– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 23 Mai 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb P-05-785, 'Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.
Cynnig NDM6727 David J. Rowlands
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd’ a gasglodd 7,171 o lofnodion.
2. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar y ddeiseb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mai 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ran y Pwyllgor Deisebau, rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar y ddeiseb hon a'n hadroddiad ar y dystiolaeth a gawsom. Cyflwynwyd y ddeiseb yr ydym yn ei thrafod gan Tim Deere-Jones, a derbyniwyd 7,171 o lofnodion. Mae'n ymwneud â gwaddodion a gaiff eu carthu o aber afon Hafren ger y safle lle mae safle niwclear Hinkley Point C yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Fel y bydd pob Aelod yn gwybod, mae'r ddeiseb hon wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb a dadl.
O ran y cefndir, mae EDF Energy, drwy is-gwmni, wedi gwneud cais am drwydded forol i waredu'r gwaddodion a gaiff eu carthu mewn man arall yn aber afon Hafren. Gan fod y safle a ddewiswyd—Cardiff Grounds—ar ochr Cymru i Fôr Hafren, cafodd y drwydded ei hystyried a'i chyhoeddi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae'n bwysig fy mod yn ymdrin yn syth â rhai o'r heriau o ran amseru y mae'r Pwyllgor Deisebau wedi'u hwynebu wrth inni ystyried y ddeiseb. Ystyriwyd y ddeiseb yn gyntaf yn ystod mis Tachwedd 2017, er bod y drwydded forol, fel y byddaf yn trafod yn nes ymlaen, wedi'i chyhoeddi sawl blwyddyn yn gynharach mewn gwirionedd. Yn ôl ein dealltwriaeth ni hefyd, gellid trefnu i'r gwaith carthu ddigwydd o fewn cyfnod cymharol fyr o amser. O ganlyniad, aethom ati i gasglu tystiolaeth mor gyflym ag y gallem. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda'r deisebydd, EDF Energy, Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS—Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu—a gynhaliodd y dadansoddiad o'r gwaddod. Hefyd, derbyniodd ac ystyriodd y pwyllgor gryn dipyn o ohebiaeth ysgrifenedig. Mae hyn i gyd wedi ei ddogfennu yn ein hadroddiad ar y ddeiseb, a gyhoeddwyd ar 14 Mai.
Yn ystod eu tystiolaeth, dywedodd EDF wrthym fod y carthu i ddigwydd yr haf hwn. Felly, er mwyn galluogi i'r ddadl hon ddigwydd mewn modd amserol, dewisodd y pwyllgor lunio adroddiad ar y dystiolaeth a gawsom ar y cyfle cynharaf. Oherwydd hyn, nid ydym wedi cael amser i ddod i gasgliadau na chynhyrchu argymhellion. Gobeithio bod y trosolwg hwn yn darparu'r cyd-destun angenrheidiol i'r Aelodau ac unrhyw un sy'n gwylio'r trafodion heddiw.
Hoffwn ddiolch yn fyr hefyd i bawb a ddarparodd dystiolaeth i'r pwyllgor. Rydym yn gwerthfawrogi'r ffaith bod y bobl a'r sefydliadau yr ymgynghorasom â hwy wedi cydnabod ein hamserlenni ac wedi rhoi eu hamser a'u harbenigedd inni o fewn yr amserlenni hynny.
Trof yn awr at y dystiolaeth a gawsom. A gaf fi ddweud ar y cychwyn ein bod, fel pwyllgor, wedi ceisio ymdrin â'r ddeiseb a'r mater ehangach gyda'r difrifoldeb sy'n ofynnol? Hefyd rydym wedi ceisio rhoi blaenoriaeth i'r dystiolaeth wyddonol ac yn gobeithio ein bod wedi osgoi codi bwganod neu gamliwio.
Yn 2014, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru drwydded forol ar gyfer gwaredu'r gwaddodion. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol yn 2012, ac mae'n werth nodi, ar y pryd hwnnw, fod y broses drwyddedu'n cael ei rheoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Felly, trosglwyddwyd y drwydded gan Lywodraeth Cymru i Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses o ystyried y drwydded. Roedd y drwydded a gyhoeddwyd yn cynnwys nifer o amodau, gan gynnwys gofyniad i gasglu samplau o'r deunydd er mwyn eu dadansoddi, a bod yn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fodlon ei fod yn addas ar gyfer ei waredu.
Ysgogwyd y ddeiseb gan bryder nad oedd y profion hyn yn ddigon, ac y gallai'r gwaddodion fod yn ymbelydrol o ganlyniad i dros 50 mlynedd o waith ar safleoedd presennol Hinkley. Roedd prif bryderon y deisebwyr yn ymwneud â dwy elfen o'r profion: y dyfnder y casglwyd y samplau ohono a'r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer dadansoddi.
Fe ymdriniaf â dyfnder y samplu yn gyntaf. Roedd y deisebydd yn pryderu i ddechrau mai ar ddyfnder o 5 cm yn unig y casglwyd samplau. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gywir. Clywodd y pwyllgor fod samplau wedi'u casglu a'u profi yn 2009, 2013 a 2017. Casglwyd rhai o samplau 2009 ar ddyfnder o 4.8m. Mae'r asiantaethau a oedd yn gysylltiedig â'r profion wedi datgan na chanfuwyd crynodiad uwch o ymbelydredd ar ddyfnder, ac fe'u harweiniwyd gan hynny i ddod i'r casgliad nad oedd angen dadansoddiadau pellach o samplau islaw'r wyneb.
Dywedwyd wrthym hefyd mai un agwedd allweddol ar y broses o brofi yw mesur y dos y gallai'r criw carthu neu'r cyhoedd yn ehangach fod yn agored iddo o'r deunydd. Fodd bynnag, yn ystod ein hymchwiliadau daeth yn amlwg na wnaed cyfrif o'r dos ar y samplau yn 2009. Gofynasom i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau bod hyn yn cael sylw. Derbyniwyd y cais hwn a dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru wrthym ar ddiwedd mis Mawrth fod y cyfrifiad o'r dos wedi'i gynnal yn ôl-weithredol ac wedi dod i'r casgliad nad yw'r deunydd yn achosi unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd.
Serch hynny, mae'r deisebwyr wedi parhau i ofyn cwestiynau am ddigonolrwydd y profion. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o samplau a gymerwyd ar ddyfnder yn 2009—ac rydym yn deall fod pump ohonynt—a'r ffaith nad yw'r ymarfer hwn wedi'i ailadrodd ers hynny.
Ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y gallai profion ychwanegol gynnig sicrwydd pellach i'r cyhoedd. Ysgrifenasom at Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ionawr i argymell y dylent ofyn i ddeiliad y drwydded drefnu i samplau pellach gael eu cymryd a'u dadansoddi. Gofynasant i EDF ystyried hyn ar sail wirfoddol, ond gwrthodwyd hyn gan EDF ar y sail fod y dystiolaeth wyddonol eisoes wedi dangos nad yw'r deunydd yn ymbelydrol. Mynegodd Cyfoeth Naturiol Cymru y farn hefyd fod profion pellach yn ddiangen ac nad oedd yn rhywbeth y gallai ei ailystyried drwy'r drwydded neu ei hamodau. Er ein bod yn derbyn mai'r rhesymeg sylfaenol dros wneud profion ychwanegol oedd sicrhau'r cyhoedd yn hytrach na rheidrwydd gwyddonol, mae'r pwyllgor yn gresynu at y ffaith na weithredwyd ar yr argymhelliad hwn.
Gan symud ymlaen at fethodoleg y profion ei hun, ystyriwyd ystod o bryderon ynglŷn â'r profion a gynhaliwyd ac yn benodol, amrediad yr ymbelydredd a brofwyd. Cynhwysir manylion llawn yn ein hadroddiad ac efallai y bydd yr Aelodau yn falch o glywed nad af yn rhy ddwfn i'r wybodaeth dechnegol yn ystod y cyfraniad hwn. Mae'r pryderon yn ymwneud ag ansicrwydd ynghylch cyfyngiadau'r technegau sbectrometreg pelydr gama a ddefnyddiwyd, a nifer y canlyniadau a gofnodwyd yn flaenorol. Yn seiliedig ar y wybodaeth a gyhoeddwyd eisoes, roedd y deisebydd wedi cwestiynu a wnaed profion ar gyfer pob radioniwclid, neu ddim ond y rhai a gofnodwyd fel canlyniadau cadarnhaol. Argymhellwyd hefyd—a chafwyd cadarnhad gan CEFAS—na allai'r dechneg a ddefnyddiwyd adnabod ffurfiau alffa a beta ar ymbelydredd yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, cafodd y pwyllgor sicrwydd gan EDF, Cyfoeth Naturiol Cymru a CEFAS fod y profion a'r dadansoddiadau wedi'u cyflawni yn ôl y safonau rhyngwladol uchaf, a bod y rhain yn geidwadol wrth natur. Dywedwyd wrthym hefyd y byddai'r profion wedi nodi unrhyw radioniwclidau sy'n allyrru pelydrau gama sy'n bresennol yn y samplau, a bod y canlyniadau wedi'u defnyddio i ganfod darlleniadau o fathau eraill o ymbelydredd na ellir eu nodi'n uniongyrchol drwy ddefnyddio'r dechneg hon.
Codwyd nifer o bryderon a chwestiynau eraill ac darparwyd atebion ar eu cyfer yn ystod ein gwaith yn casglu tystiolaeth. Rhoddir sylw i'r pwyntiau hyn yn ein hadroddiad, ac rwy'n siŵr y bydd llawer yn cael sylw yn ystod gweddill y ddadl hon.
I grynhoi, nid yw ein hystyriaeth o'r ddeiseb hon wedi arwain at gyd-weld rhwng y rhai sy'n bryderus ynghylch y mater hwn a'r sefydliadau a'r asiantaethau sy'n gysylltiedig. Credaf y byddai'n deg dweud nad oedd hynny byth yn debygol o ddigwydd. Wrth gwrs, rydym yn ddibynnol ar y prosesau gwyddonol a'r asiantaethau sy'n eu goruchwylio, yn ogystal â'r rhai sydd â chyfrifoldebau i ddiogelu ein hiechyd ac iechyd yr amgylchedd.
Rwy'n siŵr fod lefel y pryder a'r gwrthwynebiad a amlygwyd gan y ddeiseb yn peri gofid i'r asiantaethau hynny. Rwy'n gobeithio bod y dystiolaeth a gasglwyd gan y Pwyllgor Deisebau yn ystod ein trafodaethau wedi helpu i ateb rhai o'r cwestiynau a godwyd am y mater hwn. Rydym wedi gwneud pob ymdrech i gofnodi'r dystiolaeth a gawsom yn gywir, a gobeithio hefyd y bydd pobl sydd â diddordeb yn y mater yn darllen ein hadroddiad ac efallai'n dod o hyd i atebion ynddo. Mae'r holl dystiolaeth a glywsom wedi'i chyhoeddi ar wefan y Cynulliad hefyd i bobl allu ei gweld.
Yn ôl yr hyn a ddeallwn mae'r carthu yn dal i fod i ddigwydd yr haf hwn, ond mae EDF yn aros i'r prosesau hyn gael eu cwblhau yn y Cynulliad. Teimlaf ei bod hi'n iawn inni gydnabod hynny. Fe orffennaf fy sylwadau agoriadol yn y fan honno, ac edrychaf ymlaen at wrando ar gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.
Rhoddodd David Rowlands grynodeb da iawn o'r hyn rydym wedi bod drwyddo. Yn fy marn i, nid oedd yn gorliwio pan ddywedodd nad oedd yna gyd-weld rhwng y deisebwyr ac EDF. Rwy'n credu eu bod, mae'n debyg, wedi dechrau ymhell iawn oddi wrth ei gilydd a heb ddod fodfedd yn agosach yn ystod yr holl drafod a gafwyd.
Fe ddechreuaf gyda safbwynt EDF. Maent yn dweud eu bod yn un o nifer o gwmnïau dros sawl degawd a fu'n carthu gwaddodion ym Môr Hafren ac yn ei ollwng mewn safleoedd gwaredu trwyddedig yn Cardiff Grounds. Maent yn dweud bod y gwaddodion y maent yn eu carthu ym Môr Hafren yn nodweddiadol o'r gwaddodion a welir yn unrhyw le ym Môr Hafren, ac fel y cyfryw nid yw'n wahanol i'r gwaddodion a geir eisoes yn Cardiff Grounds. Maent yn dweud nad yw'r gwaddodion yn ymbelydrol yn llygad y gyfraith ac nad yw'n fygythiad i iechyd dynol na'r amgylchedd. Ac maent yn dweud bod y gwaddodion wedi'u profi gan y corff annibynnol CEFAS yn 2009, 2013 a 2017, gan gynnwys samplu cynhwysfawr ar ddyfnder.
Nid oes unrhyw gwestiwn ynghylch uniondeb ac annibyniaeth y profion a gynhaliwyd gan CEFAS, sy'n gwneud gwaith o'r safon uchaf yn rhyngwladol, ac mae'n un o asiantaethau gweithredol DEFRA. Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru y sampl ddiweddaraf gan CEFAS ym mis Rhagfyr 2017. Ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr annibynnol, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar 27 Mawrth 2018 daeth Cyfoeth Naturiol Cymru i'r casgliad nad oedd y gwaddodion yn peri unrhyw risg i iechyd dynol nac i'r amgylchedd. Y farn gan Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Mawrth 2018 oedd bod y gwaddodion o'r safleoedd a garthwyd wedi'u profi'n drylwyr gan arbenigwyr annibynnol ac nad yw'r deunydd a garthwyd yn creu risg i bobl, yr amgylchedd na'r bywyd gwyllt sy'n byw yno.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Yn bendant.
Wrth gwrs, mae etholwyr wedi mynegi pryderon a gwneud llawer o sylwadau, ac mae un pwynt yn ymwneud â'r samplau a'r dadansoddiadau diweddar y cyfeiriwch atynt. Cafodd ei ddwyn i fy sylw nad yw o reidrwydd yn sefydlu diogelwch deunydd carthu dwfn. Felly, o'ch ystyriaethau fel aelod o'r pwyllgor sy'n derbyn tystiolaeth, tybed a ydych yn credu bod angen gwneud gwaith samplu pellach ar waddodion dwfn?
'Ydw' yw'r ateb. Fe ddof at hynny mewn ychydig eiliadau, ond ydw, rwy'n credu hynny'n gryf. Fe orffennaf y rhan gyntaf.
O ystyried yr ymbelydredd sy'n digwydd yn naturiol, a'r ymbelydredd artiffisial, mae'r lefelau mor isel fel nad ydynt yn peri unrhyw berygl i iechyd dynol nac i'r amgylchedd—dyna farn EDF.
Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Jane Hutt, pam fod yna broblem? Dywedwyd wrthym fod y cyfan yn ddiogel ac nad oes unrhyw broblemau. Pam y mae fy etholwyr yn cysylltu â mi? Rwy'n siŵr fod eu hetholwyr yn cysylltu â Jane Hutt ac eraill sy'n cynrychioli'r ardal o amgylch Caerdydd. Pam yr ydym yn trafod hyn heddiw os yw'n gwbl ddiogel? Mae llawer o aelodau o'r cyhoedd heb eu hargyhoeddi, ac nid yn unig y rhai sydd wedi llofnodi'r ddeiseb. Mae llawer o bobl wedi dod ataf ar y stryd a gofyn i mi am y peth. Mae pobl yn siarad â mi am y peth pan fyddaf yn mynd allan. Mae'n fater o bryder cyffredinol fod mwd yn cael ei gario o Hinkley Point gyferbyn a'i gludo yma. Mae EDF wedi dweud yr holl bethau hyn wrthym ynglŷn â pha mor ddiogel ydyw, ond mae pobl yn amheus. Mae'r mwyafrif helaeth o bobl rwyf wedi cyfarfod â hwy heb eu hargyhoeddi. Mae ganddynt bryderon ynglŷn â symud y mwd.
Felly, yr hyn rwy'n ei ofyn, a'r hyn rwyf wedi gofyn yn y Pwyllgor Deisebau—. Rydym wedi cael pob un o'r grwpiau hyn gyda'i gilydd, CEFAS, Cyfoeth Naturiol Cymru, EDF, oll yn cytuno ar hyn. Yr hyn a ofynnais yn y Pwyllgor Deisebau, a'r hyn rwy'n ei ofyn yma, yw: a ellir rhyddhau'r data i academyddion? A allwn gael asesiad o'r mwd gan academyddion? A ellir casglu samplau yn unol â chais yr academyddion? Mae gan bobl fwy o ffydd mewn academyddion nad oes ganddynt ddim i'w ennill drwy edrych ar y pethau hyn, nag sydd ganddynt yn asiantaethau swyddogol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain. Efallai fod hynny'n annheg â'r asiantaethau swyddogol, efallai ei fod yn angharedig i'r asiantaethau swyddogol, ond dyna yw barn fy etholwyr ac etholwyr pobl eraill: byddent yn hoffi i rywun o'r tu allan ddod i gael golwg arno.
Os yw'n ddiogel, yna rhaid cyflawni'r uchod er mwyn tawelu meddwl y cyhoedd. Os nad yw'n ddiogel, ni ddylai ddod yma. Ni allwn ddatrys hyn heddiw—rydym yn mynd i gael dadl a thrafodaeth yn ei gylch, dyna i gyd—ond mae'n gwestiwn gwyddonol; mae'n galw am ateb gwyddonol, mae angen i bobl ei brofi. Mewn iaith academaidd, mae'n galw am adolygiad gan gymheiriaid.
A gaf fi annog y cwmni i gynnal adolygiad academaidd gan gymheiriaid o'r data a'r fethodoleg a bod unrhyw samplau ychwanegol y gofynnir amdanynt gan yr academyddion yn cael eu darparu? Credaf mai'r unig beth sy'n mynd i dawelu meddyliau fy etholwyr, ac etholwyr pobl eraill rwy'n siŵr, ei fod yn ddiogel yw bod academyddion allanol nad ydynt yn rhan o'r hyn yr oedd un o'r bobl a ddaeth i'n gweld yn eu hystyried yn grŵp bach o bobl sydd i gyd yn gweithio'n agos gyda'i gilydd—. Dywedodd un o'r bobl a ddaeth fod pobl yn symud o gwmpas mewn swyddi rhwng y tri sefydliad. Maent eisiau pobl nad oes ganddynt fuddiant yn hyn, pobl y teimlant y gallant ymddiried ynddynt. A'r unig ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy gael academyddion allanol, felly hoffwn annog EDF o ddifrif i gynnwys yr academyddion. Maent yn dweud nad oes dim i'w guddio—gadewch i ni brofi hynny.
Hoffwn ddiolch i David Rowlands a'i Bwyllgor Deisebau am eu diwydrwydd yn eu gwaith ac am gynhyrchu'r adroddiad hwn? Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Tim Deere-Jones a aeth i'r drafferth i fy nghyfarfod a darparu gwybodaeth i mi ynglŷn â'r ymgyrch.
Fel Mike, rwy'n aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac wrth gwrs, rydym wedi trafod y materion hyn a chael tystiolaeth. Hefyd, rydym yn dwyn Ysgrifennydd y Cabinet i gyfrif ac rydym wedi trafod y materion hyn gyda hi.
Safbwynt Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac EDF Energy, y cwmni, fel y gallech ddisgwyl, yw nad oes unrhyw anhawster yma o ran diogelwch y gwaith a wneir. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar 29 Medi, a dyfynnaf:
mae'n bwysig nodi nad trwydded ar gyfer gwaredu gwastraff niwclear yw hi. Y deunydd a drwyddedwyd ar gyfer ei waredu yw gwaddodion a garthwyd o aber afon Hafren.
Diwedd y dyfyniad. Ac nid wyf yn meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt o gwbl. Nododd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn hyderus ynghylch cymhwysedd CEFAS ac yn credu nad oes angen ystyried atal y drwydded.
Dyna ddyfyniad uniongyrchol eto gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nid yw asesiad CEFAS wedi mynegi unrhyw bryderon, ac rwy'n dyfynnu, 'ynghylch lefel yr halogiad radiolegol'. Yn wir, dywedasant fod yr hyn a oedd yn bresennol yn cyfateb i fwyta 20 banana y flwyddyn, 10,000 gwaith yn llai na'r dos blynyddol y mae peilot awyrennau yn ei gael a 750 yn llai na'r dos cyfartalog y mae un o breswylwyr Sir Benfro yn ei gael yn sgil radon. O ganlyniad, gwelwyd bod ymbelydredd mor isel fel ei fod yn cyfateb i beidio â bod yn ymbelydrol yn ôl y gyfraith—a phob un o'r rhain drwy fethodolegau rhyngwladol trylwyr.
Nawr, os oes gennym broblem ehangach—
A wnewch chi ildio?
Un eiliad. Rwy'n credu bod gennym broblem ynglŷn â dealltwriaeth y cyhoedd o'r materion hyn a'r ymgysylltiad â'r cyhoedd, ac rwyf am roi sylw i hynny. Ond os ydym yn mynd i sathru ar draws safonau gwyddonol sefydledig a dderbynnir yn rhyngwladol, fel y cânt eu harfer gan wladwriaethau ledled y byd, yna rydym mewn sefyllfa anodd iawn, ac rwy'n annog yr Aelodau i gofio hynny.
Fe ildiaf, os ydych yn dal i fod eisiau ymyrryd.
Ydw, rwy'n gwneud cymhariaeth, mewn gwirionedd, rhwng yr hyn sydd wedi digwydd yn Kosovo, gyda'r mwd yno, o ganlyniad i'r arfau a ddefnyddiwyd, lle y gwnaed prawf sbectrometreg pelydr gama, sbectrometreg alffa a hefyd sbectrometreg màs plasma. Yn anffodus, y cyfan y mae EDF wedi'i wneud yw un yn unig o'r rheini, felly mae sawl plwtoniwm sy'n amhosibl eu canfod gyda'r profion y mae EDF wedi'u cynnal—sbectrometreg alffa yn unig a wnaethant.
Wel, fy nealltwriaeth i o'r dystiolaeth yw y gallai'r fethodoleg honno a dderbynnir yn rhyngwladol fod wedi canfod yr angen i edrych yn benodol am yr halogion eraill y cyfeirioch chi atynt. Ac rydych wedi dweud hynny ar goedd, a mater i eraill yn awr yw tynnu sylw at dystiolaeth os yw'n bodoli.
A gaf fi ddweud ein bod eisoes wedi clywed bod y data ar gael i'r ymgyrchwyr? Nawr, rwy'n deall bod yna broblem ynghylch astudio'r data hwnnw oherwydd problemau meddalwedd, ond—
A wnewch chi ildio eto?
Un eiliad. Ond ni ellir herio tryloywder sylfaenol rhannu'r wybodaeth. Unwaith eto, credaf y dylem wneud rhywbeth i sicrhau y gellir ei ddehongli wedyn gan amrywiaeth mor eang o bobl ag sy'n awyddus i edrych ar y mater, ond nid yw'n weithdrefn gaeedig.
Gwn fod gennych ddiddordeb mawr iawn yn y mater hwn ac y byddwch yn gwneud eich cyfraniad eich hun, ond os ydych am ymyrryd eto, dyma'r tro diwethaf.
Diolch i chi, ond o ran tryloywder, ni throsglwyddwyd y data crai; cafwyd gwared arno. Mae hynny'n ffaith.
Wel, fy nealltwriaeth i yw bod yr ymgyrchwyr wedi cydnabod ei fod wedi'i drosglwyddo i'r ymgyrchwyr. Nawr—fel y dywedais, rwy'n deall y problemau. Gwn fod yr amser bellach yn rhuthro yn ei flaen a rhaid imi wneud rhai pwyntiau hanfodol, oherwydd cafwyd trafodaeth am y fethodoleg. Nid wyf yn wyddonydd niwclear—nid wyf yn wyddonydd o unrhyw fath, oni bai eich bod yn cyfrif gwyddor gwleidyddiaeth fel gwyddoniaeth, ac nid wyf yn siŵr y buaswn i. Ond credaf mai'r pwynt sydd angen inni edrych arno yw hwn: a yw'r safonau a dderbynnir yn rhyngwladol yn gadarn? Ac os nad ydynt, mae angen i chi ddangos tystiolaeth gref iawn o hynny, oherwydd fel arall ychydig iawn y gallwn ei wneud yn y Siambr hon y gallwn gael hyder ynddo os ydym yn mynd i gael ymagwedd mor amheus tuag at y data sydd ar gael. Ond wyddoch chi, mae fy meddwl yn agored ac os gall pobl ddangos bod problemau gyda'r fethodoleg yna wrth gwrs dylem edrych arnynt.
Y mater ynghylch dadansoddi deunydd ar ddyfnder—credaf yn sicr y byddai wedi rhoi mwy o sicrwydd i'r cyhoedd pe bai hyn wedi'i wneud, a gofynnwyd amdano a chredaf fod y rhai sydd am fwrw ymlaen â'r drwydded hon wedi colli cyfle i dawelu meddyliau. Gwnaethant hynny ar y sail nad oedd yn angenrheidiol yn wyddonol, ac ni heriwyd hynny gan rai fel Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y clywsom. Ond credaf fod gan y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith ddyletswydd i ystyried sut y mae'r cyhoedd yn debygol o ymateb a dehongli camau o'r fath.
Ac ar fater y data a'r fethodoleg a ddefnyddir, unwaith eto, rwy'n credu mai mater i'r cwmnïau sy'n rhan o hyn, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru yw helpu pobl i ddehongli'r materion hyn mewn ffordd y gallant ei defnyddio i seilio casgliadau teg arnynt, gan gofio nad ydynt yn arbenigwyr chwaith, neu'r rhan fwyaf ohonynt, ac mae'r pethau hyn yn cael effaith fawr.
A gaf fi gloi, Lywydd, drwy ddweud fy mod yn credu bod y deisebwyr wedi cyflawni gwasanaeth cyhoeddus gwych yma i'r graddau ein bod yn trafod hyn? Rydym yn sicr wedi craffu ar yr holl fater hwn yn llawer mwy manwl nag y byddem wedi'i wneud fel arall. Credaf felly ei bod hi'n bwysig ein bod yn cydnabod gwerth y grwpiau dinesig hyn sy'n rhoi llawer o amser ac ymdrech i edrych ar y materion hyn. Ac rwy'n sicr yn agored i unrhyw dystiolaeth newydd os daw ger bron, ond ar hyn o bryd rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd arnaf i ddweud, o ran fy archwiliad o'r materion hyn, eu bod yn bodloni'r safonau a osodwyd yn ôl normau rhyngwladol, a hyd nes y gwelaf dystiolaeth i'r gwrthwyneb, credaf fod yn rhaid inni gamu ymlaen ar y sail fod y materion hyn wedi'u profi'n llawn yn wyddonol ac y gallwn fod â hyder yn y drwydded a roddwyd. Diolch i chi.
Mi siaradaf innau yn fyr am y gwaith a wnaed gennym ni fel pwyllgor. Rydw i'n ddiolchgar i'r clercod a'r tîm am eu gwaith yn tynnu'r adroddiad at ei gilydd, a gwneud hynny mewn amser digon byr. Mae'n bwysig rydw i'n meddwl ein bod ni'n cofio beth oedd yr amserlen yna. Mi gafodd y drwydded ei chymeradwyo nôl yn 2014 yn dilyn cais ddwy flynedd cyn hynny, os ydw i'n cofio yn iawn, ond ddaeth hyn ddim at sylw y cyhoedd, yn eang beth bynnag, tan yr hydref y llynedd, efo'r gwaith i fod i ddechrau ar symud y mwd o fewn mater o wythnosau o rŵan. Ond nid ydy'r ffaith nad oedd y pryderon wedi cael eu codi tan yn hwyr yn y broses yn gwneud y pryderon yna yn llai dilys. A dyna oedd fy mhwynt cychwyn i wrth ystyried y mater yma.
Rydw i yn llongyfarch yr ymgyrchwyr am fanylder fforensig y dystiolaeth a'u dadansoddiad nhw o'r dystiolaeth a oedd ganddyn nhw, a'r dystiolaeth rhoddon nhw i ni fel pwyllgor oedd yn gyfraniad mawr, mawr at ein gwaith ni ac rydw i'n gobeithio bod y dystiolaeth yna'n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad gafodd ei grynhoi gan y Cadeirydd.
Rŵan, canlyniad y gwaith a wnaethom ni—ar y lleiaf, roeddwn i'n ei feddwl—oedd bod yna le i wneud gwaith pellach a chynnal ymchwiliadau pellach er mwyn rhoi sicrwydd i bobl bod yr holl wybodaeth bosib gennym ni, a bod yr wybodaeth yna hefyd wedi cael ei chyflwyno yn gyflawn. Mae yna drafod wedi bod ynglŷn a natur y wybodaeth a pha mor hygyrch oedd yr wybodaeth yna. Mi wnes i'r awgrym y gallai rhagor o brofion gael eu cynnal, yn enwedig ar ddyfnder, oherwydd bod yna bryder am hynny. Beth ddywedodd CEFAS oedd hyn:
Os yw hynny'n ofyniad i dawelu'r canfyddiad cyhoeddus, byddem yn hapus iawn i wneud hynny... Gallwn ei wneud yn fwy tryloyw o ran sut y gwneir yr asesiad hwnnw.
Os oedden nhw'n cynnig bod yna ffordd mwy tryloyw i wneud yr asesiadau, mi ddylid bod wedi manteisio ar y cyfle yna, rydw i'n meddwl, i chwilio am ffordd i symud ymlaen yn y ffordd mwyaf tryloyw posib.
Mi wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ddweud ar 30 Ionawr eu bod nhw wedi gofyn i ddeiliad y drwydded ystyried cynnal rhagor o waith samplo dwfn gwirfoddol. Ar 27 Mawrth, serch hynny, mi wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru roi gwybod i ni fel pwyllgor bod deiliad y drwydded wedi gwrthod y syniad. Rŵan, rydw i'n gwerthfawrogi ac yn clywed yr hyn a ddywedodd David Melding, bod deiliad y drwydded yn dadlau, ac wedi dadlau'n gyson, nad oes yna ddadl wyddonol dros wneud rhagor o brofion—eu bod nhw â hyder yn y wyddoniaeth. Ond, efo mater mor ddadleuol, mi fuasai rhywun yn dychmygu y byddai deiliad y drwydded wedi croesawu y cyfle i weithredu mor agored â phosib. Mi oedd yna ffenest yn agored ar gyfer gwneud gwaith profi pellach; mi ddylid, rydw i'n meddwl, bod wedi manteisio ar hynny.
Dau bwynt terfynol: mi oeddwn i hefyd yn gresynu at y ffaith bod Cyngor Caerdydd, rydw i'n meddwl, wedi dewis peidio â gwthio am brofion ychwanegol. Mae yna bryder gwirioneddol gan lawer o bobl ynglŷn â hyn ac os oedd yna fodd i ymateb i'r pryderon hynny mewn unrhyw ffordd mi ddylid bod wedi chwilio am gyfle i wneud. Rydw i'n meddwl y byddai angen i sawl partner allweddol weithio ar y cyd i wthio am brofion ychwanegol ac mi oedd penderfyniad Cyngor Caerdydd o bosib yn gwanhau y gobeithion yna.
Yn olaf un te, nid oes yna ddim byd yn dod i Gymru o'r cytundeb yma i roi 200,000 metr ciwbig o fwd Hinkley yn ein dyfroedd ni. Mae hynny, i fi, yn codi cwestiynau sylfaenol. Mi gaiff fy nghyd-Aelod Simon Thomas fanylu rhagor ar hynny mewn ychydig funudau gobeithio.
Diolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl heddiw. Fel y dywedodd llawer o bobl, ceir cryn dipyn o bryder ymhlith y cyhoedd ynglŷn â'r mater hwn. Tystiolaeth o hynny yw'r 7,000 a mwy o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hon. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn trafod y pwnc hwn heddiw yma yn y Cynulliad.
Efallai fod gwybodaeth y cyhoedd am y wyddoniaeth sy'n sail i hyn yn gyfyngedig, ond mae'n rhaid inni dawelu ofnau'r cyhoedd a rhaid cael proses dryloyw ac mae'n rhaid iddi fod yn fwy tryloyw na'r hyn a gawsom hyd yma, rwy'n credu. Rydym yn gynyddol yn byw mewn byd o arbenigwyr. Mae'r arbenigwyr hyn yn meddu ar dystysgrifau ac mae ganddynt lythrennau ar ôl eu henwau, ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid wyf yn amau nad yw'r arbenigwyr hyn yn meddu ar lawer o wybodaeth, ond rhaid inni sicrhau nad ydym, fel cymdeithas, yn llithro i fod yn dechnocratiaeth. Mae angen i arbenigwyr sy'n gwneud penderfyniadau ar faterion sydd â budd cyhoeddus ehangach gael eu dwyn i gyfrif gan y cyhoedd.
Mae angen i benderfyniadau sy'n mynd i gael effaith gyhoeddus fawr fod yn agored ac yn dryloyw, ac mae angen i gwmnïau mawr, ac yn enwedig cwmnïau cyfleustodau cyhoeddus fel EDF, sicrhau bod eu gweithdrefnau'n dryloyw. Yr hyn y mae'r ddeiseb i'w gweld yn canolbwyntio arno yw profion ac ansawdd trefniadau profi EDF. Nawr, mae EDF yn dweud bod eu gweithdrefnau'n iawn, ond maent yn gwmni masnachol, felly fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent? Yr hyn y mae'n ymddangos y mae'r deisebwyr ei eisiau yw trefniadau profi sy'n fwy tryloyw.
Hyd yn hyn nid ydym wedi cael asesiad o'r effaith amgylcheddol. Mae Mike Hedges, sy'n gwybod llawer mwy am y wyddoniaeth sy'n sail i hyn na mi mae'n debyg yn sôn am adolygiad academaidd annibynnol, a'r annibyniaeth, fel y dywedodd, yw'r ffactor hollbwysig. Credaf fod y rhain yn bethau cwbl resymol i ofyn amdanynt, hyd yn oed os mai eu hunig bwrpas yw tawelu meddyliau ac ofnau gwirioneddol perffaith ddealladwy y cyhoedd. Daeth dau o fy etholwyr—wel, ni ddaethant ataf ar y pwynt hwn, rhaid imi gytuno, ond fe sonion nhw am y mater hwn ac roedd hyn lawer o wythnosau yn ôl, fisoedd yn ôl efallai. Roedd geiriad yr hyn a ddywedasant wrthyf rywbeth yn debyg i, 'Beth yw hyn oll am y slwtsh niwclear y maent am ei ollwng i Fôr Hafren?' Wel, nid wyf yn gwybod a yw 'slwtsh niwclear' yn derm cywir o unrhyw fath. Fel y dywedodd David Melding, nid wyf yn wyddonydd, ond mae'n arwydd o bryder y cyhoedd ynglŷn â hyn. Mae EDF yn dweud eu bod wedi bod yn defnyddio Cardiff Grounds ar gyfer gollwng deunydd carthu ers blynyddoedd, ond nid wyf yn credu mai'r math hwn o ddeunydd ydoedd. Ai tomen gwbl ddiniwed o fwd yw'r deunydd hwn? A yw unrhyw beth yn debyg i slwtsh niwclear? Nid wyf yn gwybod, ond mae angen i'r cyhoedd wybod ac mae angen inni gael rhyw fath o adolygiad annibynnol. Diolch i chi.
Diolch yn fawr iawn. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i siarad yn y ddadl hon, a diolch yn fawr iawn i'r deisebwyr am dynnu fy sylw at y pwyntiau pwysig hyn. Nid wyf ar y pwyllgor hwn, felly nid oeddwn yn bresennol i glywed rhai o'r trafodaethau hyn yn fanwl, ond yn sicr mae llawer o bobl yn fy etholaeth a deisebwyr gwahanol wedi ei ddwyn i fy sylw.
Mewn cyfraniad gweddol fyr, yr hyn yr hoffwn ei ddweud mewn gwirionedd yw fy mod yn teimlo bod yna bryder dwfn ynghylch hyn ac nad yw pobl wedi'u calonogi gan yr ymatebion a gawsant gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chan asiantaethau eraill. Mae'n ymddangos i mi yn bwysig iawn ein bod yn gwneud cymaint a allwn i sicrhau ein bod yn gwybod beth sydd yn y gwaddodion sy'n cael ei ollwng mor agos atom yma yng Nghaerdydd. Felly, buaswn yn sicr yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Deisebau y dylid cael rhagor o samplau, a buaswn yn cefnogi cyfraniad Mike Hedges hefyd, oherwydd credaf mai ein dyletswydd pennaf yw cadw ein poblogaeth yn ddiogel ac y dylem wneud pob dim a allwn i sicrhau bod popeth y gallwn ei wneud yn cael ei wneud.
Rwy'n credu y byddai ymchwil academaidd annibynnol yn ffordd ymlaen. Yn sicr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd David Melding—fod yn rhaid i chi gael ymddiriedaeth ar ryw bwynt yn yr hyn y bydd asiantaethau yn ei ddweud sy'n rhoi barn wyddonol annibynnol go iawn—ond nid wyf yn meddwl mewn gwirionedd ein bod ar y cam hwnnw o'r hyn a glywais. Credaf fod yna achos clir dros gasglu samplau pellach, a gobeithio y bydd hynny'n digwydd.
Diolch. Janet—[Torri ar draws.] A gaf fi siarad â'r oriel gyhoeddus? Mae'n wych eich bod chi yma, mae'n wych eich bod yn cymryd diddordeb, ond os gwelwch yn dda, ni chewch weiddi. Nid oes ots gennyf eich bod yn curo dwylo, ond ni allwn gael unrhyw weiddi gan fod hynny'n amharu ar ein trafodion. Felly, mae'n wych eich bod chi yma, mae'n wych fod gennych ddiddordeb mawr yn hyn, ond os gwelwch yn dda peidiwch ag amharu ar ein trafodion. Janet Finch-Saunders.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod hyn wedi gwneud ei ffordd i ddadl yma yn Siambr Cynulliad Cenedlaethol Cymru, oherwydd, fel y nodwyd, cafwyd 7,171 o lofnodion ar y ddeiseb hon. Nawr, rwy'n gwybod ei fod wedi'i ddweud nad ydym yn wyddonwyr amgylcheddol na'n wyddonwyr amgylcheddol morol. Rwy'n Aelod Cynulliad, ond rwyf yno i gynrychioli fy etholwyr. Rwyf hefyd, yng ngwaith mwy corfforaethol y Cynulliad hwn, oherwydd fy aelodaeth o'r pwyllgor, yno i gynrychioli unrhyw etholwr y teimlaf fod ganddynt ystyriaethau dilys a chyfiawn sy'n galw am ystyriaeth. Rwyf wedi bod braidd yn siomedig gan ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r pwyllgor hwn a'u hamharodrwydd, mewn rhai ffyrdd, i ni gael y wybodaeth wedi'i darparu ar ein cyfer fel y gallem lunio adroddiad a oedd yn seiliedig i'r graddau sy'n bosibl ar dystiolaeth go iawn.
Nawr, cyhoeddwyd y drwydded forol ar gyfer gwaredu gwaddodion carthu fel rhan o'r gwaith o adeiladu system ddŵr oeri ar gyfer gorsaf bŵer newydd Hinkley Point C gan Cyfoeth Naturiol Cymru i NNB GenCo, is-gwmni i EDF. Galwai'r ddeiseb am atal y drwydded o dan adran 72 neu adran 102 o Ddeddf y môr, gan ddadlau nad yw'r risgiau amgylcheddol na'r risgiau i iechyd dynol wedi'u hymchwilio'n ddigonol a bod y data a ddefnyddiwyd i ddadansoddi'r rhain yn anghyflawn. Wrth benderfynu ar gais am drwydded forol, mae adran 69 o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r ddau gategori risg gael eu hystyried yn llawn. Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â'r pwerau dros gyhoeddi'r drwydded hon a'i gorfodi ers iddynt gael y pwerau hyn ym mis Ebrill 2013. Fodd bynnag, gwnaed y ceisiadau cychwynnol i Lywodraeth Cymru cyn hyn, ac er gwaethaf yr hyn y byddai llawer yn ei gredu a fyddai'n rhesymau clir dros wneud cais am un, ni ofynnwyd am asesiad annibynnol o'r effaith amgylcheddol ar y pwynt hwn.
Ymhlith y materion pellach a godwyd gan y deisebydd y mae methodoleg y profion, eu cwmpas a phryderon ynghylch y safle gwaredu. Wrth ystyried y ddeiseb hon, clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd, EDF energy, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu—CEFAS—a gynhaliodd y profion ar y samplau, ac yn fuan daeth yn amlwg i mi fod y samplu wedi digwydd; roedd y cwestiwn a'r pryder yn ymwneud â dyfnder y samplau a gasglwyd. Rwy'n deall—nid wyf yn gwybod a allwch gadarnhau, Neil—fod y dystiolaeth y buom yn chwilio amdani wedi'i chasglu yn 2009 mewn gwirionedd, ac mae hi bellach yn 2018, ac mae'n fy ngofidio y byddai cwmnïau o'r maint hwn yn poeni ynglŷn â mynd yn ôl a gwneud rhagor o samplu.
Ceir anghydfod cyffredinol rhwng y deisebydd a CEFAS ynglŷn â pha mor ddigonol oedd y profion a wnaed. Cynhaliwyd profion yn 2009, 2013 a 2017, ond unwaith eto, rwy'n dychwelyd at y dyddiad cynharach am y dyfnder. Fodd bynnag, mae'r deisebydd, ynghyd â Cyfeillion y Ddaear Barri a'r Fro, wedi mynegi pryderon mawr ynglŷn â'r mathau a'r niferoedd o radioniwclidau a gofnodwyd. Cafodd hyn ei addef gan CEFAS mewn perthynas â radioniwclidau pelydr gama, a nodwyd ganddynt nad oeddent ond wedi cofnodi'r tri a oedd wedi dychwelyd canlyniadau uwch na'r trothwy isaf, ond eu bod yn derbyn y pwynt, yn y dyfodol, y gallent ei gwneud yn fwy clir wrth adrodd a chofnodi pa rai a oedd hefyd yn bresennol ond yn is na'r terfynau dadlennu swyddogol.
Yn ogystal, fel rydym wedi sôn, mynegwyd pryderon mewn perthynas â radioniwclidau sy'n allyrru alffa a beta yn hytrach na gama y cadarnhaodd CEFAS na wnaethant brofion pellach arnynt o ystyried bod asesiad haen gyntaf generig wedi dynodi bod y dosau yma gryn dipyn yn is na'r terfynau a argymhellir yn rhyngwladol. Testun pryder yn fy marn i yw'r ffaith bod deiliad y drwydded, ym mis Ionawr eleni, wedi gwrthod ymgymryd â rhagor o waith samplu a phrofion ar ddyfnder yn dilyn cais gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Nawr, maent yn cynrychioli'r Llywodraeth ac maent yn cynrychioli ein pobl. Gwnaed y cais hwn yn sgil galwad gan y pwyllgor ac o ganlyniad i bryderon y deisebwr nad oedd digon o samplau wedi'u casglu. Ymhellach, codwyd mater halogion cemegol eraill o fewn y gwaddodion, ac roeddwn i yn bendant yn bryderus i nodi bod EDF wedi cofnodi bod y rhai ar safle carthu Hinkley yn uwch na lefel gweithredu 1 CEFAS, felly o fewn y cwmpas ar gyfer cynnal ymchwiliadau pellach. Mae hyn yn gyfystyr â 'thramgwydd eithaf bach', yng ngeiriau EDF, ac eto mae Cyfeillion y Ddaear Barri a'r Fro yn awgrymu na roddwyd unrhyw ystyriaeth bellach i'r halogion hyn.
Ddirprwy Lywydd, darparodd Cyfoeth Naturiol Cymru sicrwydd na fyddent yn rhoi cymeradwyaeth i'r drwydded oni bai eu bod yn gwbl fodlon fod y deunydd yn addas ar gyfer ei ollwng, ac eto, er gwaethaf y pryderon cyhoeddus amlwg iawn ynglŷn â'r mater, gan ein cynnwys ni fel Aelodau'r Cynulliad, cymeradwywyd amod 9.5 yn y drwydded forol yn ffurfiol ganddynt ym mis Mawrth eleni. Felly hoffwn gefnogi galwadau gan Mike Hedges AC, a Julie Morgan yn ogystal, i geisio defnyddio adran 102 o Ddeddf y môr i oedi'r drwydded hon hyd nes y bydd rhagor o brofion digonol wedi'u gwneud ac ymgynghoriad cyhoeddus llawn wedi'i gyflawni. Os nad oes gan y cwmnïau hyn unrhyw bryderon, os ydynt am adfer ymddiriedaeth y cyhoedd—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—yn y cais hwn, ac os ydynt am adfer ymddiriedaeth y Pwyllgor Deisebau a rhai o'n Haelodau Cynulliad, credaf ei bod yn ddyletswydd arnynt i wneud rhagor o brofion.
Rydw i’n siarad i ategu'r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud gan Rhun ap Iorwerth a rhai pobl eraill yma. Rydw i’n ddiolchgar iawn i’r deisebwyr a hefyd y Pwyllgor Deisebau am adroddiad manwl iawn ar y materion hyn, ac rwy’n cyfeirio hefyd at yr ohebiaeth sydd wedi bod gan y pwyllgor newid hinsawdd i’r Gweinidog ar y materion hyn hefyd.
Rydw i jest eisiau dechrau gyda’r ffaith nad yw’r ddadl yma, er mor bwysig yw hi yn y Cynulliad, yn gallu newid y drwydded yma. Dyma drwydded sydd wedi’i hawdurdodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae hawl gan y Gweinidog i ymyrryd yn y broses yma, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y ddadl ac yn gwneud yr hyn mae hi’n teimlo sydd yn briodol.
Rydw i eisiau siarad am rywbeth sydd ddim wedi cael ei grybwyll hyd yma, sef y ffaith bod cyn lleied o reolaeth gyda ni dros ein hadnoddau naturiol ni, bod yn rhaid inni dderbyn y mwd yma, y llaid yma, beth bynnag yw e, o ochr arall Afon Hafren, i gael ei roi ym Môr Hafren ar ochr Cymru. Mae’n tanlinellu cyn lleied o rym sydd gyda ni, a dweud y gwir, ac mae deisebwyr wedi gwneud ffafr fawr â’r Cynulliad hyd yn oed jest i danlinellu hynny. Pe byddai hwn yn digwydd ar dir mawr, pe na fyddai hwn yn digwydd yn y môr, byddai gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid yn fanna ddiddordeb mawr yn y pwnc dan sylw, achos mae unrhyw un sydd yn cael gwared ar bridd yn y modd yma yn gorfod talu treth gwarediadau tirlenwi Cymru—treth newydd wedi’i sefydlu o dan yr awdurdod cyllid newydd. Byddai unrhyw beth o ran datblygu ac adeiladu ar y tir yn golygu bod yn rhaid ichi dalu am gael gwared ar wastraff fel hyn. Ac mae’n rhan o egwyddorion sylfaenol cyfraith amgylcheddol sydd gyda ni—y sawl sy’n llygru sydd yn talu. Mae honno’n un ohonyn nhw.
Y ffaith yw ein bod ni’n rhannu cyfrifoldeb dros Fôr Hafren gyda Lloegr, felly mae yna gyfrifoldeb ar y cyd y dylem ni ysgwyddo, wrth gwrs, wrth edrych ar ôl beth sydd yn ardal o gadwraeth arbennig, sydd heb gael ei grybwyll hyd yma yn ogystal. Ac felly, i fi, mae yna egwyddor sylfaenol fan hyn. Pam nad ydym yn ymwneud â’r môr a defnyddio tirlenwi yn y môr, i bob pwrpas, yn yr un modd ag yr ydym yn defnyddio tirlenwi ar y tir mawr? Ac mae yn tanlinellu pa mor ddiffygiol mae’r holl broses wedi bod, bod rhywbeth yn cael ei allanoli i gorff o dan Lywodraeth Cymru—corff a oedd newydd ei sefydlu ar y pryd—heb atebolrwydd democrataidd i’r penderfyniad hwnnw. Yn hynny o beth, rydw i’n ategu’r hyn sydd eisoes wedi cael ei ddweud.
Felly, mae'n ddeiseb wirioneddol bwysig, rwy'n credu, oherwydd gan roi mater ymbelydredd i'r naill ochr, a byddaf yn ymdrin â hynny mewn eiliad, mae'r mater hanfodol hwn yn un sy'n ymwneud â diffyg rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, a chael ein gorfodi, i bob pwrpas, i gymryd sbwriel gorsaf niwclear newydd—yn bersonol, rwy'n yn ei gwrthwynebu, ac felly'n amharod braidd i'w gymryd beth bynnag—ond heb unrhyw reolaeth ar sut y gwnawn y penderfyniadau hynny yma yn ein Cynulliad. Mae'r peth wedi tanlinellu go iawn pa mor anodd yw hi i weithredu rheolaeth gynaliadwy ar adnoddau naturiol o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol a Deddf yr amgylchedd. Mae'n tanlinellu go iawn cyn lleied o reolaeth sydd gennym dros ein hadnoddau naturiol ein hunain a diogelu cenedlaethau'r dyfodol.
Ond rwyf am gloi drwy ddweud hyn: yn fy marn i, mae hynny ynddo'i hun yn ddigon i fy mherswadio y dylem oedi o leiaf ar rywfaint o hyn hyd nes y byddwn yn deall yn well beth yw'r effaith ar ein hamgylchedd a chael gwell dealltwriaeth o'r profion y mae Aelodau eraill wedi galw amdanynt yma. Ond rwyf hefyd am ddweud hyn: credaf ei bod hi'n bwysig iawn pan fyddwn yn trafod y materion hyn nad ydym yn sôn am bethau nad ydynt yn bodoli. Nid wyf wedi gweld unrhyw dystiolaeth fod y mwd ei hun yn ymbelydrol neu'n beryglus, ac nid yw hynny'n rhywbeth rwyf wedi ei godi yn y Siambr hon. I mi, mae'n egwyddor hanfodol ynglŷn â phwy sy'n rheoli ein hadnoddau naturiol a phwy sy'n penderfynu beth sy'n digwydd yn nyfroedd Cymru. A dylai hynny fod yn benderfyniad i'r Senedd hon ac i'r Cynulliad etholedig hwn, nid penderfyniad ar gyfer cwango neu gorff allanol. Dyna fy nghwyn yma.
Rwyf hefyd am inni gael ymddiriedaeth yn ein sefydliadau mewn Cymru annibynnol, rhywbeth rwy'n awyddus i'w weld un diwrnod, ac ymddiriedaeth yn ein gwyddonwyr, ac ymddiriedaeth yn y modd y cyflawnwn y wyddor gyhoeddus yng Nghymru. Mae peth o'r ymddiriedaeth honno wedi'i cholli am nad oes digon o bobl wedi bod yn agored gyda'i gilydd, ond mae rhywfaint ohoni wedi'i cholli oherwydd bod pobl, pan fyddant yn gweld tystiolaeth nad ydynt yn ei hoffi, yn meddwl yn syml fod yna gynllwyn ar waith. Nid felly y mae. Yr hyn sy'n digwydd yma yw bod gennym sbwriel dadleuol gan orsaf niwclear ddadleuol, sy'n rhaid inni ei drin yn y modd mwyaf rhesymol a digyffro. Pwy sy'n penderfynu a yw'n cael ollwng yn nyfroedd Cymru? Ai cwmni preifat, neu wedi'i benderfynu gan gwango, neu ai'r Senedd hon? Rwy'n dweud mai'r Senedd hon ddylai gael penderfynu, ac rwy'n dweud y dylem wneud y penderfyniad hwnnw.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad a'r 7,171 o bobl a lofnododd y ddeiseb ynghylch trwydded forol 12/45/ML. Fel y deisebwyr a miloedd o bobl eraill ledled Cymru, rwy'n pryderu'n fawr am y cynlluniau gan y cwmni ynni niwclear Ffrengig i ollwng gwaddodion arbelydredig oddi ar ein glannau. Mae arfordir de Cymru yn ecosystem bwysig iawn—mae'n gartref i amrywiaeth eang o fflora a ffawna. Mae'r arfordir yn fy rhanbarth yn gartref i sawl un o draethau gorau'r byd. Dylem wneud popeth i ddiogelu'r rhan bwysig hon o'n hecoleg. Gwelsom drwyddedau'n cael eu rhoi i garthu tywod a ddinistriodd ein traethau, ac fe wnaethom ystyried y syniad o adeiladu fferm wynt enfawr ar y môr a oedd yn bygwth peryglu haid o lamidyddion, ac yn awr, maent yn fodlon caniatáu i 300,000 tunnell o waddodion o Loegr a allai fod yn ymbelydrol gael ei ollwng ychydig oddi ar ein harfordir.
Yn ôl deiliad y drwydded, gwnaed profion ar y gwaddodion o'r orsaf niwclear a barnwyd nad yw'n creu unrhyw fygythiad i fodau dynol ac nad yw wedi'i gategoreiddio'n ymbelydrol o dan gyfraith y DU, ond ceir pryderon nad oedd y fethodoleg ar gyfer y profion yn ddigon cadarn. Edrych ar y metr uchaf o waddodion yn unig a wnaeth y fethodoleg, ac ar ronynnau gama'n unig. Dengys ymchwil a gynhaliwyd mewn mannau eraill fod crynodiadau uwch o radioniwclidau i'w gweld ar ddyfnderau mwy nag 1 metr. Gwyddom hefyd fod yna 16 gwaith yn fwy o radioniwclidau yn cael eu cynhyrchu gan adweithyddion niwclear nag y gwnaed profion amdanynt.
Roedd yr arolygon o'r gwaddodion yn profi am lefelau caesiwm-137, cobalt-60 ac americiwm-241, ond beth am blwtoniwm neu gwriwm? Pam na phrofwyd am y rhain? Beth am strontiwm neu dritiwm? Onid yw'r radioniwclidau hyn yn peri risg i iechyd dynol? Wrth gwrs eu bod, ond ni wnaed profion am y rhain, na'r 50 o radioniwclidau eraill y gwyddys eu bod yn bresennol mewn deunydd a ollyngir o'r hen orsafoedd niwclear hyn.
Yn yr amgylchiadau hyn, dylem fod yn mabwysiadu'r egwyddor ragofalus. Hyd nes y ceir arolwg diogelwch annibynnol sy'n drylwyr yn wyddonol ar y gwaddodion dylid atal y drwydded. Os yw'r adroddiad yn bendant o'r farn fod y gwaddodion yn ddiogel i bobl, bywyd gwyllt a'r amgylchedd, yna gellir ystyried rhoi trwydded. Ond tan hynny, mae perygl y gwnawn niwed difesur i'n hecosystemau, gan fygwth hyfywedd rhai o draethau gorau'r byd fel Rhosili a Bae'r Tri Chlogwyn.
Rwy'n erfyn ar Lywodraeth Cymru: mynnwch fwy o brofion, peidiwch â pheryglu ein traethau anhygoel, peidiwch â pheryglu ein bywyd gwyllt, rhowch Gymru yn gyntaf.
Mae yna bobl yn protestio y tu allan heddiw, a fi oedd yr unig Aelod Cynulliad yn bresennol. Gwn fod yr ymgyrchwyr yn siomedig iawn ynglŷn â hynny. Gyda'i gilydd, mae dros 100,000 o bobl wedi llofnodi deisebau amrywiol ynglŷn â hyn. Hoffwn ddechrau gyda ffaith ddigamsyniol, oherwydd drwy ganiatáu i 300,000 o dunelli o fwd o'r tu allan i Hinkley Point gael ei ollwng yn nyfroedd Cymru, rydym yn galluogi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Tsieina i adeiladu gorsaf niwclear.
Nawr, mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu ynni niwclear yn llwyr, oherwydd os edrychwn ar hanes diweddar iawn—Fukushima, Chernobyl, ac ymhellach yn ôl, Three Mile Island—rydym bob amser yn cael clywed bod ynni niwclear yn ddiogel, ond mae'r damweiniau'n parhau i ddigwydd. Rwy'n falch o glywed bod yna wrthwynebiad gan Blaid Cymru i'r cynnig hwn heddiw. Rwyf hefyd yn fodlon ildio os yw Rhun ap Iorwerth, efallai, eisiau rhoi datganiad clir yn gwrthwynebu'r adweithydd niwclear newydd ar Ynys Môn. Na? Dyna—
Rwy'n credu fy mod wedi dweud wrthych o'r blaen—
Mae hynny'n gwbl glir—
Fi sy'n penderfynu pwy sy'n ildio a phwy sy'n derbyn ymyriadau. Parhewch gyda'ch araith, ac fe benderfynaf fi ynglŷn â'r ymyriadau.
Iawn. Wel, mae'n ffaith y bydd gollwng mwd yn caniatáu i'r orsaf niwclear gael ei hadeiladu, felly beth y mae Cymru yn ei gael o'r peth? Beth rydym yn ei gael o'r fargen hon? Yr ateb yw dim byd o gwbl—dim byd, nada, dim byd o gwbl. Felly, mae Lloegr yn gollwng ei mwd niwclear ar Gymru, ac mae'r Llywodraeth hon yn ei dderbyn—y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae bron â fy nharo'n fud. Sut y gellir caniatáu i hynny ddigwydd? Os yw mor ddiogel, gollyngwch ef yn afon Tafwys. Os yw ynni niwclear mor ddiogel, gosodwch yr adweithyddion hynny yn ne-ddwyrain Lloegr.
Nawr, gadewch i ni edrych—[Torri ar draws.] Llundain. Gadewch inni edrych ar yr egwyddor ragofalus, fel y crybwyllwyd yn gynharach, oherwydd yn ôl y Comisiwn Ewropeaidd, gellir defnyddio'r egwyddor ragofalus pan na wyddys beth yw'r risg yn llawn. Nawr, y gwir am y mater hwn yw nad oes neb—neb—yn y Siambr hon yn gwybod a yw'r mwd yn ddiogel. Nid oes neb yn gwybod. Mae'n werth ailadrodd bod y profion wedi'u gwneud o dan 5 cm, 300,000 tunnell o fwd, a phump—pump—sampl a gymerwyd yn 2009, a bod y data crai wedi'i waredu, fel y dywedais yn gynharach. Gwnaed profion gama yn unig. Erbyn hyn, mae gwyddonwyr yn dweud wrthyf nad yw rhai mathau o blwtoniwm yn allyrru gama. Ac os edrychwch ar Kosovo, y profion a wnaed yn y mwd yno—maent wedi gwneud tri math o brawf, sef sbectrometreg alffa, sbectrometreg màs plasma a'r un math o sbectrometreg a wnaed ar y mwd y tu allan i Hinkley Point. Felly, dylai'r hyn sy'n ddigon da i Kosovo fod yn ddigon da i Gymru.
Hefyd, os edrychwch ar y ffigurau yn y data a roddwyd o 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn anghywir, yn syml iawn maent yn anghywir, oherwydd os edrychwch ar y data, mae yno mewn du a gwyn: ceir cynnydd yn yr ymbelydredd po isaf yr ewch. Os edrychwch ar y data o 2015 ymlaen, os cymhwyswch y gwahaniaeth, yna gallech fod yn cyrraedd uwchlaw'r terfynau diogel de minimis. Cyfarfûm â Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Medi, ac i fod yn berffaith onest, nid oeddent yn gallu rhoi'r nesaf peth i ddim atebion i'r cwestiynau a ofynnais. Nid oeddent yn gwybod dim am y drefn brofi ac nid oeddent yn gwybod dim ynglŷn â lle roedd y mwd yn mynd yn y pen draw. Mae'n warthus nad oedd gan yr asiantaeth sy'n gofalu am yr amgylchedd yng Nghymru unrhyw arbenigedd—unrhyw arbenigedd—yn y materion hyn. Os yw'r deunydd hwn yn beryglus—ac rwy'n dweud 'os' yw'n beryglus—bydd y gronynnau hynny'n teithio 10 milltir i mewn i'r tir—10 milltir i mewn i'r tir.
Felly, rwy'n credu ei bod yn rhesymol iawn—yn rhesymol—i ddweud, 'Ailbrofwch y mwd.' Bydd yn costio £100,000 i brosiect gwerth £40,000 miliwn. Mae'n beth cwbl resymol i'w ofyn, a gofynnaf i'r Gweinidog roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru atal y drwydded hyd nes y cynhelir ail brofion. Mae'n beth cwbl resymol i'w ofyn. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Deisebau am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad a hefyd i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl heddiw. Wrth gwrs, rwy'n cydnabod y pryderon a fynegwyd, ac rwy'n awyddus iawn i'r cyhoedd a'r Siambr hon gael tawelwch meddwl ynglŷn â'r mater hwn. Roeddwn yn croesawu'r adroddiad a nodai'r dystiolaeth sylweddol sy'n cael ei hystyried gan y Pwyllgor Deisebau. Rwy'n nodi bod y pwyllgor wedi cynnal adolygiad trylwyr gyda chyrff cyflawni allweddol ac arbenigwyr drwy gydol y broses, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu morol yng Nghymru. Cyhoeddwyd y drwydded forol ganddynt ar gyfer gweithgaredd gwaredu ac maent yn dal i fod yn gyfrifol amdani, gan gynnwys sicrhau y cydymffurfir â'r amodau a osodwyd yn y drwydded.
Rhaid imi fod yn ymwybodol o rôl Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag apeliadau trwyddedu morol, ac fel y cyfryw, nid yw'n briodol imi wneud sylwadau ar fanylion penderfyniadau trwyddedu morol. Mae'r broses o benderfynu ar drwyddedau morol yn darparu ar gyfer asesiad trylwyr a chadarn o weithgareddau arfaethedig, gan gynnwys ystyried yr angen i warchod yr amgylchedd morol ac iechyd dynol. Gallaf sicrhau pawb: ystyrir yr holl geisiadau am drwydded forol yn unol â gofynion cyfreithiol a nodir yn Rhan 4 o Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007—
A wnewch chi ildio, Ysgrifennydd y Cabinet?
Gwnaf.
A fyddech yn derbyn—dywedir wrthyf gan wyddonwyr; nid wyf yn wyddonydd—na fydd rhai mathau o blwtoniwm yn cael eu canfod gan y profion beta? Yn syml iawn, pam na chafodd sbectrometreg alffa ei wneud, a'r sbectrometreg màs plasma, fel yn Kosovo, ar y mwd?
Caf fy sicrhau bod CEFAS, a gynhaliodd yr asesiad hwn ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gweithio yn ôl y safon uchaf yn rhyngwladol, a dyna sy'n tawelu fy meddwl.
Croesewais yn fawr iawn sylwadau David Rowlands fod y pwyllgor wedi ceisio rhoi blaenoriaeth i dystiolaeth wyddonol ac osgoi codi bwganod a chamliwio, a dywedodd fod CEFAS, EDF a Cyfoeth Naturiol Cymru yn dawel eu meddwl, unwaith eto, fod y profion yn cael eu cynnal yn ôl y safon uchaf yn rhyngwladol. Dengys y dystiolaeth yn yr adroddiad fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol, yn unol â'r weithdrefn asesu radiolegol a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol. Nodaf fod y profion a'r asesiadau a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'u harbenigwyr yn y maes penodol hwn wedi dod i'r casgliad fod y deunydd o fewn terfynau diogel ac nad yw'n peri unrhyw risg radiolegol i iechyd dynol na'r amgylchedd. Nodaf hefyd o'r adroddiad ac ystyriaethau'r pwyllgor fod y materion a godwyd gan y deisebydd wedi'u hystyried yn sylweddol, a thystiolaeth glir wedi'i rhoi i gefnogi'r casgliadau a wnaed mewn perthynas â'r gweithgaredd gwaredu. Felly, rwyf am fod yn glir iawn ac ailadrodd y pwynt hwn. Rwy'n awyddus iawn i'r neges glir hon gael ei chyfleu'n llawn i'r cyhoedd: mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu, yn seiliedig ar gyngor arbenigol, nad yw'r gweithgaredd gwaredu yn achosi unrhyw risg radiolegol i fodau dynol na'r amgylchedd morol.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
Ydw.
O'r hyn a ddywedodd, efallai y gallaf ddeall o hynny nad yw'n disgwyl unrhyw brofion pellach, neu broses bellach i gael ei chyflawni gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gellir gollwng y deunydd hwn yn nyfroedd Cymru. A yw honno'n ddealltwriaeth gywir o'r hyn a ddywedodd?
Nid oes unrhyw sail wyddonol ar gyfer cynnal unrhyw brofion neu asesiadau pellach, felly rwy'n credu, pe baent yn gwneud hynny, y byddai'n gosod cynsail peryglus iawn.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi gwybodaeth ar eu gwefan, a gobeithio, unwaith eto, fod hyn yn rhoi sicrwydd ynghylch trylwyredd y broses benderfynu. Gwrandewais yn ofalus ar y pwyntiau a godwyd heddiw, ac fel y dywedais ar y cychwyn, rwy'n cydnabod pryderon. Mae arfordiroedd a moroedd Cymru yn berl go iawn yn ein coron, ac rydym yn ymdrechu i'w cael wedi eu cydnabod am eu bod yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac oherwydd eu bioamrywiaeth. Mae'n bwysig iawn, fel cenedl, ein bod yn gallu sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i warchod ein hamgylchedd morol, i warchod iechyd dynol a sicrhau defnydd cynaliadwy o'n moroedd.
Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, rwyf wedi ymgynghori ar ein Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru cyntaf, ac mae'n adeiladu ar y cynnydd cadarn rydym eisoes yn ei wneud yn gwarchod ein moroedd, gan gefnogi ein nod o gyflawni statws amgylcheddol da yn ein hecosystemau morol. Rydym yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gydlyniad ecolegol y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, gan ddiogelu a gwella'r amgylchedd morol drwy reoli pwysau a chyfundrefn gydsynio gadarn. Felly, er na allaf wneud sylwadau penodol ar y mater hwn, nodaf adroddiad y pwyllgor, a byddaf yn gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru adolygu'r ffordd y maent wedi cyfleu'r negeseuon mewn perthynas â'r drwydded forol hon a'r penderfyniadau a wnaed.
Credaf fod pwynt David Melding ynglŷn ag ymgysylltu â'r cyhoedd yn llawer mwy eglur yn bwysig iawn, ac rwy'n meddwl bod gwersi y gallwn eu dysgu ar gyfer penderfyniadau a rhannu gwybodaeth yn y dyfodol, yn enwedig gwybodaeth sy'n dechnegol ei natur, er mwyn sicrhau bod y negeseuon clir a'r canlyniadau hynny'n ddealladwy i bawb. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. [Torri ar draws.] Rwyf wedi gofyn i'r oriel gyhoeddus fod yn dawel a pheidio â thorri ar draws rhagor o fusnes y Cynulliad. Os ydych yn parhau i weiddi, byddaf yn gofyn i chi adael.
A gaf fi alw ar David Rowlands, os gwelwch yn dda, i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Lywydd. Cyn imi wneud fy sylwadau olaf, hoffwn gydnabod a diolch i'r tîm clercio am y gwaith a wnaethant o dan bwysau amser. Felly, diolch iddynt am hynny. Ac a gaf fi ddiolch i'r deisebydd am gyflwyno'r ddeiseb hon? Mae wedi gwneud i ni graffu ar y weithdrefn gyfan mewn perthynas â gwaredu deunydd o waith ynni niwclear a diolch i chi am wneud hynny. Diolch hefyd i'r sefydliadau a'r asiantaethau a ddarparodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau. Yn olaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon? Gan fod cymaint wedi bod, rwy'n credu mai'r ffordd orau y gallwn ymdrin â hyn yw crynhoi'r hyn a ddywedodd y rhan fwyaf o ACau yn eu cyfraniadau.
Roeddent yn mynegi'r pryderon mewn perthynas â thryloywder y gweithdrefnau dadansoddi, ac yn galw am ei wneud yn fwy tryloyw o lawer pan fo'r asiantaethau hyn yn gwneud eu gwaith. Roedd llawer hefyd yn galw am oedi pethau a chasglu samplau pellach. Roedd yna bryderon hefyd ynglŷn â'r mathau o brofion ymbelydredd ac wrth gwrs, roedd Neil McEvoy yn bendant iawn am hynny, ac yn eithaf grymus rwy'n credu yn ei ddadleuon o ran hynny.
Os caf symud at y sylwadau gan Ysgrifennydd y Cabinet, a oedd yn cydnabod pryderon y cyhoedd, ond a ddywedodd fod y profion wedi cael eu cynnal o dan reolau'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol yn ôl y safonau uchaf un. Mae'n honni hefyd nad oedd unrhyw resymau gwyddonol dros gynnal profion newydd.
I gloi, er y gobeithiaf fod trafodaethau'r pwyllgor a'r ddadl heddiw wedi gwyntyllu rhai o'r materion a godwyd gan y ddeiseb hon, rwy'n cydnabod bod ynni niwclear a'i sgil-gynhyrchion yn faterion emosiynol. Felly, mae amrywiaeth o safbwyntiau yn anorfod. Mae hon, wrth gwrs, yn rhan iach o ddemocratiaeth sy'n gweithio ac o ystyried y risgiau a'r mesurau diogelwch sy'n gysylltiedig â phrosesau niwclear, mae'r pryderon a fynegwyd yn gwbl ddealladwy. Yn y pen draw, rydym wedi clywed mai cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw rhoi trwyddedau morol, ac maent wedi dweud wrth y pwyllgor a'r Cynulliad hwn eu bod yn fodlon nad oes unrhyw risg i iechyd dynol nac i'r amgylchedd. Fel pwyllgor, credaf ein bod yn fodlon fod yr holl dystiolaeth a gafwyd wedi'i darparu'n ddidwyll, a bod y gwahanol asiantaethau sydd wedi cymryd rhan yn y broses hon wedi cyflawni eu swyddogaethau yn ôl y prosesau a'r safonau gofynnol.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i drafod y mater heddiw. Diolch.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.