– Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
Daw hynny â ni at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr economi. Dwi'n galw ar Russell George i wneud y cynnig. Russell George.
Cynnig NDM7055 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi methiant Llywodraeth Cymru i wireddu potensial economaidd Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
2. Yn nodi nad yw'n credu bod Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i sicrhau gwelliant sylweddol yn economi Cymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau pellach i wella'r economi, gan gynnwys:
a) symleiddio a gwella mynediad at gymorth busnes;
b) sicrhau bod polisi yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol effeithiol;
c) diwygio prosesau caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig;
d) uwchsgilio ac ailsgilio'r gweithlu er mwyn manteisio ar gyfleoedd newydd; ac
e) gwella seilwaith.
Diolch, Lywydd. Rwy’n gwneud y cynnig heddiw yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar ar berfformiad economaidd Cymru.
Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw, gan ei fod yn dileu ein cynnig cyfan, ac mae'n anffodus bod dadleuon yr wrthblaid yn ddarostyngedig i welliannau 'dileu'r cyfan' gan y Llywodraeth. Rwy'n siŵr y gallai'r Llywodraeth fod wedi ymestyn i gefnogi pwynt 3 o'n gwelliant o leiaf, sy'n galw am fwy o weithredu i wella Llywodraeth Cymru drwy ei chynllun gweithredu economaidd ei hun.
O ran gwelliant Plaid Cymru ar anghydraddoldeb rhanbarthol, cytunaf fod y bwlch rhwng rhannau cyfoethocaf a thlotaf y wlad yn embaras cenedlaethol. Nid wyf wedi fy argyhoeddi eto mai'r dulliau a awgrymir o gynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol a deddfu ar gyfer Bil adnewyddu rhanbarthol yw'r ffyrdd cywir o bontio'r bwlch hwn, ond rydym ni ar yr ochr hon yn barod i wrando ar y drafodaeth y prynhawn yma a gwrando'n fwy manwl ar y ddadl.
Ond rydym hefyd yn cytuno bod angen rhoi diwedd ar anghydraddoldeb rhanbarthol ledled Cymru. Yn ei dro bydd hynny'n hybu safonau byw a gwasanaethau iechyd, addysg a llywodraeth leol wedi’u cynllunio a'u cyllido’n briodol ym mhob rhan o Gymru.
Yr wythnos diwethaf, Lywydd, roeddem yn dathlu 20 mlynedd o ddatganoli, o’n Senedd ni yma. Y bwriad oedd i ddathanoli wella perfformiad economaidd Cymru yn sylweddol, ond yn ôl unrhyw fesur mae'r data economaidd yn dangos heb amheuaeth fod economi Cymru wedi tangyflawni dros y ddau ddegawd diwethaf, ac wedi methu'n llwyr â dal i fyny ag economi'r DU yn gyffredinol. Wedi dweud hynny, mae cynllun gweithredu economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru yn symud o ddull aflwyddiannus o weithredu, ac mae hynny i'w groesawu yn fy marn i, ac efallai y bydd y Dirprwy Weinidog a'r meinciau Llafur yn synnu clywed yr hyn rwyf am ei ddweud nesaf, ond mae llawer i'w ganmol, rwy'n meddwl, ynglŷn â’r cynllun hwn. Felly ni fwriedir i fy sylwadau agoriadol fod yn ymosodiad gwleidyddol ar y Llywodraeth y prynhawn yma, ond rwy'n credu'n wirioneddol nad oes digon o fanylion yn y cynllun, a dyna pam y galwn am fwy o uchelgais i wella economi Cymru er mwyn sicrhau gwell bargen ar gyfer busnesau Cymru, eu gweithwyr a threthdalwyr y wlad. Rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno ein bod am weld gwir botensial datganoli yn cael ei wireddu yng Nghymru, ac mae angen i ni gyflawni hynny drwy raglen bolisi uchelgeisiol er mwyn gadael lle’r ydym ar hyn o bryd, ar waelod tablau cynghrair y DU.
Nawr, o'r tri chynllun economaidd a lansiwyd ers datganoli, nid oes un ohonynt wedi llwyddo i wella enillion neu allbwn economaidd, ac economi Cymru yw'r economi wannaf yn y DU o hyd. Hi sydd â'r lefelau cynhyrchiant isaf ar draws y DU ac wrth gwrs mae'r pecynnau cyflog disymud yn ein dal yn ôl. Ac o ran y pecynnau cyflog disymud, mae'n siomedig pan fyddwn yn cael y trydariadau hynny, fel y rhestrwyd yn y trydariad ar fasnach a buddsoddi—‘Dewch i Gymru, mae gennym gostau cyflogau 30 y cant yn is na rhannau eraill o’r DU'—mae angen i'r math hwn o ddiwylliant ddod i ben yn y Llywodraeth a'r gwasanaeth sifil. Nid dyma'r dull cywir o weithredu.
Nawr mae strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ddenu buddsoddiad uniongyrchol o dramor, ac er y buaswn i, a ninnau ar y meinciau hyn, yn croesawu gwledydd o bob rhan o'r byd sy'n buddsoddi yng Nghymru, dengys y data economaidd crai inni nad yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio i'r eithaf ar y cyfle hwn. Hoffem weld swyddfeydd tramor newydd a chenhadon masnach ymroddedig i hybu masnach Cymru a chysylltu economi gref yng Nghymru â'r byd. Nawr, wrth gwrs, mae gennym strategaeth ddiwydiannol ar gyfer y DU, ac rwy'n credu'n gryf y bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod gennym swyddi a chyfleoedd ar draws Cymru gyfan, ac mae hyn yn helpu'r wlad gyfan i baratoi ar gyfer y newid economaidd drwy fuddsoddi yn ein seilwaith, ysgogi gwariant ymchwil a hybu sgiliau ein gweithlu. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi—ei bod yn bwysig fod polisi Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Mae hi wedi bod yn anodd iawn dod o hyd i ddata ar berfformiad y cynllun gweithredu economaidd. Cyflwynais gwestiynau ysgrifenedig ar ddiwedd y llynedd, ond ni chefais atebion sylweddol i'r cwestiynau hynny. Ychydig iawn o ddatganiadau a gawsom, os o gwbl, ar berfformiad mewn perthynas â’r cynllun gweithredu economaidd.
Mae diwygio caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau bach a chanolig hefyd yn elfen bwysig o gynllun gweithredu economaidd effeithiol yng Nghymru. Er enghraifft, pan edrychwn ar y ffordd yr ymdriniwyd â chaffael cyhoeddus yng Nghymru yn 2018, aeth 22 y cant—22 y cant—o wariant caffael gan Lywodraeth Cymru ar gontractau adeiladu, gwerth dros £0.5 miliwn, i gwmnïau y tu allan i Cymru. Felly dyma gyfle a gollwyd i fuddsoddi yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru, a chyfleoedd i gryfhau economi Cymru ymhellach o ganlyniad i hynny.
Nesaf, mae economi gref, flaengar ac amrywiol yn cael ei hadeiladu gan weithlu cryf, felly rwy’n sicr yn credu bod angen canolbwyntio ar ddysgu oedolion, uwchsgilio ac ailsgilio, ac mae hyn yn rhoi'r gallu i'r gweithlu nid yn unig i ennill sgiliau a gwybodaeth newydd yn eu sector, ond hefyd y manteision ychwanegol anuniongyrchol o wella'r cyfalaf cymdeithasol ac integreiddio, gan integreiddio ein hymddygiad iechyd, ein sgiliau a'n canlyniadau cyflogaeth. Felly, mae'n hanfodol, rwy'n credu, fod oedolion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn dysgu ar unrhyw adeg yn eu gyrfa, boed hynny drwy ddysgu seiliedig ar waith neu astudio personol.
Mae gwella ein seilwaith hefyd yn bwysig. Mae'n hanfodol gweld canlyniadau hynny i wella ein heconomi. Rwy’n credu ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru droi ei sylw at ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth cadarn wedi'i ddiogelu at y dyfodol. Mae prosiectau seilwaith da wedi’u cyflwyno a'u darparu ar hyd yr amser ledled Cymru, ond mae gennym ormod o brosiectau trafnidiaeth o hyd sy'n cael eu darparu'n hwyr a thros y gyllideb. Ac mae’r oedi yn y gwaith o gyflawni cynlluniau mawr, fel ffordd liniaru'r M4—dyna broblem i'n heconomi. Heb fynd i'r afael â'r tagfeydd ar y rhan honno o'r draffordd, bydd economi Cymru yn parhau i gael ei llyffetheirio gan lefelau cronig o’r tagfeydd a'r oedi y mae'n ei greu.
Yn olaf, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn cryfhau cytundebau twf y wlad. Mae gennym gytundebau twf gwirioneddol dda drwy’r wlad gyda ffocws rhanbarthol, partneriaeth dda rhwng awdurdodau lleol hefyd. Mae hwn yn faes lle credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud pethau'n iawn, yn ogystal â Llywodraeth y DU, gan sicrhau bod y cytundebau twf yn cael eu mesur a bod cynigion yn dod o’r gwaelod i fyny—nad yw Llywodraeth y DU na Llywodraeth Cymru yn gorfodi prosiectau ar ranbarthau Cymru, ond bod y prosiectau hyn yn dod o'r union gymunedau y maent yn deillio ohonynt.
Felly, rwy’n meddwl bod yn rhaid i ni gael hynny’n iawn, a chredaf ein bod yn edrych ar—. Yn amlwg, mae yna fargen bae Abertawe hefyd, ac efallai y bydd cyd-Aelodau eraill yn siarad amdani yn nes ymlaen, a cheir adolygiadau diweddar gan y Llywodraeth ar hynny. Felly, rwy'n credu bod angen i ni weithredu canlyniadau'r adolygiadau hynny. Mae gennym gytundeb twf Caerdydd, mae gennym gytundeb twf canolbarth Cymru, sydd ar ei ffordd hefyd, a bargen twf gogledd Cymru wrth gwrs, y disgwylir iddi greu mwy na 5,000 o swyddi newydd a dyblu gwerth economi gogledd Cymru bron erbyn 2035.
Felly, i gloi, Lywydd, rydym ni ar yr ochr hon yn edrych ar y cynllun gweithredu economaidd ac yn gweld y rhinweddau ynddo, ond mae angen mwy o weithredu, mae angen mwy o fanylion yn y cynllun hwnnw, ac mae angen inni weld perfformiad a gweld beth yw'r perfformiad wrth i ni symud ymlaen hefyd. Edrychaf ymlaen yn fawr at y ddadl y prynhawn yma ac at gyfraniadau’r Aelodau.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. A dwi'n galw ar Ddirprwy Weinidog yr economi i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu economi Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf, sydd wedi arwain at:
a) 300,000 yn fwy o bobl yn gweithio yng Nghymru ers 1999;
b) cyfraddau anweithgarwch economaidd sydd fwy neu lai yn debyg bellach i gyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed;
c) gostyngiad o dros hanner ers 1999 yn nifer y bobl o oedran gweithio sydd heb unrhyw gymwysterau;
d) y gyfran o bobl o oedran gweithio sydd â chymwysterau addysg uwch yn cynyddu o un ym mhob pum person i fwy na un ym mhob tri pherson ers datganoli;
e) y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol yng Nghymru.
2. Yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i sbarduno twf cynhwysol drwy’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi gan gynnwys y Contract Economaidd newydd, buddsoddiad mawr mewn seilwaith megis y fasnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd gwerth £5 biliwn, yn ogystal â Banc Datblygu newydd Cymru gwerth £1 biliwn.
3. Yn cydnabod llawer o’r pryderon economaidd a fynegir yn refferendwm yr UE a ffocws Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn 2017 ar feithrin economi sylfaenol i sbarduno twf cynhwysol.
4. Yn cydnabod pwysigrwydd sylfaenol gwaith teg i ddyfodol Cymru ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol i wneud Cymru yn genedl gwaith teg.
5. Yn gresynu nad yw Llywodraeth y DU wedi buddsoddi yng Nghymru dros y degawd diwethaf a’i bod wedi canslo’r bwriad i drydaneiddio’r rheilffyrdd, gwrthod y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw a methu â sicrhau buddsoddiad ym mhrosiect Wylfa.
Ffurfiol.
Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4 a gyflwynwyd yn ei enw ef.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnull uwchgynhadledd economaidd genedlaethol i drafod dyfodol yr economi gyda rhanddeiliaid allweddol a diwydiant; a
b) deddfu ar gyfer bil adnewyddu rhanbarthol, a fydd yn gorfodi'r llywodraeth i ystyried tegwch rhanbarthol a chydraddoldeb wrth wneud penderfyniadau ar wariant.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynegi pryder am ddyfodol economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi methiant Llywodraeth y DU i gyflwyno cynigion manwl neu ymgynghori ar Gronfa Rhannu Ffyniant newydd ar ôl Brexit yn lle cyllid yr UE, o ystyried ei lle fel elfen allweddol o economi Cymru.
Diolch, Llywydd. Mae hon yn un o'r dadleuon pwysig iawn yna i'w cael wrth inni nodi 20 mlynedd ers sefydlu datganoli. Dwi'n cofio gwneud sylwadau fel newyddiadurwr ifanc 20 mlynedd yn ôl mai un o'r mesurau ynglŷn â llwyddiant datganoli, llwyddiant Llywodraeth Cymru maes o law, fyddai ei effaith o ar yr economi. A dwi'n meddwl, yn gyffredinol, wrth edrych ar le mae Cymru arni o fewn tablau economaidd, nid yn unig yr ynysoedd hyn ond y tu hwnt i'r ynysoedd yma, allwn ni ddim dweud bod Cymru yn agos at fod yn cyrraedd ei photensial eto.
Does yna ddim diffyg uchelgais wedi cael ei lleisio gen i a'm rhagflaenwyr, ac ar brydiau, o bosib, gan y Llywodraeth hyd yn oed, ond o ran gweithredu, dydyn ni ddim yn dod yn agos at y math o gamau dŷn ni'n gwybod sydd angen cael eu cymryd er mwyn mynd â Chymru yn ei blaen tuag at y dyfodol yna dwi'n sicr yn gwybod y gall hi ei chael yn economaidd fel gwlad a chenedl ifanc, lewyrchus.
Mae yna lawer o'r hyn sydd yng nghynnig y Ceidwadwyr dwi a fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru yn sicr yn cytuno â nhw, ond dŷn ni wedi cyflwyno cyfres o welliannau er mwyn tynnu sylw at ambell i faes dŷn ni'n meddwl oedd yn bwysig iawn eu tanlinellu nhw y prynhawn yma. Yng ngwelliant 2, dŷn ni yn gwneud yr achos, fel dwi wedi gwneud o'r blaen, ynglŷn â chael yr uwchgynhadledd economaidd yma. Mi ydyn ni ar bwynt, dwi'n meddwl, lle mae angen cael y cyfle i wyntyllu syniadau ar gyfer dyfodol economaidd Cymru yn y ffyrdd mwyaf deinamig a mwyaf cyhoeddus posib. Mae yna gymaint o grwpiau ymgynghori wedi cael eu sefydlu gan y Llywodraeth yma dros y blynyddoedd, a chymaint o bobl wedi bod yn cael eu tynnu i mewn i weithio ar weithgor yn fan hyn a gweithgor yn y fan yna, ond dwi'n meddwl bod yna bwynt wedi dod lle gallwn ni gael budd gwirioneddol yn genedlaethol o gael ffocws drwy'r math o uwchgynhadledd dŷn ni wedi sôn amdani, ar ddenu y syniadau gorau a rhannu y syniadau yna efo pobl Cymru er mwyn iddynt hwythau gael cyfrannu at y drafodaeth yma. Felly, dwi yn gobeithio y gallaf i gael cefnogaeth y Cynulliad yn hynny o beth.
Ac mae'r gwelliant hwnnw hefyd yn cyfeirio at y polisi yma dŷn ni wedi arddel ers tro yn fan hyn, bod rhaid inni gael deddfwriaeth yn ein tyb ni sydd yn gyrru'r math o degwch a chyfartaledd economaidd ar draws Cymru y mae pobl Cymru wirioneddol yn mynnu ei gael. Dwi'n gwybod fel Aelod o'r gogledd fod yna deimladau bod y gogledd o bosib ddim yn cael ei siâr, a dwi'n siŵr bod yna deimladau yn y gorllewin, a hyd yn oed mewn ardaloedd yn agos at y brifddinas, dwi'n meddwl, fod llewyrch, lle mae o, ddim yn cael ei rannu yn deg. Dydw i ddim yn un sydd eisiau rhannu Cymru; eisiau ein huno ni ydw i, a dangos ein bod ni'n gallu gweithredu fel un genedl.
Dwi'n meddwl y byddai'r Bil rhanbarthol yma dŷn ni yn ei argymell yn fodd o sicrhau, yn yr un ffordd ag y mae deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol yn ei wneud, a’n gorfodi'r Llywodraeth i feddwl mewn ffordd arbennig. Byddai Bil rhanbarthol fel hyn yn gorfodi'r Llywodraeth, ym mhopeth maen nhw’n gwneud, i roi ystyriaeth i a ydy'r penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud yn wirioneddol yn mynd i arwain at weithredu sy'n effeithio ar ac yn elwa pobl ym mhle bynnag y maen nhw yng Nghymru, fel ein bod ni'n gallu tynnu’r math o honiadau yma a phryderon bod yna or-ganolbwyntio llewyrch mewn ychydig o ardaloedd.
Mi wnaf i droi at y gwelliannau, wedyn, ynglŷn â Brexit. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn inni nodi hyn. Does dim angen imi ymhelaethu llawer ar y gwelliant, sy'n dweud ein bod ni'n bryderus ynglŷn ag effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dwi eisiau i bobl feddwl am y cwestiwn Ewropeaidd mewn cyd-destun Cymreig. Roeddwn i dros y dyddiau diwethaf yn trafod efo gwleidyddion o Gibraltar. Mi wnaeth Gibraltar ystyried Brexit yng nghyd-destun Gibraltar—‘Ydy hwn yn dda i ni?’ Ac mi wnaeth 96 y cant o'r boblogaeth, wrth gwrs, wrthod Brexit oherwydd ei fod o'n ddrwg i Gibraltar. Mae Brexit yn ddrwg i Gymru, a dwi eisiau i bobl Cymru feddwl yn y ffordd honno, achos mae beth sy'n ddrwg i Gymru fel cenedl yn golygu, wrth gwrs, rhywbeth sy'n ddrwg i'n cymunedau ni, i deuluoedd, i unigolion ar hyd y lled y wlad.
Gair yn sydyn am y shared prosperity fund. Dwi'n meddwl bod Llywodraeth Prydain wedi addo gorffen ymgynghori ar yr arian yma a fyddai'n dod yn lle arian Ewropeaidd erbyn mis Rhagfyr y llynedd. Does yna ddim ymgynghori wedi dechrau mewn difri ar hyn, sydd eto yn un o'r pethau yna sy'n codi gymaint o amheuon, yn fy meddwl i, ynglŷn â'r cwestiwn o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mi wnaf i grynhoi fel hyn: dwi â hyder ym mhotensial Cymru. Dydyn ni ddim yn cyrraedd y potensial hwnnw. Dydyn ni ddim eto ar y llwybr sy'n mynd i'n galluogi ni i gyrraedd y potensial hwnnw. Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n gallu dechrau hedfan fel gwlad go iawn tan y byddwn ni yn wlad annibynnol. Ond ar ba bynnag ochr i'r ddadl ydych chi, a ydych chi wedi cael eich argyhoeddi ai peidio ynglŷn â hynny, mi ddylem ni i gyd allu bod yn gytûn y dylem ni fod yn gwneud llawer mwy a gosod y bar yn llawer uwch o ran symud i le lle mae gennym ni seiliau mwy cadarn yn eu lle ar gyfer y dydd hwnnw pan fydd Cymru yn cael ei rhyddid.
Wrth nodi ein bod yn dal i fod heb weld yr adroddiad ar kukd.com eto, credaf fy mod am ddechrau gydag ymateb y Prif Weinidog i gwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf pan gyhuddodd fy mhlaid o fethu bod yn barod i gymryd risgiau wrth gefnogi busnesau. Rwy'n credu iddo anghofio ei fod yn siarad â'r Ceidwadwyr. Dyma'r union grŵp a fu'n annog y Llywodraeth hon ers blynyddoedd maith i fod yn fwy cadarn a dewr, oherwydd bod ein heconomi angen hynny, ac mae’n dal i fod angen hynny—Brexit neu beidio. Credaf eich bod yn gwybod yr hyn y mae pawb ohonom yn ei wybod hefyd, Ddirprwy Weinidog, mai enw da economi Cymru yw'r dolur sy'n gwrthod gwella, ac sy’n heintio ymdrechion i ledaenu cyfoeth, i godi uchelgais ein pobl ifanc, i drechu tlodi ac i berswadio’r entrepreneuriaid mwyaf disglair ei bod yn werth gwneud busnes yng Nghymru. A'r pwynt yr oedd fy arweinydd yn ei wneud yw, po fwyaf yw'r risg, y mwyaf yw'r nifer o gerrig sydd angen eu troi. Ni allwn fforddio economi peiriant slot, lle nad oes ots a ydych chi'n buddsoddi £10 neu £10 miliwn; po fwyaf yw'r risg, y mwyaf y byddwch yn dangos i ni sut ydych chi, y Senedd hon, yn gweithio. Ac rwy'n meddwl mai Pinewood oedd yr enghraifft glasurol o hynny: syniad a oedd yn ein cyffroi ni i gyd, ond roedd ei gyflawniad wedi'i guddio o'r golwg. A'r peth trist yw, pe bai pawb ohonom wedi cael golwg yn gynharach ar yr hyn oedd yn digwydd yno, byddai'r Senedd hon wedi cael cyfle i gynnig rhywfaint o fewnwelediad i gefnogi'r Llywodraeth a rhannu cyfrifoldeb am y camau nesaf, yn hytrach na’n gadael heb unrhyw opsiwn o gwbl ond datgelu anallu'r Llywodraeth i reoli risg yn yr achos hwnnw, ac nid yw hwnnw'n hysbyseb dda i'n cenedl. Mae'r gweithredwyr byd-eang yn gweld hynny fel ffordd gyflym o wneud arian yn hawdd yma, ac mae ein darpar fusnesau bach yn colli hyder eu bod yn cael y cyngor gorau a'r gefnogaeth fwyaf strategol.
Nawr, yn wahanol i Israel neu'r Unol Daleithiau, nid yw ein diwylliant yn derbyn methiant fel y cam nesaf tuag at lwyddiant, ac rwy'n credu bod hynny'n ddi-fudd; mae'n cyfyngu ar greu cyfoeth. Ond pan fyddwch yn defnyddio arian fy etholwyr i’w roi ar geffyl, byddai'n well i chi wybod sut i ddarllen y cofnod o'i gyflawniadau. Eich cofnod chi sy’n peri diffyg hyder i ni ar hyn. Efallai y gwelwch y bydd symleiddio a gwella mynediad at gymorth i fusnesau bach, fel yr awgrymwyd yn ein cynnig, yn gwneud diwydrwydd dyladwy yn fater symlach ac mae'n golygu y gall y Llywodraeth ganolbwyntio ymdrechion wedyn ar graffu ar fodelau busnes a llyfrau, os mynnwch, chwaraewyr mwy o faint fel Dawnus. Oherwydd gallai eu gwytnwch ddylanwadu mwy ar oroesiad busnesau bach yn eu cadwyni cyflenwi nag unrhyw gymorth i fusnesau bach y gallwch ei roi.
Felly, nid oedd angen dileu ein cynnig, yn anad dim oherwydd ei fod yn gwadu cyfle i ni, o ddifrif, i ddweud unrhyw beth canmoliaethus amdanoch chi. Wrth gwrs ein bod yn falch o weld bod mwy o bobl yn gweithio a phobl yn dod o hyd i gyfleoedd y gallant fachu arnynt a manteisio arnynt, nid yn unig yr ymdeimlad hwnnw o gyflawniad, ond yr holl bethau eraill sy'n dod gyda bod mewn gwaith cyflogedig, ond hefyd y ffaith bod yn rhaid i lai ohonynt dalu treth, diolch i Lywodraeth Geidwadol y DU. Efallai y byddai wedi bod ychydig yn fwy gonest i dalu teyrnged i'r ddwy Lywodraeth, gan fod gan y DU gyfan y nifer uchaf erioed o bobl mewn gwaith, gan gynnwys y nifer uchaf o fenywod, gyda mwy o dreth yn cael ei thalu gan y 5 y cant uchaf nag o'r blaen. Ond rwy'n amau y byddai'n well gennych beidio â chanolbwyntio ar y manylion hynny oherwydd, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y bobl yng Nghymru mewn gwaith, mae cynhyrchiant a'r pecyn cyflog yn dal i fod yn is nag unrhyw le arall yn y DU. A phob tro y bydd aelodau eich meinciau cefn yn codi i gwyno am gontractau dim oriau a chyflogau isel, dylent ofyn iddynt eu hunain pam mai yng Nghymru’r Blaid Lafur y mae’r pethau hyn yn fwyaf amlwg. Ychydig o lawenydd sydd i'w gael o bwyntiau 1c) ac 1d) yng ngwelliant y Llywodraeth os nad yw'r bobl hynny'n gweld eu hymdrechion yn cael eu hadlewyrchu yn eu pecyn cyflog neu eu gallu i gamu ymlaen yn eu gyrfa.
Os nad ydym yn edrych fel cenedl sy’n gwella, ni fyddwn yn denu buddsoddwyr sy'n barod i aros gyda ni. Nawr, buaswn yn cytuno â chi, Ddirprwy Weinidog, fod yr economi sylfaenol yn rhan fawr o ddarlun mwy, ond pan ystyriwch chi record ein prifysgolion yn gwneud yn well na’r disgwyl yma ar greu busnesau newydd, rydym am iddynt dyfu yma yng Nghymru. Rwy'n poeni mai cael eu tagu gan fiwrocratiaeth a gaiff yr hadau hyn—biwrocratiaeth yn y lle anghywir. Ac rwy'n credu bod honno'n wers, mewn gwirionedd, i'n bargeinion dinesig a’n bargeinion twf ei hystyried hefyd.
Yn olaf—a rhaid i mi ddweud bod hyn yn haeddu mwy o amser nag y gallaf ei roi iddo heddiw—gwelwn y dylanwad negyddol sy’n gyfarwydd iawn. Mae amrywiaeth yn ymwneud â mwy na'r gwahanol fathau o fusnesau sydd gennym yma yng Nghymru, mae’n ymwneud hefyd â’r amrywiaeth o bobl sy'n poblogi'r economi. Edrychwch ar adroddiadau Chwarae Teg, maniffesto Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, adroddiadau gan Ymddiriedolaeth y Tywysog, Prime Cymru—llu o adroddiadau'n dod allan, yn cynrychioli pobl ag anableddau gwahanol. Arloesi a’r modd yr edrychwn ar gyfle yw'r sbardun i dwf, a gobeithiaf y byddwn yn rhoi'r gorau i wastraffu cyfalaf cymdeithasol ac economaidd enfawr drwy newid y ffordd yr edrychwn ar brif ased unrhyw economi, sef ei phobl. Diolch.
Seiliwyd economi Cymru ar ôl y rhyfel ar amaethyddiaeth, glo a gweithgynhyrchu a phrosesu metel i gychwyn. Yna, gwelsom dwf gweithgynhyrchu ysgafn ac erbyn diwedd y 1980au, roedd Cymru’n denu mwy o fuddsoddiad uniongyrchol tramor nag unrhyw ranbarth neu genedl yn y DU. Llifai hyn i mewn i weithgynhyrchu ysgafn yn arbennig.
Roedd cyfuniad o agosrwydd at farchnadoedd, llafur rhad, a chymorth uniongyrchol gan Awdurdod Datblygu Cymru yn aml, yn golygu bod cyflenwyr a oedd yn awyddus i sefydlu ffatrïoedd newydd yn gweld bod Cymru'n cynnig pecyn deniadol ar gyfer buddsoddi. Yn anffodus. caeodd llawer o'r ffatrïoedd cangen hyn pan grebachodd y marchnadoedd neu pan ddaeth hi’n rhatach iddynt adleoli mewn man arall. Symudodd ffatrïoedd cyfan o Gymru wrth i wneuthurwyr symud i leoliadau rhatach. Caeodd 171 o ffatrïoedd rhwng 1998 a 2008, gan arwain at golli cyfanswm o 31,000 o swyddi.
Byddai'n amlwg yn gamgymeriad i Gymru ganolbwyntio’n llwyr ar ddenu llif newydd o fuddsoddiadau tramor. Efallai y caiff rhai eu denu, wrth gwrs, ond mae'n annhebygol iawn y gellid neu y dylid denu unrhyw beth yn agos at oes aur yr 1980au a'r 1990au—ac mae ymdrechion i wneud hynny naill ai drwy ostwng cyflogau neu gyfyngu ar gyfreithiau amgylcheddol neu ddiogelwch yn ras na all Cymru gystadlu ynddi, ac ni chredaf y dylai geisio gwneud hynny.
Mae defnyddio'r gofrestr fusnes ddiweddaraf ac arolygon cyflogaeth a welais yn dangos bod economi Cymru yn cyflogi llawer llai o bobl yn y meysydd canlynol a gategoreiddiwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol: gwybodaeth a chyfathrebu; cyllid ac yswiriant; proffesiynol, gwyddonol a thechnegol; a gweinyddiaeth busnesau, gan gynnwys gwasanaethau cymorth. Pe baech yn gwneud rhestr o'r meysydd a dalai fwyaf yn yr economi, credaf y byddai gennych y rhan fwyaf o'r rheini arni. Mae yna wendidau strwythurol yn economi Cymru—pe na bai, byddai ein gwerth ychwanegol gros yn uwch. Mae'n rhaid cyrraedd atebion i broblemau economaidd Cymru. Yn gyntaf, mae angen gwella sgiliau adran yr economi. Ni allwn gael Kancoat arall, lle na all y rhai sy'n asesu'r cynllun weld nad yw cotio lliw yn weithgynhyrchu datblygedig, ac nad ydynt yn gwybod bod dwy ffatri cotio lliw wedi methu o'r blaen yn ne Cymru a bod Shotton yn cotio lliw ar ddur.
Yn ail, mae angen i ni ddysgu o'r hyn a weithiai’n flaenorol ac a weithiai'n dda. Yn y 1990au, profodd Cymru oes aur mewn cynhyrchu animeiddio. Roedd S4C yn rhan annatod o helpu i gynhyrchu nifer o gyfresi animeiddio poblogaidd, y soniais amdanynt ychydig wythnosau yn ôl: SuperTed, Sam Tân, Gogs. Roedd proffil uchel i’r rhain a chawsant eu cyfieithu i'r Saesneg. Enillodd S4C enw da yn gyflym, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, am eu rhaglenni animeiddio masnachol lwyddiannus a oedd yn ennill gwobrau. Wrth i S4C ehangu, daeth llu o gymeriadau poblogaidd eraill: Wil Cwac Cwac, Slici a Slac, Sgerbyde. Dyma enghraifft o lle mae arian a roddir i mewn yn ochr y galw yn cynhyrchu diwydiant newydd, ond mae angen galw cychwynnol. Yn rhy aml o lawer, byddwn yn canolbwyntio'n llwyr ar roi arian i mewn yn yr ochr gyflenwi ac yna rydym yn gorgyflenwi—mae angen i’r galw fod yno hefyd.
Ar fater pellach: mae'n rhaid ei bod yn ymddangos braidd yn rhyfedd i chi i gyd fod y gêm fideo sy'n gwerthu fwyaf yn y byd, Grand Theft Auto, wedi dechrau ei hoes yn Dundee, ond mae yna resymeg economaidd i'r ffordd y mae’r ddinas yn yr Alban, ers 20 mlynedd, wedi dod yn glwstwr nodedig ar gyfer diwydiant gemau fideo'r byd. Daeth Prifysgol Abertay yn Dundee o hyd i gefnogaeth wleidyddol ac ariannol i sefydlu adran a gynigai’r radd gyntaf yn y byd mewn gemau cyfrifiadurol yn 1997. Erbyn hyn mae yna nifer o raddau cysylltiedig, gan gynnwys dylunio gemau a rheoli cynhyrchu. Mae yna ddiwydiant gemau cyfrifiadurol mawr yn Dundee hefyd. A yw’n syndod i unrhyw un—rhoddwyd arian i mewn, roedd yno ar y dechrau—fod ganddynt ddiwydiant llwyddiannus iawn bellach mewn maes sy'n talu'n dda ac sy'n tyfu? Mae hyn yn amlinellu tri phwynt rwy’n parhau i'w gwneud—ac mae'n debyg y byddaf yn eu gwneud eto yr adeg hon y flwyddyn nesaf—yn gyntaf, gall prifysgol fod yn sbardun i'r economi a'r economi leol; yn ail, mae diwydiannau'n tueddu i glystyru; ac yn drydydd, mae daearyddiaeth yn llai pwysig nag argaeledd sgiliau. Os ydych chi byth yn dewis lle i leoli—heb amarch i Dundee, ond nid yw ar ben rhestr unrhyw un o'r ardaloedd mwyaf canolog yn ddaearyddol.
Yn drydydd, fel Gordon Brown, rwy'n credu yn y ddamcaniaeth twf mewndarddol sy'n datgan bod buddsoddiad mewn cyfalaf dynol, arloesedd a gwybodaeth yn cyfrannu'n sylweddol at dwf economaidd. Mae'r ddamcaniaeth hefyd yn canolbwyntio ar elfennau allanol cadarnhaol ac effeithiau gorlif economi sy'n seiliedig ar wybodaeth, a fydd yn arwain at dwf economaidd. Yn bennaf, mae'r ddamcaniaeth dwf yn dangos bod cyfraddau twf hirdymor economi yn dibynnu ar fesurau polisi—er enghraifft, mae cymorthdaliadau ar gyfer ymchwil a datblygu neu addysg yn cynyddu cyfradd twf, gan ddefnyddio'r model twf mewndarddol, drwy gynyddu'r cymhelliant i arloesi. A dyna beth sydd ar goll gennym, mewn gwirionedd. Rydym yn siarad o’i gwmpas, ond nid oes gennym ddigon o swyddi ar gyflogau uchel, nid oes gennym ddigon o arloesi ac nid oes gennym glystyrau mewn diwydiannau sy'n talu'n dda. Os gallwn dderbyn beth yw’r broblem, rhaid i ni ganfod wedyn sut yr awn i'r afael â hi.
Rwyf wedi ceisio amlinellu’n fyr rai ffyrdd o wella economi Cymru, ac wrth gwrs, rwyf ar gael i drafod y rhain yn fanylach gyda Llywodraeth Cymru neu unrhyw un arall sydd am siarad â mi amdano, ond rhaid i ni fod yn arloeswyr mewn gwirionedd—rhaid i ni fynd i mewn i rannau gwerth uchel o’r economi. Nid ydych yn mynd i fod yn gyfoethog trwy gael llawer o gyflogaeth ar gyflogau isel. Gallwn wthio ein cyfradd ddiweithdra i lawr, gallwn gynyddu ein cyfradd gyflogaeth, ond nid yw'n gwneud llawer i’n gwerth ychwanegol gros nes i ni ddechrau cael rhywfaint o swyddi ar gyflogau uchel i mewn yno.
Wel, er iddi etifeddu argyfwng economaidd a choffrau gwag, mae Llywodraeth ddarbodus y DU ers 2010 wedi llwyddo i fanteisio ar gyfleoedd i wireddu potensial economaidd y DU. Y mis hwn, mae ffigurau swyddogol ar gyfer y DU wedi dangos bod allbwn adeiladu wedi codi, allbwn cynhyrchiant wedi codi, allbwn gwasanaethau wedi codi, cyfraddau cyflogaeth wedi codi i fod cyfuwch â’r ffigur uchaf a gofnodwyd erioed, diweithdra i lawr i'r lefel isaf mewn 45 mlynedd, anweithgarwch economaidd y DU yn is na’r flwyddyn cynt ac yn agos at fod yn is nag erioed, ac enillion wythnosol cyfartalog, gyda a heb fonysau, wedi codi cyn ac ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant.
Fodd bynnag, Cymru’n unig sydd wedi cael dau ddegawd o Lywodraeth Lafur ddatganoledig, gyda Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd yn gyfrifol am ddatblygu economaidd a chyflogadwyedd yng Nghymru. Mae'r un ffigurau swyddogol hynny'n paentio darlun gwahanol yma, ac un sy’n peri pryder mawr. Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dan arweiniad Llafur i lawr ac ar ei hôl hi o gymharu â ffigur Prydain. Roedd y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru dan arweiniad Llafur wedi codi yn y chwarter a'r uchaf ymysg gwledydd y DU, ac roedd y gostyngiad amcangyfrifedig mwyaf mewn swyddi gweithlu yn y DU, sef gostyngiad o 9,000, i’w weld yng Nghymru dan arweniad Llafur.
Cynyddodd gwariant ymchwil a datblygu y DU £1.6 biliwn i £34.8 biliwn yn 2017, uwchlaw'r cynnydd cyfartalog blynyddol hirdymor ers 1990. Fodd bynnag, er bod y DU wedi gwario £527 ar ymchwil a datblygu fesul pen o'r boblogaeth, gyda Lloegr yn gwario £554, yr Alban yn gwario £466 a Gogledd Iwerddon yn gwario £371, dim ond £238 oedd y ffigur yng Nghymru.
Ym mis Mawrth, dangosodd ffigurau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod lefelau lles personol wedi gwella yn y DU fel y mae sgoriau iechyd meddwl, gan gynyddu 4.6 y cant rhwng 2011 a 2016 i 63.2 y cant. Y mis hwn yn unig, fodd bynnag, dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld cynnydd mewn tlodi plant y llynedd. Yn nodweddiadol, fe wnaeth Llywodraeth Cymru feio polisïau Llywodraeth y DU, lle bydd unrhyw un sy'n gallu meddwl yn annibynnol yn deall bod polisïau Llywodraeth y DU sy'n berthnasol yng Nghymru hefyd yn berthnasol ledled y DU, ond dim ond Cymru sydd wedi dioddef dau ddegawd o Lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghaerdydd. A hyn er bod Llywodraeth Cymru wedi gwastraffu biliynau ar raglenni o'r brig i lawr a oedd i fod i drechu tlodi a lleihau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU. Fel yr adroddodd Wales Online ym mis Chwefror, gan ddyfynnu pobl yng Nglynebwy, er bod miliynau wedi’i wario ar brosiectau adfywio rhanbarthol, nid yw wedi gwneud yr hyn yr oeddent ei angen—dod â swyddi a busnesau i mewn.
Datgelodd ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer 2017 a gyhoeddwyd ym mis Chwefror fod lefelau cynhyrchiant ym mhob rhan o Gymru yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU, gyda hyd yn oed y siroedd sy'n perfformio orau, Sir y Fflint a Wrecsam, yn dal i fod 4 y cant yn is na chyfartaledd y DU. Cymru oedd y lleiaf cynhyrchiol o hyd o blith 12 gwlad a rhanbarth y DU. Hyd yn oed yn fwy syfrdanol, mae twf yng ngwerth y nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir y pen yng Nghymru wedi bod yn arafach na'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr unwaith eto.
Mae Llywodraethau Llafur Cymru olynol wedi methu cau'r bwlch rhwng y rhannau cyfoethocaf a thlotaf o Gymru a rhwng Cymru a gweddill y DU. Anwybyddodd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf yn y DU rybuddion am lefelau benthyca, dyledion eilaidd a chwymp y banciau a phwyso ar y rheoleiddiwr ariannol i ddefnyddio mesurau rheoleiddio ysgafn ar gyfer y banciau, gan achosi’r wasgfa gredyd a chyni. [Torri ar draws.] Byddai’r polisïau sy'n dal i gael eu hargymell—. Darllenwch yr adroddiadau annibynnol; rwyf wedi eu dyfynnu yn y gorffennol. Byddai'r polisïau sy'n dal i gael ei argymell gan Lafur wedi creu toriadau llawer mwy erbyn hyn, ac wedi’u gorfodi o’r tu allan. Ond fel y dywedodd Canghellor y DU ym mis Mawrth, mae ein dull cytbwys yn golygu bod dyled ein gwlad yn gostwng a bod mwy o arian yn cael ei fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Lafur Cymru yn dilyn tri chynllun economaidd aflwyddiannus blaenorol mewn 20 mlynedd. Fe wnaethant gomisiynu adroddiad ar waith teg, ond roedd Llywodraeth y DU eisoes wedi comisiynu adolygiad Taylor o arferion gweithio modern, a oedd yn sail i'w ‘Good Work Plan’. Mae hwn yn ymrwymo i ystod o newidiadau polisi er mwyn sicrhau y gall gweithwyr gael mynediad at waith teg a gweddus—y cynllun cywir ar gyfer sicrhau bod marchnad lafur Cymru’n deg i weithwyr ac yn caniatáu i fusnesau ffynnu.
Mae gwelliant Llywodraeth Cymru yn honni nad yw Llywodraeth y DU yn buddsoddi digon yng Nghymru, gan anghofio'n gyfleus, er enghraifft, fod Cymru, o ran cyfran, yn derbyn £12 miliwn am bob £10 miliwn a werir yn Lloegr ar wasanaethau a ddatganolwyd i Gymru, bron i £0.75 biliwn ar gyfer bargeinion dinesig a bargeinion twf yng Nghymru, bron i £1 biliwn o wariant amddiffyn yng Nghymru y llynedd yn unig, gan gefnogi dros 6,000 o swyddi, a buddsoddiad Network Rail o £2 biliwn dros y pum mlynedd nesaf.
Wel, fel cenedl yn dathlu arloesedd ac entrepreneuriaeth ac yn croesawu datblygiad technolegol, byddai Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i elwa o'r chwyldro diwydiannol newydd. Ond bydd y newid go iawn sydd ei angen arnom ond yn dechrau gyda newid Llywodraeth yng Nghaerdydd.
Dysgu oedolion, gwella sgiliau ac ailsgilio yw’r allwedd i feddwl blaengar ac economi amrywiol yn y byd modern. Mae pawb ohonom yn cydnabod pwysigrwydd darparu sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr i bobl allu bod mewn swyddi da a chynaliadwy. Mae'n hanfodol fod oedolion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn dysgu ar unrhyw adeg yn eu gyrfa. Gall hyn fod drwy ddysgu yn y gwaith, neu drwy astudio personol. Mae'n ffaith drist fod economi Cymru yn wynebu prinder sgiliau difrifol. Canfu arolwg a gynhaliwyd yn 2015 fod bron i 73 y cant o fusnesau Cymru wedi wynebu anhawster wrth recriwtio'r staff iawn. Dywedodd 61 y cant o fusnesau Cymru eu bod yn ofni na fyddent yn gallu recriwtio digon o weithwyr medrus iawn i ateb y galw a'u galluogi i ffynnu. Mae hyn yn sicr yn wir am y diwydiant adeiladu. Ym mis Gorffennaf y llynedd, nododd dwy ran o dair o gwmnïau adeiladu Cymru anawsterau wrth logi bricwyr a chafodd 60 y cant broblemau wrth recriwtio seiri coed a seiri. Dywedodd Ffederasiwn Meistr Adeiladwyr Cymru,
Y neges rwy'n ei chlywed dro ar ôl tro gan adeiladwyr bach yw bod digon o waith yno, ond yn rhy aml nid oes ganddynt ddigon o grefftwyr medrus i ymgymryd â'r gwaith hwnnw.
O ganlyniad, maent yn
Colli cyfle aur am dwf yn y sector adeiladu a'r economi ehangach.
Nid oes gan fwy na hanner y rhai sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru unrhyw gymwysterau o gwbl. Mae hyn yn cyfrannu at y bwlch sgiliau, gan arwain at lai o gyfleoedd cyflogaeth a chylch parhaus o amddifadedd. Mae'n destun pryder, felly, fod ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y rhaglenni dysgu drwy brentisiaethau a ddechreuwyd wedi gostwng 6 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Ond nid yw ehangu nifer y prentisiaethau’n ddigon. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn darparu'r math o hyfforddiant sgiliau sydd ei angen ar fusnesau yng Nghymru. Yn ddiweddar, dywedodd Estyn nad yw'r rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau lefel uwch yng Nghymru yn eu rheoli'n dda ac mae llawer o gyrsiau wedi dyddio.
Os ydym am sicrhau bod y gweithlu'n diwallu anghenion busnesau, mae'n rhaid cael mwy o gydweithio rhwng diwydiant ac addysg. Mae ymchwil ar gyfer partneriaeth sgiliau ranbarthol de-ddwyrain Cymru yn dangos, er bod rhai colegau yn gwneud cynnydd mawr yn meithrin cysylltiadau â chyflogwyr, mae eraill yn cynnig hyfforddiant heb ddeall anghenion busnesau lleol yng Nghymru. Un o fanteision mawr prentisiaethau gradd yw eu bod yn cael eu gyrru gan gyflogwyr ac wedi'u llunio i ddiwallu'r angen sgiliau. Bydd hyn yn cynyddu ymgysylltiad rhwng prifysgolion a chyflogwyr.
Mae prifysgolion yng Nghymru yn awyddus i ddatblygu ystod ehangach o brentisiaethau gradd. Bydd y prentisiaethau gradd cychwynnol mewn peirianneg, gweithgynhyrchu uwch, a sgiliau digidol a chyfrifiadura. Mae data o'r nifer sy'n manteisio ar brentisiaethau gradd yn Lloegr yn awgrymu eu bod yn effeithiol wrth annog mwy o fenywod i astudio pynciau STEM. Mae sgiliau digidol yn arbennig o bwysig. Maent yn cael effaith enfawr wrth i dechnolegau newydd gael eu mabwysiadu. Ond mae’r newid yn digwydd yn gyflym. Mae'r sector digidol yn datblygu ar y fath gyflymder fel bod darparwyr addysg yn ei chael hi'n anodd dal i fyny. Rydym yn wynebu her enfawr o ran sicrhau bod hyfforddiant digidol yn gyfredol. Lywydd, mae hyn yn hanfodol os ydym am ateb y galw am weithwyr sy'n meddu ar sgiliau digidol, yn enwedig mewn meysydd arbenigol fel seiberddiogelwch. Mae lefel medrusrwydd digidol pobl yn prysur ddod yn brif anfantais i'w pwerau ennill. Amcangyfrifodd banc Barclays y gall meddu ar sgiliau digidol ychwanegu £11,500 ychwanegol y flwyddyn at botensial ennill cyflog rhywun yng Nghymru.
Ledled Cymru, mae 49 y cant o gyflogwyr wedi dweud mai cyflwyno technolegau newydd a ffyrdd newydd cysylltiedig o weithio yw'r ffactor unigol pwysicaf sy'n cyfrannu at y bylchau sgiliau y maent yn eu profi. Ddirprwy Lywydd, gwn fod arweinydd y blaid gyferbyn wedi dweud yn ddiweddar ei fod yn mynd i godi cyflogau is i £10 yr awr i bob gweithiwr, ond nid wyf yn credu ei bod hi’n deg—fod rhai o dan 16 neu 17 oed yn cael yr un math o gyflog ag y mae pobl yn ei ennill ar ôl cael sgiliau a hyfforddiant. Rwy'n credu eich bod yn rhoi’r ceffylau a’r asynnod gyda’i gilydd ac yn sicr nid dyna’r ffordd gywir o fynd ati i ddatblygu'r economi yn y wlad. Felly, yn y bôn, dylai fod ymchwil gwych. Rwy'n eithaf hapus i ddeall y bobl sydd wedi cydnabod yr ymennydd ac—. Mae dwy ffordd o weithio: gyda’r ymennydd a'r dwylo. Pan fyddwch chi'n defnyddio'r rheini, gallwch greu economi sydd o fudd i’r wlad yn y dyfodol. Ond os ydych chi'n ei roi i gyd gyda’i gilydd heb sgiliau, nid wyf yn credu y cyrhaeddwch chi unman. Diolch.
Rwy’n croesawu’r ddadl hon yn fawr. Aeth fy mhwysedd gwaed i fyny ychydig yn ystod cyfraniad Mark, felly byddwch yn deall os cyfeiriaf rai o fy sylwadau agoriadol yn uniongyrchol at Mark.
Yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud y buaswn bob amser am gael Llywodraeth sy'n ceisio bod yn bartner gweithredol mewn twf economaidd, nid yn wyliwr heb ddiddordeb; un sy'n ceisio gweithio gydag undebau a chyflogwyr, busnesau mawr a bach a sefydliadau cydweithredol i gynhyrchu nid yn unig twf, ond twf gyda phwrpas cymdeithasol i sicrhau economi deg sy'n gweithio i bawb, nid i rai yn unig—a lle mae gennym dwf ansoddol, nid twf meintiol yn unig, sy'n sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau carbon, gwell cymunedau ac enillion amgylcheddol, yn ogystal â dosbarthu twf yn fwy cyfartal ar draws y gymdeithas, lle mae gan bawb ran yn y twf hwnnw.
Nawr, yr hyn nad ydw i ei eisiau yw Llywodraeth sy'n sefyll ar y cyrion wrth i gwmni dur fynd i'r wal; Llywodraeth nad yw'n buddsoddi mewn trydaneiddio llawn i Gymru, nac mewn rheilffyrdd yng Nghymru fel y cyfryw; sy'n methu cydnabod a buddsoddi ym mhotensial technoleg y llanw; sy'n rhoi rhwystrau yn ffordd perchnogaeth gyhoeddus neu ddielw ar gwmnïau rheilffyrdd neu ddŵr neu gyfleustodau eraill sy'n darparu lles cyhoeddus—a gweld enghraifft mor ddinistriol o ymagwedd laissez-fair tuag at yr economi.
Edrychwch heddiw ar y newyddion am ddiddymu Dur Prydain, rhywbeth y maent wedi’i gysylltu, gyda llaw, yn uniongyrchol ag effaith lesteiriol yr ansicrwydd yn sgil Brexit a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU unwaith eto wedi methu camu ymlaen i amddiffyn y swyddi hyn i'r carn. A buaswn yn dweud wrthych am gymharu hynny â'r ffordd roedd Llywodraeth Cymru’n gweithio, a’r ffordd y mae’n parhau i weithio’n ddiwyd gyda'r undebau, y gweithlu, perchnogion Tata Steel i'w gwneud yn glir fod Llywodraeth Cymru ar ochr swyddi a chyflogaeth, cadw diwydiant dur yng Nghymru sy'n parhau i fuddsoddi, nid yn unig mewn swyddi a'r gymuned, ond mewn lleihau ynni a charbon ac arloesedd ehangach. Dyna pam rwy’n cefnogi gwelliant y Llywodraeth heddiw. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â rhai o welliannau Plaid Cymru hefyd, ond buaswn yn annog fy nghyd-Aelodau i wrthwynebu'r cynnig yn enw'r Blaid Geidwadol.
Ac mewn ymateb uniongyrchol i rai o sylwadau Mark, am blaid sydd wedi parhau i anwybyddu buddiannau Cymru dro ar ôl tro, ac a oedd yn llywyddu dros niwed strwythurol trawmatig i'r diwydiant, yr economi, cymunedau de Cymru yn y 1980au, a daflodd gyfeillion i mi ar y clwt, a oedd yn methu ymddiheuro ar y pryd, ac sy'n methu gwneud hynny'n awr, dro ar ôl tro, am y niwed y mae hyn yn ei achosi o un genhedlaeth i’r llall—y ciwiau dôl cynyddol, y ffrwydrad yn rhestri cleifion, llethu cyflogau a cholli swyddi medrus iawn, y tlodi dwfn a’r gobeithion a fygwyd dros ddegawdau—. Ac ychwanegwch at hynny lyffethair cyllid cyni, a oedd yn ddewis gwleidyddol, Mark, nid yn angenrhaid. Er gwaethaf sbin diddiwedd y Ceidwadwyr, nid oedd ganddo unrhyw beth i’w wneud â chamreoli Llafur a phopeth i’w wneud â chwymp byd-eang a ddechreuodd yn yr UDA. Ychwanegwch at hynny fethiant Llywodraeth y DU dro ar ôl tro, fel y soniais, i ysgwyddo ei chyfrifoldeb tuag at Gymru. Mae'r niwed i Gymru drwy danfuddsoddi a dadfuddsoddi'r Ceidwadwyr a’r difrod ehangach i Gymru wedi ei sefydlu'n bendant yn y psyche Cymreig, ac yn briodol felly.
Ond gadewch i mi ddweud, 20 mlynedd ar ôl sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y nododd Rhun, mae'n rhaid i ni gydnabod bod angen i ni wneud mwy. A fy mhwynt allweddol i gyd-Aelodau Llafur yn y Llywodraeth yw bod yn rhaid i hyn oll ymwneud â chyflawni, cyflawni, cyflawni—yn ddi-ildio. Mae gennym y cynlluniau mawr ar waith, mae gennym y strategaethau cywir ar waith—bydd angen inni eu haddasu a'u mireinio wrth i ni fwrw ati—ond mae hyn bellach yn ymwneud â chyflawni. Mae'n pwyso’n drwm ar rai o'r polisïau presennol ond yn addasu eraill. Nid oes gennyf amser i fod yn gynhwysfawr, ond gadewch i mi restru rhai meysydd. I fy nghymunedau i, mae angen i dwf cynhwysol a nodwyd yn y cynllun gweithredu economaidd fod yn ddeublyg. Mae angen buddsoddi ar raddfa fawr ac yn gyflym yn y gwelliannau trafnidiaeth gyhoeddus a addawyd i ffyrdd a rheilffyrdd. Ac os bydd mwy o arian ar gael, gwariwch ef ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ymestyn y treialon bysiau, er enghraifft, fel y gall pobl gyrraedd y swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe a Llantrisant a Chaerdydd ac ar hyd coridor yr M4.
Yn ail, mae twf cynhwysol yn golygu darparu'r swyddi hyn yn nes at adref, felly mae hynny'n golygu rhyddhau'r safleoedd posibl, fel safle Cosi/Revlon ym Maesteg sydd wedi bod yn segur ers blynyddoedd. Ac mae'n golygu buddsoddiad a chymorth sylweddol i lwyddiant cynyddol, rhaid i mi ddweud, y sector microfusnesau a busnesau bach yn y Cymoedd—Llynfi, Garw, Ogwr—a rhoi arian cyhoeddus drwy'r contract economaidd newydd i gefnogi caffael lleol yn gyffredinol, o adeiladwyr i gynhyrchwyr bwyd, i gwmnïau cydweithredol gofal plant ac oedolion a llawer mwy. Mae'n golygu bod Banc Datblygu Cymru’n targedu'r ardaloedd daearyddol hyn yn galed i hybu a thyfu busnesau cynhenid, fel y soniodd Suzy, sy'n gwneud y swyddi lleol hynny’n rhai parhaol ac yn rhoi hwb i genedlaethau gwaith lleol. Ac mae'n golygu gweithio gyda'r busnesau bach a chanolig hyn, nid yr enwau arferol yn unig, i ddarparu marchnadoedd allforio yn ogystal â rhai lleol.
A fy mhwynt olaf—oherwydd gallaf weld fy mod yn y parth coch, Ddirprwy Lywydd—mae'n golygu cynyddu'r hyn y bwriadwn ei wneud â pharc rhanbarthol y Cymoedd a sirhau bod iddo arwyddocâd cenedlaethol fel ein bod yn gyrru twristiaeth ac ymwelwyr a chreu swyddi drwy'r parc hwnnw sy’n arwyddocaol yn genedlaethol yn yr ardal i mewn i'r cymoedd hynny. Felly, dyna fyddai fy nghais: nid cynlluniau newydd, nid stwff mawreddog; mae'n ymwneud â chyflawni, cyflawni, cyflawni er mwyn trawsnewid ein cymunedau.
Er ein bod yn cydnabod y bu rhywfaint o gynnydd yn ystod y Pumed Cynulliad, mae hefyd yn wir dweud nad yw'r 20 mlynedd diwethaf o reolaeth Lafur wedi cyflawni ar yr economi yn y ffordd y dylai'r rhai a bleidleisiodd drostynt fod wedi disgwyl. A pheidiwch â gadael i ni anghofio bod Llywodraeth Lafur yn San Steffan, yn ogystal â Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru, am 13 o’r 20 mlynedd hynny.
Er i ni dderbyn biliynau o bunnoedd o arian yr UE, fel y’i gelwir—sef ein harian ni'n dychwelyd i ni gydag amodau wedi’u cysylltu wrtho wrth gwrs—mae'r ffaith ein bod yn dal i fod â 25 y cant a mwy o'n poblogaeth yn byw mewn tlodi yn sicr yn ddangosydd dramatig fod strategaethau economaidd blaenorol Llywodraeth Cymru wedi methu i raddau helaeth. Y broblem, wrth gwrs, yw bod y rhan fwyaf o'r arian wedi mynd i'r sector cyhoeddus. Ac yn y sector cyhoeddus y gwelsom y cynnydd mwyaf mewn cyflogaeth. Er bod y swyddi ychwanegol hyn wedi bod yn angenrheidiol mewn rhai achosion, ac yn hanfodol yn wir, ceir llawer ohonynt nad ydynt yn ddim mwy nag ehangu biwrocratiaeth a chwangos diangen. Os yw Cymru am wella ei pherfformiad ar ehangu'r sector preifat a dangosyddion economaidd fel cynhyrchiant, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ehangu'r sector preifat yng Nghymru. Ni allwn fforddio 20 mlynedd arall o brosiectau aflwyddiannus fel Cymunedau yn Gyntaf, a lyncodd dros £400 miliwn yn ei 18 mlynedd o fodolaeth, heb fawr ddim effaith ar economi Cymru os o gwbl. Pe bai £1 filiwn wedi’i roi i 400 o entrepreneuriaid profedig gyda’r gwiriadau ac archwiliadau angenrheidiol, ni all rhywun ond dyfalu faint o swyddi go iawn y gellid bod wedi’u creu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wrth gwrs, ceir arwyddion gwirioneddol fod y Llywodraeth yn symud i'r cyfeiriad iawn—pethau fel dod ag Aston Martin i Gymru a datganiad Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar ei ymdrechion i sefydlu'r ganolfan fyd-eang ar gyfer rhagoriaeth rheilffyrdd. Ond mae lle enfawr i wella. Rydym yn dal yn agos at y gwaelod o ran ein sector ymchwil a datblygu o gymharu â gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. Tynnwyd sylw at y ffigurau gan Mark yn gynharach. Ymchwil a datblygu yw'r sbardun ar gyfer ehangu masnachol ac mae angen i'r Llywodraeth Lafur gynyddu ei chyllid yn ddramatig yn y maes hollbwysig hwn ar gyfer twf economaidd. Edrychwn ymlaen at newid sylweddol yn ymrwymiad y Llywodraeth Lafur i ehangu'r sector preifat yng Nghymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r rhan fwyaf o’r Aelodau am y daith hwyliog honno drwy faes yr economi yng Nghymru.
Pe baem wedi dweud wrth y rhai yn y Siambr y prynhawn yma a oedd yma 20 mlynedd yn ôl y byddai cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru bellach yn gymharol debyg i rai gweddill y DU bellach, rwy’n credu y byddent wedi meddwl bod hwnnw’n gyflawniad sylweddol. Pe baem wedi dweud wrthynt 20 mlynedd yn ôl y byddwn wedi haneru cyfran y bobl o oedran gweithio heb gymwysterau yng Nghymru, byddent wedi meddwl bod hwnnw’n gyflawniad eithaf da. Rwy’n credu hefyd y byddent wedi bodloni ar ein gweld yn cynyddu cyfran y cymwysterau addysg uwch yn sylweddol, a mwy o fentrau gweithredol nag erioed o'r blaen. Byddent wedi meddwl ei fod yn gyflawniad rhesymol fod gennym bellach, yn 2019, 300,000 yn fwy o bobl mewn swyddi yng Nghymru nag a oedd 20 mlynedd yn ôl.
Ond o dan y ffigurau hynny erys anawsterau a heriau yn economi Cymru—nid oes neb yn gwadu hynny, ac yn sicr nid wyf am wrando ar bregethau neb yn y Siambr hon am ddiffyg uchelgais ynglŷn â hynny. Ond yn hytrach na'r ystrydebau blinedig a’r sgorio pwyntiau pleidiol, rwy’n credu y byddai'n fwy defnyddiol pe baem yn treulio amser yn y dadleuon hyn yn canolbwyntio ar broblemau penodol sydd gennym a cheisio dod o hyd i atebion gyda'n gilydd, oherwydd mae’n rhy hawdd taro allan.
Mwynheais yn arbennig Rhun ap Iorwerth yn dyfynnu ei hun fel newyddiadurwr ifanc 20 mlynedd yn ôl ar sut y caiff datganoli ei farnu yn ôl llwyddiant economi Cymru. Rwy’n llawer rhy ostyngedig i ddyfynnu fy hun pan oeddwn yn newyddiadurwr ar berfformiad—
A ydych chi'n derbyn ymyriad?
—ar berfformiad datganoli.
A ydych chi'n derbyn ymyriad?
Nid wyf wedi symud ymlaen yn bell iawn, ond rwy’n fodlon derbyn ymyriad.
Na, rwy'n sylweddoli—. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad ychydig yn ddiweddarach. Yn eich sylwadau agoriadol, fe ddywedoch chi eich bod yn meddwl y byddai pobl Cymru yn ddigon hapus fod Cymru wedi dal i fyny â gweddill y DU. A ydych chi'n siŵr nad yw hwnnw'n uchelgais braidd yn isel, pan ddylem fod wedi defnyddio cyfle datganoli i wneud i Gymru godi i’r entrychion ac nid dim ond dal i fyny'n hwyr iawn â gweddill y DU?
Mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedais oedd fy mod yn credu y byddai'r Aelodau a oedd yma 20 mlynedd yn ôl wedi derbyn rhai o'r cyflawniadau hyn fel cyflawniadau rhesymol o ystyried ein man cychwyn o 100 mlynedd o ddirywiad economaidd. Nid oes dadl ynglŷn â’r heriau a fynegwyd gan lawer o’r Aelodau drwy'r ddadl. Mae Cymru’n parhau i fod yn economi wael. Mae gennym nifer o heriau. Nid yw hyn yn rhywbeth yr ydym yn galonnog yn ei gylch.
Ond a gaf fi dynnu sylw'r Ceidwadwyr at y ffaith nad yw'r ysgogiadau macroeconomaidd ar gyfer newid economaidd i’w cael yn y fan hon? Mae gennym rai pwerau dros ddatblygu economaidd, ond nid yw'r pwerau go iawn i gael gwared ar dlodi, y pwerau go iawn i wella cynhyrchiant, y pwerau go iawn i godi’r cynnyrch domestig gros yma, maent yn San Steffan. Mae Llywodraeth y DU wedi gorfodi naw mlynedd o gyni arnom ni, ac mae'n ffaith pe bai ein cyllideb wedi cynyddu yn unol ag economi'r DU ers 2010, byddai gennym £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi bellach—£4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi. Felly, credaf y byddai'n dangos ychydig o ostyngeiddrwydd pe bai'r blaid ar y meinciau gyferbyn yn cydnabod yr heriau a’n hwynebodd, yn enwedig methiant Llywodraeth y DU, sydd wedi'r cyfan yn gyfrifol am economi'r DU yn ei chyfanrwydd, i gyflawni'r prosiectau mawr a addawyd ganddynt: diddymu trydaneiddio rheilffyrdd—nid ydym yn mynd i adael i chi anghofio hynny'n gyflym; y methiant i gyflawni’r morlynnoedd llanw, er gwaethaf consensws yn y Siambr hon; atal prosiect Wylfa. Nid yw’r buddsoddiad a addawyd gan Lywodraeth y DU sydd â chyfrifoldeb dros bob rhan o'r DU wedi cael ei wireddu.
Er gwaethaf hyn, rydym wedi gwneud nifer o fentrau i geisio symud y deial ac fel y dywedais eisoes, cafwyd llwyddiannau go iawn, ond erys heriau gwirioneddol. Soniais am y ffaith bod mwy o bobl bellach mewn cyflogaeth yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ond mae'n dal yn wir fod 40 y cant o bobl mewn gwaith yn byw mewn tlodi. Nid yw dyfynnu ffigurau lefel uchel yn dweud wrthym beth yw gwir gymhlethdod y darlun a'r heriau sy'n ein hwynebu. Felly, mae angen inni gael dull newydd o weithredu sy'n edrych ar ansawdd gwaith, gwaith teg, ac sy’n edrych hefyd ar sylfeini ein heconomi, yn enwedig yn y rhannau o Gymru rwy'n eu cynrychioli ac y mae llawer o fy nghyd-Aelodau yma yn eu cynrychioli, ardaloedd nad ydynt wedi mwynhau manteision masnach rydd a globaleiddio ac sydd wedi teimlo'r boen sy’n deillio o’r pethau hyn, ac fe adlewyrchwyd hynny yn fy marn i bron i dair blynedd yn ôl bellach yng nghanlyniad y refferendwm ar Brexit.
Yn hytrach na mynd ati’n obsesiynol, fel y mae Plaid Geidwadol San Steffan yn ei wneud—a’r prynhawn yma, darllenais ar Twitter eu bod ar fin cael gwared ar eu Prif Weinidog. Byddai’n llawer gwell iddynt fynd i'r afael ag achosion Brexit, pam roedd pobl ledled Cymru'n teimlo nad oedd y system economaidd yn gweithio iddynt hwy, a dyna mae’r Llywodraeth hon yn ceisio'i wneud. Mae'n ceisio cyflawni canlyniad y refferendwm, ond ochr yn ochr â hynny, mae’n ceisio mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol a arweiniodd at wneud i gymaint o bobl deimlo nad oedd ganddynt gyfran yn yr economi.
A dyna'n union y ceisiwn ei wneud drwy'r economi sylfaenol—gweithio ar draws ystod o feysydd. Roedd yn ddrwg gennyf glywed David Rowlands yn diystyru'r buddsoddiad yn y sector cyhoeddus a welsom yn yr 20 mlynedd ddiwethaf fel swyddi sy’n annheilwng rywsut, ond mae angen inni ddefnyddio'r rhain oherwydd, mewn sawl rhan o Gymru, maent yn dal i fod yn sefydliadau angori sydd bob amser yn mynd i fod yno oherwydd bod y bobl yn y cymunedau hynny eu hangen yno, a dylem ganolbwyntio ar sut i sicrhau’r gwerth mwyaf posibl o'r swyddi a'r sectorau hyn yn y rhannau hynny o Gymru. Dyna'n union a wnawn, gan weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus, i gymhwyso'r gwersi y maent wedi'u dysgu trwy gaffael yn Preston, er enghraifft, ond hefyd drwy arbrofi. Rydym wedi lansio ein cronfa arbrofi economi sylfaenol £3 miliwn, y gobeithiaf y bydd dinas-ranbarth Caerdydd yn ychwanegu ati gyda'u gwaith eu hunain ar yr economi sylfaenol hefyd. Dyma faes lle gallwn dreialu pethau sy'n gwella ansawdd cyflogaeth ond sydd hefyd yn gwella'r cyfoeth mewn ardal fel na fydd yn gollwng ohoni.
Ni allaf nodi’r holl bwyntiau a godwyd yn y ddadl y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd, ond hoffwn ddweud bod ein ffocws ar dwf cynhwysol ar flaen ein meddyliau. Rhestrodd Huw Irranca -Davies amrywiaeth o bethau yr hoffai eu gweld, ac ni chaf unrhyw anhawster i gytuno ag unrhyw un ohonynt. Ar ei bwynt ynglŷn â datblygu busnesau bach a microfusnesau yn y Cymoedd yn benodol, rydym ar hyn o bryd yn treialu dull newydd o weithredu lle rydym yn gweithio gyda'r busnesau sydd wedi'u gwreiddio yn yr ardaloedd hynny i helpu ei gilydd. Rydym yn treialu rhaglen fentora busnes rhwng cymheiriaid i brif weithredwyr ac arweinwyr rhai o'r busnesau hynny yn y Cymoedd i helpu ei gilydd ac, os yw honno'n llwyddiannus, rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gallwn ei gyflwyno.
Rwy’n credu fy mod am ei gadael hi yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd, o ystyried yr amser. Afraid dweud fy mod yn gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi gwelliant y Llywodraeth, a fi yw'r cyntaf i gyfaddef bod llawer mwy y gallwn ei wneud. Nid ydym yn brin o uchelgais, ond mae'r amgylchiadau sy'n cael eu gorfodi arnom o San Steffan, lle mae Brexit caled yn dal i edrych yn fwy tebygol na dim arall, yn mynd i wneud y dasg honno'n anos.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl lawn ac adeiladol at ei gilydd, gydag ambell fflach o ddicter pleidiol, ond pan fyddwn yn dadlau ynghylch yr economi, rwy'n credu y dylai fod yna deimlad go iawn, felly efallai nad oes drwg yn hynny. Agorodd Russell George y ddadl fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, rwy’n credu, gan rywun ag awdurdod mawr ar y themâu hyn, gan siarad fel Ceidwadwr deallus, ond hefyd fel Cadeirydd pwyllgor yr economi yma ac sy’n gallu estyn allan a thynnu sylw at y meysydd lle mae pawb ohonom yn sicr yn cytuno. Ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, byddem wedi disgwyl mwy o gynnydd. Roedd yn hael iawn wrth edrych ar gynllun gweithredu economaidd diweddaraf Llywodraeth Cymru. Hynny yw, bûm i yma ers 20 mlynedd ac rwy'n gwybod y bu sawl ymdrech yma yn y gorffennol, ond dywedodd fod gan y cynllun hwn fwy o uchelgais ond bod arnom angen mwy o fanylion. Felly, ymagwedd gytbwys iawn, y credwn ei bod yn gosod y cywair iawn ar gyfer y ddadl hon.
Siaradodd Rhun am ei amser 20 mlynedd yn ôl fel newyddiadurwr ac yna'n ddiweddarach gwnaeth y Dirprwy Weinidog ryw lun o ymateb gyda’i atgofion ei hun o'i ddyddiau ifanc fel newyddiadurwr. Credaf fod pobl drwy gydol y ddadl wedi myfyrio ar yr hyn a gâi ei drafod 20 mlynedd yn ôl o ran: gallem ganiatáu i'r egni economaidd y gwyddom ei fod gan bobl Cymru gael ei ryddhau a'i wella'n fwy effeithiol gan ein polisïau ein hunain, ac nid dyna'n hollol a ddigwyddodd. Soniodd am yr angen am uwchgynhadledd economaidd. Fe wrandawn ar hyn. Gwn fod Ieuan Wyn Jones yn frwd iawn ynglŷn ag ymagwedd o’r fath pan oedd yr argyfwng ariannol ar ei waethaf. Ac roedd peth rhinwedd yn perthyn i’r syniad, ond rwy'n credu bod angen i ni sicrhau mai'r camau gweithredu a'r polisïau sy'n dod o fforymau o'r fath sy’n bwysig mewn gwirionedd. A soniodd am Brexit mewn perthynas â Chymru. Nid Brexit oedd prif fyrdwn y ddadl, er syndod i mi braidd. Cafodd sylw unwaith neu ddwy gan rai o’r siaradwyr. Ond fe wnaeth bwynt y credaf y byddai pawb yn cytuno ag ef, sef y polisi rhanbarthol y bydd yn rhaid ei drafod yn awr ar sail y DU. Mae'r gronfa ffyniant gyffredin a sut y caiff ei llywodraethu a’i chyllido yn bwysig iawn, ac rwy’n gobeithio y down i gytundeb o amgylch y Siambr fod yn rhaid inni sicrhau bod Cymru'n cael mynediad effeithiol at y polisi hwnnw, o ran ei lunio yn ogystal â'r arian a allai ddod ohono. Fe ildiaf, yn anesmwyth braidd, ond—.
Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnewch chi gytuno â mi ei bod yn warthus, yng nghanol y cwestiynau difrifol am ddyfodol economi Cymru a'n hangen am y gronfa ychwanegol honno ar hyn o bryd, fod Llywodraeth y DU wedi oedi cymaint cyn bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad?
Wel, mae'n amlwg yn waith sy’n mynd rhagddo, ac mae angen meddwl o ddifrif am faterion sy'n ymwneud â chydlywodraethu, oherwydd mae angen iddynt fod yn drylwyr ac yn annhebyg i ddim a gawsom o’r blaen mewn gwirionedd, yn ein strwythur mewnol ac o ran sut y mae'r gwahanol Lywodraethau yn yr undeb yn gweithredu. Felly, buaswn yn eich annog i fod yn amyneddgar, ond nid wyf yn diystyru pwysigrwydd y mater.
Dywedodd Suzy fod angen i ni fod yn fwy beiddgar a dewr. Roeddwn yn meddwl fod hwnnw’n ddisgrifiad da, yn wir, o gyfraniadau llawer o bobl—roedd hynny i’w glywed yn bendant—ac ni ddylai’r methiant hwnnw atal pobl rhag rhoi cynnig arall arni mewn perthynas â’r economi. Hynny yw, mae’n amlwg fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati’n frwdfrydig ar hyn wrth baratoi eu cynllun gweithredu economaidd diweddaraf, a gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus iawn. Dywedodd Suzy fod twf economaidd yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a'r DU weithio'n fwy effeithiol mewn partneriaeth, a dywedodd y Gweinidog yn deg mai Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau economaidd mwyaf yn ei meddiant, ond mae angen gweithio mewn partneriaeth er budd y pobl Cymru.
Fel arfer, gwnaeth Mike Hedges gyfraniad rhagorol lle cyfunodd sosialaeth asgell chwith gadarn ag awydd gwirioneddol i weld economi'r farchnad yn gweithio'n fwy effeithiol a phwysleisio'r sgiliau sydd angen inni eu gweld yn llifo drwy'r economi a’u hyrwyddo er mwyn inni gael mwy o swyddi proffesiynol a swyddi rheoli sy’n talu’n well. Ac yna siaradodd yn frwd iawn, rwy’n meddwl, am y diwydiannau creadigol, yn enwedig animeiddio a rhestr o gymeriadau cartŵn, a chredwn fod y Dirprwy Weinidog wedi dangos diddordeb arbennig ar y pwynt hwnnw.
Yna aeth Mark â ni'n ôl at y dewisiadau a wynebir yn anochel ar faterion economaidd, a wyddoch chi, mae yna dîm glas ac mae yna dîm coch, ac mae'n deg ein bod yn myfyrio ar y dehongliadau amrywiol o ddata economaidd sydd gennym, ond mae yna rai ffigurau mawr yno ar berfformiad economi'r DU, ac nid yw ein heconomi’n perfformio cystal—ac mae'n broblem i ni i gyd. Nid wyf yn beio neb yn arbennig; rwyf eisoes wedi dweud bod angen i ni weithio mewn partneriaeth. Ond mae cynhyrchiant isel yn broblem go iawn ac mae'n rhywbeth y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohono.
Siaradodd Mohammad am y bwlch sgiliau, ac unwaith eto rwy'n credu mai dyna'r rheswm pennaf mae'n debyg pam fod gennym gynhyrchiant is nag y byddem yn ei ddymuno, a phwysleisiodd yr angen gwirioneddol i edrych ar sgiliau digidol fel rhai allweddol i sicrhau cyflogau gwell i bobl.
Roedd Huw Irranca yn bendant yn y gornel goch. Hynny yw, Ddirprwy Lywydd, daeth i ben yn y parth coch, ond credaf iddo ddechrau yn y parth coch hefyd. Roeddwn yn cytuno ag ef fod hyn bellach, ar ôl 20 mlynedd, yn ymwneud â chyflawni. Wel, dylai fod wedi ymwneud â chyflawni o’r cychwyn, ond o leiaf rydym yn cyrraedd y pwynt pan fo hyd yn oed yr Aelodau sy'n cefnogi'r Llywodraeth yn awyddus i weld mwy o gyflawni. Ac fe wnaeth bwynt da iawn y gall y sector microfusnesau a busnesau bach yn y Cymoedd fod yn sbardun economaidd allweddol.
David Rowlands. Hynny yw, nid wyf yn cytuno ag ef ychwaith o ran 'Sector cyhoeddus drwg; sector preifat da,' ond mae angen ail-gydbwyso yn yr economi, ac mae angen sector preifat mwy o faint, felly rwy'n sicr yn cytuno â chi ar hynny.
Ac yna daeth y Gweinidog i ben trwy fyfyrio ar rai o'r cyflawniadau, ac roedd hynny'n bwynt teg. Nid ydym am fod yn rhy ddigalon ein hunain pan fyddwn yn ceisio cynyddu uchelgais pobl Cymru a'n gwneud yn lleoliad mwy deniadol ar gyfer buddsoddi, ond hynny yw, gyda'r negeseuon cadarnhaol, ynghylch gweithgarwch economaidd uwch ac yn gyffredinol, rydym yn fwy medrus nag yr oeddem 20 mlynedd yn ôl ac mae lefelau cyflogaeth yn uwch. Mae'r rhain yn gyflawniadau go iawn ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o hynny, heb unrhyw amheuaeth. Ond wyddoch chi, mae'r heriau sydd yno yn parhau, fel y nododd Mark, ac maent yn ddwfn yn ein heconomi. Mae arnom angen mwy o arloesedd. Mae arnom angen mwy o risg, ac mae angen i ni wynebu penderfyniadau mawr, gan fod gennym bŵer i godi trethi yn awr, o ran sut y byddwn yn cynhyrchu’r math o economi y mae sgiliau a galluoedd pobl Cymru yn ei haeddu. Ond diolch i’r holl Aelodau am ddadl fywiog at ei gilydd.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly fe ohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Rwy’n bwriadu symud ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio oni bai bod tri Aelod yn y Siambr yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Nac oes? Felly fe symudwn ymlaen i bleidleisio.