– Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2018.
Daw hynny â ni felly i ddadl Plaid Cymru ar barhau ag aelodaeth o'r undeb tollau. Galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig hwn gan Blaid Cymru yn enw Rhun ap Iorwerth. Mae ein cynnig yn dod ar adeg pan fo angen i Gymru fynegi safbwynt clir ar yr undeb tollau wrth i'r negodiadau ar ymadael â'r UE fynd rhagddynt. Mae hwn yn gwestiwn sy'n effeithio ar swyddi yng Nghymru, mae'n effeithio ar ddyfodol porthladdoedd Cymru, mae'n effeithio ar natur ffin y DU ag Iwerddon, sydd hefyd yn ffin Cymru ag Iwerddon. Nid oes dwywaith amdani: mae safbwynt Cymru yn y DU ar yr undeb tollau yn allweddol nid yn unig i'n heconomi ein hunain, ond i ddyfodol proses heddwch Iwerddon a sefydliadau yn ogystal.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi rhoi llawer o bwyslais ar fanteision y farchnad sengl, ond mae ar Gymru angen yr undeb tollau yn ogystal. Fel y mae pethau, mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu symud Cymru o'r undeb tollau. Mae hyn yn paratoi'r ffordd ar gyfer Brexit eithafol yn seiliedig ar danbrisio, dadreoleiddio a safonau is.
Yr wythnos hon, mae'r wrthblaid yn y DU wedi egluro y byddai'n ceisio undeb tollau gyda'r UE. Mae cynnig Plaid Cymru yn ei gwneud yn glir ein bod yn cefnogi parhad aelodaeth Cymru a'r DU o undeb tollau presennol yr UE yn hytrach nag undeb tollau newydd. Mae hyn yn fwy na semanteg yn unig. Mae aelodaeth o'r undeb tollau yn caniatáu i'r DU fasnachu'n rhydd ym mhob nwydd ar draws Ewrop. Yn hollbwysig, mae aelodaeth o'r undeb tollau yn rhoi mynediad i'r DU i dros 50 o wledydd y tu allan i'r UE. Yn ei hanfod, yr hyn yw undeb tollau dwyochrog gyda'r UE ar y llaw arall, sef yr hyn y mae Plaid Lafur y DU yn ei argymell, yw cytundeb masnach rydd heb ei ddiffinio a fydd yn rhoi mynediad i ni at set gyfyngedig o nwyddau. Er enghraifft, Twrci—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rwyf am orffen fy mhwynt. Mae undeb tollau Twrci yn anghyflawn gan nad yw'n cynnwys nwyddau amaethyddol. Mewn undeb tollau, ni fyddwn yn gallu sicrhau mynediad ychwanegol i farchnadoedd drwy gytundebau masnach rydd yr UE â thrydydd gwledydd yn awtomatig. Bydd y trydydd gwledydd hyn fodd bynnag yn cael mynediad at ein marchnadoedd ni, ac mae honno'n anfantais.
A yw'r Aelod yn derbyn bod aelodaeth o undeb tollau'r UE hefyd yn galw am fod yn aelod o'r UE a'i strwythurau cyfreithiol, ac anwybyddu canlyniad y refferendwm a'r modd y pleidleisiodd Cymru?
Na, nid wyf yn derbyn y pwynt hwnnw, ac fe egluraf pam cyn bo hir.
Hefyd, yn y ddadl hon, mae angen inni ystyried y cwestiwn hollbwysig ynghylch newid yn yr hinsawdd. Sut y gall fod yn dda o safbwynt newid yn yr hinsawdd i gludo mwy o nwyddau o wledydd sydd hyd yn oed yn bellach? Rhaid gwarchod y fasnach gyda marchnadoedd agosach os ydym o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Nawr, roeddwn eisoes wedi rhagweld y cwestiwn, 'A allwch fod yn undeb tollau'r UE os nad ydych yn aelod-wladwriaeth o'r UE?' Yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw, 'Gallwch'. Ffurfir undeb tollau'r UE o aelod-wladwriaethau'r UE ac yn bwysig, mae'n cynnwys rhai tiriogaethau nad ydynt yn yr Undeb Ewropeaidd, fel Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Ac o ran negodi undeb tollau newydd, mae'r UE newydd ddatgan na all y DU gael bargen gystal â'r un sydd gennym yn awr.
A gaf fi ymyrryd, os gwelwch yn dda? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng undeb tollau a'r ardal masnach rydd?
Mae undeb tollau yn cyfeirio at nwyddau'n teithio, ac mae'r farchnad sengl yn ei chyfanrwydd yn edrych ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae'r undeb tollau'n ymwneud yn benodol â nwyddau'n unig.
Pam y mae Llywodraeth Cymru yn methu cyd-fynd â safbwynt carbwl Llafur yn y DU? Yn y Papur Gwyn ar y cyd, fel y nododd Rhun ap Iorwerth ddoe, gwyddom fod pob cyfeiriad cadarnhaol at yr undeb tollau at yr un presennol yn yr UE, nid at undeb tollau newydd, pwrpasol, nad yw'n bodoli eto ac y bydd yn rhaid ei negodi i fodolaeth. Nawr, efallai ein bod wedi arfer gweld llais Cymru yn cael ei anwybyddu, ond mae gennym allu i siarad fel Cynulliad ac i roi pwysau ar y Llywodraeth a'r wrthblaid yn San Steffan, ac mae'r pwysau hwnnw gryfaf wrth i bawb ohonom siarad fel un. Mae'r newid diweddar gan yr wrthblaid yn y DU yn rhy ychydig i ddiogelu lles cenedlaethol Cymru, ond gallai fod newidiadau pellach ar feinciau'r gwrthbleidiau a meinciau'r Llywodraeth wrth i'r ddadl barhau. Felly, gadewch inni heddiw gefnogi safbwynt mwyafrifol yn y Cynulliad o blaid undeb tollau'r UE i gynnal lles cenedlaethol Cymru.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.
Gwelliant 1. Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl; gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd.
Pa un a yw pobl wedi pleidleisio dros adael neu aros, erbyn hyn maent am weld bargen Brexit sy'n gweithio o blaid DU byd-eang. Felly mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau rheolaeth ar ein harian, ein ffiniau a'n cyfreithiau gan adeiladu perthynas newydd ddofn ac arbennig â'r Undeb Ewropeaidd yn economaidd ac o ran diogelwch. Yn lle hynny, mae cynnig plaid Cymru heddiw yn dangos eu bod yn parhau i geisio llesteirio proses Brexit. Gellid dweud yr un peth am gyfres y Prif Weinidog o ddadleuon cul a ailgylchwyd yn barhaus. Mae'r amwysedd ynghylch safbwynt Plaid Lafur y DU, a amlinellwyd gan Jeremy Corbyn yr wythnos hon, yn ychwanegu at y dryswch. Felly, gadewch inni fod yn glir: byddai parhau yn yr undeb tollau yn cyfyngu ar allu'r DU i ffurfio cytundebau masnach newydd gydag economïau sy'n tyfu'n gyflym ac i ddatblygu ffyrdd newydd i wledydd tlotach fasnachu eu ffordd allan o dlodi.
Mae ein gwelliant, felly, yn argymell bod y Cynulliad hwn
'yn cefnogi cytundeb Cymru a'r Deyrnas Unedig ar drefniant tollau newydd rhwng y DU a'r UE, gyda gofynion tollau sydd mor llyfn â phosibl;'—[Torri ar draws.]
Fe orffennaf y dyfyniad ac yna fe gewch ymyrryd.
'gan adeiladu perthynas newydd o ran yr economi a diogelwch gyda'r UE tra'n galluogi'r DU i wneud cytundebau masnach rhyngwladol newydd.'
David.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Gwrandewais ar ei sylwadau agoriadol am yr undeb tollau, a gwrandewais hefyd ar y sylwadau a wnaeth yn awr ynghylch yr hyn y mae'r cynnig hwn yn ei ddatgan—ynglŷn â chefnogi'r cytundeb. A allwch ddweud wrthyf pa gytundeb a gafwyd hyd yma ar y berthynas a beth yn union y mae'r berthynas arbennig hon yn ei olygu mewn gwirionedd?
Ni ddefnyddiais y term 'perthynas arbennig'. Dyma y mae'r cam nesaf—. Mae'n gwybod o'r dystiolaeth a gawsom yn y pwyllgor mai ar ddechrau cyfnod 2 rydym ni ac ni all y negodiadau llawn y tu allan i'r UE ddechrau hyd nes y byddwn wedi gadael yr UE mewn gwirionedd—wedi gadael yn ffurfiol. Ond fe fydd yna gyfnod pontio, fel y gwyddoch, a bydd hynny'n llyfnhau'r broses honno ymhellach.
Mor rheolaidd â nos yn dilyn dydd, mae Carwyn Jones wedi bod yn codi bwganod am y ffiniau rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth a'r DU ac ynys Iwerddon; clywsom fwy am hynny gan arweinydd Plaid Cymru heddiw. Rhaid inni gefnogi mynediad at farchnad sengl yr UE ond byddai aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau yn golygu nad ydym i bob pwrpas wedi gadael yr UE o gwbl. Mewn gwirionedd, cadarnhaodd y Prif Weinidog fis Rhagfyr diwethaf y byddai'r ardal deithio gyffredin gydag Iwerddon, a oedd wedi bod yn weithredol ers y 1920au, yn cael ei chynnal a bod y DU a'r UE wedi addo na fyddai unrhyw ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. Mae hi hefyd wedi rhybuddio Brwsel heddiw yn erbyn eu galwadau arni i gytuno i ymrwymiadau cyfreithiol ar gyfer atal ffin galed yn Iwerddon, hyd yn oed os yw hynny'n golygu gwiriadau tollau rhwng Gogledd Iwerddon a gweddill y DU.
Mae Prif Weithredwr Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi dweud yn gyson wrth Weinidogion na fydd unrhyw angen am seilwaith ffisegol ar y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon o dan unrhyw amgylchiadau, ac roedd adroddiad fis Tachwedd diwethaf, 'Avoiding a hard border on the island of Ireland for Customs control and the free movement of persons,' a ysgrifennwyd gan yr arbenigwr blaenllaw ar dollau, Lars Karlsson, ar gyfer Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol Senedd Ewrop, yn nodi mesurau a gyflwynwyd i greu ffiniau llyfn ar draws y byd ac roedd yn cynnig ateb technegol ar gyfer y ffin ar ynys Iwerddon ac ar gyfer dyfodol symudiad pobl a nwyddau rhwng yr UE a'r DU.
Ar ôl i Jeremy Corbyn gefnogi aelodaeth y DU o undeb tollau, disgrifiwyd hyn gan Aelodau Seneddol Llafur a oedd wedi cefnogi Brexit fel brad yn erbyn pleidleiswyr, a chyhuddodd Frank Field AS yr arweinyddiaeth o drin pleidleiswyr fel 'twpsod', ac eto dywedodd ffigyrau a oedd dros aros yn yr UE yn y blaid nad oedd Mr Corbyn wedi mynd yn ddigon pell. Drwy gefnogi undeb tollau, ymddengys bod Mr Corbyn yn rhwygo maniffesto Llafur y DU ac yn bygwth atal y DU rhag llofnodi bargeinion masnach rydd a fyddai'n hybu'r economi ac yn creu swyddi o gwmpas y byd. Fodd bynnag, drwy fethu ymrwymo Llafur i aelodaeth o undeb tollau'r UE, mae datganiad Mr Corbyn yn ddigon amwys mewn gwirionedd i allu golygu unrhyw beth, lle mae'r UE ei hun wedi datgan yn gyson naill ai eich bod yn yr undeb tollau ac yn rhwym i'w rheolau neu'r tu allan iddo.
Mae Prif Weinidog Cymru yn aml yn codi bwganod y bydd i'r DU adael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn arwain at ras reoleiddiol i'r gwaelod, a chlywsom ragor o ddarogan gwae gan arweinydd Plaid Cymru i'r un perwyl heddiw. Fodd bynnag, dywedodd Ysgrifennydd Brexit y DU yn glir yr wythnos diwethaf na fydd y DU yn gostwng safonau cyfreithiol a rheoleiddiol er mwyn cystadlu â'r farchnad Ewropeaidd, ac yn hytrach, roedd yn cynnig system o gydnabyddiaeth ar y ddwy ochr. Y mis diwethaf, dywedodd cyn-Weinidog masnach ryngwladol y DU, yr Arglwydd Price, wrth Dŷ'r Cyffredin fod Prydain wedi cytuno mewn egwyddor ar fargeinion masnach rydd eisoes â dwsinau o wledydd tu allan i'r UE yn barod i ddod i rym y diwrnod ar ôl Brexit. Mae realiti economaidd yn gwneud yr holl wae Brexit yn y lle hwn yn destun sbort. Cynyddodd allbwn cynhyrchu'r DU 2.1 y cant yn 2017, gyda gweithgynhyrchu yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf ar i fyny. Mae adroddiadau Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yn dangos bod llwyddiant Prydain o ran creu swyddi yn mynd i barhau yn 2018 a bod cyfeintiau, elw a chyfraddau cyflogi yn codi yn sector gwasanaethau Prydain. Ac mae gwerthiannau cyflenwyr adeiladu wedi cwblhau blwyddyn arall o dwf—4.8 y cant.
Felly, yn hytrach na masnachu mewn storïau arswyd, rhaid inni adfer rheolaeth ar y naratif a chynnig gobaith i'r cyhoedd. Pleidleisiodd y DU a Chymru dros annibyniaeth gyfreithiol a chyfansoddiadol oddi ar yr Undeb Ewropeaidd. Ein dyletswydd yw cyflawni hynny.
Unwaith eto, rwy'n dilyn sbin cefnogwyr Brexit, fel y clywsom yn ystod y ddadl ar y refferendwm, ond dyna ni. A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma? Oherwydd mae'n rhoi cyfle inni dynnu sylw at y risgiau sy'n ein hwynebu wrth inni adael yr UE heb unrhyw fath o gytundeb o ran sut rydym yn masnachu gyda'n partneriaid presennol yn y dyfodol.
Nawr, gwn fod Plaid Cymru wedi ymladd dros aros yn yr UE yn y refferendwm, fel y gwnes innau. Ymladdasom yn galed, ond yn anffodus, hoffwn pe bai'r bleidlais wedi bod o'n plaid. Efallai byddai amlygu beth fyddai canlyniadau a chymhlethdodau gadael y farchnad sengl fel y mae'r cyfryngau yn ei wneud erbyn hyn wedi ein helpu ar y pryd. Fodd bynnag, ni ddigwyddodd, a'r gwahaniaeth yn awr, efallai, yw fy mod i'n dymuno parchu'r rhan fwyaf o fy etholwyr a'u safbwyntiau, ac efallai y rhan fwyaf o'u rhai hwythau—er y gwn fod y Llywydd mewn sefyllfa wahanol, am fod ei mwyafrif hi mewn cyfeiriad ychydig yn wahanol—gan ddiogelu ein heconomi a'r hawliau sylfaenol a gawsom drwy fod yn yr UE. Mae'n siomedig felly, mewn gwirionedd, fod ffocws y ddadl heddiw gan Blaid Cymru wedi'i seilio'n fwy ar semanteg 'yr undeb tollau' ac 'undeb tollau', fel rydym newydd glywed gan y Ceidwadwyr hefyd, yn hytrach na'r angen i sicrhau'r canlyniadau a fydd yn diogelu ein heconomi a lles ein dinasyddion.
Gadewch inni fynd yn ôl at y cwestiwn pwysig ynglŷn â beth fyddai gadael yr undeb tollau yn ei olygu i ni mewn gwirionedd. Credaf fod hynny'n bwysig. Ar yr olwg gyntaf: gwiriadau tollau ar ffiniau'r UE, gan gynnwys y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Gwn fod hynny'n rhywbeth y mae Theresa May wedi dweud nad yw hi ei eisiau, ac mae hi'n dal ati i ddweud ei bod yn gweithio i sicrhau nad yw'n digwydd, ond rydym hefyd wedi tynnu sylw at gwestiwn gwiriadau tollau yn ein porthladdoedd. Gwn fod yr Aelod dros Ynys Môn wedi cyfeirio at y pwynt hwn yn fynych yn ei gyfraniadau yn y Cynulliad, a gofynnaf i'r Aelodau ailddarllen adroddiad y pwyllgor materion allanol ar yr effaith ar borthladdoedd Cymru a busnesau yng Nghymru o ganlyniad. Mae'n rhywbeth y gallai fod angen i chi atgoffa eich hun yn ei gylch o bosibl.
Clywsom sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr y bydd technoleg yn datrys y problemau: gwiriadau drwy dechnoleg ddeallus, meddalwedd adnabod rhifau cerbydau, gan ddefnyddio masnachwyr dibynadwy awdurdodedig, a hyd yn oed cysyniad Boris Johnson fod gwiriadau tollau yn debyg i daliadau atal tagfeydd—pwy a ŵyr?
A wnewch chi ildio?
Rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
A ydych chi felly'n gwrthod yr adroddiad a ysgrifennwyd gan Lars Karlsson, yr arbenigwyr rhyngwladol blaenllaw, ar gyfer Senedd Ewrop ar hyn, a hefyd y cyngor parhaus a ddarperir gan bennaeth Cyllid a Thollau EM, y tybiaf efallai fod ganddo wybodaeth ychydig yn fwy technegol, hyd yn oed na chi, ar y mater hwn?
Diolch i'r Aelod am hynny, ond pan gyfarfûm ag unigolion sy'n cynrychioli busnesau yn Ewrop, nid oeddent yn chwilio am atebion mwy meddal, oherwydd nad oeddent yn gwybod i ba gyfeiriad yr oeddent yn mynd. Felly rwy'n credu y bydd technoleg yn cyrraedd yno yn y pen draw—nid yfory, nid y flwyddyn nesaf, ond ymhen tua pum mlynedd mae'n debyg, ac mae hwnnw'n amser hir i aros i geisio masnachu â gwledydd yr Undeb Ewropeaidd.
Beth bynnag, beth am ddychwelyd at y broblem. Os ydym am edrych, efallai, ar sut y mae gwiriadau ffiniau'n gweithio, ewch i Norwy—rydym wedi crybwyll Norwy droeon yn y Siambr hon—ac edrychwch ar wasanaeth tollau Norwy. Mae wedi cael ei ehangu yn y degawdau diwethaf i fynd i'r afael â'r problemau, ond maent yn cael anhawster o hyd i reoli'r ffiniau mewn gwirionedd. Er enghraifft—ac rwy'n ymddiheuro i Norwyaid os wyf yn ynganu hwn yn anghywir—yn Svinesund, sy'n ymdrin â 70 y cant o'r llif traffig masnachol trawsffiniol rhwng Norwy a Sweden, caiff pob traffig masnachol—pob traffig masnachol—ei stopio. Pob elfen ohono. Cynhelir gwiriadau ar nwyddau a gyrwyr. Nawr, dyna'r berthynas yn Norwy. Mae'r rhain yn peri oedi i lorïau. Maent yn oedi gweithredu ac felly bydd oedi'n digwydd yn yr agenda mewn union bryd o ganlyniad i hynny. Efallai na fydd yn llawer o amser; efallai mai pedair munud ar gyfartaledd fydd yr oedi yn ôl yr hyn y mae rhai'n ei ddweud. Bydd rhai lorïau'n wynebu mwy o oedi. Os rhowch bedair munud ar bob lori yng Nghaergybi fe welwch y ciwiau a gewch. Rhowch ddwy funud ar bob lori yn Dover, a'r argymhelliad gan borthladd Dover yw y bydd gennych giw 10 milltir o hyd. Dyna realiti'r hyn y bydd methiant o ran undeb tollau yn ei wneud.
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, Adam.
Tybed a allwch egluro un pwynt am 'yr undeb tollau' yn hytrach nag 'undeb tollau'. A gaiff y ddau ohonom gytuno mai un undeb tollau yn unig sy'n bosibl, drwy ddiffiniad, oherwydd mae'n golygu un endid daearyddol gyda thariff allanol cyffredin? Felly ni allwch gael mwy nag un undeb tollau yn yr UE.
Nid wyf yn cytuno â hynny, oherwydd bydd undeb tollau—os ydych chi'n mynd i'w ddiffinio—yn undeb ar drefniadau tollau rhwng sefydliadau, ac felly gallwch gael gwahanol fersiynau o undeb tollau. Felly, rwy'n—[Torri ar draws.] Na, rydych wedi cael eich cyfle. Rydych wedi cael eich cyfle. Felly, na. Rwy'n anghytuno â chi, iawn?
Rydych chi newydd ddisgrifio cytundeb masnach rydd.
Dyna rydych chi am ei alw. Chi a ŵyr, ond rwy'n anghytuno â chi.
A gaf fi barhau? Oherwydd mae'n bwysig. Rhaid inni gofio hefyd fod busnesau a chwmnïau yn y DU wedi'u hintegreiddio'n llawer gwell mewn cadwyni cyflenwi Ewropeaidd na rhai Norwy, eto felly mae mwy o broblem yno. Nawr, soniodd yr Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru fod llawer o godi bwganod wedi bod ynglŷn â'r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a de Iwerddon. Wel, mewn gwirionedd, 40 o ffyrdd sydd i draffig rhwng Norwy a Sweden—40 ffordd—sy'n achosi'r anawsterau hynny. Ceir 270 ar draws y ffin honno, heb sôn am lifau eraill rhwng y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill. Felly, ceir effeithiau llawer mwy heriol o ganlyniad i realiti rheoli'r trefniadau hynny ar gyfer ffiniau, oherwydd yr hyn nad ydym ei eisiau—ac rwy'n siŵr nad oes neb yn y Siambr eisiau hyn—yw niwed i'r cytundeb heddwch yng Ngogledd Iwerddon. Felly, nid ydym eisiau i'r trefniadau hyn gael eu rhoi ar waith ar y ffin.
Lywydd, rwy'n sylweddoli fod amser yn brin, ond rwyf am wneud sylw ar y pwynt hwn yn olaf. Gwneuthum y penderfyniad mewn gwirionedd i fynd i weld y papurau Brexit yn Swyddfa Cymru yr wythnos diwethaf. Gwn fod rhai o'r Aelodau eraill wedi bod yno, gan i mi weld eu henwau yn llyfr roedd yn rhaid i mi ei lofnodi. Rhoddais fy ffôn i gadw, cafodd ei gadw dan glo, oherwydd dyna oedd angen ei wneud er mwyn i mi eu gweld. Ond rwy'n atgoffa'r Aelodau ar y meinciau ar fy ochr chwith fod y ddogfen honno, sef cyfres o sleidiau PowerPoint mewn gwirionedd, yn atgoffa pawb—ac fe'i comisiynwyd gan Lywodraeth y DU, ac nid oeddent yn hoffi'r atebion a gawsant—roedd yn tynnu sylw at y ffaith mai effaith gadael yr UE ar economi Cymru oedd gostyngiad o rhwng 2 y cant a 10 y cant yn y cynnyrch domestig gros. Y ffaith yw mai 2 y cant fyddai'r gostyngiad pe baem yn aelodau o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy'n annhebygol o ddigwydd, oherwydd wedyn—wel, tynnwyd sylw at hyn eto. Felly, byddai gwahaniaeth mawr.
Dangosodd y papurau hefyd fod nifer o'r sectorau a gâi eu taro galetaf yn sectorau sy'n bwysig i Gymru. Felly, mae gan Lywodraeth y DU dystiolaeth sy'n dadlau bod aros yn yr undeb tollau neu mewn undeb tollau yn llawer mwy buddiol i economi'r DU na dilyn yr athrawiaethau ideolegol sy'n gyrru cefnogwyr Brexit digyfaddawd a'r ofn sydd gan Theresa May ohonynt. Mae'n bryd iddynt ddihuno. Mae'n bryd i gefnogwyr Brexit yn y Cabinet ddod i'r casgliad fod pobl ac economi y DU yn llawer pwysicach na'u credoau ideolegol.
Mae Cadeirydd y pwyllgor materion allanol newydd gwyno mai dadl am wahaniaeth semantig yw hon, ond dadl a gyflwynwyd gan ei blaid ef oedd yr un am y gwahaniaeth semantig, wrth gwrs. Dyna holl bwynt hyn. Ond rwy'n credu y gallaf ei helpu mewn gwirionedd, i atgyfnerthu'r pwynt a wnaed gan Adam Price funud yn ôl. Ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd eu hunain, mae'n dweud bod yr undeb tollau yn un o gerrig sylfaen yr Undeb Ewropeaidd ac yn elfen hanfodol yng ngweithrediad y farchnad sengl. Ni all y farchnad sengl weithio'n iawn oni cheir defnydd cyffredin o reolau cyffredin ar ei ffiniau allanol. I gyflawni hynny, mae'r 28 o weinyddiaethau tollau cenedlaethol yn yr UE yn gweithredu fel pe baent yn un endid.
Dyna'r holl bwynt. Dyna bwynt undeb yn yr achos penodol hwn. Nawr, mae gennyf farn wahanol i'w blaid ef a Phlaid Cymru ar rinweddau aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond rwyf gyda Phlaid Cymru yn eu dehongliad o'r ddadl hon yn hyn o beth: fod yr hyn y mae'r Blaid Lafur yn ei gyflwyno bellach yn anghydlynol ac yn blastr i geisio cuddio'r anghydfod yn eu plaid eu hunain ar y cwestiwn a ddylem barhau'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Nid oes neb yn credu o ddifrif fod y Comisiwn Ewropeaidd yn mynd i gael bargen undeb tollau arbennig ar gyfer Prydain. Maent yn dal i ddweud wrthym na chaniateir dewis a dethol mewn perthynas â'r farchnad sengl neu'r undeb tollau. Mae'n fater o'i gymryd neu ei adael—beth bynnag y byddant yn eu cynnig i ni. Felly, mae cynigion y Blaid Lafur yn fethiant o'r cychwyn, ac nid wyf yn deall sut y gallai unrhyw berson deallus yn y Blaid Lafur gredu hyn o ddifrif.
Mae Jeremy Corbyn yn bryderus iawn am reolau'r UE ar gymorth gwladol, polisi cystadleuaeth yr UE a'i reolau caffael, ond mae'n rhaid iddo dderbyn nad yw'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig y rheolau UE ar bob un o'r meysydd hollbwysig hynny, y gallai eu llacio alluogi'r Blaid Lafur i wireddu rhai o'i huchelgeisiau polisi. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall o gwbl am y rhai sy'n credu y dylem fod yn aelodau o undeb tollau neu yr undeb tollau, ond nad ydym yn mynd i fod yn aelodau o'r UE yw pam y maent am roi polisi masnach ryngwladol y Deyrnas Unedig allan i bobl nad ydynt yn atebol yn y pen draw i'n hetholwyr ni nac yn atebol i'n Seneddau yn y DU yn eu hawdurdodaethau amrywiol. Mae hyn yn nonsens llwyr i mi.
Gallaf weld bod yna ddadleuon dros aros o fewn yr UE, er nad wyf yn eu rhannu, ond ni allaf weld dadl o gwbl dros fod y tu allan i'r UE a chaniatáu i bobl eraill ddeddfu drosom a pheidio â chael llais neu bleidlais yn eu penderfyniadau. Mae'r tariff allanol cyffredin yn newid drwy'r amser, bob mis, ac weithiau mewn ffyrdd arwyddocaol iawn. Er enghraifft, y dreth ar orennau—mae mewnbwn orennau i'r UE wedi codi o 4 y cant i 17 y cant yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn berthnasol i bob math o nwyddau sy'n cael eu rhestru yn y ddogfen gymhleth hon, sy'n nodi beth yw'r tariffau ar gynhyrchion gwahanol. Yn sicr, rydym am allu penderfynu drosom ein hunain pa drethi a gaiff eu gosod ar gynhyrchion, yn enwedig cynnyrch bwyd a phrif nwyddau bob dydd eraill—dillad, esgidiau a llawer o bethau sy'n effeithio ar rym gwario pobl ar incwm isel. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall am safbwynt y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yw bod y tariff allanol cyffredin, fel y mae'n gymwys yn ymarferol, yn gyffredinol yn erbyn buddiannau'r trydydd byd neu wledydd sy'n datblygu—beth bynnag yr hoffem eu galw—yn erbyn buddiannau pobl gyffredin, ac yn enwedig y rhai sydd ar incwm isel. Dyma'r hyn y maent yn ceisio ei amddiffyn. Pe baent wedi bod yn Aelodau o'r Cynulliad hwn neu'n Aelodau o Senedd y Deyrnas Unedig yn y 1840au, byddent wedi bod yn amddiffyn y deddfau ŷd. Fe ildiaf.
Diolch. A ydych yn cydnabod yn awr felly, heb ffurf ar undeb tollau—neu heb yr undeb tollau—y bydd treth dariff ar nwyddau a allforir o Gymru?
Nac ydw, ddim o gwbl. Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai penderfynu a yw am osod tariffau neu beidio. Er enghraifft, mae tariff allanol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd yn gosod treth o 4.7 y cant ar ymbarelau â choesau telesgopig. Mae'n gosod tariff o 1.7 y cant ar gleddyfau, cleddyfau cwta, bidogau, picelli, gweiniau a chyllyll gweiniog. Mae'n gosod tariff o 15 y cant ar fewnforio beiciau un olwyn. Dyma wiriondeb cymhlethdod y 12,561 o eitemau a restrir yn y—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Fe ildiaf.
A yw'n ymwybodol, ar gyfartaledd, bob tro y bydd menyw'n prynu bra, fod yn rhaid iddi dalu treth o £1 i'r Undeb Ewropeaidd, er nad ydym yn cynhyrchu bras yn y wlad hon?
Rwy'n cytuno'n llwyr. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gadw hyn mewn persbectif beth bynnag sy'n digwydd. Y tariff cyfartalog a roddir ar nwyddau sy'n cael eu mewnforio i'r Undeb Ewropeaidd yw tua 3.5 y cant. Ceir sectorau penodol yr effeithir arnynt yn fwy na hynny: ceir modur, fel y mae pawb ohonom yn gwybod—10 y cant, ac mae cynhyrchion amaethyddol yn achos arbennig, yn aml iawn, hyd yn oed mewn cytundebau masnach rydd, fel y nodwyd eisoes, a chânt eu heithrio yn achos Twrci. Ond mae'r gyfran o'r economi y mae'r meysydd cynhyrchiant hyn yn berthnasol iddynt yn eithriadol o fach. Nid yw amaethyddiaeth, fel y gwyddom, ond yn 2 y cant o holl gynnyrch domestig gros y wlad. Os ydym am gefnogi ffermwyr ac incwm ffermydd, gallwn wneud hynny mewn llawer o ffyrdd eraill yn hytrach na gosod trethi ar fewnforio nwyddau, os dymunwn, ond yn y pen draw, mae'n fater o ddemocratiaeth.
Ni sydd i benderfynu, ein hunain, fel gwlad annibynnol, pa dreth, os o gwbl, rydym eisiau ei gosod ar fewnforio nwyddau o wledydd eraill. Pam y dylem osod treth fewnforio o 17 y cant ar esgidiau chwaraeon, er enghraifft, o'r dwyrain pell? Pam rydym am gael treth ar fewnforio orennau, na ellir eu tyfu yn y Deyrnas Unedig? Mae yna gymaint o wiriondeb yn hyn. Pan fyddwch yn rhoi'r pŵer i ddeddfu ar gyfer trethiant allan i gorff nad oes gan bobl Prydain bŵer i'w reoli, dyma fydd yn digwydd. Nid ydym yn gwybod, o un wythnos i'r llall, beth y mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn mynd i'w wneud yn y maes hwn. Felly, yn y bôn, mae'n fater o ddemocratiaeth, ac ni allaf ddeall pam y byddai plaid fel y Blaid Lafur, o bob plaid, sydd wedi ymrwymo i egwyddorion democratiaeth, ac a ddaeth i fodolaeth er mwyn amddiffyn buddiannau pobl sy'n gweithio, bellach yn troi cefn ar hynny ac yn cael ei dilyn mor frwdfrydig gan Blaid Cymru.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Yn ein papur polisi masnach diweddar, a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror, mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei safbwynt ar yr undeb tollau. Yn y bôn, nid ydym yn argyhoeddedig fod gadael undeb tollau gyda'r UE o fudd i ni. Yr un yw ein safbwynt ag un Llywodraeth yr Alban, sydd hefyd yn cyflwyno ei hachos yn ei gyhoeddiad 'Scotland's Place in Europe' dros weld y DU yn aros yn y farchnad sengl a—gadewch i mi bwysleisio hyn eto—undeb tollau. Pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd yn peidio â bod yn aelod o'r undeb tollau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Ac rwy'n ymddiheuro os yw'n gynamserol a'ch bod yn mynd i esbonio, ond beth sydd wedi newid ers y Papur Gwyn a gynhyrchwyd gennym ar y cyd, lle mae'n amlwg mai undeb tollau cyfredol yr Undeb Ewropeaidd oedd yr hyn a geisiem?
Yn hollol. Edrychwch, ar adeg cynhyrchu'r Papur Gwyn, fe'i gwnaethom yn gwbl glir fod materion yn ymwneud â'r undeb tollau yn llawer mwy cymhleth na chymryd rhan yn y farchnad sengl. Dros y flwyddyn ddiwethaf, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud ein bod wedi casglu llawer mwy o dystiolaeth ac wedi siarad ag amryw o arbenigwyr a rhanddeiliaid, ac mae hyn wedi arwain at ddealltwriaeth well o'r cyfranogiad parhaus yn yr undeb tollau a goblygiadau hynny. Ond, wyddoch chi, mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi dod i'r un casgliad—pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd yn peidio â bod yn aelod o'r undeb tollau, sy'n rhan annatod o drefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ein barn ni, mae'n annirnadwy y gallai neu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno i negodi â thrydydd gwledydd ar ran y DU wedi i ni adael yr UE. Felly mae'n amhosibl inni barhau'n rhan o'r undeb tollau. Ond os oes unrhyw dystiolaeth sy'n bodoli sy'n awgrymu y byddai'r Comisiwn Ewropeaidd yn cytuno i negodi ar ran y DU wedi i ni adael yr UE, yna byddwn yn croesawu'r dystiolaeth honno. Serch hynny, gallai'r DU negodi undeb tollau newydd gyda'r UE fel rhan o'n trefniadau ôl-Brexit, a fyddai'n golygu ein bod yn cadw'r tariff allanol cyffredin. Gydag ymrwymiad pendant i barhau i weithio o fewn fframwaith rheoleiddio'r farchnad sengl, byddai hyn yn galluogi nwyddau i gylchredeg rhwng yr UE-27 a'r DU ar yr un sail â heddiw fwy neu lai.
Mae nifer o randdeiliaid, ac yn fy marn i, yn bersonol, mae'n debyg mai Siambr Fasnach Prydain Iwerddon yw'r mwyaf diddorol ohonynt, wedi cyflwyno cynigion a fyddai'n gweld yr UE a'r DU yn negodi cytundebau masnach rydd newydd ochr yn ochr â'i gilydd. A byddai hyn, rwy'n credu, yn atyniadol nid yn unig i ni, ond hefyd i'r UE-27, a dylai fod yn amcan pendant i'r DU yn y trafodaethau sydd ar y gweill yn fy marn i. Nid wyf yn credu bod y DU wedi cyflwyno tystiolaeth economaidd drylwyr neu ddadansoddiad cadarn o gost a budd i gyfiawnhau'r ffaith y byddai'n well ganddi dorri'n rhydd o'r farchnad sengl a'r undeb tollau er mwyn mynd ar drywydd amheus cytundebau masnach rydd dwyochrog newydd gwych mewn mannau eraill ar draws y byd. Yn wir, mae datgelu dadansoddiad Brexit Llywodraeth y DU heb ganiatâd yn ddiweddar yn cadarnhau na allai cytundebau masnach newydd wneud iawn am y niwed economaidd a wneir drwy ddilyn llinellau coch y Llywodraeth o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau. Os yw Llywodraeth y DU yn dilyn ei pholisi o adael y farchnad sengl a'r undeb tollau o blaid polisi masnach cyfan gwbl annibynnol, bydd hyn yn creu risg o osod rhwystrau di-doll a thariffau, a fydd yn ddiau yn niweidiol iawn i economi Cymru.
Mae ein papur masnach, a gefnogir gan astudiaeth effaith Ysgol Fusnes Caerdydd yn dangos mai'r ffordd orau o ddiogelu economi Cymru yw drwy gadw mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl Ewropeaidd, ac aelodaeth o undeb tollau. Mae ymchwil yn cadarnhau ein dadansoddiad y byddai Brexit caled yn effeithio'n drychinebus ar swyddi a chymunedau yng Nghymru, yn lleihau'r economi rhwng 8 a 10 y cant, sy'n cyfateb i rhwng £1,500 a £2,000 y person yn ein gwlad. Yn sicr, rydym yn parchu penderfyniad democrataidd pobl Cymru i adael yr UE, ond nid ydym o'r farn fod pobl Cymru wedi pleidleisio dros Brexit er mwyn bod yn llai cefnog. Aros o fewn undeb tollau â'r UE yw'r ffordd orau i ddiogelu hynny. Felly, gadewch i mi fod yn gwbl glir, rydym ni, fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a nifer o rai eraill, yn credu bod y dystiolaeth yn ddiamwys—mai'r ffordd orau o sicrhau lles gorau busnesau Cymru, cymunedau Cymru, teuluoedd Cymru, gweithwyr Cymru, yw drwy fod mewn undeb tollau gyda'r UE, am y dyfodol rhagweladwy fan lleiaf, a thrwy barhau i gymryd rhan yn y farchnad sengl o'r tu allan i'r UE.
Heb ymrwymiad o'r fath, rwy'n credu ei bod hi'n parhau'n aneglur iawn sut y gellid datrys problem y ffin yng Ngogledd Iwerddon, ni waeth beth fydd Aelodau'r gwrthbleidiau'n ei honni. Gallai'r mater arwain o hyd at ddad-wneud yr holl negodiadau rhwng yr UE a'r DU. Dyma safbwynt rydym wedi dadlau yn ei gylch yn ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gafodd ei lunio ar y cyd â Phlaid Cymru, a dyma yw ein safbwynt o hyd. Dyma'r safbwynt sydd yn ein gwelliant i'r cynnig.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am yr holl gyfraniadau i'r ddadl hon y prynhawn yma. Wyddoch chi, Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna gymaint rydym yn cytuno yn ei gylch yn y mater hwn, ond hoffwn wybod, a buaswn yn croesawu ymyriad neu lythyr hir, fel y dymunwch, yn dweud a oes yna elfennau eraill yn y Papur Gwyn rydych yn awr ym ymbellhau oddi wrthynt.
Gadewch i ni atgoffa ein hunain am deitl y Papur Gwyn hwnnw, 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Yn anad dim, rwy'n credu mai dyna ddylai fod yn ddyletswydd i ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, diogelu dyfodol Cymru a phwyso am y camau gweithredu a fydd yn gosod Cymru mewn sefyllfa dda ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac fel sydd bob amser yn digwydd, cawn ein cyhuddo o fod eisiau rhwystro ewyllys y bobl, a bod hon yn ymgais i atal Brexit rywsut. Mae yna bobl mewn tair plaid yn y Siambr hon nad ydynt am adael yr Undeb Ewropeaidd. Yn sicr, nid wyf fi am wneud hynny. Ond mae'r cynnig hwn, fel yn achos cynifer o'n gweithredoedd yn y blaid hon, a chydag Aelodau Cynulliad eraill o'r un anian, yn ymwneud â cheisio mynd i'r afael â'r pragmataidd a wynebu'r realiti, fel y mae pethau, ein bod ar y trywydd i adael yr Undeb Ewropeaidd a rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr fod ymadael o fudd i Gymru.
Yn y blaid hon, credwn y dylem fod yn aelod o'r farchnad sengl ar ôl Brexit. Yn y blaid hon, credwn y dylem fod yn aelod o'r undeb tollau ar ôl Brexit, yr unig undeb tollau sy'n gallu diogelu amaethyddiaeth Cymru, sy'n gallu achub swyddi yng Nghymru, sy'n gallu atal porthladd Caergybi yn fy etholaeth rhag cael ei dagu—nid oes lle ynddo i gynnal gwiriadau o lorïau. A diolch i Dai Rees am siarad mor huawdl o blaid ein cynnig y prynhawn yma, oherwydd dyna roeddech chi'n ei wneud, mewn gwirionedd. Rwy'n deall bod llinell wedi'i gosod bellach gan arweinydd y Blaid Lafur ar undeb tollau, ac rydych yn dilyn y llinell honno'n ufudd, ond gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd angen inni ei ddiogelu er mwyn gwneud yn siŵr fod buddiannau Cymru'n cael eu gwarchod wrth inni symud ymlaen.
Mae yna bobl yn cwyno ynglŷn â chael eu rhwymo gan reolau Ewropeaidd. Beth ar y ddaear sydd o'i le ar gael ein rhwymo gan reolau sydd mewn gwirionedd yn gweithio o'n plaid—o blaid swyddi yng Nghymru, o blaid cymunedau Cymru ac economi Cymru? Cefnogwch y cynnig.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwy'n symud i'r cyfnod pleidleisio.