– Senedd Cymru am 4:44 pm ar 13 Chwefror 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar setliad terfynol yr heddlu 2018-19. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i wneud y cynnig. Alun Davies.
Cynnig NDM6649 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn.
Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Cynulliad eu cymeradwyo fanylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at y cyllid refeniw craidd ar gyfer y pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru ar gyfer 2018 i 2019. Ond cyn gwneud hynny, Dirprwy Lywydd, hoffwn roi teyrnged i'r dynion a'r menywod sy'n gwasanaethu yn lluoedd ein heddlu, a gobeithio y bydd rhai ar bob ochr i'r Siambr yn ymuno â mi i roi teyrnged i'r gwaith a wneir gan heddluoedd ledled Cymru, wrth gadw ein cymunedau'n ddiogel, a chadw at y safonau uchaf o ddyletswydd ac ymroddiad, ac, ar adegau, o ddewrder, wrth gynnal y materion diogelwch cymunedol sydd o fewn y setliad i'r lle hwn.
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod cyllid craidd i'r heddlu yng Nghymru yn cael ei gyflwyno drwy drefniant tri chyfeiriad sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Gartref a thrwy'r dreth gyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi eu datganoli hyd yn hyn, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei bennu a'i weithredu gan y Swyddfa Gartref. Mae'r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o hynny felly yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru. Fel yr amlinellwyd yng nghyhoeddiad setliad terfynol yr heddlu ar 31 Ionawr, cyfanswm y cymorth refeniw heb ei neilltuo i'r gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar gyfer 2018-19 yw £350 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at y swm hwn drwy'r grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig wedi'u hailddosbarthu yw ychydig dros £140 miliwn, a'r arian hwn, Dirprwy Lywydd, y gofynnir ichi ei gymeradwyo heddiw.
Fel yn y blynyddoedd a fu, mae'r Swyddfa Gartref wedi penderfynu defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn golygu y bydd y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gyd yn derbyn setliad gwastad ar gyfer 2018-19 o'i gymharu ar sail gyfatebol â 2017-18. Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi grant atodol, sef cyfanswm o £3.7 miliwn, i sicrhau bod Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru yn cyrraedd lefel y llawr. Mae'n rhaid imi ddweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn hynod siomedig yn hyn o beth. Nid ydym wedi gweld yr un geiniog ychwanegol i'n heddluoedd, ac mae hyn yn golygu toriadau mewn termau gwirioneddol yng ngwasanaethau heddlu ledled Cymru. Credaf y bydd llawer ohonom sy'n gweithio ochr yn ochr â'r heddlu ac yn edmygu gwaith yr heddluoedd ledled Cymru yn siomedig gan nad yw'r Swyddfa Gartref, er ei bod yn llawn addewidion melys, yn addo nac yn rhoi darpariaeth o gyllid ychwanegol ar gyfer heddluoedd na Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu. Credaf y byddai pobl ar bob ochr i'r Siambr hon yn awyddus i weld ein heddluoedd yn cael eu hariannu ar lefel briodol. Bydd y setliad ar gyfer 2018-19 yn rhoi cyllid craidd canolog ar yr un lefel â'r flwyddyn gyfredol. Bydd gan gomisiynwyr heddlu a throseddu y gallu i godi arian ychwanegol drwy eu harcheb dreth gyngor, ac rydym wedi gweld, unwaith eto, Lywodraeth Geidwadol y DU yn symud oddi wrth eu cyfrifoldeb nhw eu hunain o ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn rhoi mwy o faich ar drethdalwyr ledled Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn dymuno gweld hyn. Rydym yn awyddus i weld ein heddluoedd yn cael eu hariannu ar y lefel briodol.
Cyfrifoldeb y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yw pennu eu harchebion. Mae gan gomisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru y rhyddid i wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch cynnydd yn y dreth gyngor ac nid ydyn nhw'n ddarostyngedig i'r terfynau sy'n bodoli yn Lloegr. Wrth osod eu helfen nhw o'r dreth gyngor, byddwn yn disgwyl i bob comisiynydd heddlu a throseddu weithredu mewn modd rhesymol er mwyn ystyried y pwysau ar aelwydydd dan straen. Rydym yn deall bod penderfyniadau anodd yn angenrheidiol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu a'r prif gwnstabliaid i sicrhau y rheolir yr heriau ariannu mewn ffyrdd sy'n lleihau'r effaith ar ddiogelwch cymunedol yng Nghymru. Yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru, yn ei chyllideb ei hun ar gyfer 2018-19, wedi gwneud darpariaeth am ddwy flynedd o gyllid eto ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol a gafodd eu recriwtio dan y rhaglen flaenorol o ymrwymiad y Llywodraeth. Dirprwy Lywydd, mae cyfanswm o £17 miliwn wedi ei glustnodi yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf i barhau â'r ymrwymiad hwn. Mae'r cyflenwad llawn o swyddogion wedi cael eu defnyddio ers mis Hydref 2013, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddiogelwch y cyhoedd ledled Cymru. Rhan hanfodol o'u swyddogaeth yw mynd ati i ymgysylltu â phartneriaid a sefydliadau cymunedol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithgareddau troseddol cysylltiedig, ac maen nhw'n gwneud cyfraniad pwysig at wariant ataliol. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â'r pedwar heddlu yng Nghymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain, wedi cyflwyno'r adnodd ychwanegol hwn, sy'n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru.
Gan droi yn ôl at ddiben y ddadl heddiw, y cynnig yw cytuno ar yr adroddiad cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu, sydd wedi ei osod gerbron y Cynulliad. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn galluogi'r comisiynwyr i gadarnhau eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond byddwn yn hoffi gwneud y pwynt hefyd, Dirprwy Lywydd, nad wyf i'n credu bod gennym setliad boddhaol ar y materion hyn. Fy mwriad i yw symud ymlaen i greu polisi a threfniadau gweithio newydd yng Nghymru, gyda'n heddluoedd, symud ymlaen gyda phlismona a pholisi diogelwch cymunedol a chyfiawnder.
Gobeithio y bydd yr Aelodau ledled y Siambr gyfan yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma. Ond rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yr Aelodau ledled y Siambr gyfan yn deall hefyd y pwysau mawr sydd yn wynebu ein heddluoedd. A gobeithio y bydd yr Aelodau ledled y Siambr hefyd yn fy nghefnogi i wrth imi ddweud wrth Lywodraeth Geidwadol y DU bod ein holl heddluoedd yn haeddu gwell na hyn.
Wel, gyda chyllidebau heddluoedd Cymru yn cael eu hariannu, fel y clywsom, gan y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, byddwn yn cefnogi'r cynnig.
Etifeddodd Llywodraeth y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr a etholwyd yn 2010 werth £545 miliwn o doriadau i'r heddlu yn sgil cyllideb derfynol y Blaid Lafur, i'w gwneud erbyn 2014. Byddai cynlluniau Llafur i leihau'r diffyg ariannol a gwariant dan Mr Miliband wedi golygu cyllidebau cyfatebol i'r rhai a roddwyd ar waith gan Lywodraeth glymblaid y DU cyn 2015. Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai swm yr arian a gaiff yr heddlu gan y Llywodraeth yn cynyddu bob blwyddyn, yn unol â chwyddiant, ar gyfer y pum mlynedd i ddilyn. Mae rhan o'r arian ychwanegol dros y blynyddoedd hyn i fynd at feysydd penodol o blismona, megis seiberdroseddu a mynd i'r afael â chamfanteisio yn rhywiol ar blant. Gan yr ymdrinnir â'r rhain yn aml yn rhanbarthol, ni fyddai pob heddlu unigol yn gweld mantais i'r codiad hwn. Rhoddir mynediad hefyd i gronfa drawsnewid yr heddlu sy'n werth £175 miliwn.
Mae setliad yr heddlu gan Lywodraeth y DU yn cynyddu cyfanswm y cyllid ar draws y system heddlu yng Nghymru a Lloegr hyd at £450 miliwn yn 2018-19—cynnydd o dros £1 biliwn ers 2015-16. Mae Llywodraeth y DU wedi sicrhau grantiau heddlu i heddluoedd yn nhermau arian parod. Pe byddai'r comisiynwyr heddlu a throseddu a etholwyd yn lleol wedi codi'r cyfraniadau archebol o dreth gyngor £1 y mis am bod aelwyd, byddai hynny wedi caniatáu, yn ôl y Swyddfa Gartref, £3 miliwn yn ychwanegol yng Ngwent, £3.1 miliwn yn Nyfed-Powys, £4 miliwn yng Ngogledd Cymru a £6.7 miliwn yn Ne Cymru. Ond, fel y dywed Ysgrifennydd y Cabinet yn gwbl briodol, mae'r Comisiynwyr yn rhydd i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar ôl ymgynghoriad, ac mae'r comisiynwyr wedi cyhoeddi cynnydd archeb o 7 y cant ar gyfer De Cymru, 5 y cant ar gyfer Dyfed-Powys, 4.49 y cant ar gyfer Gwent—er y rhoddwyd feto ar hynny gan eu panel heddlu a throseddu—a 3.58 y cant yng Ngogledd Cymru. Ac, er nad yw Gogledd Cymru wedi cynyddu ei gyfran dreth i'r eithaf, mae De Cymru yn talu llai o hyd gan ei fod yn ceisio dal i fyny.
Mae cyfanswm y troseddau a gofnodir gan yr heddlu ledled Cymru wedi codi 12 y cant yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2016—wedi codi 14 y cant yng Ngwent, 13.7 y cant yng Ngogledd Cymru, 13 y cant yn Nyfed-Powys a 10.9 y cant yn Ne Cymru. Fodd bynnag, mae heddluoedd Cymru eu hunain wedi priodoli llawer o hynny i newidiadau i'r cofnodi yn 2014, a mwy o hyder ymysg y cyhoedd o safbwynt adrodd am droseddau. Pwysleisiodd Heddlu Gogledd Cymru hefyd fod gwell dealltwriaeth yn awr, a chan hynny gydnabyddiaeth, o gamfanteisio yn rhywiol ar blant, trais rhywiol, seiberdroseddu a throseddu difrifol a chyfundrefnol. Ar ben hynny, mae Awdurdod Ystadegau'r DU wedi dweud bod yr arolwg troseddu i Gymru a Lloegr yn rhoi mesur sy'n fwy dibynadwy, ac mae hyn yn dangos bod troseddu ledled Cymru a Lloegr wedi gostwng 9 y cant yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2017, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd arolwg troseddu 2016-17 ar gyfer Cymru a Lloegr wedi canfod bod 63 y cant o bobl Cymru o'r farn bod yr heddlu yn gwneud gwaith rhagorol neu dda, a Heddlu Gogledd Cymru sydd bedwerydd o'r brig ledled Cymru a Lloegr o ran hyder y cyhoedd.
Er bod nifer y swyddogion heddlu yng Nghymru wedi codi 1 y cant rhwng 2016 a 2017, mae'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu a'r pedwar prif gwnstabl yng Nghymru wedi rhybuddio y gallai eu hanallu i gael gafael ar y £2 filiwn y maen nhw'n ei dalu i'r ardoll prentisiaeth arwain at lai o swyddogion heddlu yn y dyfodol, a recriwtiaid posibl yn dewis ymuno â lluoedd Lloegr. Er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru i'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth y DU wedi ariannu Llywodraeth Cymru yn llawn ar gyfer hyn, ar ôl gwarchod y swm a dalwyd yn ardoll gan gyflogwyr sector cyhoeddus yng Nghymru a'r gostyngiad bloc Barnett canlyniadol. Mae Heddluoedd Cymru eisiau gweld yr arian hwn yn mynd tuag at goleg yr heddlu. Maen nhw wedi dweud wrthyf i bod hynny'n cael ei gydnabod gan y Swyddfa Gartref, ac maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r ystafell ymgynghori gyda'r Swyddfa Gartref, a datrys hyn un waith am byth.
Crëwyd Ymgyrch Tarian yn wreiddiol yn 2002 i ddarparu gorfodi gwybodus, cydgysylltiedig o'r gyfraith drwy integreiddio gwasanaethau heddluoedd Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent i fynd i'r afael â throseddu â chyffuriau. Yn 2004, lansiwyd Ymgyrch Tarian Plws i gydlynu ymateb i droseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru, gyda chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Er ei bod yn llai o broblem i Ogledd Cymru, sy'n gweithio gyda heddlu swydd Caer ar hyn, ceir pryderon fod Llywodraeth Cymru am dorri ei chyfraniad. Ceir hefyd bryderon fod Llywodraeth Cymru o 2019 ymlaen yn bwriadu cael gwared yn raddol ar ei chyfraniad blynyddol o £1.98 miliwn at raglen graidd cyswllt ysgolion Cymru gyfan, wrth i'r arian ddiflannu i'r cwricwlwm newydd i ysgolion. Ac mae'r perygl sydd ymhlyg yn y galwadau am ddatganoli'r heddlu yn amlwg yn nhystiolaeth cynigion i fachu'r grym oddi ar ein pedwar comisiynydd heddlu a throseddu sy'n atebol yn lleol a chanoli'r grym hwnnw gyda chomisiynydd sy'n wleidyddol atebol i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r setliad rydym ni'n ei drafod heddiw ar gyfer y gwasanaethau heddlu yn dangos yn gwbl glir, unwaith eto, pam bod angen datganoli plismona i Gymru fel mater o frys. Gwaethygu'r problemau ariannu a wynebir gan yr heddlu yng Nghymru mae'r setliad yma yn ei wneud. Tra bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni bod y setliad yn rhoi hwb o £450 miliwn i gyllidebau'r heddlu, mewn gwirionedd, mae £270 miliwn o'r ffigur yn dod yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi caniatâd i luoedd godi prisiau uwch ar drethdalwyr, tra bod £180 miliwn—yr arian sy'n weddill—yn dod yn sgil y Swyddfa Gartref yn cynyddu gwariant canolog ac yn 'top-slice-io'.
Felly, wrth grafu'r wyneb, fe ddaw'n amlwg bod setliad cyllid heddlu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwbl gamarweiniol. Mae'r setliad hwn yn golygu y bydd heddluoedd yn gorfod dewis rhwng cynyddu'r dreth gyngor o hyd at £12 i bob cartref, gan roi straen ychwanegol ar gyllidebau personol, neu, ar y llaw arall, mae'n rhaid iddyn nhw glustnodi toriadau pellach, a hynny yn ei dro yn peryglu diogelwch ein cymunedau ni. Mae cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn golygu toriad mewn termau real o £2.1 miliwn i Heddlu Gogledd Cymru.
Mae gan gyllideb Llywodraeth Cymru oblygiadau i Heddlu Gogledd Cymru hefyd. Rydym ni wedi sôn—roedd Mark Isherwood yn trafod y rhaglen swyddogion cyswllt ysgolion. Rhaglen effeithiol ydy hon, ond mae hi dan fygythiad rŵan oherwydd, yng nghyllideb 2019-20 Llywodraeth Cymru, mae yna doriad sylweddol. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i greu cyfleoedd i ddisgyblion yn ysgolion cynradd ac uwchradd y gogledd i wella eu dealltwriaeth, eu hagwedd a'u hymddygiad at bynciau pwysig fel cyffuriau, alcohol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a pherthnasau iach. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru a Llywodraeth Cymru, ond mi fydd y toriad o 44 y cant yng nghyfraniad Llywodraeth Cymru i'r rhaglen yma yn peryglu dyfodol y rhaglen yn ei chyfanrwydd, sydd yn destun pryder.
Mae'r achos o blaid datganoli plismona o San Steffan i'n Senedd Gymreig yn un hollol glir, a dyma'r amser i wneud hynny. Os ydy'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael y pwerau yma, a Manceinion yn cael rhai cyfrifoldebau dros blismona, pam nad ydy Cymru yn eu cael nhw hefyd? Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers i gomisiwn trawsbleidiol Silk argymell datganoli plismona, ond rydym ni'n dal yn ddim agosach at wireddu hynny. Mae ffigurau gan Heddlu Dyfed-Powys yn dangos pe bai plismona wedi'i ddatganoli a'i gyllido yn ôl pob pen o'r boblogaeth yna fyddai heddluoedd Cymru yn elwa o £25 miliwn y flwyddyn. Mi fyddai rhoi rheolaeth i Gymru dros ein heddluoedd ein hunain yn sicrhau gwell setliad cyllidol, a hefyd yn sicrhau bod un o'n gwasanaethau cyhoeddus pwysicaf yn cael ei reoli mor agos â phosibl at y cymunedau y mae'n eu gwarchod.
Yn gyntaf oll, hoffwn roi ar gofnod y gwaith aruthrol, er enghraifft, y mae swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn ei wneud, a'r gwahaniaeth sylweddol y mae'r 500 o swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a ariennir gan Llywodraeth Cymru wedi ei wneud mewn gwirionedd i'n cymunedau. Mae'r rhai hynny ohonom ni sydd wedi cerdded o amgylch ein cymunedau gyda Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y maen nhw'n ei wneud i'n cymunedau a'r adnodd ychwanegol y maen nhw'n ei gynrychioli mewn gwirionedd. A hefyd mae'r un peth yn wir am yr heddlu, sy'n gweithio dan yr amgylchiadau anoddaf a phwysau sylweddol.
Y cefndir i'r hyn sy'n digwydd gyda'r tangyllido a'r toriadau—y toriadau gwirioneddol—sydd wedi'u gwneud i blismona yng Nghymru yw hyn: mae niferoedd yr heddlu yn awr yn is nag y buon nhw ers 30 mlynedd, mae gan Gymru 680 yn llai o swyddogion heddlu nag a fu, mae troseddau treisgar yn y 12 mis diwethaf wedi codi 20 y cant, mae troseddu â chyllyll i fyny 26 y cant ac mae troseddau sydd heb ei datrys wedi codi o 74,000 i 86,000. Ni ellir gwadu'r cysylltiad rhwng hynny â'r tanariannu a'r toriadau i blismona.
Yn 2015, dywedodd Gweinidog y Llywodraeth Karen Bradley nad oedd y Ceidwadwyr yn cwtogi ar gyllid yr heddlu. Ac rwyf wedi gwrando ar yr hyn y mae llefarydd yr wrthblaid wedi ei ddweud mewn gwirionedd—yr hyn a gredaf sy'n set o ffigyrau o wlad y tylwyth teg, drwy gyfrwystra llaw. Wrth gwrs, pan wnaeth Karen Bradley y datganiad hwnnw, ceir sefydliad o'r enw Full Fact, sydd mewn gwirionedd yn gwirio'r datganiadau gwirioneddol sydd wedi eu gwneud ar draws y pleidiau gwleidyddol, ac yn eu gwirio gyferbyn ag ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, a dyma'r hyn a ddywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn gwirionedd:
Mae cyllid yr heddlu wedi syrthio 18% rhwng 2010/11 a 2015/16... gan ystyried chwyddiant.
Maen nhw'n dweud hefyd:
Mae hynny'n cymharu â chynnydd mewn cyllid o 31% rhwng 2000/01 a 2010/11.
Blynyddoedd Llafur oedd y rheini. Felly, yr hyn sy'n eglur iawn, clywsom yn gynharach heddiw—[torri ar draws.] Gwnaf, fe gymeraf i ymyriad.
A wnewch chi gydnabod y ffaith fod y gyllideb Lafur ddiwethaf wedi torri £548 miliwn oddi ar gyllid yr heddlu hyd at 2014 ac y byddai toriadau pellach wedi dilyn yn sgil y cyhoeddiadau economaidd dilynol a wnaed gan Weinidogion y gwrthbleidiau bryd hynny yn Llywodraeth y DU?
Wel, rydych chi'n dethol eich ffeithiau yn dda. Yr hyn y mae ystadegau'r ONS yn glir iawn yn ei gylch yw mai ar ôl i'r Torïaid ddod i rym, ers 2010, yr ydych chi wedi cwtogi 18 y cant ar blismona mewn termau gwirioneddol. O dan y Llywodraeth Lafur, gan fynd yn ôl hyd at 2001, cafwyd cynnydd o 31 y cant i'r gwariant ar yr heddlu mewn termau real. Ystadegau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yw'r rheini. Ac, fel y clywsom yn gynharach, un peth sy'n glir iawn, sef yr hyn sy'n digwydd pan fo Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan: mae tlodi yn cynyddu, mae digartrefedd yn cynyddu, ac mae Torïaid yn cynyddu torcyfraith hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar setliad blynyddol yr heddlu. Byddem ni yn UKIP yn awyddus hefyd i ymuno â'r Gweinidog yn ei deyrnged i swyddogion yr heddlu. Hoffwn nodi ar y dechrau ein bod ni yn cefnogi'r cynnig heddiw, ac rydym yn croesawu'r gefnogaeth ariannol gynyddol, er mai cynnydd bychan ydyw o gyllid allanol agregedig, sef cyfran Llywodraeth Cymru o setliad yr heddlu.
Gan symud ymlaen at faterion a godwyd heddiw, rwy'n nodi bod Mark Isherwood wedi codi'r problemau o ran yr ardoll prentisiaeth. Sylwais wrth ddarllen trawsgrifiadau o ddadl y llynedd ei fod wedi codi hynny y llynedd hefyd. Felly, byddai gennyf ddiddordeb i glywed ymateb y Gweinidog i hyn, oherwydd ymddengys bod y mater hwn yn dal i barhau.
Mater arall a gaiff ei godi yn aml yw datganoli plismona, ac mae Siân Gwenllian wedi ei godi heddiw. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson wrth ddadlau'r achos dros hynny. Nid ydym ni yn UKIP yn cefnogi hynny mewn gwirionedd. Ond, unwaith eto, byddai gennyf ddiddordeb i glywed ymateb y Gweinidog, oherwydd mae hyn yn rhywbeth y mae Llafur wedi dangos ei fod o'i blaid ar adegau arbennig yn y gorffennol. Gan gyfeirio'n ôl unwaith eto at drawsgrifiad o'r ddadl y llynedd, sylwais fod Jane Hutt, a oedd yn cynnig setliad yr heddlu i'r Llywodraeth ar yr achlysur hwnnw, yn ymddangos ei bod yn cefnogi datganoli plismona, ond pan ofynnodd Andrew R.T. Davies i Jane, mewn ymyriad, ai hynny mewn gwirionedd oedd polisi Plaid Lafur y DU yn San Steffan, ni chafodd ef ateb clir mewn gwirionedd i hynny. Ac o edrych ar—
Pam oedd hynny, ys gwn i.
Wel, roeddwn innau'n holi pam tybed, a dyna pam y codais y mater.
O edrych ar faniffesto Llafur, maniffesto'r DU o'r llynedd, nid oedd unrhyw sôn mewn gwirionedd am ddatganoli plismona, felly byddai'n dda inni glywed heddiw, Gweinidog, beth yw eich agwedd chi tuag at ddatganoli plismona, a sut y credwch chi y mae hynny'n cyd-fynd ag agwedd Plaid Lafur San Steffan?
Beth fydden ni yn UKIP yn hoffi eu gweld yn flaenoriaethau ar gyfer cyllid yr heddlu? Wel, yn gyffredinol rydym yn cefnogi'r egwyddor o fwy o blismyn ar y strydoedd. Rydym yn nodi i chi wneud ymrwymiad i 500 o swyddogion cymorth cymunedol. Ydym, rydym ni o'r farn mai da o beth yw hynny. Dywedasom hynny y llynedd. Rydyn ni'n credu y bydd mwy o amlygrwydd i swyddogion yr heddlu neu, os nad yw hynny i fod, i swyddogion cymorth cymunedol, yn cael effaith ataliol ar dorcyfraith ac yn arwain at gymunedau'n teimlo'n fwy diogel a mwy cydlynus mewn gwirionedd. I'r perwyl hwnnw, byddem yn cefnogi unrhyw gamau a fyddai'n tynnu swyddogion yr heddlu oddi wrth waith waith papur a'u cael nhw allan yn y gymuned. Roeddech chi eich hun yn sôn am ddiogelwch cymunedol, felly rydym yn cytuno â chi yn hynny o beth.
Mae Gweinidogion Llafur yn y Cynulliad wedi tueddu yn y gorffennol i siarad llawer am gymryd camau i droi pobl ifanc oddi wrth dorcyfraith ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac rydym ninnau'n cefnogi'r dull hwn o ymdrin â'r mater yn gyffredinol. Os gellir cael ymyriadau cynnar i atal troseddau rhag digwydd yn y lle cyntaf, yna mae hynny'n ffordd gost-effeithiol o ddefnyddio'r gyllideb. I fod yn fwy penodol, pa droseddau a welwn yng Nghymru ar hyn o bryd yr ymddengys eu bod ar gynnydd neu eu bod yn broblem arbennig o ddyrys? Wel, i edrych ar Ganol De Cymru yn gyntaf, rydym wedi gweld problemau gyda beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd, tanau gwair bwriadol a phroblemau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o gyffuriau ar y stryd. Rwyf i wedi codi'r materion hyn mewn cwestiynnau amrywiol yn y Siambr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gan symud i ffwrdd o'r De, cafwyd problem benodol, sy'n ymddangos ei bod yn effeithio ar Gasnewydd yn benodol, sef anelu taflegrau at gerbydau argyfwng a gweithwyr achosion brys. Rydym yn gwybod am rai ardaloedd o Gasnewydd lle, yn ddiweddar, mae gyrwyr tacsi wedi bod yn amharod i fynd iddynt. Nid mater o ladd ar Gasnewydd gennyf i yw hyn, gyda llaw; ond cydnabod yn syml fod problemau gwrthgymdeithasol i'w cael yno.
Felly, byddai'n ddiddorol ystyried sut y gallem ni ymgeisio i ymdrin â hyn wrth ei wraidd a cheisio deall pam mae hyn yn digwydd a pha fesurau cymunedol y gallem ni eu cyflwyno mewn ymgais i rwystro'r gweithredoedd eithaf disynnwyr hyn rhag digwydd. Wrth gwrs, nid dim ond yng Nghasnewydd y mae hyn yn digwydd. Mae gan Chris Bryant, AS Llafur dros y Rhondda, Fil Aelod preifat yn mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd, ac mae ei Fil yn galw am gosbau llymach yn erbyn troseddwyr sy'n ymosod ar weithwyr argyfwng. Mae ymosodiadau ar weithwyr o'r fath wedi codi i 275 bob dydd, sy'n syfrdanol, er mai ffigwr i'r DU yw hynny wrth gwrs. Ond rwy'n credu bod angen inni gyfuno cosbau llymach gyda dealltwriaeth o'r rhesymau pam mae pethau o'r fath yn digwydd yn y lle cyntaf.
Dyna ddigon gennyf i ar setliad heddiw. Fel dywedais, rydym yn cefnogi eich cynnig. Diolch.
A gaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes penodol yn unig, y cyntaf yw'r mater ynglŷn â'r ardoll prentisiaeth? Byddwch yn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, mai barn Llywodraeth y DU yw ei bod wedi datganoli adnoddau i Lywodraeth Cymru i ganiatáu i'r arian hwn fod ar gael i heddluoedd Cymru er mwyn elwa ar y manteision hynny y gallasai'r ardoll prentisiaeth eu rhoi iddyn nhw ac aelodau eu gweithlu. Wrth gwrs, nid swm bach yw hwn yn achos Heddlu Gogledd Cymru. Er enghraifft, maen nhw wedi awgrymu i mi ei fod yn £423,000 o incwm yn flynyddol y maen nhw ar hyn o bryd yn ei ildio oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i gael rhyw fath o gytundeb gyda Llywodraeth y DU am argaeledd yr arian hwnnw. Mae hwn yn arian parod sydd yn eich pocedi chi eisoes, felly rwy'n credu ein bod yn haeddu eglurhad pam nad yw'r arian hwnnw'n cael ei ryddhau i Heddlu Gogledd Cymru a heddluoedd eraill yng Nghymru i'w galluogi i wella sgiliau eu gweithluoedd.
Yn ail, rwyf hefyd am godi'r pwynt am swyddogion cyswllt ysgolion. Mae wedi ei wneud mewn sawl ffordd yn barod. Erbyn hyn, barn Llywodraeth Cymru yw y bydd y cwricwlwm newydd yn y dyfodol yn gallu parhau â'r gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion cyswllt ysgolion, ond fel y dywedodd Siân Gwenllian yn gwbl briodol, nid camddefnyddio sylweddau yw'r unig beth y mae'r swyddogion hyn yn ymdrin ag ef; mae perthynas iach, ymddygiad gwrthgymdeithasol a materion sy'n ymwneud â diogelwch personol yn faterion eraill hefyd. Eto, yn achos Heddlu Gogledd Cymru yn unig, rydym yn sôn am £388,000 y flwyddyn y bydd yr heddlu hwn yn amddifad ohono oherwydd penderfyniad bwriadol gan Lywodraeth Cymru i ailgyfeirio’r arian hwnnw i'r gyllideb addysg ac oddi wrth ein heddlu. Tybed, pan fyddwch yn ychwanegu at hynny gost yr hyn y maen nhw'n ei ildio o ran yr ardoll prentisiaeth, sut ydych chi'n disgwyl i ddim ond yr un heddlu hwnnw wneud iawn am £800,000 yn y blynyddoedd ariannol i ddod, nad ydyn nhw ar hyn o bryd yn ei dderbyn o ganlyniad i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i rannu ei grant bloc.
Gwrandewais yn astud ar y sylwadau ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Rwy'n gwir werthfawrogi gwaith y swyddogion cymorth cymunedol yn fy etholaeth i. Maen nhw'n gwneud gwaith rhagorol, yn enwedig o ran ymgysylltu â'r cymunedau lleol lle y maen nhw'n gweithio. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu tua 500 o'r rhain, ac mae 101 o'r rheini yn y Gogledd ar hyn o bryd. Ac rwyf yn gofyn i chi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i roi ymrwymiad parhaol i ariannu'r swyddogion cymunedol hynny, oherwydd y gwaith rhagorol y maen nhw'n ei wneud . Nid wyf i'n credu bod unrhyw ymrwymiad wedi ei wneud y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol nesaf, ond byddai'n ddiddorol cael clywed beth yw eich barn chi am hynny. Rwyf i yn sicr yn dymuno eu gweld yn parhau am gyfnod llawn y Cynulliad hwn, a chredaf y byddai rhywfaint o sicrwydd ynghylch hynny yn rhywbeth defnyddiol dros ben.
Ac yn olaf i gyd, os caf i, hoffwn roi fy marn ar y gwaith partneriaeth y mae'r heddlu yn ei wneud gydag awdurdodau lleol a'r bwrdd iechyd yn y Gogledd yn benodol, ac yn wir rai o'r gwasanaethau argyfwng eraill. Mae llawer o'r problemau y mae'r bwrdd iechyd yn eu creu i'r heddlu yn dod â chostau ychwanegol yn eu sgil. Felly, er enghraifft, mae oedi wrth aros am ambiwlans i gyrraedd y man pan fydd swyddog yr heddlu wedi galw amdano yn broblem a nodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru fel un sy'n achos cryn bryder ar eu rhan. Mae'n tynnu swyddogion oddi wrth ddyletswyddau ymateb eraill pan fydd yn rhaid aros am oriau cyn i ambiwlans gyrraedd. A dweud y gwir, pe byddai swyddog yr heddlu yn galw am ambiwlans, neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall fel meddyg neu swyddog heddlu, dylen nhw fod â'r gallu i wneud i'r ambiwlans hwnnw ymateb yn gyflymach o lawer oherwydd y pwysau ychwanegol y mae'n ei osod ar eu gwasanaethau nhw.
Yn ogystal â hynny, mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud hefyd eu bod nhw'n cael problemau wrth geisio cael Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ymgysylltu ar faterion sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl. Eto, nid yw hynny'n fy synnu i oherwydd y problemau sy'n bodoli yn y Bwrdd Iechyd hwnnw. Ond rwy'n credu bod y rhain i gyd yn ychwanegu at rywfaint o'r pwysau a wynebir gan ein heddluoedd. Ni wn beth yw'r sefyllfa mewn rhannau eraill o Gymru, ond yn sicr yn y Gogledd mae'r diffyg ymgysylltu gan y bwrdd iechyd a'r diffyg ymgysylltu gan y gwasanaeth ambiwlans o ran darparu ymatebion yn arwain at gostau ychwanegol.
Felly, mae hynny, ynghyd â'r diffyg hwn o ran buddsoddiad yn yr ardoll prentisiaeth, a'r diffyg adnoddau o ran y swyddogion cyswllt ysgolion yn y blynyddoedd i ddod, yn achosi cryn bryder. Rwyf yn gobeithio y gallwch roi rhywfaint o gysur inni o ran y pethau hynny ac y byddwch yn edrych ar y materion hyn yn y blynyddoedd i ddod er mwyn gwneud yn siŵr bod yr adnoddau yn mynd trwyddo.
Diolch am y cyfle i gyfrannu'n fyr at y drafodaeth ac i ategu'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud eisoes ynglŷn â'r rhaglen cyswllt ysgolion, oherwydd mae'n wasanaeth ataliol pwysig iawn. Mae'n llenwi bwlch yn sicr o safbwynt y ddarpariaeth addysg i blant—bwlch na fyddai'n cael ei lenwi'n aml iawn oni bai bod yr heddlu yn darparu'r gwasanaeth yna. Maen nhw'n edrych ar ddiogelwch ar y we, camddefnydd sylweddau, trais yn y cartref—mae yna wers hyd yn oed i blant pump oed i ddechrau trafod materion yn ymwneud â thrais yn y cartref. Hebddo, mi fyddai yna fwlch difrifol. Ac os ydy'r toriadau arfaethedig yn dod i rym, yna mi fydd y gwasanaethau yn crebachu ac mae'n debyg y bydd ond yn digwydd mewn ysgolion uwchradd. Mae'r Llywodraeth yn sôn am yr ACEs a'r angen i daclo'r profiadau difrifol yma y mae rhai plant yn eu cael—wel, erbyn hynny, yn aml iawn, mae'n rhy hwyr.
Un o naratifau y Llywodraeth yma yw bod angen mwy o bwyslais ar lesiant pobl ifanc o fewn y gwasanaeth addysg, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y diwygiadau yn y cwricwlwm. Naratif arall wrth gwrs yw bod angen mwy o fuddsoddiad ataliol. Wel, dyma i chi wasanaeth sy'n cyflawni'r ddau beth yna: bron i 10,000 o wersi y llynedd ar draws Cymru, a 230,000 o blant yn cael budd uniongyrchol o'r ddarpariaeth yma, ac wrth gwrs mae'r toriad o bosibl yn mynd i olygu ein bod ni'n colli llawer iawn ohono fe. Rwy'n gwybod fod y comisiynydd plant yn awyddus iawn i weld y gwasanaeth yma'n parhau. Rwy'n siŵr hefyd y bydd y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd â barn ynglŷn â hyn, oherwydd dyma'r union math o beth y dylem ni fod yn ei hyrwyddo a'i amddiffyn.
Felly, dim ond i ategu'r negeseuon, mewn gwirionedd, i chi wneud beth y gallwch chi i amddiffyn y gyllideb yma, oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod, yn y pen draw, os na fyddwn ni'n gwneud hynny, yna mi fydd yn costio'n fwy, nid yn unig i'r Llywodraeth, ond i gymdeithas yn ehangach.
Diolch. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl—Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma ar faterion o fewn y gyllideb, ac rwy'n ymrwymo i'r Aelodau y byddaf yn ystyried yr holl faterion hynny ac y byddaf yn gwneud datganiadau pellach arnynt yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
Ond gallaf anghytuno â Llŷr Gruffydd yn ei sylwadau terfynol oherwydd mai materion yw'r rhain sydd yn eu hanfod yn ganlyniad i bolisi Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig a'r polisi y mae'r Swyddfa Gartref yn ei ddilyn wrth achosi toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn termau real i'n heddluoedd—[Torri ar draws.] Rwy'n barod i gymryd ymyriad, ond caniatewch imi orffen fy mrawddeg yn gyntaf. Byddwn yn ddiolchgar. Byddaf yn mynd i'r afael â—. Roedd coma yno, nid atalnod llawn. Byddaf yn mynd i'r afael â'r pwyntiau a godwyd, ond, yn y bôn, mae'r rhain yn faterion sy'n ganlyniad i'r gostyngiadau mewn cyllidebau i'r heddluoedd o ganlyniad i'r polisi o galedi sy'n fethiant ac a arweinir gan ideoleg. Ildiaf.
Rydych chi'n ceisio pentyrru’r bai am y setliadau cyllideb pitw hyn i gyd ar Lywodraeth y DU, ond y gwirionedd yw, fel y dywedais yn gynharach, fod yr ardoll prentisiaeth eisoes wedi cael ei ddatganoli i chi. Mae'r arian gennych chi ar gyfer yr ardoll prentisiaeth—oddeutu £400,000—ac yna, yn ogystal â hynny, swyddogion cyswllt ysgolion—mae gennych chi £388,000 yr ydych yn bwriadu ei dynnu'n sydyn oddi ar Heddlu Gogledd Cymru yn 2019. Eich penderfyniad chi yw hwnnw, nid un Llywodraeth y DU.
Ildiaf i Darren Millar yn y gobaith ofer—byddech wedi meddwl y buaswn wedi dysgu fy ngwers ar ôl degawd o wneud hynny—y byddai ef mewn gwirionedd yn ysbrydoli'r ddadl ac y byddai'n ysbrydoli'r Aelodau, yn hytrach na pharhau i fynd ar ôl dadl sydd wedi methu, na lwyddodd i'w wneud yn ei sylwadau sylweddol a methodd â gwneud hynny eto yn y fan hon. Ond os yw eisiau ymuno â mi i gefnogi datganoli cyllideb plismona a chyfrifoldeb am blismona—byddwn yn ildio eto pe byddai'n dymuno. Nid yw'n dymuno hynny.
Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth ymateb i'r ddadl: rwyf i yn cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan Siân Gwenllian ar fater cyllidebau ac ar ddatganoli heddluoedd hefyd. Gallaf sicrhau Gareth Bennett mai polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai'r materion hyn gael eu datganoli i Gymru, ac mae'n bolisi gan y Blaid Lafur a'r mudiad Llafur fod y pethau hyn i'w datganoli i'r lle hwn ac i'r wlad hon. Ac roedd y pwyntiau a wnaed gan Mick Antoniw, credaf, yn drawiadol tu hwnt. Ond mae'r pwyntiau a wnaed am swyddogion cymorth cymunedol a'r swyddogaeth sydd ganddynt mewn cymunedau wrth helpu i'w cadw'n ddiogel yn gwbl sylfaenol i fynd i'r afael â materion torcyfraith a materion diogelwch cymunedol. Byddwn yn parhau i amddiffyn y gyllideb honno, ac yn sicr rwy'n awyddus i weld cyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at swyddogion cymorth cymunedol yn cael ei gynnal yn y tymor hwy, ac nid yn unig dros y flwyddyn ariannol gyfredol bresennol ac i ddod.
Ond mae'r pwynt sylfaenol a gododd Mick Antoniw am 18 y cant o doriadau yn hytrach na chynnydd o 30 y cant yn y gyllideb yn sylfaenol i holl rannau eraill y ddadl a gawsom ni'r prynhawn yma. Yn y pen draw, rydym wedi clywed geiriau caredig am yr heddluoedd gan Ysgrifenyddion Cartref a Gweinidogion plismona olynol yn Llundain, ond yr hyn na welsom ni fu arian i gynnal a chefnogi'r polisïau hynny.
A gadewch imi ddweud hyn, Dirprwy Lywydd: roedd Mark Isherwood, mewn cyfraniad braidd yn rhyfedd, yn ymddangos ei fod yn dadlau ar un adeg fod gan yr heddlu lawer gormod o arian, os unrhyw beth, ac yna roedd yn ymddangos ei fod yn rhoi'r bai ar ddioddefwyr bron am nifer y troseddau, ac rwyf yn cael honno'n ddadl ryfedd i'w gwneud. Ond gadewch imi ddweud hyn wrth Mark Isherwood, oherwydd gwn fod ganddo rai pryderon gwirioneddol ym mhob un o'r materion hyn: yn y bôn, mae gennym ddau fater yn ein hwynebu yma. Mae gennym setliad diffygiol sy'n cyflwyno polisïau a gafodd eu gwneud yn wael, ac mae gennym resymeg ddiffygiol yn y Trysorlys nad yw'n rhoi digon o arian i'n gwasanaethau cyhoeddus craidd, ac rwy'n cynnwys yr heddlu yn hynny o beth.
Gadewch i mi ddweud hyn: roeddwn yn ymweld â charchar Abertawe fore dydd Iau diwethaf a bûm yn siarad â rheolwyr y carchar a rheolwyr y gwasanaeth carchardai ar y pryd. Mae'n amlwg i mi oni allwn ganolbwyntio a gosod cyd-destun ein polisi cosbau o fewn cyd-destun adsefydlu, o fewn cyd-destun y gwasanaeth prawf a godwyd gan arweinydd Plaid Cymru yn ystod y sesiwn cwestiynau yn gynharach heddiw, o fewn cyd-destun y gwasanaethau iechyd a ddarperir gan y byrddau iechyd lleol, o fewn cyd-destun darparwyr addysg lleol yn darparu addysg ar gyfer pobl sydd yn y carchardai, heb gyd-destun yr heddlu yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau golau glas eraill, heb gyd-destun y gallu i gydgysylltu gwasanaethau a chyflawni dull cydlynol wrth lunio polisi, nid ydym yn mynd i lwyddo i gyflawni polisi cydlynol mewn unrhyw elfen o faes cyfiawnder. Ac rwy'n credu mai trychineb yw hynny. Mae'n drychineb i bobl Cymru nad ydyw Llywodraethau olynol y DU wedi gallu sefydlu polisi plismona a chyfiawnder sydd wedi sicrhau setliad i'r lle hwn sy'n angenrheidiol ac yn foddhaol. Mae honno'n drychineb lwyr, a gobeithio y gwelwn newidiadau sylweddol yn y setliad yma a fydd yn ein galluogi i gael y cydlyniad hwnnw yn y dyfodol.
Gadewch i mi ddweud hyn—ac roedd Siân Gwenllian yn llygad ei lle yn y pwyntiau a wnaeth hi: na fydd cydlyniad polisi yn trosi'n blismona mwy effeithiol, ni fydd yn golygu darpariaeth fwy effeithiol o ran diogelwch yn ein cymunedau, na darpariaeth o'r amddiffyniad sydd ei angen ar ein dinasyddion ac y maent yn ei haeddu ac yn gofyn amdano, oni bai fod digon o arian i wasanaethau plismona er mwyn cyflawni hynny. Ac yn y bôn mae'r Trysorlys a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig wedi methu â darparu arian parod ar sail y geiriau y maen nhw—
Ni fyddaf yn cymryd rhagor o ymyriadau. Ceisiais i yn gynharach. Ni weithiodd yn dda. Cawsom fwy o wres na golau, rwy'n ofni, ac ni fyddaf yn cymryd unrhyw ymyriadau yn y dyfodol o feinciau'r Ceidwadwyr. Yr hyn y byddaf yn ei dderbyn o feinciau'r Ceidwadwyr yw os ydynt yn barod i roi eu gair inni y byddan nhw'n ymuno â'r holl bleidiau gwleidyddol eraill yn y lle hwn a dadlau o blaid cyllid digonol ar gyfer yr heddlu, yna byddwn yn hapus i gymryd ymyriad o'r tu ôl i mi, ond rwy'n amau a fyddaf yn gweld hynny.
Wrth geisio cefnogaeth y prynhawn yma a chymeradwyo'r setliad i'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, hoffwn ddweud hyn: mae angen setliad ar Gymru sy'n gweithio i bobl Cymru ac un y mae'n ei haeddu; mae'r gwasanaethau plismona a'r heddluoedd ledled Cymru gyfan yn haeddu cael ein cefnogaeth barhaus, a byddwn yn darparu'r cymorth parhaus hwnnw; bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni ei swyddogaeth o weithio ochr yn ochr â'n heddluoedd; byddaf yn ceisio bwrw ymlaen â pholisi a threfniadau gweithio newydd yng Nghymru i ddod â'n heddluoedd ni at ei gilydd fel y gallwn ddarparu ymatebion Cymreig i broblemau Cymreig; rwyf eisiau bwrw ymlaen â pholisi diogelwch a chyfiawnder cymunedol; ac rwyf eisiau, a byddaf yn parhau i ddadlau â Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig am, gyllid digonol ar gyfer ein heddluoedd. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.