– Senedd Cymru am 3:25 pm ar 26 Mehefin 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan yr un Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gyhoeddiad diweddar Grŵp Airbus. Rwy’n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud ei ddatganiad ar Airbus—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i wneud y datganiad hwn heddiw. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Grŵp Airbus eu hasesiad risg eu hunain i amlinellu'r bygythiadau difrifol i'w busnes pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ymadael. Mae'r asesiad risg yn peri pryder mawr; mae'n nodi, pe bai’r DU yn gadael yr UE y flwyddyn nesaf heb fargen, a heb gyfnod pontio, y byddai hynny'n arwain at aflonyddwch a tharfu difrifol ar gynhyrchiant yn y DU ac yn gorfodi Airbus i ailystyried eu buddsoddiadau yn y DU a’u dyfodol hirdymor yn y wlad. Hyd yn oed gyda chyfnod pontio, byddai Brexit caled sy'n mynd â’r DU allan o'r farchnad sengl a’r undeb tollau’n gwneud i’r cwmni ailasesu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, mae’r rhybudd hwn yn peri pryder difrifol iawn i economi Cymru. Mae cwmnïau fel Airbus nawr wrthi o ddifrif yn gwneud cynlluniau yn seiliedig ar y sefyllfa waethaf. Mae’r hyn y mae busnesau wedi bod yn ei ddweud yn breifat ers cryn amser nawr yn cael ei ddweud yn gyhoeddus, ac mae'n amlwg eu bod yn colli ffydd yng ngallu Llywodraeth y DU i negodi canlyniad synhwyrol sy'n gweithio dros ein heconomi ac yn diogelu swyddi. Mae fy neges i Lywodraeth y DU yn un syml iawn a chlir iawn: mae’r sefyllfa’n argyfyngus erbyn hyn ac mae'n bryd iddyn nhw gydnabod y bygythiad sylfaenol y mae eu ffordd o fynd i'r afael â Brexit yn ei beri i Gymru, i'n heconomi ac i'n cymunedau. Mae'n bryd inni ddiystyru sefyllfa 'dim bargen' ac ail-ddechrau'r trafodaethau ar sail sy'n rhoi swyddi a'r economi yn gyntaf.
Rydym ni'n rhannu’r pryderon sylweddol a fynegodd prif swyddog gweithredol awyrennau masnachol Airbus, Tom Williams, yr wythnos diwethaf. Grŵp Airbus yw'r cyflogwr mwyaf yng Nghymru yn y sector awyrofod ac amddiffyn; maen nhw’n cyflogi tua 6,500 o unigolion ar eu safle ym Mrychdyn a thua 500 arall yng Nghasnewydd. Ledled y DU, mae dros 100,000 o swyddi’n dibynnu ar bresenoldeb Airbus ar y glannau hyn. Ers y refferendwm yn 2016, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn na all y DU, wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, gymryd y risg enfawr o dorri ein heconomi’n rhydd o drefniadau’r undeb tollau a'r farchnad sengl. Rydym ni wedi cyflwyno'r achos, yn glir ac yn gyson, bod yn rhaid i unrhyw gytundeb i adael yr UE ein cadw yn y farchnad sengl a negodi undeb tollau newydd gyda'r UE.
Mae’r rhybudd hwn gan Airbus, ochr yn ochr ag eraill gan wneuthurwyr fel BMW, yn dangos yn glir y bygythiad sy’n ein hwynebu. Yn wir, dydy’r pryderon a fynegwyd gan Airbus yn sicr ddim yn gyfyngedig i'r diwydiant awyrofod. Dim ond heddiw, mae Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron, sef llais y diwydiant modurol yn y DU, wedi rhoi’r rhybudd cliriaf eto i Lywodraeth y DU gan sector busnes, gan ddweud bod arnynt angen, o leiaf, aros yn yr undeb tollau a bargen sy’n rhoi manteision marchnad sengl. Mae eu prif weithredwr, Michael Hawes, wedi anfon rhybudd syml ond clir i Lywodraeth y DU, gan ddweud:
Nid oes difidend Brexit i'n diwydiant ni.
Mae popeth yn y fantol. Mae'n amlwg bod yr amser wedi dod i ben ar gyfer geiriau teg ac ystrydebau diystyr. Nawr, mae angen eglurder ar frys gan Lywodraeth y DU. Mae angen i Lywodraeth y DU roi manylion ynglŷn â’r tri mater allweddol a godwyd yn asesiad risg Airbus: symud rhannau mewn cadwyn gyflenwi integredig, symudiad pobl, ac amgylchedd rheoleiddio’r dyfodol. Gallai tarfu ar lif defnyddiau o ganlyniad i newidiadau i’r farchnad sengl a’r undeb tollau gostio biliynau o bunnoedd, ac arwain at oedi anadferadwy ac at lawer o'n busnesau yng Nghymru yn colli eu mantais gystadleuol. Byddai cyfyngu ar symudiad pobl yn tarfu'n sylweddol ar weithrediadau Airbus, gan fod 1,300 o ddinasyddion y DU a gyflogir gan Airbus yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau o'r UE—y rhan fwyaf o’r rhain yn Ffrainc a'r Almaen—a 600 o ddinasyddion yr UE a gyflogir gan Airbus yn gweithio yng ngweithfeydd Airbus yn y DU. Mae’r trydydd mater allweddol yn ymwneud â rheoliadau ac Asiantaeth Diogelwch Hedfan Ewrop yn benodol. Heb gymeradwyaeth yr Asiantaeth hon, fydd cyflenwyr awyrofod y DU ddim yn rhan o gadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu awyrennau mwyach. A does dim modd cynnau a diffodd cadwyni cyflenwi yn sydyn, fel switsh golau. Maen nhw'n cymryd blynyddoedd i’w hadeiladu, ac mae gan fusnesau hawl i ddisgwyl mwy o sicrwydd gan Lywodraeth y DU ddwy flynedd ar ôl y refferendwm.
Mae’r Prif Weinidog wedi pwyso eto am i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU ddynodi newid cyfeiriad i ymrwymo i aros o fewn y farchnad sengl ac undeb tollau gyda'r UE. Rydym ni i gyd yn cydnabod pwysigrwydd y sector awyrofod ac amddiffyn i economi Cymru. Mae'r sector yng Nghymru yn ychwanegu £5 biliwn at ein gwerth crynswth ychwanegol ac yn cyflogi dros 20,000 o bobl. Byddwn yn parhau i gefnogi Airbus ym Mrychdyn a Chasnewydd i liniaru effaith y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati. Rydym ni eisoes wedi dangos ein cefnogaeth i’r sector drwy ariannu’r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yng Nglannau Dyfrdwy, sy’n werth £20 miliwn, er mwyn sicrhau prototeipiau Airbus ar gyfer adenydd y dyfodol.
Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ymateb ac i roi eglurder cyn gynted â phosibl, a chyn i’r sefyllfa hon waethygu hyd yn oed ymhellach. Byddai cyfnod hir o ansicrwydd yn gwneud difrod parhaol i’n sylfaen gweithgynhyrchu yng Nghymru ac i’w gadwyn gyflenwi helaeth—cyflogaeth sydd ym Mrychdyn, a ledled Cymru, yn hanfodol i lawer o gymunedau. Hwn yw’r bygythiad economaidd mwyaf difrifol i wynebu Cymru ers cenhedlaeth. Mae Airbus yn un o brif drysorau economi Cymru, ond hefyd mae'n strategol hanfodol i'r Deyrnas Unedig. Mae'n bryd i gemau parlwr Brexit ddod i ben. Mae'n bryd i Lywodraeth y DU roi'r sicrwydd sydd ei angen i fusnesau ac i'n heconomi.
Rwy’n credu ei bod hi'n amlwg ei bod hi'n destun pryder pan fydd unrhyw gyflogwr mawr yn rhybuddio y gallent gefnu ar Gymru. Mae hefyd yn bwysig ein bod i gyd yn ceisio sicrhau, wrth gwrs, nad yw hyn yn digwydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud sylwadau amrywiol yn ei ddatganiad, a byddwn yn dweud fy mod yn credu bod Llywodraeth y DU ar achlysuron di-rif wedi ailddatgan eu hymrwymiad i sicrhau’r fargen orau bosibl i economi'r DU a Chymru. Ac rwy'n credu'n gryf y byddwn yn dal i fod yn gysylltiedig ag economi ehangach Ewrop, ond hefyd yn gallu manteisio ar y cyfleoedd hynny i fasnachu â gweddill y byd.
Er mwyn rhoi sicrwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithwyr Airbus, ac i’r gadwyn gyflenwi ehangach, a allech chi, Ysgrifennydd y Cabinet, roi diweddariad am ganlyniad trafodaethau’r Prif Weinidog Cymru â Gweinidogion y DU yng nghyfarfod diweddar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig? Rwy’n credu y byddai hynny o gymorth. Mae eglurder ynglŷn â Brexit yn amlwg yn bwysig i fusnesau wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol—rwyf fi’n deall hynny’n iawn—ond mae dulliau datganoledig yn amlwg ar gael yma i Lywodraeth Cymru i annog mewnfuddsoddi a chadw cyflogwyr mawr yma yng Nghymru. Felly, a gaf i droi at hyn? Pa fesurau penodol ydych chi’n eu rhoi ar waith i greu’r amodau economaidd cywir i sicrhau bod cwmnïau fel Airbus yn aros yng Nghymru? Er enghraifft, beth bynnag am Brexit, rwyf fi’n pryderu bod Cymru wedi methu â manteisio ar gyfleoedd twf y byd dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac wedi methu ag arallgyfeirio i'r farchnad allforio. Pa fwriad sydd gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, i sicrhau bod Cymru yn achub ar y cyfleoedd hynny i gael mynediad at farchnadoedd y tu allan i'r UE, a beth ydych chi’n ei wneud i gynyddu presenoldeb masnachol economïau datblygedig ac economïau datblygol yn arbennig?
Rwyf wedi edrych unwaith eto ar gynllun gweithredu 'Ffyniant i Bawb' Llywodraeth Cymru, ac ni allaf weld dim sôn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru, a chadw hynny yma wedyn. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â hyn. Rydych chi hefyd wedi dweud o’r blaen, Ysgrifennydd y Cabinet, y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y sector gweithgynhyrchu gwerth uchel fel un o'u sectorau blaenoriaeth newydd. Felly, a gaf i ofyn: pam nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru yn dyrannu arian ychwanegol i'r sector hwn, ac onid yw hyn yn tanseilio, wrth gwrs, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod economi Cymru yn datblygu capasiti gweithgynhyrchu uwch, gan atal cwmnïau fel Airbus rhag buddsoddi yng Nghymru? Fy mhwynt i yma, Dirprwy Lywydd, yw, y tu hwnt i Brexit, sy’n rhywbeth yr wyf yn cydnabod bod angen inni ei gael yn hollol gywir, wrth gwrs, bod dulliau datganoledig ar gael yma i Lywodraeth Cymru, ac y gellir ac y dylid eu defnyddio i sicrhau bod cwmnïau fel Airbus yn cael eu hannog i aros ac yn wir i ehangu eu gweithgarwch yma yng Nghymru.
Gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Dywedaf ar y dechrau fy mod yn gwybod bod Ceidwadwyr da yn San Steffan hefyd, sydd, fel yr Aelod, hefyd yn bryderus am ddyfodol Airbus. Rwy’n credu, yn seiliedig ar y sylwadau y mae Stephen Crabb a Guto Bebb wedi eu gwneud yn ddiweddar, bod gennym ni seneddwyr Ceidwadol sydd yno i eiriol dros Airbus. Ac er na chafodd hyn sylw ar Radio 4 pan roddais y cyfweliad, fe wnes i bwysleisio'r achos dros ddod â Stephen Crabb yn ôl i'r Llywodraeth a throi Boris Johnson o’r adeilad.
Er mwyn taro’r fargen orau bosibl i Brydain, y peth cyntaf y mae’n rhaid i Theresa May ei wneud yw lliniaru ei safbwyntiau a’i rhyddhau ei hun o'r gefynnau y mae pobl fel Boris Johnson a Jacob Rees-Mogg wedi eu rhoi arni. Mae Prif Weinidog Cymru, rwy'n credu, wedi cyhoeddi datganiad ar ôl trafodaethau a fu yn ystod y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ond byddwn yn hapus i sicrhau bod y datganiad hwnnw’n cael ei rannu gyda'r Aelodau unwaith eto. Roedd y trafodaethau a gynhaliwyd, rwy'n credu, yn Guernsey yn cynnwys y cyhoeddiad gan Airbus a’r ymateb gan Brif Weinidog Cymru, a hefyd y datganiad ar y cyd gan Brif Weinidogion Cymru a'r Alban.
I roi Brexit o'r neilltu am eiliad, mae'r Aelod yn hollol iawn y gall, a bod rhaid i, Lywodraeth Cymru chwarae rhan i sicrhau bod yr amodau cywir yn cael eu creu ar gyfer twf economaidd cynaliadwy, nid yn unig o fewn y sector awyrofod, ond mewn sectorau eraill ledled yr economi hefyd. O'n rhan ni, roeddwn yn benderfynol gryn amser yn ôl—a dyma pam y gwnaethom ei gynnwys ym maniffesto Llafur Cymru rai blynyddoedd yn ôl—i sicrhau ein bod ni’n creu adenydd y dyfodol. Dyma yw dyfodol prosesau gweithgynhyrchu cyfansoddion Airbus. Os na chawn ni adenydd y dyfodol, bydd hi’n llawer anoddach sicrhau bod gan safle Brychdyn ddyfodol hyfyw, hirdymor.
Er mwyn sicrhau prototeip adenydd y dyfodol, fe wnaethom ni benderfynu buddsoddi yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch. Mae hyn yn seiliedig ar fodel llwyddiannus y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch ger Sheffield. Roedd yn gynnig a gafodd ei hybu hefyd gan Aelodau Plaid Cymru, gan gynnwys Steffan Lewis. Ychydig fisoedd yn ôl, torrais y dywarchen yn y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch. Mae hwn yn gyfleuster hollbwysig a fydd yn caniatáu datblygu prototeipiau adenydd y dyfodol yng Nghymru. Iawn, efallai mai dim ond £20 miliwn ydoedd, sydd, o'i gymharu â buddsoddiadau y mae Airbus yn eu gwneud yn rheolaidd iawn, yn swm bach, ond bydd ein cyfraniad o £20 miliwn yn arwain at gynnydd yng ngwerth ychwanegol crynswth yr ardal o tua £4 biliwn dros yr 20 mlynedd nesaf. Ac os cawn ni’r fargen iawn o drafodaethau Brexit, bydd hefyd yn sicrhau cyflogaeth i 6,500 o bobl am flynyddoedd lawer.
Nawr, yn ogystal â datblygu’r Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch, yr hyn yr ydym ni hefyd yn ei wneud yn gwneud yn siŵr bod y gadwyn gyflenwi’n aros yn gryf. Mae'n ffaith eithaf trawiadol bod y sector awyrofod ac amddiffyn yng Nghymru yn cyflogi 20,000 o bobl mewn mwy na 150 o gwmnïau. Rydym ni’n hynod o gryf yn y sector hwn, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam rydym ni mor agored i niwed o ran Brexit. Mae chwech o 10 prif gwmni awyrofod ac amddiffyn y byd wedi lleoli gweithrediadau sylweddol yng Nghymru. Mae gan Airbus ddau safle, mae gan General Dynamics ddau safle, GE Aviation, Raytheon, BAE Systems—[Torri ar draws.] Na, mae’r Aelod yn dweud, ar ei eistedd, 'er gwaethaf Brexit'. Na, mae'r rhain yn gwmnïau sydd wedi’u sefydlu yma ers amser maith ac sy’n rhannu’r pryderon y mae Airbus wedi eu mynegi’n ddiweddar, ond y mae Airbus wedi bod yn eu dweud wrth Aelodau fel yntau. Petai o ond yn mynd i Frychdyn i siarad â rheolwyr yno. Petai o ond yn mynd i Gasnewydd i siarad â rheolwyr yno. Petai o ond yn mynd i General Dynamics, i GE Aviation, i Raytheon, i BAE Systems, i Safran sydd wedi caffael Zodiac. Petai o ond yn mynd i gwmnïau fel Qioptiq, fel British Airways, yr Asiantaeth Cydrannau ac Electroneg Amddiffyn, Babcock, Triumph. Mae pob un o'r cwmnïau hyn wedi bod yn gyson yn y neges y maent wedi'i rhoi inni yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU—bydd senario 'dim bargen' yn ddinistriol i’r sector awyrofod ac amddiffyn. Er mwyn cadw swyddi yng Nghymru, ym Mhrydain, mae angen bargen ddigonol arnom ni. I gael bargen ddigonol, mae’n rhaid i Theresa May liniaru ei safbwyntiau.
O ran yr amodau economaidd ehangach y gellir eu creu i gefnogi twf, mae'r cynllun gweithredu economaidd yn mynegi’n glir bod angen buddsoddi mwy mewn allforio a masnachu. Wrth inni adael yr UE, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn ailgydbwyso proffil allforio economi Cymru. Ond mae angen inni hefyd wneud yn siŵr ein bod yn allforio llawer mwy mewn crynswth, ein bod yn masnachu llawer mwy, a dyna pam rydyn ni’n agor mwy o swyddfeydd ac yn cynyddu ein presenoldeb mewn tiriogaethau allweddol ledled y byd. Rydym ni wedi agor swyddfeydd yn ddiweddar mewn lleoedd fel Montreal, a byddwn yn agor mewn tiriogaethau eraill sy’n hollbwysig i ddyfodol economi Cymru.
Mae'r cynllun gweithredu economaidd hefyd yn glir—mae’n creu cyfrwng y byddwn yn ei defnyddio i gefnogi busnesau, ac sydd wedi'i chynllunio i leihau'r bwlch rhwng economi Cymru ac economi gweddill Ewrop. Felly, byddwn ond yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n gallu dangos eu bod yn cyfrannu at ddatgarboneiddio neu at wella ffigurau masnach ac allforio, neu’n sicrhau ein bod yn cofleidio’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, ein bod ar flaen y gad o ran newid technolegol newydd, neu sy'n sicrhau ein bod yn creu swyddi o safon uchel. Am y rheswm hwnnw, gan ein bod yn datblygu cronfa gyfunol, rydym yn disgwyl gallu dyrannu mwy o adnoddau yn y dyfodol i'r busnesau hynny sy'n creu swyddi cynaliadwy, sydd ag angen mwy o sgiliau, sy’n fwy cynhyrchiol, sy’n cyfrannu mwy at economi Cymru ac sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith a dilyniant teg, i sicrhau bod gan unrhyw un sy'n ymuno â'r gweithle y cyfle i ddringo mor uchel ag y gallant.
Rydym ni i gyd yn cofio, rwy'n siŵr, yn ôl yn 1980, pan welodd Glannau Dyfrdwy ddiswyddo ar y raddfa fwyaf yn yr oes fodern pan ddiswyddodd gwaith dur Shotton dros 6,500 o weithwyr mewn un diwrnod. Wrth gwrs, cymerodd genhedlaeth i’r ardal oresgyn hynny. Yn wir, rwy’n siŵr eu bod nhw’n dal i deimlo’r effeithiau. Ond mae wedi ei ailsefydlu ei hun—yr ardal—yn bwerdy diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ond, wrth gwrs, mae ymyriad yr wythnos diwethaf wedi taflu cysgod arall sy'n peri pryder enfawr o ran swyddi, o ran yr effaith ar yr economi ehangach ac o ran y gadwyn gyflenwi ehangach, yn sicr. A phe bai Airbus yn rhoi'r gorau i'w gweithrediadau ym Mrychdyn, rwy’n ofni y byddai’r effeithiau nid cynddrwg, ond yn ôl pob tebyg yn waeth na'r rhai a gafwyd yn ôl yn 1980.
Felly, mae hyn yn galw pobl ym mhob rhan o'r DU i ddod at eu coed o ran Brexit. Dyma’r realiti y mae llawer ohonom ni wedi bod yn rhybuddio amdano ers amser hir iawn, ac mae'n golygu bod gweithwyr medrus sydd ar gyflogau da yn wynebu ansicrwydd enfawr. Ni wnaiff ddigwydd dros nos. Beth bynnag fo'r amgylchiadau, bydd yn cymryd blynyddoedd, os yw hyn yn digwydd, i’r buddsoddi ddiflannu, ond yn sicr mae'n bwrw cysgod dros weithwyr diwyd, ymroddedig a ffyddlon Airbus, y bobl ifanc sydd yno ar hyn o bryd, yn astudio ar gyfer eu prentisiaethau, a miloedd o weithwyr, fel y dywedais yn gynharach, yn y gadwyn gyflenwi ehangach sy'n ofni’r effaith a gaiff Brexit ar eu swyddi.
Hoffwn gyfeirio at erthygl yn y wasg a welais yn The Leader lle mae Shaun Hingston, cynrychiolydd cyngor ieuenctid 15 mlwydd oed o Saltney—rydych wedi ei gweld; rwy'n falch. Mae'n gwneud rhai sylwadau perthnasol, go iawn, ynghylch sut y byddai ymadawiad Airbus o'r DU yn drychinebus i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae ef wir yn adlewyrchu'r ing y mae’r genhedlaeth iau yn ei deimlo—nhw, wrth gwrs, fydd y genhedlaeth a fydd yn byw hwyaf gydag etifeddiaeth neu ganlyniadau Brexit, ac mae'n dweud:
Byddai symud neu gau Airbus yn y DU yn arwain at ddiswyddiadau anferth, a fyddai’n sbarduno effaith lluosydd negyddol, ac y byddai busnesau yn yr ardal leol yn adleoli neu’n cau.
Byddai symud, wrth gwrs, yn golygu na fydd gan bobl y cyfle i fynd ar brofiad gwaith yn Airbus neu i gwblhau rhaglenni prentisiaeth—y rhaglenni y mae cannoedd o bobl ifanc ledled yr ardal yn eu gwneud ac am eu gwneud, ac yn gobeithio eu gwneud oherwydd eu bod yn gweld Airbus yn un o swyddi eu breuddwydion.
Nawr, mae Shaun yn amlwg yn deall effeithiau’r polisïau Brexit di-drefn y mae Llywodraeth y DU yn eu canlyn ar hyn o bryd, hyd yn oed yn fwy felly, mentraf ddweud, na rhai o Weinidogion Llywodraeth y DU. A dyna yw'r mater sylfaenol yma, rwy’n credu, onid e, sef bod y polisi Brexit presennol y mae Llywodraeth y DU yn ei ddilyn i adael marchnad sengl ac undeb tollau yr UE—? Rwy’n cydnabod, fel y gwnaethoch gyfeirio ato, rwy’n credu, yn gynharach, mai safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit yw parhau'n aelodau o'r ddau. Yn sicr, nodwyd hynny yn y Papur Gwyn, 'Sicrhau Dyfodol Cymru', a gafodd ei lunio ar y cyd â fy mhlaid i, ond mae'n rhaid imi ddweud bod yr hyn y mae Plaid Lafur y DU wedi’i wneud wedi gwrthweithio hynny. Ond tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu rhywfaint o fy rhwystredigaeth o ran pa mor aneffeithiol y mae ASau Llafur wedi bod o ran atal y posibilrwydd hwn o Brexit caled.
Rydym ni wedi gweld y baneri yn Labour Live, wedi clywed y siantio a’r canu yn y rali dros y penwythnos. Onid yw'n teimlo mymryn o ofid bod gwrthwynebiad Llafur yn San Steffan yn methu â newid y cyfeiriad hwn sy’n ein harwain ar hyd y llwybr ofnadwy hwn? Ac onid yw’n dymuno y byddai ei blaid ef ei hun yn gwneud pethau'n wahanol, yn hytrach na gadael i’r Ceidwadwyr wneud fel y mynnont? Oherwydd os nad ydynt yn llwyddo i newid y cyfeiriad hwnnw, rwy’n ofni, fel y mae llawer o bobl eraill wedi’i ddweud o fy mlaen i, mai dim ond dechrau pethau fydd enghraifft Airbus.
Fel arfer, pan fyddaf yn ymateb i ddatganiad, fy nghwestiwn cyntaf yw, 'Beth mae’r Llywodraeth yn mynd i'w wneud am hyn?' Ond, wrth gwrs, mae’r posibilrwydd hwn mor enfawr, ac mor ddigynsail yn yr oes ddatganoledig, nes ei fod yn gwestiwn anodd ei ofyn, heb sôn am ei ateb. Ond fe hoffwn i wybod, ac i ddilyn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn yn barod, sut mae’r Llywodraeth wedi cynllunio ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Ydych chi wedi amlinellu beth fyddai effaith Brexit caled a pha gamau fyddech chi’n eu hystyried i geisio, cymaint ag y gallwch chi, lliniaru'r effeithiau hynny?
Rydych chi wedi sôn am eich cynllun gweithredu economaidd 'Ffyniant i Bawb'. Ydych chi’n ailystyried hwnnw mewn unrhyw ffordd yn sgil hyn? Oherwydd y byrdwn, sy’n un y mae llawer ohonom yn ei gefnogi, yw bod angen inni ddatblygu mwy o swyddi hynod fedrus sy’n talu'n dda yma yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, bydd angen gwrthsafiad, oherwydd rydym ni’n symud i'r cyfeiriad anghywir. Bydd yn fater o sefydlogi, cystal ag y gallwn ni, heb sôn am dyfu yn hynny o beth.
Wrth gwrs, mae gan Airbus eu hasesiad risg, fel yr ydym ni i gyd wedi darllen. Ble mae asesiad risg y Llywodraeth? Ydych chi wedi gwneud rhywfaint o'r gwaith hwnnw? Efallai y gallech roi gwybod i ni.
Ac, wrth gwrs, mae'r effaith a gaiff hyn ar addysg bellach ac addysg uwch yn sylweddol. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol o ogledd Cymru, yr wythnos diwethaf, lle dywedwyd wrthym ni heb unrhyw amheuaeth am yr effaith ar sefydliadau pwysig yn y gogledd-ddwyrain, fel Coleg Cambria. Byddai’n sylweddol, ac rwy’n meddwl tybed pa drafodaethau a fu rhwng Ysgrifennydd y Cabinet a'i gyd-Weinidogion yn y Cabinet ynglŷn â sut efallai y gellid lliniaru rhai o'r effeithiau hynny a’u rheoli pe baen nhw’n cael eu gwireddu.
A ydych chi’n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Ydw, ydw.
Roedd y GIG i fod i fwynhau difidend Brexit o £350 miliwn yr wythnos. Wrth gwrs, mae Canolfan Diwygio Ewrop nawr wedi dweud wrthym ni bod y wir gost eisoes yn £440 miliwn yr wythnos, ac mae hynny'n ddiffyg Brexit, a hyn cyn i Airbus, BMW ac eraill o bosibl ein gadael ni. Nawr, welais i mo hynny ar ochr y bws Brexit a oedd yn cael ei yrru o gwmpas y wlad. Ond a yw Ysgrifennydd y Cabinet, felly, yn synhwyro, gan fod realiti Brexit caled nawr yn gwawrio ar bobl, a beth fyddai effaith wirioneddol y Brexit caled hwnnw ar swyddi pobl ac ar gyflogau pobl, bod y farn gyhoeddus mewn gwirionedd nawr wedi newid, a phe bai’r refferendwm yn cael ei gynnal heddiw, y byddai'r canlyniad yn wahanol iawn?
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad yn ei gyfanrwydd? Mae'n ffaith drist bod Shotton yn dal i ddal y record Ewropeaidd am golli’r nifer mwyaf o swyddi mewn un diwrnod yn hanes diwydiannol modern ledled Ewrop. Yn ddiweddar, ces i lun du a gwyn o 1963 o’r prentisiaid a ddechreuodd y flwyddyn honno. Roedd fy nhad yn y llun, a dyna pam cafodd ei anfon ataf fi, ac ar ôl craffu ar y llun hwn, daeth yn glir nad oedd y rhan fwyaf o’r bobl yn y llun hwnnw’n gweithio ar y safle hwnnw o fewn 20 mlynedd ar ôl i’r llun gael ei dynnu. Tybed faint o bobl yn Airbus heddiw fydd â gwaith ar y safle hwnnw ymhen ddau ddegawd pe cawn ni sefyllfa 'dim bargen'.
Rwy’n meddwl hefyd ei bod yn drist iawn bod Shaun, bachgen 15 mlwydd oed, yn gallu cyfleu’n llawer gwell ac yn fwy aeddfed y bygythiadau a'r her sy'n ein hwynebu nag y mae Jeremy Hunt yn gallu ei wneud, o ran beth allai ddigwydd i Airbus a'r diwydiant awyrofod. Nid codi bwganod mae Airbus. Datgan y ffeithiau mae Airbus. Mae Airbus yn gwneud beth ddylai busnes cyfrifol ei wneud, sef rhannu’n ddidwyll, yn blaen, yn agored ac yn onest gyda Llywodraeth beth yw canlyniad tebygol taro bargen wael neu, yn waeth byth, sefyllfa 'dim bargen’, ac nid dim ond Airbus sy’n mynegi’r pryderon hyn.
Rydym ni wedi clywed heddiw bod cwmnïau sy'n cynrychioli tuag 850,000 o bobl ledled y DU yn rhannu’r pryderon difrifol hynny. Er mai Airbus yn amlwg yw'r cyflogwr sector preifat mwyaf yn y gogledd-ddwyrain, ac yn sicr y cyflogwr mwyaf yng Nghymru o ran awyrofod ac amddiffyn, yn y rhan fechan honno o Gymru ceir clwstwr cryf o fusnesau yn y sector awyrofod ac amddiffyn. Airbus wrth gwrs; Magellan; Qioptiq; DECA; Raytheon—busnesau sy'n cyflogi pobl sy'n hynod, hynod fedrus, ac yn cael cyflogau da, pobl sy’n bobl ffyddlon iawn, pobl sy’n gwneud cyfraniad enfawr at yr economi leol ac at economi Cymru yn ei chyfanrwydd.
Rwy’n credu, wrth inni edrych at y dyfodol, bod angen inni fyfyrio ychydig ar y dull clir a chyson iawn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi’i ddilyn ers y refferendwm, ac mae'n ddull sydd, ar rai achlysuron, wedi cael ei fabwysiadu—ei ddwyn efallai—gan Lywodraeth y DU, yn sicr o ran y mynediad rhydd a dirwystr i'r farchnad sengl. Mae'n rhywbeth, ar adegau, y mae Llywodraeth y DU wedi ceisio ei efelychu, ar ffurf gormodiaith. Yn anffodus, ni fyddai'r hualau y mae Prif Weinidog y DU wedi’u llunio yn caniatáu i hynny ddigwydd mewn gwirionedd, yn seiliedig ar y trafodaethau sydd wedi digwydd, ond rwy'n credu bod Keir Starmer wedi gwneud gwaith gwych i ddal Llywodraeth y DU i gyfrif , a’i fod yn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran dwyn Gweinidogion Llywodraeth y DU i gyfrif.
O ran yr hyn rydym ni'n ei wneud, rydym ni wedi edrych ar effaith y sefyllfaoedd amrywiol ar economi Cymru, fesul sector, a’r hyn sy'n gwbl glir yw os na fydd bargen, bydd hi’n amhosibl inni liniaru pob un o'r canlyniadau; mae’r sefyllfa’n rhy ddifrifol. Byddai’r economi’n crebachu dros 10 y cant yn ôl pob tebyg, ond mae’r cynllun gweithredu economaidd wedi’i lunio mewn modd sy’n caniatáu defnyddio sefydlogyddion awtomatig, yn hytrach na chefnu ar y strategaeth a mabwysiadu strategaeth newydd ar gyfer amgylchiadau o argyfwng. Mae’r cynllun gweithredu economaidd wedi’i lunio i fod yn gadarn mewn unrhyw amgylchiadau, ond yn amlwg, gan ddibynnu ar y math o fargen—ac a oes bargen o gwbl—a ddaw i'r amlwg yn ystod y misoedd nesaf, bydd cymorth i fusnesau yn canolbwyntio ar y meysydd hynny a fydd yn gallu goroesi'r storm sydd i ddod. Ond dydw i ddim yn meddwl y dylem ni gredu y gallwn ni oddef sefyllfa 'dim bargen' heb golli llawer o swyddi yn economi Cymru.
Rwy’n siarad yn rheolaidd, nid yn unig gyda'm cyd-Aelodau yn yr adran addysg, ond rwyf hefyd yn siarad ag arweinwyr addysg uwch ac addysg bellach ac, unwaith eto, mae ganddyn nhw bryderon gwirioneddol sy’n ddifrifol iawn yn wir.
Rwy’n credu ei bod hi'n deg dweud y dylai Seneddau’r DU gytuno ar unrhyw fargen a gaiff ei tharo. Pe bai’r Seneddau’n penderfynu nad yw’r fargen yn ddigonol ac yn ei gwrthod, yn ôl pob tebyg, gellid galw etholiad cyffredinol, ac mae'n ddigon posibl y byddai’n rhaid cynnal pleidlais arall. Ddylem ni ddim diystyru’r siawns y gallai pobl droi yn erbyn y penderfyniad a wnaethpwyd, o ystyried y bygythiad gwirioneddol sy’n wynebu cynifer o bobl nawr o ran eu bywoliaeth.
Wel, mae'n anodd peidio â dylyfu gên wrth glywed yr enghraifft ddiweddaraf o newyddion ffug gan brosiect ofn: y diweddaraf mewn llith ddiderfyn o ddaroganau o'r fath dros y tair blynedd diwethaf. Datganiad gwleidyddol yw hwn yn bennaf, yn y rhyfel propaganda gan y sefydliad sydd o blaid aros ac sydd—fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet newydd adael y gath o'r cwd yn ei eiriau olaf—yn gwrthod derbyn canlyniad y refferendwm ddwy flynedd yn ôl, pan bleidleisiodd 17.5 miliwn o bobl i adael yr UE.
Mae e’n gwybod cystal â mi y byddai’r rhan fwyaf o gydrannau awyrennau’n ddi-dariff o dan reolau Corff Masnachu'r Byd, a hyd yn oed yn yr ychydig achosion lle byddai tariffau arnynt, byddai’r tollau hynny’n isel iawn, iawn—yn sicr yn llai na 5 y cant. Ond wrth gwrs hoffem i gyd daro bargen masnach rydd gyda'r UE—mae'n gwneud synnwyr cyffredin ar y ddwy ochr—ond nid Theresa May yw’r rhwystr rhag y fargen hon, ond Michel Barnier a Chomisiwn yr UE, oherwydd iddyn nhw, mae buddiannau gwleidyddol y sefydliad ffederal Ewropeaidd anetholedig yn drech na lles economaidd pobl Ewrop. Mae’n amlwg bod bargen fasnach rydd er budd dinasyddion yr UE, oherwydd y llynedd fe wnaethon nhw werthu £192 biliwn yn fwy o nwyddau i ni nag y gwnaethon ni eu gwerthu iddyn nhw. Felly, pe bai’n rhaid iddyn nhw wynebu tariffau cyfatebol i wneud iawn am y rhai a fyddai’n cael eu gosod arnom ni o ganlyniad i ‘ddim bargen’ gyda Brexit, byddai cynnwrf enfawr yn yr UE hefyd.
I gyfeirio at yr un agwedd y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet amdani yn ei sylwadau ennyd yn ôl am Gymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron yn ymuno ag Airbus fel proffwydi gwae, mae 14 y cant o bob un cerbyd sy’n cael ei gynhyrchu yn yr Almaen yn cael ei allforio i’r Deyrnas Unedig. Pe bai’n rhaid iddynt wynebu treth o 10 y cant ar fewnforion i'r wlad hon am eu bod nhw’n gwneud yr un peth i ni wrth inni allforio i'r UE, byddai hynny'n ddrwg iawn i fuddiannau gweithgynhyrchwyr moduron yr Almaen.
Felly, rwy’n gobeithio bod yr unigolion hyn yn rhoi cymaint o bwysau ar Monsieur Barnier i gytuno ar fargen masnach rydd ag y mae eu cymheiriaid yn y wlad hon yn ei roi ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ildio i holl ofynion sefydliad yr EU. Hoffwn wybod, er enghraifft, a yw pwysigion Airbus wedi ysgrifennu at Monsieur Barnier i gwyno am ei wrthodiad diamod i drafod bargen fasnach rydd synhwyrol, fel y cytunwyd yn ddiweddar â Canada, ac ychydig flynyddoedd yn ôl â De Korea. Pam na ddylem ni gael bargen o'r fath? Beth yw’r gwrthwynebiad gwleidyddol i hynny?
Mae’r ffaith bod cwmni fel Airbus yn cynorthwyo pŵer tramor gelyniaethus sy’n ceisio tanseilio buddiannau Prydain, rwy’n credu, yn warthus, ond tybed a allai hyn fod yn gysylltiedig mewn rhyw ffordd â’r gwerth $18 biliwn o gymorth gwladwriaethol anghyfreithlon y maen nhw wedi’i gael gan Lywodraethau Ewropeaidd yn y blynyddoedd diwethaf, fel y barnodd Sefydliad Masnach y Byd dim ond mis yn ôl. O ganlyniad i hynny, mae cynrychiolydd masnach yr Unol Daleithiau wedi dweud bod hyn yn braenaru'r tir i’r Unol Daleithiau godi tollau dialgar ar nwyddau o’r UE. Nid dyma sut i fynd ati os ydym ni eisiau llunio polisïau synhwyrol yn Ewrop, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff Llywodraeth Cymru gytuno â mi yn hynny o beth.
Ond y gwir amdani yw bod y datganiad hwn heddiw, wrth gwrs, yn un twyllodrus oherwydd does dim gobaith o gwbl y gwnaiff Airbus gau eu holl weithrediadau yn y wlad hon. Ble arall byddai adenydd yr awyren yn cael eu gwneud? Dyw hi ddim mor hawdd cau a throsglwyddo i rannau eraill o Ewrop neu'r byd. Dewch inni edrych ar gyd-destun cyhoeddi’r datganiad hwn. Faint o gwmnïau enfawr sydd wedi gwneud daroganau gwae tebyg yn y blynyddoedd diwethaf ond y bu'r hyn a ddigwyddodd yn wahanol ac y cafwyd eu bod yn anghywir yn y pen draw? Gwnaeth Lloyd Blankfein o gwmni Goldman Sachs rai o'r datganiadau mwyaf apocalyptaidd am effeithiau Brexit, ac eto, ym mis Ebrill eleni, wrth agor canolfan swyddfeydd newydd gwerth £1 biliwn yn Llundain, dywedodd:
Rwyf yn anghywir oherwydd fy mod yn credu y byddai'r canlyniad wedi bod yn waeth…Mae economi'r DU wedi fy synnu ar yr ochr orau.
Edrychwch ar Siemens: unwaith eto, dywedodd Joe Kaeser, a oedd yn daer o blaid aros yn yr UE, y byddai Brexit yn amharu ar yr economi, y byddai ansicrwydd ynghylch y berthynas â’r UE yn achosi effeithiau negyddol sylweddol tymor hir, y byddai’r DU yn lle llai deniadol i fasnachu, y gallai fod yn ffactor pan fyddai Siemens yn ystyried buddsoddi yn y dyfodol yma, ac eto, ym mis Tachwedd 2017, er eu bod wedi torri 3,000 o swyddi yn yr Almaen a 1,000 ledled Ewrop, cyhoeddodd ef fuddsoddiad o £39 miliwn i ehangu eu ffatri fwyaf yn y DU yn Lincoln, sy'n cyflogi 1,500 o bobl.
Dim ond i droi at Airbus yn olaf, a’u sylwadau blaenorol am hyn, wrth gwrs, mae Airbus yn dweud nawr y byddan nhw’n diddymu buddsoddiad, beth bynnag mae hynny'n ei olygu—neu y gallen nhw ddiddymu buddsoddiad, beth bynnag mae hynny’n ei olygu—os nad oes bargen. Maen nhw mor amwys wrth ddweud ‘os’ ac ‘oni bai’ a rhoi rhybuddion nes ei bod hi’n amhosib dod i unrhyw gasgliadau. Ond dim ond ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, roedd Tom Enders yn flaenllaw iawn yn y prosiect ofn yn ystod ymgyrch y refferendwm. Mewn un ymyriad ar ôl y llall gwnaeth fygwth diddymu buddsoddiad pe bai’r cwmni’n pleidleisio i adael, ac eto, wrth gwrs, dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny. Ers hynny mae ef wedi cyfaddef bod y cwmni’n bwriadu cadw eu gweithrediadau—fel y dywedodd—yn bell i’r dyfodol. Ysgrifennodd ef at Greg Clark ym mis Chwefror eleni i ddweud eu bod yn ystyried y DU yn wlad sy'n gartref iddynt ac yn lle cystadleuol i fuddsoddi. Mae'r cyfeiriad at 'wlad sy'n gartref iddynt', wrth gwrs, yn bwysig, oherwydd mae hynny'n golygu, wrth ddatblygu strategaeth economaidd yn y cwmni, bod adrannau cenedlaethol Airbus yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth a’u bod yn dylanwadu ar y penderfyniadau ar gynhyrchu a strategaeth.
Felly, hanfod hyn oll, mewn gwirionedd, yw ceisio gwneud yn siŵr na fydd 'dim bargen' o gwbl. Wel, prin fod angen iddo wneud hynny oherwydd mae anallu Theresa May a’r Llywodraeth hollol ddi-glem sydd wedi difetha’n llwyr yr holl gyfleoedd Brexit oedd yn bodoli ddwy flynedd yn ôl eisoes wedi cyflawni’r amcan hwnnw: i bob pwrpas, byddwn yn parhau'n rhan o’r UE, mewn ffurf os nad mewn enw. Felly, does gan Airbus ddim byd i boeni amdano.
Mae hyn—. Mae'n embaras, a dweud y gwir. Rwy’n gobeithio nad oes neb o unrhyw sector diwydiannol nac unrhyw fuddsoddwyr wedi gwrando ar y cyfraniad hwn. Ond dim ond un cwestiwn cyflym sydd wedi bod yn fy meddwl wrth wrando ar yr Aelod: ble mae’r Aelod sydd i fod yn cynrychioli'r 6,500 o bobl ym Mrychdyn yn eich plaid ar hyn o bryd? Dydw i ddim yn gweld yr aelod UKIP dros ogledd Cymru yn bresennol y tu ôl ichi i gymeradwyo’r hyn roeddech chi’n ei ddweud. Dydw i ddim yn ei gweld hi’n cefnogi’r hyn roeddech chi’n ei ddweud am ddyfodol ffatri Airbus.
A dweud y gwir, mae’n gywilyddus eich bod chi’n dewis difrïo nid yn unig Airbus, ond pobl fel—[Torri ar draws.] Roeddech chi’n difrïo Airbus. Roeddech chi’n difrïo eu pryderon. Roeddech chi’n honni bod sefydliadau fel Oxford Economics yn gwrthwynebu Brexit, ac felly mai dyna’r unig ffactor oedd yn eu cymell nhw, yn hytrach na gwneud dadansoddiad gwrthrychol ar ran Airbus. Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi wedi darllen 'The impact of Airbus on the UK economy'. Dydw i ddim yn gwybod a ydych chi wedi ymweld ag unrhyw un o safleoedd Airbus. Rydych chi wedi? Ydych chi wedi ymweld â safle Brychdyn yn ddiweddar? Ydych chi wedi siarad ag uwch reolwyr? Oherwydd yn sicr, dydych chi heb wrando arnynt. Efallai fod y geiriau wedi eu llefaru, ond—[Torri ar draws.] Edrychwch, bydd fy neges yn glir iawn: dewch allan o’ch ffos, tynnwch y plygiau o’ch clustiau a gwrandewch ar bobl sy'n gwybod mwy o beth cythraul am y sector awyrofod na chi, oherwydd mae 6,500 o swyddi ym Mrychdyn yn y fantol, 400 i 500 yng Nghasnewydd yn y fantol. Dydy’r cwmni hwn ddim yn chwarae gwleidyddiaeth bleidiol bitw. Mae'r cwmni hwn yn gwmni rhyngwladol sydd yn benderfynol o wneud yn siŵr y gall dyfu yn y dyfodol, ac, os na all wneud hynny yn y DU, bydd yn gwneud hynny yn rhywle arall.
Nid dim ond mater o dariffau yw hwn. Mae’n ymddangos bod yr Aelod yn credu mai’r unig gwestiwn o ran Brexit yw a oes rhaid inni ddefnyddio tariffau. Dydy hyn ddim yn fater o dariffau i Airbus. Mae'n glir iawn, os darllenwch chi 'The impact of Airbus on the UK economy', mai'r mater o ganiatáu i bobl symud a’r amgylchedd rheoleiddio a allai achosi aflonyddwch difrifol.
O ran mewnforio ceir, a ydych chi o ddifrif yn awgrymu y byddai cwsmeriaid yn hapus i dalu 10 y cant yn ychwanegol am geir sy’n cael eu mewnforio i Brydain, er gwaetha'r ffaith bod nifer enfawr o gydrannau’r ceir hynny’n cael eu gwneud ym Mhrydain, bod swyddi’n dibynnu ar y ceir hynny, bod—? Iawn, efallai eu bod nhw’n cael eu cydosod yn derfynol y tu allan i Brydain, ond mae’r swyddi sy'n cyflenwi’r cydrannau yma yn y DU, ac felly bydd tariffau’n cael effaith fawr—[Torri ar draws.] Bydden nhw’n cael effaith fawr, a bydden nhw’n arwain—[Torri ar draws.] O fewn y gadwyn gyflenwi, gallai hynny arwain at golli llawer o swyddi.
Edrychwch, mae'r rhain yn rhybuddion. Pa bryd ydych chi'n mynd i dderbyn bod angen gwrando ar rybuddion, na fedrwch chi anwybyddu rhybuddion y byddai sefyllfa 'dim bargen' yn llawer mwy niweidiol—yn llawer mwy niweidiol—i economi'r DU na bargen Brexit dda? Yn hytrach, rydych chi’n bwriadu rhuthro mor gyflym â phosib at ochr y dibyn, heb roi unrhyw sylw dyledus i’r 6,500 o bobl sy’n cael eu cyflogi gan Airbus ym Mrychdyn, y 400 i 500 sy'n cael eu cyflogi yng—[Torri ar draws.] Rwy’n sylwi bod yr Aelod yn gwneud sylwadau ar ei eistedd. Os oes ganddo ymyriad i’w wneud, byddwn i’n hapus i’w dderbyn.
Na. Na, does dim ymyriadau, a byddwn yn gofyn—[Torri ar draws.] Mewn munud, mewn munud. Rwy’n gofyn i bob aelod wrando ar Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych chi wedi gofyn cyfres o gwestiynau a dylech chi wrando ar yr atebion. Diolch.
Yn olaf, o ran y sylw a wnaeth yr Aelod am rybuddion anghywir y mae elfennau eraill o'r diwydiant wedi eu gwneud, nid yn unig ynghylch Brexit, ond ffactorau eraill, hanesyddol, un agwedd bwysig i'w chadw mewn cof yw bod llawer o wleidyddion wedi anwybyddu bygythiadau Tata, a phryderon Tata, nes i’r busnesau yma yng Nghymru a ledled y DU gael eu rhoi ar werth. A fydd angen colli degau os nad cannoedd o filoedd o swyddi yn y DU cyn i’r bobl sydd o blaid sefyllfa 'dim bargen' ddeffro a derbyn eu bod yn anghywir a’u bod wedi gwneud pobl yn ddi-waith?
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad eithriadol o bwysig hwn heddiw? O'r cychwyn cyntaf, rwy’n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod nad yw’r rhybudd hwn yn unigryw i Airbus—mae'n rhybudd ledled holl sectorau a diwydiannau Cymru, a ledled Ewrop yn ogystal. Dros y penwythnos mae BMW a llawer o rai eraill, gan gynnwys Ferrovial heddiw, a SMMT; fe wnaethoch chi gyfeirio at hynny yn eich datganiad. Mae gan yr holl rybuddion hyn un peth yn gyffredin, sef ansicrwydd. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd Cyllid am yr ansicrwydd, ac mae wedi bod yn thema gyffredin drwy gydol fy amser ar y pwyllgor materion allanol. Pryd bynnag yr wyf wedi ymweld â gweithleoedd, fel Airbus, Tata Steel neu Toyota, mae’r mater wedi ei grybwyll bob amser. Yn anffodus, dydym ni ddim wedi cael yr eglurder yr oeddem ni i gyd yn chwilio amdano. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet ddiweddaru’r Aelodau ynghylch a yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw sylwadau clir iddo ers cyhoeddiad Airbus? Hefyd, a allai ddweud a yw wedi cael unrhyw ohebiaeth gydag Unite the Union am y mater hwn dros y penwythnos? Rwyf fi wedi siarad â chynrychiolwyr yr undeb ac roedden nhw’n rhannu llawer o'm pryderon, yn bennaf oherwydd eu bod yn gwybod y cyfraniad aruthrol y mae Airbus yn ei wneud dros Alun a Glannau Dyfrdwy, dros Gymru, a thros bobl ledled y DU.
Rydych chi wedi dweud mai Airbus yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghymru, a’u bod nhw’n cyflogi bron 6,500 o bobl, a bod hynny’n golygu mai nhw yw’r ail gyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU ddangos arweinyddiaeth a rhoi’r eglurder sydd ei angen ar y busnes, ac nid yn unig y busnes, ond, yn bwysicach, sydd ei angen ar y gweithlu? Mae Airbus yn gwneud cyfraniad uniongyrchol sylweddol at gynnyrch domestig gros Cymru, fel mae’r Aelodau yn ei wybod, ac yn 2015 cyfrannodd y cwmni, yn uniongyrchol, £563 miliwn o werth ychwanegol at gynnyrch domestig gros Cymru. Nawr, mae hynny'n cyfateb i dros 5 y cant o’r allbwn economaidd a gynhyrchwyd yng Nghaerdydd yn ystod yr un flwyddyn.
Rwy’n croesawu cefnogaeth barhaus Ysgrifennydd y Cabinet, ac yn fwyaf diweddar, buddsoddiad y Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch yn ffatri Airbus ym Mrychdyn, ac rwy’n credu bod arnom ni angen mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ond mae angen imi ddweud: a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai’r ffigurau hynny yr wyf wedi sôn amdanynt a’r cyhoeddiad hwn ddeffro Llywodraeth y DU? Ac, os na wnaiff, dydw i wir ddim yn gwybod beth wnaiff.
Dim ond yn gryno, hoffwn gyfeirio at sylw a wnaeth fy nghyd-aelod o ben arall y Siambr, Llyr Gruffydd, wrth sôn am bwysigrwydd yr hyn a ddigwyddodd wrth gau ffatri Shotton a chydnabod hynny. Rydych chi'n hollol gywir; ni fydd cynddrwg, bydd yn bendant yn waeth, ac mae hynny'n rhywbeth, yn syml, na allwn ni ganiatáu iddo ddigwydd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, hoffwn gyfeirio at sylw, lle—. Dydw i ddim yn credu mai ystryw wleidyddol yw hyn gan Airbus, rwy’n credu ei fod yn rhybudd clir ac yn rhybudd y dylid bod yn ddifrifol iawn, iawn yn ei gylch. Dydw i ddim yn siŵr a ydych chi wedi ei weld dros y penwythnos, Ysgrifennydd y Cabinet, ond, ar y sioe Daily Politics, ymosododd Nigel Farage ar Airbus fel prosiect gwleidyddol cyn piffian chwerthin wrth i rywun sôn am bobl Cymru, teuluoedd Cymru, o bosibl yn colli eu swyddi. Felly, a fyddech yn ymuno â mi, Ysgrifennydd Cabinet, i gondemnio’r anghyfrifoldeb llwyr hwn ac yn ymuno â mi pan ddywedaf wrth y gweithwyr hynny o Gymru a'u teuluoedd, ac wrth y gweithwyr yn y dyfodol, ein bod ni gyda chi yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac y gwnawn ni sefyll gyda chi?
A gaf fi ddiolch i Jack Sargeant am ei gyfraniad ac am ei gwestiynau? Mae'n llygad ei le—yr hyn y mae buddsoddwyr ei eisiau pan fyddan nhw’n edrych ar unrhyw wlad yw sicrwydd o ran yr amgylchedd gwleidyddol ac economaidd ac mae arnyn nhw angen i’r sgiliau cywir fod ar gael a’r seilwaith iawn yn ei le. Yng Nghymru, rydym ni'n gwella'r sylfaen sgiliau, rydym ni'n datblygu'r seilwaith priodol, ond mae perygl y gallai Brexit effeithio arnom ni yn ofnadwy os nad oes bargen neu os nad yw’r fargen yn diwallu anghenion busnesau Cymru.
A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fy mod i wedi siarad gyda Greg Clark? Fe wnes i siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ddydd Gwener. Fe wnes i sôn wrtho am fy mhryderon difrifol iawn, ac fe wnes i hefyd fynegi fy nghefnogaeth i Aelodau o fewn ei blaid ef, er bod y rhan fwyaf o'r rheini ar y meinciau cefn, gan gynnwys Anna Soubry a Guto Bebb, o ran eu sylwadau diweddar ynghylch y datganiad gan Airbus. Nid yw'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid cyfeiriad. Mae angen iddynt liniaru eu safbwyntiau ac mae angen iddynt dderbyn trefniant pragmatig. Yn anffodus, gan fod y Prif Weinidog wedi'i gefynnu gan eithafwyr asgell dde ei phlaid, mae canlyniad o'r fath yn gynyddol annhebygol.
Nawr, a gaf i ddweud, yn ogystal â siarad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, fy mod yn siarad yn rheolaidd iawn gydag Unite the Union a gydag Airbus eu hunain, gyda rheolwyr. Yn wir, yn ddiweddar fe wnes i benodi Katherine Bennett, uwch is-lywydd Airbus UK, i’r bwrdd cynghori gweinidogol newydd, gan gydnabod ei chraffter, ei gwybodaeth a’i harbenigedd nid yn unig yn y sector awyrofod a gweithgynhyrchu yn gyffredinol, ond hefyd o ran economi'r DU a'r cyfleoedd sydd gennym ni, os cawn y fargen Brexit gywir, i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi ar gyfer gweithgynhyrchwyr gwreiddiol y cyfarpar awyrofod.
Nawr, mae Jack Sargeant yn hollol gywir, rydym ni’n buddsoddi’n sylweddol iawn ym Mrychdyn; rydym ni wedi yn y gorffennol. Mae hynny o ganlyniad i'r cymorth ad-daladwy a’r cymorth sgiliau a’r mathau eraill o gymorth a gynigiwyd i Airbus dros lawer o flynyddoedd gan Lywodraethau Llafur olynol, a nawr mae’r safle hwnnw’n cyflogi 6,500 o bobl. Rydym ni wedi helpu i dyfu’r safle hwnnw ac rydym ni’n fodlon ymladd nerth ein deng ewin i amddiffyn y bobl hynny sy'n cael eu cyflogi yno; wnawn ni ddim cefnu arnyn nhw.
O ran Nigel Farage, a’i biffian chwerthin ar y teledu wrth y posibilrwydd y gallai pobl—miloedd o bobl—golli eu swyddi, dyna ymddygiad swancyn breintiedig sydd, mae arnaf ofn, yn hollol anymwybodol o beth yw diwrnod caled da o waith yn y sector awyrofod. Os mai’r oll y gall ef ei wneud yw ymateb drwy biffian chwerthin, mae arnaf ofn na fydd croeso iddo yn Airbus nac yn unrhyw safle diwydiannol arall lle gallai swyddi gael eu chwalu gan sefyllfa 'dim bargen'.
Diolch. Mae gen i ddau siaradwr arall. Rwy’n mynd i ymestyn y datganiad hwn, ond dydy hynny ddim yn golygu fy mod i’n disgwyl i’r ddwy siaradwr nesaf fod yn hirwyntog, felly—. Jayne Bryant.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r datganiad pwysig hwn heddiw ac am ei eiriau cryf. Mae cyhoeddiad yr wythnos diwethaf wedi peri pryder mawr. Mae Airbus yn cyflogi miloedd o bobl yng Nghymru, ac, er bod y mwyafrif helaeth o weithwyr wedi’u lleoli ym Mrychdyn, mae Airbus yn cyflogi 450 o bobl yng Nghasnewydd. Mae Airbus Casnewydd yn gartref i’r ganolfan ragoriaeth seiber trawsnewid digidol byd-eang, ac mae’r tîm o beirianwyr ymchwil seiber yn gwneud gwaith ymchwil sy'n arwain y byd ym maes seiberddiogelwch. Maent yn gweithio'n bennaf mewn amgylcheddau hynod ddirgel, gan ddarparu amddiffyniadau seiber gradd uchel.
Yn dilyn ansicrwydd Brexit, rwyf ar ddeall fod Airbus eisoes yn gweld effaith ar eu busnes gofod gyda'r rhaglen llywio lloeren Galileo. Ymwelais â safle Casnewydd yn fy etholaeth yn union ar ôl y bleidlais Brexit i wrando ar eu pryderon. Rhaid inni beidio â cholli’r swyddi hyfedr rhagorol hyn na gweld gostyngiad mewn buddsoddi. Byddai hynny’n cael effaith sylweddol ar yr economi a'r ardal leol. Yn ogystal â’r bobl sy’n gweithio yng Nghasnewydd, mae rhai o'm hetholwyr yn gweithio yn Airbus yn Filton, sy'n gweithgynhyrchu adenydd ar gyfer awyrennau milwrol, yn ogystal â dylunio, peiriannu a chefnogi adenydd masnachol Airbus.
Mae negeseuon Airbus i Lywodraeth y DU ers y refferendwm wedi bod yn gyson—byddai Brexit 'dim bargen' yn amharu'n ddifrifol ar gynhyrchu. At hynny, mae Airbus yn pryderu bod y cyfnod pontio arfaethedig presennol yn rhy fyr i gwmni wneud y newidiadau sydd eu hangen yn ei gadwyn gyflenwi helaeth. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod rhaid i'r rhybudd gan Airbus ac eraill fod yn elfen o realiti i Lywodraeth y DU, a bod eu diffyg eglurder nhw’n peryglu swyddi a buddsoddi yn y dyfodol?
Ydw, rwy’n cytuno’n fawr iawn â Jayne Bryant. Rwy’n gwybod ei bod hi wedi gwneud llawer i hyrwyddo Airbus yng Nghasnewydd ers cael ei hethol i'r Cynulliad hwn, ac rwy’n gwybod hefyd pa mor bwysig yw’r cyflogwr penodol hwn i'r rhanbarth—mae’r safle’n cyflogi 450 o bobl fedrus. Mae'r safle’n ddiwydiant arloesol y gallwn fod yn falch iawn ohono, ac mae’n cynnig cyfle aruthrol i lawer o bobl sy'n mentro maes penodol lle mae gennym ni allu sylweddol, capasiti sylweddol ar hyn o bryd hefyd, ac rwyf yn ofni os yw Brexit yn parhau i fynd rhagddo fel y gwelsom ni yn ystod y misoedd diwethaf, y gallai’r swyddi hynny fod mewn perygl, fel y mae Airbus wedi dweud.
Rwyf hefyd yn cytuno bod y cyfnod pontio yn rhy fyr, yn ôl yr hyn y mae busnesau wedi’i ddweud wrth Lywodraeth Cymru. Yn gyffredinol, rydym ni wedi clywed bod angen i gyfnod pontio diogel bara dwy flynedd o leiaf—yn aml, nodir mai tair blynedd fyddai’r hyd gorau i gyfnod pontio.
Rwy’n gwybod y bydd Jayne Bryant, a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon, yn teimlo'n rhwystredig iawn bod Stryd Downing yn dal i anwybyddu eu rhybuddion a’r pryderon y maen nhw wedi eu mynegi yn y Siambr hon a'r tu allan iddi. Mae angen i Brif Weinidog y DU newid cyfeiriad, a'r ffordd y gall hi wneud hynny yw drwy liniaru ar ei safbwyntiau a negodi’n synhwyrol gyda'n partneriaid Ewropeaidd.
Yn olaf, Mark Isherwood.
Diolch. Wrth gwrs, rwyf wedi ymweld ag Airbus lawer gwaith. Rwyf wedi adnabod Katherine Bennett ers blynyddoedd lawer ac wedi trafod y mater hwn a materion eraill gyda hi. Rwyf hyd yn oed wedi bod i Toulouse ac wedi cyfarfod ag uwch-reolwyr a gweithwyr yno, rhai ohonynt wedi dod o Frychdyn ac yn gweithio ochr yn ochr â’u cydweithwyr yn Toulouse.
Ar ôl cyhoeddiad Airbus ddydd Gwener, cefais e-bost gan gyflogai o Airbus a ddywedodd fod y newyddion nad oedd bargen ar y gweill i ddiogelu’r miloedd o swyddi medrus yn y DU yn Airbus a’u cyflenwyr yn peri gofid i ddweud y lleiaf. Wrth gwrs, mae’r trafodaethau’n parhau, felly fe wnes i ymateb drwy ddweud bod trafodaethau ar y cytundeb ymadael yn parhau, bod y Prif Weinidog wedi ei gwneud hi'n glir, yn hytrach na Brexit caled, bod arni eisiau, fel y dywedodd, gytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol, a’i bod hi wedi dweud bod yn rhaid i’r cytundeb a gawn ni gyda'r UE ddiogelu swyddi a diogelwch pobl.
Fodd bynnag, o ystyried y negeseuon cymysg a'r pryder bod gweithwyr wedi cael y neges bod trafodaethau ar ben, nad oes bargen yn cael ei tharo ac y gallent felly fod mewn trafferth, beth rydych chi'n mynd i'w wneud i helpu cydbwyso eu dealltwriaeth—ie, deall y risgiau, ond hefyd deall y sefyllfa ehangach? Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod y Cyngor Ewropeaidd fis Rhagfyr diwethaf wedi cytuno bod digon o gynnydd wedi'i wneud yn ystod cam 1 y trafodaethau Brexit gyda'r UE i ganiatáu dechrau ar gam 2 y trafodaethau.
Ym mis Mawrth, tarodd negodwyr yr UE a'r DU fargen wleidyddol ynglŷn â thelerau cyfnod pontio Brexit mewn cytundeb ymadael drafft newydd, a dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain fod hyn yn garreg filltir yr oedd llawer o fusnesau ledled y DU wedi bod yn aros amdani, a bod y cytundeb o gyfnod pontio 'status quo' yn newyddion gwych i gwmnïau masnachu ar y ddwy ochr i’r sianel, gan fod hynny'n golygu na fydd dim neu fawr ddim newid i’r busnes o ddydd i ddydd yn y tymor byr.
A wnewch chi ymuno â mi i bwysleisio i'r gweithwyr hynny ym Mrychdyn fod Llywodraeth y DU fis diwethaf wedi cytuno y bydden nhw’n dweud wrth yr UE eu bod nhw’n dymuno ymestyn aelodaeth Prydain o'r undeb tollau y tu hwnt i'r cyfnod pontio cychwynnol, nes y gellir rhoi trefniadau ar waith ar gyfer pa bynnag gytundeb tollau a gaiff ei ffurfio yn unol â'r cytundeb hwnnw, ac i ddweud wrthynt fod datganiad ar y cyd gan negodwyr yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU ynglŷn â chynnydd trafodaethau o dan Erthygl 50 ar 19 Mehefin, yr wythnos diwethaf, wedi dweud:
Mae'r datganiad yn nodi manylion y Cytundeb drafft lle daethpwyd i gytundeb bellach o ran y negodwyr, yn ogystal â'r meysydd hynny lle mae cynnydd pellach wedi’i wneud?
Ac mae rhestr hir o feysydd lle ceir cytundeb eisoes. Daethant i'r casgliad: bydd y cynnydd a gofnodwyd yn y datganiad hwn yn cyfrannu at gwblhau'r Cytundeb Ymadael, a bod y negodwyr yn ymrwymo i wneud cynnydd mor gyflym â phosibl ar bob agwedd sy’n angenrheidiol er mwyn dod i gytundeb o'r fath.
Onid yw hi, felly, yn hanfodol ein bod ni’n cydbwyso hyn drwy sicrhau bod y gweithlu yn gwybod bod y trafodaethau hyn yn mynd rhagddynt, yn gwybod bod cyfnod pontio wedi'i gytuno, yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn cydnabod, bellach yn unfrydol, bod angen ymestyn y cyfnod pontio i ymestyn yr undeb tollau, am y rhesymau rwyf yn eu disgrifio, ac yn gwybod bod Greg Clark, Ysgrifennydd busnes a diwydiant y DU, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, dim ond ddoe, wedi dweud wrth wrandawiad yn Senedd y DU bod cytundeb yn gwbl bosib sy'n sicrhau nad oes unrhyw fygythiad y gellir ei osgoi o ran gwrthdaro a thariffau, ac mai dyna beth ddylai'r holl bleidiau seneddol ei gefnogi yn y misoedd i ddod?
Rwy’n falch bod Mark Isherwood wedi trafod y mater hwn gydag uwch is-lywydd Airbus UK a llawer o reolwyr eraill ym Mrychdyn ac yn Toulouse. Rwy'n tybio y bydd bron bob un o’r uwch weithredwyr hynny wedi anghytuno â’r Aelod dros y bleidlais i adael yr UE. Ac mae arnaf ofn, os na fydd newid cyfeiriad, na fydd y gweithwyr Airbus hynny o’r DU y bydd wedi cwrdd â nhw yn Toulouse yn gallu mynd ar awyren ar amrantiad i fynd i unrhyw un o gyfleusterau Ewropeaidd Airbus fel y maen nhw’n gallu nawr, ac mae hynny'n ffactor hanfodol y mae angen i’r cwmni ei ystyried o ran lle maen nhw'n buddsoddi. Mae arnyn nhw angen y sicrwydd, pan fydd nam yn datblygu, pan fydd angen gwaith cynnal a chadw, eu bod nhw’n gallu anfon pobl fedrus, arbenigwyr, technegwyr, ar unwaith. Mae arnaf ofn, yn seiliedig ar y trafodaethau sydd wedi'u cynnal hyd yn hyn, na fydd modd rhoi’r sicrwydd hwnnw iddyn nhw.
Nid wyf yn credu bod cyflogeion wedi cael negeseuon cymysg gan Airbus. Allai Airbus ddim bod wedi bod yn fwy eglur yn yr hyn a ddywedasant ddydd Gwener diwethaf. Rwy’n credu mai Llywodraeth y DU sy'n anghyson o ran y negeseuon a'r trafodaethau sy'n digwydd. Er fy mod i wedi cael cais i gysuro gweithwyr Airbus ynglŷn â thrafodaethau Brexit, mae arnaf ofn nad oes gen i negeseuon cynnes o gysur am y trafodaethau, oherwydd oni bai bod Theresa May yn gallu lliniaru ar y safbwyntiau hynny y mae hi’n cydio mor dynn ynddyn nhw, mae arnaf ofn y gallai fod yn drychinebus i bobl sy'n cael eu cyflogi yn y sector awyrofod yn y DU. Oes, mae trafodaethau parhaus yn mynd rhagddynt, ond y safbwyntiau sy'n atal y math o fargen rydym ni’n credu ei bod er lles hanfodol y diwydiant awyrofod—[Torri ar draws.]
Mae arna i ofn bod yr Aelod yn dal taflen o bapur â llawer o eiriau arni. Pe bai’n darllen am yr effaith—mae'n ddogfen hirach, ydy—ond pe bai’n darllen am effaith Brexit ar Airbus efallai y byddai wedi dod i gasgliad gwahanol pan gynhaliwyd y refferendwm. Dewch inni atgoffa’r 6,500 o weithwyr hynny yn Airbus ym Mrychdyn bod aelod y Blaid Geidwadol dros ogledd Cymru wedi ymgyrchu’n galed ar i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet.