6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru

– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 9 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:14, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i wneud y cynnig—Russell George.

Cynnig NDM6907 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Cyflwr y Ffyrdd yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Dangoswyd cyflwyniad clyweledol i gyd-fynd â’r drafodaeth.

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:15, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae cyflwr y ffyrdd yng Nghymru yn fater o bwys mawr i bob un ohonom. Pa un a fyddwn yn gyrru, yn seiclo, neu'n mynd ar y bws, mae pawb ohonom yn defnyddio'r ffyrdd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Caiff y pethau bob dydd sy'n ein cynnal, yn cynnwys llawer o'n bwyd, eu cludo ar hyd y ffyrdd wrth gwrs.

Yn ychwanegol at ei bwysigrwydd i ni i gyd fel rhan o'n bywydau, mae'r rhwydwaith ffyrdd hefyd yn un o asedau mwyaf y wlad, sy'n werth oddeutu £13.5 biliwn, ac yn ymestyn dros 21,000 milltir. Mae ein hymchwiliad wedi edrych yn fanwl ar sut rydym yn cynnal ein ffyrdd, sut rydym yn eu gwella, ac a yw'r modd y gwneir hynny yn ateb y disgwyliadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod iddi ei hun yn y deddfau y mae wedi eu pasio.

Roedd aelodau'r pwyllgor yn ymwybodol o faint o siarad a wneir gan y cyhoedd am gyflwr ein ffyrdd, felly roeddem yn awyddus i alluogi pobl i gyfrannu at ein gwaith. Felly, cynhaliwyd cystadleuaeth ffotograffig i annog pobl o bob rhan o Gymru i gyflwyno lluniau sy'n cynrychioli'r rhwydwaith. Mae'r lluniau a ddaeth i law i'w gweld ar y sgriniau yma yn y Siambr, ac roeddent yn cynnwys amrywiaeth eang—rhai'n ddoniol, rhai tirweddau ysgubol a rhai enghreifftiau o darmac yn llawn o dyllau.

Bydd y Gweinidog yn cofio ei fod wedi derbyn llawer, ond nid pob un, o'n hargymhellion. Un o'r agweddau sobreiddiol ar yr ymchwiliad hwn yw cymaint o'r materion a godwyd mewn astudiaethau blaenorol sy'n parhau i fod yn anodd. Ceir consensws aruthrol y byddai cyllid hirdymor ar gyfer llywodraeth leol ac asiantaethau cefnffyrdd yn arwain at welliannau, ac eto rydym yn dal yn sownd mewn cylch blynyddol. Ddeuddeg mis yn ôl, mewn datganiad ar ddyfodol Trafnidiaeth Cymru, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd ei fod:

wedi ymrwymo i raglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf trafnidiaeth drwy Trafnidiaeth Cymru.

Honnodd y byddai hyn yn arwain at 15 i 20 y cant o arbedion effeithlonrwydd.

Argymhellodd y pwyllgor fod y model ariannu pum mlynedd a oedd yn cael ei gymhwyso ar gyfer Trafnidiaeth Cymru—neu'n hytrach, sy'n cael ei gymhwyso—hefyd yn gymwys ar gyfer awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae'r Llywodraeth wedi gwrthod yr alwad honno. Er ei bod yn dweud ei bod yn cydymdeimlo â galwadau o'r fath, mae'r ymateb ffurfiol yn nodi nifer o resymau pam y mae hyn yn anodd ar hyn o bryd. Mae'n cyfeirio at y ffaith bod awdurdodau lleol yn cael cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, nid Llywodraeth Cymru'n unig. Mae hefyd yn nodi ansicrwydd ynghylch adolygiad o wariant arfaethedig Llywodraeth y DU, ynghyd â'r cyni ariannol a Brexit. Er ei bod yn ymrwymo i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu

'gwybodaeth fynegol... i lywio blaengynllunio ariannol', nid yw'n glir sut y mae'r ansicrwydd hwn ynglŷn ag ariannu'n effeithio ar y rhaglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf a addawyd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, felly rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu egluro pam y mae'r ddau gorff yn gweld dulliau mor wahanol o weithredu.

Os oes un peth allweddol yn deillio o'n hadroddiad—un argymhelliad a ystyriwyd yn fanwl gennym—argymhelliad 12 yw hwnnw:

'Dylai’r strategaeth arfaethedig, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, bennu blaenoriaeth glir ar gyfer cynnal y rhwydwaith ffyrdd presennol,

prif-ffrydio ac uwchraddio’r seilwaith teithio llesol, a blaenoriaethu mynediad, yn

hytrach nag adeiladu ffyrdd newydd.'

Rwy'n siomedig fod y Llywodraeth wedi gwrthod yr argymhelliad hwn.

Nawr, gwyddom fod arian yn dynn, a gwyddom fod pwysau ar y rhwydwaith presennol a straen ar y gost o'i gynnal, ond rydym hefyd yn gwybod y bydd buddsoddi a chynnal a chadw yn arbed arian yn fwy hirdymor. Mae'r pwyllgor a'r Gweinidog wedi dangos yr angen am fwy o wariant ar seilwaith teithio llesol. Mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd hyn yn bosibl ar unrhyw raddfa heb ail-flaenoriaethu'r gwariant o fewn y gyllideb drafnidiaeth. Yn ogystal â'r rhesymau ariannol hyn, mae pwysau o du Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i ystyried effeithiau ehangach buddsoddi. Mae rhagor o ffyrdd yn golygu rhagor o draffig, a rhagor o lygredd.

Dylwn egluro bod gennyf—mae fy safbwyntiau a barn y pwyllgor—. Nid wyf yn dweud y dylem beidio ag adeiladu ffyrdd newydd. Nid dyna rydym yn ei ddweud o gwbl—dim o gwbl. Rydym ar fin gweld ffordd osgoi'r Drenewydd yn fy etholaeth yn cael ei hagor—prosiect seilwaith enfawr mawr ei angen ers llawer iawn o flynyddoedd. Ceir achosion lle y mae angen symud ffyrdd, neu lle y byddai mynd i'r afael â mannau cyfyng yn ateb gorau posibl. Felly, mae ein hargymhelliad yn ymwneud â ffocws ar y gweithgareddau eraill, yn hytrach na dweud, 'Peidiwch ag adeiladu ffyrdd newydd'. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:20, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am ildio, Russell. Mae'n bwynt pwysig, yn enwedig mewn perthynas â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, y cyfeiriodd ati. Pan gafodd ei phasio yn 2013, soniai am wneud cerdded a beicio y ffordd fwyaf naturiol o symud o gwmpas yng Nghymru ond wrth gwrs, pan wneir gwaith ffordd ar seilwaith ffyrdd sy'n bodoli'n barod, yn aml iawn gwyddom mai'r cerddwyr a'r beicwyr yw'r rhai sy'n cael eu hanghofio, y rhai sy'n wynebu'r anghyfleustra mwyaf. Y llwybrau beicio sy'n tueddu i gael eu defnyddio fel y gorlif o'r gwaith ffordd a chânt eu blocio—nid oes gwyriad, na dewisiadau eraill i gymryd eu lle. Er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir ei bod am i hynny ddigwydd, nid yw i'w weld yn digwydd. A chredaf mai un o'r—. Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod a edrychodd y pwyllgor ar yr agwedd hon i weld a wnaeth y canllawiau darparu ar gyfer y canllawiau cynllunio o dan y Ddeddf fynd ati'n briodol i ddatrys y mater hwn oherwydd, yn sicr, os ydym yn ceisio hybu teithio llesol a gwneud hon y wlad fwyaf naturiol i gerdded a beicio ynddi, pan fyddwn yn gwneud unrhyw waith ffordd, ar ffyrdd newydd neu hen, rydym am wneud yn siŵr fod y lonydd beicio a'r llwybrau cerdded yn dal yno, ac nad ydym yn gwthio pobl allan i ganol traffig neu i mewn i gae.

Photo of Russell George Russell George Conservative 4:21, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, fel mae'n digwydd, fe edrychwyd ar hynny mewn gwaith arall a wnaethom y llynedd mewn perthynas â theithio llesol. Fe gynaliasom ein harolwg ein hunain o ddefnyddwyr a oedd yn gofyn, 'Beth sy'n eich rhwystro rhag beicio neu ddefnyddio llwybrau?' ac yn wir, cyflwr y ffyrdd oedd yr ateb. Ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydych yn ei ddweud, felly rwy'n cytuno gyda'r pwynt hwnnw; credaf ei fod yn bwynt da.

Gwnaeth y pwyllgor nifer o argymhellion rwy'n falch o ddweud eu bod wedi'u derbyn, ac mae'r rhain yn cynnwys ymchwilio i'r posibilrwydd o apiau i ddarparu adborth amser real ar gyflwr ffyrdd, gwella tryloywder ac argaeledd cynlluniau rheoli asedau priffyrdd, creu panel o arbenigwyr i roi cyngor ar arferion gorau ym maes atgyweirio ffyrdd, a chyfyngu ar nifer yr achosion lle y gallai fod yn ddoeth i ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol o ariannu cyhoeddus-preifat. Ar y nodyn olaf, ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ataf yn gynharach yr wythnos hon yn ymateb i'n pryderon am y model buddsoddi cydfuddiannol, ac roeddwn yn falch o ddarllen y byddant yn gwneud gwaith ehangach ar gyllid cyfalaf yn ystod y flwyddyn i ddod i ystyried y materion hyn.

Rwy'n rhagweld llawer o gyfraniadau heddiw, gan y bydd llawer ohonom wedi cael negeseuon e-bost a llythyrau ynglŷn â chyflwr y ffyrdd yn ein rhanbarthau a'n hetholaethau, felly edrychaf ymlaen at glywed yr hyn sydd gan eraill i'w ddweud y prynhawn yma.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 4:22, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Yng Nghymru, mae gennym ychydig o dan 35,000 km o ffyrdd. Mae teithiau'r rhan fwyaf o bobl yn cynnwys y defnydd o'r rhwydwaith ffyrdd, ffigur sydd wedi bod yn sefydlog ers i gofnodion ddechrau yn y 1950au. Rydym hefyd yn dibynnu ar y ffyrdd ar gyfer cludo cyfran uchel o'n nwyddau domestig. Ledled y DU, mae gwefan 'Fill that Hole' Cycling UK yn rhoi gwybod am 13,500 o dyllau ffordd ar gyfartaledd bob blwyddyn. Mae'r ddau ystadegyn yn dangos maint yr her sy'n ein hwynebu, ac maent hefyd yn dangos bod cyflwr ein ffyrdd yn bwnc sy'n peri pryder i lawer o ddinasyddion Cymru, pwynt y mae Cadeirydd ein pwyllgor, Russell George, wedi'i nodi eisoes.

Ar gyfer fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar dri argymhelliad yn benodol, ac mae'n siomedig fod pob un o'r rhain wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru. Felly, buaswn yn gobeithio y gallai'r Gweinidog edrych yn ei ymateb ar sut y gellid ystyried y dystiolaeth a gawsom. Yn gyntaf, argymhelliad 3: nawr, roedd a wnelo hwn â chymell awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw. Yn fy awdurdod lleol i yn Rhondda Cynon Taf, cymeradwywyd cynlluniau yn ddiweddar i fuddsoddi £23.5 miliwn pellach dros y tair blynedd nesaf. Mae ffocws cyson ar wella'r rhwydwaith priffyrdd yn golygu, ers 2011-12, fod canran y ffyrdd dosbarthiadol sydd angen sylw yno wedi gostwng ddwy ran o dair.

Hoffwn ganmol y cyngor am eu gwaith caled yn gwella'r rhwydwaith ffyrdd, sydd wedi arwain at gwblhau dros 1,000 o gynlluniau lonydd cerbydau. Rwy'n croesawu arian sylweddol Llywodraeth Cymru i gynghorau lleol dros gyfnod o bedair blynedd ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio y gallai'r Gweinidog amlinellu'r modd y bydd yn gweithio gyda chynghorau i sicrhau bod hyn yn dal yn flaenoriaeth. Rwy'n ymwybodol iawn mai un peth yw fod preswylwyr un awdurdod yn cael ffyrdd sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda, ond beth os ydynt yn teithio i awdurdod arall lle y mae'r sefyllfa'n wahanol iawn? Efallai mai cynnal a chadw ffyrdd mewn un awdurdod yw'r gwasanaeth a allai effeithio fwyaf ar drigolion sy'n byw mewn awdurdod arall. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mabwysiadu ymagwedd gydgysylltiedig tuag at y mater hwn.

Yn ail, argymhelliad 4: nawr, mae hwn yn ymwneud ag edrych ar fodel pum mlynedd o gymorth ar gyfer cynghorau. Yr hyn sy'n allweddol yma yw'r capasiti ar gyfer cynllunio hirdymor ar bob lefel. Rwy'n derbyn rhesymeg y Gweinidog ac yn nodi, lle y bo'n bosibl, fod cyllid wedi'i ddarparu ar sail fwy hirdymor. Er enghraifft, cyfeiriais at y gronfa £60 miliwn ar gyfer tyllau yn y ffyrdd a ddyrannwyd i awdurdodau dros dair blynedd. Soniais y gall cynghorau wneud cynlluniau hirdymor, fel yn achos Rhondda Cynon Taf a'i fodel tair blynedd.

Credaf fod yr ymateb mwy cadarnhaol i argymhelliad 6 yn mynd i'r afael â rhai o'n pryderon. Gyda phwysau parhaus y cyni ariannol, mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau hirdymor cywir sy'n darparu'r atebion hirdymor cywir. Mae hynny'n well nag atebion byrdymor cyflym, sydd ond yn arwain at gost bellach yn y pen draw. Edrychaf ymlaen at gyhoeddi'r cynllun cynnal a chadw pum mlynedd y cyfeiriwyd ato maes o law.

Yn olaf, argymhelliad 8: yn ei hanfod, mae hwn yn ymwneud ag eglurder a blaenoriaethu gwelliannau i'r seilwaith ffyrdd, ac egluro, pan fo amserlenni'n llithro, pam fod hynny'n digwydd. Credaf fod hyn yn hanfodol bwysig. Un o'r pethau sydd wedi achosi fwyaf o rwystredigaeth i fy etholwyr fu'r oedi cyn cwblhau'r gwaith deuoli ar yr A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhwng y Fenni a Hirwaun. Nawr, nodwyd yr angen am welliannau i'r darn o ffordd tair lôn peryglus hwnnw bron i dri degawd yn ôl. Mae'r llithriant yn y ffrâm amser ar y prosiect hwn a addawyd ers cyhyd, yn aml heb atebion clir ynglŷn â pham neu pa bryd, wedi gadael blas chwerw. Buaswn yn dweud nad yw'n gyd-ddigwyddiad fod fy mhlaid wedi cael trafferth cadw sedd y cyngor yn ward Hirwaun, un o ddwy sedd yn unig rydym wedi methu eu cadw yng Nghwm Cynon.

Yn yr un modd, beth bynnag yw barn yr Aelodau ar ffordd liniaru'r M4, nid yw cwestiynau ynglŷn â'r amserlen yno wedi bod o fudd i neb. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig nodi efallai nad yw'r ymdeimlad o rwystredigaeth yn ymwneud yn unig â phrosiectau adnewyddu ffyrdd. Mae hefyd yn effeithio ar welliannau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad i weld a ellid darparu mwy o eglurder ynghylch y camau datblygu o fewn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol. Rwy'n gobeithio y gellir gwneud hyn mor glir ag y bo modd fel bod yr holl wleidyddion a'r cymunedau rydym yn eu cynrychioli yn cael yr wybodaeth gywir. Diolch.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 4:28, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cyfle i siarad am adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyflwr y ffyrdd yng Nghymru. A gaf fi ddechrau fy sylwadau y prynhawn yma drwy dalu teyrnged i fy rhagflaenydd ar y pwyllgor, Mark Isherwood, am ei holl waith yn helpu i gynhyrchu'r adroddiad gwerthfawr hwn? Mae cyflwr y ffyrdd yng Nghymru yn bwnc hollbwysig sy'n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru. Mae pawb ohonom yn defnyddio'r ffyrdd fel gyrwyr neu deithwyr, at ddibenion hamdden neu waith neu'n syml er mwyn bwrw ymlaen â'n bywydau bob dydd.

Mae ffyrdd yn hanfodol ar gyfer economi Cymru. Nododd y Ffederasiwn Busnesau Bach fod eu haelodau'n aml yn cwyno bod cyflwr ein ffyrdd yn gwaethygu a bod tagfeydd yn llesteirio eu busnesau. Aethant ymlaen i ddweud, pan gawsant eu holi, mai blaenoriaeth y rhan fwyaf o fusnesau ar gyfer buddsoddi oedd y seilwaith trafnidiaeth. Dangosodd arolwg yn 2014 fod dros 60 y cant o aelodau'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi dweud bod gwaith ffordd, tagfeydd a chyflwr y ffyrdd yn cael effaith negyddol ar eu busnesau. Yn 2016, awgrymodd arolwg arall fod tagfeydd a chyflwr y ffyrdd lleol, yn hytrach na'r rhwydwaith cefnffyrdd strategol, yn peri pryder sylweddol.

Awdurdodau lleol yn hytrach na Llywodraeth Cymru sy'n edrych ar ôl ffyrdd lleol wrth gwrs. Yn wir, dengys data a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun fod cyflwr ffyrdd lleol yn sylweddol waeth na'r cefnffyrdd neu'r traffyrdd. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod y broblem o gynnal a chadw ffyrdd lleol wedi'i gwaethygu gan doriadau yng nghyllid awdurdodau lleol. Roedd llawer o'r ymatebion i'r pwyllgor yn dweud yn glir y byddai ffyrdd lleol yn dirywio os na châi lefelau ariannu eu cynnal. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaed ym mis Chwefror y llynedd o £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gwelliannau i ffyrdd lleol, ond rhan bitw iawn o'r swm sydd ei angen yw hwn. Mae cyngor dinas Abertawe, er enghraifft, yn amcangyfrif bod cost ei ôl-groniad o waith atgyweirio yn £54 miliwn. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod angen dull mwy hirdymor o weithredu mewn perthynas ag arian ar gyfer ffyrdd lleol na'r hyn a gynigir gan system bresennol y setliad blynyddol. Mae'n siomedig nodi, felly, fod y ddau argymhelliad a wnaed ynghylch cyllido wedi'u gwrthod gan Lywodraeth Cymru, ac eto ceir cynsail ar gyfer cytundeb mwy hirdymor. Mae Trafnidiaeth Cymru eisoes yn elwa o raglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf. Os gall Trafnidiaeth Cymru gael sicrwydd o gyllid fel hyn, pam na all awdurdodau lleol elwa hefyd?

Yn yr hinsawdd ariannol bresennol, mae cyllidebau awdurdodau lleol dan bwysau difrifol. Mae'n annhebygol y byddant yn gallu dod o hyd i'r arian ychwanegol sylweddol y mae cynnal a chadw'r seilwaith yn galw amdano. Mae angen dod o hyd i ffyrdd arloesol o gymell awdurdodau lleol i fuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw hanfodol. Gofynnaf i Lywodraeth Cymru ailystyried ei phenderfyniad i wrthod y ddau argymhelliad.

Ddirprwy Lywydd, nid yw'n ddigon inni gysuro'n hunain â'r casgliad nad yw cyflwr ffyrdd Cymru'n waeth na ffyrdd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Er y gallai hynny fod yn wir, mae'r mater yn llawer rhy bwysig inni fod yn hunanfodlon. Rhaid inni wynebu'r her y mae cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru yn ei chreu. Credaf fod yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn gwneud hynny a byddent yn gwella ein rhwydwaith ffyrdd yn sylweddol er budd pawb. Gan fod y Dirprwy Weinidog yn arfer bod yn un o aelodau'r pwyllgor a gymeradwyodd yr argymhellion hynny, rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn edrych yn gydymdeimladol ar hyn, ac rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r Cynulliad. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:32, 9 Ionawr 2019

Gwnaf i siarad yn fyr iawn. Nid oeddwn i’n Aelod o’r pwyllgor a wnaeth y gwaith ymchwil yma. Yn rhyfedd, mi oedd yna rywfaint o gellwair pan gafodd y gystadleuaeth yna ei lansio i bobl anfon lluniau o dyllau mewn ffyrdd i mewn—rhai yn amau difrifoldeb hynny. Ond, wir, mi oedd o’n gam defnyddiol, a beth a ddangoswyd yn ymateb pobl oedd cymaint y mae hyn yn cyffwrdd â bywydau pobl lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Ein ffyrdd ni, wedi’r cyfan, ydy un o’n hasedau mwyaf ni, gwerth dros £13 biliwn, ac mae pob un ohonom ni, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn defnyddio’r ffyrdd, ac mae pob un ohonom ni—mi fentraf i ddweud—rhyw dro neu'i gilydd wedi dod ar draws twll mewn ffordd, ac mi oedd hi yn, rydw i’n meddwl, yn exercise defnyddiol iawn mewn ymgysylltiad go iawn rhwng ein Senedd genedlaethol ni a phobl Cymru ar bwnc a oedd yn wirioneddol bwysig iddyn nhw.

Ac nid oedd yna ddim gwobrau, nid ydw i’n meddwl, am ddyfalu beth fyddai rhai o gasgliadau’r ymchwiliad yma, neu beth fyddai rhai o’r argymhellion a fyddai’n dod yn sgil y casgliadau hynny, ond mi oedd hi’n bwysig iawn, iawn, iawn eu bod nhw’n cael eu nodi mewn du a gwyn, ac rydw i’n falch bod yr adroddiad yma gennym ni. Nid oedd hi’n ddim syndod gweld, drwy’r adroddiad yma, fod arian yn rhy dynn ar lywodraeth leol yng Nghymru, fel y mae hi, iddyn nhw heb gymorth ychwanegol fynd i’r afael â’r broblem yma; nid oedd hi’n ddim syndod gweld bod angen cynllun cyllido hirdymor, fel mae elfennau eraill o’n rhwydwaith trafnidiaeth ni’n ei dderbyn; nid oedd hi’n ddim syndod gweld bod rheoli hirdymor a sicrhau bod yr ased yma’n cael ei gynnal a’i gadw yn y cyflwr gorau yn y hirdymor yn fwy cost effeithiol nag ymateb i broblemau fel ag y maen nhw’n codi, ac mae gennym ni argymhellion rŵan yr ydw i’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gweithredu arnyn nhw.

Ond nid oes dim celu'r ffaith bod yna broblem ariannol ddybryd wrth wraidd y sefyllfa yma. Mae arolwg ALARM, sydd wedi cael ei dynnu i’n sylw i heddiw, yn awgrymu bod awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwario 40 y cant yn llai nag awdurdodau lleol yn Lloegr ar drwsio ffyrdd yn 2018. Nid ydy hynny’n gynaliadwy. Rydw i'n deall yn fy etholaeth i fod yr arian sydd ar gael ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd wedi bron haneru mewn cyfnod o ryw 10 mlynedd. Nid ydy hynny’n gynaliadwy. Rydw i'n gweld un awdurdod yn sôn am ôl-groniad o £50 miliwn ar gyfer trwsio ffyrdd. Mae ystadegau Abertawe eto wedi cael eu tynnu i’m sylw i heddiw.

Ac mae sefyllfa’n gallu gwaethygu dros amser hefyd. Rydw i wedi cael achos yn fy etholaeth i yn ddiweddar lle mae newid mewn arferion amaethyddol, cerbydau trymach yn cael eu defnyddio ar ffyrdd gwledig, yn gwaethygu ac yn creu problemau o’r newydd ar gyfer ffyrdd gwledig, a hynny’n achosi costau ychwanegol maes o law. Felly, nid ydy hon yn broblem sy’n mynd i ffwrdd, mae’n broblem, ac mae’n rhaid inni ei chymryd hi o ddifri.

All rhywun ddim anwybyddu’r ffaith bod yna, ar y gweill yng Nghymru ar hyn o bryd, gynlluniau ffyrdd gwerth hyd at, beth, £2 biliwn a allai fod yn digwydd ar gyfer un cynllun, a chynlluniau sylweddol eraill gwerth degau, cannoedd o filiynau o bunnau. Mae’n rhaid gwarchod yr ased sylfaenol. Mae'n rhaid gwarchod yr ased sylfaenol. Ac mae’n rhaid rhoi cynlluniau gwariant hirdymor—pum mlynedd ydy’r awgrym yn yr adroddiad yma, ac rydw i’n cyd-fynd â hynny—cynlluniau cyllidol hirdymor er mwyn sicrhau bod ein hawdurdodau lleol ni’n gallu rhoi rhaglenni mewn lle er mwyn gwarchod yr ased yna ar gyfer yr hirdymor. Ac rydw i'n falch iawn bod yr adroddiad yma wedi cael ei wneud, beth bynnag am y cellwair ynglŷn â’r gystadleuaeth ffotograffiaeth ar ei dechrau hi.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:37, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, i adleisio rhai o eiriau Rhun ap Iorwerth, yn ystod ein sesiynau tystiolaeth ar gyflwr y ffyrdd yng Nghymru, roedd llawer o randdeiliaid, os nad y cyfan, yn bendant fod angen cynllunio strategol hwy, ac ni ellid cyflawni hyn heblaw drwy gynigion cyllideb hirdymor gan Lywodraeth Cymru, ac roedd y rhan fwyaf yn argymell cyfnod o bum mlynedd fan lleiaf. Mae'n drueni, felly, fod argymhelliad 4 yn ein hadroddiad wedi'i wrthod gan Weinidog y Cabinet. Er y rhoddir esboniad pam y caiff ei wrthod, oni ddylai'r Llywodraeth gydnabod bod atebion byrdymor i'r rhwydwaith ffyrdd yn llawer mwy costus dros amser na phrosiectau wedi'u cynllunio'n dda dros y tymor canolig i'r tymor hir? Felly, ymddengys yn rhyfedd eich bod yn derbyn argymhelliad 6, sydd, unwaith eto, yn galw am gynllunio hirdymor, er bod y penderfyniad hwn i'w dderbyn i'w weld yn seiliedig ar ddeunyddiau metlin gwell, sy'n para'n hwy.

Gan mai cyfyngiadau ariannol yw'r prif achos dros anallu'r Llywodraeth i hwyluso cyllidebau hirdymor, a ddylai cyfyngiadau o'r fath fod yn ffactor sylfaenol yn nhrafodaethau Gweinidog Cabinet ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4? Yn sicr byddai rhyddhau'r swm cyfalaf enfawr a ragwelir ar gyfer y ffordd osgoi yn lleddfu'r holl gyfyngiadau a amlinellir yn eich penderfyniad i wrthod yr awgrymiadau a geir yn argymhelliad 4 y pwyllgor.

Gan droi at benderfyniad y Llywodraeth i wrthod argymhelliad 12, lle roeddem yn gofyn am roi blaenoriaeth glir i'r gwaith o gynnal a chadw ffyrdd presennol, a gwella'r rhwydwaith teithio llesol, mae eich penderfyniad i wrthod yn datgan yn syml mai'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol sy'n pennu'r rhaglen fuddsoddi, nid strategaeth drafnidiaeth Cymru. Fodd bynnag, a yw'n ymdrin ag egwyddor sylfaenol ein hargymhelliad, sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn o flaenoriaethu, o gofio bod y strategaeth a'r cynllun cyllid ill dau'n rhan o gylch gorchwyl Llywodraeth Cymru?

I gloi, y ddau beth sylfaenol a ganfu ein hymchwiliad yw fod safon cefnffyrdd Cymru yn dda at ei gilydd a'u bod yn cael eu huwchraddio mewn modd amserol a chosteffeithiol. Fodd bynnag, ni ellir dweud yr un peth am y rhwydwaith ffyrdd a weinyddir gan awdurdodau lleol, ac mai'r rheswm am hyn yn bennaf yw cyfyngiadau ariannol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru felly i unioni'r anghydbwysedd hwn fel bod y rheini sy'n defnyddio'r rhwydwaith yng Nghymru yn gweld bod yr holl ffyrdd yn cael eu cynnal i safon ardderchog a diogel.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:39, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Un maes yr hoffwn ganolbwyntio'n benodol arno yw llifogydd dŵr wyneb, a phan ddaeth y dystiolaeth i law, soniodd Prifysgol Leeds am newid yn yr hinsawdd yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, ac yn arbennig, y cynnydd mewn glaw trwm, sydd, yn ei dro, yn cynyddu llifogydd. Nodaf fod systemau draenio cynaliadwy ar gyfer eiddo newydd wedi dod i rym yr wythnos hon. Fodd bynnag, rhaid i ymdrin â pherygl llifogydd a sglefrio, sy'n gallu bod yn angheuol o ran ei ganlyniadau, gael ei gynnwys mewn amserlenni adeiladu a chynnal a chadw ffyrdd, boed yn waith a wneir gan lywodraeth leol neu gyrff priffyrdd eraill. Edrychaf ymlaen at ei weld yn cael ei gynnwys yn y cynllun cynnal a chadw pum mlynedd.

Rwy'n croesawu'r arian ychwanegol sydd wedi dod i lywodraeth leol, yn enwedig ar gyfer datrys y broblem hon mewn ymateb i'w hanghenion, ond fe fyddaf yn parhau i ddadlau'n gyson ynglŷn â llifogydd dŵr wyneb, oherwydd gall canlyniad llifogydd o'r fath fod yn gwbl angheuol.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:41, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiad. Cyflwr ein ffyrdd yw un o'r cwynion cyson a gaf fel Aelod Cynulliad. Bydd y sawl sy'n defnyddio unrhyw un o'r 21,000 milltir o ffyrdd yng Nghymru yn dweud wrthych fod llawer o'r ffyrdd hyn mewn cyflwr gwael. Mae osgoi tyllau yn y ffyrdd wedi dod yn rhan o batrwm ein teithiau cymudo dyddiol.

Yn ôl Asphalt Industry Alliance, bydd yn cymryd dros 24 mlynedd a mwy na £0.5 biliwn i sicrhau bod ffyrdd Cymru'n cyrraedd y safon. Mae gennym ôl-groniad enfawr o waith atgyweirio ffyrdd, sydd hefyd wedi arwain at gynnydd mewn taliadau iawndal ac yswiriant oherwydd difrod ac anafiadau a achoswyd gan dyllau yn y ffyrdd. Tyllau yn y ffyrdd yw un o brif achosion damweiniau car ar ein ffyrdd ac maent yn gyfrifol am beri marwolaeth neu anaf difrifol i lawer o feicwyr bob blwyddyn. Mae toriadau awdurdodau lleol ac un neu ddau o aeafau caled wedi cyfrannu at gynnydd sydyn yn nifer y tyllau yn y ffyrdd sy'n bla ar ein priffyrdd a'n cilffyrdd. Heb fuddsoddiad ychwanegol a blaengynllunio, bydd ein ffyrdd yn dirywio llawer mwy, ymhell y tu hwnt i'r gallu i ddarparu atgyweiriad cyflym. Gall tyllau yn y ffyrdd sy'n cael eu hatgyweirio'n wael wneud y sefyllfa'n waeth o lawer, gan fod halen ffordd a dŵr is na'r rhewbwynt yn ystod misoedd y gaeaf yn difetha'r gwaith atgyweirio, gan arwain at dwll sydd hyd yn oed yn fwy.

Mae'r proffwydi tywydd yn rhagweld gaeaf caled arall eto a fydd yn difetha cyflwr ein rhwydwaith ffyrdd ymhellach. Felly, rwy'n croesawu argymhellion Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ac yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu derbyn pob un ohonynt. Y ffyrdd sydd yn y cyflwr gwaethaf yw ein ffyrdd lleol—cyfrifoldeb y 22 cyngor yng Nghymru—ac eto mae Llywodraeth Cymru yn gwrthod sicrhau arian wedi'i glustnodi ar gyfer ein ffyrdd neu i sicrhau ein bod yn symud oddi wrth gyllidebu o flwyddyn i flwyddyn i gynlluniau buddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n fwy strategol. Yr agwedd gibddall hon sydd wedi ein harwain i lle'r ydym heddiw, lle y gadewir i ffyrdd ddirywio bron hyd nes na ellir eu defnyddio, yna eu hatgyweirio'n frysiog a ffwrdd â hi a'u gadael i ddirywio ymhellach cyn gosod wyneb newydd arnynt yn y pen draw.

Mae angen inni symud oddi wrth yr ymagwedd adweithiol hon a mabwysiadu ymagwedd fwy strategol tuag at ein seilwaith cenedlaethol. Mae gwir angen rhaglen wedi'i chynllunio a'i hariannu'n briodol ar gyfer atgyweirio a gosod wyneb newydd ar ffyrdd. Mae angen inni edrych hefyd ar ffyrdd y gall technoleg helpu i fynd i'r afael â phroblem tyllau yn y ffyrdd. Mae peiriannau newydd a datblygiadau newydd ym maes cyfryngau bondio yn golygu y gall gwaith atgyweirio bara mwy na wyneb gwreiddiol y ffordd. Mae datblygiadau newydd ym maes gwyddor deunyddiau wyneb ffyrdd wedi arwain at greu ffyrdd sy'n gwella'u hunain, sy'n cael eu hadeiladu yn yr Iseldiroedd a Tsieina.

Mae angen inni sicrhau bod ein ffyrdd, asgwrn cefn ein heconomi, yn addas ar gyfer y dyfodol drwy sicrhau ein bod yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf, a fydd yn sicr o arwain at arbedion ariannol yn y dyfodol yn ogystal â lleihau nifer y damweiniau, y marwolaethau a'r anafiadau difrifol sy'n digwydd ar ffyrdd Cymru. Gyda'r pwyntiau hyn mewn cof, rwy'n annog y Gweinidog i ailystyried ei wrthwynebiad i argymhellion 3 a 4. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:45, 9 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf allu ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am eu gwaith caled. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd y pwyllgor am ddarparu'r elfennau gweledol ategol i'r ddadl heddiw. Nid oeddwn wedi sylweddoli bod y gystadleuaeth ffotograffig wedi denu unrhyw wawd; rwy'n credu o ddifrif ei bod hi'n ffordd wirioneddol arloesol o ddenu diddordeb ymhlith y bobl a wasanaethir gennym yn y gwaith a wnawn, a hoffwn longyfarch y pwyllgor am benderfynu cynnal y gystadleuaeth honno.

Ddirprwy Lywydd, rwyf bob amser wedi dweud yn glir iawn, drwy gydol fy amser yn y swydd, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i system drafnidiaeth integredig, garbon isel ac amlfodd safonol a all gefnogi ein cymunedau, ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ar hyd a lled Cymru. Gwn mai canfyddiad y cyhoedd o bosibl yw fod Llywodraeth Cymru yn llawn o beirianwyr ffyrdd sydd ond eisiau adeiladu ffyrdd newydd—clywais y jôc lawer gwaith o'r blaen—ond nid yw'n wir. Edrychwch ar yr hyn a gyflwynwyd gennym fel Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf. Cynigion ar gyfer gwasanaeth rheilffordd newydd gwerth £5 biliwn, cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer metros yn y gogledd ac yn y de, cynnydd mawr yn y buddsoddiad ar gyfer teithio llesol, ac mae Papur Gwyn newydd pwysig ar drafnidiaeth gyhoeddus sy'n argymell newidiadau uchelgeisiol i'n sectorau bysiau a thacsis yn profi'r pwynt hwnnw yn fy marn i.

Ond sut bynnag y bydd pethau yn y dyfodol, mae cael rhwydwaith ffyrdd dibynadwy sy'n cael ei gynnal yn dda ac sy'n gallu gwasanaethu'r cymunedau a'r economïau rhanbarthol y soniais amdanynt yn rhan hanfodol o'r hafaliad. Ar dros 1,700 km o hyd, mae'r rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr, ac yn werth tua £16 biliwn. Drwy wella cysylltedd a hybu gweithgarwch economaidd, mae'n cefnogi cyflawniad llawer o'r amcanion yn 'Ffyniant i Bawb' a'r 'Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru'. O'i roi'n syml, rydym yn gyfrifol am dri maes: rydym yn gyfrifol am adeiladu ffyrdd newydd a gwella'r rhai presennol; rydym yn gyfrifol am adnewyddu ffyrdd, pontydd a strwythurau eraill; ac rydym hefyd yn gyfrifol am gynnal a chadw ffyrdd o ddydd i ddydd ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd, gan gynnwys, wrth gwrs—yn hollbwysig—gwaith cynnal a chadw dros y gaeaf.

Mae angen gwaith yn barhaus ar draws y rhwydwaith i sicrhau ei ddiogelwch, a chaiff gwaith ei reoli ar hyn o bryd gan ddau asiant sector cyhoeddus: Asiant Cefnffyrdd De Cymru, a reolir gan gyngor Castell-nedd Port Talbot; ac yng ngogledd a chanolbarth Cymru, Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, a reolir gan Gyngor Sir Gwynedd. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad yw'r gaeafau caled yn ddiweddar wedi bod yn garedig i'r rhwydwaith mewn unrhyw fodd, gan achosi tarfu sylweddol, ac rydym wedi profi dirywiad cyflym yng nghyflwr wyneb ffyrdd, oherwydd y cylch rhewi-dadmer ar draws Cymru a nodwyd gan lawer o'r Aelodau heddiw. Ond hyd yn oed yn ystod y cyfnod heriol hwn rydym yn parhau i weithredu, cynnal a chadw ac uwchraddio'r rhwydwaith, gan ganiatáu 10 biliwn o gilometrau o ddefnydd y flwyddyn gan gerbydau drwy gydol pob tymor. Mae natur y gwaith yn hynod o gostus, ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, buddsoddwyd dros £146 miliwn mewn gwaith cynnal a chadw a mân welliannau yn unig. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd gyrru ym mhob un o'n cynlluniau trafnidiaeth. O ran argymhelliad 4, rydym yn cydnabod, ac yn cydymdeimlo â galwadau gan ein partneriaid sector cyhoeddus a busnesau i gyllidebu dros gyfnod hwy o amser lle y bo'n bosibl, er mwyn cefnogi blaengynllunio ariannol, ond rhaid cydbwyso ein huchelgais i gyhoeddi cynlluniau am fwy na 12 mis â'n gallu i ddarparu rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol.

Mae ein cyllideb gyfalaf 10 y cant yn is mewn termau real nag ar ddechrau'r degawd hwn, ac mae tyllau yn y ffyrdd yn ein hatgoffa'n glir, yn weladwy ac yn ddyddiol am raglen gyni Llywodraeth y DU. Mae'r ansicrwydd ariannol sy'n parhau a'r amhendantrwydd sylweddol ynglŷn â ffurf a natur y negodiadau am fargen yn y dyfodol gyda'r Undeb Ewropeaidd yn golygu ein bod wedi gwneud y penderfyniad i gyhoeddi cynlluniau cyfalaf ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, 2019-20 a 2020-21—y cyfnod y mae gennym setliad hysbys ar ei gyfer. Dyrannwyd gwerth £32.5 miliwn ychwanegol o grantiau penodol yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i awdurdodau lleol ar gyfer gwella cyflwr y rhwydwaith ffyrdd, a byddwn yn darparu £60 miliwn pellach yn benodol ar gyfer adnewyddu priffyrdd dros y tair blynedd rhwng 2018-19 a 2021-22. Yn briodol yn fy marn i, mae penderfyniadau ynglŷn â ffyrdd lleol a blaenoriaethu gwaith atgyweirio a gwelliannau yn faterion y dylid eu penderfynu'n lleol.

Bydd cyfalaf cyffredinol o £100 miliwn ychwanegol a ddarparir rhwng 2018-19 a 2021-22 fel rhan o'r pecyn ariannu ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd yn cyfrannu'n enfawr tuag at gynorthwyo cynghorau lleol i wella cyflwr eu rhwydwaith ffyrdd, ac yn eu galluogi i gyflawni blaenoriaethau trafnidiaeth eraill lleol, a werthfawrogir yn llawer mwy eang na chan ddefnyddwyr ffyrdd yn unig wrth gwrs.

Rydym yn datblygu prosiectau mawr i wella'r rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru, yn enwedig mewn mannau cyfyng lle y mae tagfeydd yn gallu bod yn broblem fawr. Drwy wneud ein rhwydwaith yn fwy effeithlon, rydym yn gwella cynhyrchiant, a hefyd yn gwella mynediad at swyddi, gwasanaethau a hamdden. Gall gwella mannau cyfyng chwarae rôl bwysig hefyd wrth leihau allyriadau yn gyffredinol, yn ogystal â darparu manteision sylweddol o ran ansawdd aer, sŵn a theithio llesol i gymunedau lleol.

Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi rhaglen dreigl bum mlynedd uchelgeisiol o ymyriadau trafnidiaeth rydym yn eu cyflwyno ar draws Cymru, a diweddarwyd y cynllun ym mis Rhagfyr 2017 gyda bwriad i'w adolygu'n flynyddol er mwyn adlewyrchu datblygiadau dros amser a'r proffil anghenion newidiol ledled Cymru. Mae strategaeth drafnidiaeth gyfredol Cymru, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008, yn cael ei hadolygu hefyd. Bydd y strategaeth honno, a gyhoeddir eleni, yn darparu cyfle i fabwysiadu dulliau newydd o weithredu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod cyfnodau allweddol ei datblygiad. Mae swyddogion eisoes yn ymgysylltu â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ar gyfeiriad y strategaeth hon, a buom yn gweithio gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar lansio'r arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru hefyd.

I ategu ein cyllideb gyfalaf, rydym hefyd wedi datblygu amrywiaeth o gynlluniau ariannu arloesol, gan gynnwys y model buddsoddi cydfuddiannol, i ariannu prosiectau cyfalaf mawr. Bydd hyn yn cefnogi buddsoddiad ychwanegol mewn prosiectau seilwaith cymdeithasol ac economaidd ac yn helpu i wella gwasanaethau cyhoeddus ar draws ein gwlad. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn cynnwys darpariaethau pwysig i hyrwyddo lles y cyhoedd. Mae'r model yn ymestyn dull y Llywodraeth o weithredu manteision cymunedol, sydd wedi bod yn nodwedd allweddol o'r cynlluniau eraill a gyflawnwyd hyd yma. Mae hefyd yn ymgorffori ein hymrwymiadau i gyflogaeth foesegol a datblygu cynaliadwy, a bydd yn cyfrannu at weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Rydym wedi dweud yn glir na ddefnyddir y model buddsoddi cydfuddiannol os oes mathau eraill o gyfalaf ar gael. Gwn fod swyddogion eisoes wedi briffio'r pwyllgor ar y model, ond darperir cyfarwyddyd pellach yn ystod y broses o gaffael y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol cyntaf, sef cwblhau'r gwaith deuoli ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.

Mae swyddogion yn parhau i gysylltu â gweithredwyr amrywiol ledled y DU er mwyn rhannu arferion gorau, gan gynnwys Transport Scotland, Highways England a chontractwyr lleol. Mae hyn wedi arwain at fanyleb newydd ar gyfer gosod wyneb ar ffyrdd sy'n addas ar gyfer ateb her gwytnwch, cynaliadwyedd ac effeithiau amgylcheddol newid yn yr hinsawdd. Rydym hefyd yn gwbl ymwybodol fod apiau ffonau symudol yn tyfu'n norm, ac y gallent fod yn anhygoel o ddefnyddiol i gynorthwyo gyda chynllunio gwaith cynnal a chadw. Mae'n gydnabyddedig ar draws y diwydiant nad yw arolygon cyfredol yn arfer dull amser real effeithlon, a byddai'r system gwybodaeth ddaearyddol yn gallu amlygu problemau gyda chyflwr ffyrdd a llywio penderfyniadau ar gyfer gwaith cynnal a chadw a gynllunir ar sail dreigl.

Felly, i gloi, Gweinidogion Cymru sy'n uniongyrchol gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru ac mae ganddynt ddyletswydd statudol i gynnal ei ddiogelwch a'i weithrediad. Byddwn yn parhau ein buddsoddiad parhaus yn y gwaith o gynnal a chadw a gwella'r ased allweddol hwn.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Credaf fod yr holl Aelodau, neu nifer o'r Aelodau o leiaf—yn enwedig Vikki Howells a David Rowlands—wedi canolbwyntio eu cyfraniadau ar yr argymhellion na chafodd eu derbyn gan y Llywodraeth. Diolchodd Oscar Asghar i'r cyn-aelod Mark Isherwood am ei waith ar yr ymchwiliad. Rwy'n ategu hynny'n llwyr hefyd, ond er tegwch, hoffwn ddiolch i gyn-aelodau eraill hefyd, gan gynnwys Lee Waters, am eu cyfraniad i'n hymchwiliad ac i'n gwaith yn ogystal. Wrth gwrs, Lee Waters bellach yw Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a gwn y bydd yn gweithio'n galed i geisio perswadio'r Gweinidog y dylai ein hargymhellion—ei argymhellion ef yn wir—na chafodd eu derbyn fod wedi cael eu derbyn. A dylwn sôn am Adam Price yn ogystal gan ei fod yntau hefyd yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr amser hwn, a soniodd lawer am yr ap y cyfeiriodd y Gweinidog ato yn rhan olaf ei gyfraniad, yn ogystal ag un o'n hargymhellion.

Cafwyd ychydig o wawdio ar ein cystadleuaeth ffotograffig, fel y crybwyllodd Rhun, ond i raddau helaeth roedd yr ymateb yn ganmoliaethus. Ac roedd peth o'r gwawd yn ddefnyddiol yn wir. Anfonodd rhai o fy etholwyr luniau ataf heb eu cyflwyno'n ffurfiol. Mae gennyf un llun o rywun yn pysgota mewn twll yn y ffordd, yn eistedd yno ar eu cadair gyda'u gwialen bysgota'n diflannu i'r twll o'u blaen. Ond wrth gwrs, fe wnaeth ein cystadleuaeth greu trafodaeth ac roedd hynny'n arbennig o ddefnyddiol yn fy marn i. A hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth gyflwyno ffotograffau ac a rannodd eu lluniau gyda ni yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i staff cefnffyrdd Llywodraeth Cymru a ofynnodd inni rannu manylion am y tyllau gwaethaf a ddaeth i law rhag ofn nad oeddent yn ymwybodol ohonynt.

Roedd atgyweirio cyn adeiladu yn fater y soniodd nifer o'r Aelodau yn ei gylch yn ystod eu cyfraniadau, a chredaf fod hon yn neges bwysig i gymunedau ac i wleidyddion, y dylai adeiladu rhagor o ffyrdd fod yn ddewis olaf yn hytrach na dewis cyntaf.

Cyfeiriodd y Gweinidog yn ei ymateb at argymhelliad 4 mewn perthynas â chyllidebu a chyllidebu mwy hirdymor ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau cefnffyrdd. Rwy'n clywed eich sylwadau. Gwn fod y Gweinidog yn cydymdeimlo â'r hyn a awgrymwn, er na dderbyniwyd yr argymhelliad hwnnw, ac rwy'n deall y pwyntiau y mae'n ei wneud. Ond rwy'n credu, a hoffwn ailadrodd unwaith eto, fod cynllunio mwy hirdymor a chyllidebu mwy hirdymor yn caniatáu penderfyniadau ac arbedion gwell yn hirdymor. Ond unwaith eto, rwy'n gobeithio y bydd eich Dirprwy Weinidog yn eich perswadio ynglŷn â'r ddadl honno wrth i amser fynd yn ei flaen.

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch hefyd i'r criw ffordd cyfeillgar sy'n gweithio i gyngor Caerdydd ac a ddangosodd beth o'r offer anhygoel sy'n cael ei ddefnyddio i osod wyneb ar ffordd ystâd o dai ger Castell Coch. Ymwelais â'r fan fy hun ac roedd hi'n wych gweld yr offer hwnnw ar waith. Ar un pwynt, pe na bawn wedi symud yn gyflym, buaswn yn rhan o'r ffordd newydd honno bellach, ond diolch i'r staff yno a'n cefnogodd hefyd. A hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor, tîm clercio'r pwyllgor a'r tîm ymchwil, am eu holl waith yn ogystal.

Rwy'n gobeithio bod y ddadl wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cadw ein ffyrdd mewn cyflwr da, nid yn unig ar gyfer ceir, ond ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ar gyfer cludo nwyddau ac ar gyfer annog beicio yn ogystal. Ac wrth gwrs, mae'r pwyntiau a wnaeth Huw Irranca-Davies yn gwbl werthfawr hefyd o ran gwaith arall a wnaethom, fel y crybwyllais.

Edrychaf ymlaen at weld sut y mae'r Gweinidog a'i ddirprwy yn bwrw ymlaen â'r agenda hon i ddarparu gwell ffyrdd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:59, 9 Ionawr 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.