5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

– Senedd Cymru am 3:19 pm ar 5 Mawrth 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:19, 5 Mawrth 2019

Sy'n dod â ni at eitem 5, sef datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Jane Hutt. 

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad hwn, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, sydd hefyd yn gosod dyletswyddau i roi 'sylw dyledus i gyfle cyfartal' yn ein llyfr statud. Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori yng ngwead Llywodraeth Cymru drwy'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'n bodolaeth.

Mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn ganolog i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru ac i'n gweledigaeth ar gyfer Cymru. Credwn mewn trin pob unigolyn yn deg, yn enwedig y rhai hynny sydd fwyaf ar y cyrion oherwydd ffactorau economaidd-gymdeithasol, rhagfarn a gwahaniaethu. Rydym yn gweithio tuag at Gymru fwy cyfartal a sicrhau mynediad tecach i wasanaethau a chyfleoedd cefnogi i bawb.

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:20, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ystyried yr hyn a gyflawnwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys polisïau arloesol a deddfwriaeth arweiniol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn gyfle i bwyso a mesur faint o ffordd sydd o'n blaenau cyn y gallwn sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru. Mae Banc y Byd wedi adrodd bod merched yn gyfreithiol gyfartal i ddynion mewn chwe gwlad yn y byd, ac nid yw Prydain yn un ohonyn nhw. Gwyddom fod hyn yn wir drwy'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac o adroddiad 'Cyflwr y Genedl' Chwarae Teg, ond gallwn gymryd, ac rydym yn cymryd camau i roi Cymru ar y blaen ymysg ein pedair gwlad, ac, yn wir, yn y byd, petaem yn gwneud hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.

Thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yw 'Balance for Better'. O weithredu ar lawr gwlad i weithredu byd-eang, rydym yn dechrau ar gyfnod o hanes ble mae'r byd yn disgwyl cydbwysedd. Rydym yn sylwi ar ei absenoldeb ac yn dathlu ei bresenoldeb. Mae gan Lywodraeth Cymru nawr fwy o fenywod na dynion yn y Cabinet, sy'n mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau a fu yn y gorffennol. Bydd gwaith adolygiad rhywedd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y cydbwysedd hwn drwy edrych ar feysydd lle gellir gwneud gwelliannau a dod yn arweinydd o ran hybu cydraddoldeb i fenywod er mwyn dileu'r anghydraddoldebau ystyfnig sy'n dal i fodoli. Mae'r adolygiad yn ystyried effaith ychwanegol cael nodwedd warchodedig arall, er enghraifft, anabledd, hil neu rywioldeb, ar gydraddoldeb rhywiol. Bydd yr ystyriaeth hon yn ein galluogi i edrych ar groestoriad eang o bolisïau a blaenoriaethau. Mae'r ymgynghoriad a'r gweithdai wedi eu llywio gan grŵp cynghori arbenigol Chwarae Teg wedi arwain at weledigaeth i Cymru ei datgan heddiw: Mae Cymru sy'n arddel cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn wlad lle mae menywod, dynion a phobl anneuaidd yn rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal. Mae hon yn weledigaeth lle mae'r Llywodraeth yn bwriadu creu'r amodau ar gyfer canlyniadau cyfartal i bawb. Rydym ni eisiau gwlad lle gall pob menyw gael annibyniaeth economaidd, lle mae gwaith cyflogedig a di-dâl yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae menywod amrywiol yn cael eu cynrychioli mewn swyddi dylanwadol ac wedi eu grymuso i chwarae rhan ystyrlon yn y Gymdeithas, lle mae pob menyw yn rhydd o wahaniaethu ac yn rhydd i fyw eu bywydau fel y mynnan nhw, lle mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn dod i ben, lle mae strwythurau pŵer presennol sy'n rhoi menywod dan anfantais yn cael eu herio, a lle mae pawb, yn fenywod, dynion, a phobl anneuaidd, yn mwynhau hawliau ac amddiffyniadau cyfartal a chanlyniadau cyfartal.

Rwyf wedi dechrau cyfarfod â chydweithwyr yn y Cabinet i drafod cynnydd yr adolygiad ar gydraddoldeb rhywiol ac i nodi meysydd polisi braenaru lle mae cyfle i weithredu ar fyrder. Bydd Chwarae Teg yn parhau i ymgynghori'n eang â rhanddeiliaid i ddatblygu trywydd ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, gyda digwyddiadau yn cael eu cynllunio ledled y wlad yn y dyfodol agos.

Mae gennyf gyfrifoldeb gweinidogol dros gydraddoldeb, trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a phenodiadau cyhoeddus. Mae fy nghyfrifoldebau yn swyddfa'r Prif Weinidog dros droseddu a chyfiawnder yn fy ngalluogi i weithredu gyda'r glasbrint menywod yn troseddu i weithio gyda Llywodraeth y DU ar ganfyddiadau moel adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd ar ddedfrydu yng Nghymru.

Heb weledigaeth gref ac egwyddorion, teimlir na fydd anghydraddoldeb rhywiol yn newid, a byddwn yn parhau fel yr ydym ni ar hyn o bryd. Mae rhai wedi nodi ein bod wedi siarad am gyfleoedd cyfartal ers peth amser, ac rydym ni'n dal i fyw gydag anghydraddoldeb wedi ymwreiddio, felly mae angen newid sylweddol. Er enghraifft, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn 13.6 y cant yn 2018. Heb ganolbwyntio ar y materion sylfaenol, bydd cenedlaethau'r dyfodol yn parhau i fod yn destun anghydraddoldeb parhaus. Mae'n rhaid canolbwyntio ar ganlyniadau cyfartal i annog pobl i edrych y tu hwnt i atal gwahaniaethu yn unig, a chwilio am ffyrdd i hybu cydraddoldeb i bawb. Mae'r weledigaeth a argymhellir ar gyfer Cymru felly yn cynnwys rhannu pŵer, adnoddau a dylanwad yn gyfartal i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn yr un modd. Byddai'r pwyslais hwn ar ganlyniadau cyfartal yn golygu bod Cymru yn dilyn arweinwyr eraill y byd o ran cydraddoldeb rhwng y rhywiau, megis Sweden a Chanada.

Yn ddiweddar cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru a minnau â dirprwyaeth Nordig i ddysgu oddi wrth eu harfer gorau ac i ystyried sut y gellid defnyddio rhywfaint o hynny o fewn cyd-destun cyfreithiol a pholisi Cymru. Hoffwn i hyn gynrychioli dechrau perthynas ffrwythlon gyda chenhedloedd eraill sy'n ymdrechu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. 

Yn dilyn y datganiad cyhoeddus am yr adolygiad rhywedd gan Lywodraeth Cymru y llynedd a'r adroddiad ar y seminar hawliau dynol a dyletswydd economaidd-gymdeithasol, y byddwn yn ei lansio yng Nghymru, mae yna, yn ddigon teg, ddisgwyl mawr y bydd Llywodraeth Cymru yn gwella cydraddoldeb i fenywod. Mae ein gweledigaeth a'n hegwyddorion yn nodi ein hymrwymiad. Disgwylir gweithredu i sicrhau'r newid hwnnw. Mae bod yn ystyrlon, wrth gytuno ar y weledigaeth a'r egwyddorion, yn golygu bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod yr angen a'r awydd i ymrwymo i weithredu.

Hoffwn orffen drwy dalu teyrnged i'r menywod o Gymru a fu'n ymladd i sicrhau'r bleidlais 100 mlynedd yn ôl ac sy'n parhau i drefnu ac ymgyrchu dros hawliau menywod yn eu gweithleoedd, undebau llafur a chymunedau. Gadewch inni ddathlu eu llwyddiannau, gwrando ar eu galwadau am weithredu, ymateb i'w maniffestos a defnyddio ein hasiantaethau a'n harweinyddiaeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:25, 5 Mawrth 2019

Diolch yn fawr. Allaf i jest ofyn i bob siaradwr heddiw ystyried y ffaith bod gyda ni dri chwarter awr ar gyfer y mater hwn? Mae yna nifer o bobl sydd eisiau siarad, ac rwy'n dechrau gyda Dawn Bowden.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am y datganiad pwysig hwn, a manteisio ar y cyfle i roi sylw arbennig i rai digwyddiadau ym Merthyr Tudful a Rhymni ddydd Gwener, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod? Mae'n anrhydedd mawr inni gael cynnal yr ail blac porffor yn unig yng Nghymru, i nodi cyfraniad menywod rhyfeddol i fywyd cyhoeddus Cymru. Edrychaf ymlaen at eich gweld chi a'r Dirprwy Weinidog iechyd, Julie Morgan, yno hefyd. Bydd y plac yn cael ei gyflwyno i anrhydeddu Ursula Masson—a anwyd, a fagwyd ac a addysgwyd ym Merthyr Tudful—ac a aeth ymlaen i fod yn allweddol wrth sefydlu Archif Menywod Cymru, ac a oedd yn aelod o grŵp de-orllewin y Rhwydwaith Hanes Menywod ac yn gyd-olygydd Llafur, cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Pobl Cymru. Ursula, fel y gwyddoch chi, a gyflwynodd y syniad o gynnal cyfres o sioeau teithiol ar hanes menywod Cymru, pryd byddai pobl yn cael gwahoddiad i ddod â deunydd yn ymwneud â hanes cymdeithasol bywydau menywod. Daeth rhai o'r eitemau hynny yn ddiweddarach yn rhan o Gasgliad y Werin Cymru.

Fel pe nad oedd hynny'n ddigon, sefydlodd Ursula yr adran Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru ym Mhrifysgol De Cymru, ac fe wnaeth waith ymchwil arloesol ar gyfer ei doethuriaeth ar fenywod mewn gwleidyddiaeth Ryddfrydol yn gynnar yn y ganrif ddiwethaf yng Nghymru. Gallwn fynd ymlaen yn sôn am Ursula, ond digon yw dweud ei bod hi'n ysbrydoliaeth i lawer, yn enwedig i fenywod dosbarth gweithiol, a ddaeth o hyd i gyfeiriad newydd a mynediad i addysg na fu ar gael iddyn nhw o'r blaen.

Mae gan dref enedigol Ursula, Merthyr Tudful, nifer o gerfluniau o focswyr, placiau a chofebion i ddynion. Oherwydd cyfoeth y meistri haearn, fe wyddom ni ychydig am waddol menywod Crawshay a Guest, ond mae straeon ein menywod dosbarth gweithiol, megis Ursula Masson, efallai yn llai hysbys ac yn llai enwog, ac yn sicr nid yn 'Balanced for the Better', sef thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni.

Felly, a wnewch chi ymuno â mi, yn olaf, Dirprwy Weinidog, i ddiolch i Ceinwen Statter, ymgyrchydd ac aelod o Archif Menywod Merthyr Cymru, sydd wedi bod yn allweddol o ran trefnu bod gwaith Ursula Masson yn cael ei goffáu a'i gydnabod ym Merthyr Tudful, gyda'r uchafbwynt ddydd Gwener, pan fyddwn ni'n dadorchuddio'r plac porffor i ddathlu bywyd y fenyw ryfeddol honno?

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:28, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gael diolch i Dawn Bowden am y deyrnged i Ursula Masson ac i ddiolch iddi am yr holl waith arloesol yr ydych chi wedi'i wneud, Dawn, ers ichi ddod yn Aelod Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Oherwydd fy mod i'n gwybod hefyd, y llynedd, yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant, fe wnaethoch chi dynnu ein sylw, a sylw'r cyhoedd—a sylw lleol yn arbennig—at rai o'r bobl hanesyddol bwysig yn eich etholaeth.

Yn sicr, o ran y cyfle nawr i ddathlu un o ymgyrchwyr, un o ffeministiaid—fel roedd hi'n hoffi galw ei hun—un o academyddion ac athrawon mwyaf nodedig Merthyr Tudful, rwy'n credu bod Ursula Masson, a gafodd mewn gwirionedd ei henwebu gan amrywiaeth o bobl ledled Cymru oherwydd ei gwaith gydag archif y menywod—. Ond, rwy'n diolch yn arbennig hefyd i Ceinwen am yr hyn y mae hi wedi'i wneud, oherwydd hi mewn gwirionedd a ddaeth â hyn at ein sylw ni.

Rwy'n credu bod hyn hefyd yn dangos bod menter y plac porffor bellach yn codi momentwm. Mae'n rhaid imi ar yr adeg hon, dynnu sylw, wrth gwrs, at y plac porffor cyntaf, a ddadorchuddiwyd gennym ni flwyddyn yn ôl, sydd y tu allan ar wal y Senedd. Roedd Val Feld, cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Abertawe—yn amlwg, yn gefnogwr arloesol arall ym maes cydraddoldeb.

Ond credaf ddydd Gwener y byddwn ni—. Bydd ar Lyfrgell Carnegie, sydd—. Unwaith eto, diolch i Dawn Bowden a'r holl gydweithwyr a'r ymgyrchwyr yn y dref sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd, yn amlwg gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol hefyd. Bydd Julie Morgan a minnau yn falch o fod yno, oherwydd ni ein dwy gychwynnodd y fenter placiau porffor, ond, yn wir, mae llawer o fenywod eraill hefyd—ac ar draws y Siambr hon—wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod hyn yn dwyn ffrwyth. Felly, yr ail blac porffor fydd yn cael ei ddadorchuddio ddydd Gwener. Mae'n ffordd wych o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener. Credaf y bydd yn codi ymwybyddiaeth, nid yn unig ddydd Gwener ond, yn sicr, ym Merthyr Tudful ac ymhellach i ffwrdd am—. A bydd pobl eisiau canfod mwy wedyn am fywyd Ursula Masson, ac rwy'n sicr y bydd yn nodwedd allweddol i ysgolion lleol o ran cydnabod y ferch ryfeddol hon a'i chyfraniad diysgog i'n cenedl. Felly, mae gennym ni fwy o blaciau i ddod, ac rwy'n credu y bydd presenoldeb y placiau hynny ar ein strydoedd, ar ein hadeiladau cyhoeddus, yn ffordd syml a sylweddol iawn o amlygu llwyddiannau eithriadol menywod Cymru y mae llawer o bobl heb glywed amdanyn nhw efallai. A'r hyn sydd fwyaf pwysig, ac mae Ceinwen wedi dangos hyn inni, yw bod angen cefnogaeth a hyrwyddwyr lleol, a chymorth Aelod Cynulliad megis Dawn Bowden, ac, wrth gwrs, y gwirfoddolwyr sy'n chwarae eu rhan yng ngrŵp llywio menter y placiau porffor i ddatblygu hyn i'r dyfodol.

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 3:31, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw. Mae'n ddiwrnod mawr, Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, sy'n cael ei ddathlu, nid yn unig yma ond gan y Cenhedloedd Unedig ers 1996. Mae menywod wedi gwneud ac yn parhau i wneud cyfraniadau sylweddol ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Hyd yn oed gyda mwy o gydraddoldeb a hawliau deddfwriaethol a menywod trawiadol sydd wedi creu argraff ac yn esiampl i eraill, mae menywod yn dal i wynebu heriau heddiw yma yng Nghymru, Gweinidog. Mae llawer o'r rhain yn y gweithle. Mae'n ffaith drist bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn enillion, yr awr, heb gynnwys goramser, ar gyfer gweithwyr amser llawn a rhan-amser yng Nghymru bron 15 y cant yn 2017. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa gynllun sydd ganddi ar gyfer cau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru? Rwy'n pryderu bod cyngor gyrfa, yn rhy aml o lawer, yn tueddu i arwain merched at brentisiaethau sy'n talu llai na'r rhai ar gyfer dynion. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn cael ei hybu yn y gweithle?

Mae angen dewrder aruthrol i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau a cham-drin domestig. Rhaid inni wneud mwy i annog dioddefwyr o'r fath i adrodd am gam-drin ac i adnabod arwyddion trais yn y cartref. Rai blynyddoedd yn ôl, rhoddodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd ymateb cadarnhaol i'm hawgrym y dylai bod gan bob sefydliad sector cyhoeddus bolisi trais yn erbyn menywod yn y gweithle. Byddai hyn yn nodi ac yn helpu gweithwyr sydd wedi dioddef trais. Tybed a all y Dirprwy Weinidog ein cynghori a fu unrhyw gynnydd yn hyn o beth.

Mae cam-fanteisio ar fenywod yng Nghymru ac o amgylch Cymru yn cael llawer mwy o gydnabyddiaeth. Mae'r datblygiadau yn y ffordd y mae masnachu mewn pobl yn cael ei ddirnad wedi arwain at ddod â'i natur gudd a'i wahanol weddau i'r wyneb. Ar wahân i gam-fanteisio’n rhywiol ar fenywod, ceir problemau llafur gorfodol, caethwasiaeth mewn gwasanaethau, caethiwed, a hyd yn oed tynnu organau. Mae anffurfio organau cenhedlu menywod yn achos erchyll o dorri hawliau dynol sydd yn gallu peryglu bywyd. Galwaf hefyd ar y Gweinidog i roi sicrwydd inni y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yn erbyn yr anghyfiawnder hwn.

Ym 1897, dywedodd Susan Anthony, ymgyrchydd Americanaidd, a dyma ddyfyniad gwych:

Ni fydd byth gydraddoldeb llwyr nes y bydd menywod eu hunain yn helpu i lunio cyfreithiau ac ethol gwneuthurwyr cyfraith.

Ers hynny, rydym ni wedi gweld cynnydd sylweddol mewn cydraddoldeb a rhyddfreinio menywod. Dirprwy Weinidog, fel bywyd ei hun, credaf mai merched sy'n esgor ar heddwch—heddwch yn y byd. Maen nhw'n tueddu i fod y cyntaf i ffurfio llinellau bywyd ac i geisio unioni pethau mewn ardaloedd o wrthdaro a rhaniadau o amgylch y byd. Wrth i'r byd ddynesu at Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod 2019, ar 8 Mawrth, mae'n bwysig bod pob un ohonom ni'n cydnabod cyfraniad menywod ymhob agwedd ar fywyd—menywod fel Theresa May, Angela Merkel, ein Llywydd, Margaret Thatcher, Sheikh Hasina, Benazir Bhutto, Indira Gandhi, Julia Gillard, Golda Meir a Helen Clark. Dyna ond ychydig y gallaf eu cyfrif sydd i gyd wedi torri drwy'r rhwystrau anweledig ac arwain eu gwledydd yn y byd. Nid yw unrhyw fenyw sydd wedi arwain gwlad erioed wedi mynd i ryfel yn erbyn ei chymdogion neu unrhyw wlad arall. Y rheini oedd y cyfnodau mwyaf heddychlon. Roedd pob un yn creu newid, maen nhw i gyd wedi gwthio ffiniau, ac maen nhw i gyd wedi bod yn sbardun i symud ymlaen o fewn eu gwaith a'u bywyd teuluol. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol inni gydnabod menywod enwog sy'n adnabyddus inni, yn ogystal â'r menywod hynny sy'n ymdrechu i ddarparu cartref diddos i'w teuluoedd, y menywod hynny sy'n cyfuno nifer o swyddi er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd, y menywod hynny sy'n gorfod bod yn fam ac yn dad, a'r menywod hynny sy'n treulio eu bywydau yn gofalu am eraill. Dywedaf bob amser bod y byd yn ffotograff du a gwyn, neu'n llun—gyda menywod mae'n troi'n lliwgar. Ar gyfer heddiw, ar gyfer Diwrnod y Menywod, hoffwn ddweud o'r ochr hon i'r Siambr, diolch yn fawr iawn ichi, fenywod, ar draws y byd.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:35, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Mohammad Asghar. Rwyf hefyd yn diolch i chi am eich cefnogaeth, a chefnogaeth Grŵp Ceidwadwyr Cymru i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, a hefyd am gydnabod swyddogaeth menywod yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt allweddol yn fy natganiad. Ac yn wir rydym ni wedi bod yn cydnabod menywod arwyddocaol yng Nghymru sydd wedi cael dylanwad. Byddwn ni ddydd Gwener—Ursula Masson, Val Feld. Gofynnwyd y cwestiwn imi heddiw, a siaradais hefyd am un o'r ASau Llafur benywaidd cyntaf yng Nghymru sef Dorothy Rees, yn fy etholaeth i. Felly, rwy'n credu y bydd pob un ohonom ni'n anrhydeddu ac yn cofio menywod heddiw.

Fe wnaethoch chi sôn am ddau neu dri o bwyntiau pwysig iawn. Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Nawr, rwyf eisoes wedi crybwyll y ffaith bod bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn annerbyniol, ac mae hynny'n wir ar draws pob sector. Ond drwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gennym ni'r cyfle nawr i fonitro'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a hefyd i sicrhau ein bod yn ymestyn y monitro hwnnw i gwmnïau, nid yn unig o ran y 250, ond yn is. Mae angen inni edrych yn ofalus ar sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â'r bwlch cyflog. Mae gennym ein dyletswydd cydraddoldeb sector cyhoeddus sy'n gadarn, o ganlyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac mae holl gyflogwyr y sector cyhoeddus erbyn hyn, fel yr wyf wedi dweud, yn adrodd yn flynyddol am eu gwahaniaethau mewn cyflog. Disgwylir iddyn nhw wedyn gael cynlluniau i fynd i'r afael â chyflogaeth neu wahaniaethau mewn cyflog. Ond hefyd, o edrych ar faterion fel dosbarthu gwahanol ddynion a menywod rhwng graddau, galwedigaethau, patrymau gweithio, mae angen inni gael Cymru gwaith teg, y byddwn yn anelu at y nod hwnnw. Rwy'n credu y bydd y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, pan fyddwn yn ei mabwysiadu, hefyd yn ein helpu. Ond mae angen inni sicrhau ein bod yn deall gwahaniaethau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ac ymdrin ag achosion hynny.

Rwy'n credu bod llawer o gyflogwyr a mentrau nawr yn ymdrin â'r mater sy'n ymwneud â gwaith a galluogi menywod i symud ymlaen, ond mae'r prosiect Cenedl Hyblyg 2, a reolir ac a ddarperir gan Chwarae Teg, yn bwriadu hybu cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a chefnogi datblygiad gyrfa. Wrth gwrs, cefnogwyd hwnnw gan arian Ewropeaidd, ac rwy'n credu bod datblygiad diweddaraf y prosiect, menywod yn archwilio busnes, canolfan gymorth lles integredig, sy'n cael ei darparu drwy LIMITLESS, sef menter ar draws pum awdurdod lleol—. A bydd y prosiect hwnnw yn helpu menywod i symud ymlaen mewn cyflogaeth, menywod sydd mor aml yn cael eu cyfyngu i haenau cyflog is y gweithle. Dyna pam y mae'n rhaid inni gysylltu hyn, wrth gwrs, nid yn unig â chyflog byw go iawn, y mae angen inni ei fabwysiadu, a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, ond hefyd â'n contract economaidd. Ac rwyf, fel y dywedais, yn cael cyfarfodydd dwyochrog â'n Gweinidogion i gyd; yfory, tro Ken Skates, Gweinidog yr economi fydd hi, a byddwn yn sôn am fenywod yn y gweithle, a sut y gallwn ni symud ymlaen o ran datblygu hynny.

Nawr, rydych chi hefyd yn codi materion pwysig o ran ein strategaeth genedlaethol ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. A rhan o'r strategaeth honno, wrth gwrs—amcan 1 ein strategaeth genedlaethol—yw cynyddu ymwybyddiaeth a herio agweddau ynghylch trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar draws poblogaeth Cymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys mynd i'r afael â chaethwasiaeth. Er nad yw'n gyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli—mae llawer o'r dulliau dylanwadu yn nwylo Llywodraeth y DU—rydym ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â chaethwasiaeth, ac mewn llawer o ffyrdd rydym ni'n arwain y ffordd yn y DU. Ni yw'r wlad gyntaf a'r unig wlad yn y DU i benodi cydlynydd gwrth-gaethwasiaeth, a benodwyd yn 2011. Ac rwyf yn siŵr y bydd Joyce Watson, os na fydd hi'n codi'r mater hwn eto—rydym ni'n talu teyrnged i'r rhan a chwaraeodd hi yn hynny.

Ac, wrth gwrs, rydym ni'n llawer mwy ymwybodol nawr o faterion sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol, ac mae gan hwnnw effaith wanychol a gwahaniaethol, effaith niweidiol ar fenywod, yn arbennig yn y gweithle. Mae'n rhaid i sefydliadau'r sector cyhoeddus, fel y dywedais, gydymffurfio â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus, ac mae gennym ni ddyletswydd ac mae ganddyn nhw ddyletswydd i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu ac erledigaeth.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:40, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Gan aros gyda'r thema 'Balance for Better', mae llawer iawn y mae angen inni i gyd ei wneud i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar ran ein chwiorydd ni mewn gwledydd eraill, sydd yn llawer mwy tebygol o fod o dan fygythiad newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys gweld eu cymunedau'n diflannu. Rydym ni'n gwybod bod yr enillion hawdd wedi eu cyflawni drwy leihau maint y glo a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu pŵer. Nawr mae angen inni edrych ar faterion llawer mwy heriol o ran lleihau allyriadau cerbydau, sy'n golygu gwella trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ar gyfer teithiau byr.

Rwyf eisiau ein hatgoffa ni i gyd y dylai merched allu trefnu'r cyfnod rhwng geni pob plentyn i gydymffurfio ag argymhellion Sefydliad Iechyd y Byd sy'n nodi y dylai menywod aros dwy flynedd cyn cael plentyn arall, ac mae hyn yn ddiffygiol mewn cymaint o wledydd.

Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cefnogi cais Pythefnos Masnach Deg am gyflog byw ar gyfer menywod sy'n ffermio coco yn y Traeth Ifori, lle y maen nhw ar hyn o bryd yn cael 74c y dydd yn unig, a £1.86 yw'r swm y mae angen iddyn nhw ei ennill er mwyn gallu byw bywyd o ansawdd derbyniol.

Yn olaf, hoffwn nodi'r ymdrechion ar gyfer heddwch yn Israel-Palesteina sy'n cael eu harwain gan fenywod drwy sefydliad o'r enw Women Wage Peace. Ddydd Gwener, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, bydd miloedd o fenywod o'r holl wahanol gymunedau ar draws Palesteina ac Israel—Arabaidd, Iddewig, Druze, Palestiniaid Israelaidd, ymsefydlwyr, yn ogystal â menywod yr effeithiwyd arnynt gan ddeddfwriaeth y genedl-wladwriaeth, sy'n golygu bod menywod Ffilipinaidd, er enghraifft, sydd wedi gweithio yn Israel ers blynyddoedd lawer yn wynebu cael eu halltudio, aelodau'r Senedd a cherddorion, i gyd yn cerdded o'r amgueddfa i Sgwâr Rabin gan godi pabell y fam yn Sgwâr Rabin a fydd yn aros yno tan ddiwrnod yr etholiad ar 6 Ebrill. O ystyried y sefyllfa enbyd sy'n wynebu Palestiniaid ar y Lan Orllewinol ac yn Gaza, rwy'n gobeithio y bydd menywod yn arwain yr ymgyrch am drafodaeth, sef y cam cyntaf i ddatrys yr anghydfod, sydd wedi parhau ers gormod o amser yn yr ardal honno.  

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:43, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau pwysig ac ehangach hynny, a fydd yn thema llawer o ddigwyddiadau a thrafodaethau ar draws y byd, o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener. Mae gennyf ddiddordeb arbennig—. Cefais fy nghyfarfodydd dwyochrog o ran yr adolygiad rhywedd. Cyfarfûm â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gynharach, ac roeddem yn trafod y gobeithion i ddatblygu cynlluniau treialu ynghylch sut y gallwn ni gynorthwyo menywod drwy ein pwerau a'r mentrau yr ydym ni'n eu cefnogi, megis Cymru o Blaid Affrica, lle ceir bygythiad aruthrol o ran newid yn yr hinsawdd yn Affrica is-Sahara, ond gan gydnabod hefyd y daeth masnach deg i'n sylw heddiw yn y ffreutur pan oeddem yn gallu blasu'r siocled, a chydnabod, cofio a dysgu am y menywod hynny sy'n ffermio coco. Rwy'n edrych ymlaen at gynnal brecwast gwanwyn yn fy etholaeth i. Rwyf wedi gwahodd plant o ysgolion sydd, fel rhan o Bythefnos Masnach Deg yn meddwl ac yn dysgu am fenywod sy'n ffermio yn arbennig, ac mae'n bwysig inni chwarae ein rhan. Gadewch inni gofio mai Cymru oedd y genedl fasnach deg gyntaf. Yn wir, hon oedd y genedl fasnach gyntaf, a lansiwyd gan Rhodri Morgan, ein cyn-Brif Weinidog, ac rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ond mae menywod yn chwarae rhan mor fawr yn rhyngwladol ac, wrth gwrs, mae'r pwynt yna eisoes wedi'i wneud.

Mae hyn yn cynnwys y rhan y mae menywod yn ei chwarae wrth atal a datrys gwrthdaro. Felly, mae hi hefyd yn ddiddorol clywed am Women Wage Peace a'r mudiadau ar draws y byd, a rhaid inni groesawu hynny ac edrych ar benderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig, sy'n glir iawn o ran sut y mae'n rhaid inni ddatblygu hynny. Ond mae hefyd yn bwysig iawn inni edrych ar hyn o ran y cyfleoedd sydd gennym ni drwy'r ddeddfwriaeth ynghylch llesiant cenedlaethau’r cyfodol. Mae gennym ni ddeddfwriaeth arloesol, mae gennym ni'r cyfle i edrych tuag allan hefyd, a gyda Gweinidog y Cabinet ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, yn ogystal â'n Prif Weinidog wrth gwrs. Ond y pwyntiau yr ydych chi'n eu codi o safbwynt y rhan y mae menywod yn ei chwarae o ran heddwch a datrys gwrthdaro a chefnogi symudiadau ar draws y byd, ac yn enwedig, rwy'n siŵr, yn dilyn ein hymweliad yr wythnos diwethaf—Women Wage Peace, yn amlwg, mae llawer i'w ddysgu o hynny.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:46, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad. Fe fydd hi, wrth gwrs, yn cofio'r frwydr galed a gawsom ni i sicrhau bod ein statud sefydlu yn cynnwys cyfrifoldeb penodol o sicrhau bod y sefydliad hwn yn rhoi sylw dyledus i gyfle cyfartal ym 1998. Mae'n braf ei chlywed hi'n cyfeirio ato yn ei datganiad, a hoffwn hefyd ein hatgoffa ni i gyd y cafodd hwnnw ei arwain gan ein cyn-gydweithiwr Val Feld, a ddaeth a llawer o fuddiannau ynghyd, a hoffwn dalu teyrnged i Val am hynny heddiw. Rydym ni wrth gwrs wedi gweld rhywfaint o gynnydd ers 1998, ond rwy'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog wedi cydnabod heddiw bod gennym ni lawer mwy i'w wneud o hyd, a gan wybod bod amser yn brin, fe hoffwn i godi un neu ddau o bwyntiau penodol, os caf i.

Yn gyntaf oll, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog am y ddarpariaeth o wasanaethau i fenywod sydd wedi goroesi cam-drin domestig a rhywiol a'u plant. Nawr, rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi bod y gwasanaethau hynny—a gwyddom hyn o ymchwil—yn cael eu darparu orau gan sefydliadau lleol a arweinir gan fenywod sydd yn atebol i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Rydym yn gwybod bod y sefydliadau hyn ar draws Cymru yn colli tendrau i ddarparu'r gwasanaethau hynny i sefydliadau masnachol mwy o faint. Yn aml, ni ddarperir gwasanaethau plant yn y tendrau hynny, ac, os ydyn nhw'n cael eu darparu yna rhywbeth ychwanegol ydyn nhw, does dim digon o amser. Pan fyddan nhw'n cael eu darparu, yn aml iawn gwirfoddolwyr sy'n eu darparu—eu darparu am geiniog a dimai. Nawr mi wn y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi na fyddwn ni byth yn torri'r cylch cam-drin domestig oni bai ein bod yn rhoi cymorth i'r plant sydd wedi gweld yr erchyllterau hynny yn eu cartrefi eu hunain. Siawns fod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw beth mwy gall hi ei wneud, mewn partneriaeth â llywodraeth leol yng Nghymru, i atal a gwrthdroi'r duedd hon fod sefydliadau lleol ar eu colled oherwydd y bobl fasnachol fawr sy'n bodoli i wneud elw'n unig, nid i edrych ar ôl ein plant?

Y mater nesaf yr hoffwn i ei godi'n benodol yw mater tlodi misglwyf, ac rwyf yn croesawu buddsoddiad diweddar Llywodraeth Cymru, ond rydym ni wedi gweld mwy o dystiolaeth unwaith eto'r wythnos hon bod merched yn colli ysgol oherwydd eu bod yn methu cael gafael ar gynnyrch misglwyf priodol. Rydym yn dal i weld menywod a merched yn defnyddio pethau amhriodol, megis gorfod defnyddio sanau, gorfod golchi pethau, ac rwy'n llongyfarch Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—ar yr ymgyrch y maen nhw wedi ei dechrau ynghylch y materion hyn yr wythnos hon. Yn benodol, hoffwn dynnu sylw'r Dirprwy Weinidog at ymchwil a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru yr wythnos hon—y mis diwethaf, yn hytrach—sy'n dangos nad oes ymagwedd gyson ar draws y GIG at y ddarpariaeth o gynnyrch misglwyf mewn ysbytai i fenywod a merched sydd yn gleifion mewnol. Ceir lleoedd—mewn rhai o'n hysbytai ni all pobl hyd yn oed brynu'r cyflenwadau hynny drostynt eu hunain, heb sôn am eu cael am ddim. Nid oes un bwrdd iechyd yng Nghymru â pholisi penodol, yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, ynghylch sut y dylid darparu'r gwasanaethau hyn. Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog heddiw, fel rhan o'r trafodaethau y cyfeiriodd hi atyn nhw yn ei datganiad, y mae'n eu cael gyda chyd-Weinidogion, i drafod y mater hwn yn benodol gyda'r Gweinidog Iechyd i sicrhau bod yr holl fenywod a'r merched sy'n cael triniaeth cleifion mewnol ym mhob ysbyty yng Nghymru yn cael cynnyrch misglwyf yn rhad ac am ddim fel mater o drefn? Nid ydym yn disgwyl i'n cleifion ni ddod â'u papur toiled ei hunain i ysbytai; yn sicr ni ddylem ni ddisgwyl iddyn nhw ddarparu eu cynnyrch misglwyf eu hunain.

Fy mhwynt olaf penodol yw tynnu sylw at drafferthion menywod y 1950au a welodd ostyngiad yn eu hawliau pensiwn heb ymgynghori a nhw—cyfeirir atyn nhw fel menywod WASPI. Mae'r Llywodraeth y DU wrth gwrs, nawr wedi cydnabod na chysylltwyd â miloedd o'r menywod hyn erioed ynghylch y newidiadau arfaethedig, a pharodd hyn iddyn nhw ddioddef tlodi ar adeg yr oedden nhw'n ei ystyried yn ddiwedd eu hoes gweithio. Nawr, yn amlwg, nid yw hyn yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ond hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog gytuno y bydd Llywodraeth Cymru yn anfon sylwadau pellach i Lywodraeth y DU yn hyn o beth, yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU bellach wedi cydnabod nad oeddynt wedi hysbysu'r holl fenywod yr effeithiwyd arnynt.

Ac, yn olaf, hoffwn yn fyr iawn wneud pwynt cyffredinol sy'n ymwneud â defnydd o'r iaith wrth drafod y mater hwn. Llywydd dros dro, os ydym ni, fel deddfwyr yn y Siambr hon, yn gwybod unrhyw beth, rydym ni'n gwybod bod geiriau yn bwysig; Mae ganddyn nhw ystyron penodol iawn. Ac, os nad ydym ni'n disgrifio problem yn gywir, ni allwn ni ddatrys honno'n briodol. Wrth gyfeirio at wahaniaethu yn erbyn menywod, mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn glir yn ei hiaith: Mae gwneud gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon ac eithrio mewn rhai amgylchiadau penodol. Eto, pan fyddwn yn trafod y materion hyn, rydym yn tueddu i ddefnyddio term llawer mwy amwys. Rydym yn sôn, er enghraifft—ac mae'r Gweinidog wedi gwneud hyn heddiw—am y bwlch cyflog ar sail 'rhywedd' ond yr hyn yr ydym yn ei olygu yw'r bwlch cyflog rhwng y 'rhywiau'. Mae'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio yn ei datganiad at adolygiad cydraddoldeb 'rhywedd' y Llywodraeth ei hun, ac mae sôn am gydraddoldeb rhywedd yn arfer cyffredin, ond mae'n arfer y mae angen ei dwyn i ben. Ymddengys bod rhyw deimlad o anesmwythder yn bodoli wrth ddefnyddio'r term cyfreithiol cywir, sef 'rhyw', ac mae hyn yn bwysig. Mae'n bwysig oherwydd dylai adolygiadau polisi a fframweithiau a pholisïau adlewyrchu'n gywir y fframweithiau deddfwriaethol sy'n sail iddyn nhw er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n briodol â'r ddeddfwriaeth. Mae hefyd yn bwysig oherwydd gall defnyddio'r term 'rhywedd' arwain at ddryswch rhwng y camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail rhyw a'r agenda bwysig ond gwahanol sy'n ymwneud ag amddiffyn a hybu hawliau pobl sy'n arddel hunaniaeth drawsrywiol.

Mae'r Dirprwy Weinidog a minnau yn rhy hen i deimlo'n anesmwyth wrth ddefnyddio'r gair 'rhyw', a hoffwn ofyn i'r Gweinidog gynnal adolygiad heddiw o'r iaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio o ran y mater hwn i sicrhau ei bod, yn y dyfodol, yn cydymffurfio'n llawn â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Rwy'n derbyn yn llwyr fod cyfuno'r termau 'rhyw' a 'rhywedd' yn gyffredin; nid yw pethau sy'n gyffredin o reidrwydd yn gywir nac yn ddefnyddiol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn edrych ar hyn fel y gallwn ni ddefnyddio'r iaith briodol wrth drafod y materion hyn yn y dyfodol.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 3:52, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Helen Mary Jones, ac a gaf i ddweud fy mod yn credu eich bod yn un o'r hyrwyddwyr allweddol a oedd, bryd hynny, fwy na thebyg yn gweithio gyda Val Feld yn y Comisiwn Cyfle Cyfartal? Rwyf hefyd eisiau crybwyll y ffaith na fyddem ni'n rhoi'r sylw dyledus hwnnw i gyfle cyfartal oni bai am Julie Morgan, a oedd yn AS ar y pryd yn San Steffan, yn llwyddo i'w gael drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru, a heddiw yw'r amser pan fyddwn yn gallu atgoffa ein hunain mewn gwirionedd ein bod yn rhan o hanes, ac, yn y dyfodol, bydd rhai yn cofio bod y menywod hynny a oedd i lawr yno yn y Senedd a wnaeth wir chwarae eu rhan i symud hyn ymlaen. Ond rydych chi wedi gwneud pwyntiau pwysig iawn, oherwydd, nawr bod gennym y sylw dyledus, bellach mae angen i ni gyflawni. O ran strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod a sut yr ydym erbyn hyn yn cefnogi ac yn ariannu llochesi a grwpiau Cymorth i Fenywod, mae gennyf bob cydymdeimlad â'r hyn yr ydych yn ei ddweud. Ac, wrth gwrs, rwy'n gwybod o fy ngrwpiau Cymorth i Fenywod lleol, a ledled Cymru, bod y rhain yn faterion y maen nhw'n cael trafferth yn eu cylch o ganlyniad i wahanol drefniadau comisiynu.

Rwyf yn gobeithio tawelu eich meddwl ynglŷn â'r ffaith bod gennym ni grŵp cyllid cynaliadwy. Cadeirir hwnnw yn wir gan yr ymgynghorwyr cenedlaethol sydd gennym: Yasmin Khan, sydd, rwyf yn gobeithio bod aelodau—mae llawer o Aelodau wedi cwrdd â'n ymgynghorwyr Cenedlaethol, a benodwyd fel ymgynghorwyr cenedlaethol—a Nazir Afzal hefyd. Maen nhw'n cynghori ar ddatblygu model ariannu cynaliadwy, a'r hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, o ran gwneud yn siŵr y ceir cydweithio rhwng grwpiau trydydd sector yn y maes hwn. Felly, mae'n golygu gweithio gyda nhw; maen nhw'n rhan o'r grŵp ariannu cynaliadwy i symud hyn ymlaen. Ond credaf hefyd ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod, ar lefel leol, fod gennym y grant Cefnogi Pobl, a'n bod wedi ei gadw yng Nghymru, ac mae hwnnw'n cael ei dalu i awdurdodau lleol; mae'n cael ei weinyddu i 22 o awdurdodau lleol, fel y gwyddoch. Maen nhw'n gweithio â phwyllgorau cydweithredol rhanbarthol ar gyfer cyngor ar gynllunio a chomisiynu, ond mae honno'n ffordd hollbwysig y mae llochesau, yn arbennig, yn cael eu cefnogi. A dweud y gwir, wrth edrych ar y grant Cefnogi Pobl, ac rydym ni i gyd wedi ei ddiogelu ar draws y Siambr hon—er gwaethaf cyni, rydym wedi ei gadw i fynd—gwariwyd dros £9 miliwn ar wasanaethau cam-drin domestig y llynedd o ran Cefnogi Pobl. Ond rydym yn derbyn eich pwynt o ran y materion hynny.

Nawr, eich ail bwynt, yn gyflym iawn, wel, ydy, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi heddiw—yr ydych fwy na thebyg wedi ei weld—y bydd cynhyrchion misglwyf yn cael eu cynnig am ddim ym mhob ysbyty yng Nghymru i bob claf mewnol yn y GIG yng Nghymru. Mae'n annerbyniol i gael darpariaeth dameidiog. O heddiw ymlaen, mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi gwneud y cyhoeddiad hwn, felly ni ddylai fod unrhyw broblem. Diwrnod Rhyngwladol y Menywod—weithiau mae'n cymryd rhywbeth fel hyn i ddweud, 'Iawn, wel, gadewch inni fwrw ymlaen â hyn; gadewch i ni afael ynddi.' Yn sicr, dyna oedd fy nghwestiwn cyntaf pan welais y pennawd ddydd Sul, bod hyn yn—. Dywedais, 'ble ydym ni arni yng Nghymru?' Mae hyn yn digwydd yng Nghymru. A gadewch i ni gofio hefyd y £1 miliwn yr ydym wedi'i roi at gynhyrchion misglwyf—yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei hyrwyddo yw urddas misglwyf, a chefais fy nghyfarfod â Kirsty Williams ddoe i siarad am ysgolion, oherwydd mewn gwirionedd dyma lle mae angen i ni ddatblygu urddas misglwyf, ac mae hynny hefyd yn cysylltu ag amrywiaeth eang o faterion eraill mewn ysgolion, yr ydym wedi sôn amdanynt ac yr ydym yn mynd i'r afael â nhw. Felly, mae hwnnw'n bwynt allweddol hefyd.

Ie, o ran Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn Gwladol a menywod sydd wedi ymgyrchu mor galed o ran effaith y newidiadau i oedran pensiwn, a'r ffaith ein bod newydd weld bod yr Uchel Lys wedi caniatáu adolygiad barnwrol o faterion sy'n codi o bolisi'r Llywodraeth i gydraddoli oedrannau pensiwn menywod, ac effaith y newidiadau hynny ar fenywod a anwyd yn y 1950au—.Felly, mae hynny o ganlyniad i ymgyrchu, y mae, unwaith eto, llawer ohonom wedi bod yn rhan ohono; rydym wedi cael cefnogaeth ar draws y Siambr hon ar gyfer hyn. Bydd yr achos yn cael ei glywed ar 24 Mai, ac mae'n rhaid i ni eto edrych ar ffyrdd i ni allu ymdrin â chwynion, oherwydd ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni aros am hynny, o ran Ombwdsmon y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd, a fyddai'n gallu ymdrin â chwynion yn ôl penderfyniad gan yr arolygydd achos annibynnol. Ond mae hynny'n—. Rydym ni yn gwneud rhywfaint o gynnydd, rwy'n credu.

Ac yn olaf, ar eich pwynt ynghylch iaith, wel, rwy'n credu bod llawer ohonom yn dysgu am iaith, ond yr ydym yn hollol glir: mae gennym ni ddeddfwriaeth—mae gennym y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw, mae gennym y Ddeddf Cyflog Cyfartal, mae gennym y Ddeddf Cydraddoldeb ac mae'n rhaid inni fod yn ymwybodol o'r nodweddion gwarchodedig, sydd, o ran y Ddeddf Cydraddoldeb, wedi ein gwneud yn llawer mwy ymwybodol o groestoriad, yr wyf wrth gwrs, wedi'i grybwyll yn fy natganiad, o ran y ffaith y gallwch chi fod yn fenyw, ond gallwch fod â nodweddion gwarchodedig eraill hefyd. Felly, nid yw'n ymwneud â'ch rhyw neu'ch rhywedd yn unig; mae'n ymwneud â llu o faterion eraill. Ond rydym yn nodi, ac, wrth gwrs, bydd yn rhaid i ni roi sylw dyledus i'r pwyntiau yr ydych yn eu gwneud o ran iaith.

Photo of Michelle Brown Michelle Brown UKIP 3:57, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog, gan ein diweddaru ar weithgareddau eich Llywodraeth i geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb  rhwng y rhywiau. Ymunaf â chi wrth ddymuno bod pob menyw yn cael annibyniaeth economaidd, i'w gwaith cyflogedig a di-dâl gael ei werthfawrogi, i fenywod gael eu grymuso, a'r amcanion rhagorol eraill yr ydych wedi'u crynhoi yn eich datganiad. Rhannaf hefyd eich gweledigaeth y dylai Cymru fod yn lle y mae pŵer, adnoddau a dylanwad yn cael eu rhannu'n gyfartal rhwng y rhywiau. Ond ni ellir cyflawni unrhyw un o'r amcanion canmoladwy iawn hyn heb system addysg o'r radd flaenaf sydd nid yn unig yn rhoi'r sgiliau academaidd a chymdeithasol i ferched y mae eu hangen arnynt i ragori mewn bywyd, ond sy'n rhoi'r hyder iddyn nhw gymryd swyddi sy'n cynnwys pŵer ac awdurdod a herio ymddygiad nawddoglyd hen ffasiwn rhai dynion yn eu plith.

Mae'n cymryd cryn nerth a hyder i wrthsefyll y bychanu, yr ymddygiad nawddoglyd ac wfftiol y mae rhai dynion yn ei ddefnyddio wrth drin cydweithwyr benywaidd. Felly, ar yr un pryd â rhoi'r arfau i ferched i ymdrin ag ymddygiad cyntefig o'r fath, mae angen i'r gymdeithas gyfleu i fechgyn nad yw'r ymddygiad hwn yn dderbyniol. A gan fy mod i'n sôn am agweddau tuag at fenywod, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog am safbwynt y Llywodraeth ar y negeseuon gwrth-fenywod sydd i'w gweld mewn rhai mathau o bornograffi. Sut y mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gwrthsefyll y stereoteipio ar sail rhyw o deganau gan fanwerthwyr sy'n gweithredu yng Nghymru, neu y stereoteipio ar sail rhyw a geir mewn cylchgronau ar gyfer yr arddegau? Mae'r Dirprwy Weinidog yn hollol iawn i dynnu sylw at barhad y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac i fod â'r nod o'i ddileu. Mae hwn yn warth sydd wedi parhau am ddegawdau, ac mae cyflymder y cynnydd yn hynod araf. Ond ni fydd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau byth yn cael ei ddileu yma tra bod y system addysg yng Nghymru yn methu plant. Y rhai sy'n debygol o ddioddef waethaf o'r methiant hwn yw merched, wedi'u condemnio i waith cyflog isel, ysbeidiol ac ansicr yn eu bywydau fel oedolion, neu ar ei hôl hi pan fyddant yn oedolion, oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn rhy falch i gyfaddef ei chamgymeriadau ac i dysgu oddi wrth ysgolion sy'n well o lawer na system y wladwriaeth o ran cyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill. Ym mhob man arall yn y byd, cydnabyddir mai addysg yw'r allwedd i gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Sawl gwaith ydym ni wedi gweld hysbysebion yn gofyn am roddion i elusennau sy'n dweud mai dim ond addysg sydd ei angen ar ferched yn y trydydd byd er mwyn sicrhau eu bod yn cael cyfle cyfartal? Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym pa drafodaethau y mae hi wedi eu cael â'r Gweinidog Addysg ynghylch trwsio ein system addysg sy'n perfformio'n gywilyddus fel y gall merched ragori fel y dylent?

Yn yr un modd ag y bydd pawb yma yn dweud eu bod yn dymuno i ferched gymryd rhan mewn addysg, byddem hefyd yn dymuno i fenywod gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Gall menywod sefyll ar gyfer etholiad cyhoeddus, mae hynny'n wir, ond beth sy'n digwydd iddyn nhw pan maen nhw'n cael eu hethol? Ar hyn o bryd mae'r cyfryngau cymdeithasol yn trolio menywod nad ydynt o blaid Jeremy Corbyn i fod yn Brif Weinidog, sydd yn ffiaidd ac yn amharchus. Mae hyn hefyd yn amlygu'r driniaeth a roddir yn rhy aml i fenywod sy'n ffigyrau cyhoeddus, wedi'u  hethol ai peidio, dim ond am fynegi eu barn mewn ymgais i'w tawelu. A wnewch chi ofyn i'r Prif Weinidog osod esiampl drwy sicrhau bod unrhyw un o'i blaid ei hun sydd wedi trolio cynrychiolydd etholedig benywaidd yn cael eu taflu allan o Blaid Lafur Cymru am aflonyddu ar fenywod?

Yn olaf, sut gall y Llywodraeth honni ei bod yn dymuno i fenywod gael eu grymuso a bod yn gyfartal pan nad oedd y Prif Weinidog yn gallu darbwyllo ei hun i gytuno â phobl ar bob ochr i'r sbectrwm gwleidyddol, gan gynnwys rhai yn ei blaid ei hun, na ddylai treiswyr gael cysylltiad ag unrhyw blentyn a aned o ganlyniad i'w trais rhywiol? Yr ateb yw nad yw'n gallu, oherwydd os yw eich Prif Weinidog, ar ran eich Llywodraeth, yn amharod i gymryd safiad yn erbyn dynion o'r fath rhag cael modd parhaus i reoli a cham-drin eu dioddefwr yn emosiynol, mae eich datganiad ar ran yr un Llywodraeth yn swnio braidd yn wag. Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:01, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn ymateb i rai o'r pwyntiau cadarnhaol yr ydych chi wedi'u gwneud am bwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Credaf ei fod yn bwysig eich bod yn codi materion ynghylch stereoteipiau rhywiol. Yn 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch Dyma Fi sy'n herio stereoteipio ar sail rhyw mewn modd cadarnhaol ac sy'n annog sgyrsiau am rywedd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan gydnabod yn arbennig, y gall hyn fod yn achos ac yn ganlyniad o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Mae'n rhaid i ni wella cynrychiolaeth menywod mewn bywyd gwleidyddol a  chyhoeddus a'u  cefnogi yn y swyddogaethau hynny. Mae'n bwysig ein bod yn edrych, yn y Bil llywodraeth Leol ac etholiadau (Cymru), ar ffyrdd y gallwn fynnu bod arweinwyr grŵp y pleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo safonau uchel o ymddygiad ymhlith aelodau eu grŵp, a phwyllgorau safonau'r awdurdodau lleol i fonitro'r ffyrdd y mae menywod yn enwedig yn cael eu trin. Rwyf yn cefnogi adroddiad 'Lleisiau Newydd' y Gymdeithas Diwygio Etholiadol, ac mae gan hwnnw argymhellion ynghylch y cyfryngau cymdeithasol a datblygu cod ymddygiad ar y cyd ar draws pob plaid ar gyfer ymddygiad bygythiol.

Rwy'n credu eich bod wedi gwneud pwynt pwysig am addysg a swyddogaeth addysg, a chredaf mai'r cwricwlwm newydd a fydd yn helpu i fynd i'r afael â hyn, yn enwedig o ran addysg cydberthynas a rhywioldeb ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn cadw hyn yn fyr iawn, ond rwyf yn falch iawn o glywed drwy gydol y datganiad hwn heddiw gyfeiriadau at y Bil trais yn erbyn menywod a'r Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a hefyd y datganiad a'r cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â thlodi misglwyf a chynhyrchion misglwyf am ddim. Gwn fod Jenny Rathbone wedi gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn cyn ei farwolaeth drist i weld beth y gallai ei wneud yn y portffolio.

Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi fod angen i ni barhau i hyrwyddo a gweithredu ar y darnau hyn o ddeddfwriaeth allweddol er mwyn i ni gyflawni'r Gymru gyfartal yr ydym ni i gyd eisiau ei gweld mewn gwirionedd? Hefyd, a ydych chi'n cytuno â mi nad mater i fenywod yn unig yw hwn, mae hyn yn fusnes i bawb, ac mae'n braf gweld dynion yn y Siambr heddiw hefyd? Dirprwy Lywydd, hoffwn fynegi ar y cofnod fy edmygedd o Brif Weinidog newydd Cymru yn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru fwy o fenywod na dynion yn y Cabinet erbyn hyn, gan fynd i'r afael ag anghydbwysedd rhwng y rhywiau a ddaeth o faterion a godwyd mewn Llywodraethau blaenorol o fewn y Senedd.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged bersonol i fy mam, a dweud y gwir. Mae hi wedi fy nghefnogi ar hyd fy mywyd drwy pob penderfyniad yr wyf wedi'i wneud, ac mae'n parhau i fod ar gael i mi ac i lawer o rai eraill, hyd yn oed drwy boen gwaethaf ei bywyd ar ôl colli dad. Yn olaf, Aelodau'r Siambr, Dirprwy Lywydd, mae'r dyfodol yn gyffrous, ond gadewch i ni wneud adduned yn y Siambr hon heddiw i adeiladu un gwell, cyfartal o ran y rhywiau a mwy caredig. Diolch.

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 4:04, 5 Mawrth 2019

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn credu bod angen i mi ddweud rhyw lawer mewn ymateb i ddatganiad grymus iawn Jack Sargeant. Fel y dywedodd Jack Sargeant, mae hyn yn fater i bawb, ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i Jack, a mor falch y byddai eich tad ohonoch chi yn y fan yma, a sut yr ydych chi wedi sefyll dros fenywod, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ond yn arbennig dros wleidyddiaeth fwy caredig. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni, a gwn y bydd y Prif Weinidog yn cydnabod bod hwn yn gyfraniad sylweddol iawn yr ydych wedi'i wneud, Jack, ar ran y Cynulliad hwn o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod a'r hyn y dylai ei olygu i bob un ohonom.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 4:05, 5 Mawrth 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Ymddiheuriadau i'r rhai doeddwn i ddim yn gallu galw heddiw.