– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 21 Mawrth 2018.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar drafnidiaeth gymunedol, a galwaf ar Mark Isherwood i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6666 Mark Isherwood, Dai Lloyd, Adam Price
Cefnogwyd gan Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
2. Yn nodi'r pryder am ymgynghoriad presennol Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi;
b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22;
c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;
d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac
e) sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Diolch. Mae trafnidiaeth gymunedol yn ymwneud â darparu atebion hyblyg a hygyrch dan arweiniad y gymuned mewn ymateb i anghenion trafnidiaeth lleol nas diwallwyd, ac yn aml dyma'r unig ddull o drafnidiaeth i lawer o bobl sy'n ynysig ac yn agored i niwed. Mae pobl hŷn a phobl anabl yn grwpiau defnyddwyr sylweddol, gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau a phrosiectau'n gweithio mewn ardaloedd gwledig, ond wrth gwrs, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig.
Gan ddefnyddio popeth o fysiau mini i fopeds, mae gwasanaethau nodweddiadol yn cynnwys cynlluniau ceir gwirfoddol, gwasanaethau bysiau cymunedol, trafnidiaeth ysgol, cludo pobl i ysbytai, deialu am reid, olwynion i'r gwaith, a gwasanaethau llogi trafnidiaeth fel grŵp. Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau yn ymateb i'r galw, gan fynd â phobl o ddrws i ddrws, ond mae nifer gynyddol yn cynnig gwasanaethau rheolaidd ar hyd llwybrau penodol lle nad oes gwasanaethau bysiau confensiynol ar gael. Cynhelir gwasanaethau bob amser at ddiben cymdeithasol ac er budd y gymuned, a byth er elw, gan sicrhau y gellir diwallu ystod ehangach o anghenion trafnidiaeth.
Mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru yn cynrychioli 100 o sefydliadau, a llawer ohonynt yn elusennau bach, ac mae pob un ohonynt yn darparu gwasanaethau trafnidiaeth sy'n cyflawni diben cymdeithasol a buddiannau cymunedol. Mae 140,000 o unigolion a 3,500 o grwpiau wedi cofrestru i ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. Mae gwasanaethau'n darparu tua 2 filiwn o deithiau teithwyr bob blwyddyn, gan deithio 6 miliwn o filltiroedd. Caiff y sector ei arwain yn bennaf gan wirfoddolwyr, gyda bron i 2,000 ohonynt yn rhoi o'u hamser am ddim i sicrhau y gellir darparu gwasanaethau—cyfraniad gwerth miliynau i economi Cymru. Mae'r gwasanaethau hanfodol hyn yn helpu i leihau unigrwydd ac unigedd, gan sicrhau y gall pobl gyrraedd ysbytai, meddygfeydd meddygon teulu, digwyddiadau cymdeithasol, cyfleusterau hamdden, mannau cyflogaeth, siopau a llawer mwy. Fodd bynnag, er gwaethaf y cyfraniad cadarnhaol amlwg y mae trafnidiaeth gymunedol yn ei wneud yng Nghymru, ar hyn o bryd mae'r sector yn wynebu nifer o fygythiadau.
Dosberthir y cyfrifoldeb dros drafnidiaeth gymunedol ar draws pob lefel o Lywodraeth, o reoliadau'r UE i gyfrifoldeb Llywodraeth y DU dros drwyddedau a thrwyddedu, i gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros sut y mae trafnidiaeth gymunedol yn gweithredu yng Nghymru, i awdurdodau lleol yn ariannu a fframio'r defnydd o drafnidiaeth gymunedol yn lleol. Felly, mae'n hanfodol fod pob lefel o Lywodraeth gyda'i gilydd yn ceisio canfod ateb i'r problemau presennol, yn ceisio lliniaru effeithiau byrdymor ar ein cymunedau, ac yn ceisio datblygu dyfodol hirdymor cryf a chynaliadwy i drafnidiaeth gymunedol yng Nghymru.
Ar lefel ddatganoledig, mae'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol wedi nodi tair problem allweddol: nad yw setliadau ariannu yn ei gwneud hi'n bosibl cynllunio'n hirdymor; nad yw eu haelodau'n cael eu talu ar draws adrannau am y gwaith y maent yn ei wneud, ac y gallai fod angen cyllid cyfalaf untro i gefnogi twf.
Er eu bod yn croesawu'r cynnydd yn y cyfraddau ad-dalu teithio rhatach ar gyfer trafnidiaeth gymunedol, maent hefyd wedi galw am adolygu'r fformiwla ar gyfer gweithredwyr cludiant cymunedol. Mae'r gyfradd ad-dalu yn parhau i fod yn llai na 100 y cant, ac er y gall gweithredwyr masnachol ennill hwnnw'n ôl mewn mannau eraill, mae cyfyngiadau trwyddedau cludiant cymunedol yn golygu nad ydynt yn gallu adennill colledion o'r teithiau hynny. Mae cylchoedd ariannu byrdymor yn golygu na all gweithredwyr gynllunio ar gyfer y dyfodol a datblygu mewn ffordd gynaliadwy. Gall penderfyniadau cyllido hwyr arwain at golledion parhaol, gan golli arbenigedd hanfodol o'r sector.
Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid yn uniongyrchol i weithredwyr cludiant drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, wedi'i weinyddu ar sail flynyddol gan awdurdodau lleol. Mae'r swm a ddyrennir i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn amrywio o un awdurdod lleol i'r llall. Er enghraifft, awgrymodd Llywodraeth Cymru fod Cyngor Bro Morgannwg yn gosod targed o £81,160 ar gyfer gwariant ar drafnidiaeth gymunedol y llynedd, ond £28,200 yn unig a gyfrannwyd ganddynt. Mae'r cyfuniad o arian wedi'i ddyrannu'n flynyddol a diffyg sicrwydd ynghylch symiau cyllid yn gwneud blaengynllunio'n anodd iawn, ac felly mae'n amhosibl iddynt ddatblygu cynlluniau busnes tair i bum mlynedd ystyrlon. Mae'n arbennig o anodd pan fydd sefydliadau'n dymuno gwneud buddsoddiadau cyfalaf mewn cerbydau neu eu seilwaith trefniadol.
Mae gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn darparu mwyfwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gymryd pwysau oddi ar gyrff sector cyhoeddus a chaniatáu i bobl i fyw'n annibynnol am fwy o amser. Fodd bynnag, ychydig o weithredwyr sy'n cael cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer hyn, gan ddibynnu ar wirfoddolwyr i gerdded y filltir ychwanegol i sicrhau bod unigolion yn cael y cymorth y maent ei angen. Mae canfod a chadw gwirfoddolwyr eisoes yn her, yn enwedig gan fod pobl yn gweithio'n hwyrach ac yn aml yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol. Mae angen cyllidebau, felly, sy'n cynnal gweithio trawsadrannol er mwyn datblygu atebion arloesol i alluogi'r sector i ddarparu'r gweithgareddau sy'n amlwg eu hangen.
Mae gweithredu trafnidiaeth gymunedol yn ddrutach na menter elusennol fel y cyfryw, ac er gwaethaf camau i godi arian, ni fydd rhai gweithredwyr yn gallu codi cyfalaf ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, gan amharu ar ddatblygiad eu gwasanaethau. Er enghraifft, newidiodd llawer eu cerbydau i diesel pan ddywedwyd wrthynt mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud, a bydd cael cerbydau trydan neu hybrid addas ar gyfer cadeiriau olwyn yn eu lle yn ddrud. Felly gallai rhaglen ariannu cyfalaf wedi'i thargedu'n dda ysgogi prosiectau arloesol, ymestyn cwmpas a chyrhaeddiad gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru, ac arbed arian i'r sector statudol.
Yn 2015, dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd wrth Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r modd y câi ei gyfarwyddebau ar drwyddedu gweithredwyr trafnidiaeth i deithwyr ei throsi i gyfraith y DU. Roedd hyn yn canolbwyntio ar y rheolau y dylai gweithredwyr eu dilyn wrth gyflawni contractau awdurdodau lleol a sut y mae rhanddirymiadau o'r rheoliadau'n gymwys. Ochr yn ochr â hyn, bu ymgyrch gan grŵp bychan, ond swnllyd, o weithredwyr masnachol i orfodi setliad drwy fygwth heriau cyfreithiol i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol, awdurdodau lleol a'r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau. O ganlyniad, mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynlluniau i newid sut y mae rheolau'r UE ar gyfer rheoleiddio gwasanaethau trafnidiaeth i deithwyr yn gymwys yn y DU.
Mae ei dogfen ymgynghori yn nodi ei bod yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi'r sector, ond bod pryderon wedi codi bod rhai gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol sy'n defnyddio trwyddedau yn cystadlu â gweithredwyr masnachol, ac nid yw hynny, ac rwy'n dyfynnu, yn cael ei ganiatáu o dan gyfraith yr UE. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn golygu, o dan adran 19 a 22, trwyddedau a ddefnyddir gan weithredwyr trafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau bws mini a bysiau cymunedol, na fydd llawer o sefydliadau ond yn gallu cymryd rhan mewn tendro cystadleuol am gontractau gwasanaethau cyhoeddus, megis contractau gofal cymdeithasol a chontractau ysgol, os ydynt yn cael trwydded gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, ac eithrio lle na chafwyd cystadleuaeth ar gyfer unrhyw un o'r gwasanaethau hyn gan ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus. Mae hyn yn gostus ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r sefydliad gael nifer o swyddi cyflogedig gyda chymwysterau proffesiynol.
Yn ystod fy ymweliadau mwyaf diweddar â gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yng ngogledd Cymru, roeddent yn pwysleisio bod y rhan fwyaf o weithredwyr yng Nghymru yn fach, yn wahanol i rai o'r cewri yn Lloegr, a bod y cynigion bellach yn bygwth parhad trafnidiaeth gymunedol yma. Ymhellach, tra bo'r ymgynghoriad yn parhau ar y gweill, mae dehongliad yr UE fod trafnidiaeth gymunedol yn y DU yn torri ei reolau eisoes yn cael ei drin mewn rhai achosion, ar lefel leol yng Nghymru, fel pe bai eisoes mewn grym.
Mae Adran Drafnidiaeth y DU wedi cyhoeddi cronfa bontio o £250,000 a'u bod yn yn archwilio pa gymorth pellach y gallant ei roi, ond mae'n aneglur a fydd cyfran o hyn yn cael ei gadw ar gyfer Cymru, ac mae'n annhebygol o fod yn ddigon i dalu am gostau pontio ar gyfer yr holl sefydliadau yr effeithir arnynt.
Mae awdurdodau lleol wedi dweud y bydd yna brinder bysiau mini hygyrch os na allant weithio gyda thrafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau, gan effeithio ar y teithwyr sydd eu hangen fwyaf. Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi dweud bod trafnidiaeth gymunedol yn gwneud cyfraniad sylweddol i iechyd a lles pobl hŷn, gan eu helpu i gadw'n annibynnol am fwy o amser a chymryd rhan mewn bywyd cymunedol, gan lenwi'r bylchau yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n arbennig o bwysig ar gyfer pobl hŷn a'r rhai sy'n byw mewn cymunedau ynysig ac ardaloedd gwledig.
Galwn felly ar Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad at wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi; datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22; cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru; darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at drefniadau cyllido tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; a sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Dangosodd tystiolaeth fod trafnidiaeth gymunedol yn darparu £3 o werth am bob £1 a werir arni. Mae trafnidiaeth gymunedol yn cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau penodol rhag defnyddio trafnidiaeth am ba reswm bynnag. Er ei fod yn sector cryf iawn, rhaid i'r unigolion a'r sefydliadau sy'n gweithio o'i fewn gael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi. Er gwaethaf yr heriau, cred Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru fod cyfle i sefydliadau ac awdurdodau yng Nghymru weithio gyda'i gilydd i sicrhau gwasanaethau parhaus ar gyfer ein cymunedau. Gadewch inni gyfiawnhau'r gred honno. Diolch.
Byddaf yn cefnogi'r cynnig ger ein bron heddiw ar drafnidiaeth gymunedol, cynnig a gyflwynwyd gan Aelodau unigol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle i siarad amdano. Nid wyf yn bwriadu ailadrodd y cynnig cyfan, ond rwyf am bwysleisio'r pwynt agoriadol:
'bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
'1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad at wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.'
Mae Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gymuned wledig ac yn cwmpasu poblogaeth sydd ag ardaloedd o amddifadedd sylweddol a phoblogaeth sydd gryn dipyn yn hŷn na chyfartaledd Cymru. Heb drafnidiaeth gymunedol, byddai cymaint o fy etholwyr yn cael trafferth i gyrraedd apwyntiadau meddygol, yn brwydro i wneud eu siopa ac yn cael trafferth ymgysylltu â ffrindiau a theulu. Rwy'n cydnabod yn llwyr y meddwl arloesol a chydweithredol y mae fy narparwyr trafnidiaeth gymunedol lleol yn ei gynnig, a buaswn yn gofyn i Lywodraeth Cymru gydnabod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae.
Mae gennyf dri maes allweddol rwyf am dynnu sylw atynt heddiw. Yn gyntaf, y gwerth i'n cymunedau. Ceir cydnabyddiaeth fod unigrwydd ac arwahanrwydd nid yn unig yn ddrwg cymdeithasol, ond eu bod hefyd ar gynnydd. Mae cymunedau'n fwy toredig, teuluoedd yn fwy gwasgaredig, a phobl, pobl hŷn yn enwedig, yn gallu cael eu gadael ar ôl. Mae gennym rai nad ydynt erioed wedi cael rhwydweithiau cymorth cryf a rhai y mae eu rhwydweithiau wedi diflannu gyda threigl amser. I lawer o'r bobl hyn, achubiaeth trafnidiaeth gymunedol mewn gwirionedd yw eu hunig bwynt cyswllt â'r byd a'u hunig alluogydd.
Er enghraifft, yn Sir Benfro, mae Ceir Cefn Gwlad yn rhedeg gwasanaeth sydd nid yn unig yn dibynnu ar y defnydd o geir gwirfoddolwyr, ond mae hefyd wedi ariannu ac wedi rhedeg cerbydau llwyddiannus sy'n gallu cludo rhywun sy'n defnyddio cadair olwyn a'u partner neu ofalwr, fel y gŵr sy'n dioddef o salwch angheuol yr oedd ei restr o bethau i'w gwneud cyn marw yn cynnwys ei awydd taer i weld ei ŵyr yn chwarae criced—i lawr y lôn, dyna i gyd, ond nid oedd ganddo ffordd arall o gyrraedd yno; neu'r dyn ifanc ynysig ac anabl iawn a allodd fenthyg un o'r ceir hygyrch am y penwythnos ac a aeth, gyda'i ddau ofalwr, i Abertawe i weld un o'i hoff fandiau a chael cyfle i fod fel pobl ifanc ledled y wlad.
Menter eithriadol arall a ariennir gan y Loteri Genedlaethol yw Bydis Bws, system lle y gall pobl ffonio am fws i ddod at eu drws er mwyn hwyluso eu gallu i symud o gwmpas, ond gallant gael rhywun gyda hwy. Ond wrth gwrs, y gwir trist i nifer sylweddol o bobl yw mai'r gyrrwr sy'n eu gadael ar ddydd Gwener fydd y person olaf a welant hyd nes y bydd y gyrrwr hwnnw'n ailymddangos y dydd Mawrth canlynol. Nid oes neb—neb o gwbl—yn curo ar lawer iawn o ddrysau, sy'n feirniadaeth ar ein cymdeithas, a pham y dylem fod mor ddiolchgar i wirfoddolwyr sefydliadau fel Bydis Bws neu gynllun deialu am reid canolfan Bloomfield, neu Ceir Cefn Gwlad.
Yr ail faes yr hoffwn dynnu sylw ato yw'r rhesymau pam rydym wedi dod mor ddibynnol ar y band hwn o sefydliadau gwirfoddol, a'r pwysau enfawr sydd arnynt. Ysgrifennydd y Cabinet, ceir tair prif ddogfen strategol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i nodi polisïau trafnidiaeth a chymunedol: 'Ffyniant i Bawb', y cynllun gweithredu economaidd newydd a chyllideb Llywodraeth Cymru. Ac i fod yn onest, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n eu cael yn aneglur, yn anghydlynus a heb gysylltiad â'r realiti rheng flaen a welwn o ddydd i ddydd ar lawr gwlad.
Yn y gyntaf o'r rhain, dogfen y gyllideb, mae Llafur Cymru wedi cychwyn ar werth dros £100 miliwn o doriadau. Mae Llafur Cymru wedi methu'n llwyr ag adeiladu system drafnidiaeth gyhoeddus gynhwysfawr. Mae tagfeydd ar ein ffyrdd yn niweidio ein heconomi. Mae'r rhwydwaith rheilffyrdd yn gwegian o dan 15 mlynedd o gamreoli Llafur Cymru ar y fasnachfraint reilffyrdd, a chafodd gwasanaethau bws eu dinistrio'n llwyr dros y degawd diwethaf. Gyda'i gilydd, mae'r methiannau hyn o ran polisi a chyflawniad wedi creu pwysau ofnadwy ac annheg ar wasanaethau trafnidiaeth gymunedol. Mae trafnidiaeth gymunedol hefyd wedi gorfod camu i'r adwy oherwydd bod nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru wedi gostwng yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf. Cafodd cyfanswm o 53 o wasanaethau bysiau eu lleihau, eu newid neu eu diddymu yn 2015-16 yn unig. Mae pawb ohonom yn pryderu am yr effeithiau posibl y gallai canlyniadau'r Adran Drafnidiaeth eu cael ar yr ymgynghoriad, a dyna pam, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd hi'n ddiddorol clywed pa gynlluniau wrth gefn a allai fod gennych i liniaru unrhyw effaith ar y ddarpariaeth drafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini.
Mae fy mhryder olaf, yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd, yn ymwneud â chynaliadwyedd y gwasanaethau gwerth chweil hyn, o gofio bod y gronfa o wirfoddolwyr yn lleihau a'r galw am wasanaethau'n cynyddu. Mae pobl yn gweithio'n hwyrach yn eu bywydau, mae mwy o alwadau ar eu hamser, ac eto mae yna alw cynyddol am wasanaethau trafnidiaeth gymunedol oherwydd methiannau Llywodraeth Cymru. A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y bwriadwch fynd i'r afael â'r methiannau hynny.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon, a hoffwn dalu teyrnged i'r cynlluniau trafnidiaeth cymunedol gwirfoddol sy'n gwasanaethu fy etholaeth, Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys—DPVC—a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro, sydd hefyd yn gwasanaethu etholaeth Vaughan Gething. Mae'r olaf yn elusen fach a sefydlwyd ym 1986 ym Mhenarth, ac mae'n gwasanaethu'r gymuned yn nwyrain y Fro rhwng Penarth a'r Barri drwy ddarparu trafnidiaeth hygyrch mewn dau fws mini 12 sedd sy'n gallu cludo cadeiriau olwyn, gyda gyrwyr gwirfoddol. Mae Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys yn darparu trafnidiaeth bws mini wythnosol i archfarchnadoedd lleol, i amryw o weithgareddau cymdeithasol rheolaidd, ac i glwb cinio wythnosol a gwasanaeth eglwys. Mae DPVC hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Bro Morgannwg ar wasanaeth Greenlinks, sydd wedi cael cymorth arian Ewropeaidd. Cefnogir Greenlinks gan gyngor y Fro, yn gweithio mewn partneriaeth gyda DPVC, gan ddefnyddio Volkswagen Caddy pwrpasol gydag addasiadau ar gyfer cadeiriau olwyn, sy'n cludo cleifion oedrannus i ac o ganolfan feddygol newydd Dinas Powys. Mae DPVC a Trafnidiaeth Gymunedol Dwyrain y Fro yn fodelau o ymrwymiad gwirfoddol, ac yn gwasanaethu cymunedau lleol yn fy etholaeth. Maent yn darparu gwasanaethau hanfodol i bobl oedrannus. Maent yn chwalu arwahanrwydd—mae hynny eisoes wedi'i ddweud yn y sylwadau agoriadol. Maent yn chwalu arwahanrwydd i'r rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau, ond maent yn darparu rôl werth chweil i yrwyr gwirfoddol profiadol. Mae Cynllun Gwirfoddol Dinas Powys yn dweud bod y mwyafrif o'u gyrwyr gwirfoddol wedi ymddeol—mae nifer ohonynt dros 70 oed—sy'n golygu bod angen adnewyddu trwyddedau D1, gydag archwiliadau meddygol rheolaidd, ac ati. Maent yn pryderu ynghylch recriwtio gwirfoddolwyr yn y dyfodol sy'n gymwys i yrru bysiau mini, gan na fydd gan lawer ohonynt yr hawl D1 sy'n ofynnol ar eu trwyddedau gyrru. Byddai'r ddau fudiad hwn yn hoffi gweld trwyddedau adran 19 yn aros yn ddigyfnewid, fel y gall elusennau barhau i ddarparu'r gwasanaethau trafnidiaeth a ddarperir ar hyn o bryd a chael hyblygrwydd i addasu i anghenion sy'n newid o fewn y gymuned.
Ac yn olaf, mae'r ddau sefydliad yn sôn am ansicrwydd cyllid, natur fyrdymor y cyllid, ac yn mynegi pryderon y gallai unrhyw newidiadau i amodau trwyddedau adran 19, megis gwneud cymwysterau arbennig yn ofynnol, ychwanegu at y costau a gallai arwain o bosibl at gau'r gwasanaethau gwerthfawr ac unigryw y maent yn eu darparu. Yr hyn sy'n bwysig yn fy marn i yw bod—. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth ymateb i hyn, yn ystyried y dystiolaeth gan y sector trafnidiaeth gymunedol yn y ddadl hon, yn enwedig os yw Llywodraeth Cymru yn ymateb i ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar drwyddedau trafnidaeth gymunedol. Ond hefyd, rwy'n cydnabod ac yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol iawn i'r sector trafnidiaeth gymunedol a'r rôl unigryw y mae'n ei chwarae fel rhan o wasanaeth trafnidiaeth hygyrch, ac rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw.
Dechreuaf drwy gadarnhau y bydd UKIP yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Ni fyddwch yn synnu, wrth gwrs, fy mod yn dymuno nodi bod y llanastr hwn yn deillio o reoliad y Gymuned Ewropeaidd 1071/2009, sy'n cael ei orfodi ar y DU ac nid yw'n ystyried bod trafnidiaeth gymunedol yn ateb Prydeinig bron yn unigryw i lenwi'r bylchau yn ein darpariaeth drafnidiaeth fasnachol. Roedd yr Adran Drafnidiaeth yn dehongli'r rheoliad yn y fath fodd fel eu bod yn ystyried mai'r un oedd y term 'nid er elw' ac 'anfasnachol'. Mae'r dehongliad hwn wedi bod mewn grym ers 1985 fel y mae'r drefn ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gymunedol. Nid yw rheolau'r Undeb Ewropeaidd yn gwahaniaethu yn y fath fodd, a dyna sydd wrth wraidd y problemau difrifol sy'n wynebu ein gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol.
Rwy'n siŵr y bydd pawb yn y Siambr hon yn cydnabod yr effaith gadarnhaol enfawr y mae trafnidiaeth gymunedol yn ei chael ar lawer o gymunedau a phobl, yn enwedig pobl ag anghenion arbennig, sy'n cynnwys yr henoed, pobl ynysig a phobl anabl, yn ogystal â darparu trafnidiaeth fawr ei angen ar gyfer llawer o weithgareddau cymdeithasol, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon. Mae unrhyw reoliad sy'n rhoi pwysau ariannol neu strategol ar weithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn ymyrraeth ddiangen.
Mae'r frawdoliaeth drafnidiaeth gymunedol wedi sefydlu ei safonau diwydiant ei hun, ac nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei bod yn llai diogel na gweithrediadau masnachol arferol. Yn wir, mae llawer o dystiolaeth i ddangos eu bod yn mynd ymhellach na rhai gweithrediadau masnachol o ran hyfforddi staff, er enghraifft ar y defnydd o offer anabledd a rhyngweithio penodol gyda phobl anabl.
Os caiff yr Adran Drafnidiaeth ei gorfodi i fabwysiadu'r rheoliadau UE hyn, bydd gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol yn wynebu costau sylweddol i weithredu'r mesurau hyn, yn enwedig yn y tymor byr. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod yr Adran Drafnidiaeth a/neu Lywodraeth Cymru yn darparu arian ar gyfer y cyfnod pontio hwn. Gallai canlyniadau peidio â darparu'r cyllid hwn fod yn drychinebus i weithredwyr trafnidiaeth gymunedol, gyda llawer o'u gwasanaethau'n cau. Fel y dywedwyd, mae data'n dangos bod £3 yn cael ei ennill am bob £1 a fuddsoddir mewn trafnidiaeth gymunedol. Mae'n amhosibl meddwl na fydd y cyllid hwn ar gael.
Yn olaf, mae'r ansicrwydd sy'n bodoli yn awr o ran rheoleiddio ac ariannu eisoes yn effeithio ar weithredwyr trafnidiaeth gymunedol o ran cadw staff a strategaeth hirdymor. Galwn ar yr Adran Drafnidiaeth ac ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ariannu unrhyw newidiadau gweithredol.
Roeddwn yn arbennig o awyddus i gyfrannu yn y ddadl hon, gan i mi fod yn wirfoddolwr gyda dwy elusen gymunedol a oedd yn darparu neu'n gweithio gyda thrafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig. Mae'r profiadau a gefais yn atgyfnerthu'n llwyr yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud heddiw am ddiben a chanlyniadau sefydliadau trafnidiaeth gymunedol sy'n aml yn gydgynhyrchiol. Fel y gwyddom o enghreifftiau yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau, mae rhai o'r sefydliadau hyn yn mynd y tu hwnt i fod yn wasanaeth ar alwad syml ac yn dod yn rhagweithiol iawn yn eu cymunedau mewn ymateb i heriau unigrwydd ac arwahanrwydd.
Roedd un o'r sefydliadau yr oeddwn yn gysylltiedig â hwy'n gweithio'n uniongyrchol gyda gyrwyr gwirfoddol gan ddefnyddio eu ceir eu hunain. Yn yr un achos hwnnw, gwelsom wrthwynebiad i'n gwaith gan gwmni tacsi lleol, a oedd yn cwyno bod ein gyrwyr yn codi prisiau is ac yn eu hamddifadu o fusnes. Rwy'n tybio bod Kirsty Williams yn gwybod am beth rwy'n sôn. Mae'n bur debyg, rwy'n meddwl, i'r ddadl y mae cwmnïau trafnidiaeth masnachol yn ei gwneud er mwyn ysgogi adolygiad o'r trwyddedau a roddir o dan adran 19 ac adran 22 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985. Gallwch weld pam y maent yn gwneud yr achos: maent yn ddarostyngedig i fwy o gyfyngiadau, a rhaid iddynt dalu eu gweithlu. Ond yn fy marn i, mae'n ddadl gwbl ffug, ac yn un sy'n mynd yn arbennig o gymhleth lle y gofynnir i sefydliad trafnidiaeth gymunedol gan drigolion heb fodd o deithio i lenwi'r bwlch yn y bôn a adawyd wedi i weithredwr masnachol ddileu gwasanaeth am ei fod yn amhroffidiol. I bob pwrpas, dyna'r sefyllfa sy'n wynebu DANSA sy'n gweithredu yng ngorllewin fy rhanbarth ac yn nyffryn Aman heddiw. Os caf eu dyfynnu, byddai cael gwared ar adrannau 19 a 22 o'r gyfundrefn drwyddedu yn 'drychinebus'.
Cyhoeddir trwyddedau adran 22 i gyrff sy'n gofalu am anghenion cymdeithasol a lles un neu fwy o gymunedau. Os caiff y cymunedau hynny eu hesgeuluso gan weithredwyr masnachol, nid yw anghenion y gymuned honno'n diflannu dros nos. Yn wir, buaswn yn dadlau bod anghenion cymdeithasol a lles y cymunedau hynny yn debygol o gynyddu os yw pobl yn methu teithio o'u pentref, gan fod tacsis yn ddrud ac nid ydych ond yn eu defnyddio pan fydd gwir raid i chi wneud hynny.
Rydym eisoes wedi clywed gan Aelodau eraill sut y gall trafnidiaeth gymunedol helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae DANSA yn enghraifft arbennig o dda o sefydliad o'r fath, sy'n mynd ati'n rhagweithiol i drefnu teithiau a digwyddiadau ar gyfer pobl hŷn neu bobl eraill sy'n agored i niwed sydd mewn perygl o fod yn unig ac wedi'u hynysu. Felly, nid gwasanaeth bws sy'n ymateb i alwadau yn unig ydynt. Dyna pam yr hoffwn i Lywodraeth Cymru—. Rwy'n sylweddoli mai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n ymateb i hyn, ond nid dadl am gystadleuaeth drafnidiaeth yn unig yw hi, er mai dyna sut y cafodd ei chyflwyno i'r Adran Drafnidiaeth. Fel y mae ymgynghoriad cyngor Pen-y-bont ar Ogwr ar fysiau yn ei ddadlennu eisoes, ni all trafnidiaeth gymunedol lenwi'r bylchau hynny bob amser beth bynnag. Ac fel roeddem yn dadlau gyda'r cwmni tacsis hwnnw ym Mhowys, rydym yn sôn am deithwyr a fyddai, i bob pwrpas, yn methu teithio oni bai am drafnidiaeth gymunedol, ac weithiau am resymau'n ymwneud â chost yn unig.
Efallai y bydd yr Aelodau wedi cael eu hatgoffa gan Gydffederasiwn y GIG fod yr ymddiriedolaeth ambiwlans yn gallu contractio gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol i ddarparu teithiau nad ydynt yn achosion brys i'r ysbyty ac oddi yno. Gall hwn fod yn drefniant defnyddiol iawn, ac yn ffrwd dda o incwm craidd i lawer o ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol. I fod yn onest, ni allaf weld y gwahaniaeth athronyddol rhwng hyn ac awdurdod lleol yn contractio trafnidiaeth gymunedol i wasanaethu cymunedau anodd eu cyrraedd. Er hynny, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gall teithiau car fod yn eithaf hir rhwng y cartref a'r ysbyty, a'u gwneud yn hwy os yw'r car, neu'r bws, weithiau, yn casglu a gollwng cleifion eraill yn rhan o'r daith.
Rwy'n cofio achos penodol lle'r oedd tair menyw'n teithio o ardal wledig yn Sir Frycheiniog i ysbyty Felindre. Nid oedd eu triniaethau canser ond yn para ychydig funudau, ond treuliasant ran sylweddol o'r dydd yn gaeth mewn car, yng nghwmni dieithriaid, yn teimlo'n ddigon tila, ac yn teithio o dŷ i dŷ yn casglu'r teithwyr eraill. Dywedwyd wrth y menywod hyn yn y bôn mai dyma oedd y gwasanaeth y gallai'r wladwriaeth ei ddarparu ar eu cyfer, er mai mewn car nid mewn ambiwlans y teithient. Nid oedd yn wasanaeth a ganolbwyntiai ar yr unigolyn mewn gwirionedd yn fy marn i. Byddai mynediad uniongyrchol at geir cymunedol wedi rhoi cyfle i'r menywod hynny—a chredaf y gallent fod wedi'i gael—i wneud y daith ar eu pen eu hunain, hyd yn oed pe baent wedi gorfod talu cyfraniad bach tuag at y daith. Dyma lle mae sefydliadau fel cynllun ceir cymunedol Pontarddulais a'r cylch yn well: mae'n rhatach na thacsi ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr sydd ag amser efallai i ymateb i anghenion teithiwr heb wylio'r cloc, ac yn anffodus, mae'n rhaid i yrwyr tacsis wneud hynny.
Byddai cylchoedd cyllido tair blynedd o gymorth enfawr i sefydliadau, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. Ond rwy'n eich annog, Ysgrifennydd y Cabinet, i edrych ar bwynt 3(c) y cynnig yn benodol, a dyna pam rwyf am i chi ystyried hon yn ddadl ynglŷn â lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol ac nid trafnidiaeth yn unig. Fel y clywsom gan Mark Isherwood ac Angela Burns, mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus. Ond nid yw hyn yn ymwneud yn unig â Llywodraeth Cymru a bod yn draws-sector o fewn adrannau'r Llywodraeth, er bod angen iddynt roi sylw i hyn wrth gwrs. Mae'n ymwneud â'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector—cymdeithas ei hun—yn cydnabod bod symudedd, cysylltedd os mynnwch, yn creu dewisiadau a rhyddid i arfer y dewisiadau hynny. Felly, mae cyllido'r cysylltedd hwnnw'n gyfrifoldeb sy'n rhaid i bawb ei rannu, ac nid mater ar gyfer cyllideb adrannol seilo'n unig ydyw.
A gaf fi ddiolch yn fawr i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw? Yn sicr byddaf yn cefnogi'r cynnig. Rwy'n cefnogi'r cynnig yn llawn. Nawr, mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys, neu PAVO fel y'u gelwir yn fyr, wedi bod yn lleisio pryderon wrthyf am y bygythiadau presennol i barhad trafnidiaeth gymunedol ym Mhowys. Diolch iddynt am ddarparu cyfarwyddyd ac adroddiad cynhwysfawr iawn ar y mater hwn, a byddaf yn cyfeirio'n fyr ato heddiw yn fy nghyfraniad.
Credaf y bydd yr Aelodau'n deall bod daearyddiaeth a phoblogaeth wasgarog a seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus gymharol gyfyngedig Powys yn golygu bod trafnidiaeth gymunedol, wrth gwrs, yn rhoi achubiaeth gwbl allweddol i breswylwyr agored i niwed na fyddent fel arall yn gallu defnyddio'r gwasanaethau a'r cyfleoedd sy'n bwysig iddynt. Mae'r Aelodau eraill wedi sôn amdanynt yn eu cyfraniadau. Nawr, mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys yn rhoi cymorth eu hunain i amrywiaeth o gynlluniau trafnidiaeth gymunedol sy'n gweithredu ar draws Powys. Ceir gweithgarwch deialu am reid, contractau ysgol, cynlluniau ceir cymunedol, cynlluniau cardiau tacsis a llogi bws mini ar gyfer sectorau trydydd parti. Yn sicr, deialu am reid yn ogystal—mae nifer o'r ymddiriedolwyr sy'n gweithredu gwasanaethau deialu am reid wedi bod yn cysylltu â mi gydag amryw o bryderon ers peth amser.
Credaf fod yr holl Aelodau wedi crybwyll—ac rwyf wedi gwrando ar bob Aelod sydd wedi siarad hyd yma yn y ddadl hon heddiw—ei bod hi'n ymddangos bod y maes unigol mwyaf o ran gweithgarwch a theithiau mewn perthynas â darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn gysylltiedig ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Ym Mhowys ei hun, y flwyddyn ariannol hon, gyrrodd grwpiau ym Mhowys dros 800,000 milltir dros 8,000 o bobl ym Mhowys gan ddarparu 108,000 o deithiau unigol i deithwyr. Nawr, mae dros 6,000 o'r bobl hyn dros 60 oed, ac mae gan 1,800 anabledd. Rwy'n nodi hyn, wrth gwrs, i ddangos pwysigrwydd trafnidiaeth gymunedol i bobl yn fy etholaeth wledig sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio gwasanaethau gyda thrafnidiaeth breifat gyfyngedig iawn. Heb y gwasanaethau hyn, wrth gwrs, nid yn unig yr amcangyfrifir y byddai hanner yr 8,000 o deithwyr ym Mhowys yn colli eu trafnidiaeth, ond byddai'r canlyniadau ariannol i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn sylweddol. Amcangyfrifir y byddai'n rhaid iddynt wario oddeutu ychydig o dan £800,000 i dalu am yr un gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a gyflenwir ar hyn o bryd gan weithredwyr trafnidiaeth gymunedol.
Fel y noda'r cynnig, ceir pryder gwirioneddol ynghylch y cynigion a gynhwysir yn ymgynghoriad yr Adran Drafnidiaeth ar drwyddedau trafnidiaeth gymunedol, a fyddai'n golygu bod unrhyw wasanaeth sy'n cael taliad yn gyfnewid am y drafnidiaeth a ddarperir, boed yn docynnau neu'n grantiau neu'n ginio i'r gyrrwr hyd yn oed, yn cael ei ystyried yn fasnachol ac yn dod yn ddarostyngedig i drefniadau trwyddedu newydd. Byddai costau sylweddol i hyn wrth gwrs o ran darparu gwasanaethau, cyfyngu ar argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol i ddarparu gwasanaethau dan gontract ar gyfer awdurdodau lleol, ac yn effeithio ar rai agweddau ar drwyddedu sy'n effeithio ar logi bysiau mini fel grŵp.
Rwyf am ddarllen ychydig o'r adroddiad a ddarparodd PAVO ar fy nghyfer. Ceir naw sefydliad trafnidiaeth gymunedol sy'n darparu gwasanaethau ym Mhowys. Nawr, fel y mae, yn ôl adroddiad Powys, ar ôl trafod y mater gyda phob un o'r naw darparwr, byddai pump yn cael eu gorfodi i gau yn gyfan gwbl, efallai y byddai dau'n parhau i weithredu o dan y gofynion newydd ond byddent yn cael eu gorfodi i weithredu o fewn y farchnad fasnachol yn unig, ac o ran hynny, mae'n dal i fod yn bosibl y byddent yn cau, ac mae dau'n defnyddio cerbydau â llai na naw o seddi ar hyn o bryd, ac felly ni fyddent yn cael eu heffeithio gan y newid. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud y rhagwelir y byddai'n rhaid i'r cynlluniau trafnidiaeth gymunedol hyn ddod i ben oherwydd natur gyfreithiol y trefniadau trwyddedu, a byddai hynny'n effeithio ar wasanaethau ar unwaith wrth gael cadarnhad, neu wrth orfodi'r gofynion trwyddedu newydd.
Mae'r cynnig heddiw'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth â'r grwpiau hyn a darparu strategaeth glir i gydnabod agweddau trawsbynciol ar ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru, ond rwy'n mawr obeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet ymateb yn gadarnhaol i'r ddadl heddiw mewn ffordd sy'n darparu rhywfaint o sefydlogrwydd ar gyfer y grwpiau a grybwyllwyd gennyf fi ac eraill.
Galwaf yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i ddadl bwysig am wasanaeth hanfodol i lawer iawn o gymunedau yng Nghymru heddiw.
Rwy'n cydnabod bod y gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol yn fater nas datganolwyd ac y bydd yn parhau i fod yn fater a gadwyd yn ôl i Lywodraeth y DU, hyd yn oed ar ôl cychwyn Deddf Cymru, ond cytunaf yn llwyr â pharagraff cyntaf y cynnig rydym yn ei drafod heddiw. Mae gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rôl hanfodol, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—a thrafnidiaeth breifat yn wir—yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol ac i gael mynediad at wasanaethau hanfodol. Fel y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi, mae trafnidiaeth gymunedol hefyd yn chwarae rôl hollbwysig yn lliniaru problemau'n ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd, yn enwedig yn ein hardaloedd mwyaf gwledig. Wrth inni ddechrau gweithio ar y strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd a'n cynlluniau i ddiwygio'r ffordd y cynlluniwn ac y darparwn wasanaethau trafnidiaeth bws lleol yn y tymor hir, rwy'n argyhoeddedig y dylai trafnidiaeth gymunedol wneud cyfraniad hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus integredig yn y dyfodol, ac y bydd yn gwneud hynny.
Rwy'n falch o ddweud mai fy mwriad o hyd yw nodi ein cynigion manwl ar gyfer diwygio sut y cynlluniwn ac y darparwn wasanaethau bws lleol yn y dyfodol agos, ac fel rhan o'r cynigion hynny byddaf yn awyddus i sicrhau bod darparwyr trafnidiaeth gymunedol yn gallu gwneud cais am gontractau sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae'r cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi camau ar waith i gefnogi'r sector trafnidiaeth gymunedol yng Nghymru, ac rwy'n falch o adrodd wrth yr Aelodau fod camau eisoes ar waith. Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol ers blynyddoedd lawer, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Darparwyd cyllid craidd i'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol ers nifer o flynyddoedd i gefnogi a datblygu'r sector, a bydd y cyllid hwn yn parhau yn 2018-19. Do, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol o £250,000 y mis diwethaf i ddarparu cyngor a chymorth ar gyfer gweithredwyr y gallai fod angen iddynt wneud cais am drwyddedau gweithredwyr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, ond mae Mark Isherwood yn iawn i ddweud mai swm cymharol fach o arian yw hwn ac mae angen inni gael eglurder ynglŷn â faint y gall Cymru ddisgwyl ei gael.
Gan weithio gyda'r sector yng Nghymru, mae angen inni ystyried yn ofalus iawn hefyd beth fydd effaith bosibl unrhyw newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi eu hargymell i'r gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol. Mae cyfundrefn y gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus yn fwy trwyadl na'r gyfundrefn drwyddedu, ac mae'n iawn iddi fod felly. Ond nid yw gorfodi gweithredwyr i ysgwyddo'r costau ychwanegol posibl hyn pan fo'r manteision i deithwyr yn fach iawn yn ateb ymarferol. Rhaid caniatáu i weithredwyr redeg gwasanaethau i deithwyr o dan y gyfundrefn drwyddedu fwyaf priodol.
Gan ein bod bellach mewn sefyllfa i asesu effaith bosibl argymhellion Llywodraeth y DU ar gyfer cyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol, rydym yn gweithio gyda'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith negyddol bosibl ar wasanaethau a ddarperir o dan y gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol. Un o'r themâu allweddol a ddeilliodd o'r uwchgynhadledd fysiau a gynhaliais yn Wrecsam y llynedd oedd yr angen am gytundeb ariannu mwy cadarn rhwng Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r diwydiant bysiau. Credaf fod hyn wedi'i gydnabod yn dda ers yr uwchgynhadledd, ac yn yr hinsawdd ariannol heriol sy'n parhau ar gyfer y sector cyhoeddus, rwyf wedi parhau i flaenoriaethu'r arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau bws lleol. Rwyf wedi cynnal lefel y cymorth ar gyfer y grant cynnal gwasanaethau bysiau ar £25 miliwn am y bumed flwyddyn, ac mae fy arweiniad i awdurdodau lleol yn datgan y dylid neilltuo o leiaf 5 y cant o'r cyllid hwn i gefnogi trafnidiaeth gymunedol yn eu hardaloedd lleol. Mae ein cyllideb ddangosol ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ar ôl hynny yn cynnal yr ymrwymiad cyllidebol hwn ymhellach, felly rydym yn darparu'r sefydlogrwydd cyllidol sydd ei angen i gynllunio a darparu ein gwasanaethau bysiau lleol.
Rhaid imi ddweud, serch hynny, fy mod wedi fy syfrdanu wrth glywed rhai sylwadau gan y Ceidwadwyr a fyddai'n awgrymu mai'r Llywodraeth hon sydd ar fai am natur fregus gwasanaethau bws lleol ac am seilwaith rheilffyrdd sy'n gwegian. Y ffaith amdani yw, yn y lle cyntaf, mae gwasanaethau bysiau yn agored i niwed oherwydd trychineb dadreoleiddio gan Lywodraeth Geidwadol yng nghanol y 1980au, ac yn ail, mae strwythur rheilffyrdd yn gwegian oherwydd tanariannu difrifol ar rwydwaith llwybr Cymru yn sgil penderfyniadau gan yr Adran Drafnidiaeth yn y cyfnod rheoli presennol, lle na ddyrannwyd prin fwy nag 1 y cant o'r arian ar gyfer llwybr Cymru, er ei fod yn cynnwys tua 10 y cant o'r trac.
Ond yn hytrach na chael ein llusgo i ymarferiad sgorio pwyntiau gwleidyddol dibwrpas, hoffwn dalu teyrnged i'r sector trafnidiaeth gymunedol am gadw'r eitem hon ar frig yr agenda trafnidiaeth. Mae'n siomedig fod y defnydd parhaus o system drafnidiaeth gymunedol ym Mhrydain wedi bod yn destun cymaint o ansicrwydd. Rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yn y Siambr hon yn cytuno. Rwyf hefyd yn cytuno gyda chanfyddiadau Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin y gellid barnu bod rhai o'r sylwadau a gynhwyswyd yn llythyr yr Adran Drafnidiaeth ar 31 Gorffennaf y llynedd yn annoeth, waeth pa mor dda oedd y bwriad. Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus a gyhoeddwyd wedi hynny yn lleddfu rhywfaint ar rai o'r pryderon ar draws y sector, ac er y gallwn groesawu'r ymrwymiad i gadw'r gyfundrefn drwyddedu trafnidiaeth gymunedol, mae gwaith i'w wneud o hyd i berswadio Llywodraeth y DU fod rhai o'r newidiadau sydd wedi'u hargymell yn parhau i fod yn achos pryder mawr.
Un enghraifft o'r fath, Ddirprwy Lywydd, yw'r cyfyngiad ar allu gweithredwyr trwyddedau i wneud cais am gontractau gwasanaethau cyhoeddus—dim ond os yw gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus heb wneud hynny. Mewn rhai ardaloedd, mae'n bosibl mai cystadleuaeth gan ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol yw'r unig gystadleuaeth am gontractau sector cyhoeddus. Ddirprwy Lywydd, byddaf yn rhannu fy safbwyntiau a safbwyntiau'r sector yng Nghymru gyda'r Adran Drafnidiaeth fel rhan o'r ymgynghoriad hwn, ac o ystyried ei bwysigrwydd i ddarparu gwasanaethau bws lleol i rai o'r bobl a'r cymunedau mwyaf bregus yng Nghymru, mae'n fwriad gennyf rannu'r wybodaeth hon a fy ymateb ffurfiol gydag Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser i allu cloriannu'r cyfraniadau ac i gloi'r ddadl bwysig yma. Rwy'n falch hefyd i roi llwyfan pwrpasol i gludiant cymunedol. Nid yn aml ydym ni'n sôn am y pwnc yma, felly rwy'n falch iawn i allu siarad. Rwy'n llongyfarch fy nghyd-Aelodau ar eu cyfraniadau, achos beth rwy'n gwneud rŵan ydy cloriannu beth mae pobl wedi dweud. Ond, mae'n bwysig nodi bod y cludiant cymunedol sydd gyda ni—dyna'r glud sy'n cadw'n cymunedau ni efo'i gilydd yn aml.
Roedd Russell George, ymysg eraill, wedi sôn am y cyfraniad yma i'r gwasanaeth iechyd a'r gwasanaeth gofal. O'm hanes i fel meddyg teulu yn ardal Abertawe, rwy'n gwybod yn sylfaenol am y cyfraniad y mae cludiant gwirfoddol cymunedol yn ei wneud, neu byddai llawer iawn o'n cleifion ni ddim yn gallu dod i'n gweld ni yn ein meddygfeydd, heb sôn am ddim yn gallu hefyd mynd i'n hysbytai. Fel rydym i gyd yn ymwybodol, mae yna bwysau mawr ar y gwasanaeth ambiwlans, ac hefyd fel sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma, mae yna gytundebau rhwng y gwasanaeth ambiwlans a chludiant cymunedol i alluogi y gwasanaeth hanfodol yma i helpu ein gwasanaeth ambiwlans ni allan. Rydym ni i gyd yn gwybod am y pwysau sydd ar ein hambiwlansys ni. Mae cludiant cymunedol yna yn mynd â miloedd o gleifion i apwyntiadau yn ein hysbytai ni, ac hefyd i'n meddygfeydd teuluol ni, bob dydd o'r wythnos. Mae'r cyfraniad yna yn allweddol bwysig. Fel mae nifer wedi dweud, nid oes elw yn fan hyn, mae'n wirfoddol, yn anffurfiol yn aml, a dyna ydy ei gryfder mewn ffordd. Mae'n hollol, hollol hanfodol.
Diolch i Mark Isherwood am agor a dadlennu'r maes yn gyfan gwbl ac olrhain yr her sylweddol yn nhermau ariannu, a hefyd yr her ynglŷn â'r system drwyddedu newydd hefyd. Dyna erys y ddwy brif her. Hefyd, roedd Angela Burns yn sôn am yr un trywydd, ac hefyd rwy'n falch bod Jane Hutt wedi gallu siarad yn y ddadl yma hefyd o'i phrofiad hi, a hefyd David Rowlands a Suzy Davies, yn ogystal â Russell George, fel roeddwn i wedi ei enwi fe yn flaenorol. Hefyd, rwy'n falch i gyfarch ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, sydd hefyd yn gefnogol i'r cynnig eangfrydig yma sydd yn teilyngu cael pawb i fod yn cytuno i bleidleisio o'i blaid y prynhawn yma. Mae hwn yn faes hanfodol bwysig. Mae yna gyfraniad allweddol y mae cludiant cymunedol yn ei wneud. Mae yna bwysau ac mae yna ansicrwydd rŵan, ond mae'n gwasanaeth iechyd ni a'n gwasanaeth gofal ni yn ddibynnol iawn ar y cludiant cymunedol. Ie, gwirfoddol yw e, ond hollol, hollol hanfodol.
Mae e hefyd, fel gwnaeth yr archwiliad y gwnaethom ni fel pwyllgor iechyd i unigrwydd ac unigedd ei ddarganfod, yn allweddol bwysig o ran yr elfennau yna o drafnidiaeth i gadw pobl rhag bod yn unig. Fel mae eraill wedi sôn, yn aml mae trafnidiaeth gyhoeddus yn stopio bod yn y nosweithiau ac ar benwythnosau, a dyna lle mae'r glud yma o gludiant cymunedol yn dod mewn i'r adwy a llenwi’r bwlch, lle nad oes trafnidiaeth arall ar gael. Ac hefyd i'r sawl sydd yn gwirfoddoli i fod yn yrrwr yn aml i'r elusennau yma, i gludiant cymunedol—mae o fudd i'r sawl sydd yn gyrru hefyd, i helpu eu datblygiad nhw. Ac yn aml, maen nhw yn chwilio am rywbeth i daclo eu hunigrwydd a'u hunigedd nhw yn bersonol, ac maen nhw'n gwirfoddoli i fod yn wirfoddolwyr i'r gwasanaeth cludiant cymunedol lleol. Felly, mae o'n sefyllfa o ennill ac ennill, ac felly mae o'n haeddu ein llwyr gefnogaeth ni.
Fe glywsom ni'r ffigurau gan Mark Isherwood wrth agor: y miliynau yna o deithiau, a'r miliynau yna o filltiroedd teithio bob blwyddyn gan gleifion ac eraill sy'n rhaid mynd i lefydd, a'r cyfraniad allweddol mae cludiant cymunedol yn ei gael. Mae o'n gynnig cynhwysfawr ac mae'n teilyngu pob cefnogaeth. Diolch yn fawr iawn i chi.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.