– Senedd Cymru am 4:23 pm ar 6 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 'Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2016-17'. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i wneud y datganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu cyhoeddiad yr ail adroddiad blynyddol gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, ar gyfer y cyfnod 2016-17. Hoffwn ddiolch i Dr Atherton am ei asesiad o'n cynnydd o ran gwella a diogelu iechyd y genedl, ei ddirnadaeth o fygythiadau i iechyd y cyhoedd, a'i ystyriaethau craff o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn ymdrin â'r rhain yn effeithiol.
Mae'n galonogol darllen am y gwelliant a fu mewn sawl agwedd ar gynnydd mewn iechyd cyhoeddus a gwelliannau parhaus mewn nifer o feysydd. Ar adeg pan fo hi'n rhy hawdd i sylwebyddion allanol wneud datganiadau cyffredinol ac anwybodus am ansawdd ein GIG, mae'n ddefnyddiol atgoffa ein hunain mewn adroddiad awdurdodol gan y Prif Swyddog Meddygol o rai o'r ffeithiau pendant ynghylch cyflwr iechyd a gofal iechyd yma yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn amlinellu bod disgwyliad oes cyffredinol yng Nghymru yn parhau i godi, hyd at 78.4 ar gyfer dynion ac 82.3 oed i fenywod. Mae'r rhan fwyaf o oedolion yn dweud eu bod mewn iechyd cyffredinol da, gyda dros 72 y cant o bobl dros 16 oed mewn iechyd 'da iawn' neu 'da'. Ac mae ein cyfradd marwolaethau babanod o 3.7 ym mhob 1,000, yn parhau'n isel mewn termau hanesyddol.
Fel yr ydym ni wedi trafod droeon ar lawr y Siambr hon, mae yna lawer o ffactorau sy'n effeithio ar iechyd y genedl. Mae gofal iechyd o ansawdd uchel yn un ohonyn nhw, wrth gwrs, ond ceir amrywiaeth eang o ffactorau cymdeithasol, megis tai, addysg, swyddi o ansawdd a'r amgylchedd, sy'n chwarae rhan hyd yn oed yn fwy. Ceir nifer sylweddol o fygythiadau iechyd cyhoeddus bob blwyddyn hefyd, ac mae adroddiad Dr Atherton yn amlygu llwyddiannau sylweddol wrth ymdrin â hyn. Un o'r enghreifftiau a ddyfynnir ynddo yw effaith cyflwyno'r rhaglen driniaeth hepatitis C i Gymru gyfan. Mae llwyddiant y rhaglen hon wedi golygu ein bod ni yng Nghymru, erbyn hyn, wedi trin neu'n rhoi triniaeth i'r holl gleifion sy'n hysbys i'r gwasanaethau hepatoleg ac oedd yn fodlon cael eu cyfeirio atyn nhw, a'u bod yn parhau i gael gofal, neu, yn symlach, rydym ni ar y blaen i bob cenedl arall yn y DU o ran trin a gobeithio dileu hepatitis C. Mae hynny yn achos dros gydnabod a diolch i'r grŵp hwnnw o glinigwyr sy'n arwain y gwaith hwnnw.
Mae hefyd yn cyfeirio at unigolion sydd wedi'u heintio ag HIV yn elwa ar therapïau gwrth-retrofeirysol fel y gallan nhw fyw bywyd mor iach â phosibl. Mae'n nodi bod nifer yr achosion newydd o HIV mewn unrhyw flwyddyn yn mynd ar i lawr erbyn hyn, a bod nifer yr unigolion sy'n cael profion bob blwyddyn yn cynyddu. Mae cynnal profion yn hanfodol bwysig erbyn hyn gan fod proffylacsis cyn dod i gysylltiad neu PREP ar gael i bawb sy'n cael sêl bendith glinigol. Rwyf i yn edrych ymlaen at ganlyniadau'r cyfnod treialu PREP maes o law wrth i ni gyflwyno cynllun treialu fydd yn un wirioneddol genedlaethol.
Mae'r adroddiad hefyd yn blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer ein rhaglenni tymhorol ar gyfer imiwneiddio rhag y ffliw ac imiwneiddio plant, a fydd yn angenrheidiol i sicrhau bod y rhaglenni hynny yn parhau i fod yn destun eiddigedd y byd.
Er y gellir ystyried bod clefydau trosglwyddadwy yn fygythiad iechyd cyhoeddus traddodiadol, mae Dr Atherton hefyd yn defnyddio ei adroddiad i amlygu'r risg i iechyd cyhoeddus sy'n datblygu yn sgil hapchwarae problemus. Mae'n canolbwyntio ar y niwed y gall hapchwarae ei achosi, nid yn unig i hapchwaraewyr unigol ond hefyd teulu, ffrindiau a'r gymdeithas yn gyffredinol; niwed a all gynnwys caledi ariannol, gofid seicolegol, a chwalfa perthynas bersonol ag eraill.
Mae'r adroddiad yn nodi nifer yr achosion o hapchwarae. Dim ond naw gwlad yn y byd sy'n gwario mwy y pen ar hapchwarae na'r DU. Yng Nghymru, mae 61 y cant o oedolion wedi hapchwarae yn ystod y 12 mis diwethaf: 63 y cant o ddynion a 59 y cant o fenywod. Amcangyfrifir bod 450,000 o blant rhwng 11 a 15 oed yn cymryd rhan mewn rhyw fath o hapchwarae bob wythnos ledled Cymru a Lloegr. Mae hynny'n cyfateb i 16 y cant o'r grŵp oedran hwnnw; mae 1.1 y cant o'n poblogaeth yn dweud eu hunain bod ganddynt broblem hapchwarae ac amcangyfrifir bod 3.8 y cant arall o bobl yng Nghymru mewn perygl o fod â phroblem hapchwarae. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu bod y niwed yn sgil hapchwarae yn anghyfartal o ran ei ddosbarthiad. Pobl sy'n economaidd anweithgar ac sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig sydd fwyaf tebygol o ddioddef y niwed mwyaf.
Mae Dr Atherton yn rhoi sylwadau ynghylch natur esblygol y diwydiant hapchwarae, ei farchnata a'i gynhyrchion. Nid yw hapchwarae yn digwydd dim ond mewn safleoedd traddodiadol megis arcedau, neuaddau bingo neu draciau rasio mwyach. Wrth gwrs, y dull o hapchwarae sy'n tyfu gyflymaf yw mentro ar-lein, sydd ar gael 24 awr y dydd, ar gael ar gyfrifiaduron, ffonau symudol neu dabledi. Yn y DU, mae bron i 9 miliwn o oedolion wedi mentro ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Yng Nghymru, nodwyd bod gan 9.2 y cant o hapchwaraewyr ar-lein a arolygwyd broblem hapchwarae.
Noda Dr Atherton yr achos o blaid dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â hapchwarae—dull o weithredu sy'n ceisio mynd i'r afael ag anghyfartaledd y niwed. Mae'n galw am amrywiaeth o gamau i leihau niwed sy'n gwneud mwy na chanolbwyntio ar unigolion yn unig, sydd hefyd yn cynnwys amrywiaeth eang o fesurau, gan gynnwys eiriolaeth, gwybodaeth, rheoleiddio a gwaharddiadau priodol mewn ffordd gydgysylltiedig. Wrth wneud hynny, mae Dr Atherton yn cydnabod bod hapchwarae yn cael ei reoleiddio yn bennaf ar lefel Llywodraeth y DU, gyda nifer o gyrff y DU yn gyfrifol am wahanol agweddau ar hapchwarae. Bydd ymateb effeithiol i'r niweidiau a achosir gan hapchwarae yn ei gwneud hi'n ofynnol llunio ymateb cydgysylltiedig.
Gwn fod nifer o'r Aelodau yn y lle hwn wedi dangos diddordeb mawr yn y broblem hapchwarae a'r angen i gynorthwyo hapchwaraewyr sydd â phroblem, yn ogystal ag ymdrin â pha mor gyffredin yw hapchwarae a pha mor rhwydd yw gwneud hynny. Yn ddiamau, byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ystyriol hwn sy'n tynnu sylw at y risgiau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer gweithredu. Byddaf i'n sicr yn ymuno â Dr Atherton a rhanddeiliaid perthnasol i ystyried y ffordd orau o ddatblygu'r argymhellion hynny, nid yn unig drwy ein galwadau am weithredu effeithiol ar lefel y DU; yn ogystal â hyn, byddwn yn ceisio defnyddio unrhyw bwerau newydd yng Nghymru mewn ffordd synhwyrol a chymesur i leihau'r niwed a achosir gan broblemau hapchwarae. Edrychaf ymlaen at ateb cwestiynau'r Aelodau. Diolch i chi.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch yn fawr am gyflwyno'r datganiad hwn ynglŷn ag adroddiad y prif swyddog meddygol. Rwyf i yn croesawu'r adroddiad hwn heddiw. Rwy'n credu ei fod yn amlygu'n glir yr heriau o ran sicrhau ein bod ni i gyd yn heneiddio'n dda. Mae'n newyddion gwych i weld y cynnydd mewn hirhoedledd—rwyf i fy hun yn ddiolchgar iawn o weld hynny—ond mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod y bydd dros chwarter poblogaeth Cymru dros 65 oed ymhen 20 mlynedd; chwarter ein poblogaeth yw hynny. Ac fe hoffwn i sicrhau bod cynlluniau heddiw yn cydnabod hynny, felly, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed sut y byddwch chi'n sicrhau y caiff gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eu darparu mewn modd sy'n addas i chwarter ein poblogaeth yn y dyfodol, yn enwedig wrth i ni glywed pethau fel yr hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas y Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu dweud bod y prif bethau sy'n effeithio ar iechyd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaethau iechyd i raddau helaeth, ac felly mae'n rhaid bod ansawdd gofal cymdeithasol a'r gwariant ar hynny yn un o'r gofynion mwyaf ar ofal iechyd.
Mae hefyd yn newyddion da iawn gweld y gwelliannau mewn clefydau cardiofasgwlaidd ac anhwylderau newyddenedigol, ac rwyf i hefyd yn cydnabod y gwaith da iawn sydd wedi'i wneud ym maes hepatitis C. Ond mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael, yn ôl adroddiad y prif swyddog meddygol, â'r darlun gwastad a welwn o ran canlyniadau canser. Ac felly, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gofyn i chi pa gynlluniau sydd gennych chi i'n helpu i wella hynny, oherwydd nid yw'r ffigurau hynny—ffigurau dyddiol ar gyfer canlyniadau canser—wedi newid yn sylweddol ers dros ddegawd.
Mae'r pwyntiau a wnaed gan y prif swyddog meddygol ynghylch hapchwarae yn berthnasol ac, yn fy marn i, wedi'u gwneud yn dda, ac ni allaf i ddeall pam yr ydym ni'n caniatáu i'r cancr hwn ddatblygu. Yn wir, fe hoffwn i dalu teyrnged i Darren Millar, oherwydd cododd ddadl fer ar y mater hwn yn ôl ym mis Gorffennaf 2017, a alwodd am fwy o gyfyngiadau ar hysbysebu hapchwarae a therfynellau betio cyfnod penodol, ac fe wn i fod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Dywedodd y Gweinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd, Rebecca Evans, fod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn comisiynu ymchwil i fapio'r holl leoliadau hapchwarae yng Nghymru. Byddwn yn croesawu diweddariad ar y cynnydd yn hyn o beth, a tybed allwch chi efallai sôn am eich bwriad ynglŷn â'r maes hwnnw.
Er bod materion a sylwadau eraill, fe hoffwn i orffen gyda sylwadau'r prif swyddog meddygol ynghylch amddiffyn y cyhoedd rhag bygythiadau iechyd ac, yn wir, staff rhag bygythiadau iechyd. Ffliw tymhorol yw un o'r bygythiadau mwyaf i bwysau'r gaeaf. Mae'n rhoi pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu ac adrannau damweiniau ac achosion brys, ac rwyf i wedi ceisio cael arweiniad gan Gymdeithas Feddygol Prydain ynglŷn â beth y gellir ei wneud i gynyddu faint o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd, yn ogystal â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, sy'n cael y brechlyn ffliw. Mae'n rhaid cymell y cyhoedd i wneud ond, Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n rhaid cymell gweithwyr y sector cyhoeddus hefyd. A oes unrhyw fodd y gall Llywodraeth Cymru edrych ar y canllawiau, statudol neu fel arall, i weithwyr iechyd a gofal gael y brechlyn ffliw? Oherwydd rydych chi eich hun yn cyfeirio bod ein brechiadau rhag y ffliw tymhorol yn destun eiddigedd y byd, ac eto mae hynny yn gwbl groes i'r dystiolaeth a glywn yn y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac rydym yn gwybod bod ffliw tymhorol yn un o'r pethau hynny sy'n bwysau mawr yn ystod y gaeaf. Os byddai pawb yn y Siambr hon, ein holl staff, y cyhoedd a'r rhai sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn cael y brechlyn ffliw, byddai'n helpu'r pwysau aruthrol hynny ar ein GIG, a byddwn i'n ddiolchgar iawn am eich barn ynglŷn â sut y gallwn ni gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y brechlyn. Diolch i chi.
Byddaf yn ymdrin â'r pwynt olaf hwnnw yn gyntaf. Rwy'n croesawu'r ffaith y ceir cydnabyddiaeth o bwysigrwydd yr ymgyrch ffliw tymhorol, a rhan o gryfder yr ymgyrch honno yw ei bod hi'n un wirioneddol drawsbleidiol. Mae digonedd o bethau yr ydym yn dadlau yn eu cylch yn y lle hwn rhwng y pleidiau; nid yw hyn yn un ohonynt. Rydym ni eisiau i fwy o aelodau'r cyhoedd mewn grwpiau sydd mewn perygl fanteisio ar y cyfle i gael brechiad y ffliw drwy'r GIG, ond hefyd i feddwl am y gweithwyr hynny sy'n gweithio gyda phobl sydd, drwy ddiffiniad, yn agored i niwed, ac ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. Mae'n un o'r pethau yr wyf i wedi canolbwyntio arnynt. Roedd gan Rebecca Evans, pan roedd hi'n Weinidog dros iechyd y cyhoedd ar y pryd, bwyslais penodol ar ddechrau'r tymor ffliw hwn ar geisio sicrhau bod mwy o weithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus a ddylai gael y brechiad rhag y ffliw yn ei gael.
Mae gennym ni heriau yma, fodd bynnag, y dylem ni eu cydnabod yn onest. Rhan o hynny yw, mewn gwirionedd, er ein bod ni'n credu y dylai fod cyfrifoldeb proffesiynol ar bobl i wneud hyn a bod buddiant i bobl yn y sector gofal cymdeithasol o safbwynt parhad busnes i sicrhau y gall eu staff ddod i'r gwaith yn ogystal â sicrhau nad ydyn nhw'n effeithio ar y bobl y maen nhw'n gofalu amdanynt, ym maes gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd, mae'n eithaf anodd dweud, 'Mae'n rhaid i chi' ac yn arbennig i ddweud, 'Mae'n rhaid ichi gael y brechiad rhag y ffliw.'
Mae trafodaeth i'w chael o hyd ynghylch sut i gael mwy o bobl i fanteisio arno. Mae eleni wedi bod yn galonogol, o'i gymharu â llynedd—ac wnaf i ddim hawlio'r clod am ymgyrch eleni oherwydd, fel yr wyf wedi dweud, Rebecca Evans oedd y Gweinidog ar ddechrau hyn—rydym ni wedi gweld cynnydd yn nifer ein haelodau staff sy'n manteisio ar y brechiad. Mae angen inni wneud mwy a mwy a mwy i geisio sicrhau bod staff yn sylweddoli mai peth da iddyn nhw a'r bobl maen nhw'n gofalu amdanynt yw parhau i gael y brechiad rhag y ffliw, ac, yn fwy na hynny, i fwyfwy o bobl ei gael er mwyn iddo fod yn rhywbeth a gaiff ei dderbyn yn ddiwylliannol yn hytrach na bod yn rhaid i ni frwydro i ddwyn perswâd ar bobl i gael y brechiad rhag y ffliw. Mae rhai o'r camsyniadau am y brechlyn eleni ei fod yn aneffeithiol—mae pobl yn dweud hyn bron bob blwyddyn, ac eto rydym ni'n gwybod mai hynny yw'r amddiffyniad rheng flaen gorau rhag y ffliw, sydd wedi arwain at ganlyniadau sylweddol ar gyfer amrywiaeth eang o bobl sy'n agored i niwed, o fabanod newydd-anedig i'r hen iawn a phawb yn y canol.
O ran eich pwynt ynghylch poblogaeth sy'n heneiddio, unwaith eto, mae'r adroddiad yn amlygu ffigurau a nodwyd mewn adroddiadau eraill, gan gynnwys yr arolwg seneddol a gwaith blaenorol Nuffield a'r Sefydliad Iechyd am y cynnydd yn oedran ein poblogaeth, ac yn arbennig cyfran ein poblogaeth a fydd dros 65 oed a dros 75 oed a'r galw cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn benodol. Rhan o'r her i ni yw, wrth inni wneud dewisiadau cyllideb—y byddwn yn eu trafod, yn eu dadlau, ac, heb os, yn anghytuno â nhw, unwaith eto—pa bynnag swm sydd gennym ni a pha un a yw hynny mewn cyfnod o galedi pan fo'n cyllideb yn gostwng ai peidio, mae'n rhaid i ni ddewis faint i'w roi i bob maes. Ar hyn o bryd mae hynny'n golygu bod gennym ni her wirioneddol i fodloni'r galw ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Mewn gwirionedd, rydym ni wedi wynebu'r her iechyd yn y ffordd yr awgrymodd Nuffield a'r Sefydliad Iechyd yr oedd angen i ni wneud. Felly, rydym ni wedi ateb y rhan benodol honno o'r her, ond mae gofal cymdeithasol yn rhan o'n pryder gwirioneddol, a amlygwyd unwaith eto yn yr arolwg seneddol. Dyna pam mae'n arbennig o bwysig yn fy marn i ein bod yn barod i gymryd rhan mewn—. Mae'r ddadl ar galedi yn anodd oherwydd bod gennym ni farn hollol wahanol yn ei gylch, ond ynghylch y ddadl ar yr hyn y dylwn ei wneud yn y tymor canolig, rwy'n gobeithio y dylai fod cyfle yn y lle hwn a thu hwnt i'r muriau hyn i geisio cymryd rhan yn y drafodaeth ynghylch yr ardoll gofal cymdeithasol a gynigir gan Gerry Holtham. Rwy'n credu bod gwerth gwirioneddol mynd ar drywydd hyn oherwydd, os ydym yn mynd i ddod o hyd i ateb hirdymor i gyllid, ni fyddwn yn cyflawni hynny 'fel yr ydym yn nawr', a bydd hyn yn effeithio ar bob un etholaeth a phob un cymuned. Os na allwn ni ddatrys yr her gyllid tymor hwy ar gyfer gofal cymdeithasol, bydd gennym ni lawer iawn o'n dinasyddion hŷn, y mae pob un ohonom yn dymuno eu gweld yn derbyn gofal ag urddas—byddwn yn cael ein hunain mewn sefyllfa hollol beryglus. Felly, mae'n fuddiol i bob un ohonom i gyflawni hynny.
Mae gan bob plaid rywbeth i'w wneud yn hyn o beth ac i ni i ddangos rhywfaint o arweiniad arno, ond mae'n drafodaeth i'w chael gyda Llywodraeth y DU hefyd. Ni waeth pa liw yw Llywodraeth y DU. Rwy'n gobeithio y bydd yn lliw gwahanol yn y dyfodol agos, ond ta waeth, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn rhan o'r drafodaeth oherwydd yr hyn na all ddigwydd yw ein bod yn cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol a bod pobl wedyn yn cael arian i'w ddefnyddio i dalu am eu gofal cymdeithasol, os bydd yn gweithio, os bydd yr holl bethau hynny yn digwydd, a bod y Trysorlys yn dweud wedyn, 'Mae hynny, mewn gwirionedd, yn incwm i bob pwrpas', a fydd yn effeithio wedyn ar allu pobl i gael incwm o fudd-daliadau eraill hefyd. Mae hynny yn bwynt difrifol iawn, felly mae'r gwaith y mae Dilnot ac eraill wedi'i wneud—mae'n rhaid inni ddychwelyd at hynny ac mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod ein cyd-Aelodau yn Senedd y DU yn barod i gael, unwaith eto, trafodaeth aeddfed a synhwyrol ynglŷn â hyn hefyd, oherwydd mae hwn yn fater i Gymru, ond mae'n fater ledled y Deyrnas Unedig hefyd.
O ran canlyniadau canser, mewn gwirionedd, o ran y bobl hynny sy'n goroesi, mae ein stori yn un dda. Rydym ni wedi gweld cynnydd ystadegol arwyddocaol a sylweddol yn nifer y bobl sy'n goroesi. Mae goroesi ar ôl blwyddyn yn 73 y cant erbyn hyn; mae goroesi ar ôl pum mlynedd yn 57 y cant. Ond ein her yw, wrth i ni edrych arnom ni ein hunain a Lloegr, er enghraifft, mae'r cyfraddau goroesi yn ystadegol debyg mewn gwirionedd rhwng Cymru a Lloegr, ac ni fyddech yn disgwyl hynny mewn gwirionedd, gan fod poblogaeth Lloegr yn iachach ac yn gyfoethocach. Byddech yn disgwyl i'r cyfraddau goroesi canser fod yn sylweddol wahanol, ond dydyn nhw ddim. Ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, mewn gwirionedd, o safbwynt Cymru—nad ydym yn gweld gwahaniaeth ystadegol rhwng cyfraddau goroesi Cymru a Lloegr. Ond mewn gwirionedd, nid yr her fwyaf yw dweud, 'Nid ydym ni ddim gwaeth na Lloegr' neu 'Rydym ni gystal â Lloegr'; yr her yw dweud, ar lefel ryngwladol, wrth edrych ar wledydd eraill ledled Ewrop, nad yw unrhyw un o wledydd y DU yn gwneud yn ddigon da o gwbl. Felly, mae'n rhaid i ni gymryd cam sylweddol ymlaen o hyd beth bynnag, mewn gwirionedd, a dyna ein her ni. Fel arall, y cyfan y byddwn yn ei wneud yw darbwyllo ein hunain i osod ein huchelgais a lle y dylem ni fod yn is.
Felly, dyna pam mae gen i ddiddordeb mewn llwybr sengl. Bydd yn newid y ffordd y caiff canser ei fesur. Mae gwaith arall yn cael ei wneud ynglŷn â hynny. Mae a wnelo fo hefyd â'r pwynt am ddiagnosis cynnar. Dyma pam yr ydym yn cael y drafodaeth hon ynghylch sicrhau bod cyffuriau a meddyginiaethau effeithiol ar gael. Dyma pam bod rhywfaint o'r ddadl wedi ymwneud â chronfa cyffuriau canser a pham fod gennym ni gronfa driniaeth newydd wedi'i seilio ar dystiolaeth. Ond, yn benodol, ar gyfer dewisiadau iachaol, rydych yn sôn am lawdriniaeth a radiotherapi, a phur anaml yr ydym yn sôn amdanyn nhw wrth siarad neu ddadlau ynghylch gwella canlyniadau canser; rydym bron bob amser yn siarad am ddiagnosteg a meddyginiaeth. Felly, mewn gwirionedd, mae angen inni dreulio mwy o amser a rhoi mwy o bwyslais ar hynny.
Ac o ran y gwaith ar hapchwarae, mae'r prif swyddog meddygol yn arwain gwaith ar hapchwarae gyda grŵp o randdeiliaid, a byddaf yn fwy na pharod—mae rhai o'r Aelodau wedi gofyn am gyfarfod gyda'r prif swyddog meddygol, a byddaf i'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y fan hon neu yn ysgrifenedig. Ac, wrth gwrs, pan fydd y prif swyddog meddygol yn dod i'r pwyllgor iechyd—rwy'n credu ei fod yn gwneud hynny fel arfer; rwy'n edrych ar y Cadeirydd—rwy'n siŵr y bydd yn hapus i sôn yn fwy manwl am y gwaith y mae eisoes wedi'i wneud a'r cynigion i ddefnyddio'r pwerau a fydd yn dod i Gymru ym mis Ebrill eleni.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Mi wnaf i hefyd nodi fy niolch i i Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, am ei ail adroddiad o. Mae hi yn bwysig, serch hynny, fy mod i'n tynnu sylw at y ffaith mai datganiad sydd gennym ni ar yr adroddiad yma heddiw, tra yn y gorffennol, yn cynnwys y llynedd, dadleuon rydym ni wedi'u cael ar adroddiad y prif swyddog meddygol, ac mi fyddwn i yn annog y Llywodraeth i fynd yn ôl i'r patrwm hwnnw, a pheidio â gadael i fregusdra balansiau gwleidyddol yn fan hyn benderfynu ym mha fodd mae materion pwysig iawn ynglŷn â iechyd ein cenedl ni yn cael eu trafod yma yn y Cynulliad.
Mi allwn i fynd i sawl maes gwahanol, mewn difrif—bron unrhyw faes o ran iechyd yng Nghymru—yn sgil yr adroddiad yma. Mi wnaf gadw yn fras at yr hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn y datganiad ei hun gan yr Ysgrifennydd Cabinet heddiw.
Mae'r datganiad wedi nodi bod yna lawer o ffactorau, wrth gwrs, sydd yn dylanwadu ar iechyd ein poblogaeth ni; mae hynny wedi cael ei drafod ni wn faint o weithiau yn fan hyn. Ond, o bosib, gallai'r adroddiadau yma a'r hyn rydym ni wedi'i glywed gan y Llywodraeth yn gyffredinol roi rhagor o eglurder i ni ynglŷn â gwir effaith llymder a phenderfyniadau gwariant mewn meysydd ar wahân i iechyd ar allbynnau iechyd—bod toriadau i ofal cymdeithasol, tai ac ati, yn doriadau i'r gwasanaeth iechyd yn gyffredinol. Mi fyddwn i'n gofyn am ffyrdd o gael gwerthusiad i fesur yn union beth ydy effaith y toriadau hynny ar y gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.
Mi symudaf i at brif gorff y datganiad heddiw yma, sef gamblo. Mae'r adroddiad yn bwrw goleuni ar y problemau sy'n cael eu hachosi gan bobl yn mynd yn gaeth i gamblo. Mae o'n nodi y cynnydd sydd yna mewn hysbysebion teledu ar gyfer betio. Wrth gwrs, rydym ni'n ymwybodol hefyd o'r rhagrith o'r gymdeithas bêl-droed yn Lloegr yn gwahardd chwaraewyr rhag gamblo ar gemau tra'n derbyn nawdd mawr iawn gan gwmnïau gamblo ar yr un pryd.
Mae'ch datganiad chi, Ysgrifennydd Cabinet, yn dweud eich bod chi'n gresynu bod gamblo yn cael ei reoleiddio ar lefel Brydeinig. Rydw i'n cytuno, pan mae rhywbeth yn cael ei reoleiddio ar lefel Brydeinig, bod hynny'n destun gresynu yn aml iawn, achos yn aml iawn mae o'n golygu bod rheoleiddio'n digwydd er budd diwydiant yn hytrach na'r cyhoedd, ac rydw i'n gobeithio y byddai hynny'n rhywbeth y gallwn ni edrych arno fo yng Nghymru yn y dyfodol. Ond mae yna rai pethau y gall y Llywodraeth ei wneud. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn nodi bod Deddf Cymru yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â fixed-odds betting terminals er mwyn lleihau y stake uchaf o £100 i £10 ar gyfer peiriannau categori B2. Fy nghwestiwn cyntaf, am wn i: a fyddwch chi'n gwneud hynny? A ydy hynny'n rhywbeth y byddech chi'n dymuno ei wneud?
Hefyd, mae yna bwerau sydd ar gael i lywodraeth leol pan mae’n dod at roi caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd siopau i siopau betio. Mae ymchwil yn fan hyn mewn perthynas â thrafodaethau ar Ddeddf bosib ar gynhwysiant ariannol wedi canfod bod llawer o awdurdodau lleol yn ofalus iawn ac yn bryderus am ddefnyddio pwerau sydd ganddyn nhw i gynyddu niferoedd y siopau betio, rhag ofn i gamau cyfreithiol, o bosib, gael eu cymryd yn eu herbyn nhw. A fyddwch chi, neu a wnewch chi ofyn i’r Ysgrifennydd llywodraeth leol roi rhagor o eglurder a sicrwydd i lywodraeth leol sydd eisiau cymryd camau i atal y cynnydd sydd wedi bod yn nifer y siopau betio?
Mi wnaf i orffen, os caf i, drwy gyfeirio at yr hyn a ddywedoch chi ynglŷn â hepatitis C. Fel un o bencampwyr hepatitis C yma yn y Siambr—fi a nifer o Aelodau—mae’n dda gweld bod Cymru ar y blaen yn y maes yma, ac yn aml iawn y broblem rŷm ni’n ei hwynebu ydy darganfod y bobl sydd â hepatitis C—darganfod digon o gleifion i ddod drwy ein system ni. Mae’n broblem braf i’w chael, ond mae hi’n broblem sydd angen ei datrys. A gaf i ddefnyddio’r cyfle yma, fel rydw i ac Aelodau eraill yn chwilio am gyfleoedd eraill hefyd yn aml iawn, i bwyso arnoch chi i wneud datganiad eto heddiw, o bosib, ynglŷn â’r angen i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol yn yr angen inni symud ymlaen at gael gwared ar hepatitis C yng Nghymru?
Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n nodi dewis pawb i gael dadl yn lle datganiad, er, mewn gwirionedd, a bod yn deg, mae datganiadau yn rhoi cyfle am fwy o gwestiynau gan Weinidogion i'w hateb a mwy o graffu yn hynny o beth, ond mae'r rhain yn ddewisiadau sy'n cael eu gwneud.
Yn fras, rwy'n rhannu eich pryder ynghylch effaith caledi ar iechyd a chanlyniadau iechyd. Rwy'n credu bod Dai Lloyd a Simon Thomas o'ch plaid chi wedi nodi eu pryder hefyd a'u diddordeb mewn adroddiadau ac astudiaethau sydd wedi'u gwneud i geisio edrych ar effaith y gwahanol newidiadau i fudd-daliadau lles yn sgil caledi, er enghraifft, ac mewn canlyniadau iechyd corfforol a meddwl hefyd. Maen nhw'n bethau y dylem ni barhau i fod yn ymwybodol ohonynt—y dystiolaeth ar gyfer a'n gallu a'n dewisiadau o ran beth yr ydym yn dewis ei wneud i redeg y system iechyd a gofal yma yng Nghymru a chydnabod y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar anghenion gofal iechyd yn y wlad.
O ran eich tri phwynt annibynnol ynghylch terfynellau betio ods sefydlog a hefyd, wedyn, cynllunio, iechyd y cyhoedd, siopau betio a hepatitis C—. O ran terfynellau betio ods sefydlog, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar y mater hwn, ac un o'r cynigion yw y gallent mewn gwirionedd leihau'r budd mwyaf posibl i £2. Nawr, rydym ni'n credu y byddai hynny'n beth da i'w wneud, ac mae'r prif swyddog meddygol wedi cyflwyno tystiolaeth i'r perwyl hwnnw yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Y peth rhyfedd yw, ein bod ni ar fin cael pwerau ym mis Ebrill a fydd yn caniatáu'r lle hwn i ostwng y swm uchaf—efallai yr hoffech chi roi'r pŵer i awdurdodau lleol ei ostwng i £10. Felly, os byddem yn cyrraedd y pwynt pan fyddwn yn ei ostwng i £10, ceir cyfle posibl i'w ostwng i £2. Mewn gwirionedd, os ydym yn glir bod Llywodraeth y DU yn mynd i weithredu yn y modd hwnnw, byddai hynny yn well yn fy marn i. Byddai'n system gyson ledled y DU, a gallem ddangos hynny ynddo'i hun. Os na fydd hynny'n digwydd, byddwn wrth gwrs yn ceisio defnyddio ein pwerau yma beth bynnag. Dylem ni fod yn glir iawn ynghylch—. Ceir cyngor clir iawn gan y prif swyddog meddygol ynglŷn â dymuno mynd ati'n fwriadol rhagweithiol yn y maes hwn, ac rwy'n siŵr y byddaf i—pa un ai fi neu Aelod arall o'r Siambr hon sydd yn y swydd benodol hon—yn dymuno ystyried hyn o ddifrif a chymryd camau priodol.
Mae cyd-destun ehangach i siopau betio ac effaith iechyd blaenoriaethol—nid yn unig o ran siopau betio ond o ran amrywiaeth o ystyriaethau ynglŷn ag iechyd y cyhoedd wrth gynllunio. Mae gen i feddwl eithaf agored ynglŷn â sut y gallem ni wneud hynny, ond mae angen i'r Llywodraeth gyfan gael trafodaeth ynghylch y polisi cynllunio a'r drefn lywodraethol sydd gennym ni ar hyn o bryd—o safbwynt cenedlaethol yn ogystal â'r hyn sydd ar waith mewn awdurdodau lleol. Ond dylem yn sicr fod yn barod i gael ein harwain unwaith eto gan dystiolaeth o ran beth y gallem ni ac y dylem ni ei wneud i gynyddu iechyd y cyhoedd.
O ran hepatitis C, gwn eich bod chi, Angela Burns, a Julie Morgan ac eraill wedi sôn am y cynnydd sy'n cael ei wneud, ac, unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith y tynnwyd sylw at beth maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd ar gyfer hepatitis C yn adroddiad y prif swyddog meddygol. Mae gennym ni ddull gwirioneddol genedlaethol o weithio—. Roedd yn ddiddorol iawn ac rwyf i mewn gwirionedd—. Nid wyf i bob amser yn darllen cylchgronau a chyhoeddiadau meddygol, ond cafwyd canmoliaeth wirioneddol i'r dull a ddefnyddir yma, mewn proffesiynau yn Lloegr a'r Alban hefyd. Maen nhw'n hoffi beth rydym yn ei wneud ac, yn wir, byddai'n well gan bobl yn Lloegr ffordd o weithio gydgysylltiedig gyffredinol genedlaethol, sy'n edrych ar y feddyginiaeth fwyaf effeithiol ac nid bob amser y drytaf, ond sy'n arwain at fudd gwirioneddol. Hwn yw'r cam nesaf tuag at ddileu'r afiechyd o ran cyrraedd y bobl hynny sydd anoddaf eu cyrraedd, a hynny, rwy'n credu, yw'r pwynt yr ydych yn ei wneud: sut ydym ni'n cyrraedd y bobl hynny sydd naill ai ddim yn cyflwyno'u hunain i wasanaethau gofal iechyd, yn cyflwyno'u hunain yn anaml, neu yn byw bywydau anhrefnus, ac, mewn gwirionedd, hyd yn oed os yr hoffan nhw wneud hynny, sut ydych chi'n cadw cysylltiad â nhw i ymdrin â'r heriau sydd ganddyn nhw?
Fel y nodais mewn datganiad blaenorol yn y lle hwn, rydym ni o'r farn ein bod ni mewn sefyllfa dda i barhau i wneud rhagor o gynnydd. Mae'r uchelgais yn parhau, fodd bynnag, i fod yn wlad sy'n dileu hepatitis C. Rydym ni erbyn hyn wedi cyrraedd y rhan anoddach o hynny, a hon yw'r broblem orau i'w chael, ond rwy'n ffyddiog y byddwn yn parhau i wneud cynnydd, ac, yn wir, pa gynnydd bynnag a wnawn, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn y lle hwn ac yn y pwyllgor am y cynnydd a wneir gan staff yn ein gwasanaeth iechyd gwladol.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn croesawu adroddiad blynyddol y prif swyddog meddygol, a chroesawaf y pwyslais ar effaith niweidiol hapchwarae ar iechyd y cyhoedd.
Mae'r Dr Atherton, ein prif swyddog meddygol yng Nghymru yn cyfeirio at y ffaith bod gan hapchwarae botensial mawr i achosi niwed i unigolion, teuluoedd a'r gymdeithas ac mae'n galw am well ymchwil a monitro effaith hapchwarae ar iechyd ac am fwy o reolaeth rheoleiddiol yng Nghymru a'r DU, ac rydych chi wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny. Ond y llynedd, fe wnes i, ar y cyd â Jayne Bryant, Mick Antoniw, Ken Skates a Lesley Griffiths, noddi gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan Brifysgol De Cymru ar gyfer adroddiad ynglŷn ag ymchwiliad i effaith gymdeithasol problem hapchwarae yng Nghymru. Ochr yn ochr â hyn, a ydych chi'n croesawu'r ymchwil a wnaed gan swyddogion Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro i anhwylderau hapchwarae a niwed sy'n gysylltiedig â hapchwarae, ac yn croesawu'r gynhadledd maen nhw'n ei chynnal ar 23 Mawrth i ystyried y canfyddiadau a'r ffordd ymlaen? Rwy'n eich gwahodd chi, neu, yn wir, swyddog i fynd i'r digwyddiad hwnnw, y byddaf yn ei annerch.
Rwyf i hefyd yn croesawu'r astudiaethau achos gan Cyngor ar Bopeth sydd i'w gweld yn adroddiad y prif swyddog meddygol. A ydych chi'n cytuno bod gwasanaethau cynghori yn elfen hanfodol o ran cefnogi pobl sy'n mynd i ddyled a thrallod o ganlyniad i hapchwarae? Os ydych yn bwriadu derbyn yr argymhellion yn adroddiad y prif swyddog meddygol, a fyddwch yn defnyddio arbenigedd sefydliadau trydydd sector megis Cyngor ar Bopeth i lunio cynllun gweithredu ar y mater hwn? A ydych yn cydnabod bod angen ymdrin â hyn ar bob haen o'r Llywodraeth, ond bod angen iddo hefyd gynnwys y rhai ar y rheng flaen sy'n cefnogi pobl sy'n dioddef yr hyn sy'n gallu bod yn effeithiau negyddol sylweddol hapchwarae?
Diolch ichi am y sylwadau byr a'r pwyntiau hynny. Mae gen i ddiddordeb yn y gwaith y mae Cyngor ar Bopeth yn ei wneud yma yng Nghaerdydd a'r Fro i ddeall maint y broblem hapchwarae yn y rhan benodol hon o Gymru. O ran y digwyddiad ar 23 Mawrth, ni fyddaf yn ymrwymo heb edrych ar fy nyddiadur—rwyf wedi cael fy nwrdio am hynny o'r blaen, am ymrwymo ac wedyn peidio â deall a allaf fynd ai peidio—ond o ran y digwyddiad ar 23 Mawrth. Byddai gennyf ddiddordeb, os na allaf fod yn bresennol, gwybod a fyddai modd i rywun o Lywodraeth Cymru fod yno i ddeall natur yr adroddiad a'r dystiolaeth sydd wedi'i chasglu, a sut beth yw hynny.
Felly, mae hynny'n arwain at eich ail bwynt ynghylch gwasanaethau cynghori, nid dim ond Cyngor ar Bopeth, ond amrywiaeth o sefydliadau eraill, a nifer ohonynt wedi eu crybwyll yn yr adroddiad. Maent yn bwysig iawn i helpu pobl i geisio datrys y broblem hapchwarae a deall sut y mae'n dechrau a sut y cefnogir y bobl. Mae hynny'n fwy na chyngor ariannol, mae hefyd yn cynnwys ystod gyfan o effeithiau eraill y gallai problem hapchwarae arwain atynt. Ac mae hynny, yn gyfan gwbl, yn rhan o'r gwaith y mae'r prif swyddog meddygol a rhanddeiliaid yn ei ystyried wrth lunio ymateb i'r broblem hapchwarae a'i effaith ar iechyd cyhoeddus. Felly, rwy'n credu bod y pwyntiau wedi'u gwneud yn dda, ac i ddod yn ôl i'r lle hwn i gael diweddariad ynglŷn â hynny, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r hyn y byddwch yn dymuno ymdrin â hi wrth wneud hynny.
Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ac fe hoffwn innau ddiolch hefyd i Dr Atherton am ei ail adroddiad blynyddol ers bod yn brif swyddog meddygol. Rwy'n falch bod Dr Atherton wedi dewis defnyddio ei adroddiadau blynyddol er mwyn taflu goleuni ar yr heriau cynyddol sy'n wynebu iechyd cyhoeddus. Y llynedd, amlygodd yr anghydraddoldebau iechyd sydd i'w gweld rhwng y rhai sy'n byw yn ein hardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig, ac mae wedi canolbwyntio ar hapchwarae eleni.
Wrth ystyried y prif heriau i iechyd cyhoeddus ar gyfer ein cenedl, fel gordewdra a chaethiwed i gyffuriau, alcohol a thybaco, ceir gwybodaeth a dealltwriaeth eang o'r rhain. Nid oes dealltwriaeth gystal o broblem hapchwarae, neu, yn hytrach, goblygiadau problemau hapchwarae ar iechyd cyhoeddus. Er bod pobl gyda phroblemau hapchwarae wedi bod erioed, rydym yn dechrau gweld eu niferoedd yn cynyddu. Croesewir y ffaith bod Dr Atherton wedi tynnu sylw at y mater hwn yn awr felly.
Yn 2005, cyflwynodd y Llywodraeth Lafur, o dan arweiniad Tony Blair, broses ddadreoleiddio fwyaf ein cenedl ar y diwydiant hapchwarae. Arweiniodd hyn at ffrwydrad mewn betio ar-lein. Caniateir hysbysebion teledu ar gyfer hapchwarae erbyn hyn felly nid oes modd dianc rhag hysbysebion yn ystod oriau brig teledu ar gyfer casinos a bingo ar-lein.
Erbyn hyn mae'n llawer haws nag erioed o'r blaen i bobl ifanc hapchwarae. Canfu arolwg diweddar y Comisiwn Hapchwarae y bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr sy'n hapchwarae, gyda dau o bob tri yn hapchwarae, a llawer ohonynt ar-lein. Arweiniodd y canfyddiad hwn at y Comisiwn Hapchwarae yn cyhoeddi cyngor i brifysgolion, yn eu hannog i ddarparu gwybodaeth a chymorth i'w myfyrwyr am niwed posibl sy'n gysylltiedig â hapchwarae—cymaint ag y maen nhw'n ei wneud ar gyfer cyffuriau, alcohol a rhyw mwy diogel.
Fel y mae'r Dr Atherton yn ei bwysleisio, mae 1.5 miliwn ohonom ni wedi hapchwarae yn ystod y 12 mis diwethaf. Er nad oes dim o'i le ar hapchwarae bob hyn a hyn ar y grand national, neu brynu tocyn loteri yn achlysurol, mae rhwyddineb gwneud hynny yn ei gwneud hi'n haws i hapchwarae ddod yn broblem.
Rwy'n croesawu argymhellion y Dr Atherton bod angen rhagor o ymchwil. Mae angen inni ddeall yn llwyr y risgiau a'r niwed, a datblygu polisi wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n cydbwyso manteision cymdeithasol hapchwarae gyda'r niweidiau sy'n gysylltiedig â phroblemau hapchwarae. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi amlinellu beth yr ydych chi'n ei wneud i weithredu argymhelliad Dr Atherton am ragor o ymchwil i effaith y broblem hapchwarae? Sut ydych chi'n bwriadu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i weithredu er mwyn targedu'r broblem hapchwarae heb effeithio ar allu oedolyn i hapchwarae yn gyfrifol? Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, sut fyddwch chi'n cynnwys y Cynulliad yn y broses o ddatblygu ymagwedd polisi sydd wedi'i seilio ar dystiolaeth o ran mynd i'r afael â phroblemau hapchwarae?
Diolch i chi unwaith eto am eich datganiad ac i'r Dr Atherton am ei adroddiad diweddaraf. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi i ddatblygu ffordd gytbwys o ymdrin â'r mater hwn a materion eraill sy'n dod i'r amlwg ym maes iechyd cyhoeddus. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran y pwynt cyffredinol—rhyddfrydoli hapchwarae—mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni i gyd wedi ei gydnabod: bod, mewn gwirionedd, y twf mewn hapchwarae ar-lein, yn benodol, yn achosi heriau gwirioneddol i ni. Er gwaethaf yr holl waith yn annog pobl i fod yn hapchwaraewyr cyfrifol ac annog y diwydiant i fod yn fwy cyfrifol, nid yw wedi arwain at y math o newidiadau mewn ymddygiad y byddem yn dymuno eu gweld mewn gwirionedd, a dyna pam, yn fy marn i, maen nhw'n newid eu safbwyntiau eu hunain, hyd yn oed o fewn Llywodraeth y DU, sy'n dymuno'n reddfol i annog pobl i weithredu yn y diwydiant, yn hytrach na chael, os mynnwch chi, ddull rheoleiddio. Yn sicr, mae mater y terfynellau betio ods sefydlog yn enghraifft dda o faterion y maen nhw bellach yn ymgynghori arnyn nhw, ac, mewn gwirionedd, yn rheoleiddio dull gwahanol iawn nawr, oherwydd eu bod yn cydnabod y niwed sy'n cael ei wneud. Mae hwn yn faes sydd wedi'i lacio'n llwyr, gyda niwed sylweddol iawn y gellir ei wneud mewn cyfnod cyflym iawn o amser. Felly, ceir rhywfaint o ymwybyddiaeth, ond bydd angen i ni feddwl ynglŷn â sut y gallwn ni fynd ati i ddefnyddio ein pwerau yma yng Nghymru.
Dyna pam, fel y nodais yn gynharach, mae'r prif swyddog meddygol yn arwain gwaith gyda rhanddeiliaid i ystyried beth y gallwn ni ei wneud, beth y dylem ni ei wneud, nawr, ac wrth edrych ar y pwerau y byddwn yn eu cael ym mis Ebrill eleni hefyd. Yn wir, rydych chi wedi clywed yn y datganiad a'r cwestiynau eisoes heddiw am yr ymchwil y cyfeiriodd Jane Hutt ato y mae Cyngor ar Bopeth yn ei wneud yng Nghaerdydd a'r Fro. Mae amryw o bobl eraill sy'n gwneud eu gwaith ymchwil eu hunain, yn anecdotaidd ac yn fwy cyffredinol, ynglŷn â'r problemau y maen nhw'n eu gweld yn dod trwy eu drysau—crybwyllir rhai o'r rhain yn yr adroddiad hefyd—yn ogystal â'r ymchwil a wnaed gan bum Aelod yn y lle hwn. Roedd Jane Hutt yn un ohonyn nhw, a Mick Antoniw a Jayne Bryant—y tri sydd yn y Siambr ar hyn o bryd. Mae'r ymchwil hwnnw yn bwysig, gan dynnu sylw at yr her sydd gennym ni, ei graddfa, a'r angen am ymateb ymarferol yn ogystal ag ymateb polisi. Felly, fel yr wyf wedi'i ddweud sawl gwaith, rwy'n disgwyl mewn gwirionedd ddod yn ôl i'r lle hwn i ddiweddaru'r Aelodau ynglŷn â gwaith y grŵp hwnnw a'r pethau pendant yr ydym yn disgwyl gallu eu gwneud yma yng Nghymru.
Ysgrifennydd y Cabinet, ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r pwyntiau sydd wedi cael sylw o ran y mater hapchwarae. A gaf i ddweud, yn gyntaf, byddwch yn cofio dadl yr Aelodau unigol a gawsom yma yn 2013—rwy'n credu mai'r Cynulliad hwn yw un o'r Seneddau cyntaf i gynnal dadl fanwl, drwyadl mewn gwirionedd ar y broblem sy'n dod i'r amlwg o'r cynnydd mewn hapchwarae? Yn wir, y ddadl honno pan roedd pobl yn dweud, 'Wel, beth mae'r dadleuon hyn yn ei olygu?'—a arweiniodd, mewn gwirionedd, yn Neddf Cymru, at o leiaf rhywfaint o bwerau datganoli o ran peiriannau betio ods sefydlog. Yn anffodus, ni wnaeth ddenu'r math o sylw a fu yn ddiweddarach, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y Cynulliad hwn wedi arwain y ffordd, mewn gwirionedd, o ran nodi ac edrych ar ffyrdd y gellid ymdrin â hapchwarae fel mater iechyd cyhoeddus.
Yr hyn sy'n bwysig am yr adroddiad hwn hefyd yw bod bron i hanner ohono—17 tudalen ohono—yn ymdrin â'r hyn a gaiff ei ddisgrifio fel her iechyd cyhoeddus sy'n dod i'r amlwg, a dyma beth yr ydym wedi'i gael mewn dadleuon amrywiol yn y Cynulliad penodol hwn. Ac mae'n adroddiad da iawn, oherwydd ei fod hefyd, o ran sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen o ran yr angen am fwy o ymchwil—. Fe gofiwch chi y peidiodd yr holl ymchwil hwnnw yn 2010, felly mae'r data gwirioneddol sydd gennym wedi bod yn brin tan y gwaith a wnaethpwyd o ran yr adroddiad y gwnaeth Jane Hutt a minnau ac eraill ei ariannu. Ond nawr mae hyn yn rhoi cyfle i gynnal dadansoddiad priodol, ymchwiliad priodol, i wir faint y broblem. Yn bwysig iawn, yr hyn a nodir yw bod yn rhaid i unrhyw waith a wneir fod yn rhydd o ddylanwad y diwydiant tybaco—mae'n ddrwg gennyf, y diwydiant hapchwarae; mater arall yw hynny—diwydiant sydd wedi cyfrannu llawer o arian at waith ymchwil, ond sydd â gafael haearnaidd ar y gwaith ymchwil hwnnw, ei gyfeiriad, ac ymchwil sy'n troi mewn cylchoedd ers degawdau yn ôl pob golwg. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn annibynnol ar hynny.
A gaf i hefyd ddweud un peth arall? Wrth gwrs, mae llawer ohonom ni wedi bod yn gwylio rhai o lwyddiannau chwaraeon diweddar timau pêl-droed Cymru, ac wrth gwrs mae Spurs yn chwarae yn erbyn Casnewydd nos yfory. Efallai bydd rhai o Aelodau'r Cynulliad yn mynd i'r gêm honno hyd yn oed. Ond nid i bylu brwdfrydedd unrhyw un tuag at eu tîm lleol yr wyf yn codi'r pwynt, yn hytrach oherwydd y gafael haearnaidd hwnnw sydd gan hapchwarae bellach dros chwaraeon: y cysylltiad ym meddyliau pobl rhwng chwaraeon, pêl-droed, pob math o chwaraeon, a hapchwarae. Bydd y rheini ohonom a fydd yn gwylio'r gêm honno ar y noson honno yn gweld, o amgylch yr holl gae erbyn hyn, yr holl hysbysebion hapchwarae. Byddwn yn gweld y negeseuon testun a ddaw ar y ffonau, y pethau a ddaw ar-lein ac ati. A beth bynnag fo'n gallu ni—gallwn wneud pethau ar beiriannau betio ods sefydlog, gallwn wneud pethau gyda'n pwerau cynllunio—rwy'n credu bod yn rhaid i ni edrych ar ein cysylltiad â chwaraeon yng Nghymru o ran sut yr ydym ni mewn gwirionedd yn mynd i'r afael â hyn ac yn sicrhau nad yw'r cynnydd hwnnw mewn hysbysebu hapchwarae yn digwydd, a bod yn rhaid i ni drafod gyda San Steffan ar y ffaith, ar ôl nodi mater iechyd cyhoeddus, bod arnom ni angen y pwerau i allu ymdrin ag ef. Un o'r problemau, wrth gwrs, â Deddf Cymru, yw ei bod yn cyfyngu ar y gallu y gallem ni fod wedi ei gael mewn meysydd penodol o hapchwarae fel mater iechyd cyhoeddus—
A ydych yn arwain at gwestiwn?
—ond mae'n rhaid i ni sicrhau bod gennym ni'r gallu i ymdrin â'r materion hynny.
Diolch i chi, ac fe hoffwn i ddechrau drwy gydnabod y pryder cyson y mae Mick Antoniw wedi'i fynegi yn y maes penodol hwn, yn ogystal ag yn gyffredinol ar draws y pleidiau. Mae'r dystiolaeth ynglŷn â maint y broblem a'n dull ymateb mwyaf effeithiol yn bwysig iawn. Rwy'n cydnabod bod gennym ni rywfaint o dystiolaeth a bod darlun yn datblygu, ond i symud y tu hwnt i hanesion i ddeall mwy na thystiolaeth yr arolwg, ynghylch y pwynt hwnnw am yr her a'r ymateb mwyaf effeithiol os hoffech chi ymateb triniaethol os yw rhywun yn cael ei gyflwyno fel hapchwaraewr â phroblem, ac mae'r adroddiad yn cydnabod nad oes gennym ni gonsensws effeithiol ar hyn o bryd, yn y maes hwn, ynglŷn â beth yw'r ymateb cywir, oherwydd ei fod, mewn gwirionedd, yn annhebygol y bydd yn ymyrraeth fferyllol.
Mae hyn yn ymwneud yn fwy â maes siarad a chefnogi pobl, ac mae hynny ynddo'i hun yn her, yn ymwneud â deall beth yw'r math iawn o ymyrraeth. Mae'r adroddiad yn ystyried ymyraethau byr, mae'n edrych ar y gwaith yr ydym yn ei wneud. Hoffwn fod yn rhan o'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Gofal, er enghraifft, a chymryd rhan mewn gwaith y mae'n cydnabod y mae angen ei ddatblygu yn y maes hwn i gefnogi gwasanaethau iechyd a gofal ar gyfer pobl â phroblemau hapchwarae. Ond yn benodol, rwyf yn cydnabod eich pwynt penodol ar y diwedd, nid yn unig ynglŷn â—. Rwy'n siŵr bod bron pob un ohonom ni yn y lle hwn yn dymuno'n dda i Gasnewydd yn erbyn Spurs. Rwy'n cydnabod bod gan yr Aelod deyrngarwch hirsefydlog i gyfeiriad gwahanol.
Ond y pwynt hwn ynghylch hysbysebu, a natur hollbresennol hysbysebu—cymaint o wahanol ddigwyddiadau. Mae'n anodd ei anwybyddu. Os ydych yn meddwl yn ôl ynglŷn â lle yr ydym ni yn awr mewn chwaraeon, nid oedd mor bell yn ôl â hynny pan gafodd alcohol ei hysbysebu mewn chwaraeon mewn ffordd a oedd—. Roedd yn rhyfedd, onid oedd? Bron fel petaech yn cael eich annog i yfed llawer, mewn gêm chwaraeon, wrth wylio gweithgarwch a dawn gorfforol y bobl ar y cae. A chyn hynny, roedd tybaco yn gysylltiedig yn rheolaidd â hysbysebu pob math o ddigwyddiadau chwaraeon. Mae bwyd cyflym yno o hyd. Maen nhw hyd yn oed yn ystyried newid bwyd cyflym. Mae her o hyd ynglŷn â'r holl feysydd gweithgarwch hyn a'u parodrwydd i fod yn gysylltiedig â chwaraeon, oherwydd eu bod yn cydnabod grym chwaraeon a hysbysebu a beth y gall ei wneud ar gyfer eu cynhyrchion. Felly, fel y mae'r adroddiad yn ei gydnabod ym mhwynt 6.4 adroddiad y prif swyddog meddygol, mae angen edrych ar reolaethau hysbysebu hapchwarae. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni barhau i'w drafod gyda Llywodraeth y DU.
Rwy’n croesawu hefyd yr adroddiad yma a’r rhan sy’n delio â gamblo yn arbennig. Heb ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, rydw i yn sylwi bod yr adroddiad yn dweud bod cost gamblo eithafol i wasanaethau cyhoeddus Cymru o gwmpas £40 miliwn i £70 miliwn y flwyddyn, oherwydd yr effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau gofal yn benodol. Rwy’n rhannu’r pryder sydd wedi cael ei ddatgan yn glir gan nifer o Aelodau ynglŷn â’r ffordd y mae gamblo a hysbysebu gamblo wedi treiddio i mewn i normalrwydd cymdeithas, fel ei fod yn ymddangos, yn ddiweddar, ar grysau plant ar gyfer chwaraeon, er enghraifft, yn efelychu timau pêl-droed.
Un peth rydw i eisiau gofyn yn benodol i’r Llywodraeth yn ei gylch yw’r sylw sydd wedi cael ei wneud am y ffaith bod ymchwil i mewn i’r maes yma yn cael ei wneud, i bob pwrpas, gan y diwydiant ei hun, drwy GambleAware. Ond mae GambleAware wedi bod o dan ddylanwad y diwydiant. Maen nhw wedi ceisio— rydw i'n credu—ailsefydlu i fod yn fwy annibynnol, ond mae’n fy nharo i mai beth rydym ni ei angen, a dweud y gwir, yw rhywbeth megis lefi ar y diwydiant, cwbl annibynnol, fydd yn deillio wedyn ar gyfer arian a fydd yn dod nid yn unig ar gyfer ymchwil i mewn i gamblo ond i leddfu rhai o'r sgil-ganlyniadau anffodus ac andwyol sy’n dod yn sgil gamblo. Nid yw hynny yn nwylo’r Ysgrifennydd Cabinet, ond rydw i eisiau gofyn ai dyna safbwynt Llywodraeth Cymru: y bydden nhw’n dymuno gweld lefi o’r fath ac y byddan nhw’n cydweithio a rhoi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i wneud hynny.
Yr ail elfen yn yr adroddiad sydd o bwys, rydw i'n credu, yw'r ffaith bod, unwaith eto, y prif feddyg wedi olrhain effaith llygredd awyr ar ein cymdeithas a sgil-effeithiau hynny—2,700 o farwolaethau cynnar oherwydd llygredd awyr. Byddwn i’n hoffi gwybod yn union lle y mae llygredd awyr erbyn hyn yn y rhychwant o achosion marwolaethau cynnar yng Nghymru. Mae o gwmpas y trydydd neu’r ail reswm erbyn hyn. Rydw i'n gwybod bod y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau i fynd i’r afael, ond y broblem yw bod hyn yn cael ei wasgaru rhwng y Llywodraeth ac awdurdodau lleol, a’r awdurdodau lleol yn benodol yn gyfrifol am fonitro a chadw trac ac wedyn rhoi parthau gweithredu yn eu lle, a’r Llywodraeth yma, wrth gwrs, yn wynebu achos llys oherwydd bod rhai o’r camau yna wedi methu yn ddiweddar. Felly, yn benodol, o edrych ar gost a'r sgil-effeithiau iechyd sy’n cael eu holrhain ar gyfer llygredd awyr, a fydd y Llywodraeth yn cymryd cam ymhellach yn genedlaethol nawr i sefydlu bod pob ysgol i gael uned monitro llygredd awyr y tu fas i bob ysgol, fel bod gennym ni well dealltwriaeth o wir effaith llygredd awyr, a bod gyda ni strategaeth genedlaethol i fynd i’r afael â’r problemau iechyd sy’n deillio o lygredd awyr?
Diolch ichi am y sylwadau a'r pwyntiau hynny. Byddaf yn ymdrin â'ch pwyntiau am lygredd aer yn gyntaf, os caf i. Fel y gwyddoch, yr arweinydd ar lygredd aer yn y Llywodraeth hon yw Hannah Blythyn, y Gweinidog dros yr amgylchedd, ond y mae'r pwyntiau yr ydych yn eu codi yn cydnabod ei fod yn fater sy'n effeithio ar amrywiaeth o adrannau. Yn amlwg, ceir effaith ar iechyd y cyhoedd. Os ydych yn sôn am fonitro mewn ac o amgylch ysgolion, rwy'n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd addysg yn dymuno cyfrannu ac ymwneud â hynny hefyd. Felly, ni fyddaf yn rhoi ateb byrbwyll i chi am strategaeth genedlaethol ac am y gwaith sy'n cael ei wneud, a byddaf yn sicr yn siarad â chydweithwyr o bob rhan o'r Llywodraeth, nid yn unig i ateb eich cwestiwn, ond yn ehangach y trafodaethau parhaus yr ydym yn eu cael ym mhob rhan o'r Llywodraeth ynglŷn â strategaeth Llywodraeth Cymru ar wella ansawdd yr aer a chydnabod y manteision sylweddol i bob un ohonom ni o wneud hynny mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi.
Pan soniwn am hapchwarae a'r gost ariannol sylweddol sy'n cael ei gydnabod i'r gwasanaethau iechyd a gofal, mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod, i lawer o bobl, ei fod yn weithgaredd ysgafn a chymedrol. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn yr ystafell hon wedi hapchwarae a mwy na thebyg yn hapchwarae yn rheolaidd, os ydych yn meddwl am y peth. Faint o weithiau yr ydym yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn loterïau lleol neu rafflau yn y gwahanol ddigwyddiadau yr ydym yn eu mynychu, yna mewn gwirionedd, os mai chi yw'r gwleidydd sy'n gwasanaethu yn yr ystafell, mae'n anodd iawn peidio â phrynu tocynnau raffl pan aiff y jar o gwmpas. Felly, rydym ni mewn gwirionedd yn sôn am broblem hapchwarae pan fo pobl yn mentro mwy nag y gallan nhw ei fforddio.
Yn ddiddorol, yn yr adroddiad, mae'n nodi'r pwyntiau penodol y mae eraill wedi'u gwneud am y gwahaniaeth yn y broblem hapchwarae rhwng chwarteli incwm gwahanol. Mae yn dangos bod y chwarteli incwm isaf yn fwyaf tebygol o gael y broblem fwyaf o ran hapchwarae ei hun. Dyna'r pryder y mae'r prif swyddog meddygol, yn ei amlygu'n benodol i ni. Yn ddiddorol, mae eich pwynt am yr ardoll wedi'i grybwyll yn yr adroddiad. Yr enghraifft yn Seland Newydd, ar dudalen 21 yr adroddiad, sy'n edrych ar yr ardoll sydd ganddynt yno a'r ffordd y cafodd ei chynllunio. Rwy'n agored ac mae gen i ddiddordeb yn yr hyn y gallem ni ei wneud, gyda'n pwerau presennol ac yn y drafodaeth barhaus â Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynglŷn â her amlwg a gwirioneddol sy'n bodoli ar hyn o bryd ac a fydd yn cynyddu, os nad ydym yn gweithredu nawr, yn y dyfodol.
Mae angen i mi ddatgan fy mod yn gyfarwyddwr ac yn ymddiriedolwr y Stafell Fyw, sydd wedi arloesi gyda'r pwyslais bod hapchwarae yr un mor niweidiol â bod yn gaeth i alcohol neu dybaco neu unrhyw ddibyniaeth arall. Felly, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r pwyslais hwn arno, oherwydd bod gen i lawer o etholwyr sydd wedi colli eu cartref, colli eu busnes o ganlyniad i'w dibyniaeth ar hapchwarae. Mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael sefydliadau mawr, fel y diwydiant pêl-droed, i ddefnyddio'u cyfoeth eithafol a'u goruchafiaeth yn yr amserlenni teledu i beidio â hyrwyddo hapchwarae, sef beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ac mae hynny'n peri pryder mawr iawn.
Rwy'n credu y dylem ni hefyd boeni fod gemau fideo yn cael eu defnyddio i dargedu plant a hybu math o hapchwarae er mwyn eu paratoi ar gyfer y dyfodol. Rwy'n gwybod bod yr Awdurdod Safonau Hysbysebu yn ymwybodol o hyn ac yn ymdrechu i fod yn wyliadwrus, ond rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y dylem ni i gyd boeni amdano. Rwy'n cytuno'n llwyr bod angen i ni leihau ein mantol i £2, felly rwyf yn gobeithio eich bod yn llwyddo i ddarbwyllo Llywodraeth y DU i gymryd y cam hwnnw.
Mae'n debyg mai'r unig beth yr oeddwn i'n cytuno â Mrs Thatcher yn ei gylch oedd ei bod yn poeni am werthu tocynnau loteri yn ein swyddfeydd post. Mae pobl dlotaf ein cymunedau yn casglu eu budd-daliadau o swyddfa'r post hyd heddiw, er gwaethaf gallu trosglwyddo arian yn electronig, ac wedyn fe'u gwahoddir i wario rhywfaint ohono ar unwaith ar hapchwarae. Mae hynny'n dipyn o sefyllfa anghyfforddus, ac rydym ni i gyd yn ei weld bob tro yr ydym yn mynd i swyddfa'r post. Felly, rwy'n credu ei bod yn destun pryder mawr, ac rwy'n croesawu'r pwyslais yn yr adroddiad hwn yn fawr iawn.
Hoffwn i ganolbwyntio ar rywbeth nad yw yn yr adroddiad, sef y mater o fwydo ar y fron, nid oedd yn adroddiad y llynedd chwaith. Mae wedi'i gyfyngu i ddwy linell yn adroddiad Dr Atherton. Dywedir wrthym ni fod plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hanner mor debygol o gael eu bwydo ar y fron, ac mae hyn, yn amlwg, ynghyd â'r ffaith eu bod ddwywaith yn fwy tebygol o fod â dannedd wedi pydru, ar goll neu wedi'u llenwi. Mae hyn i gyd yn gysylltiedig. Pan holais i chi ynglŷn â'r pwnc hwn ym mis Tachwedd, fe wnaethoch chi ddweud bod hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a'ch bod chi wedi gofyn i'ch swyddogion a Choleg Brenhinol y Bydwragedd archwilio ffyrdd o wella nifer y mamau sy'n gwneud hyn a darparu gwell cymorth i deuluoedd. Felly, rwy'n awyddus deall, os nad yw'r wybodaeth hon ar gael yn ein hadroddiad ar iechyd y cyhoedd, o le ydym ni am gael gwybodaeth am ein strategaeth ar y pwnc pwysig iawn hwn. Oherwydd bod hyn, mewn gwirionedd, yn dilyn babanod ar hyd eu bywydau; os nad ydynt yn cael eu bwydo o'r fron, mae'n arwain at ganlyniadau difrifol. Mae'n bryder arbennig mai ar yr aelwydydd incwm isaf y mae pobl yn lleiaf tebygol o fwydo ar y fron ac felly mae angen mwy o gymorth i wneud hynny. Felly, rwy'n awyddus clywed beth y gallwch ei gynnig ynglŷn â hynny.
Diolch. Fe hoffwn i gydnabod swyddogaeth Jenny fel cyfarwyddwraig y Stafell Fyw, a grybwyllir mewn gwirionedd ar dudalen 24 yr adroddiad yn rhan o adran 7, ynghylch sut y caiff pobl eu helpu i gael gafael ar gymorth i bobl sy'n dioddef niwed yn sgil hapchwarae—un o nifer o fentrau cadarnhaol. Unwaith eto, rwy'n cydnabod yr hyn sydd gennych i'w ddweud am rym chwaraeon a gemau, naill ai i rannu negeseuon cadarnhaol neu, yn wir, i'w defnyddio i hysbysebu pethau y credwch chi sy'n achosi niwed posibl hefyd.
Ynghylch eich pwynt am fwydo ar y fron— i orffen, Llywydd—yn y ddadl yr wythnos diwethaf ynglŷn ag adroddiad y pwyllgor ar iechyd meddwl amenedigol, roedd adran yn yr adroddiad hwnnw ac yn fy ymateb a oedd yn ymdrin â bwydo ar y fron, nid dim ond mewn un maes penodol ond yn fwy cyffredinol am ein strategaeth bwydo ar y fron yng Nghymru, oherwydd ein bod yn cydnabod, ym mhob grŵp, yr hoffem ni weld mwy o bobl yn bwydo ar y fron—mae cydnabyddiaeth helaeth i fanteision iechyd a lles i'r fam a'r plentyn. Mae rhywbeth yno ynglŷn â chael partneriaid cefnogol yn rhan o hynny hefyd, a chymdeithas gefnogol sy'n cydnabod ei bod yn beth hollol naturiol yr ydym yn ceisio annog mwy ohono. Ac, o fewn hynny, rydym yn cydnabod, yn anffodus, bod cysylltiad pendant rhwng incwm a'r tebygolrwydd o fwydo ar y fron. Felly, mae hynny'n rhan o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ddeall lle yr ydym wedi bod yn llwyddiannus a heb fod yn llwyddiannus, ac, yn y ddau bwyllgor, yn y pwyllgor iechyd ac, yn wir, yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwy'n disgwyl adrodd yn ôl pan fydd y strategaeth honno yn barod. Rwy'n disgwyl y bydd craffu arnaf ynghylch hynny—bob tro y byddaf yn mynd gerbron y pwyllgor plant, rwy'n gwybod y gallaf ddisgwyl cwestiynau ynghylch bwydo ar y fron. Nes i ni weld gwelliant parhaus, rwy'n disgwyl y bydd y cwestiynau hynny'n dal i gael eu gofyn. Felly, nid wyf yn ei osgoi; mae'n faes gwaith sy'n cael ei ddatblygu a'i arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a byddaf i wrth gwrs yn adrodd yn ôl, nid yn unig i'r pwyllgorau, ond i'r lle hwn hefyd, wrth i ni wneud cynnydd—yn sicr wrth i ni ailffurfio ble yr ydym yn dymuno bod o ran hyrwyddo bwydo ar y fron ledled Cymru gyfan ym mhob grŵp incwm penodol, ond yn enwedig ymysg y rhai sy'n gwneud hynny leiaf ar hyn o bryd.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.