– Senedd Cymru am 3:21 pm ar 28 Chwefror 2018.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar lywodraethiant yn y DU yn dilyn Brexit. Galwaf ar Mick Antoniw i gynnig yr adroddiad.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Deyrnas Unedig wedi bod drwy gyfnod o newid cyfansoddiadol aruthrol ers dyfodiad datganoli. Mae'r newidiadau i'r ffordd rydym yn cael ein llywodraethu wedi trawsnewid ac yn parhau i drawsnewid ein tirlun gwleidyddol a chyfansoddiadol. O ganlyniad i'r bleidlais yn 2016 i adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Deyrnas Unedig hefyd bellach yng nghanol un o'r diwygiadau cyfansoddiadol pwysicaf ac anoddaf iddi ei wynebu erioed, gyda goblygiadau hirdymor i weithrediad a llywodraethiant y DU a chenhedloedd a rhanbarthau unigol y DU. Dyma yw cefndir cyfansoddiadol ein gwaith ar y cysylltiadau rhyngsefydliadol rhwng llywodraethau a Seneddau datganoledig y DU.
Roedd ein gwaith hefyd yn pwyso ar waith craffu'r pwyllgor ar Fil Cymru ac yn benodol, y pryderon rheolaidd a fynegwyd ynglŷn ag effeithiolrwydd y cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a sut yr oedd hyn yn effeithio ar ddatblygiad y Bil. Roedd ein hadroddiad ar lywodraethiant y DU yn dilyn Brexit, a gyhoeddwyd gennym ar ddechrau mis Chwefror, yn benllanw ar dros flwyddyn o waith. Yn ystod 2017, esblygodd y gwaith hwn, a ddechreuodd fel 'Llais cryfach i Gymru', ac effeithiwyd arno gan nifer o ddigwyddiadau megis etholiad cyffredinol y DU a pharatoadau'r DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ganlyniad i'r Bil yr Undeb Ewropeaidd (Hysbysu am Ymadael) dadleuol.
Cyn i mi fynd ar drywydd ein canfyddiadau, mae gennyf lawer o bobl i ddiolch iddynt. Yn gyntaf oll, y rhai a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; yn ail, y panel dinasyddion, a roddodd eu hamser yn barod i'n helpu gyda'n gwaith ac a roddodd gipolwg i ni ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan Lywodraethau a Seneddau sy'n gweithio gyda'i gilydd dros y bobl y maent yn eu gwasanaethu; yn drydydd, panel o arbenigwyr a helpodd i lunio a chanolbwyntio ein syniadau ar yr adroddiad diwethaf; ac yn olaf ond nid yn lleiaf, cyn-Gadeirydd y pwyllgor hwn, Huw Irranca-Davies, a arweiniodd ein gwaith am y naw mis cyntaf.
Felly, gan droi at yr adroddiad, mae'n gwneud naw argymhelliad. Rydym yn credu eu bod yn angenrheidiol i wella ein cysylltiadau rhyngsefydliadol, a'r un mor bwysig, i sicrhau nad yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at ganlyniadau cyfansoddiadol anfwriadol. Wrth ddod i gasgliadau, ceisiasom ddysgu gwersi, a chymeradwyo, lle y teimlem fod hynny'n briodol, argymhellion a geir mewn adroddiadau eraill ar y pwnc hwn, gan gynnwys y rhai a luniwyd gan bwyllgorau seneddol ar draws y DU. Yn wir, mae llawer o'r sylwadau a'r themâu a ddaeth i'r amlwg yn ein gwaith yn adlewyrchu ac yn adeiladu ar ganfyddiadau'r pwyllgorau hynny. Cawsom ein calonogi gan y lefel gymharol uchel o gonsensws trawsbleidiol sydd wedi datblygu ymysg y gwahanol bwyllgorau cyfansoddiadol ar yr angen am ddiwygio cyfansoddiadol radical a sut y gellid cyflawni hynny.
Mae ein dau argymhelliad cyntaf yn canolbwyntio ar gryfhau'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli ar hyn o bryd drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Mae ein pumed a'n chweched argymhelliad yn canolbwyntio ar ddefnyddio cynhadledd y Llefaryddion i helpu i hwyluso newid. Rydym yn credu y gellid defnyddio cynhadledd y Llefaryddion fel ffordd o ddod i gytundeb ar newidiadau i gysylltiadau rhyngsefydliadol y DU. Yn anochel, bydd angen i'r rhain addasu, nid yn unig i broses y DU o adael yr UE, ond hefyd i'r berthynas newidiol rhwng gwledydd cyfansoddol y DU o ganlyniad.
Clywsom nifer o enghreifftiau o sut y gall cysylltiadau rhyngbersonol effeithiol rhwng Gweinidogion gynorthwyo gwaith y Llywodraeth o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, ni allwch ddibynnu ar y cysylltiadau hynny bob amser. Felly, er mwyn cael llywodraethiant da, mae'n hanfodol sicrhau bod strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol ar waith sy'n gallu datrys yn effeithiol unrhyw dorri cysylltiad rhwng Gweinidogion. Mae sicrhau bod y trefniadau'n iawn yn hanfodol er mwyn sicrhau effeithlonrwydd yn y modd y darparir gwasanaethau lle y ceir buddiannau cyffredin rhwng Llywodraethau, lle y bo angen datrys anghydfodau, neu yn achos Cymru a Lloegr, lle y ceir manteision i gydweithio, er enghraifft ar faterion trawsffiniol. Felly, aethom ati i archwilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bodoli ar hyn o bryd i weld a ydynt yn addas at y diben ac i asesu a oes angen iddynt newid, yn enwedig er mwyn sicrhau nad yw buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i'r cyrion yn y trefniadau cyfansoddiadol newydd sy'n dod i'r amlwg yn y DU.
Llywodraethir y cysylltiadau rhynglywodraethol cyfredol drwy’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Clywsom sut y mae’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion angen gwella'r ffordd y mae'n gweithredu, gyda rhai tystion yn galw am ailwampio llwyr. Roeddem yn cytuno gyda'r rhai a ddywedodd wrthym fod angen cryfhau'r cysylltiadau rhynglywodraethol, nid yn unig rhwng Cymru a Lloegr, ond fel rhan o ddull pedair gwlad o weithredu, lle mae pob gwlad yn cael eu trin yn gyfartal. Nid yw Llywodraethau olynol y DU wedi adnewyddu peirianwaith Llywodraeth yn ddigonol i ymateb i'r cysylltiadau newidiol rhwng Llywodraethau ar ôl datganoli. Mae hyn wedi gadael marciau cwestiwn difrifol o ran sut y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ymdrin yn deg â heriau sy'n dod i'r amlwg wrth i’r DU adael yr UE. Felly, mae’r angen am ddiwygio sylfaenol yn glir ac yn ddybryd. Yn ein barn ni, yr opsiwn gorau fyddai mabwysiadu agwedd gwbl newydd tuag at gysylltiadau rhynglywodraethol er mwyn darparu’r cryfder a’r gwytnwch sefydliadol sydd eu hangen i wynebu heriau'r dyfodol.
Mae rhinweddau sylweddol i argymhelliad y Prif Weinidog ynghylch Cyngor Gweinidogion y DU i ddisodli’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion a byddai'n ateb llawer o'r pryderon a glywsom yn y dystiolaeth. Mewn gwirionedd, byddai’n fforwm o Lywodraethau cenedlaethol yn gweithio ar y cyd er budd y Deyrnas Unedig. Byddai'n darparu’r newid sydd ei angen i sicrhau bod gennym gydlywodraethu priodol, gan gynnwys mewn meysydd a gydgysylltwyd ar lefel Ewropeaidd. O ganlyniad, roeddem yn ystyried mai cynigion y Prif Weinidog oedd yr ateb hirdymor mwyaf cydlynol i ddatrys pryderon ynglŷn â chysylltiadau rhynglywodraethol. Fodd bynnag, cam cyntaf hanfodol ac ymarferol fyddai cryfhau strwythur cyfredol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a dyna oedd ein hargymhelliad cyntaf. Rydym yn credu y gellid cyflawni hyn drwy sicrhau bod cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn cyflawni swyddogaethau uwchgynhadledd flynyddol penaethiaid Llywodraethau a thrwy ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat cyfredol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i gynnwys y farchnad sengl a masnach, ac yn benodol, i gytuno ar fframweithiau cyffredin.
Roedd ein hail argymhelliad unwaith eto yn adlewyrchu safbwyntiau pwyllgorau seneddol drwy osod cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol. Gellid gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddiwygio Bil ymadael â’r UE Llywodraeth y DU, sydd ar hyn o bryd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Yn y tymor hwy, ar ôl Brexit, roeddem yn argymell y dylai’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion fod yn destun diwygio sylfaenol fel y bydd yn dod yn gyngor y DU sy’n gorff gwneud penderfyniadau gyda mecanwaith annibynnol ar gyfer datrys, barnu a dyfarnu mewn achosion o anghydfod. Ochr yn ochr â’r newidiadau hyn, rydym yn credu y dylai’r memorandwm dealltwriaeth rhwng y DU a llywodraethau datganoledig—gan gynnwys y nodiadau cyfarwyddyd ar ddatganoli—fod yn destun ailwampio trwyadl i gynnwys cydweithio rhwng pob un o Lywodraethau’r DU. Dylai hyn anelu at sefydlu cydlywodraethu mewn perthynas â’r systemau sy'n helpu i ddarparu cysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol a theg.
Daw hyn â mi at fater arall sy’n gwbl sylfaenol i gysylltiadau rhynglywodraethol effeithiol, sef sicrhau bod gweision sifil yn Whitehall yn deall datganoli. Mae nifer o dystion wedi tynnu sylw at y diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n bodoli mewn rhannau o Whitehall mewn perthynas â datganoli, er gwaethaf rhai ymdrechion clodwiw gan weinyddiaethau olynol i unioni'r sefyllfa. Credwn ei bod yn annerbyniol fod y lefel o ddealltwriaeth o ddatganoli ar draws Whitehall yn aml yn wael, fod dealltwriaeth o ddatganoli yng Nghymru yn arbennig o wael mewn rhai adrannau allweddol, a bod ymdrechion i unioni'r sefyllfa hon wedi bod yn annigonol. Efallai fod ymagwedd gweision sifil Whitehall wedi'i chrynhoi orau gan un tyst a ddywedodd wrthym:
Dylwn ddweud nad wyf erioed wedi credu bod rhyw fath o reswm maleisus dros anwybyddu’r Alban a Chymru. Credaf ei fod yn fwy o esgeulustod diniwed.
Mae’n bosibl fod yr agwedd hon tuag at ddatganoli yn deillio o’r gwrthdaro sy'n bodoli ar hyn o bryd yng nghyfansoddiad cyfredol y DU, lle mae gwasanaeth sifil y DU yn cefnogi Llywodraeth y DU yn ei rôl fel y weithrediaeth ar gyfer y DU a Lloegr i bob pwrpas. Yn sicr, roeddem yn teimlo bod peirianwaith gwasanaeth sifil mewnol Whitehall sy'n cynnal datganoli fel y'i disgrifiwyd i ni yn gymhleth ac yn ddryslyd. Mae'n fater rydym yn bwriadu mynd ar ei drywydd ymhellach gyda Llywodraeth y DU maes o law.
Mae’r un rhesymeg yn gymwys ar gyfer gwella cysylltiadau rhynglywodraethol ac mae'n berthnasol i'r ymgysylltiad rhwng y Seneddau sy'n ffurfio rhan annatod o’n systemau cyfansoddiadol. Mae'n amlwg fod angen ymestyn yr ymgysylltiad rhwng pwyllgorau a rhwng Seneddau. Os yw’r rhannau hyn o’n sefydliadau democrataidd yn gweithio'n well gyda'i gilydd, yna mae’n fwy tebygol y bydd llais Cymru yn cael ei glywed ar draws y DU, y bydd ein safbwyntiau cyfunol yn cael eu gweithredu ac y bydd gwead cyfansoddiad y DU yn cael ei atgyfnerthu.
Wrth edrych i weld sut y gellid symud ymlaen ar yr angen hwn am fwy o gydweithredu ffurfiol, rydym yn argymell bod y Llywydd yn ceisio sefydlu cynhadledd y Llefaryddion gyda Llefaryddion a Llywyddion deddfwrfeydd eraill y DU. Ei nod fyddai penderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu gwaith rhyngseneddol yn y DU, gan roi sylw penodol i graffu ar effaith ymadael â’r UE ar fframwaith cyfansoddiadol y DU. Rydym felly yn ystyried y dylai prif rôl cynhadledd o'r fath i Lefaryddion fod yn gysylltiedig â datblygu fframwaith ar gyfer cysylltiadau rhyngseneddol. Bydd manteision amlwg i gael fforwm cydlynol a strwythuredig ar gyfer trafod ar y cyd rhwng Seneddau gan ymgymryd â gwaith craffu, lle y gellir rhannu gwybodaeth a lle y gellir dwyn Llywodraethau i gyfrif yn eu tro. Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweld rhinweddau mewn sicrhau bod gan gynhadledd y Llefaryddion rôl i'w chwarae mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol, er mwyn asesu sut y maent yn datblygu yn y cyfnod tyngedfennol hwn yn esblygiad cyfansoddiad y DU. A dylai hyn gynnwys asesu, yn arbennig, ymateb Llywodraeth y DU i bedwar argymhelliad cyntaf yr adroddiad hwn a nodwyd gennyf.
Mae hon yn fenter radical i gefnogi diwygio cyfansoddiadol cynaliadwy ac nid yw heb gynsail. Mae'n ffordd o ddwyn gwledydd y DU ynghyd a rhoi cychwyn egnïol i’r broses o ddiwygio cyfansoddiadol yn dilyn Brexit yr ystyriwn ei fod yn hanfodol i hegemoni'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae camau cadarnhaol wedi cael eu cymryd eisoes i wella cydweithrediad seneddol. Yn y Cynulliad hwn, rydym wedi creu cysylltiadau pwysig â phwyllgorau yn Nhŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi a Senedd yr Alban. Yn ogystal, mae creu'r Fforwm Rhyngseneddol ar Brexit, a fynychaf gyda David Rees, wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol ac adeiladol iawn. Credwn fod ganddo botensial i fod yn rhagflaenydd gwerthfawr i’r cysylltiadau a’r strwythur seneddol cryfach a fydd yn hanfodol o fewn y DU pan fydd wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ni waeth pa newidiadau neu addasiadau rhynglywodraethol a fydd yn dod i'r amlwg yn y dyfodol, bydd yn bwysig i'r Cynulliad Cenedlaethol barhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif, ac rydym o'r farn fod y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban rhwng ei Senedd a’i Llywodraeth yn darparu model synhwyrol y gellid ei fabwysiadu yng Nghymru. Ar y sail honno, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol er mwyn cefnogi’r gwaith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Fel y mae ein hadroddiad yn ei ddangos, mae trefniadau cyfansoddiadol y DU yn debygol o gael eu rhoi o dan bwysau sylweddol dros y degawd nesaf. Bydd yn rhaid i’r DU addasu ei threfniadau mewnol i sicrhau na fydd ymadael â’r UE yn golygu mwy o ganoli pŵer yn Llundain. Bydd yn rhaid rhoi strwythurau rhynglywodraethol newydd ar waith. Ac nid yw gwneud synnwyr o gwbl i awgrymu y dylai’r strwythurau sydd gennym yn y DU yn awr, tra bôm yn rhan o'r UE, fod yr un fath ar ôl i ni adael yr UE.
Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, gan gydweithio’n adeiladol â phwyllgorau seneddol eraill ledled y DU, yn chwarae rhan weithredol yn helpu i lunio fframwaith cyfansoddiadol sy’n addas ar gyfer yr heriau newydd a wynebwn, a bydd gwneud hynny’n helpu i atgyfnerthu llais Cymru yn y teulu o wledydd sy'n ffurfio'r Deyrnas Unedig.
A gaf fi gymeradwyo gwaith ein Cadeirydd, Mick Antoniw, ei ragflaenydd, Huw Irranca-Davies, a'r ysgrifenyddiaeth gyfan, yn enwedig y clerc? Credaf fod hwn yn adroddiad rhagorol. Mae'n gryno, a chredaf ei fod eisoes wedi cael rhywfaint o effaith a dylanwad. Ond mae angen llawer iawn o ymdrech i gynhyrchu rhywbeth mor bwerus â hynny, ac i lunio rhyw fath o ddadl resymegol o'r ystod gyfan o drafodaethau a gawsom a'r safbwyntiau a glywsom. Roedd y panel dinasyddion a'r panel arbenigol yn gymorth mawr i ni, a chredaf y gallwn ddweud yn onest fod ein hadroddiad wedi cael ei effeithio'n sylweddol gan y cyfraniadau hynny. A dyna'r ffordd y dylai pwyllgorau weithio mewn gwirionedd, rwy'n credu, pan fyddwn yn estyn allan ac yn ymgysylltu.
Credaf y bydd canlyniadau ymadael â'r UE bob amser yn creu goblygiadau dwys i undod cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. Nid ydynt yn broblemau anorchfygol, ond maent yn bendant yn heriau. A chredaf y gallwn ni yng Nghymru fod yn falch o'r ffaith ein bod wedi gwneud ein rhan i'w hwynebu, a meddwl am ystod o argymhellion adeiladol iawn i wneud y cyfansoddiad Prydeinig yn fwy cytbwys ac yn gryfach. Yn fy marn i, os nad ydym yn gwneud unrhyw beth, mae perygl y gallai'r rôl fwy i lywodraethiant y DU, yn enwedig o ran llunio polisi yn Lloegr, dros bethau fel yr amgylchedd, amaethyddiaeth, a materion eraill sydd, ar hyn o bryd, yn rhan o bensaernïaeth polisi yr UE—rwy'n credu y gallai'r uchafiaeth anfwriadol hwnnw a gynhyrchir yn Lloegr achosi i rai o'r cyfleoedd a'r gofodau ar gyfer datblygu polisi yng Nghymru ac yn yr Alban, ac yng Ngogledd Iwerddon yn wir, gael eu colli. A dyna sydd angen i ni warchod yn ei erbyn. Gall fod yn anfwriadol, ond os nad ydym yn wynebu'r perygl hwnnw, a'i gywiro'n effeithiol, fe wneir niwed sylweddol i'r setliad datganoli yn y pen draw.
Rwy'n credu y bydd adnoddau Whitehall bob amser o fudd mawr, o bosibl, i weddill y Deyrnas Unedig, i'r Llywodraethau datganoledig, ond mae'n rhaid iddynt gael eu defnyddio mewn partneriaeth, ac ni ellir eu defnyddio i orfodi cytundebau na cheir cydsyniad gwirioneddol iddynt, ac rwy'n credu bod yn rhaid i hyn fod wrth wraidd datblygu'r fframweithiau a fydd eu hangen yn y DU, a sut y byddant yn cael eu gweithredu a pha mor agored, atebol ac agored i graffu seneddol priodol ydynt—bydd yr holl bethau hyn yn angenrheidiol ar gyfer llywodraeth dda a chryf.
Mae Mick eisoes wedi rhoi sylw i fater y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. A gaf fi ddweud y bydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn parhau i fod yn bwysig, yn enwedig wrth negodi cytundebau masnach? Ac rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio ychydig fel roedd Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop yn arfer gweithio. Pan oedd yn paratoi ar gyfer gwaith yn y cynghorau Ewropeaidd, byddai'n datblygu nodyn siarad, gyda holl swyddogion y gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, ac yna weithiau byddai'n caniatáu i Weinidogion o Gymru a'r Alban i fynychu, a weithiau i siarad, a dyna'r math o gyfranogiad a phartneriaeth y credaf ein bod yn ei ddisgwyl.
O ran datblygu'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion fel bod ganddo swyddogaeth cyngor gweinidogol ei hun, neu fod cyngor gweinidogion yn cael ei greu o'r newydd, rwy'n credu bod angen iddo gael yr adnoddau priodol, mae angen iddo gael cynlluniau gwaith ac agendâu effeithiol, a gallai gael ei swyddogion ei hun. Ac unwaith eto, bydd yn rhaid iddo weithio ar sail modelau cydlywodraethu, a rhyw ffurf o fecanwaith datrys anghydfodau, pan fo hynny'n angenrheidiol, ond yn gyffredinol, bydd yn rhaid iddo gael y cryfder a'r trylwyredd sefydliadol angenrheidiol i ganiatáu i'r math o gydweithio a phartneriaethau y byddwn eu hangen gael eu llunio'n briodol.
O ran gwaith rhynglywodraethol, nid wyf yn credu ein bod eisiau gweld system gaeedig yn y DU ar gyfer cydlywodraethu yn cymryd lle system gymharol gaeedig yr UE, a gall Llywodraethau lithro i hynny'n hawdd iawn. Bydd angen i ddeddfwyr y DU graffu'n drwyadl yn ogystal.
Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, daw hyn â mi at y syniad o gynhadledd y Llefaryddion. Mae datganoli bron yn ugain oed. Credaf y bydd hwn yn amser gwych i edrych ar gysylltiadau rhyngseneddol, gyda Llefaryddion y Deyrnas Unedig—y pedwar ohonynt, rwy'n credu—yn dod at ei gilydd i gynnal cynhadledd. Ceir traddodiad balch o gynadleddau Llefarydd—a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn unig oedd hwnnw'n arfer bod bryd hynny wrth gwrs—pan gynhelid cynhadledd i edrych ar faterion cyfansoddiadol mawr. Ac felly rwy'n credu bod y syniad hwn i'w ganmol yn fawr, ac rwy'n gobeithio y byddwch chi a'r Llywydd yn canfod eich bod yn gallu datblygu'r argymhelliad penodol hwn, a siarad â'ch cymheiriaid yn y rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Diolch yn fawr iawn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma ar yr adroddiad bendigedig yma, sydd wedi cael ei gynhyrchu gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ac a allaf i ategu'r diolchiadau i'r Cadeirydd presennol, Mick Antoniw, i Huw Irranca-Davies, ein Cadeirydd ni am y naw mis cyntaf, a hefyd i'r clercod a'r ymchwilwyr sydd wedi bod yn gweithio'n ddiwyd y tu ôl i'r llenni i gynhyrchu'r campwaith yma? Achos mi fuodd y beichiogrwydd yn hir, fel maen nhw'n ei ddweud, ac, wrth gwrs, fel mae Mick newydd ddweud, fe wnaeth agweddau newid dros amser, ac felly mae'r adroddiad wedi newid, ac yn cael ei gryfhau fel mae'r cefndir hefyd yn newid.
Dechreuom ni yn cymryd tystiolaeth a chefndir ynglŷn â Deddf Cymru 2017, ac, wrth gwrs, mae'n wir i nodi yn ystod craffu ar Ddeddf Cymru 2017, fe wnaethom ni ofyn i Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, Aelod Seneddol, i ddod o flaen ein pwyllgor ni bedair gwaith, ac nid ymddangosodd o gwbl. Dyna'r cefndir o ran sut mae San Steffan yn edrych ar bwyllgorau yn y lle hwn. Ac mae Alun Cairns yn dal i wadu ein bod ni wedi colli pwerau sylweddol efo Deddf Cymru, er ein bod ni gyd yn gwybod yn y lle yma ein bod yn rhuthro drwodd y Mesur Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) yn y lle yma cyn inni golli'r pŵer i ddeddfu yn y maes yna ar 1 Ebrill. Ffŵl Ebrill yn wir.
Felly, o golli pwerau efo Deddf Cymru, rydym ni hefyd yn gweld ein bod ni yn colli pwerau efo Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), er bod Alun Cairns yn gwadu hynny hefyd. Gyda'r holl drafodaethau yma efo gadael Ewrop, mae'n amlwg taw ymylol, fel mae Mick Antoniw wedi ei ddweud—ymylol—y mae Cymru wedi bod. Mae'n Llywodraeth ni wedi cael ei rhoi i'r ochr, mae trafodaethau'n cymryd lle ac mae yna benderfyniadau sy'n cael eu cymryd ac nid ydym yn hapus efo nhw. Hyd yn oed gyda materion sy'n bwysig i Gymru, fel materion sydd wedi eu datganoli, nid ydym yn rhan o'r drafodaeth. Dyna pam mae'n allweddol bwysig—yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad—ein bod ni'n cryfhau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion—cyfarfod llawn. Gwnaethom ni glywed ddoe nad ydy'r cyd-bwyllgor yna wedi cyfarfod ers mis Ionawr 2017. Mae angen ei gryfhau, mae angen iddo gyfarfod, ac mae angen iddo ddiwygio'r ffordd mae'n gweithio—ac nid jest gweithio fel llais Llundain, llais San Steffan, ond fel llais cyfartal i'r Llywodraethau oll yn yr ynysoedd hyn. Mae angen dirfawr i newid hynny. Dyna sail ein hargymhelliad 1 ac argymhelliad 2 a 3.
Ar ôl i'r busnes Bil ymadael yma fod drosodd mae eisiau diwygio tymor hir ar Gyd-bwyllgor y Gweinidogion i ddod yn gyngor y Deyrnas Unedig sy'n gwneud penderfyniadau cyfartal—pob Llywodraeth, pob senedd-dy yn parchu ei gilydd yn gyfartal. Nid yw hynny'n digwydd ar hyn o bryd. Mae'n hen bryd iddo fe ddigwydd. Dyna pam yn ddirfawr mae angen diwygio system Cyd-bwyllgor y Gweinidogion—cyfarfod llawn—achos mae'n sarhad ar ein cenedl ni ar hyn o bryd ein bod ni'n colli'r pwerau yma ac nid oes yna neb yn gwneud fawr ddim yn ei gylch e. Rydym yn trio gwneud rhywbeth amdano fo fan hyn, mae'n Llywodraeth ni, i fod yn deg, yn gwneud rhywbeth amdano fe, ond nid yw pobl yn gwrando ac maen nhw'n gwadu bod y fath broblem yn bod. Nid yw hynny'n deg ac mae yna amharchu beth sydd wedi digwydd fan hyn yng nghyd-destun datganoli.
Wrth gwrs, mae eisiau gwell cydweithio rhwng pwyllgorau yn y lle hwn a phwyllgorau yn ein senedd-dai eraill ni. Rydym hefyd eisiau craffu ar Weinidogion o lefydd eraill yn fan hyn. Dyna pam mae gennym ni argymhellion i'r perwyl yna hefyd.
Ond i gloi rŵan, mae angen dirfawr i ddiwygio llywodraethiant yn y Deyrnas Unedig. Ie, yr esgus nawr ydy ein bod ni'n gadael Ewrop, ac rwyf yn sylwi nad yw Aelodau UKIP, wnaeth achosi'r llanast yma o adael Ewrop, yn bresennol i glywed y ddadl ar sut rydym yn trio datrys y llanast. Ond o fod yn y llanast yma, mae angen diwygio'r ffordd mae senedd-dai yn yr ynysoedd hyn yn parchu ei gilydd, yn cydweithio efo'i gilydd, achos ar ddiwedd y dydd, nid jest San Steffan sydd i benderfynu pob peth.
Mae yna lot o sôn am droi'r cloc yn ôl, onid oes? Ond mae datganoli hefyd wedi digwydd. Mae refferendwm 2011, yr ydym ni wedi ei gael yn fan hyn, yn mynnu pwerau deddfwriaethol i Gymru. Mae angen parchu canlyniad pob refferendwm, nid jest yr un diwethaf. Diolch yn fawr.
A gaf fi hefyd ddiolch i Mick Antoniw am ei adroddiad a'ch rhagflaenydd, Huw Irranca-Davies, a diolch hefyd i holl aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am yr adroddiad pwysig hwn? Credaf fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn enghraifft o weithio trawsbleidiol cadarn iawn, ac rwyf wedi gweld hynny yn yr adroddiadau a gyflwynwyd ganddynt. Mae'n hollbwysig os ydym am gael dylanwad ar Lywodraeth y DU ac yn wir, os ydym am gyflawni'r argymhellion hyn. Rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi ymgysylltu â'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sy'n cael ei gadeirio, wrth gwrs, gan David Rees. Rydym yn cydgysylltu fel dau bwyllgor ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd, yn enwedig ar faterion sy'n ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd. Felly, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn ychwanegu at y corff o dystiolaeth sy'n deillio o'r ddau bwyllgor, sy'n bwysig iawn o ran paratoi ar gyfer Brexit a mesur effaith Brexit a chysylltiadau yn y dyfodol sy'n hollbwysig ar lefel rynglywodraethol yn y DU.
Ddoe, clywsom am argymhellion diweddaraf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) ynglŷn â'r gweinyddiaethau datganoledig. Siomedig oedd clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet—er ei fod am fod yn adeiladol a chadarnhaol—pan ddywedodd eu bod wedi mynd i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion ac nad oedd papur wedi'i roi cyn yr argymhellion, sef argymhellion, wrth gwrs, sydd â bwriad anffodus i ganoli gyda phŵer feto dros gyfrifoldebau allweddol sydd wedi'u datganoli. Ac wrth gwrs, mae hyn wedi ein harwain i symud ymlaen gyda'n Bil parhad, er bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gobeithio y gallai negodiadau ein symud yn ein blaenau, fel na fyddai wedi bod angen hynny pe bai ein gwelliannau, a gwelliannau Llywodraeth yr Alban yn wir, wedi'u derbyn. Ond rwy'n credu bod hon yn enghraifft o pam y mae'n rhaid inni edrych ar y cysylltiadau rhynglywodraethol hyn a pha mor siomedig yw hi nad ydynt yn fwy cadarn ar yr adeg bwysig hon.
Rwyf am ddweud—a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol—i roi fy nhystiolaeth a fy mhrofiad o fod yn gyn-aelod, fel Gweinidog, o Gyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, sydd wrth gwrs—a chredaf fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cydnabod hyn hefyd—wedi bod yn fodel adeiladol iawn. Oherwydd o ran Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, a oedd yn ddigwyddiad rheolaidd a fynychwn gyda Gweinidogion o Lywodraeth yr Alban, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a chyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, roedd ein swyddogion i gyd yn cyfarfod ymhell cyn y cyfarfodydd hyn, câi agendâu eu cynllunio ac yn aml caem gyfarfodydd tairochrog a dwyochrog cyn y cynhelid y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Ac wrth gwrs, roeddem yn trafod materion fel paratoadau ar gyfer y Cyngor Ewropeaidd sydd i ddod a materion o bwys pan oedd Llywodraeth y DU yn gofyn am ein barn, fel gweinyddiaethau datganoledig, am effaith materion yr agenda. Credaf fod llawer i'w ddysgu o hynny. Pam nad yw'r model hwnnw'n cael ei fabwysiadu ar gyfer y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yn ogystal—eich Cyd-bwyllgor Gweinidogion negodiadau Ewropeaidd hollbwysig?
Hefyd, rhaid imi ddweud, yn ystod ein hamser fel aelod yn Ewrop, yn aml gofynnid i Weinidogion gweinyddiaethau datganoledig fynd i gynghorau'r UE. Ac ar un adeg, hyd yn oed, cofiaf mai fi oedd yr unig Weinidog a oedd ar gael o wledydd y DU oherwydd bod etholiad cyffredinol yn y DU. Felly, roeddent yn hapus iawn—Llywodraeth y DU—i mi, fel Gweinidog addysg, fynd i gyngor addysg ar ran yr aelod-wladwriaeth, sef Llywodraeth y DU wrth gwrs. Rhaid inni ddysgu o hynny. Pam na allwn adeiladu ar y cysylltiadau da, cadarnhaol a llawn parch a ddatblygwyd?
Felly, hoffwn groesawu'r adroddiad, yn enwedig yr argymhellion ynghylch cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Rhaid inni ei gryfhau, ond mewn gwirionedd rhaid inni wneud iddo weithio hefyd. Ddoe, rwy'n credu, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oeddent wedi cyfarfod ers llawer iawn o fisoedd—cafodd cyfarfodydd eu gohirio ac ni threfnwyd rhai eraill. Dyma'r union sefyllfa na ddylem fod ynddi yn awr. Mae angen inni wneud iddi weithio. Mae pob un o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor mor bwysig yn yr ystyr y dylai gael pwerau i wneud penderfyniadau; ni all fod yn siop siarad yn unig. Ni all fod yn rhywbeth—. Caiff y digwyddiadau hyn eu rheoli ymlaen llaw, yn amlwg, o ran dod â phobl allweddol—Prif Weinidogion—at ei gilydd, ond dylai gael y math hwnnw o rym i wneud penderfyniadau. Dylai allu pwyso ar fecanweithiau anghydfod annibynnol, mecanweithiau dyfarnu a chyflafareddu yn ogystal.
Roedd hi'n ddiddorol, yn y dystiolaeth gan Rhodri Morgan—ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r Cadeirydd am gydnabod y cyn-Brif Weinidog yn ei ragair—oherwydd fe ddywedodd Rhodri hefyd y dylai fod mecanwaith dyrannu adnoddau annibynnol, mecanwaith annibynnol mewn anghydfod ynghylch dyrannu adnoddau. Wel, roedd hynny'n hollbwysig wrth gwrs. Dywedodd Gerry Holtham fod hynny'n hollbwysig yn ei argymhellion yng nghomisiwn Holtham. Mewn perthynas ag anghydfod ynghylch dyrannu adnoddau, gwyddom fod hynny'n hollbwysig. Efallai eich bod wedi trafod hynny ac yn teimlo na allech fynd mor bell â hynny o ran y pwyllgor.
Felly, credaf fod 'Diogelu Dyfodol Cymru'—. Wrth gwrs, rydym yn aml yn mynd yn ôl at hynny; nid oes llawer o amser ers y Papur Gwyn hwnnw a ddatblygwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wrth gwrs. Roedd yn amlwg iawn bryd hynny fod angen set newydd o gysylltiadau cadarn, tryloyw ac atebol ar lefel y DU. A Chyngor y Gweinidogion, wrth gwrs, yw'r ffordd ymlaen, ac wrth gwrs roedd ein Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu y dylem gael y trefniant hwnnw, y trefniant rhynglywodraethol hwnnw.
Felly, hoffwn ddweud heddiw mai adroddiad trawsbleidiol yw hwn, ac rwy'n siŵr y byddwn yn ei gymeradwyo ac y bydd cefnogaeth gref gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo iddo; beth am Lywodraeth y DU? Ble roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Sut rydych chi am—? Sut rydym ni—? Nid chi'n unig; nid Llywodraeth Cymru yn unig. Sut rydym ni fel Cynulliad, fel Senedd, yn mynd i sicrhau bod symud ymlaen ar hyn? Wrth gwrs, gallwn wneud y cam cyntaf drwy sicrhau cynhadledd y Llefaryddion i fwrw ymlaen â'r argymhellion pwysig yn yr adroddiad hwn.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r adroddiad hwn, ac rwy am ddiolch a chymeradwyo'r pwyllgor am gynhyrchu dadansoddiad manwl a meddylgar o'r sefyllfa gyfredol o gysylltiadau rhynglywodraethol a rhyngseneddol, ac am ddatganiad clir o'r diwygiadau sydd eu hangen er mwyn rhoi'r cysylltiadau hyn ar sail fwy cadarn. Mae'n bleser gen i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cytuno ar set o argymhellion argyhoeddiadol iawn gan y pwyllgor. Rwy'n mynd i ganolbwyntio'r rhan fwyaf o'm sylwadau ar yr argymhellion ar gyfer gwella'r berthynas rhwng Llywodraethau, ond rwy hefyd am siarad ychydig am y berthynas rhwng y Seneddau ac am y cyd-destun ehangach ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol.
Ym mis Ebrill, wrth gwrs, daw'r rhan fwyaf o gymalau Deddf Cymru y soniodd Dai Lloyd amdanyn nhw i rym, gan nodi pennod newydd yn ein statws fel Cynulliad. Bydd llawer o'r cadwyni sydd wedi ein hatal rhag bod yn gallu penderfynu ar ein materion ein hunain yn gynyddol ddiflannu yn sgil hynny. Byddwn yn medru dod yn Senedd lawn, yn medru penderfynu faint o Aelodau y dylem gael, sut y dylid eu hethol, a phwy ddylai fod â hawl i bleidleisio drostynt.
Ond mae cyrraedd y nod o ddod yn Senedd wrth gwrs yn galw am fwy na ffocws ar enw a niferoedd, fel y gŵyr pawb ohonom. Dylem fod â'r hyder yn ogystal i brofi'r gweithdrefnau seneddol a ffyrdd o weithio yn erbyn yr enghreifftiau cyfatebol gorau yn unrhyw le yn y byd. Ac mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom, yn ogystal â mynd i'r afael â'r diwygiadau proffil uchel, i edrych ar y peirianwaith sy'n sail i gamau craffu, herio, deddfu a gweithredu, y cyfeiriodd y pwyllgor atynt yn eu hadroddiad, wrth inni ddod yn Senedd newydd. Os derbyniwn yr heriau hynny, bydd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i gyfrannu ar sail gyfartal tuag at adeiladu ar y cysylltiadau rhwng Seneddau a Chynulliadau ledled y DU, ac rydym yn cefnogi argymhelliad llawn dychymyg y pwyllgor am gynhadledd y Llefaryddion i ganolbwyntio ar y mater penodol hwnnw.
Fodd bynnag, rwyf am ganolbwyntio ar y berthynas rhwng Llywodraethau. Mae pawb yn cytuno bod cysylltiadau rhynglywodraethol yn bwysig, ond yn rhy aml ystyrir hynny yng nghyd-destun datrys problemau, rheoli anghytundeb, neu faterion sydd angen eu datrys. Mae hwnnw'n rhan hanfodol o'r darlun, ond nid dyna yw'r darlun llawn. Dylai cysylltiadau rhynglywodraethol da hefyd ymwneud â mwy na rheoli ein gwahaniaethau; dylent ymwneud â nodi a mynd i'r afael â'r heriau polisi a rannwn ar draws pedair gweinyddiaeth y DU. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da neu ddatblygu polisïau da, ac nid oes gan neb yr atebion i gyd. Felly, mae angen i gysylltiadau rhynglywodraethol ymwneud hefyd â rhannu arferion gorau a gweithio gyda'n gilydd lle mae'n gwneud synnwyr i wneud hynny, a bydd hynny'n sicr o fudd i'r bobl a wasanaethwn.
Mae datganoli ei hun, wrth gwrs, wedi cyfrannu'n sylweddol at arloesi o ran polisi ledled y DU, ac nid mater o fabwysiadu pwerau mewn ystyr haniaethol, mewn gwagle, yw hynny. Mae'n ymwneud â defnyddio'r pwerau hynny ar sail egwyddor, ond hefyd ar sail bragmataidd, fel bod y pwerau sydd gennym yn cael eu defnyddio mewn ffordd ymarferol i wella bywydau pobl yng Nghymru. Ac mae hi'r un fath gyda hyn, gyda'r bensaernïaeth gyfansoddiadol, os mynnwch, o ran y modd y mae llywodraethau'n ymwneud â'i gilydd. Nid ymarfer mewn cyfreitha cyfansoddiadol yw hyn, ond datblygu ffordd o weithio a sylfaen egwyddorol sy'n cynorthwyo'r Cynulliad a'r Llywodraeth i ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn y ffordd y teimlwn ei bod yn gweddu orau i Gymru. Roedd hynny ymhlyg yn y sylwadau a wnaeth Mick Antoniw.
Felly, gan droi'n benodol at argymhellion y pwyllgor, cytunwn yn llwyr fod angen i gyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ddechrau cyflawni swyddogaethau'r uwchgynhadledd penaethiaid Llywodraethau flynyddol sef yr hyn y bwriadwyd iddo fod yn wreiddiol. Rydym hefyd yn cytuno bod angen inni ychwanegu pwyllgorau newydd at fformat presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dyna'n union y galwasom amdano yn ein papur polisi masnach diweddar ychydig wythnosau yn ôl. Ac rydym yn cytuno bod angen ailwampio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn sylfaenol. Ni chafodd ei ddiweddaru ers 2013, ac mae llawer iawn wedi digwydd ers hynny, fel y gwyddom. Nid yw'n mynd i'r afael ag amgylchiadau newydd Brexit. Byddwn yn pwyso am gytundeb ar gomisiynu archwiliad o hynny yn y cyfarfod llawn nesaf o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Cyfeiriodd Jane Hutt, yn ei sylwadau, at y diffygion sylweddol yn y trefniadau presennol, felly mae angen inni fynd i'r afael â'r rheini.
Felly, rydym yn cytuno y gellir gwneud gwelliannau yn y tymor byr; fodd bynnag, mae'n amlwg na fydd strwythurau presennol y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gallu dal y pwysau y bydd Brexit yn ei osod arnynt yn y tymor hwy. Felly, rydym yn croesawu galwad y pwyllgor am gyngor Gweinidogion y DU, sy'n adleisio'r argymhellion a nodwyd gennym yn 'Brexit a Datganoli' ar gyfer cyngor Gweinidogion, fel y dywedodd David Melding yn ei gyfraniad, a fyddai'n gallu gwneud penderfyniadau rhwymol gydag ysgrifenyddiaeth annibynnol a mecanwaith dyfarnu annibynnol ar gyfer anghydfodau na ellir eu datrys drwy unrhyw ddull arall.
Rhaid i gyfansoddiad y DU ar ôl Brexit wneud mwy na baglu ymlaen yn y ffordd anghytbwys, ad hoc ac anffurfiol y mae'n ei wneud ar hyn o bryd. Felly, rydym wedi dweud hefyd y dylem edrych ar sut y gellid gosod cysylltiadau rhynglywodraethol ar sail statudol. Wrth gwrs, mae adroddiad y pwyllgor yn nodi ac yn cymeradwyo'r argymhelliad a wnaed gan nifer o bwyllgorau seneddol am sail statudol o'r fath, a chredwn y byddai angen gwaith pellach i weithio drwy oblygiadau hynny, ond yn y bôn rydym yn cytuno ag argymhelliad y pwyllgor.
Yn olaf, o ran argymhelliad 8, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn hapus i drafod cynnwys cytundeb ar gysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor. Wrth wneud hynny, byddwn yn dymuno ystyried yn ofalus y cytundeb rhwng Senedd yr Alban a Llywodraeth yr Alban y cyfeiria 'r pwyllgor ato yn yr adroddiad.
Rwyf am gloi drwy gydnabod bod ein cynigion yn 'Brexit a Datganoli', a rhai'r pwyllgor yn yr adroddiad rhagorol hwn, yn heriol ac efallai ychydig yn frawychus i Lywodraeth y DU, ond rydym yn troedio tir newydd bellach. Mae'r catalydd cyfansoddiadol y mae Brexit yn ei gynrychioli wedi creu deinameg newydd sy'n mynd i newid y ffordd y rheolir Prydain ymhellach. Yn gyffredinol, mae hanes cyfansoddiadol yr ynysoedd hyn wedi bod yn glytiog, yn hytrach na rhan o weledigaeth gydlynol, a'r dehongliad rhamantaidd o hynny yw ei fod wedi bod yn fuddiol inni. Nid wyf yn siŵr o gwbl fod hynny'n wir.
Mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod na all ddal ati i geisio baglu ei ffordd drwy hyn. Mae angen iddi ymrwymo i adolygiad o'r bôn i'r brig a fydd yn gosod ein system o gysylltiadau rhynglywodraethol, a chyfansoddiad y DU ei hun, ar sail gadarn ar gyfer y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i fod yn bartner yn y broses honno o newid, ac mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ychwanegu at y côr o leisiau sy'n galw am adolygiad o'r fath. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau gwrando cyn bo hir a chychwyn ar daith ddiwygio a fydd yn gwella cadernid cyfansoddiadol Cymru, a phob rhan o'r Deyrnas Unedig hefyd.
Galwaf ar Mick Antoniw i ateb y ddadl.
Diolch. Wel, yn gyntaf, diolch i'r Cwnsler Cyffredinol ar ran y Llywodraeth am yr ymateb cadarnhaol iawn a wnaed i'r hyn sy'n adroddiad radical iawn. Hoffwn ddiolch i'r holl siaradwyr sydd wedi cyfrannu, ac nid af drwyddynt yn unigol oherwydd rwy'n credu bod yr holl sylwadau a wnaed yn gadarnhaol ac wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r camau a gymerwyd ac sy'n cael eu cymryd ar draws yr holl Seneddau i edrych ar ffordd o sicrhau bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig wedi'i ddiwygio ac yn gweithio mewn gwirionedd.
Ac yn benodol, y cyfeiriad at gynhadledd y Llefaryddion, oherwydd rwy'n credu, Lywydd, gyda'r modd rydych chi wedi mynd ar drywydd y mater hwn, fod hwn yn gam radical ond fel rwy'n dweud, nid yw'n un digynsail. Mae hefyd yn ein galluogi i ddwyn ynghyd y safbwyntiau sy'n dod o bob un o'r pwyllgorau cyfansoddiadol, pwyllgorau trawsbleidiol, sydd ag un amcan yn unig, sef: yn yr amgylchedd ôl-Brexit, sut y gallwn sicrhau bod gennym well llywodraethiant, sut y gallwn sicrhau llywodraethiant yn lle'r un sy'n cael ei newid? A dyna yw'r cryfder arbennig. Rwy'n dweud 'digynsail', oherwydd, fel y trafodwyd gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach, roedd yna gynhadledd ar ddatganoli yn 1920, cynhadledd y llefaryddion. Yn anffodus, ni thrafodwyd ei ganfyddiadau yn Nhŷ'r Cyffredin. Fel arall, efallai y byddai datganoli wedi digwydd lawer iawn yn gynharach.
Ond roedd un o'r argymhellion yn ymwneud â diwygio yn y tymor hwy yn ogystal â'r tymor byr, ond hefyd â gallu Llefaryddion pob Senedd yn y Deyrnas Unedig i fynd ar drywydd yr hyn y mae pawb ohonom yn gwybod sydd angen digwydd, sef bod yn rhaid ystyried cyfansoddiad y DU yn ei gyfanrwydd, confensiwn cyfansoddiadol y DU ar ryw ffurf. Ac edrych ar, ac ymdrin â'r 'eliffant yn yr ystafell', fel y'i disgrifiwyd gan John Morris gymaint o flynyddoedd yn ôl, sef y cwestiwn Seisnig fel rhan sylfaenol o ddatrys y berthynas ar sail barhaol a chynaliadwy.
Wrth y rhai sy'n dweud efallai y ceir ofn ynglŷn â'r argymhellion hyn yn dod o Gymru ac ati, y cyfan a ddywedaf yw nad o Gymru'n unig y mae'r argymhellion hyn wedi dod. Rydym yn cymeradwyo argymhellion o bob rhan o'r DU i bob pwrpas, ac efallai y caf gyfeirio'n ôl at y sylwadau gan yr AS mawr o Gymru, Cledwyn Hughes, yn 1973, yn ystod adroddiad Kilbrandon, pan godwyd mater y cwestiwn Seisnig ac atebodd Cledwyn Hughes y Prif Weinidog fel hyn.
A yw'r Prif Weinidog yn ymwybodol y byddwn ni, sy'n perthyn i'r cyrion Celtaidd, yn gwneud popeth a allwn i warchod y buddiant Seisnig yn y mater hwn?
Dyma fater sydd o fudd i ni i gyd, sy'n peri pryder i ni i gyd, ar gyfer y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar iawn fod ymateb mor gadarnhaol wedi dod gan y Llywodraeth. Edrychaf ymlaen, Lywydd, i'ch gweld yn cymryd camau, gobeithio, i ymgysylltu â Llefaryddion eraill y Deyrnas Unedig ac i gynnal cynhadledd y Llefaryddion a chychwyn y broses o ddiwygio cyfansoddiadol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.