3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Diwygio Trefniadau Etholiadol Llywodraeth Leol

– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 30 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:52, 30 Ionawr 2018

Yr eitem nesa, felly, yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddiwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol, ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad—Alun Davies. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn y prynhawn yma i hysbysu'r Aelodau o'm cynigion ynglŷn â gwneud y diwygiadau o ran trefniadau etholiadau llywodraeth leol, gan gynnwys pwy sy'n cael pleidleisio, sut maen nhw'n cael eu cofrestru, sut y mae pobl yn pleidleisio a phwy all sefyll ar gyfer etholiad. Mae fy natganiad heddiw yn canolbwyntio ar y trefniadau ar gyfer etholiadau lleol, ond rwy'n ymwybodol, Llywydd, o'r gwaith sydd gennych chi ar y gweill ynglŷn â diwygio'r Cynulliad hwn ac y bydd yr un trefniadau i raddau helaeth iawn hefyd yn berthnasol yn y dyfodol i etholiadau Seneddol Cymru. Bydd cynigion deddfwriaethol sy'n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn cael eu cynnwys  mewn Bil llywodraeth leol, y bwriadaf ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni. Mae'r cynigion yn gydnaws ag ymgynghoriad yr hydref diwethaf, a byddaf yn cyhoeddi canlyniadau manwl hwnnw cyn bo hir.

Mae democratiaeth leol yn ymwneud â chyfranogiad. Rydym ni eisiau cynyddu'r niferoedd sydd wedi cofrestru yn etholwyr, ei gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidleisiau a rhoi'r hawl i fwy o bobl gymryd rhan. Rydym ni wedi gweld yn y blynyddoedd diwethaf sut mae'r ymgyrch i gael pobl i gofrestru yn unigol—a gafodd ei rhuthro ac nad oedd digon o baratoi ar ei chyfer, rwy'n credu— wedi arwain at rai grwpiau o bobl yn diflannu oddi ar y gofrestr. Rwy'n bwriadu gwrthweithio hynny yn rhannol trwy alluogi ac annog swyddogion cofrestru etholiadol i ychwanegu pobl yn awtomatig at y gofrestr os ydyn nhw'n fodlon gyda'r wybodaeth sydd ganddyn nhw. Dylai hynny weithio yn arbennig o dda gyda myfyrwyr ysgol lle mae gan awdurdodau lleol  eu manylion eisoes ac angen gwneud dim mwy na throsglwyddo'r rhain i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol. Byddai unrhyw un sydd wedi ei gofrestru'n awtomatig yn cael eu hychwanegu at y gofrestr ddiwygiedig, nid yr un sydd ar gael i sefydliadau marchnata, a byddid yn cysylltu â nhw i gadarnhau eu dewisiadau ac a ydyn nhw'n hapus i fod ar y gofrestr lawn neu, yn achos rhywun na ddylid datgelu eu hunaniaeth, i gael eu cofrestru'n ddienw.

Rwyf hefyd yn bwriadu creu cofrestr electronig Cymru gyfan, gan gyfuno'r cofrestrau sy'n bodoli ym mhob sir gyda diwyg cyffredin, gan wneud y gwaith o reoli cofrestrau yn fwy effeithlon a'i gwneud hi'n haws hollti cofrestrau ar gyfer etholiadau sy'n croesi ffiniau sirol.

Mae pleidleisio mewn etholiadau yn y wlad hon yn digwydd fwy neu lai yn yr un ffordd ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r rhan fwyaf ohonom ni'n mynd i orsaf bleidleisio ac yn taro croes ar ddarn o bapur gan ddefnyddio pensil plwm cydnerth ar ddarn o linyn. Mae llawer o bobl yn hoffi hyn mewn gwirionedd, oherwydd mae hi'n gryn ddigwyddiad, yn gyfle i siarad â'r cymdogion, ac, yn gyffredinol, mae pobl yn ymddiried yn y broses. Fodd bynnag, Llywydd, rydym ni hefyd yn gwybod bod hyn yn fwyfwy anghyson â bywydau bob dydd pobl, ac mae hyn yn arbennig o wir am bobl ifanc. Am y rheswm hwn, rwy'n bwriadu deddfu i gyflwyno cynlluniau arbrofol mewn etholiadau lleol ac isetholiadau a fyddai'n ymchwilio i'r dewisiadau o bleidleisio a chyfrif electronig, a phleidleisio mewn gwahanol fannau ar wahanol ddyddiau. Byddai angen i'r Comisiwn Etholiadol arfarnu unrhyw gynllun arbrofol cyn inni wneud unrhyw beth parhaol ac eang, ond mae hi'n hen bryd gwneud y broses bleidleisio yn fwy modern a mwy hyblyg, gan ystyried, wrth gwrs, yr angen i gadw unrhyw system newydd yn hollol ddiogel.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:55, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n arbennig o falch o allu egluro'r diwygiadau etholiadol hyn heddiw oherwydd cyn bo hir byddwn yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau yn y Deyrnas Unedig a chyflwyno'r bleidlais i bob dyn. Mae'n briodol felly fy mod yn gallu datgan fy mwriad, gan ddefnyddio'r pwerau sydd ar fin cael eu trosglwyddo i'r Senedd hon o dan Ddeddf Cymru 2017 o fis Ebrill, i ymestyn yr etholfraint ymhellach mewn sawl ffordd.

Llywydd, fy mwriad yw y bydd pobl 16 a 17 mlwydd oed yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau lleol nesaf. Byddwn yn dilyn yr Alban yn hyn o beth, ac mae eu profiad nhw eisoes yn dangos inni gymaint y mae pobl ifanc yr oedran hwnnw yn croesawu'r cyfle ac yn ei ddefnyddio i ddatblygu'r broses ddemocrataidd ymhellach. Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.

Dylai pawb sydd wedi ymrwymo i fywyd yng Nghymru ac sy'n byw yma allu cymryd rhan yn ein democratiaeth gynhwysol. Rydym yn bwriadu caniatáu i unrhyw un o unrhyw genedligrwydd sy'n preswylio yng Nghymru allu cofrestru a phleidleisio yn ein hetholiadau. Bydd hyn yn codi uwchlaw'r ddadl dros ddyfodol hawliau pleidleisio dinasyddion yr UE drwy ei gwneud hi'n glir y dylai pobl o bob gwlad a chenedl sydd wedi gwneud eu cartrefi yma allu cymryd rhan lawn yn ein democratiaeth.

Rwyf hefyd yn ystyried y posibiliadau ar gyfer ymestyn hawliau carcharorion i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol os yw dyddiad arfaethedig eu rhyddhau cyn diwedd cyfnod y cyngor sy'n cael ei ethol. Byddent yn gallu pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy os oes ganddyn nhw gysylltiad â chyfeiriad yng Nghymru, fel arfer eu cyfeiriad diwethaf. Mae angen i bobl sy'n cael eu hanfon i'r carchar deimlo'n rhan o'r gymuned ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, a bydd yr hawl i bleidleisio yn ffurfio rhan o hyn.

Llywydd, fy mwriad i yw y bydd llywodraeth leol yn symud i gyfnod o bum mlynedd, fel sy'n digwydd gyda'r Senedd hon a'r hyn a fwriedir ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig. Bydd cynghorau unigol yn gallu gwneud y dewis i newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Er mwyn newid byddai angen yn gyntaf i ddwy ran o dair y cyngor dan sylw bleidleisio o blaid newid . Byddai'n rhaid defnyddio'r system newydd ar gyfer y ddwy gyfres nesaf o etholiadau cyffredin.

Rwyf hefyd yn bwriadu gwneud rhai newidiadau o ran ymgeisio mewn etholiadau lleol. Rwyf eisiau dilyn yr arfer sydd eisoes yn berthnasol i etholiadau seneddol a galluogi ymgeiswyr i gyhoeddi dim ond y ward lle maen nhw'n byw yn hytrach na'u cyfeiriad cartref ar ddogfennau etholiadol. Byddaf hefyd yn rhoi trefniadau ar waith i alluogi'r ymgeiswyr i gyhoeddi datganiadau polisi ar wefan cyngor. 

Rwyf hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n haws i weithwyr cyngor sefyll etholiad ar gyfer eu cyngor eu hunain. Ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo cyn y gallan nhw hyd yn oed ymgeisio. Byddaf yn newid hyn fel nad oes angen iddyn nhw ymddiswyddo dim ond os cânt eu hethol. Fodd bynnag, byddaf hefyd yn annog awdurdodau lleol i gynnig seibiant gyrfa am o leiaf tymor cyntaf eu swyddogaeth. 

Llywydd, dyna yw fy nghynnig cychwynnol. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod llawer o'r Aelodau yn teimlo y dylai o leiaf rhai o weithwyr y cyngor allu bod yn gynghorwyr yn eu hawdurdod eu hunain, a byddaf yn gwrando'n astud ar y trafodaethau ynglŷn â'r mater hwn yn ystod y gwaith craffu. Hoffwn i ddweud ar goedd y byddaf yn ystyried mewn modd cadarnhaol y ffyrdd y gallwn ni gynnwys y safbwyntiau hyn pan ddaw hi'n bryd inni ddeddfu. Byddaf felly yn ymdrin â hyn gyda meddwl hollol agored a byddaf yn edrych ar ffyrdd o alluogi gweithwyr cyngor i sefyll mewn etholiadau yn eu hawdurdod eu hunain.

Rwy'n credu bod a wnelo'r mater canolog hwn â thal. Pe bai maint y taliadau a wneir i gynghorwyr am wneud eu gwaith yn fwy cydnaws â chyflogau, byddai cymryd seibiant o waith arall yn fwy realistig. Bwriadaf adolygu'r mater hwn, law yn llaw â'r panel annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol, dros y misoedd sydd i ddod.

Llywydd, rwy'n credu'n gryf na ddylai Aelodau o'r Cynulliad hwn fod yn gynghorwyr hefyd ac rwy'n bwriadu deddfu fel eu bod yn cael eu gwahardd rhag bod yn aelod cyngor. Rwyf hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n ofynnol i ymgeiswyr ddatgan aelodaeth o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig os nad ydyn nhw'n sefyll o dan faner plaid. Gallai peidio â gwneud hynny arwain at gael eu gwahardd.

Yn olaf, rwy'n bwriadu diwygio'r ddeddfwriaeth fel mai Prif Weithredwr y Cyngor fydd y swyddog canlyniadau. Ni fydd y swyddog canlyniadau, fel arfer y swyddog cyngor sy'n cael y cyflog mwyaf, yn gallu hawlio ffi bersonol mwyach oddi ar eu cyngor eu hunain nac am gynnal etholiadau seneddol yng Nghymru. Nid yw'n dderbyniol i'r cyhoedd, yn enwedig ar adeg pan fo gweithwyr cyngor cyffredin yn wynebu'r fath gyfyngiadau. Rwy'n cyflwyno'r datganiad hwn i'r Siambr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:00, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hwn. Mae hyn yn cynnig rhai cyfleoedd, ond mae hefyd yn esgor ar nifer o gwestiynau. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr angen, fel yr amlygwyd gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, i gynyddu cyfranogiad mewn democratiaeth leol. Fodd bynnag, bydd y cynigion yr ydych chi'n eu cyflwyno yn mynd i'r afael ag a ddylid gofyn am y diwygiadau a amlinellwyd er mwyn mynd i'r afael ag achosion sydd wrth wraidd y broblem o ymddieithrio ymhlith pleidleiswyr a'r diffyg cysylltiad y mae cymaint o drigolion yn ei deimlo â gwleidyddiaeth yng Nghymru.

Mae cynrychiolaeth ar awdurdodau lleol yng Nghymru mewn perygl o fod yn rhywbeth cyfyngedig iawn. Yn etholiadau llywodraeth leol 2017, gadawyd 7 y cant o'r seddi cynghorau bwrdeistref sirol yn wag. Ar lefel cyngor tref a chymuned, roedd 81 y cant o'r seddi naill ai'n ddi-gystadleuaeth neu'n wag. Ymhellach, mae ymgysylltu â chynghorwyr lleol yn arswydus o isel yng Nghymru, gyda'r swm anferth o 84 y cant o'r bobl a ymatebodd i Arolwg Cenedlaethol Cymru yn dweud nad oedden nhw wedi cysylltu â'u cynghorydd yn y 12 mis blaenorol. Ac fel yr ydych chi wedi cyfeirio ato sawl gwaith yn y fan yma, mae diffyg tryloywder yn rhemp, oherwydd rhwng 2016 a 2017, roedd awdurdodau lleol wedi gwahardd y cyhoedd yn llawn neu'n rhannol o 39 y cant o'r cyfarfodydd cabinet, ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr y ffigur oedd 93 y cant.

Mae Ceidwadwyr Cymru wedi gwthio am gyfres fwy trylwyr o ddiwygiadau, gyda'r nod o gynyddu ymgysylltiad pleidleiswyr, ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys yr agenda hawliau cymunedol o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011, ac eto methodd Llywodraeth Cymru â rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn, nac unrhyw rymoedd ychwanegol na mwy o reolaeth o unrhyw fath i gymunedau. Ac mewn gwirionedd, mae'n deg dweud eich bod wedi methu o ran democratiaeth leol a chaniatáu i gymunedau gael mwy o lais ar faterion democrataidd. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi egluro sut y mae eich cynigion yn ymdrin â'r angen dybryd i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y meysydd hyn?

Nawr, mae pryderon eisoes yn cael eu lleisio ynghylch cofrestru pleidleiswyr posib yn awtomatig. Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi gynghori ynghylch sut yr ydych chi'n rhagweld cydbwysedd yn hyn o beth o ran deddfwriaeth diogelu data a defnyddio data personol, yn ogystal â sut y byddwch yn sicrhau bod y broses hon yn gwbl sicr ac yn rhydd rhag twyll pleidleisiwr?

Ar y mater hwn hefyd, hoffwn i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sut yr ydych chi'n bwriadu bwrw ymlaen â phleidleisiau post, o ystyried cyhuddiadau o ddyblygu pleidleisiau y llynedd ac, wrth gwrs, y sôn a fu am yr hyn a ddigwyddodd yn Tower Hamlets. Dyma golli cyfle euraid os ydych chi'n dechrau diwygio etholiadau llywodraeth leol. Mae pawb yn y fan yma sydd erioed wedi sefyll mewn unrhyw etholiad ar unrhyw lefel yn gwybod y gall pleidleisiau post gyda rhai o'n pobl hŷn fod yn gyfrwng hollol hanfodol a'u helpu i bleidleisio, ond gall fod yn gymhleth iawn hefyd gyda mymryn o wahaniaeth weithiau rhwng llofnodion. Caiff y pleidleisiau hynny eu rhoi o'r neilltu ac mewn gwirionedd nid ydynt yn cael eu cofrestru'n bleidlais. Felly, hoffwn i ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi'n rhoi sylw i sut y gallwn ni symleiddio'r broses o bleidleisio drwy'r post fel bod pobl, mewn gwirionedd, yn fwy hyderus wrth wneud hynny nag y maen nhw ar hyn o bryd.

O ran eich cynigion o ran cynlluniau arbrofol ar gyfer pleidleisio electronig, pleidleisio mewn mannau gwahanol ac ar ddyddiau gwahanol, byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, fod y Comisiwn Etholiadol wedi canfod cyn hyn fod arbrawf a wnaed gan Lywodraeth Lafur Prydain ar y pryd ynglŷn â chyfleusterau ychwanegol ar gyfer pleidleisio wedi bod yn aflwyddiannus ar y cyfan yn targedu pleidleiswyr mympwyol megis yr ifanc a'r henoed, gyda'r mwyafrif yn dweud y byddent wedi pleidleisio beth bynnag. Felly, byddai gennyf ddiddordeb yn y costau y gallwch chi eu dangos inni o ran y cynlluniau hyn er mwyn ein galluogi ni i wneud dadansoddiad cost-budd priodol cyn rhoi sêl bendith i unrhyw gynlluniau arbrofol.

Fe wnaethoch sôn am y bwriad i alluogi pobl 16 ac 17 oed i bleidleisio yn yr etholiadau lleol nesaf. Sut ydych chi'n cysoni rhoi pleidlais i bobl 16 a 17 oed pan fo'r Cynulliad hwn wedi deddfu yn eu herbyn yn y gorffennol, er enghraifft, o ran defnyddio gwely haul? Ac mae caniatâd rhieni yn dal yn ofynnol i briodi neu i wasanaethu yn y lluoedd arfog. Hoffwn grybwyll hefyd ar y pwynt hwn, fel rhywun sydd wedi hen arfer ymgyrchu, fod pobl 18 i 30 oed yn aml yn cael eu heithrio achos, wrth gwrs, ni chaiff gwleidyddiaeth ei dysgu mewn ysgolion. Ceir y math hwnnw o wacter — [torri ar draws.] Byddai, byddai fy holl ysgolion yn Aberconwy yn hoffi gweld mwy o sylw i'r system wleidyddol yn y maes llafur. Felly, hoffwn i ofyn ichi sut yr ydych chi'n bwriadu sicrhau bod y bobl hynny sydd eisoes yn gallu pleidleisio yn cyfranogi mwy.  

O ran eich cynigion i ganiatáu i gynghorau unigol newid i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, byddwch yn cofio, mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Diwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad', fod 60 y cant o'r rhai a ymatebodd yn ffafrio trefn y cyntaf i'r felin oherwydd y teimlad oedd bod pobl yn ei deall yn well, ac roedd 94 y cant o'r farn ei bod yn well cadw at un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. Mae'r ymateb hwn yn ymddangos yn groes i'ch cynigion chi heddiw, felly sut allwch chi gyfiawnhau hynny?

Croesawn y gofyniad i ymgeiswyr gofrestru aelodaeth plaid wleidyddol os nad ydyn nhw'n sefyll o dan faner plaid a'r gwell tryloywder ac atebolrwydd a fyddai'n dod gyda hyn. Rydym i gyd yn gwybod—mewn etholiadau comisiynwyr yr heddlu—pan fo pobl yn sefyll fel aelodau annibynnol, mewn gwirionedd, maen nhw'n aelodau o blaid wleidyddol. Rwy'n gwybod nad yw tri aelod ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a etholwyd o dan faner Plaid Cymru fis Mai diwethaf yn aelodau o unrhyw blaid wleidyddol ar y cyngor hwnnw bellach.

Ac yn olaf, croesawn yn fawr—ac rydym ni wedi bod yn galw am hyn—y newidiadau arfaethedig o ran rhoi terfyn ar swyddogion canlyniadau yn cael eu talu gan eu cynghorau eu hunain. Nid yw'n iawn, fel yr ydych chi yn gwbl gywir yn cyfeirio ato, fod prif weithredwr yn gallu bod ar gyflog mwy na Phrif Weinidog y wlad hon ac eto gall ennill oddeutu ugain mil o bunnoedd yn ychwanegol drwy fod yn swyddog canlyniadau. Mae hynny'n anghywir. Os ydych yn mynd i roi terfyn ar Aelodau Cynulliad yn gwneud gwaith cynghorwyr hefyd, dylech chi fod yn rhoi sylw i hynny ac rwy'n cefnogi hynny. 

Ac yn olaf oll, o ran newidiadau i gymhwysedd ymgeiswyr, tybed beth fyddai'r gost petai awdurdodau lleol yn rhoi seibiant gyrfa i ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn yr etholiad sydd yn gyflogedig gan y cyngor, lle mae gwrthdaro buddiannau yn debygol. Hefyd, eto, bydd costau'n digwydd os yw adrannau'n caniatáu i bobl gyflawni eu dyletswyddau fel cynghorwyr—sut y telir y gost o ran cyflenwi eu gwaith ac ati. 

Felly, rwy'n credu bod llawer o gwestiynau yma i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Edrychaf ymlaen at graffu ar hyn pan gaiff ei gyflwyno. Hoffwn ddweud hyn: rwy'n falch eich bod wedi cael y cwrteisi o'r diwedd i gyflwyno hyn yn y Cynulliad hwn. Roedd yn siomedig gweld Plaid Lafur y DU yn trydar y cyhoeddiad hwn cyn y rhoddwyd unrhyw fath o gwrteisi i ni, Aelodau Cynulliad. Byddwn ond yn dweud wrthych nad hon yw'r ffordd orau o wneud cychwyn da pan rydych eisiau gwneud newidiadau mor ddifrifol i'n system etholiadol. Diolch i chi.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:08, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, credaf y bydd y Siambr gyfan o'r un farn â mi pan ddywedaf fy mod yn falch iawn nad wyf i bob amser yn atebol i'r lle hwn am weithredoedd Plaid Lafur y Deyrnas Unedig a'u swyddfa'r wasg.

Hoffwn ofyn i lefarydd y Ceidwadwyr liniaru ychydig o bosib ar ei darogan gwae. Mae'n ymddangos ein bod wedi gwrando ar restr pum neu chwe munud o hyd o'r holl broblemau a'r anawsterau fydd yn ein hwynebu wrth wneud unrhyw newid o gwbl. Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod dan sylw ac wrth Aelodau eraill y byddwn ni'n cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan drwy eu perswadio bod diben pleidleisio ac y gall pleidleisio newid rhywbeth ac y gall fod diben i bleidleisio o ran llunio dyfodol ein cymunedau. Awgrymaf nad yw gwneud dim byd ond rhestru problemau yn ysgogi unrhyw un nac unrhyw le i gofleidio newid.

Rwy'n dweud wrth lefarydd y Ceidwadwyr na fydd y cyhoeddiadau yr wyf yn eu gwneud y prynhawn yma yn effeithio ar gynghorau tref a chymuned. Bydd hi'n ymwybodol fod adolygiad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, a gyhoeddwyd gan fy rhagflaenydd, sydd bellach yn Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid, a byddaf yn gwneud datganiadau pellach ynglŷn â dyfodol y cynghorau tref a chymuned pan ddaw'n bryd cyflwyno'r adroddiad ar yr adolygiad hwnnw. Disgwyliaf i hynny fod ar ryw adeg ddechrau'r haf.

A gaf i ddweud, o ran ceisio ateb o leiaf rhai o'r cwestiynau y mae hi wedi eu gofyn y prynhawn yma, fod hyn yn rhan o gyfres o ddiwygiadau? Bydd hi'n ymwybodol o'r cwestiynau a gawsom ni yr wythnos ddiwethaf a'r datganiad a wnes i ar setliad i lywodraeth leol fy mod i wedi gofyn i'r holl Aelodau sydd yma, yn ogystal ag arweinwyr cynghorau ac aelodau o Senedd y DU, pa bwerau y credant y dylai fod gan y prif awdurdodau lleol. Nawr, hyderaf fod yr Aelod Ceidwadol dros Aberconwy wedi ysgrifennu ataf ar yr achlysur hwn erbyn y dyddiad cau, sef yfory, yn rhoi i mi ei barn ar hyn—[torri ar draws.] Nid yw hi wedi rhoi ei barn i mi am unrhyw beth. Byddwn wrth fy modd petai hi wedi gwneud hynny. Byddai'n gwneud fy ngwaith yn haws. Gadewch imi ddweud hyn: Rwy'n tybio—[torri ar draws.] Ni allaf ond tybio—. Nid wyf eisiau dechrau trafod yn y fan hon pa negeseuon e-bost a anfonwyd neu na chawsant eu hanfon, ond tybiaf y bydd hi'n ysgrifennu ataf heno gyda'r gyfres honno o gynigion sydd ganddi. 

Rwyf yn llunio cyfres o ddiwygiadau i lywodraeth leol, a hefyd gyda nhw, i fod yn sail i ddemocratiaeth leol a sicrhau bod pobl yn cyfrannu at etholiadau lleol a bod cynghorau lleol ac awdurdodau lleol yn fwy pwerus yn y dyfodol nag ydyn nhw heddiw. Mae hyn yn rhan o'r pecyn diwygio hwnnw, nid y pecyn yn ei gyfanrwydd, a dyma hefyd y datganiad cyntaf yr wyf yn ei wneud yma ynglŷn â'r broses ddiwygio gyfan. 

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi gofyn cwestiynau ynglŷn â thwyll pleidleiswyr a diogelu data. Mae'n rhaid imi ddweud wrthi, lle mae hyn yn digwydd eisoes yn yr Alban, nid oes unrhyw dystiolaeth bod unrhyw un o'r materion hynny yn destun pryder i awdurdodau yn yr Alban. Nid ydym yn disgwyl iddyn nhw fod yn broblemau i ni. Byddwn yn sicrhau bod trefniadau diogelwch priodol ar waith ar gyfer y rhai ar y gofrestr, p'un a ydyn nhw'n 16 neu 17 oed neu yn wir unrhyw un sy'n agored i niwed mewn unrhyw ffordd. A byddwn yn sicrhau bod canllawiau priodol ar waith i sicrhau nad yw twyll pleidleiswyr a diogelu data yn broblemau mewn unrhyw system newydd.

Rwyf yn derbyn y pwynt a wnaed am y gallu i symleiddio'r pleidleisiau drwy'r post. Yn amlwg, mae llawer o bobl yr ydym ni'n eu hadnabod a llawer o etholwyr yn dibynnu ar bleidleisiau drwy'r post, boed hynny oherwydd eiddilwch neu oherwydd bod ymrwymiadau gwaith yn golygu na allan nhw bleidleisio'n bersonol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu parhau i symleiddio'r broses o bleidleisio drwy'r post, ond rhaid imi ddweud y bydd angen inni sicrhau hefyd fod pleidleisiau post yn parhau i fod yn ffurf ddiogel o bleidleisio. Y rheswm, Llywydd, pam rwy'n ceisio pwerau caniataol yn y ddeddfwriaeth hon yw er mwyn rhoi cynlluniau arbrofol ar waith i ni allu ystyried gwahanol newidiadau yn y system bleidleisio, i wneud yn union yr hyn y mae'r Aelod yn ei awgrymu, sef deall yn ymarferol sut fydd y cynigion hyn yn gweithio o ran sut yr ydym ni'n ethol cynghorwyr newydd yn y dyfodol. 

Rwy'n gobeithio y gallwn ystyried amrywiaeth o gynigion gwahanol er mwyn gwella a chynyddu nifer y pleidleiswyr. Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gallu bwrw pleidlais yn electronig yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu pleidleisio ar ein ffonau yn y dyfodol, a gobeithio, hyd yn oed os na allwn ni wneud hynny yn y dyfodol agos, y gallwn ni symud at system o gyfrif electronig yn y dyfodol agos. Rwy'n dweud wrth yr Aelod, sydd yn ymddangos—sut allaf i fynegi hyn—yn llugoer ynghylch yr awgrym y dylem ni ehangu'r bleidlais i bobl 16 ac 17 oed, fy mod i'n gweld pobl ifanc yn frwdfrydig dros gymryd rhan yn y broses wleidyddol lle mae gwleidyddion yn gallu dangos bod diben ac amcan i bleidleisio. Credaf mai ein cyfrifoldeb ni yma ac mewn mannau eraill yw egluro i bobl sut y gall pleidleisio newid rhywbeth a phwysigrwydd cymryd rhan yn y broses etholiadau.

Mae'n fater i bobl eraill ymateb i rai o'r safbwyntiau a wnaed o ran cynrychiolaeth gyfrannol o'i gymharu â'r cyntaf i'r felin. Mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod dros Aberconwy bod rhan o addysg bersonol a chymdeithasol yn ymwneud â dinasyddiaeth weithgar. Rwy'n synnu nad yw hi'n ymwybodol o hynny. Bydd ein gallu i gyfathrebu ac addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd strwythurau gwleidyddol llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a'r Deyrnas Unedig yn ein helpu, gobeithio, i danio cenhedlaeth newydd o bobl i gymryd rhan yn ein democratiaeth a, gobeithio, i ddal pob un ohonom ni i gyfrif.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:14, 30 Ionawr 2018

Rwyf am ganolbwyntio ar dair agwedd yr ydych chi wedi’u nodi yn eich datganiad y prynhawn yma, ac mae’r tair yn ymwneud â chynyddu diddordeb a chael gwell cynrychiolaeth o fewn llywodraeth leol. Mae’r ffordd y mae pobl ifanc yn dod i gysylltiad â gwleidyddiaeth yn eu blynyddoedd cynnar yn hollbwysig i ddyfodol democratiaeth gynrychioladol, felly mae Plaid Cymru yn croesawu eich bwriad chi fel Llywodraeth i estyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Ond, heb os, mae yna ddiffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru. Er enghraifft, a ydy pobl yn gwybod pa Lywodraeth sy'n gyfrifol am redeg gwahanol wasanaethau? Mae hyn yn ymestyn i bob oedran. Mae yna asesiadau gan Brifysgol Caerdydd, er enghraifft, yn dangos bod yna broblem o ran diffyg diddordeb a gwybodaeth ymysg myfyrwyr yng Nghymru mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, ond hyd yn oed llai o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth leol.

Felly, wrth groesawu'r newydd cadarnhaol yma, mae rhywun yn troi’i olygon at addysg wleidyddol, ac rydym ni wedi trafod hynny’n fras yn barod. Rydw i’n gweld bod yna gyfle euraidd—law yn llaw â chyflwyno’r bleidlais i bobl ifanc, mae angen hefyd rhoi mwy o bwyslais ar wella addysg wleidyddol fel rhan o’r cwricwlwm. Rydych chi wedi sôn am ddinasyddiaeth o dan addysg bersonol a chymdeithasol, ond buaswn i’n licio cael eich barn chi tybed a oes angen gwneud mwy. A oes gennych chi gynlluniau i edrych yn bellach na beth sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn y cwricwlwm?

Mae’n ddealladwy, onid ydy, fod dieithrio gwleidyddol yn digwydd mewn cymdeithas lle nad ydy pobl yn gweld gwerth mewn pleidleisio, ac felly ddim yn cymryd sylw o wleidyddiaeth oherwydd efallai eu bod nhw'n teimlo nad yw eu pleidlais nhw bob tro yn cyfrif efo’r system etholiadol first-past-the-post? Felly, rydw i’n croesawu’ch ymrwymiad chi, yn y gorffennol ac yn y datganiad heddiw, i gyflwyno STV ar gyfer etholiadau lleol, ond nid yw’n mynd i ddigwydd, oni bai ei fod o'n cael ei wneud yn rhywbeth gorfodol ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru, ac yn fandadol ar gyfer pob awdurdod lleol—ddim yn rhywbeth iddyn nhw gael dewis yn ôl mympwy. Mewn gwirionedd, nid cynghorau ddylai gael penderfynu os ydyn nhw am fod yn atebol i’w hetholwyr drwy system etholiadol deg, a dweud y gwir; y Llywodraeth ddylai fod yn penderfynu ar fater o egwyddor fawr fel yna. Mae peidio â gwneud y newid yn fandadol yn dangos diffyg arweinyddiaeth, rydw i’n credu, ar ran y Llywodraeth. Hefyd, mae’n osgoi dyletswydd, fel Llywodraeth genedlaethol—mi ddylai’r arweiniad yna fod yno.

Rydym ni’n gwybod beth ydy manteision STV. Mae STV wedi cael ei ddefnyddio mewn etholiadau lleol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn fanna hefyd, ac, o ganlyniad, mae etholiadau llywodraeth leol yn llawer mwy cystadleuol. Mae cyfansoddiad llywodraeth leol ei hun yn clymu’n agosach at ddymuniadau’r boblogaeth ac mae yna lot fwy o ddiddordeb mewn etholiadau pan maen nhw’n cael eu cynnal drwy’r system STV. Felly, nid wyf i dal wedi fy argyhoeddi efo’r ddadl rydych chi’n ceisio’i wneud ynglŷn â gwneud STV yn rhywbeth dewisol—nid wyf yn deall, heblaw am resymau, efallai, o hunanddiddordeb pleidiol. Ni welaf i un ddadl arall, resymegol dros ei gwneud hi’n gwbl fandadol i STV fod yn rhan o etholiadau lleol yng Nghymru.

I barhau efo’r thema o gynrychioli’r boblogaeth yn well, rydw i’n mynd i faes efallai nad ydych chi’n ei grybwyll. Nid yw’r ddogfen ymgynghorol ar ddiwygio trefniadau etholiadol yn trafod sut i gynyddu cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol ar ein cynghorau ni, ac nid yw, ychwaith, yn mynd i ymafael â sut i gyrraedd at gydraddoldeb rhywedd. Dim ond 28 y cant o gynghorwyr sydd yn fenywod, wrth gwrs, ac mae’n rhaid inni fynd i’r afael â’r broblem sylfaenol yma o ddiffyg cydraddoldeb.

Rydw i’n meddwl fy mod wedi eich clywed chi ar y teledu ddydd Sul yn sôn bod angen mwy o ymgynghori ar eich cynigion ar gyfer rhanbartholi gwasanaethau. Os oes yna fwy o ymgynghori i ddigwydd, tybed a wnewch chi ystyried ymgynghori hefyd ar wahanol opsiynau i sicrhau cydraddoldeb rhywedd o fewn ein cynghorau ni. Wedi’r cyfan, mae cydraddoldeb rhywedd yn ein Cynulliad wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor gan y Prif Weinidog a chan y Gweinidog cydraddoldeb yn y Siambr yma, felly beth amdani? Beth am wneud rhywbeth o fewn llywodraeth leol hefyd? Mae’r drafodaeth yna’n fyw iawn ar hyn o bryd, ac rydw i’n credu ei bod yn amserol hefyd i ystyried sut i ddefnyddio’r system etholiadol i gyrraedd cydraddoldeb yn ein cynghorau lleol ac fe fuaswn i’n licio cael eich barn chi ar hynny. Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:19, 30 Ionawr 2018

Rydw i'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei chroeso cyffredinol i'r cynigion rydym ni'n eu gwneud y prynhawn yma. Rwy'n cyd-fynd â lot fawr o'r pwyntiau mae'r Aelod wedi eu gwneud, Llywydd. Rwy’n cyd-fynd â chi pan rydych chi'n sôn amboutu'r diffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru. Rydw i'n gwybod bod fy nghyfaill yr Ysgrifennydd addysg, er enghraifft, yn ysgrifennu at y BBC heddiw ar ôl eu hadroddiad nhw ar Today ddoe yn sôn amboutu polisi addysg Cymru a Lloegr—a 'Lloegr a Chymru' rwy'n credu yr oedden nhw'n ei ddweud. Rydw i'n meddwl bod yna ddiffyg dealltwriaeth o wleidyddiaeth yng Nghymru ac o natur gwleidyddiaeth yng Nghymru, nid yn arbennig ymhlith yr ifanc, er enghraifft, ond yn ein plith ni i gyd, oherwydd nad oes gennym ni'r math o le yn y byd gwleidyddol neu'r byd cyfryngol ym Mhrydain sy'n esbonio sut mae Prydain ei hun yn cael ei llywodraethu a chyfansoddiad Prydain. Rydw i'n credu bod hynny'n rhywbeth mae'n rhaid inni ei ystyried ymhellach. Rydw i'n gweld bod y Gweinidog ar gyfer darlledu yn y Siambr y prynhawn yma, ac rydw i'n siŵr ei fod e'n mynd i barhau i godi'r materion yma.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:21, 30 Ionawr 2018

Mae dinasyddiaeth yn beth hanfodol bwysig. Mae'n bwysig ei bod hi'n cael ei dysgu yn ein hysgolion ni, ond hefyd, mi fuaswn i'n dweud bod dinasyddiaeth yn beth pwysig i ni i gyd, ac mae deall sut rydym ni'n cyd-fyw gyda'n gilydd yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig. Rydw i'n mawr obeithio bod y ffordd rydym ni'n newid ein gwleidyddiaeth ni i estyn y franchise i bobl ifanc, a sicrhau ein bod ni'n newid hefyd y ffordd rydym ni'n ymgyrchu pan rydym ni'n sefyll etholiad—. Rydw i'n credu bod hynny'n mynd i fod yn hollbwysig wrth ysbrydoli pobl i bleidleisio am y tro cyntaf.

Mae'r Aelod hefyd yn fy nhemtio i, unwaith eto—sut allaf i ddweud hyn—ar fater STV a sut rydym ni'n pleidleisio. Mae fy marn bersonol i yn gwbl glir, ac mae'r Aelod yn gwybod lle'r ydw i'n sefyll ar hyn. Rydw i'n cefnogi STV ar gyfer etholiadau yma, yn San Steffan ac i lywodraeth leol. Nid oes gen i ddim amheuon ac rydw i'n cyd-fynd â'r Aelod ar beth mae'n ei ddweud amboutu manteision STV. Mi fuasai hynny, wrth gwrs, hefyd yn helpu datrys y broblem yr oedd Janet Finch-Saunders wedi ei chodi yn ei chyfraniad hi pan roedd hi'n sôn amboutu diffyg cystadleuaeth ar gyfer rhai seddi mewn rhai rhannau o Gymru.

Ond mae'n rhaid i fi, ac mi fuaswn i'n awgrymu bod yn rhaid i chi hefyd, gydnabod nad oes yna ddigon o gefnogaeth ar hyn o bryd i symud at y system yma. Heb fod yna gefnogaeth gyffredinol ar draws y wlad, nid wyf i'n credu y dylem ni orfodi newid i'r system etholiadol ar bobl. Rydym ni'n creu'r pwerau yma, y pwerau newydd i alluogi cynghorau i wneud penderfyniadau eu hunain os ydyn nhw'n meddwl bod y bobl maen nhw'n eu cynrychioli eisiau iddyn nhw symud i gyfeiriad felly. Ond yr unig ffordd y buaswn i'n newid y system yn gyffredinol byddai gwthio hynny drwyddo, ac nid wyf i'n credu fy mod i eisiau gwneud hynny, ac nid wyf i'n credu, ar hyn o bryd, fod yna gefnogaeth gyffredinol ar draws y Siambr i wneud hynny. Mi fuaswn i siŵr o fod yn ymgyrchu gydag Aelodau eraill i efallai newid hynny yn y dyfodol, ond dyna le'r ydym ni heddiw, ac rydw i'n credu bod y datganiad rydw i wedi ei wneud heddiw yn adlewyrchu'r sefyllfa bresennol.

Rydw i'n cyd-fynd â chi pan rydych chi'n sôn am gydraddoldebau a sut rydym ni'n gallu defnyddio'r strwythurau ar gyfer llywodraeth leol i sicrhau bod grwpiau lleiafrifol yn cael eu cynrychioli mewn cynghorau ar draws y wlad. Mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fater trafod yn o leiaf un o'r Papurau Gwyn rydym ni wedi eu gweld ar lywodraeth leol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae yn fy meddwl i ar hyn o bryd—nid yw e'n rhan ganolog o'r datganiad rydw i wedi ei wneud y prynhawn yma, ond mi wnes i awgrymu yn ystod y datganiad fy mod i'n mynd i ystyried sut rydym ni'n talu cynghorwyr ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod ni'n gallu apelio at fwy o bobl a chreu mwy o gyfle i bobl sefyll etholiad yn y dyfodol. Rydw i'n meddwl y buasai hynny'n helpu i sicrhau bod gyda ni fwy o gydraddoldeb y tu mewn i siambrau cynghorau ar draws y wlad yn y dyfodol. Felly, mi fydd yna drafodaeth, ac rydw i'n gobeithio y byddaf i'n arwain trafodaeth ar hyn yn ystod y misoedd nesaf.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 3:25, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Mae yna rai pwyntiau synhwyrol yn y datganiad hwnnw y byddem ni ar y cyfan yn eu cefnogi, a rhai mwy dadleuol. I ddechrau gyda'r pethau da: swyddogaeth prif weithredwr y Cyngor fel y swyddog canlyniadau mewn etholiadau llywodraeth leol. Byddem yn cytuno â chi y dylai hon bellach fod yn swyddogaeth statudol ar gyfer prif weithredwr y cyngor, ac y dylid diddymu'r tâl mawr am y swyddogaeth honno y mae'r swyddog canlyniadau yn ei chyflawni, yn enwedig yn yr amseroedd hyn pan mae cynghorau lleol yn brin o arian. Felly, cytunwn yn llwyr â chi ar hynny. Fe wnaethom ni dreulio ychydig o amser yn sôn am bleidlais sengl drosglwyddadwy. Credaf fod hynny'n fater diddorol—ddiddorol oherwydd erbyn hyn mae gennym ni Weinidog sydd wedi cefnogi'r system honno yn gyhoeddus, sy'n ddatblygiad da. Y cwestiwn yw hyn: a fydd eich presenoldeb chi, y Gweinidog, yn gallu cael unrhyw effaith ystyrlon ar etholiadau cynghorau lleol a'r ffordd y maent yn cael eu cynnal?

Nawr, mae David Melding yn eistedd draw yn y fan yna, a bydd yn debyg, gyda'i atgofion o'r pethau y deddfwyd o'u plaid neu na ddeddfwyd o'u plaid yn y Siambr hon, yn cofio bod hyn yn destun trafodaeth yn nhymor cyntaf y Cynulliad, pan oedd Rhodri Morgan yn fras o blaid newid y system bleidleisio ond ni ddigwyddodd hynny. A dyma ni, 15 neu 16 mlynedd yn ddiweddarach. Nawr, rydym bellach mewn sefyllfa lle rydych chi'n mynd i ddweud y bydd cynghorau yn cael symud i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, ond na fydd hi'n orfodol. Iawn, fe allech chi wneud y pwynt bod angen ichi ymgynghori ac na allwch chi orfodi cynghorau i wneud rhywbeth, ac mae angen ichi gynnal yr egwyddor o wneud pethau'n lleol. Gallech chi gyflwyno dadleuon amrywiol, ond y broblem yw mai'r hyn a gewch chi yn y pen draw, mae'n debyg, yw llawer o gynghorau Llafur, sy'n mynd i gadw, yn syml, at y system cyntaf i'r felin. Wrth gwrs, mae hynny mor amlwg â'r dydd. Felly, byddwn yn edrych â diddordeb i weld beth sy'n digwydd o ganlyniad i alluogi cynghorau lleol i symud at system newydd. Ond rwyf yn rhannu amheuon Siân Gwenllian ynglŷn â beth fydd yn dilyn mewn gwirionedd.

Nawr, y pwyntiau eraill—codwyd nifer gan Janet Finch-Saunders yn ei darlun cynhwysfawr braidd o'r hyn yr oeddech yn ei wneud. Tueddaf i gytuno â llawer o'i phwyntiau hi. Ni wnaf eu hailadrodd, wrth gwrs, ond dim ond cyfeirio eto at y pwyntiau yr oedd hi'n eu gwneud ynghylch twyll posib gan bleidleiswyr. Cytunaf, e-bleidleisio—mae'n ddiddorol. Gallech chi ennyn diddordeb mwy o bleidleiswyr—mae hwnnw'n nod canmoladwy. Rydych chi'n cyfeirio at yr Alban, lle bu cynllun arbrofol, ac ni chafwyd llawer o dystiolaeth o dwyll. Wel, cadwch lygad ar hyn, da chi, oherwydd nid ydym eisiau clywed mewn pedair neu bum mlynedd bod llawer o dwyll yn digwydd.

Rydym eisoes wedi clywed am y cynnydd enfawr mewn pleidleisio drwy'r post, sydd wedi arwain at achosion o dwyll etholiadol—fel y nododd Janet, enghraifft Tower Hamlets. Felly, rwyf hefyd yn gofyn a allech chi gynnwys adolygiad o'r cynnydd enfawr hwn mewn pleidleisio drwy'r post yn eich adolygiad. Ac a ydych chi'n cytuno y dylai pleidleisiau post fod ar gael dim ond i'r rhai sydd wirioneddol eu hangen? Felly, dyna un cwestiwn. Cwestiwn arall yw hyn: pa fesurau diogelu penodol yr ydych chi'n dymuno eu cyflwyno o ran e-bleidleisio? 

Y mater o bobl 16 a 17-oed—wel, roeddech chi'n annifyr braidd gyda Janet pan soniodd hi am y system addysg, ond mewn gwirionedd nifer o'r ymgyrchwyr ifanc sydd eisiau pleidlais yn 16 a 17 oed sydd wedi crybwyll yr hyn y maen nhw'n ei alw yn 'addysg wleidyddol ddiduedd'. Felly, ymddengys eu bod nhw'n teimlo bod hynny'n ddiffyg yn y system. Felly,  hoffwn i ofyn eto, fel y mae eraill yn gofyn heddiw: a oes angen rhywfaint o newid ar y cwricwlwm addysg? Ond, wrth gwrs, ceir hefyd y broblem o sut ar y ddaear mewn gwirionedd mae darparu addysg wleidyddol ddiduedd. Felly, mae'n gleddyf daufiniog braidd, y mater hwnnw. Bydd hynny'n anodd wrth ichi fwrw ymlaen.

Yn olaf, pleidleisiau carcharorion—ymddengys fod hyn yn gynnig gwrthnysig braidd, oherwydd ymddengys nad oes unrhyw fath o gefnogaeth iddo ymysg y boblogaeth yn gyffredinol. Ymddengys fod y polau piniwn diweddaraf yn dangos bod 70 y cant o'r boblogaeth yn erbyn rhoi'r bleidlais i garcharorion. Os ydych chi'n mynd i geisio rhoi'r bleidlais i garcharorion, a gaiff unrhyw ymdrech ei wneud i gynyddu'r bleidlais ymysg  gweithwyr y lluoedd arfog? Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:29, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, pryd bynnag yr ydym ni'n trafod y materion hyn, mae rhaniad clir mewn gwleidyddiaeth, lle mae pleidiau'r chwith yn dymuno cynyddu cyfranogiad ac annog pobl i bleidleisio, a'r pleidiau ceidwadol hynny ar y dde yn ceisio atal pobl rhag pleidleisio, ac yn ceisio mygu pleidleiswyr ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o osod rhwystrau o ran galluogi pobl i bleidleisio. A chaniatéwch imi ddweud hyn: rwyf eisiau perswadio ac annog, a hyd yn oed, os gaf i fod mor hy a dweud, i ysbrydoli pobl i bleidleisio ac i gymryd rhan yn ein democratiaeth. Ac nid ydych chi'n gwneud hynny, Llywydd, drwy restru'r anawsterau, rhestru problemau a darogan gwae inni dro ar ôl tro.

Sefais ar gyfer etholiad, nid er mwyn gwneud dim ond disgrifio anawsterau'r cymunedau roeddwn i'n ceisio eu cynrychioli, ond i ddarganfod atebion i'r problemau hynny a cheisio datrys y problemau yr ydym ni'n eu hwynebu. A dyna pam, wrth geisio gwneud y datganiad hwn y prynhawn yma, rwyf eisiau annog mwy o bobl i bleidleisio. Rwyf eisiau i bobl 16 ac 17 oed yn y wlad hon deimlo'n rhan o'r gymuned hon a bod yn rhan o ddyfodol eu teuluoedd a'u cymunedau. A byddwn yn rhoi hawl iddyn nhw bleidleisio, a byddwn yn sicrhau eu bod yn gallu arfer yr hawl honno. Byddwn yn gwneud hynny yn syml drwy gyfrwng addysg, ond fe wnawn ni hynny hefyd drwy'r ffordd y byddwn ni, bleidiau gwleidyddol, yn ymgyrchu, a thrwy'r ffordd y byddwn ni wleidyddion a Gweinidogion yn llywodraethu. A byddwn yn ysbrydoli pobl i bleidleisio. Dyna fy agwedd i. Dyna rwy'n ei ddymuno ac yn disgwyl i'r Llywodraeth hon yn ei chyfanrwydd ac i eraill ei wneud.

Ond caniatewch i mi ddweud hyn: holl bwrpas, y diben o ddarparu ar gyfer pwerau caniataol i'n galluogi i edrych ar ddewisiadau gwahanol, ac i edrych ar wahanol bosibiliadau a dyheadau, i'n galluogi i wneud y newidiadau hyn, yw deall goblygiadau'r newidiadau hynny, ac i ddeall goblygiadau'r hyn yr ydym ni yn ceisio ei gynnig. Felly, byddwn yn sicrhau y bydd y Comisiwn Etholiadol yn rhoi sylw ac ystyriaeth i bob prosiect peilot, yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth, a chyn inni wneud unrhyw newidiadau parhaol sylfaenol i'r system etholiadol, byddwn yn sicrhau ei bod yn ddiogel, byddwn yn sicrhau y caiff ei diogelu rhag twyll, a byddwn yn sicrhau ei bod yn perfformio fel yr ydym yn disgwyl iddi wneud, ac mae hynny'n golygu cynyddu cyfranogiad hefyd.

Ond caniatewch i mi ddweud hyn: wrth sicrhau bod modd i bobl 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio, rydym ni'n edrych ar gynyddu'r hawl i bleidleisio a rhoi cyfran iddyn nhw yn ein cymdeithas ac yn ein cymunedau. Caniatewch imi ddweud hyn: rwyf eisiau sicrhau bod y bobl hynny, yn enwedig y bobl hynny sy'n cyflawni dedfrydau carchar cymharol fyr, hefyd yn teimlo bod ganddyn nhw ran yn y gymdeithas a'r gymuned lle maen nhw'n byw. Mae angen inni sicrhau bod, yn bennaf yn yr achos hwn, dynion ifanc, yn teimlo bod ganddyn nhw gyfran yn eu cymuned, ac mae angen inni roi pwyslais clir ar adsefydlu, ar hyfforddiant, ar sicrhau nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw wedi eu heithrio o gymdeithas, ond yn teimlo eu bod nhw wedi cael cyfleoedd i chwarae rhan lawn yn ein cymdeithas. A byddwn yn gwneud hynny drwy sicrhau bod pobl sydd dan glo am gyfnodau byr yn gallu pleidleisio mewn etholiadau lleol, ac yn teimlo y cawn nhw eu gwerthfawrogi a'u bod yn werthfawr yn ein cymdeithas, ac y byddwn yn buddsoddi yn eu dyfodol nhw ynghyd ag yn ein dyfodol ni.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:33, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r cyfle i ofyn cwestiynau am y datganiad yn trafod llywodraeth leol agos ddigon.

Rwy'n croesawu'r cynigion i roi hwb i niferoedd yr etholwyr cofrestredig, i'w gwneud hi'n haws i bobl fwrw eu pleidleisiau, a rhoi'r hawl i fwy o bobl gymryd rhan. Onid hynny yw diben democratiaeth—ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl bleidleisio. Rwy'n rhoi croeso brwd i roi'r bleidlais i bobl 16 ac 17 mlwydd oed. Roedd fy merch a'i ffrindiau, sy'n 16 a 17oed, yn teimlo'n ddig iawn na allen nhw bleidleisio yn y refferendwm Ewropeaidd, gan eu bod yn  teimlo y byddai'n cael effaith fawr ar eu dyfodol. Mae symud pob etholiad i gyfnod penodol cyffredin yn bwysig oherwydd mae'n atal etholiadau i haenau gwahanol Llywodraeth rhag gael eu cynnal ar yr un diwrnod, felly gall pob un ohonyn nhw gael eu mandad eu hunain. Er fy mod i'n cefnogi cynghorwyr yn gwasanaethu hyd at ddiwedd eu cyfnod ar ôl cael eu hethol i'r Cynulliad, ni ddylai unrhyw aelod o'r Cynulliad allu sefyll ar gyfer unrhyw gyngor. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr bod prif weithredwyr ar gyflogau bras yn cael tâl ychwanegol am fod yn swyddog canlyniadau, ac mae rhai cynghorau eisoes wedi gwneud hyn yn rhan o swyddogaeth y Prif Weithredwr. Rwy'n croesawu'r cynlluniau arbrofol.

Pedwar cwestiwn. Pam na allwn ni ddefnyddio cofrestr electronig gyffredin fel y gall pobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio? Ynglŷn â phleidleisio electronig, mae gennyf ffydd yn y diogelwch yn erbyn hacio. Pa drefniadau diogelu a fydd yna i rwystro pobl rhag casglu'r codau a'u defnyddio wedyn? Ynglŷn â chyfrif electronig, beth sydd i atal y llanast a fu gyda phapurau na thyllwyd yn gywir ac a gostiodd yr arlywyddiaeth i Al Gore?

Ynglŷn â phobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol, allwch chi ddim gwahaniaethu rhwng y rhai a gyflogir yn uniongyrchol a'r rhai a gyflogir yn anuniongyrchol? Cawsom yr enghraifft o bobl yn gweithio ar gyfer sefydliadau sy'n cael eu cyllido'n rhannol gan gyngor, mae yna enghreifftiau hanesyddol o bobl sy'n gweithio yn y colegau polytechnig, mae yna athrawon ysgol sydd i gyd wedi'u heithrio ac, er eu bod yn cael eu talu gan y cyngor, maen nhw hyd braich oddi wrtho rywsut o ran eu cyflogaeth. Felly, a allwn ni gael rhyw ffordd o wahaniaethu rhwng y rhai a gyflogir yn uniongyrchol, a'r rhai y mae eu cyflogaeth, er mai'r cyngor sy'n eu talu nhw, yn anuniongyrchol?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:35, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Llywydd, ni fyddai unrhyw un byth yn cyhuddo Mike Hedges o beidio â siarad digon am lywodraeth leol, ac rydym ni'n croesawu ei brofiad a'i wybodaeth am y pwnc. Dywedais wrth yr Aelodau yr wythnos diwethaf na fyddwn i byth yn ei herio eto, a gobeithiaf lynu at hynny yn yr ateb hwn heddiw.

Gobeithio, o ran sefydlu cofrestr electronig genedlaethol, y gallwn ni symud at sefyllfa lle gallwn bleidleisio pan na fyddwn ni o reidrwydd yn ein wardiau, neu etholaeth. Yn sicr, byddwn yn croesawu hynny fy hun, ac rwy'n tybio mai materion o'r fath y byddem yn dibynnu ar dechnoleg i'w datrys. Gwelaf fod arweinydd y tŷ, sy'n gyfrifol am faterion digidol yn y Llywodraeth hon, yn amneidio, ac rwy'n falch iawn o hynny. Mae'n rhoi tawelwch meddwl imi, o leiaf ar y mater hwn, fy mod i, gobeithio, yn dod i'r canlyniadau cywir. 

Ynglŷn â'r trefniadau diogelu o safbwynt codau a materion eraill, byddwn yn sicrhau, yn amlwg, bod y materion hyn yn ddiogel. Dyna pam rydym ni'n ceisio cyflwyno cynlluniau arbrofol, ac nid ydym yn mabwysiadu systemau newydd yn syth. A chredaf y byddwn ni'n dysgu o'r cynlluniau arbrofol y byddwn yn eu gweithredu, a byddwn, gobeithio, yn sicrhau bod gennym ddemocratiaeth gyfranogol, lle mae pobl yn teimlo y gallan nhw gymryd rhan mewn etholiadau ble bynnag y maent, ac yn gwneud hynny'n hawdd.

O ran cyfrif electronig, mae'r systemau yr ydym ni wedi eu gweld ar waith yn systemau gwahanol i'r rhai y mae'r Aelod yn eu disgrifio yn Fflorida. Ac wrth gwrs, rydym yn sôn am gyfri'r pleidleisiau yn hytrach na chofrestru'r bleidlais o safbwynt cyfrif electronig. Rwy'n hollol ffyddiog bod hynny'n un diwygiad y gallem ni ei gyflwyno yn gyflym iawn, iawn.

Fe wnes i bwynt yn fy natganiad, Llywydd, o geisio sicrhau bod gennym ni farn agored am faterion yn ymwneud â phobl yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae'r pwynt a wnaeth yr Aelod yn gwbl gywir. Nid ein dymuniad ni yw atal pobl rhag cymryd rhan neu sefyll mewn etholiad os oes unrhyw ffordd o gwbl lle gallwn ni annog pobl a'u galluogi i wneud hynny. Felly, bydd y sgwrs y byddwn yn ei chael dros y misoedd nesaf yn sgwrs ymarferol ynghylch sut y gallwn ni alluogi pobl i sefyll etholiad i awdurdodau y maen nhw'n cael eu talu ganddo, ac ni fyd yn bwynt o egwyddor neu sgwrs negyddol ynghylch sut y gellir atal hynny. Bydd yn sgwrs gadarnhaol ac agored ynghylch ceisio galluogi mwy o bobl i sefyll mewn etholiad, a sut y gellir rheoli hynny.

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:38, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae llawer yn y datganiad hwn yr wyf yn ei groesawu'n gyffredinol. Rwy'n sylweddoli bod ychydig fisoedd o'n blaen cyn y cyflwynir y ddeddfwriaeth i'r Cynulliad, felly rwyf yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wrando. O'm rhan i, rwy'n credu y bydd ymestyn yr etholfraint i blant 16 ac 17 mlwydd oed yn ein galluogi i dreulio mwy o amser yn trafod addysg, yn enwedig ar gyfer pobl dan 18 oed. Nid wyf yn credu ein bod yn trafod digon ar addysg. Rwyf wedi credu erioed ei bod yn wallgof mai Prydain yw'r unig wladwriaeth fodern, ddiwydiannol lle ceir rhaniad o hyd rhwng addysg ysgolion elfennol ac uwchradd yn 11 oed. Ym mhob pob gwlad arall bron y gwn i am amdani, mae'r rhaniad yn digwydd yn ddiweddarach o lawer, a gallwn drafod rhai o'r cwestiynau mwy sylfaenol hyn ymhellach.

Fodd bynnag, mae gennyf rai amheuon, a dim ond cyfeirio yr wyf i at y rhain yn awr oherwydd, fel y dywedais, rwyf yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n credu bod torri'r cysylltiad rhwng dinasyddiaeth a'r hawl i bleidleisio yn broblem, ac mae angen inni ystyried hyn yn fanylach o lawer; mae angen meddwl yn ofalus iawn, iawn. Oni bai ein bod yn cynnig diwygio etholiadau'r Cynulliad yn yr un modd, yna mae peryg inni ddiraddio gwerth pleidlais ar gyfer etholiadau awdurdod lleol, drwy ganiatáu i bobl nad ydyn nhw'n ddinasyddion bleidleisio yn yr etholiadau. Felly, credaf fod angen inni fod yn ofalus iawn. Os caniatawn i bobl nad ydyn nhw'n ddinasyddion  bleidleisio, a ddylen nhw hefyd gael yr hawl i sefyll mewn etholiad? Byddai hyn eto, rwy'n credu, yn gynsail fyddai'n achosi problem. Rwy'n gwybod ein bod wedi caniatáu i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd bleidleisio, ond roedd hynny oherwydd ein bod ni'n arddel—wel, ar y pryd—ddinasyddiaeth gyffredin yn yr UE, ac am resymau hanesyddol tebyg iawn, mae dinasyddion y Gymanwlad hefyd wedi cael pleidleisio, a bu gan ein dinasyddion ni hawliau cyffelyb mewn mannau eraill, er enghraifft, yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Yn ail, a gwn pam y cynigwyd hyn, ac mae'n anodd cydlynu'r cylch etholiadol, ond rwy'n credu bod cyfnodau pum mlynedd yn rhy hir. Maen nhw'n rhy hir yma. Erbyn y bumed flwyddyn, rydym ni i gyd wedi blino'n lân ac mae angen llif newydd o dalent a syniadau. A'r peth arall yw yr effeithir ar y cylch deddfwriaethol hefyd. Os ydych chi'n rhoi pum mlynedd i bobl gall gymryd amser maith i wneud cynnydd a gwneud diwygiadau hanfodol. Rydym yn dal i aros am lif gwirioneddol y ddeddfwriaeth fwyaf pwysig a fydd yn dod cyn y Pumed Cynulliad, ac roedd hi yn union yr un fath yn y Pedwerydd Cynulliad. Mae cyfnodau pum mlynedd yn rhy hir.

Yn olaf, mae gwahardd cynghorydd rhag bod yn Aelodau Cynulliad, rwy'n credu, unwaith eto, yn peri gofid. Dylech ganiatáu i'r etholwyr lleol benderfynu. Mae bod yn aelod o fwy nag un ddeddfwrfa, yn fy marn i, yn rhywbeth y gallech chi ddweud bod gwrthdaro buddiannau dwys iawn yn ei gylch. Ond nid yw bod yn gynghorydd yn golygu mwy o wrthdaro buddiannau na bod mewn swydd. Mae gennym ni ein Rheolau Sefydlog sy'n caniatáu ar gyfer rheoli hynny drwy gael datganiadau o fuddiant. Ym model San Steffan mae gennym ni fam, nid yr holl seneddau, ond yr holl wrthddywediadau a'r gwrthdaro buddiannau, drwy gael aelodau o'r Llywodraeth—sydd fwy neu lai yn swydd lawn amser, yn fy nhyb i—yn y ddeddfwrfa. Felly, nid wyf yn credu bod dadleuon damcaniaethol argyhoeddiadol iawn i ddweud na all cynghorwyr eistedd yn y Siambr hon. 

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:41, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gobeithio y gallaf dawelu meddwl David Melding fy mod i'n barod iawn i wrando. Gobeithio fy mod i bob amser yn barod i wneud hynny, wrth gwrs, ond yn sicr o ran darparu datganiad y prynhawn yma, mae hyn yn cloi cyfnod o ymgynghori, ond nid ydym ni hyd yn hyn, wrth gwrs, wedi dechrau deddfu ac ni fyddwn yn gwneud hynny cyn yr hydref. Mae'n sicr yn fwriad gennyf, fel y dywedais wrth ateb Mike Hedges yn gynharach, i wrando o ddifrif ar yr hyn a ddywedir.

Yn anffodus, mae'n debyg fod yn rhaid imi anghytuno â David Melding ar y mater o ddinasyddiaeth. Rwy'n cydnabod y pwynt y mae'n ei wneud, ac nid wyf o reidrwydd yn teimlo ei fod yn bwynt hollol annilys. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysicach i ni yw undod ein cymunedau a'r ffaith y dylai pobl allu chwarae rhan lawn yn ein cymunedau os ydyn nhw fel arfer yn byw yn y gymuned honno. Felly, gobeithio y gallwn ddod o hyd i ateb. Rydym wedi cael ar ddeall eisoes na allai person sy'n ceisio lloches bleidleisio hyd nes y penderfynir ar ei gais a'i fod wedi cael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig. Byddai'r rhai fyddai'n cael lloches ac yn byw yng Nghymru yn cael yr hawl i gofrestru i bleidleisio. I mi, yr ymdeimlad o undod yn ein cymuned ac yn ein cymdeithas yw'r mater sy'n fy ngyrru, a dyna pam y credaf y dylem sicrhau y gall bawb sy'n byw mewn cymuned chwarae rhan yn llunio'r gymuned honno. 

O ran cyfnodau o bum mlynedd, mae'n rhaid imi ddweud bod gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â David Melding ynglŷn â hyn. Rwyf wedi dadlau'n gyhoeddus ac yn breifat ers peth amser fy mod i'n credu bod pedair blynedd yn gyfnod digon hir ar gyfer y lle hwn, ar gyfer Senedd y Deyrnas Unedig ac y byddai ar gyfer llywodraeth leol hefyd. Teimlaf fod ei sylw ynglŷn â sefydliad yn dechrau blino ar ôl cyfnod hir o amser heb etholiad yn bwynt da, ac mae pob un ohonom sydd wedi gwasanaethu sawl cyfnod yma yn deall ac yn gwerthfawrogi'r sylw y mae'n ei wneud. I mi, byddai'n well gennyf pe byddai ein holl sefydliadau democrataidd yn gwasanaethu cyfnod penodol o bedair blynedd. Fodd bynnag, gan ein bod ni ar hyn o bryd mewn sefyllfa yn y lle hwn o symud i gyfnod o bum mlynedd a bod Senedd y Deyrnas Unedig, fe ymddengys, yn cael pa gyfnod bynnag y mae'n ei ddewis, er gwaethaf y ddeddfwriaeth a basiwyd yno, yna ymddengys i mi y dylid trin llywodraeth leol yn yr un modd. Serch hynny, pe byddem yn ailagor y ddadl honno, byddwn i'n pleidleisio dros gyfnod o bedair blynedd ac nid pum mlynedd. 

Mae ei bwynt olaf yn ymwneud â gwahardd cynghorwyr yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae ef a minnau wedi eistedd gyda'n gilydd yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fel y mae eraill wedi gwneud, ac wedi trafod y pwynt hwn ar achlysuron blaenorol, ac mae pob un ohonom wedi cymryd rhan mewn dadleuon yma yn y Siambr ar y mater. Teimlaf fod y ddadl wedi ei gwyntyllu a'i hennill o ran—. Mae gwrthdaro buddiannau amlwg rhwng pobl sy'n dod yma ac yn eistedd yn y lle hwn a hefyd yn eistedd mewn mannau eraill. A gaf i ddweud hyn? Nid wyf yn credu bod materion megis cyfyngiadau amser y mae eraill wedi eu crybwyll yn arbennig o bwysig nac yn fy argyhoeddi na'm perswadio i. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw swyddogaeth y man hwn a lle'r man hwn yn ein democratiaeth. Mae'n bwysig—yn y dyfodol, rwy'n gobeithio y caiff llywodraeth leol ei weld yn swyddogaeth lawn amser, sy'n cynrychioli'r bobl yno, ond os, er enghraifft —. Rwy'n ceisio osgoi defnyddio unrhyw enghreifftiau wrth siarad. Os, er enghraifft—gadewch i ni ddefnyddio fi— cefais i fy ethol i gynrychioli, pan oeddwn yn cynrychioli'r Canolbarth a'r Gorllewin, ond fy mod yn cynrychioli ward yn Aberystwyth. Credaf y byddai gan bobl yn Sir Benfro neu Bowys reswm i ofyn cwestiynau arwyddocaol amdanaf i, ynghylch fy mlaenoriaethau. Rydym ni wedi gweld, dro ar ôl tro, bobl sy'n eistedd ar gyngor yn mynd yn ôl at faterion eu ward nhw yn y fan hon pan ddylem, mewn gwirionedd, fod yn cynrychioli'r etholaeth gyfan, boed hynny yn etholaeth ranbarthol neu etholaethol. 

Credaf hefyd, oherwydd ein bod ni'n gwneud penderfyniadau yma—. Ac rwyf yn anghytuno â'r pwynt o egwyddor a gododd David Melding yma; rydym yn gwneud penderfyniadau yn y fan hon ar gyllid ac ar faterion statudol y byddan nhw wedyn yn fater i lywodraeth leol. Nid yw'n iawn, nid yw'n briodol, y dylai cynghorydd wedyn fod yn rhan o wneud y penderfyniadau hynny ar y ddwy lefel. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:46, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae gennyf bedwar siaradwr arall sydd eisiau siarad. Os gall pawb gadw at gwestiwn cryno iawn, mi geisiaf alw pawb. Jenny Rathbone.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n anghytuno â Janet Finch-Saunders y dylem  symleiddio'r system sy'n gwirio pleidleisiau drwy'r post. Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr mai'r person sy'n bwrw'r bleidlais yw'r person sydd â'r hawl i wneud hynny. Ond rwyf yn tybio pa un ai—. Rwy'n cytuno y rhoddir llawer o bleidleisiau mewn gwirionedd yn y bin gan na chafodd y ffurflen ei  llenwi'n iawn. Tybed a oes modd ystyried anfon y bleidlais honno yn ôl at y person na lwyddodd i gwblhau'r dilysiad, gan egluro nad oedd y bleidlais yn ddilys, ac y byddai hynny o bosib yn eu galluogi i ystyried peidio â phleidleisio drwy'r post y tro nesaf.

Rwy'n credu y dylid ceisio annog pobl ag anawsterau dysgu neu lythrennedd i beidio â phleidleisio drwy'r post oherwydd mae'n symlach o lawer iddynt fynd i orsaf bleidleisio. Y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yno yw dod o hyd i'r ymgeisydd y maen nhw eisiau pleidleisio drosto ar y rhestr. Ond rwyf yn credu bod eich cynigion ynglŷn â phleidleisio electronig a diwrnodau gwahanol ar gyfer pleidleisio yn golygu y gallwn sicrhau bod pobl sy'n cael anhawster mynd i fan arbennig, sydd ar agor am 15 awr—. Gallem gael gorsafoedd pleidleisio symudol, er enghraifft, mewn cartrefi gofal neu mewn archfarchnadoedd am gyfnodau byr iawn o amser, a fyddai'n galluogi pobl sy'n cael anhawster cerdded i'r orsaf bleidleisio—yn galluogi i'r orsaf bleidleisio ddod atyn nhw. Dyna beth fyddai systemau pleidleisio electronig yn ein galluogi ni i wneud.

Pan feddyliwch sut yr ydym mewn gwirionedd yn gwella cywirdeb y gofrestr etholiadol, ni ddylem feddwl am fyfyrwyr ysgol yn unig, ond hefyd am y rheini sy'n darparu gofal cartref a allai gofrestru rhywun yn awtomatig sydd wedi diflannu oddi ar y gofrestr oherwydd eu salwch. Dylai fod yn ofynnol i gartrefi gofal cofrestredig a chartrefi nyrsio gofrestru pobl sy'n dod yn breswylwyr gyda nhw, a allai'n wir gael anawsterau wrth gofrestru'n electronig.

Rwy'n hapus i weld—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:48, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd angen i chi ofyn cwestiwn nawr.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour

(Cyfieithwyd)

Iawn. Ynglŷn â'r cwestiynau o bleidlais sengl drosglwyddadwy, a fyddai tyrcwn yn pleidleisio o blaid y Nadolig? Mae'r rheini a gafodd eu hethol dan y system cyntaf i'r felin yn annhebygol o fod eisiau newid i system arall. Felly, pa ffordd arall y gallwn ni gael y maen i'r wal ar y mater hwn?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:49, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn gobeithio y byddai Jenny Rathbone yn parhau gyda'i chwestiwn terfynol ynglŷn â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy ac yn rhoi ateb i'r cwestiwn imi. Rwy'n gefnogwr cryf o bleidleisiau teg, er mwyn sicrhau bod eich pleidlais yn cyfrif ym mhle bynnag yr ydych chi'n byw ac i annog pobl i gymryd rhan mewn etholiadau. Ac rwy'n credu bod cynrychiolaeth gyfrannol yn gwneud hynny. Fodd bynnag, mae'n rhaid i bob un ohonom gydnabod nad oes gennym ni fandad ar gyfer hynny ar hyn o bryd, ac nid oes gennym ni'r gefnogaeth i wneud hynny ar hyn o bryd. Er hynny, byddwn i'n dweud, mae'r rhan fwyaf o'r astudiaethau a welais i, o ran sut nad yw canlyniadau rhai o'r etholiadau hyn yn creu'r newidiadau radical y mae rhai yn honni y byddent yn ei wneud. Felly, rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ceisio—a gobeithio y cawn ni'r ddadl hon yn y lle hwn am yr hyn sydd orau i'r sefydliad ac sydd orau i Gymru yn hytrach na beth fyddai orau i efallai Jenny Rathbone neu i Alun Davies, a gobeithio y byddai pawb yn ystyried y ddadl yn yr ysbryd hwnnw.

A gaf i ddweud y credaf y dylem ni bob amser ystyried symleiddio'r dull o bleidleisio a sicrhau y caiff pleidleisio ei ystyried yn rhywbeth syml ac mor hawdd â phosib? Yn amlwg, y cydbwysedd yw sicrhau nad yw pleidleisio twyllodrus yn digwydd ac nad ydym yn teimlo bod y system yn agored i'w cham-drin. Byddwn bob amser yn chwilio, ac, fel Gweinidog, byddaf bob amser yn ystyried sut i symleiddio'r broses bleidleisio, y broses etholiadol, a byddwn ni'n gwneud hynny mewn ffordd gadarnhaol. Cytunaf yn gryf â'r pwyntiau a wnaethoch chi ynghylch cofrestru etholwyr, a sicrhau bod gennym orsafoedd pleidleisio, neu'r gallu i bleidleisio, mewn gwahanol leoedd.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 3:50, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n mynd i gyfeirio at ddiwylliant y Llywodraeth hon o warafun dewis i bobl, a chwestiynu hynny. Buaswn yn wirioneddol hoffi eglurhad ynghylch pam y gallwch chi fod yn landlord, gyda'ch cynigion, ac yn Aelod Cynulliad, gallwch fod yn gyfarwyddwr cwmni ac yn Aelod Cynulliad, gallwch fod yn ddarlithydd prifysgol, hyd yn oed, ac yn Aelod Cynulliad, a gallwch hyd yn oed fod yn aelod o'r Senedd Ewropeaidd ac yn Aelod Cynulliad, ac, wrth gwrs, gallwch hefyd fod yn aelod o Dy'r Arglwyddi ac yn Aelod Cynulliad. Felly, pam y pwyslais ar lywodraeth leol? Ac, ydw, rwy'n datgan diddordeb fy mod yn gynghorydd yma. 

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 3:51, 30 Ionawr 2018

Rydw i'n cynrychioli'r Tyllgoed yma yng Nghaerdydd.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gynrychioli fy nghymuned ar Gyngor Caerdydd.

Ond rwy'n credu bod y cyhoedd yn gweld drwy hyn. Mae'n eithaf amlwg eich bod yn ceisio chwarae gwleidyddiaeth plaid a chyflawni drwy ddeddfwriaeth yr hyn na allwch chi ei chyflawni drwy'r blwch pleidleisio. Pleidleisiodd dwy fil, pedwar cant a phedwar ar ddeg o bobl imi eistedd yn y fan yna fis Mai diwethaf, ac, fel mater o egwyddor ddemocrataidd, nid oes yr hawl gennych i ddweud wrth bobl sut y dylen nhw feddwl.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:52, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd angen i chi ddod at y cwestiwn.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch fod y Cynghorydd McEvoy wedi datgan ei ddiddordeb. Mae'n rhaid imi ddweud wrtho, o ran unrhyw ddrwgdeimlad personol yma, rwy'n credu y dylai edrych tuag at ei gyn blaid yn hytrach na'r Llywodraeth hon.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn gryno, Llywydd. Ysgrifennydd Cabinet, rhoddais ichi'n gynharach gopi o'r ddogfen hon, 'Votes@16', a oedd mewn gwirionedd yn grynodeb o'r safbwyntiau gan grwpiau gwaith yn Ysgol Y Pant ac Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn fy etholaeth i. A gaf i ddweud mor hynod o frwd yr oedden nhw, ac y maen nhw yn awr, rwy'n credu, ynglŷn â'r cynnig pendant hwn? Gadewch imi  ganolbwyntio ar un neu ddau o bwyntiau yn unig, a rhoi cwestiwn ar y diwedd. Y pwynt cyntaf a wnaed, yn fyr iawn, yw na fyddai'r genhedlaeth honno yn deall unrhyw siarad am roi'r hawl iddyn nhw bleidleisio os nad oedd modd gwneud hynny ar-lein. Caiff popeth ei wneud ar-lein, ac rwy'n croesawu'n fawr eich ymrwymiad i benderfynu ar drefniant yn hynny o beth.

Y pwynt olaf yr hoffwn i ei wneud a gofyn cwestiwn ichi yn ei gylch yw mai'r hyn sy'n gwbl glir yw bod y mwyafrif llethol o bobl 16 i 17 mlwydd oed eisiau'r hawl i bleidleisio, ond cyn belled â bod ganddyn nhw'r wybodaeth, a'r gallu, i wneud hynny. Mae hwnnw'n bwynt y maen nhw wedi ei wneud dro ar ôl tro, ac, yn wir, pan ofynnwyd iddyn nhw'n wreiddiol, roedden nhw'n rhanedig, hanner cant y cant yr un ynghylch hyn. Ond os oeddech chi'n dweud 'petaech chi'n cael yr wybodaeth a fyddai'n eich galluogi chi i gymryd rhan yn briodol', cododd hynny i bron iawn 100 y cant. Ymddengys i mi mai'r her allweddol y mae'n rhaid inni ei rhoi i'r genhedlaeth honno, ar gyfer y pleidleiswyr newydd hynny, yw'r gallu i gymryd rhan o oedran cynnar iawn. Ac mae'n rhaid inni gefnu ar yr obsesiwn hwn sydd gennym ni ynghylch 'O, rhaid ichi beidio â chael gwleidyddiaeth yn yr ysgol'. Mae a wnelo bywyd â gwleidyddiaeth, mae a wnelo cymdeithas â gwleidyddiaeth, ac mae'n rhaid inni roi cyfle o 12, 13, 14, 15 oed ymlaen—y gallu i ennyn eu diddordeb mewn materion gwleidyddol, materion yn ymwneud ag undebau llafur, materion cymdeithasol ac economaidd, a phob cam ar ôl hynny. Mae gan rai o'r ysgolion gyfyngiadau ynglŷn â hynny, ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar y rheini. Felly, mae angen polisi arnom sy'n ymwneud ag ymgysylltu cadarnhaol a theg â dinasyddiaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol, a dyna, mae'n ymddangos i mi, yw'r her fwyaf oll o ran ehangu'r bleidlais i bobl 16 ac 17 mlwydd oed, hyd yn oed i'r graddau fod nifer sylweddol wedi dweud, yn wir, heb hynny, na fydden nhw eisiau'r cyfle hwnnw. Felly, dyna'r her, Ysgrifennydd y Cabinet. Sut ydych chi'n bwriadu ymdrin ag ef?

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:54, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn dilyn eich esiampl chi, Mick Antoniw. Credaf, os nad yw'r Aelodau wedi gweld y ddogfen a gynhyrchodd, mae'n ddogfen o'r radd flaenaf ac yn dangos sut yr ydych chi mewn gwirionedd yn mynd ati i ymgysylltu â phobl. Gadewch imi, heb fod yn ormod o dreth ar eich amynedd, Llywydd, ddyfynnu dwy frawddeg yn unig ohono:  'Yn ddieithriad, bu'r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn dadleuon mewn ffordd frwdfrydig a meddylgar. Mynegwyd eu safbwyntiau gydag eglurder ac argyhoeddiad mawr.'

Cytunaf yn gryf â'r pwynt a wnaeth Mick Antoniw o ran sut i ymgysylltu â phobl—ac rwy'n credu, os nad oes ots gennych chi imi ddweud hynny, mae gennym enghraifft fendigedig o sut i wneud hynny yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi siarad gyda myfyrwyr yn Ysgol Y Pant yn ei etholaeth, ac mae hynny'n ffordd wych ymlaen i bob un ohonom.

Ond gadewch imi ddweud, wrth imi gloi'r mater hwn, rydym wedi disgwyl ac rydym yn disgwyl i bobl ifanc wneud penderfyniadau ynglŷn â chyfleoedd bywyd yn y dyfodol pan maen nhw'n 16 oed. Ni ddylem ni eu heithrio o wneud penderfyniadau am eu cymuned yn 16 oed. Roedd y chwyldroadwyr yn America yn y ddeunawfed ganrif wedi ei gwneud hi'n glir iawn i Lywodraeth Prydain ar y pryd na fyddai unrhyw drethiant heb gynrychiolaeth. Mae'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni'n credu sy'n atseinio drwy'r canrifoedd a bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau bod pawb yn ein cymuned yn teimlo'n rhan o'r gymuned honno ac yn gallu chwarae rhan yn y broses o lunio dyfodol y gymuned honno.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Rwy'n credu ei fod yn gadarnhaol iawn, yn flaengar iawn. Rwyf i, ers amser maith, wedi bod yn rhan o ymgyrch i gael pleidleisiau o bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed. Roedd gennyf Fil Aelod preifat yn Nhŷ'r Cyffredin yn 2008 ond daeth yr amser i ben cyn iddo gwblhau ei gwrs, ond yn sicr newidiodd bolisi'r Blaid Lafur. Felly, rwy'n falch iawn heddiw ein bod ni mewn gwirionedd yn cymryd cam tuag at bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed yn pleidleisio, hyd yn oed os mai dim ond mewn etholiadau llywodraeth leol y mae hynny, oherwydd rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dilyn yn gyflym iawn ar gyfer etholiadau'r Cynulliad. Un o'r prif resymau pam rwy'n credu y bydd hi mor dda rhoi'r bleidlais i rai 16 ac 17 oed yw y byddwn ni wedyn yn gwrando arnyn nhw, oherwydd mae'r hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud, rwy'n credu, mor bwysig.

Dim ond rhai cwestiynau cyflym sydd gennyf. Rwy'n credu bod cofrestru awtomatig yn gwneud synnwyr llwyr, ac yn meddwl tybed a oedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi ystyried y dull o nodi pleidleiswyr ifanc wrth iddynt gael eu rhifau Yswiriant Gwladol er mwyn gallu eu hadnabod yn awtomatig ar unwaith. Rwy'n poeni am y niferoedd mawr, y miloedd o bobl, nad ydyn nhw wedi cofrestru ac rwy'n arbennig o bryderus ynghylch y ffaith bod  cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli. Dengys y ffigurau gan y Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod 85.9 y cant o bobl wyn wedi'u cofrestru i bleidleisio, ond mai dim ond 76 y cant o ddinasyddion du a lleiafrifoedd ethnig oedd wedi'u cofrestru i bleidleisio. Felly, mae'r anghydraddoldeb hwnnw'n bodoli, felly sut mae'r Gweinidog yn credu y gallwn ni fynd i'r afael â hynny?

Rwy'n cefnogi'r holl wahanol ffyrdd a awgrymodd o geisio pleidleisio er mwyn ceisio cynyddu cyfranogiad. Rwy'n croesawu'r syniad o bleidleisio ar wahanol ddyddiau. Tybed a yw wedi ystyried cael cyfnod o amser ar gyfer pleidleisio, megis dros gyfnod o benwythnos neu bum diwrnod, fel y gwneir mewn rhai gwledydd, ac mewn rhai taleithiau yn yr Unol Daleithiau. Felly, tybed allai hynny fod yn ffordd o gynyddu cyfranogiad.

Rwy'n cefnogi pwyntiau Siân Gwenllian ynglŷn â cheisio cael merched i gymryd mwy o ran ac rwy'n credu—. Hoffwn i orffen, mewn gwirionedd, gyda'r pwynt a wnaeth y Gweinidog, bod yn rhaid ichi gael pobl i deimlo bod rhywbeth yn werth pleidleisio drosto os ydych chi'n pleidleisio, ac mae hynny'n gwbl hanfodol. Mae fy etholaeth i, sef Gogledd Caerdydd wedi gweld yn gyson y nifer mwyaf o bleidleiswyr yn etholiadau'r Cynulliad a hefyd yn etholiadau San Steffan. Y rheswm pam bod nifer y pleidleiswyr mor uchel yw na wyddoch chi byth beth sy'n mynd i ddigwydd yno; dydych chi byth yn gwybod pwy sy'n mynd i ennill, ac felly mae pobl yn teimlo bod ganddyn nhw reswm gwirioneddol dros bleidleisio. Ond, y tu hwnt i hynny, rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd arnom ni wleidyddion i geisio sicrhau bod gwleidyddiaeth yn berthnasol i fywydau pobl oherwydd mae gwleidyddiaeth yn gyffrous, ond nid yw pobl bob amser yn sylweddoli hynny.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:59, 30 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, y gwir reswm dros y nifer fawr o bleidleiswyr yng Ngogledd Caerdydd yw bod gennych chi ymgeisydd gwych yn Julie Morgan i bleidleisio drosti ac Aelod Seneddol yr un mor wych yn Anna McMorrin i'w chefnogi a'i hethol.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Datganwch fuddiant.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n fawr iawn gyda'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod? Gadewch imi fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn ag amrywiaeth, oherwydd nid yw wedi cael lle amlwg yn y ddadl y prynhawn yma. Mae angen inni sicrhau bod pobl yn teimlo y gallan nhw, ac y gallan nhw mewn gwirionedd gymryd rhan yn ein proses etholiadol. Ond mae  angen hefyd inni sicrhau bod pobl yn gallu gwasanaethu ar ôl yr etholiad hwnnw. Fy mhryder i yw, yn rhy aml, ein bod yn gweld disgrifiadau o'r garfan bresennol o aelodau awdurdod lleol ac nid yw hynny'n cynrychioli cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Rydym yn cydnabod hynny. Credaf fod angen inni fynd yn llawer, llawer iawn pellach a chael dadl fwy difrifol o lawer ynglŷn â sut yr ydym yn talu a sut yr ydym yn galluogi pobl i wasanaethu fel cynrychiolwyr yr awdurdod lleol. Rwy'n gwbl benderfynol o fynd i'r afael â'r materion hyn. Byddaf yn rhoi sylw i'r materion hyn mewn ymgynghoriad pellach yn yr ychydig fisoedd nesaf, a byddaf yn sicrhau ein bod ni'n gallu symud ymlaen ar y mater hwnnw.

Soniodd yr Aelod y bu iddi gyflwyno Bil Aelod preifat rai blynyddoedd yn ôl yn Nhŷ'r Cyffredin ynglŷn â gostwng yr oedran pleidleisio. Roedd un o'r cyfarfodydd cyntaf y siaradais i ynddyn nhw yn y lle hwn o blaid pobl sy'n cyrraedd 16 oed yn gallu cymryd rhan yn ein hetholiadau ni yma. Llywydd, rydych chi a minnau wedi cyfarfod er mwyn trafod y cynigion yr wyf yn eu gwneud heddiw. Hyderaf y byddwn yn gallu symud ymlaen i fod ag etholfraint gyffredin a set gyffredin o drefniadau etholiadol ar gyfer ein hetholiadau cenedlaethol i’n Senedd a hefyd ein hetholiadau i lywodraeth leol yn y dyfodol. Yn sicr, byddaf yn gweithio ac yn gwneud fy ngorau i sicrhau ein bod ni'n gallu gwneud hynny.