– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 14 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, a galwaf ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6681 Hefin David
Cefnogwyd gan David Rees, Mike Hedges, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnig ar gyfer Bil ar reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau.
2. Diben y Bil hwn fyddai:
a) rhoi hawliau sy'n cyfateb i hawliau llesddeiliaid i rydd-ddeiliaid sy'n talu'r ffioedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw mewn mannau cymunedol a chyfleusterau ar ystâd breifat neu ddefnydd cymysg a fydd yn eu galluogi i herio rhesymoldeb taliadau gwasanaeth;
b) sicrhau, pan mae rhydd-ddeiliad yn talu tâl rhent, nad yw'r perchennog sy'n codi rhent yn gallu cymryd meddiant neu roi prydles ar yr eiddo os nad yw tâl rhent yn cael ei dalu am gyfnod byr o amser; ac
c) rhoi hawliau i rydd-ddeiliaid yng Nghymru sy'n cyfateb i hawliau rhydd-ddeliaid yn Lloegr o ganlyniad i newidiadau i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau a gynlluniwyd gan Lywodraeth y DU.
Diolch, Lywydd. Mae'n anrhydedd gallu cynnig deddf yn y Senedd hon a fydd o fudd i fy etholwyr yng Nghaerffili, ac rwy'n credu, a byddaf yn dadlau, y bydd o fudd i bobl Cymru yn gyffredinol.
Mae'r ddadl hon a'r ddeddf arfaethedig yn dilyn dwy ddadl a gynhaliwyd eisoes yn y Siambr hon—un ar eiddo lesddaliadol a'r hawliau cyfyngedig y mae lesddeiliaid yn eu hwynebu, a'r llall ar sefyllfa druenus ffyrdd ac ystadau nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu sy'n cael eu heffeithio gan y rheini. Dyma ddarn coll y jig-so heddiw: hawliau rhydd-ddeiliaid sy'n berchen ar eiddo ar ystadau a reolir a'r rôl mewn perthynas â hawliau cwmnïau rheoli eiddo a chwmnïau rheoli ystadau sy'n aml yn caethiwo preswylwyr mewn contractau rheoli eiddo. Mae'n farchnad hynod annheg nad yw wedi cael ei rheoleiddio. Mae'n broblem ar hyd a lled y DU. Mae gennyf gopi o The Guardian yma—wel, copi wedi'i brintio; copi modern—lle mae'n dweud,
Perchnogion tai sy'n cael eu caethiwo gan lesddaliad sy'n eu blingo—y ffynhonnell arian newydd ar gyfer datblygwyr. Maent yn berchen ar y rhydd-ddaliad ond cânt eu gorfodi i dalu ffioedd rheoli ystadau cynyddol yn aml heb unrhyw atebolrwydd.
Mae'r erthygl honno'n cynnwys dwy enghraifft o ystadau yn Cumbria lle nad oes unrhyw rwymedigaeth ar gwmnïau rheoli ystadau i gadw costau'n isel na darparu tystiolaeth bod y gwasanaethau y maent yn codi tâl amdanynt yn cael eu cyflawni. Mae hyn yn gwbl warthus ac nid yw'n cael ei reoleiddio. Hefyd yng Nghaint, o bapur newydd ar-lein KentOnline:
Perchnogion tai yng Nghaint yn dioddef taliadau tai ychwanegol.
Mae'n digwydd yno hefyd, gyda 122,000 o bobl yn y sir honno wedi'u caethiwo mewn contractau dadleuol. Dylem roi clod i Kelly Tolhurst, Aelod Seneddol Rochester, sydd wedi codi hyn mewn dadl Neuadd Westminster yn San Steffan.
Ond mae'n digwydd yng Nghymru yn ogystal. Rwyf wedi cael gwaith achos o Gwm Calon yn Ystrad Mynach, lle mae trigolion wedi cael eu caethiwo mewn contractau fel hyn, ac mae Aelodau ar draws y Siambr hon, o fy mhlaid i a phleidiau eraill, hefyd wedi crybwyll eu bod wedi dod ar draws etholwyr sydd wedi wynebu yn union yr un problemau—a gallaf weld Aelodau ar draws y Siambr yn nodio. Mae gan Gwm Calon gwmni rheoli ystadau o'r enw Meadfleet, ac mae hwnnw'n asiant rheoli i gwmni o'r enw Cwm Calon Management Company One Ltd. Maent yn gorfforedig ac wedi'u rhestru yn Nhŷ’r Cwmnïau fel cwmni rheoli preswylwyr. Fel arfer, caiff cwmnïau rheoli preswylwyr eu sefydlu—yn ddiweddar, yn y cyfnod modern—ar ystadau preifat er mwyn iddynt fod yn berchen ar y mannau cymunol, gyda phob rhydd-ddeiliad, pob deiliad tŷ sy'n rhydd-ddeiliad, yn dod yn aelod o'r cwmni hwnnw ac yn cael cyfle i fod yn gyfarwyddwr ar y cwmni hwnnw.
Fodd bynnag, sefydlwyd Cwm Calon Management Company One Ltd. ym mis Ebrill 2005, dros flwyddyn cyn i'r eiddo cyntaf ar yr ystâd gael ei brynu hyd yn oed, yn ôl cofnodion y dreth gyngor. Ni chafodd neb gyfle i fod yn gyfarwyddwr neu'n aelod o'r cwmni pan gafodd ei sefydlu. Ar ben hynny, mae'r dogfennau corfforaethol yn dangos mai gweithwyr Redrow yw'r rhan fwyaf o gyfarwyddwyr y cwmni, a hyd nes y cwblhawyd yr eiddo diwethaf ym mis Mai 2015, roedd gan y gweithwyr Redrow hyn fwyafrif rheoli parod o ran pleidleisiau yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni rheoli preswylwyr, ac felly gallent ddiystyru rhydd-ddeiliaid unigol yn llwyr pe baent yn dymuno gwneud hynny. Sut y gall hwnnw fod yn gwmni rheoli preswylwyr, gyda Redrow, y datblygwr, yn brif gyfranddaliwr—yn wir, yn unig gyfranddaliwr y cwmni rheoli preswylwyr? Mae yna wrthdaro buddiannau amlwg, oherwydd y cwmni rheoli preswylwyr oedd yn gyfrifol am benodi'r cwmni rheoli ystadau, Meadfleet, sy'n gyfrifol am reoli'r ystâd, ac felly mae o dan fys bawd Redrow. Yr hyn a welwch yw achos clir iawn o wrthdaro buddiannau. Mae preswylwyr yn cyfeirio at Meadfleet fel 'Meadfleece', o ystyried y ffaith eu bod yn talu'r ffioedd hyn ac yn cael fawr o ddim yn ôl amdano.
Mae talu ffi fisol i gwmni rheoli eiddo ac ystadau yn arfer cyffredin gydag eiddo lesddaliadol, lle y gelwir y ffi fisol yn rhent tir, ac erbyn hyn mae gan lesddeiliaid hawliau statudol, gan gynnwys hawl i fynd i dribiwnlys, i apelio yn erbyn yr hyn y maent yn ei ystyried yn safonau gwasanaeth gwael. Nid oes gan rydd-ddeiliaid hawl o'r fath.
Felly, heddiw rwy'n cyflwyno achos Janine Jones, sydd wedi cynrychioli llawer o drigolion mewn perthynas â gwaith gwael ac eilradd, a gwaith na chafodd ei wneud o gwbl mewn llawer o achosion yn wir, ac mae hi wedi anfon nifer o negeseuon e-bost at Meadfleet. Mewn un achos—rwyf wedi crybwyll hyn o'r blaen yn y Siambr—anfonodd rheolwr gyfarwyddwr Meadfleet e-bost yn ôl yn dweud wrthi, gyda phob parch, am chwilio am rywbeth gwell i'w wneud. Er bod Redrow wedi ymddiheuro am hynny, dangosai nad oedd ots o gwbl ganddynt mewn gwirionedd, ac nid oes unrhyw reoliadau i'w rhwystro rhag cymryd yr arian a gwneud cyn lleied o waith â phosibl. Dyna oedd yn digwydd ar yr ystâd hon. Mae Janine Jones wedi ysgrifennu at Meadfleet, ac at Redrow, ar sawl achlysur, i'r graddau ei bod wedi ymgysylltu â chyfreithiwr hyd yn oed. Ac mae'r cyfreithiwr wedi dweud wrthi, 'Nid oes fawr ddim y gallwn ei wneud.' Mae hyn yn warthus wrth gwrs, ond yn wahanol i berchnogion eiddo lesddaliadol, nid oes gan berchnogion rhydd-ddaliadol yr un hawliau statudol i herio penderfyniadau'r cwmni rheoli preswylwyr, a'r cwmni rheoli ystadau eiddo sy'n gweithredu ar eu rhan. Nid yw hyn yn ddigon da. [Torri ar draws.] Iawn.
Diolch. Nid yn eich ardal chi yn unig y mae'n digwydd—roedd gennyf etholwyr a oedd yn credu bod yn rhaid iddynt dalu hyd nes y byddai'r cyngor yn mabwysiadu'r palmentydd a'r ffyrdd ac ati, oherwydd eu bod ar ystâd newydd, cyn darganfod y byddai'n rhaid iddynt dalu amdano am yr holl amser y byddent yno, ac y bydd yn cael ei drosglwyddo i'r bobl sy'n prynu'r eiddo ar eu holau. Credaf fod hynny'n warthus. Gallaf ddeall pam eu bod wedi credu hynny—rydych yn symud i mewn, nid yw'r ffyrdd wedi'u mabwysiadu, nid yw'r goleuadau wedi'u mabwysiadu, mae'n rhaid i rywun dalu am edrych ar eu holau. Ond rwy'n credu bod eu trin yn y ffordd honno'n warthus.
Os ydych eisiau prynu'r tŷ, mae'n rhaid i chi lofnodi'r weithred, ac os byddwch yn llofnodi'r weithred, rydych yn clymu eich hun at hynny'n union, am y cyfnod o amser y byddwch yn berchen ar y tŷ, ac mae'n rhaid i'r bobl sy'n prynu'r tŷ ar eich ôl dalu'r ffi rheoli ystadau hefyd. Mae'n hurt, yn enwedig pan fydd yr ystâd yn cael ei mabwysiadu, ar y cyfan, yn y pen draw. Mae'n wallgof.
Mae yna gorff rheoleiddio—sef y Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl—ond mae'n wirfoddol, ac ar hyn o bryd gall unrhyw un sefydlu cwmni rheoli eiddo ac ystadau. Gallai unrhyw un ohonom yn yr ystafell hon ddod at ei gilydd—gallai rhai ohonom ddod at ein gilydd, sefydlu cwmni rheoli ystadau, a'i ddefnyddio fel trwydded i argraffu arian. Dyna sy'n digwydd i bob pwrpas. Credaf y dylai'r Gymdeithas Asiantaethau Rheoli Preswyl fod yn gorff statudol y mae'n rhaid i fusnesau fod yn aelodau ohono i allu masnachu.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Mae amser yr Aelod yn brin. Nid oes ganddo ond wyth munud i agor a chloi. Felly, byddwch yn gyflym.
Iawn, byddaf yn gyflym. Rwy'n derbyn y pethau rydych yn eu crybwyll mewn perthynas ag eiddo a thai, ond mae hefyd yn broblem ar gyfer fflatiau a blociau o fflatiau, ac mae'r tenantiaid hynny wedi cael eu clymu hyd yn oed yn dynnach at lesddeiliadaeth ac at rai o'r cwmnïau hyn.
Yn wir, ac o hyn y tyfasant, lle roedd blociau o fflatiau yn Llundain.
Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfle hwn i wneud yn siŵr nad yw perchnogion eiddo rhydd-ddaliadol ar eu colled, a'u bod yn cael yr un hawliau â lesddeiliaid—oherwydd, mewn gwirionedd, mae gan lesddeiliaid fwy o hawliau yn hyn o beth—o ran herio penderfyniadau cwmnïau rheoli preswylwyr, a'u hasiantaethau penodedig. Rydym angen i gwmnïau rheoli eiddo ac ystadau gael eu proffesiynoli'n briodol, a'u rheoleiddio, fel y gwneir gyda chyrff proffesiynol eraill, i atal masnachwyr diegwyddor, a phobl sy'n cymryd mantais o berchnogion cartrefi diniwed. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno ei Phapur Gwyn, 'Fixing our broken housing market', a fydd yn cynnwys argymhellion. Os na weithredwn yn awr, wrth i ni gael mwy a mwy o ystadau newydd, byddwn yn cael ein gadael ar ôl. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu.
Diolch. Suzy Davies. Mae'n ddrwg gennyf, ond a gaf fi atgoffa Aelodau mai tri munud—rydych yn gwybod; mae hynny'n dda—ar gyfer siaradwyr sy'n ymyrryd? Diolch.
Diolch. A gaf fi ddiolch i Hefin David am gyflwyno'r cynigion hyn heddiw? Roeddent yn fy atgoffa o fy hunllef fynych am ddarlithoedd cyfraith tir 30 mlynedd yn ôl. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig eich bod wedi gwneud hyn, oherwydd er bod rhent-daliadau—rhent-daliadau newydd—wedi cael eu diddymu ym 1977, mae rhai yn dal i fodoli. Mae'r rhwymedïau—rydych yn cyfeirio atynt yn eich cynnig—yn llym iawn, ac wrth gwrs, mae'r Llys Apêl wedi cadarnhau yn ddiweddar bod y rhain yn rwymedïau gweithredol, felly credaf ein bod angen deddfwriaeth yn awr i'w haddasu o leiaf.
Mae rhent-daliadau ystadau, sef craidd yr hyn rydych yn siarad amdano mewn gwirionedd, fymryn yn wahanol—ac efallai ychydig yn fwy perthnasol hefyd. Nid ydynt yn cario'r un rhwymedïau anghymesur gyda hwy yn yr un ffordd yn union ag y mae rhai rhent-daliadau cyffredin yn ei wneud, ond ni chawsant eu diddymu ym 1977 chwaith. Cawsant eu cadw'n benodol gydag ystadau bach mewn cof, i reoli'r gwaith parhaus o gynnal a chadw cyfleusterau a rennir, efallai fel ffordd fynediad ar y cyd, neu orsaf bwmpio a rennir—pethau bach fel hyn. A gallaf feddwl, rwy'n credu, am un ystâd yn yr Uplands, sef y ward lle rwy'n byw, a adeiladwyd yn yr 1980au—tua 15 eiddo—lle maent yn talu tua £150 yr un mewn rhent-daliadau i gynnal ychydig o dir cyffredin a llwybr mynediad at Barc Cwmdoncin. Ond roedd ystadau mwy yn tueddu i fod â gwasanaethau wedi'u mabwysiadu neu y gellid eu mabwysiadu a oedd wedi'u diogelu gan fondiau, felly ni chafodd rhent-daliadau eu defnyddio bob dydd o'r 1970au ymlaen oherwydd nad oedd eu hangen. Canlyniad anfwriadol hynny oedd bod y gallu i orfodi cyfamod wedi'i golli yn ogystal, ond rwyf am adael hynny at ddiwrnod arall.
Er hynny, credaf ein bod yn gweld y rhent-daliadau ystadau hynny'n cael eu defnyddio'n fwy creadigol bellach. Mae pawb ohonom yn gwybod am yr ystadau mawr hynny, lle mae'r ffyrdd yn rhy gul, wrth wneud gwaith canfasio gwleidyddol diflas pan na allwch ddod o hyd i rywle i barcio. Mae'r ffyrdd hynny fwy neu lai'n amhosibl eu mabwysiadu ac mae'r tai yn ddarostyngedig i rent-daliadau ar gyfer cynnal y ffyrdd hynny a gofalu am fannau cymunol eraill, ac mae'r perchennog rhent hwnnw, fel y dywedwch, fel arfer yn ddatblygwr mawr neu'n un o'r cwmnïau asiantaeth, ac maent yn casglu'r £150—a £150 ydyw y dyddiau hyn yn hytrach na gini. Ond o ganlyniad i'r rhain, maent yn gwario llai ymlaen llaw, yn osgoi sicrhau bod ffyrdd ystadau yn cyrraedd safon lle y gellid eu mabwysiadu, yn osgoi gorfod darparu bond adran 48, pe baent yn methu sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu, a thrwy'r rhent-daliadau, maent yn creu cronfa fuddsoddi y cânt log arni, ynghyd â'r gallu, fel y nodoch, i gynyddu'r rhent-daliadau pryd bynnag y maent eisiau gwneud hynny, a chodi faint bynnag a ddymunant am gydsyniadau a chyfamodau gorfodol eraill heb unrhyw atebolrwydd. A phan ystyriwch faint o ystadau o'r fath sy'n debygol o gael eu codi o dan gynlluniau datblygu lleol ym mhob cwr o Gymru, wrth i gynghorau fynd ati fel lladd nadroedd i gyrraedd y targedau tai sydd wedi'u pennu ar eu cyfer, mae'r rhent-daliadau ystadau hyn wedi datblygu i fod yn dipyn o freuddwyd i'r datblygwr, rwy'n credu: nid yw'n cael ei reoleiddio o gwbl, nid oes unrhyw rwymedigaeth i ymgynghori, nid oes unrhyw rwymedigaeth i godi taliadau rhesymol, nid oes gan dalwyr rhent unrhyw hawl i gael copïau o gyfrifon na mynediad at dribiwnlys haen gyntaf—mae'n rhaid i chi fynd i'r llys sirol. Ac rwy'n credu y bydd yr ystâd fach yn yr Uplands yn iawn oherwydd, mewn gwirionedd, y preswylwyr yw'r cwmni rheoli. Ond mewn perthynas â'r ystadau mawr sy'n cynnwys cannoedd ar gannoedd o dai, byddwn yn yr un sefyllfa'n union ag a amlinellwyd gennych, ac rwy'n gobeithio y bydd un o'r ddwy Lywodraeth, neu'r ddwy, yn llwyddo i fynd i'r afael â hyn yn weddol gyflym.
Diolch i chi, a diolch i Hefin am gyflwyno hyn, ac am eich angerdd; rwy'n ei deimlo'n bendant iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi cyflwyno hyn yma heddiw.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn archwilio rhai o'r problemau gyda chontractau lesddaliadol a ffyrdd nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu, felly mae'n rhesymegol ein bod bellach yn symud ymlaen at y problemau a grëwyd gan yr hyn a elwir yn drefniadau 'fleecehold', fel y sonioch chi, taliadau gwasanaeth a'r problemau sy'n dod gyda hwy. Mae'r materion hyn, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r problemau ehangach gyda chamddefnyddio'r farchnad mewn datblygiadau newydd, sydd wedi digwydd yn amlach ers y cwymp ariannol. Rydym yn gweld adroddiadau cynyddol am safonau salach ar adeiladau newydd, a chamau unioni annigonol ar gyfer rhai perchnogion cartrefi. Er enghraifft, mae'n costio £120 i gofnodi cwyn gyda'r cod defnyddwyr ar gyfer adeiladwyr cartrefi, ac mae llawer yn credu bod hwnnw ar ochr yr adeiladwyr.
Mae perchnogion cartrefi a pherchnogion fflatiau yn wynebu taliadau gwasanaeth ystadau sy'n aml yn daliadau mympwyol na ellir eu cyfiawnhau o gwbl, ac maent yn gallu achosi anhawster ariannol mawr. Mae'n system sy'n arbennig o gyffredin a chostus yn y sector fflatiau, fel y soniodd David Rees rwy'n credu. Mae'n syfrdanol gweld y gall cwmni rheoli ystadau gael meddiant ar eiddo os nad yw'r rhent yn cael ei dalu am gyfnod mor fyr o amser. Gyda'r sefyllfa economaidd rydym ynddi, gyda chostau'n cynyddu i bawb, a chyflogau'n aros yn yr unfan, mae pobl angen ac yn disgwyl elfen o hyblygrwydd, ac yn wir, mae cwmnïau cyfleustodau a chwmnïau morgais eraill yn cynnig yr elfen honno'n aml—lle maent yn rhoi'r gwyliau neu'r egwyl hwnnw i chi. Yn 2018, mae pobl yn dibynnu ar hyn i oresgyn anhawster, hyd yn oed yn y tymor byr. Felly, mae'r ffaith y gall rhywun golli eu cartref am fethu talu ffi rheoli ystadau'n warthus, ac mae'n rhaid i bobl gael amddiffyniad rhag colli eu cartref am fethu talu mân daliadau.
Nawr, gwn fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi rhai mesurau da a luniwyd i ddiogelu'r tai hyn a brynwyd o dan Cymorth i Brynu, ond fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rhan fach iawn o'r farchnad yn ei chyfanrwydd yw hon. Y darlun ehangach yma yw tegwch sylfaenol y model hwn, pa un a yw'n lesddaliad, yn rhydd-ddaliad neu'n unrhyw beth arall. Mewn egwyddor, credaf ei bod yn anghywir disgwyl i bobl dalu ffioedd ychwanegol, sy'n aml yn uchel, am waith cynnal a chadw ar yr ystâd ehangach, ac yna disgwyl i bobl dalu'r dreth gyngor hefyd. Mae'n faich ariannol ychwanegol na all pobl ei fforddio. Ac ar ryw adeg, credaf y bydd pobl yn gwrthryfela ynglŷn â'r mater hwn, nid y rheini sy'n byw ar ystadau tai newydd yn unig, ond hefyd y degau o filoedd o bobl sy'n talu ffioedd rheoli yn ogystal â'r dreth gyngor mewn fflatiau. Yn syml, nid yw'n iawn i ofyn i bobl dalu ddwywaith.
Nid dyma'r model ar gyfer adeiladu sector tai teg, na'r modd i wella perchentyaeth fforddiadwy, ac mae'n gost arall mewn cymdeithas sydd bellach yn llawn o gostau, mae'n rhoi pwysau ar bobl sy'n gweithio. Credaf fod y cynnig hwn yn un da, ac mae'n bwysig ein bod yn ei drafod, ond mae'n rhaid i mi ddweud eto, fel y gwneuthum yr wythnos diwethaf yn ystod y cwestiynau amserol ar ddiwygio lesddeiliadaeth, y gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'i phwerau ymhellach, y tu hwnt i gyfyngiadau'n ymwneud â Cymorth i Brynu. Rwy'n deall bod ganddynt gytundebau i beidio ag adeiladu lesddaliadau o dan rai amgylchiadau, er enghraifft gan adeiladwyr cartrefi penodol, ond a fydd y trefniadau hynny'n para am byth a sut y maent yn berthnasol yma?
Felly, rydym yn cefnogi'r cynnig hwn ar gyfer Bil, ond credaf y dylem edrych ar yr arferion diegwyddor ehangach rydym yn dod yn ymwybodol ohonynt yn ogystal â chryfhau amddiffyniad i ddefnyddwyr yn gyffredinol yn y sector hwn. Diolch.
Rwy'n ychwanegu fy niolch at ddiolch Bethan i Hefin am gyflwyno'r ddadl heddiw. Pan oeddem yn edrych ar ddadleuon gwahanol Aelodau ar y Pwyllgor Busnes, roeddwn yn eithaf awyddus i ni gael y ddadl hon, felly rwy'n falch ein bod yn ei chael. Credaf ei bod yn warthus fod modd gosod y taliadau gweddol fympwyol hyn heb ymgynghoriad, tryloywder na'r hawl i her gyfreithiol. Fel y soniodd un neu ddau o'r cyfranwyr, mae'n ymddangos ei fod yn rhan o glytwaith o ffioedd sy'n gysylltiedig â chynnal aelwydydd. Cawsom y dadleuon diweddar, fel y crybwyllwyd, ar rydd-daliadau a lesddaliadau a ffyrdd heb eu mabwysiadu. Felly, mae'n rhan o'r clytwaith hwn o ffioedd mympwyol y mae'n rhaid i bobl eu talu weithiau, ac mae'n drueni mewn rhai ffyrdd na allwn eu clymu wrth ei gilydd mewn un Bil mawr. Ond wrth gwrs, byddai hynny'n rhy anodd yn gyfansoddiadol.
Un neu ddau o bwyntiau sy'n berthnasol iawn yw'r ffaith y gallai fod angen inni ystyried sut y mae Llywodraeth y DU yn deddfu ar y pwyntiau hyn, fel arall gallech gael gwahaniaethau yn y farchnad dai, ac rydych wedi cyfeirio at hynny ym mhwynt 2(c) eich cynnig. A'r broblem fawr arall yw'r her gyfreithiol a'r ffaith nad oes proses apelio gan rydd-ddeiliaid, ac rydych wedi mynd i'r afael â hynny ym mhwynt 1 eich cynnig.
Felly, mae'n gynnig da. Pe bai modd cynnwys y pwyntiau hyn i gyd, gyda rhyw fath o ddeddfwriaeth yng Nghymru, gallem gael canlyniad da. Gallai gryfhau hawliau rhydd-ddeiliaid a sicrhau bod hawliau rhydd-ddeiliaid yn y maes hwn yr un peth yng Nghymru ac yn Lloegr, ac rwy'n credu mai dyna fyddai'r ateb gorau yn ôl pob tebyg, os gallwn ei gyflawni. Felly, rydym ni yn y grŵp UKIP yn cytuno gyda'r cynnig heddiw, a gobeithio y gall y ddadl heddiw sbarduno rhai camau ystyrlon i ddatrys y broblem hon. Diolch i chi.
A gaf fi ddiolch i Hefin a dweud hefyd fy mod yn credu bod yr hwyl a gafodd ar hyn y prynhawn yma yn briodol iawn, oherwydd credaf mai dyna yw pwrpas deddfwrfa sy'n myfyrio ar fuddiannau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu'n effeithiol er mwyn caniatáu'r math hwn o lwybr lle y gall Aelodau'r meinciau cefn nodi materion sy'n wirioneddol allweddol. Nid yw'n bosibl i'r Llywodraeth deimlo grym y pethau hyn bob amser, oherwydd mae gennym ni fwy o gysylltiad, yn aml, â'r person ar y stryd sy'n wynebu'r anawsterau hyn. Ac yn sicr dyma faes cyfraith y mae gwir angen ei reoleiddio a'i ddiweddaru, neu roi proses gyfreithiol ar waith am y tro cyntaf i lywodraethu'r math o arferion rydym yn eu gweld bellach, a oedd yn absennol, i raddau helaeth, fel yr amlinellodd fy nghyd-Aelod Suzy Davies, 10, 20 neu yn sicr, 30 mlynedd yn ôl. Felly, credaf ei fod yn bwysig iawn.
Rwy'n nodi bod gwaith ymchwil y grŵp defnyddwyr Which? yn credu ei bod hi'n bosibl fod arferion annheg yn y sector hwn yn arwain at oddeutu £700 miliwn o daliadau gwasanaeth diangen, oherwydd nad oes eglurder o ran llywodraethu. Nid yw'n dryloyw, nid oes raid i'r costau a godir gyfateb i gostau gwirioneddol unrhyw wasanaeth a hefyd gall cwmnïau rheoli fod yn rhan o bortffolio ehangach a gwrthbwyso costau mewn un ystâd benodol neu yn erbyn busnesau gwahanol hyd yn oed, mae'n ymddangos. Mae'n gwbl warthus, ac yn wir, mae grŵp seneddol hollbleidiol y DU ar lesddaliadau, sydd hefyd wedi edrych ar y maes hwn, yn credu y gallai cyfanswm y costau gormodol fod yn £1.4 biliwn. Mae'n arfer gwirioneddol gywilyddus, ac fel rhywun sy'n credu'n gryf yn y farchnad pan fo'n cael ei rheoleiddio yn effeithiol, rwy'n credu ei bod yn eithaf gwael fod yr arferion hyn wedi datblygu, i raddau helaeth o ganlyniad i gwmnïau adeiladu sector preifat. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni weithredu arno yn awr. Credaf fod Hefin yn gwbl gywir ym mhwynt 2(c) y cynnig hwn lle mae'n nodi bod Llywodraeth y DU yn bryderus mewn perthynas â Lloegr, lle mae ganddi gyfrifoldeb polisi tai a lle mae'n gweithio i archwilio'r sefyllfa, cyn ei hunioni'n briodol â deddfwriaeth, ac rwy'n sicr yn credu y dylai fod gennym ymrwymiad tebyg.
Credaf fod llawer ohonom wedi cael ein syfrdanu wrth sylweddol am y tro cyntaf pa mor gyffredin yw'r drwg arferion hyn a'r model busnes cyfan sydd bellach yn dod i'r amlwg, yn yr ystyr nad ydych yn datblygu rhai ystadau i safonau mabwysiadwy, neu fabwysiadwy i raddau helaeth beth bynnag. Mae'n rhywbeth a ddylai ddod i ben a buaswn yn sicr yn annog Hefin i fwrw ymlaen yn y modd hwn.
Diolch i chi, ac yn olaf, Dai Lloyd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. A gaf fi gymeradwyo Hefin David am ei waith yn cyflwyno hyn? Yn amlwg, fel y nodwyd, mae cryn dipyn o orgyffwrdd wedi bod rhwng—. Cawsom y ddadl wreiddiol oddeutu pedair wythnos yn ôl ar yr holl sefyllfa rydd-ddaliadol/lesddaliadol, ac roedd Mick Antoniw ac eraill yn chwarae rhan fawr yn honno; yna cawsom y ddadl ar ffyrdd nad oeddent wedi cael eu mabwysiadu ychydig wythnosau'n ôl; ac yn awr mae gennym y ddadl hon, ac mae cryn dipyn o'r materion yn gorgyffwrdd. Mae pobl yn synnu weithiau at y rhwystredigaethau rydym yn eu teimlo fel gwleidyddion etholedig, ar lefel cyngor sir ac fel Aelodau Cynulliad, pan fo materion bara menyn i'w gweld fel pe bai modd eu datrys, ac yna, pan awn ati, ni ellir eu datrys. Mae'n rhwystredig iawn ac mae hyd yn oed yn fwy rhwystredig i'r etholwyr yr effeithir arnynt.
Mae tasglu gan Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl ar ffyrdd nad ydynt wedi cael eu mabwysiadu. Mae llawer y gallwn ei wneud yma yn y Cynulliad. Rwy'n cymeradwyo dull Hefin David o weithredu drwy gofyn i Lywodraeth Cymru gymryd camau i reoleiddio cwmnïau rheoli eiddo ac ystadau yng Nghymru. Ni all unrhyw beth gymryd lle camau gweithredu. Rydym wedi cael eglurhad clir iawn, yr wythnos hon ac yn ystod yr wythnosau blaenorol—o'r materion cysylltiedig hyn sy'n gorgyffwrdd. Felly, rwy'n cymeradwyo'r camau gweithredu ac yn edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n gweithredu. Diolch yn fawr, Hefin.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?
Diolch yn fawr iawn, ac rwyf fi hefyd yn ddiolchgar i Hefin am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer iawn o sylw wedi bod yn y cyfryngau yn ddiweddar ac mae Aelodau'r Cynulliad wedi codi rhai pryderon difrifol iawn ynglŷn â'r materion amrywiol sy'n effeithio ar bobl sy'n berchen ar eu cartrefi ar sail lesddaliadol. Roeddwn yn falch o gyhoeddi pecyn o fesurau i ddechrau ymdrin â'r pryderon hynny ychydig dros wythnos yn ôl. Fodd bynnag, mae dadl Hefin heddiw yn taflu goleuni ar y materion sy'n effeithio ar bobl sy'n berchen ar eu cartrefi ar sail rydd-ddaliadol, ac yn benodol lle maent yn byw ar ystadau ac yn ddarostyngedig i ffioedd rheoli lle nad oes ganddynt, yn wahanol i lesddeiliaid, unrhyw ffordd o herio'r taliadau hynny.
Pedair munud yn unig sydd gennyf i ymateb i'r ddadl hon, felly ni wnaf ailadrodd y pryderon y mae'r Aelodau wedi eu mynegi mor glir, ond rwy'n eu clywed ac rwy'n eu cydnabod. Mae'n amlwg i mi fod llawer o'r pryderon rydym wedi'u clywed yn deillio o'r un lle â'r pryderon ynghylch lesddaliadau a glywsom yn y ddadl gan Aelod unigol dan arweiniad Mick Antoniw, yn ymwneud â'r angen dybryd i broffesiynoli a chodi safonau ymddygiad yn y sector rheoli eiddo ac ystadau. Ac rwy'n dweud 'proffesiynoli a chodi safonau ymddygiad' oherwydd, mewn gwirionedd, rhai o'r cwmnïau mwyaf proffesiynol yw'r rhai sy'n arddangos yr ymddygiad gwaethaf.
Bydd Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud, mewn ymateb i ddadl Mick Antoniw, na fyddaf yn cilio rhag deddfwriaeth a byddant hefyd wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn ymwneud ar hyn o bryd ag adolygiad Comisiwn y Gyfraith o gyfraith breswyl, lesddaliadol a chyfunddaliadol. Mae gan yr adolygiad hwnnw dair elfen allweddol: mae'n cynnwys rhyddfreintiau lesddaliadol; cyfunddeiliadaeth fel dewis amgen yn lle lesddeiliadaeth; ac yn bwysig iawn yng nghyd-destun y ddadl heddiw, rheoleiddio asiantau rheoli. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu mai dyna'n wir lle y dylem fod pan gyflwynir adroddiad yr adolygiad cyn bo hir.
Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn ymgysylltu â Chomisiwn y Gyfraith hefyd ac yn edrych ar y materion hyn, oherwydd mae rhai ohonynt yn perthyn i faes cyfraith defnyddwyr a chyfraith eiddo, lle bydd angen inni weld camau gweithredu gan Lywodraeth y DU yn ogystal. Fodd bynnag, nid oes angen i ni aros cyn dechrau mynd i'r afael â hyn. Mae ein llwyddiant i sicrhau cytundeb y prif adeiladwyr tai i beidio â gwerthu tai a adeiladir o'r newydd fel lesddaliadau mwyach, oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, yn deillio i raddau helaeth o'r berthynas adeiladol rydym wedi'i meithrin â hwy drwy ein rhaglen ymgysylltu adeiladwyr tai. Felly, rwy'n rhoi fy ymrwymiad i'r Aelodau heddiw y byddaf yn dechrau trafodaethau gyda'r sector ar y materion a glywsom yn y ddadl hon heddiw gan ddefnyddio'r fforwm hwnnw.
A gawn ni fod yn glir, er hynny, mai ymwneud â rhydd-ddeiliaid y mae hyn? Felly, mae'n drafodaeth ynglŷn â thrafferthion rhydd-ddeiliaid yn yr amgylchiadau hyn.
Yn hollol. Fy mwriad yw defnyddio'r berthynas adeiladol rydym wedi'i meithrin, fel sy'n cael ei ddangos yn y cytundeb diweddar rydym wedi'i sicrhau gyda'r adeiladwyr tai, i ddechrau symud ymlaen ac archwilio'r materion a godwyd yn y ddadl hon heddiw.
Mewn ymateb i bryderon lesddeiliaid yr Aelodau, rwyf eisoes wedi cyflwyno cynllun achredu trawsgludwyr newydd sbon i Gymru er mwyn sicrhau bod gan brynwyr fynediad at gyngor annibynnol o ansawdd da. Bydd yn rhaid i drawsgludwyr gwblhau'r hyfforddiant a chydymffurfio â'r safonau uchel a nodwyd yn y cynllun hwnnw. Ac unwaith eto, rwy'n mynd i ofyn i fy swyddogion archwilio sut y gellir defnyddio a mabwysiadu'r cynllun penodol hwn i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd gan yr Aelodau heddiw mewn perthynas â rhydd-ddeiliadaeth.
Rwyf hefyd wedi egluro fy mwriad i sefydlu cod ymarfer gwirfoddol yn sail i'r mesurau rwyf eisoes wedi'u cyhoeddi er mwyn dechrau mynd i'r afael â'r pryderon ynghylch lesddeiliadaeth ac i wella safonau, gwella ymgysylltiad rhwng yr holl bartïon, a hyrwyddo arferion gorau. Unwaith eto, rwy'n ymrwymo i archwilio sut y gallwn ddefnyddio'r cod hwnnw i fynd i'r afael â'r materion penodol sydd wedi codi yn y ddadl hon mewn perthynas â rhydd-ddeiliadaeth.
Yn olaf, gallaf gadarnhau y byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i fy nghynghori ynglŷn â beth arall y gellir ei wneud i broffesiynoli a chodi safonau ymddygiad yn y sector rheoli eiddo ac ystadau. Byddaf yn gofyn yn benodol i'r grŵp ystyried y cyfraniadau y mae Aelodau wedi'u gwneud drwy gydol y ddadl hon heddiw, ac yn ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law. Ond yn y cyfamser, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y bleidlais Aelod unigol nesaf, ac edrychaf ymlaen at ystyried cynigion manwl Hefin, os yw'n llwyddiannus.
Diolch. Galwaf ar Hefin David i ymateb i'r ddadl gyda 30 eiliad.
Ychydig iawn o amser sydd gennyf. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Suzy Davies, a ddefnyddiodd ei harbenigedd a'i gwybodaeth broffesiynol i gefnogi fy nghyfraniad, ac roedd y sgwrs a gefais gyda hi ddoe yn ddefnyddiol iawn; i Bethan Sayed yn ogystal; i Gareth Bennett, diolch i chi am gyflwyno'r mater yn y Pwyllgor Busnes—rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr; i David Melding a Dai Lloyd. Mewn gwirionedd, yr hyn a wnaethoch oedd ychwanegu'r darnau nad oedd gennyf amser ar eu cyfer. Felly, diolch yn fawr iawn.
Roedd ateb y Gweinidog yn fedrus iawn, nid wyf yn gwybod a ymrwymodd i ddeddfwriaeth ai peidio, ond roeddwn yn hoff o'r cynnwys ar y cyfan—roeddwn yn credu ei fod yn ddefnyddiol ac yn gefnogol iawn. Diolch i chi am y cyfeiriad at Fil Aelod unigol. Efallai y dylai pawb ohonom gyflwyno'r un Bil ac efallai y cawn ein dewis yn y bleidlais. Nid wyf yn poeni'n ormodol pwy sy'n ei hennill.
Diolch. Y cynnig yw nodi'r cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, fe ohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.