7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden

– Senedd Cymru am 5:49 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:49, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 7 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyhoeddi adolygiad llywodraethu Donna Ockenden. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Ddydd Iau diwethaf, derbyniodd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr adolygiad Donna Ockenden o lywodraethu mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd. Dyma adroddiad anodd arall ar gyfer y Bwrdd, ond ni ddylai'r canfyddiadau fod yn syndod iddynt. Mae Donna Ockenden wedi dibynnu'n fawr ar adroddiadau, adolygiadau ac arolygiadau eraill o'r bwrdd ers 2009. Mae'r neges yn glir: mae'n rhaid i'r bwrdd gynyddu cyflymder y gwelliannau a'r newid. Ac rwy'n siŵr na fydd neb yn y Siambr hon neu'r tu allan yn anghytuno â hynny. Bydd y Bwrdd hefyd yn gwybod pa mor glir yr wyf wedi nodi fy nisgwyliadau fy hun ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 5:50, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Fodd bynnag, hoffwn gofnodi unwaith eto fy mod yn ymwybodol iawn o ba mor anodd fu'r cyfnod hwn i'r unigolion, y teuluoedd a'r cleifion yr effeithiwyd arnynt gan y pryderon gwreiddiol. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan nifer o deuluoedd Tawel Fan ac mae fy swyddfa ar hyn o bryd yn cytuno ar amser i mi gwrdd â nhw eto, nawr fod yr adroddiadau i gyd yn gyhoeddus. Rwy'n deall hefyd sut y mae'n rhaid bod staff y bwrdd iechyd yn teimlo bod eu bwrdd iechyd yn y penawdau unwaith eto o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Byddaf yn canolbwyntio yn awr ar symud y bwrdd iechyd ymlaen, dysgu o'r gorffennol a rhoi camgymeriadau'r gorffennol y tu ôl iddynt i sicrhau gwelliant gwirioneddol a pharhaus.

Bu gwelliant yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr ers 2013. Fodd bynnag, mae ganddyn nhw daith hir o'u blaenau. Yn ei chyflwyniad i'r bwrdd yr wythnos diwethaf, tynnodd Donna Ockenden ei hun sylw at feysydd o gynnydd ac yn enwedig gwaith y cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth ar reoli cwynion, pryderon a diogelu. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y bwrdd iechyd lleol yn cyfathrebu'n fwy effeithiol y gwelliannau a wneir er mwyn ailadeiladu ffydd eu poblogaeth yn eu gwasanaethau iechyd meddwl. Rwy'n gwybod bod y prif weithredwr yn cydnabod yr angen i wneud hyn ac mae erbyn hyn wedi ysgrifennu llythyr agored sy'n disgrifio'r gwelliannau diweddar mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r gwelliannau hynny yn ymateb i argymhellion Donna Ockenden a'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Er enghraifft, mae yna strwythur rheoli cwbl newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl erbyn hyn.

Rwy'n gwybod hefyd fod adroddiad blynyddol diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ei gyflwyno i'r bwrdd yr wythnos diwethaf. Yn briodol, adroddodd fod yna feysydd lle ceir pryder parhaus o hyd, ond nododd yr adroddiad hefyd fod y cleifion, yn gyffredinol, yn hapus â'r gofal a gawsant, y staff yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi, ac mae tystiolaeth dda o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf. Amlygodd hefyd fod y bwrdd iechyd wedi bod yn agored ac yn ymatebol drwy gydol ei ymwneud ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac yn bwysig, fod yr arweinyddiaeth wedi cryfhau ers 2013 ac yn fwy effeithiol yn dilyn newidiadau sylfaenol i'w strwythur.

At hynny, roedd asesiad strwythuredig diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn tynnu sylw at y cynnydd a wneir wrth fynd i'r afael ag argymhellion blaenorol, a bod cynllunio strategol a threfniadau gweithredol yn gyffredinol yn effeithiol. Fodd bynnag, rhaid i gyflymder y gwelliant hwn gynyddu.

Wrth fwrw ymlaen, bydd y cadeirydd newydd yn arwain bwrdd ar ei newydd wedd, ar ôl  recriwtio is-gadeirydd newydd a thri aelod annibynnol. Mae yna newidiadau hefyd yn y tîm cyfarwyddwyr gweithredol, gan gynnwys cyfarwyddwr gweithredol y gweithlu a datblygu sefydliadol newydd a benodwyd yn ddiweddar, ac mae cyfarwyddwr gofal sylfaenol a chyfarwyddwr strategaeth ar fin cael eu recriwtio.

Cytunodd y bwrdd yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf i sefydlu grŵp gwella i ymateb i argymhellion HASCAS ac Ockenden. Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth, ac yn arwain, yn llywodraethu ac yn craffu ar y cynnydd o'i gymharu â'r argymhellion. Disgwyliaf i'r grŵp hwnnw adrodd yn rheolaidd i'r bwrdd llawn. Rydym ni'n parhau i roi rhagor o gymorth trawsnewid dwys ar gyfer y gwelliannau, gyda phwyslais cychwynnol ar gefnogi gwell llywodraethu ac atebolrwydd, gwaith â phwyslais ar y cyd â chlinigwyr a phartneriaid i sicrhau gwelliannau cynaliadwy, a'r cyfan yn ymateb yn uniongyrchol i faterion a godwyd yn adroddiad Donna Ockenden.

Mae'n bwysig hefyd nodi cynnydd a wnaed mewn gwasanaethau eraill, yn enwedig gwasanaethau mamolaeth, a gafodd eu hisgyfeirio o fesurau arbennig yn gynharach eleni. Mae hynny'n dangos beth y gall y bwrdd iechyd ei gyflawni ag arweinyddiaeth a chamau gweithredu â phwyslais. Ond dydw i ddim o dan unrhyw gamargraff. Rwy'n cydnabod bod yr adolygiad yn atgyfnerthu'r hyn y gwyddom eisoes am sefyllfa'r bwrdd iechyd a pham iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig—mae'n adlewyrchu gwaith sylweddol sydd i'w wneud o hyd.

Mae dros bedair blynedd a hanner ers i bryderon gael eu codi am y tro cyntaf ynghylch y gofal a'r driniaeth ar ward Tawel Fan. Mae cyhoeddi adroddiad Donna Ockenden ac ymchwil HASCAS yn nodi diwedd y gyfres hir ond angenrheidiol o ymchwiliadau ac adolygiadau. Fel y dywedais yn gynharach, mae'n rhaid i'r pwyslais yn awr fod ar fwrw ymlaen a chynyddu cyflymder y gwella. Dydy staff a chyhoedd y gogledd yn haeddu dim llai.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:55, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i gofnodi ar ddechrau fy sylwadau fy niolch i Donna Ockenden a'i thîm am eu gwaith wrth lunio'r adroddiad hynod gynhwysfawr hwn? Yn wahanol i'r pennawd yn adroddiad blaenorol HASCAS, a gyhoeddwyd ym mis Mai, mae'r adroddiad hwn wedi'i groesawu’n eang a'i dderbyn gan randdeiliaid, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn awr bod gan y Cynulliad Cenedlaethol gyfle i ystyried y ddau hyn mewn ymchwiliad Cynulliad llawn ar ryw adeg yn y dyfodol. Yn rhan o'r ymchwiliad hwnnw, rwy'n credu bod angen inni ystyried effeithiolrwydd y camau sydd wedi'u cymryd o dan y mesurau arbennig hyd yma.

Fe ddywedasoch chi yn eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ei fod yn adroddiad anodd arall i'r bwrdd, ac mae hynny wrth gwrs yn hollol wir. Mae'r adroddiad yn gyfres o fethiannau, mae'n rhestru catalog o broblemau yn y bwrdd iechyd, gan gynnwys systemau llywodraethu a rheoli a oedd yn ddiffygiol o'r cychwyn; oedi wrth benodi staff i swyddi clinigol hanfodol; staff sy'n disgrifio, yn eu geiriau nhw, eu bod wedi blino'n lân, yn brin o ran nifer a neb yn gwrando arnyn nhw, yn gweithio mewn amgylchedd gwaith peryglus; ystâd nad yw'n addas at y diben, yn peryglu diogelwch cleifion; a gweithdrefn gwyno nad yw'n gweithio; a sefydliad nad yw'n dysgu o'i gamgymeriadau nac yn rhoi cynlluniau gweithredu ar waith.

Ond wrth gwrs, nid adroddiad sy'n anodd i'r bwrdd yn unig yw hwn, mae hefyd yn adroddiad anodd iawn i deuluoedd y rhai hynny yr effeithiwyd arnynt gan y methiannau gofal ar Tawel Fan. Mae'n rhaid imi ddweud, mae llawer o'r teuluoedd hynny yn parhau i fod mewn dryswch llwyr ynghylch casgliad cyffredinol adroddiad HASCAS a gyhoeddwyd yn ôl ym mis Mai. Mae rhai ohonyn nhw'n dal i aros am eu hadroddiadau ar gleifion unigol, am aelodau o'u teulu. Gofynnaf i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nad ydych chi wedi cyfeirio llawer iawn at y teuluoedd yn eich datganiad heddiw: pa bryd y byddan nhw'n derbyn yr adroddiadau hynny ar gleifion unigol? Ar ba ddyddiad y gallan nhw ddisgwyl cau pen y mwdwl ar rai o'r materion hyn?

Ac wrth gwrs, nid adroddiad sy'n anodd i'r bwrdd a theuluoedd Tawel Fan yn unig yw hwn, mae'n adroddiad anodd iawn i chi hefyd, neu yn sicr fe ddylai fod, oherwydd chi sydd wedi bod yn gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o'r diwrnod y dechreuodd y mesurau arbennig hynny, yn rhinwedd eich swydd flaenorol fel Dirprwy Weinidog dros Iechyd a bellach fel Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n amlwg iawn yn yr adroddiad hwn, nid dogfen hanesyddol mo hon; mae'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hyn o bryd. Mae'n glir iawn nad yw'r mesurau arbennig hynny yn gweithio. Gallwch chi geisio taflu'r cyfrifoldeb yn ôl at y bwrdd iechyd, fel yr ydych chi, heb unrhyw amheuaeth, eisoes wedi ei wneud heddiw yn eich datganiad.

Dywedwyd wrthym ni i ddechrau bod gennym ni gynlluniau 100 diwrnod i wrthdroi sefyllfa'r bwrdd iechyd. Wel, wnaeth e ddim hyd yn oed symud un fodfedd i'r dde nac i'r chwith mewn ymgais i wrthdroi, ac mae'n ymddangos bod yr adroddiad hwn yn dangos hynny. Mae mwy na 1,250 o ddiwrnod wedi bod erbyn hyn ac rwy'n credu bod llawer o bobl yn y gogledd wedi colli hyder yn eich gallu chi a gallu eich Llywodraeth i fod â mesurau arbennig sy'n golygu rhywbeth ac sydd mewn gwirionedd yn cyflawni cyflymder a chynnydd y newid y mae angen inni ei weld. Gwn eich bod yn dweud yn rheolaidd eich bod chi wedi nodi eich disgwyliadau'n glir. Rwyf wedi hen alaru, a dweud y gwir, ar glywed hynny, ac mae pobl y gogledd wedi alaru ar hynny hefyd. Dydy pregeth wythnosol, neges e-bost o dwr ifori ym Mae Caerdydd ddim yn mynd i sicrhau'r newid y mae angen inni ei weld mewn gofal i gleifion yn y gogledd. Mae angen mwy o weithredu arnom ni nid geiriau, ymddiheuriadau nid esgusodion ac atebolrwydd nid osgoi cyfrifoldeb.

Felly, gofynnaf ichi heddiw: a wnewch chi ymddiheuro am fethiant y mesurau arbennig hyd yn hyn? A ydych chi'n derbyn rhywfaint o'r cyfrifoldeb am y methiannau a nodwyd yn yr adroddiad hwn? Oherwydd mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn fethiannau yr ydym wedi eu gweld yn eich cyfnod chi tra bu'r bwrdd hwn o dan fesurau arbennig. Fe'i rhoddwyd o dan fesurau arbennig, yn rhannol, i sicrhau canlyniadau i rai o'r argymhellion yn yr ymchwiliadau a'r adroddiadau unigol y gwnaeth amrywiol gyrff ymgymryd â nhw. Mae'n amlwg nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, oherwydd mae'r adroddiad yn dweud hynny yn blwmp ac yn blaen.

Mae pobl yn dal i'w chael yn gwbl syfrdanol nad oes yr un person yn y bwrdd iechyd wedi cael ei ddiswyddo o ganlyniad i'r methiannau sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad hwn. Ydyn, rydym ni wedi gweld rhai newidiadau yn y tîm arwain uwch. Rydym ni wedi gweld rhai o aelodau'r tîm gweithredol hynny yn newid. Ond, mae'r bwrdd yn dal i gyflogi rhai o'r uwch reolwyr hynny, gan gynnwys rhai o'r rheini a oedd mewn sefyllfa i allu newid pethau yn y bwrdd. Mae un unigolyn, er enghraifft, y cyn-Brif Weithredwr, wedi'i benodi yn ddiweddar fel cyfarwyddwr trawsnewid y bwrdd. Allwch chi gredu hynny? Cyfarwyddwr trawsnewid. Gallech chi ddim dychmygu'r pethau hyn. Mae'n warthus.

Rydym yn gwybod bod cleifion wedi cael niwed. Mae rhai cleifion hefyd, pan ewch chi yn ôl drwy'r adroddiad hwn, wedi marw, mewn gwirionedd, o ganlyniad i fethiannau llywodraethu ac arwain y bwrdd hwn. Ac, a dweud y gwir, rwy'n credu na ddylai'r rhai sy'n gyfrifol fyth weithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol eto—byth—ac rwy'n credu mai eich gwaith chi yw penderfynu bod yna gamau i'w cymryd i ymdrin â'r mater atebolrwydd hwnnw. Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:00, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n dirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

—i ymdrin â hynny.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Byddwch chi'n ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet—. Byddaf, Dirprwy Lywydd, mewn eiliad. Byddwch yn ymwybodol, Ysgrifennydd y Cabinet, o ganlyniad i Ddeddf Dynladdiad Corfforaethol 2007, y gall sefydliadau eu cael yn euog o ddynladdiad corfforaethol o ganlyniad i fethiannau rheoli difrifol sy'n arwain at dorri dyletswydd gofal yn ddifrifol.

Mae llawer o bobl yn y gogledd—pobl yn y Cynulliad hwn hefyd—yn pryderu bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn euog o'r union beth hwnnw.

Felly, a gaf i ofyn ichi: a fyddwch chi'n cyfeirio cynnwys yr adroddiad hwn i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron er mwyn iddynt allu ystyried a oes achos i'w ateb o ran dynladdiad corfforaethol, oherwydd rwy'n credu bod cyfiawnhad dros wneud yr union beth hwnnw?

A gaf i ofyn hefyd am ystâd—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:01, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Os gwelwch yn dda—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi, o fod ar fy eistedd, does dim angen unrhyw gymorth arnaf i, ac rwy'n gofyn i lefarydd y Ceidwadwyr ddirwyn i ben. Mae wedi cael mwy o amser nag y cymerodd y Gweinidog.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Fe wnaf ddirwyn i ben. Ac rwy'n credu ei bod yn drueni nad oes gennym ni fwy o amser, a dweud y gwir, mewn dadl Llywodraeth i allu ystyried rhai o'r materion hyn yr wythnos hon, ond byddwn ni'n dychwelyd ato heb amheuaeth—mae'n debyg y bydd yn rhaid inni ddychwelyd ato yn amser y gwrthbleidiau.

Dim ond un cwestiwn olaf gennyf i, o ystyried bod fy amser wedi dod i ben, a hwnnw am faterion yr ystâd y cyfeirir atyn nhw yn yr adroddiad hwn. Gwn mai un o'r materion a adroddwyd wrthym ni yn y llythyr—y llythyr agored—gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr oedd yr angen i wneud rhai gwelliannau cyfalaf yn y gogledd. Rwy'n gwybod am ffaith fod cynigion wedi eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru—rhai ohonyn nhw 18 mis yn ôl—i wneud rhai o'r gwelliannau sydd eu hangen, ac eto rydych chi wedi methu ag ymateb i'r ceisiadau hynny. Dydych chi ddim hyd yn oed wedi dweud 'na'—o leiaf pe byddai ganddyn nhw 'na', bydden nhw'n gallu ystyried ffyrdd eraill o geisio gwneud rhai o'r gwelliannau hyn. Pam ar y ddaear na allwch chi weithredu a gwneud rhai penderfyniadau ar y materion hyn fel y gallwn ni wneud y cynnydd yn y gogledd sy'n gwbl ofynnol fel y gallwn ni roi'r gwelliannau ar waith y mae'r cleifion yn eu haeddu?

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:02, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet— [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i, os clywaf i fwy o sylwadau fel hynny, byddaf yn atal y trafodion hyd nes y bydd pobl yn gwrando'n dawel. Ni fyddaf yn derbyn sylwadau gan bobl ar eu heistedd nad ydynt yn cymryd rhan yn y ddadl. Ysgrifennydd y Cabinet.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod yr amrywiaeth o sylwadau a phryderon y mae'r Aelod wedi eu nodi yn gyson drwy gydol y mesurau arbennig a'r adroddiad Ockenden cychwynnol i ward Tawel Fan. I ymdrin â'r hyn a gredaf a oedd yn gwestiynau, yn hytrach na'r sylwadau ehangach a nodwyd, o'r cychwyn rwy'n cydnabod y sefyllfa anodd iawn y mae'r teuluoedd ynddi. Mae hon wedi bod yn daith hir, ac rwy'n deall pam y mae cau pen y mwdwl yn anhygoel o anodd i deuluoedd—rwyf wedi cydnabod hynny ar bob achlysur yr wyf wedi bod yn y Siambr hon, a gwnes i hynny ar ddechrau fy natganiad heddiw.

Nid adroddiadau'r teuluoedd o adroddiad blaenorol y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw pwnc y datganiad heddiw, ond fe wnaethoch chi ofyn amdano—fe wnaf eto fynd ar hynt y broses ar gyfer darparu'r rheini, ond mae dyddiadau i fod i gael eu cytuno rhwng HASCAS a theuluoedd i adroddiadau unigol gael eu llunio. Os oes gan unrhyw Aelod unrhyw dystiolaeth nad oes unrhyw gyswllt wedi bod neu fod dyddiadau amhosibl yn cael eu rhoi, byddaf yn falch o godi hynny â'r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr bod HASCAS eu hunain yn rhoi amrywiaeth o ddyddiadau i wneud yn siŵr y gellir darparu'r adroddiadau unigol hynny ar gyfer y teuluoedd a'r wybodaeth y bydd pobl, wrth gwrs, am ei gweld.

Fe wnaethoch chi sôn yn fwy cyffredinol am gyfrifoldeb a'ch galwad cyson i bobl gael eu diswyddo. Rwy'n glir iawn mai fi sy'n gyfrifoldeb am y gwasanaeth iechyd gwladol cyfan—yr hyn y mae'n ei wneud yn dda ac, yn yr un modd, yr hyn nad yw'n ei wneud mor dda. Wrth gwrs, mae llawer o'r amser yn y Siambr hon yn cael ei dreulio yn sôn am, ac yn ymateb i bwyntiau pan fo rhywbeth o'i le yn y gwasanaeth iechyd, ac mae hyn yn enghraifft o achos pan nad yw ansawdd iechyd a gofal wedi bod yr hyn y byddai'r un ohonom ni yn dymuno ei weld.

Ni allwn i fod yn gliriach am fy siom ynghylch cyflymder y gwella yn ystod y mesurau arbennig na'r angen i ragor o welliannau ddigwydd. Dyna pam yr ydym ni'n darparu mwy o gefnogaeth i'r meysydd heriol hynny gyda'r bwrdd iechyd—y capasiti ychwanegol ar lefel weithredol a'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n edrych arno unwaith eto wrth ymateb i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn ac, yn wir, yr adroddiad HASCAS.

Mae'n rhaid i'r cynllun gweithredu fod yn un go iawn ac yn un y gellir ei gyflawni, oherwydd fe wyddoch chi gystal â minnau fod Donna Ockenden yn ei hadroddiad yn awgrymu dod yn ôl yn yr hyn y mae hi'n cyfeirio ato fel chwarter 2 y flwyddyn nesaf, felly tua chanol yr haf y flwyddyn nesaf. Felly, mewn tua 12 i 15 mis, bydd angen, wrth reswm, ddychwelyd at hyn, ond beth bynnag am hynny mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi cydnabod bod angen cynllun priodol arno i ymateb iddo. Rwy'n disgwyl iddynt ddod yn ôl at eu bwrdd yn rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn gyhoeddus am y cynnydd a wneir neu na wneir mewn ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ac adroddiad HASCAS.

Nid fy lle i yw cyfeirio'r adroddiad hwn at yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron. Maen nhw'n gwbl ymwybodol o gynnwys yr adroddiad—sut allai neb yn y gogledd fod yn anymwybodol ohono? Nhw sydd i benderfynu a oes achos i'w ateb. Nid fy lle i yw penderfynu bod achos i'w ateb am ddynladdiad corfforaethol. Byddwn yn rhybuddio Aelodau i beidio â mynd ati i ddefnyddio'r iaith fwyaf eithafol bosibl ynghylch yr hyn sy'n amgylchiadau anodd iawn i deuluoedd a staff yn y bwrdd iechyd. Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am beidio â chydsynio i'r galw a wnaeth yr Aelod ar ddechrau hyn, bedair blynedd a hanner yn ôl, i ddiswyddo pobl ar unwaith heb unrhyw broses. Byddai hynny wedi bod y peth anghywir i'w wneud ar y pryd; mae'n dal i fod y peth anghywir i'w wneud yn awr. Fel cyflogwr, mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ddilyn proses briodol â'u cyflogeion, ac os oes camau disgyblu i'w cymryd, yna dylai'r camau hynny gael eu cymryd.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â chyllid cyfalaf, mae'r llythyr gan y prif weithredwr yn nodi'r ystod o gyllid a ddarparwyd ac y gwnaed defnydd ohono i wella'r amgylchedd, yn benodol yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Ac unrhyw beth arall a ddaw i mewn, rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth ymateb i briodol. [Torri ar draws.] Dydw i ddim yn ymwybodol o'r materion unigol y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Os hoffai ysgrifennu ataf gyda'r manylion, rwy'n barod i ymateb iddo a sicrhau bod Aelodau eraill yn ymwybodol o'r ymateb.

Ond, o ran sefyllfa'r gwasanaeth iechyd, fe wnaethoch chi'r pwynt hwn nad oes dim wedi newid ynghylch y gwasanaeth iechyd ac nad yw wedi gwella, ac eto mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi'i hisgyfeirio, ac eto rydym yn gweld rhagoriaeth wirioneddol yn y ddarpariaeth gofal iechyd mewn amrywiaeth o feysydd ledled y gogledd. [Torri ar draws.] Rwy'n credu y byddai rhywfaint o gymedroldeb—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:07, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i, Ysgrifennydd y Cabinet. Darren Millar, os na allwch chi gadw'n dawel ar eich eistedd—. Rydych chi wedi cael sawl ymyriad ar eich eistedd, a dydy ochneidio o'ch meinciau cefn ddim yn eich helpu chi ychwaith. Mae'n ddrwg gen i.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Mae sawl maes o ragoriaeth ac ansawdd uchel a ddarperir yn y gogledd, ac rwy'n credu bod lle i gymedroldeb a chyfrifoldeb yn y modd yr ydym ni'n ymdrin â gwasanaethau gofal iechyd ym mhob rhan o'r wlad, ac mae hynny'n cynnwys y craffu y gellid ac y dylid ei ddarparu i faes sy'n parhau i beri pryder, ac nid wyf yn ceisio cuddio oddi wrth hynny ar unrhyw adeg o gwbl.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rhun ap Iorwerth.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i Donna Ockenden a'i thîm am baratoi a chyhoeddi yr adroddiad diweddaraf hwn. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hefyd, ond hoffwn ei roi ar y cofnod fy mod wedi gofyn yn y Pwyllgor Busnes inni gael dadl ar y materion hyn. Rydym ni ar bwynt pan mae angen dadl arnom ni, ac i bobl sy'n gwylio'r drafodaeth hon heddiw, mae'n werth nodi, i bobl sydd ddim mor gyfarwydd â sut y mae'r Cynulliad yn gweithio, mai'r gwahaniaeth rhwng datganiad a dadl yw bod amser yn gyfyng mewn datganiad; mewn dadl mae gennym ni ryddid ychwanegol nid yn unig i gael mwy o amser i holi'r Llywodraeth, ond hefyd i gyflwyno gwelliannau i gynigion, ac i gynnal pleidlais ar y materion. Felly, edrychaf ymlaen at gael y ddadl honno maes o law.

Fyddwch chi ddim yn synnu i glywed bod cynnwys eich datganiad heddiw yn fy siomi. Ymddengys mai ychydig iawn o gydnabyddiaeth sydd bod adroddiad Ockenden yn amlygu'r methiant i weithredu argymhellion adroddiad ar ôl adroddiad, gan gynnwys y cyfnod, wrth gwrs, y mae Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig. Ac, fel y dywedodd Einstein wrthym am y siawns o gael canlyniad newydd pan fyddwch yn cadw rhoi cynnig ar yr un peth dro ar ôl tro, dyma ni eto â datganiad arall gennych chi lle'r ydych chi'n rhoi'r pwyslais a'r cyfrifoldeb am newid, neu am sicrhau newid, ar y bwrdd ei hun. Mae angen dull gweithredu newydd gan y Llywodraeth.

Rwyf i eisiau tynnu sylw at un mater penodol a godwyd gan un o'm hetholwyr i ddangos cyn lleied, mae'n ymddangos, sydd wedi newid. Mae hi'n ysgrifennu, 'Cefais fy hun yn annisgwyl yn y sefyllfa o fod yn chwythwr chwiban yn Betsi Cadwaladr ryw 18 mis yn ôl'—mae hynny mewn cyfnod, wrth gwrs, tra rydych chi wedi bod wrth y llyw—aiff ymlaen, 'ar ôl fy ymdrechion cychwynnol i drafod fy mhryderon ag uwch reolwr, cefais fy ngwrthod. Ers imi gymryd y cam tyngedfennol hwn y llynedd, rwyf wedi wynebu anawsterau a rhwystrau diddiwedd. Mae'r anawsterau hynny'n cynnwys cwynion yn mynd ar goll, trawsgrifiadau cyfarfodydd yn cael eu ffugio, ymchwilwyr yn cael eu penodi nad oedd yn gymwys yn glinigol neu nad oedd â digon o awdurdod neu a oedd wedi'u cysylltu yn rhy agos â'r bobl a enwyd yn y pryderon, ac yn wir roedd un ymchwilydd yn gweithio rhan o'i swydd mewn swyddogaeth is i berson a enwyd.' Cofiwch y dylai'r pwyslais ar welliannau a roddwyd ar waith ar ôl sgandal Tawel Fan yn sicr fod wedi rhoi diwedd ar y diwylliant hwn o beidio â chredu chwythwyr chwiban a bwlio'r rheini sy'n mynegi pryderon. Nawr, onid yw'n wir mai'r hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw bwrdd iechyd nad oedd mewn gwirionedd yn gweithio o'r cychwyn cyntaf, ac mae'n ymddangos nad yw'n gweithio o hyd, dair blynedd ar ôl i chi ddechrau ei redeg? Onid yw'n bryd cydnabod bellach efallai bod hwn yn fwrdd iechyd ag enw am fod yn afiach ac y tu hwnt i'w adsefydlu, bod angen model newydd ar gyfer darparu iechyd a gofal yn y gogledd?

Gadewch imi orffen drwy ofyn beth yw eich swyddogaeth chi yn y fan yma. A ydych chi'n cytuno mai eich cyfrifoldeb chi ydyw fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd? Os ydych chi'n cytuno â hynny, a ydych chi'n gweld bod methiannau wedi parhau yn ystod y cyfnod yr ydych chi wedi bod wrth y llyw? A ydych chi'n cytuno â hynny? Ac, os felly, pa ymateb y gall cleifion a'u teuluoedd ei ddisgwyl gennych chi yn sgil y ffaith eich bod chi wedi methu â mynd i'r afael â'r problemau o fewn Betsi Cadwaladr?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:11, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am y cwestiynau. Mae eich pwynt ar y dechrau am ddadl neu ddatganiad yn fater i bobl yn y lle hwn i benderfynu sut y maen nhw'n dymuno defnyddio eu hamser. Yr hyn y byddwn i yn ei nodi'n bwyllog wrth yr Aelod yw bod yn rhaid i'r Gweinidog, mewn datganiad, ymateb i gyfres o gwestiynau gan amrywiaeth eang o bobl; mae dadl yn gyfle i ymateb i un ddadl. Mae dewisiadau i'w gwneud ac mewn gwirionedd ni fyddai amser wedi bod i ddod i'r lle hwn â dadl heddiw, ond fe ofynnais i i ddatganiad gael ei ychwanegu, gan gydnabod arwyddocâd y mater.

O ran eich pwynt ynglŷn â gweithredu'r argymhellion, rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â hynny wrth ymateb i Darren Millar, ond hefyd yn fy natganiad agoriadol am yr angen i weithredu argymhellion a hefyd y gydnabyddiaeth agored ein bod yn y fan hon oherwydd nad ydym ni wedi cael cymaint o welliant ag sy'n ofynnol ac nad ydym wedi gweithredu'r holl argymhellion blaenorol a nodwyd. Mae heriau ynghylch arweinyddiaeth a chyfeiriad y bwrdd iechyd hwn wedi bod dros gyfnod o amser, a chydnabyddir hynny, ac mae gen i ffydd yn yr arweinyddiaeth newydd sydd ar fin ei darparu i fynd i'r afael yn benodol â'r heriau y mae HASCAS ac adroddiad Ockenden wedi'u hamlygu unwaith eto.

Fe wnaethoch chi sôn am gŵyn benodol ag iddi amrywiaeth o fanylion nad ydw i, wrth gwrs, yn ymwybodol ohonyn nhw ac na allaf ymateb iddynt, ond os ysgrifennwch chi ataf i mi wnaf sicrhau bod y materion hynny yn cael sylw. Fyddwn i ddim yn ceisio cefnogi nac amddiffyn yr awgrymiadau o arfer gwael yr ydych wedi'u hawgrymu, ond ni allaf ymateb mewn gwirionedd oni bai fy mod yn ymwybodol o'r cwynion penodol.

Pan oeddech chi'n sôn am ffordd newydd o ddarparu gofal iechyd, dydw i ddim yn siŵr a oeddech chi'n sôn am awgrym y dylai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr gael ei chwalu a'i rannu neu ei ailenwi. Byddai'n ddefnyddiol cael eglurhad o hynny, ond nid yw'r un sefydliad annibynnol sydd wedi ymwneud â'r broses hon dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi awgrymu mai'r ateb i wella gofal iechyd yng Nghymru yw bod â mwy nag un bwrdd iechyd unwaith eto yn y gogledd. Rwy'n credu ar hyn o bryd y byddai hynny'n tynnu ein sylw ni, a'n her ni yw gwneud yn siŵr bod Betsi yn gweithio, mewn gwirionedd, ac rwy’n derbyn fy nghyfrifoldeb am wneud hynny. Does dim modd dianc rhag hynny yn y swydd benodol hon a dydw i ddim yn ceisio gwneud hynny. Rwy'n disgwyl bod yma i ateb cwestiynau, rwy'n disgwyl ateb cwestiynau yn y Pwyllgor, ac rwy'n ymrwymo i wneud hynny.

O ran y cymorth ychwanegol y gwnaethoch chi ofyn amdano, rwyf wedi darparu cymorth mwy dwys ar ffurf tîm i weithio ochr yn ochr â'r bwrdd iechyd, a bydd hynny yn darparu adnoddau a chapasiti ychwanegol mewn meysydd allweddol, gan gynnwys darparu gofal sydd wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu ac wrth gwrs y gwaith trawsnewid ariannol. Mae hynny'n golygu hefyd fy mod i wedi rhoi mwy o gefnogaeth i unedau cyflawni perfformiad a chyflawni cyllid hefyd. Felly, rwy'n disgwyl yn ffyddiog y byddaf yn cael cyfle i ymateb i'r Siambr eto yn y dyfodol a bydd hynny'n parhau i fod yn wir tan y bydd gwelliant gwirioneddol a pharhaus wedi'i gyflawni.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 6:14, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid yw'n fy nghalonogi i yn arbennig. Rwy'n sylwi, ym mharagraff cyntaf eich datganiad, eich bod yn dweud bod adroddiad Ockenden yn adroddiad anodd arall ar gyfer y bwrdd ac na ddylai'r canfyddiadau fod yn syndod iddynt. Rwy'n cytuno â chi ar y pwynt hwnnw, ond bu Betsi o dan fesurau arbennig ers 2015 ac mae eich Llywodraeth chi wedi bod yn rheoli'r GIG yng Nghymru ers 1999 yn rhinwedd bod yn y Llywodraeth ym Mae Caerdydd ac yn y pen draw yn gyfrifol am ei methiannau. Felly, os yw hwn yn adroddiad anodd i fwrdd Betsi Cadwaladr, mae'n adroddiad hyd yn oed yn fwy anodd i chi, Ysgrifennydd y Cabinet.

Gwnaeth dim ond darllen crynodeb gweithredol yr adroddiad fy ngadael i â fy mhen yn fy nwylo mewn anobaith. Mae sôn am fethiant ar bron pob tudalen, ac mae'r adroddiad yn rhoi cipolwg ar GIG yn y gogledd sy'n llanastr oherwydd camreoli. Mae sôn am wersi nad ydynt yn cael eu dysgu a staff sy'n cael eu hymestyn i'r eithaf drwy ad-drefnu afresymol a'u gadawodd yn gwasanaethu ardal ddaearyddol enfawr.

Mae adroddiad Ockenden hefyd yn adlewyrchu rhai o'r sylwadau a wnaed yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' y cafwyd dadl arno yn ddiweddar yn y lle hwn, nad yw ei argymhellion i'r bwrdd wedi'u gweithredu. Mae'r un problemau yn parhau i gael eu hailadrodd ac wedi bod felly ers 2009. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi mai penderfyniadau'r bwrdd, a chi a'ch Llywodraeth chi, sydd wedi arwain at y sefyllfa ddigynsail, druenus a chwbl gywilyddus hon, a bod eich dyled yn enfawr i'r staff rheng flaen sydd wedi eu siomi'n ofnadwy gennych chi, ond sy'n parhau i wneud y gwelliannau hyn sy'n bwysig iddyn nhw, y gallwch chi wedyn eu brolio fel llwyddiannau? A fydd unrhyw aelodau o'r bwrdd yn cael eu diswyddo os na fyddant yn llwyddo i gyflawni'r disgwyliadau ar gyfer gwella yr ydych chi'n addo eu gosod arnynt? Ac a fyddech chi'n cytuno, os caiff rhywun ei recriwtio i swydd y maen nhw'n methu ynddi, fod yn rhaid i'r recriwtiwr gymryd rhan fawr o'r bai am gredu ar gam ei fod yn addas ac wedyn hyd yn oed mwy o'r bai am y problemau y mae'n eu hachosi os nad yw'n cael gwared ar y person hwnnw neu'r personau hynny?

Rydych chi wedi crybwyll gwelliannau, a dydw i ddim yn gwadu y bu gwelliannau. Ond mae gwella yn Betsi Cadwaladr yn mynd rhagddo ar gyflymder rhewlifol a dweud y lleiaf. Rydych chi'n dweud y byddwch chi'n parhau i roi cymorth parhaus i Betsi Cadwaladr, a fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yw sut y bydd y cymorth hwn yn wahanol i'r hyn sydd eisoes yn cael ei ddarparu, oherwydd mae'n ymddangos nad yw cymorth ac ymyriadau blaenorol wedi dwyn ffrwyth adeiladol digonol. Mae adroddiad Ockenden yn nodi methiannau a rhybuddion o'r un fath ers creu Betsi yn 2009. Yn wir, mae angen i'r bwrdd ysgwyddo ei gyfran deg o atebolrwydd am y methiannau a'r llanastr a adlewyrchir yn adroddiad Ockenden. Fodd bynnag, chi fel Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am reoli'r bwrdd hwnnw ac mae'n rhaid i chi dderbyn atebolrwydd am eich methiant eich hun i ddod â Betsi allan o fesurau arbennig ac yn ôl ar y llwybr at ragoriaeth. A wnewch chi hynny? Bydd unrhyw beth llai na gweithredu argymhellion y bwrdd yn llawn ac yn briodol, yn hytrach na'r modd 'derbyn mewn egwyddor' gwenieithus y gwnaethoch chi gyfarch llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad 'Cadernid Meddwl' ar gyflwr darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn esgeuluso'n ddybryd y ddyletswydd gofal sy'n ddyledus i bobl y gogledd.

Gwnaethoch chi ddweud yn eich datganiad eich bod yn ymwybodol iawn o ba mor anodd fu'r cyfnod hwn i'r teuluoedd a'r cleifion yr effeithiwyd arnyn nhw gan y methiannau a amlygwyd yn adroddiad Ockenden, ond rwy'n siŵr y bydden nhw'n cael llawer mwy o gysur pe byddech chi'n datrys y problemau yn Betsi nag y byddan nhw o'ch geiriau'n unig. Felly, yn olaf, heb ddefnyddio'r term 'mae gwersi wedi'u dysgu', a allwch chi ddweud wrthyf i, os gwelwch yn dda, pa gamau newydd sy'n wahanol i'r camau hynny yr ydych chi wedi eu cymryd hyd yn hyn y byddwch chi'n ymgymryd â nhw i wella canlyniadau Betsi Cadwaladr yn sylweddol? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:18, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â chwestiynau tebyg a ofynnwyd am gyfrifoldeb, yr wyf yn ei dderbyn dros y gwasanaeth iechyd gwladol pan fydd pethau'n dda ac, yn wir, pan fo heriau hefyd. Mae pobl eraill wedi gofyn am yr un pwynt am, nid yn unig craffu, ond cymorth ychwanegol mewn gwirionedd o amgylch y Bwrdd, a chredaf fy mod wedi ymdrin â hynny yn y ddau gwestiwn diwethaf drwy roi manylion penodol am y gefnogaeth ychwanegol a beth y mae hynny'n ei olygu.

Hoffwn wneud dau bwynt i ateb y cwestiynau eang eraill a ofynnwyd. Ar y pwynt hwn ynghylch mesurau arbennig, bydd mesurau arbennig yn parhau hyd nes bod y bwrdd iechyd wedi gwneud gwelliannau gwirioneddol a pharhaus. Ni fydd yn dod i ben ar adeg sy'n gyfleus i mi. Pe byddai mesurau arbennig yn ddyfais syml i wneud bywyd gwleidydd yn hawdd, yna ni fyddai fawr o ddiben eu cael. Mae'r ymgysylltiad yn sgil y mesurau arbennig a'r fframwaith gwella—rydym yn cael cyngor annibynnol gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac yn wir y swyddogaeth sydd gan brif weithredwr GIG Cymru. Pan fyddan nhw'n cynghori y gall y gwasanaeth iechyd yn y gogledd gael ei isgyfeirio, dyna pryd fydd hynny'n digwydd, ac nid cyn hynny ac nid pan mae hynny'n gyfleus i wleidydd.

Ac mae'n rhaid imi anghytuno â'ch sylw bod y GIG yn y gogledd yn llanastr. Mae llawer i ymfalchïo ynddo am y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Mae'r iaith a ddefnyddiwyd gennych chi fel modd eang o ymosod ar y gwasanaeth cyfan a'r hyn y mae'n ei gyflawni ac wedyn i ddweud eich bod yn rhoi canmoliaeth i staff rheng flaen—allwch chi ddim gwneud y ddau ar yr un pryd. Y staff rheng flaen hynny sydd yn cyflawni'r holl wasanaethau therapi o fewn y targed, y bobl hynny sy'n cyflawni'r modelau gofal newydd a gwell i ddarparu mwy o ofal yn y cartref, y staff gwasanaeth iechyd hynny sy'n cyflawni ar sail sylweddol berfformiad gwell o lawer ar ganser yn y gogledd o'i gymharu â chydweithwyr ar draws y ffin yw'r un bobl yr ydych chi'n awgrymu nad ydyn nhw'n gwneud eu gwaith mewn meysydd eraill. Nawr, mae yna her yma. Fi yn unig sy'n gyfrifol am bethau sy'n mynd o'i le yn y gwasanaeth. Nawr, mae hynny'n digwydd, dyna'r cyfrifoldeb sy'n gysylltiedig â'r swydd, ond rwy'n chwilio am gyflawniad gwirioneddol a pharhaus, nid i wneud fy mywyd i'n hawdd, ond oherwydd mai dyna'r peth iawn i'w wneud ar gyfer staff yn y gogledd ac, yn hollbwysig, dyna'r peth iawn y mae pobl yn y gogledd yn ei ddisgwyl, ac maen nhw'n haeddu union yr un gofal o ansawdd uchel ag y mae pob rhan arall o'r wlad yn ei haeddu hefyd.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:20, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, dewch inni roi cynnig arall arni. Sut rydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Donna Ockenden,

‘Gwneir sylwadau cadarnhaol am y staff yn aml. Mae’r arfer da hwn i’w weld yn aml er gwaethaf (yn hytrach nag oherwydd) unrhyw ymyriadau penodol gan naill ai’r tîm rheoli grŵp trawsbleidiol neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros yr amserlen, yn enwedig o 2009 i 2016'?

Sut rydych chi’n cysoni’r datganiad yn y llythyr at Aelodau Cynulliad y gogledd gan y bwrdd iechyd, a gafodd ei dderbyn heddiw,

'mae llawer o'n heriau presennol yn deillio o faterion hanesyddol. Mae llawer o waith i'w wneud i ymgorffori gwelliannau ar draws y... sefydliad ond rydym ni’n gwbl ymroddedig i gyflymu'r newid er lles'

â’r datganiad yn adolygiad Donna Ockenden,

'Mor ddiweddar â diwedd 2017 gwelwyd bod camau gweithredu a addawyd ar ôl adolygiadau ac arolygiadau mewn blynyddoedd blaenorol heb gael eu cymryd gan BIPBC'?

Rydych chi’n gorffen eich datganiad drwy ddweud bod dros bedair blynedd a hanner wedi mynd heibio ers i bryderon gael eu codi gyntaf ynghylch gofal a thriniaeth ar ward Tawel Fan. Pam ydych chi’n dal i ailadrodd hynny pan wyf i wedi datgan dro ar ôl tro—fwyaf ddiweddar yma ym mis Mai—imi gynrychioli etholwyr yn 2009 a oedd yn honni bod y driniaeth a gafodd eu hanwyliaid yn yr uned bron â’u lladd nhw, a’u bod nhw nawr yn poeni am y driniaeth y gallai pobl eraill ei chael yn yr uned, a bod Donna Ockenden

'wedi gweld bod y systemau, y strwythurau a’r prosesau llywodraethu, rheoli ac arwain a gyflwynwyd gan y...Bwrdd o 2009 yn gwbl amhriodol ac yn sylweddol ddiffygiol'?

A wnewch chi nawr ateb y cwestiwn a ofynnais ichi ym mis Mai ar ôl yr adroddiad HASCAS ynghylch pam mae’n ymddangos bod canfyddiadau’r adroddiad HASCAS yn llwyr anwybyddu canfyddiadau hollol anghyson adroddiadau swyddogol blaenorol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2013 a mapio gofal dementia ym mis Hydref 2013? Sut rydych chi’n ymateb i bryderon a godwyd gan brif weithredwr y cyngor iechyd cymuned mewn gohebiaeth at y bwrdd iechyd y bu tor-amod data difrifol mewn perthynas ag un o'r cleifion, a ddigwyddodd pan roddodd y bwrdd iechyd gofnodion meddygol ei fam i berthynas a phan ychwanegodd y cyngor iechyd cymunedol fod hyn yn ddigwyddiad rhy gyffredin o lawer pan fo BIPBC yn cyflenwi cofnodion meddygol i'w cleientiaid? Cafodd hyn ei ysgrifennu y mis diwethaf. A’m cwestiwn olaf, eto ynglŷn â'r llythyr a dderbyniwyd gan y bwrdd iechyd heddiw: mae'n dweud y bydd y bwrdd yn sefydlu grŵp rhanddeiliaid—mae’n ymddangos braidd yn hwyr i hynny—i helpu’r grŵp gwella i ddeall ac ystyried yr effaith ar randdeiliaid drwy ddarparu fforwm sy’n galluogi asesiad mwy trylwyr i gael ei gynnal tra ar yr un pryd yn darparu modd o adnabod materion newydd sy'n ymwneud â rhanddeiliaid y mae angen eu dwyn i sylw'r grŵp gwella. Pam, ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, maen nhw’n dal i fethu’n llwyr â deall ac yn anwybyddu'n llwyr y materion a nodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei lythyr ymadawol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod yn rhaid inni ddechrau gwneud pethau’n wahanol drwy gynllunio a chyflwyno gwasanaethau gyda chleifion a chymunedau oherwydd, os na wnawn ni, byddwn ni’n parhau i wneud yr un camgymeriadau?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:24, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cydnabod rhai o'r sylwadau a wnaethoch chi am natur hanesyddol rhai o'r heriau yr oedd y bwrdd yn eu hwynebu ar adeg ei sefydlu o ran y ffordd yr oedd wedi’i drefnu. Cafodd hynny ei nodi yn yr adroddiad Ockenden yr ydym ni’n ei drafod heddiw, ac, yn wir, cafodd ei nodi yn yr adolygiad HASCAS, ac mae wedi bod yn glir iawn nad oedd y strwythur a oedd ar waith ar y pryd wedi cael ei roi ar waith yn y ffordd optimaidd a’i fod yn achosi heriau go iawn o ran sut i ddarparu iechyd a gofal mewn amrywiaeth o wahanol feysydd. Roedd hynny'n bendant yn effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl. Felly, roedd rhywfaint o hyn yn ymwneud ag ad-drefnu strwythur y ddarpariaeth. Mae mwy i'w wneud o fewn hynny. Gwnaf ddychwelyd at hynny yn nes ymlaen wrth ymateb i'ch pwynt olaf.

Rwy’n meddwl ei bod hi’n bwysig cydnabod y gwell arweinyddiaeth a ddarparwyd gan y cyfarwyddwr iechyd meddwl a'r angen i gyflwyno diwylliant gwahanol o fewn y gwasanaeth a ddarperir, ac mae hynny’n waith sy’n parhau ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r ymateb i adroddiad Ockenden ac i’r adroddiad HASCAS. Yn wir, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi canmol y gwelliannau yn y strwythur sydd nawr yn barhaol ac maen nhw’n cydnabod ei fod yn addas at y diben. Yn wir, mae Donna Ockenden ei hun yn dweud bod y strwythur wedi gwella'n sylweddol.

Dydw i ddim yn derbyn eich sylw y dylid, rywsut, gwrthod credu casgliadau adroddiad HASCAS neu eu rhoi o'r neilltu. Rwy’n meddwl eu bod nhw’n gyson â’r canfyddiadau yn adolygiad Ockenden. Dydy’r naill adroddiad na’r llall yn adroddiad cadarnhaol i’r bwrdd iechyd; mae’r ddau wedi nodi heriau gwirioneddol a sylweddol sydd heb gael sylw priodol o hyd. Dyna pam rydym ni yn y sefyllfa hon a dyna pham yr wyf i’n gwneud datganiad arall eto fyth am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd.

Hoffwn ddychwelyd at eich pwynt olaf hefyd, sef eich honiad, oni bai bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cynnwys—y bobl sy'n cymryd rhan yn y gwasanaeth—na allwn ni ddylunio a chyflenwi’r gwasanaeth iawn, ble bynnag y mae, gan gynnwys iechyd meddwl. Ac eto dyna’n union beth mae’r cyfarwyddwr iechyd meddwl newydd wedi ei wneud, ac wedi cael cydnabyddiaeth am ei wneud, wrth lunio'r strategaeth iechyd meddwl newydd ar gyfer y gogledd a aeth ati’n fwriadol i gynnwys staff a defnyddwyr gwasanaeth ac ymwneud â nhw, ac, wrth ddatblygu'r strategaeth honno, mae’r un grwpiau hynny o bobl yn cyfrannu at sut y dylai’r gweithredu edrych. A dweud y gwir, rwy’n meddwl bod y cyfarwyddwr iechyd meddwl newydd a'r dull gweithredu y mae wedi'i ddefnyddio, a gefnogwyd gan uwch arweinwyr y bwrdd iechyd, yn un i’w gydnabod, fel y mae partneriaid allanol, yn wir, wedi’i wneud hefyd. Nid dim ond dweud bod y dull gweithredu’n well nawr yw’r her, ond sut y mae’r dull gweithredu gwell hwnnw’n arwain at well canlyniadau ac adroddiadau cyson yn ôl gan y staff a'r cyhoedd am ansawdd y gofal y maen nhw’n ymwneud ag ef.

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:26, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i Donna Ockenden a'i thîm am eu gwaith wrth baratoi'r adroddiad hwn? Byddwn i wrth fy modd yn gallu ymestyn yr un diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ond mae arnaf ofn na allaf wneud hynny. Dydw i ddim yn teimlo y galla’i wneud hynny, a rhaid imi ddweud bod y paragraff cyntaf yn gosod y dôn, onid yw? Does ond rhaid ichi edrych ar yr ail frawddeg,

'Dyma adroddiad anodd arall i’r bwrdd'

—nid i Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am Betsi Cadwaladr am y tair blynedd diwethaf, ond i’r bwrdd, ac yna rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud,

'Mae'r neges yn glir: rhaid i'r bwrdd gyflymu’r gwelliant a’r newid.'

Onid yw hyn yn ei wneud yn adroddiad anodd i'r Llywodraeth? Onid y Llywodraeth a ddylai gyflymu’r gwelliant a’r newid? Onid ydych chi’n gweld hyn fel eich cyfrifoldeb chi? Onid ydych chi’n gweld hyn fel eich problem chi? Neu, efallai, rwy’n meddwl, fod hynny'n rhan o'r broblem yma, ac yn rhywbeth yr ydych chi’n dal i fethu â rhoi sylw iddo. Ac yna rydym ni’n mynd ymlaen at y paragraff nesaf—ceir tonau cydymdeimladol a gresynu, o fath yma, ac nid wyf yn amau hynny, ond does dim ymddiheuriad, fel sydd wedi’i awgrymu eisoes. Onid oes arnoch chi ymddiheuriad i'r bobl hynny y mae eu bywydau wedi bod yn uffern dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd llawer o'r methiannau hyn? Ac, wedi ichi fethu ag ymateb i'r cais hwnnw yn gynharach, byddwn yn gofyn ichi eto a wnewch chi ddefnyddio'r cyfle hwn y prynhawn yma i roi’r ymddiheuriad diamwys hwnnw i'r bobl hynny sydd allan yno sy'n dioddef oherwydd y methiannau hyn i gyd.

Nawr, mae eich datganiad yn pwysleisio bod y materion Tawel Fan yn ymwneud â’r gorffennol, wrth gwrs, ac mae angen inni ddysgu gwersi a symud ymlaen. Ond, fel y mae Ockenden yn ei ddangos yn glir, mae adroddiadau niferus wedi tynnu sylw at y problemau hyn, a dydy’r gwersi heb gael eu dysgu ac mae’r problemau hynny’n dal i fodoli. Dywedwch wrthym ni, felly, pam dylem ni fod yn hyderus yn eich gallu chi a'r Llywodraeth i ddysgu'r gwersi hynny y tro hwn, a chithau yn amlwg wedi methu â gwneud hynny dros y blynyddoedd? Mae Ockenden yn dweud wrthym, os caf i ddyfynnu,

'Mae staff meddygol a nyrsio yn parhau i beri pryder ' o fewn iechyd meddwl pobl hŷn hyd heddiw.

'Roedd nyrsys clinigol ar draws OPMH ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn disgrifio...staffio yn 2017 fel "anodd iawn" ac fel "diffodd tanau yn gyson." Hefyd, disgrifiodd nyrsys staffio fel "gwaeth nawr".'

Felly, dydy hyn ddim yn y gorffennol. Mae hyn o dan eich goruchwyliaeth chi, o dan eich rheolaeth chi, gyda'r bwrdd, wrth gwrs, o dan fesurau arbennig. Felly, oni wnewch chi gymryd mymryn o gyfrifoldeb am y sefyllfa bresennol, fel mae’r adroddiad yn ei disgrifio hi?

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at fethiant i ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol ac i ymdrin â chwynion teuluoedd yn ddigonol. Mor ddiweddar â mis Hydref y llynedd, dywedodd llythyr gan nyrs glinigol rheng flaen a oedd wedi cyfrannu at yr adolygiad llywodraethu,

'"sut byddwn i’n teimlo am fod yn nyrs? Agored i niwed, anniogel, heb gymorth gan uwch reolwyr, gan eu bod nhw’n anwybodus o’r ffaith ei fod yn digwydd—er gwaethaf yr holl gofnodi digwyddiadau. Pam? Oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd ar y wardiau mwyach. Maen nhw’n aros yn eu swyddfeydd yn dweud wrth benaethiaid yr ymddiriedolaeth nad oes gennym ni ddim problemau, er ei bod hi’n amlwg, pe baen nhw’n siarad â’r staff ar y llawr, dydyn ni ddim yn teimlo’n ddiogel mwyach".

'Mae'r nyrs hefyd yn disgrifio cleifion fel “ddim yn ddiogel gan nad oes digon o staff” ac "mae cleifion yn aros heb feddyginiaeth oherwydd nad oes meddygon ar wardiau". Ychwanegodd "mae arian yn bwysicach na diogelwch cleifion a staff. Rydw i’n teimlo mwy fel gard carchar na nyrs, yn ceisio cadw’r wardiau a'r cleifion yn ddiogel"'.

Diwedd 2017 yw hyn, ychydig fisoedd yn ôl—nid 2015, nid yn y gorffennol pell. Ac mae hyn ar ôl dwy flynedd o fesurau arbennig y Llywodraeth. Felly pryd ydych chi’n meddwl y byddwch chi'n gallu dweud bod Betsi Cadwaladr yn holliach? Rydych chi newydd ddweud eich bod chi’n disgwyl i’r mesurau arbennig gymryd cyhyd ag y maen nhw’n ei gymryd. Sut yn union, felly, ydym ni’n mesur eich perfformiad? Ai dim ond dychwelyd at y datganiadau hyn dro ar ôl tro ar ôl tro?

Yn olaf, os na welwn ni newidiadau strwythurol difrifol yn y ffordd y darperir gofal iechyd yn y gogledd, rwy’n ofni y byddwn ni’n gweld rhagor o adroddiadau'n tynnu sylw at yr un problemau yn y blynyddoedd sydd i ddod. Os nad yw’r bobl â gofal yn gallu dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol, fel sydd yn amlwg wedi digwydd o'r blaen, byddwn ni’n gweld yr hunllef erchyll hwn yn ailadrodd ei hun. Ar ôl bron i ddegawd o hercian o un argyfwng i’r nesaf, onid yw'n bryd inni dynnu llinell o dan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ac ystyried a ddylid ei ailstrwythuro? Ac os nad nawr, beth fydd yn ei gymryd, a phryd wnewch chi dderbyn bod yn rhaid i rywbeth newid?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:31, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy’n mynd i ddechrau â'ch pwynt olaf, oherwydd gwnaeth eich cyd-Aelod Rhun ap Iorwerth hefyd sôn am strwythuro ac ailstrwythuro a beth y gallai hynny ei olygu. Dydw i ddim yn glir o gwbl beth rydych chi’n ei gynnig o ran ailstrwythuro’r bwrdd iechyd, oherwydd mae angen inni fod yn glir ynghylch a ydych chi’n sôn am fwy nag un bwrdd iechyd, sut y byddai’n cael ei gyflawni a sut y byddai hynny’n darparu gwell gofal. Dyna'r her yma: os ydych chi’n chwalu’r sefydliad presennol, yr her y mae hynny’n ei greu. A dydw i ddim yn credu y byddai hynny’n darparu gwell gofal iechyd, yn sicr am gyfnod canolig. Rhaid i'r pwyslais fod ar wella nawr.

Rwyf i wedi sôn lawer gwaith wrth ateb cwestiynau a grybwyllwyd heddiw am y cymorth a’r ymyrraeth ychwanegol a ddarperir i'r bwrdd iechyd, ac rwyf i wedi ymddiheuro ar nifer o achlysuron y tu mewn a thu allan i'r Siambr hon am yr effaith ar deuluoedd lle mae’n amlwg nad yw gofal iechyd wedi'i gyflenwi at y safon y mae pobl yn ei ddisgwyl ac y mae ganddyn nhw'r hawl i’w ddisgwyl. Rydym ni wedi gwneud y peth iawn drwy gynnal yr adolygiadau hyn dros gyfnod lle y gallan nhw gael mynediad at ddigon o wybodaeth i ddarparu adroddiad sylweddol a rhesymegol ar dystiolaeth sylweddol. Mae'n ddrwg gen i ei fod cymryd cymaint o amser ag y mae, ond byddai wedi bod yn hollol anghywir i wleidydd ymyrryd i ddweud, 'Darparwch yr adroddiad hwn yn gyflymach.' Byddai hynny'n fater o fodloni fy muddiannau i, ac nid buddiannau'r cyhoedd sy'n cael gofal iechyd yn y gogledd, neu gyflenwi’r gofal hwnnw.

O ran y sicrwydd sydd i'w ddarparu, rwyf eisoes wedi nodi bod mesurau arbennig—. Rwyf wedi nodi fframwaith gwella ar gyfer y 18 mis nesaf. Darperir hynny. Darperir y sicrwydd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru. Nid ar gyfer fy nghyfleustra i y caiff hynny ei gyflenwi; caiff ei gyflenwi gydag asesiad gonest o'r cynnydd a wnaethpwyd, neu fel arall. Ac fe welwch chi o’r adroddiadau blaenorol ar fesurau arbennig nad oes dim byd wedi’i wneud i danseilio beirniadaeth neu ganmoliaeth lle cafodd y gwasanaeth ei symud. Felly, mae’r gonestrwydd hanfodol ynghylch yr hyn sy'n digwydd yno eisoes. Rwy’n cymryd o ddifrif beth sydd gan y staff i’w ddweud, boed yn dda, yn ddrwg neu'n ddifater, a phan fyddaf yn ymweld â chyfleusterau gofal iechyd ledled y wlad, mae’r staff yn uniongyrchol ac yn onest â mi, gan gynnwys pan fyddan nhw'n meddwl nad yw pethau’n ddigon da. Mae hynny wedi bod yn wir bob tro imi ymweld â’r gogledd hefyd.

Byddwn yn dweud, o ran gwelededd, fy mod i’n meddwl ei bod yn anghywir dweud bod y bwrdd iechyd yn anweledig. Mewn gwirionedd, mae Donna Ockenden ei hun yn cydnabod bod ystod o unigolion allweddol sy’n weladwy. Mae hi’n galw ar weddill y bwrdd i fod yr un mor weladwy. Ond fe wnaf i’r pwynt penodol hwn, gan eich bod chi wedi sôn am atgof gan nyrs oddi mewn i’r bwrdd iechyd ei hun: y gwir yw bod y cyfarwyddwr nyrsio yn cael canmoliaeth eang o fewn y proffesiwn, o fewn y gogledd a thu hwnt, ac mae hi'n gymeriad gweladwy iawn. Bob tro yr ydw i wedi ymweld â hi, mae hi nid yn unig wedi cael cydnabyddiaeth gan nyrsys eraill, ond mae hi cydnabod y nyrsys hynny ei hun ac wedi cael sgwrs â nhw, ac mae'r parch sydd yno’n amlwg. Dydych chi ddim bob amser yn gweld hynny ym mhob maes, ac rwyf i wir yn meddwl bod y lefel honno o aeddfedrwydd sydd ei hangen arnom ni wrth ddisgwyl gwelliant, ond am wneud hynny mewn ffordd resymol—bod yn rhaid inni adfer hynny yn y ffordd yr ydym ni’n trafod y materion hyn. Ddylai hynny ddim lleihau arwyddocâd y gwaith craffu rwyf i’n disgwyl ei wynebu.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:34, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae ein hamser ni ar ben, ond fe wnaf alw ar Angela Burns. Chi yw’r trydydd siaradwr yn eich grŵp—rwy’n mynd i’ch atgoffa’n dyner o hynny. Diolch.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Dim ond un cwestiwn sydd gen i, ond rhagymadrodd bach iawn, sef bod yr adroddiad hwn yn benllanw dwy flynedd a hanner o waith manwl. Mae’r tîm wedi adolygu miloedd o ddogfennau, rhai ohonyn nhw heb eu cyhoeddi o'r blaen, 200 o gyfweliadau â staff presennol a chyn-staff a defnyddwyr gwasanaeth presennol a diweddar, ar draws chwe sir y gogledd, ac mae'n bedair mlynedd a hanner, fel rydych chi eich hun yn ei ddweud yn eich datganiad ers i’r pryderon cyntaf gael eu mynegi. Yn yr amser hwnnw, bu tri adolygiad llywodraethu ar y cyd, yn 2013, 2014 a 2017. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi adrodd ar fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, yn ogystal â Swyddfa Archwilio Cymru, uned cyflenwi’r GIG a cholegau brenhinol amrywiol. Bu ymyrraeth wedi'i thargedu ers 2014-15, a mesurau arbennig ers 2015. Rwy’n meddwl ei bod yn gwbl warthus ei bod wedi cymryd cyhyd i droi hyn o amgylch, ac felly fy un cwestiwn ichi yw: faint yn fwy o amser ydych chi’n mynd i’w roi iddyn nhw i wneud gwelliant go iawn, wedi’i gynnal? Cyn ichi ateb, gwnaf fi ddweud wrthych, fel rhywun sydd wedi cynnal busnesau sydd wedi bod mewn helynt ofnadwy ac wedi ceisio eu hachub nhw—rhai yn llwyddiannus, rhai’n aflwyddiannus—allwch chi ddim rhoi’r ateb 'Cyhyd ag mae'n ei gymryd', oherwydd ar ryw adeg bydd y màs critigol yn gorlifo. Mae’n rhaid i’r gêm orffen, a dydw i ddim yn hyderus, Ysgrifennydd y Cabinet, bod diwedd i’r gêm hon pan ydych chi’n disgwyl gweld—eich geiriau chi, nid fy ngeiriau i—gwelliant gwirioneddol a pharhaus. Oherwydd fel y dywedodd Llyr Huws Gruffydd, ddylem ni ddim cael y drafodaeth hon eto.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:36, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Fel yr wyf wedi dweud, ceir fframwaith gwella 18 mis gydag amrywiaeth o fesurau a fydd yn rhoi'r Bwrdd Iechyd ar brawf, ac nid fy asesiad i yn unig fydd hwn; ond y cyngor a roddir gan Brif Weithredwr GIG Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Nid y Llywodraeth yn marcio ei gwaith ei hun neu'n rhoi esgus neu reswm cyfleus yw'r sicrwydd hwn. Felly bob tro y maen nhw'n cael y drafodaeth honno, maen nhw'n rhoi cyngor, rydym ni'n rhoi datganiad ac rydym yn agored ynghylch yr hyn a ddywedwyd—y da a'r difater a phethau sy'n gwneud inni feddwl nad ydym yn symud i'r cyfeiriad iawn o gwbl. Felly, byddwn yn agored ac yn dryloyw, ac os credaf fod angen cymryd mwy o fesurau, yna byddaf yn gwneud hynny, a byddaf yn atebol am ganlyniadau'r mesurau hynny. Byddaf yn dod i'r lle hwn, yn eu cyhoeddi ac yn ateb cwestiynau amdanynt. Does dim lle i guddio, ac rwy'n disgwyl y bydd—. O fewn y fframwaith 18 mis, ceir mesurau sy'n amserol ac yn benodol, ac rwy'n disgwyl i'r Bwrdd Iechyd wneud cynnydd gwirioneddol wrth wneud hynny, yn hytrach na dim ond esbonio pam na lwyddodd i wneud hynny. Os na allwn gyflawni'r gwelliant hwnnw, yna mae'n ddealladwy y bydd pobl nid yn unig yn holi mwy o gwestiynau ond byddant hefyd yn disgwyl ymyrryd pellach o fewn y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod pobl yn cael y gofal iechyd y mae ganddynt yr hawl i'w ddisgwyl yn y Gogledd ac ym mhob rhan arall o'r wlad.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 6:37, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.