– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Am fwy na dwy flynedd bellach, mae'r holl wlad wedi trafod sut i fynd i'r afael â'r amgylchiadau a grëwyd gan y refferendwm Brexit. Cymerodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, chwe mis i lunio ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn seiliedig ar ddadansoddiad economaidd cynhwysfawr o fuddiannau Cymru. Mae hi wedi cymryd dwy flynedd gyfan i Lywodraeth y DU gynhyrchu Papur Gwyn yr wythnos diwethaf ynglŷn â'i sefyllfa negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Dirprwy Lywydd, mae'n anodd dechrau datganiad fel hyn heb sôn am yr anhrefn a'r camreoli digyffelyb a fu i'w gweld ers amser maith bellach yn ymagwedd Llywodraeth y DU ac sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa druenus yr ydym ni ynddi heddiw. Mae Llywodraeth y DU mewn cyflwr o anhrefn, y rhaniadau ynddi yn amlygu eu hunain bob dydd, os nad bob awr. Holir cwestiynau difrifol ar bob ochr am ei chymhwysedd sylfaenol. Ar adeg pan mae'r DU gyfan yn wynebu ein her bwysicaf ers cenhedlaeth, mae gennym ni Lywodraeth yn y DU sy'n analluog i wneud y gwaith dan sylw.
Cymerodd ddwy flynedd i Brif Weinidog y DU sicrhau cytundeb Cabinet ar y cyd, ond dim ond dau ddiwrnod i'r Ysgrifennydd Gwladol oedd yn gyfrifol am gyflawni'r polisi hwnnw ymddiswyddo. Ymadawodd yr Ysgrifennydd Tramor—y person sy'n gyfrifol am gynrychioli'r DU dramor—yn fuan wedyn, gan gyhuddo'i Lywodraeth ei hun o chwifio'r faner wen. Ac mae'r ymddiswyddiadau yn parhau, fel y gwyddom ni, bron bob dydd. Mae hynny i gyd, Dirprwy Lywydd, o bwys i ni yma yng Nghymru. Mae agweddau pwysig ar Bapur Gwyn y DU, gan gynnwys trafnidiaeth a physgodfeydd, wrth gwrs, o fewn ein cymhwysedd datganoledig ni. Mae safbwynt y DU ar ba fath o fframwaith symudedd a pherthynas economaidd a fydd gennym ni yn y dyfodol yn hanfodol bwysig i Gymru a'r broses o ddarparu gwasanaethau datganoledig.
Ar bob cyfle, Dirprwy Lywydd, mae Prif Weinidog Cymru, Rebecca Evans drwy gyfrwng ei swyddogaeth ar y fforwm gweinidogol newydd a minnau wedi dadlau'n gyson o blaid Brexit sy'n amddiffyn buddiannau Cymru. Mae ein safbwynt ni yr un fath ag yr oedd ar y cychwyn: un sy'n rhoi dyfodol swyddi a'n heconomi yn gyntaf. Rydym ni'n dweud bod angen i'r DU aros mewn undeb tollau gyda chyfranogiad llawn a dirwystr yn y farchnad sengl. Yn ei Phapur Gwyn, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd rhai camau sigledig i'r cyfeiriad yr ydym ni wedi ei nodi'n gyson. Mae Llywodraeth y DU bellach yn cyfaddef pa mor bwysig yw cyfrannu yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol. Rydym ni'n cytuno. Maen nhw'n nodi'r angen i sicrhau aliniad deinamig â rheoliadau'r UE wrth i'r Undeb Ewropeaidd barhau i esblygu a datblygu rheolau cyffredin. Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n cytuno.
Llwyddwyd i ddwyn perswâd hefyd ar Lywodraeth y DU i barhau i gefnogi cylchrediad rhydd nwyddau o fewn tiriogaeth tollau cyfunol newydd. Mewn Cymraeg clir, siawns nad yw hynny'n cyfateb i gymryd rhan mewn undeb tollau, ac i'r graddau y mae'n gwneud hynny, rydym ni'n cytuno y gallai'r rhain fod yn gamau i'r cyfeiriad cywir. Ond am bob ateb y mae'r Papur Gwyn yn ceisio ei roi, mae cyfres arall o gwestiynau yn codi. Sut allai cynigion tollau astrus y DU weithio yn ymarferol? Dywedodd David Davis, sy'n ymadael â'i swydd ac a oedd hyd yma yn fythol gadarnhaol, fod y gosodiad yn anymarferol. Pa dystiolaeth sydd yna i gefnogi hepgor y sector gwasanaeth o'r rheolau cyffredin? A sut y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sicrwydd i 27 o wledydd yr UE ynglŷn â materion amgylcheddol a safonau'r farchnad lafur, i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol?
Dirprwy Lywydd, gadewch imi ymhelaethu ar rai agweddau eraill ar y Papur Gwyn sy'n bwysig i Gymru. O ran y fframwaith symudedd, fel y'i gelwir, rydym ni wedi dadlau'n gryf o blaid system sy'n gydnaws â'r egwyddor o ryddid pobl i symud, ond lle bo cyswllt amlwg rhwng mudo a chyflogaeth. Mae gennym ni agwedd gadarnhaol tuag at y cyfraniad y mae dinasyddion yr UE yn ei wneud i fywyd yng Nghymru, ac mae'r Papur Gwyn yn gyfle a gollwyd i roi eglurder i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus a'r dinasyddion hynny o'r UE y buom ni'n ddigon ffodus i'w denu i fod yn rhan o'n cymuned yma yng Nghymru. Unwaith eto, gan wynebu anawsterau anhydrin yn ei rhengoedd ei hun, mae Llywodraeth y DU yn ceisio lloches mewn amwysedd ac oedi. Mewn gwirionedd, mae angen rhoi sylw brys i faterion yn ymwneud â rhyddid i symud, a hynny gydag eglurder.
Dirprwy Lywydd, mae'r Papur Gwyn yn nodi dyheadau'r DU o ran parhau i gymryd rhan yn rhai, ond nid pob un, o raglenni'r UE, megis Horizon ac Erasmus+, yr ydym ni ein hunain wedi dadlau'n rymus o'i blaid. Eto, nid oes unrhyw sôn am raglenni cydweithredu rhyngdiriogaethol, a fyddai'n galluogi Cymru, er enghraifft, i barhau i weithio ar y cyd ag Iwerddon a chymdogion eraill—gwaith yr ydym ni'n dweud a fydd yn fwy pwysig, nid yn llai felly, ar ôl Brexit. Ac mae ymrwymiad y DU yn y Papur Gwyn wedi ymrwymo i rai, ond eto, nid pob un, o'r asiantaethau Ewropeaidd allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau datganoledig megis yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Yn y petruso a'r cyfaddawdu hwn, yr hyn a welwn ni yw Prif Weinidog y DU yn dal i geisio rheoli gwleidyddiaeth fewnol fythol-gyfnewidiol ei Chabinet. Mae ei phwyslais ar ddyfodol ei phlaid wleidyddol yn hytrach na lle y dylai fod—ar ddyfodol ein gwlad a bywoliaeth y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli.
Mae angen cynnal trafodaethau difrifol bellach ar fyrder, fel y gellir dod i gytundeb credadwy ym mis Hydref. Mae'r unrhyw lithro o'r amserlen hon yn cynyddu risg Brexit anhrefnus a'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae angen i Lywodraeth y DU fod yn glir ac yn ddiamwys. Yn hytrach na dyfeisio ffyrdd newydd i ymestyn geiriau—'partneriaeth economaidd', 'rheolau cyffredin', 'tollau', 'tiriogaethau cyfunol'—mae angen i Brif Weinidog y DU ddatgan yn blaen mai bwriad y DU yw aros yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol, a pharhau mewn undeb tollau. Mae'r amser ar ben i geisio plesio'r garfan nad oes modd eu plesio yn ei phlaid ei hun. Mae hi'n bryd bellach canolbwyntio ar y trafodiadau go iawn, rhai â 27 o wledydd yr UE. Ac mae hi yn wir bod angen rhywfaint o hyblygrwydd arnom ni gan yr Undeb Ewropeaidd hefyd. Mae angen inni allu trafod yn agored, nid cael rhwystrau wedi eu diffinnio gan linellau coch. Pan gyfarfu Prif Weinidog Cymru â Michel Barnier ddoe, dywedodd pa mor bwysig yw hi fod yr UE yn dangos haelioni a hyblygrwydd, yn enwedig o ran amserau. Yn amlwg, mae diddordeb cyffredin yn y fantol ar gyfer y DU a'r UE, ac ni ddylem ni fynnu glynu wrth derfynau amser afrealistig ar gyfer pontio os oes perygl y bydd hynny yn ein gwthio'n ddiangen dros ymyl dibyn ffug.
Yn gryno felly, Dirprwy Lywydd, mae Papur Gwyn y DU yn gam hwyr ond sylweddol o bosib. Mae'n cydnabod sawl un o'r pwyntiau allweddol y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn eu gwneud dros y 18 mis diwethaf, ond mae angen gweithredu pellach yn awr er mwyn sicrhau Brexit sy'n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio, nid arni hi ei hun ond ar fuddiannau economaidd hirdymor y wlad gyfan.
Wel, diolch—diolch am eich datganiad. Rwy'n gresynu—yn annodweddiadol iawn ohonoch chi—nad oedd modd imi ei ddarllen dim ond pan ymddangosodd ar fy sgrin ychydig eiliadau'n ôl. Deallaf, yn y broses o gael ei gyflwyno yn hwyr iawn, iawn, na chanfu ei ffordd, yn anffodus, ataf i. Er, ar ôl ei ddarllen—neu wedi gwrando arno—bellach rwy'n deall pam y gallai fod wedi ei ohirio, oherwydd ei deitl oedd, 'Y wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau pontio Ewropeaidd', ond mewn gwirionedd, yr hyn ydyw—os caf i fod mor hyf â dweud—yw adwaith bachog i ddatblygiadau dros y pedwar diwrnod diwethaf a sylw'r cyfryngau i hynny. Rwy'n hapus i ymateb i hynny, ond nid i deitl y datganiad.
Rydych chi'n cyfeirio, unwaith eto, at Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ond o'r cychwyn cyntaf, yn groes i ddatganiad Llywodraeth Cymru, nid oedd yn trin canlyniad y refferendwm â pharch oherwydd Brexit mewn enw yn unig ydoedd.
Rydych chi'n dweud y cymerodd hi ddwy flynedd i Lywodraeth y DU gynhyrchu ei Phapur Gwyn, o'i gymharu â Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru, a ddangosodd amharch at ganlyniad y refferendwm, gan ddefnyddio rhethreg ynghylch Prif Weinidog y DU bron yn union yr un fath â'r hyn a ddefnyddiwyd flwyddyn yn ôl yng nghyd-destun cytundeb ymadael cam 1, a gyflwynodd cyn y Nadolig; bron yn union yr un fath â'r rhethreg a ddefnyddiwyd cyn iddi gyflwyno, gyda Mr Barnier, y cytundeb ar y cyfnod pontio ym mis Mawrth, yr hawliodd Llywodraeth Cymru y clod amdano. Gallaf roi sicrwydd ichi ynghylch llawer o bethau, Ysgrifennydd y Cabinet, ond ni chredaf y gallai Llywodraeth Cymru hawlio'r clod llawn am hynny, er yn amlwg fe wnaethoch chi ddadlau'r achos, ac rwy'n cyfaddef hynny.
Mae'n amlwg hefyd y llwyddodd Prif Weinidog y DU, sy'n cael ei chyhuddo o wneud dim, i gyflawni cytundebau'r Cabinet rai misoedd yn ôl o ran trefniadau undeb tollau estynedig y tu hwnt i'r cyfnod pontio, os nad yw'r datrysiad y cytunwyd arno wedi ei weithredu mewn pryd, sef yr hyd a fydd y sefyllfa, fwy na thebyg. Ond y gwir amdani, onid yw, fel y dywedodd Ysgrifennydd masnach rhyngwladol y DU y penwythnos hwn, yw na all Llywodraeth y DU blesio pawb? Roedd yn rhaid cyfaddawdu, ond cefnogwyd Brexit gan 17.4 miliwn o bobl, ac roedd deddfwriaeth i weithredu'r penderfyniad hwnnw wedi'i chymeradwyo gan Aelodau Seneddol ac—os gaf i fod mor hyf ag ychwanegu at hynny—Aelodau'r Cynulliad hefyd.
Felly, mae popeth ynghylch y datblygiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—gan ddwyn, efallai, terminoleg rhywun llawer mwy na mi, efallai, a'i lênladrata—nid yw'n ddim amgenach na honiadau mewn cwmwl o rethreg ar ffurf negodi. Wel, mae'r datblygiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf—ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno—wedi bod yn ymwneud â sefydlu beth fydd y sefyllfa negodi, nid beth yw canlyniad y trafodaethau hynny, a byddai ymgais gan unrhyw blaid i wanhau, neu geisio gwanhau'r negodwyr ar hyn o bryd, yn destun gofid. Oherwydd y gwir amdani yw y bydd y DU yn peidio â bod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 29 Mawrth 2019, ac nid oes yr un ohonom ni eisiau syrthio oddi ar ddibyn neu weld Brexit caled—[Torri ar draws.]—heblaw am Blaid Cymru, wrth gwrs, a fyddai wrth eu bodd yn gweld hyn yn arwain at rannu a dinistrio pobl Prydain—[Torri ar draws.]. Y Prydeinwyr sef pobl Cymru. Mae Cymreig yn golygu Prydeinig. Welsh oedd yr enw a ddefnyddiodd y goresgynwyr i'n disgrifio: y Cymry Cymraeg Cymreig, pobl Prydain, y Brytaniaid, sy'n perthyn gyda'i gilydd, byth ar wahân, gan ddathlu ein diwylliant—
Mae'r Aelod wedi cael tri munud a hanner, ac nid wyf wedi clywed cwestiwn i Ysgrifennydd y Cabinet eto. A gawn ni glywed cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Cewch, wrth gwrs. O ystyried yr ymwneud a fu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, drwy drafodaethau â Phrif Weinidog Cymru a chi'ch hun, cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar negodiadau'r UE, gohebiaeth barhaus, ac, wrth gwrs, trafodaethau swyddogol parhaus, pa drafodaethau, ar wahân i'r holl rwdl-mi-ri yma, a fyddwch chi'n eu cael wrth i faterion ddatblygu yn awr, o ran trafodaethau mewnol ynghylch ymgysylltu a fframweithiau marchnad sengl y DU ac, wrth inni symud ymlaen gyda'r trafodaethau o ran gadael yr undeb, yn enwedig o ran masnach?
Fe wnaf i hepgor rhai pethau gan fod amser yn brin. Rydym ni'n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Brexit newydd, Dominic Raab, yr wythnos hon yn cael ei drafodaethau cyntaf â Mr Barnier, ond yn y cyfamser, yr wythnos hon, mae ei swyddogion yn cynnal trafodaethau paratoadol. Pa ran, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi, neu y bydd hi yn ei chael, yn y trafodaethau paratoadol hynny, ac o bosib yn y trafodaethau wrth i'r wythnos fynd rhagddi?
O ystyried y datganiad yng Nghynulliad Cenedlaethol yr Eidal ddoe y byddai Brexit 'dim bargen' yn ddinistriol i ffermio yn yr Eidal, ac wrth gwrs y gydnabyddiaeth o'r dystiolaeth a roddwyd i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gan Bremen y byddai cytundeb 'dim bargen' yn taro 10 i 15 y cant o gynnyrch domestig gros yr Almaen, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, o ran cefnogi bargen fasnach rydd gref i'r DU, o gofio mai dyna'r canlyniad mwyaf tebygol oni chaiff ei danseilio, a sut y mae'n estyn allan y tu hwnt i'r UE, cymaint ag y mae hynny'n hanfodol i ardaloedd eraill y byd? Er enghraifft, cyhoeddodd y Cyngor Prydeinig adroddiad yr wythnos diwethaf yn dangos bod cynnyrch domestig gros cyfunol y Gymanwlad yn debygol o gyrraedd £13 triliwn erbyn 2020, gan oddiweddyd ardal yr ewro, a bod canlyniadau ymchwil a gynhaliwyd gan Ipsos Mori ar gyfer y Cyngor Prydeinig ynglŷn â chanfyddiadau pobl ifanc ar draws y G20 bod lefelau ymddiriedaeth ym mhobl, Llywodraeth a sefydliadau'r DU yn uwch yng ngwledydd y Gymanwlad nag yn unrhyw grwp rhanbarthol arall yn y G20, a bod canlyniad refferendwm yr UE wedi cael effaith net sylweddol gadarnhaol ar ba mor honedig ddeniadol yw'r DU ymhlith pobloedd gwledydd Cymanwlad y G20 o'r India, De Affrica, Awstralia a Chanada?
Ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Roedd hynny hefyd yn gadarnhaol o ran masnach. Yn olaf, o ystyried datganiadau Liam Fox ddoe yn rhinwedd ei swydd yn Ysgrifennydd masnach ryngwladol o ran trefniadau masnach ar ôl Brexit, pan soniodd am ei fwriad i roi hwb i fasnach gyda hen gyfeillion a chynghreiriaid newydd, gan ehangu mynediad at farchnadoedd ledled y byd, ond pan ddywedodd hefyd ei fod yn parhau i weithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, y Llywodraethau wrth gwrs a gweinyddiaeth Gogledd Iwerddon, i sefydlu trefn sy'n gweithio, yn rhan o hyn i gloi cyfres o drafodaethau polisi cydweithredol bord gron gyda'r llywodraethau datganoledig, gan gydnabod y berthynas agos rhwng polisi masnach a meysydd polisi datganoledig, a allai ddweud wrthym ni ychydig yn fwy, os gwelwch yn dda, am yr hyn a nodwyd yn y papur hwnnw ddoe? Diolch.
Yn gyntaf oll, a gaf i ymddiheuro wrth unrhyw Aelodau yr oedd hi'n hwyr yn y dydd arnyn nhw'n gweld y datganiad a wneuthum y prynhawn yma? Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, mae hon yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, ac roedd y datganiad wrthi'n cael ei ddatblygu drwy'r bore ac yn gynnar yn y prynhawn.
Gadewch imi ddweud fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio nid ar ffaith Brexit—a gafodd ei setlo mewn refferendwm—ond ar ffurf Brexit. Yn hynny o beth, mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol y gallai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda rhai ohonynt yn lleihau'r niwed a achosir, rhai yn ychwanegu at y niwed a achosir, ac rydym ni wedi bod yn canolbwyntio'n ddiflino ar geisio darbwyllo Llywodraeth y DU i fabwysiadu dull fyddai'n lleihau'r niwed y gellid ei achosi i economi Cymru ac i'r dyfodol y gall pobl Cymru edrych ymlaen ato.
Wrth geisio gwneud hynny, roeddem ni'n barod i roi croeso gochelgar i rai rhannau o Bapur Gwyn Chequers. Yn anffodus, mae ein gallu i wneud hynny wedi ymddatod wrth i anallu Prif Weinidog y DU gael cefnogaeth i'r Papur Gwyn ymysg ei phlaid ei hun ymddatod hyd yn oed ynghynt. Felly, rydym ni'n wynebu sefyllfa heddiw ble gwelsom ni wiriondeb llwyr un o Weinidogion y DU yn gorfod ymddiswyddo er mwyn arddel y sefyllfa yr oedd ei Brif Weinidog ei hun ynddi dim ond hanner awr yn gynharach. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi am yr anhrefn llwyr sy'n teyrnasu ar ben arall yr M4 a doeddwn i ddim yn genfigennus o swyddogaeth yr Aelod yn codi i geisio amddiffyn safbwynt Llywodraeth y DU, oherwydd ni allai fod yn hyderus erbyn iddo eistedd, y byddai'r sefyllfa a gododd i'w hamddiffyn yn dal i fod yr un yr oedd Llywodraeth y DU yn ei chefnogi.
O ran ei gwestiynau penodol, felly, byddwn yn parhau i drafod pryd bynnag y cawn ni gyfle i wneud hynny, ni waeth pa mor anfoddhaol y fforwm, ni waeth pa mor anfoddhaol natur y drafodaeth. Bydd cyfarfod yma yng Nghaerdydd ar 1 Awst â Gweinidogion y DU yn bresennol, â Gweinidogion o'r Alban yn bresennol, pan fydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans a minnau yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, ac y byddwn ni, unwaith eto, yn achub ar y cyfle i geisio pwyso ar Lywodraeth y DU y dylai eu mandad wrth iddyn nhw drafod gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn un sy'n rhoi swyddi a bywoliaeth pobl yn y Deyrnas Unedig yn gyntaf.
Rwyf wedi gwrando eto ar Mark Isherwood yn rhoi inni'r farn hiraethus hon am y byd lle gallwn ni droi ein cefnau ar ein cymdogion yn Ewrop—y bobl yr ydym ni wedi gweithio gyda nhw ers 40 mlynedd—oherwydd bod Cymanwlad sy'n cofio sut yr oedd hi yn yr hen ddyddiau da ac yn aros i ail-greu'r gorffennol yn amgylchiadau'r dyfodol. Does bosib cyflawni hyn yn ymarferol ac fel gweledigaeth ar gyfer Cymru fodern, yn ceisio llwyddo mewn amgylchiadau cyfoes, mae'n weledigaeth hollol ffug. Lle ceir cyfleoedd, fel y dywedaf, a lle mae'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Masnach Ryngwladol yn edrych i weithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, yna, wrth gwrs, byddwn wastad yn ceisio sicrhau bod buddiannau Cymru a blaenoriaethau Cymru yn hysbys i Lywodraeth y DU.
A gaf i ddweud fy mod i'n gresynu, i ddweud y lleiaf, at rai o'r sylwadau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr? Mae dweud ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn ceisio dinistrio pobl Prydain, rwy'n credu, yn mynd y tu hwnt i ffiniau arferol pryfocio gwleidyddol. Rwy'n siŵr yr hoffai'r Aelod bendroni ynghylch ei sylwadau ac efallai ymddiheuro ar ryw adeg pan mae wedi ymbwyllo. Ac mae defnyddio termau fel 'rwdl-mi-ri' pan mai ei wleidyddiaeth ffantasi ef sy'n mynd i gostio swyddi i bobl yn y wlad hon, yn fy marn i yn ddim llai na chywilyddus.
Ond rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei sylwadau ar y llanastr parhaus wrth inni wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni ar y meinciau hyn, wrth gwrs, yn rhannu ei bryderon y bydd yr ansefydlogrwydd cynyddol ar ben arall yr M4 yn arwain at y Brexit 'dim bargen' trychinebus, fel y disgrifir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn hynny o beth, bydd yn gwybod fy mod wedi gofyn iddo ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac mae arweinydd fy mhlaid hefyd wedi gofyn i'r Prif Weinidog, ynglŷn â'r cynllunio wrth gefn a all ddigwydd os ceir Brexit 'dim bargen'. Rwy'n cytuno'n llwyr nad oes unrhyw ffordd o liniaru ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn economaidd, waeth beth fo ffurf yr ymadael, heb sôn am ymadawiad 'dim bargen'. Ond, fel yr ydym ni wedi cyfeirio ato yn y gorffennol, mae Pennaeth y GIG yn Lloegr wedi siarad am y cynllunio wrth gefn sy'n digwydd yno o ran storio cyffuriau a chyfarpar meddygol er mwyn osgoi difrod diangen i'r gwasanaethau y mae cleifion a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt. A all roi sicrwydd inni fod trafodaethau o'r fath yn digwydd yn Llywodraeth Cymru, ac mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd nad ydyn nhw wedi'u datganoli, yn enwedig, fel rheoli cyffuriau, bod trafodaethau'n digwydd ar lefel y DU rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn osgoi sefyllfa lle nad oes digon o feddyginiaethau ac offer ar gael i'n gwasanaeth iechyd gwladol?
Yn y datganiad, mae sôn am yr angen am hyblygrwydd o ran yr amserlen ar gyfer gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n cytuno â hynny. Nid yw'n ymddangos bod y datganiad yn mynd mor bell ag yr aeth Prif Weinidog Cymru ei hun y diwrnod o'r blaen pan ddywedodd y byddai'n croesawu estyniad i'r broses Erthygl 50. Ac, o ystyried y ffaith ei bod hi'n bosib na fydd gennym ni Lywodraeth yn y DU mewn mater o wythnosau, dyddiau neu fisoedd, bydd yr angen i ymestyn y broses 50 Erthygl efallai yn angenrheidiol. Felly, tybed a allai egluro safbwynt Llywodraeth Cymru y dylid ystyried ymestyn erthygl 50, yn enwedig os ceir etholiad cyffredinol yn y DU a'r gohirio anochel y bydd hynny yn ei achosi i drafodaethau â'r Undeb Ewropeaidd.
O ystyried ei arfarniad deifiol—rwy'n credu ei bod hi'n deg ei ddisgrifio yn arfarniad deifiol—o berfformiad Llywodraeth y DU hyd yma a'r ffordd ofnadwy y mae llywodraethau datganoledig yn dal i gael eu trin ar lefel y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—deallaf na chafodd Llywodraeth Cymru olwg llawn ar Bapur Gwyn y DU cyn ei gyhoeddi—tybed, felly, o gofio'r ansefydlogrwydd hwnnw, o ystyried y diffyg parch parhaus, hyd yn oed ar ôl llofnodi'r cytundeb rhynglywodraethol ac i hwnnw gael amser i ymwreiddio, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried diddymu'r Ddeddf parhad mor frysiog ag y mae'n ei wneud? Oherwydd mae'n swnio i mi fel y dylem ni barhau i fod efallai yn ochelgar rhag dibynnu ar ewyllys da Llywodraeth y DU o ran datblygiadau yn y dyfodol.
O ran datblygiadau yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi un o'i chyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn, rwy'n credu, ynglŷn â'r holl broses Brexit, sef y trefniadau cyllidol yn y dyfodol ar gyfer y DU ar ôl gwahanu oddi wrth yr UE, yn benodol y cwestiwn ynglŷn â pholisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac mae un o'r darnau yn yr adroddiad hwnnw yn nodi:
byddai sefydlu "cronfa ffyniant gyffredin" ar gyfer Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli ac o bosib yn amddifadu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig o arian y mae ei angen arnynt er mwyn datblygu yn economaidd.
Rydym ni'n cytuno, ond, pe bai Llywodraeth y DU yn symud ymlaen ac yn deddfu waeth beth yw ein dymuniadau yn y fan yma, oni fyddai hi'n ddoeth i ni gael trefniadau deddfwriaethol wrth gefn er mwyn gallu gweithredu ein polisi rhanbarthol ein hunain?
Ychydig o bwyntiau terfynol, Dirprwy Lywydd. Nawr y gwyddom ni fod y grŵp ymchwil Ewropeaidd yn Nhŷ'r Cyffredin wedi cael rhan lawn yn y broses ddeddfwriaethol wrth inni adael yr UE a'u bod wedi llwyddo i newid cylch gorchwyl y Bil masnach, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y Bil masnach? A fydd Llywodraeth Cymru yn argymell ein bod yn gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Masnach hwnnw, neu a yw eto i ffurfio barn?
Ac, yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud gair am sylwadau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddoe na fydd unrhyw ddifidend Brexit i'w wario ar y gwasanaeth iechyd gwladol, neu unrhyw ran arall o'r sector cyhoeddus yn hynny o beth, a bod honiad Prif Weinidog Prydain mai dyna oedd yr achos yn anghywir? A allai felly roi unrhyw esboniad i'r Cynulliad o ran lle y gallem ni ddisgwyl dod o hyd i'r arian ychwanegol a addawyd ar gyfer gwasanaeth iechyd gwladol Cymru, yn ychwanegol wrth gwrs i'r £350 miliwn yr wythnos hynny yr ydym ni i gyd yn dal i edrych ymlaen ato?
A gaf i ddiolch i Steffan Lewis am yr holl gwestiynau hynny? Dechreuodd drwy wneud pwynt pwysig iawn. Mae'r hyn sydd yn y fantol yma yn hollol real, a bydd yr effaith ar ein cenedl yn os na chawn ni gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei theimlo ym mywydau pobl ledled y wlad.
Rwy'n ddiolchgar hefyd am gael cyfle i ymateb i'w sylw ynghylch cynllunio, oherwydd er gwaethaf yr holl stŵr a wneir weithiau ynghylch hyn nid wyf yn credu bod unrhyw wahaniaeth rhwng ein dwy blaid ar y mater hwn. Rydym ni'n cytuno na allwch chi gynllunio i osgoi canlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen', nid yw hynny'n rhywbeth y gallwch chi ddyfeisio ffordd o liniaru canlyniad o'r fath. A yw hynny'n golygu nad ydym ni'n cynllunio wrth gefn yn y modd a ddisgrifiwyd ganddo? Wel, wrth gwrs nid yw'n golygu hynny, ac mae digwyddiadau dros yr wythnos diwethaf yn golygu bod yn rhaid gwneud y cynllunio wrth gefn hwnnw ar fwy o frys.
Fe'i trafodwyd yn is-bwyllgor Brexit y Cabinet yr wythnos diwethaf. Cafodd ei wyntyllu yn y grŵp cynghori Ewropeaidd a gyfarfu ar ddydd Iau. Byddaf yn cwrdd â swyddogion ddydd Iau yr wythnos hon. Byddaf yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol ynglŷn â'r mater hwn yr adeg hon yr wythnos nesaf. Oherwydd bydd gan Brexit trychinebus heb unrhyw gytundeb oblygiadau uniongyrchol ar y cyfrifoldebau sydd gennym ni, Lywodraeth Cymru: a fyddwn ni'n gallu cael gafael ar feddygaeth niwclear, sut fyddwn ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau priffyrdd os oes llinell hir o draffig o Gaergybi i'r ffin â Lloegr. Mae rhai problemau ymarferol y mae'n rhaid inni feddwl amdanyn nhw, a bu'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ers peth amser a bydd yn awr yn dwysáu dros yr haf, nid oherwydd y credwn ni y gallwn ni lunio cynllun sy'n golygu, os ceir Brexit o'r fath, y gellir diddymu ei effeithiau, ond oherwydd, yn yr ystyr hwnnw o gynllunio wrth gefn, fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu buddiannau Cymru.
Siaradais am hyblygrwydd yn yr amserlen oherwydd dyna'r pwynt yr oedd Prif Weinidog Cymru yn ei wneud yn uniongyrchol i arweinwyr yr UE ddoe. Buom yn dweud ers tro nad ydym ni'n credu y gallwn ni gwblhau popeth sydd angen ei wneud yn ystod y cyfnod pontio erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Yn hynny o beth, ymddengys bod estyniad i amserlen erthygl 50 yn anochel. Y pwynt yr oedd y Prif Weinidog yn ei wneud oedd un yr oeddwn i yn ei wneud pan roeddwn i ym Mrwsel ddiwethaf, sef nad yw hi'n llesol i neb ganfod ein hunain wedi ein caethiwo pan, pe byddai pawb yn cytuno yn nhymor yr hydref 2020 y byddai estyn yr amser ar gyfer y cyfnod pontio yn caniatáu i bawb gael gwell canlyniadau—pam y byddem ni eisiau rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle gwrthodwyd y ffordd synhwyrol honno o weithredu i bob un ohonom ni?
Dywedodd Steffan Lewis nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael golwg lawn ar y Papur Gwyn cyn ei gyhoeddi. Mewn unrhyw ystyr ymarferol roedd yn gywir, oherwydd ni chyrhaeddodd fersiwn ohono yma tan 1.35 a.m.—ychydig oriau o gwsg cyn y cyhoeddwyd y Papur Gwyn mewn gwirionedd.
Rydym ni'n parhau â'n cynlluniau mewn perthynas â'r Bil parhad. Rydym ni'n edrych yn ofalus, wrth gwrs, ar bopeth sy'n digwydd o'n cwmpas. Caiff ein holl gynlluniau, yn anochel, o gofio ansicrwydd y dyddiau diwethaf, eu hadolygu'n barhaus.
Soniodd Steffan Lewis am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r papur a gyhoeddais heddiw ynglŷn â threfniadau cyllidol yn y dyfodol—y pumed yn y gyfres o bapurau yr ydym ni wedi'u cyhoeddi ers y Papur Gwyn gwreiddiol—yn wir yn gwneud y pwynt hwnnw, Dirprwy Lywydd. Fyddwn ni ddim—fyddwn ni ddim—yn cytuno i gronfa ffyniant gyffredin lle mai'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei olygu mewn gwirionedd yw cyfle i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyfranogi o'r arian sydd wedi dod i Gymru oherwydd yr anghenion sydd gennym ni yma. Fyddwn ni ddim yn cyfaddawdu ar y sefyllfa honno; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo.
Yn olaf, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ers tro wedi dweud ar goedd y bydd Brexit yn cael effaith niweidiol ar economi'r DU ac ar y refeniw treth sydd ar gael i'r Canghellor. Yn hytrach na bod difidend Brexit, mae twll Brexit i'r Canghellor ei lenwi, ac mae'r twll hwnnw'n mynd yn fwy, nid llai, fel y mae'r anhrefn yn Llundain yn cynyddu.
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn enaid mor garedig ac yn gymedrol yn ei araith—mae'n anodd anghytuno â'i gondemniadau rhethregol o'r Llywodraeth Geidwadol. Os rhywbeth, roedd yn llawer rhy drugarog. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod Theresa May yn waeth Prif Weinidog hyd yn oed na John Major. Fe af ymhellach fyth—tybiaf mai hi yw'r Prif Weinidog gwaethaf yr ydym ni wedi'i gael ers Lord North. O leiaf mai ochr gadarnhaol ei anallu yntau oedd iddo greu cenedl newydd yr ochr arall i'r Iwerydd sydd wedi bod yn esiampl o ryddid, menter a llwyddiant ers 250 o flynyddoedd. Ochr arall anghymhwysedd Theresa May yw y bydd hi yn ein cadw ni'n ddarostyngedig i Undeb Ewropeaidd sydd yn y bôn yn annemocrataidd ac sydd, mewn termau cymharol, yn brosiect ffederal sy'n methu, yn economaidd yn ogystal ag yn wleidyddol.
Nid yw'n syndod mai dyma ganlyniad dwy flynedd heb negodi, mae'n debyg, oherwydd bod Theresa May yn Brif Weinidog sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n llywyddu dros Gabinet sydd â'i fwyafrif llethol o blaid aros, ac sydd â phlaid iddi'n gymorth yn Nhŷ'r Cyffredin y cefnogodd y mwyafrif sylweddol ohoni yr ymgyrch dros 'aros', ac roedd mwyafrif llethol Tŷ'r Arglwyddi o blaid aros hefyd. Os nad yw'r bobl sydd mewn gwirionedd yn gyfrifol am wireddu refferendwm Brexit hyd yn oed yn credu yn y prosiect, nid yw'n syndod mai'r hyn a ddisgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir fel anhrefn a chamreoli yw'r canlyniad, oherwydd maent yn gasgliad o bobl wangalon, anobeithiol sy'n darogan gwae ac, yn wir, mae rhai ohonyn nhw eisiau tanseilio'r holl beth yn ogystal. Er gwaethaf yr holl iaith chwyddedig am eisiau parchu canlyniad y refferendwm, mae llawer o aelodau'r Llywodraeth yn gweld hyn, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn drychineb ar gyfer Prydain. Felly, maen nhw eisiau gwneud eu gorau i danseilio'r broses, ac maen nhw wedi llwyddo'n rhyfeddol.
Wrth gwrs, y broblem sylfaenol yw na fu erioed unrhyw baratoi ar gyfer canlyniad 'dim bargen'. Pe cafwyd hynny, yna gallem ni fod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ein trafodaethau â'r UE. 'Os ydych chi eisiau heddwch, paratowch am ryfel', yw'r hen ddihareb Lladin, ac mae'r un peth yn wir yn y trafodaethau yn ogystal. Mae'r syniad nad oes gan Brydain, y pumed economi fwyaf yn y byd a'r wythfed genedl weithgynhyrchu fwyaf yn y byd, sydd â diffyg masnachu enfawr â'r UE ac yn barod i dalu £40 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau cyllideb dros y pum mlynedd nesaf, unrhyw arfau negodi yn ei dwylo yn gwbl hurt. Mae Donald Trump wedi bygwth codi tollau ar nwyddau o'r UE. Effaith hynny ar unwaith oedd i weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen alw ar yr UE i gael gwared ar y tariffau mewnforio ceir o'r Unol Daleithiau, oherwydd maen nhw'n gosod tariffau ar 10 y cant. Fel y gwyddom ni, mae'r Unol Daleithiau yn gosod tariff o ddim ond 2.5 y cant. Mae'r UE yn system dwyllodrus enfawr sy'n gofalu am ddim ond ei buddiannau ei hun ac sy'n gweithredu er anfantais y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas—y tlodion, y rhai ar yr incwm isaf.
Canlyniad y cytundeb hwn yn Chequers, yr unig fantais o hynny oedd cynyddu'r gefnogaeth i UKIP o 3 y cant i 8 y cant yn y polau piniwn mewn wythnos—mae hynny i'w ganmol, o leiaf. Ond canlyniad y negodi hwn yn Chequers yw rheolau cyffredin nad ydyn nhw yn rheolau cyffredin o gwbl—mae'n sefyllfa o 'derbyn neu wrthod; derbyn rheolau'r UE'—ac, os ydym ni y tu allan i'r UE, ni fydd gennym ni hyd yn oed y llais cyfyngedig i ddatblygu'r rheolau hynny y bu gennym ni hyd yma. Byddwn yn dal yn destun dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop, felly ni fyddwn yn adennill rheolaeth dros ein cyfreithiau ein hunain chwaith. Yna'r trefniant tollau wedi'i hwyluso, fel y'i gelwir, y mae, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, David Davis wedi dweud ei fod yn anymarferol, ac felly mae'n rhy—bydd yn gostus ac yn fiwrocrataidd iawn—ac yna'r fframwaith symudedd, fel y'i gelwir ef, sef dim byd ond cwmwl niwlog. Nid ydym ni'n gwybod unrhyw beth o gwbl am hynny fel na allwn ni, ar hyn o bryd, ddod i unrhyw gasgliad. Yr hyn y gallwn ni fod yn weddol sicr yn ei gylch, yn fy marn i, yw y bydd yr UE yn mynnu cymaint o ryddid symudiad ag sydd gennym ni ar y funud, ac felly ni fydd gennym ni hyd yn oed reolaeth dros ein ffiniau chwaith.
Mae'r Aelod wedi cael bron i bedair munud, ac nid wyf wedi clywed cwestiwn.
Wel, mae'r cwestiynau i gyd ymhlŷg, ac rwy'n siŵr bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ddigon soffistigedig i allu eu hateb.
Na na. Mae hwn yn ddatganiad; rydych chi'n gofyn cwestiynau, os gwelwch yn dda.
Gallaf wastad orffen drwy ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n cytuno gyda'r hyn a ddywedais i. Ond fe wnaf i gloi, oherwydd does arnaf i ddim eisiau cymryd mwy o amser nag yr wyf i wedi'i wneud.
Mae cyfleoedd enfawr, yn ogystal â phroblemau pontio, wrth adael yr UE. Tybed pam nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gweld y llygedyn lleiaf o oleuni yn y dewisiadau sydd ar gael i ni gyda'r rhyddid a fyddai gennym ni hyd yn oed mewn sefyllfa o 'ddim bargen'. Fel y nododd Mark Isherwood, mae'r Gymanwlad yn rym enfawr yn y byd economaidd, ac yn tyfu. Mae'r Unol Daleithiau o dan Arlywydd Trump yn amlwg yn ffafriol iawn tuag at y Deyrnas Unedig, ac mae yntau'n gweld yr UE fel gelyn, ac yn wir, maen nhw wedi bod yn elyniaethus i ni yn y trafodaethau hyn. Mae yna gyfleoedd enfawr ar gael i ni, a beth bynnag yw'r problemau pontio o ran gadael—does neb yn gwadu bod newid o'r maint hwn yn mynd i olygu anawsterau—serch hynny, mae cyfleoedd enfawr i Brydain gysylltu'n briodol â gweddill y byd trwy gytundebau masnach rhydd. Mae effaith gyfyngedig tariffau Ewrop yn llawer llai na'r cyfleoedd masnach mewn mannau eraill o'r byd, ac mae'r Arlywydd Trump, er gwaethaf ei holl ddiffygion, wedi dangos ei fod yn hen law, wrth daro bargen, a'i fod wedi cyflawni i America yr hyn yr oedd y bobl a bleidleisiodd o'i blaid yn ei ddymuno wrth fwrw eu pleidlais. Yr hyn y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi ei wneud mewn gwirionedd yw amddifadu pobl Prydain, 17.5 miliwn ohonynt, o'r hyn y gwnaethon nhw bleidleisio drosto yn y refferendwm ddwy flynedd yn ôl.
Wel, Dirprwy Lywydd, mae'n debyg nad oes unrhyw brynhawn lle sonnir am god Napoleon a Lord North yn y Cynulliad yn wastraff llwyr, ond rwy'n ofni'n fawr iawn mae dirywio wnaeth hi o hynny ymlaen. Mae'r Aelod yn gwneud ei sylwadau arferol am y Brexit y mae yntau'n ei ffafrio a'r Brexit y cafodd ei berswadio i bleidleisio o'i blaid, ond mae'n hollol anghywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwadu canlyniad y refferendwm. Fe ddywedaf hyn eto: rydym ni'n canolbwyntio ar sut yr ydym ni'n gadael, nid a fyddwn ni'n gadael.
Dyma, fodd bynnag, y tair neges i'w cadw mewn cof o gyfraniad yr Aelod y prynhawn yma: ar gyfer ein poblogaeth, dyfodol ble mae yntau'n dweud, 'Gadewch iddyn nhw fwyta cyw iâr wedi ei gannu, bydd hynny'n dda iddyn nhw'; ar gyfer ein heconomi, mae'n eu gwahodd i fynd gydag ef i ben y pier yn Aberystwyth, rhoi cylch rwber iddyn nhw, eu cyfeirio at Efrog Newydd a dweud, 'efallai y bydd rhai problemau pontio, ond bydd cyfleoedd enfawr os gyrhaeddwch chi fyth'; ac ar gyfer gweddill ein democratiaeth, dywed fod enghraifft yr Arlywydd Trump ger eich bron. Peidiwch â chael eich dallu gan y golau sy'n ei amgylchynu.
Mae'n anodd dilyn hynny. Rwy'n credu yr hoffai pob un ohonom ni gredu na roddwyd y farwol i gytundeb Chequers, ond nid yw'r syniad mai rwdl-mi-ri yw hyn yn amlwg ddim yn wir. Os yw pobl fel Justine Greening yn dweud nad oes gan Senedd y DU y gallu i wneud penderfyniad, mae'n hynod o frawychus.
Mae'r rhan fwyaf o'm hetholwyr yn ymwneud â busnes gwasanaethau o ryw fath, pa un a ydyn nhw'n gweithio i brifysgolion, sy'n golygu cydweithio â phrifysgolion eraill ar draws Ewrop yn y rhaglen Horizon, neu'n ymwneud â gwasanaethau busnes neu gwmnïau yswiriant. Rwy'n ei chael hi'n anodd deall sut y mae modd ildio'r hawl i werthu'r gwasanaethau hyn i'r 500 miliwn o bobl sy'n byw ar draws y dŵr yn Ewrop, heb lyffetheiriau tariffau, a gwneud iawn am hynny drwy gael rhyw wlad hud o ragolygon ar gyfer y dyfodol y gallem ni edrych ymlaen atyn nhw, boed hynny yr Unol Daleithiau neu fannau eraill. Felly, mae hyn yn destun pryder mawr i mi.
Yn ogystal â hynny, meddwl oeddwn i tybed a allwn ni yn awr edrych ar y posibilrwydd o syrthio'n bendramwnwgl o'r Undeb Ewropeaidd heb fargen wedi ei negodi a'r peryglon fydd yn deillio o hynny i ddiogelwch bwyd, oherwydd caiff y rhan fwyaf o'n ffrwythau a'n llysiau eu mewnforio o'r UE, ac os aiff pethau'n anhrefn yn ein porthladdoedd, sut ydym ni'n mynd i fwydo ein poblogaeth, sef gorchwyl gyntaf llywodraeth? Yn amlwg, rydym ni eisiau osgoi trychineb o'r fath, ond mae diwedd mis Mawrth cyn cychwyn y tymor tyfu ffrwythau a llysiau. Felly, meddwl oeddwn i tybed beth yw cynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru i gynyddu argaeledd llysiau a ffrwythau cartref, sy'n elfen hanfodol o ddyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru iachach.
Rwy'n credu bod tri phwynt yn y fan yna. Mae arna i ofn fy mod i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone. Rwy'n credu bod Tŷ'r Cyffredin yn dangos nad yw hi'n bosib dwyn mwyafrif ynghyd ar gyfer unrhyw fath o Brexit. Credaf mai dyna'r neges yr ydym ni yn ei dysgu o'r ychydig ddyddiau diwethaf. Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn yr amgylchiadau hynny bod etholiad cyffredinol yn rheidrwydd democrataidd, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn hynny o beth.
Mae Jenny yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch gwasanaethau, Dirprwy Lywydd. Mae Papur Gwyn Chequers yn cynnig aliniad rheoleiddio mewn perthynas â nwyddau a chynhyrchion amaethyddol, ac mae hynny'n bwysig iawn o ran cael masnach ddilyffethair parthed y pethau hynny. Ond nid yw hi'n wir y gallwch chi gael rhaniad syml rhwng nwyddau a gwasanaethau fel pe baen nhw'n gategorïau ar wahân. I ddefnyddio'r enghraifft fwyaf amlwg, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n prynu car yn prynu nwydd, ond maen nhw'n prynu pecyn cyllid gydag ef er mwyn sicrhau'r nwydd hwnnw, felly mae nwydd a gwasanaeth yn rhan o'r un peth. Yn wir, mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod gan 40 y cant o'r nwyddau a fasnachir yn yr Undeb Ewropeaidd elfen o wasanaeth yn uniongyrchol gysylltiedig â nhw. Felly, mae hi'n llygad ei lle i dynnu sylw at yr anhawster sylweddol iawn sy'n dal i fodoli yn y Papur Gwyn o ran gwasanaethau.
Ac o ran y sylw pwysig mae hi'n ei wneud am ddiogelwch bwyd, yn union fel y dywedais wrth Steffan Lewis fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cynllunio wrth gefn, byddwn yn gwneud mwy o hynny, a hynny'n fwy dwys, dros yr haf. Felly, bydd bwyd yn rhan o'r hyn y byddwn yn ei ystyried. Ac o ran y sylw perthnasol i hynny a wnaed gan Jenny Rathbone, ni ddylai neb gredu bod rhyw ateb syml i rai o'r pethau hyn, sef eich bod yn cynghori pobl i gronni a phentyrru, ac y byddant yn iawn, oherwydd, y dyddiau hyn, mae cadwyni cyflenwi a darparu bwyd mewn modd sydd wedi ei amseru'n fanwl gywir yn golygu nad oes pentwr mawr o fwyd yn aros i'w ddosbarthu i'r cyhoedd yn y ffordd y gallai fod pan roedd y pethau hyn wedi eu trefnu mewn ffordd wahanol iawn.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad heddiw ar y Papur Gwyn a chroesawu hefyd y papur a gyhoeddwyd gennych chi ynglŷn â diwygio cyllid y DU a'r trefniadau cyllidol ar ôl Brexit? Dros y penwythnos, Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaethoch chi rybuddio y gallai Brexit caled aberthu'r DU, gyda'r bwgan o Brexit Torïaidd anhrefnus yn gysgod dros Gymru a Brexit caled adain dde yn gyfystyr ag ymosodiad ar weithwyr o ganlyniad i ddadreoleiddio. A gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw hyder y gellir gwrthsefyll hyn, ac a allwch chi egluro a ydych chi'n credu y bydd gan Lywodraeth Cymru y dylanwad neu'r modd i ddiogelu hawliau cyflogaeth yng Nghymru yn sgil y Papur Gwyn hwn?
Yn araith Prif Weinidog Cymru ddoe, bu iddo ein hatgoffa o safbwynt Llywodraeth Cymru a'r pedair blaenoriaeth a nodir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gytunwyd gyda Phlaid Cymru, sydd wedi sefyll prawf amser, gan gynnwys, fel y dywedodd, cadw'r amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol, cyflogaeth a defnyddwyr yr ydym ni yn eu mwynhau. Yn eu Papur Gwyn, mae Llywodraeth y DU yn datgan y bydd hawliau gweithwyr presennol a fwynheir o dan gyfraith yr UE yn parhau i fod ar gael yng nghyfraith y DU ar y diwrnod ymadael.
Ond yn eich datganiad heddiw rydych chi'n codi nifer o gwestiynau, yn ogystal â rhoi barn Llywodraeth Cymru ar y pwynt hwn—er mor anodd yw hynny. Ond un o'ch cwestiynau yn eich datganiad yw:
'sut y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sicrwydd i 27 o wledydd yr UE ynglŷn â materion amgylcheddol a safonau'r farchnad lafur, i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol?'
A allwn ni fod yn ffyddiog y bydd gennym ni'r dylanwad i ddiogelu'r hawliau hyn?
Mae'r Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, yr wyf wedi ei grybwyll eisoes i'r Prif Weinidog heddiw, yn cyflwyno achos i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod. Maen nhw'n cyflwyno'r achos hwn mewn adroddiad yr wythnos hon. Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i ymgorffori'r hawliau menywod sydd ar hyn o bryd yn cael eu diogelu yn neddfwriaeth yr UE mewn cyfraith ddomestig i warantu na chollir unrhyw hawliau menywod neu hawliau dynol ar ôl Brexit. Ond, Ysgrifennydd y Cabinet, pa mor debygol yw hi y gellir cyflawni hyn, o ystyried bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod siarter hawliau sylfaenol yr UE a'u cyflwr presennol o fod mewn parlys gwleidyddol?
Diolch i chi am eich datganiad ac rwy'n gofyn i chi sicrhau y gellir cynnwys y pwyntiau dilys a wnaethoch chi y penwythnos diwethaf am fygythiadau i hawliau gweithwyr ac yn enwedig i hawliau menywod, os oes Brexit caled, yn eich deialog, gan gynnwys Rebecca Evans, pan rydych chi'n cyfarfod â Gweinidogion y DU yng Nghaerdydd ar 1 Awst.
A gaf i ddiolch i Jane Hutt am y pwyntiau pwysig iawn hynny a rhoi sicrwydd iddi y byddaf yn bendant yn sôn am y pwyntiau hyn, fel yr ydym ni eisoes wedi gwneud bob cyfle a gawn ni gyda Llywodraeth y DU? Rwyf wedi dweud eisoes y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, y byddem ni wedi bod yn barod i roi croeso cymedrol i Bapur Gwyn Chequers, i rai agweddau arno, ac un o'r rhesymau y byddem ni wedi bod yn barod i wneud hynny yw oherwydd ei fod yn ailadrodd ymrwymiad y mae Prif Weinidog y DU wedi ei roi o'r blaen i beidio â diddymu'r hawliau hynny y mae dinasyddion Cymru a'r DU wedi eu hennill o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—hawliau gweithwyr, hawliau dinasyddiaeth, hawliau dynol, hawliau defnyddwyr, hawliau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ati. Ond y rheswm pam na fu hi'n bosib gwneud hynny yn y ffordd y gallem ni fod wedi bwriadu ei wneud y prynhawn yma yw bod y Papur Gwyn yn ymddatod o'n blaenau. Ddoe, cytunodd Prif Weinidog y DU i welliannau a gyflwynwyd gan ei Brexitwyr digyfaddawd sy'n uniongyrchol groes i gynnwys y Papur Gwyn ei hun, a chynlluniwyd y pethau a ddywedais ar y penwythnos i ddangos os bydd Llywodraeth y DU, os bydd Prif Weinidog y DU, yn barod i ymrwymo'n llwyr i Brexit synhwyrol, i herio'r bobl yn ei phlaid ei hun nad ydyn nhw o'r farn honno, yna byddem ni'n barod i gynnig rhywfaint o gymorth yn hynny o beth. Ond os yw hi'n credu mai'r ffordd inni gyflawni Brexit synhwyrol yw drwy gyfaddawdu â phobl o safbwynt gwahanol iawn yn barhaus, yna dyna lle mae gennym ni'r peryglon y mae Jane Hutt wedi tynnu sylw atyn nhw. Dyna pryd y byddwn ni yn y pen draw mewn sefyllfa lle, er mwyn cystadlu yn y byd, y bydd pobl sy'n meddwl mai'r ffordd i wneud hynny yn aberthu pob amddiffyniad y mae pobl sy'n gweithio wedi ei ennill o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r hyn yr oeddwn i yn ei olygu pan ddywedais i y byddai pobl sy'n gweithio yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn cael eu haberthu mewn amgylchiadau o'r fath.
Diolch. Mae gennyf ddau siaradwr arall. Os gallan nhw warantu y byddan nhw'n gofyn cwestiwn byr, galwaf ar y ddau ohonyn nhw—ac os gall y Gweinidog ymateb, fel y gwna bob amser, yn gryno. Mick Antoniw.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar y sail bod UKIP wedi codi'r mater o Donald Trump, a ydych chi'n cytuno â'r Arlywydd Trump y byddai Boris Johnson yn Brif Weinidog Torïaidd da ac y byddai ef yn sicr yn well na Theresa May? A ydych chi'n cytuno, pe bai hynny'n digwydd—neu hyd yn oed os nad yw'n digwydd—fod unrhyw fargen fasnach bosib ag America bellach yn drychineb bosib, gan gadw mewn cof y rhyfel tollau? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno â mi bod y cynnig gan y Llywodraeth Dorïaidd nawr i'w heglu hi gan ddiddymu'r Senedd, gan derfynu'r Senedd yn fuan, yn tanseilio'n uniongyrchol ddemocratiaeth seneddol ac yn camfanteisio ar y system ddemocrataidd, a bod hon yn Llywodraeth sy'n dangos mewn gwirionedd nad oes ganddi ond un dewis ar ôl, a hynny yw galw etholiad cyffredinol?
Cytunaf ar y pwynt olaf, yn bendant, Llywydd. Awgrymodd llefarydd UKIP mai Mrs May oedd y Prif Weinidog gwaethaf ers Lord North. Does bosib na fu arlywydd erioed yn yr Unol Daleithiau ag enw mor ddrwg â deiliad presennol y swydd honno, ac fe ddylem ni gredu ei eiriau pe cai unrhyw fargen fasnach ei tharo â'r Unol Daleithiau, yna 'America yn gyntaf' fyddai yn ei feddwl ef, a byddai unrhyw beth a gaem ni yn friwsion fyddai'n yn syrthio oddi ar ei fwrdd.
Yn olaf, David Rees.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu eich datganiad yn llawn ac rwy'n cytuno â phopeth y gwnaethoch chi ei ddweud yn y datganiad hwnnw a'r holl atebion a roesoch chi. A gaf i hefyd gytuno â sylwadau Steffan Lewis a chytuno â rhai o'r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud? Mae'n bwysig iawn inni fynd i'r afael â'r rheini. Roedd hi'n wael i gynrychiolydd y Ceidwadwyr sôn am 'rwdl-mi-ri' yn hyn o beth. Bywydau pobl yw'r rhain, ein hetholwyr ni ydyn nhw, a'u swyddi nhw yr effeithir arnyn nhw gan y canlyniadau hyn.
Dim ond rhai cwestiynau cyflym, Dirprwy Lywydd. O ran y Papur Gwyn, o ddarllen drwyddo—ac mae'n ddrwg gennyf ddweud nad oedd gennyf ddigon o amser i ddarllen trwy'r cyfan—ceir elfennau difrifol iawn yno sy'n effeithio ar gymwyseddau Llywodraeth Cymru. Nawr, fe wnaethoch chi ddweud na chawsoch chi mo'r papur tan 01:35 yn y bore. Felly, ni ymgynghorwyd â chi ynglŷn â chyfrannu i'r papur. Mae'n sôn am gydbwyllgor a allai oruchwylio'r gwaith sy'n mynd rhagddo, ond nid yw'n cyfeirio at Lywodraeth Cymru o ran cynrychiolaeth ar y cydbwyllgor hwnnw; mae'n sôn am gamau gweithredu eraill. A ydych chi mewn difrif yn ffyddiog y byddan nhw'n gwrando arnom ni yn y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt? Rydym ni'n gwybod y dylen nhw fod yn y cytundebau masnachu, ond rydym ni'n dal i weld a fyddan nhw yno neu beidio. Mae diffyg hyder enfawr yma y gall Llywodraeth y DU ddarparu—mewn ffordd lle y mae'n llais ni i'w glywed, heb sôn am weithredu ar hynny.
Diolch i David Rees am gefnogi'r datganiad y prynhawn yma ac am arddel y sylwadau y mae eraill wedi eu gwneud yn y Siambr ynghylch difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae'n gywir, wrth gwrs; ni ymgynghorwyd â ni ar rannau craidd y Papur Gwyn sy'n effeithio'n uniongyrchol ar fuddiannau Cymru. A allaf i fod yn ffyddiog y byddant yn gwrando? Wel, ni allaf fod yn sicr o hynny, Dirprwy Lywydd. Ond yr hyn y gallaf ei wneud yw gwneud yn siŵr ble bynnag y cyfyd cyfle i siarad dros Gymru ac o'n safbwynt ni, byddwn yn achub ar y cyfleoedd hynny. Mae p'un a wrandewir arnom ni yn fater gwahanol, ond os na wrandewir arnom ni, nid yw hynny oherwydd unrhyw ddiffyg yn ein penderfyniad ni i gyflwyno'r achos hwnnw a cheisio'n gorau glas i wneud yn siŵr y caiff buddiannau Cymru eu mynegi a'u clywed.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.