– Senedd Cymru am 5:15 pm ar 15 Ionawr 2019.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar setliad llywodraeth leol 2019-20, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fy nghyfrifoldeb i yw cyflwyno setliad llywodraeth leol 2019-20 ar gyfer y 22 o awdurdodau unedol yng Nghymru i'r Cynulliad. Wrth gyflawni'r swyddogaeth hon, rwy'n dilyn cyfres hir o Weinidogion llywodraeth leol sydd wedi annerch y Cynulliad hwn. Rydym ni i gyd yn deall mai dim ond pan fo yna ddemocratiaeth leol fywiog sy'n ymgysylltu â chymunedau lleol y gall Cymru a'i holl gymunedau gyflawni eu potensial llawn.
Mae angen awdurdodau lleol deinamig arnom ni sy'n gallu denu buddsoddiad, gwella mannau lleol a sicrhau'r gofal yr ydym ni i gyd eisiau ei roi i'n gilydd. Yn y cyd-destun hwn, nid yw'n bleser gen i gynnig wrth y Cynulliad hwn y bydd y cynnydd yn y dyraniad refeniw cyffredinol i awdurdodau lleol Cymru, yn 2019-20, yn 0.2 y cant. Rwy'n gwybod y bydd hyn yn her i awdurdodau lleol barhau i wneud mwy â llai, ac rwy'n cymeradwyo sut maen nhw wedi gwneud hynny'n union dros y degawd diwethaf o gyni. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth bod Aelodau'r Cynulliad wedi dod i'r ddadl hon yn barod i gefnogi'r achos dros roi mwy o adnoddau i awdurdodau lleol. Mae Aelodau'r Cynulliad yn dymuno dyrannu rhagor o arian i'w cymunedau, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, ond, yn anffodus, ni all Llywodraeth Cymru gynhyrchu'r adnoddau hynny.
Clywsom yn y ddadl gynharach ynglŷn â'r gyllideb derfynol, yn ystod y degawd diwethaf o gyni, y bu gostyngiad o £850 miliwn mewn arian parod yng nghyllideb Cymru, sef gostyngiad o 7 y cant mewn adnoddau real. Er ein bod ni dros y degawd wedi mynd i drafferth fawr i ddiogelu'r setliad llywodraeth leol, yn anochel, mae llywodraeth leol Cymru yn dioddef o effaith Llywodraeth Dorïaidd y DU sydd ag ymrwymiad ideolegol i leihau maint y wladwriaeth. Mae gennym ni bartneriaeth gadarn â llywodraeth leol yng Nghymru lle'r ydym ni'n gweithio gyda'n gilydd i ddyrannu'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Rwy'n talu teyrnged i'r bobl hynny sydd mewn llywodraeth leol a fy swyddogion yn Llywodraeth Cymru sydd wedi gweithio'n galed gyda'i gilydd i ganiatáu imi gynnig y setliad hwn. Ac i fy rhagflaenydd, Alun Davies, mewn gwirionedd, a weithiodd yn galed iawn hefyd i ddod â'r setliad hwn i'r fan lle y cymerais i'r cyfrifoldeb amdano.
Y flwyddyn nesaf, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael dros £4.2 biliwn o ddyraniadau refeniw cyffredinol o'r cyllid craidd ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn gynnydd o 0.2 y cant o'i gymharu â 2018-19. Mae dosbarthiad y cyllid hwn yn adlewyrchu'r asesiad mwyaf diweddar o angen cymharol sy'n seiliedig ar wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru. Wrth baratoi'r setliad terfynol, mae'r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth ofalus i'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro a ddaeth i ben ar 20 Tachwedd. Rydym ni hefyd wedi gwrando ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ystod y gwaith o graffu ar y gyllideb. Roedd y setliad dangosol gwreiddiol ar gyfer 2019-20 yn rhagweld y byddai gostyngiad o 1 y cant mewn arian parod, gostyngiad o £43 miliwn. Cyfeiriodd awdurdodau lleol yn briodol at raddfa'r her yr oedd hyn yn ei chyflwyno a'r effaith ar wasanaethau y mae pobl eu hangen ac yn eu gwerthfawrogi.
Rydym ni wedi gwneud amryw o ddyraniadau eraill i'r setliad llywodraeth leol i liniaru'r gostyngiad y mae llywodraeth leol wedi bod yn ei ddisgwyl. Yn y setliad drafft a gyhoeddwyd ar 9 Hydref, neilltuwyd £43 miliwn o gyllid ychwanegol. Roedd hwn yn cydnabod yn benodol y flaenoriaeth yr ydym ni a'r cynghorau yn ei rhoi i wasanaethau cymdeithasol ac addysg a'r pwysau a'r costau penodol y mae'r gwasanaethau hyn yn eu hwynebu yn sgil galw cynyddol a chostau cyflog. O'i gymharu â'r setliad dros dro, mae'r setliad terfynol ar gyfer 2019-20 yn cynnwys £23.6 miliwn ychwanegol o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys £13 miliwn i gefnogi gwasanaethau lleol yn gyffredinol, gan gydnabod yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r sylwadau a wnaed gan Aelodau'r Cynulliad; £1.2 miliwn i ddarparu terfyn isaf gwell i'r setliad; £7 miliwn bob blwyddyn i gefnogi'r cynnydd yn y terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 o fis Ebrill 2019—mae hyn yn golygu bod darpariaeth ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y Llywodraeth i godi'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 yn dod i ben ddwy flynedd yn gynt na'r disgwyl—a £2.4 miliwn i ddarparu rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol ar gyfer busnesau lleol a threthdalwyr eraill i ymateb i faterion lleol penodol. Mae hyn yn ychwanegol at ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr.
Mae'r arian ychwanegol yn golygu bod y Llywodraeth wedi gallu diwygio ymhellach y trefniadau terfyn isaf fel nad yw'r un awdurdod bellach yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.3 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol ar sail tebyg am debyg. Mae'r terfyn isaf yma o £3.5 miliwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru. Pan rydym ni wedi gofyn i awdurdodau lleol weithredu â llai o adnoddau real, rydym ni wedi cydnabod y cyflawnir hyn orau drwy gydbwyso'r grant cymorth refeniw heb ei neilltuo a grantiau wedi'u neilltuo i gyflawni canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol. Rydym ni'n parhau i wneud hyn, ac mae'r setliad yn cynnwys £20 miliwn i helpu bodloni'r galw cynyddol am wasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r grant penodol o £30 miliwn.
Rydym ni'n falch bod Llywodraeth y DU wedi crybwyll y bydd yn rhoi mwy o amser i asesu a gwerthuso ei chynlluniau ar gyfer symud hawlwyr budd-daliadau etifeddol i gredyd cynhwysol yn raddol. Rydym ni'n aros am ragor o fanylion am y cyfnod arbrofi. Rydym ni'n deall, ar hyn o bryd, bod Llywodraeth y DU yn dal yn bwriadu cyflwyno credyd cynhwysol erbyn Rhagfyr 2023.
Yn unol â'r cynigion yn ein hymgynghoriad diweddar, rydym ni'n sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol, drwy'r setliad, ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â'n trothwy arfaethedig a'r camau pontio er mwyn diogelu. Rydym ni hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol sy'n deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy'r dyfarniad cyflog athrawon. Rydym ni'n cyfeirio'r cyfan o'r £23.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 13 Medi i lywodraeth leol. Ar gyfer 2018-19, bydd £8.7 miliwn ar gael drwy grantiau penodol, mae £13.7 miliwn wedi'i gynnwys yn y setliad ar gyfer 2019-20 ar gyfer ysgolion a gynhelir o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 11, a bydd y £1.1 miliwn sy'n weddill yn parhau i gael ei ddarparu y tu allan i'r setliad fel grant penodol ar gyfer athrawon chweched dosbarth mewn ysgolion ar gyfer blynyddoedd 12 a 13. Rydym ni hefyd yn darparu £7.5 miliwn y tu allan i'r setliad i helpu awdurdodau lleol i ymdopi â phwysau costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r dyfarniad cyflog athrawon.
Gan droi at arian cyfalaf cyffredinol, bydd awdurdodau lleol yn cael £100 miliwn ychwanegol mewn grant cyfalaf cyffredinol dros y tair blynedd nesaf—mae'n ddrwg gen i, Mike, wnes i ddim eich clywed chi.
Rydych chi wedi sôn llawer am gyflogau athrawon, ac rwy'n credu bod pawb yn falch iawn am hynny. Nid ydych chi wedi sôn am bensiynau athrawon, sydd—
Byddaf yn dod at hynny cyn bo hir.
Iawn.
Gan droi at arian cyfalaf cyffredinol, bydd gan awdurdodau lleol £100 miliwn ychwanegol mewn grant cyfalaf cyffredinol dros y tair blynedd nesaf: £50 miliwn yn 2018-19, £30 miliwn yn 2019-20 ac £20 miliwn yn 2020-21. Mae'r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer 2019-20 wedi cynyddu felly i £173 miliwn. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd ynglŷn ag ariannu yn y dyfodol o ran blaenoriaethau gwario cyfalaf yr awdurdodau eu hunain ar gyfer y tymor canolig. Hefyd, rydym ni'n darparu £60 miliwn dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu priffyrdd cyhoeddus awdurdodau lleol. Mae hyn i helpu atgyweirio'r difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a'r cyfnod poeth yn ystod yr haf.
Ar 3 Hydref, fe wnaethom ni gyhoeddi ein bod yn uno nifer o grantiau a byddwn yn sefydlu grant plant a chymunedau a grant cymorth tai sengl o 1 Ebrill 2019. Mae hwn yn dod â 10 grant penodol at ei gilydd i ddim ond dau gynllun, gan roi hyblygrwydd i awdurdodau lleol a helpu i leihau'r baich gweinyddol sy'n gysylltiedig ag arian grant. Drwy gydbwyso'r cynnydd yn y grantiau wedi'u neilltuo a heb eu neilltuo i gyflawni'r canlyniadau yn y ffordd fwyaf effeithiol a symleiddio'r grantiau penodol, rydym ni'n caniatáu i awdurdodau lleol reoli eu hadnoddau cyfyngedig yn y ffordd fwyaf hyblyg.
Mae'n ddrwg gen i, Mike, rwyf newydd sylweddoli, fy mod i'n bwriadu ymdrin â'r sylw a wnaethoch chi yn fy sylwadau i gloi, ond dim ond i ddweud y byddwn yn ei drafod bryd hynny os na chaiff sylw yn y cwestiynau.
I gloi, nid wyf yn honni bod hwn yn setliad da i lywodraeth leol; rwy'n honni mai dyma'r gorau posib yn yr amgylchiadau o ran y gostyngiad parhaus yng nghyllideb Cymru. Mae'r dosbarthiad a'r blaenoriaethau yn y setliad yn brawf o'r gwaith caled sy'n digwydd yn ein partneriaeth â llywodraeth leol ac yn y gwaith craffu y mae'r Cynulliad yn ei wneud. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig. Diolch.
Boed yn darparu gwasanaethau ataliol, hybu'r economi leol, darparu addysg, gofal cymdeithasol a chanolfannau hamdden neu gasglu biniau, mae llywodraeth leol gydnerth yn hanfodol. Disgrifiodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y setliad llywodraeth leol cychwynnol fel, ac rwy'n dyfynnu:
'canlyniad siomedig iawn i gynghorau ledled Cymru gyda'r goblygiadau mwyaf difrifol i...wasanaethau.'
Mewn llythyr a lofnodwyd gan gynrychiolwyr o bob grŵp gwleidyddol, dywedodd arweinydd grŵp Ceidwadol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y cynghorydd Peter Fox:
'Gyda £370 miliwn o arian newydd yn dod o San Steffan, roedd angen dull dychmygus o ariannu gwasanaethau ataliol i gadw pobl allan o ysbytai. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynnydd o 7% i'r GIG ac wedi torri cyllidebau'r cynghorau.'
A dywedodd wedyn
'Mae'r gyllideb hon yn llawn meddylfryd llipa a hen ffasiwn.'
Rhybuddiodd hefyd bod y sefyllfa'n dod yn economi ffug.
Gyda rhaniad clir rhwng y de a'r gogledd, byddai pob un o'r chwe chyngor yn y gogledd wedi gweld toriad o 0.5 y cant o leiaf a thri wedi gweld toriad o 1 y cant. Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn dilyn hynny, diolch i gyllid ychwanegol gan Ganghellor y DU, bod terfyn isaf y cyllid wedi ei gynyddu o -1 y cant i -0.5 y cant ac y byddai £13 miliwn ychwanegol yn mynd â chyfartaledd Cymru i setliad arian safonol, dywedodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac rwy'n dyfynnu:
'Er gwaethaf y cyhoeddiad hwn sydd i'w groesawu, nid oes amheuaeth bod hwn yn setliad ariannol arbennig o heriol.'
Heblaw am sir Ddinbych, sydd bellach yn cael setliad safonol, mae holl gynghorau'r gogledd yn cael toriad, ac mae'r toriadau mwyaf yn sir y Fflint, Conwy ac Ynys Môn, ochr yn ochr â sir Fynwy a Phowys ar 3 y cant. Felly, y cynghorau hynny sy'n derbyn y cyllid isaf fesul unigolyn o dan fformiwla ddiffygiol Llywodraeth Cymru fydd, unwaith eto, yn y sefyllfa waethaf, a bydd talwyr y dreth gyngor, sydd eisoes yn talu cyfran uwch o'u hincwm ar y dreth gyngor nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, yn gorfod ysgwyddo'r baich.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi osgoi'r bai ers amser drwy ddatgan bod cynghorau yn Lloegr yn waeth eu byd nag y mae cynghorau yng Nghymru. Yr hyn nad ydyn nhw'n ei ddweud yw ei bod hi'n amhosib gwneud y gymhariaeth hon, oherwydd bod gwahaniaeth sylweddol wedi datblygu ym mholisi ariannu llywodraeth leol rhwng y ddau ers datganoli, gyda, er enghraifft, cyllid uniongyrchol ar gyfer ysgolion yn Lloegr yn unig. Nid ydyn nhw'n addasu eu ffigurau ar gyfer hynny nac unrhyw beth arall, oherwydd, wrth gwrs, maen nhw yma i ymateb yn erbyn Llywodraeth y DU yn unig yn hytrach na llywodraethu er budd gorau Cymru. Maen nhw hefyd yn osgoi'r ffaith y rhoddir £1.20 i Gymru ar hyn o bryd am bob £1 a gaiff ei wario gan Lywodraeth Geidwadol y DU yn Lloegr ar faterion sydd wedi eu datganoli yng Nghymru. Yn ogystal â hyn, mae'r Trade Unionist and Socialist Coalition, prif gefnogwyr Jeremy Corbyn, wedi dweud yn ddiweddar
'nid oes gan unrhyw gyngor a arweinir gan y blaid lafur gronfeydd wrth gefn mor annigonol na ellid eu defnyddio i gynhyrchu'r adnoddau ar gyfer cyllideb heb unrhyw doriadau ar gyfer 2019-20.'
Wel, yng Nghymru, mae gan gynghorau Llafur sy'n cael y setliad uchaf yn y gyllideb hon dros £800 miliwn o gronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio
Er bod Llywodraeth Cymru wedi canmol y gyllideb hon fel un â phwyslais ar atal, mae ei darpariaeth wedi methu â gwario'n well ar atal ac ymyrryd yn gynnar er mwyn gwella bywydau ac arbed arian. Er y dyrannwyd £30 miliwn ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol i ddarparu gofal a chymorth ataliol cydgysylltiedig, mae hyn y tu allan i'r grant cynnal refeniw llywodraeth leol, sy'n golygu nad oes gan gynghorau fawr ddim gallu i fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn. Yn ogystal â hyn, cafwyd amrywiaeth o doriadau mewn termau real i iechyd y cyhoedd a rhaglenni atal, ac i sefydliadau trydydd sector sy'n darparu gwasanaethau ataliol allweddol. Ac mae cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol wedi dweud bod y trydydd sector wedi'i ystyried yn rhan lai allweddol heb lawer o gyfraniad strategol neu ddim.
Mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol, nad yw wedi ei adolygu'n annibynnol ers 17 mlynedd, yn rhy fiwrocrataidd, yn gymhleth ac yn hen ffasiwn. Ym mis Tachwedd, lansiodd Cyngor Sir y Fflint sydd o dan arweiniad y blaid Lafur ei ymgyrch #CefnogiGalw yn y cyngor llawn, a chafodd gefnogaeth drawsbleidiol unfrydol i, rwy'n dyfynnu, fynd â'r frwydr i lawr i'r adran llywodraeth leol yng Nghaerdydd i gael cyfran deg o arian cenedlaethol.
Mewn llythyr ar y cyd i Lywodraeth Cymru, dywedodd arweinydd a phrif weithredwr y Cyngor bod
'y gwahaniaeth mewn ariannu yn seiliedig ar fformiwla...yn anochel yn creu amrywiaeth eang yn y risgiau ariannol i gynghorau yng Nghymru. Mae Sir y Fflint ar y pegwn eithaf.'
Yn dilyn hynny, dywedodd yr arweinydd bod y cyngor yn ceisio cydnabod effaith y fformiwla ar sefyllfa cyllid isel y cyngor, o'i gymharu â mwyafrif y cynghorau yng Nghymru, ac mewn llythyr ddoe, dywedodd fod sir y Fflint yn gyngor cyllid isel sef y bedwaredd ar bymthegfed o'r 22 o gynghorau, er ei fod y chweched mwyaf o ran poblogaeth, a thynnodd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cael £33 miliwn ychwanegol yn dilyn cyllideb ddiweddar y Canghellor, a gofynnodd i hwnnw gael ei ddosbarthu i gynghorau. Fe wnaf i orffen, felly, drwy ddyfynnu un o gynrychiolwyr y Blaid Lafur ar y cyngor.
Does dim dwywaith nad yw hwn wedi bod yn setliad anodd, caled iawn, i lywodraeth leol yng Nghymru. Fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth yn gynt, mae'r grant creiddiol i lywodraeth leol wedi cwympo 22 y cant ers 2009-10. Bûm yn gynghorydd sir yn Abertawe am sawl blwyddyn, fel ambell i un arall yma, ac roedd y pwysau ariannol ar ein siroedd yn glir bryd hynny. Ac mae hi wedi gwaethygu yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf hyn. Nid yw sôn am Oliver Twist yn ymateb teilwng i'r argyfwng ariannol chwaith.
A'r effeithiau mae hyn yn ei gael: wel, clywsom wythnos diwethaf, yn y dadleuon ar gyllid gofal cymdeithasol, am yr heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol. Mae ariannu gofal yn dod o dan adain llywodraeth leol, ac mae'r gwariant ar ofal cymdeithasol yn sylfaenol wedi aros yn fflat ers 2009-10, er y cynnydd am y galw am wasanaethau, a'r cynnydd mewn costau staffio ar y llaw arall hefyd—cynnydd mewn cyflogau, pensiynau a chytundebau allanol. A rhai elusennau gofal lleol yn rhoi eu cytundebau yn ôl i'r siroedd achos diffyg arian. Canlyniad diffyg arian am wasanaethau gofal ydy bod y trothwy i dderbyn gwasanaeth yn codi bob blwyddyn, gyda'r canlyniad bod ein pobl hŷn, unig, bregus yn aml ddim yn cyrraedd y trothwy ac felly ddim yn cael unrhyw wasanaeth o gwbl. 'Dim problem', meddwch chi, 'Talwch amdano', fel clywsom ni wythnos diwethaf, ond nid yw hynna'n ddewis i nifer fawr o'n pobl hŷn, heb arian, heb deulu, mewn unigrwydd, a phobl yn marw fel canlyniad i'r diffyg gofal. Dau ddeg dau o filoedd o bobl yn marw uwchben y disgwyl yn Lloegr bob blwyddyn achos dim gofal, a lle mae yna deulu, mae'r pwysau'n drwm iawn ar ofalwyr gwirfoddol y teulu. Dyna ganlyniadau penderfyniadau cyllid a thorri gwasanaethau a diffyg gwasanaethau gofal yn y gymuned yn peri i bobl orfod aros mewn gwlâu drudfawr mewn ysbytai hefyd. Fel dywedais yr wythnos diwethaf, mae gofal yn teilyngu'r un ateb ag iechyd, hynny yw, gwasanaeth gofal cenedlaethol wedi'i ariannu o drethiant cyffredinol, gyda staff cyflogedig a dawnus wedi'u cofrestru'n union fel nyrsys a meddygon y gwasanaeth iechyd.
Gwnaf i droi at addysg, hefyd. Fel cadeirydd corff llywodraethol ysgol gynradd yn Abertawe ers rhai blynyddoedd rŵan, dwi'n gweld bob dydd bod ein hysgolion o dan bwysau enbyd hefyd. Codiadau cyflogau teilwng i'n hathrawon, codiadau i bensiynau athrawon hefyd—eto, teilwng iawn, ond nid yw'r arian yn llifo lawr o Lywodraeth y Deyrnas Unedig na Llywodraeth y Cynulliad yn gwneud yn iawn am y codiadau teilwng yma chwaith. Mae'r penderfyniadau'n cael eu gwneud; dydy'r arian ddim yn llifo fel canlyniad, yn enwedig yn nhermau pensiynau, a gyda phwysau caled ar gyllidebau ein siroedd, mae arian wrth gefn ein hysgolion yn cael ei erydu'n gyflym iawn, iawn. Amser caled, yn wir, i lywodraeth leol. Ni allwn gefnogi hyn. Byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Diolch yn fawr.
Mae'r setliad llywodraeth leol wedi gwella o'r drafft i'r fersiwn derfynol. Yn anffodus, dim ond o drychinebus i wael fu'r newid hwn. Rwy'n bwriadu dyfynnu barn pennaeth ysgol leol ac yna gwneud pum cynnig ynghylch yr hyn y gellir ei wneud i helpu'r sefyllfa mewn llywodraeth Leol. Dywed y pennaeth:
'Rwy'n ysgrifennu atoch i dynnu sylw at bryderon difrifol sydd gennyf am yr argyfwng cyllido ysgolion ac i ofyn am eich cymorth a'ch ymrwymiad tuag at sicrhau adolygiad o'r trefniadau a fyddai'n arwain at ariannu pob ysgol yng Nghymru yn ddigonol, yn deg ac mewn ffordd dryloyw. Mae'r dewisiadau anodd yr wyf yn eu hwynebu wrth edrych ymlaen at Ebrill 2019 yn mynd i fod yn her. Mae'r risg i hawliau dysgwyr, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, a achosir gan y gostyngiad mewn termau real flwyddyn ar ôl blwyddyn yn y cyllid bellach yn argyfwng.
'Yn y blynyddoedd diwethaf, daeth yn amlwg, er gwaethaf y dulliau rheoli gorau, nad yw ein cyllidebau ysgol yn ddigonol. Yn gynyddol, nid ydym ni'n gallu darparu gwasanaethau craidd i'r safon ddelfrydol ac mewn rhai achosion, nid ydym ni hyd yn oed yn gallu diwallu gofynion statudol. Er enghraifft, nid oes gan rai ysgolion athro cymwysedig yn eu dosbarth meithrin mwyach. Nid yw'r pennaeth na'r dirprwy bennaeth yn cael eu dyraniad amser rheoli statudol, ac mae'r gwariant ar adnoddau dysgu a rhaglenni cynnal a chadw adeiladau'r ysgol yn fach iawn.'
Yn amlwg, mae'r sefyllfa hon yn anghynaliadwy, a hefyd mae gennych chi benaethiaid sy'n cymryd dosbarthiadau staff sy'n absennol er mwyn osgoi cyflogi staff cyflenwi.
'Ar ben hynny, mae lefelau staff cymorth wedi lleihau'n sylweddol, sy'n golygu nad yw'r peryglon o ran plant agored i niwed yn cael cymaint o sylw ag y mae angen iddynt ei gael, ac mae'r datblygiad hwn hefyd, yn anochel, yn effeithio ar ansawdd y ddarpariaeth a llwyth gwaith yr aelodau staff sy'n weddill. Mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan ddylai cwricwlwm newydd Cymru a'r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol, y ddau â'r potensial i fod yn fentrau blaenllaw yn y byd, fod yn cael eu dathlu ledled y byd.'
Felly, mae hwn gan bennaeth sydd mewn gwirionedd ar ochr Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ceisio ei gyflawni.
Mae'r datganiad cenhadaeth cenedlaethol ar gyfer proffesiwn addysg o ansawdd uchel i addysgu ein plant—. Yn Abertawe, mae nifer y dosbarthiadau a addysgir gan athrawon heb gymhwyso wedi cynyddu, mae maint dosbarthiadau yn cynyddu, nid yw anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu bodloni, ac nid yw ffactorau agored i niwed fel y rhai sy'n deillio o dlodi ac amddifadedd yn cael y sylw y dylent ei gael.
Y grant gwella addysg—nid yw hyd yn oed yn darparu digon o gyllid i fodloni'r argymhellion ar gyfer y cyfnod sylfaen. Mae nifer yr ysgolion sy'n gallu bodloni'r gymhareb oedolyn-disgyblion a argymhellir yn y cyfnod sylfaen, 1:8 yn y meithrin a derbyn ac 1:15 ym mlynyddoedd 1 a 2, wedi gostwng.
Mae briff ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol sy'n dwyn y teitl 'Ariannu Ysgolion yng Nghymru' yn tynnu sylw at y ffeithiau canlynol. Rhwng y flwyddyn academaidd 2010-11 a'r flwyddyn academaidd gyfredol, 2018-19, mae gwariant gros awdurdodau lleol ar ysgolion wedi gostwng mewn termau real a hynny gan ychydig yn llai nag 8 y cant. Mae'r swm cyfartalog y gwariodd awdurdodau lleol fesul disgybl yn 2018-19—er ei fod £266 yn uwch na'r swm a wariwyd yn 2010-11—yn ostyngiad termau real o 7.5 y cant. Dangosir hyn ymhellach mewn adolygiad diweddar o brofiadau ariannu arweinwyr ysgolion. Canfu Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon bod saith o bob 10 arweinydd ysgol yn credu y bydd eu cyllidebau yn anghynaliadwy erbyn blwyddyn academaidd 2019. Mae hon yn sefyllfa frawychus sydd erbyn hyn yn argyfwng.
Mae'r pwysau ychwanegol y mae ysgolion yn eu hwynebu yn cynnwys pwysau costau sylweddol o ganlyniad i gynyddu cynllun pensiwn athrawon yn 2019-20 o 16.48 y cant i amcangyfrif o 23 y cant. Mae hyn yn cynrychioli pwysau cost nas ariennir o £3 miliwn ar y gyllideb ysgolion ddirprwyedig yn Abertawe yn unig. Bydd yn codi i £5 miliwn yn 2020-21. Mae pwyllgor dethol y Trysorlys wedi galw ar Drysorlys y DU i ddatrys y mater hwn a rhyddhau'r cyllid sydd ei angen i Gymru o gronfa'r DU sydd wedi'i sefydlu i ymdrin â'r pwysau yn sgil pensiynau.
Mae'n rhaid ariannu cost cyflogau athrawon yn ogystal â phwysau costau eraill sy'n wynebu ysgolion, er enghraifft o'r cyfrifoldebau ychwanegol o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn llawn yn y setliad cyllid llywodraeth leol terfynol, gan sicrhau bod y cyllid craidd sydd ei angen ar gyfer darpariaeth addysg statudol gynaliadwy yn y dyfodol yn briodol fel blaenoriaeth, megis lleihau maint dosbarthiadau, a bod llywodraeth leol yn y dyfodol yn cael cyfran decach o'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
Mae'n rhaid i'r gost i ysgolion o ran lefelau cyllideb ddirprwyedig llai yn nhrydedd haen llywodraethu Cymru—a'r hyder mewn consortia rhanbarthol yn is nag y bu erioed, yr effaith ar ddeilliannau dysgwyr yn sgil yr haen ychwanegol ddrud hon o lywodraethu, ddechrau bod yn destun gwaith craffu. Fel cenedl, mae angen inni fod yn sicr bod y gweithgaredd ychwanegol hwn yn sicrhau o leiaf yr un effaith, os nad gwell effaith ag y byddai'r athrawon ychwanegol wedi eu cael, pe byddai'r cyllid hwn yn cael ei ddyrannu yn uniongyrchol i ysgolion.
Mae gennyf awgrymiadau: un, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi pwysau ar San Steffan i fodloni'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn cyflogwr i athrawon; dau, rwy'n credu bod consortia rhanbarthol yn gwastraffu adnoddau prin. Rwy'n derbyn y gallwn fod yn anghywir. Rhowch gynnig arno—dirprwywch yr arian ar gyfer y consortia rhanbarthol drwy'r ysgolion, ac os ydyn nhw'n gwerthfawrogi'r consortia rhanbarthol cymaint â hynny, byddan nhw'n talu tuag ato. Os nad ydyn nhw, byddan nhw'n cadw'r arian ar gyfer yr ysgolion. Bod y grant trafnidiaeth a roddir i brosiectau y cynigir amdanyn nhw yn ystod y flwyddyn yn cael ei ddosbarthu i gynghorau i gefnogi gweithgarwch presennol drwy'r grant trafnidiaeth. Bod yr arian ychwanegol a roddir i addysg sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer hyfforddiant yn cael ei roi i awdurdodau lleol i'w drosglwyddo i ysgolion i'w defnyddio yn y modd sydd orau yn eu barn nhw. Bod cyllid ychwanegol ar gyfer gweithredu anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei ddarparu o'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
Nid wyf yn disgwyl i'r rhan fwyaf o'r rhain, os o gwbl—ar wahân i'r un ynghylch pensiynau—gael eu derbyn, ond rwy'n gobeithio y bydd pobl yn eu hystyried oherwydd eu bod yn ffordd o beidio â gofyn am arian ychwanegol, dim ond gofyn sut y gellid gwneud defnydd gwell o'r arian presennol.
Mi gychwynnaf eto drwy ddweud nad oes dim amheuaeth bod y setliad sydd o'n blaenau ni heddiw yn gyfle sydd wedi cael ei fethu i godi tipyn o bwysau oddi ar lywodraeth leol, a fyddai, yn ei dro, wedi cael sgil-effaith bositif ar wasanaethau cyhoeddus yn ehangach yn dilyn blynyddoedd o lymder parhaus. Mae'n gliriach nag erioed, rwy'n credu, fel rydym ni wedi clywed gan sawl siaradwr, na all ein cynghorau ni barhau i weithredu'n effeithiol yn y sefyllfa ariannol bresennol sydd ohoni. Mae diffyg cyllid digonol yn sicr o effeithio'n uniongyrchol o hyn ymlaen ar feysydd sydd i raddau helaeth wedi cael eu gwarchod tan rŵan—addysg a gwasanaethau cymdeithasol yw'r ddau brif rai sy'n dod i'r meddwl.
Mae methiant i wario'n ddigonol ar wasanaethau cymdeithasol yn effeithio ar gyllidebau iechyd hefyd, wrth gwrs. Drwy dorri cyllid gwasanaethau ataliol hanfodol, mae'n ychwanegu pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Wrth gwrs, ar yr wyneb, prin fyddai unrhyw un yn anghytuno efo'r hyn sydd wedi digwydd i roi rhagor o arian i'r gwasanaeth iechyd, ond dydy gwneud hynny heb ystyried y cyd-ddibyniaeth sydd yna rhwng iechyd a llywodraeth leol yn helpu neb. Mae o'n fyr dymor wrth ei hanfod.
Fe fyddwn i'n dymuno gweld y ffordd y mae cyllidebau yn cael eu cynllunio ar draws wahanol feysydd, sut maen nhw'n dod at ei gilydd efo pwrpas strategol, yn newid. Mae angen llywodraeth efo gweledigaeth glir iawn i wneud hynny, efo ffocws ar yr hirdymor a pharodrwydd i dynnu haenau o lywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus at ei gilydd. Nid ôl hynny rydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, rwy'n ofni.
Mae'n siomedig iawn gen i orfod adrodd nad ydw i hyd yma wedi derbyn ymateb i lythyr ysgrifennais i ar y cyd at y Gweinidog cyllid a'r Gweinidog Addysg cyn gosod y gyllideb derfynol yn gofyn ar yr unfed awr ar ddeg ar i'r Llywodraeth edrych eto am ffordd i leihau'r baich ar ein cynghorau ni. Dros y misoedd diwethaf, yn addysg yn benodol, dwi wedi derbyn gohebiaeth gan swyddogion o'r cyngor, penaethiaid a llywodraethwyr ysgolion—dwi'n datgan budd fel llywodraethwr fy hun, yn Ysgol Gyfun Llangefni—ac mae rhieni wedi bod yn cysylltu â fi a phobl yn y sector anghenion addysg arbennig, yn bryderus am effaith y gyllideb ar ddarpariaeth i'r sector addysg.
Mae argymhelliad y Llywodraeth, i bob pwrpas, ynglŷn â lle dylai lefel treth cyngor fod yn Ynys Môn ar gyfer y flwyddyn nesaf yn awgrymu y dylai'r dreth cyngor godi 10 y cant, mwy neu lai. Dyna argymhelliad y Llywodraeth, ond nid codi 10 y cant er mwyn buddsoddi, er mwyn cynyddu ar gyllidebau; codi 10 y cant a gweld toriadau dyfnion i gyllidebau addysg. Dwi'n gwybod bod swyddogion yn gweithio'n galed iawn i leihau'r toriadau y maen nhw'n mynd i orfod eu gwneud i addysg. Mae sôn wedi bod am dros £1.5 miliwn. Dwi'n gobeithio y bydd hynny'n gallu bod yn is. Ond does gan ysgolion ddim lle i wneud toriadau pellach. Mae un pennaeth yn dweud wrthyf fi, 'Dwi ddim yn mynd i boeni ymhellach, oherwydd os af i boeni am yr gagendor ariannol dwi'n ei wynebu, fe wnaf i wneud fy hun yn sâl. Felly, beth dwi'n mynd i orfod ei wneud ydy jest trio delio â'r sefyllfa a derbyn bod yna orwario yn digwydd'.
Wnaethon ni ddim cyrraedd y cwestiwn yma gennyf yn y sesiwn cwestiynau diwethaf i'r Gweinidog: 'A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyllidebau ysgolion yn sgil setliad llywodraeth leol 2019-20?' Yr ateb ysgrifenedig a gefais yw:
'Ar draws y Llywodraeth, rydym yn rhoi blaenoriaeth i gynorthwyo ysgolion drwy'r setliad ar gyfer llywodraeth leol. Rydym ni'n parhau i roi cyllid grant ychwanegol sylweddol uwchlaw'r cyllid craidd i ysgolion drwy awdurdodau lleol. Yn ystod tymor presennol y Cynulliad, rydym ni wedi ymrwymo i fuddsoddi £100 miliwn i godi safonau ysgolion'.
Mae'r ymateb yna wedi corddi llywodraeth leol a rhai mewn addysg yn fy etholaeth i. Ymateb di-hid; cyllid craidd ydy'r broblem. Heb gyllid craidd digonol, mae awdudrod fel Ynys Môn yn cael ei gwthio i gau ysgolion ar yr un pryd ag y mae'r Llywodraeth yn dod â chod newydd er mwyn trio twyllo pobl i feddwl eu bod nhw'n trio arbed ysgolion bach, a dim arian ychwanegol i weithredu'r cod, ac yn y blaen.
Hynny ydy, dydy'r sefyllfa dŷn ni ynddi hi ddim yn gynaliadwy. Mi allwn i sôn am wasanaethau cymdeithasol hefyd. Pan fydd swyddogion cyngor yn dweud wrthyf i eu bod nhw'n bryderus na allan nhw fforddio gweithredu gorchmynion llys er mwyn gwarchod plant bregus sydd dan fygythiad, mae hynny'n gwneud i fi feddwl bod yna rywbeth sylfaenol o'i le efo lefel y cyllid sy'n mynd i mewn i lywodraeth leol. Bydd yn rhaid iddyn nhw wneud iddo fo weithio, ond dyna'r lefel dŷn ni'n sôn amdano: costau sylweddol i amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas ni, a dŷn ni wedi cyrraedd at y pwynt rŵan lle dydy'n llywodraeth leol ni ddim yn gallu fforddio gwneud y pethau yna.
Oes, mae yna ddegawd annheg ac anghyfiawn o lymder wedi dod o du'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, ond mae yna benderfyniadau gwleidyddol wedi cael eu gwneud gan y Llywodraeth Llafur yma yng Nghymru sy'n golygu bod y bregus yn dioddef, ac mae llywodraeth leol yn enghraifft berffaith o hynny.
Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw. Wrth gwrs, rwy'n hynod o falch o gynrychioli fy nhref enedigol ac Alun a Glannau Dyfrdwy, ac mae'r etholwyr yn gwbl briodol yn haeddu ac yn disgwyl gwasanaethau cyhoeddus a darpariaeth o ansawdd uchel gan y cyngor lleol, ac, yn yr achos hwn, Cyngor Sir y Fflint yw hwnnw. Nawr, yn sicr nid wyf yn eiddigeddus o'r Llywodraeth yn gorfod llunio cyllidebau yn wyneb cyni Llywodraeth y DU, sy'n parhau i'w gwneud hi'n anodd i gynghorau lleol ddarparu'r gwasanaethau y maen nhw wedi arfer â nhw. Roeddwn yn synnu'n fawr pan nododd y Prif Weinidog, pan roedd yn gyfrifol am gyllid, bod £800 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Rwyf wedi cael llawer o sgyrsiau gonest â chynghorwyr lleol o sir y Fflint o bob plaid, a bydd yr Aelodau yn gwybod, wrth gwrs, y bûm i'n uchel fy nghloch am fy mhryderon y llynedd.
Ddydd Gwener diwethaf, roeddwn yn siarad â chynrychiolwyr lleol unwaith eto am rai o'u pryderon. Mae cynghorwyr a thrigolion lleol yn aml yn dweud wrthyf am eu teimladau am y rhaniad rhwng y gogledd a'r de, felly, unwaith eto, rwy'n falch bod y Prif Weinidog newydd wedi gwneud cyhoeddiad diweddar am benodi Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y gogledd, ac rwy'n credu bod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen i drigolion ledled y gogledd i gyd.
Llywydd, os yw'r trafodaethau Brexit wedi dysgu unrhyw beth inni, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â gwrando a gweithio gyda'n gilydd. Felly, ydw, rwy'n falch bod cynnydd i'r setliad gwreiddiol a roddwyd i sir y Fflint, ac rwy'n croesawu hefyd sut yr ydym ni wedi gallu lleihau'r gostyngiad yn y grant cynnal refeniw o -1 y cant i -0.3 y cant, ac mae'r cyhoeddiadau am gyllid penodol ar gyfer gofal cymdeithasol wedi eu croesawu'n lleol hefyd.
Rwy'n croesawu, wrth gwrs, y mesurau eraill yn rhan o becyn o £141.5 miliwn ychwanegol mewn refeniw a chyfalaf i lywodraeth leol dros y tair blynedd nesaf, ond hoffwn wneud un neu ddau o bwyntiau yr wyf wedi eu gwneud o'r blaen am y dreth gyngor a sut y gallwn ni wneud pethau'n haws i bobl yr wyf i'n siarad â nhw sy'n ei chael hi'n anodd gwneud eu taliadau yn fisol. Yn ddiddorol, roedd adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y cyfleoedd i sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy blaengar, ac fe hoffwn i weld y llywodraeth yn ystyried sut y gallwn ni o bosibl ddiwygio'r dreth gyngor yn y dyfodol agos.
Rwy'n credu hefyd bod angen cynnal sgwrs ddifrifol yn y dyfodol am ddau bwynt penodol: yn gyntaf, y ffordd y mae cynghorau lleol yn cael eu hariannu, yn ogystal â'r newid o arian canolog i drethiant lleol; ac yn olaf, dyfodol cyllid canlyniadol a phwysigrwydd rhoi terfyn ar gyni am byth. Cefais i hefyd lythyr gan arweinydd Cyngor Sir y Fflint neithiwr, a byddwn yn croesawu cyfarfod gyda'r Gweinidog cyllid a'r Gweinidog llywodraeth leol cyn gynted â phosib i drafod y materion a grybwyllwyd yn y llythyr hwnnw a hefyd ynghylch y cyllid canlyniadol, fel yr oeddwn wedi'i drefnu cyn yr ad-drefnu diweddaraf.
Rwyf eisiau gorffen fy nghyfraniad heddiw, Llywydd, drwy dalu teyrnged i holl gynghorwyr a staff y cyngor sy'n gweithio'n galed, dydd ar ôl dydd, i ddarparu gwasanaethau beunyddiol i bobl Cymru. Maen nhw'n aml yn cael eu beirniadu'n hallt, ond ni ddylem ni fyth anghofio eu bod yn y rheng flaen o ran cyflenwi. Ac rwyf hefyd eisiau ailddatgan yn y Siambr hon heddiw fy ymrwymiad i'm cyngor lleol y byddaf bob amser yn sefyll cornel fy ardal leol a'r cynghorwyr a staff y cyngor sy'n darparu'r gwasanaethau hynny y mae pobl yn dibynnu'n fawr arnynt. Diolch yn fawr iawn.
Rydym ni'n prysur agosáu at argyfwng mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyllidebau awdurdodau lleol wedi'u cwtogi i'r eithaf yn y blynyddoedd diwethaf, ac ni fydd setliad cyllid llywodraeth leol eleni yn gwneud dim i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus lleol. Ar ôl setliad y flwyddyn hon, mae awdurdodau lleol Cymru yn cynllunio toriadau enfawr i wasanaethau cyhoeddus lleol ac i ddiswyddo athrawon, gweithwyr cymdeithasol, peirianwyr priffyrdd, casglwyr sbwriel a llu o weithwyr y cyngor. Yn fy rhanbarth i, mae cyngor Abertawe yn cynllunio torri 145 o swyddi addysgu a 127 o swyddi gwasanaethau cymdeithasol. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cynnig cau llyfrgelloedd a dod â thrafnidiaeth am ddim i ben i fyfyrwyr ôl-16 sydd ag anghenion addysgol arbennig ac oedolion sy'n cael gofal seibiant, yn ogystal â diswyddo staff y cyngor a rhoi'r gorau i gynlluniau ar gyfer ysgolion newydd. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi cau toiledau cyhoeddus ac yn cynnig torri cymorthdaliadau i lwybr bysiau, cau canolfannau dydd, canolfannau gofal a gwasanaethau ar gyfer yr henoed, yn ogystal â diswyddo staff y cyngor.
Mae hyn yn digwydd mewn neuaddau dinas a thref ledled Cymru—gwasanaethau'n cael eu cwtogi i'r eithaf, athrawon yn cael eu diswyddo, gofal dydd yn cael ei ddiddymu. Ac eto, gofynnir i bobl dalu mwy—talu mwy am lai, llawer llai. Bydd biliau'r dreth gyngor fydd yn disgyn trwy flychau llythyrau'r wlad yn ystod yr wythnosau nesaf yn cynnwys cynnydd o ryw 5 y cant neu fwy—llawer is na chyflogau pobl—ond eto ni fydd gan y cyhoedd unrhyw ddewis ond rhoi mwy o'u harian haeddiannol am wasanaethau sy'n lleihau'n dragywydd.
Felly sut ddaethom ni i'r sefyllfa yma? Mae swyddogion llywodraeth leol yn rhoi'r bai ar Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar Lywodraeth y DU, ond mewn gwirionedd maen nhw i gyd ar fai. Blynyddoedd o wastraffu a bwrw'r bai sydd wedi arwain at yr argyfwng heddiw. Mae degawdau o wario afradlon, gwastraffus a system dreth annheg ar lefel y DU wedi arwain at yr angen am gyni. Mae'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi camreoli llywodraeth leol wedi arwain at ddyblygu a gwastraff; pam fod angen 22 o awdurdodau lleol ar wahân arnom ni? Nid oes eu hangen arnom ni. Ond mae Llywodraeth Cymru, wrth gydnabod y ffaith hon, wedi methu â gwneud unrhyw beth am hynny. O ganlyniad, mae rhy ychydig o adnoddau yn gorfod talu am lawer mwy nag y mae angen iddynt, ac mae'r modd o ddyrannu'r adnoddau hyn wedi'i gamreoli gan Lywodraethau Cymru olynol, ac mae'r adroddiad cyllid llywodraeth leol hwn yn seiliedig ar fformiwla ddiffygiol, sy'n arwain at wahaniaeth mawr yn y cyllid. Pam fod gwario fesul pen mor wahanol ledled Cymru? Mae pobl yn Abertawe, bob un ohonyn nhw'n cael £247 yn llai wedi'i wario ar eu gwasanaethau na'r rhai hynny yn sir Ddinbych. Pam fod Pen-y-bont ar Ogwr yn cael mwy na £130 y pen yn llai nag awdurdodau cyfagos? A pham fod ail ddinas Cymru yn cael bron i £160 y pen yn llai na thrydedd ddinas Cymru?
Ac o ran sut y caiff yr arian ei wario, mae gwahaniaeth enfawr rhwng cynghorau Cymru. Mae rhai pobl yn cael eu biniau wedi'u casglu bob wythnos neu ddwy; gall pobl eraill ddisgwyl casgliad misol. Mae biliau cyfartalog y dreth gyngor yng Nghaerffili dros £700 yn llai nag yn sir Fynwy. A pham fod awdurdodau lleol wedi'u caniatáu i gronni cymaint o gronfeydd wrth gefn? Mae gan rai cynghorau dros £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn, wrth iddyn nhw gynllunio i gwtogi gwasanaethau, diswyddo athrawon a swyddogion priffyrdd a gweithwyr cymdeithasol.
Digon yw digon. Mae angen diwygio llywodraeth leol a'i chyllid drwyddi draw. Mae bywydau pobl yn cael eu dinistrio er mwyn i ni chwarae gwleidyddiaeth plaid, er mwyn i bobl aros mewn grym. Wel, dim mwy nawr. Mae'n amser rhoi trefn ar bethau, ac mae'n amser i Lywodraeth Cymru gyflawni ei chyfrifoldebau.
Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl. Julie James.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac am gyfrannu at y ddadl. Yn gyntaf rwyf eisiau ymateb i'r sylwadau ynghylch digonolrwydd y setliad. Mae'r Llywodraeth hon wedi cydnabod y blaenoriaethau a'r pwysau sy'n ein hwynebu ni a llywodraeth leol drwy'r setliad hwn a'r cyllid ehangach sydd ar gael i lywodraeth leol. Yn wir, fe wnes i bwynt o ddweud, er nad yw'r setliad hwn yn drychinebus, nid yw ychwaith yn newyddion da i lywodraeth leol o ystyried y polisïau cyni y mae Llywodraeth y DU yn eu hyrwyddo. Mae'r blaid gyferbyn a llawer o Aelodau'r gwrthbleidiau eraill—byddech chi'n meddwl mai polisi cartref a grëwyd yma yng Nghymru oedd cyni ac nid rhywbeth y mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn mynd ar ei hynt am gyfnod hirach nag unrhyw lywodraeth arall mewn hanes. Mae'r setliad sydd gennym ni heddiw yn sicr yn ganlyniad i'r polisïau hynny sy'n seiliedig ar gyni.
Fodd bynnag, o ganlyniad i'r sylwadau a wnaed gan nifer o Aelodau o amgylch y Siambr—rhai ohonyn nhw'n fwy defnyddiol nag eraill—hoffwn ddweud eto fy mod i'n barod iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod neu grwpiau o Aelodau sy'n dymuno trafod y setliad yn gyffredinol neu fanylion y setliad ar gyfer eu hawdurdod lleol nhw. Rwy'n fwy na pharod i gwrdd ag Aelodau i egluro pam fod y fformiwla fel y mae, sy'n hawdd iawn. Mae oherwydd bod grwp ac is-grŵp cyllid partneriaeth y cynghorau wedi llunio'r fformiwla hon ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'n cael ei adolygu'n gyson, mae partneriaeth y cynghorau yn cytuno arno ar y cyd â llywodraeth leol. Nid yw'n rhywbeth yr ydym yn ei orfodi ar lywodraeth leol, ac os yw unrhyw Aelodau yn meddwl bod ganddyn nhw ffordd well o ddosbarthu'r arian, y maen nhw'n credu y byddai'n gweithio ledled Cymru, yna rwy'n fwy na pharod i drafod â nhw. Mae'r fformiwla hon yn sicr yn fformiwla y cytunwyd arni â llywodraeth leol, ac mae'n ystyried maint poblogaeth, pa mor ddwys neu wasgaredig yw'r boblogaeth, amddifadedd a nifer o bethau eraill, sy'n arwain, wrth gwrs, at wariant gwahaniaethol ledled Cymru, yn dibynnu ar yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd sydd gan bob awdurdod lleol o fewn ei ffiniau.
Ac mewn ymateb i Aelodau eraill yn gofyn am benderfyniadau gwahanol, wrth gwrs, llywodraeth leol yw'r haen gyntaf—y gyntaf, neu'r ail os oes gennych chi gyngor cymuned—o ddemocratiaeth, ac, wrth gwrs, aelodau etholedig democrataidd yr awdurdodau lleol hynny sy'n gwneud y penderfyniadau hynny ar ran y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli, a dyna sut y dylai fod. Ac fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, rydym ni eisiau etholaethau awdurdod lleol bywiog, amrywiol a galluog yng Nghymru, ac rwy'n canmol eu hymdrechion i wneud hynny.
Hoffwn ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau yn gyflym am y sefyllfa yr oeddem ni ynddi ar ddechrau'r cylch cyllideb hwn. Ym mis Ionawr 2018, fe wnaethom ni gyhoeddi'r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2018-19 a ffigur dangosol ar gyfer 2019-20. Nododd llywodraeth leol yn glir y llynedd bod angen cymaint o sicrwydd ar gyfer y dyfodol ag y bo modd. Pleidleisiodd y Cynulliad yn dilyn hynny i roi sicrwydd i lywodraeth leol y byddai cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer 2019-20 yn £4.2 biliwn o leiaf. Nid oedd hynny, sef toriad o 1 y cant, yn sefyllfa yr oeddem ni'n dymuno gadael llywodraeth leol ynddi, ond roedd yn arwydd o faint o sicrwydd yr oeddem ni o'r farn y gallem ni ei roi o gofio'r sefyllfa o ran ein cyllideb ni ein hunain ac ansicrwydd o ran cyllid cyhoeddus. O ganlyniad i'r gyllideb derfynol a gadarnhawyd yn gynharach heddiw, mae'r cyllid craidd heb ei neilltuo ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn gynnydd, mewn gwirionedd, o 0.2 y cant o'i gymharu â llynedd.
Felly, y mater i Aelodau yn y fan yma yw na allwch chi gael sicrwydd a phrydlondeb. Felly, naill ai mae'n rhaid inni roi sicrwydd yn gynharach yn y flwyddyn fel sylfaen ac yna ein galluogi i addasu pethau wrth i'r gyllideb newid, neu ein bod yn aros tan yn hwyr iawn yn y flwyddyn i gael sicrwydd llwyr, ac yna nid oes gennych chi amser i gynllunio. Ni allwch chi gael y ddau beth hynny, o gofio sefyllfa Llywodraeth y DU o ran pryd y bydd hi'n cyhoeddi ei chyllideb hithau. Felly, rwy'n credu os byddai'n well gan awdurdodau lleol gael y sicrwydd llwyr yma yn nes ymlaen heb amser i gynllunio, yna mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni ei drafod, ond, ar hyn o bryd, maen nhw'n gofyn am fwy o amser i gynllunio gan wybod bod hynny'n golygu bod gennym ni heriau parhaus a dewisiadau anodd i'w gwneud yn ystod hynt y gyllideb. Mae'n rhywbeth yr wyf yn siŵr y bydd y Gweinidog cyllid a minnau yn fwy na pharod i'w drafod gyda nhw wrth inni fwrw ymlaen.
Mae'r setliad yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried sut i drawsnewid gwasanaethau er mwyn ymateb i anghenion a disgwyliadau sy'n newid neu, pan fo angen, dewis sut i'w lleihau gan geisio cael cefnogaeth y cyhoedd i hynny, yn ogystal â phenderfynu ar y lefel y byddan nhw'n pennu'r dreth gyngor i yn unol â'r dewisiadau hynny. Ac mae'r rheini yn briodol yn faterion ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n credu mai'r rheini yw'r heriau y gall llywodraeth leol yng Nghymru eu cyflawni. Er na fyddwn yn ceisio eu hargyhoeddi nhw na chithau bod hwn yn setliad da, nid yw'n un trychinebus ychwaith, a dylen nhw fod yn gallu gweithio'n dda o fewn y setliad hwn.
Blaenoriaeth y Llywodraeth, a'r hyn fu ei blaenoriaeth erioed, yw diogelu cynghorau rhag y toriadau gwaethaf sy'n cael eu trosglwyddo i ni gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn i'w weld yn y setliad ar gyfer 2019-20 yr wyf wedi'i gyflwyno ichi heddiw. Rydym ni wedi, er gwaethaf y meinciau gyferbyn yn griddfan bob tro y byddaf yn dweud hyn, sicrhau nad yw llywodraeth leol wedi gweld yr ymosodiad ar wasanaethau y mae'r sector llywodraeth leol yn Lloegr wedi ei weld. Rydym ni wedi gweld cyllidebau yn cael eu diogelu mewn ffordd na welwyd dros y ffin. Rydym ni wedi ceisio gweithio ochr yn ochr â llywodraeth leol bob amser i sicrhau ein bod yn gallu, pan fo hynny'n bosib, diogelu gwasanaethau a diogelu'r mwyaf agored i niwed. Byddwn yn parhau i sicrhau o dan ein cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn 2019-20 y gall pobl hawlio gostyngiad llawn, a byddwn unwaith eto yn darparu £244 miliwn yn y setliad llywodraeth leol i gydnabod hyn.
Rydym ni'n dal i fod yn gwbl ymrwymedig i ddiogelu aelwydydd incwm isel ac agored i niwed, er gwaethaf y diffyg yn y cyllid a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU ar ôl iddi ddiddymu budd-dal y dreth gyngor. Penderfynir ar y trefniadau ar gyfer 2020-21 yn rhan o'n hystyriaethau ehangach ynghylch sut i wneud y dreth gyngor yn decach, fel y dywedodd Jack Sargeant, rwy'n credu, a nifer o bobl eraill. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer cyfrifoldebau newydd a, gan gymryd setliad heddiw a'r cyllid grant sydd wedi'i gadarnhau gyda'i gilydd, bydd llywodraeth leol yng Nghymru yn cael bron i £5 biliwn mewn refeniw ar gyfer 2019-20, cynnydd o tua £70 miliwn mewn arian parod o'i gymharu â 2018-19. Mae'r arian ychwanegol yma yn cyfateb i'n blaenoriaethau, sef gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, yn benodol.
Heblaw am y cyllid a gyhoeddwyd trwy ac ochr yn ochr â'r setliad, rydym ni wedi gwneud ymrwymiadau eraill i gefnogi awdurdodau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Byddwn yn parhau â'n trafodaethau gyda llywodraeth leol i fwrw ymlaen â chronfa fuddsoddi newydd ym maes tai rhwng safleoedd datblygu ar raddfa fawr. Cyfuniad o gyfalaf a chyfalaf trafodiadau ariannol o hyd at £15 miliwn fydd yn talu am hyn. Byddwn yn cynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau cyfalaf o dan fand B y rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.
Rydym ni wedi ysgrifennu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru at y Canghellor i alw unwaith eto ar i Lywodraeth y DU ariannu'r costau uwch i gyflogwyr sy'n gysylltiedig â newidiadau i bensiynau, i ateb cwestiwn Mike Hedges. Nid ydym ni wedi cael ymateb eto, ond rydym ni'n parhau i bwyso am ateb, gan ein bod yn deall yn hollol yr anhawster yn sgil yr ansicrwydd ynghylch costau pensiwn i awdurdodau lleol a chyrff eraill wrth geisio pennu eu cyllidebau yn briodol.
O gofio'r cyfnod ansicr yr ydym ni ynddo ac sydd o'n blaenau, mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen ein bod yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth. Fodd bynnag, er gwaethaf addewid Prif Weinidog y DU, nid oes unrhyw arwydd o ddod â chyni i ben. Rwyf yn ymrwymedig i weithio gyda llywodraeth leol i ddarparu hyblygrwydd pan fo hynny'n bosib. Rydym ni'n ymrwymedig i ystyried sut y gellir grymuso a chryfhau llywodraeth leol yn well. Byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau i'w helpu i sicrhau bod pob awdurdod yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol ac effeithlon o'r holl adnoddau sydd ar gael iddo.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cael ymrwymiad gan awdurdodau lleol i weithio'n rhanbarthol. Mae'n rhaid cael mwy o gydweithio â byrddau iechyd a'r consortia addysg i sicrhau canlyniadau gwell a mwy o gydnerthedd. Mae'n rhaid hefyd ailymrwymo i ysbryd a manylion cylch gorchwyl y gweithgor ar lywodraeth leol. Rwyf yn credu bod y setliad yn adlewyrchu canlyniad rhesymol ar gyfer llywodraeth leol yn yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae wedi ei gyflawni mewn blwyddyn heriol arall unwaith eto, ac mae'n cydnabod ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel addysg a gofal cymdeithasol.
I gloi, fe wnaf i unwaith yn rhagor bwysleisio'r gwaith cadarnhaol ar y fformiwla ddosbarthu gyda Llywodraeth Leol. Cytunir ar y newidiadau blynyddol yn y fformiwla bob blwyddyn, fel y dywedais yn gynharach, rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol drwy'r is-grŵp cyllid. Mae hyn yn golygu ein bod yn hyderus ein bod yn llwyddo i ddarparu'r cyllid sydd ar gael yn deg ac yn ddiduedd. Rwyf i'n sicr yn gresynu at unrhyw awgrym bod yna duedd neu annhegwch bwriadol yn y fformiwla, ac mae awgrymu hynny yn annheg iawn i'r rhai hynny sy'n bwrw iddi mewn modd mor gadarnhaol i'r gwaith o'i gyflawni.
Hoffwn ychwanegu, hefyd, ein bod wedi parhau i gyhoeddi'r setliad ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn gynharach na rhannau eraill o'r DU. Fel y dywedais i, mae hwnnw'n gytundeb â llywodraeth leol i roi cymaint o amser â phosib iddyn nhw gynllunio. Roedd y setliad llywodraeth leol dros dro yng Nghymru, a gyhoeddwyd mwy na dau fis yn gynharach nag yn Lloegr, yn caniatáu ar gyfer y cynllunio terfynol hwnnw. Yn Lloegr, cyhoeddwyd y setliad dros dro dim ond chwe diwrnod cyn ein setliad terfynol ni. Ar y sail yna, Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad hwn i'r Cynulliad. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.