– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 6 Tachwedd 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), ac rydw i'n galw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i wneud y cynnig—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig.
Rwy'n falch o agor y ddadl i geisio cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru). Bydd y Bil yn sicrhau y bydd tenantiaid yn gallu chwilio am gartref yn y sector rhentu preifat yn ffyddiog na fydd gofyn iddyn nhw dalu ffioedd ymlaen llaw. Dylai hyn wneud y sector yn fwy sefydlog, yn fwy dibynadwy ac yn fwy deniadol, a lleihau'r rhwystrau i'r rhai hynny sy'n dymuno dechrau yn y sector neu symud oddi mewn iddo.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r tri phwyllgor sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil hwn am eu hamser a'u gwaith caled. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar. Rwy'n gwerthfawrogi'r dystiolaeth a ddaeth i law y pwyllgorau yn ystod Cyfnod 1 a faint o waith a wnaed ganddynt wrth lunio'u hadroddiadau a'u hargymhellion.
Gan droi yn gyntaf at adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, rwy'n falch bod y pwyllgor wedi argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Er bod rhywfaint o anghytuno ar faterion penodol y manylion, rwy'n croesawu casgliad y pwyllgor ynghylch yr angen i ddeddfu. Mae argymhelliad 2 yn ceisio gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru i roi gwybod i denantiaid, landlordiaid ac asiantau am ddarpariaethau'r Bil. Yn amodol ar gymeradwyaeth y Bil gan y Cynulliad, byddwn yn cynnal rhaglen gyfathrebu sylweddol a fydd yn cynnwys awdurdodau lleol, Rhentu Doeth Cymru a'r trydydd sector, yn ogystal â chyfathrebu mwy cyffredinol yn targedu cynulleidfa eang.
Roedd y ddyletswydd i roi gwybod yn Neddf Diddymu'r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 yn adlewyrchu'r ffaith bod cynulleidfa'r Ddeddf honno yn hawdd ei hadnabod ac yn unigryw. Mae cynulleidfa'r Bil hwn yn ehangach o lawer, gan gynnwys unrhyw un a all fod yn ystyried rhentu, yn ogystal â'r rhai sy'n gwneud hynny eisoes, felly strategaeth gyfathrebu fwy cyffredinol sy'n fwy priodol. Er fy mod i'n ymrwymo'n fodlon i ymgymryd â rhaglen gyfathrebu effeithiol a chynhwysfawr ynghylch y Bil, mae'n rhaid imi wrthod yr argymhelliad.
Fodd bynnag, rwy'n cefnogi argymhelliad 3 sy'n nodi y dylai Rhentu Doeth Cymru fod â phwerau gorfodi ochr yn ochr ag awdurdodau lleol. Gan mai Rhentu Doeth Cymru yw'r awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, byddai'n bosibl cyflawni hyn o dan drefniadau arfaethedig presennol, trwy ddefnyddio pŵer presennol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae hyn yn galluogi awdurdod lleol i gytuno y dylai awdurdod lleol arall gyflawni swyddogaeth ar ei ran. Fodd bynnag, gan fod Deddf 2014 yn darparu ar gyfer corff nad yw'n awdurdod lleol i gael ei ddynodi, rwy'n cydnabod y bydd yr argymhelliad yn helpu i ddiogelu'r Bil yn y dyfodol, ac yn gwneud camau gorfodi yn fwy effeithlon. Felly, byddaf yn ystyried cyflwyno gwelliant i ddarparu ar gyfer rhoi pwerau gorfodi i'r awdurdod trwyddedu yng Nghyfnod 3, pan fydd y manylion wedi'u hystyried yn llawn.
Mae'n ddrwg gen i na fydd modd cytuno ar y gwelliant penodol a gynigir yn argymhelliad 4, ond rwyf yn cydnabod pryder y pwyllgor ynghylch taliadau diofyn, er fy mod i o'r farn y gall fod yn anoddach gweithredu'r argymhelliad nag yr ymddengys ar yr olwg gyntaf. Fodd bynnag, o ystyried y pryderon dealladwy hynny, rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i adolygu sut y gallai'r Bil geisio mynd i'r afael â'r mater hwn. Byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy syniadau yn y maes hwn, ac os byddai gwelliant yn helpu, byddaf yn ystyried cyflwyno un yng Nghyfnod 3.
Rwy'n falch o dderbyn argymhelliad 5, a byddaf yn cyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 3 i drin taliadau ar gyfer cyfleustodau, y dreth gyngor, gwasanaethau cyfathrebu a'r drwydded teledu fel taliadau a ganiateir.
Rwy'n derbyn mewn egwyddor argymhelliad 6 ynghylch ffioedd ymadael. Fodd bynnag, rwy'n dymuno archwilio'r opsiynau i fynd i'r afael â'r mater hwn, a byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor yn dilyn y trafodaethau hynny.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi i dderbyn argymhelliad 7, gan nad yw'r Bil yn caniatáu i fwy nag un blaendal cadw gael ei gymryd ar unrhyw adeg. Mae gan unigolyn sy'n talu blaendal cadw yr hawl cynnig cyntaf a, phan fo hyn wedi'i dalu, mae'n golygu bod yn rhaid rhoi contract i ddeiliad y contract. Yn y pen draw, os bydd materion yn codi, ceir pŵer yn y Bil eisoes i ddiwygio diffiniad taliadau a ganiateir. Fodd bynnag, nid wyf wedi fy argyhoeddi, ar sail yr ymchwil sydd ar gael i ni, bod digon o dystiolaeth i newid y Bil ar hyn o bryd.
O ran argymhelliad 8, rwy'n cydnabod anniddigrwydd yr Aelodau o ran y ddarpariaeth ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i'r Bil sy'n ymwneud â'r hawl i rentu o dan Ddeddf Mewnfudo 2014. Felly, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad a hepgor y paragraff am y rheswm nad yw'r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2014 wedi dod i rym yng Nghymru eto. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn dod â darpariaethau perthnasol Deddf 2014 i rym, gallen nhw ddiwygio Atodlen 2 er mwyn gwneud y ddarpariaeth.
Mae camau gorfodi'r Bil wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth graffu arno, ac rwy'n bwriadu mynd i'r afael â hyn trwy dderbyn argymhellion 9 a 10. Mae hyn yn golygu y bydd landlord wedi'i atal rhag cyflwyno rhybudd o dan adran 173 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a elwir yn hysbysiad adran 21 ar hyn o bryd, os bydd landlord wedi gofyn am daliad gwaharddedig a dalwyd ac na ddychwelyd, neu os nad fydd blaendal cadw wedi'i ad-dalu.
Byddaf hefyd yn cyflwyno gwelliant i ddyblu'r swm o hysbysiad cosb benodedig i £1,000. Bydd hyn yn cryfhau rhan bwysig o'r drefn orfodi, ond yn ei gadw ar lefel a fydd yn caniatáu i'r hysbysiad cosb benodedig barhau i fod yn arf gorfodi cyflym ac effeithiol yn unol â'i fwriad, ac yn adlewyrchu ei swyddogaeth yn rhan o'r drefn orfodi ehangach.
O ran argymhelliad 11, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion barhau i ystyried creu dull o haenau neu fandiau wrth gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig, ac, unwaith eto, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor pan fydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben.
Ni allaf dderbyn argymhelliad 12, oherwydd byddai'n dyblygu'r pwerau sydd eisoes ar gael o dan adran 36 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014, a byddwn i'n dadlau bod hyn yn ymdrin â phryderon y pwyllgor.
Byddai argymhellion 13 a 14, yn fy marn i, yn cymhlethu'r Bil yn ddiangen a byddai'n tanseilio ein dull gorfodi, felly mae'n rhaid imi wrthod y ddau.
Fodd bynnag, rwyf yn fodlon derbyn argymhelliad 15, a fydd yn sicrhau ein bod yn monitro effaith y Bil ar y farchnad rhentu i fyfyriwr.
Gan droi at adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, o ran ei argymhelliad cyntaf, rwyf yn hapus i fanteisio ar y cyfle hwn i gadarnhau fy mod i'n fodlon bod y Bil yn ymwneud â thai ac nad yw'n cysylltu ag unrhyw fater a gadwyd yn ôl. Nid yw'n arfer safonol i Lywodraeth Cymru ddarparu dadansoddiadau manwl o gymhwysedd, boed yn y pwyllgor neu yn ystod dadl ar egwyddorion cyffredinol. Pan fo manylion wedi'u darparu, maent yn adlewyrchu amgylchiadau unigryw, ac nid yw'r rhain yn berthnasol i'r Bil hwn.
Mae argymhelliad 2 yn gwneud pwynt ehangach ynghylch gwybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol yn y memoranda esboniadol. Gwn fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch y mater hwn, a bydd ymateb ar gael cyn bo hir.
O ran argymhelliad 3, rwy'n falch bod y Bil wedi gallu treialu ein dull newydd o integreiddio asesiadau effaith, gan atgyfnerthu'r gyfres bresennol o asesiadau effaith mewn un ddogfen. Mae'r broses newydd yn cyflawni dyletswyddau statudol presennol sy'n gysylltiedig ag asesiadau effaith ac yn dwyn ynghyd amrywiaeth o asesiadau effaith mewn fframwaith mwy cydlynol. Mae hyn yn lleihau cymhlethdod a dyblygu, ac felly dylai gynorthwyo'r darllenydd.
O ran argymhelliad 4, gwn fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch y mater hwn, a bydd yn ymateb ar ran Llywodraeth Cymru yn fuan. O ran y Bil hwn, gallaf gadarnhau y bydd dolen i'r ddogfen porth asesiadau effaith yn cael ei hychwanegu at y memorandwm esboniadol.
Rwyf hefyd yn hapus i egluro'r datganiadau a wnaed yn y memorandwm esboniadol a'r ddogfen porth asesiadau effaith o ran materion preifatrwydd. Bydd y ddau yn cael eu diwygio i dynnu sylw at y faith y bydd goblygiadau o ran preifatrwydd ar gyfer awdurdod tai lleol wrth ymchwilio i droseddau a rhoi gwybod i Rhentu Doeth Cymru am drosedd. Byddaf yn sicrhau bod asesiad o effaith y Bil ar breifatrwydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r ddogfen porth asesiadau effaith. Hefyd, bydd y memorandwm esboniadol yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu'n well y dull a gaiff ei ddefnyddio wrth ymgynghori ar is-ddeddfwriaeth.
Gallaf gadarnhau y byddaf yn cyflwyno gwelliannau i'r Bil i wneud y rheoliadau o dan Atodlen 1, paragraff 2(4) a pharagraff 6 o'r Bil yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Fodd bynnag, ni allaf gytuno ag argymhellion y pwyllgor y dylai'r rheoliadau o dan adrannau 7 a 13 ddilyn y weithdrefn uwchgadarnhaol. Rwyf yn ystyried bod hyn yn ddiangen, gan y bydd digon o waith craffu ac ymgynghori yn cael ei ddarparu trwy'r weithdrefn gadarnhaol.
Yn yr un modd, mae'n rhaid imi wrthod argymhelliad 12, sy'n cynnig y dylai rheoliadau o dan adran 18 ddilyn y weithdrefn gadarnhaol. Mae'r newid hwnnw yn ddiangen, o gofio y gall y rheoliadau ddim ond ymdrin yn benodol â'r materion hynny a nodir yn yr adran, sydd i bob pwrpas yn cyfyngu ar ddisgresiwn ynghylch cynnwys y rheoliadau hynny.
Yn olaf, croesawaf ganfyddiadau'r Pwyllgor Cyllid, yn arbennig y ffaith ei fod yn croesawu defnyddio dadansoddiad sensitifrwydd y memorandwm esboniadol. Mae dau argymhelliad y pwyllgor yn cyd-fynd â fy syniadau i ynghylch sut y byddwn yn asesu effaith y Bil. Edrychaf ymlaen at barhau â'r ddadl ar y Bil, ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—John Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dilyn ein gwaith craffu ar y Bil. Hoffwn ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig tenantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod tai ar draws Cymru a wnaeth yr ymdrech i fod yn bresennol yn ein grwpiau ffocws. Rydym hefyd yn sefydlu fforwm drafod ar-lein ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gyfrannodd.
Yn ein gwaith craffu, rydym wedi ystyried yr egwyddorion cyffredinol a'r darpariaethau yn fanwl, gan ganolbwyntio ar yr effaith ar denantiaid, landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, sut y rhoddir gwybod am y newidiadau ac a oes angen corff gorfodi sengl neu arweiniol. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daethpwyd i'r casgliad ein bod yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ac wedi argymell bod y rhain yn cael eu derbyn gan y Cynulliad. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi gwneud nifer o argymhellion a gwelliannau lle credwn y gellid cryfhau, gwella neu egluro'r Bil a chroesawaf yr ymgysylltu gan y Gweinidog, fel yr amlinellir yma heddiw.
Mae rhan 4 o'r Bil, Llywydd, yn cynnwys mesurau penodol ar gyfer gorfodi. Mae'n amlwg o'r dystiolaeth a gawsom y byddai gorfodi yn hollbwysig i gyflawni dibenion y Bil. Credwn fod angen cryfhau darpariaethau. Yn benodol, amlygwyd dau brif fater inni ynghylch hysbysiadau cosb benodedig, lefel y gosb benodedig a sut y gellir gwneud Rhentu Doeth Cymru yn ymwybodol o hysbysiadau a gaiff eu rhoi a'u talu. Codwyd pryderon gan landlordiaid, asiantaethau gosod tai a thenantiaid na fyddai lefelau cosb benodedig yn gweithredu fel rhwystr digonol i landlordiaid ac asiantaethau gosod twyllodrus.
Dywedodd y Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl wrthym ei bod yn cefnogi cosbau ariannol o rhwng £5,000 a £30,000. Rydym yn cytuno ei bod yn debygol mai gweithredwyr drwg a'r rhai sydd eisoes yn codi ffioedd uchel yw'r lleiaf tebygol o gydymffurfio, ac felly rydym wedi argymell bod y Gweinidog yn diwygio'r Bil i gynyddu lefelau cosbau penodedig. Clywsom dystiolaeth yn awgrymu y gall dull haenog neu fand ynghylch lefelau o gosbau penodedig fod yn briodol er mwyn gwahaniaethu rhwng yr hyn a allai weithredu fel rhwystr i landlord sy'n hunan-reoli gydag un eiddo ac asiantaeth gosod tai mawr sy'n gyfrifol am lawer. Credwn fod rhinwedd mewn dull o'r fath ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gellid gweithredu hyn.
Mae mater mwy technegol ond pwysig o hyd yn ymwneud â hysbysu camau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru. Clywsom nad oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i'w hysbysu pan gaiff hysbysiadau cosb benodedig eu rhoi neu eu talu/ Credwn y dylid tynhau'r broses hon er mwyn helpu gyda'r gwaith o gasglu gwybodaeth a gwneud y system drwyddedu'n fwy cadarn. Felly rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan delir hysbysiad cosb benodedig.
Prif bwyslais ein gwaith craffu oedd ystyried a ddylid cael corff gorfodi arweiniol. Clywsom dystiolaeth o blaid ac yn erbyn. Ar ôl ystyried, nid ydym yn credu bod angen corff o'r fath, ond hoffem weld Rhentu Doeth Cymru yn cael pwerau ychwanegol i orfodi'r ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn lleihau'r cyfleoedd i'r rhai sy'n torri'r gyfraith i fynd heb gael cosb. Credwn y dylid diwygio'r Bil i roi pwerau gorfodi i Rhentu Doeth Cymru ochr yn ochr ag awdurdodau lleol.
Yn amlwg, bydd effaith y Bil yn gwahardd rhai taliadau, a bydd hynny'n cael effaith ar unwaith, ond awgrymwyd i ni y gallai cynnydd mewn rhenti fod yn ganlyniad anfwriadol. Er nad ydym mewn sefyllfa i roi sylwadau ynghylch a yw hyn yn debygol o ddigwydd, nodwn o dystiolaeth y byddai'n well gan fwyafrif y tenantiaid gael cynnydd bach mewn rhent, yn hytrach na gorfod talu ffioedd ymlaen llaw. Fodd bynnag, bydd yn bwysig monitro lefelau rhent fel rhan o werthuso effaith y Bil ac rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i wneud hyn.
Clywsom rai dadleuon o blaid cynllun gwirfoddol gyda chap ar ffioedd, ond nid oeddem yn argyhoeddedig y byddai'r dull hwn yn effeithiol. Yn benodol, rydym yn bryderus mai gweithredwyr diegwyddor—y rhai y mae angen newid eu harferion— yw'r rhai lleiaf tebygol o ymgysylltu â chynllun gwirfoddol. Felly, credwn mai dull deddfwriaethol o weithredu yw'r ffordd fwyaf tebygol o greu marchnad decach.
Rydym yn pryderu nad yw'r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyfathrebu'r newidiadau, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach. Yn arbennig, rydym yn pryderu y gallai hyn ei gwneud yn anodd i denantiaid sy'n fwy agored i niwed ac asiantaethau a landlordiaid llai fod yn ymwybodol o'r newidiadau. Rydym yn nodi y bydd Rhentu Doeth Cymru mewn sefyllfa dda i gyfleu newidiadau i landlordiaid ac asiantaethau gosod. Ond credwn fod angen ystyriaeth ymhellach i sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol o hyn, yn enwedig gan y bydd tenantiaid yn chwarae rhan hollbwysig o ran tynnu sylw awdurdodau at daliadau anghyfreithlon. Felly rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'r newidiadau.
Llywydd, rydym yn argymell bod yr egwyddorion cyffredinol yn cael eu cymeradwyo gan y Cynulliad, a bod y Bil yn cael ei gryfhau yn y ffyrdd a amlinellwyd gennyf. Rwy'n croesawu'n fawr sicrwydd y Gweinidog mewn ymateb i'n hadroddiad, a'i fod yn derbyn nifer ohonynt, a hefyd yn croesawu'r ystyriaeth bellach a roddir i eraill, fel y disgrifiwyd yn gynharach gan y Gweinidog. O ran y rhai nad ydynt yn cael eu derbyn, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn parhau i ystyried ein hadroddiad yn ofalus fel y bydd y Bil hwn yn mynd rhagddo drwy'r Cynulliad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn i gael y cyfle i gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma, er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil rhentu cartrefi.
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn cytuno bod y darpariaethau yn angenrheidiol ar gyfer cynnal sector rhentu preifat hygyrch a fforddiadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, hoffem ddwyn sylw'r Cynulliad at yr amrywiadau sydd i'w gweld yn y ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol o ran amcangyfrif y costau neu'r buddion a allai godi wrth weithredu darpariaethau'r Bil.
Datblygodd Llywodraeth Cymru ei ddadansoddiad drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Rhentu Doeth Cymru, a chafodd y dadansoddiad hwn ei lywio hefyd gan ymarfer ymgynghori, gan ymchwil annibynnol a'r profiad a gafwyd, wrth gwrs, o weithredu deddfwriaeth debyg yn yr Alban. Serch hynny, dywedodd y Gweinidog wrthym ni y bu angen gwneud nifer o ragdybiaethau yn sgil y gwahaniaethau ymarferol sylweddol sy'n bodoli ar draws y sector rhentu preifat. O ystyried yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth yr amcangyfrif craidd a gyflwynwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad sensitifrwydd er mwyn profi effaith unrhyw newidiadau i'r rhagdybiaethau allweddol hyn.
Mae'r cam o gynnwys y dadansoddiad sensitifrwydd, sy'n archwilio amrediad y costau posibl yn y senarios gorau a'r senarios gwaethaf, yn un y mae'r Pwyllgor yn ei groesawu'n fawr, a hynny er ei fod yn dangos amrediad eang o gostau. Er enghraifft, mae'r opsiwn 'gwneud dim byd' yn cyflwyno amrediad cost o £36 miliwn rhwng yr amcangyfrifon is a'r amcangyfrifon uwch ar gyfer ffioedd tenantiaid dros gyfnod o bum mlynedd. Er ein bod yn nodi'r arbedion a amcangyfrifir i denantiaid o wahardd ffioedd, rŷm ni yn ymwybodol y bydd asiantau gosod a landlordiaid yn adennill yr incwm coll hwn drwy ddulliau eraill, ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn adolygu'n ofalus effaith gweithredu'r Bil ar lefelau rhent.
Mae ein hargymhelliad olaf yn ymwneud â chostau awdurdodau lleol, ac yn benodol costau gorfodi, a fydd yn ganolog i lwyddiant y Bil. Rŷm ni'n nodi'r ffaith bod y Gweinidog yn rhagweld lefel uchel o gydymffurfiaeth, ac rŷm ni'n cydnabod y bydd awdurdodau lleol yn gallu cadw'r incwm a gesglir drwy hysbysiadau cosb benodedig i wrthbwyso costau gorfodaeth. Fodd bynnag, rŷm ni yn parhau i bryderu am y posibilrwydd na fydd y gweithgareddau gorfodi yn niwtral o ran cost i awdurdodau lleol, a'r posibilrwydd y bydd lefelau rhent uwch yn effeithio ar allu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o ran atal digartrefedd drwy denantiaeth yn y sector rhentu preifat. Rydym wedi argymell, felly, bod effaith ariannol y Bil ar awdurdodau lleol, yn enwedig o safbwynt costau gorfodi, yn cael ei monitro a'i gwerthuso'n ofalus er mwyn sicrhau bod adnoddau digonol ar gael.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Adroddwyd ar y Bil rhentu cartrefi ar 24 Hydref, a gwnaed 12 o argymhellion. Yn gyffredinol, rydym yn croesawu'r camau tuag at greu corff pwnc-benodol o gyfreithiau Cymru sy'n ymwneud â thai. Rydym yn gweld hyn fel datblygiad cadarnhaol cyn cynlluniau mwy cynhwysfawr Llywodraeth Cymru ynghylch cyfuno a chyfundrefnu, a dylai gynorthwyo yn y nod o wneud cyfraith yng Nghymru yn fwy hygyrch.
Gan symud ymlaen, mae ein dull o graffu ar Filiau yn cynnwys ystyried i ba raddau y mae'r Aelod sy'n gyfrifol wedi esbonio'n glir pa bwerau deddfwriaethol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n cael eu defnyddio i wneud y ddeddfwriaeth. Nid yw'n ymgais i danseilio Llywodraeth Cymru neu yn wir asesiad y Llywydd o gymhwysedd deddfwriaethol. Nodwyd y dystiolaeth gan y Gweinidog a'r wybodaeth a ddarparwyd yn y Memorandwm Esboniadol ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol, ac roeddem yn cydnabod y gallai'r newid i'r model cadw pwerau wneud esbonio'r sail y gall Llywodraeth Cymru ddeddfu arno yn fwy anodd. Fodd bynnag, pan geisiwyd rhagor o wybodaeth ar y mater hwn, cawsom fod y dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y Gweinidog yn ddiffygiol o ran manylder.
Yn ein barn ni, nid oes digon o fanylion yn yr esboniad un frawddeg o fewn y memorandwm esboniadol o ran sut mae gan y Cynulliad y cymhwysedd deddfwriaethol i wneud y darpariaethau yn y Bil. Roeddem yn tynnu sylw at y ffaith fod asesiad Llywodraeth Cymru o'r cymhwysedd deddfwriaethol ar gyfer Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) yn rhychwantu paragraffau 11 yn y memorandwm esboniadol. Er nad ydym yn awgrymu y dylid mabwysiadu dull gweithredu unffurf, mae'r gwahaniaeth amlwg rhwng y dulliau a ddefnyddir o fewn y ddau fil yn haeddu esboniad.
Ein hargymhelliad cyntaf oedd bod y Gweinidog yn defnyddio'r ddadl hon fel cyfle i ddarparu mwy o fanylion ar asesu cymhwysedd deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil. Anelwyd ein hail argymhelliad yn ehangach at Lywodraeth Cymru, gan ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth, wrth gyflwyno memoranda esboniadol, sicrhau bod yr wybodaeth ynghylch cymhwysedd deddfwriaethol yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder. Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog ar y pwynt hwn ar wahân, a hefyd mewn cysylltiad â chydsyniad y Goron ac argymhellion 3, 4 a 7.
Gan symud ymlaen at argymhellion 3, 4 a 5, mae gennym bryderon sylweddol gyda'r asesiadau effaith sy'n mynd gyda'r Bil. Roeddem yn siomedig bod rhagdybiaeth wedi'i gwneud y byddai Aelodau'r Cynulliad ac eraill sydd â diddordeb yn gyfarwydd â'r porth asesiad o effaith a grybwyllwyd gan y Gweinidog yn ei thystiolaeth i ni.
Gofynnodd ein hargymhelliad 3 i'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl Cyfnod 1 fel cyfle i ddarparu mwy o fanylion am borth asesiad o effaith Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, ei arwyddocâd i'r Bil. Edrychaf ymlaen at ymateb pellach ar hyn, fel y nodwyd gan y Gweinidog. Credwn y dylid annog a hyrwyddo mwy o hygyrchedd at gyfreithiau Cymreig a deunydd esboniadol cysylltiedig. Rydym yn pryderu bod diffyg eglurder a chydlyniant yn y ddogfen porth asesiad o effaith ar gyfer y Bil. Cyfeiriwyd ein hargymhelliad 4, eto, yn fwy eang na'r Gweinidog, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod memoranda esboniadol yn cynnwys dolenni i bob deunydd esboniadol sydd ar gael mewn perthynas â Bil perthnasol.
Ynghylch yr asesiad o effaith ar breifatrwydd, rydym yn credu bod angen eglurhad ar y mater hwn, gan fod yr wybodaeth yn y ddogfen porth asesiad o effaith yn awgrymu nad oedd yr asesiad ynghylch yr effaith ar breifatrwydd yn gadarn. Croesawaf y sylwadau gan y Gweinidog ar hynny. O ran argymhelliad 5, gofynnwyd i'r Gweinidog egluro yn ystod y ddadl hon pam fod y memorandwm esboniadol a'r ddogfen porth asesiad o effaith yn awgrymu nad yw'r Bil yn creu unrhyw ofynion newydd sy'n ymwneud â phreifatrwydd neu rannu gwybodaeth, a pham ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng y ddwy ddogfen. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaed gan y Gweinidog ar hynny. O ran argymhelliad 6, rydym yn gofyn i'r Gweinidog gyhoeddi asesiad llawn o'r effaith ar breifatrwydd ar gyfer y Bil cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3, ac rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog ar y pwynt hwn hefyd.
Gan symud ymlaen at y pwerau gwneud rheoliadau penodol yn y Bil, rydym yn fodlon ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a adewir i is-ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, nid yw 'diogelu at y dyfodol' a 'hyblygrwydd' yn dermau y dymunwn eu gweld yn cael eu defnyddio'n barhaus gan Weinidogion i gyfiawnhau cynnwys pŵer gwneud rheoliadau yn y Bil. Rydym hefyd yn pryderu yr ymddengys bod dull gweithredu Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y weithdrefn graffu a neilltuwyd i bŵer gwneud rheoliad yn seiliedig ar yr hyn y mae'r Gweinidog perthnasol yn ei ystyried i fod yn dechnegol ei natur. Fodd bynnag, mae 'technegol' yn farn oddrychol.
Nodwn hefyd fod y Rheoliadau a wnaed dan Atodlen 1 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, ac rydym yn anghytuno â'r ddadl a gyflwynwyd gan y Gweinidog y dylid caniatáu i reoliadau'r weithdrefn negyddol gyflwyno newidiadau ym mholisïau’r Llywodraeth yn y dyfodol. Rydym hefyd yn anghytuno bod newid ystyr 'amrywiad a ganiateir' yn rhywbeth y gellid ei gategoreiddio fel technegol.
Mae ein hargymhellion 8 a 9 yn argymell y dylid diwygio'r Bil fel bod rheoliadau a wneir dan Atodlen 1, paragraffau 2(4) a 6, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.
Ein harfer sefydledig fu ceisio defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth a fyddai'n newid deddfwriaeth sylfaenol—pwerau Harri VIII fel y'u gelwir. Am y rheswm hwnnw, rydym yn croesawu bod y Gweinidog wedi drafftio'r Bil fel y defnyddir y weithdrefn gadarnhaol ar gyfer rheoliadau a wneir dan adran 7. Fodd bynnag, gallai'r pŵer i ddiwygio'r diffiniad o daliad a ganiateir newid effaith nod cyffredinol y Bil neu ehangu nifer y troseddau a grëwyd gan y Bil. Dylai rhanddeiliaid a phwyllgorau'r Cynulliad gael y cyfle i roi sylwadau ar y Rheoliadau drafft a fyddai'n newid elfen sylweddol o'r ddeddfwriaeth hon.
Mae argymhelliad 10 yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio fel bod Rheoliadau a wneir dan adran 7 yn ddarostyngedig i weithdrefn uwchgadarnhaol. Mae adran 13(3) yn darparu'r pŵer i Weinidogion Cymru gynyddu lefel y gosb benodedig o £500 i uchafswm anhysbys. Wrth gwrs, mae'r Gweinidog wedi sôn am hynny yn y datganiad, ynghyd â gwelliant arfaethedig. Nodwyd y bydd Bil Ffioedd Tenant Llywodraeth y DU yn galluogi awdurdod gorfodi yn Lloegr i osod ffi o hyd at £30,000. Credwn y dylai'r potensial ar gyfer cynnydd sylweddol ym maint y gosb benodedig fod yn destun craffu ychwanegol.
Fel gydag adran 7, mae ein hargymhelliad 11 yn argymell y dylid gwneud rheoliadau adran 13 drwy weithdrefn uwchgadarnhaol sy'n sicrhau y bydd ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol cyn y newidir swm y gosb benodedig.
A gaf i ddweud y byddwn ni yn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig heddiw? Dros y degawd diwethaf, tyfodd y sector rhentu preifat o ran niferoedd absoliwt a chyfesuredd, yn bennaf ar draul lefelau perchen-feddiannaeth. Os bydd y duedd yn parhau, y sector rhentu preifat fydd yr ail fath o lety cyffredin ar ôl perchentyaeth; disgwylir iddo gyrraedd 20 y cant o gyfanswm y stoc dai erbyn 2020. Felly, rydym yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth hon gan fod y sector yn dod yn gynyddol bwysig i ddiwallu anghenion tai.
Mae'r sector rhentu preifat yn amrywiol, gan ddarparu cartrefi i amrywiaeth eang o aelwydydd, gan gynnwys myfyrwyr, teuluoedd, pobl sengl a'r rhai sy'n chwilio am atebion tymor byr. Fodd bynnag, ers y dirywiad economaidd yn 2008, defnyddir y sector fwyfwy fel opsiwn tai tymor hwy. Gan nad yw cartrefi newydd yn y sector tai cymdeithasol yn ymdopi â'r galw, ac mae darpar brynwyr tro cyntaf yn ei chael yn fwyfwy anodd i gael mynediad at berchen-feddiannaeth, caiff y sector rhentu preifat ei ddefnyddio fwyfwy gan lawer mwy o aelwydydd Cymru.
Un cam yn unig yw'r Bil hwn yn yr ymdrech i adeiladu marchnad dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Mae'n annheg y dylai tenantiaid ar draws y wlad gael eu brathu gan gostau annisgwyl ac afresymol. Dyna pam mae angen inni gyflawni ein haddewid i wahardd ffioedd gosod ochr yn ochr â mesurau eraill i wneud rhentu yn decach a mwy tryloyw. Rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dysgu o waharddiad yr Alban, o'r hyn sydd wedi cael ei nodi yn adroddiad y Pwyllgor, ac yn wir y craffu ar gynigion San Steffan, sy'n rhedeg ychydig ar y blaen i'n Bil ni, a chredaf fod rhai gwersi defnyddiol yno i ni hefyd. Bydd hyn yn sicrhau bod y system fwyaf effeithlon yn cael ei rhoi ar waith yng Nghymru.
Nawr, hoffwn droi at rai o'r argymhellion sydd yn adroddiad y Pwyllgor. Ond a gaf i ddweud mai'r canlyniad sydd ei angen arnom, ac rwy'n credu sy'n mynd ymhellach yn yr adroddiad hwnnw, yw sector tai sy'n deg ac yn gweithio i bawb. Mae landlordiaid yn haeddu enillion rhesymol a diogel. Dylai asiantaethau gosod tai dibynadwy gael eu diogelu rhag darparwyr twyllodrus, ac ni ddylai tenantiaid wynebu gormod o galedi yn aml ar adeg o straen sylweddol.
Felly, ac eithrio argymhelliad 8 y pwyllgor, nad wyf yn cytuno ag ef, credaf fod yr argymhellion eraill yn ychwanegu llawer iawn at gryfder y Bil hwn. Byddwn, felly, yn amlwg yn edrych ar yr ymatebion a wnaed gan y Gweinidog a hefyd unrhyw welliannau penodol, ond rwy'n sylwi bod yr ymateb yn weddol bleidiol i adroddiad y Pwyllgor, a dim ond rhai pethau allweddol sydd wedi'u gwrthod yn llwyr.
A gaf i bwysleisio, Dirprwy Lywydd, yr argymhellion canlynol? Nid wyf am fynd trwy bob un ohonynt—bydd cyfleoedd eraill i hynny. Os caiff ei weithredu, bydd argymhelliad 10 yn cynyddu'r lefelau o gosbau penodedig—cymorth amlwg o bob sector, ac mae angen rhwystr arnom, nid dim ond system sy'n adennill costau. Nid wyf yn siŵr fod £1,000 yn mynd i fod yn ddigon, fel y nodwyd eisoes gan y Pwyllgor Cyllid. Yn sicr roedd £500 yn annhebygol iawn o dalu'r costau, ond a fyddai £1,000? Mae angen inni fynd ymhell y tu hwnt i adennill costau. Rhaid i hon fod yn gosb, rhaid iddi weithredu fel rhwystr. Felly, credaf, yn ein gwaith craffu fesul llinell, y bydd angen inni edrych ar hyn yn ofalus iawn.
Mae argymhelliad 12, os caiff ei weithredu mewn gwelliant, yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan fydd hysbysiad cosb benodedig yn cael ei dalu—nid pan gaiff ei roi, pan gaiff ei dalu. Byddai hyn yn bendant yn gwneud y system yn fwy cadarn o lawer. Roeddwn yn credu bod y Gweinidog yn aneglur iawn. Mae'n ymddangos i mi mai dyma'r cerdyn cyffredinol y mae'r Llywodraeth yn ei chwarae weithiau— 'Wel, wyddoch chi, mae gan lywodraeth leol bŵer cyffredinol i wneud pob math o bethau, felly byddwn yn gwneud hynny.' Dyma ychydig o ddeddfwriaeth tai i wneud y system yn llawer mwy cadarn a theg i denantiaid, a dylai fod yn y Bil os yw'n bwysig. Ac mae'n bwysig os yw Rhentu Doeth Cymru yn mynd i fod yn uned gudd-wybodaeth briodol yn cofnodi'r landlordiaid a'r asiantaethau diegwyddor hynny sy'n cael hysbysiadau cosb benodedig wedi'u gosod arnynt, a chan awdurdodau gwahanol, o bosibl. Ac ni allwch ond gwneud hynny os yw'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd. Felly, roeddwn yn credu eich bod yn wan iawn ar hynny, a bod yn onest.
Argymhelliad 13: y gallu i godi cosb ariannol uwch fel dewis amgen i erlyniad, gan adlewyrchu Bil Lloegr, yn codi i £30,000. Mewn gwirionedd, mae hynny er mwyn gwrthbwyso erlyniad. Nid yw'n gosb benodedig yn hollol. Ond credaf o hyd ei bod yn bwysig bod y math hwnnw o frathu a'r math hwnnw o ddewis amgen ar gael i awdurdod lleol yn hytrach na mynd trwy system y llysoedd.
Ac yn awr rwyf am gloi gydag argymhelliad 14. Rydym yn pasio deddfwriaeth i amddiffyn tenantiaid, ac un peth nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn ei wneud yw sicrhau bod y tenantiaid yn cael y taliad anghyfreithlon a orfodwyd arnynt yn ôl. Mewn gwirionedd, teimlaf yn wirioneddol ddrwg dros aelodau Llafur y meinciau cefn acw, druan ohonynt, sydd yn mynd i orfod derbyn y sefyllfa a chaniatáu i'r Gweinidog osgoi cosb am hyn. Ond byddwn yn eich gwrthwynebu pob modfedd o'r ffordd, a byddwn yn sicr yn ceisio diwygio'r ddarpariaeth honno fel bod tenantiaid yn cael cyfiawnder. Gorffennaf hefyd drwy ddiolch i'r holl randdeiliaid sydd wedi ein helpu yn ein gwaith craffu.
Byddwn yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil heddiw, fel yn wir yr ydym wedi ei wneud ers sawl blwyddyn bellach. Cyflwynodd Plaid Cymru, wrth gwrs, welliannau i'r Bil rhentu cartrefi ychydig flynyddoedd yn ôl a fyddai wedi dwyn gwaharddiad ar ffioedd asiantaethau gosod tai. Ond pleidleisiwyd yn erbyn y rhain, wrth gwrs, gan y blaid sy'n llywodraethu, Llafur, fel llawer o bolisïau eraill y dylent mewn gwirionedd fod yn eu cefnogi. Y tro hwn dywedasant ei fod ar y sail bod angen gwneud mwy o waith ymchwil ynghylch a oedd yn deg fod y bobl dlotaf yn gorfod talu cannoedd o bunnoedd am wiriadau credyd a oedd yn costio dim ond cyfran fach iawn o hynny. Roedd Shelter Cymru, wrth gwrs, wedi gwneud y gwaith ymchwil ac roedd yr Alban eisoes wedi gwahardd ffioedd asiantaethau gosod tai. Yna newidiodd y Llywodraeth ei rhesymau pan gafwyd amheuon gan Aelodau'r meinciau cefn, a symudwyd at y safbwynt nad oedd hwn yn fater wedi'i ddatganoli ac, felly, nad oedd unrhyw beth y gellid ei wneud am y peth. Ond aeth digwyddiadau'n drech na nhw. Cyhoeddodd y Ceidwadwyr waharddiad ar osod ffioedd asiantaethau yn Lloegr, ac roedd cynnig i'w gwahardd wedi'i gynnig yma. Dyna embaras i Lywodraeth Cymru.
A nawr bod y Torïaid o'r diwedd wedi cyflwyno Bil Ffioedd Tenantiaid i'r Senedd yn ystod yr haf, gorfodwyd Llywodraeth bresennol Cymru i weithredu ac mae'r Bil hwn ger ein bron heddiw. Mae'n hen bryd, a phe bai camau wedi'u cymryd yn gynharach, yna byddai miloedd o bobl heb fod ar eu colled fel y buont.
Mae ymchwil wedi dangos yn gyson bod tenantiaid yn aml yn wynebu bil o gannoedd o bunnoedd am hyd yn oed geisio symud i eiddo ar rent, heb unrhyw sicrwydd y byddant yn symud i'r eiddo hwnnw yn y pen draw. Gall y ffioedd ar gyfer pethau fel gwiriadau credyd yn aml fod yn anghymesur i'r gwaith a wneir, ffaith a ddangoswyd gan y Pwyllgor, ac maent yn gweithredu fel rhwystr i'r farchnad rhag gweithio'n iawn. Felly, er enghraifft, os yw tenantiaid yn canfod nad yw eu landlord presennol yn atgyweirio'r eiddo ac maent yn gaeth i lety gwael, gellir eu gorfodi i wynebu costau ymlaen llaw o gannoedd o bunnoedd ar gyfer yr holl ffioedd, rhent ymlaen llaw a chostau symud eraill a fydd yn atal y tenant rhag arfer eu pŵer defnyddiwr a chodi safonau.
Mae gan y Pwyllgor, wrth gwrs, nifer o argymhellion yr ydym yn eu cefnogi i wella'r Bil ger ein bron, nid lleiaf yw sicrhau bod cyfathrebu'r Bil a'i orfodi yn golygu nad oes gennym ddarn arall o bapur sydd yn cael ei anwybyddu. Wedi'r cyfan, onid oes gennym eisoes ormod o droseddau a ystyrir, mae'n ymddangos, gan bobl gyfoethog yn ddibwys, fel achosion o osgoi talu treth, goryrru, torri rheolau'r Comisiwn Etholiadol ar wariant ac ati? Felly, yn wir mae'n rhaid inni wneud yn siŵr nad ydym yn ychwanegu darn di-rym arall o ddeddfwriaeth at y rhestr hon, a dyna pam yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn llwyr ddisgwyl iddo gael ei gryfhau yn y cyfnod nesaf.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon. Nid wyf ar unrhyw un o'r pwyllgorau sydd wedi craffu ar y Bil hwn, ond rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol bod y sector rhentu preifat yn cael ei wneud yn hygyrch ac yn fforddiadwy ar gyfer y bobl sydd ei angen, a hefyd y ceir mwy o sicrwydd o ran deiliadaeth. Rwy'n cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, sydd mor bwysig bellach gan fod mwy a mwy o bobl yn ddibynnol ar y sector rhentu preifat. Credaf ein bod i gyd yn gwybod bod 460,000 o bobl yng Nghymru sy'n byw yn y sector rhentu preifat. Ers 2001, mae'r sector rhentu preifat wedi mwy na dyblu ym mhob awdurdod lleol ledled Cymru. Rwy'n arbennig o bryderus am y teuluoedd â phlant sy'n ddibynnol ar y sector rhentu preifat, oherwydd yn 2003 roedd nifer y plant yn y DU mewn tai perchen-feddiannaeth yn uwch na'r rhai yn y sector rhentu preifat a hynny ar gymhareb o 8:1 ac mae'r gymhareb honno bellach wedi gostwng i 2:1 ledled y DU. Felly, y sector rhentu preifat yw'r lle ar gyfer teuluoedd â phlant, mae ei angen ar gyfer pobl hŷn, pobl sy'n agored i niwed—mae'n rhan anferth bellach o'r ddarpariaeth. Felly, dyna pam mae'r ddeddfwriaeth hon mor bwysig.
Rwy'n croesawu'r argymhellion gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Croesawaf yn arbennig yr argymhelliad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 fel bod landlordiaid yn cael eu cyfyngu rhag cyhoeddi hysbysiadau adran 21 neu eu darpariaethau cyfatebol o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 os ydyn nhw wedi codi ffioedd gwaharddedig ac nad ydyn nhw wedi ad-dalu'r tenant hyd yn hyn. Credaf fod hwn yn gam pwysig oherwydd mae'n cyfyngu ar y defnydd o adran 21 a'm gobaith i yw y bydd Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn dileu adran 21 yn gyfan gwbl. Ond rwyf eisiau dweud fy mod yn credu bod hwn yn gam pwysig, oherwydd, wrth gwrs, mae adran 21 neu'r troi allan yn ddi-fai yn golygu y gellir symud tenantiaid ymlaen ar ôl chwe mis neu eu troi allan â dim ond dau fis o rybudd. Mae contractau chwe mis hefyd yn golygu y gall y rhai sy'n rhentu yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd pryderus o gynnydd yn y rhent ddwywaith y flwyddyn. Credaf fod hyn yn gwbl anghywir ac mae angen inni feddwl am effaith yr ansicrwydd hwn, yn enwedig ar deuluoedd ifanc. Gall fod mor anodd cael lle mewn ysgol i blant, neu ddod o hyd i swydd ran-amser sy'n cyd-fynd â chyfrifoldebau gofalu, a dylai cartref diogel fod yn sylfaen i fywyd teuluol. Ni ddylai fod yn rhywbeth sy'n achosi anhrefn ym mywydau pobl ar fyr rybudd. Felly, rwy'n cefnogi'r argymhelliad hwnnw gan y pwyllgor ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd y Gweinidog pan oedd yn nodi sylwadau ar yr argymhellion.
Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i leihau'r ansicrwydd deiliadaeth eisoes gan ddod ag achosion o droi allan dialgar i ben a hefyd drwy roi terfyn ar yr arfer presennol pan fo rhai landlordiaid yn cyflwyno hysbysiad adran 21 ar ddechrau'r denantiaeth fel y gallant wneud gorchymyn adennill meddiant ar ôl dau fis. Gwn fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd y camau hynny. Fodd bynnag, credaf fod cael gwared ar adran 21, mewn gwirionedd, yn rhywbeth sy'n hanfodol bwysig i'r Llywodraeth hon ei wneud. Felly roeddwn i eisiau sôn yn benodol am y cam hwn a'i groesawu, gan fy mod o'r farn ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, yn bendant.
Diolch i'r Gweinidog am ddod â'i Bil i'r cyfnod hwn heddiw. Mae UKIP yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil. Rydym wedi siarad yn y gorffennol am ein dymuniad i wahardd ffioedd asiantaethau gosod diangen ac mae'r Bil hwn yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw yn rhan o'r byrdwn cyffredinol o'i gwneud yn haws i denantiaid yn y sector rhentu preifat. Oes, mae llawer o ffioedd diangen ar hyn o bryd. Soniodd Leanne Wood am y ffioedd anghymesur, pan godir symiau mawr ar denantiaid am dasgau sy'n costio cymharol ychydig. Rhywbeth sydd efallai hyd yn oed yn waeth na'r ffioedd anghymesur yw'r broblem o ddiffyg tryloywder pan godir tâl ar denantiaid am bethau weithiau ac nid ydyn nhw hyd yn oed yn gwybod am beth y maen nhw'n ei dalu. Felly, mae angen inni fynd i'r afael â'r materion hyn, a dylai'r Bil hwn wneud y ffioedd yn y sector rhentu preifat yn llawer haws i'w rheoli.
Mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus nad oes gormod o reoleiddio, wrth gwrs, ac mae'n rhaid inni gadw llygad ar y canlyniadau anfwriadol posibl. Mae Aelodau eraill wedi sôn am bosibilrwydd codi rhenti. Clywsom gan lawer o wahanol bobl ar y pwyllgor llywodraeth leol yn ein hymchwiliad, fel yr eglurodd ein cadeirydd, John Griffiths, yn gynharach. Ni chododd unrhyw dystiolaeth glir yn ystod yr ymchwiliad yn dangos y cafwyd cynnydd mewn rhent a oedd yn gysylltiedig â diddymu'r ffioedd, ar ôl i'r Alban basio deddfwriaeth debyg yn 2012.
Roedd ychydig o faterion a oedd yn fanion yr oedd angen ymdrin â nhw. Roedd yna broblem ynghylch pasbortio bond sicrhad, a godwyd gennym gyda'r Gweinidog yn ystod yr ymchwiliad. Un broblem sy'n wynebu tenantiaid yw y byddant o bosibl yn dal i aros i'w bond sicrhad gael ei ddychwelyd o'r eiddo y maen nhw'n ei adael ac ar yr un pryd yn gorfod talu'r bond sicrhad ar gyfer yr eiddo y maen nhw'n symud i mewn iddo. Felly, fe'i codwyd gan o leiaf un aelod o'r pwyllgor sef, os mai bwriad y Llywodraeth oedd gwneud bywyd yn haws i denantiaid yn y sector rhentu preifat, yna byddai datblygu rhyw fath o gynllun pasbortio ar gyfer bondiau wedi bod yn rhan o'r Bil i'w chroesawu. Rwy'n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar hyn, ond byddai'n ddiddorol pe gallai ein goleuo ymhellach ar yr agwedd honno heddiw.
Hefyd, hoffem gael rhywfaint o eglurder ar rai o'r argymhellion penodol. Trafododd David Melding, yn fy marn i, rai o'r diffygion yn y Bil yn dda iawn, pan edrychodd ar yr argymhellion penodol, ac roeddwn yn cytuno ag ef ar bob un o'r argymhellion hynny. Mae cynyddu hysbysiadau cosb benodedig—eu dyblu—yn ddatblygiad i'w groesawu, ond, fel y soniodd David, efallai na fydd hynny'n ddigon. Oherwydd os oes gennych landlordiaid neu asiantau â llawer o eiddo, efallai na fydd hynny'n ddigon o rwystr i'w hatal, ac efallai y byddant yn parhau i godi ffioedd yn fwriadol hyd yn oed os ydyn nhw'n wynebu dirwy bosibl o £1,000.
Credaf o bosibl mai argymhelliad 14 yw'r diffyg mwyaf annealladwy yn y Bil, yn ôl yr hyn a welaf i. Ni allaf gofio, Gweinidog, beth ddywedasoch oedd y rheswm pam na allem gael system i orfodi ad-dalu ffioedd asiantaethau gosod diangen. Tybiaf, neu rwy'n cofio rhywbeth, fod rhyw broblem gyfreithiol, ond efallai y gallech chi ein goleuo ni ymhellach ynghylch hynny pan fyddwch yn siarad eto ar y diwedd. Diolch yn fawr iawn.
Mae'r farchnad wedi ei rhannu ar hyn o bryd, ac mae'r Bil hwn yn cynnig datrys hynny. Mae angen inni wneud hyn yn iawn. Ni allwn barhau i fod â thenantiaid sy'n cael eu gorfodi i aros mewn eiddo llaith neu ansicr dim ond oherwydd nad oes ganddyn nhw'r arian i dalu ffioedd yr asiant gosod. Nid hon yw'r ffordd y mae marchnadoedd yn gweithredu, ac ar hyn o bryd maen nhw'n gweithredu yn gyfan gwbl er budd yr asiant gosod tai. Ar gyfartaledd, ffi tenantiaeth yw £337 ac, yng Nghaerdydd, mae'n gymaint â £450, dim ond am y pleser o lofnodi'r contract. Felly, mae'n rhaid inni unioni hyn. Mae problem benodol yn fy etholaeth i, Canol Caerdydd, sydd â'r gyfran uchaf o fyfyrwyr prifysgol o unrhyw etholaeth ledled y DU. Mae pobl ifanc sydd erioed wedi llofnodi cytundeb cyfreithiol ar unrhyw beth o'r blaen yn cael eu gorfodi i dalu rhai ffioedd eithaf gwarthus. Codir ffi o £60 neu fwy arnyn nhw am wiriad credyd, ac mae'n debyg nad yw'n costio mwy na £5 i'w weithredu. Codir ffioedd adnewyddu arnyn nhw hefyd sydd mor uchel â £300, sydd ond yn golygu argraffu yr un contract eto gyda dyddiadau newydd arno. Mae pobl hyd yn oed wedi gorfod talu £150 y person i dynnu eiddo oddi ar y farchnad tra byddan nhw'n rhoi trefn ar y contract. Dyma beth sy'n digwydd ym marchnad y gwerthwr, ac mae angen inni newid y cydbwysedd fel ei bod yn decach i'r rhai sy'n rhentu.
Yr unig rai sydd ar eu colled yn y Bil hwn yw'r asiantau gosod gwarthus sydd wedi bod yn codi tâl ar y tenant yn ogystal â'r landlord am wneud gwaith. Maen nhw wedi bod yn dyblu eu tâl, yr asiantwyr diegwyddor hyn, ac mae angen i'w busnesau gael eu dileu. Clywsom dystiolaeth dda iawn gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a'r Gymdeithas Asiantaethau Gosod Preswyl yn nodi eu bod nhw eisiau inni ddileu busnesau'r bobl hyn, ac felly mae angen inni gryfhau'r Bil i sicrhau bod hynny'n digwydd. Does dim pwynt cyflwyno diddymu ffioedd asiantaethau gosod os ydym ni wedyn yn caniatáu i daliadau ffug gael eu cyflwyno ar gyfer materion eraill. Credaf felly ei bod yn siomedig nad oes gennym ni ymateb cryfach o ran beth sy'n gyfystyr â ffi ddiofyn briodol. Mae angen iddi fod yn glir iawn bod yn rhaid i hwnnw fod yn deg ac yn rhesymol, fel arall bydd gennym bob math o ffioedd diofyn i'w cyflwyno a'u diddymu.
Mae problem benodol, yn amlwg, â thenantiaid nad ydynt yn gallu talu eu rhent mewn pryd oherwydd bod y credyd cynhwysol wedi methu â gwneud y taliad hwnnw. Yn amlwg, mae angen i landlordiaid gael eu taliadau ar amser oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw dalu eu costau eu hunain, ond, serch hynny, mae'n anodd gweld sut y mae yna drefniant priodol ar gyfer pobl y codir tâl arnyn nhw nad oes ganddyn nhw unrhyw reolaeth drostyn nhw. Mae'n gwbl briodol y dylid codi tâl ar denantiaid am y drafferth o gael allweddi newydd os ydyn nhw'n eu colli, neu ryw fater arall sy'n mynnu bod y landlord yn gwneud ymweliadau arbennig, ond credaf mai un o'r pethau y mae angen inni ei wneud yw gwneud yn siŵr bod yr ystod o ddirwyon yn briodol ar gyfer yr ystod o landlordiaid sy'n asiantaethau gosod sydd gennym. Mae'r hen wraig ddiharebol nad yw wedi darllen y ddeddfwriaeth ac nad oedd yn ymwybodol ohoni, sy'n codi ffi yn un peth, ond asiantau gosod gyda 100 o eiddo, mae'n anodd gweld sut y byddai'n bosibl nad oeddyn nhw yn gwybod nad oedd ganddyn nhw'r hawl i godi ffi.
Felly, rwy'n siomedig bod y Gweinidog yn dal ddim yn bwriadu sicrhau nad yw unrhyw gosb wedi ei chodi os nad ydyn nhw wedi ad-dalu'r ffi a godwyd yn anghyfreithlon ar y tenant. Nid ein busnes ni yma yw creu mwy o waith ar gyfer y canolfannau cyngor ar bopeth neu asiantaethau cynghori eraill. Mae ganddyn nhw ddigon o waith i'w wneud fel y mae, felly, credaf fod angen inni yn syml sicrhau bod y rheoliadau yn ddigon cadarn i wneud yn siŵr fod y rheini sydd wedi gwneud y peth anghywir wedi ei gywiro cyn iddyn nhw gael symud ymlaen.
Credaf hefyd ei bod yn siomedig iawn bod y Gweinidog dim ond eisiau cynyddu ystod y dirwyon i £1,000, pan fo hyd yn oed y Gymdeithas Asiantau Gosod Preswyl yn cefnogi cosbau ariannol o rhwng £5,000 a £30,000. Maen nhw'n ein hannog ni i fod yn fwy radical, oherwydd maen nhw eisiau i fusnesau'r asiantau gosod diegwyddor gael eu dileu hefyd. Credaf fod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn, gyda ffioedd ymadael, mae'n gwbl briodol i godi tâl resymol os yw'r tenant yn terfynu'r contract cyn y cyfnod y gwnaethon nhw gytuno arno, ond dydw i ddim yn credu ei bod yn rhesymol o gwbl i godi ffioedd ymadael pan fo'r denantiaeth wedi dod i ben, ar ôl blwyddyn neu beth bynnag ydyw. Ni ddylid codi unrhyw ffi—mae'r ddwy ochr yn symud ymlaen. Felly, byddwn yn trafod y mater hwn ymhellach, ac edrychaf ymlaen at ddarllen yr ymateb manwl gan y Gweinidog.
Diolch. Janet Finch-Saunders.
Nid wyf yn siarad.
Iawn, diolch. Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid wyf yn aelod o unrhyw un o'r pwyllgorau sydd wedi craffu ar y Bil hwn, felly rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil—Bil y credaf sy'n paratoi'r ffordd ar gyfer gwelliannau pellach o ran amodau tai yng Nghymru, a bydd yn gwella ein hymdrechion i fynd i'r afael â chamfanteisio, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. A dyna, mewn gwirionedd, yw'r hyn yr oeddwn eisiau canolbwyntio fy sylwadau arno ac, wrth wneud hynny, a gaf i gefnogi yn gyfan gwbl y sylwadau a wnaeth Julie Morgan yn ei chyfraniad? Credaf eich bod wedi taro'r hoelen ar ei phen, Julie.
Credaf fod dau feincnod ar gyfer deddfwriaeth fel hon. Y cyntaf yw: a fydd yn ein helpu i wella amodau byw y bobl hynny yr ydym yn eu cynrychioli? Ac, a yw'n ceisio mynd i'r afael â chamfanteisio? Credaf fod y Bil yn gwneud y ddau beth hyn, neu mae ganddo'r potensial i wneud y ddau beth hyn. Rwy'n croesawu hefyd yr effaith y credaf y gallai'r Bil ei chael ar iechyd a lles pobl. Rwy'n gwybod bod llawer ohonom ni, o'n gwaith etholaeth ac o'r ymchwil a wnawn, yn gweld effeithiau iechyd tai a bod iechyd oedolion sy'n rhentu'n breifat, yn eu barn nhw, yn waeth o lawer na'r rhai hynny sydd mewn deiliadaethau eraill. Felly, rwy'n siŵr y byddai lleihau'r rhwystrau ariannol i ddod o hyd i lety addas yn ei gwneud yn haws i ddarpar denantiaid gasglu'r cyllid sydd ei angen i symud i eiddo sy'n fwy addas ar gyfer eu hanghenion. Mae hynny'n gorfod bod yn beth da.
Bydd hefyd yn beth da lleihau ffioedd annisgwyl, a all achosi gofid ariannol—gofid a all arwain at bryder a straen, ac sydd weithiau'n ymestyn i fod yn broblemau iechyd meddwl mwy difrifol. Felly, credaf fod gan y Bil y potensial i gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl rhai o'r tenantiaid hynny. A hefyd, mae yna fanteision iechyd corfforol posibl o ddileu ffioedd, sy'n arwain at incwm yn cael ei gynilo ac felly yn gallu cael ei wario ar fwyd, tanwydd a'r costau eraill hanfodol sy'n gysylltiedig ag iechyd.
Llywydd, byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith yr wyf eisoes wedi'i hyrwyddo o ran mynd i'r afael â phroblemau ynghylch yr arfer ffiaidd o ryw am rent. Yn wir, cyflwynais gynnig deddfwriaethol ar y pwnc hwnnw y llynedd. Felly, a gaf i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am gymryd camau i ddiwygio'r cod ymarfer ar gyfer y landlordiaid a'r asiantau hynny sydd wedi'u trwyddedu o dan Rhentu Doeth Cymru, fel un cam bach tuag at fynd i'r afael â'r broblem benodol hon, ond mae llawer, llawer mwy o waith i'w wneud. A dyna pam yr wyf i'n cefnogi argymhelliad 9 y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar yr angen i fynd i'r afael â phroblemau yr hyn a elwir yn 'troi allan yn ddi-fai', adran 21. Gellir defnyddio hon gan landlordiaid sy'n camfanteisio i gymryd mantais o'r tenantiaid mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas—er enghraifft, y rheini sy'n gwneud dim mwy na defnyddio eu hawliau i geisio cael atgyweiriadau yn eu safleoedd, neu sy'n gwrthod ceisiadau gan landlordiaid diegwyddor am ffafrau rhywiol. Nawr, yn amlwg dydy hynny ddim yn berthnasol i'r holl landlordiaid a'r asiantau gosod, ond credaf mai dyma'r math o newidiadau y mae'n rhaid inni barhau i wneud rhagor o gynnydd arnynt os ydym i fynd i'r afael â phroblemau camfanteisio.
Ond rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y Bil hwn yn rhoi sail ar gyfer gweithredu pellach i amddiffyn tenantiaid sy'n agored i niwed, yn enwedig y rheini yn y sector rhentu preifat, y gwn fod y Bil hwn wedi ei anelu atynt, ac mae hynny'n cynnwys y posibilrwydd o wella'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â rhyw am rent. Felly, rwy'n croesawu eich ymrwymiad, Gweinidog, i symud tuag at roi terfyn ar droi allan yn ddi-fai o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth hon—ac ni wnaf ailadrodd popeth y mae hyn yn ei gynnwys gan fod Julie Morgan eisoes wedi amlinellu hynny—ond rwy'n gobeithio y bydd hyn yn y pen draw yn arwain at roi terfyn ar adran 21 fel y mae ar hyn o bryd ac mae'n gam pellach tuag at sicrhau tenantiaethau i'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Diolch. A gaf i alw nawr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl? Rebecca Evans.
Diolch yn fawr iawn am gyfraniadau pawb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Ceisiaf ateb cynifer o'r pwyntiau a godwyd ag sy'n bosibl yn yr amser sydd gennyf, er y gwn y byddwn yn parhau â'r trafodaethau hyn yn y pwyllgor hefyd.
Trof ar unwaith at y materion a ddisgrifiwyd am ymateb y Llywodraeth i argymhelliad 14 i ad-dalu taliadau gwaharddedig ar ôl hysbysiad cosb benodedig. Mae'n bwysig cydnabod yma er bod y llwybr ar gyfer cael iawndal i ddeiliaid y contract drwy'r llysoedd, a gallan nhw barhau i dynnu ar gymorth sefydliadau arbenigol annibynnol megis Shelter Cymru a Cyngor ar Bopeth wrth wneud yr hawliadau hynny. Mae awdurdodau tai lleol—
[Anghlywadwy.]—ildio ar hyn. Pam na wnewch chi ddilyn yr arferion a nodir yn y Bil yn Lloegr, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol wneud hyn?
Wel, nid oes gan gymdeithasau tai lleol y sgiliau datblygedig yn y maes hwn. Mae'r sgiliau datblygedig yn y maes hwn a'r arbenigedd y tu allan i feysydd cymdeithasau tai lleol, felly ni fyddem eisiau bod yn rhoi beichiau ychwanegol ar awdurdodau lleol, na fyddai, yn fy marn i, yn croesawu'r beichiau ychwanegol hynny. Mae'r llysoedd, fodd bynnag, yn ymdrin â hawliadau o'r math hwn yn rheolaidd, a byddent yn gallu helpu deiliad contract drwy'r broses. Mae hysbysiadau cosb benodedig yn gweithio oherwydd gellir eu defnyddio yn gyflym ac yn hawdd gan gymdeithasau tai lleol. Po fwyaf yr ydym yn ei ychwanegu at y broses y mwyaf yr ydym ni mewn perygl y bydd cymdeithasau tai lleol yn amharod o ran gorfodi darpariaethau'r Bil. Ac, os yw cymdeithasau tai lleol yn y pen draw yn gorfod mynd ar ôl taliadau gwaharddedig sydd heb eu talu, maen nhw'n cael eu dargyfeirio, mewn gwirionedd, o'r gwaith gorfodi gwirioneddol, sef ymchwilio i droseddau a chyflwyno hysbysiadau cosb benodedig neu ddwyn achos cyfreithiol drwy'r llysoedd. Felly, credwn yn y sefyllfa hon mai'r llysoedd fyddai'r ffordd briodol o ymdrin â'r materion hyn.
Rwy'n ddiolchgar i—
A ydych chi'n ildio?
Ydw.
Ni allaf ddeall pam nad yw'n bosibl ychwanegu atodiad at y gosb benodedig bod yn rhaid cynhyrchu tystiolaeth bod yr arian wedi'i ad-dalu. Nid oes angen iddo fod yn unrhyw beth mwy na chopi o'u datganiad banc sy'n dangos bod yr arian wedi'i ad-dalu.
Byddwn yn sicr yn ystyried yr awgrymiadau a wnaed, ond dydw i ddim eisiau gwneud y drefn orfodi yn fwy beichus nag sydd raid, oherwydd rydym wedi dysgu o Rhentu Doeth Cymru mai symlrwydd y drefn orfodi sydd wedi ei gwneud mor llwyddiannus, ac, wrth gwrs, fel y nododd Llyr yn ei gyfraniad, rydym mewn gwirionedd yn disgwyl lefelau uchel iawn o gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth hon. Ond wrth gwrs byddaf yn ystyried yr holl bwyntiau a godwyd yn y ddadl hon.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Julie Morgan a Dawn Bowden am godi mater adran 21. Er ein bod ni wedi ymroi'n llwyr i weithio gyda landlordiaid i ddatblygu sector rhentu preifat bywiog, ni all hyn fod ar draul tenantiaid, ac mae'r modd y mae rhai landlordiaid yn defnyddio hysbysiadau adran 21, yn gwbl briodol, yn peri pryder i ni. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Julie Morgan am drefnu cyfarfod gyda mi, Dawn Bowden a Shelter i drafod y pryderon ynghylch adran 21, ac, o ganlyniad i hwnnw, mae swyddogion wedi bod yn trafod ffyrdd posibl ymlaen gyda'r rhanddeiliaid perthnasol yn y sector. Credaf y byddai'n ddefnyddiol bellach pe byddem yn ailymgynnull y cyfarfod hwnnw i ystyried lle'r ydym wedi cyrraedd a pha gamau i'w cymryd nesaf.
Gwnaed sawl cyfeiriad at y ddeddfwriaeth a oedd yn cael ei datblygu yn Lloegr ac yn yr Alban, a gallaf gadarnhau, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â phartneriaid mewn gweinyddiaethau eraill, gyda'r bwriad o ddysgu o'u dulliau nhw. Yn sicr, gan fod yr Alban eisoes wedi deddfu yn y maes hwn, rydym yn edrych ar yr effeithiau a welsant hwy o ran y ddeddfwriaeth, ond hefyd yn edrych ar y dystiolaeth a gafodd Lloegr, a'u dull nhw o weithredu yn y fan honno.
Un gwahaniaeth pwysig, fodd bynnag, yw bod gennym Rhentu Doeth Cymru yn gorff gorfodi yng Nghymru. Mae'n rhaid i bob landlord ac asiant gosod tai gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, ac mae'r ffaith y gallai landlord neu asiant gosod tai golli eu trwydded a'u gallu i rentu'r eiddo hynny yn rhwystr enfawr. Mae hynny'n rhwystr sydd gennym ni yng Nghymru ond nad oes ganddyn nhw yn Lloegr, a chredaf fod hynny'n rhoi cyd-destun gwahanol ar gyfer y ddeddfwriaeth yr ydym ni'n ei datblygu yma.
Rwyf wedi bod yn falch o dderbyn nifer o argymhellion y pwyllgor, er enghraifft, yr argymhelliad i gynyddu'r hysbysiad cosb benodedig. Felly, rwy'n cynnig ei ddyblu. Rwy'n cydnabod y galwadau i fabwysiadu dull tebyg i'r dirwyon a godir yn Lloegr, ond, unwaith eto, mae angen inni adlewyrchu bod gennym ni system wahanol a rhwystrau gwahanol a chryfach yma yng Nghymru hefyd. Hefyd, rwyf wedi bod yn hapus i dderbyn yr argymhelliad hwnnw fod gan Rhentu Doeth Cymru bwerau gorfodi hefyd, ac i roi ystyriaeth bellach i'r dull â bandiau neu haenau, ond, yn yr un modd, ar yr un pryd, rwy'n awyddus i gynnal rhywfaint o symlrwydd. Ond cawn drafodaethau pellach am hynny hefyd.
Rwyf eisiau cydnabod y pwynt a wnaeth Llyr am bwysigrwydd y sector rhentu preifat o ran bod yn bartner pwysig i awdurdodau lleol wrth geisio cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf Tai, o ran atal digartrefedd a lliniaru digartrefedd. Mae hyn yn sicr yn rhan o'r darn ehangach o waith yr wyf yn ei wneud i archwilio sut y gallwn wella'r berthynas honno a lleihau a dileu'r rhwystrau hynny i ddefnyddio'r sector rhentu preifat yng Nghymru.
Rwy'n ddiolchgar i Dawn am ei sylwadau ar y broblem rhyw am rent. Mae hwn yn sicr yn rhywbeth yr ydym yn awyddus i fynd i'r afael ag ef yng Nghymru. Mae angen iddo fod yn rhywbeth yr eir i'r afael ag ef ar draws gweinyddiaethau, ond yn sicr o fewn ein pwerau ni gallwn ddiwygio'r cod ymarfer ar gyfer landlordiaid i'w gwneud yn gwbl glir bod unrhyw un sy'n hysbysebu eiddo ar osod ac yn gofyn am ryw mewn perygl o golli ei drwydded i weithredu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae hyn ar ben y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau bod pobl sydd wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru wedi pasio prawf person addas a phriodol, ac mae hynny'n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i sicrhau nad oes ganddyn nhw unrhyw euogfarnau heb eu disbyddu am droseddau perthnasol fel troseddau treisgar, twyll neu droseddau rhywiol, er enghraifft. Felly, mae yna sawl darn o waith ar y gweill sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn.
Gallaf weld bod fy amser i wedi dod i ben. Ond roeddwn eisiau achub ar y cyfle hwn i groesawu Leanne Wood i'w swyddogaeth newydd a hefyd i gofnodi fy niolch i Bethan am y gwaith a wnaeth hi ar y Bil hwn hyd yn hyn. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Leanne yn y portffolio penodol hwn.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.