– Senedd Cymru am 4:52 pm ar 11 Rhagfyr 2018.
Felly symudwn at eitem 8, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: tuag at ddull gweithredu penodol o ran y system gosb yng Nghymru. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael gwneud y datganiad hwn y prynhawn yma ac wrth wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fynegi fy niolch personol i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio gyda mi i ddatblygu a phrofi'r glasbrintiau ar gyfer troseddwyr ifanc a throseddwyr sy'n fenywod dros fisoedd lawer.
Mae'r bobl sydd yn y system cyfiawnder troseddol ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig yn ein cymdeithas ni. Yn rhy aml gwelwn bobl yn cael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol oherwydd eu bod nhw eu hunain wedi cael eu hesgeuluso yn gynharach yn eu bywydau, ac wedi dioddef nifer o brofiadau plentyndod niweidiol neu gam-driniaeth; gyda llawer o'r profiadau hynny yn parhau yn eu bywydau pan fydden nhw'n oedolion. Mae'n rhaid inni roi terfyn ar y cylch hwn. Rydym ni'n siomi pobl, ond rydym ni hefyd yn creu galw ar y gwasanaethau cyhoeddus na allwn ni ei ddiwallu. Ond, Dirprwy Lywydd, yr effaith ddynol bob tro sydd yn fy sbarduno i a'm hymagwedd tuag at y polisi hwn.
Fel llawer o rai eraill, ac fel y clywyd yn y Siambr y prynhawn yma, rwyf i eisiau gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli cyn gynted â phosibl. Rwyf eisoes wedi nodi wrth yr Aelodau fy mod i'n benderfynol o ddatblygu dull gweithredu gwahanol o ran cyfiawnder yng Nghymru, i ganolbwyntio ar gamau gweithredu ataliol ac i dorri'r cylch hwn. Er ein bod ni ni'n gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol cymhleth, mae rheolaeth dros y system gyfiawnder ar hyn o bryd yn parhau yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, felly heddiw byddwn yn parhau i weithio o fewn paramedrau'r setliad datganoli presennol ar gyfiawnder er ein bod yn cydnabod, er mwyn sicrhau'r gorau ar gyfer ein pobl, fod wir angen datganoli'r system hon.
I barhau i wneud cynnydd a gwelliannau ym mhob maes cyfiawnder troseddol, mae mynd i'r afael â'r system gyfan yn hanfodol. Rwyf eisiau inni wneud cynnydd cyflymach mewn meysydd penodol yn y system, sef troseddau ieuenctid a throseddau menywod. Rydym ni wedi datblygu ffyrdd newydd o weithio a phrofi modelau newydd o ddarparu ac rydym ni eisoes wedi gwneud cynnydd. Ers y llynedd, mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yng Nghymru, comisiynwyr heddlu a throseddu, ac amrywiaeth o randdeiliaid eraill ym maes cyfiawnder, iechyd ac addysg i ddatblygu a darparu dulliau gweithredu newydd ar gyfer troseddau ieuenctid a throseddau menywod.
O ran troseddau ieuenctid rydym ni'n credu y gall ymyrraeth ac atal cynnar helpu i gadw pobl ifanc allan o'r system cyfiawnder troseddol. Rydym ni'n cefnogi'r dull rheoli achosion uwch sy'n cael ei lywio gan drawma gyda'r bobl ifanc mwy cymhleth hyn, gan leihau cyfraddau troseddu am y tro cyntaf ac aildroseddu yn sylweddol. Fodd bynnag, mae mwy o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn achosion o drais a throseddu cyfundrefnol mwy difrifol. Mae twf llinellau cyffuriau yn un rheswm, ond rwy'n derbyn bod llawer o resymau eraill am hyn hefyd.
Mae ein cynigion presennol ar gyfer troseddau ieuenctid felly yn blaenoriaethu mwy o atal cynnar a gweithgareddau dargyfeirio, gan gyrraedd pobl iau hyd yn oed yn gynharach, cyn eu bod mewn perygl o droseddu. Byddwn yn datblygu ymhellach ein dulliau o weithredu o ran dargyfeirio cyn y llys a chynyddu'r gefnogaeth i ddull wedi ei lywio gan drawma ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc mewn perygl o droseddu. Bydd angen dull o weithredu cyfannol, a byddwn yn defnyddio profiad y cynlluniau braenaru i lywio'r gwaith hwnnw. Rydym ni'n cydnabod nad yw'r un dull yn addas i bawb.
Ar yr un pryd, mae'n rhaid ystyried sut orau i osod carfan fechan o bobl ifanc ag anghenion cymhleth yn aml iawn, mewn amgylchedd diogel sy'n addas i'w ddiben. Yna mae'n rhaid cael y math iawn o gymorth i helpu'r bobl ifanc hyn adfer ac ail-ymsefydlu yn eu cymunedau. Bydd yr holl waith a wnawn ni gyda phobl ifanc yn seiliedig ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau, sef eu hystyried fel plant neu bobl ifanc yn gyntaf, nid fel troseddwyr neu rywun a allai fod yn droseddwr.
Mae nifer anghymesur o uchel o fenywod yn dal i gael eu hanfon i'r carchar, yn aml ar gyfer dedfrydau byr. Rydym ni'n cydnabod bod hyn yn cael effaith ddinistriol tymor hwy ar y merched eu hunain a'u teuluoedd. Felly, mae'n rhaid inni wneud mwy o ymdrech i ddargyfeirio cyn y llys. Fe hoffwn i weld mesurau ataliol hyd yn oed yn gynharach i gadw menywod allan o'r system cyfiawnder troseddol; i gadw teuluoedd gyda'i gilydd; i leihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt; ac i leihau'r effaith tymor hwy y gall bod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol ei chael ar y menywod hyn.
Dylid ystyried datblygu dulliau o weithredu wedi'u llywio gan drawma a chydnabod effaith profiadau andwyol plentyndod ar gyfer menywod sy'n troseddu a'u plant, gan ystyried anghenion y menywod hyn a'r teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan gam-drin domestig a thrais rhywiol. Gallwn gefnogi merched i aros yn eu cymunedau ac mewn gwaith mewn ffordd well o lawer. Rydym ni eisiau datblygu gwasanaethau sy'n angenrheidiol i gefnogi menywod fel y gallan nhw osgoi bod dan glo yn gyfan gwbl. Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r llysoedd i ailystyried effaith polisi dedfrydu ac effaith dedfrydau byr ar fenywod, gan gynnwys sut y bydd hyn yn effeithio ar y plentyn a'r teulu.
Mae hefyd yn amlwg iawn ac yn fater o frys bod arnom angen ateb newydd i'r ystad carchardai menywod presennol. Bydd angen i ni weithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r gwasanaeth carchardai a phrawf, ond rwyf yn glir pan fydd menyw yn cael ei dedfrydu i'r ddalfa, mae angen iddi hi fod mewn amgylchedd sy'n cefnogi ei hanghenion; cefnogi ei hadsefydlu; a'i chefnogi hi i gadw mewn cysylltiad â'i theulu a'i chymuned.
Hoffwn roi ar y cofnod fy niolch am waith Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, am ei ran yn llwyddiant ymyrryd yn gynnar a dargyfeirio, a'r gwaith allgymorth y mae'n ei wneud ar ddedfrydu ac atal.
O ran menywod yn troseddu, rydym ni wedi cefnogi rhaglen fraenaru i fenywod, i ddargyfeirio menywod rhag mynd i'r ddalfa a darparu amrywiaeth o gymorth. Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i'r partneriaid, yn enwedig Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a'r comisiynwyr heddlu a throseddau sy'n chwarae rhan mewn datblygu prosiect braenaru i fenywod a'r glasbrint drafft ar fenywod sy'n troseddu, am eu holl waith hyd yn hyn.
Dirprwy Lywydd, dros y misoedd nesaf, gyda'n hystod o bartneriaid ac ar draws y Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddatblygu ein cynigion i greu cynlluniau pendant a fydd yn rhoi bywyd i'n glasbrintiau ni. Rwyf yn rhagweld, yn y flwyddyn newydd, y byddwn ni mewn sefyllfa i gyhoeddi'r glasbrintiau llawn ac amlinellu ein cynigion yn fanylach drwy gyfrwng cynllun cyflawni. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i Aelodau wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Diolch am eich datganiad—un o blith llawer ar thema debyg dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf. Fe wnaethoch chi alw hwn yn 'ddull gweithredu penodol o ran y system gosb yng Nghymru', er ei fod yn edrych yn rhyfeddol o debyg i'r agenda polisi sy'n datblygu ar draws y ffin yn Lloegr hefyd.
Fel yr ydych wedi fy nghlywed i'n dweud o'r blaen, ym mis Awst, bûm mewn digwyddiad ymgysylltu Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yn Wrecsam i drafod y cynigion yn y papur ymgynghori 'Cryfhau'r gwasanaeth prawf, meithrin hyder'. Clywsom, yng Nghymru, mai'r cynigion yr ymgynghorwyd arnyn nhw oedd, o 2020, bydd pob gwasanaeth rheoli troseddwyr yn ôl yn rhan o'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ac y bydd Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru yn ystyried dewisiadau ar gyfer comisiynu gwasanaethau adsefydlu, megis ymyraethau ac ad-dalu cymunedol. Fe glywsom ni fod yr ymgynghoriad yn amlinellu cynlluniau i sefydlogi gwasanaethau prawf a gwella'r broses o oruchwylio troseddwyr a'r gwasanaethau drwy'r giât, sy'n allweddol i'ch datganiad,
'Mae cyfrifoldebau datganoledig Llywodraeth Cymru a threfniadau partneriaeth presennol yng Nghymru yn gwneud darparu gwasanaethau prawf yn dra gwahanol i'r hyn yr ydyw yn Lloegr. Mae'r fframwaith deddfwriaethol yn rhoi cyfle inni ddatblygu trefniadau cyflawni amgen sy'n adlewyrchu'r cyd-destun cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn well... Byddwn wedyn yn ystyried a yw dysgu yn sgil y trefniadau newydd hyn yn berthnasol i'r system yn Lloegr.'
Wel, roedd hynny bedwar mis yn ôl. Rydych chi wedi sôn am ymgysylltu â nifer o gyrff, gan gynnwys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi; Tybed a wnewch chi roi unrhyw gig ar yr esgyrn hynny o ran trafodaethau ynghylch yr agenda honno yr ydych chi wedi eu cael wedyn.
Nid wyf am ymateb i'r temtasiynau gwleidyddol pleidiol a roesoch o'm blaen i mewn meysydd nad wyf yn mynd i'w henwi, oherwydd bydd yn crwydro, efallai, o'r ateb y byddwch yn ei roi i mi, a cheisiaf ganolbwyntio ar eich pwyslais chi ar droseddwyr ifanc a menywod sy'n troseddu.
Rydych yn dweud, yn gywir, o ran troseddwyr ifanc, eich bod yn credu y gall ymyrraeth gynnar helpu i gadw pobl ifanc draw o'r system cyfiawnder troseddol a sut orau i osod carfan fechan o bobl ifanc yn y ddalfa a helpu'r bobl ifanc hynny i adfer ac ymsefydlu yn eu cymunedau. Wel, fe soniodd y ddogfen ymgynghori hefyd am gynyddu integreiddio ar draws carchardai a'r gwasanaeth prawf yng Nghymru gyda mewnbwn gan y trydydd sector, gan wneud defnydd o gyfalaf pobl. Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, yn eithaf diweddar mewn gwirionedd fe euthum i allan gyda'r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol i gyfarfod Eagle House Youth Development, cwmni buddiannau cymunedol ym Mangor, i drafod eu gwaith gyda phobl ifanc sy'n cyflawni troseddau, neu mewn perygl o gyflawni trosedd. Fe'u dewiswyd, er enghraifft, gan y ganolfan byd gwaith ar gyfer eu stondin yn y Sioe Frenhinol eleni fel corff arweiniol y trydydd sector yr oedden nhw'n gweithio â nhw i helpu pobl ifanc oedd efallai â'r nodweddion posibl hynny neu y gallent fod mewn perygl yn y dyfodol. Felly, sut byddwch chi'n ymgysylltu â sefydliadau megis Eagle House?
Hefyd, yr wythnos diwethaf, fel efallai eich bod yn ymwybodol—er yn anffodus nid oeddech chi yno—roeddwn i'n croesawu lansiad y pecyn cymorth Clean Slate Cymru mewn digwyddiad i ddathlu'r prosiect Clean Slate Cymru yn y Pierhead, gyda Construction Youth Trust Cymru, Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, a'r cwmni adeiladu BAM Nuttall, yn dathlu prosiect Cymru gyfan i gefnogi pobl sydd ag euogfarnau i gael gwaith ym maes adeiladu a lansio canllawiau ar sut y gall y diwydiant adeiladu ymgysylltu â chyn-droseddwyr mewn carchardai a chymunedau ledled Cymru a chyflawni gwerth cymdeithasol drwy hyfforddi cyn-droseddwyr, dod o hyd i gyflogaeth yn y sector adeiladu, drwy leoliadau gwaith, sgiliau hyfforddi a llawer o bethau eraill. Unwaith eto, a ydych chi wedi ymgysylltu, neu a ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â'r prosiectau blaenllaw hyn sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth ac wedi dwyn ynghyd y trydydd sector, y sector preifat a rhai o asiantaethau'r Llywodraeth a oedd yn bresennol ar yr agenda hon?
Rwyf am gloi drwy gyfeirio at eich cyfeiriad, yn briodol iawn, at fenywod yn cael eu hanfon i'r carchar, yn aml ar gyfer dedfrydau byr, a'r angen i ddatblygu gwasanaethau i gynorthwyo menywod i osgoi mynd i'r ddalfa a hefyd rhoi blaenoriaeth i geisio cael dedfrydau byr y tu allan i amgylchedd carchar, ond hefyd yr hyn sy'n digwydd pan fo pobl yn cael eu rhoi yn ystad carchardai menywod presennol Cymru. Pa ymgysylltiad, felly, yr ydych chi wedi ei gael gyda Llywodraeth y DU ers ei chyhoeddiad, yn hytrach na sefydlu pum carchar cymunedol i fenywod yng Nghymru a Lloegr, y bydd yn treialu pum canolfan breswyl i helpu menywod sydd wedi troseddu sydd â phroblemau megis dod o hyd i waith, camddefnyddio sylweddau ac ati; gyda'r rhai â dedfrydau cymunedol, fel y cydnabyddir yn glir gan Lywodraeth y DU yn ogystal â gennych chi eich hun, yn llai tebygol o droseddu na'r rhai sydd wedi treulio dedfryd fer mewn carchar, gyda'r bwriad o gael un o'r canolfannau hynny yng Nghymru, ond hefyd yn hygyrch yng Nghymru? Oherwydd, yn amlwg, byddai pobl sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn cael anhawster pe byddai'r ganolfan wedi'i lleoli yn Abertawe neu Gaerdydd, ac i'r gwrthwyneb.
Yn olaf, yn y cyd-destun hwnnw, fel y gwyddoch, yn y gogledd, a rhannau helaeth o Gymru, mae menywod sy'n troseddu ac yn gorfod mynd i'r carchar yn cael eu hanfon i Styal. Rwyf i'n byw rhyw 40 milltir o Styal, felly, iddyn nhw, mae'n fwy hygyrch na rhywle yng nghanolbarth neu dde Cymru. Ond pa gamau ydych chi wedi eu cymryd, neu yr ydych chi yn eu cymryd ynghylch y menywod sy'n troseddu, yn enwedig rhai Cymraeg eu hiaith sydd yn ystad Lloegr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth briodol o fewn yr ystad garchardai i gyfathrebu a rhoi cymorth iddyn nhw pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau?
Rwyf yn ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am eu cwestiynau, ac rwy'n credu, eu cefnogaeth gyffredinol i'r datganiad hwn a'r dull o weithredu yr ydym yn ei fabwysiadu. Dechreuodd yr aelod dros Ogledd Cymru ei sylwadau drwy gwestiynu a oedd hwn yn ddull gwahanol o gwbl, ac yna, er mwyn cynnal ei achos, dyfynnodd o ddogfen gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a oedd yn amlinellu'r angen am ymagwedd penodol yng Nghymru, oherwydd y gwahaniaethau o ran cyflenwi, y strwythurau a'r polisïau a ddilynir yn y wlad hon. Yr hyn a ddywedaf i wrtho yw hyn: Nid yw wedi preifateiddio'r gwasanaeth prawf wedi gweithio—mae'n cael ei ystyried yn fethiant. Dywedodd llawer ohonom ni wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai'n fethiant ar y pryd, a bellach, mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, o leiaf yng Nghymru, wedi cydnabod nad yw'r strwythurau hynny mwyach yn addas i'w diben.
Fe fydd ymagwedd benodol yng Nghymru. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chyfarwyddwr y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yng Nghymru. Rydym ni'n trafod sut yr ydym ni'n darparu ymagwedd gyfannol tuag at bolisi, yn ystod y cyfnod yn y ddalfa, a hefyd sut yr ydym ni wedyn yn sicrhau bod gennym ni'r dulliau drwy'r giât sy'n cefnogi pobl ar eu taith allan o'r system cyfiawnder troseddol. Rwy'n eithaf sicr yn fy meddwl fy hun ein bod ni'n symud i ffwrdd o'r athrawiaeth breifateiddio, a'r hyn yr ydym yn symud tuag ato yw system sydd yn fwy cyson â'r gwerthoedd a fydd yn cael eu cefnogi, rwy'n credu, gan y rhan fwyaf yn y Siambr hon, pan fyddwn ni'n gweithio gyda'r trydydd sector, ond yn gweithio o fewn strwythur a fframwaith sy'n rhoi pobl ac nid elw yn gyntaf. Gobeithio y bydd modd inni fynd ar drywydd hynny a pharhau i ddilyn y dull hwnnw.
Gofynnodd y Ceidwadwyr imi gwestiynau ynghylch ystad carchardai menywod. Os oes unrhyw un sy'n dymuno amddiffyn y setliad presennol o ran cyfiawnder, nid oes angen ichi ond edrych ar brofiad menywod sy'n troseddu i weld sut y mae'r system honno, a sut y mae'r strwythur hwnnw wedi esgeuluso menywod heddiw yng Nghymru, ac yn esgeuluso menywod yn gyson ledled y wlad. Ni all neb—neb—ddadlau bod system sydd wedi'i sefydlu heb unrhyw gyfleusterau o gwbl ar gyfer menywod yn y wlad hon, wedi ei sefydlu i ddiwallu anghenion pobl y wlad hon mewn unrhyw ffordd.
Nid yw'r system sy'n bodoli heddiw yn addas i'w diben—nid yw erioed wedi bod yn addas i'w diben. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yn wahanol i hyn yw nid dim ond mynd yn ôl i adeiladu carchardai yn y ffordd yr awgrymodd rhai pobl, ond chwilio am wahanol ddewisiadau ac atebion. Y cwestiwn oedd i ba raddau yr wyf i wedi mynd ar drywydd hyn gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Dywedaf wrth yr Aelod fy mod wedi cyfarfod â Phillip Lee fel Gweinidog, ag Edward Argar fel Gweinidog ac rwyf wedi cyfarfod â Rory Stewart fel Gweinidog er mwyn mynd ar drywydd y materion hyn i gyd. Rydym ni wedi cytuno mwy nag yr ydym ni wedi anghytuno o ran sut i ddatblygu'r materion hyn.
Rydym yn gytûn bod angen inni gael ymagwedd newydd tuag at fenywod sy'n troseddu a thuag at ymdrin â menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed yn y sgwrs flaenorol ynghylch cwestiynau—bod angen canolfan i fenywod ac nid carchar i fenywod, ond mae hefyd angen amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer menywod, nad ydyn nhw'n cynnwys dalfa yn unig. Rwyf i wedi ymweld â Llywodraeth yr Alban ac wedi siarad â Llywodraeth yr Alban am y canolfannau menywod a'r cyfleusterau ar gyfer menywod sydd ganddyn nhw, a'r hyn yr wyf i'n gobeithio y gallwn ni ei wneud yw datblygu ymagwedd gyfannol, er mwyn i'r drasiedi bresennol o bobl ifanc a menywod yn y system cyfiawnder troseddol fod yn rhywbeth ar gyfer y llyfrau hanes yn unig.
Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, gallaf ddweud, a minnau'n gyn swyddog prawf, fy mod i'n croesawu'r cyfeiriad cyffredinol tuag at system cyfiawnder troseddol sy'n seiliedig ar adsefydlu yn hytrach na chosbi?
Mae dargyfeirio cyn y llys yn golygu buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau prawf, ac mae'n drueni mawr, o gofio eich bod wedi amlinellu'r problemau a achoswyd gan breifateiddio'r gwasanaeth prawf, na frwydrodd eich Llywodraeth yn galetach yn erbyn preifateiddio'r gwasanaethau hynny pan yr oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn rhybuddio mai dyna'n union a fyddai'n digwydd.
Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod o blaid mwy o adsefydlu, a gan nad ydwyf wedi gweld manylion unrhyw gynigion penodol, mae'r cyfraniad y gallaf ei wneud ar hyn o bryd wedi ei gyfyngu braidd. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld cynigion penodol yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd. Fe wnaf i ddweud, er hynny, ei bod hi'n amlwg i bob un ohonom ni yn y Siambr bod eich datganiad heddiw yn dod ar adeg pan fo pryder cynyddol ynglŷn â chyflwr y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a bod consensws yn cael ei ffurfio na all pethau barhau fel y maen nhw. Mae'r llu o adroddiadau gan Sefydliad Materion Cymru, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Cynghrair Howard er Diwygio Cosbau, a'r mwyaf diweddar, adroddiad Comisiynydd y Gymraeg sy'n tynnu sylw at y ffaith nad yw anghenion carcharorion Cymraeg eu hiaith yn cael eu bodloni, yn dystiolaeth bellach a phendant bod y system cyfiawnder troseddol sy'n cael ei rhedeg gan y Torïaid yn San Steffan yn gosbol, yn seiliedig ar elw ac yn gwrthwynebu'n uniongyrchol nodau adsefydlu.
Mae effeithiau peidio â chael carchar i fenywod yng Nghymru yn hysbys iawn o ran yr effaith ar deuluoedd a chymunedau, ond nid sefydlu carchar i fenywod yng Nghymru yw'r ateb yn amlwg. Felly a gaf i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet i gadarnhau y bydd y glasbrint a'r cynllun cyflawni yn cynnwys ymrwymiad cadarn i beidio â chefnogi adeiladu unrhyw garchar newydd yng Nghymru? A gaf i hefyd ofyn am eglurder pellach ynghylch pa fesurau penodol y byddwch chi fel Llywodraeth yn eu cymryd i ddargyfeirio menywod oddi wrth y system cyfiawnder troseddol?
Rwy'n croesawu'r dull seiliedig ar hawliau ar gyfer troseddau ieuenctid a'r pwyslais ar brofiadau andwyol plentyndod ac fe fyddwn i'n croesawu rhagor o fanylion ynghylch hyn. Gyda pha asiantaethau byddwch chi'n gweithio er mwyn gwireddu eich gweledigaeth ynglŷn â hyn? A fydd gan bobl yr hawl i gael gafael ar wasanaethau cwnsela, er enghraifft, i oresgyn trawma plentyndod, a hynny pan fo'r trawma yn digwydd yn ystod plentyndod a hefyd yn ddiweddarach pan fyddan nhw'n oedolion, os oes angen hynny? A fydd hawl i driniaeth yn sgil defnyddio sylweddau, os mai dyna'r hyn sydd ei angen? Beth mae dull seiliedig ar hawliau yn ei olygu mewn termau diriaethol?
Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers talwm mai yn y pen draw dim ond datganoli cyfrifoldeb dros y system cyfiawnder troseddol fydd yn caniatáu inni lunio system gynhwysfawr sy'n decach ac sy'n cynnwys adsefydlu wrth ei gwraidd. Rydym ni'n aros am argymhellion comisiwn Thomas yn hyn o beth, ond, yn y cyfamser, a gaf i ofyn i chi gadarnhau sut y mae'r cynigion hyn ar gyfer dull o weithredu penodol yng Nghymru ar gyfer troseddwyr ifanc a menywod yn troseddu yn cael eu datblygu o dan y fframweithiau cyfansoddiadol annigonol presennol a sut bydd y rheini yn cyfochri â datblygiadau yn y dyfodol yng ngoleuni comisiwn Thomas?
Yn olaf, a gaf i ofyn i chi roi ar y cofnod eich bod o blaid datganoli llwyr ar gyfer pob agwedd ar y system cyfiawnder troseddol i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol a amlygwyd yn eich datganiad ac i weithredu'r egwyddorion hyn o adsefydlu?
Dirprwy Lywydd, gadewch imi ateb y cwestiwn olaf yn gyntaf. Yr ateb yw 'ydw'. Yr ateb yw 'ydw'. Rwy'n gwahodd yr Aelod dros y Rhondda i geisio consensws ac i chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'n gilydd yn hytrach nag edrych am raniadau rhyngom. Rwy'n credu bod gennym ni gyfle gwirioneddol yn y fan yma. Amlinellodd yr Aelod yn dda iawn nifer o adroddiadau beirniadol am y gwasanaeth carchardai a'r amodau mewn carchardai yng Nghymru, ac rwy'n cydnabod y pwyntiau y mae'n eu gwneud. Ond byddwn i'n dweud wrthi hefyd ein bod ni'n fwy pwerus wrth geisio cael cytundeb na phan yr ydym ni'n anghytuno, a byddwn i'n dweud wrthi hi bod y dystiolaeth—[Torri ar draws.]—y dystiolaeth—[Torri ar draws.]—y dystiolaeth a roddais i gomisiwn Thomas, ac rwyf yn hapus iawn iddi gael ei chyhoeddi maes o law, yn benodol ynghylch sut yr ydym ni'n darparu system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru, ond hefyd sut yr ydym ni'n darparu system gyfiawnder wahanol yng Nghymru.
Mae hi wedi gofyn imi gadarnhau nad ydym ni'n cefnogi datblygu unrhyw garchar newydd yng Nghymru. Gadewch imi ddweud hyn: nid ydym ni'n cefnogi ac ni fyddwn ni'n cefnogi adeiladu na chreu na datblygu carchar i fenywod yng Nghymru. Rwyf eisoes wedi crybwyll ein bod ni eisiau gweld gwahanol ganolfannau a gwahanol gyfleusterau ar gyfer menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Ond mae angen inni fuddsoddi yn yr ystad ddiogel, yn yr ystad oedolion gwrywaidd, oherwydd bod amodau mewn rhai o'n carchardai—fel y mae hi wedi eu disgrifio ei hun—ar gyfer carcharorion sy'n oedolion gwrywaidd yn gwbl annerbyniol, ac mae angen i ni weld sut y gallwn ni ddatblygu hynny a sut y byddwn ni'n buddsoddi yn yr ystad ddiogel i gael ystad sy'n addas i'w diben yn yr unfed ganrif ar hugain. A gadewch imi ddweud hyn: nid oes neb—nid oes neb—a fyddai'n dadlau o ddifrif bod yr ystad ddiogel, yn ei chyfanrwydd sydd gennym ni yng Nghymru, mewn unrhyw ffordd wedi'i chynllunio a'i datblygu i wasanaethu pobl Cymru. Hyd at 18 mis yn ôl, nid oedd gennym ni gyfleuster y tu allan i goridor yr M4. Hyd heddiw, nid oes gennym ni gyfleusterau ar gyfer menywod ac mae'r unig sefydliad troseddwyr ifanc yn rhan o'r carchar i oedolion yn y Parc. Nid yw unrhyw un o'r meysydd hynny yn ddigonol, ac nid wyf i'n fodlon ar seilwaith nac ystâd unrhyw un o'r meysydd hynny. Felly, rwyf eisiau gweld buddsoddi yn yr ystad gyfan honno i wneud pethau'n wahanol, i wneud pethau'n wahanol yn y dyfodol o'i gymharu â'r hyn a welsom yn y gorffennol, ac rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol ynghylch y trywydd y mae'r gwasanaeth prawf yn ei ddilyn.
Unwaith eto, gofynnwyd imi, 'Sut byddwn ni'n cyflawni hyn?', 'Sut byddwn ni'n gweithio er mwyn darparu gwasanaeth prawf gwahanol?' Byddwn yn gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a byddwn yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref er mwyn sicrhau bod gennym y dull o weithredu o ran plismona ac o ran yr ystad ddiogel i gyflawni ein hamcanion. Nid yw'n ddigonol—nid yw'n ddigonol—i draddodi pregeth ar y cyfansoddiad yn unig, tra bod pobl yn dioddef yn y system. Ac ni fyddaf i'n gwneud hynny. Ni fyddaf i'n gwneud hynny. Nid wyf am ddweud bod y system bresennol, y strwythurau, y cyfansoddiad, yn annigonol a'i gadael hi ar hynny yn unig. Byddaf yn torchi fy llewys ac yn gwneud popeth posibl i fuddsoddi yn nyfodol pobl sydd ar hyn o bryd yn y system cyfiawnder troseddol, ac, rwy'n credu, mai dyna mae pobl Cymru eisiau i ni ei wneud.
Ond mae'r cwestiynau a ofynnwch chi yn mynd ymhellach na hynny, ac rwy'n derbyn bod angen dull mwy cyfannol a gwahanol. Mae gwir angen inni edrych ar sut yr ydym ni'n ymdrin â chamddefnyddio sylweddau yn y system cyfiawnder troseddol. Byddwn i'n mynd ymhellach na'r hyn a awgrymwyd gan yr Aelod, yn wir, gan fy mod i'n credu bod angen i ni hefyd weld sut yr ydym ni'n ymdrin â materion iechyd meddwl ehangach yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n credu'n gryf bod angen darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pobl. Mae angen i ni edrych ar sut yr ydym ni'n darparu tai ar gyfer pobl sy'n gadael y system cyfiawnder troseddol, sy'n gadael yr ystad ddiogel. Mae angen inni edrych yn fanylach ar sut yr ydym ni'n darparu hyfforddiant, sut yr ydym ni'n darparu addysg. Mae angen i ni edrych yn galetach ar sut yr ydym ni'n darparu llwybr i bobl ddod allan o'r system cyfiawnder troseddol, allan o droseddu. A'r hyn y mae'r glasbrintiau hyn yn ei wneud yw cychwyn y daith honno a sefydlu'r fframwaith, yr egwyddorion, a fydd yn ein tywys ni ar y daith honno.
Rwy'n croesawu'r datganiad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y glasbrintiau pan gânt eu cyhoeddi. Fel pwynt cyffredinol, gwn fod y glasbrintiau hyn yn cwmpasu dau faes penodol o fenywod sy'n troseddu a phobl ifanc, ond a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod achos cryf iawn dros wneud ymdrech fawr i ostwng yn gyffredinol y boblogaeth garchar yng Nghymru? Oherwydd, yn sicr, mae'r DU yn anfon mwy o bobl i'r carchar nag unrhyw wlad arall bron, ac felly rwy'n credu bod pwynt cyffredinol yn y fan yna ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin ag ef.
Ac rwyf hefyd yn croesawu'r cynnig i gael strategaeth gosbol benodol, ac rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith fod Ysgrifennydd y Cabinet eisiau gweld y system cyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli oherwydd, fel y mae hi ar hyn o bryd, rydym ni'n cwympo rhwng dwy stôl, sy'n golygu ein bod ni'n gorfod gweithio o fewn paramedrau'r setliad datganoli presennol, ac mae hynny'n anfoddhaol iawn, gan fod agweddau ar y system cyfiawnder sy'n effeithio ar garcharorion wedi eu datganoli, ond nid felly'r agweddau holl bwysig. Felly, fe wn i fod Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud ei farn ynghylch hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef mai'r peth olaf yr ydym ni yng Nghymru ei eisiau yw carchar i fenywod. Rwyf wedi ymgyrchu ynghylch hyn ers blynyddoedd lawer, ac mae'r problemau y mae menywod a theuluoedd yn eu hwynebu yn sgil carcharu, rwy'n credu wedi'u cofnodi'n llawn ac wedi'u trafod yn y fan yma yn eithaf helaeth y prynhawn yma, felly ni wnaf i fanylu ar hynny.
Ond fe hoffwn i bwyso ychydig mwy ar Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y pum canolfan i fenywod hyn a pha un a yw'n credu mewn gwirionedd y bydd un ohonyn nhw yng Nghymru. Yn amlwg, fe fyddai angen, yn sicr, inni gael mynediad at fwy nag un yng Nghymru, ac efallai na fyddai un yn ddigon, ond beth yw hynt y trafodaethau hynny ar hyn o bryd? Oherwydd rwy'n credu bod gwir angen inni sicrhau bod gan Gymru y cyfle i gael gafael ar yr arian hwnnw sy'n dod oddi wrth y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Ond roedd yn peri pryder clywed bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cyhoeddi cyllid o £3.3 miliwn ar gyfer 12 o sefydliadau cymunedol i gefnogi menywod sy'n troseddu, ac mae'n ymddangos na fydd yr un o'r rhain yng Nghymru. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed a oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw wybodaeth am hynny, oherwydd rwyf ar ddeall fod £1.7 miliwn arall i'w ddyfarnu. Felly, yw e'n gallu dweud wrthym ni pa drafodaethau y mae wedi eu cael â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch yr arian hwn ac a yw wedi cael unrhyw arwydd y bydd sefydliadau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn elwa arno? Fe edrychais i ar y rhestr o sefydliadau a oedd wedi cael yr arian hwn yn Lloegr, ac roedd yn ymddangos bod rhai prosiectau da iawn yn cael cyllid, ac rwy'n gobeithio y bydd cyfle i edrych ar hyn yng Nghymru unwaith eto.
Rwy'n credu ein bod wedi cael—. Mae'r ddadl hon am fenywod mewn carchar yng Nghymru, menywod sy'n troseddu yng Nghymru, wedi bod yn mynd ymlaen ers talwm, ac rwy'n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd cam lle'r ydym ni'n cydnabod erbyn hyn ein bod angen ymagwedd wahanol ar gyfer menywod sy'n garcharorion. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn bwrw ymlaen i wneud yn siŵr ein bod ni'n cael canolfan breswyl yng Nghymru a'n bod yn cael gafael ar rywfaint o'r arian hwn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am ei chefnogaeth, a gwn ei bod wedi bod yn ymgyrchydd ar y materion hyn am flynyddoedd lawer ac wedi ysgogi'r ddadl ar lawer o'r materion hyn dros gyfnod sylweddol o amser.
Hoffwn ddechrau drwy gytuno ar y pwynt cyffredinol y mae hi'n ei wneud ynghylch poblogaeth y carchardai. Yn y 13 mis yr wyf i wedi bod yn swydd hon, rwyf wedi ymweld â phob un carchar yng Nghymru, ac rwyf wedi treulio amser yn siarad, nid yn unig â'r staff, er fy mod wedi gwneud hynny, a rheolwyr y sefydliadau hyn, ond rwyf hefyd wedi eistedd mewn celloedd yn siarad â'r bobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa yno ac rwyf wedi cael sawl sgwrs gyda phobl sydd wedi disgrifio eu bywydau wrthyf, a hynny weithiau mewn manylder sy'n peri gofid mawr. A'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu yw ein bod ni wedi siomi'r bobl hynny fel cymdeithas, a'r hyn yr wyf wedi ei ddysgu yw ein bod ni, fel Llywodraeth, wedi gwneud gormod o areithiau a ddim wedi cymryd digon o gamau gweithredu. Ac mae angen inni—. Rwy'n meddwl am rywun y siaradais ag ef yng Nghaerdydd yr haf diwethaf, a ddisgrifiodd i mi sut yr oedd wedi diweddu yn ôl yng ngharchar Caerdydd a beth oedd ei ddisgwyliadau ar gyfer ei fywyd yr hydref hwn yr ydym ni wedi'i dreulio yn y fan yma. Mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n meddwl amdano yn rheolaidd iawn wrth feddwl am y dull sydd gennym ni ar gyfer y polisïau hyn. Rwy'n meddwl am y sgyrsiau a gefais gyda phobl yr aethpwyd â hwy oddi wrth eu teuluoedd ac unrhyw gyfle a allai fod wedi bod ganddyn nhw i weddnewid eu bywydau wedi'i wneud yn anoddach gan sefydliadau cyhoeddus ac awdurdodau cyhoeddus na fyddant yn darparu, ac nad ydynt yn darparu, y gwasanaethau yn y modd y mae'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu ei angen a'i eisiau. Mae'r sgyrsiau a gefais gyda'r bobl hyn sy'n cael eu cadw yn yr ystad ddiogel yn ein henw ni wedi fy argyhoeddi bod angen i ni ddiwygio llawer mwy ar y system gosb a'i wneud yn llawer dyfnach nag sy'n bosibl o fewn yr amgylchiadau presennol ac o fewn y setliad presennol. A, phan fyddwn ni'n ystyried y materion hyn, problem menywod a'r ffordd yr ydym ni'n siomi menywod sy'n codi, a chredaf mai dyna fydd y prawf i bob un ohonom ni, ble bynnag yr ydym ni'n eistedd yn y Siambr hon.
Rwyf wedi'u trafod y problemau sy'n ymwneud â'r canolfannau i fenywod gyda'r Gweinidog dros droseddwyr sy'n fenywod a'r Gweinidog dros garchardai. Cyfarfûm ddiwethaf â'r Gweinidog dros garchardai tua mis yn ôl, a thrafodais y mater hwn gydag ef. Credaf fod angen o leiaf un ganolfan i fenywod yng Nghymru, ac rwy'n derbyn y pwyntiau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr am leoliad, ond hefyd nid wyf yn credu ei bod yn iawn ac yn briodol iddi gael ei rheoli gan y gwasanaeth carchardai yn unig. Credaf y byddai'n well pe byddai'n cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y pwyslais ar ddarparu gwasanaethau a bod y pwyslais ar adsefydlu, ac nid dim ond yn brofiad o gosbi. Felly, credaf fod angen inni ystyried ar frys, nid dim ond y brics a'r morter, ond y gwasanaethau a ddarperir yn y cyfleuster hwnnw a hefyd y dull o reoli'r cyfleuster hwnnw.
Fe ddywedaf hyn hefyd: rydym ni wedi canolbwyntio ar ganolfan i fenywod yn hytrach na charchar i fenywod ac mae'n iawn ac yn briodol i ni wneud hynny. Ond mae angen i ni sicrhau bod gennym ni fwy o lawer o gyfleusterau, a rhai mwy amrywiol, ar gael ar gyfer menywod, nad ydynt yn ymwneud â bod yn y ddalfa yn unig, ond yn ymwneud â darparu gwasanaethau fel bod ynadon ac eraill yn cael cyfle i basio dedfrydau nad ydyn nhw bob amser yn rhai yn y ddalfa ac sy'n rhoi cyfle i ddod â gwasanaethau at ei gilydd i sicrhau nad yw menywod a'u teuluoedd yn cael eu gwahanu, eu rhannu, a'u torri gan system a ddylai fod yno i gefnogi, meithrin a chynnal y teuluoedd hynny.
Byddaf yn rhoi sylw i'r mater yr ydych chi wedi ei godi ynghylch yr arian sydd ar gael gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder; nid oedd hynny'n rhan o'r sgwrs a gefais gyda'r Gweinidog dros garchardai fis diwethaf. Ond fe ddywedaf hyn wrth yr Aelod dros Ogledd Caerdydd: y gwerthoedd sydd wedi eich ysgogi chi, dros flynyddoedd lawer, i ymgyrchu ar y materion hyn yw'r gwerthoedd sy'n ysgogi'r Llywodraeth hon i geisio ymdrin â'r materion hyn hefyd.
Diolch i chi am eich datganiad. Fel y dywedwch, mae angen mwy o weithredu a llai o eiriau. Mae polisi cosbi wedi'i ddominyddu gan y Daily Mail am ormod o flynyddoedd, nid dim ond o dan y Lywodraeth Geidwadol, ond o dan Lywodraethau Llafur blaenorol hefyd. Felly, rydym ni'n gwybod nad yw'r system bresennol yn gweithio, oherwydd, os ydym ni'n anfon pobl i'r carchar a'u bod dim ond yn dysgu sgiliau newydd fel troseddwr ac wedyn yn cael eu dedfrydu i garchar eto, rydym ni'n gwastraffu ein hamser. Felly, mae'n rhaid i adsefydlu fod yr ysgogiad allweddol yn hyn o beth, ac rwy'n croesawu eich bwriad, ond yn amlwg rwy'n bryderus nad oes gennym ni unrhyw beth pendant o ran y ganolfan i fenywod yng Nghymru, yn arbennig o ran eich sylwadau am bobl ifanc a'r dynfa gynyddol i faes troseddu sy'n digwydd ymhlith pobl ifanc sy'n cael eu denu i'r fasnach gyffuriau drwy'r llinellau cyffuriau hyn, a materion cysylltiedig ynghylch cario cyllyll, sy'n peri pryder mawr.
Nawr, rydych chi yn llygad eich lle, mae'n ymddangos i mi, i sôn am yr angen am waith a hysbysir gan drawma gyda phobl ifanc sydd wedi cael bywydau cythryblus iawn, ond meddwl oeddwn i tybed sut ydym ni'n mynd i ddarparu'r gwasanaethau hyn pan fo gwaith ieuenctid wedi'i leihau cymaint gan flynyddoedd a blynyddoedd o gyni a'r toriadau i lywodraeth leol, ac oherwydd nad ydyn nhw'n wasanaethau statudol, yn aml maen nhw'n rhai o'r rhai cyntaf i fynd. Felly, byddwn yn canmol, yn sicr, y gwaith gwych sydd wedi'i wneud yn fy etholaeth i gan weithwyr ieuenctid i ddiogelu pobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu sugno i'r fasnach gyffuriau ac sy'n bobl y mae pobl ifanc yn barod i fynd atyn nhw. Ni fyddan nhw'n mynd at yr heddlu, oherwydd eu bod nhw'n credu y byddan nhw wedyn yn cael eu hystyried yn rhywun sy'n rhoi gwybodaeth am bobl eraill, ond mae gweithwyr ieuenctid yn gorff niwtral o bobl sy'n gwybod sut i siarad â phobl ifanc sy'n gallu dibynnu arnyn nhw i'w diogelu ac i'w cynghori. Felly, ymddengys i mi fod hon yn un o'r problemau mawr, mewn gwirionedd, eich bod yn pwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau ieuenctid sy'n cael eu llywio gan drawma, ond mae niferoedd y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw yn crebachu.
Rwy'n meddwl bod Jenny Rathbone, fel y bydd yn ei wneud yn aml iawn, wrth gwrs, wedi nodi'r brif her sy'n ein hwynebu. Rwy'n ddiolchgar i chi, Jenny, am eich cefnogaeth i'r dull yr ydym ni'n ei arddel, ond rydych chi yn llygad eich lle: cawn ein beirniadu am ein camau gweithredu ac nid ein hareithiau, ac rwyf i yn sicr yn cydnabod hynny. Ond gadewch i mi ddweud gair am y dull yr wyf i wedi'i arddel a sut yr ydym ni wedi ceisio mynd i'r afael â'r union her yr ydych chi wedi'i disgrifio y prynhawn yma. Ar hyn o bryd, mae llawer o'r anawsterau a wynebwn oherwydd bod gennym setliad sydd wedi torri, sy'n golygu nad ydym ni'n gallu darparu dull cyfannol i'r polisi.
Wrth greu bwrdd plismona Cymru, a gyfarfu am y tro cyntaf rai wythnosau yn ôl, rydym ni'n ceisio datblygu dull drwy'r heddlu a thrwy asiantaethau sy'n gweithio ochr yn ochr â'r heddlu a fydd yn trin pobl agored i niwed mewn modd na fyddai wedi bod yn bosibl ei ddychmygu 10, 20 neu 30 mlynedd yn ôl. Felly, rydym ni'n newid y ffordd yr ydym ni'n plismona llawer o'n cymunedau, ac roedd sgwrs a gefais ddoe â phrif gwnstabl a chomisiynydd heddlu a throseddu Dyfed Powys yn adlewyrchu llawer o'r mathau o sgyrsiau yr ydym ni wedi bod yn eu cael, ac rwy'n credu y bydd y bwrdd plismona yn ein galluogi i gychwyn ar y gwaith o ddwyn ynghyd, os mynnwch chi, ganghennau gwahanol o bolisi, gwahanol weithredwyr polisi, a gwahanol awdurdodau i weithio mewn ffordd fwy cydlynol ac i drin pobl agored i niwed mewn modd na allem ni fod wedi ei wneud o'r blaen.
Yna mae angen inni ddod â'r system gosbi i fod yn rhan o hynny, a'r system cyfiawnder troseddol ehangach hefyd, ac rwy'n credu y gallwn ni wneud hynny. Credaf mai'r hyn a welais i gan bobl sy'n gweithio yn y system yw ymrwymiad llwyr i'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma, ac i'r gwerthoedd sydd wedi ysgogi'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael y prynhawn yma. Felly, credaf y gallwn ni wneud hynny hefyd. Yr hyn yr wyf i wedi ceisio ei wneud ar bob achlysur yw cael cytundeb gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyda'r Swyddfa Gartref er mwyn i ni allu symud ymlaen.
Fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach, mae'r bobl hyn yn dioddef heddiw ac yn cael eu siomi heddiw. Nid yw rhoi araith ar gyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn y dyfodol yn ateb digonol i'r problemau y maen nhw'n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd. Felly, rydym ni wedi ceisio darparu dull nad yw o bosibl yn cyflawni popeth yr hoffem ni ei weld, ond mae'n dechrau cyflawni ymagwedd at gamau ataliol a fydd yn cael effaith yn y dyfodol.
Ond gadewch i mi ddweud hyn, i gloi: rwy'n credu bod enghreifftiau ledled y byd o Lywodraethau sydd wedi llwyddo i gyflawni camau gweithredu ataliol, gwirioneddol sydd wedi ymdrin â phobl sy'n agored i niwed a theuluoedd sy'n agored i niwed a chymunedau sy'n agored i niwed. Rwy'n credu bod gennym ni lawer i'w ddysgu gan y Llywodraethau hynny a'r dulliau gweithredu hynny. Rwy'n credu bod y dulliau yr ydym ni wedi bod yn eu harddel o ran rhai o'r mentrau yr ydym ni wedi eu gweithredu mewn llywodraeth leol ac mewn mannau eraill yn dechrau dod o hyd i ffordd tuag at fynd i'r afael â'r materion hynny. Ond yr hyn yr wyf am ei ddweud yw—y dylai egwyddorion cyfiawnder fod yn rhan o'n holl waith fel Llywodraeth, oherwydd yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei weld yw nad yw'r bobl sydd, fel y dywedwch chi, yn yr amgylchedd llinellau cyffuriau, yno oherwydd eu bod eisiau troseddu. Nid ydyn nhw yno oherwydd eu bod eisiau cymryd a delio mewn cyffuriau. Ond maen nhw yno oherwydd eu bod nhw wedi'u siomi ac oherwydd nad ydyn nhw'n gweld unrhyw ddewis arall yn hytrach na gwneud hynny. Creu'r dewisiadau hynny yw ein her ni a'r hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud, ac rwy'n credu, fel Llywodraeth yma yng Nghymru, y gallwn ni wneud hynny.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.