– Senedd Cymru am 5:26 pm ar 2 Ebrill 2019.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Deddfwriaeth (Cymru), a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser mawr gen i agor y drafodaeth heddiw ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Diben y Bil yw gwneud cyfraith Cymru’n fwy hygyrch, clir a syml i’w defnyddio. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru a'i gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Ar un olwg, mae’r Bil hwn yn un technegol iawn, ac yn draddodiadol byddai Bil o’r fath yn cael ei ystyried efallai fel Bil i gyfreithwyr yn unig. Yn sicr, mae’r Bil yn cynnwys cyfres o reolau ac egwyddorion manwl ynghylch y ffordd y mae deddfwriaeth yn gweithio a sut y dylid ei dehongli. Dydy hi ddim wastad yn amlwg pam fod y rheolau hyn yn berthnasol i’r dinesydd, ond mae’r rheolau a’r Bil yn fwy cyffredinol yn bwysig. Mae sawl rheswm am hyn.
Y cyntaf yw bod angen y rheolau pan fydd problemau yn codi. Eu pwrpas yw egluro ystyr rhai agweddau penodol o ddeddfwriaeth pan fo amwyster. Trwy ddeddfu am hyn unwaith, nid oes rhaid cymhlethu Deddfau eraill gyda’r un darpariaethau dro ar ôl tro. Yn ogystal, mae’r Bil yn gosod goblygiadau ar y Llywodraeth dros yr hirdymor i wella hygyrchedd y gyfraith yma yng Nghymru. Mae hwn yn rhywbeth rydym yn bwriadu ei wneud, ymhlith pethau eraill, drwy ddatblygu codau cynhwysfawr o’r gyfraith fesul pwnc. Mae ein hamcanion yn hyn o beth yn uchelgeisiol ac yn radical. Mae’n bwysig hefyd i werthfawrogi bod y Bil yn symbol o aeddfedrwydd ein deddfwrfa ac yn rhan o weledigaeth fwy eang ar gyfer llywodraethiant y genedl. Mae hyn yn cynnwys ehangu ei chymhwysedd i ddeddfu a datblygu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig.
Hoffwn ddiolch yn fawr i’r rhanddeiliaid am eu cymorth drwy gydol y broses. Yn fwyaf diweddar am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Diolch hefyd, wrth gwrs, i’r pwyllgor hwnnw ac i’r Pwyllgor Cyllid am eu hadroddiadau cynhwysfawr. Fe fyddaf yn ysgrifennu at y ddau bwyllgor yn ymateb yn fanwl i’w hadroddiadau, ond mi fyddaf hefyd yn trafod rhai o’u hargymhellion heddiw.
Un o argymhellion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol oedd, yn ystod dadl Cyfnod 1, y dylwn i roi'r newyddion diweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol am hynt y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad hwn i weithredu'r Bil. Mae hyn yn deillio o ohebiaeth a gafwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol, yr ymatebodd Prif Weinidog Cymru iddi ym mis Ionawr. Ailadroddodd Prif Weinidog Cymru ein barn bendant bod y Bil yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol ym mhob agwedd ac mai effaith y Bil fyddai gwneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy hygyrch.
Nid yw'r pryderon a fynegwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol y gallai creu Deddf ychwanegol ynghylch y dehongliad o'r ddeddfwriaeth wneud y gyfraith yn llai yn hytrach na mwy hygyrch, yn ein barn ni, yn ystyried y ffaith y ceir Deddfau tebyg ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon. Nid ydyn nhw ychwaith yn llwyr werthfawrogi ein hawydd a'n hangen i wneud darpariaeth bwrpasol a dwyieithog ar gyfer Cymru. Nododd llythyr Prif Weinidog Cymru y byddem yn fodlon i swyddogion barhau i drafod unrhyw faterion cynhenus, ond nid ydym ni wedi cael ateb hyd yn hyn. Gofynnwyd imi hefyd gan y pwyllgor i roi esboniad clir yn ystod dadl Cyfnod 1 o'r hyn a olygir gan hygyrchedd cyfraith Cymru. Er mwyn i gyfraith Cymru fod yn hygyrch, mae angen iddi fod yn glir ac yn sicr ei heffaith, yn ogystal â bod ar gael ac yn hawdd i rywun lywio ei ffordd drwyddi. Mae angen i hyn fod yn wir nid yn unig o ran Deddfau unigol neu offerynnau statudol, ond hefyd, ar y cyd, pob rhan o'r gyfraith ar bwnc penodol a'r llyfr statud yn ei gyfanrwydd.
Mae pwysleisio 'ar y cyd' yn hanfodol. Mae deddfwriaeth fodern yng Nghymru a ledled y DU yn amlach na pheidio wedi ei drafftio'n dda ac yn gyffredinol bydd yn cynnwys mynegiant clir o'r newid yn y gyfraith dan sylw. Bydd y ddeddfwrfa yn craffu ar y deddfiad ac yn ddiweddarach bydd ar gael yn eang pan gaiff ei gyhoeddi ar-lein. Ynddo'i hun, byddai, felly, fel arfer yn gwbl hygyrch. Fodd bynnag, anaml y bydd deddfiad o'r fath yn sefyll ar ei ben ei hun, a pherthynas pob deddfiad â gweddill y llyfr statud sy'n gwneud deddfwriaeth yn anhygyrch. Y rheswm dros hyn yw bod y cysylltiadau rhwng un darn o ddeddfwriaeth a rhai eraill yn aneglur yn aml.
Mae gwneud deddfwriaeth yn hygyrch o bosib yn ymwneud yn gyntaf ag egluro cyd-destun unrhyw newid a wneir yn y gyfraith ac yna sicrhau bod pob cyfraith ar unrhyw bwnc penodol i'w gweld gyda'i gilydd. Wedi dweud hynny i gyd, mae'n gwestiwn goddrychol braidd pa un a yw'r gyfraith yn hygyrch ac nid yw ceisio diffinio'n union beth y mae'n ei olygu yn ei gwneud yn llai goddrychol. Mae'n bwysig cofio mai'r ddyletswydd yw gwneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Mae'n ymwneud ag arferion da, am wella'n barhaus, ac mewn gwirionedd ei wneud yn rhan o'n meddylfryd bob amser wrth ddatblygu cyfraith. Dyma un rheswm pam na allaf dderbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r Llywodraeth orfod, yn statudol, fynd y tu hwnt i'r ddyletswydd yn y Bil presennol ac ychwanegu dyletswydd i weithredu rhaglen hygyrchedd benodol.
Mae'r tasgau sy'n angenrheidiol i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch yn amlochrog, a gyda hynny mewn golwg, cytunaf â'r argymhelliad a wnaed y dylai mesurau anneddfwriaethol sydd â'r bwriad o hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru fod yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, nid yn rhywbeth y gall ei wneud.
Mae dau o argymhellion y pwyllgor yn ymwneud ag adrodd ar gynnydd, ac rwy'n falch o hysbysu Aelodau fy mod yn derbyn y ddau argymhelliad. Bydd hyn yn golygu y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn adrodd yn flynyddol ar gynnydd y rhaglenni i wneud y gyfraith yn fwy hygyrch. Bydd hyn yn golygu y bydd pedwar adroddiad bob tymor, yn dilyn pob rhaglen a gyflwynir, a bod yn rhaid iddo ddigwydd o fewn chwe mis ar ôl penodi Prif Weinidog Cymru ar ôl etholiad cyffredinol. Yn rhan o'r broses adrodd honno, byddwn hefyd yn adolygu effeithiolrwydd Rhan 1 y Bil hanner ffordd drwy dymor nesaf y Cynulliad.
Yn olaf, roeddwn yn falch o weld na welodd y pwyllgor unrhyw reswm dros anghytuno â'm cynnig i ailddatgan adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 sy'n ymwneud â statws cyfartal cyfreithiol y testunau Cymraeg a Saesneg a darparu ar gyfer hynny yn y Bil hwn. Gan dybio y caiff egwyddorion cyffredinol y Bil eu pasio, byddaf yn cyflwyno gwelliant yn gwneud hynny yng Nghyfnod 2, ynghyd â nodyn esboniadol drafft.
Llywydd, i orffen am y tro, hoffwn ddiolch eto i'r rhanddeiliaid, y pwyllgorau, ac i fy nghyd Aelodau am eu hagwedd bositif iawn tuag at y Bil hwn ac i'r bwriad mwy cyffredinol o fynd ati i ddatblygu llyfr statud i Gymru sydd yn fodern, yn drefnus, yn glir ac yn hygyrch. Mae'r Bil hwn yn gosod sylfaen, a dwi'n ymwybodol iawn bod gwaith caled o'n blaenau i adeiladu ar y sylfaen honno, ond mae'n bwysig i ni arwain y ffordd a gosod uchelgais ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n falch iawn bod y Pwyllgor Materion Deddfwriaethol a Chyfansoddiadol wedi argymell y dylid cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn gobeithio'n fawr y byddwch chi'n cytuno. Diolch yn fawr.
Dwi'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Wel, diolch, Llywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y dystiolaeth a'r sesiynau y bu ynddyn nhw a'r atebion manwl a oedd ganddo i'r cwestiynau amrywiol a holwyd yn ystod proses y darn pwysig iawn hwn o ddeddfwriaeth, sy'n garreg filltir ar y llwybr o ddatblygu llyfr statud i Gymru, o ddatblygu system ddeddfwriaethol i Gymru. Felly, nid yn unig bod angen mawr am y ddeddfwriaeth ond mae croeso mawr iddi hefyd.
Dechreuodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei waith o graffu ar Fil Deddfwriaeth (Cymru) fis Rhagfyr diwethaf, ac, yn ystod mis Rhagfyr a mis Ionawr, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym ni i lywio ein gwaith. Drwy gydol mis Ionawr, clywsom dystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid, ac rydym yn ddiolchgar i dîm allgymorth y Cynulliad hefyd am gyfweld â nifer o randdeiliaid ar ran y pwyllgor, a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith.
Rydym ni'n gwneud nifer o argymhellion yn ein hadroddiad, a gwnaeth y Cwnsler Cyffredinol sylw ar rai ohonyn nhw heddiw, ac rydym ni'n credu y byddant yn cryfhau'r ddeddfwriaeth a'r modd y caiff ei gweithredu. Rydym ni'n croesawu'r cynigion yn y Bil ac rydym ni'n credu y gallai o bosib gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, er y byddaf yn gwneud rhai sylwadau ar y mater o hygyrchedd maes o law. Am y rheswm hwnnw, rydym ni'n argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, sef argymhelliad 2 o'n heiddo. Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod yn rhaid i'r mesurau ychwanegol nad ydynt yn ddeddfwriaethol, megis sicrhau bod sylwadau cyfreithiol ar gyfraith Cymru ar gael ac addysgu'r cyhoedd ynghylch cyfraith Cymru, chwarae rhan ganolog wrth wella ei hygyrchedd, ac rwy'n cydnabod y cytundeb cyffredin, rwy'n credu, gan y Cwnsler Cyffredinol ar y pwyntiau hyn. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol egluro sut y byddwn yn gwneud mesurau anneddfwriaethol yn rhan ganolog o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, sef argymhelliad 4 o'n heiddo. Ac, unwaith eto, croesawaf sylwadau'r Cwnsler Cyffredinol ar hynny.
Gan droi at argymhelliad 6 o'n heiddo, fel darn o ddeddfwriaeth arloesol, bydd gwerthusiad cadarn ac amserol yn hanfodol i'w llwyddiant. Roedd argymhelliad 6 o'n heiddo yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol ymrwymo i gynnal adolygiad o'r ddeddfwriaeth hanner ffordd drwy dymor cyntaf y Cynulliad ble daw'r ddeddfwriaeth i rym—hynny yw, erbyn 2023. Gan symud ymlaen, yn gyffredinol rydym ni'n fodlon ar y ddarpariaeth yn rhan 1 y Bil ynghylch hygyrchedd cyfraith Cymru. Fodd bynnag, rydym ni'n cytuno â'r safbwyntiau a fynegwyd gan rai rhanddeiliaid fod angen naratif cliriach ynghylch ystyr 'hygyrchedd Cyfraith Cymru'. Credwn y bydd hyn yn hanfodol o ran hwyluso gwerthusiad cadarn a thryloyw o lwyddiant Rhan 1 o'r Bil. O'r herwydd, roedd argymhelliad 7 o'n heiddo yn dweud y dylai'r Cwnsler Cyffredinol, yn ystod y ddadl hon yng Nghyfnod 1, roi esboniad cliriach o'r hyn a olygir gan 'hygyrchedd cyfraith Cymru', a chroesawaf y sylwadau gan y Cwnsler Cyffredinol ar hynny, sy'n cyfeirio at faterion eglurder ac argaeledd, gan gydnabod hefyd bod agwedd ehangach ar fater hygyrchedd sydd angen ei datblygu. Yn sicr, yn y pwyllgor, rwy'n credu mai ein hystyriaeth oedd hygyrchedd mewn cysyniad ychydig yn ehangach—hynny yw, nid yn unig eglurder ac argaeledd y gyfraith, ond hygyrchedd mewn termau ymarferol gwirioneddol i ddinasyddion Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb—rwy'n crwydro braidd nawr—o ran y sylwadau a wnaethpwyd gan yr Arglwydd Simon ym 1949 yn ystod y Bil Cymorth a Chyngor Cyfreithiol. Gwnaed rhai sylwadau cadarnhaol iawn ar y pryd ynghylch beth oedd diben hygyrchedd, a dyma ddarllen un adran yma, lle y dywedodd:
Yn olaf, fe ddywedaf yr hyn yr wyf yn ei deimlo fwyaf—os ydym yn anelu at wir ddemocratiaeth yn y wlad hon, nid yw'n ddigon i frolio am iaith y Magna Carta; nid yw'n ddigon i ddweud bod ein Barnwyr yn ddiduedd; nid yw'n ddigon i ddweud y gall pobl ymddiried y caiff cyfraith Prydain ei gweinyddu yn deg. Os ydym ni eisiau gwneud y wlad hon yn ddemocratiaeth go iawn mae'n rhaid inni fynd ati i sicrhau bod yr egwyddorion hyn o gyfiawnder, diogelu ac unioni ar gael i bawb yn ddiwahan, ac nad yw hynny'n dibynnu ar ba un a ydynt yn bersonol yn gallu ei fforddio.
Credaf y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cydnabod bod pryder ehangach ynghylch hygyrchedd cyfraith, sy'n rhywbeth rwy'n siŵr y bydd yn ymdrin ag ef, a bydd rhaid i ni, y ddeddfwrfa, gyda'n cyfreithiau ein hunain a'n system gyfreithiol ein hunain, o ran hygyrchedd gwirioneddol y gyfraith—bydd rhaid i ni ymdrin â grymuso dinasyddion, sy'n ymddangos i mi yn rhan hanfodol o hynny.
Gan droi'n ôl at fy sgript, hoffwn droi at argymhelliad 8 o'n heiddo. O dan adran 2(1), bydd hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol baratoi rhaglen hygyrchedd. Rydym ni wedi argymell y dylen nhw hefyd fod o dan ddyletswydd i weithredu rhaglen o'r fath i sicrhau y caiff ei chyflawni. Rydym ni hefyd wedi argymell y dylid diwygio'r Bil fel y dylid cynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru yn ddyletswydd o dan adran 2(3), yn hytrach na bod yn ôl disgresiwn o dan adran 2(4), a dyna yw argymhelliad 9 o'n heiddo.
Mae argymhelliad 10 o'n heiddo yn nodi y dylid diwygio adran 2(7) o'r Bil fel ei bod hi'n ofynnol i'r Cwnsler Cyffredinol adrodd i'r Cynulliad Cenedlaethol yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o dan raglen hygyrchedd. Credwn y byddai hyn yn rhoi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol nid yn unig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am weithgareddau arfaethedig, sy'n mynd rhagddynt yn dda, ond hefyd am y rhai hynny nad ydynt wedi neu na fyddant yn cael eu dwyn ymlaen, ac, yn dilyn cyflwyno adroddiad o'r fath, rydym yn rhagweld y byddem yn gwahodd y Cwnsler Cyffredinol i ddod i gyfarfod y pwyllgor pryd gellid ystyried a chraffu ar yr adroddiad. Ac rwy'n falch bod y Cwnsler Cyffredinol wedi derbyn prif fyrdwn yr argymhellion hyn: y pedwar adroddiad bob tymor ac adolygu effeithiolrwydd. Felly, mae croeso mawr i hynny. Byddai'r gwelliannau yr ydym ni'n eu hargymell i adran 2 y Bil, yn ein barn ni, yn sicrhau na fydd y camau beiddgar a gymerwyd gan y Llywodraeth bresennol tuag at gyflawni llyfr statud fwy hygyrch i Gymru, mewn unrhyw ffordd, yn cael eu lleihau yn y dyfodol.
Gan droi yn awr at gydgrynhoi a chyfundrefnu, mae croeso i gynlluniau'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer cydgrynhoi deddfau Cymru. Rydym yn cytuno y bydd deddfwriaeth sydd wedi'i chydgrynhoi nid yn unig yn helpu pobl Cymru i ddeall cyfraith Cymru, bydd hefyd yn helpu'r rhai sy'n trin y gyfraith. Fodd bynnag, credwn fod angen mynd i'r afael â'r ansicrwydd sy'n bodoli o ran cyfundrefnu. Rydym yn argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol gyhoeddi datganiad yn egluro ei gynigion a'i fwriadau o ran cyfundrefnu Cyfraith Cymru.
Gan symud ymlaen i ran 2 y Bil, yn gyffredinol rydym yn fodlon ar y darpariaethau yn rhan 2 y Bil ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, yn amodol ar ein pryderon a fynegir isod. Rydym yn credu bod y Bil wedi ei lunio'n briodol i'w ddiben. Serch hynny, oherwydd y perygl o greu dryswch, credwn y byddai'n fuddiol i werthuso effaith rhan 2 o'r Bil. Dylai'r gwerthusiad hwn fod yn rhan allweddol o'r adolygiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ymrwymo i'w gynnal. Ac, yn olaf, hoffwn gyfeirio'n fyr at ein casgliadau sy'n ymwneud â sut efallai y bydd y Bil yn cynnig cyfle i wneud darpariaeth ynghylch dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Daethom i'r casgliad y dylai llysoedd fod yn gyfrifol am ddehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud wrthym ei fod yn ffafrio ailddatgan y ddarpariaeth o statws cyfartal yn adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn y Bil hwn, ac ni welwn ni unrhyw reswm inni anghytuno â'r dull hwn. Fodd bynnag, rydym yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddarparu rhagor o fanylion ac eglurder ynghylch ei gynnig i ailddatgan y ddarpariaeth honno. Rwy'n ddiolchgar am y sylwadau o ran y gwelliant arfaethedig, ond, o ran y geiriadur termau deddfwriaethol newydd a'r defnydd o'r Gymraeg o fewn hynny, credaf fod hynny'n arloesol; mae'n nodi cynnydd y sefydliad hwn fel deddfwrfa. Ac mae'r ddeddfwriaeth hon yn gwneud cyfraniad sylweddol iawn ac mae'n garreg filltir bwysig iawn yn y cynnydd hwnnw. Diolch, Llywydd.
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma i amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol y Bil. Rŷn ni wedi gwneud pedwar argymhelliad, a dwi'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y rhain wrth i’r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen.
Fe drafododd y pwyllgor y Bil hwn nôl ym mis Ionawr, a, bryd hynny, o ystyried, wrth gwrs, yr ansicrwydd ynghylch Brexit, roedd gennym ni bryderon ynghylch amseriad y Bil, oherwydd y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio llawer o’i hadnoddau wrth fynd i’r afael â Brexit. Mae’r pryder hwn yn parhau, wrth gwrs, gan fod y dyddiad cau i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi’i ymestyn. Fodd bynnag, rŷn ni yn cefnogi nod y Bil o wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, yn fwy eglur ac yn fwy hylaw.
Rŷn ni'n deall bod y Bil wedi’i ddatblygu yn sgil nifer o ymchwiliadau, gan gynnwys adroddiad blaenorol y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef 'Deddfu yng Nghymru', ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith, sef 'Ffurf a Hygyrchedd y Gyfraith sy’n Gymwys yng Nghymru', a oedd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn arddel polisi o gydgrynhoi a chodeiddio’r gyfraith yng Nghymru. Fodd bynnag, rŷn ni yn pryderu bod adnoddau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn cael eu hymrwymo i’r Bil hwn ar adeg pan fydd angen adnoddau sylweddol i ymdrin â goblygiadau Brexit. Wedi dweud hynny, rŷn ni yn cydnabod y bydd gweithredu’r Bil hwn yn fuddiol iawn wrth ystyried unrhyw newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgil Brexit. Awgrymodd adroddiad Comisiwn y Gyfraith y gellid cynhyrchu buddion gwerth £23.75 miliwn yn flynyddol. Byddai hyn yn deillio o arbedion gwerth dros £23.56 miliwn oherwydd y byddai ymarferwyr cyfreithiol yn gorfod treulio llai o amser yn gwneud gwaith ymchwil, ac mi fyddai arbedion amser gwerth £190,000 yn sgil cynyddu capasiti’r gymdeithas sifil nad yw’n rhan o’r proffesiwn cyfreithiol i gael mynediad at y gyfraith. Eto, er gwaethaf y buddion sylweddol a awgrymwyd, wnaeth Llywodraeth Cymru ddim cadarnhau’r dadansoddiad hwn, ac ni chafodd ei ddefnyddio fel rhan o ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o’r buddion yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Fe wnaethon ni glywed gan y Cwnsler Cyffredinol, er bod yr asesiad effaith gan Gomisiwn y Gyfraith yn cael ei ddefnyddio fel man cychwyn, mai’r prif gymhelliant ar gyfer y Bil hwn yw gwella cyfiawnder cymdeithasol drwy sicrhau y gall y cyhoedd gael mynediad rhwyddach at gyfraith Cymru. Rŷn ni'n derbyn nad arbedion cost yw’r prif reswm dros gyflwyno’r Bil. Fodd bynnag, mae arbedion effeithlonrwydd yn y system gyfreithiol yn cael eu nodi’n benodol fel un o’r buddion ac fel un o’r rhesymau dros gyflwyno’r Bil. Felly, mae'r argymhelliad cyntaf yn ein hadroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith i ddadansoddi a chostio’r arbedion effeithlonrwydd yn y Bil, a’i bod yn cynnwys y wybodaeth hon mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.
Roedd y pwyllgor yn falch o weld bod y Bil yn cynnwys mecanweithiau adolygu i sicrhau bod amcanion y ddeddfwriaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r disgwyliadau. Rŷn ni wedi argymell y dylid ystyried goblygiadau cyflawni amcanion y Bil o ran adnoddau a chyllid i sicrhau gwerth am arian.
Mae’r costau mwyaf sylweddol sy’n gysylltiedig â’r Bil yn ymwneud â Rhan 1, sy’n gwneud darpariaeth i hyrwyddo hygyrchedd y cyfreithiau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru yn eu gwneud neu’n gallu eu gwneud. Mae hyn yn cynnwys costau staff parhaus y cwnsleriaid deddfwriaethol a’r gwasanaethau cyfieithu sydd eu hangen i gyflawni’r rhaglen hygyrchedd, sef £588,000 y flwyddyn a bron i £3 miliwn dros bum mlynedd. Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cydnabod y bydd y gwaith hwn yn effeithio ar staff polisi eraill a chyfreithwyr yn Llywodraeth Cymru ac efallai y bydd costau i’r sector preifat o ran deall y gyfraith newydd, ac eto nid yw’r costau hyn wedi’u nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, rŷn ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth ychwanegol am y goblygiadau ariannol o ran staff Llywodraeth Cymru a’r costau i gyrff eraill yn y sector preifat yn ei hasesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.
Yn olaf, Llywydd, dim ond £5,000 sydd wedi’i nodi ar gyfer costau pontio i roi arweiniad i weithwyr proffesiynol ar effaith y Bil. Rŷn ni'n pryderu nad oes unrhyw weithgareddau eraill wedi’u nodi ar gyfer codi ymwybyddiaeth, a byddem wedi disgwyl y byddai’n rhaid cynnal rhagor o weithgareddau i ymgysylltu â’r cyhoedd i sicrhau’r buddion y mae Llywodraeth Cymru yn eu disgwyl. Credwn fod hyn yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo cymorth cyfreithiol yn cael ei dorri ac efallai y bydd rhagor o alw am fynediad at gyfreithiau Cymru gan y cyhoedd. Ein hargymhelliad terfynol, felly, yw y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu gwybodaeth bellach am y ffordd y mae’n bwriadu codi ymwybyddiaeth o’r Bil, o’i ddeddfu. Diolch.
Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol a'i staff am y Bil drafft, a hefyd i fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol? Rwy'n credu bod hwn wedi bod yn un o'r achlysuron hynny pan fo rhan ohonof yn dal yn dymuno fod gennyf ran o hyd mewn astudiaethau cyfreithiol a bod fy ymennydd yn dal yn ymdroi yn y byd hwnnw, oherwydd, fel pob un ohonom, rwy'n tybio, rwyf eisiau i'r gyfraith fod yn fwy hygyrch, ond pan rwyf yn ystyried beth mewn gwirionedd yw ystyr hynny, nid wyf yn siŵr fy mod i'n gwybod beth mae'n ei olygu. Rwy'n cymryd rhywfaint o gysur o'r ffaith ei bod hi'n ymddangos bod gwahaniaeth barn rhwng Aelodau eraill o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a hyd yn oed y Cwnsler Cyffredinol y tro hwn. Oherwydd byddwn ni'n cefnogi'r hyn a gredwn ni yw egwyddorion cyffredinol y Bil hwn ar hyn o bryd, rydym ni eisiau rhoi cyfle i'r Cwnsler Cyffredinol ystyried sut y gellid newid y Bil drafft yn ystod ei hynt. Efallai bod cyfle yma i grisialu neu grynhoi beth yw eich dehongliad chi, Cwnsler Cyffredinol, o 'hygyrchedd'. Dyma ddiben craidd y statud hon, wedi'r cyfan.
Fodd bynnag, efallai y bydd Aelodau yn gwybod, clywsom dystiolaeth gan ymarferwyr ac academyddion a gynigiodd, fel y gwnaf fi a'm cyd-Aelodau, y syniad o greu llyfr statud i Gymru sy'n gweithio'n effeithlon—rhyw fath o siop un stop, os mynnwch chi. Ond nid oedd y dystiolaeth honno yn gyson, ac nid wyf yn credu bod yn rhaid inni fynd yn ôl 70 mlynedd, Mick, i sylwi ar y broblem honno. Gadewch i ni gymryd, er enghraifft, y cysyniad o gyfundrefnu yn gartref i'r siop-un-stop hon, ac rwy'n gwahodd Aelodau i ystyried beth y gallai hynny ei olygu. Mae'r memorandwm esboniadol—ac rwy'n credu y cafodd ei atgyfnerthu gennych chi heddiw, Cwnsler Cyffredinol—yn awgrymu bod cyfundrefnu yn broses sy'n dilyn cyfnod o gydgrynhoi deddfau presennol sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad, sy'n casglu hynny a chyfraith anghyfunol i mewn i fframwaith sy'n gallu ymdopi dros amser â diwygiadau a chyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd newydd, yn ogystal ag arweiniad mewn maes pwnc penodol.
Nid dyna oedd e'n ei olygu i rai o'n tystion. Yn wir, nid oedd yr Athro Thomas Watkin, yr ydym wedi dibynnu ar ei arsylwadau ar sawl achlysur yn y sefydliad hwn, yn siŵr beth oedd pen draw hyn. Roedd un tyst, a oedd yn siarad o safbwynt ymarferydd, yn meddwl amdani fel Deddf god, statud sylfaenol y bydd popeth arall yn llifo ohoni, deddfau presennol yn ffurfio penodau oddi tani, wedi eu cyfyngu drwy ddiwygio'r Rheolau Sefydlog. Felly, er y bydd camau eraill anneddfwriaethol i helpu ein hetholwyr ganfod a deall cyfreithiau presennol yng Nghymru—cyfeiriwyd at hyn yn rhai o'r argymhellion—rwy'n credu yr hoffwn i weld rhywfaint mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei olygu pan ddywed 'cyfundrefnu', hyd yn oed os yw hynny'n golygu bod yn eglur ynglŷn â'r hyn nad ydyw, oherwydd er y dylai holl ddeddfwyr ymdrechu i wneud eu cyfreithiau yn gyfiawn, y gofyniad cyntaf yw rhoi sicrwydd. Rwy'n tynnu sylw Aelodau yn arbennig at argymhellion 7 ac 11 o adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i bwysleisio'r pwynt hwnnw.
Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym ni cyn cyfundrefnu mewn maes pwnc penodol, y dylai'r Llywodraeth gydgrynhoi deddfau presennol lle bynnag y bo hynny'n bosib, ac rwyf i ynghyd ag Aelodau eraill, wedi cwestiynnu, i ddweud y gwir, pam ein bod ni wedi colli cyfleoedd i wneud hyn gyda Biliau blaenorol y Cynulliad. Credaf y byddai hynny wedi rhoi cyfle inni brofi dulliau o oresgyn tair her ymarferol sy'n gynhenid i'r broses o gydgrynhoi. Y cyntaf o'r rheini, ac mae'n gyntaf cadarnhaol iawn, yw'r cyfle i ddefnyddio'r broses o ailddatgan y gyfraith i'w hail-greu yn gyfraith ddwyieithog. Pan fo'n ailddatgan gair am air gwirioneddol, fodd bynnag, a ydym ni'n sôn am gyfieithu'r gyfraith bresennol neu wneud cyfraith ddwyieithog newydd? Oherwydd, fel gobeithiaf bydd eraill yn sôn, byddem wedyn yn wynebu mater o ba un o'r Deddfau dehongli a ydym ni wedyn yn ei chymhwyso at hyn—pa un ai Deddf 1978, neu ran dehongli'r Ddeddf hon.
Yn ail, nid yw pob cyfraith bresennol o fewn ein cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei gwneud gan y Senedd hon. Fel rydym ni wedi gweld, mae corff sylweddol o'n deddfwriaeth Brexit eilaidd yn cael ei wneud gan Senedd y DU, ond rydym ni'n fwy cyfarwydd â hyn yn digwydd i ddeddfwriaeth sylfaenol. Os ydym ni am gynhyrchu llyfr statud effeithlon i Gymru, mae angen iddo gynnwys pob cyfraith sy'n berthnasol yng Nghymru, ni waeth pa senedd sydd wedi gwneud y gyfraith honno. Sut mae cydgrynhoi, sy'n wahanol i ddehongli, yn gweithio pan fo elfen o Weinidogion Cymru a Gweinidogion y DU yn gweithredu gyda'i gilydd mewn darn o ddeddfwriaeth bresennol?
Ac yna'n drydydd, mae'r memorandwm esboniadol yn rhagweld bod cydgrynhoi yn mynd ymhell y tu hwnt i dorri a gludo hen gyfraith yn unig, ac yn defnyddio termau mwy modern, yn setlo, efallai, ar ddiffiniadau unigol, a hyd yn oed yn diweddaru'r gyfraith bresennol. Er bod y Bil yn gwneud rhyw gyfeiriad at swyddogaeth y Cynulliad yn craffu ar ddeddfwriaeth eilaidd mewn dyfodol wedi'i gyfundrefnu, rwyf am godi pwynt gyda chi nawr, Cwnsler Cyffredinol, i'w ystyried yn y dyfodol, oherwydd bod hyn yn berthnasol i ddeddfwriaeth sylfaenol, yn ogystal â deddfwriaeth eilaidd. Rwy'n credu os yw Llywodraeth Cymru yn dymuno ailddatgan cyfraith a wnaed gan y Cynulliad hwn yn enw cydgrynhoi, mae'n rhaid inni graffu'n rhagweithiol ar yr ailddatganiad gyda chyfleuster i ddiwygio drafftiau Llywodraeth Cymru. Os bydd cyfundrefnu'n gofyn am newidiadau i Reolau Sefydlog y Cynulliad hwn, a awgrymwyd mewn tystiolaeth, ni all Llywodraeth Cymru fynnu na rhagdybio'r newidiadau hynny. Os yw Aelod yn cael ei ddewis mewn pleidlais ar gyfer Bil y meinciau cefn sy'n dod o fewn cymhwysedd y sefydliad hwn ni ellir caniatáu i Lywodraeth Cymru warafun ei chefnogaeth dim ond oherwydd nad yw'n cydfynd yn ddestlus â chod.
Felly, yn olaf, Llywydd, os, o ganlyniad bwriadol neu anfwriadol i'r Bil hwn y bydd y Cynulliad yn wynebu unrhyw gyfyngiad ar ei allu i basio unrhyw ddeddf o fewn ei gymhwysedd pwerau neilltuedig, ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei gefnogi, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni weithio gyda'n gilydd er mwyn osgoi unrhyw bosibilrwydd y bydd hynny'n digwydd. Diolch
Mae'n bleser i gyfrannu i'r ddadl bwysig yma ar Fil Deddfwriaeth (Cymru). Gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei agoriad i'r ddadl yma? Wrth gwrs, yn naturiol, dŷn ni'n cytuno ac yn croesawu'r bwriad yn fan hyn fel plaid. Achos, beth dŷn ni'n sôn amdano fo? Wel, yn y bôn, dŷn ni'n sefyll mewn Senedd go iawn rŵan, sydd yn mynd i gael ei enwi fel Senedd cyn bo hir. Dŷn ni yn deddfu yn y Gymraeg ac, yn naturiol, dŷn ni hefyd yn codi trethi, felly mae'n amserol iawn ein bod ni'n edrych ar y ffordd dŷn ni, ar ddiwedd y dydd, yn deddfu—y ffordd o ddeddfu. Ac, wrth gwrs, fel eglurwyd eisoes, diben y Bil yma ydy gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio. Wel, mae yna her yn fanna yn y lle cyntaf, achos wrth edrych ar sawl darn o ddeddfwriaeth, mae'n gallu bod yn hynod, hynod gymhleth, wedi'i ailadeiladu ac adeiladu dros y blynyddoedd, wrth gwrs, achos mae gyda ni gyfuniad, fel mae Suzy Davies wedi dweud, o ddeddfwriaeth Lloegr a Chymru, Cymru yn unig, ac wrth gwrs deddfwriaeth Cymru nawr sydd newydd gael ei chreu gennym ni yn fan hyn, a bydd yn parhau i gael ei chreu. Ac, wrth gwrs, mae'r her a'r cyffro, buaswn i'n fodlon dweud, o greu deddfwriaeth yn y Gymraeg, ac, wrth gwrs, yr her gyffrous o fod yn dehongli deddfwriaeth sydd wedi cael ei chreu yn y Gymraeg, achos fel bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol, nid cyfieithiad syml ydy un iaith o unrhyw iaith arall. Mae'r mater o ddehongli'r ddeddfwriaeth yn dod mewn i hyn, ac, wrth gwrs, dyn ni'n sôn am gydraddoldeb y ddwy iaith yn fan hyn, sydd yn hynod bwysig. Dwi'n gallu gweld amser bendigedig pan fyddwn ni'n datblygu deddfwriaeth yn y Gymraeg a fydd yn cael ei dehongli efallai mewn ffordd ychydig bach yn wahanol, neu'r potensial i wneud hynny, yn y Saesneg, ac fel dŷn ni wedi clywed eisoes, bydd hi i fyny i'r llysoedd i ddatrys yr her yna. Ond dwi'n falch o gael y cyfle i siarad am ddeddfu yn ein gwlad, er, mae'n gallu bod yn gymhleth, ac, wrth gwrs, dŷn ni'n sôn am godeiddio, trio dod â phopeth yn yr union le.
Dŷn ni wedi bod yn fan hyn o'r blaen. Mi fydd y Cwnsler Cyffredinol yn cofio Hywel Dda, yn naturiol. Y flwyddyn aur oedd 909, pan nid yn unig y cawsom ni gyfreithiau Hywel Dda, ond roedd o hefyd yn eu codeiddio nhw. Felly, dŷn ni wedi llwyddo i arloesi yng Nghymru fach tua 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyn i rywun arall feddwl am godau a chodeiddio, roedd Hywel wedi bod wrthi yn codeiddio draw fanna yn Hendy-gwyn ar Daf. Felly, adennill y tir dŷn ni mewn gwirionedd, ac, wedi dweud hynna, mae angen diffiniad ynglŷn â beth yn union dŷn ni'n ei olygu gan godeiddio, achos, fel dywedodd Suzy a Mick, dŷn ni wedi cael digon o drafodaeth oddi wrth sawl un o'n tystion ni ynglŷn â sut yn union mae codeiddio yn mynd i weithio, beth mae o'n ei olygu, yn yr un ffordd â beth yn union mae hygyrchedd yn ei olygu. Wrth gwrs, dŷn ni eisiau hygyrchedd i'r sawl sy'n ymdrin â'r gyfraith bob dydd o'r wythnos—hynny yw, yn cael eu talu i wneud hynny. Ond dŷn ni hefyd yn sôn yn ehangach yn fan hyn am angen hygyrchedd i'r dyn cyffredin yn y stryd a'r ddynes gyffredin yn y stryd—hygyrchedd i dderbyn a deall beth sydd yn mynd ymlaen, yn y bôn, achos mae hynna hefyd yn her, a ddim yn her sydd wastad yn amlwg i'r sawl sydd felly yn datblygu deddfwriaeth o'n blaenau ni.
Ond gan ei bod hi'n amser diddorol a dŷn ni'n creu ein Deddfau ni ein hunain yn fan hyn nawr, yn ddwyieithog, nawr ydy'r amser, fel dywedodd mwy nag un o'n tystion, i fynd i'r afael â'r heriau yma o hygyrchedd a chodeiddio, achos o hyn ymlaen mae eisiau disgwyl gweld bod pob cyfraith newydd yn cael ei chodeiddio, ac yn dod at ei gilydd, ac yn bod yn hygyrch a naturiol yn y ddwy iaith.
Felly, ie, dŷn ni'n cytuno fel plaid, a hefyd yn naturiol, efo argymhelliad 2, ac yn cytuno efo egwyddor y ddeddfwriaeth yma, a dŷn ni eisiau'i gweld hi'n camu ymlaen, ond hefyd mae eisiau gweld y manylion, ond dyw hynna ddim yn mynd i'n hatal ni rhag cefnogi'r bwriad. Diolch yn fawr.
Y Cwnsler Cyffredinol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Rwyf wedi mwynhau rhai o'r trafodaethau cysyniadol yn arbennig, ond rwy'n credu y caiff mesur llwyddiant, neu aflwyddiant y Bil, ei deimlo yn modd y caiff ei ofynion eu cymhwyso'n ymarferol i fywydau dinasyddion yng Nghymru. Rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth yr Aelodau, gan ddechrau gyda chyfraniad Mick Antoniw. Rwy'n falch o'i glywed yn ail ddatgan yr hyn yr wyf i yn ei ddeall sef bod y pwyllgor yn argymell y dylid cytuno ar yr egwyddorion. Siaradodd am bwysigrwydd nid yn unig hygyrchedd y gyfraith, ond mynediad at y gyfraith yn fwy cyffredinol. Rwy'n cefnogi'r amcan hwnnw'n llwyr. Mae'n un o'r uchelgeisiau sy'n ysgogi'r Bil. Ydy, mae'r ddadl ynghylch atebolrwydd democrataidd yn bwysig iawn, ond yr un mor bwysig, ac yn fy marn i sbardun allweddol y Bil, yw'r ddadl am gyfiawnder cymdeithasol. Mae'n ddyletswydd ar lywodraethau a deddfwrfeydd i wneud y gyfraith yn hygyrch ym mywydau dinasyddion, yn enwedig ar adeg pan fyddant yn ei chael hi'n fwy anodd yn gynyddol i droi at gynrychiolaeth gyfreithiol, fel y gwyddom ni.
Cyfeiriodd at nifer o argymhellion. I ymdrin â rhai pwyntiau yn ymwneud ag argymhelliad 4, fe fydd rhaglen waith yn ymwneud â hygyrchedd yn fwy cyffredinol, yn datblygu rhagor o sylwadau, yn datblygu gwefan Cyfraith Cymru, a'r rhestr termau yn y Gymraeg.
Gwnaeth sawl llefarydd sôn am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Wrth gwrs, fe wnaethon ni gael argymhelliad oddi wrth y comisiynydd ynglŷn â sut i ddarparu ar gyfer pobl yn gweithio yn y maes, a sicrhau bod digon o bobl yn dod drwy'r system i allu sicrhau bod cyfreithwyr sy'n rhugl yn y Gymraeg yn gallu gweithredu mewn system ddwyieithog yn y dyfodol.
Fe siaradodd Mick a Suzy Davies—ac, yn wir, Dai Lloyd—am bwysigrwydd deall beth yw ystyr cyfundrefnu. Mae wedi ei amlinellu yn y memorandwm esboniadol, ond i atgoffa pobl: nid yw'n weithred o gyhoeddi, nid yw'n weithred o gyd-leoli mân ddarnau o ddeddfwriaeth, mae'n weithred o gydgrynhoi'r gyfraith sy'n ymddangos mewn rhannau gwahanol o'r llyfr statud er mwyn iddi ymddangos mewn ffurf ffres, mewn un lle, ac yna ei gwarchod gan Reolau Sefydlog y Cynulliad, gan y byddai'r Cynulliad efallai yn dymuno gwneud hynny yn y dyfodol.
I ymdrin â'r pwynt pwysig a gododd Suzy Davies—y pryder, mae'n debyg, y gellid defnyddio hyn, mewn ffordd, i rwystro deddfwriaeth a gyflwynir—rwy'n eich sicrhau chi nad dyna'r achos. Nid diben y ddeddfwriaeth hon yw dweud wrthym ni beth yw'r gyfraith ond yn hytrach dweud wrthym ni lle i ddod o hyd i'r ddeddfwriaeth. Felly, ni fydd yn atal diwygio, bydd yn dweud wrthych lle ceir y diwygiad hwnnw yn y llyfr statud. Dyna'r diben. Nid yw'n atal newid cyfraith, mae'n ei gwneud hi'n hawdd dod o hyd iddi. Felly, rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw.
Roedd y Pwyllgor Cyllid, fel y nododd Llyr Gruffydd, wedi mynegi amheuon ynghylch ymrwymo adnoddau ar gyfer y Bil pan fo cymaint o ansicrwydd ynghylch Brexit, ond mae anhygyrchedd y gyfraith yn broblem sy'n bodoli ers tro byd, a bydd angen gweithredu ynghylch hynny dros y tymor hir. Ac mae'n faes, efallai, lle—ar draws y byd, mae hwn yn faes sydd wedi cael ei blagio gan feddwl yn y tymor byr, yn hytrach nag yn y tymor hir.
Bydd Brexit hefyd yn cynyddu'r broblem o gymhlethdod yn y gyfraith. Rydym ni wedi clywed sylwadau gan y Goruchaf Lys i'r perwyl hwn—pryderon ynghylch gwahanol elfennau o'r gyfraith yn ymddangos mewn mannau gwahanol—ac felly mae proses Brexit yn gwneud y dasg, yr her i wneud cyfraith yn fwy hygyrch yn anoddach ac yn her i'w chyflawni ar frys.
Fe wnaeth Llyr Gruffydd hefyd sôn am ffigurau Comisiwn y Gyfraith. Dŷn ni ddim wedi dewis arwain ar y symiau hynny. Maen nhw'n bwysig o ran dangos maint a dangos syniad o scale, ond dwi ddim fy hun yn credu ei bod hi'n hawdd i wneud dadansoddiad gwyddonol o'r ffigurau hynny. Er enghraifft, asesu'r impact ar unrhyw gyfreithiwr o weithredu'r Ddeddf hon, neu un o'r Deddfau a allai gael ei chreu o dan y Ddeddf hon—dyw'r dasg honno ddim yn dasg sy'n benthyg ei hunan yn hawdd.
O ran costau ymwybyddiaeth—a gwnaeth Llyr Gruffydd sôn am hynny hefyd—o ran ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, rwy'n credu, efallai, fod y dasg honno'n fwy perthnasol pan fydd Deddfau penodol yn dod allan o dan ymbarél y Ddeddf hon, os galla i ddefnyddio'r term hwnnw. Bydd y Ddeddf hon yn llwyddo drwy newid y gyfraith a newid effaith y gyfraith ym mywydau pob dydd pobl, yn hytrach, efallai, na bod pobl yn deall beth yw termau a chynnwys y Mesur penodol hwn.
Mae gwella hygyrchedd yn brosiect tymor hir, ond, fel y nodais yn gynharach, mae hynny yn ei gwneud hi'n bwysicach fyth ein bod yn ymgymryd â'r dasg. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am eu sylwadau i'r ddadl, am eu cefnogaeth i hynt y Bil i Gyfnod 2, ac edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wrth iddyn nhw barhau i graffu ar y Bil. Diolch yn fawr.
Y cwesiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.