– Senedd Cymru am 3:35 pm ar 27 Mawrth 2019.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, a galwaf ar Andrew R.T. Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6990 Andrew R.T. Davies, Bethan Sayed, Huw Irranca-Davies
Cefnogwyd gan: Dai Lloyd, David Rees, Hefin David, Janet Finch-Saunders, Jayne Bryant, Lynne Neagle, Llyr Gruffydd, Mike Hedges, Mohammad Asghar, Suzy Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd rygbi i bobl Cymru, y manteision economaidd sy'n gysylltiedig â'r gêm, a'i le arbennig yng ngwead cymunedau ledled ein cenedl;
b) yr heriau ariannol a strwythurol sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd;
c) goblygiadau posibl 'Project Reset' Undeb Rygbi Cymru ar rygbi proffesiynol a'r strwythur rhanbarthol yng Nghymru, ac ar y gwasanaethau lleol a chymunedol ychwanegol a ddarperir ar hyn o bryd gan y rhanbarthau; a
d) y pryderon cryf a fynegwyd gan gefnogwyr ynghylch y posibilrwydd o uno rhanbarthau'r Gweilch a'r Sgarlets.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid rhanbarthol/clwb i ddiogelu rygbi yng Nghymru a llunio model cynaliadwy tymor hir ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn ffurfiol.
Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o fy nghyd-gyfranwyr yn y ddadl heddiw pan ddywedaf mai teimlad cymysg sydd gennym wrth gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig yn dilyn buddugoliaeth eithriadol Cymru yn ennill y Gamp Lawn tua 10 diwrnod yn ôl. Credaf fod y dathliadau bron iawn wedi dod i ben ledled y wlad, yn dilyn buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon, canlyniad a orffennodd bencampwriaeth ragorol i Warren Gatland, ei staff ategol, ac wrth gwrs i'r bechgyn mewn coch.
Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, ynghyd â ffermio, rygbi yw un o fy hoff bethau—cariad at y gêm a rennir gan filoedd ar filoedd ledled Cymru. Gyda'r cefnogwyr hynny mewn cof mewn gwirionedd—gwir enaid ac asgwrn cefn y gêm yng Nghymru—y dadleuwn heddiw ynglŷn â dyfodol y strwythur proffesiynol, a goblygiadau hyn, wrth gwrs, i'r gêm ar lawr gwlad, o feysydd chwarae Clwb Rygbi y Bont-faen i Rygbi Gogledd Cymru yn y gogledd, ac yn wir ein tîm rygbi ein hunain yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yr wyf bob amser yn awyddus iawn i barhau i'w hyrwyddo ac sy'n mynd o nerth i nerth.
Cyn edrych ar rai o'r manylion, yn bennaf oll byddai'n iawn inni gydnabod y datganiad a'r eglurhad bythefnos yn ôl gan y bwrdd rygbi proffesiynol na fydd unrhyw uno'n digwydd i ranbarthau rygbi Cymru y tymor nesaf. Yn gwbl briodol, cafwyd ymddiheuriad hefyd gan Undeb Rygbi Cymru i'r tîm a'r cefnogwyr am yr aflonyddwch a barodd 'Project Reset' yn ystod y chwe gwlad, aflonyddwch a greodd risg ar un pwynt o dynnu sylw'r tîm oddi ar y gwaith a oedd ganddo i'w wneud, a gallai fod wedi rhoi'r Gamp Lawn yn y fantol. Diolch byth, llwyddodd eu proffesiynoldeb ac ansawdd y chwaraewyr rygbi ac unigolion i ddisgleirio tra oedd y newidiadau i'r strwythurau rhanbarthol ar y gorwel. Mae'n gwneud i rywun amau mai wedi'i roi o'r neilltu am y tro y mae hyn, yn hytrach na'i wrthod yn gyfan gwbl.
Wrth gwrs, mae trefniadau llywodraethu'r gêm yng Nghymru yn llwyr yn nwylo Undeb Rygbi Cymru a'i bartneriaid rhanbarthol, ac mae hynny'n gwbl iawn a phriodol. Ond mae'r cefnogwyr wedi cael eu hysgwyd gan y datblygiadau diweddar—yr ail dro mewn dau ddegawd y gallai'r gêm broffesiynol yng Nghymru fod wedi bod yn destun ailwampio dramatig. O lawr gwlad i fyny i'r lefel ryngwladol, gwelwyd pryder eang a dwys ynghylch yr argymhellion a gyflwynwyd gan 'Project Reset'. Mae'r canlyniadau wedi bod yn ffrwydrol. Rydym wedi cael ymddiswyddiadau o fyrddau clybiau rhanbarthol, ac er bod cadoediad posibl ar waith ar gyfer 2019-20, mae'r cefnogwyr yn paratoi ar gyfer beth sy'n dod nesaf. Mae'r bwrdd rygbi proffesiynol yng Nghymru, sy'n goruchwylio'r strwythur rhanbarthol proffesiynol yn parhau i fod, a dyfynnaf, yn unedig yn ei awydd i wneud yr hyn sydd orau, ac mae wedi cadarnhau na chaiff ei rwystro rhag mynd ar drywydd ateb i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y gêm broffesiynol yng Nghymru.
Am nawr, ymddengys bod y model pedwar rhanbarth ar waith. Ond gyda'r awydd i ehangu'r gêm broffesiynol i'r gogledd, mae'r bygythiad i un o'r rhanbarthau sydd ar hyn o bryd yn rhan o'r gystadleuaeth Pro14 yn aros. O'm safbwynt personol i, fel cefnogwr ac fel Aelod Cynulliad, nid oes gennyf wrthwynebiad i'r potensial o gael tîm gogledd Cymru. Yn wir, credaf y dylid annog camau i hyrwyddo ein gêm genedlaethol i bob cwr o'r wlad. Fodd bynnag, dylid ymdrin yn ofalus ac yn sensitif ag ailstrwythuro posibl, gan werthfawrogi'n gyffredinol beth yw'r goblygiadau posibl.
Oherwydd mae llawer mwy yn y fantol na 15 o chwaraewyr yn dod allan ar ddydd Sadwrn dros eu priod ranbarth yn Stadiwm Liberty, Parc y Scarlets, Parc yr Arfau, Rodney Parade, neu Fae Colwyn yn wir. Mae rygbi yn hanfodol bwysig i gynifer o bobl yng Nghymru, ac nid yw'r manteision y mae'n eu creu yn gyfyngedig i 80 munud ar y maes chwarae. Mae'r gêm yn darparu nifer o fanteision economaidd na ellir eu gorbwysleisio, yn enwedig mewn gwlad lle mae ffyniant economaidd a datblygiad parhaus wedi bod yn anodd ei gyflawni ar adegau. Ac ar y pwynt penodol hwn hoffwn glywed mwy gan y Gweinidog y prynhawn yma ynglŷn â beth a wnaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r manteision y mae'r gêm, a'r gêm ranbarthol, wedi eu creu i'r economi genedlaethol, a pha waith modelu, os o gwbl, a wnaed i edrych ar ei gwir gyrhaeddiad.
Rwy'n chwilfrydig hefyd i wybod sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cefnogi'r gêm wrth symud ymlaen, a sut y mae hyn yn cymryd ei le yn y strategaeth economaidd, gan ddefnyddio ein llwyddiant ar y llwyfan rhyngwladol o bosibl hyd yn oed i hyrwyddo ein gwlad dramor, a pha le sydd i'r potensial hwnnw yn adran cysylltiadau rhyngwladol newydd y Llywodraeth.
Yn ddi-os, mae lle arbennig i'r gêm yng ngwead cymunedau ledled ein gwlad, a bydd goblygiadau posibl 'Project Reset' yn cael effaith ganlyniadol fawr ar y gwasanaethau helaeth ac amrywiol y mae'r rhanbarthau yn eu darparu mewn cymunedau ac ar lawr gwlad o gwmpas Cymru. Yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n ôl yn unig, dangosodd Dai Rees a Mike Hedges ac eraill yn huawdl gyrhaeddiad a chyflawniad gwasanaethau cymunedol gan y Gweilch yn eu rhanbarthau a'u hetholaethau. Ac yn amlwg, gwae i ni ddiystyru hyn. Hoffwn glywed gan y Gweinidog ar yr effaith bosibl hon, yn enwedig gan fod gwead cymdeithasol Cymru yn aml yn cael ei gysylltu â lles a chryfder y gêm genedlaethol. Mae'r rhanbarthau hyn wedi'u hadeiladu ar hanes hir o rygbi clwb llwyddiannus yn eu cymunedau ac ar un o'r rhain, mae effaith fawr chwarae ychydig o gemau yn ne-orllewin Cymru a cholli'r gemau hynny yn fwy o lawer.
Mae'r strwythur ariannol a'r heriau sy'n wynebu rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd yno i bawb eu gweld—yn anffodus, wedi'u hadlewyrchu'n rhy eglur ym methiant rhanbarthau Cymru i fynd drwy rowndiau bwrw allan y brif gystadleuaeth Ewropeaidd, Cwpan y Pencampwyr y tymor hwn. Ar hyn o bryd, nid oes gennym adnoddau i gystadlu gyda rhai o'n cymheiriaid yn Lloegr a Ffrainc. Rhaid inni fod yn glyfar, yn heini ac yn greadigol gyda'r hyn sydd gennym i chwarae ag ef.
Rydym yn gwneud hynny'n dda iawn ar y llwyfan rhyngwladol. Gallai rhai ddweud ein bod yn chwarae'n well nag y mae disgwyl inni ei wneud. Ond rydym yn gwybod bellach beth sydd angen inni ei wneud i drosi hynny'n llwyddiant ar sail ranbarthol. Mae sicrhau llwyddiant ac elfennau paratoadol eraill ar lefel ranbarthol yn hanfodol i iechyd hirdymor y gêm yng Nghymru, ond rhaid i'r awdurdodau dderbyn a chydnabod hefyd fod yn rhaid i hyn fod, ac yn llawer mwy emosiynol yn wir, yn llawer anos na threfnu'r cadeiriau haul ar y Titanic neu bwyso botwm ac anfon datganiad i'r wasg cyflym allan.
Er mwyn i unrhyw newidiadau aruthrol eraill gael eu derbyn yng nghylchoedd rygbi Cymru, bydd angen i Undeb Rygbi Cymru, y rhanbarthau, clybiau a phartneriaid cysylltiedig sicrhau eu bod yn cario'r cefnogwyr gyda hwy. Mae cryfder y gêm yng Nghymru wedi'i adeiladu ar waith caled gwirfoddolwyr mewn clybiau amatur ledled y wlad—o chwaraewyr i dirmyn i staff bar. Dyna'r sylfaen ar lawr gwlad; dyna'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y genhedlaeth nesaf o Alun Wyn Jonesiaid neu Dan Biggars sy'n dod drwy'r rengoedd. Ni allwn fforddio gelyniaethu'r unigolion hynny drwy gyflwyno trefniadau trwsgl eraill i ad-drefnu'r gêm yng Nghymru. I mi, dyna lle gall Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad chwarae rhan yn wir.
Rwyf bob amser ychydig yn betrusgar i weld gwleidyddion yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond rwy'n meddwl o ddifrif na allwn orbwysleisio pwysigrwydd rygbi yma yng Nghymru i'n heconomi, i'n cymunedau ac i'n pobl. Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan weithgar yn cefnogi'r gêm gymunedol ac mae'n hollbwysig fod yna neges gref a chydlynol ganddynt wrth symud ymlaen, i weld beth y gallant ei wneud i helpu'r gêm broffesiynol i ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. A dyna pam y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Undeb Rygbi Cymru a phartneriaid clybiau rhanbarthol i ddiogelu rygbi yng Nghymru a datblygu model cynaliadwy hirdymor ar gyfer y gêm ar lefel ranbarthol ac ar lawr gwlad.
Tra'n parchu rôl y corff llywodraethu i fod yn warcheidwad y gêm wych, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn deall ei rôl ei hun yn amddiffyn ein camp genedlaethol a dyma broc bach hynod o ofalus i'w hatgoffa bod goblygiadau cenedlaethol i'w gweithredoedd. Nid yw'n ddigon da i neb ohonom godi ein hysgwyddau a gwylio o'r cyrion. Mae cymunedau a phobl ar draws y wlad yn dibynnu arnom, ac yn wir, mae'r gêm rygbi, ac ymgysylltiad â'r cymunedau hynny'n mynd i fod yn hollbwysig. Ni allwn fod yn naïf a rhoi ein pennau yn y tywod. Mae newid yn dod, ond mae angen inni sicrhau bod y newid hwn wedi'i gynllunio'n dda a'i gyfathrebu'n briodol i'r miloedd o gefnogwyr rygbi ar draws y wlad.
Ar y llwyfan rhyngwladol, rydym yn mynd o nerth i nerth, ac rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr hon yn dymuno'n dda i'r tîm yng Nghwpan Rygbi'r Byd, ond mae iechyd hirdymor a dyfodol y gêm yng Nghymru yn bendant yn y fantol. Rydym ar groesffordd arwyddocaol i rygbi Cymru a bydd y camau gweithredu nesaf yn gosod cyfres o ddigwyddiadau ar waith a fydd yn pennu llwyddiant y gêm ar bob lefel, o'r lefel ryngwladol i lawr i'w seiliau ar lawr gwlad. Yn sicr, bydd angen gwneud penderfyniadau anodd, ond mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu o'r ffordd yr ymdriniwyd â Project Reset yn ddiweddar.
Rhaid i argymhellion a newidiadau yn y dyfodol gael eu cyfathrebu'n briodol a chaniatáu ar gyfer ymgysylltu priodol gyda chlybiau a chefnogwyr. Er mor amhoblogaidd y gallent fod gyda rhai, a gadewch inni fod yn onest, mewn bywyd, ni allwch blesio pawb drwy'r amser, os cânt eu cyfathrebu'n briodol, efallai y gallwn sicrhau ein bod yn negyddu unrhyw niwed hirdymor dinistriol i wead ein cymunedau. Heb y cefnogwyr, nid yw'r gêm yn ddim. Fel Aelodau Cynulliad, rhaid inni fod yn llais iddynt pan fo hynny'n briodol. Fel cymuned rygbi yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod y cefnogwyr yn dod ar y daith hon, fel arall mae perygl y caiff calon y gêm ei rhwygo allan am byth.
A gaf fi ddatgan buddiant, yn gyntaf oll, fel deiliad tocyn tymor y Gweilch ac a gaf fi ganmol Andrew R.T. am ei ddatganiadau agoriadol? Ac rwyf hefyd yn aelod o Glwb Rygbi Dynfant yn ogystal.
Nawr, ers talwm, bûm yn chwarae rygbi am flynyddoedd lawer, er mai testun syndod oedd y ffaith fod y detholwyr wedi fy anwybyddu. Nid wyf erioed wedi deall pam. [Chwerthin.] Ac mae fy meibion wedi chwarae i Waunarlwydd a Dynfant drwy'r holl grwpiau blwyddyn, o dan 11, dan 12, dan 13, dan 14—ac i fyny i'r ieuenctid. Ac mae clwb rygbi'r pentref yn chwarae rôl clwb ieuenctid. Dwsinau o blant, merched a bechgyn, yn chwarae'n rheolaidd, ddwywaith, deirgwaith yr wythnos, yn ogystal â hyfforddiant. Ac yn amlwg, nid am rygbi'n unig y mae hyn. Mae'n wir hefyd—yn sicr yn ardal Abertawe—am bêl-droed, criced, athletau a nofio. A chymaint mwy. Mae byddin o wirfoddolwyr allan yno sy'n cynnal yr holl weithgaredd hwn. Felly, ydy, mae rygbi yn y pridd go iawn.
Nawr, roedd yna bwynt swreal ar un adeg wythnos i ddydd Sadwrn diwethaf pan oedd Cymru newydd ennill y Gamp Lawn—fel y soniodd Andrew, unwaith eto—ac yna roedd yr Alban wedi ymadfer yn wyrthiol o fod 31-dim i lawr i Loegr i fod ar y blaen o 38-31, ac ar yr un pryd, roedd tîm pêl-droed Abertawe ar y blaen o ddwy gôl i ddim yn erbyn Pencampwyr Uwchgynghrair Lloegr, Manchester City, yng Nghwpan yr FA, a meddyliais, 'Duw, nid yw gallu chwaraeon i ysbrydoli, i droi pethau ar eu pen, i gyrraedd lefel uwch, byth yn peidio â rhyfeddu.' Ie, ar y pwynt hwnnw, roedd yn bendant yn swreal, bron yn brofiad crefyddol, mewn gwirionedd, hyd nes y sylweddolais fod Iesu yn chwarae yn y rheng flaen i Man City—Gabriel Jesus, hynny yw—ac aeth pethau nôl i normal, yn annheg yn achos yr Elyrch.
Nawr, wrth gefnogi'r cynnig hwn yn gryf, fe wnaf ychydig o bwyntiau fel un o gefnogwyr balch y Gweilch, ac fel y byddem yn ei ddweud fel cefnogwyr y Gweilch, yr unig wir ranbarth. Aethom drwy'r boen o uno clybiau rygbi Abertawe a Chastell-nedd—y gelynion lleol mwyaf ffyrnig a chwerw—dros 16 mlynedd yn ôl. Mae rhai'n dal i gario creithiau hynny. Ac mae'r Ospreylia'n cyfateb i fy rhanbarth etholiadol, Gorllewin De Cymru, felly mae'n naturiol fy mod yn ffan. Ac yn amlwg, mae'r Gweilch wedi bod yn rhanbarth rygbi mwy llwyddiannus na'r un, ar ôl ennill y Pro12 a'r Pro14 ar bedwar achlysur. Dyna'r record orau o bob rhanbarth, gan gynnwys y rhai Gwyddelig, ac fe wnaethant ddarparu, yn nodedig wrth gwrs, 13 allan o'r 15 o chwaraewyr Cymru a gurodd Loegr yn Twickenham yn 2008 yn y gêm gyntaf gyda Warren Gatland wrth y llyw. Ac fel cefnogwyr dros y blynyddoedd, rydym wedi dwli ar ddoniau Shane Williams, Dan Biggar, Tommy Bowe, Mike Phillips, James Hook, Alun Wyn Jones, Adam Jones, Duncan Jones, Justin Tipuric, Adam Beard, George North, Owen Watkin—gallwn barhau, ond gwelaf fod y cloc yn tician. Ac mae Alun Wyn Jones, cawr go iawn, ar fin cael rhyddid dinas Abertawe—yn hollol haeddiannol.
Nawr, yn amlwg, y broblem yw arian, ac mae'r heriau ariannol yn golygu na all y Gweilch fforddio cael dau chwaraewr lefel ryngwladol ym mhob safle yn eu sgwad. Felly, gadewch inni siarad ychydig am ad-drefnu, ac ychydig o farchnata, buaswn yn dweud. Yn amlwg, gall y Saraseniaid a phrif glybiau Lloegr gael dau chwaraewr lefel ryngwladol ym mhob safle fel na chânt eu gwanhau o gwbl pan fo'r gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae. Ond pan fo'r gemau rhyngwladol yn cael eu chwarae, mae ein rhanbarthau ni'n cael eu gwanhau. Felly, gadewch i ni ad-drefnu'r tymor Pro14 fel nad yw gemau'n gwrthdaro â'r gemau rhyngwladol. Gadewch inni farchnata'r Pro14 yn briodol. Maent yn marchnata'r uwch gynghrair yn Lloegr yn grand iawn. Rydym yn haeddu hynny yng Nghymru. Gêm y bobl yw hi. Ein gêm genedlaethol—mae Cymru a Seland Newydd yn rhannu'r anrhydedd honno. Denu mwy o arian i'r gêm yng Nghymru, yn amlwg, yw'r her enfawr, ond rydym mewn sefyllfa gref. Wedi'r cyfan, rydym—. Cymru yw pencampwyr y Gamp Lawn—efallai fy mod wedi crybwyll hynny eisoes—pencampwyr byd o bosibl, ac felly yr her i Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru, a'r holl bartneriaid yw gwneud yn siŵr ein bod yn sicrhau bod marchnata a strwythurau ariannol cynaliadwy ar waith. Rwy'n falch nad yw'r uno'n mynd i ddigwydd gan nad yw cefnu ar eich rhanbarth gorau byth yn syniad clyfar ac roedd yn destun syndod a dryswch llwyr yn Abertawe. Cefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Mae'n anodd bob amser pan fyddwch yn dod yn drydydd i siarad yn un o'r dadleuon hyn. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â phopeth y mae Andrew R.T. Davies a Dai Lloyd wedi dweud? Mae hwnnw'n lle da i ddechrau.
A gaf fi sôn am dri pheth sy'n gadarnhaol am rygbi Cymru? Mae gennym dîm cenedlaethol llwyddiannus iawn a thîm cenedlaethol sy'n cael cefnogaeth dda iawn. Gall Stadiwm y Mileniwm werthu'r holl docynnau ar gyfer pob gêm ryngwladol, hyd yn oed os oes angen i docynnau rhyngwladol yr hydref gael eu bwndelu weithiau er mwyn gwerthu pob un ohonynt. Mae brwdfrydedd a chyfranogiad enfawr ar lefel mini-rygbi a rygbi iau. Mae gan fy nghlwb lleol, Treforys, dimau iau o dan 11, 12, 13, 14, 15, 16, a thimau mini-rygbi ar gyfer rhai 10 oed, naw oed, wyth oed, saith oed a rygbi i rai iau na hynny hefyd. Byddech yn meddwl y bydd 11 o dimau mewn 11 o flynyddoedd. Rwy'n dweud wrthych yn awr, byddant yn brwydro i gael dau.
Y llwyddiant olaf yw rygbi menywod sydd wedi tyfu o ran presenoldeb mewn gemau rhyngwladol—4,113 ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr—ac yn y nifer o dimau menywod sy'n chwarae. Mae gan dîm arall yn fy etholaeth, Bôn-y-maen, dîm rygbi menywod rhagorol.
Nawr, wrth edrych ar y broblem gyntaf sy'n wynebu rygbi Cymru, gan ddefnyddio ffigurau sydd ar gael i'r cyhoedd, roedd nifer gyfartalog y rhai a ddaeth i wylio'r Dreigiau yn 5,083 yn 2015-16 a disgynnodd i 4,700 yn 2017-18. Aeth y Gleision o 5,942 i 6,193, sy'n gynnydd bychan. Disgynnodd y Gweilch o 8,486 i 6,849, ond yn dal i fod yn fwy na'r ddau arall. Ac mae'r Scarlets wedi mynd o 7,290 i 9,256. Mae'r presenoldeb cyfartalog mewn dau ranbarth wedi disgyn; nid oes gan yr un o'r rhanbarthau nifer cyfartalog o wylwyr sy'n uwch na 10,000. Mae uwchgynghrair rygbi Lloegr yn gweld cyfartaledd o dros 12,000. Mae Bordeaux yn cael dros 23,900 ar gyfartaledd, Leinster â chyfartaledd o dros 15,500. Daeth 74,500 i Stadiwm y Mileniwm, a gwyliodd dros filiwn o bobl Gymru'n curo Iwerddon—fel y crybwyllodd David Lloyd unwaith rwy'n credu—i Gymru ennill y Gamp Lawn. Wedyn, dim ond ychydig dros 8,000 a ddaeth yr wythnos ganlynol i wylio'r Gweilch yn erbyn y Dreigiau.
Gofynnais i rywun a ddywedai eu bod yn gefnogwr rygbi pwy oeddent yn ei gefnogi, a'r ateb a gefais oedd 'Cymru'. Pan ofynnais iddynt pwy arall a gefnogent, roeddent yn ystyried bod y cwestiwn yn rhyfedd a dywedasant, 'Wel, dim ond Cymru, wrth gwrs.' Roeddwn yn ceisio cyfleu'r pwynt, pe baech yn cael y sgwrs honno gyda chefnogwr pêl-droed—pe bawn yn gofyn i gefnogwr pêl-droed yn Abertawe, 'Pwy ydych chi'n eu cefnogi?', byddent yn enwi'r tîm—Abertawe, gobeithio—ac yna byddent yn dweud, 'Cymru'. Ymddengys eu bod yn cysylltu â'u clwb a'r wlad. Mae yna lawer gormod o bobl sy'n disgrifio'u hunain fel cefnogwyr rygbi yn cysylltu eu hunain â'r wlad yn unig.
Unwaith eto, yn ôl ffynonellau cyhoeddedig, mae gan y 14 clwb uchaf yn Ffrainc gytundeb teledu gwerth £76 miliwn am y tymor. Mae gan rygbi Lloegr gytundeb werth £38 miliwn am y tymor, ac mae rygbi Cymru yn rhan o gytundeb £14 miliwn y flwyddyn. Mae'n hawdd gweld lle mae'r problemau. Felly, mae rygbi rhanbarthol yn dioddef o ffigurau presenoldeb isel, incwm teledu cymharol wael ac mae'n ceisio cystadlu â Ffrainc a Lloegr am y chwaraewyr gorau yng Nghymru. A yw'r rhanbarthau yn y lleoedd cywir? Mae'r Gleision, y Gweilch a'r Dreigiau yn y tair canolfan poblogaeth fwyaf, tra bo'r Scarlets yn cwmpasu canolbarth a gorllewin Cymru ac yn ddamcaniaethol, gogledd Cymru. Ble arall y gallech eu rhoi?
Mae'r Alban wedi crebachu i ddau dîm. Gallai fod gennym dîm gorllewin Cymru a thîm dwyrain Cymru. Yr hyn y mae rygbi rhanbarthol wedi dysgu i ni yw nad yw uno dau dîm yn cynhyrchu ffigurau presenoldeb sydd unrhyw beth yn debyg i gyfanswm y timau sy'n cael eu huno. Caiff ei ystyried yn gymryd meddiant gan gefnogwyr un o'r timau ac maent yn dod o hyd i rywbeth arall i'w wneud ar y penwythnos yn hytrach na gwylio rygbi byw.
Yn draddodiadol, yr hyn a fyddai wedi digwydd fyddai adeiladu stadiwm newydd, arwyneb chwarae newydd, a byddai popeth yn wych—'Fe gawn ragor o bobl yno.' Wel, mae gan y Gweilch a'r Scarlets stadia cymharol newydd ac mae ganddynt arwynebau chwarae da. Yr unig ffordd ar hyn o bryd o gynhyrchu mwy o incwm yn rygbi Cymru yw chwarae mwy o gemau rhyngwladol. Dyna pam rydym wedi chwarae'r bedwaredd gêm ryngwladol yn yr hydref pan fo pawb arall ond yn chwarae tair. Mae angen yr arian arnom.
Yr ail broblem gyda rygbi Cymru, yn gyntaf, yw cyn lleied o dimau o dan yr adran gyntaf sydd ag ail dîm. A oes unrhyw glwb o dan yr adran gyntaf yn meddu ar drydydd tîm? A nifer y chwaraewyr sy'n rhoi'r gorau i chwarae rhwng 16 a 19—. Mae'r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud yn gyfyngedig. Yr hyn y gallwn ei wneud yw mynd allan a chefnogi ein timau lleol. Ddydd Sadwrn diwethaf, bûm yn gwylio'r Glais yn chwarae yn erbyn Penlan gyda 52 o bobl eraill—o bosibl y ddau dîm gwaethaf sy'n chwarae rygbi yng Nghymru. Dechreuodd y Glais y gêm gyda -9 o bwyntiau; maent i fyny i -5 yn awr. A dechreuodd Penlan â -1. Ond mae angen inni gael pobl allan yno'n gwylio rygbi. Mae angen i Undeb Rygbi Cymru ac eraill, gan ein cynnwys ni, gyfleu'r pwynt nad gemau rhyngwladol yw rygbi, nid ennill y Gamp Lawn, nid gemau rhyngwladol yr hydref—ond y gemau a chwaraeir bob dydd Sadwrn. Mae pêl-droed wedi cyfleu hynny i bobl. Mae pobl yn mynd i wylio pêl-droed bob dydd Sadwrn; nid yw pobl yn gwneud hynny gyda rygbi. Ac yn anarferol, mae Dai Lloyd yn ddeiliad tocyn tymor y Gweilch—mae llawer iawn mwy o ddeiliaid tocynnau tymor gan glwb pêl-droed Abertawe.
A gaf fi orffen ar y pwynt hwn? Rhaid i ni ddatgan beth ydym: rwy'n ddeiliad tocyn tymor yn Nhreforys ac ym Môn-y-maen.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Dwi’n mynd i siarad am rygbi fel gêm Cymru gyfan, a chan bod pawb arall wedi gwneud, mi wnaf innau ddatgan cyfres o fuddiannau hefyd. Fel un sydd yn mynd i siarad am rygbi fel gêm Cymru gyfan, mi wnaf i ddatgan fy mod i wedi fy ngeni yng Nghymoedd y de ac wedi fy magu yn sir Feirionnydd ac yn Ynys Môn. Mi wnaf i ddatgan fy mod i’n hyfforddwr ieuenctid a gwirfoddolwr yng Nghlwb Rygbi Llangefni. Mi wnaf i ddatgan hefyd fy mod i’n flaenasgellwr i rygbi'r Cynulliad yn ffres o’n buddugoliaethau ni dros Dŷ’r Cyffredin a’r Arglwyddi a thros Senedd yr Alban.
Ydy, mae rygbi’n gêm sy’n treiddio i bob cymuned yng Nghymru, yn cynnwys y gymuned hon, ein cymuned seneddol ni. A dwi’n mynd i gymryd swipe at Dai Lloyd fan hyn, dwi’n meddwl—weithiau, rydyn ni’n gallu bod yn euog o greu muriau ffug mewn chwaraeon yng Nghymru. Dwi ddim yn un sy’n licio cwestiynu pa un ydy ein camp genedlaethol ni; dwi’n digwydd bod yn gefnogwr mawr o rygbi ac yn gefnogwr mawr o bêl-droed. Mi oeddwn i wedi cyffroi cymaint o weld Cymru’n curo Slofacia ddydd Sul diwethaf ar ddechrau’n hymgyrch Ewropeaidd ag yr oeddwn i o weld Cymru’n ennill y Gamp Lawn eleni.
Dwi hefyd yn meddwl ein bod ni’n euog o barhau â’r canfyddiad yma, rywsut, fod rygbi, er yn cael ei gweld fel gêm genedlaethol ar un llaw, yn cael ei gweld, o bosib, fel gêm sydd ddim mor berthnasol i’r gogledd. Wel, gallaf i ddweud wrthych chi fy mod i wedi cael bywyd rygbi cyflawn iawn fel gogleddwr. Mae gennym ni sêr yr ydyn ni’n falch iawn ohonyn nhw—yn George North yn chwarae i Gymru ar hyn o bryd, yn Robin McBryde yn rhan allweddol o’r tîm hyfforddi. Dwi’n cofio Stuart Roy o’m hysgol i yn mynd ymlaen ac ennill cap rhyngwladol, ac Iwan Jones hefyd. Dŷn ni’n cyffroi yn gweld Rhun Williams ac ati yn chwarae’n rhagorol fel cefnwr. Mi fues i fel plentyn yn chwarae i Borthaethwy ac i Fangor a chyrraedd final Cwpan Gwynedd efo Ysgol David Hughes. Yn wahanol i Dai, dwi’n gwybod pam na wnaeth y dewiswyr fy newis i, achos doeddwn i ddim yn dda iawn—[Chwerthin.] Ond mi oeddwn i’n mwynhau chwarae rygbi.
Yn ein clwb ni yn Llangefni, mae gennym ninnau dimau dan chwech, saith, wyth, naw a 10, reit drwodd i 15, a thîm ieuenctid a phrif dîm ac ail dîm. Dŷn ni’n chwarae ar draws y gogledd, o Bwllheli i Flaenau Ffestiniog, Caernarfon, Bangor, Bethesda, Bae Colwyn, Llandudno, Rhyl, Dinbych, yr Wyddgrug, Shotton, Wrecsam—hynny ydy, mae’n gêm sydd yn treiddio ar draws y gogledd i gyd.
Gadewch inni gofio mai rhan o’r cynllun yma a greodd cymaint o anghytuno, cymaint o ffraeo ychydig wythnosau nôl, oedd i ddod â rygbi proffesiynol i’r gogledd. Dydw i ddim yn mynd i gael fy nhynnu i mewn i ddadl ynglŷn ag a ddylid uno neu gael gwared ar y Gweilch neu’r Scarlets neu unrhyw dîm arall. Yn fy ardal i, mae yna lawer iawn—. Buaswn i’n dweud bod yna fwy o grysau Gweilch nag sydd yna o Scarlets, yn digwydd bod, yn fy ardal i, ond mae beth ddywedodd Mike Hedges yn dweud y cyfan, onid ydy, mewn difrif?
Yn ddamcaniaethol, y Scarlets yw'r rhanbarth sy'n cynnwys y gogledd.
So, dydy o ddim yn ddigon da. A thra dwi’n sylweddoli bod yna gyfyngiadau ariannol ar ein gêm ni yng Nghymru, yn sicr o gymharu â Lloegr a chymharu â Ffrainc, er enghraifft, os ydyn ni o ddifri ynglŷn â throi’r gêm yn gêm genedlaethol, mae’n rhaid inni ei throi hi’n gêm broffesiynol yn genedlaethol hefyd. Ac mae ymateb y gogledd i gemau dan 20 Cymru, yn sicr, ym Mae Colwyn yn brawf o’r archwaeth sydd yna i weld rygbi ar y lefel uchaf yn y gogledd. Llyr.
Diolch am ganiatáu i mi wneud sylw byr. Dwi yn meddwl ei bod hi'n werth atgoffa pobl hefyd fod rygbi yn wastad wedi bod yn gêm genedlaethol, oherwydd i'r rhai, efallai, sydd ddim yn gwybod, mi oedd clwb rygbi Bangor yn un o sylfaenwyr beth sydd nawr yn Undeb Rygbi Cymru nôl yn 1881—yn un o'r 11 clwb. Felly, mae gogledd Cymru erioed wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw mewn rygbi cenedlaethol yng Nghymru.
Ydy, mae hynny'n hollol wir ac mae'r plac yn dal i fyny ar y wal yng nghlwb rygbi Bangor yn nodi hynny.
Ychydig dros 10 mlynedd yn ôl, mi wnaeth Undeb Rygbi Cymru gam gwag â rygbi yn y gogledd. Dwi'n gwybod oherwydd roeddwn i'n gefnogwr mawr o glwb Llangefni ar y pryd, a wnaeth ennill dyrchafiad i ail adran genedlaethol Cymru. Penderfyniad yr undeb rygbi oedd nid i'w dyrchafu nhw ond i'w gostwng nhw lawr i adran pedwar newydd y gogledd. Wel, mi wnaeth hynny gael impact mawr ar rygbi, yn sicr yn Llangefni, lle y gwnaeth lawer benderfynu stopio â chwarae rygbi a cholli rhywfaint o'u cariad tuag at y gêm. Dŷn ni wedi symud ymhell o hynny. Mi wnaeth yr undeb rygbi ymateb yn gadarnhaol i'r backlash bryd hynny, mi sefydlwyd rygbi'r gogledd, a rŵan dŷn ni mewn sefyllfa lle dŷn ni'n edrych ymlaen at fynd i'r cam nesaf.
Dwi wrth fy modd yn gweld y bechgyn ifanc dwi'n eu hyfforddi yn cael eu dewis i dimau ieuenctid rygbi'r gogledd rŵan. Mi oedd yna ddwsin ohonyn nhw bron, dwi'n meddwl, yn chwarae mewn gemau yn gynharach yr wythnos yma. Mi fyddai cael tîm proffesiynol yn creu'r eilunod iddyn nhw o fewn eu rhanbarth eu hunain, a dwi'n edrych ymlaen at weld y drafodaeth yma'n parhau, a gobeithio mai ei diwedd hi fydd dod â rygbi proffesiynol i'r gogledd, gan dynnu dim oddi wrth y timau proffesiynol rhagorol sydd gennym ni yn y de.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl sydd yn gwneud lles i'r Cynulliad, oherwydd mae hi'n dangos ein bod ni'n gallu trafod cynnig sydd wedi cael ei arwyddo gan bob plaid, a hefyd mi fydd yna bleidlais rydd, ac eithrio y bydd aelodau'r Llywodraeth yn ymatal—nid oherwydd ein bod ni'n anghytuno o angenrheidrwydd â dim byd yn y cynnig fel y mae o wedi cael ei gyflwyno, ond nad ydyn ni ddim yn teimlo ei bod hi'n briodol i alw ar y Llywodraeth i gydweithredu ag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â datblygu clybiau a phartneriaethau rhanbarthol heb ein bod ni'n glir iawn yn deall beth y mae'r cynnig yna yn ei olygu. Oherwydd, fel y gwnes i geisio esbonio yn gwbl glir bythefnos yn ôl, pan oeddwn i'n ceisio ateb y cwestiynau am y tro cyntaf gan Andrew R.T. Davies, gan Dai Lloyd, Mike Hedges—a dwi'n diolch hefyd i Rhun ap Iorwerth am ei gyfraniad heddiw a chyfraniad pob un ohonoch chi i'r ddadl—dwi ddim yn credu bod modd i Lywodraeth ddweud wrth gorff annibynnol ei gyfansoddiad, gwirfoddol ei natur a diwylliannol allweddol ei safiad, sut y dylai'r corff yna ymddwyn.
Dwi am wneud cymhariaeth efallai annisgwyl i rai ohonoch chi. Dwi'n cofio bod ar yr ochr arall i'r drafodaeth ynglŷn â'r berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, flynyddoedd yn ôl. Er fy mod i'n gweld ei bod hi'n bwysig bod Llywodraeth yn gallu buddsoddi mewn datblygiadau, yn enwedig datblygiadau seilwaith i gefnogi diwylliant, dwi ddim yn credu mai rôl Llywodraeth ydy buddsoddi'n uniongyrchol neu geisio cydweithredu yn uniongyrchol gyda thîm rygbi cenedlaethol, tîm rygbi lleol, neu, yn wir, gyda gwyliau diwylliannol fel sydd gyda ni ar draws Cymru.
Mae yna bwyslais cryf wedi cael ei wneud bod rygbi yn gêm genedlaethol yng Nghymru, ond mae'r newidiadau dŷn ni wedi eu gweld yn y gêm yn tyfu allan o'i thwf hi fel gêm fyd-eang, a rhan bwysig o hynny oedd, yn fy marn i, fod saith bob ochr wedi dod yn rhan o'r Gemau Olympaidd, gan greu diddordeb traddodiadol mewn gwledydd sydd ddim wedi chwarae'r gêm yn y gorffennol, ac mae'r ffaith ein bod ni'n cyrraedd y sefyllfa lle mae yna 20 o wledydd yn cystadlu yng nghwpan y byd yn dangos fel y mae rygbi rhyngwladol wedi tyfu. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn her i gymdeithasau sydd wedi arfer dilyn rygbi a chynnal rygbi yn draddodiadol, ond hefyd i weinyddiaeth broffesiynol rygbi ac i'r penderfyniadau y mae'n rhaid eu gwneud yn dilyn y newidiadau yma.
Mae llwyddiannau Cymru ym mhencampwriaeth y pum gwlad, ym mhencampwriaeth y chwe gwlad o'r 2000au ymlaen, ennill pum pencampwriaeth, pedair gamp lawn a'r cwpan rygbi saith bob ochr, mae'r enillion yma i gyd, a'n gallu ni i ddenu hyfforddwyr deallus o safon fyd-eang, fel Warren Gatland, wrth reswm—mae hyn i gyd yn dangos llwyddiant y gêm, fel y mae datblygiad tîm y menywod a'r llwyddiant a gawson nhw ym mhencampwriaeth y chwe gwlad gyda buddugoliaeth wych yn erbyn Iwerddon.
Mae hyn i gyd yn dangos y modd y mae rygbi'n ganolog i'n diwylliant ni. Ond nid dyna ydy'r ddadl. Fe wnaethon ni ddangos ein safiad fel Cynulliad ac fel Senedd ac fel Llywodraeth yn glir iawn yn yr adeilad yma yr wythnos diwethaf, lle dŷn ni yn gallu dathlu llwyddiant y tîm cenedlaethol. Mae ein cefnogaeth ni a'n cymorth ni i rygbi yn hydreiddio drwy'r holl ddarpariaeth. Dŷn ni yn gefnogol i ddatblygu bob math o rygbi ar lefelau lleol. Er enghraifft, roeddwn i, yr wythnos diwethaf, yn y gystadleuaeth arbennig sy'n cael ei threfnu gan Undeb Rygbi Cymru gydag ysgolion â disgyblion gydag anableddau dysgu. Roedd yna 300 o bobl ifanc o dan arweiniad a threfn Chwaraeon Caerffili yn cymryd rhan yn yr ŵyl rygbi honno. Fe ges i gyfle hefyd i fod yn lansiad yn ddiweddar—o fewn yr wythnos diwethaf hefyd—y gystadleuaeth rygbi saith bob ochr lle mae'r undeb rygbi yn cydweithio â'r Urdd.
Mae'r cyllid dŷn ni'n ei roi drwy Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â nhw, o dros £850,000 bob blwyddyn i Undeb Rygbi Cymru yn arwydd o'r gefnogaeth dŷn ni yn ei rhoi. Ac mae hyn yn cael ymateb. Roeddwn i'n falch iawn o weld y disgrifiad clir a gawson ni gan Rhun ap Iorwerth o rygbi fel gêm genedlaethol, a gêm sydd yn cael ei chwarae ar bob lefel yn gymunedol. Mae'r ffigurau yn dangos hynny. Mae 41 y cant, yn ôl arolwg chwaraeon ysgol Chwaraeon Cymru, wedi chwarae rygbi o leiaf unwaith mewn unrhyw leoliad yn ystod y flwyddyn diwethaf. Mae hyn yn gynnydd o 8 y cant dros y tair blynedd ers yr arolwg diwethaf. Mae cynllun Hub clybiau rygbi ysgol Undeb Rygbi Cymru yn tyfu—89 o ysgolion yn cymryd rhan yn y cynllun a channoedd, felly, o fechgyn a merched yn chwarae yn rheolaidd. Felly, yn y cyd-destun yna dŷn ni yn gweld ymgais gan Undeb Rygbi Cymru i ailosod y rhanbarthau.
Rŵan, dwi ddim am wneud unrhyw sylw ynglŷn â'r digwyddiadau yna. Mae unrhyw sylw dwi wedi'i wneud wedi cael ei wneud yn breifat, a dwi ddim yn bwriadu eu gwneud nhw fel Gweinidog yn fwy nag y gwnes i nhw bythefnos yn ôl. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd diddordeb proffesiynol, fel y dylen ni ei wneud fel Llywodraeth, drwy ein swyddogion, drwy ein trafodaethau anffurfiol, yn beth mae'r undeb rygbi wedi bod yn ceisio ei wneud. Ond dydyn ni ddim am ddod i sefyllfa lle dŷn ni'n dweud wrth yr undeb rygbi—yn fwy na fuasen ni'n dweud wrth unrhyw gorff arall—sut mae trefnu eu gweithgareddau nhw. Felly, dwi'n gobeithio bod y sylwadau yna yn dangos yn glir fod gyda ni ddealltwriaeth o rôl Llywodraeth mewn perthynas â datblygiad rygbi, ond nad ydy hyn ddim yn golygu ein bod ni'n ceisio dweud wrth unrhyw un o'n cyrff chwaraeon ni, yn fwy nag wrth ein cyrff diwylliannol ni, ein bod ni'n ceisio ymyrryd yn y ffordd maen nhw'n cael eu rhedeg.
Un apêl gaf i ei wneud wrth gloi: dwi'n meddwl ei bod yn bwysig bod y drafodaeth ynglŷn â dyfodol timau rygbi Cymru a'r drefn ranbarthol yn digwydd mewn ysbryd tebyg i'r drafodaeth sydd wedi bod yma heddiw. Dwi ddim eisiau gweld, a dwi'n meddwl bod Rhun ac Andrew R.T. wedi pwysleisio hyn, a Mike Hedges, yn eu gwahanol gyfraniadau—. Dŷn ni ddim eisiau gweld atgyfodiad plwyfoldeb a negyddiaeth ranbarthol neu negyddiaeth ardal yn erbyn ardal yn y drafodaeth yma. Beth dŷn ni eisiau ei weld ydy dangos bod yr un math o ysbryd a oedd mor amlwg yng Nghaerdydd yn ein llwyddiant ni ar ddiwedd y chwe gwlad eleni yn dod â'r ysbryd yna hefyd, yn goleuo agwedd pobl ar hyd pob lefel o rygbi yng Nghymru.
Diolch. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o grynhoi gydag ychydig o sylwadau yma ar y ddadl rydym newydd ei chlywed ac yn gyntaf oll i groesawu'r ffaith bod y ddadl hon wedi ei galw a'n bod wedi cael cymaint o gyfraniadau. Rwyf fi, fel llawer o Aelodau'r Cynulliad, wedi bod mewn llawer o drafodaethau ar y llinell ystlys gyda mamau a thadau, chwaraewyr, hyfforddwyr ac eraill dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf am ddyfodol rygbi rhanbarthol, a chredaf ei fod yn gyfle da, rhaid imi ddweud, i rai o'r safbwyntiau hynny gael eu gwyntyllu yn awr yn y Senedd. A dyna a glywsom yma heddiw. Ar un pwynt, Ddirprwy Lywydd, roeddwn yn credu ei bod yn mynd i fod yn ddadl a gâi ei harwain gan y Gweilch yn llwyr, ond diolch byth cawsom ymyriadau o ogledd Cymru wedyn ac ardaloedd eraill hefyd, neu fel arall byddai wedi bod yn blwyfol yn wir, fel y dywedodd y Gweinidog.
Ond diolch i Andrew R.T. Davies am agor y ddadl. Defnyddiodd y geiriau ynglŷn â chael ateb clyfar, heini a chreadigol ar gyfer rygbi rhanbarthol. Mae hynny'n adlewyrchu rhai o'r trafodaethau a gefais heddiw gyda rhai clybiau da iawn ar lawr gwlad sydd wedi dod drwy gyfnod anodd ond wedi sicrhau sylfaen dda iddynt eu hunain: strwythur da iawn ar lefel genedlaethol gydag Undeb Rygbi Cymru, ond ansefydlogrwydd go iawn a phroblemau'n ymwneud â chynaliadwyedd ar y lefel ranbarthol. Credaf fod sylwadau'r Gweinidog i gloi am beidio â bod yn blwyfol yn hyn yn rhai y bydd angen inni wrando arnynt, sef: a allwn edrych ar beth sy'n dda ar gyfer y gêm er mwyn cefnogi'r sylfaen ranbarthol yng Nghymru, ar draws Cymru? Ond hefyd, fel y nododd llawer o'r Aelodau'n gywir, mae'r sylfaen ranbarthol honno, o'i chael yn iawn, hefyd yn hynod o effeithiol o fewn gwaith cymunedol allanol, cymorth i glybiau o fewn y rhanbarth hwnnw ac ati. Felly, mae angen inni gael hyn yn iawn.
Credaf fod y rhan fwyaf o'r Aelodau wedi dweud yn eu sylwadau eu bod yn falch o weld bod 'Project Reset' wedi'i roi o'r neilltu am y tro. Mae hyn yn rhoi cyfle inni—mae hyn yn rhoi cyfle i Undeb Rygbi Cymru, chwaraewyr proffesiynol, cymdeithasau, y chwaraewyr eu hunain, ond hefyd y cefnogwyr, rwy'n credu—gymryd rhan yn awr yn y gwaith o edrych ar beth allai'r strwythur fod yn y dyfodol. Yn y pen draw, mae'r rhain yn benderfyniadau masnachol a busnes, wrth gwrs, ar lefel ranbarthol, ond fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei sylwadau agoriadol, mae pwysigrwydd hyn, sydd wedi'i wyntyllu'n gyson yma, yn ymwneud â chario'r cefnogwyr gyda hwy. Wrth gwrs mae hynny'n cynnwys fy rhanbarth fy hun, gyda'r Gweilch, ond y rhanbarthau i gyd, ac wrth gwrs mae'n cynnwys y rhanbarthau lle mae potensial mawr hefyd, gan gynnwys yng ngogledd Cymru. Credaf fod hwn yn gyfle yn awr i gymryd saib dros dro ac edrych yn fanwl iawn ar beth sydd er budd gorau pawb yng Nghymru o ran rygbi rhanbarthol, ac mae cario'r cefnogwyr gyda chi yn hollbwysig. A chredaf mai dyna'r peth sydd wedi achosi rhywfaint o ofid i gefnogwyr, boed yn ddeiliaid dyledeb oes ym Môn-y-maen neu Fethesda neu, fel minnau, yn llywydd Clwb Rygbi Maesteg, ac ati—mae pob un ohonom yn pryderu ynglŷn â chyflymder, a natur anhrefnus mewn rhai ffyrdd, y cyhoeddiadau ddydd ar ôl dydd ynghylch 'Project Reset'. O leiaf nawr gall pethau fod yn dawel a symud ymlaen yn weddol ystyrlon.
Soniodd Dai Lloyd—deiliad tocyn tymor y Gweilch unwaith eto, ac un o selogion clwb Dynfant hefyd—yn helaeth am y rôl, fod y clwb yn gweithredu'n debyg iawn i glwb ieuenctid i bob pwrpas, fel cynifer o'n clybiau rygbi ar lawr gwlad. Soniodd am y ffaith, o ran cynlluniau i uno'r Scarlets a'r Gweilch—yn ei eiriau ef, nid oedd troi cefn ar eich rhanbarth gorau byth yn syniad clyfar. Trodd Mike at y llwyddiannau sydd yno ar hyn o bryd, ac mae gennym lawer—fel y mae eraill wedi dweud, mae ein rygbi menywod yn mynd o nerth i nerth, ac mae angen inni wneud yn siŵr nad ar lefel genedlaethol a rhanbarthol yn unig y mae hynny'n digwydd, ond hefyd ar lefel clwb—a llwyddiant rygbi iau hefyd, o ran y nifer sy'n cymryd rhan, ond o ran llwyddiant ar y cae yn ogystal. Ond fe nododd yr her sy'n ei hwynebu—y niferoedd isel sy'n gwylio rygbi rhanbarthol, yn enwedig yng Nghymru, o'i gymharu â beth sy'n digwydd yn Ffrainc a Lloegr ac Iwerddon a mannau eraill. Mae rhywbeth yn mynd o'i le o ran parodrwydd y gynulleidfa i fynychu a sefyll ar ochr y cae a chefnogi'r clybiau hyn. Mae hynny'n wahanol i fod ar y teledu. Mike, rwy'n hapus i ildio.
O'r 20 o dimau rygbi gyda'r gefnogaeth orau yn Ewrop, nid oes yr un ohonynt yng Nghymru.
Wel, wrth gwrs, ac mae rhywbeth eithaf brawychus yn hynny yn ogystal. Beth sydd wedi digwydd i hynny—ac o gymharu â phêl-droed, lle maent yn amlwg wedi ei gael yn iawn, fel y dywedodd Mike yn gynharach? Beth sydd o'i le yn ein system rygbi ranbarthol fel nad yw pobl yn mynd i wylio, sefyll ar ochr y cae, mewn stadia da gyda chyfleusterau da—ond nid ydynt yn mynd i wylio, nid ydynt yn mynd â'u teuluoedd? Felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r clybiau rhanbarthol ac Undeb Rygbi Cymru edrych arno.
Cawsom ein hatgoffa'n briodol gan Rhun, gyda hanes da ei hun, fod rygbi yn gêm i Gymru gyfan ac mae'n treiddio i ogledd Cymru, ac mae pawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon wedi cydnabod, mewn gwirionedd, mai un o'r ardaloedd gyda photensial mawr yn awr yw gogledd Cymru yn wir. Ac nid yn unig yng ngogledd-orllewin Cymru, ond gogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal, ledled yr ardal gyfan honno. Felly, credaf fod y cyfle hwn i oedi a myfyrio yn gyfle inni allu gwneud hynny heb chwalu llwyddiannau mewn mannau eraill yn y rhanbarth, ac ymgorffori cynaliadwyedd yn y gêm yno a chyflwyno llu newydd o chwaraewyr gwych ar gyfer ein tîm cenedlaethol yn ogystal. Ond pwysleisiodd hefyd, unwaith eto, fel y gwnaeth sawl un, fod y gêm ar lawr gwlad yn bwysig. Ond gan adeiladu ar lwyddiant Rygbi Gogledd Cymru, credaf y gallwn weld y llwyfan sydd yno i symud pethau yn eu blaen.
Gallaf weld nad oes amser yn weddill gennyf. Hoffwn wneud un sylw arall i'r Gweinidog, gan ddeall bod Llywodraeth Cymru—nid eu gwaith hwy yw camu i mewn yma a threfnu hyn a llunio cynllun meistr, ond mewn gwirionedd, mae cymryd diddordeb proffesiynol o'r fath a chael y trafodaethau hynny am y pwysigrwydd i'r wlad hon, ond hefyd o ran rygbi fel gêm yn fyd-eang, i frandio Cymru—.
Ac os caf fanteisio ar fy nghyfle i gloi, fy sylw terfynol yw hwn: Weinidog, os gwelwch yn dda, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddangos diddordeb mewn sicrhau bod y chwe gwlad ar gael fel darllediad agored? Mae yna bethau y gwyddom eu gwerth, eu pris, ac mae yna bethau y gwyddom beth yw eu cost. Ac os edrychwch ar stori drist bwrdd criced Lloegr yn gwerthu'r hawliau i Sky yn 2004 am arian mawr a ailfuddsoddwyd yn eu gêm, a dros 10 mlynedd disgynnodd nifer yr oedolion sy'n chwarae criced 20 y cant pan ddechreuwyd gorfod talu tanysgrifiad i'w weld. Roedd 6.6 miliwn o bobl yn gwylio darllediadau byw o gêm chwe gwlad Cymru yn erbyn Lloegr—roedd 6,580,000 o'r rheini'n ei gwylio ar y teledu. Felly, gadewch inni beidio â'i wneud yn gyfyngedig i danysgrifiad. Gadewch i ni gadw'r cyffro sy'n digwydd yn rygbi Cymru a gadewch i ni roi'r cynaliadwyedd sy'n angenrheidiol i rygbi rhanbarthol.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydych yn gwrthwynebu. Felly cawn bleidlais ar y mater hwn yn ystod y cyfnod pleidleisio.