1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 6 Rhagfyr 2017.
Cwestiynau yn awr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe oedd diwrnod cyllideb Cymru. A gaf fi ofyn ichi, mewn perthynas â'r gyllideb honno, a'i heffaith ar—[Torri ar draws.] Roeddwn yn meddwl y byddech yn hoffi hynny, Simon Thomas. Effaith y gyllideb ar fusnesau a busnesau bach yng Nghymru: a allwch ddweud wrthym sut rydych yn teimlo bod y gyllideb wedi bod yn dda ar gyfer mentrau bach a chanolig yng Nghymru, ac o ystyried y ffaith bod y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi amcangyfrif, am bob £1 a wariwyd gan awdurdod lleol sy'n cymryd rhan gyda busnesau bach a chanolig lleol, fod hynny'n cynhyrchu 63c yn ychwanegol er lles eu heconomi leol, o gymharu â 40c yn unig a gynhyrchir gan gwmnïau lleol mwy o faint, sut rydych yn sicrhau bod prosesau caffael Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd er mwyn sicrhau'r gwerth gorau posibl i Gymru ac y byddwn yn sicrhau ein bod yn caffael yn lleol ac yn caffael gan gwmnïau llai o faint, nid busnesau mwy yn unig?
Diolch i Nick Ramsay. Wel, Lywydd, credaf fod y gyllideb a drafodwyd gennym ddoe yn cyd-fynd ag anghenion busnesau Cymru mewn llawer iawn o ffyrdd. Mae'n cynnwys y cyllid a fydd yn angenrheidiol i gychwyn ein cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach newydd parhaol, sy'n darparu dros £100 miliwn yn uniongyrchol bob blwyddyn i gefnogi busnesau yng Nghymru. Mae busnesau yng Nghymru yn elwa'n hollol uniongyrchol o'r buddsoddiadau a wnawn yn y seilwaith—dyna sut y mae eu cwsmeriaid yn teithio i'w busnesau. Maent yn elwa o bopeth a wnawn o ran sgiliau ac addysg—dyna sut y mae'r bobl y maent yn eu cyflogi yn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i wneud busnesau'n llwyddiannus. Maent yn elwa o bopeth a wnawn yn y gwasanaeth iechyd gwladol—dyna sut y gall pobl sy'n gweithio mewn busnesau yng Nghymru sicrhau eu bod yn ffit ac yn iach i gyflawni'r dyletswyddau y maent yn cael eu cyflogi i'w gwneud. Mae ein cyllideb yn cefnogi busnes mewn amrywiaeth eang o ffyrdd.
Yn benodol mewn perthynas â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, fel y dywedais mewn ateb cynharach, yn ôl ym mis Medi, cyhoeddais fy mod am gynnal adolygiad o'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyflawni'r gwaith rydym am iddo'i wneud, ac mae'r cwestiwn a ofynnodd Nick Ramsay yn allweddol yn hynny o beth. Rwy'n gwbl ymrwymedig i'r rhaglen a roddwyd ar waith gan fy rhagflaenydd yn y maes hwn o sicrhau bod mwy o wariant pwrs y wlad yng Nghymru yn cael ei wario gyda chyflenwyr Cymreig a bod yr arian hwnnw a wariwyd gyda chyflenwyr Cymreig yn mynd ymlaen i gynhyrchu swyddi ac i ddiogelu swyddi yma yng Nghymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch eich bod wedi crybwyll y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Codais y mater hwn gyda chi ddoe yn y ddadl ar y gyllideb. Gwn fod Andrew R.T. Davies wedi'i grybwyll yn gynharach. Mae'n allweddol bwysig o ran gwella gweithdrefnau caffael yng Nghymru. Dangosodd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol fod gwendidau ynghlwm wrth y broses o ddatblygu achos busnes ar gyfer y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, nad oedd wedi cydymffurfio'n llawn â gweithdrefnau arferol Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr adroddiad hwnnw sylw hefyd at y ffaith nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau'r gwasanaeth gymaint ag y rhagwelwyd, gan arwain at bryderon ynglŷn â'i ariannu. Mewn ateb i Andrew Davies, fe ddywedoch chi'n gynharach eich bod yn adolygu hyn. A allwch roi amserlenni o ran pryd y credwch y bydd yr adolygiad hwn wedi'i gwblhau ac y gallwch gyflwyno ei gasgliadau i'r Siambr?
Diolch, Lywydd. Do, rwyf wedi gofyn am yr adolygiad hwnnw. Disgwyliaf y bydd yn cyflwyno'i adroddiad yn 2018. Bydd yn defnyddio adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru fel un o'r dogfennau craidd yn y gwaith y bydd yn ei wneud.
Mae Nick Ramsay yn llygad ei le i ddweud nad yw'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi darparu popeth roeddem wedi'i obeithio. Mae hynny'n rhannol am ei fod yn sefydliad ar gyfer aelodau ac nid yw rhai o'i aelodau wedi defnyddio ei wasanaethau i'r graddau a ragwelwyd yn wreiddiol. Felly, yr hyn rwy'n awyddus i'w ddysgu o'r adolygiad yw: a yw'n wasanaeth y mae'r aelodau hynny'n dymuno'i gael mewn gwirionedd? Dywed adroddiad yr archwilydd cyffredinol eu bod yn dweud ei fod. Os ydynt yn dymuno cael y gwasanaeth mewn gwirionedd, beth yw'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag defnyddio'r gwasanaeth yn y ffordd y dywedasant wrthym y byddent yn dymuno'i wneud? Oherwydd, os na allwn ddarparu gwasanaeth y mae'r cwsmeriaid yn awyddus i'w ddefnyddio, bydd bob amser yn ei chael hi'n anodd darparu'r manteision y credwn eu bod yno i'w medi yn y lle cyntaf.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi cael sawl cwestiwn bellach heddiw ynglŷn â chaffael. Os caf ddefnyddio fy nghwestiwn olaf i'ch holi ynglŷn â'r dreth trafodiadau tir, ond nid o ran y dreth trafodiadau tir preswyl, a grybwyllwyd gennych ddoe a'r newidiadau yn hynny o beth, ond o ran y dreth trafodiadau tir masnachol, a wyf yn iawn i feddwl, o fis Ebrill, y bydd busnesau sy'n werth mwy nag £1 filiwn yn wynebu cyfraddau o 6 y cant, o gymharu â 5 y cant, rwy'n credu, dros y ffin—yn sicr, cyfraddau is mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? A pha asesiad a wnaethoch o'r effaith a gaiff hynny ar drafodiadau busnes masnachol yng Nghymru, ac a ydych yn ffyddiog na fydd yn creu annhegwch, lle bydd busnesau yma yn ei chael hi'n anos cystadlu na busnesau dros y ffin?
Wel, diolch i Nick Ramsay. Mae'n llygad ei le wrth ddweud bod y cynigion a gyflwynwyd gennym mewn trethi trafodiadau tir annomestig yn golygu y bydd busnesau gyda safleoedd sy'n werth llai nag £1 miliwn yn talu llai yng Nghymru nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig, a thelir am hynny drwy fod busnesau ar ben uchaf y farchnad yn gorfod talu ychydig yn fwy. Bydd 90 y cant o fusnesau yng Nghymru yn talu llai yng Nghymru nag y maent wedi'i dalu yn y gorffennol, neu'n talu'r un faint. Rwyf bob amser yn clywed yn y Siambr hon mai mentrau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Dyna ble y caiff swyddi eu creu, dyna ble y caiff busnesau'r dyfodol eu creu, a chredaf fod gostyngiad yn y costau i'r busnesau hynny'n golygu mwy iddynt, yn y cyfnod pan fyddant yn ymsefydlu ac yn ceisio ehangu, na'r cynnydd bychan a geir ar gyfer trafodiadau o werth uchel iawn. Nawr, nid wyf yn dweud nad oes unrhyw effaith i'w chael, gan fod costau'n codi ac mae honno'n effaith. A wyf o'r farn mai'r swm bychan ychwanegol yn y dreth trafodiadau tir fydd y prif ffactor mewn cytundebau busnes sy'n werth miliynau lawer o bunnoedd, gyda sawl mater pwysicach yn y fantol? Nac ydw. Mae ein dadansoddiad, a gwaith craffu annibynnol Bangor ar y dadansoddiad hwnnw, yn dangos hynny. Credwn y bydd mwy o drafodiadau yng Nghymru o ganlyniad i'r newidiadau a gyflwynwyd gennym, ac y bydd hynny'n dda i economi Cymru.
Llefarydd Plaid Cymru, Steffan Lewis.
Diolch, Lywydd. Un rhan fawr o'r ansicrwydd cyffredinol sy'n ein hwynebu o ganlyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yw ein perthynas yn y dyfodol â Banc Buddsoddi Ewrop. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ychydig wythnosau yn ôl, roedd Llywodraeth Prydain yn awyddus i gynnal rhyw fath o berthynas â'r banc wedi i ni ymadael, ond roeddent ychydig yn brin o fanylion, gadewch i ni ddweud. Tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn y cred yw nod Llywodraeth Prydain o ran y berthynas yn y dyfodol gyda Banc Buddsoddi Ewrop, yn enwedig o ystyried bod Cymru wedi elwa, yn ôl yr hyn a ddeallaf, o oddeutu £2 biliwn o fuddsoddiad gan y banc.
Lywydd, mae safbwynt Llywodraeth Cymru yn glir: credwn y dylem barhau i fod yn bartner atodol i Fanc Buddsoddi Ewrop. Roedd y DU yn un o sylfaenwyr y banc, ac mae'n cyflenwi cyfran sylweddol o gyfalaf y banc. Mae Cymru wedi bod yn un o fuddiolwyr mawr Banc Buddsoddi Ewrop ac rydym yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod hynny'n parhau. Pan grybwyllais hyn yn uniongyrchol wrth Ganghellor y Trysorlys yn un o gyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, dywedodd ei fod yntau hefyd yn credu y byddai'n fuddiol i'r DU gynnal perthynas barhaus gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Roedd yn barod i edrych ar ffyrdd gwahanol o sefydlu'r berthynas honno, a dywedodd, pe na bai'n bosibl parhau i gynnal perthynas fel yr un sydd gennym gyda Banc Buddsoddi Ewrop, byddai angen ail-greu Banc Buddsoddi Ewrop yn y cyd-destun domestig. Rwyf bob amser wedi ei chael hi'n anodd deall pam y byddai unrhyw un meddwl y byddai'n fwy buddiol ail-greu ein sefydliad ein hunain pan fo gennym sefydliad sy'n gweithio, ac sy'n gweithio'n dda iawn i Gymru, a does bosibl na ddylem geisio sicrhau perthynas barhaus ag ef ar ôl Brexit.
Wel, rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Prydain wedi newid ei meddwl erbyn yr adeg hon yr wythnos nesaf ar y pwynt hwnnw a sawl pwynt arall, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych yn sôn am archwilio'r opsiynau posibl a fydd ar gael ar ôl ymadael. Tybed a oes un o'r opsiynau hynny rydych wedi eu harchwilio fel Llywodraeth yn cynnwys perthynas uniongyrchol rhwng Cymru a Llywodraeth Cymru a Banc Buddsoddi Ewrop. Mae hyn yn ddigynsail, wrth gwrs, ond mae hwn yn gyfnod digynsail, ac mae Banc Datblygu Cyngor Ewrop yn opsiwn arall, wrth gwrs, er nad yw'r DU erioed wedi bod yn aelod ohono, ond mae ei nodau a'i amcanion yn cyd-fynd yn agos iawn ag anghenion a dyheadau'r wlad hon. A yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried ac archwilio'r opsiynau i gael perthynas ddwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau o'r fath ar ôl ymadael, a pha un a fyddai angen nawdd arnynt gan Lywodraeth y DU, ac yn y blaen?
Lywydd, rwyf wedi bod yn gohebu'n ddiweddar iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop ar ran rhai buddiannau Cymreig pwysig rydym yn awyddus i barhau â hwy. Rydym bob amser wedi cael perthynas agos iawn gyda Banc Buddsoddi Ewrop. Cyfarfu Adam Price a minnau â Jonathan Taylor, uwch is-lywydd Banc Buddsoddi Ewrop, pan oedd yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Credaf ei bod yn deg dweud, Lywydd, o safbwynt Banc Buddsoddi Ewrop, eu bod yn parhau i ganolbwyntio ar eu perthynas gyda'r aelod-wladwriaeth yn hytrach na Chymru fel endid cyfansoddiadol ar wahân. Nid yw hynny'n golygu nad ydym yn mynd ar drywydd buddiannau Cymru gyda hwy. Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol iawn o Fanc Datblygu Cyngor Ewrop, ond rwy'n fwy na pharod i ddweud y byddwn yn edrych arno fel Llywodraeth i weld a oes posibiliadau newydd i ni yn hynny o beth yng nghyd-destun Brexit.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Nodaf yr ateb a roddodd i gwestiwn blaenorol pan ddywedodd nad oedd yn awyddus i greu sefydliadau newydd pan fo'r sefydliadau presennol yn gweithio'n dda i ni, ac rwy'n cytuno â hynny. Fodd bynnag, efallai bod angen ychydig o gynllunio wrth gefn, gan y byddai colli mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop yn newyddion drwg i Gymru ac i economi Cymru. Felly, o ystyried cyllideb ddiweddar y DU, lle mae cyfalaf trafodion ariannol wedi dod yn fwy a mwy ffasiynol—mae Cymru wedi cael £650 miliwn mewn cyfalaf trafodion ariannol, yr Alban wedi cael £1.1 biliwn, a Gogledd Iwerddon wedi cael £375 miliwn—o ystyried natur y symiau canlyniadol hyn, a allent ffurfio sail i'r Llywodraethau datganoledig ddod ynghyd i greu rhyw fath o gronfa ddatblygu Geltaidd ein hunain, gyda'r bwriad, efallai, o ddatblygu banc datblygu Celtaidd yn y dyfodol a allai geisio lliniaru effeithiau colli mynediad at Fanc Buddsoddi Ewrop? Gallem edrych, wrth gwrs, ar enghreifftiau yn Sgandinafia, lle mae'r banc buddsoddi Nordig yn cynnwys cymysgedd o Lywodraethau datganoledig a sofran yn dod at ei gilydd, a chrynhoi adnoddau i sicrhau amcanion ariannol ac economaidd a rennir. Tybed a yw hynny'n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru fod yn awyddus i'w ystyried, fel y gallwn fod mor barod â phosibl ar gyfer y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd sydd ar y gorwel.
Wel, Lywydd, mae'n ddiddorol iawn fod Steffan Lewis yn codi'r posibilrwydd hwnnw. Yn ôl yn 2016, mewn cyfarfod gyda Gweinidogion cyllid o Drysorlys y DU, yr Alban, a bryd hynny, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, cyflwynodd Gweinidog cyllid Gogledd Iwerddon gynnig penodol ar gyfer yr hyn a alwodd, rwy'n credu, yn gronfa fuddsoddi Geltaidd. Gwnaeth hynny gan iddo egluro rhai o'r heriau gwirioneddol roedd Gogledd Iwerddon yn eu hwynebu wrth ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol.
Nawr, mae gwneud y defnydd gorau o unrhyw beth a ddaw i Gymru bob amser wedi bod yn uchelgais i ni, ond mae heriau ynghlwm wrth ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol, a'r syniad oedd rhoi'r cwbl gyda'i gilydd mewn un gronfa y gellid ei defnyddio'n fwy hyblyg wedyn, ac o bosibl, at ddibenion rhai buddsoddiadau mwy o faint. A bod yn deg, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn barod i roi ystyriaeth bellach i hynny ac i fod yn rhan o'r drafodaeth yn ei gylch, oherwydd credaf fod ganddynt hwythau hefyd ddiddordeb mewn sicrhau y gwneir y defnydd gorau posibl o'r cronfeydd sydd ar gael yma.
Yn fuan iawn wedi'r cyfarfod hwnnw daeth Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i ben, ac mae wedi bod yn anos parhau â'r trafodaethau ers hynny gan eu bod wedi eu harwain i raddau gan waith a wnaed yng Ngogledd Iwerddon. Ond pan ddaw cyfle i barhau â hynny, rwy'n siŵr y bydd diddordeb cyffredinol, yn sicr gan Gymru a'r Alban. Ond fel y dywedaf, rwy'n credu bod awydd digon dilys wedi bod yn y Trysorlys i gael trafodaeth ynglŷn â'r defnydd mwyaf effeithiol o'r arian sydd ar gael.
Llefarydd UKIP, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y bydd yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol y gellir ei ragweld yn dibynnu'n allweddol ar iechyd economi'r DU a thwf economaidd, ac mae angen inni gynyddu cyfradd dwf genedlaethol y DU. Dywedodd wrthyf mewn dadl yn y Siambr hon ychydig wythnosau yn ôl na cheir unrhyw dystiolaeth yn gyffredinol fod trethi is yn hybu twf. Ond ers hynny, mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi pasio Bil treth i leihau trethi corfforaethol o 35 y cant i 20 y cant. Mae'r Arlywydd Macron yn Ffrainc wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri cyfradd y dreth gorfforaethol o 33 y cant i 25 y cant. Mae'r Eidal yn mynd i dorri eu trethi corfforaethol o 27 y cant i 24 y cant, Sbaen o 30 y cant i 25 y cant. Mae Hwngari wedi cyflwyno cyfradd safonol o 9 y cant ar gyfer y dreth gorfforaethol, i lawr o 19 y cant, ac yng Ngenefa, sy'n ganton yn y Swistir, maent yn gostwng trethi corfforaethol i 10 y cant.
Yn ddiweddar, mae John McDonnell wedi bod yn sôn am fynd â £36 biliwn oddi ar fantolenni cwmnïau drwy atal rhai gostyngiadau treth na chafodd eu cyhoeddi, ac mae hyd yn oed wedi awgrymu'r syniad o ychwanegu 2.5 y cant at gyfradd y dreth gorfforaethol gyfredol i dalu am gael gwared ar ffioedd dysgu. Onid yw'n derbyn bod y Blaid Lafur yn mynd i gyfeiriad gwahanol i weddill y byd, ac os ydym yn awyddus i gystadlu ag economïau tramor, fod yn rhaid inni gael cyfundrefn drethi busnes gystadleuol?
Lywydd, yr hyn a glywaf yr Aelod yn ei disgrifio yw ras gystadleuol i'r gwaelod, lle mae pawb yn credu mai'r unig ffordd i gael mantais gystadleuol dros rhywun arall yw cymryd hyd yn oed llai o dreth gan fusnesau er mwyn talu am wasanaethau cyhoeddus. Rwy'n ddiolchgar iddo am ddisgrifio'r tabl cynghrair digalon hwnnw, gan ei fod yn dangos yn union pam nad wyf yn credu fod hynny'n beth synhwyrol i ni ei wneud.
Mae'n flin gennyf nad yw'n ymddangos bod Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod realiti'r hyn sy'n digwydd yng ngweddill y byd yn rhywbeth a ddylai fod ar flaen ei feddwl wrth iddo gynllunio system dreth ar gyfer y Deyrnas Unedig neu ar gyfer Cymru, oherwydd y ffordd o gyrraedd y gwaelod, yn sicr, yw parhau i feddwl yn y modd hwnnw.
Gan ddychwelyd at yr achos treth arbrofol a grybwyllwyd gan Suzy Davies yn gynharach mewn perthynas â threth dwristiaeth, onid yw wedi gweld bod Ian Edwards, prif weithredwr y Celtic Manor, wedi dweud yn ddiweddar,
Ynghyd â phawb arall yn ein diwydiant, fe'm syfrdanwyd gan y newyddion fod treth dwristiaeth newydd arfaethedig i Gymru yn cael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru? Dywedodd:
Byddai treth dwristiaeth yn peryglu ein gallu i barhau â'n twf cyflym diweddar fel cyrchfan ac i barhau i wneud y cyfraniad gwerthfawr hwn i economi Cymru.
Yn yr un frawddeg ag y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrthyf, yn y ddadl y cyfeiriais ati eiliad yn ôl, nad oes tystiolaeth fod trethi is yn hybu twf, dywedodd hefyd y gallai trethi a gynlluniwyd yn wael lesteirio twf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn sicr wedi cyhoeddi nifer o syniadau ar gyfer llesteirio twf economi Cymru. Gobeithiaf y bydd yn gwrthod y syniadau hyn.
Lywydd, nid oes fawr ddim y gallaf ei ychwanegu at yr hyn a ddywedais yn gynharach ar y mater hwn. Rydym yn cael dadl ynglŷn â'r posibiliadau gwahanol sydd ar gael i Gymru. Mae croeso i farn unrhyw un sydd â barn, beth bynnag y bo, a byddwn yn eu hystyried wrth wneud ein penderfyniad. Byddwn yn ystyried barn y Celtic Manor. Mae Llywodraeth Cymru yn fuddsoddwr sylweddol iawn yn y Celtic Manor. Maent wedi derbyn miliynau lawer o bunnoedd mewn cymorth uniongyrchol gan drethdalwyr Cymru. Byddwn yn ystyried eu sylwadau, ynghyd â sylwadau pawb arall. Dyna yw diben cael dadl.
Rwy'n derbyn bod gan Ysgrifennydd y Cabinet feddwl agored ac nad yw mewn sefyllfa heddiw i gyhoeddi unrhyw benderfyniadau terfynol, gan mai dyna yw holl ddiben y broses ymgynghori, ac ar ôl rhoi £22.5 miliwn i'r Celtic Manor, rwy'n derbyn ei fod yn awyddus i gael elw da ar y buddsoddiad hwnnw. Felly, gobeithiaf y bydd hynny'n llywio ei benderfyniad yn y cyswllt hwn hefyd, gan fod Ian Edwards hefyd wedi dweud yn yr erthygl a ddyfynnaf y byddai
Ychwanegu costau ychwanegol at aros yng Nghymru yn cael effaith yr un mor niweidiol ar ddenu digwyddiadau busnes ag y byddai ar ddenu ymwelwyr hamdden. Mae sicrhau cynadleddau a chyfarfodydd cymdeithasau mawr yn sector cystadleuol iawn a byddai treth ychwanegol ar y miloedd o gynadleddwyr sy'n mynychu'r digwyddiadau hyn yn rhwystr sylweddol i'r bobl sy'n ystyried Cymru fel lleoliad.
Felly, yn amlwg, mae hwn yn fater hanfodol bwysig i'r holl sector lletygarwch yng Nghymru, a gorau po gyntaf y gallwn gyhoeddi nad ydym yn mynd i fwrw ymlaen â threth dwristiaeth fel y gallant ymlacio a chysgu'n dawel yn eu gwelyau.
Lywydd, rwy'n cydnabod yr achos y mae'r Aelod wedi ei wneud. Bydd yn ymwybodol fod eraill yn gwneud set wahanol iawn o gynigion. Byddai pobl eraill yn dadlau bod cymryd swm bach iawn o arian gan bobl nad ydynt yn brin o arian, yn amlwg—maent yn dod i aros yn y Celtic Manor—y byddai ychwanegiad bach iawn at gost aros noson yn creu cronfa o arian y gellid ei buddsoddi ymhellach mewn mentrau fel y Celtic Manor a chyfleoedd twristiaeth eraill a fyddai'n denu mwy o bobl i Gymru yn y dyfodol, a bod buddsoddiadau o'r fath, gan bobl sydd, wedi'r cyfan, yn mwynhau manteision yr holl fuddsoddiad y mae pwrs y wlad wedi'i wneud yn y sector hwnnw—nad yw hynny'n rhywbeth annheg i'w ofyn, a'i fod yn creu cylchred ddymunol lle mae symiau bach o gyfraniadau unigol yn cronni ac yn caniatáu buddsoddiadau newydd sylweddol sydd o fudd i'r diwydiant.
Nawr, nid wyf yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn ochri â'r naill ochr neu'r llall yn y ddadl hon. Yr unig beth a ddywedaf yw bod y maes hwn, fel pob maes arall, yn cynnwys llawer o ddadansoddiadau gwahanol o'r hyn a fyddai'n gweithio orau, a diben cael dadl yw caniatáu i'r holl ddadleuon hynny gael eu gwyntyllu, a'u pwyso a'u mesur yn briodol wedyn.