac os yw bwrdd iechyd yn cael trafferth i'r fath raddau fel eich bod bellach yn gorfod comisiynu adolygiad o'r trefniadau llywodraethu ariannol, rhaid i chi roi milwyr profiadol yn y rheng flaen, oherwydd fel arall nid ydym yn mynd i ennill y frwydr dros iechyd da a lefelau da o ofal iechyd yng ngogledd Cymru.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Gwelliant 1. Julie James
Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau i herio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynd i’r afael â’i amseroedd aros a’i sefyllfa ariannol annerbyniol.
Yn nodi’r cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa.
Yn nodi y bydd y cynnydd yn cael ei adolygu gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ddechrau mis Rhagfyr ac y bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn ystyried mesurau pellach y bydd raid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ymgymryd â hwy er mwyn gwella.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn ei enw. Rhun.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rydw i'n siarad fel Ysgrifennydd cysgodol Plaid Cymru dros iechyd, ond rydw i'n siarad hefyd, fel nifer sylweddol o Aelodau eraill yma, fel cynrychiolydd etholaeth sydd yn rhanbarth Betsi Cadwaladr, ac rydw i'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran sawl un o'r rheini pan rydw i'n dweud bod cyfathrebiaeth gan etholwyr, bod fy nghyswllt i efo etholwyr, yn dangos tu hwnt i amheuaeth y straen sydd ar y bwrdd hwnnw a thrafferthion y bwrdd hwnnw i ddelifro'r gwasanaeth iechyd yr ydym ni ei ddisgwyl ar hyn o bryd.
Mae yna dros ddwy flynedd erbyn hyn ers i Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. Rydym ni'n gwybod beth yr ydym ni'n ei ddisgwyl pan fydd bwrdd yn mynd i fesurau arbennig: rydym ni'n disgwyl gwelliant. Rydym ni'n disgwyl bod perfformiad yn gwella. Ond tra ddim am eiliad yn amau dymuniad y Llywodraeth i wella perfformiad, tra ddim yn amau dymuniad rheolwyr i droi cornel, a thra yn talu'r deyrnged fwyaf diffuant a allaf i i'r staff sy'n gweithio mor galed ar y rheng flaen, mae yna lawer gormod o dystiolaeth, mae gen i ofn, fod hwn yn fwrdd iechyd sy'n dal i wynebu problemau affwysol. Nid ydy hynny i anwybyddu'r pethau yna sy'n cael eu gwneud yn dda o fewn Betsi Cadwaladr, ac rydw i'n ddiolchgar iawn i'r prif weithredwr am gysylltu efo fi ac Aelodau eraill ddoe yn pwysleisio'r ardaloedd hynny o waith lle mae'r bwrdd yn gwneud yn dda. Ond mae gweithwyr iechyd meddwl yn dweud wrthyf i mor anodd ydy hi iddyn nhw i ateb gofynion pobl y gogledd—a hynny'n cynnwys gofal i blant a phobl ifanc. Ddoe, mi wnes i sôn yn y Siambr yma am glaf yn methu cael gwely acíwt iechyd meddwl, ac yn gorfod cael ei gludo dros nos i dde-ddwyrain Lloegr.
Mae gofal ophthalmig yn amlwg o dan straen yn ôl fy inbox fi. Mae diffyg meddygon teulu yn argyfwng. Pan nad ydynt yn tynnu dannedd, mae deintyddion yn tynnu'r gwallt o'u pennau oherwydd y straen maen nhw'n ei wynebu ar hyn o bryd. Mae orthopaedics yn parhau yn broblem ddifrifol iawn, iawn. Mae llif cyson o gleifion ar restrau aros yn dod i'm weld i, efallai'n aros am glun neu ben-glin er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu parhau i fyw bywyd bywiog ac iach. Ac mae'n gwbl annerbyniol eu bod nhw'n cael clywed bod amseroedd aros am lawdriniaeth frys mewn rhai achosion yn 106 o wythnosau. Rydym ni'n gwybod, ar ôl profiad y gaeaf diwethaf, pan oedd capasiti llawdriniaethau orthopaedig yn cael ei dorri—oherwydd pwysau'r gaeaf, medden nhw wrthym ni—mae hi wedi mynd yn waeth ar y rhestrau aros. Mae aros dros ddwy flynedd am driniaeth frys i gael clun newydd yn sgandal. Nid oes yna ddim gair arall i'w ddisgrifio.
Felly, rydym ni'n croesawu'r cynnig. Mi wrthodom ni welliant y Blaid Lafur achos, mae'n ddrwg gen i, ond nid ydw i'n fodlon nodi'r
'cymorth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi' i'r bwrdd
'weithio i sefydlogi ac adfer ei sefyllfa', achos mae hynny'n awgrymu eu bod nhw'n rhoi cymorth digonol. Ac nid yw hynny, yn amlwg, ddim yn wir. Mae cymorth yn cymryd sawl ffurf, wrth gwrs—nid dim ond cymorth ariannol. Rydw i eisiau i'r bwrdd elwa o gymorth ar ffurf Llywodraeth sy'n bod yn llawer mwy arloesol yn ei hagwedd at delivery gofal iechyd yng Nghymru, sydd wir yn gwthio'r agenda integreiddio er mwyn galluogi gwasanaethau iechyd a gofal i weithio efo'i gilydd, er enghraifft.
Yn troi at ein gwelliant ni, ni fyddwch chi'n synnu i fy ngweld i'n cyflwyno gwelliant sydd â ffocws ar y gweithlu a'r angen i hyfforddi mwy o bobl ar gyfer y gweithlu iechyd. Rydw i'n gobeithio y gallaf i ddibynu ar gefnogaeth pob plaid. Nid oes unrhyw beth dadleuol mewn dweud y bydd angen—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn i chi am dderbyn yr ymyriad. Hoffwn sicrhau'r Aelod dros Ynys Môn y byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cefnogi eich gwelliant, oherwydd rydych yn gwneud pwynt dilys iawn ynddo.
Diolch. Rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth honno.
Nid oes yna ddim byd, wrth gwrs, yn ddadleuol mewn galw am gynyddu lefelau hyfforddiant. Lle mae yna anghytuno rhyngom ni a'r Llywodraeth ydy ar sut i ddarparu'r capasiti newydd yna. Mae'n uchelgais i ddatblygu Prifysgol Bangor gennym ni fel canolfan—neu mae yna uchelgais gyffredinol, a dweud y gwir, i ddatblygu'r brifysgol fel canolfan rhagoriaeth ym maes ymchwil a hyfforddiant gofal iechyd. Mae gennym ni uchelgais i ddatblygu'r ganolfan addysg feddygol hefyd. Mae yna gyfleoedd gwirioneddol yna i hyfforddi nyrsys yn ogystal â gweithwyr iechyd eraill a meddygon. Ac, wrth hynny, rydw i'n golygu hyfforddi myfyrwyr israddedig o'r flwyddyn gyntaf, nid dim ond sicrhau bod myfyrwyr o golegau meddygol eraill yn treulio rhagor o amser yn y gogledd, er nid oes dim byd o'i le ar wneud hynny. Ac mae yna lot i'w ddweud am uchelgais. Mae yna risg go iawn o adael i bobl eraill ddangos uchelgais a pheidio â thrio dal i fyny. Mae Prifysgol Caer yn y broses o sefydlu ysgol feddygol. Mae yna bryder go iawn ynglŷn â'r effaith a allai hynny gael ar Brifysgol Bangor, oni bai bod yna ymdrech go iawn yn cael ei wneud i ddod ag addysg feddygol yno hefyd.
Mi wnaf i gloi. Mae cofrestr risg Betsi Cadwaladr yn dweud hyn:
Mae perygl fod y Bwrdd Iechyd yn methu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i ddarparu gwasanaeth gofal sylfaenol i boblogaeth Gogledd Cymru... Mae perygl y bydd y Bwrdd Iechyd yn cael anhawster i recriwtio a chadw staff o ansawdd uchel mewn rhai ardaloedd.
Rwy'n bryderus ynglŷn â hynny. Mae gwir angen i ni weld y Llywodraeth hon, sy'n gyfrifol am Betsi Cadwaladr, yn dechrau cynllunio ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar Betsi Cadwaladr a'n holl fyrddau iechyd eraill ar gyfer y dyfodol, gydag arloesedd. Fel arall, byddwn yn parhau i ofyn i'n gweithlu presennol wneud yr amhosibl, ac maent hwy a'u cleifion yn haeddu gwell.
Mae perfformiad bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, boed yn dda neu fel arall, yn effeithio'n uniongyrchol iawn ar fy etholwyr yn Aberconwy ac ar hyn o bryd mae'n ffurfio llawer iawn o'r gwaith achos. Mae'n werth nodi, yn y bwrdd hwn, fod cyfraddau achosion o MRSA ac MSSA yn is nag yn unman arall yng Nghymru, ac mae amseroedd galwadau ambiwlans coch a thriniaeth canser o fewn 31 diwrnod yn ail orau yng Nghymru. A lle y gwelwn ymarfer da, rydym am ddathlu hynny ac rydym yn ei gymeradwyo.
Fodd bynnag, bydd y materion a godir yn fy nghyfraniad heddiw yn sicr yn tynnu sylw at fethiannau parhaus a llawer o feirniadaeth o Ysgrifennydd iechyd Llywodraeth Cymru. Ddirprwy Lywydd, ym mis Ionawr eleni, soniais am brinder meddygon teulu yn y Siambr hon. Rydym wedi gweld meddygfa ar ôl meddygfa'n cau yn Aberconwy, ac eto roedd hwn yn faes gwelliant yn rhan o broses y mesurau arbennig. Ym mis Chwefror, soniais am amseroedd aros orthopedeg a thrawma. Ers ymyrraeth y Llywodraeth, mae nifer y cleifion sy'n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth wedi codi 2,127 y cant i 1,782. Mae gennyf etholwyr yn aros 130 o wythnosau—dyna ddwy flynedd a hanner—am yr hyn yr ystyrir ei bod yn driniaeth frys a hanfodol, gan wynebu pob dydd mewn poen enbyd a gwendid go iawn.
Ym mis Mawrth, soniais am bryderon ynglŷn â chymorth ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Bu'n rhaid i mi sôn am hynny eto ddoe wrth y Prif Weinidog. Roeddwn yn pryderu wrth glywed yn ddiweddar y gallai claf sydd angen ymyrraeth seiciatrig ddifrifol wynebu amseroedd aros annerbyniol o hyd at 18 mis. Mae gennyf achos arall lle mae mynediad at driniaeth iechyd meddwl mor ddrwg fel bod un o fy etholwyr wedi ceisio lladd eu hunain o'r blaen.
Materion gofal iechyd yng ngogledd Cymru y bu'n rhaid i mi dynnu sylw atynt yn gyson, fis ar ôl mis, wythnos ar ôl wythnos—ac eto, dyma ni, ar ddiwedd mis Tachwedd 2017, ac fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Angela Burns, 30 mis ar ôl ymyriadau gan eich Llywodraeth chi a gennych chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd o ansawdd da ledled Cymru.
Ni welwn unrhyw welliant amlwg, gyda'r bwrdd bellach yn wynebu'r diffyg rhagamcanol uchaf yn y gyllideb ac yn llusgo ar ôl gweddill Cymru'n ddifrifol ar nifer o ddangosyddion perfformiad lefel uchel. Y flwyddyn nesaf, bydd yn braf gweld perfformiad gwell a pheidio â gorfod dal ati i dynnu sylw at broblemau ar ran fy etholwyr—ar ran pob un o'r 3,368 o gleifion sy'n wynebu arhosiad o 100 wythnos am lawdriniaeth orthopedig ddewisol, i fy etholwr oedrannus sydd nid yn unig wedi wynebu aros am dair blynedd bron am golonosgopi, ond y dwysawyd eu rhwystredigaeth drwy orfod aros pum mis am ateb byr gan y bwrdd iechyd.
Nawr, hoffwn dynnu sylw at y staff sy'n gweithio yn y bwrdd iechyd, a'u canmol. Byddaf yn teimlo'n flin iawn drostynt, oherwydd maent yn ysgwyddo llawer o'r baich yn sgil y ffaith eich bod yn methu yn eich perfformiad. Maent yn gweithio o dan bwysau eithafol ac yn cyflawni tasg enfawr, a hynny'n ddiddiolch yn aml. Ond rwy'n pryderu ynglŷn ag enghreifftiau o staff clinigol sy'n gweithio sifftiau 24 awr. Mae astudiaethau wedi dangos effeithiau niweidiol diffyg cwsg ar berfformiad a gallu i ganolbwyntio, ac mae sefyllfaoedd o'r fath yn achosi niwed difrifol, yn rhoi cleifion a staff mewn perygl. Gwelsom yn y mis diwethaf nifer y marwolaethau eleni a achoswyd gan ddigwyddiadau anfwriadol neu annisgwyl—41. Cofnodwyd bod mwy na hanner y rheini wedi digwydd ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr. Ddirprwy Lywydd, dyna 41 o gleifion, 41 o deuluoedd, a'u hanwyliaid a ddrylliwyd gan golled, galar a thrallod annioddefol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi tynnu eich sylw at y mater hwn sawl gwaith, ac ar yr adegau pan wyf wedi ei ddwyn i sylw'r Prif Weinidog, rydych yn eistedd yno, yn aml iawn yn ysgwyd eich pen. Ar ddechrau'r ddadl hon—nid ydych yn gwrando yn awr hyd yn oed. Ar ddechrau'r ddadl hon, nid oeddech yn ddigon cwrtais i wrando ar fy nghyd-Aelod, llefarydd ein gwrthblaid. A dweud y gwir, nid wyf yn siŵr pa mor o ddifrif rydych chi ynglŷn â'ch rôl. Mae wedi bod yn aneglur o'r cychwyn sut yn union y mae'r Llywodraeth yn rheoli'r bwrdd o dan fesurau arbennig, felly rydym yn galw arnoch heddiw i amlinellu pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau gyda rhywfaint o eglurder nad yw'r ansicrwydd ariannol ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r modd y darparir gwasanaethau, ac i gyhoeddi cynllun gweithredu clir i'r bwrdd iechyd allu dychwelyd i'w statws arferol.
Mae'r sefyllfa fel y mae yn anghynaliadwy, ac yn hollol annerbyniol mewn gwirionedd. Rydym yn edrych ar draws y ffin ac yn gweld perfformiad cymaint gwell. Pam y dylem gael loteri cod post? Pam y dylai fy etholwyr, ac unrhyw etholwr arall sy'n byw yng ngogledd Cymru, orfod dioddef ymarfer gwael ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gwael dros ben ac nad yw'n gallu gwneud ei waith, a dweud y gwir?
Mewn gwirionedd, nid yw'r blaid sy'n honni mai hi yw plaid y GIG i'w gweld yn gallu gwneud y gwaith. Nid yw defnyddio'r esgus hyd yn oed ei bod yn cymryd amser i droi system iechyd o gwmpas pan fo o dan fesurau arbennig yn dal dŵr, gan fod Llafur wedi bod yn rheoli Cymru ers dau ddegawd bellach, ac aeth Betsi Cadwaladr i'w sefyllfa bresennol o dan eu goruchwyliaeth hwy. Mae beio San Steffan yn wan ar y gorau, gan fod Llafur yn gwneud llawer o'u hawydd i weld pethau'n cael eu datganoli i'r lle hwn fel y gall Llywodraeth Cymru eu rhedeg—yr holl ddadl yn ddiweddar ynglŷn â chipio pŵer posibl yn sgil Brexit, ac yma mae gennym enghraifft o sut y mae'r Llywodraeth hon yn methu pan roddir rheolaeth iddi ar un o'r gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf.
Mae Llafur yn dweud o hyd y dylid datganoli mwy o bethau, ond yna, pan ddangosir nad ydynt yn gymwys i redeg gwasanaeth, fel yn achos Betsi Cadwaladr, maent yn ceisio dod o hyd i ffordd o feio San Steffan. Wel, bai Llywodraeth Cymru yw hyn a neb arall. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn rhygnu ymlaen am yr holl bethau y mae'n eu gwneud i geisio gwella bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr, ac nid yw'n syndod ei bod hi'n fud ynglŷn â'r pethau nad yw'n eu gwneud.
Nid yw Llafur wedi awgrymu yn unman y dylid gwneud aelodau o'r byrddau iechyd yn fwy atebol. Ymgyrchodd UKIP o blaid ethol aelodau i fyrddau iechyd fel eu bod yn atebol i bobl Cymru. Atebolrwydd—a hynny ar un mater ac ni ellir ei ystumio, sef pam y dadleuodd Llafur yn erbyn y syniad blaengar hwn mae'n debyg. Er ei bod yn amlwg nad oes gan y Llywodraeth Lafur ewyllys i gael gwared ar aflerwch, rwy'n gwbl hyderus fod gan y cyhoedd yng Nghymru ewyllys i wneud hynny, a bydd byrddau iechyd etholedig yn galluogi hynny i ddigwydd.
Nid oes dim a wnaeth y Llywodraeth yn gweithio, felly pam y dylem barhau i adael iddynt ymdrechu? Nid ystadegau'n unig yw'r rhestrau aros. Maent yn cynrychioli poen a dioddefaint y bobl ar y rhestrau aros hynny a'r straen ar gleifion, eu teuluoedd a staff y rheng flaen. Mae'r rhestrau aros yn gwaethygu, mae morâl staff yn disgyn, mae canlyniadau iechyd yn dioddef, ond nid oes yr un o'r byrddau iechyd wedi cael eu hel ymaith a neb o reolwyr y GIG sydd ar gyflogau uchel wedi cael eu diswyddo.
Ac mae yna effaith sy'n llawer mwy pellgyrhaeddol na phryderon iechyd y claf. Rhaid bod staff rheng flaen yn teimlo pwysau anhygoel, yn gorfod gweithio'n galetach hyd yn oed nag y mae'n rhaid i'n staff GIG ymroddedig ei wneud eisoes i wneud iawn am anallu uwch-reolwyr yn Llywodraeth Cymru. Llafur yw'r blaid sy'n honni mai hi yw plaid y gweithwyr hefyd. A ydynt yn hapus gyda'r pwysau y maent yn ei roi ar weithwyr y sector cyhoeddus? Mae hyn yn ymwneud â llawer mwy na rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus. Mae hyn yn ymwneud â gwerthfawrogi staff a'u llesiant. Mae Llafur hefyd yn ceisio dweud mai hi yw plaid cydraddoldeb, ond ble y mae cydraddoldeb i'r rhai sy'n dioddef am fod eu cod post yn golygu bod yn rhaid iddynt aros lawer yn hwy am driniaeth nag unrhyw ddinesydd arall yng Nghymru neu'r DU?
Mae problemau Betsi Cadwaladr eu hunain yn symptomau—symptomau o Lywodraeth nad yw'n ymddangos bod ganddi ewyllys i wneud yr hyn y buasai unrhyw reolwr cyfrifol arall yn ei wneud a diswyddo'r swyddogion gweithredol hyn ar gyflogau mawr ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am gamreoli'r gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Mae'r methiannau dan arweiniad y Llywodraeth ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn dangos nad Llafur yw'r blaid ar gyfer y GIG, nac ar gyfer amddiffyn staff y rheng flaen, ac nid ydynt yn gwneud dim i leihau anghydraddoldeb mewn canlyniadau iechyd heblaw gosod yr un system a gamreolir ar gyfer pawb sy'n ddibynnol ar y GIG yng ngogledd Cymru. Rwy'n credu bod galwadau blaenorol wedi'u gwneud am ymchwiliad cyhoeddus llawn, a chredaf bod llawer o werth ynddynt. Pe bai hynny'n cael ei gynnig, buaswn yn barod i'w gefnogi. Mae GIG Cymru yn sâl, ac yn anffodus i bobl Cymru, y rhestr aros ar gyfer triniaeth, pan ellir disodli'r Llywodraeth hon yng Nghaerdydd, yw tair blynedd. Diolch.
Mae ein bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru mewn mesurau arbennig ac wedi gorwario oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod ein rhybuddion dros nifer o flynyddoedd. Ar bob achlysur, mae Gweinidogion Llafur wedi osgoi'r cyfrifoldeb gan ein cyhuddo ni yn lle hynny o ladd ar ein GIG pan fyddwn yn siarad oherwydd bod staff, cleifion a theuluoedd wedi gofyn inni wneud hynny. Rhoddwyd y bwrdd o dan fesurau arbennig yn 2015 ar ôl i ymchwiliad allanol ddatgelu bod cleifion wedi dioddef cam-drin sefydliadol yn uned iechyd meddwl acíwt Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd. Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd ar y pryd yn y pen draw fod y penderfyniad hwn yn adlewyrchu, ac rwy'n dyfynnu:
pryderon difrifol a heb eu datrys ynghylch arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a chynnydd yn y bwrdd iechyd dros beth amser.
Dywedodd y bwrdd iechyd ei fod wedi cael rhybudd ynghylch phryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan yn uned Ablett ym mis Rhagfyr 2013, ond roedd pryderon ynglŷn â'r ward hon yn mynd yn ôl lawer ymhellach. Er enghraifft, yn 2009, cynrychiolais etholwr a ddywedodd fod y driniaeth a gafodd ei gŵr yno bron iawn â'i ladd, fod tri chlaf arall a gafodd eu derbyn o gwmpas yr un adeg â'i gŵr wedi cael profiadau tebyg, ac roedd hi bellach yn poeni am y driniaeth y gallai eraill ei chael yn yr uned hon.
Wrth gwrs, cafwyd rhai agweddau cadarnhaol ers y mesurau arbennig. Yn dilyn fy ymyrraeth ar ran y ganolfan niwrotherapi yn Sir y Fflint, lle roedd cyllid y bwrdd iechyd wedi disgyn i £65 y person yn unig o gymharu â £500 gan gomisiynwyr yng Ngorllewin Swydd Gaer, cadarnhaodd prif weithredwr y bwrdd iechyd fframwaith ar gyfer y dyfodol.
Pan ymwelais â staff gwych yn Ysbyty Maelor Wrecsam yr haf hwn gydag Ymddiriedolaeth Hepatitis C, dywedasant wrthyf fod yna opsiynau triniaeth cynhwysfawr bellach. Fodd bynnag, roeddent yn ychwanegu y buasai gwneud yr hyn y mae Llywodraeth Cymru'n gofyn amdano yn galw am gael rhwng chwech a naw nyrs hepatoleg arbenigol ychwanegol ar draws y bwrdd iechyd. Rydym wedi gweld cleifion yn aros misoedd am driniaeth rheoli poen.
Y prynhawn yma, cyhoeddodd y bwrdd iechyd fod practis meddyg teulu arall eto'n cau. Er bod mesurau arbennig wedi arwain at rywfaint o symud oddi wrth drin cwynion er mwyn osgoi risg tuag at ddatrys problemau drwy ymgysylltu'n uniongyrchol ag achwynwyr, mae cynnydd wedi arafu. Roedd ymateb diweddar i gŵyn ynghylch claf a fu farw tra'n derbyn triniaeth gan y bwrdd iechyd yn enghraifft nodweddiadol o hyn. Er bod y bwrdd wedi ymddiheuro ac wedi datgan bod y gŵyn wedi'i harchwilio yn unol â rheoliadau, daeth i'r casgliad dideimlad, ac rwy'n dyfynnu, nad oedd unrhyw rwymedigaeth gymhwyso ar yr achlysur hwn.
Roedd y teulu mewn gofid dwys a dywedasant wrthyf fod yr ymateb yn cynnwys nifer o wallau ffeithiol.
Betsi Cadwaladr yw'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru nad yw'n comisiynu gwasanaethau gan ganolfan therapi plant Bobath, sy'n darparu ffisiotherapi arbenigol, therapi alwedigaethol a therapi iaith a lleferydd i blant yng Nghymru sydd â pharlys yr ymennydd. Mae'r gost i'r gweddill yn fach iawn a'r arbedion yn enfawr. Gyda'r ganolfan, a rhiant o ogledd Cymru y mae eu merch wedi cael y cymorth hwn, cyfarfûm â'r bwrdd iechyd ddwywaith i chwilio am ffordd ymlaen. Roedd ganddynt adroddiad drafft a gopïwyd ar ein cyfer i ni wneud sylwadau arno. Ymatebodd pob un ohonom ar y ddealltwriaeth glir y byddai ymgysylltu teuluol ehangach ond yn dilyn wedi i'n sylwadau gael eu cynnwys yn yr adroddiad drafft. Yn lle hynny, cyhoeddwyd yr adroddiad drafft heb ei ddiwygio i rieni gyda holiadur, a oedd yn gogwyddo'n annheg tuag at ddarparu gwasanaethau mewnol, yn hytrach na'r ddarpariaeth sydd ar gael gan Bobath o safon y tu hwnt i'r hyn y gall y bwrdd iechyd ei ddarparu.
Ar ôl i asesiadau awtistiaeth gael eu gwrthod iddynt, mae rhieni sawl merch wedi dweud wrthyf nad yw cyrff statudol yn deall bod y meddylfryd wedi newid, a bod awtistiaeth yn wahanol mewn merched. Er iddynt gael eu gorfodi i dalu am asesiad awtistiaeth preifat, dywedodd llythyr yn 2017 gan y bwrdd iechyd fod CAMHS Sir y Fflint wedi mynegi pryderon ynghylch trylwyredd a chasgliadau nifer o asesiadau preifat, ac mewn rhai achosion nid oeddent yn derbyn y diagnosis, a bod gofyniad i'r rhain gydymffurfio â chanllawiau NICE. Fodd bynnag, pan gyfeiriais hyn at y seicolegydd clinigol a oedd wedi cynnal yr asesiadau hyn, cadarnhaodd nid yn unig ei bod hi a'i thîm yn cydymffurfio â NICE, ond hefyd ei bod yn cyfrannu at ganllawiau NICE.
Mae'r dull hwn o weithredu'n helpu i egluro pam y nodwyd y nifer uchaf o achoson difrifol o dorri amodau diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd hwn o blith holl ysbytai Cymru, pam y mae ganddo'r record waethaf mewn perthynas â chleifion sy'n aros dros bedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a chyda Cymru â dwywaith y lefel yn Lloegr o gleifion sy'n aros am driniaeth, pam y cynyddodd nifer y cleifion ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr sy'n aros dros flwyddyn am lawdriniaeth gyffredinol 2,550 y cant, fel y clywsom yn gynharach, o 94 ar yr adeg pan roddwyd y mesurau arbennig ar waith i 2,491 yn mis Medi 2017. Ni all hyn barhau.
Rydym wedi gwrando ar nifer o areithiau grymus iawn sy'n dangos cymaint o drychineb yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan lywyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet presennol a'r un blaenorol sydd wedi gadael y Siambr dros dro. Nawr, ers blynyddoedd maith, mae'r Blaid Lafur wedi arfer dweud bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn destun eiddigedd y byd. Wel, o ran Betsi Cadwaladr, nid wyf yn gwybod pa fyd y maent yn ei feddwl—rhaid mai planed Plwto, oherwydd yn sicr nid yw'n destun eiddigedd i neb ar y ddaear hon.
Nododd Michelle Brown bwynt pwysig iawn yn ei haraith yn gynharach, sef diffyg ymateb bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i'w gleifion mewn perthynas â'r cwynion y maent wedi eu gwneud. Rydym wedi cael rhes enfawr o enghreifftiau unigol yma y prynhawn yma, ac nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at thema a nodais yn y Siambr ar sawl achlysur ers cael fy ethol: amddifadu ucheldiroedd Cymru o gwmpas Blaenau Ffestiniog o unrhyw ddarpariaeth iechyd o sylwedd. Mae ymhell dros flwyddyn bellach ers i mi holi'r Prif Weinidog beth oedd Llywodraeth Cymru'n mynd i wneud ynglŷn â hyn, o ystyried bod Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig. Dywedais fod y record yng Ngwynedd yn enwedig, yn yr ardal o amgylch Blaenau Ffestiniog, yn union i'r gwrthwyneb i'r hyn a honnai'r Llywodraeth yn yr adran ar iechyd yn ei dogfen 'Symud Cymru Ymlaen', lle roeddent yn dweud,
'Rydym wedi ymrwymo i helpu i wella iechyd a llesiant pawb.'
Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn ucheldiroedd Cymru yn gyfan gwbl i'r gwrthwyneb. Yn y saith ardal llesiant a ddiffiniwyd gan Gyngor Gwynedd, mae ysbyty hyb cymunedol ym mhob un ar wahân i Flaenau Ffestiniog, am fod eu gwasanaeth 24 awr wedi cau sawl blwyddyn yn ôl a'i israddio'n ganolfan iechyd 10 awr, ac mae wedi'i israddio eto ers hynny. Ers 2013, felly, rydym wedi gweld ysbyty'n cau, colli gwelyau ysbyty, cau'r gwasanaeth pelydr-x, cau uned mân anafiadau, cau clinigau teleddermatoleg a gwasanaethau therapi, mae dwy feddygfa gangen wledig wedi cau, ac roedd y practis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog i fod i gynnwys pedwar o feddygon llawn amser, ond un meddyg cyflogedig yn unig sydd ganddynt ac amryw o staff locwm. O ran Blaenau Ffestiniog, nid oes ganddynt wasanaeth iechyd gwladol; mae ganddynt wasanaeth iechyd damcaniaethol. Ac yn y 14 mis ers i mi gyflwyno'r feirniadaeth honno i'r Prif Weinidog, nid oes dim o gwbl wedi newid er gwaethaf y mesurau arbennig, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth am y peth.
Erbyn hyn, mae pawb ohonom yn gwybod, wrth gwrs, fod ardaloedd fel Blaenau Ffestiniog a'r cylch cyfagos yn achosi problemau. Mae tensiwn yn mynd i fod bob amser wrth ddarparu gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd gwledig tenau eu poblogaeth, ond mae'r modelau a ddewiswyd yn ymwneud mwy â'r hyn sy'n briodol ar gyfer ardaloedd trefol yn hytrach nag ardaloedd gwledig. Mewn lleoliadau trefol, wrth gwrs, am resymau amlwg iawn, y duedd yw crynhoi gwasanaethau mewn canolfannau gofal iechyd cymunedol, ond yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru, mae wedi digwydd i'r cyfeiriad arall. Yr hyn y dylem ei wneud yw gwthio gwasanaethau i ardaloedd gwledig er mwyn sicrhau canlyniadau i gleifion heb golli gormod o effeithlonrwydd ariannol. Yr hyn a welsom yw gwariant sylweddol iawn o arian ym Mlaenau Ffestiniog yn ddiweddar—ymhell dros £1 filiwn, rwy'n credu—ond ni chafodd yr un gwely ei greu; rydym wedi creu dwsinau ar ddwsinau o ddesgiau i fiwrocratiaid y gwasanaeth iechyd gwladol yn lle hynny.
Felly, maent wedi cau'r ysbyty coffa a gosod bloc o swyddfeydd yn ei le. Nid dyna a ddisgwyliwn gan wasanaeth iechyd, ac mae trigolion Blaenau a'r cylch, druain, yn haeddu llawer gwell na hynny. Ymddengys bod gwledydd eraill yn llwyddo i wneud hyn. Pam na allwn ni? Yn yr Unol Daleithiau, mae'r ardaloedd gwledig wedi mwynhau cymorth a diogelwch Deddf Gwasanaethau Clinigau Iechyd Gwledig 1977, ac mae Swyddfa Ffederal Polisi Iechyd Gwledig a'r Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Iechyd Gwledig yn darparu mecanwaith i ymgyrchwyr iechyd gwledig gael cymorth sylweddol wrth ryngwynebu â'r Gyngres.
Rydym yn gwybod bod yna rywbeth a elwir yn ddirywiad pellter—hynny yw, po bellaf y byddwch yn byw o ysbyty, y gwaethaf y mae canlyniadau iechyd yn tueddu i fod, am fod pobl yn ei chael yn llawer anos mynd i'r ysbyty, felly ni fyddant yn mynd am driniaeth mewn pryd ac yn ddigon rheolaidd. Ceir problemau gyda thlodi mewn ardaloedd gwledig. Mae pobl yn gorfod talu i deithio i ysbytai sy'n bell o'u cartrefi, felly nid oes ganddynt wasanaeth iechyd am ddim am ei fod yn costio cryn dipyn o arian iddynt yn aml er mwyn cael y driniaeth y maent yn ei haeddu.
Yn yr Alban, ceir rhai modelau mwy dychmygus nag sydd gennym yma yng Nghymru. Er enghraifft, ar Ynys Skye, mae ganddynt fodel ymarferwyr gwledig lle mae ysbyty Broadford yn cael ei staffio gan feddygon teulu sydd wedi'u hyfforddi â sgiliau ychwanegol mewn anaestheteg a thrawma. Datblygwyd y model ar ôl ymgynghori â'r gymuned leol, a'r sylweddoliad fod angen rhai gwasanaethau brys ar gymuned o'u maint, sef tua 13,000, ond na allent gynnal ysbyty cyffredinol. Yn hytrach, mae ysbyty Broadford bellach yn uwch-ysbyty cymunedol. Pam na allwn wneud hynny yn y Blaenau? Gwrthododd yr Ysgrifennydd iechyd blaenorol ymyrryd mewn camau i gau gwasanaethau ysbyty ym Mlaenau Ffestiniog am fod y cyngor iechyd cymuned lleol yn cefnogi'r cau, ond wrth gwrs, ni chaiff y cyngor iechyd cymuned lleol ei ethol gan neb yn yr ardal lle mae'r ysbytai'n cael eu cau. Dyna pam fod angen inni gyflwyno'r math o ddemocratiaeth y cyfeiriodd Michelle ati yn y gwasanaeth iechyd.
Yn anffodus, credaf fy mod ar ddiwedd fy araith ac ni fuasai'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu i mi dderbyn ymyriad, er y buaswn wedi bod yn falch iawn o wneud hynny fel arall.
Felly, mae arnaf ofn fod y catalog hwn o drychineb yn parhau, a chredaf ei fod yn debygol o barhau ymhellach hyd oni fyddwn yn newid Llywodraeth y wlad hon.
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl y prynhawn yma. Er nad wyf o'r gogledd, wrth gwrs, drwy fy rôl fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yma, rwy'n amlwg yn treulio cryn dipyn o amser yn mynd i fyny i ogledd Cymru a chael profiad uniongyrchol o'r trafferthion, fel y buaswn yn ei roi, y mae llawer o bobl yn teimlo eu bod ynddynt gyda'r gwasanaeth y maent yn ei gael gan y bwrdd iechyd, sydd wedi bod o dan fesurau arbennig ers oddeutu 30 mis. Yn amlwg, mae'n werth nodi mai'r cyfnod y bydd corff iechyd tebyg yn ei dreulio o dan fesurau arbennig ar gyfartaledd yn Lloegr yw oddeutu 21 mis.
Nid wyf am fychanu'r ffaith bod tensiynau a phroblemau ar draws y Deyrnas Unedig gyfan mewn perthynas â gwasanaethau iechyd. Yn benodol, mae rhywbeth i'w ddathlu yn y ffaith bod mwy o bobl yn cael eu trin yn ein gwasanaeth iechyd ledled y Deyrnas Unedig. Y rheswm am hynny, wrth gwrs, yw oherwydd bod llawer mwy o bobl ar yr ynysoedd hyn ac rydym yn byw'n hwy yn ogystal, ac felly mae gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig yn wynebu dilema gwirioneddol yn sgil y galw cynyddol ac anallu i ddenu'r staff sydd eu hangen arnynt i weithio ar y wardiau a'r practisau gofal sylfaenol.
Ac nid oes achos mwy arwyddocaol i dynnu sylw ato na'r hyn a geir yng ngogledd Cymru, sydd, ers blynyddoedd lawer—fwy neu lai am yr holl amser y bûm yn aelod o'r Cynulliad—wedi cael trafferth i recriwtio staff, a chadw staff yn benodol. Rydym yn canolbwyntio llawer ar recriwtio staff newydd i'r gwasanaeth iechyd, ond mewn gwirionedd, mae cadw yn rhan hanfodol o'r hyn y dylem fod yn ei wneud yn y gwasanaeth iechyd, ac yng ngogledd Cymru yn anad unman. Os edrychwch ar yr ystadegau salwch staff yn y bwrdd iechyd, mae'n destun gofid eu bod ymhlith rhai o'r uchaf yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae straen yn benodol wedi ei nodi fel un o'r rhesymau mwyaf cyffredin, neu'r achos unigol mwyaf, dros absenoldeb staff, oherwydd y pwysau sydd arnynt wrth gwrs.
Mae oddeutu 30 mis wedi mynd heibio, fel y dywedais, ers i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan fesurau arbennig. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi bod yn ei swydd ers 16 neu 17 mis bellach—ychydig bach mwy na hynny efallai—a gobeithio y bydd yn defnyddio'r cyfle wrth ymateb i'r ddadl hon heddiw i roi asesiad gonest ac agored o ble y mae'n gweld y bwrdd iechyd yn mynd. Ni all fod yn iawn, ar ôl 30 mis a chyda'r Ysgrifennydd iechyd yn ei swydd bellach am y cyfnod hwnnw o amser, na allwn gael asesiad gonest ynglŷn â sut nad yw Llywodraeth Cymru, gyda'r holl adnoddau sydd ar gael iddi, yn mynd i'r afael â'r amseroedd aros, â chadw staff a recriwtio ac yn anad dim, â'r problemau cyllideb sy'n wynebu'r bwrdd iechyd hwn; tan yn ddiweddar, rhagamcanwyd diffyg yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon o £50 miliwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r ffigur diweddaraf yn dangos bod sefyllfa'r diffyg bellach wedi'i ostwng i £36 miliwn, ond ynddo'i hun, dyna'r diffyg mwyaf yn y gyllideb y bydd y bwrdd iechyd hwn wedi'i gael mewn un flwyddyn ariannol.
Pan edrychwch ar amseroedd aros a'r enghreifftiau graffig a roddwyd gan Aelodau o ogledd Cymru, ac yn enwedig o fy meinciau i yma gan yr Aelod rhanbarthol Mark Isherwood a'r Aelod dros Aberconwy, Janet Finch Saunders, o bobl yn aros 12, 18 mis, mwy na 100 wythnos am driniaeth, mae hynny'n rhywbeth na ddylem ei oddef yn yr unfed ganrif ar hugain. Pan edrychwch ar y niferoedd mewn gwirionedd, os cymerwch yr amser aros o 52 wythnos ar gyfer llawdriniaeth gyffredin, cododd o 94 o gleifion yn 2015 i ffigur o 2,491 yn awr, ym mis Medi 2017. Dyna gynnydd o 2,500 y cant. Mae'r mathau hyn o ffigurau yn gwbl annealladwy i'r rhan fwyaf o bobl. Y cyfan y mae'r rhan fwyaf o bobl ei eisiau—nid ydynt yn disgwyl triniaeth gyflym, ond maent yn disgwyl i'r driniaeth honno gael ei darparu mewn amser rhesymol.
Rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi rhywbeth cadarn a diriaethol inni ei ychwanegu at y ddadl hon i allu dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion ym Mharc Cathays, ynghyd â'r bwrdd iechyd, yn amgyffred y sefyllfa mewn perthynas ag amseroedd aros yn ardal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr er mwyn mynd i'r afael â'r amseroedd aros cynyddol hyn. Mae damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, yn faes arall sy'n peri pryder enfawr fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog ac mewn cwestiynau i chi, rwy'n credu, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran yr amseroedd aros gwarthus y mae pobl yn gorfod eu hwynebu yn Ysbyty Glan Clwyd, yn ei ysbyty ei hun, sy'n gwasanaethu ei etholwyr, lle y caiff llai na 70 y cant o bobl eu gweld o fewn y targed o bedair awr—eich targed eich hun. Does bosibl eich bod yn cytuno â chaniatáu'r sefyllfa honno mewn ysbyty mawr yma yng Nghymru. Ac felly, yn eich anerchiad yn y ddadl y prynhawn yma, hoffwn ofyn i chi roi trywydd clir i ni allan o'r mesurau arbennig i ni allu ei briodoli i'r ddadl hon, fel y gall yr Aelodau fynd yn ôl at eu hetholwyr a dweud pa gynnydd a wnaed ers i'r bwrdd iechyd gael ei osod o dan fesurau arbennig. Rwy'n gobeithio y byddwch yn egluro'r sefyllfa y mae'r bwrdd iechyd ynddi gyda'r gyllideb, oherwydd dyma eich cyfle i wneud hynny.
Yn anad dim, rwy'n gobeithio y byddwch yn rhoi rhywbeth ystyrlon i ni ar recriwtio a chadw staff oherwydd heb y staff ar y rheng flaen yn ein bwrdd iechyd, boed hynny mewn amgylchedd sylfaenol neu eilaidd, nid oes gwasanaeth iechyd yn bodoli. Fel y crybwyllodd Angela Burns, hwy yw'r asgwrn cefn, hwy yw'r gwaed sy'n gwneud i'n gwasanaeth iechyd weithio, ac mae'n ddyletswydd arnoch, gyda'r dulliau sydd ar gael i chi, gynnig pecyn sylweddol o fesurau sy'n mynd i'r afael â'r prinder staff cronig sy'n wynebu bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am ddadl fywiog ac anodd, gyda llawer o feirniadaeth, ac mae hynny i'w ddisgwyl. Rwy'n cydnabod ar y cychwyn y bydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 2, gan ein bod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu. Efallai y gallem fod wedi'i eirio'n wahanol, ond credaf ei bod yn anghywir i ni hollti blew ynglŷn â geiriau unigol yn y gwelliant. Rydym yn cydnabod yr her ganolog a wnaed ac a gafodd ei chydnabod yn y gwelliant.
Yn sgil gosod mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015, y meysydd a amlinellwyd ar gyfer gweithredu ar unwaith ar y pryd oedd: llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth, gwasanaethau iechyd meddwl—y maes pryder mwyaf—gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, ailgysylltu â'r cyhoedd, a gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu a gofal sylfaenol. Nawr, nid yw mesurau arbennig eu hunain yn gyfystyr â bod Llywodraeth Cymru'n cymryd rheolaeth uniongyrchol ac yn rhedeg y bwrdd iechyd. Mesurau arbennig yw'r lefel uchaf o ymyrraeth, ond mae'r bwrdd iechyd yn dal ar waith ac yn rhedeg gwasanaethau. Nid oes neb yn cyfarwyddo ym Mharc Cathays neu'n gwneud dewisiadau ynglŷn â sut i redeg y sefydliad. Mae'r ymyrraeth sydd ar waith wedi gweithio ochr yn ochr â'r bwrdd a'r staff i geisio gwneud cynnydd a gwella gwasanaethau ac wedi cynyddu'n sylweddol ein goruchwyliaeth a'r trefniadau atebolrwydd.
Wrth gwrs, rwy'n gwerthfawrogi gwaith caled ein staff yn darparu gwasanaethau a chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru. Pan fyddaf yn ymweld â gogledd Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, byddaf yn cyfarfod â staff ac yn cael fy nghalonogi gan y gydnabyddiaeth a'r ymrwymiad sydd ganddynt i gyflawni'r gwelliannau angenrheidiol. Rwy'n falch fod pobl, yn y ddadl hon, yn cydnabod ymrwymiad ein staff, ond carwn ddweud yn garedig wrth bob Aelod ym mhob plaid—nid wyf am gyfeirio at unrhyw unigolyn penodol—wrth gydnabod ymrwymiad staff a'u gwaith caled, mae cyfeirio wedyn at y bwrdd iechyd fel trychineb neu mewn argyfwng yn tanseilio hynny. Mae'n tanseilio ac yn effeithio ar y staff ar y rheng flaen. Nid yw'r heriau y mae'r bwrdd iechyd yn eu hwynebu yn bodoli ym mhob maes gweithredu. Mae cael y brwsh eang hwnnw'n effeithio ar y staff yn ogystal â'r wleidyddiaeth yn y lle hwn.
Yn natganiad y Llywodraeth ym mis Hydref 2015, nodais y byddai'r bwrdd iechyd yn parhau o dan fesurau arbennig am o leiaf ddwy flynedd a bod angen cynlluniau hwy i adeiladu ar y cam cychwynnol hwn o sefydlogi er mwyn mynd i'r afael â heriau mwy sylfaenol sy'n bodoli, yn enwedig gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru.
Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith gwella, sy'n nodi cerrig milltir ar gyfer cynnydd i'w cyflawni mewn tri cham: y cynllun gwella, os mynnwch. Cyflwynodd y bwrdd iechyd adroddiad ar y cam cyntaf ym mis Mawrth 2016, yr ail gam ym mis Rhagfyr 2016, a disgwylir adroddiad ar y trydydd cam ym mis Rhagfyr, fis nesaf. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cynnal trydydd adolygiad o gynnydd ar y trefniadau llywodraethu, ac fe'i cyhoeddwyd ym mis Mehefin eleni. Roedd yr adolygiad hwnnw'n cydnabod bod y bwrdd iechyd yn mynd i'r cyfeiriad cywir at ei gilydd. Nododd fod yr arweinyddiaeth wedi cryfhau, mae'r bwrdd yn gweithio'n fwy effeithiol ac mae mesurau arbennig yn helpu i ganolbwyntio ar feysydd lle mae angen gweithredu.
Gwnaed cynnydd ar gyflawni nifer o'r cerrig milltir a osodwyd, gan gynnwys gosod gweithrediaeth lawn ar waith, gan gynnwys chwe phenodiad newydd ers cyflwyno mesurau arbennig. Rhoddwyd amser ac ymdrech i wella perfformiad y bwrdd gyda rhaglen ddatblygu barhaus, a nododd adolygiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru eu bod wedi gweld gwelliannau amlwg yn effeithiolrwydd y bwrdd. Fel y crybwyllwyd yma, caiff cwynion a phryderon eu harwain gan y cyfarwyddwr nyrsio bellach, a bu gwelliant sylweddol o ran ymatebolrwydd. Datblygwyd strategaeth iechyd meddwl mewn partneriaeth â defnyddwyr a staff gwasanaethau, a chytunwyd arni ym mis Ebrill eleni. Cafwyd dull llwyddiannus o drawsnewid gwasanaethau gofal sylfaenol ym Mhrestatyn, sy'n cael eu modelu bellach gan ennyn diddordeb nid yn unig ledled Cymru, ond ymhellach i ffwrdd yn ogystal.
Ar wasanaethau mamolaeth, un o'r heriau mwyaf sylweddol ar adeg gosod y mesurau arbennig, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys, er enghraifft, lleihau'r ddibyniaeth ar asiantaeth, o 50 y cant i 10 y cant. Erbyn hyn mae'r gwasanaeth yn cydymffurfio â Birthrate Plus, ac mae myfyrwyr bydwreigiaeth cyn cofrestru a symudwyd o Ysbyty Glan Clwyd yn 2015 i gyd wedi dychwelyd bellach, fel bod yr holl safleoedd ar draws y bwrdd iechyd yn cael eu defnyddio'n llawn at ddibenion hyfforddi. Ac wrth gwrs, mae gwaith ar y ganolfan is-ranbarthol ar gyfer gofal dwys i'r newydd-anedig yn mynd rhagddo'n dda, a disgwyliaf y bydd yr uned yn agor yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf.
Roedd adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn nodi heriau parhaus, gan gynnwys yr angen am gynllun clir ar gyfer gwasanaethau clinigol, ac a fydd yn galw am arweinyddiaeth ddewr a gweladwy i sicrhau cynnydd ac i adeiladu arno. Wrth gwrs, rwy'n siomedig fod rhai materion wedi dwysáu yn ystod y chwe mis diwethaf mewn meysydd eraill sy'n galw am welliant sylweddol yn awr, yn enwedig o ran cyllid a pherfformiad. Nid wyf erioed wedi ceisio osgoi realiti'r heriau sylweddol mewn perthynas â chyllid a pherfformiad, mewn gofal wedi'i drefnu a heb ei drefnu. Oherwydd y pryderon sydd gennyf, cynyddais yr atebolrwydd o haf eleni ymlaen, gyda mwy o gyswllt uniongyrchol rhyngof fi ac uwch-swyddogion. Rwy'n cyfarfod gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwyr yn uniongyrchol. Mewn gwirionedd, rwyf eisoes wedi trefnu i'w cyfarfod yfory yng ngogledd Cymru fel rhan o'r cyswllt amlach hwnnw.
Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr her barhaus i'r bwrdd iechyd o fynd i'r afael â'i sefyllfa ariannol bresennol a'i amseroedd aros annerbyniol. Mae fy ffocws ar sicrhau gweithredu a darparu'r cymorth sydd ei angen i sefydlogi ac adfer y sefyllfa. Rwyf eisoes wedi gweithredu ac wedi rhoi nifer o gamau ar waith i helpu i wneud hynny. Dyna pam rydym yn ceisio nodi'r cymorth a ddarparwyd eisoes o dan y mesurau arbennig, a'r camau ychwanegol a gymerais, gan gynnwys y cyngor a'r cymorth allanol ychwanegol i'r tîm iechyd meddwl, sydd wedi gosod mwy o staff yn y bwrdd ac o'i amgylch, a dyrannu dros £13 miliwn i wella amseroedd aros rhwng atgyfeiriad a thriniaeth. Rydym yn disgwyl i hynny wella oddeutu 50 y cant erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Cafodd £1.5 miliwn o fuddsoddiad ei neilltuo ar gyfer tîm y rhaglen gofal heb ei drefnu i drawsnewid y modd y caiff gwasanaethau eu darparu ac i wella perfformiad gofal heb ei drefnu, gyda chymorth wedi'i dargedu gan uned gyflawni GIG Cymru. Darparwyd cymorth uniongyrchol gan y rhaglen genedlaethol i'r tîm gofal heb ei drefnu.
Mae'r adolygiad allanol annibynnol a gomisiynwyd ar drefniadau llywodraethu ariannol wedi ei ddarparu ar gyfer ei drafod gyda'r bwrdd. Dewisasom wneud hynny'n gynharach yn fwriadol, yn hytrach nag aros am ddirywiad pellach yn sefyllfa'r bwrdd iechyd. Roedd yn fesur rhagweithiol i ddeall yr heriau sydd ganddynt, ac yna i ddeall pa gymorth pellach y buasai ei angen. Rwyf wedi ymestyn amser y panel trosolwg annibynnol ar gyfer Tawel Fan i fis Ebrill 2018, i wneud yn siŵr fod eu gwaith yn cael ei wneud yn iawn ac i sicrhau bod yna gasgliadau y gall pobl ddibynnu arnynt. Yr wythnos hon, rwyf wedi cytuno i gymorth pellach i'r bwrdd iechyd gyda David Jenkins, cyn-gadeirydd profiadol allanol bwrdd iechyd Aneurin Bevan, un o'n byrddau iechyd mwy llwyddiannus yng Nghymru, a bydd ef yn awr yn mabwysiadu rôl gynghorol i gefnogi'r cadeirydd a'r prif weithredwr ar y gwaith sefydlogi ac adfer sy'n ofynnol. A bydd yn darparu adroddiadau ar ei ganfyddiadau i mi wrth gwrs, yn ogystal â gweithio gyda'r cadeirydd a'r prif weithredwr.
Wrth gwrs, byddaf yn adolygu adroddiad cam 3 gan y bwrdd iechyd ar y cynnydd, ac yn ystyried safbwyntiau'r rheoleiddwyr yn gynnar ym mis Rhagfyr. Rwy'n cydnabod y galwadau a wnaed yn y ddadl hon am fap allan o fesurau arbennig, a buaswn yn atgoffa pobl yn ofalus o'r hyn a ddywedasom ar y pryd pan aeth y bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig. Aeth i mewn ar sail y cyngor a gawsom—y cyngor difrifol, a oedd yn peri pryder, a gawsom gan brif weithredwr GIG Cymru, gan Swyddfa Archwilio Cymru, a hefyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Felly, nid gweithred o hwylustod gwleidyddol i Weinidogion oedd rhoi'r sefydliad hwn o dan fesurau arbennig. Ni ddylai dod allan o fesurau arbennig fod yn fap a luniwyd yn wleidyddol. Ceir amheuaeth amlwg y buasai hynny'n fater o gyfleustra i mi neu'r Llywodraeth hon. Wrth gwrs, byddaf yn derbyn ac yn gweithredu ar y cyngor gwrthrychol a gaf ynglŷn â beth i'w wneud a pha bryd fydd yr amser iawn i wneud hynny. Byddaf yn adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun gwella presennol wrth gwrs, ac yn gweld beth arall sydd ei angen.
Fy nod yw cryfhau'r gwaith rydym eisoes yn ei wneud i gefnogi dull o newid er mwyn sicrhau bod y bwrdd iechyd yn gwneud y gwelliannau gofynnol. Ni ellir cuddio difrifoldeb y sefyllfa, na pha mor ddifrifol rwy'n ystyried y dasg. Gwn yn iawn y bydd yna gwestiynau i'w gofyn ac y dylid eu gofyn hyd nes y ceir gwelliant parhaus yn y meysydd lle mae'r bwrdd iechyd hwn yn llusgo ar ôl. Byddaf yn parhau i adrodd yn ôl a byddaf yn parhau i adrodd yn ôl yn onest ac yn dryloyw ar y cynnydd a wnaed a'r cynnydd sydd ei angen. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau cyn y Nadolig wrth gwrs, yn dilyn prosesau adolygu unrhyw gamau ychwanegol sydd i'w cymryd.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddadl, a oedd yn cydnabod, roeddwn i'n meddwl, mewn ffordd fwy nag a welwyd o'r blaen, fod yna angen dybryd o hyd i wella pethau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr? Rydych wedi clywed y sylwadau gan Aelodau'r Cynulliad o bob plaid y prynhawn yma, sydd wedi nodi'n glir iawn y mha feysydd y mae'r bwrdd iechyd penodol hwn yn methu. Credaf mai'r hyn sy'n peri pryder mawr i ni yw bod y pethau hyn wedi dirywio rhagor, lawer ohonynt, ers i'r bwrdd gael ei osod o dan fesurau arbennig. Dylai hynny fod yn destun pryder. Rwy'n siŵr ei fod yn peri pryder i chi. Fe awgrymoch nad oedd Llywodraeth Cymru yn rheoli'r bwrdd yn uniongyrchol, ond wrth gwrs, yn syth ar ôl gosod y mesurau arbennig, fe benodoch chi ddirprwy brif weithredwr yr adran rydych bellach yn gyfrifol amdani i redeg y bwrdd iechyd. Felly, mae awgrymu nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhedeg y bwrdd iechyd yn ymddangos ychydig yn rhyfedd mewn gwirionedd.
Wrth gwrs, ni ddylem anghofio ychwaith fod y daith tuag at y mesurau arbennig yn un anodd. Roeddem wedi bod yn galw ers tro am i'r bwrdd gael ei osod o dan fesurau arbennig ond ni phenderfynodd Llywodraeth Cymru wneud hynny hyd nes y cyhoeddwyd adroddiad Tawel Fan pan drodd y fantol o'r diwedd. Eto i gyd, ni chyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw am oddeutu chwe mis ar ôl ei rannu â Llywodraeth Cymru, a'i rannu gyda'r bwrdd iechyd hwnnw mewn gwirionedd. Rhoddwyd adroddiad Tawel Fan, a luniwyd gan Donna Ockenden, ac a nodai'n glir y driniaeth erchyll—y driniaeth gwbl annerbyniol a'r diffygion gofal ar ward Tawel Fan—i'r bwrdd iechyd ym mis Medi 2014, ac eto cymerodd tan fis Mehefin 2015, a oedd ychydig wedi etholiad cyffredinol, rhaid i mi ddweud, cyn y cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw ar gyfer y cyhoedd ac y penderfynodd y Llywodraeth hon roi camau ar waith. Felly, credaf fod yna gwestiynau difrifol i'w gofyn ynglŷn â pham nad yw'r mesurau arbennig a osodwyd ar y bwrdd wedi gweithio hyd yma a pham rydych bellach yn gorfod, sut y gallaf ei roi, cymryd mwy o ddiddordeb personol yn y broses o newid cyfeiriad Betsi Cadwaladr.
Rydym wedi clywed eisoes eu bod mewn trafferthion ariannol. Pan aethant o dan fesurau arbennig roedd eu diffyg ar gyfer 2014 yn £26 miliwn; mae bellach yn £36 miliwn—perfformiad gwaeth, er gwaethaf y ffaith bod perfformiad ariannol yn un o'r materion y cafodd ei osod o dan fesurau arbennig o'i herwydd. Clywsom eisoes fod mwy o bobl yn aros yn hwy am eu llawdriniaeth nag erioed o'r blaen ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr—mae rhai pobl yn aros dros ddwy flynedd rhwng atgyfeiriad a thriniaeth, yn enwedig am eu llawdriniaethau orthopedig. Mae'n gwbl annerbyniol. Dyma'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf o ran mynediad at adrannau brys. Dyma fwrdd iechyd sydd i fod yn destun craffu llawer mwy gofalus nag unrhyw un o'r byrddau iechyd eraill yng Nghymru. Felly, os mai dyma y mae craffu gofalus iawn yn ei wneud i fwrdd iechyd, efallai y buasai wedi bod yn well i chi fod wedi peidio ag ymwneud o gwbl, gan ei bod yn amlwg nad yw wedi gweithio.
Gwasanaethau meddyg teulu: ymddengys bod yr argyfwng yn mynd yn waeth ac yn waeth ac yn waeth. Mae pum meddygfa eleni hyd yma—chwech os credaf yr hyn y mae Mark Isherwood wedi'i rannu gyda'r Siambr heddiw—wedi penderfynu dychwelyd eu contract i'r bwrdd iechyd am nad ydynt yn gallu cynnal a chyflawni'r contract hwnnw. Mae ganddo'r nifer uchaf o bractisau meddygon teulu a gaiff eu hystyried fel mannau gwan gan Gymdeithas Feddygol Prydain, sy'n awgrymu bod pethau'n gwaethygu eto yn y dyfodol. Felly, ymddengys bod y problemau'n cyflymu ym maes meddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol yn ogystal.
Cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at faterion diogelwch cleifion yn y bwrdd iechyd, ac mae'n siwr y byddwch yn dweud wrthym mai'r rheswm am hynny yw eu bod yn adrodd y pethau hyn yn fwy gonest y dyddiau hyn. Ond mae cael mwy na hanner yr holl farwolaethau a gofnodwyd o ganlyniad i gamgymeriadau yn digwydd yn yr un bwrdd iechyd hwnnw—nad yw'n gwasanaethu hanner y boblogaeth yng Nghymru—yn afreolaidd. Nid yw'n iawn. Mae'n dangos bod rhywbeth mwy problemus yn digwydd yno. Yn gwbl briodol, clywsom am beth o'r pwysau staffio a wynebwyd gan y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Fi fydd y cyntaf i ganmol staff y bwrdd iechyd hwnnw. Maent yn gwneud gwaith gwych ac ardderchog yn wyneb pwysau sylweddol ar y rheng flaen, ond nid oes digon ohonynt. Ymwelais â dwy uned iechyd meddwl yr wythnos diwethaf ac roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn gorfod dibynnu ar staff asiantaeth drwy'r amser. Mae hynny'n golygu bod gennych bobl nad ydynt yn adnabod y cleifion o un diwrnod i'r llall, nid ydynt yn staff rheolaidd ac o ganlyniad, mae hynny'n achosi pwysau o fewn y timau gwaith hynny.
Felly, nid yw'r hyn a ddigwyddodd hyd yma yn gweithio; rhaid inni weld newid sylweddol yn y bwrdd iechyd. Mae teuluoedd Tawel Fan yn haeddu gweld y sefyllfa yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn benodol yn newid cyfeiriad. Nid ydynt yn mynd i weld unrhyw ganlyniadau o ran y gwaith dilynol a gomisiynwyd tan fis Mawrth nesaf fan lleiaf. Credaf fod yr holl bethau hynny'n awgrymu bod Llywodraeth Cymru wedi methu'n gyfan gwbl ag ymdrin â heriau yn y bwrdd iechyd hwn a bod angen newid trywydd yn sylweddol os ydym yn mynd i gael hyn yn iawn.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.