5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Treth Tir Gwag

– Senedd Cymru am 4:59 pm ar 15 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:59, 15 Mai 2018

Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar dreth tir gwag. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:00, 15 Mai 2018

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ym mis Chwefror eleni, roedd modd imi ddweud wrth yr Aelodau am fwriad Llywodraeth Cymru i brofi dull newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i sefydlu trethi Cymreig penodol drwy geisio datganoli pwerau ar gyfer treth Gymreig ar dir gwag. Proses gyfan gwbl newydd yw hon, ac nid ydy’r Cynulliad na Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi cynnig arni o’r blaen. Y cam cyntaf oedd cytuno ar y camau angenrheidiol yn y broses i sicrhau bod y pwerau perthnasol yn cael eu trosglwyddo.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

O ganlyniad i hyn, Dirprwy Lywydd, mae protocol wedi cael ei gytuno arno nawr, fel y nodais yn fy llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 29 Mawrth. Mae'r protocol hwnnw'n nodi proses dau gam. Yn gyntaf, bydd gofyn i'r Cynulliad, ynghyd â Dau Dŷ Senedd y DU, gytuno ar ddrafft Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor, a fydd yn nodi gallu'r Cynulliad i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru. Os bydd y cam cyntaf hwnnw yn llwyddiannus, lle Llywodraeth Cymru fydd dod â chynigion manwl gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i alluogi Aelodau i benderfynu a ddylid pasio unrhyw dreth arfaethedig yn gyfraith.

Er bod gan Senedd y DU ei rhan yn y penderfyniad i ddatganoli'r pwerau hyn i Gymru, lle'r Cynulliad hwn fydd penderfynu sut y bydd pwerau o'r fath yn cael eu defnyddio. Rwy'n hyderus bod y broses yr ydym wedi llwyddo i gytuno arni yn gwir adlewyrchu'r gwahanol gyfrifoldebau hynny.

Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd, mae'r broses ar gyfer trosglwyddo pwerau nid yn unig yn gofyn i'r pwerau gael eu trosglwyddo gan Senedd y DU; mae gofyn iddyn nhw hefyd gael eu derbyn gan y Cynulliad hwn, pe byddai'r Cynulliad yn dewis gwneud hynny. Rwyf wedi ymrwymo o hyd i weithio ar y cyd ag Aelodau yn hyn o beth, gan sicrhau y rhoddir yr wybodaeth berthnasol i'r Cynulliad, a dylai hynny ddigwydd drwy gydol y broses.

Os mai honno yw'r broses yr ydym wedi cytuno arni, roeddwn yn credu y byddai'n ddefnyddiol nodi'r disgwyliadau ar gyfer y camau nesaf. Fy mwriad i yw y byddwn ni mewn sefyllfa erbyn tymor yr hydref eleni i gyflwyno cais ffurfiol i Ysgrifennydd Ariannol y Trysorlys, ac erbyn y gwanwyn y flwyddyn nesaf, buaswn yn gobeithio y bydd deddfwriaeth yn cael ei rhoi gerbron y Cynulliad a Senedd y DU i geisio cytundeb ar drosglwyddo'r pwerau hyn.

Dirprwy Lywydd, os mai dyma'r modd o roi prawf ar bosibliadau'r Ddeddf Cymru 2014 newydd, rwy'n troi nawr at ddiben y dreth tir gwag ynddi'i hun. Fel y trafodwyd o'r blaen yn y Cynulliad hwn, gall fod nifer o ddibenion i drethiant. Bwriad treth ar dir gwag yw cymell ymddygiad cadarnhaol, yn hytrach na chodi refeniw yn bennaf. Drwy gynyddu'r gost o ddal gafael ar dir sydd wedi'i nodi eisoes yn addas ar gyfer ei ddatblygu, gallai treth ar dir gwag helpu i newid y cydbwysedd o ran cymhellion fel y gallwn annog y datblygiadau a fydd yn helpu i ddarparu'r tai a'r cyfleoedd economaidd y mae eu hangen yn fawr yng Nghymru. Ac ar yr un pryd, honno yw'r dreth y gellir ei rhoi ar waith i gefnogi ein hamcanion adfywio.

Y nod yw peidio â gwneud bywyd yn fwy anodd i fwyafrif y busnesau cyfrifol a'r tirfeddianwyr sy'n gwneud y gwaith pwysig o ddatblygu tir ar gyfer defnydd masnachol neu breswyl. Y nod, yn hytrach, yw ennyn newidiadau yn ymddygiad y lleiafrif sydd â'u bryd ar hapfasnachu yn annheg ar y cynnydd yng ngwerthoedd tir, a thagu tir y gellid ei ddefnyddio er budd pobl a chymunedau.

Dirprwy Lywydd, er mwyn i drethiant fod yn ffordd effeithiol o hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol, mae'n rhaid ei ystyried, nid ar wahân, ond yn rhan o gyfres o ddatrysiadau a gynllunir i annog defnydd a datblygiad effeithiol o dir yng Nghymru. Un arf yn unig yw hwn sydd ar gael inni gyflawni'r diben hwnnw, ond mae'r diben hwnnw'n un pwysig. Canfu ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i safleodd datblygu sydd ar stop fod ychydig dros 400 o safleoedd ar stop ledled Cymru pan gafodd ei gyhoeddi, yn 2015. Roedd y safleodd hyn ar stop yn ymwneud yn bennaf â datblygiadau preswyl, gyda 7,600 o leiaf o gartrefi ynghlwm â'r safleoedd hyn ledled Cymru.

Fis diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio adolygiad annibynnol o gyflenwad tai fforddiadwy yng Nghymru. Ymhlith pethau eraill, mae'r adolygiad hwn yn cynnig inni'r cyfle i archwilio'r ffyrdd o gynyddu nifer y cartrefi a adeiladwyd drwy gyfraniad Llywodraeth Cymru tuag at dai cymdeithasol, ac i edrych ar ansawdd safonau'r tai fforddiadwy. Mae'n rhaid inni ddal ati i fod â diddordeb, nid yn unig yn nifer ond yn ansawdd y cartrefi a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru.

Dirprwy Lywydd, er bod treth ar dir gwag yn syniad newydd i ni, yn sicr nid yw'n beth newydd mewn rhannau eraill o'r byd. Nid yw'r materion a wynebwn yn unigryw i Gymru; maen nhw'n bodoli ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Yn Lloegr, o ganlyniad i sylwadau a wnaeth Canghellor y Trysorlys mewn cyllideb gynharach, ceir cydnabyddiaeth o'r materion hyn, gydag adolygiad yn digwydd bellach o'r bwlch rhwng rhoi'r caniatâd cynllunio ac adeiladu'r tai. Cyhoeddodd yr ymchwiliad hwnnw, o dan gadeiryddiaeth Oliver Letwin, ddatganiad rhagarweiniol ym mis Mawrth, yn nodi ffactorau sy'n llesteirio datblygiadau wedi i'r caniatâd cynllunio gael ei roi. Bwriad yr adolygiad yw cyflwyno adroddiad llawn erbyn datganiad y Canghellor yn yr hydref yn ddiweddarach eleni.

Erbyn hyn, mae gwledydd eraill eisoes yn defnyddio treth i helpu i fynd i'r afael â broblem hon. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, fel y gŵyr yr Aelodau yma, maen nhw wedi cyflwyno ardoll safleoedd gwag yn ddiweddar i annog datblygiad tir diffaith a gwag. Yn yr un modd, mae bwrdeistrefi yn yr Unol Daleithiau wedi defnyddio trethiant yn llwyddiannus hefyd i annog datblygiad tir diffaith.

Mae'r darlun rhyngwladol yn awgrymu y gall trethiant yn sicr fod yn arf pwerus i hybu datblygiad. Nid dweud yw hynny, wrth gwrs, fod modd inni godi a gollwng y profiadau hyn o weinyddiaethau eraill yn y cyd-destun Cymreig, ond ceir digon o dystiolaeth yn sicr i awgrymu bod hwn yn ddull sy'n deilwng o'i ymchwilio ymhellach.

Dirprwy Lywydd, mae'n egwyddor sylfaenol gan Lywodraeth Cymru y dylai datblygiad polisi, yn drethiant neu beidio, fod yn seiliedig ar dystiolaeth. Gan hynny, cam cyntaf ein gwaith fydd ymroi eto i adeiladu'r dystiolaeth honno i sicrhau ein bod yn cyrraedd y ddealltwriaeth orau posib o'r materion a sut y gallai ein hymyriadau fynd i'r afael â nhw. Trwy fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn awr, byddwn mewn sefyllfa gadarn i wneud penderfyniadau angenrheidiol pe cytunir ar y pwerau angenrheidiol. Mae cwestiynau pwysig ynglŷn â'r modd y gallwn gymell ymddygiad cadarnhaol yn y sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat, a sut y gallai'r polisi wasanaethu i annog adfywiad tir trefol sy'n ddiffaith neu nad oes digon o ddefnydd ohono, yn ogystal â darparu tai.

Rwy'n cydnabod mai dim ond trwy gydweithio'n agos â'n rhanddeiliaid y gallwn sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion heb roi baich anfwriadol ar adeiladwyr a datblygwyr cyfrifol. I'r perwyl hwnnw, rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi dechrau cyfrannu at ddatblygu'r cynigion hyn yn barod.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:07, 15 Mai 2018

Dirprwy Lywydd, mae'r grŵp cynghori ar drethi eisoes yn helpu i lywio ein syniadau, ac rydym ni wedi dechrau siarad ag awdurdodau cynllunio Cymru, adeiladwyr tai a nifer o gymdeithasau busnes. Rydw i'n bwriadu sefydlu grŵp penodol, o blith y rhai sydd â diddordeb agos yn y maes hwn, i gynghori a datblygu polisi. Fel hyn, wrth inni fynd ati i sicrhau pwerau, byddwn ni'n parhau i weithio yn agos â rhanddeiliaid i helpu llywio penderfyniadau'r dyfodol ynghylch a ddylem ni fwrw ymlaen â threth ar dir gwag.

Dirprwy Lywydd, mae'n dal yn ddyddiau cynnar yn y broses newydd hon ar gyfer datganoli yng Nghymru—proses nad ydym ni wedi rhoi cynnig arni o'r blaen. Gobeithio fy mod wedi llwyddo i nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn a'r cynlluniau ar gyfer datblygu pellach dros y misoedd nesaf. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi gwybod i'r Aelodau wrth inni symud drwy'r broses newydd hon. Diolch.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:09, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet heddiw? Mae'n siŵr ei bod yn rhaid ichi fod yn gallu troi eich llaw at bob dim yn y byd treth newydd, onid oes, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae llawer o'r trethi yn ymwneud â thir mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, felly rwy'n siŵr eich bod yn mynd yn arbenigwr yn eich rhinwedd eich hun.

Fel yr oeddech chi'n dweud heddiw, mae hwn yn dir newydd i Lywodraeth Cymru ac i'r Cynulliad hwn, ac rwy'n deall bod eich datganiad heddiw mewn dwy ran, yn bennaf, fel yr ydych chi wedi'i esbonio. Felly, mae gennych chi brawf ar y peiriant treth newydd drwy gyfrwng y mecanweithiau ar y naill law, y gellir eu defnyddio gyda threthi eraill wedyn, wrth gwrs, ac yna'r dreth wirioneddol, y dreth tir gwag, ar y llall arall—y dreth yr ydych wedi penderfynu symud ymlaen â hi. Mae'r rhan hon o'r broses—trydedd ran y broses—cyn bwysiced â datblygu'r dreth ei hun.

Mae'n debyg mai fy nghwestiwn cyntaf yw: pa fath o amserlen yr ydych yn edrych arni yma? Fel y dywedaf, rwy'n sylweddoli mai dyddiau cynnar yw'r rhain ac ni allwch fod yn fanwl gywir ynglŷn â hynny, ond, mae'n amlwg ein bod ar ddechrau'r broses ac nid ydym wedi bod drwy hyn o'r blaen. Pa fath o amserlen fras a ragwelwch fydd gan bob un o'r gwahanol rannau hyn o'r broses, er mwyn cyrraedd y pwynt y penderfynir ar y dreth neu beidio? Fel y dywedaf, rwy'n deall y ceir nifer o rwystrau i neidio drostyn nhw cyn daw'r ateb i hynny. Rydych wedi sôn am y gwahanol hawliau sy'n ofynnol gan y Cynulliad a Dau Dŷ’r Senedd, ond os gwireddir hynny i gyd yn ôl y cynllun, pryd ydych chi'n tybio y gwelir treth newydd yn dod i rym?

A chan droi at y dreth ei hun, mae'n amlwg, mewn llawer o ffyrdd, nad oes dedfryd eto oherwydd mae nifer o wahanol lefelau o graffu i fynd drwyddyn nhw cyn y gellid penderfynu ar hynny, a byddai gwelliannau iddi a beth fynnwch chi. Rwyf i o'r farn, o'r hyn a welais i, fod rhai rhesymau cadarn dros weithredu treth ar dir gwag, ac rydych wedi cyffwrdd â rhai o'r dadleuon hynny heddiw. Rwyf wedi edrych ar yr ystadegau, ac amcangyfrifir bod datblygwyr tai'r DU yn dal eu gafael ar oddeutu 600,000 o leiniau o dir sydd wedi cael caniatâd cynllunio ond heb eu datblygu hyd yn hyn. Credaf fod ystadegau Cymru ar flaenau eich bysedd. Nid oedd y rheini gennyf i—cefais rai ar lefel y DU, ac mae'n amlwg fod swm aruthrol o dir ar hyn o bryd yn y banc.

Yn ôl y Gofrestrfa Tir, mae hynny hefyd yn cynnwys yr arfer o brynu tir nas datblygwyd gyda'r bwriad o'i rannu'n lleiniau llai ac yna ei werthu am brisiau uwch—arfer sydd wedi bodoli ers cryn amser, rwy'n siwr. Wrth gwrs, os yw hynny'n digwydd, mae'n golygu y bydd pobl sy'n aros am dai, ac yn aros am dai i gael eu hadeiladu, yn gorfod aros am fwy o amser nag y byddent fel arall oherwydd hynny. Mae'r posibilrwydd—. Fe ddylwn ddweud bod y pwyslais ar werth posibl tir yn y dyfodol yn erbyn y pris gwerthu presennol. Mae'n ddrwg gennyf— rhan olaf y frawddeg na lwyddais i'w gorffen oedd honno.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddan nhw'n edrych ar yr holl faes hwn eu hunain. A ydych yn cysylltu â nhw ynglŷn â hynny, neu â'r swyddogion yn San Steffan? Mae'n debyg mai'r allwedd i'r cwestiwn hwn, a'r allwedd i ddatblygu'r holl drethi, yw: a ydych yn hyderus fod y dreth yr ydych yn ei chynnig yn angenrheidiol mewn gwirionedd—a fydd hi'n datrys y materion yr ydym ni'n mynd i'r afael â nhw? Rwy'n llwyr ddeall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am dreth yn offeryn gwerthfawr i newid arferion, ond, wrth gwrs, nid treth yw'r unig ddewis. Nid oes raid ichi ddefnyddio'r offeryn sydd gennych chi yn eich meddiant bob amser pe bai dewisiadau eraill y gellid eu defnyddio i leddfu'r sefyllfa.

Fel y deallaf, yn ôl adroddiad dros dro Oliver Letwin i Lywodraeth y DU, ymddengys mai prif yrrwr y cyfraddau adeiladu, pan roddir caniatâd i safleoedd mawr, yw'r gyfradd amsugno—y gyfradd y gellir gwerthu cartrefi newydd a adeiladwyd heb wyrdroi prisiau'r farchnad leol. Mae'r math o gartref, hefyd, yn ffactor yn hynny, felly, yn amlwg, mae hon yn dirwedd gymhleth y mae angen inni weithio oddi mewn iddi.

Roeddech chi'n sôn am wledydd eraill—edrychais ar esiampl Iwerddon. Pa wersi y gellir eu dysgu oddi wrth wledydd gyda threth tir gwag, yn eich barn chi? Nodaf fod yr ardoll yn Iwerddon yn cael ei feirniadu yn barod gan rai gwerthwyr blaenllaw dros fôr Iwerddon. Mae'r cynnydd yn y gyfradd yno i 7 y cant wedi arwain at bryderon y gallai chwyddo ffyniant a methiant y tu hwnt i'r hyn a fyddai fel arall hebddo. Gan fod tir yn cael ei ystyried yn ddeunydd crai, mae'n naturiol i ddatblygwyr gadw stoc o dir datblygu, ond ni fyddan nhw'n cadw banc o dir mewn marchnad araf, sy'n golygu y bydd datblygwyr yn treulio'r blynyddoedd cynnar yn trefnu safle yn hytrach nag adeiladu'r tai y gallasen nhw ac y dylsen nhw fod yn ei wneud. Rwy'n gwybod mai cwestiwn ar gyfer cyfnod sydd i ddod yw hwn fwy na thebyg, ond rwyf i o'r farn ei fod yn allweddol i ddatblygiad y dreth hon. Felly byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa dystiolaeth yr ydych chi'n ei loffa o esiampl gwledydd eraill.

Felly, croesawaf eich datganiad heddiw. Credaf ei fod yn iawn ynddo'i hun, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n credu bod y Cynulliad yn sylweddoli bod profi'r peirianwaith yn hollbwysig yn y cyfnod hwn. Er y bydd llawer o'r cwestiynau hyn yn aros yn y dyfodol, credaf y byddai'n beth da pe baech yn rhoi peth cig ar yr esgyrn nawr o ran pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael â Llywodraethau eraill ac â'r sector.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:14, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau yna. Mae'n iawn i ddweud mai datganiad i ddiweddaru yw datganiad heddiw, wedi'i gynllunio i wneud yn siŵr bod Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol o'r sefyllfa ynglŷn â datblygu'r posibilrwydd newydd hwn ar gyfer datganoli. Nid ydym mewn lle pendant o gwbl o ran treth ar dir gwag, ond credais ei bod yn bwysig—y byddai Aelodau yn dymuno gwybod pa gam yn y broses yr ydym wedi ei gyrraedd a'r sefyllfa o ran datblygu syniadau polisi hefyd.

O ran yr amserlenni yr oedd Nick Ramsay wedi gofyn imi amdanyn nhw, fel y dywedais yn y datganiad, rwy'n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i wneud cyflwyniad ffurfiol i'r Trysorlys yn ystod tymor yr hydref eleni. Mae llawer o waith yn digwydd gyda'r Trysorlys i wneud yn siŵr ein bod wedi cael trefn ar y deunyddiau y bydd eu hangen arnyn nhw i allu gwneud penderfyniad bryd hynny. Felly rydym yn gwneud y gwaith hwnnw ar hyn o bryd a byddwn yn ei gyflwyno yn ffurfiol yn yr hydref. Bydd gan y Trysorlys wedyn waith i'w wneud wrth iddo ystyried y deunydd a ddarparwyd gennym ni. Rwy'n credu y bydd eu rheolau nhw yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gynnal ymgynghoriad byr eu hunain ar ein cynigion ni. A phe byddai hynny'n llwyddiannus, wedyn yn y gwanwyn gobeithio y byddem mewn sefyllfa lle byddai'r Trysorlys yn mynd â'r Gorchmynion angenrheidiol drwy Senedd y DU, a'r Cynulliad fydd yn penderfynu a yw'n dymuno ymgymryd â'r pŵer newydd ai peidio.

Wedi hynny, fy mwriad i fyddai ymgynghori ar y syniad o dreth tir gwag yma yng Nghymru, a bod â mwy o ddyfnder yn y manylion yn sail i'r hyn a gynigiwn. Rwy'n dal i gadw meddwl agored ynglŷn â'r man y bydd hyn oll yn ein harwain ni iddo, a phe byddai'r dystiolaeth a gawsom drwy ymgynghoriad yn ein darbwyllo nad oedd gwerth i'r syniad yma yng Nghymru, yna byddai'n rhaid inni ddysgu gwers yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n cychwyn ar fy nhaith gyda pheth hyder mai arf defnyddiol yw hwn y byddem yn awyddus i'w ddatblygu. Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â chael ein hysbysu gan dystiolaeth yn y ffordd yr ydym yn gwneud penderfyniadau, mae'n rhaid inni fod yn ddigon meddwl agored yn y maes newydd iawn hwn i fod yn agored i'r ffaith y gallasai'r ymgynghoriad hwnnw roi tystiolaeth a fyddai'n mynd i gyfeiriad gwahanol. Felly, nid wyf i'n disgwyl i'r broses fod yn gyflym. Rwy'n credu ei bod yn bwysicach ein bod yn ei gwneud yn iawn yn hytrach na brysio i wneud defnydd o'r pŵer yr ydym wedi'i gael. Rwy'n dymuno gwneud hyn yn drwyadl ac rwy'n awyddus i sicrhau bod y rhai sydd â diddordeb yn gwybod y bydd eu barn a'u lleisiau yn cael eu clywed yn iawn yn hyn i gyd.

Fy safbwynt cychwynol yw fod hyn, fel y dywedodd Nick Ramsay, yn ddim ond un arf sydd ar gael i'n helpu yn y maes hwn, ond credaf y bydd yn debygol iawn o fod yn un defnyddiol ac effeithiol, ond nid dyna'r unig ffactor—mae cyfraddau amsugno a ffactorau eraill yn bwysig hefyd. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ddysgu gwersi gan eraill lle y gallwn. Yn Ngweriniaeth Iwerddon, mae'r Llywodraeth yno wedi bod yn hael iawn yn rhoi amser ei uwch swyddogion inni i wneud yn siŵr ein bod wedi dysgu o'u profiad hyd yn hyn. Gofynnodd Nick Ramsay i mi beth oedd y gwersi yn fy marn i; ni wnaf ond nodi dwy ar hyn o bryd. Credaf mai'r peth cyntaf iddynt ddweud wrthym oedd ei bod yn bwysig iawn fod hwn yn syniad sy'n seiliedig ar gynllunio, ac nid yn syniad er mwyn codi treth. Rydych yn ei wneud er mwyn i'r system gynllunio a'r hawliau y mae'n eu darparu fod yn effeithiol. Ac, yn ail, credaf iddyn nhw ddweud wrthyf i am beidio ag anghofio bod adfywio lawn cyn bwysiced diben i'r dreth hon â thai. Tai yw'r peth amlwg y byddwch yn cyfeirio ato, dyna'r duedd, ond mae adfywio yn amcan polisi sydd yr un mor bwysig ar gyfer treth ar dir gwag.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:18, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi. Simon Thomas.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Llywydd—Dirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gen i. Rwy'n croesawu datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet. Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu'r ffaith ein bod ni'n defnyddio'r grymoedd newydd yma, a bod yna broses yn ei lle er mwyn cytuno gyda Llywodraeth San Steffan sut y dylai'r pwerau yma gael eu trosglwyddo i Gymru. Mae yn bwysig, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud, ein bod ni'n edrych ar y dystiolaeth, ac yn sicr nid ydym yn gwrthwynebu treth o'r fath mewn egwyddor, ond fe fyddem ni eisiau gweld bod y dreth yn mynd i weithio yn y cyd-destun Cymreig ac yn mynd i'r afael â'r cwestiwn sylfaenol o ai dyma beth sydd yn dal datblygu tir ar gyfer adfywio neu dai yn ôl yng Nghymru, neu a oes yna ffactorau eraill ar waith. 

Yn y cyd-destun hwnnw, rydych yn dweud yn eich datganiad eich bod chi am sefydlu grŵp penodol fel rhan o'r grŵp ymgynghorol sydd gyda chi i edrych ar y maes yma. A gaf i jest ofyn i chi ddweud ychydig mwy am sut rŷch chi'n gobeithio y bydd y grŵp yna yn gweithio? Hynny yw, a fydd e'n grŵp sy'n wynebu yn allanol, fel petai, yn cymryd tystiolaeth? A fydd e ar gael i ddod i'r Pwyllgor Cyllid, er enghraifft, i rannu ei ganfyddiadau? Neu a ydy e'n grŵp hollol—ni wnaf ddweud 'cyfrinachol', ond tu ôl i'r llenni, tu fewn i'r Llywodraeth? Pa fath o grŵp yw hwn? Rwy'n gofyn er mwyn i bobl deimlo'n hyderus fod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf eang y tu fewn i hynny.

Rŷch chi hefyd yn dweud yn eich datganiad, ac rwy'n cytuno'n llwyr—beth rwyf newydd grybwyll, a dweud y gwir—fod nifer o ffactorau yn effeithio ar y ffaith bod tir heb ei ddatblygu yng Nghymru er bod caniatâd cynllunio arno fe. Mae gennych chi gynllun arall, wrth gwrs, ar gyfer safleoedd sydd wedi'u rhewi neu sy'n stalled, fel rŷch chi'n eu galw nhw, ac yn y gyllideb eleni roeddech chi'n sôn am ddefnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol ar gyfer y pwrpas yna. Nid ydw i'n gwybod a ydych chi'n gallu ein diweddaru ni ynglŷn ag a ydy'r cynllun yna'n gweithio, ond yn benodol, sut ydych chi'n meddwl y byddai'r cynllun yna yn mynd law yn llaw gydag unrhyw dreth tir gwag arfaethedig? Achos mae'n amlwg os nad yw argaeledd arian yn symud rhai o'r safleoedd yma, a ydy treth arnyn nhw yn mynd i'w symud nhw? Mae yna rywbeth arall efallai yn dal y datblygiadau yma yn ôl, ac yn y cyd-destun yna wrth gwrs, cynllunio, caniatâd ar gyfer wayleaves a phethau felly, mae yna nifer o ffactorau sy'n gallu effeithio ar dir a datblygu tir. Jest os fedrwch chi roi unrhyw syniad i ni o sut rŷch chi'n mynd i ystyried y pictiwr llawn yma. Rwy'n derbyn eich bod chi'n dweud yn y datganiad eich bod chi'n mynd i wneud, ond beth yw'r camau penodol er mwyn sicrhau bod y dreth yn mynd i ateb unrhyw alw penodol? 

A gaf i ofyn hefyd, jest ar y pwynt olaf—pwynt sydd wedi cael ei wyntyllu yn weddol ddiweddar ac mae'n ymwneud â thir yng Nghymru? Mae yna fwriad gan y Blaid Lafur ar lefel y Deyrnas Gyfunol i sôn am yr hawl i brynu tir ar gyfer tai fforddiadwy—ymddiriedolaeth tir sofran yw'r ffordd y mae wedi ei disgrifio hyd yma. Rwy'n credu bod eich Ysgrifennydd Cabinet dros faterion gwledig, sydd yn gyfrifol am gynllunio, wedi sôn bod hwn yn bosibiliad yng Nghymru neu o leiaf yn rhywbeth i'w ystyried. Eto, datblygiad arall a fydd yn gorfod ffitio mewn i unrhyw ddatblygiad o dreth o'r math yma, achos rŷm ni'n sôn am sawl ffordd wahanol fan hyn o flingo cath mewn ffordd. Felly, ble y mae'r cysyniad yma yn ffitio i mewn i'r cynlluniau hyn? Ac a fyddwch chi, pan fyddwch chi'n trosglwyddo—? Dywedwch eich bod chi yn penderfynu mynd ymlaen â'r dreth yma, a fyddwn ni fel Cynulliad yn gallu ystyried y dreth, nid jest ar ei phen ei hunan, ond yng nghyd-destun y paceidi yma o bolisïau rydw i wedi'u crybwyll yma, ac efallai bod yna rai eraill, fel bod gyda ni syniad mwy cyfansawdd o beth yw polisi ehangach y Llywodraeth tuag at dir, datblygu tir a meysydd cynllunio?  

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:22, 15 Mai 2018

Diolch i Simon Thomas am y cwestiynau yna. Rydw i'n cytuno â beth ddywedodd e i ddechrau. Rydw i'n awyddus i ddefnyddio'r posibiliadau newydd sydd gyda ni a dyna pam rŷm ni wedi dechrau ar y broses o brofi'r mecanwaith newydd ac rŷm ni'n creu'r mecanwaith, achos, wrth gwrs, nid oedd mecanwaith yna o'r blaen. So, un pwrpas o'i wneud e yn y lle cyntaf yw jest i ddysgu y gwersi sy'n mynd i ddod mas o drial y ffordd am y tro cyntaf ac i weld, fel y dywedodd Simon Thomas, sut y mae hyn yn mynd i weithio yn y cyd-destun Cymreig.

Dyna pam rydw i yn mynd i dynnu grŵp newydd at ei gilydd. Rŷm ni'n mynd i ddefnyddio un neu ddau berson, rwy'n meddwl, mas o'r grŵp sydd gyda ni'n barod sy'n cynghori'r Llywodraeth ar y busnes trethi yn gyffredinol, ond rydw i eisiau tynnu i mewn i'r grŵp nifer o bobl sydd â diddordeb penodol yn y maes—pobl sy'n gweithio, pobl sy'n datblygu tir, pobl sy'n adeiladu tai, a grwpiau fel Shelter hefyd sydd ag agweddau eraill i'w rhoi i mewn. Rydw i'n awyddus i dynnu i mewn i'r grŵp bobl gyda phrofiadau yn y maes o—rydw i wedi anghofio'r gair yn Gymraeg—y broses o regeneration. Adfywio—diolch yn fawr.

Nawr, sut fydd y grŵp yn gweithio? Wel, nid ydw i wedi siarad ag aelodau'r grŵp ar hyn o bryd. Y bwriad, rwy'n meddwl, yw rhoi cyngor i ni fel y Llywodraeth, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o bobl ar y grŵp sydd fel arfer yn dod i roi tystiolaeth ar ran y gwaith y maen nhw'n ei wneud pan fydd pwyllgorau'r Cynulliad yn gwneud ymchwiliad. Ond rwy'n hollol hapus i siarad â nhw os bydd posibiliadau eraill iddyn nhw wneud gwaith i helpu'r pwyllgorau hefyd. 

O ran y stalled sites fund, jest i ddweud, fel mae rhai Aelodau yma yn gwybod, rŷm ni wedi rhoi arian newydd i mewn i helpu safleoedd fel yna i ddod at y farchnad.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:25, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ceir safleoedd yng Nghymru na ellir eu dwyn i'r farchnad eto. Ni fyddai'n bosibl eu gwerthu yn y cyflwr y maen nhw ynddo ar hyn o bryd. Felly bwriad y gronfa safleoedd sydd ar stop yw helpu'r rhai sydd yn berchen ar y safleoedd hynny i fod â'r gallu i wneud y gwaith angenrheidiol a fyddai'n eu galluogi i'w cael eu troi at ddefnydd buddiol. Felly, maen nhw rhyw gam neu ddau y tu ôl i lle y byddai treth ar dir gwag yn sefyll oherwydd, fel y dywedais yn fy natganiad, nid diben y dreth tir gwag yw cosbi unrhyw un sydd yn gwneud pob ymdrech i ddod â safle sydd â chaniatâd angenrheidiol i ennill elw o'i defnyddio. Mae'r gronfa safleoedd sydd ar stop ar gyfer safleoedd nad ydynt yn y cyflwr hwnnw eto, ac rydym yn gobeithio creu rhyw fath o gadwyn a fydd yn dod â nhw i'r farchnad a'u defnyddio er elw maes o law.

Rwy'n cytuno, unwaith eto, gyda'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â phan ddaw'r Cynulliad i ystyried treth ar dir gwag a bod gennym ni ganlyniadau'r ymgynghoriad ac ati: bydd yn bwysig i roi hynny yn y cyd-destun ehangach. Ac mae gwaith wedi'i gychwyn gan fy nghyd-Aelod y Gweinidog Tai ac Adfywio gydag adolygiad annibynnol o dai fforddiadwy, a sut y byddwn yn gwneud mwy yn y maes hwnnw yn y dyfodol. Bydd hynny'n ein helpu i greu'r cyd-destun ehangach hwnnw lle gellir asesu'n briodol yr hyn y gall yr arf penodol hwn a'i gyfraniad ei wneud.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:26, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'r datganiad, ac rwyf yn y sefyllfa baradocsaidd o fod yn fawr iawn o blaid datganoli'r pŵer i drethu, ond nid mewn gwirionedd yn awyddus iawn i'w ymarfer. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i wneud o'r blaen, sef fy mod o blaid cystadleuaeth ar dreth oherwydd credaf ei bod, yn gyffredinol, yn tueddu i weithio yn erbyn codiadau mewn trethi ledled y Deyrnas Unedig. Ond tybed a yw'r dreth tir gwag wedi'i dewis am ei bod, ymhlith yr holl drethi posibl, y lleiaf tebygol o effeithio ar fwy na nifer bychan iawn o bobl. Rwy'n credu ei bod yn dreth dda iawn yn hynny o beth i'w dewis ar gyfer profi'r system, ac rwyf o'i phlaid yn fawr iawn.

Mewn gwirionedd rwyf wedi darllen dogfen Llywodraeth Cymru 'Safleoedd sydd ar Stop a Chytundebau Adran 106'. Nid yw'n ddifyr ei darllen, ac ni chafodd ei bwriadu i fod felly. Ond yr hyn a wnaeth fy nharo o'i darllen yw pa mor fychan yw nifer yr achosion a allai gael eu heffeithio gan y dreth hon, os yw wedi'i chynllunio ar gyfer nodi achosion o fancio tir lle bo datblygwyr yn eistedd yn fwriadol ar dir y dylid fel arall ei ddatblygu ac y gallen nhw ei ddatblygu ond eu bod wedi penderfynu peidio â gwneud hynny. Wrth gwrs, ceir adegau pan fydd cymhelliad i wneud hyn. Rwy'n cofio'n dda, fel yn siŵr y gwna Ysgrifennydd y Cabinet ei hun, yn y 1970au cynnar roedd yna gryn ddadlau ynglŷn ag adeilad Centre Point yn Llundain a oedd yn eiddo i Harry Hyams. Roedd yr adeilad yn wag am lawer o flynyddoedd oherwydd roedd gwerth tybiannol yr adeilad yn fwy fel adeilad gwag gyda'r posibilrwydd o'i werthu fel y cyfryw na phe byddai yn llawn o swyddfeydd yn talu rhent. Ystyrid hynny yn sgandal ar y pryd, rhyw 40 mlynedd yn ôl.

Ond y pwynt yr wyf yn awyddus i'w wneud yn hyn o beth yw, os ydym am gael treth ar dir gwag, bydd yn rhaid iddo fod yn sensitif i amgylchiadau economaidd. Roedd yr 1970au cynnar yn gyfnod pan welwyd prisiau eiddo yn codi'n gyflym, mewn modd anghynaladwy yn wir. Ac yn syth ar ôl hynny, ym 1975, bu cwymp yn y farchnad a chafwyd cam yn ôl. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ddigon hyblyg i allu ymdopi â'r amgylchiadau oherwydd mae'r hyn sydd yn sgandal mewn un achos yn ddim ond canlyniad amgylchiadau economaidd anffodus mewn achos arall, ac nid ydym yn dymuno, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i ddweud eisoes, canfod bod busnesau yn cael eu cosbi'n annheg am beidio â gwneud yr hyn sydd, ar y pryd, yn amhosibl am resymau amrywiol.

Soniodd am yr astudiaeth gan Oliver Letwin sy'n mynd rhagddi ar hyn o bryd. Unwaith eto, yr hyn sy'n fy nharo i wrth ddarllen ei lythyr yw pa mor gyfyng yr ymddengys golygon yr astudiaeth honno ar hyn o bryd hefyd, oherwydd mae'n edrych yn unig ar safleoedd mawr ar gyfer datblygu ar hyn o bryd. Yn ystod yr astudiaeth honno mae Letwin yn cydnabod bod pob math o resymau economaidd neu gynllunio neu dechnegol fel na fwrir ymlaen â'r datblygiadau hynny. Ac o ran tai cymdeithasol, eto, gan fod tai cymdeithasol o dan gytundebau adran 106 yn cael eu hariannu gan werthiant llwyddiannus gweddill y datblygiad, os na ellir gwerthu'r tai hynny, yna, wrth gwrs, nid oes unrhyw arian ar gael i adeiladu'r tai cymdeithasol.

Felly, mae hwn yn fatrics cymhleth iawn y mae'n rhaid ei ddeall. Gan hynny, pan fydd treth yn cael ei ffurfio, os neu bryd bynnag y digwydd hynny, teimlaf ei bod yn mynd i gynnwys darn cymhleth iawn o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol mewn gwirionedd i nifer bychan iawn o achosion posibl yn ymarferol. Felly, er fy mod o blaid rhoi cynnig ar hyn—a derbyniaf yn llwyr y pwynt a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn mynd i seilio ei benderfyniadau ar dystiolaeth; mae hwnnw'n ddatganiad canmoladwy iawn i'w wneud—bydd angen inni, rwy'n credu, gael llawer mwy o dystiolaeth na'r hyn a ddarperir yn y ddogfen ar safleoedd sydd ar stop a chytundebau adran 106. Yn fy marn i, bydd angen inni edrych ar nifer mawr o astudiaethau academaidd am yr hyn sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o'r byd hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y cyfan ar gael ar ffurf hwylus fel y gall Aelodau'r Cynulliad gael dadl arno, ond dymunaf yn dda iddo ar ei fenter hyd yn oed os ydw i'n gohirio rhoi barn ar yr hyn a ddaw yn y diwedd. Felly, ni allaf addo iddo fy mod yn mynd i gefnogi'r hyn y bydd yn ei gyflwyno ar ddiwedd y daith, ond byddaf yn sicr yn cefnogi'r broses.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:31, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rwy'n deall bod yr Aelod o farn wahanol ynglŷn â'r rhan y gall trethiant ei chwarae orau yn y ffordd yr ydym yn cynnal ein busnes. Mae e'n iawn i ddweud bod treth ar dir gwag wedi'i dewis yn rhannol am nad oeddwn i eisiau anfon syniad o gwmpas a fyddai'n gorlethu'r broses eginol iawn hon. Mae rhai o'r syniadau eraill a drafodwyd yn syniadau llawer pwysicach, ond roeddwn yn teimlo na fuasem ni'n cael y gwersi o'r broses newydd pe byddem yn ymdrin â syniadau sydd yn llawer mwy arwyddocaol ynddynt eu hunain.

Adolygiad Oliver Letwin: nid wyf yn siŵr faint y byddwn yn gallu ei dynnu ohono ar gyfer Cymru, ond nodais ef oherwydd ei fod yn tarddu o'r ffigurau a ddyfynnodd Nick Ramsay, yn ddefnyddiol, yn gynharach ac sy'n dangos nad yw rhoi'r caniatâd a'r gwaith y mae'r cyhoedd wedi'i wneud i gael tir yn y cyflwr hwnnw yn cyfateb bob amser i'r defnydd a wneir o'r caniatâd hwnnw wedyn, ac nid mater i Gymru yn unig yw hyn.

Wrth gwrs, mae Neil Hamilton yn iawn i ddweud y bydd angen mwy o dystiolaeth. Ceisiais ddangos yn fy natganiad mai fy mwriad yw defnyddio'r cyfnod rhwng nawr a datganoli unrhyw bŵer i Gymru ar gyfer cryfhau'r sylfaen honno o dystiolaeth. Yna, erbyn yr amser y cawn ni ymgynghoriad ac y byddwn yn edrych ar sut y gellid defnyddio'r pwerau hynny, bydd gennym gorff llawer mwy cyfoethog o dystiolaeth yn barod i'w rannu ag eraill er mwyn gweld sut y gallai hyn gael ei ddwyn yn ei flaen.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:33, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu'r datganiad? Gan fynd yn ôl at sail trethiant, mae gennym ni ddau fath o drethiant, un math sydd yn codi refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, megis treth incwm, ac wedyn mae gennym ni drethi sydd yn drethi ymddygiad. Ac fe gyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet un o'r rheini eleni, sef y dreth gwarediadau tirlenwi, sy'n gwneud ailgylchu yn rhatach na gwarediadau tirlenwi er mwyn cael pobl i wneud daioni ac ailgylchu. Pe bai'r dreth dirlenwi wedi'i gosod ar lefel isel iawn yna ni fyddech yn gweld pobl yn ailgylchu fel y maen nhw. Ac wedyn, wrth gwrs, mae'r trethi dros bechod, fel alcohol a thybaco, sy'n gymysgedd o'r ddau. Rwy'n rhoi hon rywle rhwng treth dros bechod a chymysgedd o'r ddau a'r dreth gwarediadau tirlenwi, sy'n dreth ymddygiad. Felly, mae'n dreth ymddygiad plws: treth ymddygiad yr ydym yn gobeithio fydd yn dod â rhywfaint o arian inni hefyd. Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn hynny fel y ffordd ymlaen.

Mae angen iddi gymell ymddygiad cadarnhaol drwy gynyddu cost dal gafael ar dir. Mae llawer gormod o bobl yn dal eu gafael ar dir ac yn gwneud dim ond aros i'w werth gynyddu, fel eu bod mewn gwirionedd yn cynyddu gwerth eu tir ar y llyfrau heb gyflawni dim ag ef. Mae hyn yn llesol i'r cwmnïau ond nid felly i'n heconomi. Felly rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn dod o hyd i ryw fodd o allu defnyddio'r tir hwn. Rydym oll yn ymwybodol o fancio tir, a thir yn cael ei ryddhau'n araf i gadw'r cyflenwad tai ymhell islaw'r galw am dai, er mwyn cadw prisiau tai yn artiffisial o uchel a gwerth tir yn artiffisial o uchel fel y gall y tirfeddianwyr ac adeiladwyr gynyddu eu helw.

Gwyddom fod gwledydd eraill yn defnyddio treth i'w helpu i ymdrin â'r problemau, a gwyddom am yr hyn a wnaeth Gweriniaeth Iwerddon—ardoll safleoedd gwag—ac rwy'n credu, os gall Iwerddon wneud hynny, nid wyf i'n gweld unrhyw reswm pam na allwn ninnau wneud hynny'n llwyddiannus. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wybod hefyd, wrth gwrs, fy newis personol i oedd cael rhyw fath o dreth amgylcheddol. Pe byddwn i wedi bod yn eistedd yn ei sedd ef, treth amgylcheddol fyddai gennym ni yn hytrach na hyn, ond nid wy'n gweld dim o'i le gyda hyn fel ffordd ymlaen.

A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet ddatrys problem, y byddwn i gyd yn dod ar ei thraws? A wnaiff gadarnhau nad treth ar erddi ffrynt pobl fydd hon, sef yr hyn yr ydym yn mynd i weld y gwrthbleidiau yn ei gyflwyno yn y dyfodol? Nid yw'n mynd i drethu—. Nid yw fy ngardd ffrynt i yn mynd i gael ei threthu, ac nid yw eich gardd ffrynt chi yn mynd i gael ei threthu, ac ni fydd gardd ffrynt neb arall yn cael ei threthu. Bydd yn dreth—[Torri ar draws.] Bydd yn dreth ar dir sydd ar gael i adeiladu arno, gyda chaniatâd cynllunio, ac mae pobl yn dal eu gafael arno i gynyddu ei werth ar y llyfrau a rheoli rhyddhad tir.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:36, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Mike Hedges yn ein hatgoffa yn rheolaidd am y gwahanol ddibenion a gyflawnir gan drethiant—o godi refeniw i ffurfio ymddygiad—ac mae e'n iawn, mae gan y dreth hon rai elfennau o'r ddeubeth. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, gan gyflwyno cwestiwn Nick Ramsay am y gwersi i'w dysgu, cofiaf yr uwch swyddogion yno yn dweud wrthyf i mai eu huchelgais cyntaf oedd fod yn rhaid i'r dreth godi digon o refeniw i dalu am y gwaith sy'n ymwneud â'r newid ymddygiad y mae'r dreth wedi'i bwriadu ei gynhyrchu.

Mae Mike yn iawn: buddion annisgwyl y cynnydd yng ngwerth tir sy'n wrthun i bobl, pan fo'r buddsoddiad cyhoeddus wrth roi caniatâd i hynny yn achosi i werth y tir godi. Felly, mae'r cyhoedd wedi gwneud yr ymdrech, ond eto i gyd, yr unigolyn preifat sydd ar ei ennill, a dyna'r hyn sy'n wrthun i bobl.

Wrth gwrs, fe wnaethom ni ystyried treth amgylcheddol—treth plastigau, wrth inni ei thrafod bryd hynny. Y rheswm pam y penderfynais beidio â defnyddio honno yn brawf cyntaf o'r peirianwaith oedd nid y reswm a grybwyllais i Mr Hamilton, sef y gallai hi fod wedi llethu'r fecaneg, ond oherwydd bod y Canghellor wedi cyhoeddi yn ei ddatganiad yn yr hydref alwad am dystiolaeth gyda golwg ar greu treth ledled y DU yn y maes hwn. Ac roeddwn yn sicr, neu roeddwn yn credu fy mod yn sicr, pe byddwn wedi anfon treth o'r fath i lawr y lein er mwyn profi ein peirianwaith byddai'r ateb wedi dod yn ôl yn syth: 'Wel, nid oes dim y gallwn ni ei wneud i roi ateb ichi ynglŷn â hynny hyd nes bydd yr alwad am dystiolaeth wedi'i chyflawni.' Felly, byddem wedi rhoi stop ar y broses o'r cychwyn cyntaf, a dyna'r rheswm pam y penderfynais yn y diwedd beidio â mynd i lawr y llwybr hwnnw.

O ran gardd ffrynt Mike Hedges ac, yn wir, fy iard gefn innau yn Nhreganna, gallaf gadarnhau bod y ddwy yn ddiogel rhag treth ar dir gwag.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:38, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf i o'r farn fod y dull o reoli cyflenwad tir yn fater pwysig iawn; nid wyf wedi fy argyhoeddi y bydd hon yn ffordd arbennig o gynhyrchiol o wneud hynny, ond rwy'n agored i dystiolaeth yn sicr. Mae diddordeb cyhoeddus gwirioneddol yma—yr arian annisgwyl mwyaf, dylwn ddweud wrthych chi, Gweinidog, wrth gwrs, yw pan gaiff tir ei roi ar gyfer parthau i adeiladu pan fu defnydd blaenorol iddo, yn enwedig pan fyddai'r defnydd blaenorol yn amaethyddol. A, wyddoch chi, mae yna wir—. Y ffactor mwyaf gyda phrisiau tai uchel yw pris y tir mewn gwirionedd. Felly, mae diddordeb cyhoeddus gwirioneddol o ran cael system decach dros rai o'r grymoedd hyn. A dyna pam fy mod i'n eithaf hoffi archwiliad mwy cyfannol Oliver Letwin o'r maes penodol hwn. Ond fe ellid adeiladu 7,600 o gartrefi pe defnyddiwyd pob un o'r lleiniau tir presennol, ac mae hynny'n dros flwyddyn o'r cyflenwad tai yn ôl y gyfradd gyfredol y mae ei hangen arnom i gynyddu hynny.

Credaf fod un neu ddau o'r Aelodau—soniodd Neil Hamilton am hyn yn uniongyrchol—. Mae angen system arnom ni, os ydym am fynd ar hyd y trywydd hwn, sydd yn ddigon hyblyg i ystyried amodau'r farchnad oherwydd gallai rhai pobl gael eu cosbi yn ystod cyfnod o gwymp pan maent yn llwyr fwriadu defnyddio tir mewn ffordd gynhyrchiol, mewn gwirionedd, ond, am ba reswm bynnag, nad oes modd iddynt gael yr holl gyfalaf ynghyd i ymgymryd â rhaglen adeiladu. Ac felly rwyf i o'r farn (1) y gallech chi osod y bar yn uchel; y gallech chi ddweud na fyddai'r dreth ond yn gymwys ar ôl 18 mis neu ddwy flynedd—fe allech chi wneud hynny, a byddai hynny'n rhoi amser ichi asesu cyflwr y farchnad—neu, pe byddech chi'n gwneud hynny ar ôl blwyddyn, bod gennych rai ffyrdd o fod yn hyblyg, pe byddai amodau'r farchnad yn gofyn am hynny. Felly, credaf ei bod yn werth inni edrych ar hyn, ond, fel y dywedais, hoffwn ymatal rhag mynegi fy safbwynt i hyd nes y gwelwn dystiolaeth bellach. Ac, fel y dywedasoch, mae'r patrwm yn cael ei ddefnyddio mewn rhai gwledydd eraill, felly mae archwiliad pellach ar y sefyllfa yn y fan honno—yn arbennig o ran sut mae'n esgor ar farchnad fwy effeithiol, oherwydd credaf fod hynny'n wirioneddol bwysig. Yn y pen draw gallem danseilio'r farchnad ar rai adegau os nad ydym yn ofalus.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:40, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i David Melding am yr hyn a ddywedodd ef. Mae e'n llygad ei le fod yna fudd cyhoeddus sylfaenol yn hyn i gyd. Rwy'n rhoi sicrwydd iddo, pan ddeuwn at wneud y gwaith manwl ynglŷn â sut y gellid cynllunio treth, nad ydym yn cychwyn gyda'r bwriad o gosbi unrhyw un sydd yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod tir yn cael ei ddefnyddio yn gynhyrchiol. A bydd yn rhaid i rywfaint o ystyriaeth soffistigedig ddigwydd i wneud yn siŵr, gan fod amodau'r farchnad yn amrywio—ac maen nhw yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru yn barod; nid yw'n ymwneud â'r cylch yn unig, ond y ddaearyddiaeth hefyd—rydym yn llunio unrhyw dreth mewn ffordd ofalus i wneud yn siŵr ei bod yn dal y bobl hynny yr ydym yn awyddus i'w dal ac nad ydyw, mewn ffordd anfwriadol, yn cosbi pobl yn y pen draw, fel y dywedasoch chi, sy'n llwyr fwriadu gwneud defnydd cynhyrchiol o'r tir hwnnw.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:41, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ac, yn olaf, Vikki Howells.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chithau, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, mae hwn yn fater o wir ddiddordeb i mi ac roedd yn bwnc i'm dadl fer yn gynharach eleni. Felly, mae gennyf i ddau gwestiwn ar eich cyfer chi heddiw.

Yn gyntaf, rwy'n nodi eich sylwadau am dreth tir gwag yn cymell ymddygiadau cadarnhaol, ond a ydych yn cytuno â mi mai un o'i hamcanion canolog fyddai mynd i'r afael ag ymddygiadau niweidiol sy'n gysylltiedig â bancio tir? Er enghraifft, gallaf feddwl am nifer o enghreifftiau yn fy etholaeth i lle mae darn o dir segur, weithiau darn sylweddol iawn o ran maint, wedi'i leoli yng nghalon cymuned ac yn cael ei gadw mewn cyflwr dychrynllyd, gan effeithio ar les y gymuned. Dyfynnais etholwr yn fy nadl fer a oedd yn sôn am ei 11 mlynedd o uffern yn byw gerllaw safle o'r fath. Ym mha ffordd y credwch chi y gellid defnyddio treth ar dir gwag yn ysgogydd i fynd i'r afael â phroblemau o'r fath?

Yn ail, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod eich bod wedi siarad o'r blaen am bwysigrwydd diffinio tir gwag hefyd, gan ddweud bod hyn yn allweddol i weithrediad y dreth a chyflawni effaith y polisi. Yn benodol, credaf ei bod yn bwysig nodi bod adeiladau sydd wedi adfeilio, nid yn unig leiniau o dir gwag, yn aml yn hagru'r gymuned, fel y dywedais yn gynharach, a dylid eu cynnwys nhw hefyd mewn diffiniad o'r fath. A fyddech chi'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am eich ffordd o feddwl ynglŷn â hynny, os gwelwch yn dda?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:43, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n diolch i Vikki Howells am y cwestiynau hynny. Roeddwn wedi gobeithio y byddai hi'n cael ei galw i siarad am y datganiad hwn, oherwydd nid oeddwn yn gallu bod yn bresennol yn y Siambr yn ystod y ddadl fer, er fy mod wedi darllen y trawsgrifiad ohoni oddi ar hynny. Mae'r Aelod yn dwyn tystiolaeth ddiymwad yn ei blaen yn y ddadl fer honno o'r effaith y mae tir diffaith, y gellid gwneud defnydd iawn ohono, yn ei chael ar y gymuned ehangach. Ac wrth i mi ateb ei chwestiynau, rwy'n cael cyfle i ailbwysleisio pwynt yr oeddwn yn ceisio ei wneud tua diwedd fy natganiad i, sef bod hyn yn ymwneud ag adfywio a mynd i'r afael ag adfeiliad yn ogystal â materion tai. Oherwydd gwyddom nad yw tir sy'n gwneud dim yn mynd i aros yn yr unfan ond daw yn gyrchfan ar gyfer pethau fel tipio anghyfreithlon a mathau eraill o ddiffeithwch sy'n mynd yn ofid aruthrol i'r bobl sy'n byw gerllaw. Yn yr enghreifftiau gwaethaf—a chafodd rhai o'r rhain eu henwi i mi yng Ngweriniaeth Iwerddon—yr hyn a geir wedyn yw fod y sefyllfa'n gwaethygu a bydd pobl yn dechrau ymadael â'r ardal, ac mae'r adeiladau nawr yn segur yn ogystal â'r tir, a chyn pen dim, mae'r stryd gyfan, yr oedd y defnydd ohoni'n dda a chynhyrchiol ar un adeg, bellach yn fan nad yw pobl yn dymuno byw ynddo. A dyna pam y dywedais, wrth ateb cwestiynau cynharach, y gallai cael treth ar dir gwag fod yn arf llawn mor bwysig o ran atal y math hwnnw o ddiffeithwch a hybu adfywio. Oherwydd ochr arall y geiniog o hyrwyddo ymddygiad da yw atal ymddygiad niweidiol yn y ffordd y dywedodd Vikki Howells, a bydd ei diddordeb yn y pwnc hwn a'r cyfraniad a wnaeth hi yn y ddadl fer yn cael effaith yn bendant ar ein ffordd ni o feddwl wrth ddatblygu'r syniad hwn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:45, 15 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.