– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 8 Mai 2018.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, uchelgeisiau ar gyfer prif reilffyrdd y Great Western a gogledd Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd.
Yn dilyn canslo trydaneiddio prif reilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddatblygiad achosion busnes ar gyfer cynlluniau gwella rheilffyrdd ledled Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r prif reilffyrdd yn y de a'r gogledd, gwelliannau i'r lein rhwng Wrecsam a Bidston, a gwelliannau o gwmpas Abertawe a gorsaf Caerdydd Canolog. Croesewir yr ymrwymiad hwn. Gwneuthum yn glir i'r Ysgrifennydd Gwladol fy mod i'n disgwyl i'r datblygiad a'r cyflawniad ddigwydd yn gyflym i'w roi ar waith yn gynnar yn y degawd nesaf er mwyn cyflawni gwelliannau ar gyfer teithwyr yng Nghymru sy'n profi cyflymder araf, dibynadwyedd gwael a chyfleusterau rhwydwaith annigonol yn ddyddiol.
Mae trydaneiddio prif reilffordd y Great Western yn fan cychwyn i welliannau yn y dyfodol; nid dyma'r gyrchfan terfynol. Bydd contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau—y cyntaf i gael ei gynllunio a'i ddarparu yng Nghymru—yn cyflawni newid gweddnewidiol i deithwyr. Fodd bynnag, mae ein gwasanaethau trenau yn dibynnu ar seilwaith rheilffyrdd effeithlon a dibynadwy i ddarparu'r cyflymderau a'r galluoedd sy'n diwallu anghenion cysylltedd pobl yn ein dinasoedd, ein trefi a'n cymunedau gwledig.
Yn ddiweddar hefyd rwyf wedi rhannu fy uchelgais ar gyfer y fasnachfraint Great Western newydd gydag Aelodau ac wedi ailadrodd fy nisgwyliadau ar gyfer caffael masnachfraint partneriaeth arfordir y gorllewin gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn ôl ym 1977, roedd hi'n bosibl mynd o Lundain i Gaerdydd ar y gwasanaethau trên cyflym newydd bryd hynny mewn awr a 45 munud, 15 munud yn fyrrach na'r amseroedd teithio cyflymaf presennol. Bryd hynny, cymerai'r gwasanaeth i Fanceinion o Lundain 2.5 awr. O ganlyniad i £9 biliwn o uwchraddio prif reilffordd arfordir y gorllewin yn y 2000au cynnar, nid yw Manceinion bellach ond dwy awr a phum munud o Lundain, yr un fath ag o Lundain i Gaerdydd, er bod Manceinion, wrth gwrs, 50 cilometr ymhellach i ffwrdd. Mae'r buddsoddiad hwn hefyd wedi caniatáu siwrneiau o Stafford i Lundain mewn awr ac 20 munud—pellter tebyg i'r un o Gasnewydd i Lundain, sydd 30 munud yn arafach.
Yn dilyn cwtogi'r trydaneiddio ar brif reilffordd y Great Western, bydd amserau teithio o Gaerdydd i Lundain, ar y gorau, yn awr a 45 munud, yr un fath â 30 mlynedd yn ôl, a bydd Abertawe yn dal i fod yn ddwy awr a 45 munud. Yn yr un modd, mae'r daith trên o orsaf Caerdydd Canolog i Temple Meads Bryste yn araf ac yn anaml, gan rwystro datblygiad cysylltiadau economaidd trawsffiniol cryfach.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi £55 biliwn mewn rheilffordd cyflymder uchel 2 i leihau ymhellach yr amseroedd teithio i Fanceinion i ychydig dros un awr a darparu gwelliannau sylweddol yn yr amseroedd teithio ar draws canolbarth Lloegr, gogledd Lloegr a'r Alban. Os bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y dewisiadau iawn ar HS2, yn arbennig o amgylch canolfan Crewe a'r patrymau gwasanaeth arfaethedig, bydd yn darparu budd economaidd sylweddol i ogledd Cymru.
Mae cysylltedd ledled de-ddwyrain Lloegr yn cael ei wella ymhellach gan y cynllun Crossrail £15 biliwn ac ar draws gogledd Lloegr drwy'r rhaglen £3 biliwn llwybr traws-Penwynion, ac mae cynlluniau uchelgeisiol yn cael eu datblygu ar gyfer rheilffyrdd Northern Powerhouse a Crossrail 2. Er y bydd y buddsoddiadau hyn yn darparu capasiti mawr ei angen ar rwydwaith rheilffyrdd y DU, bydd eu heffaith ar amseroedd teithio hyd yn oed yn fwy sylweddol. Bydd y lleoedd hynny sy'n cael eu gwasanaethu'n uniongyrchol gan HS2 yn elwa ar amseroedd teithio sylweddol gyflymach i Lundain, gan leihau o bosibl cystadleurwydd lleoliadau yng Nghymru ar gyfer buddsoddiad o'r tu allan. Mae ffigurau Llywodraeth y DU ei hunan yn awgrymu y bydd HS2 yn cael effaith negyddol o hyd at £200 miliwn y flwyddyn ar economi de Cymru.
Nawr, wrth inni edrych y tu hwnt i Brexit, mae cysylltedd Cymru gyda chanolfannau economaidd a phyrth rhyngwladol Prydain yn dod hyd yn oed yn fwy pwysig. Ni allwn ni yng Nghymru fforddio cael ein rhoi o'r neilltu ac mae'n rhaid datblygu achos cadarnhaol a grymus ar gyfer buddsoddiad mawr mewn trafnidiaeth sy'n mynd i'r afael â'n huchelgais economaidd ac amcanion ehangach ein lles. Rydym ni'n dibynnu ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer gwelliannau i rwydweithiau rheilffyrdd yng Nghymru, ond ni allwn sefyll ar yr ymylon yn cwyno; mae angen inni nodi ein disgwyliadau ar gyfer y rhwydwaith a bod yn glir ynghylch y manteision cymdeithasol ac economaidd a ragwelir.
Fel man cychwyn, byddwn yn nodi rhai anghenion cyffredinol, sy'n cynnwys: gwella cysylltedd a lleihau'r amser teithio rhwng dinasoedd yng Nghymru; ehangu ardaloedd yr ardaloedd dinas-ranbarth ledled Cymru; tyfu economïau trawsffiniol; gwella cysylltedd o Gymru i Lundain; gwella mynediad i feysydd awyr; cynyddu i'r eithaf fanteision posibl a gwrthbwyso canlyniadau negyddol HS2; darparu dewisiadau teithio cymhellol i ddefnyddwyr yr M4 lle y ceir tagfeydd yn Abertawe; a bodloni safonau rhwydwaith traws-Ewropeaidd. Mae gan y gofynion hyn lawer o ryng-ddibyniaeth. Bydd yr atebion yn cynnwys prosiectau cydategol lluosog. Mae achos rhaglen amlinellol strategol yn ffordd i dynnu'r llinynnau hyn ynghyd, gan sicrhau bod y cyd-destun economaidd, daearyddol a chymdeithasol o fewn y cynlluniau posibl yn cael eu datblygu ac yn gyson ac wedi eu deall gan bawb. Rwyf wedi gofyn i'r Athro Mark Barry arwain ar hyn, gan weithio gyda fy adran i a Thrafnidiaeth Cymru.
Gan fod effaith HS2 yn wahanol ar draws Cymru, bydd yr Athro Barry yn cynhyrchu un achos ar gyfer y gogledd ac un arall ar gyfer y de, ac nid ydym yn esgeuluso rheilffordd y Cambrian drwy'r Canolbarth, sydd hefyd yn darparu cysylltedd pwysig o fewn Cymru ac ar draws y ffin. Bydd y gwaith hwn yn llywio achosion busnes amlinellol strategol y cynlluniau unigol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru a'r Adran Drafnidiaeth, a diben y rhaglenni achosion busnes hyn yw sefydlu'r angen am fuddsoddiad a mynegi canlyniadau lefel uchel. Byddant yn sefydlu gweledigaeth gyffredinol ar gyfer y dyfodol i rwydweithiau'r gogledd a'r de sy'n bodloni dyheadau Llywodraeth Cymru ac, yn wir, dyheadau rhanddeiliaid allweddol eraill. Byddant hefyd yn nodi ac yn ystyried dewisiadau ar gyfer buddsoddi sy'n ategu gwaith parhaus i gynllunio a chyflwyno systemau metro yn y gogledd a'r de.
O hyn, bydd y dewisiadau hynny sy'n haeddu ymchwiliad manylach yn cael eu nodi a'u datblygu drwy broses achos busnes manwl lle'r ydym yn dibynnu ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniadau er budd teithwyr yng Nghymru er mwyn ategu'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwella ei seilwaith trafnidiaeth ei hun. Ar y cam cynnar hwn, nid oes unrhyw ddewisiadau wedi eu cadarnhau na'u diystyru. Mae penderfynu ar yr ymyraethau mwyaf priodol yn gofyn am ymagwedd strategol a chynllun tymor hir ac un sy'n adeiladu ar astudiaethau o lwybrau Network Rail, cynlluniau ac uchelgeisiau awdurdodau lleol a dinas-ranbarthau, ac sydd hefyd yn ategu cynlluniau gwella yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth y DU ehangach hefyd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag asiantaethau ar ddwy ochr y ffin i ddarparu system drafnidiaeth integredig. Mae hyn yn golygu cysylltiadau gyda'n dinas-ranbarthau mawr, rhyngddynt, ac ar draws y ffin i Loegr, gan adeiladu ar fy nghyfarfodydd diweddar â meiri metro Manceinion a Lerpwl, ein memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Transport for the North, ein gwaith gyda Growth Track 360, Merseytravel, Midlands Connect a'r West of England Combined Authority. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud gan ddefnyddio ein canllawiau WelTAG ein hunain ac fe fydd yn ateb gofynion Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau gweld rhaglen uchelgeisiol o welliannau sy'n cyflawni newid sylweddol i deithwyr ac a fydd, waeth beth fo'r fargen derfynol a geir ynglŷn ag ymadawiad Prydain o'r Undeb Ewropeaidd, yn arwain at y prif reilffyrdd yn y gogledd a'r de yn cael eu datblygu fel coridorau traws-Ewropeaidd drwy fodloni'r safonau sy'n berthnasol iddynt ar hyn o bryd o dan y Rheoliadau.
Mae'n fwriad gennyf, Dirprwy Lywydd, i wneud rhai o'r cynigion a'r dewisiadau sy'n dod i'r amlwg yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod ail hanner eleni. Rydym yn benderfynol, yn y dyfodol, y bydd cynlluniau a gyflwynir yn gadarn, yn gyflawnadwy ac yn seiliedig ar ddadansoddiad strategol ac economaidd cadarn. Rwyf i eisiau gweld gwelliannau i'r rhwydwaith rheilffordd sy'n cyflawni'r amcanion ehangach a ddisgrifiais yn gynharach ac, wrth wneud hynny, darparu sylfaen gadarn ar gyfer economi Cymru a'i ddatblygiad yn y dyfodol.
A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad manwl y prynhawn yma? Gallaf gytuno â llawer o'r hyn yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ddiddorol ei fod wedi sôn bod amseroedd teithio ym 1977 yn gyflymach mewn gwirionedd rhwng Llundain a Chaerdydd nag y maen nhw heddiw.
O ran eich rhestr o anghenion cyffredinol, roeddwn i'n falch o nodi eich bod wedi gwneud cyfeiriad at fynediad i feysydd awyr. Yn arbennig, rwy'n meddwl am Fanceinion, Birmingham a Lerpwl—i gyd yn feysydd awyr pwysig, wrth gwrs, ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Nid oes angen imi ddweud wrthych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Ond byddai'n ddiddorol pe gallech, efallai, ymhelaethu ar eich uchelgais yn hynny o beth. O'r hyn a ddeallaf, rydych wedi amlinellu y bydd Mark Barry yn cynnal achos rhaglen amlinellol strategol, a bod dau achos yn cael eu cynnig, ar gyfer y gogledd a'r de. Byddai'n ddefnyddiol cael rhai amserlenni ar hynny ar gyfer pan fydd yr achosion a'r adroddiadau hynny yn cael eu hadrodd i chi, a phryd y byddwch yn gallu adrodd yn ôl i'r Aelodau. A fydd hyn yn digwydd cyn yr ymgynghoriad y nodwyd gennych y bydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni? Roeddwn yn falch o weld eich bod wedi cyfeirio at reilffordd y Cambrian a'r Canolbarth ddim yn cael eu hesgeuluso, ond byddai gennyf ddiddordeb mewn gweld os yw hynny'n gorwedd yn eich achos ar gyfer y gogledd neu yn eich achos ar gyfer y de. Mae'n rhaid bod hynny yn rhan o'r naill neu'r llall.
Hoffwn hefyd ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, sut y mae eich cynlluniau yn cydweddu â'r dogfennau polisi presennol hynny y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu cyhoeddi. Sut, er enghraifft, yr ydych chi'n bwriadu i'r uchelgais yr ydych chi wedi ei amlinellu heddiw ategu'r cynllun gweithredu economaidd presennol? A hefyd, sut y mae'r cynigion yr ydych chi wedi eu hamlinellu heddiw yn mynd i ategu'n uniongyrchol y bargeinion twf, sydd, wrth gwrs, â photensial enfawr i sbarduno twf economaidd ym mhob rhan o Gymru?
A allwch chi amlinellu hefyd yn benodol sut y bydd eich uchelgais chi o fantais i gymudwyr Cymru sydd wedi eu lleoli mewn cymunedau trefol a gwledig ledled Cymru? Nawr, fy marn i yw, wrth gwrs, ei bod yn hanfodol ein bod yn adeiladu system drafnidiaeth integredig a all gefnogi llu o amcanion polisi economaidd a chymdeithasol ehangach. Nid wyf i'n credu eich bod chi wedi crybwyll cynlluniau o gwbl ar gyfer sut y bydd rheilffyrdd yn cael eu hintegreiddio â gwasanaethau bysiau i sicrhau y bydd gwelliannau yn arwain at fanteision ar gyfer teithwyr ledled Cymru, felly a allwch chi roi rhai sylwadau ar hyn?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch chi amlinellu sut y bydd cyflawni'r cynigion hyn, neu eich uchelgais, yn cael eu cefnogi gan ddau gorff newydd sydd wedi'u creu i helpu i sbarduno creu seilwaith trafnidiaeth newydd yng Nghymru? Nid wyf yn credu eich bod wedi crybwyll y comisiwn seilwaith cenedlaethol i Gymru yn eich datganiad, ac rwy'n synnu at hynny, ac os mai dyna'r sefyllfa, efallai y gallech chi esbonio rhywfaint o'r rhesymeg y tu ôl i hynny. Ac o ran trafnidiaeth ar gyfer Cymru, rwy'n credu ar un pwynt eich bod wedi sôn y bydd Mark Barry yn gweithio gyda'ch adran chi a Thrafnidiaeth Cymru, felly rwy'n awyddus i ddeall y berthynas rhwng Trafnidiaeth Cymru a'ch adran chi a sut y maen nhw'n gweithio gyda'i gilydd. Ac yn olaf, a oes gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru yr adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i gyflawni eich uchelgais?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am groesawu'r datganiad heddiw? Byddaf yn ymdrin â'r olaf o'r pwyntiau a wnaethoch yn gyntaf, yn benodol y swyddogaeth a fydd gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol. Yn amlwg, mae'r gwaith yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn y datganiad hwn yn darparu, ar y cam cynharaf, rhesymau cymhellol i gael buddsoddiad gan yr adran drafnidiaeth. Yn y tymor hwy, bydd gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol ac arbenigwyr sydd yn eistedd ar y comisiwn hwnnw swyddogaeth mewn dylanwadu ar unrhyw gynigion gan Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, a'u llywio a chraffu arnynt.
O ran Trafnidiaeth Cymru a'r swyddogaeth sydd gan Mark Barry mewn llywio'r gwaith y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud, a lle mae'r Adran Drafnidiaeth yn y cwestiwn, mae'r Athro Barry yn dod ag arbenigedd sy'n ategu'r hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnig ar hyn o bryd. Fy marn i yw bod yr Athro Barri yn gallu llywio Trafnidiaeth Cymru mewn modd gwrthrychol a llywio penderfyniadau Llywodraeth y DU mewn ffordd wrthrychol drwy gynnig barn arbenigol, dadansoddiadau arbenigol a dull seiliedig ar dystiolaeth i ni o ran y prosiectau a ddylai gael blaenoriaeth yn y camau cynnar. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod cyfatebolrwydd da rhwng yr hyn yr wyf i wedi'i gyhoeddi heddiw a'r cynllun gweithredu economaidd. Yn wir, os edrychwch chi ar y rhaglen ar gyfer llywodraethu, mae gennym ni Gymru unedig a chysylltiedig yn ganolog i'n hawydd i wella ffyniant. Yn yr un modd, mae strategaeth buddsoddi'r Adran Drafnidiaeth yn tynnu sylw at yr angen i adeiladu economi gryfach, fwy cytbwys drwy wella cynhyrchiant ac ymateb i flaenoriaethau twf lleol. Mae cysylltedd gwell wrth wraidd amcanion y strategaeth honno a 'Ffyniant i bawb'.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn llygad ei le wrth sôn am yr angen i wella integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Er nad yw'r datganiad hwn heddiw yn ymwneud, o reidrwydd, â bysiau, mae'r Aelod yn iawn i ddweud y bydd llwyddiant trenau yn y dyfodol mewn gwasanaethu anghenion teithwyr yn dibynnu ar well integreiddio â gwasanaethau bysiau. Hefyd, mae'n bwysig nodi na ddylid tanbrisio llwyddiant diweddar rhwydwaith TrawsCymru. Mae'n rhwydwaith pellter hir, yn aml yn cysylltu cymunedau na wasanaethir gan wasanaethau rheilffyrdd. Ynghyd â diwygio gwasanaethau bysiau lleol a fydd yn dod drwy ddeddfwriaeth a, gobeithio, drwy Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda'r sector, bydd yn cyflawni gwell integreiddio, nid yn unig o ran amserlenni, nid yn unig o ran seilwaith ffisegol a chanolfannau, ond hefyd o ran tocynnau. Mae'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ochr yn ochr â'r gwaith y mae'r Athro Barri yn ei gynnal i nodi prosiectau cynnar sydd angen buddsoddiad.
O ran y canolbarth, mae'n gorwedd o fewn y ddau. Mae'r Canolbarth yn hollbwysig o ran cysylltu Cymru gyfan, mewn sicrhau ein bod yn darparu Cymru wirioneddol unedig a chysylltiedig wrth wraidd 'Ffyniant i bawb'. Felly, bydd yn hanfodol bod rheilffordd y Cambrian yn cael ei hystyried yn yr holl waith a wneir a'n bod yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar draws y ffin i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth trawsffiniol, o ran gwasanaethau rheilffyrdd a bysiau. Rwy'n disgwyl y bydd y gwaith cynnar y bydd yr Athro Barry wedi'i gwblhau yn fy meddiant erbyn mis Gorffennaf. Rwyf eisoes wedi datgan mai fy mwriad yw cael ymgynghoriad yn ystod ail hanner eleni, ac felly byddwn yn gobeithio cael ei ganfyddiadau cynnar ar fy nesg yn y ddau neu dri mis nesaf.
Credaf fod mynediad i feysydd awyr yn gwbl hanfodol. Mae'r Aelod yn iawn. Maes awyr Lerpwl—bydd gwell cysylltedd iddo o ogledd Cymru drwy fuddsoddi yn nhrofa Halton, ond bydd hefyd fuddsoddiad drwy'r fasnachfraint newydd mewn darpariaeth gwasanaeth. Rydym wedi llofnodi memorandwm o gyd-ddealltwriaeth gyda Transport for the North, y nod yw sicrhau bod yr ystyriaeth a roddir i gynigion trafnidiaeth ar ochr Lloegr i'r ffin yn parchu ac yn adlewyrchu anghenion teithwyr ac anghenion unigolion yng Nghymru. Felly, yn y dyfodol, byddwn yn disgwyl i well cysylltedd rhwng y gogledd a maes awyr Manceinion fod yn ystyriaeth allweddol ar gyfer Transport for the North. Yn wir, mae'n deg i ddweud, o gofio swyddogaeth hollbwysig gorsaf Caer fel canolbwynt mawr sy'n gwasanaethu gogledd Cymru, y bydd ei swyddogaeth o ddarparu darpariaeth trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n byw yn y gogledd yn bwysicach fyth. Felly, mae'n gwbl hanfodol, yn fy marn i, bod yr Adran Drafnidiaeth yn buddsoddi mewn darpariaeth gwasanaeth yng ngorsaf Caer. Mae angen gwaith sylweddol arni, a chredaf ei bod yn haeddu'r buddsoddiad y mae Cheshire West a Chaer wedi galw amdano ers blynyddoedd lawer.
Yr hyn y mae Cymru ei angen, wrth gwrs, yw rheilffordd genedlaethol. Fy ofn i yw—ac mewn gwirionedd mae'n cael ei danlinellu gan y ffaith ein bod ni'n mynd i gael un achos busnes ar gyfer y gogledd ac un ar wahân ar gyfer y de ac yna rhywbeth niwlog yn y canol—bod Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn garcharor yr hen fap a'r hen dybiaeth, lle nad oedd ein seilwaith yn ymwneud â symud ein pobl o amgylch ein cymunedau mewn gwirionedd, roedd yn ymwneud yn bennaf â symud nwyddau o'r gorllewin i'r dwyrain, ac yn y maes glo, roedd yn ymwneud â symud glo i'r de i borthladdoedd. Mae'n rhaid inni wrthdroi'r dybiaeth honno. Mae'n rhaid inni gael gweledigaeth genedlaethol, integredig. Ac er bod llawer o bethau ar restr hir Ysgrifennydd y Cabinet o anghenion cyffredinol, sydd yn anodd anghytuno â nhw, yr hepgoriad sy'n amlwg. Rydym ni'n wlad a ddiffinnir gan ein bylchau, pethau nad ydynt yno, yn fwy na'r pethau sydd yno. Yr un peth na wnaethoch chi sôn amdano—ac eithrio cysylltu dinasoedd—yw cysylltu Cymru, gwlad y mae ei map rheilffyrdd fel 'E' wedi'i gwrthdroi. Mae'n dridant sy'n rhedeg ar draws ein gwlad, ac nid oes dim yn y pen gorllewinol, ac eto mae cynigion uchelgeisiol i greu cyswllt gorllewinol cenedlaethol. Yn wir, mae'r Llywodraeth wedi comisiynu astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth—nid oes dim am hynny, o gwbl, yn y cynnig hwn, yn y datganiad hwn. Oni ddylai fod, fel rhan o waith Mark Barry, ymrwymiad i edrych ar gysylltiad rheilffordd arfordir gorllewinol, fel y gallwn mewn gwirionedd symud o'r de i ogledd ein gwlad ar drên heb orfod mynd i wlad arall. Mae'n alw eithaf cymedrol, Ysgrifennydd y Cabinet.
Nawr, dywedasoch chi na ddylem ni fod yn sefyll yn yr ymylon yn cwyno, a chytunaf yn llwyr â hynny. Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn ddiweddar y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cyhoeddi bondiau cyn bo hir er mwyn ariannu prosiectau seilwaith yn y dyfodol. Fel rhan o'r dadansoddiad cyffredinol hwn, a fydd yr Athro Barry yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio bondiau, fel y gwnaeth Transport for London yn llwyddiannus iawn, fel yr awgrymodd yr Athro Gerry Holtham, o ran canslo'r cysylltiad trydaneiddio? Yn hytrach na dim ond cwyno am y prosiectau hynny y mae San Steffan yn gwrthod eu hariannu, oni ddylem ni fod yn edrych yn greadigol ar ein dulliau ariannol ein hunain o fodloni ein gofynion ein hunain?
Yn olaf, wrth gwrs, syniad mawr Mark Barry oedd i leihau amserau teithio rhwng Caerdydd ac Abertawe, a rannwyd yn rhan o'i weledigaeth ar gyfer metro Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol, i dynnu Castell-nedd oddi ar brif reilffordd y Great Western, gan redeg y cysylltiad hwnnw, wedyn, yn hytrach, ar hyd llinell uniongyrchol newydd o Bort Talbot i Abertawe. A gaf i felly eich gwahodd i ddweud yn glir p'un a ydych yn diystyru unrhyw gynnig a fyddai'n dileu Castell-nedd o brif reilffordd y Great Western? Dywedodd eich Cwnsler Cyffredinol na fyddai'n cefnogi unrhyw gynnig fyddai'n cynnwys hwn. Mae ef yn diystyru'r syniad hwn. Allwch chi ddweud p'un a ydych chi'n diystyru hwn ar hyn o bryd, o gofio mai syniad yr Athro Barri ydoedd mewn gwirionedd?
O ran y pwynt penodol hwnnw y siaradodd yr Aelod amdano olaf, gallaf gadarnhau mai ein safbwynt yn dal i fod yw nad ydym yn edrych ar unrhyw ostyngiadau mewn gwasanaethau yng Nghymru, neu unrhyw ostyngiadau mewn hygyrchedd gorsafoedd, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a Network Rail i'r perwyl hwnnw. Mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd.
Nawr, os ydym ni'n edrych ar sut y gallwch chi wella amserau teithio tra'n cynnal gorsafoedd fel Castell-nedd ar y brif lein, gallwch chi edrych yn gyntaf ar wella gorsafoedd, gallwch chi edrych ar welliannau i'r signalau, gwelliannau i'r pwyntiau—mae'n ffaith bod gan y trenau hynny sy'n gweithredu ar hyn o bryd ar lein y Great Western y potensial i deithio hyd at 140 milltir yr awr, ond oherwydd signalau gwael, pwyntiau gwael ac ati—y ffactorau hynny a nodais eisoes—a gormod o groesfannau, dim ond un pwynt sydd ar y lein gyfan lle maen nhw'n gallu teithio ar 125 mya. Felly, cyn i chi hyd yn oed edrych ar brif elfennau seilwaith rheilffyrdd, dylech yn gyntaf edrych ar signalau, pwyntiau a chroesfannau, er mwyn gwella cyflymder y trenau sy'n teithio. Byddai hynny'n lleihau'r amserau teithio rhwng Llundain a Chaerdydd, a thu hwnt i orllewin Cymru, cyn y byddai angen rhoi unrhyw ystyriaeth i drac neu orsafoedd. Felly, gallaf ddweud nad ydym ni'n edrych ar unrhyw ostyngiadau. Nid dim ond amddiffyn gorsafoedd a gwasanaethau a darpariaeth gwasanaethau i orsafoedd yng Nghymru yr ydym yn ei ddymuno; rydym ni'n dymuno eu gweld yn cael eu gwella, ac mae hynny'n cynnwys gorsaf Castell-nedd.
O ran hyrwyddo rheilffordd genedlaethol, nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn cyfeirio at reilffordd genedlaethol o ran trenau a thrac—rheilffordd genedlaethol wedi'i hintegreiddio'n fertigol. Credaf mai dyna beth yr oedd yr Aelod yn cyfeirio ato. Y ffaith yw, ar hyn o bryd, fodd bynnag, fel y nododd yr Aelod, nid oes gennym ni ddatganoli cyfrifoldeb neu gyllid ar gyfer seilwaith rheilffyrdd. Byddem yn bryderus iawn am ddatblygu'r syniad o ddefnyddio ein harian ein hunain, ym mha bynnag ffordd neu ffurf y gallai hynny fod, i atodi'r tanariannu hanesyddol ar seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. I mi, byddai hynny fel codi baner wen i Lywodraeth sydd wedi tanfuddsoddi yn ein seilwaith rheilffyrdd o ddim ond 1 y cant o fuddsoddiad ar draws y DU yn y cyfnod rheoli diweddaraf, er gwaethaf y ffaith fod gennym 10 i 11 y cant o filltiroedd trac. Nawr, gwn y gallai awgrym yr aelod am reilffordd genedlaethol edrych yn ddeniadol, ond a yw hefyd yn cynnig, fel rhan o'r rheilffordd genedlaethol, o gofio ei fod yn siarad am yr angen i gael cysylltedd o fewn Cymru nad oes o reidrwydd raid cynnwys cysylltedd tu allan i Gymru—? A yw'r Aelod yn awgrymu felly ein bod yn cael traciau newydd wedi'u hadeiladu ochr yn ochr â'r rhwydwaith presennol, er enghraifft rhwng y gogledd a'r de, ym Mhowys, sy'n rhedeg ochr yn ochr â seilwaith sydd eisoes yn bodoli mewn gwirionedd? Oherwydd credaf, mewn gwirionedd, yn gyffredinol, mae pobl yn fodlon ar y seilwaith sydd ar waith. Yr hyn nad yw pobl yn fodlon ag ef yw ansawdd y seilwaith, sy'n dal yn ôl nid dim ond argaeledd gwasanaethau aml ond hefyd yn dal yn ôl cyflymder y trenau. Credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn dymuno gweld buddsoddiad yn cael ei sianelu i'r seilwaith presennol i sicrhau bod trenau yn teithio yn fwy aml ac yn teithio yn gynt, tra ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod cytundebau masnachfraint ar waith i godi ansawdd y gwasanaethau sy'n rhedeg ar y trac.
Awgrymodd yr Aelod nad yw'r datganiad yn siarad am gysylltu Cymru yn fewnol. Wel, holl bwynt ein datblygiadau metro yn y gogledd, yn y de-ddwyrain ac yn y de-orllewin yw cysylltu cymunedau o fewn Cymru yn well. Mae'r rhain yn eithriadol o uchelgeisiol. Yn wir, galwyd nhw gan y Pwyllgor y mae'r Aelod yn eistedd arno yn gynigion uchelgeisiol arwrol yr ydym yn eu datblygu, ac yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn ystyried, yn y Cabinet, y cynigydd a ffafrir ar gyfer y fasnachfraint nesaf, a'r partner datblygu ar gyfer y metro, a'r nod yw, fel y dywedaf, sicrhau bod ein cymunedau wedi'u cysylltu yn well o fewn Cymru. Hefyd, o ran cysylltu cymunedau yn well, bydd y cynigion uchelgeisiol yr ymgynghorir arnyn nhw yn y misoedd i ddod, ynghylch diwygio gwasanaethau bws lleol, unwaith eto yn dangos ein penderfyniad i sicrhau, boed yn drenau neu'n fysiau, yn deithio llesol neu'n gyfuniad o bob un, ein bod yn buddsoddi mwy nag o'r blaen, ac mae gennym uchelgais mwy nag erioed o'r blaen o ran cysylltu ein cymunedau yng Nghymru gyda'i gilydd.
A gaf i ddiolch i Weinidog y Cabinet am ei ddatganiad sydd, yn sgil cyhoeddiadau'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, yn ein diweddaru ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer prif reilffyrdd y Great Western a'r gogledd? Rydych chi'n dweud, Gweinidog y Cabinet, fod yr ymrwymiad hwn i'w groesawu, ond mae'n ymddangos bod y cyhoeddiad hwn yn ymdrin dim ond â datblygu achosion busnes ar gyfer gwelliannau rheilffyrdd yng Nghymru. Yng ngoleuni'r penderfyniad ar drydaneiddio lein Abertawe, a sylwadau a wnaed yn ddiweddar ar ddatblygiadau Bae Abertawe, rhaid i rywun ofyn: a yw'r cyhoeddiadau hyn mewn gwirionedd yn gyfystyr ag ymrwymiadau cadarn?
Mae'n amlwg iawn fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i rai gwelliannau deniadol i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn Lloegr. Gwnaethoch chi sôn eich hun am y £15 biliwn o fuddsoddiad Crossrail a chynllun £3 biliwn traws y Penwynion. Roeddech chi hefyd, wrth gwrs, yn cyfeirio at y prosiect drud iawn cyflymder uchel 2, sydd yn debygol o lyncu hyd at £55 biliwn, o leiaf, ac, yn rhyfedd iawn, rydych chi'n nodi ei effaith negyddol bosibl ar economi Cymru, sydd mewn gwrthgyferbyniad llwyr â barn Llywodraeth Cymru pan oedd UKIP yn ei drafod yn y Siambr hon, pan oeddech chi'n mynnu, o'i gymharu â dadansoddiad UKIP, y byddai yn hwb mawr i economi Cymru.
Mae UKIP yn cytuno â'r uchelgeisiau cyffredinol a nodwyd gennych, a byddwn yn parhau i gefnogi'r Llywodraeth yn ei hymdrechion i sicrhau gwelliannau seilwaith a amlinellir yn yr anghenion hynny. Ond yng ngoleuni'r cyhoeddiadau hyn, onid oes angen cael dadl lawn ar wariant San Steffan ar seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru, lle gellid gwyntyllu'r gefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer gofynion Llywodraeth Cymru, gyda'r effaith o gryfhau eich grym mewn unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth y DU?
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau, a dweud y byddwn yn fawr iawn yn croesawu dadl drawsbleidiol ar lefel y buddsoddi gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith rheilffyrdd yn ddiweddar? Credaf y byddai hynny'n helpu i gryfhau ein grym wrth negodi, ac yn sicrhau bod Network Rail a Llywodraeth y DU yn cydnabod bod galw ar draws yr holl bleidiau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru am ariannu tecach pan fo'n ymwneud â thrafnidiaeth rheilffyrdd yng Nghymru.
O ran HS2, oes, mae potensial i HS2 gael effaith andwyol ar economi'r de, a dyna pam yr ydym ni'n dadlau bod angen inni weld buddsoddiad ym mhrif reilffordd y de yn dod mor fuan â phosibl, er mwyn sicrhau bod y de, ac, yn wir, mae hyn yn berthnasol i dde-orllewin Lloegr, yn parhau'n gystadleuol ac yn dal i fod yn gystadleuol ar lwyfan y DU ac yn fyd-eang. Yn y gogledd ac, o bosibl, yn y canolbarth, mae HS2 yn cynnig cyfle i'r economïau rhanbarthol hynny gryfhau a chael hwb sylweddol, ond bydd angen y canlyniad cywir, yn benodol o ran canolfan Crewe, gan sicrhau y ceir y canlyniad cywir, y seilwaith iawn ar waith i'r gogledd o orsaf Crewe.
O ran HS2 yn ei gyfanrwydd, yr hyn a ddywedwn i yw—ac mae hyn yn wir am ranbarthau yng Nghymru hefyd—beth na ddylem ni ei wneud yw dadlau y dylem ni ddal yn ôl ffyniant un rhanbarth er mwyn cynnal y lefelau cyfredol o ffyniant ar gyfer un arall, ond mewn gwirionedd yr hyn y dylem ni fod yn dadlau o'i blaid yw gwelliannau ar draws pob rhanbarth. Dyna pam, unwaith eto, fy mod yn datgan yn glir o ran HS2, er y gallai gael effaith andwyol ar y de, os byddwn yn cael y lefel gywir o fuddsoddiad i'r de a'r brif lein ac o'r de, yna gellid lliniaru'r effaith andwyol. Felly, roedd fy ymateb i'r ymgynghoriad at yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch masnachfraint Rheilffordd y Great Western yn nodi'n glir yr angen i sicrhau bod cynigion lliniaru y gellid eu mabwysiadu fyddai wedyn yn gwarantu lefelau presennol o ffyniant ar gyfer y de a sicrhau y gall economi'r de ffynnu yn y dyfodol.
O ran yr achosion busnes, saif yr ymrwymiad ar gyfer datblygu achosion busnes gyda Llywodraeth y DU, ond mae angen inni sicrhau bod achosion cymhellol yn cael eu cyflwyno i Llywodraeth y DU. Amlinellais yn fy natganiad sut mae gwariant sylweddol yn digwydd mewn mannau eraill yn y DU. Yr hyn nad wyf i eisiau ei weld yn digwydd yw i ni ddibynnu'n unig ar achosion busnes a gynlluniwyd mewn mannau eraill. Yr hyn y dymunaf ei weld yn digwydd yw i ni i ddylanwadu ar yr achosion hynny ar y cyfle cyntaf, a dyna pam mae gennym arbenigwyr a dyna pam mae gennym Drafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar yr achosion hynny.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am nodi'r bygythiadau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Cymru, a hefyd am benodi Mark Barry, sydd yn frwd iawn o blaid trafnidiaeth gyhoeddus ac felly, credaf, bydd o fudd mawr i nodi ein safbwynt. Ond, yn amlwg, nid yw'r holl ysgogiadau gennym ni. Un o bryderon mawr rhai o'm hetholwyr yw codiad cynyddol prisiau tocynnau trên, sy'n llawer mwy na'r cynnydd mewn cyflogau. Ar gyfer y rhai sydd angen teithio y tu allan i Gymru ar gyfer gwaith, mae'n dipyn o gosb, yr hyn a godir. Pe byddai'r cynnydd mewn prisiau yn cael ei adlewyrchu wedyn mewn buddsoddi cynyddol mewn cerbydau a Wi-Fi ychwanegol a mwy o drenau, byddai, rwy'n siŵr, wedi'i dderbyn, ond y ffaith yw nad dyna beth sy'n digwydd.
Mae gennym her anferth yn y ffaith bod ein Llywodraeth y DU yn canolbwyntio cymaint ar dde-ddwyrain Lloegr. Pe byddent wedi dechrau HS2 ym Manceinion, yn hytrach nag yn y de-ddwyrain, efallai y byddech yn argyhoeddedig eu bod yn dechrau edrych ar system drafnidiaeth sy'n cynnwys y DU gyfan, ond, yn amlwg, nid yw hynny am ddigwydd.
Un o'r materion mawr i'm hetholwyr yw'r uwchraddio angenrheidiol ar orsaf Caerdydd Canolog, a fydd yn fuan heb ddigon o gapasiti i reoli'r nifer cynyddol o drenau y mae pobl am inni eu darparu. Mae hynny'n rhywbeth na allwn ni ei wneud oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi arian i GWR neu Network Rail i wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, mae arnaf ofn ei bod yn enghraifft dda o pa mor ddibynnol yr ydym ni ar haelioni Llywodraeth y DU.
Rwy'n cofio pan wnaeth Chris Grayling ganslo trydaneiddio Abertawe, ar unwaith dechreuodd siarad am y pethau y gallai ef ei wneud gyda'r arian i fynd i dde-orllewin Lloegr, sy'n warthus. Felly, mae'n rhaid cael cyswllt rheilffyrdd a bws addas ar gyfer y diben, ac rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod y mae'r rhain gennym wedi'u hymuno â'i gilydd.
Diolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Mae bob amser yn bleser gennyf ateb Jenny Rathbone oherwydd mae ganddi angerdd mor aruthrol am drafnidiaeth gyhoeddus, yn benodol integreiddio gwasanaethau rheilffordd a bws, a gwasanaethau teithio llesol wrth gwrs. Mae'r Aelod yn hollol iawn bod yr Athro Barry yn un o hoelion wyth y rheilffyrdd. Rydym yn falch iawn ei fod wedi cytuno i wneud y gwaith hwn, ac rwy'n siŵr y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn gyflym. Gobeithiaf hefyd y bydd gwaith ar Caerdydd Canolog bellach yn digwydd yn gyflym. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai gwelliannau Caerdydd Canolog yn flaenoriaeth ar ôl diddymu trydanu'r rheilffordd y tu hwnt i Gaerdydd, ac rwy'n gobeithio gweld y gwaith hwnnw yn digwydd yn ddi-oed.
O ran tocynnau, mae'n ffaith drasig, mewn rhannau o Gymru, mae 20 y cant o bobl ifanc ddim hyd yn oed yn dod i'w cyfweliadau swydd wrth geisio dod o hyd i waith, gan nad ydynt yn gallu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd yno. Mae hyn yn rhannol o ganlyniad i brisiau cymharol uchel ar reilffyrdd. Mae hefyd yn rhan o ganlyniad trafnidiaeth bws anfynych ac sydd weithiau yn rhy ddrud hefyd. Mae'r ateb, wrth gwrs, yng Nghymru, o ran masnachfraint Cymru a'r Gororau, yng nghytundeb y fasnachfraint newydd. Nodwyd gennym yn ein hamcanion lefel uchel yr angen i gynigwyr sicrhau y byddai eu helw yn cael ei leihau ac y byddai ail-fuddsoddi unrhyw swm dros ben i ddarparu gwasanaethau. Hefyd, mae'n hollol iawn y byddwn yn edrych ar gadw, lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl, y prisiau isaf posibl ar wasanaethau rheilffyrdd, a dyna beth yr wyf yn gobeithio bod yn siarad ychydig yn fwy amdano unwaith y mae'r Cabinet wedi ystyried canlyniad y broses gaffael.
Ond yn yr un modd, mae'n gwbl hanfodol bod mwy o integreiddio tocynnau rheilffyrdd a bysiau yn digwydd yn y dyfodol. Rwyf wedi gweld mewn rhannau o'r DU—yn ardal Glannau Mersi yn benodol—enghreifftiau rhagorol o sut y mae tocynnau bysiau a rheilffyrdd integredig wedi gweithredu fel galluogwr, yn arbennig ar gyfer pobl ifanc sy'n wynebu diweithdra, wrth sicrhau y gallant fynd i'r gwaith ac aros mewn gwaith. Dyna'r hyn yr wyf i am ei weld yn cael ei ailadrodd drwy'r fasnachfraint newydd a thrwy wasanaethau ychwanegol yn y dyfodol yn cael eu rheoli gan Trafnidiaeth Cymru. Dyna'r hyn y dymunaf ei weld yn digwydd yma.
Diolch. A gaf i yn garedig atgoffa'r set nesaf o siaradwyr mai chi yw'r ail a'r trydydd siaradwr o bosibl ar ran eich plaid chi, ac felly dylai fod datganiad byr a cwestiwn, ac yna fe gawn ni chi i gyd i mewn? Suzy Davies.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Datganiad diddorol yn y fan yna o 1,200 o eiriau, Ysgrifennydd y Cabinet, er y cymerodd tan dudalen 3 eich datganiad i chi ddweud na allwch chi sefyll yn yr ymylon yn cwyno pan, mewn gwirionedd, fe wnaethoch chi dreulio dros hanner eich datganiad, dros bedair munud ohono, yn cwyno am yr union beth hwnnw. Mae'n rhaid imi gyfaddef nad wyf yn teimlo'n llawer mwy gwybodus am beth yw eich cynlluniau, ond rwy'n ddiolchgar i chi am wybodaeth ynghylch yr amcanion ehangach ar gyfer fy rhanbarth, yn enwedig edrych ar ddewisiadau eraill ar gyfer y rhai sy'n llygru rhannau o'r M4 yn drwm ar yr un pryd ag yn ehangu, credaf mai dyna oedd, trafnidiaeth y ddinas-ranbarth—gwyddoch chi fod rhai ohonom ni wedi bod yn siarad am hynny yn y fan yma ers peth amser. Byddwch chi hefyd yn ymwybodol bod fy etholwyr yng Nghastell-nedd yn arbennig o gyffrous am y cynnig a wnaed gan yr Athro Barry yn ei amlinelliad gwreiddiol, a thawelwyd fy meddwl mai dim ond man cychwyn ydyw.
Yn fyr, roeddwn i eisiau gofyn i chi am hepgor parcffordd Abertawe o'ch datganiad. Gwneuthum arolwg cyflym a budr iawn yn yr ardal a allai gael budd o barcffordd Abertawe, a thra bod 89 y cant o ymatebwyr o'r farn y byddai hynny'n helpu'r fargen ddinesig, dywedodd llai na 20 y cant ohonyn nhw eu bod yn hapus â'r sefyllfa bresennol, a dywedodd mwy na hanner ohonyn nhw y bydden nhw'n cefnogi'r syniad o barcffordd. Pan ydych chi'n parhau i rannu eich uchelgais chi gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, byddwch yn cynnig cefnogaeth mewn egwyddor ar gyfer parcffordd?
Ydw. Rydym ni wedi siarad am hyn eisoes, ac rwy'n credu bod hynny yn haeddu tipyn o ystyriaeth. Rwy'n credu ei bod yn bwysig hefyd nodi yn ystod ychydig funudau cyntaf fy natganiad nad oeddwn yn cwyno, dim ond datgan ffaith yr oeddwn i, a'r ffaith yw nad ydym ni wedi cael y lefel o fuddsoddiad y dylem ni fod wedi'i ddisgwyl yn y cyfnod rheoli presennol. Wedi dweud hynny, dylai parcffordd Abertawe, fel rhai cynigion mawr eraill, fod wedi ei ddatblygu yn gyflym.
Ysgrifennydd y Cabinet, un ddolen goll, sydd wedi bod yn destun llawer iawn o rwystredigaeth am gryn amser yn fy ardal i, dolen goll o ran cydgysylltu'r de-ddwyrain yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy. Bu aros hir amdano a tybed os gallwch chi, wrth ymateb i gwestiynau ar y datganiad hwn heddiw, ddarparu unrhyw wybodaeth bellach ar ba bryd y gallwn ddisgwyl i'r cysylltiad hwnnw gael ei sefydlu a'i bwysigrwydd parhaus, gobeithio, yn adlewyrchu barn y bobl leol i Lywodraeth Cymru.
Hefyd, mae gwasanaethau i Fryste, Ysgrifennydd y Cabinet, a gwn y byddwch chi'n ymwybodol o hyn, yn bell o fod yn foddhaol o ran trenau gorlawn a dibynadwyedd, problemau gyda chanslo, ansawdd cyffredinol y cerbydau, ac yn wir yr amser y mae teithiau yn eu cymryd. Felly, ar amrywiaeth o ffactorau ynglŷn â beth sy'n gwneud teithio ar drenau yn ddymunol neu fel arall, mae'r gwasanaeth hwnnw o Gasnewydd, Caerdydd ac ardaloedd eraill i Fryste yn achosi problemau, ac yn achosi problemau yn arbennig i gymudwyr. Felly, o ystyried yr angen i gydgysylltu o amgylch gwasanaethau trawsffiniol rhwng Trenau Arriva Cymru a gweithrediad y Great Western, Ysgrifennydd y Cabinet, tybed beth y gallwch ei ddweud o ran cysur i'r cymudwyr hirymaros hynny ac eraill y bydd y problemau hynny yn cael sylw, gobeithio yn y dyfodol agos, fel y gallant gael llawer gwell profiad ac y gallwn gael mwy o bobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus.
A gaf i ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau? Wrth gwrs, bydd gennyf fwy i'w ddweud o ran cysylltiad Glynebwy a'r potensial i aros yng Nghasnewydd pan gyhoeddwn y gweithredwr masnachfraint dewisol a'r partner datblygu a phan fyddwn yn datblygu'r cynllunio metro.
O ran Bryste a chysylltedd ar draws y ffin, fy marn i yw y dylem ni fod yn annog Llywodraeth y DU i weithio gyda ni o ran ailfapio cytundebau masnachfraint i sicrhau bod cytundeb tebyg ar waith ar y masnachfreintiau hynny sy'n gweithredu ac yn cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU fel ag y ceir â masnachfraint Cymru a'r Gororau, lle'r ydym ni'n gallu dylanwadu ac mae gennym ni ran mewn trafodaethau ar lefel Llywodraeth y DU, yn union fel y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn cadw buddiant mewn rhai gwasanaethau fel rhan o fasnachfraint Cymru a'r Gororau.
Rwyf wedi nodi cynnig yn fy llythyrau at yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer ailfapio trefniadau masnachfraint a fyddai, rwy'n credu, (a) yn diwallu anghenion teithwyr yng Nghymru yn llawer mwy na'r trefniadau cyfredol, ond hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i fod â rhan, y rhan sydd ei hangen arni i sicrhau bod gwasanaethau wedi'u cynllunio a'u darparu mewn ffordd sy'n ystyried budd Cymru yn llawn, ac yr wyf yn meddwl hefyd a fyddai'n arwain at gystadleuaeth go iawn a dewis go iawn i deithwyr ar draws y ffin hefyd. Rydym ni eisiau gweld mwy o wasanaethau rhwng de Cymru a de Lloegr, yn benodol Temple Meads Bryste, ac rwy'n credu y byddai rhaglen ailfapio'r fasnachfraint yn helpu gyda hyn.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Gwnaethoch chi gyfeirio at yr 1 y cant o wariant. Canfu adroddiad blynyddol y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar wybodaeth ariannol diwydiant rheilffyrdd y DU, a gyhoeddwyd y llynedd, bod Cymru mewn gwirionedd yn cael 9.6 y cant o arian net Llywodraeth y DU ar gyfer gweithrediadau trenau masnachfraint a Network Rail, a 6.4 y cant o gyfanswm cyllid net Llywodraeth y DU ar gyfer llwybrau Network Rail, fel y cyflwynwyd yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ôl inni dynnu sylw at bryderon tebyg.
Rwy'n ategu eich datganiad yn llawn os yw Llywodraeth y DU yn gwneud y dewisiadau cywir ar Ganolfan Crewe, ac ati, yna bydd HS2 yn cael budd economaidd sylweddol ar gyfer y gogledd. Ond, fy nghwestiwn i—dim ond un sydd gennyf—o ystyried eich cyfeiriad yn eich datganiad at weithio gyda Growth Track 360, yr wyf wrth gwrs yn ei gefnogi'n llwyr, nid ydych chi wedi gwneud unrhyw gyfeiriad at fwrdd twf y gogledd, a sefydlwyd i gwblhau'r fargen dwf a rheoli ei darparu, unwaith y bydd y ddwy Lywodraeth yn cytuno. Felly, pa waith, yng nghyd-destun cysylltedd trafnidiaeth gyda rhwydwaith y rheilffyrdd, yr ydych chi'n ei wneud yn uniongyrchol gyda'r bwrdd twf?
Rydw i wedi cyfarfod â'r bwrdd. Rydw i wedi cyfarfod ar lefel wleidyddol ac ar lefel swyddogol gydag arweinwyr awdurdodau lleol a phrif weithredwyr. Ar lefel swyddogol o fewn y Llywodraeth, rydym ni hefyd yn gweithio ar sail reolaidd cyn belled â bod y prosiectau dan sylw o fewn cynnig y fargen dwf, a fy marn i yw y byddai croeso mawr i'r cais i sefydlu awdurdod trafnidiaeth yn y gogledd. Edrychaf ymlaen at graffu ar beth yn union y mae'r cais yn ei gynnig, a gyda'r bwriad o gefnogi'r cais hwnnw.
Yr hyn yr wyf i'n dymuno ei weld yn digwydd gyda'r fargen dwf yn y gogledd yw ymhen 20 mlynedd, y gallwn ni edrych yn ôl a nodi cod y fargen honno wedi bod yn un drawsnewidiol ar gyfer y rhanbarth. Ac er mwyn bod yn wirioneddol drawsnewidiol, rwy'n credu bod yn rhaid iddi ganolbwyntio ar elfennau allweddol sy'n llywio cynhyrchiant a thwf economaidd—buddsoddi mewn sgiliau, buddsoddi mewn trafnidiaeth a seilwaith, ac mewn sicrhau bod y cerbyd rhanbarthol cywir ar waith yn hir dymor i wasanaethu datblygiadau economaidd yn y gogledd. Ar bob un o'r cydrannau allweddol hynny, rydym ni'n gwneud cynnydd da, ond rwy'n dymuno i'r fargen ac rwy'n dymuno i'r bobl sy'n cynnig yr holl brosiectau o fewn y fargen gael uchelgais arwrol yn hyn o beth.
Diolch yn fawr ichi, Ysgrifennydd y Cabinet.