– Senedd Cymru am 4:04 pm ar 24 Ionawr 2018.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid i'w hymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig hwnnw—Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydw i'n meddwl mai dyma fydd y ddadl fwyaf cyffrous y byddwn ni’n ei chynnal yn y Cynulliad heddiw, neu, yn sicr, yn ystod y tymor, efallai, ond mae hi’n ddadl bwysig. Mae yn ddadl pwysig. Os caf i ddweud beth yw pwrpas yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyllid, efallai bydd rhai Aelodau wedyn yn gweld ei bod hi’n bwysig.
Beth wnaethom ni oedd edrych ar bedwar darn o ddeddfwriaeth a oedd wedi'u pasio gan y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod y dull o asesu faint o gostau oedd wrth gyflwyno Bil a throi Bil yn Ddeddf yn ddigonol ac yn effeithiol. So, beth yr ydym ni wedi trio ei wneud yw edrych ar a yw'r asesiad o gostau wrth gyflwyno Bil yn rhai cywir, a yw'r dulliau y mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio i asesu'r costau yna yn dal dŵr, ac a oes modd i ni wella prosesau er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael gwell canfyddiadau yn y dyfodol. Wrth gwrs, pwrpas hwnnw, yn syml iawn, yw gwarchod ac edrych ar ôl y pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr bod arian cyhoeddus sy'n cael ei wario gan y Llywodraeth ar ddeddfwriaeth yn cael ei asesu'n gywir ac yn cael ei wario'n gywir. Felly, er nad yw'r disgrifiad yna ddim yn ei wneud e'n fwy cyffrous, gobeithio ei fod e'n esbonio pam rydym ni wedi gwneud yr ymchwiliad yma. Ac roedd yn werth ei wneud, rydw i'n meddwl, yn sicr i aelodau'r Pwyllgor Cyllid.
Nawr, y sefyllfa, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i bob Bil sy'n cael ei gyflwyno i'r Cynulliad fod ag asesiad sy'n cynnwys yr amcangyfrif gorau o faint o arian fydd yn cael ei wario neu yn cael ei arbed—ond gwario fel arfer—o ganlyniad i roi’r ddeddfwriaeth ar waith. Fel Pwyllgor Cyllid, rydym bob amser yn adrodd ar oblygiadau ariannol Biliau yn ystod Cyfnod 1. Yn y cyd-destun ariannol presennol yn arbennig, mae angen craffu ar y defnydd o arian cyhoeddus yn fwy nag erioed. Hefyd, mae'r costau sy'n gysylltiedig â rhoi deddfwriaeth ar waith yn rhan hanfodol o ffurfio barn ynglŷn ag a yw'n rhesymol i gefnogi'r Bil. Felly, yn aml iawn, byddai rhywun, efallai, yn gweld Bil ac yn meddwl, 'Wel, mae'r Bil yn syniad da, ond, os yw e'n costio gormod, mae gwerth yr effaith rydych chi'n ei chael yn cael ei golli.' Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n deall yn iawn ar ddechrau'r broses faint mae'r Bil yn mynd i gostio.
Rydym, gobeithio, fel pwyllgor, yn ofalus iawn bod ein gwaith craffu’n digwydd yn gynnar yn y broses ddeddfwriaethol er mwyn ei wneud yn haws i Aelodau'r Cynulliad benderfynu a yw Bil yn werth ei gefnogi ai peidio. Rydym yn ymchwilio i'r amcangyfrifon ariannol a ddarperir ar ddechrau'r broses, ond nid ydym bob amser yn cael cyfle i ystyried yn ffurfiol unrhyw newidiadau a allai ddeillio o asesiadau effaith a ddiweddarwyd neu welliannau a allai gael eu gwneud i Fil yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad. Mewn geiriau eraill, rydym ni'n edrych ar gostau llawn y Bil wrth iddo ef gael ei gyflwyno. Bydd rhai Aelodau yn gwybod bod Biliau yn newid yn sylweddol iawn erbyn iddyn nhw droi'n Ddeddf. Nid ydym ni wastad wedi cael y cyfle i weld a yw hynny yn effeithio ar y costau ac a ddylid ystyried yn llawn ail-asesu, efallai, gwerth y Bil oherwydd bod y costau wedi newid wrth i'r Bil newid ei hunan yn y Cynulliad. Felly, roedd hwn yn ymchwiliad gan y pwyllgor a oedd yn bwysig i ni i sicrhau bod gyda ni yr arfau wrth fynd ymlaen drwy weddill y Cynulliad hwn i wneud hynny, a phetasai'n rhaid, newid barn ar y Bil gan fod y costau wedi newid o'i gwmpas ef.
Nawr, gwnaethom ni 16 o argymhellion yn ein hadroddiad ac rwy'n falch bod y Llywodraeth wedi derbyn—neu yn rhannol derbyn, beth bynnag—15 o’r rhain, ac nid ydw i eisiau mynd drwyddyn nhw fesul un, ond gwnaf i sôn am ychydig o rai sydd yn bwysig, rydw i'n meddwl, i'r pwyllgor, ac, wrth gwrs, am yr un wnaeth y Llywodraeth ddim ei dderbyn. Mae yn bwysig, ac mae'n rhaid i ni—ac mae'n bwysig i ni yn y Pwyllgor Cyllid—sicrhau bod pobl yn cael deall yn rhwydd beth yw goblygiadau ariannol Biliau sy'n dod gerbron y Cynulliad. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu am beidio â chyflwyno'r wybodaeth hon mewn ffordd glir a chyson, felly rydym ni yn croesawu’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i roi argymhelliad a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar waith, sef y dylid cyflwyno costau’n glir mewn tabl cryno—ddim yn y Bil, ond yn y memorandwm esboniadol, wrth gwrs. Mae’n nodi o waith craffu ar Filiau a gyflwynwyd yn ystod y Pumed Cynulliad fod hyn wedi ychwanegu at dryloywder. Felly, rydym ni o'r farn ein bod ni wedi gweld gwelliant, yn sicr, gan y Llywodraeth yn cyflwyno'r wybodaeth yna.
Nawr gwnaf i droi at un peth, efallai, sydd yn arwain nifer ohonom ni i dybio sut mae'r Biliau yma'n cael eu rhoi at ei gilydd. Mae'n amlwg bod unrhyw Fil sy'n cael ei gyflwyno yn cynnwys llawer iawn o asesiadau. Rydw i'n credu fod hyd at 26—rhywbeth tebyg—o asesiadau posib yn gallu cael eu gwneud ar Filiau. Felly, un o'r pethau gwnaethom ni ofyn yn yr ymchwiliad ac i'r Llywodraeth oedd, 'Wel, beth yw rôl Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol?'—dyma'r tro cyntaf i'r Ddeddf gael ei chrybwyll heddiw, ond beth yw rôl y Ddeddf yna i geisio cydlynu'r asesiadau sydd yn digwydd o gwmpas Bil, a gwneud yn siŵr bod yr asesiadau, mewn perthynas â'r gyllideb, yn berthnasol, yn berthnasol iawn, i weld a yw'r asesiadau niferus sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd yn gallu cael eu cyfeirio at broject sydd yn Ddeddf mae Llywodraeth Cymru am ei defnyddio, wrth gwrs, i lunio polisi tuag at y dyfodol. Felly, rŷm ni'n edrych ymlaen at weld a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu addasu fframwaith y Ddeddf er mwyn cydlynu—dim torri i lawr, fel y cyfryw, ond gwneud mwy o sens, efallai, o'r gwahanol asesiadau. Rwy'n deall bod y Llywodraeth yn gwneud darn o waith i ymchwilio i mewn i hyn, ac rwy'n gwybod bod y sefydliad polisi cyhoeddus wedi gwneud darn o waith ar hynny, ac rŷm ni'n edrych ymlaen fel pwyllgor i weld sut bydd y Llywodraeth yn gallu ymateb.
Nawr, fel y dywedais i eisoes, nid ydym fel Pwyllgor Cyllid, bob tro, yn cael y cyfle i ailystyried y goblygiadau ariannol ar ôl cyflwyno adroddiad fel rhan o broses Cyfnod 1. Felly, ni fyddai unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol a ddiweddarwyd ac a gyhoeddwyd ar ddiwedd Cyfnod 2 bob tro yn destun yr un lefel o waith craffu. Nid yw hynny'n bwysig bob tro. Weithiau nid oes fawr o newid rhwng Cyfnod 1 a Chyfnod 2, ond weithiau mae yna newid sylweddol—er enghraifft, Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), sydd heddiw wedi ei gyhoeddi ddim yn Fil bellach, ond yn Ddeddf, wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol. Roedd yn rhaid inni, ac roeddem ni'n teimlo bod dyletswydd arnom ni, fel pwyllgor, ailedrych yn ofalus iawn ar gostau'r Bil yna, neu'r Ddeddf erbyn hyn, oherwydd bod y ffigurau wedi newid mor sylweddol. Wel, a dweud y gwir, gwnaethon nhw newid yn sylweddol yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2, felly roedd hi'n bwysig ein bod ni'n ailedrych ar y Bil yna. Mae'r ymateb gan y Llywodraeth i'n hadroddiad ni mewn perthynas â hynny yn cydnabod bod lle i wella'r prosesau presennol. Felly, rwy'n gobeithio bod modd dysgu o'r broses yna. Felly, dylai ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnwys asesiad effaith rheoleiddiol ddrafft hefyd fel rhan o ymgynghoriad wrth gyflwyno Bil ychwanegu at y broses o ddeall costau Bil yn fuan iawn.
Mi drof i nawr at yr un argymhelliad na dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd hwn yn deillio o'r ffaith, wrth gwrs, fod nifer o Filiau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cynulliad yn cynyddu'r baich ar y rheini mae'n ofynnol arnynt i weithredu'r darpariaethau, yn enwedig ym maes llywodraeth leol. Nid oes sicrwydd bob tro sut mae'r costau hynny yn mynd i gael eu cwrdd â nhw, ai Llywodraeth Cymru sy'n mynd i ymateb i'r galw ar y costau hynny, ynteu a ydy'r costau'n cael eu pasio ymlaen yn llwyr i lywodraeth leol neu gyrff eraill sydd wedi eu hariannu gan y Llywodraeth. Roeddem ni o'r farn y dylid cynnwys cyfeiriad penodol mewn unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol at sut y byddai unrhyw gostau a nodwyd yn cael eu hariannu a chan bwy. Nid yw Lywodraeth Cymru yn derbyn hynny, gan ddibynnu, wrth gwrs, ar y cyd-destun ehangach, rydw i'n meddwl, o gwmpas deddfwriaeth, a'r ffaith bod unrhyw Bil yn cael cydsyniad ariannol yn ystod y broses. Ond mae'n sicr yn faes y bydd y Pwyllgor Cyllid yn dal i gadw llygad barcud arno ac yn dychwelyd ato maes o law, mae'n siŵr gen i.
Os caf i bennu drwy jest dynnu sylw at bwysigrwydd adolygu deddfwriaeth ar ôl ei rhoi ar waith, felly, os ydym ni'n mynd i ddysgu sut i wneud deddfwriaeth yn well a sut i asesu costau deddfwriaeth yn well, mae'n bwysig, weithiau, cymryd darn o ddeddfwriaeth ac edrych nôl i weld sut oedd e wedi cael ei weithredu ac ym mha ffordd mae'r costau go iawn, neu'r arbedion go iawn, yn cyd-fynd â'r hyn yr amcangyfrifwyd yn y lle cyntaf, ond hefyd i ddeall a oedd y methodolegau a'r dulliau a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r asesiad effaith rheoleiddiol yn gweithio. Dyma gyfle lle mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cwrdd â ni a deall bod honno yn broses a fyddai'n werthfawr i'r Llywodraeth yn ogystal â ni fel Senedd sydd yn deddfu, ac mae'n faes y gall Llywodraeth Cymru ei wella. Rwy'n falch bod y gydnabyddiaeth yna yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ac yn edrych ymlaen at weld mwy o asesiadau priodol—heb orwneud, ond yn briodol—o dro i dro, i weld sut oedd costau Biliau wedi troi allan yn y pen draw.
Os caf i ddweud i gloi, ar lefel bersonol iawn, Dirprwy Lywydd, gan fy mod i'n mynd â Bil drwy'r lle yma ar hyn o bryd ar ran y Pwyllgor Cyllid, rydw i'n boenus o ymwybodol fy mod i wedi gwneud gwialen i'm cefn fy hunan wrth gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr o argymhellion ar sut i wella'r broses o gyflwyno Bil. Ond rwy'n barod i wynebu'r gosb yna os yw'r Llywodraeth hithau'n barod i wynebu'r gosb.
Diolch. Nick Ramsay.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a llongyfarchiadau, neu efallai nad llongyfarchiadau, i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid am gael y dasg feichus o symud y Bil hwnnw ymlaen. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau yn ei gylch, ac mae wedi cael cefnogaeth y pwyllgor.
Rwy'n falch o fod yma i ddadlau heddiw ynglŷn ag ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth—efallai nad yw'n destun sgwrs mewn bariau a thafarndai ar draws y wlad, ond serch hynny—[Torri ar draws.] Wel, yn eich rhan chi o'r wlad efallai, Dai Lloyd. Serch hynny, mae'n fater pwysig i ni ei drafod am ei fod yn mynd at wraidd yr hyn a wnawn yma o ran llunio deddfwriaeth a sicrhau y cedwir at y costau perthnasol. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, nod yr adroddiad oedd archwilio costau deddfwriaeth gan gyfeirio'n benodol at y costau sy'n gysylltiedig â sampl o Ddeddfau dethol y buom yn edrych arnynt. Hefyd, ein cyfrifoldeb oedd archwilio'r trefniadau adrodd a monitro presennol ar gyfer costau deddfwriaethol ar ôl gweithredu, a sefydlu effeithiolrwydd ac ansawdd yr asesiadau effaith rheoleiddiol a gynhyrchwyd, a sut y mae hyn yn llywio monitro. Aeth asesiadau effaith rheoleiddiol i wraidd ein hymchwiliad. Er y gwnaed cynnydd ar asesiadau effaith rheoleiddiol—ac mae hynny i'w groesawu—dengys adroddiad y Pwyllgor Cyllid ei bod yn amlwg fod angen rhagor o waith, megis sicrhau bod crynodeb o'r wybodaeth ariannol i'w gynnwys yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol ar gyfer pob un o'r Biliau a gyflwynir.
Roeddem hefyd yn teimlo bod yn rhaid nodi'n benodol pa un a yw'r costau'n gyfalaf neu'n refeniw, ac roedd hynny'n allweddol i argymhelliad 1. Os caf droi at dryloywder, yn ystod taith cyllideb ddiweddaraf Llywodraeth Cymru, roedd y dystiolaeth a gafodd sawl pwyllgor yn dangos y problemau gyda chraffu ar newidiadau arfaethedig i grantiau, newidiadau i linellau cyllideb a gwahanol gyfrifiadau a gynhwyswyd i danlinellu'r cynnydd tybiedig yn y cyllid i ysgolion a gofal cymdeithasol. Roedd y rhain yn faterion a godais yn ystod y gyllideb ddrafft a'r ddadl ar y gyllideb derfynol, a gobeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hystyried er mwyn gwneud yn siŵr fod y broses hon mor dryloyw â phosibl.
O ran rhanddeiliaid, roedd pryder ehangach—neu roedd y goblygiadau i randdeiliaid, dylwn ddweud, yn peri pryder arbennig. Maent wedi cael eu taro gan gostau uwch oherwydd materion o fewn yr asesiadau effaith rheoleiddiol. Er enghraifft, clywodd y pwyllgor fod aelodau'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl wedi eu taro gan gostau uwch o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 na'r rhai a amlinellwyd yn wreiddiol gan yr asesiad effaith rheoleiddiol. Honnodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl mewn tystiolaeth fod y newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ddirybudd, ac at hynny, o ran costio'r cynllun Rhentu Doeth Cymru, roedd cyngor Caerdydd, sy'n gweithredu'r cynllun ar ran y 22 awdurdod lleol, wedi creu eu model ariannol eu hunain a ddangosai fod asesiad effaith rheoleiddiol Llywodraeth Cymru wedi goramcangyfrif cyfanswm y landlordiaid yng Nghymru. Felly, dyna un mater a gafodd sylw yn ein hymchwiliad. Un o'r argymhellion sy'n ymwneud â rhanddeiliaid yw argymhelliad 5, sef y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn drylwyr y goblygiadau ariannol ar gyfer pob rhanddeiliad mewn asesiadau effaith rheoleiddiol, gan gynnwys sicrhau bod y goblygiadau ariannol ar gyfer y sector preifat yn cael eu hystyried yn llawn. Nid yw hynny bob amser yn syml, ond teimlem ei fod yn bwysig iawn.
Rwy'n siomedig hefyd—mae'r Cadeirydd eisoes wedi crybwyll hyn—fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod argymhelliad 10, sy'n argymell bod y wybodaeth gryno mewn asesiadau effaith rheoleiddiol yn cyfeirio'n benodol at sut y bydd unrhyw gostau a nodir yn yr asesiad yn cael eu hariannu a chan bwy. Er fy mod yn gweld beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud drwy ddweud bod hyn yn ddefnydd ehangach o'r asesiad effaith rheoleiddiol nag a ragwelwyd yn wreiddiol, ac y gallai achosi cymhlethdodau, wel, ydy, mae'n bosibl y gallai, ond yn y pen draw, teimlem fod hon yn ffordd dda o gryfhau asesiadau effaith rheoleiddiol, gan eu gwneud yn fwy ystyrlon a chyflwyno'r wybodaeth honno yn nhermau'r cyllid a'r Biliau y teimlwn eu bod yn hanfodol—yn sicr mae'n mynd i fod yn ddefnyddiol—wrth benderfynu a yw'r ddeddfwriaeth honno yw mynd i gyflawni ei nodau ai peidio.
Cyfeiriodd Simon Thomas hefyd at faterion yr aethpwyd i'r afael â hwy yn neddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Pe bai Steffan Lewis yma heddiw, rwy'n siŵr y byddai'n neidio i fyny ac i lawr yn ei sedd ac yn rhoi sylwadau ar y pwynt hwn. Roedd ganddo ei bryderon ynglŷn â'r ddeddfwriaeth honno, ac rydym yn gyfarwydd iawn â'r rheini. Os na allwn gael hyn yn iawn o ran llunio deddfwriaeth symlach, yna mewn perthynas â deddfwriaeth mor gymhleth â Deddf cenedlaethau'r dyfodol, buaswn yn dweud y bydd yna broblemau difrifol i'r Cynulliad hwn. Felly, gadewch inni edrych ar ffyrdd y gallwn wella'r broses ddeddfu hon yn gyffredinol.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, credaf ei bod hi'n dda fod Llywodraeth Cymru'n credu bod lle i wella'r prosesau fel bod unrhyw wallau neu fylchau yn y dadansoddiad yn cael eu nodi cyn cyflwyno Bil gerbron y Cynulliad. Credaf fod pawb ohonom yn gytûn ar hynny. Rydym oll am wneud y broses hon yn well. Rydym am inni ddilyn proses ragorol yma yn y Cynulliad, proses y gall pobl ar draws gweddill y DU, ac ar draws y byd yn wir, edrych arni a dweud, 'Dyna sut y maent hwy yn ei wneud. Credwn fod hynny'n well na'r ffordd rydym ni yn ei wneud. Rydym eisiau cael hyn yn iawn'.
Rwy'n gobeithio, felly, fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y goblygiadau. Rwy'n falch eich bod wedi derbyn nifer o'r argymhellion a gyflwynwyd gennym. Mae'n ddrwg gennyf eich bod wedi gwrthod un o'r argymhellion hynny yn arbennig, ond rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar ffyrdd y gellir gwella'r broses hon fel y gallwn gael gwell ffordd o lawer o ddeddfu yn y dyfodol.
Croesawaf y cyfle i gael dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, 'Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth'. Mae hwn yn bwnc eithriadol o bwysig, oherwydd mae arian sy'n cael ei wario wrth weithredu deddfwriaeth newydd yn arian nad yw ar gael ar gyfer gwasanaethau presennol. Weithiau rydym yn trafod yma fel pe bai arian newydd o ryw fath yn dod o rywle—coeden arian Theresa May efallai—ar gyfer deddfwriaeth newydd. Nid yw hynny'n wir. Mae'n dod oddi wrth wasanaethau sy'n bodoli'n barod. Felly, mae'n bwysig iawn cyfrifo cost yr holl ddeddfwriaeth. Credaf fod Nick Ramsay yn llygad ei le ynghylch cyfalaf a refeniw, ond mae angen costau sefydlu ar yr ochr refeniw hefyd, oherwydd bydd yna gostau refeniw yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer sefydlu na fydd yn digwydd yn y dyfodol. Yn aml, bydd rhywbeth sy'n werth ei wneud am £1 filiwn yn aml yn anfforddiadwy os yw'n £1 biliwn. Rwy'n credu'n gryf mewn dau beth: edrych ar gostau cyfle ac edrych ar ddadansoddiad cost a budd. Pan fyddwch yn gwario arian ar un peth, rydych yn colli cost y cyfle i'w wario ar rywbeth arall.
Mae'r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr asesiadau effaith rheoleiddiol yn glir yn eu rhaniad rhwng costau arian parod ac arbedion a chostau yn nhermau ariannol. Mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng arian parod ac arbedion nad ydynt yn arian parod. Enghraifft o un lle yr aeth Bil yn anghywir yw'r Bil anghenion dysgu ychwanegol, lle roedd yr arbedion nad ydynt yn arian parod, amser gwirfoddolwyr yn yr achos hwn, wedi eu cyfrif fel arbediad arian parod. Er y gellid defnyddio amser gwirfoddolwyr yn y gymuned er budd arall i'r gymuned, ni ellir ystyried ei gost wrth gyfrifo cost net Bil. Roedd hyn yn camystumio arbedion costau'r Bil yn ddifrifol. Roedd yn effeithio ar gost net y Bil, ac o ganlyniad, bu'n rhaid ailgyfrifo'r gost. Yn sgil hynny, roedd costau arian parod yn sylweddol uwch. Hefyd, mae'n bwysig nodi pwy sy'n mynd i orfod talu'r costau, pwy sy'n mynd i dalu amdano, a lle bydd y manteision yn cronni. Credaf fod gwir angen, pan ydym yn pasio deddfwriaeth—. Ac rydym yn pasio deddfwriaeth oherwydd ei bod yn dda, ond a fyddem yn pasio deddfwriaeth sy'n dda iawn, ond sy'n mynd i olygu na fydd modd gwneud rhywbeth y teimlwn yr un mor gryf neu'n gryfach yn ei gylch am fod yr arian wedi'i wario ar hyn?
Argymhellodd y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yn drylwyr y goblygiadau ariannol ar gyfer pob rhanddeiliad mewn asesiadau effaith rheoleiddiol, gan gynnwys sicrhau bod goblygiadau ariannol y sector preifat yn cael eu hystyried. Pasiwyd deddf yn y Cynulliad diwethaf lle y talwyd y costau gan y sector cyhoeddus ac roedd y manteision yn y sector preifat, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn canfod pwy sydd ar eu hennill a phwy sydd ar eu colled. Ceir perygl bob amser wrth greu deddfwriaeth y bydd yn creu galw ychwanegol am wasanaeth, rhyw fath o alw cudd. Mewn gwirionedd, bydd siarad am y peth yn y lle hwn, ei gael ar y BBC ac yn y Western Mail yn creu galw ychwanegol am wasanaethau na fydd pobl o bosibl yn gwybod y gallant eu cael.
Hoffwn dynnu sylw at argymhelliad 7, lle roedd y pwyllgor yn argymell y dylai'r Aelod sy'n Gyfrifol roi crynodeb i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgor craffu perthnasol o unrhyw newidiadau i asesiad effaith rheoleiddiol ar ôl Cyfnod 2, gan gynnwys y goblygiadau ariannol. Mae hyn yn mynd â mi'n ôl at y pwynt cyntaf: mae perygl, pan fydd Bil wedi pasio Cyfnod 1, fod ganddo rywbeth o'r enw momentwm, ac mae'n mynd ymlaen, ac mae pawb o blaid hynny. Oherwydd gyda'r rhan fwyaf o Filiau yma, ceir ychydig o ddadlau drostynt, ond mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl eu bod at ei gilydd yn syniad da ac yn mynd i wneud pethau'n well. Ac ystyrir ei fod yn rhoi gwerth am arian pan fo'n costio £5 miliwn neu £10 miliwn, ond pan fydd y gost yn cynyddu yng Nghyfnod 2, mae'r momentwm hwnnw'n ei yrru ymlaen. Mae pawb yn ei gefnogi, ac mae hyd yn oed y bobl sydd yn mynd i bleidleisio yn ei erbyn ac yn feirniadol ohono yn feirniadol o ddarnau ohono, ond mewn gwirionedd yn hoffi'r syniad cyffredinol sy'n sail iddo. Felly, mae'r hyn na fyddai wedi mynd drwy Gyfnod 1 gyda'r costau deddfwriaethol cywir yn dal ati i fynd yn ei flaen. Mae'r gost yn cynyddu, ond mae'n anodd rhoi'r gorau i fwrw ymlaen â deddfwriaeth. Faint fyddai'n rhaid i ddeddfwriaeth gynyddu cyn i ni wneud safiad yng Nghyfnod 2 mewn gwirionedd a dweud y dylai'r Llywodraeth ei thynnu'n ôl, neu ein bod ni fel Cynulliad yn dweud, 'Edrychwch, mae'n mynd yn rhy ddrud'? Credaf mai dyna pam y mae ei angen iddo fynd i bwyllgor: er mwyn i ni edrych arno'n ddiduedd. Mae angen i bobl y tu allan i'r Llywodraeth ailystyried, yn y pwyllgor pwnc a'r Pwyllgor Cyllid.
Rwy'n derbyn hefyd fod cynhyrchu costau ac arbedion costau ar gyfer deddfwriaeth yn gymhleth, ac yn galw, yn aml, am ddealltwriaeth fanwl o'r gwasanaeth a sut y mae'n cael ei ariannu a phwy sy'n ei ddefnyddio. Yn realistig, bydd costau ac arbedion o fewn ystod yn seiliedig ar y tybiaethau a wnaed. Rwyf bob amser wedi credu—nid bod llawer o bobl eraill yn fy nghefnogi—y dylem gyhoeddi ystod o gostau ac ystod o arbedion, ac mai'r pwyntiau canol sy'n cael eu defnyddio mewn cyfrifiadau, oherwydd mae'n rhaid mai dyna fydd pobl yn ei wneud mewn gwirionedd. Maent yn gwneud rhagdybiaethau ac maent yn dweud, 'Wel, fe gymerwn 50 y cant o hynny, a 75 y cant o hynny'. Bydd hyn yn caniatáu i'r rhai sy'n ystyried deddfwriaeth gael gwell dealltwriaeth o gostau a buddion. Yn olaf, i ddatgan yr amlwg, os yw'r costau'n uwch na'r disgwyl a'r arbedion yn llai, bydd llai o arian ar gyfer gwasanaethau eraill y mae llawer ohonom yn dibynnu arnynt.
Fel rhywun sydd ddim yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ar hyn? Rwy'n credu bod y Cadeirydd bach yn galed ar ei hunan yn awgrymu nad hon yw'r ddadl mwyaf cyffrous heddiw. Yn sicr, nid hi fydd y lleiaf cyffrous. Ond mi roeddwn i'n cael fy nghyffroi o ddarllen yr adroddiad ac o edrych ar yr argymhellion, oherwydd, fel mae e wedi cyfeirio, y profiadau a gawsom ni gyda'r Bil, nawr y Ddeddf, anghenion dysgu ychwanegol.
Mae'r hyn sy'n cael ei grynhoi yn yr adroddiad a'r argymhellion sy'n dod o'r adroddiad yn siarad yn uniongyrchol at rai o'r problemau a'r rhwystredigaethau a brofom ni fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wrth graffu ar y Ddeddf benodol honno, yn enwedig rhai o'r argymhellion o gwmpas yr asesiadau effaith rheoleiddiol o safbwynt sicrhau ansawdd yr asesiadau, bod yna ddrafft o asesiad effaith rheoleiddiol ar gael fel rhan o'r ymgynghori a'r broses o greu deddfwriaeth, a hefyd y rôl bwysig yma mae rhanddeiliaid yn ei chwarae, a bod angen gwella'r ymwneud y mae rhanddeiliaid yn ei gael yn y datblygu ac yn yr adnabod a chreu'r costau sydd yn dod yn sgil deddfwriaeth. Mae hynny i gyd yn bwysig ac mae hynny i gyd yn berthnasol iawn i'n profiadau ymarferol ni o safbwynt craffu ar y Bil.
Mae'n eironig fy mod i'n gorfod codi'r grachen yna ar y diwrnod y mae'r Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol, ond dyna ni. Achos dim ond wrth graffu yng Nghyfnod 1 y Bil yna y daeth llawer o'r gwendidau a'r camgymeriadau ariannol i'r golwg o safbwynt y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Yn wreiddiol, roedd y Llywodraeth yn rhagweld arbedion dros gyfnod o bedair blynedd o £4.8 miliwn. Mi ddaeth hi'n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad oedd arbedion, ond bod costau o bron i £8 miliwn. Roedd hynny'n wahaniaeth o £12 miliwn. Felly, rwy'n meddwl bod hynny wedi codi'r gorchudd ar rai o'r risgiau a rhai o'r problemau sydd yn rhan o'r broses yma—rhai y mae'n rhaid inni warchod yn eu herbyn nhw nawr yn sgil yr argymhellion sydd wedi cael eu gwneud gan y pwyllgor.
Roedd hynny hefyd yn golygu, wrth gwrs, ein bod ni wedi gorfod trafod a dadlau a phleidleisio ar Gyfnod 1 y Bil yna gyda'r asesiad effaith rheoleiddiol gwreiddiol oddi ar y bwrdd, i bob pwrpas, wrth ei fod yn cael ei ailysgrifennu, ac wedyn gohirio'r penderfyniad ariannol a oedd fod digwydd ar ôl y bleidlais, neu'r un pryd â'r bleidlais ar Gyfnod 1. Nid oedd modd wedyn gwaredu gwelliannau Cyfnod 2 nes bod y materion ariannol yna wedi'u setlo, ac mi wnaethom ni hynny 24 awr yn unig cyn ein bod ni'n eistedd lawr i bleidleisio ar welliannau Cyfnod 2. Felly, fe fuodd yn dipyn o smonach o broses. Mi roedd yna ddryswch ac nid oedd yn rhoi'r eglurder y byddwn i'n ei ddymuno—nac unrhyw un ohonom ni, rwy'n siŵr—wrth graffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma, a fyddai'n caniatáu ein bod ni i gyd yn hapus fod y broses yn gydnerth, yn gyhyrog, ac yn ennyn hyder, nid yn unig fan hyn yn y Siambr, ond tu hwnt, wrth gwrs, o blith y rhanddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach.
Mi allech chi ddadlau nad yw'n bosib gwarchod rhag pob sefyllfa. Mae hynny'n ddigon rhesymol. Rydym ni i gyd yn fodau dynol ac mae yna gamgymeriadau yn anochel yn digwydd ar adegau. Mi allech chi ddadlau hefyd fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi gwneud eu gwaith wrth graffu ar y Bil ac wedi amlygu rhai o'r cwestiynau yma a arweiniodd at ailweithio’r ffigurau o gwmpas y Bil. Byddwn i fy hun yn cytuno â hynny. Mae hynny i gyd yn ddilys ac i gyd yn bosibl. Ond, wrth gwrs, mae'n rhesymol hefyd inni gyd ddisgwyl fod pob peth yn cael ei wneud i osgoi sefyllfa o'r fath yn y lle cyntaf, ac mae'n rhesymol i ni i gyd ddisgwyl bod yna wersi wedyn yn cael eu dysgu os yw'r camgymeriadau yna yn digwydd, ac nad ydyn nhw'n cael eu hailadrodd yn y dyfodol.
Dyna pam fy mod i yn croesawu'r adroddiad gan y pwyllgor a'r argymhellion mae'r pwyllgor wedi'u gwneud. Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod y Llywodraeth wedi derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion, er mai dim ond derbyn mewn egwyddor yr argymhelliad mwyaf perthnasol, o'm safbwynt i, sef y mater yma o gysylltu digonol gyda rhanddeiliaid wrth greu y costau. Felly, diolch i'r pwyllgor am daflu goleuni ar wendidau'r broses. Diolch hefyd am gynnig datrysiadau penodol i rai o'r problemau hynny. A gaf i annog y Llywodraeth—fel y byddan nhw, rwy'n siŵr—i ymateb yn bositif a derbyn yr holl argymhellion, ond fel man lleiaf wrth gwrs i ddysgu'r gwersi?
A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid? Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am yr adroddiad ac yn falch o'r cyfle i gyfrannu at y drafodaeth hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen asesiad o oblygiadau ariannol sy'n dryloyw ac yn gywir er mwyn i'r Cynulliad a rhanddeiliaid allu craffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth newydd.
Fel y mae'r rhan fwyaf o'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl wedi dweud, Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn faes eithaf technegol ac arbenigol, ond mae'n wirioneddol bwysig o ran gwneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhai sy'n ymddiddori mewn deddfau penodol allu deall goblygiadau'r ddeddfwriaeth sy'n dod gerbron y Siambr hon.
Y bwriad wrth ddatblygu'r asesiad effaith rheoleiddiol bob amser yw cyflwyno asesiad mor llawn a manwl ag sy'n bosibl, o ystyried y dystiolaeth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys ystyried y costau a'r manteision sy'n gysylltiedig â newid diwylliannol a nodau'r ddeddfwriaeth, er nad yw hi bob amser yn broses syml, fel y cydnabuwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth, i fesur y costau a'r manteision hynny. Yn y dyfodol, byddwn yn ceisio sicrhau cydbwysedd priodol rhwng yr angen i gyflwyno asesiad ariannol o gostau a risgiau cyflwyno ffigurau anghywir neu gamarweiniol.
Er y bydd yr asesiad ariannol yn ystyried yr effaith ar bob grŵp, rwyf am sicrhau Aelodau'r Cynulliad a'r pwynt a godwyd gan Mike Hedges y telir sylw arbennig i effaith bosibl deddfwriaeth ar fusnesau preifat yng Nghymru, ac a yw'r cynigion yn cael effaith andwyol, o bosibl, ar gystadleurwydd busnesau Cymru.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn credu bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys a gofynion y Rheolau Sefydlog yn darparu fframwaith addas ar gyfer paratoi asesiadau effaith rheoleiddiol. Yma yng Nghymru, fodd bynnag, rydym hefyd yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth ddatblygu'r polisïau y byddwn yn mynd ar eu trywydd a'r opsiynau polisi y byddwn yn eu hystyried. O ganlyniad, ac fel y nododd Simon Thomas, mae prosiect yn mynd rhagddo o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o gyflawni asesiadau effaith, gan ddefnyddio'r fframwaith a ddarperir gan Ddeddf lles cenedlaethau'r dyfodol. Nid diben hynny yw cyfyngu ar asesiadau pwysig, ond yn hytrach, ceisio gwneud yn siŵr eu bod yn eu cyfanrwydd yn fwy na'u rhannau cyfansoddol. Er nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol o fewn cwmpas y prosiect hwnnw, byddant yn cael eu llywio gan ganlyniadau'r asesiad effaith integredig.
Ddirprwy Lywydd, ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad ac mewn ymateb i gyhoeddi'r adroddiad, 'Deddfu yng Nghymru', ac ymchwiliad etifeddiaeth y Pwyllgor Cyllid blaenorol, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu datblygiad a chyflwyniad yr effaith ariannol, a cheir gorgyffwrdd sylweddol rhwng argymhellion y pwyllgor a'r gwaith a wneir ac sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gryfhau asesiadau effaith rheoleiddiol o ganlyniad i'r gwaith blaenorol hwnnw. Mae fersiwn ddiweddaraf y llawlyfr deddfwriaeth ar Filiau'r Cynulliad, a gyhoeddwyd ym mis Awst y llynedd, yn cynnwys pennod sy'n nodi canllawiau diwygiedig ar ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol. Mae'n cynnwys nifer o newidiadau gyda'r nod o wella eglurder a hygyrchedd asesiadau effaith rheoleiddiol.
Mae economegwyr Llywodraeth Cymru wedi datblygu tabl cryno safonol i'w cynnwys ar ddechrau pob asesiad effaith rheoleiddiol, fel yr awgrymodd Nick Ramsay. Mae'r tabl cryno hwnnw, a ddefnyddiwyd yn y memorandwm esboniadol ar gyfer pob Bil a gyflwynwyd yn ystod y pumed Cynulliad, wedi'i lunio ar gyfer cyflwyno'r holl wybodaeth sy'n ofynnol yn y Rheolau Sefydlog yn eglur. Ac mewn pwynt a nododd Mike Hedges, adolygwyd y canllawiau mewn ymateb i bryderon y gallai cyflwyno manteision â gwerth ariannol ochr yn ochr â chostau arian parod fod yn gamarweiniol.
Yn olaf, cryfhawyd y canllawiau i'w gwneud yn glir y dylai asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer Bil, cyn belled ag y bo'n ymarferol, gynnwys amcangyfrif gorau o gostau unrhyw is-ddeddfwriaeth gysylltiedig. Roeddwn yn falch o glywed aelodau'r Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys ei Gadeirydd, yn nodi tystiolaeth gan randdeiliaid, a adlewyrchwyd yn adroddiad y pwyllgor ei hun, yn cydnabod bod y dull o gyflwyno asesiadau effaith rheoleiddiol wedi gwella yn ystod y pumed Cynulliad o ganlyniad i'r gwaith cynharach hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn mynd i allu ymdrin â'r holl argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid chwaith. Rwyf am dynnu sylw at nifer fach, os caf, gan ymdrin yn gyntaf oll â mater ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac mae nifer o'r Aelodau wedi tynnu sylw at hyn. Roedd y dystiolaeth a roddwyd gan randdeiliaid i'r ymchwiliad yn glir na fu digon o ymgysylltu â rhanddeiliaid bob amser yn y gorffennol wrth ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol, a lle bu ymgysylltiad, yn aml byddai'n digwydd yn hwyr yn y broses.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol ac mae'r canllawiau diwygiedig yn nodi dull fesul cam wedi'i ddiffinio'n fwy clir o ddatblygu asesiad effaith rheoleiddiol, ac un cam o'r dull yw cynnwys asesiad effaith rheoleiddiol drafft fel rhan o'r ymarfer ymgynghori. A bwriedir i hynny ymateb i bwyntiau a wnaeth Simon Thomas a Nick Ramsay y prynhawn yma er mwyn darparu cyfle i randdeiliaid gymryd rhan yn y broses ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu amgen cyn inni gyrraedd y pwynt dadansoddol terfynol hwnnw. Y nod wrth gysylltu cyhoeddi drafft o'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer y broses ymgynghori yw sicrhau bod ymgysylltu'n digwydd yn gynnar yn y broses o lunio polisi. Disgwylir i gyhoeddi asesiad effaith rheoleiddiol drafft ddod yn norm yn y dyfodol.
Trof at y goblygiadau ariannol, a dyma fater arall y mae'r adroddiad yn canolbwyntio arno wrth gynnwys y goblygiadau ariannol yn yr adolygiad ôl-weithredu o ddeddfwriaeth. Nodais yn ymateb y Llywodraeth fod y llawlyfr deddfwriaeth ar Filiau Cynulliad wedi'i ddiwygio a bellach yn cynnwys ystyriaethau ariannol fel un o'r materion i'w hystyried mewn unrhyw gyfnod ôl-weithredu. Adlewyrchir y farn gyffredin ar sut y gellir cryfhau a gwella amcangyfrifon ariannol sy'n mynd gyda deddfwriaeth yn ein hymateb i argymhellion y pwyllgor. Nid wyf ond yn ailadrodd yr hyn a ddywedais yn y ddogfen honno mai'r unig argymhelliad y teimlem na allem ei dderbyn yw'r argymhelliad y dylid ymestyn asesiadau effaith rheoleiddiol i ystyried sut yr ariennir unrhyw gostau a nodwyd yn y dadansoddiad a chan bwy, a'r rheswm am hynny yw oherwydd bod asesiadau effaith rheoleiddiol yn asesiad gwerth am arian ac mae ystyried sut yr ariennir unrhyw gostau'n mynd y tu hwnt i ddiben a chynllun yr asesiad hwnnw. Nid yw'n dweud bod materion cyllid a fforddiadwyedd yn ddibwys—dim o gwbl—yn syml, ystyrir arian a fforddiadwyedd yn ystod rhannau gwahanol o'r broses o ddatblygu deddfwriaeth a chânt eu cynnwys yn rhan o unrhyw benderfyniad ariannol.
Ddirprwy Lywydd, roeddwn am ddod i ben drwy ddarparu—
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Ar y pwynt penodol hwnnw—oherwydd fe soniais am y ffaith eich bod wedi gwrthod yr argymhelliad hwnnw. Rwy'n derbyn pwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â pham nad oeddech yn gallu derbyn yr argymhelliad hwnnw, ond a wnewch chi o leiaf ymrwymo i edrych ar ffyrdd y gellid cryfhau'r broses fel bod modd dod ag arian a fforddiadwyedd, er y deallaf eu bod yn cael sylw mewn meysydd eraill, at ei gilydd rywsut, fel nad yw'n cael ei adael i wahanol agweddau ar y broses hon a bod yna edrych ar y cyd? Os nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn mynd i roi'r ffocws hwnnw iddo, yna efallai fod ffyrdd eraill o'i wneud.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n fwy na pharod i edrych ar y mater. Fel y dywedais, y rheswm na dderbyniwyd yr argymhelliad gennym oedd nad oeddem yn credu mai'r asesiad effaith rheoleiddiol oedd y lle gorau i wneud hynny. Nid yw'n dweud na fyddem yn barod i edrych ar ffyrdd eraill y gellid mynd ar drywydd y mater.
Ddirprwy Lywydd, os caniatewch i mi, fe ddof i ben drwy nodi ar gyfer yr Aelodau rai o'r ffyrdd y bwriadwn fwrw ymlaen ymhellach â'r argymhellion hyn. Mae swyddogion yn adolygu'r canllawiau ar asesiadau effaith rheoleiddiol o ganlyniad i adroddiad y pwyllgor a byddant yn eu diwygio yn unol â hynny. Gwn eu bod eisoes wedi bod yn trafod yr adroddiad gyda thimau polisi'n gweithio ar gynigion deddfwriaethol presennol. Bydd fy swyddogion yn edrych hefyd ar y prosesau sicrwydd ansawdd a ddilynir ar hyn o bryd gan adrannau polisi a'r ffordd y caiff costau deddfwriaeth eu cofnodi a'u monitro i weld lle y gellir gwella'r broses.
Bwriadaf ysgrifennu at fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet i sicrhau eu bod yn llwyr ymwybodol o'r materion a godwyd yn yr adroddiad wrth iddynt fwrw ymlaen â deddfwriaeth y maent yn gyfrifol amdani. Byddaf hefyd yn ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am sicrwydd y bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu hystyried yn y drafodaeth ar barodrwydd a gynhelir cyn i bob Bil gael ei osod ac mewn pwyllgor a gadeirir gan y Prif Weinidog ei hun.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gweld bod y Llywodraeth eisiau ymateb yn gadarnhaol iawn i'r adroddiad, yn credu ei fod wedi gwneud cyfraniad defnyddiol iawn i'r ystyriaethau ar y mater hwn, ac y byddwn yn edrych am ffyrdd ymarferol o fanteisio ar y cyngor y mae wedi ei ddarparu.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Simon Thomas, i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Rydw i'n credu er ei bod hi'n ddadl dechnegol ei natur, mae'r ffaith ein bod ni wedi dod â hi i lawr y Siambr yn bwysig gan ei bod yn ymwneud â'r Biliau y mae pob un ohonom ni yn delio gyda nhw. Rwy'n arbennig o falch, yn y cyd-destun hwn, ei bod wedi rhoi cyfle i Llyr Gruffydd fynegi ei brofiad yntau o bersbectif arall, o bwyllgor arall, ac rwy’n credu bod nifer o’r pethau roedd Llyr yn sôn amdanyn nhw yn tanlinellu pam fod angen yr adroddiad yma ar rai o’r argymhellion rydym ni wedi eu gwneud.
Nid af i ailadrodd gormod o'r ddadl. Yn syml, rwyf am fynd ar drywydd cwpl o themâu y credaf eu bod yn bwysig iawn a diolch i Nick Ramsay a Mike Hedges hefyd am gymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n meddwl mai'r hyn rydym eisiau ei weld mewn gwirionedd, neu ei ystyried o leiaf, yw y byddai'n bosibl i Fil gael ei gefnogi yng Nghyfnod 1 yma—i bob plaid ei gefnogi, o bosibl—ond erbyn iddo gyrraedd Cyfnod 2, erbyn inni fynd drwy'r broses hon, erbyn yr adeg y bydd gwelliannau wedi'u gwneud a newidiadau wedi'u gwneud a mwy o ddealltwriaeth wedi'i gael, y byddai modd ystyried peidio â bwrw ymlaen â'r Bil hwnnw am fod y dadansoddiad cost a budd wedi newid. Credaf fod angen inni o leiaf ddarparu digon o offer a gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad i'w galluogi i ffurfio barn o'r fath. Ar bob cam o'r—dyma pam y mae gennym gyfnodau, os caf ddweud, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bosibl peidio â bwrw ymlaen â Bil ar ôl cyfnodau penodol. Pan aiff y tu hwnt i Gyfnod 1, nid yw'n golygu ei fod ar ryw fath o drên di-droi'n-ôl. Oherwydd bod gennym y cyfnodau hyn, mae'n bosibl ailystyried natur y Bil. Byddai hwnnw, yn amlwg—wel, mae'n debyg—yn Fil nad oedd wedi mynd drwy'r broses gywir ar ryw gam, ond rhaid inni wneud yn siŵr o leiaf fod ein prosesau'n ddigon cadarn i ganiatáu i hynny ddigwydd, ac yn wir i ganiatáu i ffeithiau newydd ddod i'r amlwg sy'n newid y ffordd yr edrychwn ar y Bil.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, fel y mae bellach, yn enghraifft dda iawn o ble y gallai hynny fod wedi digwydd. Ni wnaeth hynny yn y diwedd oherwydd, a bod yn onest, y mater arall nad yw'r Llywodraeth yn ei dderbyn fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol—ac rwy'n gweld o ble mae'r Llywodraeth yn dod, ond wrth gwrs yn achos y Bil hwnnw, fel yr oedd bryd hynny, roedd y Llywodraeth wedi gwneud ymrwymiad ariannol, nid yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ond ymrwymiad polisi ariannol cyffredinol, a oedd yn goresgyn unrhyw amheuon a oedd gan bobl ynglŷn â manylion ariannol y Bil.
Yr ail thema rwy'n ei hystyried yn bwysig inni ei chofio yw, er bod hwn yn adroddiad ac argymhelliad Pwyllgor Cyllid a dadl Pwyllgor Cyllid gydag ychydig o fewnbwn ychwanegol, mae'n tanlinellu mewn gwirionedd pa mor bwysig yw cynnwys rhanddeiliaid wrth baratoi ein Biliau. [Anghlywadwy.]—yn dweud tap ar y cefn; roeddwn yn dweud bod gennyf wialen ar gyfer fy nghefn fy hun yn gynharach, ond tap ar y cefn yn awr. Ar ôl bod mewn mannau eraill ac edrych ar Filiau, rydym yn gwneud pethau'n well yma. Mae Biliau sy'n dechrau yn y Cynulliad yn denu mwy o wybodaeth, mwy o ddadansoddiadau effaith, mwy o ddealltwriaeth o'r effaith ariannol na Bil a fyddai'n mynd drwy San Steffan, er enghraifft. Felly, rydym yn gallu defnyddio hynny mewn ffordd sy'n cyfoethogi ein ymgynghoriad â rhanddeiliaid, y ffordd y dônt i mewn—a phwyllgorau eraill yn ogystal, fel yn enghraifft Llyr. Mae pwyllgorau eraill yn bwydo i mewn; nid y Pwyllgor Cyllid yn unig a ddylai fod yn edrych ar yr agwedd honno o'r Bil.
A gaf fi orffen drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn sicr am dderbyn bron bob un o'r argymhellion? Rwy'n deall pam nad yw wedi ei berswadio ynghylch yr un, er bod hynny'n rhywbeth i ni ei gadw dan adolygiad o ran deall pwy sy'n talu'r costau, ond hoffwn ddiolch iddo'n arbennig am nodi heddiw sut yr aeth â'r argymhellion hyn drwy broses, proses fewnol, Llywodraeth Cymru. Mae cyflwr parod yn swnio'n ffordd briodol o feddwl am unrhyw Fil a gyflwynir i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio bod yr adroddiad hwn wedi helpu i lywio a sicrhau bod unrhyw Fil a gyflwynir mewn cyflwr parod i gael ei drafod gan y ddeddfwrfa gyfan.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.