– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 13 Mawrth 2019.
Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Bethan Sayed.
Diolch. Hoffwn wneud datganiad am effaith bosibl Brexit ar y sefydliadau sy’n rhan o fy mhortffolio fel Cadeirydd y pwyllgor. Rwyf am danlinellu effaith Brexit ar ein diwydiannau creadigol. Os na allwn fanteisio ar y farchnad sengl, a’r gallu i symud nwyddau a llafur yn rhad ac am ddim, bydd hynny’r un mor niweidiol i'r celfyddydau ag ydyw i'n ffermwyr a'n cynhyrchwyr, yn ôl y bobl a wnaeth roi tystiolaeth i ni. Ond mae hyn yn cael llawer llai o sylw yn y wasg. Mae'r diwydiannau creadigol hefyd yn dibynnu'n drwm ar y farchnad sengl, ond nid ydynt yn cael yr un sylw yn y cyfryngau â’r cwmnïau cynhyrchu ceir a chynhyrchu bwyd.
Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i effaith Brexit ar y diwydiannau creadigol, y celfyddydau, treftadaeth a'r Gymraeg yn yr hydref y llynedd. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at y pryderon a godwyd.
Ymhen pythefnos, byddwn efallai yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac, yn anffodus, nid ydym ddim nes at ddatrys y problemau hyn nag yr oeddem ym mis Hydref pan glywsom gan randdeiliaid a Llywodraeth Cymru. Heddiw, rwyf am dynnu sylw at beryglon Brexit. Mae tair problem benodol, sef: colli arian Ewropeaidd; effeithio ar ein gallu i hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol; a’r effaith ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.
O ran cyllid yr Undeb Ewropeaidd, mae diwydiannau a pherfformwyr creadigol yng Nghymru wedi elwa'n fawr o arian Ewropeaidd. Unwaith y byddwn yn gadael, mae’n bosib na fyddwn yn cael arian drwy gyfrwng rhaglenni fel Ewrop Greadigol, Horizon 2020, Erasmus+ a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop. Byddai hyn yn gadael bwlch enfawr. Er enghraifft, dywedodd Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol, a dwi'n dyfynnu:
'Mae'r DU yn cael mwy o arian gan raglen Ewrop Greadigol nag unrhyw wlad arall bron. Mae'r effaith wedi gweddnewid y diwydiant mewn nifer o rannau o genhedloedd a rhanbarthau’r DU.'
Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi hybu sector y celfyddydau a threftadaeth a'r diwydiannau creadigol. Mae gwaddol y buddsoddiad hwn i’w weld ar hyd a lled y wlad–yng nghanolfan gelfyddydau Galeri yng Nghaernarfon ac yng nghanolfan gelfyddydau Pontio ym Mangor. Mae consensws yn y Siambr hon fod yn rhaid i Gymru barhau i dderbyn yr un lefel o gyllid ag y byddai wedi'i chael pe bai'r Deyrnas Unedig wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ers 2017, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo y bydd cronfa ffyniant gyffredin i gau’r bwlch hwn, ond nid yw wedi cyhoeddi unrhyw fanylion i egluro sut y bydd yn gweithio. Mae'r ansicrwydd presennol ynghylch cyllid yn y dyfodol yn niweidiol i'n diwydiannau creadigol ac mae’n hanfodol eu bod yn cael mwy o sicrwydd ynglŷn â’r cyllid a fydd ar gael ar ôl i ni adael.
Yn ein hadroddiad, felly, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn rhan o gynlluniau Ewropeaidd sy'n galluogi’n diwydiannau creadigol i gydweithio ar brosiectau a chystadlu am fusnes yn rhyngwladol. O ran parhau i fod yn rhan o raglen Ewrop Greadigol, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddant yn
'parhau i geisio cadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y posibilrwydd hwnnw ac ynghylch sut y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bwriadu hwyluso hynny.'
Cawsom ar ddeall bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i ystyried bod yn rhan o gynllun olynol Erasmus+ a'i bod o blaid bod â chysylltiad llawn â rhaglen Horizon 2020. Mae hyn oll yn galonogol ond go brin ei fod yn rhoi’r sicrwydd sydd ei angen ar ein rhanddeiliaid i gynllunio a buddsoddi i'r dyfodol.
O ran y Gymraeg, fel rhan o'r ymchwiliad, clywsom am fygythiadau i'n cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae cyllid o'r polisi amaethyddol cyffredin yn cefnogi cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith ac mae arian o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn helpu i greu gwaith yn rhai o'n cymunedau ôl-ddiwydiannol mwyaf difreintiedig.
Bydd unrhyw ddirywiad yn ein heconomïau gwledig yn cael effaith niweidiol ar nifer y siaradwyr Cymraeg, gan beryglu targed y Llywodraeth yma o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ystod ein hymchwiliad, galwodd Merion Prys Jones, gynt o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, i 'ddiogelu'r iaith Gymraeg' fod yn un o bum egwyddor 'Brexit a’n tir', sef polisi’r Llywodraeth ar gyfer diogelu ardaloedd gwledig Cymru.
Gwnaethom alw ar y Llywodraeth i gyfeirio’n benodol yn y ddogfen hon at gynnal a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a nodi bod rhoi cefnogaeth ariannol i reolwyr tir er mwyn darparu nwyddau cyhoeddus yn cydnabod bod economïau gwledig cryf yn cadw ein hiaith yn fyw.
Dywedwyd wrthym fod Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi bod yn gohebu â Chomisiynydd y Gymraeg ynglŷn ag ‘effaith bosibl Brexit ar y Gymraeg'. Rwy’n galw ar y Gweinidog i roi mwy o fanylion yma heddiw am y gwaith a wnaed i liniaru effeithiau Brexit ar yr iaith. Ar hyn o bryd, mae angen i’r Llywodraeth ddangos mwy o ymdeimlad o frys yn hynny o beth.
Ar y llwyfan byd-eang, mae aelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd yn galluogi Cymru i barhau i gael sylw ar y llwyfan rhyngwladol, ac mae hynny mor bwysig i'n diwydiannau creadigol sy'n cystadlu'n fyd-eang. Mae'r gallu i gynhyrchu incwm o gynyrchiadau teithiol yn Ewrop yn rhan hanfodol o fodel busnes ein diwydiant creadigol. Er enghraifft, yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, cynhyrchodd syrcas NoFitState bron 40 y cant o’i holl drosiant drwy deithio. Clywsom y byddai unrhyw gyfyngiadau ar deithio yn peryglu cynyrchiadau teithiol fel cynyrchiadau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a cherddorfeydd Prydain. Mae Cerddorfa Baróc yr Undeb Ewropeaidd, er enghraifft, sydd wedi’i lleoli yn swydd Rhydychen ers 1985, eisoes wedi symud i Antwerp oherwydd bod colli’r rhyddid i symud yn golygu na allant fforddio gwario arian prin ar y gwaith papur sy'n ofynnol i gerddorion berfformio ar y ddwy ochr i’r sianel. Mae hwnnw'n newyddion trist, iawn, iawn.
Bydd yn anodd i gynyrchiadau Cymru gystadlu'n rhyngwladol os na fyddwn yn parhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl yn ôl y dystiolaeth y gwnaethom ni ei chael yn y pwyllgor. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad i gynnal asesiad o’r manteision 'meddal' sydd ynghlwm wrth fod yn aelod o bartneriaethau Ewropeaidd ac i archwilio cyfleoedd i barhau i fod yn rhan ohonynt. Mae'r rhain yn ddefnyddiol iawn i'n sefydliadau diwylliannol er mwyn, er enghraifft, cael a chyfnewid gwybodaeth, cryfhau ymchwil academaidd, datblygu cyfleoedd busnes cydweithredol, a gwella proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.
Os bydd Cymru yn colli ei llwyfan rhyngwladol fel un o gasgliad o wledydd bach yn yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid iddi weithio'n galetach am gydnabyddiaeth yn y dyfodol. Rydym yn arloesi’n ddiwylliannol ac yn elwa'n fawr o’r gallu i ddangos yr hyn rydym yn ei gyflawni a rhannu cyfleoedd dysgu fel aelodau o rwydweithiau Ewropeaidd anffurfiol.
Gwyddom mai Brexit fydd y sioc ariannol fwyaf y bydd y wlad hon yn ei hwynebu yn ystod fy oes i. Bydd ein cymuned greadigol a diwylliannol yn dioddef lawn cymaint â busnesau eraill. Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu â mwy o frys i sicrhau eu bod yn paratoi ym mhob ffordd i leihau'r effaith.
Dwi eisiau cloi gan ddiolch o flaen llaw i Aelodau sydd am ofyn cwestiynau, ond i sicrhau ei bod hi'n bwysig bod y celfyddydau yn cael y parch o drafodaeth fel hyn yng nghyd-destun Brexit—efallai trafodaeth sydd ddim wedi digwydd yn ddigon aml hyd yn hyn.
Diolch i'r Cadeirydd am wneud y datganiad ac am godi'r materion pwysig hyn; hoffwn dynnu sylw'r Gweinidog at ddau fater, os caf. Y cyntaf yw sut y bydd rhwydweithiau amrywiol yn gweithredu: Ewrop Greadigol, Horizon 2020, Erasmus+ ac agweddau ar gronfa datblygu rhanbarthol Ewrop a ddefnyddiwyd ar gyfer prosiectau cymunedol a chreadigol. Mae'r rhwydweithiau hyn—pob un ohonynt, rwy'n credu, ond yn sicr y rhan fwyaf ohonynt—yn agored i drydydd partïon, ac rydym wedi clywed yn gyson fod sefydliadau eisiau aros yn rhan o'r rhaglenni hyn fel y byddent yn cael manteision y rhwydwaith. Nawr, wrth gwrs, bydd cost i hyn, gan na chaniateir i drydydd parti sy'n cymryd rhan geisio am fwy na'r hyn a roddir i mewn neu lai. Felly, dros amser, yn amlwg, byddwn yn cael llai allan. Ar hyn o bryd, o ran Ewrop Greadigol, credaf fod y DU, ar gyfartaledd, yn cael mwy nag unrhyw wladwriaeth arall yn Ewrop yn ôl pob tebyg, neu'n agos at hynny. Felly, gwyddom y bydd newidiadau mawr. Ond eto, mae angen i ni ddewis y rhaglenni rydym eisiau bod yn rhan ohonynt oherwydd y manteision o ran y rhwydwaith creadigol, a chyfiawnhau hynny i'r cyhoedd o ran gwerth am arian. Felly, dyna'r pwynt cyntaf rwyf eisiau ei wneud.
Yr ail bwynt: credaf fod y cwestiwn ynglŷn â sut y bydd y Gymraeg yn parhau i gael ei chefnogi, yn enwedig yn yr ardaloedd cymunedol lle mae'n dal i fod yn iaith gymunedol, yn allweddol. Nid oes gennym—. Yn ystod fy oes i, mae'r rhannau hynny o Gymru sydd â dros 50 y cant o siaradwyr Cymraeg, a'r rheini sydd â dros 75 y cant o siaradwyr Cymraeg, wedi crebachu'n helaeth, ac mae'n bryder gwirioneddol. Mae ffermio da byw yn ddiwydiant mawr yn yr ardaloedd lle mae'r mwyafrif yn dal i siarad Cymraeg. Rydym wedi clywed heddiw y bydd y strwythur tariff 'dim cytundeb' yn debygol o olygu na fydd unrhyw dollau pellach ar gig oen, neu o leiaf y rhai sy'n bodoli ar hyn o bryd, felly mae hwnnw'n newyddion da, ond bydd tariff ar gig eidion. Nid yw lawn mor uchel ag yr oeddem yn ei ofni i ddechrau, ond mae'n dal i fod yn sylweddol, a gall hyn effeithio ar ein heconomïau gwledig. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cofio hynny hefyd, pan fyddwn yn ceisio gweithio drwy ganlyniadau'r ergydion hyn i gymunedau Cymraeg eu hiaith ac yna addasu rhaglenni amrywiol fel y gallwn o leiaf liniaru'r costau hynny a'u cadw cyn lleied ag y bo modd. Ond wyddoch chi, mae'n rhan o'n gwaith cynllunio strategol o ran diogelu a hyrwyddo'r Gymraeg.
Dwi'n credu bod y rhan fwyaf o'r hyn roedd David Melding yn ei godi yn apelio at y Gweinidog, a dwi'n siŵr bod y Gweinidog wedi clywed yn glir. Dwi'n cytuno o ran y projectau creadigol, Creative Europe, a'n bod ni'n dewis a dethol rhwydweithiau. Mae'n siomedig ein bod ni'n gorfod dod i'r pwynt lle byddwn ni'n dewis a dethol rhwydweithiau byddwn ni'n rhan ohonynt, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cael strategaeth yn hynny o beth, i sicrhau bod Cymru yn gallu parhau gyda'r partneriaethau hynny.
Ac yn sicr, gyda'r iaith Gymraeg, ar ben pob sialens arall mae Cymru wledig yn ei gael, mae'r sialens wedyn o ran yr iaith. Dwi'n credu beth sydd yn bwysig yw ein bod ni'n cael y cyfleon, drwy'r prifysgolion, i sicrhau bod rhai o'r rhwydweithiau hynny yn parhau. Yn sicr, mae gan Brifysgol Aberystwyth gyfleon amrywiol i fynd i wledydd fel Gwlad y Basg, a byddwn ni'n mynd yna cyn hir, i allu datblygu'r sgiliau ieithyddol hynny sydd yn bwysig inni fel gwlad ac fel gwlad sydd ag USP o ran yr iaith Gymraeg.
Rwy'n codi hefyd i siarad fel aelod o'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, ac roeddwn hefyd yn falch o gyfrannu at yr ymchwiliad byr hwn i effaith Brexit ar ein diwydiannau creadigol, y celfyddydau a sefydliadau treftadaeth yng Nghymru, a'r iaith Gymraeg. Hoffwn gytuno â'r materion sylweddol a godwyd heddiw gan y Cadeirydd a thrwy gydol yr ymchwiliad.
Felly, bydd colli rhyddid i symud yn hynod o niweidiol, fel y gwyddom, i'n cerddorfeydd, ein bale, ein hopera a'n cwmnïau teithiol llai, gan gynnwys argaeledd a mynediad ein pobl ifanc at y Gerddorfa Ieuenctid Ewropeaidd. Mae'n dal i fod yn aneglur iawn ar y cam hwyr hwn pa gytundeb y cytunir arni, os ceir cytundeb o gwbl.
Hoffwn gyfeirio at rai o fy mhryderon gwirioneddol ynglŷn â'r peryglon y rhagwelir y byddant yn wynebu sector treftadaeth a chelfyddydau Cymru a'n diwydiannau creadigol rhyngwladol. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod hwn yn faes sy'n agos at fy nghalon hefyd, felly, Ddirprwy Lywydd, nid yw dweud hyn yn rhoi unrhyw bleser i mi: mae negodiadau'r Prif Weinidog May yn hynod niweidiol ac yn gam tuag yn ôl ym mywyd diwylliannol Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi amcangyfrif bod ein sefydliadau celfyddydol yng Nghymru wedi derbyn £18 miliwn o'r gronfa strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd yn y cylch ariannu diwethaf yn unig, ac mae hwn yn arian i economi Cymru, mae'n arian i sector y celfyddydau yng Nghymru, ac mae'n arian i fusnesau Cymru.
Rwy'n croesawu safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, fel y'i nodwyd yn y papur polisi 'Diogelu Dyfodol Cymru'. I ddyfynnu ohono:
'Yn ystod ymgyrch y refferendwm, sicrhawyd pleidleiswyr na fyddai Cymru ar ei cholled wrth ymadael â’r UE, ac mae’n hanfodol anrhydeddu’r addewid hwn er mwyn cadw hyder y cyhoedd yn y broses wleidyddol.'
Ac ni fu hynny erioed yn bwysicach. Mae Cymru, fel y nodwyd, yn elwa'n anfesuradwy o Horizon 2020, Erasmus+, Ewrop Greadigol, rhaglen Iwerddon-Cymru, a llawer iawn mwy sy'n sicrhau budd i'n pobl iau, ein cymunedau hŷn a'n heconomïau ledled Cymru. Cytunaf yn gryf â Bethan Sayed mai'r consensws yn y Cynulliad hwn yw bod yn rhaid i Gymru barhau i dderbyn pob ceiniog a phob lefel o gyllid y byddai wedi'u derbyn pe bai'r DU wedi aros yn yr UE. Mae'n rhaid i'r gronfa ffyniant gyffredin anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw. Mae'r bygythiadau i sector diwylliannol Cymru yn glir, ond yr hyn rwyf eisiau ei danlinellu yw bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi chwarae rhan hanfodol a chanolog yn y gwaith o dynnu sylw at y pryderon hyn ac wedi rhoi pwysau uniongyrchol ar Lywodraeth Dorïaidd y DU i gadw eu haddewidion i bobl Cymru.
Felly, os bydd Brexit yn mynd rhagddo mewn un o'r ffyrdd a ragwelir ar hyn o bryd, bydd yn golygu y bydd yn rhaid i Gymru weithio'n galetach fyth i gael ei chydnabod, bydd yn rhaid iddi weithio'n galetach fyth i allforio ein gwaith yn rhyngwladol, a bydd yn rhaid iddi weithio'n galetach fyth i gymryd rhan ar y llwyfan rhyngwladol y mae ein hartistiaid a'n cwmnïau cynhyrchu wedi brwydro mor galed i gael troed arno. Ni ellir disodli eu rhagoriaeth, ac yn olaf, mae'n rhaid iddi weithio'n galetach fyth i ddenu cyllid ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru mewn hinsawdd o doriadau i gyllideb Cymru. Mae hyn yn warthus, a chredaf yn gryf y bydd hyn yn parhau i chwarae rhan ganolog yng ngwaith a thrafodaethau Llywodraeth Cymru wrth i ni symud ymlaen.
Buaswn yn cytuno â phopeth rydych yn ei ddweud, ac rwy'n teimlo eich angerdd. Yn enwedig mewn perthynas â cherddoriaeth, cefais fy synnu wrth ddarllen bod Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain wedi dweud bod 20 y cant o'u cerddorion yn dod o'r UE, a'u bod wedi amlygu'r gost ychwanegol o drefnu fisâu gwaith ar eu cyfer. Felly, os ydym am ei gwneud yn anodd iawn i bobl symud yma, neu i berfformio neu weithio yma, mae hynny'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn bryderus yn ei gylch. Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn recriwtio hyd at 50 y cant o'i ddawnswyr o Ewrop. Mae'r rhain yn dysgu sgiliau y mae ein dawnswyr yng Nghymru yn eu dysgu, a gallant ddysgu oddi wrthynt a meithrin cysylltiadau gyda hwy yn y dyfodol. Felly, credaf fod yr hyn rydych wedi'i ddweud yn gryf iawn, a gobeithio y bydd eich Gweinidog wedi clywed ac y gall rannu'r pryderon hynny ar lefel y DU, a chydnabod pwysigrwydd datblygiadau a rhwydweithio diwylliannol yma yng Nghymru.
Buaswn yn cytuno i'r carn â'r hyn y mae fy nghyd-Aelod Bethan Sayed wedi'i ddweud. Mae Bethan, ynghyd ag Aelodau ar bob ochr, wedi siarad am yr effaith drychinebus y gallai Brexit ei chael ar y celfyddydau, ar ddiwylliant ac ar dreftadaeth.
Hoffwn edrych ar hyn o'r safbwynt arall, sef y ffordd y mae diffyg sylw a buddsoddiad i'r celfyddydau wedi arwain yn rhannol at Brexit. Yn benodol, hoffwn ystyried y gostyngiad yn niferoedd y disgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru sy'n astudio ieithoedd modern, er fy mod yn derbyn bod hyn y tu allan i gwmpas yr ymchwiliad penodol hwn. Rydym wedi gweld gostyngiad o 29 y cant yn nifer y disgyblion sy'n dewis astudio TGAU iaith yng Nghymru yn y pum mlynedd diwethaf, sy'n ostyngiad mwy nag yng ngweddill y DU, a bydd y gostyngiad hwnnw yn cael effaith anochel ar lefelau empathi a pharodrwydd i ddeall diwylliannau eraill, oherwydd pan fyddwn yn dysgu iaith, nid dysgu geiriau yn unig a wnawn, rydym yn dysgu sut i ddangos empathi, i weld y byd drwy lygaid pobl eraill drwy gael golwg uniongyrchol ar sut y mae'r diwylliant hwnnw yn gweld y byd o'u cwmpas.
Mae George Lakoff a Mark Johnson wedi ysgrifennu llyfr am y ffenomen hon o'r enw Metaphors We Live By, ac maent yn tynnu sylw at y modd y mae trosiadau wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn strwythur y ffordd y mynegwn bethau bob dydd. Fy hoff enghraifft yw, yn yr Eidaleg, y ffordd rydych yn dweud 'machlud' yw 'tramonto', ac mae hynny'n llythrennol yn golygu 'rhwng y mynyddoedd', oherwydd mae'r Eidal, ar y cyfan, yn fynyddig iawn, ac maent yn ei ddisgrifio yn union fel y maent yn ei weld. Ieithoedd yw'r ffenestri ar y byd, ac os caewn y llenni arnynt, rydym yn diffodd y golau i gyd. Darllenais Lakoff am y tro cyntaf pan oeddwn yn y brifysgol, a phan oedd fy chwaer, Rhianedd, yn y brifysgol, astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg, a chafodd y fraint aruthrol o fyw dramor am flwyddyn, ac rwyf bob amser wedi bod yn genfigennus iawn o'r ffaith ei bod wedi cael cyfle i wneud hynny. Gwnaeth ffrindiau am oes a siaradai nid un, nid dwy, ond tair, a weithiau pedair iaith, gartref bob dydd.
Oherwydd hynny, mae Plaid Cymru'n credu'n gryf ei bod hi'n hanfodol bod Cymru yn parhau gyda chynllun Erasmus+, beth bynnag sydd yn digwydd yn y dyfodol o ran ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Pan roddodd yr Athro Claire Gorrara o Brifysgol Caerdydd dystiolaeth i'r pwyllgor ar y pwnc hwn, cyn imi ymuno, dywedodd hi ei bod hi'n disgrifio'r cynllun hwn fel un sy'n gwbl greiddiol i les ieithyddol a rhyngddiwylliannol Cymru.
Fe ddisgrifiodd hefyd yr hyn roedd hi'n ei gyfeirio ato fel 'linguaphobia', gan awgrymu bod hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r hinsawdd mae Brexit wedi'i greu. Disgrifiodd y canfyddiad nad yw pobl sydd ddim yn siarad Saesneg, ond sydd yn siarad ieithoedd eraill, yn rhan lawn o'r gymuned. Ac yn sicr rydym yn gweld tystiolaeth anecdotaidd fod pobl yn cael eu sarhau am siarad ieithoedd eraill ar y stryd, yn enwedig trafnidiaeth gyhoeddus a mannau eraill. Fy ngofid i yw y bydd y duedd hon yn parhau.
Fe wnaeth yr Athro Gorrara hefyd dynnu sylw at ymchwil gafodd ei gynnal gan y Cyngor Prydeinig, y British Council, wnaeth ddarganfod fod traean o'r ysgolion wnaeth ymateb yn credu bod Brexit yn cael effaith negyddol ar agweddau rhieni a disgyblion tuag at ieithoedd tramor modern.
Nododd Bethan y byddai Brexit yn creu sioc ariannol fwyaf ein hoes i dreftadaeth a'r celfyddydau, ac rwy'n cytuno gyda hynny, ac i waethygu'r effaith ariannol honno, bydd ein pobl ifanc a'n plant yn tyfu fyny heb gael yr un cyfleoedd ag y mae eraill wedi'u cael, ac mae honno'n sioc fwy sylfaenol i'n henaid fel cenedl. Mae'n peri pryder mawr i mi, mae hwn yn fater sy'n agos at fy nghalon innau hefyd, ac ni wn sut y gallwn ddechrau prosesu'r golled honno hyd yn oed.
Diolch, Delyth. Credaf fod eich dadansoddiad yn ysbrydoledig iawn yn yr ystyr eich bod wedi edrych ar y mater o safbwynt gwahanol fel Aelod Cynulliad newydd gyda golwg newydd ar yr hyn y gallwn fod yn edrych arno mewn perthynas â'r pwyllgor hwn, mewn perthynas ag ieithoedd modern a cholli'r celfyddydau, a sut y gallai hyn fod wedi arwain at rai o'r materion a arweiniodd at Brexit—lleihau'r ddarpariaeth leol, cau theatrau yn ein cymunedau—a sut y mae hynny wedyn yn arwain at ddiffyg cyfleoedd yn y cyswllt hwnnw, a chredaf eich bod yn gywir yn dweud hynny.
Ac rwy'n credu, o ran cydweithredu, yn ddiwylliannol rhwng ein gwlad a gwledydd eraill, mae pobl ifanc bellach yn cael cyfle i deithio. Gan droi'n ôl at gerddorfeydd, oherwydd fy mod yn gyfarwydd â'r maes, gallwch berfformio mewn gwlad Ewropeaidd fel y gwneuthum innau—euthum i'r Almaen—ac yna maent yn dychwelyd ac rydych yn rhannu'r profiadau hynny, maent yn aros yma, maent yn dod yn rhan o'ch diwylliant am ychydig, ac rydych yn dysgu mwy am y byd. Ac rwy'n credu mai dyna'r broblem y byddwn yn ei hwynebu gyda Brexit, y byddwn yn gweld y byd, efallai, ar lefel fwy arwynebol ac nid yw hynny'n beth da i unrhyw un, oherwydd mae gennym gymaint i'w ddysgu gan wahanol wledydd.
Ond mae'r 'linguaphobia', rwy'n credu, yn rhywbeth sy'n rhaid i ni ei drafod y tu hwnt i'r ymchwiliad pwyllgor penodol hwn hefyd, oherwydd, wyddoch chi, rwy'n siŵr eich bod wedi clywed pobl yn dweud, ac ar y meinciau hyn rydym wedi cael pobl yn dweud weithiau fod arnynt ofn siarad Cymraeg mewn rhai mannau am fod pobl yn dweud wrthynt am beidio â siarad iaith dramor, er mai siarad iaith eu gwlad eu hunain a wnânt. Felly, mae hynny'n gwbl hurt. Ond diolch i chi am roi cipolwg newydd i ni ar gylch gwaith y pwyllgor, ac mae hynny'n rhywbeth, mewn perthynas ag ieithoedd modern, ar gyfer y pwyllgor addysg efallai—nid fy mod eisiau rhoi gwaith i Lynne Neagle fel Cadeirydd—ond mewn perthynas ag ieithoedd modern, mae'n sicr yn fater sy'n cyrraedd pwynt argyfwng ac mae angen mynd i'r afael ag ef.
Ac yn olaf, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r pwyllgor am yr adroddiad hwn, ac yn benodol yr adran ar y Gymraeg? Mae'r iaith yn gyfrifoldeb trawsbynciol, wrth gwrs, i'r Llywodraeth, felly efallai fod rhai o'm cwestiynau yn fater i'r Gweinidog yn lle'r Cadeirydd, ond hoffwn i wybod oddi wrth y ddwy ohonoch chi, os yw hynny'n ocê.
Dyw dyfodol yr iaith ddim yn bodoli mewn gwagle, felly rwy'n falch o weld cyfeiriad at amaethyddiaeth a'r gyfran gymharol uchel o bobl sy'n siarad Cymraeg bob dydd yn y sector hwnnw. Cafodd yr iaith gyfeiriad pitw yn 'Brexit a'n tir'. Dylai ei ddarllenwyr ofyn cwestiwn am yr effaith ar yr iaith, heb unrhyw dystiolaeth yn y ddogfen hon yn cael ei darparu. Rwy'n chwilfrydig, felly, i wybod pa sicrwydd roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor fod asesiadau effaith ar y Gymraeg yn rhan annatod o broses y Llywodraeth ar gyfer paratoi ar gyfer Brexit, yn enwedig 'no deal' Brexit, achos nid oedd yn amlwg yn y dystiolaeth a roddwyd i bwyllgorau eraill.
Yn benodol, mae'r adroddiad yn cyfeirio at y bygythiad o golli cronfeydd strwythurol yn ardaloedd tlotaf y Gymru Gymraeg, ond mae'r un bygythiad i'r ardaloedd tlotaf o Gymru lle nad yw'r iaith yn gyffredin, ac mae hynny hefyd yn broblem. Dyna'r ardaloedd o Gymru lle rydym yn ceisio cynyddu defnydd o'r iaith, am ei gwerth cynhenid, wrth gwrs, ond hefyd fel sgíl ychwanegol a fydd yn dod yn fwy perthnasol i'r farchnad swyddi, gan gyfrannu at symudedd cymdeithasol ac yn y blaen. Fe glywodd y pwyllgor fod Gweinidog yr economi a Gweinidogion eraill yn ystyried hyn fel rhan o drafodaethau cronfa ffyniant y Deyrnas Unedig, neu'r defnydd o gronfa drosiannol Llywodraeth Cymru. Dwi ddim yn gwybod a yw hwn wedi dod lan, ond os yw e wedi, hoffwn i wybod tipyn bach mwy am hynny.
Rwy’n cytuno'n llwyr â'r gosodiad fod Cymru'n elwa o'r gallu i hyrwyddo ei hun fel cenedl sy'n ystwyth o safbwynt ieithyddol mewn marchnad sy'n fwyfwy byd-eang. Dyma'r meddylfryd y tu ôl i'n polisi ni fel Ceidwadwyr Cymru ar gyfer Cymru dairieithog, a lansiwyd rai blynyddoedd yn ôl, ond sy'n dal i fod yn rhan ganolog o'm meddylfryd i fel llefarydd yr wrthblaid dros addysg. Nodwyd yr egwyddor gyffredinol hynny gan y Gweinidog dros addysg ar y pryd, a daeth yn rhan o bolisi'r Llywodraeth. Felly, hoffwn i gael rhywfaint o sicrwydd, efallai gan y Gweinidog, fod hynny'n parhau i fod yn bolisi i'r Llywodraeth. Diolch. Sori, i'r Gweinidog. Diolch.
Ond, fi sy'n ymateb.
Ie, i ddechrau.
Ie, sori. [Chwerthin.] Yn anffodus, nid y Gweinidog, gan ei fod yn ddatganiad gen i, ond mae'r Gweinidog yma. Mae posibiliad, achos bod lot o gwestiynau wedi dod at y Gweinidog gan yr Aelodau, y gallwn ni ysgrifennu ar sail rhai o'r cyfraniadau fan hyn at y Gweinidog. Mae hi'n nodio'i phen yn hapus â hynny. Felly, fe wnawn ni hynny fel canlyniad i'r datganiad yma.
Gallaf ond fynd nôl at beth wnes i ddweud yn y datganiad o ran yr iaith ac amaeth. Dŷn ni wedi gofyn i'r Gweinidog i roi mwy o eglurder i ni o ran effaith posibl Brexit ar y Gymraeg, ac mae yna drafodaethau wedi digwydd gyda chomisiynydd yr iaith, ond mae angen inni ffeindio mas mwy, os yn bosib, gan y Gweinidog ar beth yw natur y trafodaethau hynny. Achos, fel mae Suzy Davies yn ei ddweud, mae hynny’n bwysig iawn, a hefyd, fel dŷch chi'n ei ddweud, ei bod yn rhan o bob rhan o Lywodraeth ac yn cael ei phrif ffrydio mewn i waith Brexit gan bob Gweinidog arall. Dyw e ddim jest yn fater i un Gweinidog; mae'r iaith a'r celfyddydau a threftadaeth yn bwysig, buaswn i'n meddwl, i bob un o'r Gweinidogion yma.
O ran y gronfa ffyniant, dwi ddim yn sicr ein bod ni wedi cael unrhyw fath o lwc hyd yn hyn i wybod beth yn gwmws maen nhw'n mynd i fod yn ei wneud o ran manyldeb hynny. Felly, byddwn ni'n lobio, yn sicr, i sicrhau bod yr iaith yn rhan o unrhyw gronfa ffyniant, ond byddwn i hefyd eisiau cael rhyw fath o reolaeth dros ble mae'r arian hynny'n mynd yma yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn i chi hefyd, fel aelodau o'r Blaid Geidwadol, i fynd yn ôl atyn nhw, mewn pob parch, a dweud ein bod ni angen cael mewnbwn mewn i sut mae hwn yn cael ei wario yng Nghymru, achos mae'r iaith yn rhan gynhenid o'n hecosystem yma, sydd efallai'n wahanol i ardaloedd eraill o Brydain.
Felly, diolch am y cwestiynau, a byddwn ni'n fframio'r rheini i mewn i lythyr i'r Gweinidog dros faterion rhyngwladol er mwyn gallu sicrhau bod y materion yma, sydd efallai ddim yn cael cymaint o fuddsoddiad nac yn cael cymaint o drafodaeth yn y trafodaethau Brexit oll y byddwn ni'n ei hoffi—ond nawr dŷn ni wedi gallu cael y flaenoriaeth yna heddiw. Felly, diolch ichi gyd am y cyfraniadau.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor.
Cyn inni symud ymlaen i drafod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru), mae'n bleser gen i gyhoeddi canlyniad y bleidlais gudd ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a bydd yr holl ganlyniadau yn cael eu cyhoeddi. Felly, Janet Finch-Saunders, 25 o bleidleisiau; Mark Isherwood, 14 o bleidleisiau; ac un bleidlais yn ymatal. Dwi'n datgan, felly, fod Janet Finch-Saunders wedi cael ei hethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Llongyfarchiadau i Janet Finch-Saunders.