– Senedd Cymru am 4:48 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf yw’r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar glystyrau gofal sylfaenol, ac rwy’n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad ein pwyllgor ni, y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ar glystyrau gofal sylfaenol.
I gleifion, gofal iechyd sylfaenol yw eu cyswllt cyntaf â’r system gofal iechyd. Yn y gwasanaeth iechyd gwladol, meddygon teulu sy’n darparu gofal iechyd sylfaenol yn bennaf. Grwpiau o feddygon teulu sy’n gweithio gyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill yw clystyrau gofal sylfaenol, gyda’r nod o gynllunio a darparu gwasanaethau yn lleol. Penderfynodd y Pwyllgor gynnal adolygiad o glystyrau gofal sylfaenol am ein bod ni am gadarnhau a yw’r model ar gyfer y gwaith hwn yn sicrhau gwasanaethau gwell i gleifion ac a yw ar y trywydd iawn i wneud y newidiadau systemig sydd eu hangen ym maes gofal sylfaenol.
Rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Chwefror 2017, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym. Cafwyd 47 o ymatebion ysgrifenedig, a’r rheini gan ystod o sefydliadau gofal iechyd, grwpiau proffesiynol a staff clinigol unigol. Cawsom dystiolaeth lafar gan sawl tyst ac, mewn digwyddiadau a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin, Caernarfon a Wrecsam, cyfarfu aelodau’r Pwyllgor â meddygon teulu, rheolwyr practisau a chynrychiolwyr eraill o glystyrau a byrddau iechyd lleol. Roedd y trafodaethau grŵp yn canolbwyntio ar aeddfedrwydd clystyrau, datblygu clystyrau, y gweithlu, cyllid, boddhad cleifion, ac atebolrwydd. Gwnaeth y dystiolaeth a glywsom ein helpu i lunio casgliadau clir iawn a’n galluogi i lunio argymhellion cadarn i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog.
Yn gynharach heddiw, cawsom gyfarfod efo pobl a roddodd dystiolaeth i’r ymchwiliad gwreiddiol, draw yn y Pierhead amser cinio, a hynny er mwyn cael eu barn ar ganfyddiadau’r adroddiad a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad ni. Dyma fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch unwaith eto i bawb a gymerodd ran yn ein hadolygiad.
Rwy'n symud ymlaen at y casgliadau a'n hargymhellion ni. Mae ein hadroddiad yn ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys a yw’r clystyrau wedi lleihau’r galw ar feddygon teulu, y manteision o weithio fel tîm amlddisgyblaethol, a lefel y cyllid a’i ddyraniad. Mae gennym gyfanswm o 16 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a’r gobaith yw y bydd y rhain yn cyfrannu tuag at sicrhau’r newid mawr sydd ei angen, yn ein barn ni, o ran datblygiad a chyfeiriad clystyrau gofal sylfaenol, os ydyn nhw i ysgafnhau’r pwysau sydd ar feddygon teulu ac ysbytai Cymru.
Mae’r set gyntaf o argymhellion—argymhellion 1, 2, 3 a 4—yn ymwneud â chyflymder a natur datblygiad clwstwr. Mae amrywiad sylweddol yn y 64 o glystyrau o ran eu haeddfedrwydd a ble maen nhw arni yn eu datblygiad. Er nad yw amrywiad ynddo’i hun yn beth negyddol, mae’r pwyllgor am gael sicrwydd bod yr amrywiad hwn o ganlyniad i ymateb i anghenion lleol, yn hytrach na diffyg cysondeb yng nghyflymder y datblygiad. Clywsom wahaniaeth barn ynghylch diben y clystyrau a chredwn fod hyn yn ychwanegu at yr amrywiad yn y ffordd y maen nhw’n datblygu. Er bod rhai yn effeithiol iawn o ran dod â rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi allweddol ynghyd, mewn ardaloedd eraill, ymddengys iddynt gael eu hystyried yn gyfrwng ar gyfer gwneud cais am arian yn bennaf. Dywedodd rhai o’r ymatebwyr fod datblygiad rhai clystyrau yn dibynnu i raddau helaeth ar egni a brwdfrydedd meddygon teulu, practisau meddygon teulu, neu arweinwyr clwstwr unigol, ac nad yw’r model hwn yn un cynaliadwy yn y tymor hir. Hefyd, clywsom nad yw’r holl randdeiliaid cywir yn cymryd rhan, a bod rhai clystyrau’n dal i ganolbwyntio ar bractis meddygol cyffredinol.
Rydym yn cytuno efo Llywodraeth Cymru y dylai gwasanaethau gofal sylfaenol ganolbwyntio’n gryf ar gynllunio a chyflwyno gwasanaethau lleol i ddiwallu anghenion iechyd y boblogaeth. Felly, rydym yn cefnogi’r farn bod angen annibyniaeth ar glystyrau. Fodd bynnag, rhaid gosod hyn o fewn fframwaith llywodraethu llawer mwy diffiniedig a strwythuredig. Mae angen golwg gliriach ar ffurf, atebolrwydd, pwerau a strwythur y clystyrau yn y dyfodol. Heb hyn, y perygl yw y bydd amrywiaeth o drefniadau ad hoc lleol ac, oherwydd hynny, na fydd newid cynaliadwy yn digwydd. Felly, rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, yn llwyr neu mewn egwyddor, argymhellion 1 i 4.
Rwy’n troi nawr at y cwestiwn a yw clystyrau’n gwireddu uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol, sef argymhellion 5, 6 a 7. Rydym yn cefnogi’n llawn nod Llywodraeth Cymru i glystyrau chwarae rhan arwyddocaol wrth gynllunio’r gwaith o drosglwyddo gwasanaethau ac adnoddau allan o ysbytai i’w cymunedau lleol. Ni fydd hyn yn digwydd heb ffocws ac ysgogiad cynyddol o ran sut y gall gweithwyr gofal eilaidd ymwneud yn ystyrlon â gwaith clwstwr a sut y gall clystyrau ymgymryd â’r heriau mawr o ran lleihau gofal heb ei drefnu. Rhaid i Lywodraeth Cymru nodi cynllun clir ynghylch sut y bydd yr agwedd hon ar waith clwstwr yn cael ei datblygu.
Clywsom hefyd am yr angen i newid disgwyliadau cleifion o ran priodoldeb gweld ystod o weithwyr proffesiynol gofal sylfaenol, yn hytrach na gweld y meddyg teulu bob tro. Rhoddwyd enghreifftiau o gleifion sy’n mynnu gweld meddyg teulu er gwaethaf y ffaith bod aelodau eraill o staff ar gael, fel nyrsys practis, ac y gallai fod wedi bod yn fwy priodol iddynt eu gweld nhw yn lle. Felly, rydym ni yn cefnogi’r angen am ymgyrch genedlaethol a fydd yn adeiladu ar y strategaeth Dewis Doeth bresennol i wella dealltwriaeth y claf a’r gefnogaeth ar gyfer y dull tîm amlddisgyblaethol cynyddol. Rydym ni'n croesawu’r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn, yn llwyr neu mewn egwyddor, argymhellion 5, 6 a 7.
Mae argymhellion 8, 9 a 10 yn canolbwyntio ar faterion sy’n gysylltiedig â staffio. Mae manteision amlwg a sylweddol i’r dull tîm amlddisgyblaethol y mae’r clwstwr yn seiliedig arno. Fodd bynnag, mae rhai o’r anawsterau ymarferol cysylltiedig yn sylweddol ac, yn ein barn ni, nhw fydd yr her fwyaf arwyddocaol, o bosibl, i ddyfodol clystyrau. Mae’r rhain yn cynnwys: recriwtio a chadw meddygon teulu ac ystod eang o weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â gofal sylfaenol; y cwestiwn ynghylch pwy sy’n cyflogi staff clwstwr a materion cysylltiedig fel pensiynau ac indemniad, efallai’r rhwystr mwyaf sylweddol i waith clwstwr effeithiol; y potensial i feddygon teulu dreulio amser yn ymdrin â materion adnoddau dynol a rheoli yn hytrach na darparu gofal clinigol; y ffaith bod goruchwyliaeth glinigol y tîm amlddisgyblaethol yn cael ei wanhau gan fod staff yn cael eu gosod y tu allan i fodelau rheoli traddodiadol a lleoliadau ffisegol; effaith negyddol dyraniadau cyllid blynyddol sy’n effeithio ar y gallu i recriwtio a chadw staff o safon; a hefyd materion llywodraethu cysylltiedig.
Yn ogystal, clywsom fod angen mynd ati, o fewn y model clwstwr newydd hwn, i gynllunio a chydgysylltu’r ddarpariaeth ar gyfer datblygu sgiliau staff a hyfforddi’r gweithlu. Siom, felly, yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod ein galwad i gyflwyno arweinydd cenedlaethol i gydlynu anghenion hyfforddiant a datblygu yn y clystyrau. Fe fyddwn i’n croesawu esboniad gan Ysgrifennydd y Cabinet am ei resymau dros wneud hyn. Croesawyd cyllid clwstwr gan bawb sy’n ymwneud â gwaith clwstwr, yn genedlaethol ac yn lleol. Mae tri o’n hargymhellion, sef 11, 12 a 13, yn ymwneud â chyllid. Seiliwyd y tri ar y dystiolaeth a ddaeth i law ac nid ydyn nhw’n galw am gyllid ychwanegol. Mae’n siom, felly, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dewis diystyru’r pwyntiau pwysig hyn.
Mae angen seilwaith amserol ac effeithiol ar y gwasanaeth iechyd gwladol i gefnogi’r newid i waith clwstwr. Mae hyn yn cynnwys yr ystâd gofal sylfaenol a’r seilwaith IT—argymhellion 14 a 15. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu mai ychydig o gynnydd a welwyd yn y maes hwn a bod yr ystâd, yn ei hystyr ehangaf, yn parhau i fod yn broblem sylweddol i’r sector gofal sylfaenol. Rwy’n croesawu’r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi swm o £68 miliwn yn ddiweddar i gyflwyno 19 canolfan iechyd a gofal integredig newydd ledled Cymru erbyn 2021, gan y bydd y rhain yn allweddol i leddfu pwysau ar feddygon teulu ac ysbytai trwy gadw gwasanaethau iechyd hanfodol yn agosach at bobl yn eu cymunedau. Hefyd, rwy’n edrych ymlaen at glywed ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i ganfyddiadau’r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol mewn perthynas â seilwaith IT.
Mae a wnelo ein hargymhelliad terfynol, argymhelliad 16, â’r angen am drefn gliriach a mwy cadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Yn gyffredinol, clywsom adborth cadarnhaol am effaith ganfyddedig mentrau clwstwr, ond ychydig iawn o dystiolaeth fesuradwy oedd ar gael i ategu’r canfyddiadau hyn. Mynegwyd pryderon ynghylch a yw’n bosibl dangos effaith clystyrau, ac a oes mecanweithiau ar waith i sicrhau y gellid gwerthuso’n gadarn yr hyn maen nhw’n ei wneud, ac i ba raddau maen nhw’n gwella canlyniadau cleifion. Ystyriwyd bod gwerthuso a monitro yn hanfodol nid yn unig wrth asesu cynnydd, ond hefyd wrth sicrhau bod gwaith clwstwr llwyddiannus yn cael ei rannu ag eraill a’i gyflwyno lle bo’n briodol. Mae’n siomedig, felly, fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 16. Edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Roeddwn yn falch iawn o fod yn rhan o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan benderfynasom gynnal yr ymchwiliad hwn i glystyrau gofal sylfaenol. Roedd ein penderfyniad i edrych ar hyn yn deillio i raddau helaeth o bryderon roedd aelodau eraill y pwyllgor a minnau wedi eu clywed drwy ein trafodaethau gyda meddygon mewn ymarfer cyffredinol, ac roeddem eisiau gwerthuso'r dull newydd hwn o weithio. Hoffwn ddiolch i staff y pwyllgor a'r holl dystion a'n galluogodd, drwy eu tystiolaeth onest, i herio'r byrddau iechyd a'r Llywodraeth, a datblygu set o argymhellion y credwn y byddent yn gwella datblygiad ac awdurdod y rhwydwaith o glystyrau meddyg teulu yng Nghymru.
Rydym wedi clywed cymaint am arferion da gan glystyrau meddygon teulu lle y ceir cynrychiolaeth gref a chyfranogiad gan weithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill, megis therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion, nyrsys gofal lliniarol ac arbenigwyr iechyd meddwl. Clywsom am enghreifftiau lle roedd syniad i wella gwasanaethau i'r claf wedi cael ei feithrin, wedi derbyn cyllid, wedi'i dreialu, wedi'i amlygu fel enghraifft o arfer da ac yna, naill ai wedi ei ymestyn neu wedi arafu. Yn y rhan fwyaf o'r enghreifftiau, daeth yn amlwg fod thema debyg i'r rhwystrau a ataliai arferion da rhag dod yn ymarfer cyffredin. Roedd byrddau iechyd eisiau pennu a rheoli'r arian, gan lesteirio'r union arloesedd roeddem ei angen. Ceid diffyg cynaliadwyedd o ran pobl neu'r arian, roedd prosiectau'n dod i ben ac yn dechrau, a chaent eu gyrru o un flwyddyn i'r llall yn hytrach na bod unrhyw hirhoedledd yn perthyn iddynt.
Nid yw pob clwstwr yn ymgysylltu â sbectrwm eang o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd a oedd â gwasanaethau a syniadau i'w cynnig, ond nid oeddent yn gallu dal eu gafael. Mae prosiectau a weithiodd wedi gorfod ymladd i gael eu mabwysiadu fel arfer cyffredin gan y bwrdd iechyd. Mae cadw cydbwysedd ac adrodd yn drech nag unrhyw dwf newydd, ac wrth gwrs, ceir proffwydoliaeth sy'n gwireddu ei hun. Os nad yw byrddau iechyd yn mabwysiadu'r prosiectau llwyddiannus ac yn eu perchnogi, ni ellir rhyddhau'r arian clwstwr sydd ynghlwm wrth y prosiect hwnnw i weithredu fel cyllid sbarduno ar gyfer y cam arloesi nesaf.
Roedd meddygon teulu weithiau'n ei chael hi'n eithriadol o anodd ymgysylltu â'r clystyrau eu hunain oherwydd pwysau eu llwyth achosion, ac roedd ymdeimlad gan rai gweithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd a fferyllwyr cymunedol y gallent wneud mwy, eu bod yno yn barod, yn fodlon ac yn gallu ond bod y newid diwylliannol, mewn rhai achosion, i roi'r gorau i feddwl 'meddyg' a defnyddio eu sgiliau a hyfforddiant yn anodd ei gyflawni.
Ond lle mae'n gweithio, mae'n gweithio'n dda. Hoffwn gyfeirio at enghreifftiau o bractis meddygol Stryd Argyle yn Noc Penfro yn fy etholaeth, practis sydd o dan bwysau aruthrol gyda'r rhestr hiraf o gleifion yng Nghymru a thri meddyg yn brin. Ar gyfer cyflyrau cronig a gofal lliniarol, maent wedi defnyddio arian clwstwr i gyflwyno therapyddion galwedigaethol a nyrsys gofal lliniarol, gyda rhai ohonynt yn cael eu hariannu gan y bwrdd iechyd yn uniongyrchol ac sydd wedi dod yn rheng flaen newydd i helpu'r cleifion hyn sy'n agored i niwed, gan alluogi'r meddygon i weithredu fel trefniant wrth gefn ar gyfer cyflyrau mwy cymhleth.
Fodd bynnag, fel y dywedodd y Cadeirydd, canfu ein hymchwiliad gryn dipyn o gymysgedd, a dyna pam y teimlaf fod y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad 16 yn gwbl syfrdanol. Roeddem eisiau i Lywodraeth Cymru sicrhau y ceir methodoleg glir ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr. Credwn y byddai hyn yn galluogi i arfer gorau gael ei fabwysiadu fel arfer cyffredin yn gyflymach ac y byddai'n helpu i nodi pam na weithiodd rhai prosiectau a sicrhau eu bod yn cael eu dirwyn i ben yn hytrach na bod arian yn cael eu taflu atynt yn barhaus. A bod yn onest, jargon yw ymateb y Llywodraeth, ac mae'n cuddio y tu ôl i Gronfa'r Brenin, ac nid wyf erioed wedi gallu deall unrhyw sefydliad, Llywodraeth neu beidio, a fydd yn gwario arian heb gostio'r gwariant hwnnw—ac rwy'n cyfeirio at sylwadau o'ch ymateb i'n hadroddiad ar y gyllideb—na mesur canlyniadau. Rhaid inni fesur a gwerthuso. Sut y gallwn wneud hynny heb y wybodaeth briodol?
Argymhelliad 11: mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid dyrannu arian datblygu clwstwr i glystyrau unigol ar sail tair blynedd yn hytrach nag ar sail flynyddol, ac eto, yr angen am gynaliadwyedd arian clwstwr i alluogi hyfforddiant i gael y staff iawn ar gyfer lleddfu pryderon ynglŷn â threfniadau gwaith pobl, yr angen i gynnal peilot, treialu, gwerthuso a mabwysiadu—ni allwch wneud hynny mewn blwyddyn. Ond mae cylch ariannu tair blynedd o leiaf yn gwneud rhywfaint o gynaliadwyedd yn bosibl. Rwy'n annog Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu'r ddau argymhelliad hyn eto yng ngoleuni'r holl dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol.
Aelodau, rwy'n argymell y dylai pawb ohonom ddarllen yr adroddiad hwn, oherwydd o ystyried y pwyslais ar ofal sylfaenol yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol, mae clystyrau'n fodel ar gyfer y ffordd ymlaen, ond mae angen eu rhyddhau, eu hariannu, eu dwyn i gyfrif, ac yn y pen draw, eu gwerthuso.
Fel aelod o'r pwyllgor, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad i raddau helaeth wrth i ni barhau i ddatblygu a chryfhau'r clystyrau gofal sylfaenol yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yr argraff bennaf a wnaed arnaf o'r dystiolaeth a gymerwyd gennym yn yr ymchwiliad hwn yw ei bod hi'n rhy fuan, i lawer o bobl, i wneud penderfyniad gwybodus neu ffurfio barn ddeallus ar lwyddiant cyffredinol y clystyrau. Felly, credaf y bydd gwerthuso gweithgaredd yn y clystyrau presennol a chlystyrau sy'n datblygu yn hanfodol bwysig os ydym yn mynd i gyflwyno arfer da ar draws Cymru.
Felly, heddiw, fodd bynnag, yn hytrach na chanolbwyntio ar unrhyw argymhellion penodol, hoffwn wneud tri phwynt yn unig. Yn gyntaf, buddsoddi ein harian i helpu i gyflawni newid sydd ei angen yn ddirfawr a sicrhau ein bod yn rhannu arferion da. Yn ail, buddsoddi ein harian i helpu pobl i wneud y dewis cywir am eu gofal, gan adeiladu ar waith yr ymgyrch Dewis Doeth y cyfeiriodd Dai Lloyd ati eisoes a chyflawni newid mewn lleoliadau gofal sylfaenol. Ac yn drydydd, y modd y mae'r gwaith ar glystyrau gofal sylfaenol yn un rhan yn unig o'r cyfrifoldeb enfawr ar y Cynulliad cyfan yng ngoleuni'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol.
Felly, yn gyntaf, hoffwn gysylltu rôl gynyddol clystyrau gofal sylfaenol â'r dasg hanfodol o wario'r gyllideb iechyd yn ddoeth. Credaf fod llawer o dystiolaeth o blaid gwaith clwstwr, er nad yw hynny'n wir am werthuso ar hyn o bryd, a'r dasg sy'n wynebu GIG Cymru yw sicrhau bod yr enghreifftiau o arfer gorau yn cael eu cyflwyno'n gyflym ac yn effeithiol wrth i'r modelau clwstwr aeddfedu. Yr her sy'n wynebu pob un ohonom, waeth beth yw ein lliw gwleidyddol, yw sicrhau bod yr arian a fuddsoddwn yn GIG Cymru yn helpu i wneud y newidiadau go iawn y gwyddom eu bod yn angenrheidiol o ran y modd y caiff gwasanaethau eu darparu. Bellach mae angen inni sicrhau bod clystyrau'n gallu dylanwadu ar gynlluniau tymor canolig integredig a bod y cynlluniau hynny'n caniatáu ar gyfer yr arloesedd y bwriadwyd i arian clwstwr ei ddarparu. Rwy'n gadarn o'r farn na allwn fforddio parhau i fuddsoddi mewn modelau gofal nad ydynt yn ymateb i'r anghenion sy'n newid yn barhaol. Mae'r dystiolaeth yn dweud wrthym fod angen i ni symud gwasanaethau i'r lleoliad sylfaenol ac os caiff ei wneud yn iawn, gall clystyrau fod yn ffordd effeithiol o wneud hyn, a cheir enghreifftiau ardderchog o arfer da eisoes.
Yn ardal fy mwrdd iechyd yng Nghwm Taf, er enghraifft, rydym wedi gweld llwyddiant y prosiect Mae Dannedd Babi YN Bwysig ym Merthyr Tudful, sy'n sicrhau bod plant dan ddwy a phum mlwydd oed yn cael mynediad cynnar at ofal deintyddol drwy weithwyr cymorth gofal iechyd a therapyddion deintyddol. Mae swyddogion cymorth meddygon teulu yn helpu meddygon teulu i ganolbwyntio ar yr hyn y gallant ei wneud, gan helpu pobl ag anghenion gofal cymdeithasol a chydgysylltu gofal, ac mae'r clwstwr yn arwain gyda phrosiectau TGCh fel meddyg teulu ar y we, sy'n darparu gwasanaeth brysbennu ar-lein.
Mae Cwm Taf hefyd wedi treialu prosiect clwstwr ward rithwir yn Aberdâr—deallaf eu bod i gyflwyno un ym Merthyr hefyd yn fuan—lle roedd tîm gofal sylfaenol amlddisgyblaethol yn targedu 150 o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty'n fynych, pobl oedrannus eiddil yn bennaf, drwy fynd ati'n rhagweithiol i ymweld â hwy yn eu cartrefi eu hunain, i gynnig cymorth drwy ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, parafeddygon a fferyllwyr. Dros gyfnod o wyth mis, mae hyn wedi arwain at 60 y cant yn llai o apwyntiadau meddygon teulu, 80 y cant yn llai o dderbyniadau i'r ysbyty, a 90 y cant yn llai o alwadau i wasanaethau tu allan i oriau. Mae hyn wedi rhoi amser i feddygon teulu ymdrin â materion mwy cymhleth yn eu meddygfeydd.
Felly, mae gwrthsefyll newid yn y modd y darparir gwasanaethau, fel yr enghreifftiau rwyf newydd eu rhoi, yn peri i'r sefyllfa droi yn ei hunfan, ac nid system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n troi yn ei hunfan sydd ei hangen ar bobl Cymru. Felly, rwy'n croesawu ymateb Llywodraeth Cymru sy'n cadarnhau'r ymrwymiad i ddarparu gweledigaeth gliriach o waith clystyrau gofal sylfaenol.
Mae hyn yn fy arwain at fy ail bwynt. Fel y dengys y pwysau presennol ar y system, rhaid i gam nesaf y gwaith ar glystyrau gofal sylfaenol helpu i gryfhau'r gwaith pwysig sydd wrth wraidd yr ymgyrch Dewis Doeth. Nid oes amheuaeth, fel defnyddwyr y GIG, fod rhaid inni gael ein hatgoffa'n barhaus ynglŷn â'r ffordd y gall ein dewisiadau personol effeithio ar gadernid y system gyfan. Mae cryfhau gwasanaethau mewn clystyrau gofal sylfaenol, gan sicrhau felly nad oes angen i bobl ymweld ag ysbyty i gael triniaeth fel mater o drefn, yn rhan o'r strategaeth gyffredinol. Efallai fod angen inni symud yn ôl at ddefnyddio terminoleg lawn 'damweiniau ac achosion brys' i atgyfnerthu'r hyn y mae a wnelo gwasanaeth ysbytai mewn gwirionedd.
Yn olaf, a fy nhrydydd pwynt, un rhan yn unig yw'r adroddiad hwn ar glystyrau gofal sylfaenol o'r hyn y credaf y bydd yn flwyddyn arwyddocaol i'r GIG yng Nghymru, gan y bydd angen inni hefyd weithio'n galetach byth wrth i ni dderbyn a rhoi ystyriaeth ofalus iawn i'r argymhellion yn yr adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol a drafodwyd gennym ddoe. Mae gennym lawer iawn o waith pwysig o'n blaenau.
Yn sicr, fe wnes i ddysgu llawer iawn yn ystod yr ymchwiliad yma. Mae gen i brofiad yn fy etholaeth, fel Aelod Cynulliad Ynys Môn, o weld clwstwr ar waith—clwstwr effeithiol iawn fel rydw i'n ei ddeall. Rwyf wedi eistedd i mewn ar gyfarfod clwstwr a gweld y gwaith amlddisgyblaethol yn tynnu at ei gilydd mewn ffordd rydw i'n credu oedd yn effeithiol iawn ar ran fy etholwyr i yn Ynys Môn.
Ond rydw i hefyd wedi dysgu, rydw i'n meddwl, yn yr ymchwiliad yma, fod clwstwr yn gallu golygu rhywbeth gwahanol iawn, iawn mewn gwahanol rannau o Gymru, yn ddibynnol ar bopeth, o ddaearyddiaeth i faint meddygfeydd teulu unigol, i'r math o gydberthynas oedd yna rhwng gwahanol elfennau o'r timau amlddisgyblaethol—yn dibynnu ar bersonoliaethau, hyd yn oed, ac yn dibynnu ar agweddau pobl tuag at y clystyrau, a beth oedd eu pwrpas nhw. Rydym ni wedi clywed gan bobl a oedd yn gweld clwstwr fel rhywbeth i wirioneddol ddod â thîm at ei gilydd. Rydym ni wedi gweld ffederaleiddio'n digwydd fel cam hyd yn oed ymhellach. Rydym wedi clywed am eraill yn gweld clwstwr fel dim ond mecanwaith i ddod ag ychydig o arian ychwanegol i mewn ar gyfer rhyw brosiect neu'i gilydd.
Felly, os ydym ni'n edrych ar yr argymhelliad cyntaf un, rydw i'n meddwl bod hwnnw'n crynhoi, o bosib, prif ddiben yr hyn fuom ni yn ei drafod, sef yr angen am eglurder ynglŷn â beth yn union ydy clwstwr:
'Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi model newydd ar gyfer clystyrau
gofal sylfaenol' a bod angen i'r model hwnnw fod yn glir. Rydw i'n edrych ymlaen at weld sut y bydd hwnnw yn cael ei weithredu arno fo gan y Llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod pump o argymhellion y pwyllgor. Dyna bron i draean. Rwy'n siomedig ynglŷn â hynny fel aelod o'r pwyllgor. Nid wyf yn meddwl ei fod yn arbennig o dderbyniol, gan nad wyf yn meddwl bod yr un o'r pump yn arbennig o ddadleuol. Nid wyf yn ystyried bod iddynt oblygiadau ariannol enfawr, ond wrth gwrs, edrychaf ymlaen at glywed sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet.
Gadewch i mi fynd drwy'r argymhellion a wrthodwyd. Argymhelliad 10—mae a wnelo hwnnw â gwella cynllunio ar gyfer hyfforddiant cenedlaethol. O ystyried ein rhwystredigaethau yn ddiweddar ynglŷn â chynllunio'r gweithlu yng Nghymru, efallai mai un sylw amlwg a braidd yn ddigywilydd fyddai dweud bod y Llywodraeth o leiaf yn gyson yn gwrthod gwneud hynny, ond unwaith eto, edrychaf ymlaen at glywed mwy am y sail resymegol. Dywed argymhelliad 11 y dylid cyflwyno cynlluniau ariannol tair blynedd. Pam gwrthod hynny pan oedd y Llywodraeth yn gefnogol i fyrddau iechyd lleol symud i'r cyfeiriad hwnnw? Dywed argymhelliad 12 y dylid adolygu'r ffrydiau ariannu i sicrhau'r effaith fwyaf posibl o'r cyllid. Mae'n anghredadwy fod unrhyw beth o'i le ar hynny.
Argymhelliad 13—
'sefydlu prosesau gwneud penderfyniadau clir ar gyfer gwerthuso a datblygu modelau llwyddiannus yn gyflym a dirwyn i ben arian ar gyfer mentrau llai llwyddiannus.'
Credaf, efallai, mai dyma un o'r problemau mwyaf yn y GIG. Mentrau llwyddiannus, a mawredd, maent yn bodoli. Rydym wedi gweld digon ohonynt. Gwyddom am ddigonedd o enghreifftiau o arloesi a ddyfeisiwyd gan staff o fewn y GIG a rheolwyr, ond nid ydynt yn cael eu datblygu'n effeithiol. Gwelwn fentrau aflwyddiannus yn cael eu caniatáu i barhau, a chredaf fod gwrthod yr argymhelliad yn awgrymu bod gennym broblem barhaus yn y maes penodol hwn.
Mae argymhelliad 16 wedyn yn dweud y dylid
'sicrhau bod mecanwaith llawer mwy eglur a chadarn ar gyfer gwerthuso gwaith clwstwr.'
Pam ar y ddaear y byddem yn gwrthod y syniad o gasglu tystiolaeth i weld a yw polisi'n gweithio?
Felly, rydym wedi dysgu llawer fel pwyllgor. Yn sicr, fe ddysgais fod yr egwyddor o glystyrau yn egwyddor gwerth mynd ar ei thrywydd, a chredaf ei bod yn fuddiol i'r GIG yng Nghymru weld sut y tynnwn wahanol rannau, o'r sector gofal sylfaenol yn yr achos hwn, at ei gilydd er budd cleifion Cymru. Edrychaf ymlaen at glywed mwy am yr hyn y cred Ysgrifennydd y Cabinet y mae ef wedi'i ddysgu hefyd.
Rwy'n aelod o'r pwyllgor, felly roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac yn fy marn i, yn unol â barn y pwyllgor rwy'n credu, a'r rhan fwyaf o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni, mae'r egwyddor o glystyrau yn un da iawn, ac mae egwyddor gwaith rhyngddisgyblaethol yn rhagorol. Ond credaf ein bod i gyd yn teimlo bod llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y clystyrau'n fwy effeithiol, a cheir llawer o faterion sydd angen eu datrys.
Uchafbwynt yr ymchwiliad i mi oedd y grŵp ffocws yng Nghaerfyrddin, a drefnwyd yn fedrus gan Angela Burns, lle y cawsom gyfle i glywed yn uniongyrchol am y materion a oedd o bwys i'r cyfranogwyr yno a'r rhwystredigaethau a'u hwynebodd yn y grwpiau clwstwr. Wrth gwrs, soniodd y Cadeirydd yn ei gyfraniad am y cyfarfod amser cinio a gawsom gyda'r gweithwyr proffesiynol yma heddiw cyn yr adroddiad hwn, ac yn y cyfarfod hwnnw, fe'm trawyd yn fawr gan frwdfrydedd y cyfranogwyr tuag at wneud gwaith da yn y gwasanaeth iechyd ac i wneud ymrwymiad mawr. Credaf fod hynny wedi'i gyfleu yn wirioneddol gryf heddiw, a chredaf eu bod i gyd, mewn egwyddor, yn cefnogi'r clystyrau, ond roeddent yn awyddus iawn i nodi'r ffyrdd ymarferol iawn y gellid gwella'r clystyrau a'r ffyrdd y gallem symud ymlaen.
Yn amlwg, un o'r materion allweddol hynny yw cyllid, ac mae Aelodau a siaradodd yn gynt wedi nodi materion yn ymwneud ag ariannu, ond credaf yn bendant fod rhywfaint o densiwn rhwng y byrddau iechyd lleol a'r cyllid i'r grwpiau clwstwr. Rwy'n credu bod hynny wedi cael sylw yn yr adroddiad hefyd, a chredaf fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dweud eu bod yn ymwybodol o oedi sylweddol cyn rhyddhau'r cronfeydd hyn. Ac mae yna achos hefyd dros ddyrannu'r arian datblygu clwstwr yn uniongyrchol i'r clystyrau yn hytrach nag i'r byrddau iechyd. Felly, yn ogystal â mater y cyllid blynyddol, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar y materion hyn, gan fod y brwdfrydedd yn fawr, ac rwy'n credu bod angen inni ei wneud mor hawdd ag sy'n bosibl i'r clystyrau ddatblygu.
Mae'r gwaith amlddisgyblaethol i'w groesawu'n fawr, ac un o'r trafodaethau diddorol iawn yn y grŵp ffocws yng Nghaerfyrddin oedd sut nad oedd y cleifion yn gallu gweld y meddyg teulu yn y ffordd yr arferent allu gwneud, ac i rai cleifion oedrannus a oedd wedi arfer gweld meddyg teulu ac a oedd wedi arfer gweld yr un meddyg teulu bob tro, mae'n newid go fawr yn ddiwylliannol i weld y nyrs yn lle hynny, neu i weld gweithiwr proffesiynol arall perthynol i iechyd sy'n fwy priodol ar gyfer eu hanghenion. Yn amlwg, rwy'n credu mai gallu gweld yr unigolyn mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion yw'r peth allweddol o ran gwaith amlddisgyblaethol. Wrth i gleifion arfer yn raddol â'r ffordd hon o weithredu, credaf y bydd yn ffordd effeithiol iawn o weithredu, a bydd y claf yn gweld y person mwyaf perthnasol. Mae cyfle yma hefyd, rwy'n credu, oherwydd mae cleifion yn hoffi parhad, ac maent yn hoffi gweld yr un person, ac nid oes unrhyw reswm na all hynny olygu gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n eu gweld yn rheolaidd. Gallai olygu'r un person.
Roeddwn am sôn yn gyflym am fy mhrofiad yn yr etholaeth. Yn sicr, yn yr ymchwiliad hwn, mae ofnau ynghylch prinder meddygon teulu ac anawsterau i ddod o hyd i feddygon teulu yn lle rhai sy'n gadael wedi codi eu pen ym mhobman, ac rydym wedi cael profiad anodd yng Ngogledd Caerdydd lle caeodd un o'r meddygfeydd lleol mewn gwirionedd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod partneriaid presennol practis Llwynbedw yn Birchgrove a Cathedral View yng Ngogledd Llandaf wedi hysbysu ynglŷn â'u bwriad i derfynu'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan roi chwe mis o rybudd. Roedd y bwrdd iechyd yn methu sicrhau grŵp arall o feddygon teulu i gymryd y practis, ac ni chynigiodd practis unigol ei gymryd. Felly, roedd y ddau adeilad yn eiddo i'r meddygon teulu—y meddygon teulu presennol. Mae un o'r rheini'n cael ei werthu. Ond mae hyn wedi cael effaith ddigalon iawn ar lawer o fy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi, gan ei fod wedi arwain at darfu ar batrwm y gofal iechyd roeddent wedi arfer ei dderbyn. Mynychais gyfarfod grŵp clwstwr yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod y meddygon teulu yn y grŵp clwstwr hwnnw'n teimlo y dylai fod wedi bod yn bosibl atal yr aflonyddu hwn ar gleifion, a dylai fod rhyw ffordd o sicrhau na châi'r cleifion hyn—gyda llawer ohonynt yn oedrannus—eu hamddifadu am na allent fynd i'r feddygfa y buont yn ei mynychu dros lawer o flynyddoedd. Ac mae wedi arwain at lwyth achosion trymach o lawer i feddygfeydd eraill.
Felly, rwy'n credu bod y grwpiau clwstwr yn ffordd ragorol ymlaen sy'n rhoi cyfle i rannu arbenigedd, er mwyn cyflwyno'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac yn y cyfarfod amser cinio heddiw, roeddwn yn eistedd wrth ymyl yr unig nyrs sy'n arwain grŵp clwstwr. Un nyrs yng Nghymru sy'n arwain grŵp clwstwr, ond gobeithiwn y bydd hwnnw'n batrwm a allai ddigwydd mewn sawl man arall.
Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Mae gan glystyrau gofal sylfaenol botensial i drawsnewid y gofal a ddarperir yn ein cymunedau, ond er i ni weld enghreifftiau ardderchog o glystyrau llwyddiannus, ceir amrywiadau mawr yn eu perfformiad. Mynegodd llawer o feddygon teulu eu siom yn y clystyrau. Roedd rhai'n feirniadol iawn. Disgrifiodd un meddyg teulu eu clwstwr fel 'amatur'. Er bod cefnogaeth eang i'r egwyddorion sy'n sail i'r clystyrau, teimlir yn gyffredinol nad ydynt yn cyflawni'r disgwyliadau.
Nododd llawer o dystion y ffaith fod byrddau iechyd lleol yn rhwystro datblygiadau. Caiff cyllid datblygu clwstwr ei reoli gan fyrddau iechyd lleol, a chanfu llawer o'r clystyrau nad oeddent yn gallu defnyddio'r arian yn y ffordd fwyaf effeithiol, oherwydd rheoliadau a rheolau rhy fiwrocrataidd. Clywsom fod oddeutu 90 y cant o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i dalu costau staffio. Clywsom hefyd, dro ar ôl tro, fod rôl y bwrdd iechyd lleol yn dyrannu arian datblygu yn peri oedi ychwanegol diangen cyn cael y cyllid at y clystyrau. Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru wrthym fod yr angen i wario arian erbyn diwedd y flwyddyn yn ei gwneud yn anodd ailgynllunio gwasanaeth, recriwtio, hyfforddi a gwneud newid go iawn, oherwydd anhyblygrwydd a phrinder amser arwain. Fel pwyllgor, teimlem y dylai'r arian fynd yn uniongyrchol i'r clystyrau, ac y dylid ei ddyrannu ar sail tair blynedd er mwyn osgoi penderfyniadau cynllunio byrdymor, nad ydynt yn cynnig y gwerth gorau am arian yn aml. Rwy'n siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 11, ac rwy'n ei annog i ailystyried.
Daeth yn amlwg i mi, yn ystod yr ymchwiliad hwn, ei fod yn ymwneud â mwy na'r problemau ariannu: roedd byrddau iechyd yn llesteirio gallu'r clystyrau i gyflawni newid gwirioneddol. Galwodd Cymdeithas Feddygol Prydain am fwy o ymreolaeth i glystyrau, ac y dylent fod hyd braich oddi wrth y byrddau iechyd lleol. Rwy'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhellion 2 a 3, sy'n argymell strwythurau llywodraethu newydd a dirprwyo penderfyniadau i glystyrau.
Wrth gwrs, nid yw'r clystyrau ond yn effeithiol pan fydd ganddynt arweinyddiaeth gyson a chlir. Lle mae clystyrau'n llwyddiannus, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain wrthym fod hynny'n deillio'n bennaf o ganlyniad i unigolion penodol sydd wedi dangos arweiniad rhagweithiol er gwaethaf cyfyngiadau eu cyfrifoldebau clinigol. Mae'r pwyllgor yn teimlo bod angen amser a lle ar bob gweithiwr proffesiynol perthnasol i gymryd rhan yn ystyrlon. Rydym yn argymell y dylid cael model diwygiedig ac y dylid cyhoeddi'r canllawiau, gan nodi aelodaeth graidd er mwyn sicrhau bod clystyrau'n cynnwys y bobl gywir a bod ganddynt y tîm arweinyddiaeth gorau posibl. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi y cynhelir gweithdy y mis nesaf i ddwyn ynghyd y trefniadau llywodraethu arfaethedig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi gofyn am newid dyddiad y gweithdy i alluogi meddygon teulu i'w fynychu. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod inni a yw hynny'n bosibl.
Mae pob un ohonom yma eisiau i glystyrau gofal sylfaenol lwyddo. Fel yr amlygodd yr adolygiad seneddol, bydd dyfodol gofal yn canolbwyntio mwy ar ofal sylfaenol yn hytrach na gofal eilaidd, felly mae'n bwysig ein bod yn gwella darpariaeth iechyd a gofal yn ein cymunedau lleol. Mae gan glystyrau rôl bwysig i'w chwarae'n cyflawni'r gwelliannau a'r newid. Mae ein pwyllgor wedi gwneud 16 o awgrymiadau ar gyfer gwella rôl a gweithrediad clystyrau gofal sylfaenol, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ailystyried a derbyn pob un o'n hargymhellion. Diolch. Diolch yn fawr.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Hydref, ac rwy'n amlwg yn awyddus i ddeall pam nad ydym wedi ei drafod hyd yma. Rwy'n deall bod yn rhaid i chi aros am ymateb y Llywodraeth, ond gan nad wyf yn aelod o'r pwyllgor, mae'n bwysig fod pawb ohonom yn amsugno'r dystiolaeth rydych yn ei chasglu, oherwydd rydym yn sôn am oddeutu hanner ein cyllideb gyfan, ac felly mae gan bawb ohonom ddyletswydd i sicrhau bod yr arian rydym yn ei ddyrannu i iechyd yn cael ei wario yn y ffordd orau sy'n bosibl.
Credaf fod clystyrau gofal sylfaenol yn hynod o bwysig fel ffordd o chwalu rhwystrau artiffisial—ffiniau artiffisial—rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol. Mae hefyd yn ffordd o fynd i'r afael â phractisau sy'n tangyflawni, neu bractisau mewn trafferthion, fel yr achos a ddisgrifiodd Julie Morgan yn awr lle roedd y practis yn rhoi'r gorau i weithredu ac nid oedd neb yn barod i'w gymryd. Pe baent yn gwybod amdano yn gynharach, pe bai'r trefniadau clwstwr wedi bod yn nes, efallai y byddai practis arall wedi bod yn barod i'w gymryd, yn enwedig pe na baent wedi gorfod wynebu sefyllfa annisgwyl.
Heddiw, cefais brofiad ardderchog gyda rheolwr practis. Roedd angen i mi sefydlu'n gyflym iawn a ddarparwyd ffurflen arbennig o'r enw DS1500 i'r adran gwaith a phensiynau i alluogi rhywun i gael y lwfans presenoldeb y mae gan bobl hawl iddo ar ddiwedd eu hoes. Felly, mae hwn yn fater brys. Nid oes gennyf ddim ond canmoliaeth i'r rheolwr practis. Tasg i reolwr practis yw hon. Nid yw'n ddim i wneud â meddyg teulu yn yr ystyr nad wyf yn gofyn am gyngor clinigol; rwy'n gofyn am gyngor gweinyddol. Mae angen i mi wybod a yw'r ffurflen hon wedi ei hanfon. Pan lwyddasom i sefydlu bod yr adran gwaith a phensiynau wedi colli'r ffurflen, cytunodd ar unwaith i'w hanfon eto a sicrhau ei bod yn cyrraedd yno mewn pryd. Felly, hoffwn ddweud nad yw unrhyw feddyg teulu nad yw'n dirprwyo'r gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd o reoli eu practis i reolwr practis yn defnyddio ei sgiliau clinigol yn effeithiol. Ni ddylai fod angen iddynt boeni a yw'r offer y mae pobl ei angen i archwilio cleifion ar gael ai peidio. Mae hynny'n rhywbeth y dylai rhywun arall fod yn ei wneud.
Yn yr un modd, rwy'n ei chael hi'n rhwystredig iawn pan ymwelaf â fferyllwyr i glywed bod meddygfeydd yn gwrthod rhannu gwybodaeth ynglŷn â pha feddyginiaeth y mae cleifion yn ei chael. Dylai fod ar gael drwy'r system TG, er mwyn galluogi'r fferyllydd sy'n arbenigo mewn meddyginiaethau, i weld yn union pa goctel o gyffuriau y mae'r claf hwn yn ei gael ac a yw'r hyn a ysgrifennwyd ar y presgripsiwn yn briodol i'r unigolyn dan sylw. Yn anffodus, nid yw'n anghyffredin, gyda phresgripsiynau, i'r pwynt fod yn y lle anghywir, a gall hynny fod yn destun pryder mawr. Wrth gwrs, fferyllwyr yw'r rheng flaen. Mae pawb wedi clywed storïau am anawsterau i gael apwyntiad i weld meddyg teulu, ond gyda'r fferyllydd, gallwch gerdded i mewn ac fe gewch y cyngor ar unwaith. Felly, rwy'n credu bod angen i glystyrau fod yn gweithio'n llawer agosach gyda fferyllwyr, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill, a fydd yn ein galluogi i rannu'r llwyth gwaith yn fwy effeithiol yn unol â gofal iechyd darbodus. Darllenais, gyda pheth dryswch, nad yw fferyllwyr bob amser yn cael gwahoddiad. Nid bod angen i bawb fod yn y cyfarfod clwstwr ar bob achlysur. Mae'n dibynnu beth yw'r pwnc sy'n mynd i gael ei drafod mewn cyfarfod penodol.
A ddylai byrddau iechyd gymryd mwy o ran neu lai o ran? Wel, rydym bob amser yn gorfod dilyn yr arian oherwydd os nad yw byrddau iechyd yn barod i sicrhau bod yr arian yn cael ei drosglwyddo i lawr o ofal eilaidd i ofal sylfaenol, nid ydym byth yn mynd i gael y newid sydd ei angen arnom i sicrhau bod gennym wasanaeth iechyd cynaliadwy.
Hoffwn orffen drwy atgoffa pobl fy mod wedi sôn yn y Cynulliad o'r blaen am astudiaeth achos Canterbury, Seland Newydd, sydd wedi treulio nifer o flynyddoedd yn cael gofal mwy integredig rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd a gofal cymunedol, a bod hynny wedi rhwystro galwadau am ofal ysbyty rhag cynyddu i'r entrychion, ac mae angen i bawb ohonom weld hynny. Nid oes angen ein hatgoffa beth sy'n digwydd yn y byd heddiw. Felly, mae angen inni ddysgu'n gyflym ac mae angen inni fwrw ymlaen â hyn yn hytrach nag oedi ymhellach. Rhaid i hon fod yn un ffordd ymlaen.
Diolch. Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn i glystyrau gofal sylfaenol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi, unwaith eto, yn 'Ffyniant i Bawb' ein bod yn parhau i weld clystyrau gofal sylfaenol fel catalyddion allweddol ar gyfer diwygio a newid ym maes gofal iechyd lleol. Rwyf am i glystyrau barhau i ddatblygu eu rôl fel mecanweithiau cydweithredol lleol ar gyfer asesu anghenion cymunedau, a gwneud y defnydd gorau wedyn o'r adnoddau sydd ar gael. Mae hynny'n golygu defnyddio arian, pobl, sgiliau ac asedau eraill o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, ond hefyd yn yr awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r cymunedau eu hunain, er mwyn diwallu'r angen hwnnw.
Rydym eisoes yn gweld y manteision o gydweithio ar lefel clwstwr, gyda thystiolaeth o fwy o gydweithio yn arwain at well defnydd o adnoddau. Rydym hefyd yn gweld uno practisau meddyg teulu, ffederasiynau a mentrau cymdeithasol fel rhai o'r atebion i gynaliadwyedd. Er mwyn gwella mynediad, yn ogystal â chynaliadwyedd, mae clystyrau'n parhau i ddatblygu a gwneud defnydd o amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol. Gwelwn fwyfwy o fferyllwyr, ffisiotherapyddion a pharafeddygon yn gweithio ochr yn ochr â meddygon teulu o fewn y tîm gofal iechyd lleol—mwy o bobl yn cael mynediad mwy amserol at y gweithwyr proffesiynol priodol ar gyfer eu hanghenion yn nes at adref.
Mae hefyd yn golygu bod gwasanaethau'n gallu rheoli'r galw a llwythi gwaith yn well, yn ogystal â'r capasiti yn gynyddol. Er enghraifft, mae clwstwr bae Abertawe yn gwneud defnydd doeth o barafeddyg i alw yn nhai pobl. Mae hynny wedi arwain at sicrhau bod pobl, yr henoed yn aml, yn cael eu gweld yn gynt heb orfod aros i'r meddyg teulu orffen gwaith yn y feddygfa. Ac yng nghlwstwr Llanelli, maent wedi penodi dau bresgripsiynydd cymdeithasol sy'n helpu pobl i gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt gan ystod eang o wasanaethau anghlinigol sydd ar gael gan y trydydd sector, ac mae hynny wedi lleihau'r galw ar amser meddygon teulu. Mae rhai o'r bobl sydd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau hyn wedi mynd ati eu hunain wedyn i wneud gwaith gwirfoddol a helpu eraill o ganlyniad i hynny. Nawr, er mwyn cadw pobl yn y cartref ac osgoi derbyniadau brys amhriodol i'r ysbyty, mae'r clwstwr yng ngogledd Powys yn gwneud defnydd doeth o rolau proffesiynol newydd ymarferwyr gofal brys a chymdeithion meddygol. Rwy'n disgwyl i gyflymder a maint arloesedd a gwelliannau barhau i gynyddu.
Rwy'n croesawu'r ffaith fod corff adroddiad y pwyllgor wedi cydnabod yr ystod eang o waith da sy'n cael ei wneud gan glystyrau. Mae hyn wedi datblygu ers y cyhoeddwyd y cynllun cenedlaethol ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol yng Nghymru yn 2014. Fodd bynnag, er fy mod yn anghytuno braidd â pheth o swm a sylwedd yr argymhellion, nodaf eu bod yn cydnabod yn llawn y cynnydd a wnaed gan glystyrau mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Ar y dechrau—ac nid wyf yn dweud hyn oherwydd mai Gweinidog arall oedd wrthi ar y pryd—roedd cryn ddrwgdeimlad ac amwysedd o fewn gofal sylfaenol tuag at greu clystyrau. Roedd pobl yn amau y byddent yn gwneud unrhyw wahaniaeth, ac yn waeth na hynny, dywedodd llawer o bobl na fyddent ond yn mynd ag amser, ac y byddai mwy o gyfarfodydd i'w mynychu a mwy o ffurflenni i'w llenwi. Bellach, ceir agwedd go wahanol tuag at glystyrau ymhlith meddygon teulu, yn ogystal â thimau ehangach gofal iechyd lleol. Ac fel y clywsom gan Jenny Rathbone, mae mwy o bobl eisiau bod yn rhan o hyn a chael eu cynnwys yn y drafodaeth a'r broses o wneud penderfyniadau, a'r gwerth a ddaw yn sgil hynny. O 'm rhan i, byddaf yn parhau i annog clystyrau i esblygu ac aeddfedu fel y dull cywir o gynllunio gofal iechyd lleol hygyrch a chynaliadwy.
Amlinellais yn fy nhystiolaeth ysgrifenedig a fy nhystiolaeth lafar i'r pwyllgor, ac eto yn fy ymateb i'r argymhellion, fod yna eisoes nifer o ddarnau allweddol o waith ar y gweill neu wedi'i gynllunio sy'n mynd i'r afael â llinellau ymholi ac argymhellion. Rwy'n dweud yn glir yn fy nhystiolaeth fod yn rhaid inni fod yn ofalus i osgoi bod yn rhy gyfarwyddol ynglŷn â sut y dylai clystyrau ddatblygu. Ein bwriad oedd sicrhau bod ganddynt hyblygrwydd i ymateb i heriau ac asesiadau o anghenion lleol gan ddarparu fframwaith i glystyrau a byrddau iechyd allu gweithredu o'i fewn.
Nawr yw'r amser ar gyfer camau cenedlaethol ar y cyd i gynorthwyo clystyrau i esblygu. Caiff hynny ei lywio gan wersi a ddysgwyd a'r atebion arloesol a gyflawnwyd hyd yma. Felly, rwyf wedi gofyn i'r bwrdd cenedlaethol gofal sylfaenol gytuno ar set o drefniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer gwaith clwstwr erbyn mis Mehefin eleni. Ac yn bwysig, rwyf wedi gofyn i'r trefniadau llywodraethu hynny alluogi yn hytrach na bod yn rhy gyfarwyddol. Rwy'n disgwyl iddynt gael eu cynllunio i gefnogi taith ddatblygu unigol pob clwstwr. A nodais yn fy ymateb y bydd y gwaith hwn yn ymdrin â nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad.
Rwy'n cydnabod y bydd aelodau'r pwyllgor bob amser yn siomedig pan fo'r Llywodraeth yn gwrthod argymhellion, ond mentraf ddweud nad wyf yn meddwl ei bod hi'n annerbyniol i'r Llywodraeth wrthod argymhellion fwy nag y mae'n dderbyniol i bwyllgor wneud argymhellion sy'n anodd neu'n heriol. Fel Llywodraeth, mae'n rhaid i ni dderbyn yr angen i ddod yma ar gyfer craffu ac egluro beth rydym yn ei wneud a pham, fel rwy'n meddwl bod angen i bwyllgorau wybod y ceir ewyllys da wrth wrthod neu dderbyn mewn egwyddor yn unig.
Rwyf am droi at argymhelliad 10. Credaf fod rhywbeth yma am argymell arweiniad cenedlaethol i ymdrin â'r holl wasanaethau lleol hyn. Nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd y byddai hynny'n cyflawni'r math o welliant y gwn fod yr Aelodau'n edrych amdano yn gyffredinol mewn hyfforddiant.
Ac wrth ymateb i argymhelliad 11, rwyf am nodi ein bod wedi rhyddhau £10 miliwn o gyllid rheolaidd i glystyrau benderfynu sut i fuddsoddi, ac rwy'n cydnabod peth o'r dystiolaeth a roddwyd, i'r pwyllgor a'r hyn a glywais yn unigol, am beth o'r amrywio o ran hyblygrwydd i glystyrau allu defnyddio'r arian hwnnw gyda'u bwrdd iechyd lleol. Ond mae clystyrau'n gwneud penderfyniadau gwahanol ar y ffordd orau o ddefnyddio arian. Mae ganddynt gynlluniau datblygu clwstwr gwahanol y maent hwy eu hunain wedi bod yn rhan o'r gwaith o'u llunio, ac er y caiff ei ddefnyddio i brofi atebion arloesol, gofynnais i'r byrddau iechyd adolygu eu prosesau cynllunio er mwyn sicrhau prosesau gwerthuso systematig.
Rwy'n ceisio ymdrin yma, unwaith eto, gydag argymhelliad 13, yn rhannol oherwydd bod yn rhaid i'r broses gynllunio dreigl dair blynedd ar lefel clwstwr ac ar lefel bwrdd iechyd, sicrhau bod y mentrau aflwyddiannus yn cael eu dirwyn i ben a rhai llwyddiannus yn cael eu datblygu a'u hariannu o adnoddau craidd disgresiynol byrddau iechyd. Rwy'n disgwyl i hynny ryddhau cyllid ar lefel clwstwr i'w fuddsoddi mewn prosiectau arloesol newydd i ysgogi gwelliant parhaus.
Ar bwynt penodol y cyfeiriodd llefarydd UKIP ato, rwy'n hapus i gadarnhau y bydd David Bailey, Dr David Bailey o Gymdeithas Feddygol Prydain, yn cymryd rhan yn y gweithdy ym mis Chwefror, felly bydd meddygon ar lawr gwlad yn cael eu cynrychioli yno.
Credaf fod angen inni fyfyrio hefyd, ar ôl cael yr adroddiad a'r gyfres o ymatebion i'r argymhellion, ein bod wedi cael yr adolygiad seneddol ddoe hefyd, a'r statws a'r meddwl sylweddol a roddwyd i rôl gofal sylfaenol yn yr adolygiad hwnnw, a'r argymhellion ynghylch cynllunio ac ynghylch rôl gofal sylfaenol yn bod yn fwy penodol ym mhroses y cynllun tymor canolig integredig, ac yn wir y newidiadau y maent wedi eu hargymell ar gyfer proses y cynllun tymor canolig integredig ei hun ac am y berthynas gyda llywodraeth leol. Maent yn bethau y mae angen inni fod â meddwl agored yn eu cylch a'u hystyried wrth ddod at ein hymateb terfynol iddo.
Felly, nid yw hwn yn bwynt mewn amser lle y ceir drws caeedig i bopeth. Rwy'n disgwyl gweld mwy o dystiolaeth o effeithiolrwydd clystyrau mewn gwahanol rannau o Gymru yn y fframwaith ansawdd a chanlyniadau sydd gennym eisoes ar gyfer gofal sylfaenol. Dylai hynny ein helpu o ddifrif i ddeall a gwerthuso gwir effaith clystyrau. Wrth gwrs, bydd gwersi i'w dysgu ynglŷn â beth sy'n gweithio a beth nad yw'n gweithio. Credaf fod adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion wedi bod yn ymarfer defnyddiol i'n helpu i symud yn ein blaenau ac i ledaenu mwy o ddealltwriaeth o'r gwaith y mae clystyrau yn ei gyflawni mewn gwirionedd.
Ar ôl nodi'r argymhellion, rwy'n falch unwaith eto o gydnabod bod amrywiaeth ohonynt yn canolbwyntio ar feysydd gwaith yr ydym ninnau hefyd wedi eu cydnabod eisoes ac rydym yn disgwyl adrodd yn ôl i'r Cynulliad yn eu cylch. Fel y dywedais yn fy ymateb, mae gwaith ar y gweill neu wedi'i gynllunio, a bydd adroddiad y pwyllgor a'r cyfoeth o dystiolaeth sydd ynddo yn helpu i lywio ein gwaith a'n hystyriaethau yn y dyfodol.
Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan a hefyd eto ategu ein diolch i'r clercod a'r sawl sydd yn ymchwilwyr i ni fel pwyllgor am eu holl gwaith, ac wrth gwrs i'r sawl sydd wedi bod yn rhoi tystiolaeth i ni dros y misoedd diwethaf. Roedd hi'n hyfryd cyfarfod efo nifer ohonyn nhw, fel gwnaeth Julie Morgan ei ddweud, amser cinio yn y Pierhead, fel rhyw fath o gwblhau'r cylch. Roedden nhw wedi cyflwyno tystiolaeth, roedden nhw wedi gweld ein hadroddiad ni, roedden nhw wedi gweld ymateb y Llywodraeth, ac roedd yna le iddyn nhw drafod hynny hefyd. Dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd i ni fel pwyllgor, a buaswn i'n meddwl fe fuaswn i'n ei weld fel rhyw fath o template i bwyllgorau eraill weithredu hefyd.
Reit, fe gawsom ni res o siaradwyr: Angela, Dawn, Rhun, Julie, Caroline, Jenny. Rwy'n falch o gael siaradwr nad oedd yn aelod o'r pwyllgor—nid fy mod i'n amharchu unrhyw aelod o'r pwyllgor hefyd a wnaeth siarad, ond rwy'n falch o gael rhywun sydd ddim yn aelod o'r pwyllgor yn cyfrannu hefyd, ac, wrth gwrs, yr Ysgrifennydd Cabinet ei hunan.
Y pwynt sylfaenol—ac rydym ni'n mynd i barhau i anghytuno ar hyn, rydw i'n siŵr—ydy'r angen am sicrwydd ariannol i gyflogi, yn enwedig i gyflogi staff newydd ar lefel y clwstwr. Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun ddweud am yr enghreifftiau yna o glystyrau yn cyflogi paramedics, a hefyd fferyllwyr. Mae'n llawer haws cyflogi rhywun ar gytundeb o dair blynedd nag ar gytundeb o flwyddyn. Dyna'r pwynt sylfaenol roedd llawer o'r tystion yn dweud wrthym ni, fod angen y sicrwydd ariannol yna, a hefyd sicrwydd cytundebau, pensiynau ac ati—pwy oedd yn eu rheoli nhw. Achos mae'r clystyrau eu hunain yn endid sydd ddim, fel y byrddau iechyd, yn endid cyfreithiol felly ym materion cyflogaeth. Felly, y manylion yna sydd angen eu datrys er mwyn gallu cael swyddi fel y paramedics yna, fel y fferyllwyr, sy'n gwneud gwaith clodwiw iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, achos mae paramedics gyda ni yn y clwstwr rydw i'n rhan ohono fe ac mae wedi trawsnewid y ffordd rydym ni'n gweithio. Os oes yna alwad brys rŵan yng nghanol ein syrjeri, nid oes yn rhaid i feddyg teulu adael y syrjeri rŵan, a'r holl gleifion sydd yn y fanna, i fynd i weld rhywun allan sydd wedi cwympo neu beth bynnag. Mae'r paramedic yna ac yn ein ffonio ni. Mae wedi trawsnewid y ffordd rydym ni'n rhedeg o ddydd i ddydd. Felly, maen nhw yn gwneud cyfraniad gwerthfawr fel yna ac mae angen eu cadw nhw a'u parchu nhw.
Felly, rydym ni wedi clywed yr holl ddadleuon yna, ac wnaf i ddim ailadrodd y dadleuon rydym ni wedi cael yn y fan hyn chwaith ynglŷn â pha argymhellion sydd wedi'u pasio a pha argymhellion sydd wedi cael eu gwrthod, ond mae'n wir i nodi fod y clystyrau yma yn ddatblygiad cyffrous. Mi ydw i hefyd yn ddigon hen i fod wedi cael yr un un ddadl roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn dweud amdano—ar y dechrau, flynyddoedd yn ôl, nid oedd neb yn siŵr iawn os oedd y rhain yn mynd i weithio neu a oedden nhw'n mynd i fod yn haenen ychwanegol o fiwrocratiaeth ar feddygon teulu, a oedd dim digon ohonom ni yn y lle cyntaf, ac a fyddai angen mwy o waith ac ati. Wel, rydym ni'n rhannol wedi dod dros hynny, ond yn rhannol hefyd mae'r rheithgor yn dal allan. Dyna pam mae pobl yn gofyn, a dyna pam mai prif argymhelliad yr adroddiad yma ydy bod eisiau newid mawr yn sylweddol—step change—yn natblygiad y clystyrau ac yn eu gweithredu, er mwyn i ni allu sicrhau a gwireddu y dyhead yma i gael y timau amlddisgyblaethol yma yn gweithio efo'i gilydd er mwyn buddiannau ein cleifion. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae adroddiad y pwyllgor wedi ei nodi a'i gytuno yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen i'r cyfnod pleidleisio yn awr.