– Senedd Cymru am 3:39 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd'. Rydw i'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor, Mike Hedges.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ein hymchwiliad i bolisïau coetiroedd yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i Gadeirydd blaenorol y Pwyllgor, Mark Reckless, a chyn-aelodau'r pwyllgor, Vikki Howells, Siân Gwenllian a Huw Irranca-Davies, am y gwaith a wnaethant ar yr adroddiad hwn, a chafodd y rhan fwyaf ohono ei wneud cyn i mi ddod yn Gadeirydd y pwyllgor.
Mae ein hadroddiad yn seiliedig ar farn arbenigol gan randdeiliaid o'r diwydiant a grwpiau amgylcheddol. Hefyd, ymwelodd y pwyllgor â Choetir Ysbryd Llynfi ym Maesteg, lle buont yn siarad â phobl sy'n trefnu cyfranogiad cymunedol mewn coetiroedd. Rwy'n ddiolchgar i bawb a roddodd eu hamser i gyfrannu tuag at yr ymchwiliad hwn.
Yn gyffredinol, canfu'r ymchwiliad fod rhanddeiliaid yn teimlo bod cyfeiriad polisi strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' Llywodraeth Cymru yn briodol. Fodd bynnag, roeddent i gyd yn galw am ei adnewyddu ar frys er mwyn cynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol.
Rydym wedi gwneud 13 o argymhellion. Rwy'n falch o ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o'r argymhellion hynny naill ai yn llawn neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, roedd y pwyllgor yn siomedig ynglŷn â gohebiaeth ddilynol â'r Gweinidog amgylchedd. Ysgrifennodd y pwyllgor at Ysgrifennydd y Cabinet yn gynnar ym mis Hydref i ofyn am eglurhad ar yr ymatebion i nifer o'r argymhellion cyn y ddadl hon. Ysgrifennodd y pwyllgor am yr eildro i bwysleisio pwysigrwydd cael eglurhad ar yr ymatebion cyn y ddadl hon. Dywedodd y Gweinidog y byddai'n ymateb yn llawn i'r materion a godwyd yn ystod y ddadl.
Gan droi'n ôl at ein hadroddiad, daw argymhellion y pwyllgor o dan dair thema gyffredinol: cynyddu plannu ac ehangu'r sector coedwigaeth fasnachol; cynyddu mynediad at goetiroedd a manteision cymunedol coetiroedd; a manteisio i'r eithaf ar y manteision amgylcheddol sy'n deillio o gael mwy o goed.
O ran plannu mwy, yr angen i gynyddu cyfraddau plannu yn sylweddol oedd y flaenoriaeth allweddol ar gyfer pob un o'n rhanddeiliaid. Yn 2010, roedd strategaeth newid hinsawdd Llywodraeth Cymru yn galw am gyfradd blannu gyfartalog o 5,000 hectar bob blwyddyn. Erbyn 2015, nid oedd cyfanswm y plannu newydd ond wedi cyrraedd 3,200 hectar. Achosodd y diffyg enfawr hwn i'r corff diwydiant ddweud wrthym fod creu coetiroedd yng Nghymru wedi bod yn fethiant trychinebus.
Beth yw'r rhwystrau i blannu? Yn ôl y sector coedwigaeth fasnachol, y rhwystr mwyaf i blannu coetiroedd oedd yr hyn a ddisgrifient fel gorfodaeth rhy drylwyr o'r rheoliadau ynghylch asesiadau o'r effaith amgylcheddol. Roeddem yn falch fod Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydnabod bod hon yn broblem, ac roeddem yn argymell y dylid gwneud cynnydd fel mater o frys.
Dywedodd ffermwyr wrthym eu bod yn cael eu rhwystro rhag plannu coetir oherwydd bod cynlluniau coetiroedd Glastir yn rhy gymhleth a chyfarwyddol ac oherwydd bod y taliadau yn isel o'u cymharu â'r taliadau a geir am dir amaethyddol. Credwn fod cyfle yn y dyfodol i ailystyried y dull o dalu, gan gynnwys taliadau am wasanaethau ecosystemau—gallai arloesedd o'r fath gymell plannu.
Ceir nifer o elfennau cadarnhaol: mae map cyfleoedd coetiroedd Glastir, sy'n dangos yr ardaloedd mwyaf addas ar gyfer creu coetiroedd newydd, yn fan cychwyn da. Mae ganddo botensial i gael ei ddatblygu'n offeryn gwneud penderfyniadau. Os gellir ei gyflinio â'r broses reoleiddio a phroses gynllunio awdurdodau lleol, gallai alluogi coetiroedd i gael eu creu ar lawr gwlad. Un enghraifft o hyn fyddai pe bai modd llacio rhwystrau rheoleiddiol ar gyfer ardaloedd a nodwyd gan y map fel yr ardaloedd mwyaf addas ar gyfer creu coetiroedd. Rhywbeth arall a allai fod yn fuddiol o bosibl, pan fydd gennym gynlluniau datblygu lleol, yw y gallent nodi tir o fewn y cynllun datblygu lleol a fyddai'n addas ar gyfer plannu coedwigoedd mewn gwirionedd. Er nad yw'n angenrheidiol ar gyfer plannu coedwigoedd yno, i bobl sy'n dymuno plannu coedwigoedd, bydd yn nodi ardaloedd a ystyrir yn addas, heb orfod mynd i chwilio drwy amrywiaeth o ddarnau eraill o wybodaeth—i gyd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Cadwch bethau'n syml: edrychwch ar un peth a dod o hyd iddo a bydd hynny, rwy'n credu, yn gwneud gwahaniaeth mawr. Felly, mae map cyfleoedd coetiroedd Glastir yn cynnig cyfleoedd aruthrol.
Gan droi at y sector masnachol, clywsom am y cyfyngiadau a ddaeth yn sgil cyfraddau plannu ac ailblannu isel. Roeddem yn bryderus iawn ynglŷn ag effaith hyn ar ddyfodol melinau coed yng Nghymru ac ar gymunedau gwledig. Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod mai un o wendidau economi cefn gwlad Cymru yw nad ydym yn cael digon o brosesu gwerth uchel o'n deunyddiau crai. Rydym yn datblygu'r deunyddiau crai ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ond caiff yr arian mawr ei wneud gan y bobl sy'n gwneud y gwaith prosesu. Ymhellach ymlaen, caiff y gwaith hwnnw ei wneud ymhell y tu allan i gymunedau gwledig Cymru, ac yn y rhan fwyaf o achosion, ymhell y tu allan i Gymru. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sector coedwigaeth fasnachol yng Nghymru i gyflawni ei botensial llawn. Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried newid rheoliadau adeiladu i hyrwyddo'r defnydd o goed ym maes adeiladu.
Manteision cymdeithasol yw’r ail thema a archwilir yn adroddiad y pwyllgor. Mae gan goetiroedd rôl sylweddol i'w chwarae yn adfywio hen ardaloedd diwydiannol. Gwelodd y pwyllgor hyn yn uniongyrchol ar ymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi ym Maesteg. Mae’r prosiect hwn yn ysbrydoliaeth go iawn: mae'n dangos beth sy’n gallu digwydd pan fydd gwirfoddolwyr ymroddedig yn cael cymorth ac arian gan wneuthurwyr penderfyniadau lleol a chenedlaethol i drawsnewid yr hyn a oedd unwaith yn dir gwastraff halogedig. Mae gennym lawer iawn o dir gwastraff halogedig yng Nghymru, felly mae'r cyfleoedd hyn yn bodoli ar draws rhan helaeth o'r ardaloedd diwydiannol hŷn yng Nghymru. Maent hefyd wedi elwa o gyllid sector preifat gan Ford. Rydym eisiau adeiladu ar hyn ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn asesu potensial datblygu cwmni coedwigaeth cenedlaethol i adfywio Cymoedd de Cymru.
Mae gan goed ac ardaloedd trefol fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Mae angen gwneud mwy i gynyddu gorchudd canopi. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun i sicrhau gorchudd coed o 20 y cant fan lleiaf erbyn 2030. Yn anffodus, mae'r argymhelliad hwn wedi'i wrthod, felly bydd yn ddiddorol clywed cynllun amgen y Gweinidog ar gyfer cynyddu gorchudd canopi yn yr ardaloedd hyn.
Yn olaf, ar fanteision amgylcheddol, y thema olaf yw creu mwy o goetiroedd. Mae’r manteision yn amlwg a dylai fod yn y prif sbardun i’n hymdrechion i blannu rhagor, o ystyried ein cyfrifoldeb statudol dros gynaliadwyedd. Gall coed liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan ddal carbon mewn coed y gellir eu defnyddio. Maent hefyd yn lleihau’r perygl o lifogydd o ganlyniad i law gormodol. Dyna pam roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gymell plannu i fyny'r afon o ardaloedd sy'n tueddu i ddioddef llifogydd.
Credaf na fydd llawer o Aelodau'r Cynulliad na fyddant yn gwybod am ardaloedd a oedd yn arfer bod wedi eu gorchuddio gan goed a bod rhywun wedi penderfynu torri’r coed, naill ai i adeiladu neu i wneud i’r ardal edrych yn well neu i gael gardd well, ac yna ni allant ddeall pam fod llifogydd yn digwydd pan nad oes llifogydd wedi bod yn ystod y 100 mlynedd flaenorol. Mae coed yn wych am amsugno dŵr ac atal llifogydd rhag digwydd.
Yn dilyn Brexit, byddwn yn gallu cyfeirio arian tuag at weithgarwch mwy cynaliadwy gan berchnogion tir, gan gynnwys plannu mwy o goed. Dyna pam roeddem yn argymell y dylai cyllid yn y dyfodol fod yn seiliedig ar ganlyniadau cynaliadwy. Byddai’r pwyllgor yn hoffi diweddariad ar drafodaethau Ysgrifennydd y Cabinet gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu system ar gyfer cyllido newidiadau cadarnhaol ar gyfer bywyd gwyllt, ansawdd dŵr, lleihau perygl llifogydd, iechyd a llesiant.
I gloi, mae yna fanteision sylweddol i goetiroedd, ac nid ydym yn eu gwireddu’n llawn. Nid ydym yn sylweddoli beth yw'r enillion amgylcheddol a geir o liniaru newid yn yr hinsawdd, atal llifogydd, a chynyddu argaeledd coed cynaliadwy. Rydym hefyd yn colli manteision cymdeithasol coetiroedd i iechyd a llesiant y rhai sy'n byw wrth eu hymyl. Nid ydym yn sicrhau y bydd y manteision hynny ar gael i bobl sy'n byw mewn ardaloedd trefol, lle mae fwyaf o angen coed a lle y cânt eu gwerthfawrogi fwyaf. Gwyddom y gall coetiroedd adfywio ein Cymoedd ac y gallai cael mynediad atynt ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a gweithgareddau hamdden. Ond ni fydd dim o hyn yn bosibl os ydym yn parhau fel rydym yn ei wneud. Mae angen i bolisi coetiroedd fod yn llawer mwy uchelgeisiol.
Ers 2010, un rhan o ddeg o'r targed ar gyfer creu coetiroedd yn unig sydd wedi'i gyrraedd. Mae angen i iteriad nesaf y strategaeth ‘Coetiroedd i Gymru’ nodi’r newid radical yn y ffordd o feddwl y mae rhanddeiliaid yn galw amdano. Ni all fod yn ddiweddariad syml o'r polisi cyfredol sy’n gwneud dim mwy nag ystyried newidiadau deddfwriaethol diweddar, ond yn hytrach, mae’n rhaid iddo gael targedau heriol, cyraeddadwy.
Mae coed yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n cymdeithas. Mae ffyrdd sydd â choed bob ochr iddynt yn edrych yn llawer gwell na ffyrdd heb goed bob ochr iddynt. Mae coed ar fryniau uwchben tai yn helpu i atal llifogydd, a gall coed mewn ardaloedd o amddifadedd trefol wneud i’r ardal edrych yn llawer gwell mewn gwirionedd. Os oes un peth y gallwn ei wneud heb lawer o anhawster, rwy'n credu mai cael mwy o goed yng Nghymru yw hynny, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn dweud mai dyna'n union y mae hi’n bwriadu ei wneud.
A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gennyf ymwneud â'r adroddiad hwn? Credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Gwelsom beth ymarfer rhagorol, ond yn gyffredinol, mae'n faes polisi cyhoeddus sydd angen ei wella. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y sector coedwigaeth, oherwydd credaf fod ei bwysigrwydd yn aml yn cael ei anghofio, ar ychydig dros £0.5 biliwn bob blwyddyn.
Mae coed yn gyffredinol—gyda llawer ohonynt yn y sector coedwigaeth, yn hytrach na choetiroedd gwasgaredig neu goetiroedd trefol neu beth bynnag—yn amsugno llawer iawn o lygredd carbon. Unwaith eto, mae hynny o fudd mawr, yn ogystal â'r budd masnachol, ac o ran cynefinoedd ar gyfer miloedd o wahanol rywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid, yn enwedig pan fo coedwigoedd wedi eu cynllunio i ganiatáu ar gyfer cynnal amrywiaeth eang o rywogaethau, gall greu llawer iawn o fanteision. Mae hefyd yn dda ar gyfer rheoli llifogydd pan welwn goedwigo i fyny'r afon.
Eisoes, gwelsom dwf yn yr hamdden a thwristiaeth y mae coedwigaeth a choetiroedd yn eu darparu, ac mae mwy o botensial hyd. Mae dros 10,000 o swyddi yng Nghymru mewn coedwigaeth, mae'n rhan hanfodol o'r economi wledig, ac mae hefyd yn cynnig ffordd ymarferol i lawer o ffermwyr arallgyfeirio. Felly, dyna rai o'r manteision amlwg a dylid eu datblygu.
Felly, mae braidd yn siomedig, fel y soniodd y Cadeirydd, nad yw Cymru ers 2010 ond wedi llwyddo i blannu un rhan o ddeg yn unig o'i tharged o 35,000 hectar. Mae'r perfformiad hwn yn waeth o lawer, dywedwch, na'r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban. Yn gyffredinol yn y DU, rwy'n credu y dylem fod yn plannu rhagor, ond mewn gwirionedd mae'n faes lle rydym ymhell o dan y cyfartaledd Ewropeaidd mewn cymhariaeth. Felly, buaswn yn annog y Llywodraeth i edrych ar ei thargedau a gweld sut y gellir eu cyrraedd yn fwy effeithiol, neu o leiaf, sut y gallwn wella'r gyfradd, fel y gallwn ar ryw adeg yn y fframwaith cyfredol o 2010 i 2030 ddweud o ddifrif y gallem gyrraedd 100,000 hectar.
A gaf fi edrych ar un neu ddau o'r argymhellion eraill? Rhaid i mi ddweud, Lywydd, fy mod wedi sylwi yn y Cynulliad fod y Llywodraeth yn fwyfwy parod i dderbyn argymhellion mewn egwyddor. Gall fod yn anodd iawn i bwyllgor i fynd i wraidd—heb fwriadu chwarae ar eiriau—yr hyn y mae'r cyfyngiad hwn yn ei olygu. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cychwyn ar ohebiaeth fywiog gyda'r pwyllgor ynglŷn â'r hyn a olygai 'mewn egwyddor', ac nid yw ond wedi dweud y bydd yn amlinellu rhai o'r rhesymau yn y ddadl heddiw. Rwy'n falch eu bod yn gwneud hynny mewn fforwm cyhoeddus, ond rydym wedi bod ar ôl yr atebion hyn ers rhai misoedd, felly rwy'n bryderus ynglŷn â hyn, fel rwyf fi ynglŷn â'r egwyddor gyffredinol, yn hytrach na derbyn neu wrthod, o gael ffrwd ganol o amwysedd dwys fel hyn.
Rwy'n arbennig o bryderus hefyd ynglŷn â'r ffaith fod argymhelliad 4 wedi'i wrthod yn llwyr, ond o leiaf mae hynny'n ein galluogi i ymgysylltu a thrafod a cheisio dwyn perswâd ar y Llywodraeth i newid ei meddwl. Ond, beth bynnag, argymhelliad yw hwn ynghylch sicrhau isafswm o 20 y cant o orchudd canopi coed trefol—unwaith eto, cyfeiriodd ein Cadeirydd at hyn. Y targed a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer sefydlu coedwigoedd trefol—fod gorchudd canopi gan 20 y cant o'ch tir trefol. Credaf o ddifrif fod hwnnw'n ddyhead a ddylai fod gennym ar gyfer ein hardaloedd trefol, neu yn sicr y rhan fwyaf ohonynt, yng Nghymru. Ni chawsom resymau argyhoeddiadol iawn gan y Llywodraeth yn fy marn i pam na ddylai hyn ddigwydd. Roeddent yn dweud, 'Wel, byddai'n tanseilio penderfyniadau lleol'—wel, mawredd, os mai dyna'r prawf y maent yn mynd i'w ddefnyddio drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyd, mae arnaf ofn nad ydym yn mynd i weld y math o gynnydd y mae'r rhan fwyaf o bobl yn edrych amdano. Unwaith eto, rwy'n gobeithio y byddant yn archwilio hynny. Dylwn ddweud, Lywydd, fod gorchudd canopi coed trefol yng Nghymru yn lleihau; rydym ar hyn o bryd ar 16.3 y cant, felly rwy'n credu ei bod yn bryd i ni gynyddu ein lefel a mabwysiadu'r 20 y cant.
Roeddwn yn mynd i siarad am y dimensiwn Glastir ar gyfer cynlluniau coetir; credaf fod y Cadeirydd wedi trafod hynny. A gaf fi ddweud i gloi, Lywydd, o ran y polisi coetiroedd, unwaith eto rwy'n meddwl bod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol? Mae Cymru'n ardal naturiol ar gyfer coedwig law dymherus. Gallem weld rhagor o blannu ac annog y sector i dyfu. Yn aml, mae'n dda iawn i gymunedau lleol gymryd perchenogaeth neu gael cynlluniau. Rwy'n meddwl bod llawer ohonom a ymwelodd â Maesteg a gweld Coetir Ysbryd Llynfi wedi cael ein hysbrydoli'n fawr, ac rwy'n annog y Llywodraeth i ddilyn yr esiampl honno a chodi ei golygon.
Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl hon ac wedi bod yn rhan o'r gwaith o lunio'r adroddiad yn ogystal. Cawn ein cyhuddo weithiau o lunio polisi wrth fynd yn ein blaenau—mewn gwirionedd, yn hyn o beth fe luniasom bolisi ar ein traed, wrth gerdded drwy goetiroedd Cymru, a chredaf mai dyna'r ffordd orau o fod wedi'i wneud. Roedd yn arwydd da iawn o'r hyn y gall coedwigaeth ei wneud i Gymru—mae'n dda i'n hiechyd, yn dda i'r amgylchedd ac yn dda o ran y cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd a ddaw yn ei sgil yn ogystal. Mae iddo fanteision go iawn o ran dal a storio carbon, lliniaru llifogydd, lleihau llygredd aer, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, a chyfleoedd hamdden ac iechyd go iawn ac ar gyfer twf economaidd.
Cafodd hyn ei gadarnhau'n bendant yn yr ymchwiliad, ond hefyd mewn ymweliad â James Davies Limited yng Nghenarth, sef melin lifio sy'n prosesu coed yn Nyffryn Teifi, y cefais y pleser o ailymweld â hi, fel mae'n digwydd bod, ond maent wedi gwneud buddsoddiad sylweddol ers i mi fod yno ddiwethaf, a gweld bod hon yn rhan wirioneddol ffyniannus o ddatblygu gwledig yng Nghymru hefyd. Felly, mae yna gyfleoedd go iawn ar gyfer datblygu coetiroedd yng Nghymru, ac wrth gwrs, gan fod Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rhan o ystâd coetir Llywodraeth Cymru a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn cynnwys 40 y cant o'r holl goetir yng Nghymru, rwy'n meddwl bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddangos arweiniad clir iawn.
Hoffwn rannu siom David Melding ynghylch y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb i adroddiadau pwyllgor fwyfwy yn y modd 'derbyn mewn egwyddor' hwn. Ac ar yr achlysur hwn fel pwyllgor fe ddywedasom, 'Wel, gadewch i ni weld beth y mae "mewn egwyddor" yn ei olygu felly', a dywedwyd wrthym, 'Wel, arhoswch i weld', i bob pwrpas. Credaf fod angen inni—. Wyddoch chi, byddai'n fwy gonest dweud, 'Nid ydym yn derbyn yr argymhelliad hwn', a chael dadl iawn am y pethau hynny.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, os yw'n—.
I'ch helpu ar y pwynt hwn, ysgrifennodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus at yr Ysgrifennydd Parhaol ar yr union bwynt hwn yn ddiweddar, yn gofyn am onestrwydd deallusol gan y Llywodraeth—pan fyddant o ddifrif yn anghytuno â'r pwynt, y dylent ddweud hynny a rhoi'r rhesymau pam. Ac rydym wedi cael llythyr yn ôl yr wythnos hon gan yr Ysgrifennydd Parhaol i ddweud y bydd y Llywodraeth yn gwneud hynny, felly mae angen inni gadw llygad ar hynny.
Buaswn yn croesawu hynny oherwydd credaf ei bod yn fwy gonest ac yn ein galluogi efallai i gael y ddeialog honno a thensiwn creadigol weithiau a fyddai'n ymddangos mewn ffordd wahanol ymlaen efallai, ond mae ein gwyngalchu, os hoffech, neu daflu llwch i'n llygaid ein bod yn cael ein cefnogi pan nad ydym yn llai buddiol yn fy marn i. Felly, gadewch inni gadw llygad ar hynny.
Credaf mai un o'r pethau sy'n rhaid i ni eu cydnabod yng Nghymru yw nad oes digon o goed gennym, os caf ei roi felly. Mae gennym gyfleoedd mawr ar gyfer datblygu mwy o goetiroedd, ac rydym wedi methu cyrraedd ein targedau, fel y crybwyllwyd eisoes, ers cryn amser bellach. Ond credaf mai un o'r pethau a'm synnodd o ddifrif yn ystod yr ymchwiliad hwn oedd y teimlad cryf a'r ymateb gan fuddsoddwyr fod Cymru wedi cau'r drws ar ddatblygu coetiroedd, yn enwedig ar yr ochr fasnachol. Nid oeddwn am inni gyfleu'r neges honno ac nid oeddwn yn meddwl ein bod yn cyfleu'r neges honno, a bod yn onest, ond yn ymarferol dyna oedd pobl yn ei ddweud, a dyna pam rydym yn gwneud yr argymhelliad yn y pwyllgor y gallwch efallai, o fewn system fapio—ar gyfer mapio sensitifrwydd amgylcheddol wrth gwrs—gael rhagdybiaeth o blaid datblygu sy'n llawer cryfach. Ac rwy'n meddwl tybed a fyddai addasu cynllun ansawdd coetiroedd y DU yn ehangach yn rhoi rhyw sicrwydd amgylcheddol yn hynny ac yn caniatáu i ddatblygu masnachol—y math o ddatblygiad masnachol cymysg a welwn y dyddiau hyn—allu digwydd.
Ychydig iawn o arian sydd gan Glastir, fel rwy'n siŵr y byddai unrhyw Weinidog yn ei ddweud, ond mae hefyd yn dioddef yn sgil peth oedi ar hyn o bryd. Y bore yma, cysylltodd Hugh Wheeldon & Co, cwmni prosesu coed yn Sir Gaerfyrddin â mi, yn dweud bod ganddynt nifer o geisiadau Glastir ac maent yn credu y bydd yn rhaid eu tynnu'n ôl bellach oherwydd yr oedi difrifol yn y broses honno. Felly, pan fyddwn yn edrych ar y manylion, rwy'n credu y byddwn yn gweld nad yw'r Llywodraeth ychwaith, drwy ei gwaith, yn sylweddoli beth yw manteision go iawn datblygu coetiroedd yng Nghymru.
Rwy'n meddwl bod angen i ni weithio'n galed iawn, yn amlwg, ar y Llywodraeth ynglŷn â'r 20 y cant o orchudd canopi trefol; rwy'n meddwl y bydd hynny'n hynod o fuddiol i'n lles a hefyd ar gyfer lliniaru newid yn yr hinsawdd, gan fod rhai o'n trefi a'n dinasoedd—rhywbeth sy'n anodd ei gredu heddiw, rwy'n gwybod, ond gall rhai o'n trefi a'n dinasoedd fod yn boeth ac yn ddiflas iawn yn yr haf y dyddiau hyn, ac mae gorchudd coed yn fuddiol iawn i'n dinasyddion.
A'r peth olaf y credaf fod angen i ni edrych arno yw beth fyddai cynigion parhaus y Llywodraeth ar gyfer rheoli tir. Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r polisi amaethyddol cyffredin yn dod i ben, yn draddodiadol nid yw coedwigaeth wedi'i chefnogi yn y modd hwnnw, ond os ydym yn mynd i edrych yn fwy cydlynol a chydgysylltiedig yn awr ar sut y dylid rheoli tir, a beth y dylai'r manteision fod, mewn termau masnachol ac amgylcheddol, gallwn weld cyfleoedd yma efallai i gefnogi datblygu coetiroedd, rheoli coetiroedd, diogelu coetiroedd hynafol, yn sicr, ond yn amlwg rwyf hefyd o'r farn y bydd rhannau o Gymru yn gweld defnydd tir yn newid bellach. Ceir rhannau o Gymru sy'n dir defaid ymylol neu'n ffridd ymylol a allai droi'n ôl yn goetir; cawsant eu clirio ar ddiwedd oes yr iâ mae'n debyg, ac efallai y byddant yn dod yn eu holau eto. Byddwn yn gweld newidiadau yn ein tirwedd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Hoffwn i'r rheini fod yn newidiadau buddiol sy'n helpu ein heconomi ac yn helpu ein hamgylchedd yn fwy eang, a chredaf fod datblygu coetiroedd yn un o'r pethau amlwg y gallwn eu cefnogi yn hynny o beth.
A gaf fi ategu rhai o'r sylwadau ar gytrefi a wnaed gan yr Aelodau yma? Os sefwch ar fryn uwchlaw Cwmbrân a Chasnewydd, mae'r gytref ei hun yn aml wedi ei chuddio gan orchudd coed, a byddai'n wych gweld hynny'n cael ei adleisio mewn dinasoedd eraill ledled Cymru.
Mae coetiroedd yn asedau amgylcheddol a masnachol unigryw, felly, o ystyried amgylchedd targedau a Deddfau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf, mae'n eithaf rhyfeddol sut y mae wedi esgeuluso'r adnodd cenedlaethol hollbwysig hwn. Mae arnaf ofn ei bod yn enghraifft arall o Lywodraeth Cymru'n siarad llawer ac eto'n methu â chyflawni'r agendâu a chyrraedd y targedau y mae hi ei hun yn eu gosod.
Ers cyhoeddi ei strategaeth 'Coetiroedd i Gymru' yn 2001, a oedd, ymhlith pethau eraill, i fod i annog plannu coed yn gynaliadwy ac ehangu'r diwydiant coedwigaeth, mewn gwirionedd rydym wedi colli 14,000 hectar o goetir ac mae gennym ddiffyg o 31,000 hectar o goed. O dan ei strategaeth newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 2,000 o hectarau'n unig o goed newydd ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd yn cymryd 50 mlynedd gyfan i gyrraedd y nod a oedd ganddi unwaith o 100,000 hectar o goetir newydd—a phrin fod hwnnw'n ymrwymiad sylweddol ar gyfer y diwydiant coedwigaeth.
Mae'n ymddangos yn anhygoel fod yr adnodd hwn, a allai roi manteision mor amrywiol â thwf economaidd, lleihau mewnforion, lleihau carbon, atal llifogydd, heb sôn am hybu iechyd a thwristiaeth, wedi ei esgeuluso i'r fath raddau gan y Llywodraeth hon ers cyhyd. Does bosibl nad yw'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac ymrwymo hefyd i strategaeth wirioneddol uchelgeisiol er mwyn ehangu'r diwydiant hwn yn fawr a gadael i Gymru fod yn arweinydd byd sy'n gwneud y gorau o'r ased naturiol hanfodol hwn. Er gwaethaf y sylwadau uchod, gallaf gadarnhau y bydd UKIP yn cefnogi'r adroddiad hwn.
Fel y mae'r gwaith pwysig hwn gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ein hatgoffa, caiff 15 y cant o Gymru ei gorchuddio gan goedwigaeth. Mae ein coetiroedd yn ecosystem bwysig; yn arf amgylcheddol hollbwysig, yn gyfle ar gyfer hamdden iach ac yn adnodd economaidd gwerthfawr. Mae sut rydym yn eu rheoli yn hanfodol i'r math o Gymru rydym am ei chreu.
Croesewais y cyfle i gyfrannu at ddechrau'r ymchwiliad hwn a chymeradwyaf y pwyllgor a'u clercod ar adroddiad defnyddiol iawn. Bwriadaf gyfeirio'r rhan fwyaf o fy sylwadau heddiw at argymhelliad 5 ar y ffordd y gall coetiroedd ein gwasanaethu fel arf effeithiol ar gyfer adfywio ac ar gyfer ymgysylltu â chymunedau lleol. Credaf fod hyn yn allweddol. Mae hefyd yn adleisio elfen bwysig o waith tasglu'r Cymoedd, gyda'u prif ffocws ar ddatblygu parc tirlun y Cymoedd. Fel y mae Llywodraeth Cymru yn nodi yn ei hymateb i argymhelliad y pwyllgor, bydd y parc tirlun hwn yn helpu'r cymunedau yng Nghymoedd de Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i sicrhau cymaint â phosibl o fanteision lleol cynaliadwy o adnoddau naturiol eu hardal. Mae coetir yn elfen allweddol o hyn, gyda chyfleoedd ar gyfer datblygu cymunedol, gan greu swyddi a seilwaith gwyrdd a phren o ffynonellau lleol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tai modern.
Ar fy ymweliad â Garwnant pan oeddwn yn aelod o'r pwyllgor, clywais am y ffyrdd y mae coedwig Cyfoeth Naturiol Cymru yno'n cynnig manteision economaidd a chymunedol. Un o'r datblygiadau mwyaf cyffrous y soniwyd wrthyf amdanynt oedd y cynlluniau i ddatblygu'r cyfleuster Welsh Forest Holidays cyntaf ar y safle. Mae hon yn enghraifft dda iawn o arallgyfeirio'r gweithgarwch ar y safle'n sympathetig, gan hybu ei botensial i greu enillion a'i gyfraniad economaidd lleol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys buddsoddiad o £5 miliwn yn y safle na fyddai'n galw am gymhorthdal cyhoeddus, gan greu tua 40 o swyddi a chyfleoedd newydd i fusnesau lleol. Gallai cael mwy o ymwneud cymunedol yn ein coedwigoedd hybu iechyd a lles hefyd. Rwyf am ddefnyddio dau ystadegyn yn unig i ddangos pam y mae angen inni wneud hyn. Yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, mae dros un o bob pedwar plentyn wedi'i effeithio gan ordewdra ymhlith plant. Yn ardal fy mwrdd iechyd lleol, Cwm Taf, mae un o bob chwech o bobl yn wynebu heriau iechyd meddwl. Mae'r ddau ystadegyn yn uwch na'r cyfartaledd, ond gellid eu lleihau drwy annog pobl i mewn i'r coetir sydd bron ar garreg eu drws. Yn fwy arbennig, ceir cyfleoedd yng nghyd-destun addysg awyr agored ac rwy'n falch fod hyn yn cael sylw penodol yn yr argymhelliad.
Efallai y bydd yr Aelodau'n cofio fy nadl fer ym mis Mehefin y llynedd ar y thema hon. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn fy etholaeth yn gartref i grŵp rhieni a phlant bach yn seiliedig ar natur sydd wedi dysgu gan fudiad byd-eang Skogsmulle. Canfuwyd bod plant sydd wedi elwa ar yr addysg awyr agored hon yn gallu canolbwyntio ddwywaith cystal â'u cyfoedion a bod ganddynt sgiliau echddygol bras a llesiant mwy datblygedig. Cydnabyddir y manteision hefyd yn yr elfennau o ddysgu awyr agored a ymgorfforwyd yn y cwricwlwm cenedlaethol, ond rwy'n meddwl ein bod yn colli cyfle os na roddir camau ar waith i integreiddio hyn ymhellach. Enghraifft arall yr hoffwn ei chymeradwyo yw Partneriaeth Adfywio Ynysybwl, sydd wedi sicrhau bron i £1.3 miliwn gan y Loteri Fawr ar gyfer prosiect cymunedol saith mlynedd. Mae coedwigaeth gymunedol yn chwarae rhan fawr yn eu gweledigaeth. Yn rhan o hyn, bydd £200,000 yn cael ei ddyrannu i'r Rhaglen Recriwtiaid Newydd ar gyfer adeiladu cyfleusterau a chanolfan ymwelwyr yng nghanolfan gweithgareddau awyr agored Daerwynno, a bydd £65,000 yn cael ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu llwybrau drwy'r goedwig leol.
Yn yr amser sy'n weddill gennyf, hoffwn wneud ychydig o sylwadau ar rai o'r argymhellion eraill. Mae argymhelliad 1 yn bwysig iawn: nid yw'n dda ein bod mor bell ar ôl gwledydd eraill o ran cyfraddau plannu. Credaf fod hyn yn cysylltu ag argymhelliad 9, gyda'r manteision economaidd y gallem eu sicrhau drwy roi hwb i gynhyrchu coed. Rwy'n meddwl am y cyfleoedd tai sy'n cael eu harddangos ym Mhentre Solar yn Sir Benfro er enghraifft. Mae argymhellion 3 ac 8 yn bwysig iawn hefyd. Gall coedwigo leihau'r perygl o lifogydd, a chyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gynharach eleni sut roeddent yn datblygu coedwigoedd yn ardal y Llynnoedd mewn ymateb i lifogydd yno. Gallai rhaglen o'r fath helpu ffermwyr mewn ardaloedd ymylol hefyd, yn yr ucheldiroedd sy'n anodd eu ffermio'n gynhyrchiol. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar sut y gellir teilwra cymorth i'w hannog i wneud hynny. Yn olaf, o ran argymhelliad 4, rhannaf y siom fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, yn enwedig o ystyried ein trafodaethau ar lygredd aer yr wythnos diwethaf. Edrychodd astudiaeth wyddonol gan EarthSense Systems ar sut y gellid lleihau llygredd ar Stryd Oxford yn Llundain, a daeth i'r casgliad fod plannu coed yn effeithiol ar gyfer lleihau lefelau llygryddion a'u bod yn gwneud hynny hyd at 100 gwaith yn rhatach na strategaethau eraill.
Diolch. Mark Isherwood.
Mae'n ddrwg gennyf, mae fy nyfais clywed yn sownd—rwy'n cael fy nhagu fan hyn.
O—
Fe wnaf hebddo.
Mae'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad pwyllgor hwn yn datgan:
'Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, adnewyddu ei strategaeth coetir gyda'r nod o gynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol.'
A dywed ei argymhelliad olaf:
'rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y drefn ariannu yn y dyfodol yn cael ei seilio ar ganlyniadau cynaliadwy.'
Fodd bynnag, mae'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd yn datgan, er bod coedwigoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli yn ôl safon coedwigaeth y DU, sy'n diffinio rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy fel y sail ar gyfer strategaeth 'Coetiroedd i Gymru', yn aml, caiff plannu coed ei ystyried mewn goleuni negyddol, mae asiantaethau Llywodraeth, asiantaethau anllywodraethol a chymdeithas yn gwrthwynebu newid defnydd tir, gan arwain at ragdybiaeth yn erbyn creu coetiroedd a cholli manteision coedwigaeth fodern gymysg i bobl a'r amgylchedd.
Felly maent yn galw am dderbyn newid mewn defnydd tir ar raddfa fawr, Llywodraeth sy'n barod i hyrwyddo coedwigoedd, ac ymgyrch genedlaethol dros goedwigaeth a choed Cymru, gan ddatgan y bydd Cymru'n elwa oherwydd bod coedwigaeth fodern yn gweithredu safon cynaliadwyedd byd-eang sy'n gadael sectorau eraill ymhell ar ei hôl hi ac yn cynhyrchu deunydd naturiol, hyblyg a chwbl adnewyddadwy, gan greu lleoedd bywiog ar gyfer hamdden a bioamrywiaeth yn y broses. Ond dywedant hefyd, yn ogystal â chynhyrchu pren, fod yn rhaid cynllunio coedwigoedd i liniaru llifogydd a gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau pwysig.
Fel y dywedais yn fy natganiad 90 eiliad yn gynharach, mae'r gylfinir yn arbennig. Mae'n un o'n rhydyddion mwyaf gyda chân hardd, swynol, ond mae'r rhywogaeth adar hon mewn trafferthion difrifol ar draws rhannau helaeth o Brydain. Rhwng 1994 a 2016, gostyngodd poblogaeth gylfinirod 68 y cant yng Nghymru. Fel y dywedodd hyrwyddwr rhywogaeth Cymru ar ran y gylfinir, aderyn yr effeithiwyd arno'n ddifrifol yn hanesyddol yn sgil plannu coedwigoedd mewn lleoliadau amhriodol yn yr ucheldiroedd, rwy'n awyddus i sicrhau, er bod gan ehangu coetiroedd yng Nghymru botensial i wneud cyfraniad sylweddol tuag at sicrhau ecosystemau coetiroedd gwydn, fod yn rhaid eu lleoli'n briodol. Nodwyd bod ehangu coetiroedd yn amhriodol yn fygythiad allweddol i gynefinoedd yr ucheldir a'r rhywogaethau a welir yno. Mae hyn yn cynnwys y gylfinir, sydd angen ardaloedd mawr o gynefin agored ar gyfer nythu. Mae lleoli coetiroedd newydd ar neu wrth ymyl ardaloedd mynyddig sensitif yn arwain at golli cynefin a newidiadau mewn llystyfiant, gan leihau'r nifer o safleoedd nythu addas sydd ar gael ar gyfer yr adar hyn sy'n nythu ar y ddaear.
Fel y dywed yr RSPB, mae ehangu coetiroedd mewn lleoliadau priodol ac wedi'u cynllunio'n dda yn gallu cyfrannu'n sylweddol at adfer a gwella bioamrywiaeth coetiroedd yng Nghymru. Bydd canolbwyntio ehangu coetiroedd ar glustogi a chysylltu coetiroedd presennol yn gwella gwydnwch ecosystemau coetiroedd, a rhaid cynllunio coetiroedd newydd i ddarparu'r pecyn llawn o ofynion rhywogaethau—lleoedd i nythu, ffynonellau bwyd i gywion ac adar llawndwf yn ystod y tymor nythu a bwyd gaeaf ar gyfer adar llawndwf. Os ydym am ddarparu manteision bioamrywiaeth go iawn yn ogystal â chynyddu arwynebedd coetiroedd ardystiedig, mae angen monitro priodol i sicrhau bod coetiroedd ardystiedig yn cyflawni ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth. Mae methiant i fonitro'r effeithiau yn creu risg y bydd creu coetiroedd yn effeithio'n negyddol ar gynefinoedd a rhywogaethau.
Er mwyn sicrhau bod ehangu coetiroedd yng Nghymru yn darparu'r amrywiaeth lawnaf bosibl o fanteision gan gyfyngu ar yr effeithiau negyddol posibl, rhaid i'r data a ddefnyddir i lywio'r gwaith o ehangu coetiroedd fod yn addas i'r diben. Os ydym am sicrhau bod ehangu coetiroedd yn osgoi effeithiau negyddol ar rywogaethau cynefinoedd agored, rhaid diweddaru'r data sylfaenol a'i adolygu'n rheolaidd, a rhaid iddo gynnwys yr amrywiaeth lawn o rywogaethau yr effeithir arnynt. Rhaid i gynlluniau coedwigoedd fod yn seiliedig ar gyflawni amcanion dymunol, a lle bo'n bosibl, wedi eu cynllunio i sicrhau'r budd mwyaf posibl. Dylai cynlluniau cynhyrchu pren anelu i gyflawni ystod o fanteision gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, llif dŵr ac ansawdd, a chyfleoedd hamdden ochr yn ochr â chynhyrchiant coed cynaliadwy.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ehangu coetiroedd yng Nghymru wedi'i gyfyngu i greu coetiroedd bach niferus, gyda llawer ohonynt wedi eu lleoli ar ffermydd, drwy gynllun creu coetir Glastir a chynllun grantiau bach Glastir. Mae llawer o'r coetiroedd hyn wedi cynnwys plannu'r ardaloedd diwethaf o gynefin lled-naturiol sydd ar ôl yn y dirwedd, ac mae colli'r llochesi diwethaf hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol ar fywyd gwyllt y fferm. Bydd sicrhau bod effeithiau ehangu coetiroedd wedi eu deall yn llawn yn hanfodol er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol, ac ni ellir cyflawni hyn heb fonitro priodol. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi o ymarfer coedwigaeth wael yn hanesyddol. Os ydym am ddiogelu ein hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae sicrhau bod y gwaith o ehangu coetiroedd yn osgoi effeithio'n negyddol ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd sy'n sylfaen i'n hadnoddau naturiol yn hanfodol.
Gall y weithred syml o blannu coed arwain at lawer o fanteision yn ei sgil, o dwristiaeth i economi coetir sy'n egino, o reoli llifogydd i fywyd gwyllt sy'n ffynnu, o wella iechyd a lles i adeiladu tai a swyddi. Ceir llawer ohonom nad ydym yn sylweddoli'r effaith gadarnhaol y gall coedwigoedd a choetiroedd yng Nghymru ei chael ar ein bywydau. Fel aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, hoffwn bwysleisio manteision cymdeithasol coetiroedd—yr ail brif thema a archwiliwyd yn yr adroddiad 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater'.
Fel y dywedodd ein Cadeirydd, Mike Hedges, ar ein hymweliad â choetir gwych Ysbryd Llynfi ym Maesteg, gwelodd pawb ohonom drosom ein hunain pa mor fuddiol y gall coetiroedd fod i'r gymuned leol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r cymunedau yng nghwm Llynfi uchaf i adfer hen bwll glo Coegnant a safleoedd golchfeydd Maesteg yn goetir cymunedol. Mae trigolion lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion oll wedi cymryd rhan, o blannu coed, perllannau cymunedol, traciau beicio a chynllunio llwybrau cŵn. Ar ein hymweliad â Maesteg, awgrymodd un o'r cyfranwyr fod angen inni wneud coetiroedd yn cŵl. Gall ymgysylltu â phobl ifanc a'u hannog i ymweld â choetir gyda'r teulu neu drwy'r ysgol ennyn cariad gydol oes tuag at yr awyr agored. Yn ogystal ag ymgorffori addysg coetiroedd yn ein hysgolion, fel y mae'r adroddiad yn awgrymu, byddai'n werth archwilio ffyrdd y gallai Bagloriaeth Cymru weithio gyda grwpiau coetiroedd cymunedol yn y dyfodol.
Gwyddom i gyd nad ydym yn manteisio digon ar y pethau sydd ar garreg ein drws, ond mae cael mynediad i goetiroedd a mannau gwyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, mor fuddiol i iechyd a lles pobl, ac rwy'n cytuno gydag Aelodau eraill ynghylch pwysigrwydd cynyddu ein gorchudd canopi, yn enwedig yn yr ardaloedd trefol hynny. Mae'r manteision posibl i'n cymunedau yn sylweddol. Wrth drafod y mater gyda chynrychiolwyr o Coed Cadw ar fy ymweliad â choedwig Wentwood, dywedasant wrthyf am eu prosiect Wandering in the Woods. Cynhaliwyd y prosiect hwn yn Essex, Dwyrain Sussex a Wiltshire gyda'r nod o ailgysylltu pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal â natur ac yn benodol, â choetiroedd. Dangosodd y prosiect fod manteision sylweddol iawn yn bosibl yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o ymweld â choetiroedd, a buaswn yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i edrych ar y prosiect hwnnw.
Yn fy etholaeth i, Gorllewin Casnewydd, mae Coed Cadw Cymuned Basaleg yn gweithio'n galed i ddiogelu eu hamgylchedd coetir naturiol lleol. Nod y grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr yw creu parc coetir sy'n hygyrch, wedi'i reoli'n dda ac yn ddeniadol i bawb ei fwynhau. Mae rhannu gwybodaeth ac arferion da ledled Cymru yn hanfodol. Mae Llais y Goedwig yn cefnogi'r holl grwpiau cymunedol ledled Cymru. Mae dod â'r grwpiau hyn at ei gilydd a rhannu cyngor ymarferol yn ffordd bwysig o helpu gwirfoddolwyr i ddod at ei gilydd i edrych ar ôl a rheoli coetiroedd cymunedol.
Rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid ar gyfer grwpiau coetiroedd cymunedol bach ledled y wlad. Mae coetiroedd cymunedol yn lleoedd gwerthfawr sy'n galluogi ymwelwyr i wneud y gorau o'r awyr agored ac i gyfrannu at iechyd a lles trigolion lleol. Rhaid inni ymdrechu i gefnogi grwpiau coetiroedd cymunedol lleol, gan ei gwneud yn haws i bobl reoli a gwarchod coetiroedd er budd a mwynhad cenedlaethau'r dyfodol.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw fel cyfle i drafod yr hyn sydd, mae'n debyg, yn ddyheadau a rennir ar gyfer coetiroedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o'r argymhellion, ac rwy'n gwneud yn siŵr ein bod yn dechrau gweithredu arnynt. Mae cadeirydd y pwyllgor wedi ysgrifennu ataf, yn gofyn am eglurhad ynghylch ymateb y Llywodraeth, ond teimlwn y byddai'n ddefnyddiol clywed yr hyn a ddywedodd yr Aelodau yn y ddadl hon cyn ymateb i'r llythyr a gwaith y Pwyllgor. Ac wrth gwrs buaswn yn croesawu trafodaeth barhaus ar y mater hwn.
Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am adroddiad sydd wedi bod yn ddefnyddiol ac sy'n cynnwys argymhellion deallus. Mae wedi helpu i ganolbwyntio fy meddwl a chryfhau fy marn y byddai gwella ac ehangu coetiroedd Cymru ymhlith fy mhrif flaenoriaethau fel Gweinidog yr amgylchedd. I'r perwyl hwnnw, roedd un o fy nghyfarfodydd cyntaf fel Gweinidog gyda'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Gwnaeth rhanddeiliaid hi'n glir yn y cyfarfod hwn fod angen inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i'r sector coedwigaeth, ac ystyried y rôl y gall coedwigaeth a choedwigwyr eu chwarae yn ein dull o reoli tir yn y dyfodol.
Mae newid yn y defnydd tir yn anochel, a chredaf fod yn rhaid i ni ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym, o ran polisi, arian a rheoleiddio, i wneud yn siŵr fod y newidiadau hyn er gwell. Rydym am ddefnyddio ein tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus ychwanegol, ac mae hyn yn hollbwysig os ydym i gyflawni ein hymrwymiad i ecosystemau gwydn a datgarboneiddio yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rwyf am fynd i'r afael â nifer o'r materion allweddol a godwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad, mewn gohebiaeth ac yn ystod y ddadl heddiw—gan gynnwys plannu o'r newydd, gwydnwch coetiroedd, y cyflenwad pren, rôl cymunedau a datgarboneiddio.
Yn amlwg, mae angen inni ddechrau gyda phlannu newydd, a gofynnodd y pwyllgor beth yn benodol y dylem ei wneud yn wahanol. Rwy'n ymwybodol iawn nad oes digon o goed yn cael eu plannu. Mae angen cymysgedd o goetiroedd ar Gymru. Dylai ein coedwigoedd fod yn gyfuniad o'r mawr a'r bach, a chynnwys conwydd a rhywogaethau dail llydan, a chymysgedd o goedwigaeth fasnachol ac amgylcheddau tawel, bioamrywiol, naturiol. Ond rwy'n cydnabod y gall gwrthdaro ddigwydd rhwng yr amcanion hyn, ac rwy'n awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall y problemau ac i ganfod ffordd o'u datrys. Mae hyn yn debygol o olygu mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar leoedd, gan nad yw pob math o goetir yn iawn ar gyfer pob rhan o Gymru, ac nid drwy Glastir neu'r Llywodraeth yn unig y mae cyflawni'r gwaith o greu coetiroedd. Mae creu coetiroedd ar raddfa fawr yn galw am gydweithredu, cydweithio, arloesedd a chynnwys amrywiaeth o bartïon â diddordeb. Dyma pam rydym wedi sefydlu cynllun cynllunio coedwigoedd cydweithredol i gefnogi dulliau strategol a symbylir gan randdeiliaid er mwyn dod o hyd i'r mannau cywir i blannu coetiroedd newydd a beth i'w blannu yno. Rwy'n cydnabod y bydd yna heriau, ond mae cam cyntaf y cydweithredu wedi cychwyn, ac rwy'n annog cyfranogwyr i barhau gyda'r ymdrechion hyn.
Hefyd hoffwn archwilio rôl reoleiddio fel rhwystr. Rydym wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru edrych yn ofalus ar y ffordd y maent yn gweithio fel y gallant gael gwared ar gymhlethdod a nodi cyfleoedd ar gyfer plannu coetiroedd newydd. Roedd gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y syniadau a gyflwynwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys y posibilrwydd o ragdybiaeth o blaid cymeradwyo coetiroedd mewn ardaloedd penodol. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn cryfhau'r canllawiau ar y map cyfleoedd coetiroedd, gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr ynglŷn â'r lleoedd y gall creu coetiroedd wneud y lles mwyaf. Rhaid inni hefyd ystyried y rhyngweithio rhwng coedwigaeth a'n systemau cymorth amaethyddol. Rydym wedi talu dros £2 filiwn drwy Glastir i greu coetiroedd hyd yma. Mae ffermwyr sy'n plannu coed yn cael taliadau blynyddol ac yn parhau i dderbyn taliad sylfaenol am oddeutu 12 mlynedd ar ôl plannu, ond rydym yn chwilio'n gyson am ffyrdd newydd i wella'r broses ymgeisio ar gyfer Glastir, a byddwn yn adeiladu ar y gwersi o ran cynllunio mecanweithiau cymorth yn y dyfodol. Mae Brexit yn dod â heriau i Gymru yn gyffredinol, ond mae hefyd yn dod â chyfle i ailgynllunio systemau cymorth er mwyn dileu rhagfarnau yn erbyn coedwigaeth. Mae'n amlwg y gallwn wneud mwy, a bwriadaf ymweld â'r Alban yn y flwyddyn newydd i ddysgu mwy o'r llwyddiant cymharol a gawsant yn creu coetiroedd newydd yno.
Os edrychwn yn awr ar iechyd coed a gwydnwch, mae'r strategaeth coetiroedd yn annog arallgyfeirio coetiroedd drwy wella gwydnwch. Gwers yr achosion o phytophthora ramorum mewn coed llarwydd a chlefyd coed ynn yw na allwn fforddio dibynnu ar ychydig o rywogaethau coed yn unig. Rydym eisiau i'n coetiroedd fod yn fwy amrywiol a gwydn, ac mae cyfoeth o gyngor a hyfforddiant ar gael i berchnogion coetiroedd gan Forest Research, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy Cyswllt Ffermio. Ond rydym hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod yn mynd ati'n gyflym i adfer coetiroedd pan fyddant wedi cael eu niweidio, a'n bod yn cefnogi'r gwaith o reoli coetiroedd wedi'u heintio drwy gynllun adfer coetiroedd Glastir.
Gan droi at gynhyrchu coed, dylem hefyd roi camau ar waith i sicrhau bod coetiroedd presennol yn fwy cynhyrchiol. Yn rhan bwysig o hyn, gellir cynnwys adfer rheolaeth ar goetiroedd nad ydynt yn cael eu rheoli, cynyddu cynhyrchiant coed defnyddiadwy a chefnogi datblygiad busnesau lleol. Rwy'n awyddus i weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a rhanddeiliaid i adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy ar gyfer pren a chynyddu'r galw am gynnyrch coed a biomas o Gymru, gan alluogi cwmnïau o Gymru i fasnachu'n rhydd, cael y gwerth gorau am eu cynnyrch gwyrdd a chefnogi swyddi gwyrdd.
Rydym wedi cymryd camau i hyrwyddo pren drwy'r rhaglen tai arloesol a grŵp newydd trawslywodraethol i astudio cadwyni cyflenwi. Fel rhan o hyn, mae arnaf eisiau archwilio'r achos dros egwyddor pren yn gyntaf ar gyfer tai ac adeiladau eraill yng Nghymru. Ac rwyf eisoes wedi siarad â'r Gweinidog tai am hyn, a bydd yna grŵp gweinidogol newydd ar gyfer symud pethau ymlaen.
Tu hwnt i economeg, rhaid inni beidio ag anghofio am y gwerth y gall cymunedau ei gael o'n coetiroedd. Dylai ein cymunedau gael cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o reoli eu coetiroedd lleol. Clywais rai enghreifftiau arbennig o dda heddiw gan fy nghyd-Aelodau Vikki Howells a Jayne Bryant, a buaswn wrth fy modd yn clywed mwy amdanynt, i weld sut y gallwn rannu'r arferion gorau hynny fel rhan o'n strategaeth yn y dyfodol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cefnogi Llais y Goedwig, rhwydwaith o grwpiau coetir cymunedol ledled Cymru sy'n helpu cymunedau i ymwneud â rheoli coetiroedd.
Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y pwyllgor i osod un targed ar gyfer plannu coed trefol ar draws yr holl awdurdodau lleol. Yn lle hynny, rydym am weld targedau lleol yn cael eu diwygio drwy ehangu'r defnydd o offeryn eco i-Tree ar gyfer monitro coed a choetiroedd trefol, gan sicrhau bod yr atebion cywir yn digwydd yn y mannau cywir.
Yn olaf, gall coedwigaeth chwarae rôl bwysig hefyd yn cyflawni ein nodau datgarboneiddio. Yn 2015 llwyddodd y sector coedwigaeth i gael gwared ar oddeutu 1 y cant o allyriadau Cymru, gan weithredu fel dalfa garbon. Mae cynyddu storfeydd carbon mewn coetiroedd yn cynnig ateb yn seiliedig ar natur i leihau allyriadau, atal llifogydd, gwella ansawdd aer a darparu—
A wnaiff y Gweinidog ildio? Ar y pwynt am ddatgarboneiddio, credaf hefyd fod angen inni gadw mewn cof ein bod yn mewnforio cryn dipyn o bren. Rwy'n credu bod 80 y cant o'r pren a ddefnyddiwn yn cael ei fewnforio mewn gwirionedd, ac mae ffordd enfawr y gallwn gyflawni ein hamcanion o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol drwy dyfu rhagor o'n pren ein hunain yma a defnyddio hwnnw—rwy'n croesawu'r hyn a ddywedoch chi ynghylch tai, er enghraifft—yn y ffordd honno. Byddai gennym ddatgarboneiddio dwbl yn digwydd wedyn, oherwydd byddem yn lleihau teithio ar gyfer mewnforion a byddem hefyd, wrth gwrs, yn defnyddio ffordd garbon-gyfeillgar o greu ein pren ein hunain.
Yn hollol. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt da iawn yno.
Rydym am adeiladu ar fentrau fel y cod carbon coetiroedd, lle y telir y rhai sy'n creu coetiroedd newydd am ddal a storio carbon, a hefyd mae'n galonogol gweld datblygiad cynnar y cod mawndiroedd, sy'n cefnogi'r ecosystemau gwerthfawr hyn.
I gloi, credaf y gallai fod yn adeg gyffrous ar goedwigaeth yng Nghymru. Yng nghanol llawer o heriau difrifol Brexit, mae potensial gan y diwydiant hwn i droi'r cyfleoedd yn heriau, ac rwy'n credu bod y ddadl heddiw'n dangos bod consensws cryf o blaid gweithredu ar hyn. Nodaf yr hyn a ddywed yr Aelodau ar draws y llawr o ran yr ymateb 'derbyn mewn egwyddor', ond hoffwn gofnodi heddiw nad oes unrhyw amwysedd yn fy ymrwymiad i ddatblygu'r mater hwn. Bydd yn un o fy mhrif flaenoriaethau fel y Gweinidog yr amgylchedd.
Rwy'n wirioneddol ddiolchgar am waith 'pren-digedig' y pwyllgor ar yr adroddiad hwn. [Torri ar draws.] Mae'n Nadolig, dewch. [Chwerthin.] Ni allwn beidio. [Torri ar draws.] Credaf y dylwn symud ymlaen yn gyflym.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o argymhellion y pwyllgor, a bellach rydym wedi ymroi'n llawn i sicrhau bod ein dyheadau'n tyfu'n weithgarwch, ac yn gwreiddio er mwyn sicrhau'r canlyniadau cywir. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, David Rowlands, Vikki Howells, Jayne Bryant, Mark Isherwood ac i'r Gweinidog am gymryd rhan yn y ddadl hon, ac yn bwysicaf oll, rwy'n credu, am y ffordd gadarnhaol a chydsyniol rydym wedi ei symud yn ei blaen? Credaf y gallwn eistedd yn awr a dweud, 'Wel, rydym i gyd yn cytuno, onid ydym?' Ond mae yna nifer o bethau y credaf fod angen eu dweud. Credaf mai'r cyntaf yw: nid oes gennyf broblem gyda thargedau lleol, ond a oes rhywun yn mynd i gyfrif yr holl dargedau lleol a chyhoeddi beth yw'r targedau lleol hynny? A ydym yn mynd i ddarganfod sut y mae pobl yn gwneud yn erbyn y targedau lleol hynny? Nid oes gennyf unrhyw broblem gyda thargedau lleol, ond os yw adio'r holl dargedau lleol yn gwneud 2,000 o goed, mae rhywbeth o'i le. Ac os daw'n fwy nag yr oeddem yn ei ddisgwyl, rydym yn symud yn bendant iawn i'r cyfeiriad cywir, ond mae angen i ni wneud yn siŵr hefyd fod pobl yn cyrraedd y targedau hynny. Mae targedau'n bethau gwych, ond os oes gennych lawer o dargedau lleol, mae angen i rywun ei gydlynu, a buaswn yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn adrodd yn ôl i'n pwyllgor yn flynyddol—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn flynyddol—ar sut y maent yn gwneud yn erbyn y targedau hynny.
I symud ymlaen. Mae'r rhan fwyaf o bobl wedi dweud pethau tebyg iawn, a phrin fod hynny'n syndod. Roedd y pwyllgor yn cytuno'n llwyr. Mae pethau fel ei fanteision economaidd, ei fanteision amgylcheddol, ystod ehangach o rywogaethau, a nifer y swyddi a grëir. Credaf fod Vikki Howells wedi amlygu gwaith pwysig iawn a wnaed yn ei hardal nad oedd yn galw am unrhyw arian gan y Llywodraeth ychwaith, sy'n anarferol—bob tro y bydd gan rywun brosiect, maent eisiau gwybod faint y byddant yn ei gael naill ai mewn nawdd neu mewn arian gan y Llywodraeth i'w gyflawni. Credaf fod modd o wneud hyn a all fod yn economaidd hyfyw a gall pobl wneud arian ohono.
Siaradodd pobl am amrywiaeth eang o brosiectau da iawn. Credaf mai un o'r pethau sy'n destun tristwch i'r rhan fwyaf ohonom yw mai dyma'r unig enghreifftiau prin o brosiectau ledled Cymru. Ceir prosiect Llynfi, y gwn fod Huw Irranca-Davies yn falch iawn ohono, yr hyn sy'n digwydd ym Masaleg, a'r hyn sy'n digwydd yng nghwm Cynon, ond dylem fod yn siarad am beth sy'n digwydd ym mhob tref, bob dinas a phob cwm. Nid, 'Fe ddown o hyd i rai arferion da.' Pan arferai pobl ymweld â Gogledd Corea, byddent yn cael eu tywys i weld un ardal, sef eu hardal ar gyfer ei dangos i ymwelwyr. Nid ydym eisiau hynny. Rydym am weld a yw'n digwydd ym mhobman, fel y gallwch ddewis ble yng Nghymru yr ewch chi i weld coedwigoedd yn tyfu.
Mae'n hynod economaidd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cwyno nad oes ganddynt arian—neu maent yn cwyno wrth y pwyllgor nad oes ganddynt arian. Wel, mae ganddynt goedwigoedd mawr; dylent fod yn gwneud arian o'u pren. Mae datblygwyr masnachol yn gwneud symiau sylweddol o arian o'u pren. Dylem fod yn troi atynt hwy i ddangos arweiniad ar hyn hefyd.
Mae Mark Isherwood yn sôn am gynyddu cyfraddau plannu a chanlyniadau cynaliadwy, ond ynglŷn â'r diffyg cefnogaeth cyffredinol i goedwigaeth, rwy'n meddwl bod yr hyn y mae'n ei ddweud am hynny'n hollol iawn. Nid ydym yn siarad am goedwigaeth yma'n aml iawn. Cymharwch faint o weithiau y buom yn siarad am goedwigaeth yma â faint o weithiau y buom yn siarad am amaethyddiaeth. Credaf fod coedwigaeth yn colli'n ddramatig iawn yn erbyn hynny.
Rydym eisiau canlyniadau cynaliadwy, ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod yna fanteision enfawr i goed. Hynny yw, maent o fudd i'r amgylchedd. Rydym yn sôn am y problemau sydd gennym gydag ansawdd aer. Wel, plannwch goed. Rydym yn sôn am y problemau sydd gennym gyda llifogydd. Plannwch goed. Rydym yn sôn am y problemau sydd gennym gydag ardaloedd trefol yn edrych yn annymunol. Plannwch goed. Siaradwn am esgeuluso ymhlith rhai o'n cymunedau hŷn. Gwn fod pobl yn defnyddio'r geiriau 'cymunedau'r Cymoedd', wel, a gaf fi eu croesawu i ardaloedd fel Dwyrain Abertawe, er enghraifft, nad yw'n cael ei hystyried yn gymuned y Cymoedd efallai, ond mae ganddi ardaloedd o amddifadedd economaidd ac mae ganddi un o'r cynlluniau plannu coed mwyaf yn Ewrop yn digwydd ynddi, i adfer cwm Tawe isaf? Cafodd Mynydd Cilfái ei orchuddio â choed. Fe ellir gwneud hyn. Mae wedi cael ei wneud o'r blaen.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio ar sicrhau ein bod yn cynyddu faint o orchudd coed sydd gennym, ein bod yn gweithio ar sicrhau y gwelir coedwigaeth fel rhan bwysig o economi Cymru, y caiff ei weld fel maes pwysig. Pe bai unrhyw faes arall yn cynhyrchu 10,000 o swyddi, byddem yn sôn amdano fel cyflogwr mawr a pha mor bwysig ydoedd. Mae 10,000 o swyddi mewn coedwigaeth, ond oherwydd nad ydynt oll mewn un ffatri—. Pe bai rhywun yn creu ffatri gyda 10,000 o swyddi, byddai gennym lu o bobl yma'n rhuthro—Gweinidogion, llefarwyr y gwrthbleidiau—i fynd i'w weld ac yn dweud, 'Onid yw'n wych fod y lle hwn yn creu 10,000 o swyddi?' Ond oherwydd eu bod wedi eu dosbarthu ledled Cymru, rydym yn llai tebygol o'i ystyried o bosibl. Ond mae llawer ohonynt mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o ddiweithdra ac yn aml mae cyflogau'r gwaith sydd ganddynt yn isel iawn. Felly, mae coedwigaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i'r ardaloedd hynny.
Rwyf eisiau dweud mewn gwirionedd fy mod yn credu ein bod i gyd ar yr un ochr. Credaf fod y Gweinidog wedi ymateb yn gadarnhaol iawn ac fe orffennaf drwy ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach: a gawn ni adroddiad i'r pwyllgor, neu i'r Siambr yma, yn flynyddol ar sut rydym yn gwneud yn erbyn y targedau lleol hynny? Oherwydd credaf fod hynny mewn gwirionedd yn rhywbeth y mae llawer iawn ohonom am ei weld. Mae targedau lleol yn iawn, ond a fyddai modd eu hadio at ei gilydd a'u cyflwyno i ni? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.