3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

– Senedd Cymru am 4:53 pm ar 4 Rhagfyr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:53, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Nawr, rydym yn symud ymlaen at eitem 3 ar yr agenda, sef y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, a galwaf ar arweinydd y tŷ, Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Nodir y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf yn y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu eglurhad o leiaf? Y cyntaf yw llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch asesiad o'r effaith amgylcheddol a addawyd ar gyfer llosgydd y Barri gan Weinidog yr Amgylchedd ym mis Chwefror eleni. Cefais y llythyr hwn gan y Prif Weinidog ar 21 Tachwedd, ac mae'n dweud yn y llythyr hwn y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Tachwedd 2018. Nid yw’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud. Pan edrychais i ar y calendr, dyddiad diwedd mis Tachwedd oedd dydd Gwener yr wythnos diwethaf. Mae nifer o drigolion wedi cysylltu â mi sy’n meddwl tybed pam nad oes penderfyniad wedi ei wneud yn gyhoeddus ar hyn o bryd. Felly, yn y lle cyntaf, a gaf i eglurhad o ba un a yw’r penderfyniad wedi ei wneud? Ac, yn ail, a gaf i wybod pryd y bydd y penderfyniad hwnnw yn cael ei drosglwyddo i’r Aelodau ac i'r etholwyr? Rwy'n hapus i rannu'r llythyr gyda'r Gweinidog, gan fy mod i’n ei gweld hi’n rhoi arwydd nad yw hi wedi gweld y llythyr hwn, ond anfonwyd y llythyr hwn i mi gan y Prif Weinidog ar 21 Tachwedd, sef dim ond pythefnos yn ôl, ac roedd ef yn eithaf pendant, erbyn diwedd mis Tachwedd, y byddai hynny’n gyhoeddus—y byddai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe cawn i rywfaint o eglurhad.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei ddeall yw’r rhyngweithio rhwng uwch weision sifil a chynghorwyr arbennig o fewn Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, yn y cwest a gynhaliwyd yn y gogledd, rhoddwyd pwynt tystiolaeth bod pennaeth adran y Cabinet wedi cymryd cyfarwyddiadau gan yr uwch-gynghorydd arbennig—Jo Kiernan, ar y pryd—i edrych ar ddyddiaduron Carl Sargeant. Mae hynny gennyf i yn y fan yma hefyd, ac mae'n rhan o'r cofnod a oedd yn y cwest. Roeddwn i ar ddeall nad oedd cynghorwyr arbennig mewn sefyllfa i gyfarwyddo gweision sifil i wneud gwaith ar eu rhan, ac mai i Weinidogion neu Ysgrifenyddion y Cabinet yn unig y mae gweision sifil yn gweithio. A gaf i ofyn am bwynt o eglurhad ynghylch yr union swyddogaeth sydd gan gynghorwyr arbennig wrth gyfarwyddo gweision sifil i ymgymryd â darnau penodol o waith? Oherwydd rwyf i yn credu bod hynny’n torri cod y gwasanaeth sifil.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:55, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ar yr un cyntaf, mae'r Gweinidog yn dangos i mi nad yw'r penderfyniad wedi ei wneud, ac mae hi'n bwriadu ei wneud cyn gynted â phosibl. Rwyf yn siŵr bod hynny wedi ei ddweud wrthych yn ddidwyll; mae'n digwydd bod nad oedd hynny'n gywir. Cyn gynted ag y bydd y Gweinidog yn gwneud y penderfyniad, fe wnaf i'n siŵr y bydd yr wybodaeth honno yn cael ei chyfleu mor gyflym â phosibl.

Ar yr ail un, Dirprwy Lywydd, nid oes gennyf unrhyw fwriad o roi sylwadau ar unrhyw un o'r prosesau sy'n digwydd yn y cwest, gan ei fod wedi ei ohirio a heb ei gwblhau.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:56, 4 Rhagfyr 2018

Arweinydd y tŷ, byddwch chi'n ymwybodol bod—.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gen i, roeddwn i mewn dryswch.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Byddwch chi'n ymwybodol bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yr wythnos diwethaf wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar rôl cynghorau cymuned a thref yng Nghymru yn y dyfodol. Yn amlwg, wrth ystyried darpariaeth llywodraeth leol ac unrhyw ddiwygiadau yng Nghymru, mae'r sector yma, y lefel agosaf o ddemocratiaeth i'r bobl, yn allweddol. Byddai llawer yn dadlau bod y sector wedi cael ei anwybyddu dros yr 20 mlynedd gyntaf o ddatganoli yng Nghymru, gyda braidd dim ffocws a braidd dim newid. Nawr, mae'r panel adolygu annibynnol wedi cynnig set o argymhellion, rhai ohonynt, o bosib, yn bellgyrhaeddol, yn enwedig o ran pwerau, ymgysylltu ac atebolrwydd. Rydw i'n credu bod angen trafodaeth bellach arnynt yn y lle yma. Gyda hynny mewn golwg, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol, felly, ddatganiad llafar ar y mater, a fyddai'n rhoi amser inni drafod ac i ddatblygu'r ffordd ymlaen?

Photo of Julie James Julie James Labour 4:57, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynna. Credaf y bydd hynny yn rhan o unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth a fydd yn mynd rhagddo ar lywodraeth leol, ac ni fydd yn destun datganiad llafar ar wahân.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n wirionedd anffodus, yn ystod bron i ddegawd o gyni yn y DU, fod toriadau i gyllidebau llywodraeth leol wedi arwain at doriadau i wasanaethau anstatudol a ddarperir gan gynghorau ledled y DU. Hoffwn ofyn, felly, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar statws ac iechyd gwasanaethau cymorth cerddoriaeth ledled Cymru. Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon, ac nid wyf yn eiddigeddus o'r dewisiadau anodd y mae'n rhaid i'n cynghorau eu gwneud, ond credaf yn gryf y dylai cael mynediad at gerddoriaeth fod yn hawl i'n pobl ifanc, nid braint i'r rhai sy'n gallu ei fforddio yn unig, ac mae'n iawn fod Cymru'n ystyried datblygu strategaeth genedlaethol neu gynllun cyllido gwasanaethau cefnogi cerddoriaeth fel blaenoriaeth genedlaethol. Rwyf yn gofyn, felly, am ddatganiad sy'n cynnwys asesiad o'r ysgolion sy'n methu â chael gafael ar wasanaethau cymorth cerddoriaeth ar hyn o bryd ac ar gydraddoldeb mynediad at addysg perfformio cerddoriaeth ar gyfer ein myfyrwyr tlotaf yng Nghymru.

Photo of Julie James Julie James Labour 4:58, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn cymeradwyo'r Aelod am ei chefnogaeth angerddol barhaus i wasanaethau cerddoriaeth yng Nghymru. Bydd hi'n gwybod ein bod ni'n rhannu'r uchelgais o ddarparu addysg gerddorol o safon uchel i bob dysgwr yng Nghymru. Mae hi wedi dweud yn ei sylwadau ei bod hi'n gwybod mai gan lywodraeth leol y mae'r cyfrifoldeb uniongyrchol am hyn, ac nid gan Lywodraeth Cymru. Gwn ei bod hi'n ymwybodol bod ymchwiliad 'Taro'r Tant' y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar gyllid ar gyfer mynediad at addysg gerddorol wedi nodi 16 o argymhellion sy'n canolbwyntio ar wella darpariaeth gwasanaeth cerddoriaeth ledled Cymru. Ar hyn o bryd, rydym ni'n symud ymlaen â gwaith i fynd i'r afael ag argymhellion a wnaed yn adroddiad 'Taro'r Tant'. Mae hynny'n cynnwys gwneud gwaith i nodi ac asesu dewisiadau ar gyfer darparu gwasanaethau cerddoriaeth a sicrhau bod unrhyw gynllun yn y dyfodol yn gynaliadwy. Mae swyddogion wedi cwrdd â rhanddeiliaid allweddol yn ddiweddar iawn ac maen nhw'n gwerthuso'r sylwadau ar hyn o bryd er mwyn cynllunio'r camau nesaf.

Rydym yn cydnabod y pwysau presennol sy'n wynebu gwasanaethau cerddoriaeth, fel y mae hi wedi ei gydnabod, ac angenrheidrwydd cymryd camau mor fuan â phosibl. Dyna pam mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi rhoi cyllid ychwanegol o £3 miliwn ar gael ar gyfer darpariaeth cerddoriaeth ledled Cymru ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Mae'r grant ar gyfer eleni ar fin cael ei ryddhau, a bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fuan iawn.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:59, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn, arweinydd y tŷ, am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar yr hyn y mae'n ei wneud i hyrwyddo'r defnydd o gerbydau trydan gan gyrff y sector cyhoeddus? Yr wythnos diwethaf, clywodd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau gwynion nad oedd Gweinidogion Cymru wedi rhoi arwyddion clir ar y mater hwnnw, a bod angen taer am arweinyddiaeth. Caiff y farn honno ei hatgyfnerthu pan eich bod yn ystyried bod pob un o’r 72 o gerbydau sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys 12 o geir gweinidogol, i gyd yn defnyddio diesel. Dywedwyd wrth y pwyllgor bod angen i Lywodraeth Cymru bennu targedau i gyrff cyhoeddus fabwysiadu cerbydau trydan i dorri allyriadau. A gawn ni ddatganiad ar y mater pwysig hwn os gwelwch yn dda?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:00, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod edrych yn ofalus iawn ar hygyrchedd ceir trydan a hybrid yng Nghymru, gan gynnwys ar draws yr ystâd gyhoeddus. Rydym eisoes yn buddsoddi £2 filiwn ar fannau gwefru cerbydau trydan i ychwanegu at y gallu presennol, ond bydd yr Aelod yn gwybod bod problemau ynghylch cyrhaeddiad a chynaliadwyedd cerbydau trydan.

Rydym yn bwriadu buddsoddi ymhellach yn y rhwydwaith gwefru cerbydau trydan. Nid yw'r ffaith nad oes safon gyffredin ar gyfer ceir trydan a'u trefniadau gwefru hyd yn hyn yn helpu. Pe byddem ni'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, byddai bod â'r gallu i ddatrys y broblem honno ledled Ewrop wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Yn amlwg, byddai buddsoddi yn y rhwydwaith anghywir yn arwain at wastraff buddsoddiad. Felly, rydym yn edrych yn ofalus i weld beth yw'r ffordd orau ymlaen ar gyfer hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt teg, ond nid wyf yn credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r dechnoleg yn cefnogi ei ddadl.

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 5:01, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Fe glywais yr hyn a ddywedasoch chi wrth Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond, wrth gwrs, yr wythnos diwethaf, roedd gennym y cwest i farwolaeth Carl Sergeant ac roedd hwnnw wedi cael cryn gyhoeddusrwydd am resymau dilys.  Clywsom fanylion—roedd rhai ohonynt yn anodd eu clywed—ynghylch y digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth drasig Carl a ddigwyddodd yn rhy gynnar. O ystyried y diddordeb cyhoeddus cryf yn yr achos hwn a marciau cwestiwn clir sydd wedi eu codi unwaith eto yn ddiweddar, a wnaiff eich Llywodraeth gyhoeddi yn awr, o’r diwedd, adroddiad yr ymchwiliad datgelu yn llawn, fel yr ydym wedi gofyn amdano o'r blaen, fel y gallwn ei asesu ac y gallwn wybod yn union yr hyn yr oedd yr ymchwiliad penodol hwnnw wedi ei ddweud?

Fy ail gais yw—rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymchwiliad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sgandal Kris Wade yma yng Nghymru. Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi bod yn cynnal adroddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i'r hyn a ddigwyddodd, gan siarad â rhanddeiliaid allweddol. Fe wnaethon nhw addo y gellid rhyddhau hwn cyn diwedd y tymor hwn. Ond yr hyn yr oeddwn yn bwriadu ei godi yma heddiw oedd sicrhau ein bod ni’n gallu cael gweld yr adroddiad hwnnw cyn diwedd y tymor, ac wrth hynny rwyf yn golygu dydd Mawrth neu ddydd Mercher yr wythnos nesaf, fel y gallwn graffu ar yr Ysgrifennydd dros iechyd, yn hytrach na'i fod ef yn rhoi rhywbeth allan ar ddydd Gwener. Nid wyf yn amau efallai fod ganddo resymau dros wneud hynny, ond rydym yn dymuno cael gweld yr adroddiad hwnnw cyn diwedd y tymor fel y gallwn graffu arno ef yma oherwydd difrifoldeb y sefyllfa. Yr hyn nad wyf yn dymuno ei weld yw Aelodau’r Cynulliad yn colli cyfle i allu dwyn Llywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i gyfrif oherwydd nad oeddent wedi cael gweld yr adroddiad hwnnw. Felly, dyna fy nghais i Lywodraeth Cymru.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:02, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf yn barod i wneud sylwadau ar y cwest, heblaw i ddweud bod pawb yn y Cynulliad a'i ystâd wedi ei effeithio gan y materion a godwyd. Roedd Carl yn gydweithiwr ac yn ffrind da i bob un ohonom, ac rydym ni i gyd yn rhannu'r tristwch a'r clwyfau sy'n cael eu hailagor o'r cwest, ond nid wyf yn mynd i roi sylwadau ar unrhyw un o'r prosesau yn y fan yna, gan fod y cwest wedi ei ohirio ar hyn o bryd ac nid yw wedi ei gwblhau eto, nac unrhyw un o'r pwyntiau ymylol eraill nes bydd y cwest wedi cyrraedd ei derfyn cyfreithiol priodol.

Ar y mater arall, mae Llywodraeth Cymru yn croesawu gwaith craffu o'r math hwnnw. Yn anffodus, Dirprwy Lywydd, nid wyf yn gwybod a oes modd rhyddhau'r adroddiad hwnnw o fewn yr amserlen fer iawn sydd ar gael inni bellach. Os oes modd, byddaf yn sicrhau bod hynny'n digwydd. Os nad oes modd, yna bydd cyfleoedd i gwestiynu pwy bynnag fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd y tymor nesaf ynghylch unrhyw beth sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, os caiff ei ryddhau dros gyfnod y Nadolig.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:03, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn wneud dau gais am ddatganiadau Llywodraeth Cymru. Mae'r cyntaf yn un y mae arweinydd y tŷ wedi hen arfer fy nghlywed i'n gofyn amdano, ond nid wyf yn ymddiheuro am barhau i wneud hynny gan ei fod yn hynod o bwysig i'm hetholwyr i a'i rhai hithau, a hynny yw diweddariad ar golledion swyddi Virgin Media a chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n colli eu swyddi, ac rydym yn dod yn agos iawn at yr amser pan fydd pawb yn colli eu swyddi.

Yr ail yw datganiad Llywodraeth Cymru ar yr Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys arolygwyr cynllunio sy'n rhoi caniatâd i amlfeddiannu tai sy'n mynd yn groes i ddymuniadau'r cyngor a'r bobl leol. Rwyf yn siŵr bod hynny'n rhywbeth y mae arweinydd y tŷ yn gwybod llawer amdano. Ac os dywedaf Brynmill, wel, tenantiaid St Thomas a Port yw tenantiaid newydd Brynmill bellach. Fel y gwyddoch, nid wyf yn credu bod swyddogaeth ar gyfer arolygydd cynllunio mewn democratiaeth. Y cynghorau ddylai benderfynu, a dylai ymgeisydd sy'n anhapus fynd i adolygiad barnwrol. Credaf fod cael rhywun nad yw'n gwybod dim am yr ardal i ddod i mewn i wneud penderfyniadau yn cael effaith drychinebus ar fywydau unigolion; mae'n wrth-ddemocrataidd, ac yn sicr, mae'n achosi problemau enfawr yn fy ardal i, ac fel y gwn, yn y gorffennol, yn eich ardal chithau.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:05, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, wir. O ran yr un yna, yn amlwg, nid oes gennym unrhyw reolaeth uniongyrchol dros yr Arolygiaeth Gynllunio, sy'n sefydliad ar wahân i Lywodraeth Cymru sy'n gweithredu ar ei rhan. Fodd bynnag, fe fyddwn ni, o bryd i'w gilydd, yn cyhoeddi canllawiau a dogfennau polisi ar ddeall y materion, ac rwyf i wedi cael sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch pa un a yw hi'n fuddiol gwneud hynny ar gyfer trefi prifysgol. Rwyf yn sicr yn rhannu ei bryder ynghylch hynny gan gynnwys gorfodi unrhyw bolisi dwysedd y byddai unrhyw awdurdod lleol yn bwriadu ei sefydlu a'r effaith y byddai hynny'n ei gael ar apeliadau dilynol.

O ran Virgin Media, gadawodd y grŵp cyntaf o staff a oedd yn cael eu diswyddo y cwmni fis Tachwedd, fyl y gwn y mae'n gwybod yn iawn. Mae dau gyfnod wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Mae ein tîm cymorth lleoli wedi cymryd y cyfrifoldeb o ddarparu staff â mynediad i bartneriaid allweddol y tasglu ar y safle, gan gynnwys Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a chyflogwyr lleol. Mae fforwm canolfannau cyswllt Cymru yn bartner allweddol yn ein tasglu a drefnodd ffeiriau swyddi ar y safle Virgin Media fis Hydref; daeth hyn â chyflogwyr sy'n recriwtio i'r safle yn ogystal â darparu cyngor gyrfaol ar gyfer yr aelodau staff hynny sy'n chwilio am waith arall. Mae'n rhy gynnar i mi roi manylion penodol am y rhai sydd wedi sicrhau cyflogaeth arall yn llwyddiannus o ganlyniad i'r ffeiriau swyddi, ond rydym yn cynnal ffeiriau swyddi eraill i gyd-fynd â'r grwpiau staff ychwanegol a fydd yn gadael y cwmni y flwyddyn nesaf. Felly, mae ein cyfraniad yn parhau er mwyn gwneud yn siŵr bod pob aelod o'r staff sy'n cael ei effeithio gan hyn yn cael y canlyniad gorau posibl.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 5:06, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru ar reoli coetiroedd a choedwigoedd yng Nghymru? Fel yr wyf yn deall, gall trwyddedau cwympo coed gael eu dosbarthu yng Nghymru ond ni ellir eu gwrthod nhw ar sail amddiffyn bywyd gwyllt. Rwyf ar ddeall mai dyna yw'r sefyllfa yn Lloegr hefyd. Yn yr Alban, maen nhw wedi newid y gyfraith yn ddiweddar fel y gellir ystyried materion bywyd gwyllt cyn rhyddhau trwyddedau torri coed. Wrth gwrs, mae hyn yn ychwanegu at amddiffyn amrywiaeth o rywogaethau, gan gynnwys y wiwer goch, yr wyf i'n hyrwyddwr ar gyfer y rhywogaeth. Felly, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch pa un a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i wella mesurau diogelu bywyd gwyllt yn y cyswllt hwnnw.

A gaf i ofyn hefyd am eglurhad naill ai gan y Cwnsler Cyffredinol neu gan Weinidog Llywodraethol priodol mewn cysylltiad â graddau indemniad cyfreithiol ar gyfer Gweinidogion ac yn wir cyn Weinidogion Llywodraeth Cymru? Rwyf wedi cael cwestiynau diweddar sydd wedi ymddangos yn fy mewnflwch yn ystod y dyddiau diwethaf ynglŷn â graddau'r indemniad cyfreithiol a roddir i Weinidogion. Byddwn yn ddiolchgar iawn petawn yn cael datganiad i egluro'r sefyllfa, yn enwedig pa un a yw'r indemniad hwnnw yn berthnasol i gyn Weinidogion. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:07, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ar yr un diwethaf yna, rwyf yn credu bod angen i chi ysgrifennu ataf gyda'r manylion am hynny. Mae indemniad cyfreithiol yn destun eang iawn gyda llawer o oblygiadau gwahanol, penodol iawn, felly byddai angen inni ddeall yr union amgylchiadau yr ydych yn gwneud ymholiadau amdanynt. Felly, os ydych yn dymuno ysgrifennu at y Cwnsler Cyffredinol, byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny yn cael ymateb priodol.

O ran amddiffyn bywyd gwyllt coetiroedd, mae Darren Millar yn gwneud pwynt da iawn. Nid wyf yn gwybod beth yw'r sefyllfa ar hyn o bryd. Byddaf yn codi hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet ac yn dod yn ôl ato.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 5:08, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn fynd ar drywydd y mater iechyd meddwl, sy'n rhywbeth y bydd arweinydd y tŷ yn gwybod yn iawn fy mod wedi ei godi ar sawl achlysur ers imi gael fy ethol yn gynharach eleni. Y mis diwethaf, fe wnaeth arweinwyr busnes ledled y DU annog Llywodraeth y DU i wneud darpariaethau fel bod swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn orfodol yn y gweithle. Rwyf yn cytuno’n llwyr â’r ymgyrchydd Natasha Devon, y tu ôl i’r llythyr i Lywodraeth y DU pan ddywed hi fod gan gyflogwyr ddyletswydd i ofalu am staff. Yn gwbl briodol, mae hi’n pwysleisio y bydd llwyddiant hefyd yn sicrhau y bydd pob gweithiwr ym mhob man yn gallu cael gafael ar aelod o staff hyfforddedig er mwyn cael cymorth cychwynnol ac arweiniad os ydyn nhw’n ymdrin â materion iechyd meddwl yn y gweithle.

Felly, yn gyntaf, a yw hyn yn rhywbeth y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ystyried ar gyfer gweithleoedd yng Nghymru? Ac yn ail, bu llawer o sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar hefyd ar swyddogaeth y gymuned ehangach o ran mynd i'r afael a'r epidemig o afiechyd meddwl ac atal hunanladdiad. Enghraifft o hyn yw elusen prosiect Wave yng Nghernyw, ac maen nhw’n darparu therapi syrffio i bobl ifanc sy'n dioddef oherwydd salwch iechyd meddwl. Ychydig yn nes adref, llwyddais i gael y profiad ac ymweld â Hounds the Barbershop gyda fy nghyd-Aelod Jayne Bryant yng Nghasnewydd yn ddiweddar, ac, yn union fel y siop honno, mae fy marbwr i, Sam—o Sam’s Barbershop yn Sir y Fflint—yn enghraifft wych o farbwr sy'n helpu’r rheiny sy'n dioddef afiechyd meddwl, fel y fi. Felly, rwyf yn canmol pobl fel Sam yn Sir y Fflint a Paul yng Nghasnewydd, mae’r bobl hynny yn cymryd cyfrifoldeb eu hunain i ddarparu gofal bugeiliol i'r rhai sydd mewn angen neu'r rhai sy'n teimlo'n isel, ac, unwaith eto, am atgyfnerthu'r neges honno ei bod hi’n iawn i beidio â bod yn iawn.

Yn olaf, yr ail ddatganiad yr hoffwn ei wybod, yw: a wnaiff arweinydd y tŷ ymuno â mi i dalu teyrnged i'r bobl hynny a phob un person allan yna nad ydyn nhw'n gwnselwyr, ond sy’n credu eu bod nhw mewn sefyllfa wych i ofalu am bobl eraill ac am ei gilydd drwy eu hanawsterau yn eu bywydau bob dydd?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:10, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Jack Sargeant, fel arfer, yn gwneud cyfres o bwyntiau da iawn. Mae hi'n cymryd cymuned gyfan i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu cefnogi ddigon ynddi, a gwyddom i gyd bod cael rhywun i wrando arnom ni, pa un a ydyn nhw'n gwnselwyr hyfforddedig ai peidio, fod yn ddefnyddiol iawn o ran teimlad o les cyffredinol ac, yn amlwg, iechyd meddwl.

Rydym wedi ailgadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu iechyd meddwl, yn gyffredinol, gan ei leoli fel un o chwe maes blaenoriaeth y strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', ac rydym yn achub ar bob cyfle i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl, hyd yn oed pan maen nhw'n ymddangos yn ffiniol ar y dechrau. Felly, bydd Aelodau wedi fy nghlywed i, er enghraifft, yn sôn am yr ymgyrch Dyma Fi, sy'n gwrthwynebu stereoteipio ar sail rhyw. Yn anffodus, weithiau, mae pobl yn meddwl ei fod ar gyfer menywod ond, mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae ei nod yn gyffredinol, gan ein bod ni'n gwybod bod dynion yn dioddef yn wael iawn o stereoteipio ar sail rhyw, gan deimlo bod rhaid iddyn nhw gyflawni swyddogaeth enillydd cyflog neu gefn y teulu, neu beth bynnag, ac maen nhw'n ei chael hi'n anodd iawn pan nad yw hynny'n gweithio'n dda iddyn nhw. Felly, rwyf yn cytuno'n llwyr â Jack Sargeant bod angen i ni gael dull cyfannol a chymdeithas gyfan i ymdrin â hyn, ac mae'n rhywbeth, Dirprwy Lywydd, y mae angen i ni i gyd ei ystyried yn ein rhyngweithiadau dyddiol â phobl eraill, sef gwneud yn siŵr ein bod ni hefyd yn gwrando ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud wrthym ni.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 5:11, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y tŷ, rwyf yn gobeithio y byddwch wedi gweld rhywfaint o'r gwaith ymgyrch presennol sy'n cael ei wneud gan Housing Women Cymru i dynnu sylw at yr angen i roi diwedd ar ddefnyddio rhyw i dalu rhent. Fel y gwyddom, mae unrhyw drefniant sy'n cynnwys rhyw ar gyfer talu rhent yn anghyfreithlon—heb unrhyw feysydd annelwig. Gwyddom bellach bod hynny wedi ei gadarnhau. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog Tai am ei datganiad ynglŷn â chefnogaeth ar gyfer yr ymgyrch a gyhoeddwyd ddoe? Ond yn sgil yr ymgyrch, a gaf i ofyn i'r Llywodraeth gyflwyno datganiad yn y flwyddyn newydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ynghylch eu camau gweithredu ar y mater hwn, gan gynnwys unrhyw drafodaethau gyda'r Awdurdod Safonau Hysbysebu, yr heddlu, y sector tai a'r Llywodraethau datganoledig eraill?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:12, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, allwn i ddim cytuno'n fwy gyda'r ymgyrch. Roeddwn yn meddwl bod y Gweinidog tai wedi ei gymeradwyo mewn datganiad clir iawn. Nid landlord yw rhywun yn gofyn am ryw yn hytrach na rhent—troseddwr yw hwnnw. Ni allai fod yn symlach na hynny. Ac, wrth gwrs, rydym yn rhannu eich pryder chi a phryder llawer o bobl eraill bod pobl sy'n agored i niwed yn cael eu rhoi yn y sefyllfa hon, wedi eu sbarduno gan rai o'r materion dyled a drafodais yn gynharach. Ac wrth nesáu at y Nadolig, mae pobl yn arbennig o agored i hynny. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn anfon y neges glir iawn honno: bod unrhyw landlord sy'n credu bod hynny'n iawn yn twyllo ei hun. Nid yw'n iawn. Mae'n weithred droseddol, ac nid wyf i'n credu y gallwn ni fod yn gliriach na hynny.

Gwn ein bod ni'n gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr ein bod yn sylwi ar unrhyw hysbysebion, er nad yw hynny wedi ei ddatganoli inni. Gwn fod y pryder hwn yn agos iawn at galon y Gweinidog tai, a byddwn yn sicr yn symud amrywiaeth o fesurau ymlaen i weld beth y gallwn ei wneud i ddileu'r arfer cwbl gywilyddus hwn.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 5:13, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Arweinydd y Siambr, rwyf yn gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth i gefnogi Safia Saleh a'i theulu. Cipiwyd Safia yn anghyfreithlon pan oedd hi'n blentyn, ac mae hi'n ceisio dychwelyd i Gymru. Gwn y byddai ei mam, Jackie Saleh, yn ddiolchgar iawn am ddatganiad. Mae'r cyhoedd wedi bod yn hael iawn wrth gefnogi Crowdfunder i brynu tocynnau ar gyfer y teulu, ond yr un rhwystr yw biwrocratiaeth. Mae Safia yn ddinesydd y DU, mae ganddi dystysgrif geni, ond nid oes ganddi basbort Prydeinig, ac nid yw'n ymddangos bod neb yn gallu helpu gyda hyn. Nid yw'r Swyddfa Gartref wedi ei datganoli, ond mae cymunedau wedi eu datganoli. Mae'r trallod a achosir gan ferch Gymreig o Drelái sy'n gorfod aros dramor yn fater i bawb yn y Cynulliad hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru godi llais dros Safia a'i theulu yn awr yn y fan yma, ond hefyd y tu allan, gan gyflwyno ei hachos ger bron y coridorau grym? Mae angen pasbort ar Safia Saleh i ddod yma, ac mae ganddi berffaith hawl i gael un, felly sut y gallwch chi helpu?

Photo of Julie James Julie James Labour 5:14, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn hapus iawn i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi ailuno ym mhob un o'r amgylchiadau pan fo teulu'n cael ei wahanu, os yw hynny'n bosibl. Mae hyn ymhlith yr effeithiau gwaethaf a'r mwyaf niweidiol o rai o'n rheolau mewnfudo llymaf. Os yw Neil McEvoy yn dymuno ysgrifennu ataf gyda'r manylion a manylion cyswllt y teulu, byddaf yn hapus iawn i roi sylwadau i'r Gweinidog mewnfudo ar ran y teulu.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:15, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Ac yn olaf, Caroline Jones.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Arweinydd y Tŷ, a gaf i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad llafar i'r Siambr ynghylch cynlluniau eich Llywodraeth i fynd i'r afael â bwlio? Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar fwlio, ond rwyf i'n tybio na fydd canllawiau yn ddigonol, ac nid fi yw'r unig un. Mae'r crwner yng nghwest Bradley John wedi cwestiynu a oes angen cyfraith benodol arnom ar fwlio. Rydym wedi gweld achosion ofnadwy iawn o fwlio yn ystod yr wythnosau diwethaf, fel y ffoadur Syriaidd yn cael ei arteithio â dŵr gan fwlis yn yr ysgol neu'r achosion o fwlio hiliol mewn ysgolion cynradd yng Nghaerdydd, a oedd yn frawychus yng ngolwg arolygwyr o Estyn.

Yn fy rhanbarth i, rwyf ar hyn o bryd yn ymdrin ag etholwr a gafodd ei guro'n anymwybodol gan fwlis ysgol. Dim ond 11 oed yw ef, ac nid yw'n mynychu'r ysgol nawr ac mae ganddo Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd. Mae ei fam wedi rhoi gwybod imi nad oes ganddo unrhyw synnwyr o berygl a'i fod yn meddwl bod pawb yn ffrind iddo. Cafodd y bachgen bach hwn ei guro'n anymwybodol am resymau anhysbys, sy'n achos gofid i bawb dan sylw, yn enwedig ei deulu. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Labour 5:16, 4 Rhagfyr 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet o'r farn yn gadarn iawn na ddylid goddef bwlio, o unrhyw fath, yn ein hysgolion, ond rydym yn arbennig o bryderus ynglŷn â bwlio hiliol, yn enwedig yn sgil y cynnydd mewn troseddau casineb ledled y DU. Mewn gwirionedd, mae gennym grŵp o'r enw EAST yn gweithio'n galed iawn ar set o ganllawiau ar gyfer ysgolion, ac rydym yn ystyried rhoi prosiect newydd ar waith mewn ysgolion ar yr union bwnc hwnnw ar hyn o bryd. Cyn gynted ag y bydd y cynigion hynny'n addas i'w rhannu gyda'r Aelodau, yna fe fyddaf i neu fy olynydd yn y portffolio cydraddoldebau yn dod â datganiad ger bron i fynegi'r hyn yr ydym ni'n ei wneud.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi, Arweinydd y Tŷ.