– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 23 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i wneud y cynnig. Dafydd Elis-Thomas.
Cynnig NDM6627 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi’r adolygiad o Amgueddfa Cymru—National Museum Wales.
2. Yn croesawu agwedd gadarnhaol yr adroddiad at safon yr Amgueddfa Genedlaethol ac ansawdd y gwaith a wneir gan y staff.
3. Yn cydnabod y materion a godwyd a bod rhaid i Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael â’r argymhellion yn yr adroddiad.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae hi'n fraint ac yn bleser arbennig i mi i agor trafodaeth ar fater o fewn fy nghyfrifoldebau diwylliannol, ac wrth wneud hynny, defnyddio amser y Llywodraeth yn y Cynulliad i ddathlu datblygiad ein sefydliadau diwylliannol pwysig, a hefyd i roi cyfle i Aelodau Cynulliad ac i'r cyhoedd, yn dilyn cyhoeddi yr adroddiad, i drafod ei gynnwys ymhellach, a helpu ni yn y broses, fel Llywodraeth, o gydweithio â'r amgueddfa yn cryfhau ein sefydliadau cenedlaethol.
Mae sefydliadau cenedlaethol sy'n ymwneud â threftadaeth a hanes yn sefydliadau ble mae, heb siarad yn rhy genedlaetholgar na rhamantaidd, curiad y galon i'w glywed, oherwydd y mae'r sefydliadau yma yn cynnig profiad arbennig i ymwelwyr â Chymru, ac yn cynnig ymdeimlad o falchder mewn lle i gymunedau Cymru. Maen nhw'n sefydliadau sydd yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i groesawu newydd-ddyfodiaid i esbonio hanes a dyheadau pobl Cymru dros y canrifoedd, a hefyd i gynnig ar yr un pryd brofiadau o hanes a thystiolaeth i bawb o bob cenhedlaeth.
Mae gan Amgueddfa Cymru, fel y gwyddoch chi, saith o leoliadau ledled Cymru, ac mae'r sefydliadau yma yn rhan allweddol o'r gwaith o ddarparu profiadau diwylliannol ar garreg drws pobl bron, fel petai, a'r gwaith o ddarparu profiadau sydd ar yr un pryd yn gofalu am dreftadaeth. Ar wahân i bedwar ymweliad â Llandudno, y lle rwyf wedi treulio'r rhan fwyaf o amser ynddo fo o ran un lleoliad ers imi gael y swydd yma yw Sain Ffagan, ac mae'r cyfle i ailymweld â'r lle yna yn weddol aml yn ddiweddar wedi helpu imi sylweddoli gymaint o ddatblygiad ac ailddatblygiad sydd wedi ei wneud, gan gefnogi buddsoddiad o dros £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Fe ges i argraff gref iawn o'r cyfleusterau newydd yna, ac mae'n amlwg bod yna hanes hir o waith caled a chwbl ymroddedig gan bawb o'r uned adeiladau hanesyddol grefftus iawn sydd yno, drwodd i'r cyfarwyddwr cyffredinol a'r holl staff sydd mor frwd.
Ond, wrth gwrs, fe fu yna yn hanes y sefydliad yna, fel ym mhob sefydliad, broblemau ac mae yna o hyd heriadau. Mewn ymateb i heriadau ac ar gais gan Amgueddfa Cymru ei hun, comisiynodd fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Economi a Seilwaith, Ken Skates, yr adolygiad annibynnol yma rydym yn ei drafod heddiw yn 2016. A'r awydd oedd i geisio darganfod ffordd y gallai Llywodraeth Cymru a'r amgueddfa gydweithio yn fwy effeithiol.
Rwy'n ddiolchgar i Dr Simon Thurley—rwy'n gyfarwydd â'i waith o yn English Heritage ers blynyddoedd. Rwy'n ddiolchgar iawn iddo am y cyfrifoldeb gymerodd o am yr adolygiad, a'r modd darllenadwy y cafodd o ei ysgrifennu—yn wir, anarferol o ddarllenadwy yn fy mhrofiad i o ddarllen adroddiadau cyhoeddus, hyd yn oed ym maes diwylliant. Mae'r adroddiad wedi llwyddo i bwyso a mesur y cryfderau a'r gwendidau, i nodi'r problemau, i ystyried cyfleoedd a chyflwyno syniadau i ni am sut y gall yr amgueddfa symud ymlaen mewn nifer o'r meysydd yma.
Fel y gwelwch chi o ddarllen yr adroddiad, mae yna 17 o argymhellion. Nid wyf am drafod pob un yn unigol, ond mi groesawaf sylwadau fan hyn ar lafar neu yn uniongyrchol eto.
Rydw i’n credu bod yna dri phrif faes o argymhellion ac fe geisiaf i gyfeirio at y rhain yn eu tro. Maen nhw’n cynnwys yr angen i'r amgueddfa greu mwy o incwm er mwyn gwella cynaliadwyedd a lleihau’r ddibyniaeth sylweddol iawn ar arian cyhoeddus, datblygu a gwella cysylltiadau, yn enwedig gyda Llywodraeth Cymru, a datblygu’r cynnig dehongli yn yr amgueddfeydd ar draws y sefydliad cyfan.
Mae sawl argymhelliad yn nodi bod angen i Amgueddfa Cymru weithio’n wahanol er mwyn manteisio’n llawn ar ei photensial i greu incwm. Rydw i’n deall nad ydy’n hawdd i sefydliad mawr a chymhleth newid ei fodel busnes, ond mae'n bwysig fod hynny yn digwydd, ac, yn y trafodaethau sylweddol rydw i wedi'u cael yn barod efo Amgueddfa Cymru, mae'n amlwg fod yna barodrwydd i dderbyn a chofleidio'r angen am newid.
Yn ogystal â hynny, mae’r amgueddfa bellach yn rhan o bartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rwy'n sicr yn gwerthfawrogi y cydweithrediad rhwng gwahanol agweddau o waith treftadaeth, yn arbennig gwaith Cadw, sydd yn parhau—fel y byddwch chi'n cofio o ddatganiad blaenorol y gwnes i yma—yn rhan o'r Llywodraeth o hyd, er gyda mwy o annibyniaeth ar gyfer ei waith a'i reolaeth. Felly, rydw i'n edrych ymlaen at weld datblygiad pellach yn y bartneriaeth a chydweithio closiach rhwng y sefydliadau ym mhartneriaeth Cymru Hanesyddol. Rydw i hefyd yn gwerthfawrogi parodrwydd yr undebau i gymryd rhan yn y trafodaethau, a'r sicrwydd y medraf i ei roi yma'n gyhoeddus bod safbwyntiau staff yn rhan hanfodol o’r broses o wneud penderfyniadau.
Mae gan Amgueddfa Cymru gyfle da i ystyried y gwelliant rhagorol a wnaed gan Cadw o ran creu incwm, ac i ddysgu gwersi perthnasol. Er bod angen talu i gael mynediad i lawer o safleoedd Cadw, mae'r adroddiad yma'n cyfeirio at sefydliadau cenedlaethol eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig mynediad am ddim i’w horielau parhaol ond hefyd yn codi tâl i weld arddangosfeydd arbennig a chael gwasanaethau ychwanegol. Felly, fe garwn i bwysleisio fod Amgueddfa Cymru yn ystyried cyfleoedd eraill hefyd, gan gynnwys gwasanaethau parcio ceir a bysiau, gwella’r cynnig arlwyo, edrych ar yr oriau agor ac ystyried a fyddai’n bosibl i rai safleoedd agor ar adegau penodol.
Mae'r argymhelliad sydd wedi cael ei wneud yn yr adroddiad yma hefyd, yn allweddol iawn, yn argymell penodi cyfarwyddwr masnachol profiadol. Mae’r Amgueddfa yn ei thrafodaethau, yn sicr efo fi, wedi derbyn y syniad yna yn llawen, oherwydd y byddai'r sgiliau a fyddai'n cael eu cynnig gan benodiad fel yna yn hyrwyddo newid a gwelliant ar draws y sefydliad.
A gaf i gyfeirio yma eto at lwyddiant arbennig Sain Ffagan? Mae'r amgueddfa wedi codi dros £30 miliwn i roi’r prosiectau newydd yn Sain Ffagan ar waith. Mae’r rhan fwyaf o’r cyllid yma wedi dod o Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru, ond mae gweddill yr arian—sy’n swm sylweddol—wedi’i godi diolch i waith dygn ymddiriedolwyr a staff yr amgueddfa. Mae’r arian yma wedi dod o ffynonellau amrywiol, sy’n dangos bod yr amgueddfa yn gallu dod o hyd i gyfleoedd a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau. Er bod y broses hon wedi llwyddo, mae’n bwysig fy mod i'n cydnabod yma heddiw ei bod hi wedi cymryd cryn amser ac ymdrech a fy mod i'n gwerthfawrogi hynny.
Fe fydd angen sicrhau cydbwysedd o hyd rhwng ein polisi hynod lwyddiannus, sydd wedi’i hen ymsefydlu, o gynnig mynediad am ddim a’r angen i fod yn fwy masnachol. Rydw i'n awyddus i glywed barn Aelodau ynglŷn â sut y gallwn ni sicrhau'r cydbwysedd yna.
Mae'r ail gyfres o argymhellion y cyfeiriais i atyn nhw gan Dr Simon Thurley yn ymwneud â chysylltiadau, yn enwedig y cysylltiad rhwng Llywodraeth Cymru â'r amgueddfa. Mae'r adroddiad yn codi pryderon ynglŷn â’r hyn y mae’n ei ystyried yn lefel ddiangen o reolaeth. Rydw i'n deall y pryderon yna, ac, fel un sydd wedi ymwneud â nifer o sefydliadau cyhoeddus dros y blynyddoedd, rydw i’n meddwl ei bod hi yn bwysig ar yr un pryd i gael prosesau craffu llymach ar sefydliadau ac ar wariant, yn ogystal ag i sicrhau bod modd, wrth wneud hynny hefyd, edrych ar sefydliadau eraill o fewn y Deyrnas Unedig sydd yn fodlon manteisio ar bosibiliadau o greu incwm ychwanegol. Nid oes gwrthwynebiad mewn egwyddor i’r incwm ychwanegol yma gael ei greu, cyhyd â bod hynny’n gallu eistedd gydag egwyddor sylfaenol mynediad di-dâl yn gyffredinol i’r sefydliadau.
Rydw i’n gobeithio felly y bydd yr argymhellion yma yn cael eu hystyried ymhellach ac rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth lawnach ar hynny yn y fan yma. Ond fe garwn i ddweud un peth cyn i mi gloi'r sylwadau agoriadol yma. Mae yna gyfeiriadau wedi cael eu gwneud yn yr adroddiad, a oedd yn ddarllen poenus iawn i mi, ynglŷn â thorri lawr mewn perthynas rhwng timau uwch reoli a’r undebau’n cynrychioli'r gweithlu. Yn amlwg, nid yw hwn yn sefyllfa iach i unrhyw gorff cyhoeddus nag yn wir i gwmni masnachol na phartneriaeth fod ynddi hi. Ond nid ydw i am wneud unrhyw sylwadau penodol ar faterion rheolaeth yma heddiw. Ni fyddai hynny’n briodol. Rydw i’n parchu’r egwyddor hyd braich mewn sefydliadau diwylliannol ac rydw i’n meddwl bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gadw’r pellter hwnnw er mwyn gallu bod yn effeithiol yn y gwaith o graffu ar gyrff cyhoeddus yr ydym ni’n eu cyllido. Rwy’n annog cydweithrediad, gan gynnwys gwasanaethau cyflafareddi gan Acas ac eraill os oes angen, a hefyd yn y sefyllfa yna gobeithio y gallwn ni hyderu na fyddwn ni’n syrthio i hanes eto a fydd yn ailadrodd anghytundeb a methu cyd-ddeall.
Mae’r trydydd maes yr ydw i wedi cyfeirio ato yn y sylwadau agoriadol yma yn cyfleu’n arbennig y pwysigrwydd o ddatblygu cynnig arbennig yr amgueddfeydd. Rydw i'n ddiolchgar iawn am y sylwadau manwl a gofalus sydd wedi cael eu gwneud ar yr holl leoliadau, ond yn arbennig ar Amgueddfa Lechi Cymru, amgueddfa sydd yn annwyl iawn yn fy nhyb i, wrth gwrs, oherwydd y cysylltiad teuluol â’r diwydiant, a hefyd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, y ces i’r pleser pur o ymweld â hi yng Nghaerllion ddoe. Eto, mae enghraifft Sain Ffagan o’m mlaen i, ac mae hynny’n dangos sut y gall yr amgueddfeydd llai yma fanteisio ar brofiad Sain Ffagan a phrofiad Cadw i ddatblygu eu cynnig, gan ddangos yn glir nad corff sydd yn aros yn llonydd yw amgueddfa ond corff sydd yn parhau i dyfu fel y mae’r ddealltwriaeth o hanes y genedl yn tyfu.
Fel rydw i’n dweud, rydw i wedi cyfarfod swyddogion yr amgueddfa sawl tro i drafod yr adroddiad yma a’r argymhellion, ac rwy’n parhau i edrych ymlaen at gydweithio gyda nhw, ac rydw i’n awyddus prynhawn yma, ac ar ôl heddiw hefyd, i glywed eich cyfraniad chi fel y Cynulliad Cenedlaethol sydd â chyfrifoldeb dros ein sefydliadau cenedlaethol yn y broses o’i diwygio nhw. Diolch yn fawr i chi am eich gwrandawiad.
A gaf i ddiolch i’r Gweinidog am ddod â’r adolygiad i’r Siambr heddiw?
Mae'n adolygiad eithaf bachog, rwy'n credu, er bod angen ystyried ei argymhellion, rwy'n credu, ochr yn ochr â chasgliadau'r grŵp dan gadeiryddiaeth Justin Albert ynglŷn â ffurf bosibl Cymru Hanesyddol ac, wrth gwrs, eich penderfyniad diweddar y byddai Cadw yn parhau yn gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth. Hoffwn siarad yn fyr iawn am y rhan honno o'r adroddiad sy'n cyfeirio at yr anghydfod diwydiannol a effeithiodd ar weithgareddau yn ystod hanes diweddar yr amgueddfa. Nid wyf eisiau pendroni'n ormodol yn ei gylch, ond rwy'n tueddu i gytuno nad yw hwn yn fater i'r Llywodraeth ymyrryd yn uniongyrchol ag ef, o ran cysylltiadau diwydiannol corff anllywodraethol. Ond credaf ei bod hi'n briodol i'r ddwy ochr hysbysu'r Aelodau Cynulliad o'u barn, gan fod pawb sy'n ymwneud â hyn yn etholwr i rywun, ac fe allwn ni, eu cynrychiolwyr, ddwyn sylw at y safbwyntiau hynny i'r graddau y maen nhw'n dwyn pwysau. Ond nid yw hynny yn gyfystyr â'r Weithrediaeth yn ymyrryd a dylanwadu arnynt.
Ni allaf ddweud mewn gwirionedd a yw Dr Thurley wedi cynrychioli'r berthynas rhwng staff, rheolwyr a hyd yn oed y Llywodraeth yn ddigonol neu yn gywir. Ond ni chredaf ei bod yn ddewis rhwng naill ai yr angen i foderneiddio'r amgueddfa genedlaethol mewn modd realistig neu roi'r gydnabyddiaeth briodol i arbenigedd, ymrwymiad a hyblygrwydd staff ar y llall. Mae'r ffaith bod hyn wedi codi yn enghraifft o thema sydd wedi deillio o'r trafodaethau am yr amgueddfa yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf. A'r mater hwnnw yw swyddogaeth y Llywodraeth a'i pherthynas ag annibyniaeth yr amgueddfa.
O ran manylder y craffu diweddar, nid yn lleiaf yn yr adroddiad hwn, roedd yn rhaid i'r amgueddfa wynebu beirniadaeth am ei gallu i reoli pryderon y gweithlu yn briodol, ac, wrth gwrs, reoli'r newidiadau yn ei hamgylchiadau ariannol a'r cymorth ariannol y mae'n ei gael. Nawr, o'm rhan i fy hun, mae a wnelo hynny â bylchau mewn sgiliau rheoli y gellir ac y mae'n rhaid rhoi sylw iddyn nhw, ac nid yw'n rheswm i'r Llywodraeth ymyrryd yn llechwraidd ag annibynniaeth yr amgueddfa.
Roedd y posibilrwydd hwnnw ar y gorwel o gyfuno swyddogaethau masnachol gyda Llywodraeth Cymru yn brosiect llwyddiannus iawn o ran bod yn gyfrwng i'r amgueddfa allu gweld a dechrau cynllunio i oresgyn ei diffygion, yn enwedig yng nghyswllt ei gweithgareddau masnachol, a manteisio ar y gweithgareddau masnachol posib hynny sydd wrth wraidd adolygiad Thurley, wedi'r cyfan. Nawr, does gennyf ddim problem o gwbl gyda'r amgueddfa yn cydweithio gyda Cadw i wella cyfleoedd masnachol, neu, yn wir, unrhyw gyfleoedd eraill, ond dim ond un berthynas yw honno a fydd yn gwella ei rhagolygon.
Ac rwyf eisiau bod yn glir, gan ein bod wedi cael cadarnhad y bydd Cadw yn parhau'n gyfan gwbl o fewn y Llywodraeth, na allaf weld fy mhlaid yn cefnogi unrhyw integreiddio agosach rhwng y ddau gorff. Er y dylai pob un gydweithio er budd y naill a'r llall—. Mewn gwirionedd, mae Cadw a Croeso Cymru wedi cael eu crybwyll yn yr adolygiad hwn ac yn adroddiad Justin Albert. Un peth yw hynny, ond rwy'n wirioneddol gredu bod angen i'r Llywodraeth gadw hyd braich oddi wrth unrhyw beth sy'n rhoi'r arlliw lleiaf o ymyrraeth weithredol, neu hyd yn oed o'r elfennau hynny o strategaeth yr amgueddfa nad ydyn nhw'n berthnasol i'r llythyr cylch gwaith neu i'r ffrydiau gwaith ar y cyd.
Roedd yr adolygiad yn afieithus iawn ynglŷn â chynnig presennol yr amgueddfa a hyd yn oed yn fwy afieithus ynghylch y cynnig posib, a chredaf y byddai'n anodd anghytuno â hynny. Ers ei deffroad sydyn, mae'r amgueddfa eisoes wedi codi £10.3 miliwn drwy incwm a enillir—bron ddwywaith gymaint ag unrhyw sefydliad diwylliannol cenedlaethol arall—a thorri'r ddibyniaeth ar incwm Llywodraeth i ddwy ran o dair mewn dim ond blwyddyn, felly mae modd iddi wneud hynny. Ac mae hi bellach yn chwilio'n eiddgar am gyfarwyddwr masnachol, er efallai yr hoffai roi ystyriaeth eto i arbenigedd ynglŷn â chysylltiadau staff.
Gweinidog, rwyf bob amser braidd yn amheus ynghylch gwneud cymariaethau â sefydliadau yn Llundain pan rydym yn sôn am ariannu ein cynigion o ran ein diwylliant a'n treftadaeth. Ond gobeithio y bydd y cyfarwyddwr masnachol newydd yn ystyried hyd yn oed y syniadau mwyaf dadleuol a gyflwynwyd gan Thurley, dim ond i gnoi cil drostyn nhw ac i ystyried mewn difrif a oes unrhyw beth y gall Cymru ei ddysgu oddi wrthynt. Byddwn yn dweud, o du'r Ceidwadwyr Cymreig, ein bod ni'n cefnogi'r egwyddor gyffredinol o ganiatáu mynediad am ddim i gasgliadau craidd, ond rydym hefyd yn cefnogi'r egwyddor o godi tâl am weld arddangosfeydd neilltuol os yw'r amgueddfa yn dewis gwneud hynny, gan fod tystiolaeth yn dangos bod y ddwy ffordd yn gweithio i ddenu ymwelwyr, a chredaf y gellir goresgyn rhai agweddau ar hynny drwy gael hyblygrwydd mewn cynlluniau codi tâl, er enghraifft. Ond dylai'r penderfyniad i godi tâl fod yn un i'r amgueddfa ac nid i'r Llywodraeth, ac ni ddylai'r naill gorff na'r llall ddefnyddio hynny i ddadlau am doriadau neu am arian ychwanegol o'r pwrs cyhoeddus.
Gweinidog, rydych wedi dweud llawer iawn ynglŷn â'r hyn sy'n drawiadol am yr amgueddfa eisoes. Roeddwn i eisiau gwneud sylw ynghylch rhywbeth y dywedodd Dr Thurley am newidiadau i rai o'r safleoedd a lle y gellid gwneud gwahaniaeth, nid yn unig i incwm posib yr amgueddfa, ond cydlyniad y stori, ac rwy'n credu bod honno'n stori y mae angen i'r amgueddfa benderfynu arni, ac nid y Llywodraeth, ac nid, yn wir, Thurley. Dyma pam mae annibyniaeth fasnachol yn hanfodol i'r amgueddfa a'i gallu i osod mwy o flaenoriaethau iddi hi ei hun. Nid yw hynny'n lleihau pwysigrwydd llythyr cylch gwaith y Llywodraeth a'i blaenoriaethau, ac, wrth gwrs, y cyllid, sy'n ddibynol, i raddau, ar fodloni'r blaenoriaethau hynny. Ond mae angen iddi fod yn rhydd i chwyddo ei chyllid y tu hwnt i'r berthynas â'r Llywodraeth heb y risg mai toriadau i gefnogaeth gyhoeddus yw'r prif reswm dros bennu blaenoriaethau. Diolch.
Mae'n bleser gen i hefyd i gymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar adolygiad Thurley. Fel y mae Suzy wedi cyfeirio, wrth gwrs, mae hyn yn adeiladu ar adolygiadau blaenorol, ac, wrth gwrs, y hanes trwblus, braidd, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Nawr, wrth gwrs, rydym ni yn falch iawn o amgueddfa Cymru. Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru gan siarter frenhinol nôl yn 1907. Hyrwyddo addysg y cyhoedd oedd bwriad y siarter ac mae’n wir i ddweud bod yr amgueddfa wedi cyflawni hynny, yn glodwiw, dros y blynyddoedd. Addysgu’r byd am Gymru ac addysgu’r Cymry am yr hen wlad oedd un o’r gosodiadau gwreiddiol o 1912. Hynny yw, addysgu’r byd am Gymru ac addysgu pobl Cymru am eu gwlad eu hunain. Mae pobl yn dal i ddarganfod pethau am eu gwlad eu hunain—pobl sydd wedi byw yma erioed yn dweud, 'Wel, jiw, I never knew that.' Dyna beth ydy pwysigrwydd ymweld â gwahanol safleoedd amgueddfa genedlaethol Cymru. Mae yna ffeithiau hanesyddol ac ati sy'n parhau i'ch synnu chi am yr hen wlad yma.
Yn y dyddiau du yna cyn datganoli, roedd yr amgueddfa genedlaethol yn biler o ysbrydoliaeth ac o Gymreictod cadarn ac yn oleuni llachar yn cynrychioli Cymru pan nad oedd strwythurau tebyg i fynegi ein cenedligrwydd, ein hanes a'n traddodiadau, a rhoi asgwrn cefn i bob cenedlaetholwr o fri. Dyna bwysigrwydd annibyniaeth yr amgueddfa genedlaethol: i ddweud stori Cymru heb gael ei handwyo gan unrhyw ddylanwadau o'r tu allan, ac felly'n annibynnol, gyfan gwbl, o unrhyw Lywodraeth. Fel rydym ni wedi clywed, rydym ni wedi cael yr holl drafodaethau ynglŷn â Cymru Hanesyddol, gyda'r bwriad gwreiddiol gan yr Ysgrifennydd Cabinet o geisio uno ein sefydliadau celfyddydol. Gwych o beth bod y syniad gwirion, hurt yna wedi mynd o'r agenda erbyn hyn, ond byddai cadarnhad nad oes bwriad i uno'n sefydliadau cenedlaethol celfyddydol yn arwydd clir, eto, fod Llywodraeth Cymru yn cymryd annibyniaeth y sector o ddifrif.
A throi at elfen arall, mae ariannu yn allweddol bwysig. Ers 2012, bu toriadau sylweddol yng nghyllid Amgueddfa Cymru o tua 11 y cant. Esgorodd hyn ar ddadl rhwng yr amgueddfa ac undebau—rydym ni wedi clywed amdani hi droeon—ynglŷn â chyflogau, tâl, telerau, a bu streicio. Bu yn amser anodd, du. Nid ydym ni eisio mynd nôl i fanna chwaith, ond, yn rhannol, roedd hynny achos toriadau ariannol. Rydym ni wedi clywed hefyd am y llwyddiannau masnachol diweddar gan yr amgueddfa a hefyd dylid cydnabod cytundeb rhwng y Llywodraeth yma a Phlaid Cymru y bydd yr amgueddfa yn derbyn hwb ariannol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Byddai'n dda derbyn sicrwydd gan y Gweinidog y prynhawn yma am sicrwydd ariannol i'r dyfodol ar ôl hynny i Amgueddfa Cymru.
Mae adroddiad Thurley yn taro nodyn cadarnhaol, fel mae Suzy wedi cyfeirio ato, gyda chanmoliaeth i safon yr amgueddfa genedlaethol ac ansawdd ac ymroddiad y gwaith a wneir gan y staff. Ond, wrth gwrs, mae yna rhai llefydd i wella hefyd, fel sydd wedi cael ei nodi, ac mae'r rheini hefyd yn yr adroddiad. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o amgueddfeydd mawr Prydain. Nid mater cul, Cymreig yn unig sydd gyda ni yn fan hyn, achos, ac rydw i'n dyfynnu o'r adroddiad,
'Yn ei chasgliadau, yn arbenigedd a gwybodaeth ei staff, yn ei chefnogaeth i ddatblygiad cymdeithasol a chymunedol ac yn ei chyfraniad i wybodaeth am hanes a diwylliant Cymru, mae wedi cyflawni’n eithriadol.'
'Clywch, clywch', ddywedwn i. Mae Amgueddfa Cymru yn parhau i ysbrydoli cenedlaetholwyr heddiw, ac yn sefyll yn gadarn dros Gymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn yr hyn sydd yn fy marn i yn ddadl bwysig iawn heddiw. Hoffwn ddechrau fy nghyfraniad drwy wneud tri datganiad nad ydyn nhw, yn fy marn i, yn ddadleuol: mae amgueddfeydd yn asedau pwysig i'n cymunedau; mae amgueddfeydd cenedlaethol yn bwysig iawn i bob gwlad, ac nid yw Cymru'n eithriad; i'w gwneud yn llwyddiannus, mae angen inni gael staff ymroddgar sydd ar gyflogau da ac sydd wedi ymrwymo i wasanaeth Amgueddfa Cymru.
Rydym wedi trafod pwy ddylai ei rheoli, ond a gaf i ofyn y cwestiwn hwn? Nid wyf yn gwybod beth yw dosbarthiad OCS amgueddfeydd Cymru. Byddwn yn disgwyl eu gweld wedi eu rhestru o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Cywirwch fi ar bob cyfrif os mynnwch chi. Credaf petai nhw'n fusnesau, y byddent yn cael eu disgrifio'n is-gwmnïau sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. [Torri ar draws.] Fe wnaf i dderbyn ymyriad.
Holl ddiben strwythur yr amgueddfa, fel y clywsom ni yn gynharach, yw bod ei hanes yn seiliedig i raddau helaeth ar ei hannibyniaeth ei hunan, wedi ei warantu yn achos y— [Torri ar draws.] Wedi ei warantu gan y siarter frenhinol pan gafodd ei sefydlu. Mae hynny'n hanfodol er mwyn cynnal ei strwythur annibynnol, yn union fel mae cyngor y celfyddydau yn cadw strwythur annibynnol drwy'r model hwnnw, ac rwy'n cytuno'n llwyr ar y model hwnnw ar gyfer y dyfodol.
Credaf fod peth dryswch yma rhwng y ddau ohonom. Roeddwn i'n siarad mewn termau ariannol. Gofynnaf y cwestiwn hwn: petai Llywodraeth Cymru yn terfynu'r cyllid yfory, a fyddai'r amgueddfeydd yn parhau, neu a fydden nhw'n cael eu gorfodi i gau eu drysau? Os ydyn nhw'n dibynnu'n llwyr, neu'n dibynnu’n sylweddol, ar Lywodraeth Cymru yn weithredol, mae'r OCS rwy'n siŵr yn eu dosbarthu'n gyrff o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Un o'r pethau yr wyf wedi dadlau yn eu herbyn drwy gydol fy amser yn y Cynulliad yw contractau camfanteisiol: contractau dim oriau, contractau hyblyg oriau bychain, oriau blynyddol, staff asiantaeth—nid oes diwedd ar ffyrdd o drin pobl yn wael. Rwy'n credu hefyd y dylid talu'r cyflog byw i bawb. Mae staff yr amgueddfa yn haeddu peidio â bod ar drugaredd yr arferion cyflogaeth hyn. Rwy'n falch bod Mr Thurley yn cydnabod ansawdd uchel safleoedd yr amgueddfa ac effaith llawer ohonyn nhw ar eu cymunedau, o ran presenoldeb amgueddfa yn yr ardal a darparu ffynhonnell reolaidd o waith mewn ardaloedd lle mae gwaith yn aml yn brin.
Mae mynediad am ddim i amgueddfeydd wedi bod yn bolisi hirhoedlog gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Peidiwch ag eithrio pobl rhag dysgu am eu hanes oherwydd pris. O ran codi tâl, nid wyf yn gwrthwynebu codi tâl am arddangosfeydd penodol, gydag amodau bod yn rhaid i unrhyw beth sy'n ymwneud â Chymru fod yn rhad ac am ddim. Nid wyf yn credu y dylai pobl Cymru orfod talu i weld eu hanes eu hunain. Hefyd, ni ddylai fod yn ffordd lechwraidd o godi tâl am fynd i mewn i'r amgueddfa. Credaf fod yr adroddiad yn gywir yn yr adran olaf sy'n rhoi sylw i'r angen am sefydlogrwydd ariannol i'r amgueddfa ac eglurder ynglŷn â'i sefyllfa ariannu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ychwanegol at y meysydd a amlinellwyd, rwyf hefyd yn ychwanegu bod yr amgueddfa yn dal wrthi'n trafod cynnig tâl 2017-19 gyda'r undebau llafur. Mae angen i unrhyw setliad ariannol ystyried y costau sy'n gysylltiedig â hyn a sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i'r sefydliad yn y dyfodol.
Mae'r amgueddfa mewn adeg dyngedfennol lle gall symud ymlaen gyda model wedi'i ariannu'n dda sy'n ceisio trafod â'i staff a'u hundebau llafur cydnabyddedig, a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf gan bobl broffesiynol a brwdfrydig, sy'n gallu cyflawni ar gyfer cymunedau a phobl Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp llywio Cymru Hanesyddol wedi datblygu syniadau a rhaglenni y mae'n gobeithio y byddant yn adeiladu ac yn datblygu model o'r fath, sy'n cynnwys yr undebau llafur cydnabyddedig yn y broses. Credaf y dylid ystyried unrhyw argymhellion gan y grŵp hwn ac na ddylai'r adroddiad fod yn faen tramgwydd i'r gwaith. Credaf ei bod yn bwysig, ac rwy'n mawr obeithio, er lles dyfodol y staff a'r sector diwylliannol yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru a rheolwyr yr amgueddfa yn ystyried y dewis hwnnw fel ffordd o'i ddatblygu.
Os caf i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn i'n sôn yn gynharach amdano ynglŷn â'r agwedd ariannol, hwyrach fod gennych chi pa reolau bynnag sydd gennych chi, a pha siarteri bynnag sydd gennych chi, ond o ble mae'r arian yn dod? Mae yna lawer o sefydliadau ledled Cymru—maen nhw eisiau arian gan y sector cyhoeddus, ond maen nhw eisiau rhedeg eu sefydliadau fel petaen nhw'n rhan o'r sector preifat. Dyna un o'r pethau—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, ie.
Credaf mai rhan o bwrpas adolygiad Thurley oedd gweld sut y gallai'r sector amgueddfeydd—wel, yn sicr sector yr amgueddfa genedlaethol yn ei chyfanrwydd—godi mwy o incwm fel y byddai'r cydbwysedd hwnnw rhwng cyllid cyhoeddus a chyllid nad yw'n gyllid y Llywodraeth yn newid.
Nid oes gennyf broblem gyda sefydliadau yn codi arian. Y pwynt rwy'n ceisio'i gyfleu—ac rwy'n amlwg yn methu â gwneud hyny—yw bod y sefydliadau hyn yn gyfan gwbl ddibynnol ar arian y Llywodraeth. Os yw'r Llywodraeth yn diddymu'r arian hwn, mae'r sefydliadau hyn yn cau. Mae hynny'n allweddol i hyn. Felly, ni allant smalio eu bod nhw'n sefydliadau sector preifat er eu budd eu hunain. Maen nhw'n dibynnu ar arian y Llywodraeth, maen nhw'n dibynnu ar y sector cyhoeddus, maen nhw'n dibynnu ar arian gan drethdalwyr Cymru, ac, fel y cyfryw, fe ddylen nhw fod yn atebol iddynt.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf eto wedi cael unrhyw gyswllt ffurfiol gyda'r Gweinidog newydd, naill ai yn y Siambr nac mewn Pwyllgor, felly hoffwn ei groesawu i'w swydd newydd yn swyddogol. Credaf ein bod ni i gyd yn teimlo, yn sicr yn yr adran hon o'r Siambr—ac wrth hynny rwy'n golygu seddi UKIP—ei fod yn argoeli'n addawol iawn, ac rwy'n credu y gallai fod yn ychwanegiad gwerthfawr i dîm gweinidogol y Llywodraeth. Rwyf yn sicr yn rhagweld dyfodol disglair iddo yn y Llywodraeth.
Ymlaen i faterion heddiw. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y cyfranwyr eraill, ond rwyf eisiau mynd ychydig ymhellach nag adolygiad Thurley a chyflwyno syniad mwy dadleuol. Rwy'n sylweddoli y bu gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad i'r egwyddor o fynediad am ddim i rwydwaith yr amgueddfa genedlaethol. Nid wyf eisiau cyfyngu ar fynediad pobl yn ormodol i'r amgueddfeydd hyn, ond credaf fod modd ystyried ymestyn yr egwyddor hon ryw ychydig fel y gall Amgueddfa Cymru gynhyrchu rhywfaint o incwm a gweithredu'n fwy effeithiol. Ni fyddai tâl sefydlog o £1 i oedolyn gael mynediad i amgueddfa, gyda'r plant yn mynd am ddim, yn rhwystr, rwy'n credu, i rieni sy'n ystyried ymweld ag amgueddfa yn rhan o ddiwrnod allan i'r teulu. Wrth gwrs, gellid dadlau, wedyn, beth fydd yn atal i'r tâl hwn o £1 gynyddu a chynyddu nes iddo fod yn grocbris. Wel, oherwydd bod amgueddfeydd yn gyfleusterau cyhoeddus—ac y byddant yn dal i gael eu hariannu'n gyhoeddus yn bennaf, a grant Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn brif ffynhonnell incwm—yna, siawns y gallai'r Llywodraeth lunio telerau y gallai'r tâl gynyddu bob blwyddyn dim ond yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, y mesur chwyddiant sy'n tueddu i gynyddu ar gyfradd is na'r mynegai prisiau manwerthu.
Ceir hefyd y mater o arddangosfeydd arbennig. Bydd denu llawer o'r arddangosfeydd hyn i Gymru yn golygu cryn ymdrech o ran amser a chost, felly teimlaf y dylai Amgueddfa Cymru allu ceisio adennill rhywfaint o'r gost hon drwy godi tâl ychwanegol am fynediad i'r arddangosfeydd hyn, neu o leiaf i rai penodol. Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd Suzy yn gynharach—nad oedd hi eisiau edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Llundain—
Wel, nid dyna yn union a ddywedais i.
Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Efallai fy mod i wedi symleiddio'r hyn a ddywedasoch chi. Beth bynnag, rwy'n mynd i sôn am yr hyn sy'n digwydd yn Llundain.
Nid oes tâl i fynd i mewn i Amgueddfa Victoria ac Albert, ond mae mynediad i arddangosfeydd arbennig—ac mae yna wastad nifer o arddangosfeydd arbennig yn y V&A—ar hyn o bryd yn amrywio o £8 i £19. Nawr, mae'n rhaid inni gofio bod mynediad i arddangosfeydd cyffredinol y V&A yn rhad ac am ddim. Felly, efallai fod yn rhaid iddyn nhw godi symiau pur sylweddol ar gyfer yr arddangosfeydd arbennig, o leiaf yn rhannol, i allu caniatáu mynediad am ddim i weddill yr amgueddfa. Nawr, pe byddai gennych chi'r tâl sylfaenol hwnnw o £1, hwyrach na fyddai'n rhaid ichi wneud hynny. Fe allech chi fod â model ariannol gwahanol ac fe allech chi o bosib godi £5 ar gyfer yr arddangosfeydd arbennig. Fe allech chi godi arian mewn ffyrdd eraill hefyd.
Mae'r amgueddfa yn Sain Ffagan, a byddaf yn parhau i'w galw yn amgueddfa werin genedlaethol Cymru, wedi'i hadnewyddu'n ddiweddar—
Pam?
Wel, af ymlaen at hynny wedyn, Lee. Dywedaf wrthych wedyn.
Fe'i hadnewyddwyd yn ddiweddar i gynnwys prif adeilad newydd, gweithdy crefft a chyfleusterau eraill. Mae'r adeilad newydd yn cynnwys caffi estynedig, mannau gweithgareddau a digwyddiadau, y gellir llogi rhai ohonyn nhw i grwpiau, a siop anrhegion fwy o faint. Bydd hyn, gobeithio, yn helpu amgueddfa Sain Ffagan i godi mwy o arian, ac mae felly yn ddatblygiad i'w groesawu ac yn un y gallai amgueddfeydd eraill ei efelychu o dan ymbarél Amgueddfa Cymru.
Nawr, i ateb cwestiwn Lee, soniais am hen enw amgueddfa Sain Ffagan, sef yr enw yr adwaenwn hi yn ystod fy mebyd. Ers hynny cafodd ei galw yn 'the Museum of Welsh Life', a bellach, gwelaf mai ei henw yw 'St Fagans National Museum of History'— nid yw'r un ohonyn nhw mor hudolus â'r enw gwreiddiol, yn fy marn i. A gaf i felly apelio ar yr amgueddfeydd i gadw eu henwau hudolus, gwreiddiol? Oherwydd sylwais hefyd—
Fel y Ffrynt Cenedlaethol.
Na, nid hynny. Mae'r amgueddfa forol, fel y'i gelwid, bellach yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Cyn hir, fe welwn ni'r Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn newid ei enw i'r 'Amgueddfa Diwydiant Cenedlaethol' neu ryw deitl diddychymyg tebyg. Rwy'n pendroni weithiau tybed pwy sy'n dyfeisio'r enwau newydd hyn. Bob tro rydych chi'n newid enw, rydych chi'n colli cwsmeriaid posib oherwydd rydych chi'n newid brand adnabyddus. Rwy'n credu bod achos masnachol cryf dros gadw at yr enw sydd eisoes yn gyfarwydd i lawer o bobl. Fodd bynnag, gallwch weld nad wyf yn arbenigwr yn y maes hwn. [Torri ar draws.] Wel, ydw. Dylai cyfarwyddwr masnachol neu rywun cyffelyb, yn sicr, fod yn gyfrifol am oruchwylio penderfyniadau o'r fath. Gwelaf fod adolygiad Thurley yn galw ar Amgueddfa Cymru i benodi cyfarwyddwr masnachol, ac rwy'n cefnogi'r alwad honno'n llwyr. Diolch yn fawr iawn.
Pleser o'r mwyaf yw cymryd rhan yn y ddadl bwysig iawn hon. Y peth cyntaf yr hoffwn i ei ddweud, mewn gwirionedd, yw fy mod i'n falch bod hyn yn gymhelliant inni sôn am Amgueddfa Cymru oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni fel cenedl ac mae angen inni adrodd ein hanes i'n plant yma yng Nghymru yn ogystal ag i ymwelwyr sy'n dod yma. Ac rwy'n cytuno y dylai Cymru ddweud ei stori i'r byd o ran sut mae cenedl fach wedi cael effaith mor enfawr, yn arbennig o ran y chwyldro diwydiannol.
Mae'r adroddiad hwn gan Simon Thurley yn cydnabod bod Amgueddfa Cymru yn un o'r amgueddfeydd pwysicaf yn y DU, ac rwy'n arbennig o falch ei fod yn canmol arbenigedd a gwybodaeth y staff sy'n gweithio yno. Credaf fod y profiad sydd gennym ni o'r staff, a'r staff rheng flaen yn benodol, y bobl sy'n eich croesawu pan fyddwch chi'n mynd yno, a sgiliau'r crefftwyr, y bobl sy'n hollti'r llechi, a'r holl grefftwyr yn Sain Ffagan — credaf ei bod yn wirioneddol wych iddyn nhw gael eu cydnabod. Mae'r adroddiad hefyd yn canmol y cynnydd yn nifer y bobl sy'n ymweld â'r amgueddfa genedlaethol yng Nghaerdydd, a gynyddodd 34 y cant rhwng 2010 a 2015, i bron 0.5 miliwn y flwyddyn.
Yn amlwg, o ran hyfywedd masnachol, mae'n amlwg bod yr adroddiad yn rhoi llawer o bwyslais ar hynny, ac mae rhai o'i argymhellion yn gwneud synnwyr i mi, megis gofyn i ymwelwyr am gyfraniadau. Nid yw cyfraniad o 20 ceiniog yr un yn anfforddiadwy, ac mae'r adroddiad yn dweud bod hyn wedi codi £300,000 y flwyddyn. Nid wyf yn gweld unrhyw broblemau o gwbl gyda gofyn am gyfraniad bach, ac yn amlwg, weithiau mae amgueddfeydd eraill yn llawer mwy di-flewyn-ar-dafod yn gofyn am arian. Nid wyf yn gweld problem o ran codi tâl am arddangosfeydd arbennig, a chredaf y byddai'n dderbyniol cael cynllun aelodau, a fyddai hefyd yn helpu i godi arian. Credaf y dylid ymchwilio i'r posibiliadau hyn, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n cadw'r mynediad am ddim. Mae'n un o lwyddiannau mawr y Cynulliad hwn, a Llywodraeth Cymru, fod mynediad am ddim fel y gall pawb, faint bynnag o fodd sydd ganddyn nhw, elwa o'r amgueddfeydd. A chredaf fod y cynnydd enfawr hwn mewn niferoedd yn uniongyrchol gysylltiedig â natur agored yr amgueddfa—y ffaith y gall pobl fynd yno heb orfod poeni am dalu. Felly, nid wyf yn credu y dylai fod unrhyw rwystr, ac nid wyf yn cefnogi cynnig Gareth Bennett o £1 i fynd i mewn. Rwy'n credu bod rhaid iddo fod yn rhad ac am ddim.
Roeddwn i eisiau sôn am y berthynas yn yr amgueddfa. Credaf fod hon yn adeg dyngedfennol. Dyma gyfle i wella'r berthynas rhwng yr undebau a'r rheolwyr. Mae'r adroddiad yn gywir wrth ddweud y bu cryn sylw cyhoeddus i'r anawsterau yn y berthynas rhwng staff a rheolwyr, a chan fy mod i'n gadeirydd grŵp trawsbleidiol Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol, rwy'n ymwybodol iawn o'r holl anawsterau hyn. Mae'r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar rai o'r problemau hynny, ond yr hyn nad yw yn ei ddweud yw mai'r rheswm am y problemau oedd bod yr amgueddfeydd yn ceisio torri cyflogau staff oedd ar y cyflogau lleiaf, tra bod cyflogau'r uwch reolwyr yn cael eu cynyddu. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, fe wnaeth Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol mewn gwirionedd roi pleidlais i'w aelodau bedair gwaith, ac roeddwn i, ynghyd ag aelodau eraill o'r Cynulliad hwn, yno yn siarad mewn ralïau i gefnogi staff. Ac mae'n bwysig dweud y gwnaeth Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd helpu i gyfryngu a datrys yr anghydfod hwn. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod—. Er fy mod i'n cefnogi'r syniad o annibyniaeth y cyrff, pan na allan nhw reoli pethau'n iawn, credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn gallu troi at Lywodraeth Cymru.
Dim ond eisiau sôn yr wyf i am rai o'r problemau yn yr amgueddfa. Ceir contractau dim oriau y mae Mike Hedges wedi eu crybwyll eisoes. Mae'n annerbyniol cael y contractau dim oriau hyn, ac, yn sicr, dylai fod cytundeb ffurfiol ynglŷn â sut y defnyddir nhw, os dylid eu defnyddio o gwbl. Credaf y dylid cyfyngu ar y defnydd o gontractau cyfnod penodol. Dyma gyfle gwirioneddol nawr, ar sail yr adroddiad hwn, i adfer perthnasau da yn yr amgueddfa, oherwydd credaf fod pob un ohonom ni'n teimlo bod y staff yn allweddol i lwyddiant yr amgueddfa, a siawns y dylai eu telerau ac amodau a'u cyflogau fod yn gydnaws ag adrannau Llywodraeth Cymru. Yn sicr, dylai staff gael eu rhyddhau i wneud gwaith undeb llafur.
Rwy'n falch iawn fod y Gweinidog wedi dweud bod barn staff yn hollbwysig. Soniodd hefyd y byddai rhai amgueddfeydd, efallai, yn cau ar gyfer rhai cyfnodau o'r flwyddyn. Wel, yn amlwg, bydd hynny'n gwneud i'r aelodau staff sy'n gweithio'n barhaol yn yr amgueddfeydd hynny bob awr o'r flwyddyn—bydd eu calonnau'n suddo pan fyddan nhw'n darllen hynny. Felly, rwy'n credu bod angen ystyried y materion hyn pan wneir cynigion ynghylch sut y mae hyn yn mynd i effeithio ar staff, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs, fel bod y berthynas yn un dda.
Felly, credaf fod hwn yn gyfle gwych i roi cynnig arni o'r newydd. Gadewch inni gydnabod y cyfraniad enfawr y mae'r staff yn ei wneud, a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n rhan o'r sgwrs hon.
Galwaf ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac a gaf i ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl, ac am y croeso cyffredinol sydd wedi cael ei roi i'r argymhellion? Fe gawsom ni sylwadau agoriadol gan Suzy Jenkins a oedd yn pwysleisio ei bod hi'n—Suzy Jenkins? Suzy Davies. Mae'n rhaid fy mod i'n meddwl am rywun arall, Suzy Davies. Fe gawsom ni sylwadau am bwysigrwydd Aelodau Cynulliad yn mynegi barn, a dyna oedd pwynt cynnal y ddadl yma heddiw ac rydw i'n ddiolchgar am hynny. Rydw i'n ddiolchgar am y gefnogaeth a roddwyd i annibyniaeth a'r pwysigrwydd o dyfu capasiti o fewn y sefydliad. Rydw i'n hyderus, a buaswn i ddim yn dweud hyn heblaw ei fod o ar sail y trafodaethau rydw i wedi eu cael ac rydw i'n mynd i'w cael eto.
Fel y pwysleisiwyd yn barod, mae annibyniaeth yr amgueddfa yn bwysig, ond hefyd, fel y dywedodd Julie Morgan, mae dylanwad y Llywodraeth fel awdurdod a chorff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb cenedlaethol am yr amgueddfa yn rhan o'r cyfrifoldeb yna sydd gyda ni fel Llywodraeth a Chynulliad. Felly, mae'r ddwy elfen yna yn gorfod cydweithio â'i gilydd. Mater o gael pwysigrwydd y gwahaniaeth rhyngddyn nhw'n glir yw'r hyn sydd yn bwysig. Medraf roi sicrwydd iddi hefyd y byddaf yn ceisio cyd-ddrafftio'r llythyr cylch gorchwyl fel y gallwn ni drafod â'n gilydd sut rydym ni am osod y rhaglen am y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y rhaglen gyllidol. Rydym ni'n cael ein cyfyngu gan y drefn gyllidol bresennol o San Steffan ynglŷn â pha mor bell y gallwn ni fynd mewn blynyddoedd i baratoi sicrwydd. Ond yr amcan ydy ceisio sicrhau hynny.
Rydw i'n ddiolchgar hefyd i Dai Lloyd am ei ddarlith hanesyddol addas iawn ynglŷn â datblygiad yr amgueddfa ac am y pwyslais ar y rôl addysgol. A gaf i ei sicrhau o nad oes unrhyw fwriad gan y Gweinidog hwn i uno sefydliadau cenedlaethol? Mae annibyniaeth ddiwylliannol, os nad annibyniaeth lwyr gyfansoddiadol i'r genedl sydd yn berchen ar yr amgueddfa, yn rhan hanfodol o agenda'r Gweinidog diwylliant. Mae natur ddatganoledig yr amgueddfa yng Nghymru hefyd yn rhan hanfodol o'i diddordeb hi a'i gwahaniaeth hi, fel rydw i wedi gweld wrth ymweld â'r sefydliadau yma yn ddiweddar. Rydw i yn cydnabod pwysigrwydd y cytundeb a wnaed â Phlaid Cymru. Roedd hyn yn rhan o'r drafodaeth roeddwn i'n ei chael â swyddogion yr amgueddfa, a'r bwriad ydy y byddwn ni'n parhau yn yr ysbryd yna o gytundeb dros y blynyddoedd nesaf ynglŷn â'r cyllid.
Diolch yn fawr i Mike Hedges, sydd bob amser yn gallu dweud gwirionedd gyda difyrrwch.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike am roi gwersi inni mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a hynny mewn ffordd mor ddeniadol a diddorol, ac mae hynny i fod yn air o ganmoliaeth.
Rydym yn sicr yn anelu at sefydlogrwydd ariannol ac, yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ein bod yn ceisio sicrhau gallu ariannol priodol, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys diwallu'r angen am gydnabyddiaeth ariannol effeithiol. Byddwn yn dweud, o ran egwyddor, fy mod i'n cytuno â tharged mwy hirdymor o gael cyfatebiaeth rhwng cyflog ac amodau y bobl sy'n gweithio i ni yn y sector amgueddfeydd a'r rhai sy'n gweithio i ni mewn meysydd eraill o'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Gareth Bennett am ei sylwadau hael, a gallaf ei sicrhau nad oes unrhyw fwriad i ddechrau codi tâl ar oedolion ac nid codi tâl ar ddinasyddion iau. Mae angen inni ystyried teuluoedd sy'n ymweld â'r amgueddfa yn uned gyfan.
O ran enwau, roedd 'Welsh folk museum' wastad yn fy atgoffa i o rywbeth mwy gwerinol na hyd yn oed yr enw 'amgueddfa werin', er y gwelaf, wrth imi deithio o amgylch y rhan honno o orllewin Caerdydd, mai'n araf deg y bydd yr arwyddion brown yn arddel yr enw diweddaraf. Heb os, bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.
A gaf i nawr ddiolch yn gyhoeddus i Julie Morgan am ei swyddogaeth, yr wyf bellach wedi dysgu mwy amdani, yn sicrhau gwell perthynas gyda'r Llywodraeth a gwell perthynas rhwng y Cynulliad hwn, drwy ei grŵp trawsbleidiol PCS, a'r undebau llafur, ac, yn wir, gyda rheolwyr amgueddfeydd pan oedd yr anawsterau yr ydym ni i gyd wedi cyfeirio atyn nhw yn bodoli? Yn wir, fy nymuniad i, cymaint â'i un hithau, yw nad ydym yn gweld hynny'n cael ei ailadrodd.
Fel y dywedaf, rydym yn ceisio sicrhau bod lefel gyson o gyllid ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n sicr y bydd graddau'r gefnogaeth a welir yn y ddadl hon heddiw yn cryfhau ein perthynas â'r amgueddfa.
Diolch yn fawr i chi gyd am eich cyfraniadau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig.
Gan hynny, nid oes yna bleidlais ar ddiwedd y cyfarfod yma, a dyna ddiwedd ein trafodion am y dydd.