13. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Paratoi ein Gwasanaethau Cyhoeddus at Brexit heb Gytundeb — Argyfyngau Sifil Posibl

– Senedd Cymru am 6:18 pm ar 22 Ionawr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 22 Ionawr 2019

Mae'r datganiad nesaf y gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar baratoi ein gwasanaethau cyhoeddus at Brexit heb gytundeb, a hynny ar argyfyngau sifil posib. Dwi'n galw felly ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:19, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd.

Gyda llai na 70 diwrnod nes y disgwylir i'r DU adael yr UE, a gyda'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb yn dal yn gadarn ymhlith y dewisiadau, mae gennym ni gyfrifoldeb i gymryd camau rhagofalus yn rhan o'n paratoadau Brexit, ac mae hyn yn cynnwys ein cynlluniau wrth gefn sifil. Bydd ymateb cynlluniau wrth gefn sifil fel arfer yn ymdrin â digwyddiad sy'n bygwth niweidio lles dynol, yr amgylchedd neu ddiogelwch. Yn y bôn, mae cynlluniau wrth gefn sifil a mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu fel y dewis olaf pan fo agwedd o barodrwydd 'busnes fel arfer' ehangach a chynllunio wrth gefn wedi methu neu'n methu ymdrin â graddfa neu ddifrifoldeb y digwyddiad.

Yn ystod y prynhawn, mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet wedi amlinellu sawl agwedd ar ein gwaith er mwyn bod yn barod ar gyfer Brexit a chynyddu'r cynllunio ar gyfer 'dim cytundeb'. Ein bwriad yw sicrhau bod busnes yn parhau fel arfer ar 30 Mawrth a thu hwnt, pa un a fydd y DU yn gadael yr UE gyda chytundeb ai peidio. Bydd cynllunio wrth gefn sifil da yn ein helpu i baratoi ar gyfer y sefyllfaoedd gwaethaf rhesymol, a bydd yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gwasanaethau brys yn y sefyllfa orau i barhau i ddarparu'r gwasanaethau yr ydym ni a'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni yn dibynnu arnyn nhw bob dydd.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:20, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r gwaith o asesu effeithiau a rhoi camau lliniaru ar waith yn hollbwysig o ran lleihau'r angen am ymateb cynlluniau wrth gefn sifil. Ar gyfer Brexit a Brexit heb gytundeb, rydym ni'n gweithio drwy amrywiaeth o bartneriaethau, gan gynnwys fforwm Cymru gydnerth, Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys ac yn uniongyrchol gyda'r pedwar fforwm cydnerthedd lleol ledled Cymru. Yn benodol, rydym yn datblygu ein strwythurau sydd wedi'u sefydlu i ymdrin â nifer o faterion cynlluniau wrth gefn sifil, sy'n ymwneud â Brexit, ar unrhyw adeg benodol, y cyfan heb amharu ar ein gallu i ymateb i unrhyw faterion nad ydyn nhw ymwneud â Brexit, megis achosion o dywydd garw. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp risg Cymru aml-asiantaeth am ddatblygu asesiad rhanbarthol ac asesiad Cymru gyfan o effeithiau posibl Brexit ar eu hardaloedd ac ar Gymru gyfan, ac wedyn ystyried y dulliau lliniaru angenrheidiol a sut y gellir rheoli risg.

Mae hwn yn bwnc sy'n symud yn gyflym, fel y dangosodd y digwyddiadau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Bydd y tybiaethau y lluniwyd y cynlluniau arnyn nhw yn newid wrth i wybodaeth gael ei chyhoeddi, neu wrth i fesurau lliniaru gael eu gweithredu, a bydd yr holl ragdybiaethau hyn sy'n sail i'n cynllunio ni yn cael eu profi'n llawn. Mae fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet eisoes wedi amlygu gwaith i liniaru rhai o'r tybiaethau gweithiol hyn. Er enghraifft, mae'r cynllunio wrth gefn wedi ystyried sut i fynd i'r afael ag aflonyddwch posibl mewn porthladdoedd, sut i helpu i sicrhau diogelwch bwyd, a hefyd sut i sicrhau y bydd meddyginiaethau a chyflenwadau yn parhau i fod ar gael.

Rydym yn paratoi ein trefniadau gorchymyn, rheoli a chydgysylltu, ac rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori â'r fforymau cydnerthedd lleol ynghylch ein cynigion. Cynlluniwyd y trefniadau arfaethedig i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o faterion lleol a rhanbarthol, a hefyd yr effeithiau yn y sectorau allweddol ledled Cymru fel y gellir addasu ein gwaith cynllunio yn unol â hynny. Bydd y trefniadau yn darparu seilwaith cryf o gefnogaeth i helpu nodi'n gyflym y materion sy'n codi i gefnogi penderfyniadau cyflym ac effeithiol gan bawb sy'n gysylltiedig. Bydd y trefniadau yn ei gwneud hi'n bosibl cydgysylltu cyfathrebu â'r cyhoedd ac yn y cyfryngau ynghylch materion wrth gefn sifil a fydd yn cael eu rhannu ar draws y sector cyhoeddus.

Byddwn yn rheoli ein hymateb ar lefel genedlaethol drwy ein Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau (Cymru). Mae cynlluniau ar waith i'r ganolfan weithredu os bydd hi'n angenrheidiol, a gelwir ar staff y Llywodraeth i gynorthwyo ein tîm cydnerthedd craidd. Y dybiaeth yw y byddwn yn gweithredu'r ganolfan gyda chapasiti wedi ei gyfyngu yn ystod mis Chwefror. Bydd hyn yn galluogi monitro a threfniadau adrodd ddigwydd ar lefel Cymru a lefel ranbarthol, ac yn sicrhau ymgysylltu ag unrhyw drefniadau wrth gefn sifil y DU. Mae uwch gynghorwyr cynlluniau wrth gefn sifil yn cael eu recriwtio o fewn Llywodraeth Cymru, ond eu blaenoriaeth gyntaf fydd cefnogi gwaith y fforymau cydnerthedd lleol yn rhan o'u cynllunio gorchymyn, rheoli a chydlynu ar gyfer Brexit heb gytundeb.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn brysur yn cynllunio ar gyfer Brexit fel gwasanaethau unigol, ac mae llawer ohonyn nhw'n aelodau o fforymau cydnerthedd lleol. Mae ein tri awdurdod tân ac achub yn gweithio gyda'r Cyngor Penaethiaid Tân Cenedlaethol, er enghraifft, i gynllunio ar gyfer canlyniadau Brexit heb gytundeb. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu gweithredol ar y lefelau uchaf o reoli a gyda fforymau cydnerthedd lleol. Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi penodi uwch swyddog cyfrifol ar lefel cyfarwyddwr i oruchwylio paratoadau'r sefydliad, ac mae ei fwrdd yn monitro'r sefyllfa. Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn ymgysylltu'n llawn â'r cynllunio sy'n cael ei arwain gan y fforymau cydnerthedd lleol ledled Cymru ac â Llywodraeth Cymru.

Mae ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi creu rhaniadau cymdeithasol a gwleidyddol, ac wedi ychwanegu at densiynau ynghylch materion sydd wedi eu cysylltu'n agos gan gynnwys ymfudo, cysylltiadau hil a ffydd, a hawliau dynol. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru yw gwlad gynhwysol lle mae croeso i bobl o bob cefndir, a gwlad nad oes lle ynddi hi i senoffobia, hiliaeth na rhagfarn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nifer o bartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, Heddlu a sefydliadau cydraddoldeb a chynhwysiant yn y trydydd sector, i sicrhau bod cydlyniant yn magu gwreiddiau ymhob un o'n cymunedau ni.

Drwy gronfa pontio'r UE, mae Llywodraeth Cymru yn ehangu ei rhaglen cydlyniant cymunedol rhanbarthol. Defnyddir y cyllid ychwanegol i adeiladu ar y rhwydwaith presennol o gydgysylltwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol i ymgymryd â gwaith penodol i leddfu tensiynau cymunedol Brexit. Mae ein Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ar gyfer Troseddau Casineb hefyd wedi ystyried effeithiau posibl Brexit a throseddau casineb yn targedu lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol. Bydd prosiect hawliau dinasyddion yr UE gwerth £1.3 miliwn a ariennir gan gronfa bontio'r UE yn sicrhau y bydd dinasyddion yr UE yn gallu cael gafael ar wasanaethau cynghori, y byddant yn cael eu hamddiffyn rhag ymelwa ac allgáu, ac yn cael eu hannog i barhau i fyw yng Nghymru a chyflawni eu potensial.

Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi a chynllunio ar gyfer effeithiau ar draws pob gwasanaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi cynghorau i baratoi ar gyfer Brexit. Mae hyn yn cynnwys ariannu pecyn cymorth Grant Thornton, yn ogystal â chymorth arall. Mae'r pecyn yn cynnig canllaw syml i'r cwestiynau y mae angen i awdurdodau lleol eu hystyried er mwyn gallu cynllunio'n effeithiol ar draws ystod eu gwasanaethau a'u cyfrifoldebau. Mae'r rhain yn cynnwys materion gweithlu, effeithiau ariannol, rheoliad, effeithiau economaidd lleol a chymorth ar gyfer cydlyniant cymunedol a phobl sy'n agored i niwed.

Rwyf wedi nodi rhywfaint o'r gwaith presennol ar gyfer lleihau'r risg o orfod cael ymateb cynlluniau wrth gefn sifil. Ni chawn ein twyllo ynghylch effaith Brexit heb gytundeb, ac er na all cynlluniau wrth gefn sifil ymdrin â phob problem yn ymwneud â Brexit heb gytundeb, rydym yn ffodus bod gennym ni strwythur a phartneriaeth wedi hen sefydlu y gallwn ni adeiladu arnyn nhw yng Nghymru er mwyn lliniaru'r effaith honno.

Mae'n bwysig pwysleisio bod cynllunio wrth gefn sifil yn nodwedd arferol o'n busnes ni ac rydym wedi arfer cynllunio ar gyfer tywydd garw ac ar gyfer digwyddiadau mawr megis rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd yn 2017, er enghraifft. Mae'n annirnadwy na fyddwn ni'n cynllunio ar gyfer effeithiau posibl Brexit heb gytundeb. Nid yw ein cynlluniau wrth gefn sifil yn awgrymu mewn unrhyw ffordd ein bod yn disgwyl argyfwng, ond yn hytrach mae'n dangos ein bod eisiau gweithio'n effeithiol gyda'n gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer Brexit heb gytundeb a bod camau a dulliau lliniaru yn eu lle, cyn belled â phosibl, er mwyn lleihau effeithiau Brexit heb gytundeb.

Wrth wneud hynny, ein nod yw lleihau'r angen posib am ymateb cynlluniau wrth gefn sifil. Yn y cyfnod ansicr hwn, gall Aelodau fod yn dawel eu meddwl oherwydd ein bod, fel Llywodraeth gyfrifol, yn cymryd yr angen i gynllunio o ddifrif ac, fel cam rhagofalus, ein bod yn rhoi cynlluniau ar waith i fonitro unrhyw faterion cynlluniau wrth gefn sifil posibl ac i ymateb yn gyflym os bydd angen. Diolch.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 6:26, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu'n arbennig eich sylwadau ar y diwedd sef mai cam rhagofalus yw hwn ac nad yw eich cynlluniau wrth gefn sifil,

'yn awgrymu mewn unrhyw ffordd ein bod yn disgwyl argyfwng, ond yn hytrach mae'n dangos ein bod eisiau gweithio'n effeithiol gyda'n gwasanaethau cyhoeddus...i sicrhau eu bod yn barod', a'ch nod yw lleihau'r angen tebygol am ymateb cynlluniau wrth gefn sifil. Rwy'n siŵr mai dyna'r ymagwedd y byddem ni i gyd yn dymuno'n fawr iawn ei rannu gyda chi.

Rydym wedi clywed heddiw a llawer gwaith o'r blaen—rhaid cyfaddef, na fu ichi gynnwys hyn yn eich datganiad yn bersonol—bod Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad refferendwm 2016. Ond yna, wrth gwrs, cynigiodd y Papur Gwyn dilynol â Phlaid Cymru fesurau a fyddai wedi sicrhau mai Brexit mewn enw yn unig a fyddai, heb unrhyw reolaeth dros ffiniau, arian, cyfreithiau, masnach, neu beth bynnag. Felly, byddwch yn onest, dywedwch wrth y bobl mai fel yna y mae hi a gadewch iddyn nhw benderfynu, ond gadewch inni beidio â chymryd arnom mai dewis amgen i Brexit ydy hwn.

Yn y cyd-destun hwnnw, a ydych chi wedi ystyried yr effaith bosibl ar y drefn sifil pe byddai ail refferendwm, neu, er enghraifft, pe byddai ymrwymiad eich papur gwyn i aros yn yr undeb tollau yn dwyn ffrwyth gan arwain at sefyllfa pan na fyddem ni'n gallu gwneud—wrth 'ni' rwy'n golygu'r DU a Chymru, gobeithio, o fewn y tîm—cytundebau masnachu â gwladwriaethau neu ranbarthau economaidd ar draws y byd, oherwydd, wrth gwrs, mae gan lawer o rannau eraill o'r byd eu trefniadau economaidd rhanbarthol eu hunain?

Ar y diwrnod pan glywsom ni fod cyfanswm diweithdra yn y DU wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, dylem ni gofio bod Prif Weinidog y DU wedi datgan yn gyson ei bod hi eisiau trefniant tollau; dydy hi ddim eisiau ymadael heb gytundeb. Yn wir, mae'r cytundeb y bu hi yn ei negodi yn cynnwys cyfnod gweithredu o 21 mis, sy'n rhoi amser i fusnesau baratoi ar gyfer trefniadau'r UE a'r DU yn y dyfodol ac yn sicrhau proses Brexit llyfn a threfnus, ac mae'r cyfnod pontio yn rhan o gytundeb ymadael Llywodraeth y DU ond bydd dim ond yn bodoli os cytunir ar gytundeb. Felly, efallai bod angen atgoffa'r rheini sydd yn credu, yn San Steffan, y byddai pleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb yn eu galluogi i ddefnyddio'r cyfnod pontio i negodi, nad yw hynny'n wir.

Roedd cytundeb drafft Llywodraeth y DU hefyd wedi sicrhau mynediad da i'r farchnad sengl, ond heb aros yn y farchnad sengl, oherwydd byddai hynny wedi golygu symiau mawr o arian yn parhau i fynd i'r UE am byth, heb unrhyw reolaeth dros ffiniau, a rheoliadau na fyddai gennym ni ran o gwbl yn eu creu. Nawr beth bynnag yw barn unigol y bobl am hynny, nid yw'n parchu'r refferendwm.

Mae gwefan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn eich galluogi i lawrlwytho briff Brexit 'heb gytundeb' ar gyfer cynghorau, a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol y DU, neu Loegr. Mae hwn yn cyfeirio at y ffaith bod ysgrifenyddiaeth cynlluniau wrth gefn sifil Swyddfa'r Cabinet ac is-adran argyfyngau a chydnerthedd llywodraeth leol wedi cael trafodaethau gyda fforymau Cymru gydnerth lleol i sicrhau parodrwydd ar gyfer materion allweddol, gyda chynghorau, awdurdodau lleol yn cyfrannu a gwneud eu cynllunio ar gyfer eu sefyllfa eu hunain ar lefel sefydliadol i sicrhau parodrwydd. Pa ran, os o gwbl, ydych chi neu Lywodraeth Cymru wedi ei chwarae yn y broses honno, o gofio, fel yr ydym ni wedi ei glywed y prynhawn yma, bod llawer o'r gwasanaethau hyn yr effeithir arnyn nhw o bosib, wedi'u datganoli, ond ceir llawer nad ydyn nhw wedi eu datganoli ychwaith a byddai angen cefnogaeth ar y cyd a darpariaeth wedi ei chydgysylltu petai'r sefyllfa waethaf yn codi?

Rydych chi'n cyfeirio at ymateb ar lefel genedlaethol a Chymru drwy eich Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau yng Nghymru, sy'n cynnwys awdurdodau tân ac achub a phenaethiaid y gwasanaethau tân, ond sut fyddech chi'n mynd tu hwnt i hynny i gynnwys, o bosib yr heddlu neu hyd yn oed filwyr? Oherwydd ein bod yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi llunio cynlluniau wrth gefn gyda Chanolfan Gydgysylltu Genedlaethol yr Heddlu, gyda'r Ysgrifennydd Cartref yn cyhoeddi na ddylai'r cyhoedd boeni—mae'n rhaid i'r adrannau, fel yr ydych yn ei ddweud, baratoi ar gyfer pob canlyniad posibl.

Dywed Canolfan Gydgysylltu Genedlaethol yr Heddlu,

Mae'r heddlu yn cynllunio ar gyfer pob sefyllfa pryd y byddai o bosib angen ymateb yr heddlu...nid oes gennym ni unrhyw wybodaeth i awgrymu y bydd cynnydd mewn troseddu neu anhrefn.

Serch hynny, mae agweddau ar blismona, yn enwedig diogelwch cymunedol, wedi'u datganoli, a gwyddom hefyd o ran cynllunio brys bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu fel mater o drefn mewn materion o'r fath. Yn yr un modd, gwyddom fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi, rwy'n credu, 3,500 o filwyr, gyda 10 y cant o'r rheini yn filwyr wrth gefn, er mwyn sicrhau nad yw lles, iechyd a diogelwch dinasyddion y DU a sefydlogrwydd economaidd y DU mewn perygl petai'r sefyllfa waethaf yn codi. Rydym ni'n gwybod bod llawer o filwyr wrth gefn yng Nghymru, ac nid oes amheuaeth, pe byddai problem, fe fyddem ni hefyd yn ddibynnol ar gynllunio cydgysylltiedig ar sail hynny. Felly, fe fyddwn yn ddiolchgar pe gallech ymdrin â hynny.

O safbwynt cynlluniau wrth gefn sifil, rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru ychydig o wythnosau'n ôl, yn ei wahodd i Bwyllgor Masnach a Gadael yr UE (parodrwydd) newydd, sef is-bwyllgor y Cabinet yn San Steffan sydd wedi dwyn ynghyd pob pwyllgor cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb pan fo materion y maen nhw'n eu rhannu ar yr agenda. Maen nhw hefyd yn gofyn a fyddai Llywodraeth y DU yn gallu eistedd ar y Pwyllgor, neu'r cyfarfodydd cynllunio rheolaidd, y maen nhw'n gwybod bod Llywodraeth Cymru hefyd yn eu trefnu. A allwch chi ddweud wrthym a fu ymateb cadarnhaol i hynny fel y gwelir y ddwy ochr yn gweithio gyda'i gilydd ar barodrwydd i helpu sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer unrhyw heriau y gellid eu rhannu yn y dyfodol?

Unwaith eto, fe glywsom ni gyfeiriadau yn gynharach yn y dydd at borthladdoedd. Rwy'n gwybod nad yw porthladdoedd yn eich briff, ond, o bosibl, gallai materion cynlluniau wrth gefn sifil godi, felly gofynnodd yr un llythyr i Lywodraeth Cymru rannu â Llywodraeth y DU ganlyniadau ynghylch gwaith ar borthladdoedd Caergybi a Sir Benfro, gan atgynhyrchu eu treialon o amgylch Kent ac, unwaith eto, a rannwyd hynny gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dull o weithredu cydgysylltiedig, oherwydd gwyddom fod gogledd Cymru yn cael ei ddefnyddio fel pont dir gan Iwerddon ac yn llwybr a ddefnyddir yn helaeth, ond eto cafodd y pwyntiau ehangach sylw yn gynharach.

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i'w rhoi ar waith i alluogi awdurdodau lleol i fwrw ati'n ddiymdroi o ran caffael nwyddau hanfodol a gwasanaethau yn sgil sefyllfa o 'ddim cytundeb', Duw a'n gwaredo petai hynny'n digwydd?

Ac, mewn gwirionedd, rwy'n credu fe dawelaf i nawr oherwydd fy mod wedi siarad digon, gan roi amser ichi ateb. [Chwerthin.]

Photo of Julie James Julie James Labour 6:33, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gyfres yna o sylwadau. Ni fydd yr Aelod yn synnu o gwbl i ganfod fy mod yn anghytuno â bron popeth yn nhraean cyntaf ei sylwadau. Rwyf bob amser yn rhyfeddu at ba mor siŵr yw pobl ynglŷn â thros beth yn union y pleidleisiodd pobl. Felly, wn i ddim sut yr ydych chi'n mor siŵr nad oedd pobl wedi pleidleisio i aros yn yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Yn bersonol, nid wyf innau'n siŵr o hynny. Rwyf wedi cwrdd â nifer fawr iawn o bobl a bleidleisiodd i 'ymadael', a bleidleisiodd i 'ymadael' am nifer o wahanol resymau, rhai ohonyn nhw'n ddibwys, rhai yn ddifrifol iawn a'r ystod gyfan rhwng y ddau, felly nid wyf mor siŵr â'r Aelod fy mod yn ymwybodol o'r holl newidiadau cynnil. Nid wyf mor siŵr ag ef ychwaith bod pobl eisiau'r hyn y mae ef yn awgrymu y maen nhw eisiau. Felly, rwy'n edmygu ei sicrwydd, ond yn sicr ddim yn ei rannu. Yn bersonol, rwy'n credu y byddai'r Deyrnas Unedig yn llawer gwell ei byd y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd ac, os ydym ni am adael yr Undeb Ewropeaidd, yna yn amlwg fe ddylem ni adael yn y modd a nodir yn ein Papur Gwyn a gynhyrchwyd gennym ochr yn ochr â Phlaid Cymru. Dyna'r cytundeb gorau i Gymru o hyd, ac ni chlywais unrhyw beth yn ystod y ddwy flynedd diwethaf sydd wedi gwneud i mi newid fy meddwl ynghylch hynny.

O ran y pethau penodol a ofynnodd, mae gennym set o fforymau cydnerthedd lleol dibynadwy a hierarchaeth. Mae'r fforymau hynny eisoes wedi ymgysylltu â chynlluniau wrth gefn sifil. Y cwbl a wnaethom ni yw sicrhau eu bod yn cynnwys parodrwydd ychwanegol ar gyfer cynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb. Maen nhw'n cynnwys y cyswllt—fel nododd Mark Isherwood yn hollol briodol, y dylen nhw gynnwys. Rydym ni'n ymgysylltu'n llawn â hynny. Mae fy nghyd-Weinidogion—yn arbennig y Cwnsler Cyffredinol a Phrif Weinidog Cymru, ond cyd-Weinidogion eraill pan fo'r angen—yn ymgysylltu'n llawn ym mhroses y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Fe gyfarfu fy nghyd-Aelod Kirsty Williams ag amrywiaeth o gydweithwyr gweinidogol eraill ar draws y maes yn ddiweddar iawn. Mae gennym ni amrywiaeth eang o'r rheini. Dyna pryd yr ydym ni'n rhannu'r trefniadau wrth gefn amrywiol, ac mae'r trafodaethau wedi'u strwythuro mewn modd sy'n ymdrin â mannau penodol ar adegau penodol. Rydym yn ymgysylltu'n llawn yn hynny o beth.

Dywedir wrthyf nad oes gennym ni hyd yn hyn unrhyw fanylion am y pwyllgor cydlynu cyffredinol y cyfeiriodd ato o ran y llythyr a gawsom ni. Rydym yn aros am y manylion ynghylch hwnnw. Mae gennym gyfres lawn o gynlluniau rhannu parodrwydd, gan gynnwys y math o gynllunio ar gyfer y gadwyn gyflenwi a awgrymodd y dylem ei wneud, ac yn amlwg fe ddylem ni wneud hynny. Ac rwy'n pwysleisio: nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn awgrymu bod angen i ni gynhyrfu neu unrhyw beth arall, ond yn amlwg, fel Llywodraeth gyfrifol, mae angen inni fod yn barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad sy'n codi, ac mae'r parodrwydd hwn yn rhan fawr o hynny, ac mae'n cynnwys yr holl uwchgyfeirio y byddech yn ei ddisgwyl petai anghydfod sifil yn codi mewn unrhyw achos. Nid wyf yn disgwyl y bydd angen hynny, ond yn amlwg fe fyddem yn anghyfrifol i beidio â chynllunio ar ei gyfer.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 6:36, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Y gwir amdani yw ein bod ni'n wynebu'r bygythiad mwyaf i'n cymdeithas ers yr ail ryfel byd, ac er fy mod i'n croesawu'r paratoadau y mae'r Gweinidog wedi eu hamlinellu, yn benodol cronfa brosiect hawliau dinasyddion yr UE gwerth £1.3 miliwn, sy'n annog dinasyddion yr UE i aros yn y DU drwy gynnig gwahanol becynnau cymorth, mae un peth rwy'n credu wedi'i anwybyddu i raddau helaeth, a hynny yw'r cynnydd yng ngweithgarwch yr asgell dde eithafol yn ystod y misoedd diwethaf. Nawr, mae'r siacedi melyn yn enghraifft berffaith, yn aflonyddu ar Aelodau Seneddol a phobl sydd o blaid aros yn yr UE y tu allan i Senedd y DU, ac yn cael rhwydd hynt i raddau helaeth iawn, a daw hyn, wrth gwrs, ar ôl cynnydd sydyn mewn troseddau casineb yn dilyn y refferendwm. Fe wyddom ni fod grwpiau asgell dde eithafol yn fwy beiddgar ar adegau o argyfwng, ac mae hanes yn dangos y byddan nhw'n manteisio ar lywodraethau sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi neu sydd mewn anhrefn eu hunain. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog ar y pwynt hwn yw: beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud i atal unrhyw weithredoedd treisgar gan grwpiau asgell dde eithafol yn erbyn unrhyw brotest heddychlon neu unrhyw beth y gallan nhw ei wneud yn erbyn unrhyw ddinasyddion o'r UE neu gymunedau amlddiwylliannol ehangach sydd gennym ni yma yn y wlad hon?

Hefyd, rwy'n credu ei bod hi'n amlwg ein bod ni wedi esgeuluso cyni yn y ddadl hon. Am 10 mlynedd, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi dioddef toriadau, ac am 10 mlynedd, mae pobl wedi gweld ansawdd bywyd yn dirywio. Wrth gwrs, mae disgwyl i'r toriadau hyn waethygu hyd yn oed yn fwy petai Brexit heb gytundeb, ac mae'r rhain yn faterion difrifol i'w hystyried nawr. Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau cyni os oes Brexit heb gytundeb, ac yn y cyfnod ar ôl hynny? Mae cyni wedi niweidio gwead ein cymdeithas, a byddai Brexit heb gytundeb yn creu difrod parhaol.

Yn olaf, mae pobl yn storio bwyd wrth baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, ond yn natganiad y Gweinidog, ni welaf lawer iawn o sôn am ddiogelu llinellau cyflenwi o ran bwyd. Heb os, mae prisiau yn debygol o gynyddu, gan roi pobl mewn sefyllfa ansicr iawn. Felly, pa baratoadau mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud  i ddiogelu cyflenwadau bwyd a phrisiau? A dyna gwestiwn sy'n berthnasol pa un a fyddwn ni'n gadael gyda chytundeb neu beidio.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:39, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n cytuno'n fawr iawn â sylwedd a chynnwys sylwadau'r Aelod. O ran gweithgarwch asgell dde eithafol, fe ddywedais yn fy natganiad ein bod ni'n atgyfnerthu'r trefniadau cydlyniant cymunedol sydd gennym ni ar waith. Rydym ni eisoes yn ariannu cydgysylltwyr cydlyniant cymunedol rhanbarthol. Maen nhw'n rhan bwysig iawn o'r fforymau cydnerthedd a'r trefniadau paratoi, am yr union reswm y mae hi'n ei nodi. Rydym ni eisiau mewn difrif sicrhau bod ein hawdurdodau lleol a'n fforymau cydnerthedd lleol—ac mae hynny'n cynnwys pob un o'r ymatebwyr golau glas—yn ymwybodol o unrhyw densiwn cynyddol. Nid oes gennym ni unrhyw wybodaeth, heblaw'r tensiwn cynyddol cyffredinol y mae hi'n sôn amdano, i awgrymu bod gennym ni unrhyw broblemau penodol yng Nghymru, ond mae'r fforymau yn paratoi ar gyfer hynny ac rydym ni wedi atgyfnerthu'r cyllid ar gyfer y swyddi cydlyniant cymunedol rhanbarthol hynny, er mwyn pwysleisio hynny.

O ran y materion ynglŷn â chyni, rydym ni'n gwneud rhywfaint o gynllunio rhanbarthol ledled Cymru, yng nghyswllt pob un o'r datganiadau y mae cyd-Weinidogion wedi'u crybwyll heddiw, i weld a oes mannau penodol lle byddai Brexit heb gytundeb yn cael cyfres o effeithiau gwahanol ar gymuned benodol neu mewn rhan benodol o Gymru fel y gallwn ni roi cynlluniau paratoi ar waith i liniaru cymaint o'r effaith honno â phosib. Ond, fel mae un Gweinidog ar ôl y llall wedi dweud, dydym ni ddim yn esgus ei bod hi'n bosib lliniaru effeithiau Brexit heb gytundeb. Rydym ni'n ceisio gwneud cymaint ag y gallai unrhyw un ei wneud. Nid ydym ni eisiau teimlo ein bod ni wedi anghofio rhywbeth, ond y syniad y gallwn ni ei liniaru—nid yw'n bosib i'w liniaru. Rwy'n cytuno â hi; dyma'r broblem fwyaf erioed y byddwn ni'n ei hwynebu heblaw am ryfel. Felly'r cwbl yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau bod pob un o'r prosesau sydd wedi'u sefydlu mor gadarn ag y bo modd iddyn nhw fod, o ystyried lle y gallwn ni fod.

Mae hynny'n cynnwys y materion ynglŷn â'r gadwyn gyflenwi. Hoffwn dawelu meddwl pobl a dweud nad oes angen storio bwyd wrth gefn, ond byddwn ni yn ceisio sicrhau bod cadwyni cyflenwi ar gyfer pethau fel prydau ysgol neu gyfleusterau'r henoed neu beth bynnag yn dal i allu cael yr holl gynhwysion y bydden nhw fel arfer yn eu cael, neu eu bod nhw'n gallu cynllunio bwydlenni i sicrhau, os ymddengys hi'n debygol y bydd effaith ar y gadwyn gyflenwi, yna y gallan nhw roi rhywbeth arall yn ei le. Felly, cynllunio ar y lefel honno yw hi. Nid rhagweld prinder eang, ond efallai y bydd prinder cynhwysion ac mae angen inni gynllunio ar gyfer hynny.

Felly, mae'n bwysig iawn cael y cydbwysedd yn gywir. Mae'n bwysig i fod yn barod, mae'n bwysig peidio â sbarduno trafodaeth am brinder pan nad ydym ni'n disgwyl unrhyw brinder. Felly, ein bwriad yw lliniaru problemau posib i'r gadwyn gyflenwi. Felly, i ailadrodd, nid ydym ni'n disgwyl unrhyw brinder bwyd eang o unrhyw fath. Ni ddylai pobl storio bwyd wrth gefn. Rydym ni yn disgwyl i awdurdodau cyhoeddus sydd yn paratoi bwyd ar gyfer pobl sy'n agored i niwed sicrhau bod eu cadwyni cyflenwi yn ddi-dor yn yr amgylchiadau hynny.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:41, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fe glywsom ni'n gynharach bod gan DEFRA dîm argyfwng y gadwyn fwyd y mae Lesley Griffiths mewn cysylltiad â nhw. Meddwl oeddwn i tybed pa ystyriaeth a roddir i sut y gallwn ni sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael y deunyddiau crai ar gyfer gwneud prydau ysgol, yn ogystal ag ysbytai a chartrefi nyrsio a chartrefi preswyl, er mwyn sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael eu bwydo'n briodol. Fy mhryder i yw mai Llundain yw canolfan ddosbarthu bwyd a phetai problemau'n codi, y pellaf yr ydych chi o'r fan honno y fwyaf yw'r effaith arnoch chi. Meddwl oeddwn i tybed beth mae pecyn cymorth Grant Thornton yn cynghori'r awdurdodau lleol i'w wneud i liniaru'r peryg posib hwn.

Photo of Julie James Julie James Labour 6:42, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Yn y cyngor partneriaeth a gadeiriais yn ddiweddar i drafod y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, roedd y mater hwn yn bwnc pwysig ar yr agenda, er mwyn sicrhau, fel y dywedais wrth ateb Leanne Wood, ein bod ni'n edrych yn fanwl ar y gadwyn gyflenwi o ran paratoi pethau megis prydau ysgol neu brydau ar glud a'r mathau hynny o ddarpariaeth—cartrefi gofal, cartrefi preswyl ac ati—bod eu cadwyn gyflenwi wedi ei threfnu'n iawn a bod eu bwydlenni wedi eu hadolygu, i wneud yn siŵr bod gennym ni amrywiaeth o ddewisiadau ar gael.

Hoffwn ddweud eto nad ydym ni'n rhagweld prinder bwyd eang a ni ddylai pobl storio bwyd wrth gefn, oherwydd yn amlwg gall hynny achosi prinder ei hun, felly mae'n bwnc pwysig iawn. Ond roedd y cyngor partneriaeth wedi ystyried hynny'n llawn. Dyna'r hyn y mae'r fforymau cydnerthedd yn edrych arno. Gofynnwyd i bob awdurdod lleol roi sylw i hynny ac mae cydweithwyr o bob rhan o'r Llywodraeth wedi crybwyll hyn yn eu cyfraniadau y prynhawn yma o ran eu sectorau penodol. Rwy'n edrych ar y darlun cyfan, os mynnwch chi, i wneud yn siŵr bod y cydgysylltu hwnnw gennym ni. Ond ni allaf bwysleisio digon bod angen inni gynllunio'n briodol heb ysgogi trafodaethau am brinder bwyd.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 6:44, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol a phartneriaid yn yr asiantaethau cyhoeddus i baratoi cymaint â phosib ar gyfer cynllunio diogelwch sifil wrth gefn pe byddai Brexit heb gytundeb. Dylai Brexit heb gytundeb gael ei alw'n Brexit caled, oherwydd dyna beth ydyw; dyma'r glatsen economaidd waethaf bosib i bobl Cymru a bydd yn effeithio'n anghymesur ar ddefnyddwyr ein gwasanaethau cyhoeddus sydd fwyaf agored i niwed, gan mai nhw sy'n defnyddio ein sector cyhoeddus fwyaf. Rwyf yn credu y buoch chi fel Gweinidog, ynghyd â'r Cwnsler Cyffredinol, yn cyfarfod arweinwyr llywodraeth leol i drafod y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb.

Felly, mae Brexit caled neu adael heb gytundeb yn golygu llawer i'n hasiantaethau cyhoeddus, gan eu bod nhw, fel y dywedwyd eisoes, o dan straen aruthrol o ganlyniad i gyni a thoriadau i Gymru. Felly, rhaid defnyddio pob dull posib i wrthsefyll unrhyw effeithiau posib Brexit heb gytundeb—ar swyddi, p'un a yw hynny'n gynnydd mewn prisiau bwyd, digartrefedd, argaeledd meddyginiaethau, yswiriant teithio dramor, ein dinasyddion sy'n byw dramor a'u trefniadau iechyd yn y gwledydd hynny, a hefyd rhannu data diogelwch cenedlaethol. Fel Mark Isherwood, gallwn ddweud rhagor, ond wnaf i ddim.

Mewn cyfarfod arbennig o'r cyngor partneriaeth llywodraeth leol gwelwyd cynrychiolwyr llywodraeth leol, cynghorau cymuned a thref, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr heddlu, awdurdodau tân ac awdurdodau parciau cenedlaethol yn dod ynghyd, felly mae'n briodol fod y cydweithredu dwys hwn a'r gwaith wyneb yn wyneb gan bartneriaeth ledled Cymru yn ceisio paratoi yn rhannol ar gyfer effeithiau Brexit caled heb gytundeb, sy'n ymddangos yn fwyfwy tebygol bellach. Yma yng Nghymru rydym ni'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi amlinellu'n gyson sut y byddai gadael yr UE heb gytundeb yn drychinebus. Dywedodd y Prif Weinidog:

Gallai achosi anrhefn sylweddol a niweidio ein heconomi, swyddi, masnach a gwasanaethau cyhoeddus... Dylai pob sector cyhoeddus yng Nghymru fod wedi hen ddechrau cynllunio ar gyfer unrhyw sefyllfa heb gytundeb.

Gweinidog, pa gynlluniau eraill sydd yna i'r cyngor partneriaeth llywodraeth leol eu cyflawni, a sut gall Llywodraeth Cymru gefnogi a helpu ei waith yn y trobwll gwleidyddol chwyrlïol yma, a pha sicrwydd allwch chi ei roi o gwbl i bobl Islwyn bod Cymru a'i gwasanaethau cyhoeddus yn barod ac wedi paratoi ar gyfer canlyniadau niweidiol unrhyw Brexit caled heb gytundeb?

Photo of Julie James Julie James Labour 6:46, 22 Ionawr 2019

(Cyfieithwyd)

Ie, mae'r Aelod yn gwbl gywir. Rydym ni wedi rhoi ar waith ystod o ymarferion ymgysylltu ag awdurdodau lleol. Mae'n eitem sefydlog ar y cyngor partneriaeth, ond yn ogystal â hynny rydym ni wedi rhoi strwythur ymgysylltu newydd ar waith, panel cynghori parodrwydd llywodraeth leol ar gyfer ymadael â'r UE, ac mae gennym hefyd grŵp cyd-drefnu UE llywodraeth leol mewnol Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom gytuno ar drefniadau llywodraethu newydd ym mis Rhagfyr i gefnogi llywodraeth leol i baratoi yn llawn ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—unrhyw ffurf o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—ond yn amlwg ymadael heb gytundeb yw'r anoddaf, fel y mae hi wedi dweud yn gwbl gywir, felly mae angen rhoi rhagor o gynlluniau ar waith.

Rydym wedi darparu cyllid—gwerth £150,000 o arian—i sefydlu rhaglen gymorth pontio Brexit ar gyfer awdurdodau lleol Cymru drwy gronfa bontio UE Llywodraeth Cymru, ac amcanion y rhaglen honno yw sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn dyblygu gwaith wrth baratoi ar gyfer Brexit, a'n bod yn sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru mor barod â'i gilydd ar gyfer Brexit mewn sectorau allweddol, a'n bod yn sefydlu rhaglen fwy ffurfiol, ddwy ffordd o gyfathrebu rhwng awdurdodau lleol a'r rhai hynny sy'n cynllunio ar gyfer Brexit yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU er mwyn gydgysylltu gweithgareddau.

Rydym wedi ariannu, fel y dywedais, pecyn cymorth Grant Thornton. Rydym yn gwybod, bod CLlLC, ers canol mis Ionawr, wedi rhoi sesiynau briffio penodol i 14 o'r 22 o awdurdodau lleol ac yn fuan iawn byddwn ni wedi gorchuddio'r pizza cyfan. Rydym ni, fel y dywedais i, yn rhoi cymaint o gynllunio wrth gefn ar waith ag y gallwn, ond mae'n bwysig pwysleisio nad oes unrhyw ffordd o liniaru'r cyfan o effaith Brexit heb gytundeb.