– Senedd Cymru am 4:27 pm ar 11 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynglŷn â goblygiadau cynigion mewnfudo Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r economi ehangach. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhoddais ddatganiad ichi wythnos diwethaf ynglŷn â Brexit a'r effaith niweidiol y mae'r parlys gwleidyddol a'r ansicrwydd parhaus yn ei chael ar yr economi. Rwy'n dra ymwybodol y bydd dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn arbennig sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru yn teimlo yn ansicr iawn. Rydym ni wedi bod yn glir bob amser ein bod ni'n cydnabod y cyfraniad amhrisiadwy y mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud i’n heconomi a’n cymdeithas, ac y dylai unrhyw bolisi mewnfudo newydd gael ei adeiladu ar y sail hon.
Rwy'n gwybod bod canlyniad refferendwm 2016 ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd wedi creu cryn ansicrwydd i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru. Hoffwn fod yn glir bod arnom ni eisiau i wladolion o'r UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw aros yma. Bydd croeso iddyn nhw yma bob amser. Ein neges iddyn nhw fel Llywodraeth yw, 'Rydym ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad at fywyd Cymru, ein heconomi, ein gwasanaethau cyhoeddus, ein cymunedau, a bydd croeso i chi yma bob amser.' Rydym ni, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i warchod buddiannau gwladolion yr UE yng Nghymru, yn y DU, ac i sicrhau y bydd ganddyn nhw'r un hawliau ag sydd ganddyn nhw heddiw.
Ym mis Medi 2017, fe wnaethom ni gyhoeddi 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'. Roedd y ddogfen hon yn edrych ar ran ymfudo yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, ac roedd yn dadansoddi'r modelau posib y gallai Llywodraeth y DU eu mabwysiadu ar gyfer system ymfudo yn y dyfodol, ac effaith bosibl y rhain yng Nghymru. Yn seiliedig ar y dystiolaeth honno, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhagweithiol o ran ceisio cyfrannu a llywio'r gwaith o ddatblygu polisi ymfudo yn y DU, gan bwysleisio pwysigrwydd a manteision ymfudo i Gymru. Hoffwn fod wedi gallu dweud bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y cynigion a gyflwynwyd gennym ni, ac wedi gallu ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, nid yn unig o Gymru ond ledled y DU. Ond yn anffodus rydym ni'n gwybod nad yw hyn yn wir.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr y llynedd yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer mewnfudo ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fu unrhyw ymgysylltu blaenorol gyda Llywodraeth Cymru, er gwaethaf sicrwydd blaenorol y byddai hyn yn digwydd. Mae'r cynlluniau yn y Papur Gwyn yn anwybyddu pwysau'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo ynghylch yr effaith negyddol ar yr economi o fabwysiadu ymagwedd fwy cyfyngol at ymfudo. Mae gwaith a gomisiynwyd gennym ni gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, y byddaf yn cyfeirio ato'n fanylach yn y man, wedi cadarnhau ei bod hi'n briodol ein bod ni'n parhau i bryderu'n ddirfawr am y dull gweithredu hwn, sydd yn gyfyngol iawn ac a fydd yn sicr o gael effaith andwyol ar economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' fe wnaethom ni gynnig ffordd o fynd i'r afael ag ymfudo oedd yn hyblyg ond wedi'i rheoli, lle byddai pobl o Ewrop yn gallu symud i'r DU pe bai ganddyn nhw gynnig swydd blaenorol neu pe bai ganddyn nhw'r gallu i ddod o hyd i swydd yn gyflym. Fe wnaethom ni ddadlau y dylai'r ymagwedd gymharol agored hon at ymfudo gael ei hategu gan orfodaeth lem ar ddeddfwriaeth i atal camfanteisio ar weithwyr a thanseilio cyflogau ac amodau, wrth gefnogi ein heconomi. Fe wnaethom ni osod fframwaith rhesymegol ar gyfer ymfudo y credem ni y byddai nid yn unig yn diwallu anghenion Cymru, ond a fyddai hefyd yn gweithio dros y DU gyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i'n cynigion, mae'r Papur Gwyn yn cynnig cyflwyno un system fewnfudo a fydd yn rhoi terfyn ar ryddid i symud a'r driniaeth ffafriol a gaiff dinasyddion yr UE. Bydd yn rhaid i ddinasyddion yr UE a dinasyddion nad ydynt yn aelodau o'r UE sydd eisiau dod i'r DU i weithio fel arfer wneud cais am fisa, ac ni fydd y rhai sy'n ennill llai na throthwy cyflog yn gymwys. Yn y Papur Gwyn, mae'r Llywodraeth yn awgrymu y gallai'r trothwy gael ei bennu ar £30,000, er nad yw hynny eto, diolch byth, yn bolisi sefydledig.
Effaith y cynigion hynny fyddai lleihau ymfudiad o'r UE i'r DU yn sylweddol. Byddai'r newidiadau'n effeithio nid yn unig ar yr hyn y mae'r Papur Gwyn yn ei alw'n weithwyr 'sgiliau isel' a'u cyflogwyr—byddai'n debygol o effeithio hefyd ar y rheini â sgiliau canolraddol, er enghraifft nyrsys, rheolwyr gofal ac eraill. A dylwn ddweud nad ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn dymuno disgrifio gweithwyr sy'n gwneud gwaith yr ydym ni'n dibynnu arno fel rhai 'sgiliau isel'. Credwn fod gweithwyr â phob math o sgiliau yn ychwanegu gwerth i'n cymdeithas ac i'n heconomi.
Er mwyn mynd i'r afael â nifer o bryderon ynghylch cynlluniau Whitehall ar gyfer mewnfudo, roedd yn hanfodol ein bod yn casglu tystiolaeth ynghylch pa mor ddifrifol fyddai'r effeithiau. Ac felly, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ystyried sut y byddai'r system fewnfudo arfaethedig yn effeithio ar Gymru. Roedd hyn yn cynnwys archwilio effaith atal gweithwyr tramor rhag aros yn y DU am fwy na blwyddyn os ydyn nhw'n ennill llai na £30,000. Cyhoeddodd canolfan Cymru ei hadroddiad ym mis Mawrth ac, yn anffodus, ni wnaeth dim ond cadarnhau ein hofnau na fyddai cynigion Llywodraeth y DU o ran ymfudo yn gwneud dim i helpu cyflogwyr a byddai'n ergyd drom i economi Cymru. Byddai cynlluniau'r Llywodraeth yn cael effaith wirioneddol ar y sectorau preifat a chyhoeddus. Byddai'r effaith ar Gymru'n fwy anghymesur na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, o ran nifer y bobl sy'n ymfudo i gael gwaith, ac mae amcangyfrif y byddai cynnyrch domestig gros yng Nghymru yn gostwng rhwng 1 y cant a 1.5 y cant dros 10 mlynedd.
Rwy'n bryderus iawn y byddai system fewnfudo mor gyfyngol ar ôl Brexit yn arwain at brinder sgiliau gwirioneddol yn ein sectorau economaidd allweddol. Er enghraifft, mae gennym ni eisoes nifer fawr o ddinasyddion yr UE yn gweithio yn y sectorau prosesu bwyd a hylendid bwyd. Mae gennym ni hefyd sectorau eraill dan fygythiad ac sy'n wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff, megis gofal cymdeithasol a gweithgynhyrchu. Mae'r galw am ofal yn cynyddu, ac mae gweithgynhyrchu'n dibynnu'n helaeth ar weithwyr o'r UE. Nid cyfyngu ar fynediad i lafur o'r UE yw'r ateb. Nid agwedd arall ar y Papur Gwyn yw'r ateb ychwaith, yr ymddengys ei bod wedi'i chyflwyno ar y funud olaf mewn ymgais ofer i dawelu meddyliau cyflogwyr—y cynnig i gyflwyno cynllun gweithwyr dros dro, a fyddai'n galluogi i unigolion o rai gwledydd weithio yn y DU am 12 mis yn unig, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddyn nhw adael. Dirprwy Lywydd, onid yw hi'n amlwg nad cynllun o'r fath yw'r ateb o gwbl i brinder sgiliau a llafur mewn sectorau megis gofal cymdeithasol, lle mae arnom ni angen lleihau ac nid cynyddu trosiant staff. Byddai cynllun o'r fath yn anfoesol ac yn aneffeithiol.
Ar y llaw arall, rydym ni'n glir, os a phan fyddwn ni'n gadael yr UE, y byddwn yn parhau i fod ag angen polisi ymfudo sy'n caniatáu i Gymru ddenu'r math priodol o weithwyr i bob maes, boed hynny'n iechyd, gofal cymdeithasol, twristiaeth, addysg uwch neu gynhyrchu bwyd. Nid wyf eisiau gweld nyrsys, meddygon iau, a gweithwyr eraill sydd eisiau gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n diwydiannau yn ei chael hi'n fwy anodd ac yn llai deniadol i ddod i Gymru yn y dyfodol. Ac nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chwtogi ar hawliau i'r rhai sydd eisiau dod i'n gwlad, mae cyflogwyr Cymru yn poeni'n ddigon teg a fyddant yn gallu recriwtio a chadw gweithwyr o'r UE. Mae cynaliadwyedd eu busnesau'n dibynnu'n aml ar y gweithwyr hynny o'r UE, yn ogystal â sicrwydd swyddi gweithwyr Cymru yn y busnesau hynny.
Hyd yn oed i'r swyddi hynny sy'n talu cyflogau sy'n uwch na'r trothwy cyflog, bydd beichiau newydd. Ar hyn o bryd, mae ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn rhoi ychydig iawn o faich gweinyddol ar weithwyr, ar gyflogwyr, neu ar Lywodraeth y DU—mae pasbort neu gerdyn adnabod yn ddigonol i brofi eich bod yn dod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir—ac nid oes costau uniongyrchol o ran mewnfudo. Yn dibynnu ar y system a weithredir a faint o reolaeth sydd, bydd beichiau ariannol a gweinyddol ychwanegol amrywiol. Mae'r peryg y caiff y costau hyn eu hehangu i gynnwys dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn creu baich sylweddol a chostus ar fusnesau ac mae'n sicr o atal twf yn y DU. Yn fwy cyffredinol, mae peryglon niferus yn ymwneud â gweinyddu, gweithredu a gorfodi unrhyw system newydd.
Fel yr eglurais yr wythnos diwethaf, safbwynt Llywodraeth Cymru yw ymgyrchu dros refferendwm ac aros yn yr UE. Ond os ydym ni'n mynd i adael, mae'n hanfodol ein bod yn perswadio Llywodraeth y DU y byddai eu polisi ymfudo dim ond yn dwysáu'r niwed bwriadol y maen nhw'n ei achosi i economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae arnom ni angen dull hyblyg, rheoledig, o ymdrin â mewnfudo sy'n deg ac sy'n gallu cyfrannu at ein ffyniant.
Fel y mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ei gwneud hi'n glir, os oes rhaid i'r DU gael trothwy cyflog o gwbl, dylai fod yn llawer llai, efallai yn £20,000. Nid yr ateb yw cynnig rhoi rhestr ar wahân i Gymru, fel yr Alban, ar gyfer swyddi lle ceir prinder, er bod hynny i'w groesawu, os yw galwedigaethau ar y rhestr, fel sy'n wir ar hyn o bryd, yn dal i fod yn ddibynol ar yr un trothwy cyflog. Yn wir, mae'r holl gysyniad o restr swyddi lle mae prinder, fel y mae adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, dyddiedig 29 Mai, yn dangos yn glir, dim ond yn gwneud synnwyr mewn sefyllfa lle mae cyfyngiadau rhifol ar nifer y fisâu sydd ar gael—un agwedd fileinig o'r system bresennol nad yw'r Papur Gwyn yn cynnig ei efelychu ar ôl Brexit.
Dirprwy Lywydd, i gloi, rhaid inni gael polisi ymfudo teg ar waith, un sy'n amddiffyn dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw ac sy'n sicrhau y diwellir ein hanghenion yn y farchnad lafur yn y dyfodol. Dylai unrhyw drothwy cyflog fod yn llawer llai na £30,000. Mae cefnogaeth eang i wneud hyn, yn ogystal â sicrhau bod y system newydd mor hyblyg ac mor hawdd ei defnyddio â phosib. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n dal i gael ei gweld fel lle deniadol i fyw ac i weithio a'n bod yn dal yn genedl groesawgar. Mae fy swyddogion yn cymryd rhan mewn proses ymgysylltu 12 mis gyda'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, lle mae gwahanol agweddau ar y Papur Gwyn ar fewnfudo yn cael eu trafod bob mis. Byddaf yn parhau i wneud mwy o waith ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref, ar lefel weinidogol ac yn swyddogol, a byddaf yn parhau i sicrhau y dadleuir yn drwyadl dros yr hyn sydd orau i Gymru a'n pobl.
Mae'n amlwg iawn i mi fod y gallu i reoli mewnfudo yn rhywbeth oedd ar feddyliau llawer o bobl wrth bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym Mehefin 2016. A hyd yn oed ymhlith y rhai a bleidleisiodd dros aros, roedd llawer o bobl o hyd a oedd yn pryderu am yr hyn a ystyriant yn fewnfudo anghynaladwy i'r DU, ac, wrth gwrs, roedd rhai o'r pryderon hynny i'w gweld ymysg pobl Cymru hefyd. Yn wir, mae arolwg agweddau cymdeithasol Prydain yn awgrymu bod 86 y cant o'r ymatebwyr yng Nghymru yn credu y dylid lleihau mewnfudo, ac mae hynny'n fwy nag ar draws y DU yn gyffredinol. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn flaenllaw ym mhob un o'n meddyliau wrth inni ystyried y mater hwn o fewnfudo.
Fel chithau, mae fy mhlaid wedi'i gwneud hi'n glir iawn, er ei bod yn awyddus i sicrhau bod gennym ni'r gallu i reoli ein ffiniau ein hunain a bod gennym ni ein polisi mewnfudo ein hunain, fod yn rhaid inni wneud hynny gan gydnabod cyfraniad aruthrol mewnfudo yma yng Nghymru a'r DU yn ehangach dros y blynyddoedd, sydd wedi cyfoethogi ein cymunedau ac, yn wir, dod â sawl persbectif newydd, gwahanol i fywyd a helpu i gynyddu'r twf yr ydym ni wedi'i weld yn ein heconomi yn ystod y blynyddoedd diwethaf hefyd. Felly, yn sicr, rydym ni'n gwerthfawrogi hynny. Ac roeddwn ychydig yn siomedig na wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd yn gwneud yr un peth â Llywodraeth Cymru o ran myfyrio ar werth mewnfudo'n ehangach.
Nawr, pan bleidleisiodd pobl Cymru i adael, un peth na wnaethon nhw bleidleisio drosto oedd parhau â'r un hen drefn ac, wrth gwrs, sylweddolaf fod safbwynt eich plaid yn un lle'r ydych chi eisiau ein gweld yn parhau yn yr UE nawr, ond, wrth gwrs, pan ofynnwyd i bobl Cymru, dydyn nhw ddim eisiau hynny, yr hyn y maen nhw eisiau ei weld mewn gwirionedd yw rhywfaint o newid. Ac maen nhw hefyd eisiau cael system fewnfudo deg, rwy'n credu. Nawr, mae eich dogfen Llywodraeth, y ddogfen 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', yn ei gwneud hi'n glir iawn mai eich uchelgais, pe bai'r DU yn gadael yr UE, yw bod â system debyg i'r un a fodolai o'r blaen. Mewn geiriau eraill, dim newid o'r system flaenorol fel bod yr ymfudwyr hynny o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd ac o'r Swistir sydd eisoes yn dod i weithio yn y DU yn gallu cael yr un cyfleoedd gwaith a'r un cyfleoedd o ran budd-daliadau o hyd. Nawr, nid wyf yn credu mai dyna y mae pobl yng Nghymru eisiau ei weld. Dyna pam fy mod i'n credu i hynny ddylanwadu'n fawr ar feddyliau pobl yn y refferendwm hwnnw.
Ac nid wyf yn credu, mewn gwirionedd, fod hynny'n agwedd deg at fewnfudo, ychwaith, oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud yw ei fod yn ffafrio'r mewnfudwyr hynny sydd eisiau dod i'r DU o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac sydd, mewn gwirionedd, yn achosi problemau i'r rhai sydd eisiau dod o'r tu allan, o'r byd ehangach. Felly nid yw hynny'n deg ac nid wyf yn credu bod hynny'n briodol. Felly, a ydych chi'n derbyn nad yw'n hi'n iawn trin pobl yn wahanol yn dibynnu ar o ble maen nhw'n dod? A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd a ydych chi'n croesawu'r addewidion a wnaed yn y Papur Gwyn? Clywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud am yr angen i amddiffyn hawliau pobl, o ran y rhai sydd yma eisoes, ac wrth gwrs mae'r Papur Gwyn yn ei gwneud hi'n glir iawn nad ydym ni eisiau amharu ar y bobl hynny sydd eisoes wedi ymgartrefu a sefydlu cartref, pa un ai ydyn nhw'n dod o'r UE neu o fannau eraill, ac ar y sail honno, dylid caniatáu iddyn nhw barhau i aros yma. Ac, wrth gwrs, dyna un o'r pethau eraill y mae'r Papur Gwyn yn ei gynnig: y dylid cael gwarantau ynglŷn â hynny.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y terfyn o £30,000, ac rwy'n cytuno â chi bod rhai pryderon ar y meinciau hyn ynghylch y terfyn hwnnw ac a yw hynny'n derfyn priodol i Gymru, o gofio'r ffaith mai ni, yn anffodus, yw'r economi sydd â'r cyflogau isaf ym Mhrydain. Felly, a ydych chi'n croesawu'r cyhoeddiadau diweddar gan yr Ysgrifennydd Cartref eu bod yn adolygu'r terfyn hwnnw, a disgwyliaf yn fawr iawn i'r terfyn hwnnw ostwng? Efallai y bydd yn rhanbarthol—credaf fod hynny'n un o'r pethau eraill sydd wedi cael ei gynnig hefyd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr awgrym o £20,000 y mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi'i gyflwyno; nid wyf yn siŵr ai dyna'r lefel gywir i Gymru. Yn wir, efallai fod angen iddo fod yn is na hynny mewn rhai mannau, ond byddai'n dda deall rhywfaint o'r rhesymeg dros gyflwyno'r ffigur hwnnw o £20,000.
Ni wnaethoch chi gyfeirio at fyfyrwyr yn eich datganiad o gwbl, ond, yn amlwg, un o'r pethau y mae'r Papur Gwyn yn ei ddweud—Papur Gwyn Llywodraeth y DU—yw ei fod yn rhoi ymrwymiad clir na fydd dim cyfyngiadau ar nifer y myfyrwyr rhyngwladol a all ddod i astudio yma, a byddwn yn gobeithio'n fawr y byddech yn croesawu'r ymrwymiad hwnnw hefyd. Ni wnaethoch chi gyfeirio, ychwaith, at y cam-fanteisio y mae llawer yn ei ddioddef oherwydd caethwasiaeth fodern. Ac rwy'n gwybod y bu Llywodraethau Cymru a'r DU yn benderfynol o gael gwared ar gaethwasiaeth fodern yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni'n gweld tystiolaeth ohono yn ein cymunedau. A allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yr un mor ymrwymedig i ddileu caethwasiaeth fodern a'i heffeithiau? Hoffwn dalu teyrnged i gadeirydd y grŵp trawsbleidiol, Joyce Watson, am ei gwaith ar hyn. Mae'n amlwg yn bwysig inni beidio â diystyru hynny drwy ganiatáu i bobl symud yn gwbl rydd.
Ac un cwestiwn terfynol—[Torri ar draws.] Un cwestiwn terfynol—
Na, nid oes unrhyw ymyriadau ar ddatganiadau. A bydd yn dirwyn i ben yn fuan.
Ac un cwestiwn terfynol, os caf i. Un o'r rhesymau pam mae bylchau yn rhai o'n proffesiynau gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gofal iechyd ac addysgu, mewn gwirionedd, yw methiant i gynllunio ar gyfer anghenion gweithlu ein gwasanaethau cyhoeddus dros y blynyddoedd. Ac, wrth gwrs, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn gyfan gwbl yw cynllunio ar gyfer y gweithlu a sicrhau bod gennym ni niferoedd digonol o athrawon, meddygon a nyrsys yn dod drwy'r gyfundrefn. A ydych chi'n derbyn eich bod yn gyfrifol am fethu â chynllunio ar gyfer y gweithlu, a bod hynny'n achosi'r angen i wneud iawn am rai o'r prinderau hyn yn ein gweithlu oherwydd eich methiant i gynllunio'n ddigonol? Diolch.
Diolch i Darren Millar am rai o'r cwestiynau hynny. Rwy'n derbyn, i rai pobl, efallai nifer o bobl, fod y cwestiwn o ymfudo yn ffactor allweddol yn eu penderfyniad i bleidleisio fel y gwnaethon nhw yn 2016. Ac rwyf hefyd yn derbyn ei bod hi'n bwysig i ni roi sylw i ganfyddiadau pobl o ran ymfudo. Ond siawns mai rhan o'r broses o fynd i'r afael â'r canfyddiadau hynny yw amgyffred y canfyddiadau hynny o ran y gwirioneddau ar lawr gwlad, yn hytrach na dim ond atgyfnerthu canfyddiadau yr ydym ni gyd yn gwybod nad ydyn nhw'n wir. Mae hynny'n rhan o'r dasg y dylem ni ei gosod i ni ein hunain fel Cynulliad ym mhob plaid—nid yn unig i dderbyn bod gan bobl gyfres o ganfyddiadau, ond i drafod â phobl a chyflwyno'r achos pam y mae'r canfyddiadau hynny, fe wyddom ni, yn seiliedig ar gamargraffiadau mewn sawl achos.
Gwyddom fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—llawer o wasanaethau cyhoeddus, nifer o sectorau economaidd, yn dibynnu'n sylweddol ar ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd. Does dim diben cymryd arnoch chi nad yw hynny'n wir. Felly, mae angen inni ddweud hynny wrth bobl. Mae angen i ni sôn wrth bobl mewn busnesau cynhyrchu bwyd am y peryglon o ran eu cyflogaeth a'u lles yn y dyfodol o ran y newidiadau hyn. Mae angen inni drafod â phobl a chyfleu'r safbwyntiau hynny, nid ategu'r canfyddiad hwnnw sydd gan bobl. Mae angen inni ddweud wrth bobl fod pobl sy'n symud i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd yn llai tebygol o fod ar fudd-daliadau na phobl sy'n byw yma beth bynnag, maen nhw'n fwy tebygol o fod mewn gwaith, mae eu cyfraniad i'r trethi a gesglir gan Lywodraeth y DU yn fuddiol, eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid cyhoeddus yn gyffredinol, bod mewnfudo sylweddol yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, ar arloesi. Mae'r rhain yn rhannau sylfaenol o'r ddadl, na wyntyllwyd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, tra bo canfyddiad yn un peth, siawns mai'r hyn y dylem ni fod yn ei drafod yw'r gwirionedd ac egluro i bobl beth yw'r canlyniadau o wneud dim byd ond ategu eu tybiaethau. Mae'r rhain yn gwestiynau dyrys, ond rhaid inni seilio ein trafodaethau ar y ffeithiau, nid ar ddim byd ond canfyddiadau.
Gwahoddodd fi i longyfarch Llywodraeth y DU o ran y ffordd y mae hi wedi mynd ati. Rwy'n mynd i wrthod y gwahoddiad hwnnw, a'r rheswm fy mod i'n mynd i wneud hynny yw—. Cymerwch un enghraifft o'r cynllun statws preswylydd sefydlog. Nid dyna'r math o gynllun y byddai Llywodraeth a oedd eisiau dangos ymrwymiad i les dinasyddion yr UE yn y DU yn ei sefydlu: cynllun sy'n codi tâl ar bobl i fod â hawl i aros yn y DU—pobl sydd wedi bod yn byw yma, mewn llawer achos, ers blynyddoedd lawer, sydd wedi magu teuluoedd yma.[Torri ar draws.] Wel, does dim tâl—ni ddylid erioed fod wedi codi tâl. Mae'r Llywodraeth wedi ailfeddwl ynglŷn â hynny, ond roedd hi, a dweud y gwir, yn warth gofyn i bobl dalu yn y lle cyntaf. Cynllun sy'n—. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, dim ond un ganolfan sydd yng Nghymru, yng Nghaerffili, lle, os nad oes gennych chi ffôn Android, ni allwch chi lanlwytho dogfennau sy'n ofynnol er mwyn i chi gael statws preswylydd sefydlog. Nid yw hynny'n weithred gan Lywodraeth sy'n ceisio gwneud yn siŵr bod pobl yn gyffredinol yn gallu cymhwyso'n rhwydd a di-lol ar gyfer y cynllun hwn. Mae pobl, rydym ni'n gwybod—. Mae'r cynigion sydd gan y Llywodraeth o ran ymadael heb gytundeb hyd yn oed yn fwy didostur, felly nid fel hyn y byddai Llywodraeth yn mynd ati petai'n ceisio cofleidio cyfraniad dinasyddion yr UE i Gymru ac i'r DU yn ehangach.
Fe wnaethoch chi sôn am—. Soniodd yr Aelod yn ei gwestiwn am ymfudo wedi'i reoli. Mae 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn disgrifio math o bolisi ymfudo sydd â chysylltiad llawer agosach â chyflogaeth—pa un a oes gennych chi swydd neu'r gallu i gael swydd. Ac rwy'n croesawu ei fod yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â chamfanteisio—sy'n gwbl greiddiol i'r ddogfen bolisi honno, ac rwy'n falch o'i glywed yn sôn am hynny a'i ymrwymiad i hynny yn y Siambr.
Rwy'n croesawu'r posibilrwydd—yn wir, yn gobeithio am y tebygolrwydd—y caiff y ffigur o £30,000 ei ddileu. Nid yw'n gweithio i Gymru; mae £20,000 yn ffigur gwell. Yn wir, rydym ni wedi argymell hynny i Lywodraeth y DU, a byddwn yn eu gwahodd i gyflwyno newidiadau cyn gynted â phosib er mwyn tawelu meddyliau cyflogwyr. Croesawaf y cyfeiriad a wnaeth at fyfyrwyr. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, pe bai Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n well â'r gweinyddiaethau datganoledig, byddai wedi llunio cynllun a fyddai'n adlewyrchu anghenion y gweinyddiaethau datganoledig yn well o ran addysg uwch. Gyda system yr Alban, er enghraifft, graddau pedair blynedd yw'r safon. Doedd hynny ddim yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun gwreiddiol. Felly, rwy'n annog Llywodraeth y DU yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod i drafod mewn ffordd well o lawer nag y gwnaethon nhw wrth baratoi'r Papur Gwyn.
Yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn ynghylch i ba raddau yr ydym ni'n barod i nodi gofidiau a phryderon pobl neu i esbonio a thrafod y maes polisi hollbwysig hwn ar sail ffeithiau, ac rwy'n annog y blaid gyferbyn i ymdrin â'r mater ar y sail honno, fel yr wyf i'n bwriadu ei wneud.
Hoffwn ddechrau gyda neges syml: bu croeso erioed i ymfudwyr yng Nghymru a dyma fydd yr achos o hyd yn y dyfodol. Mae croeso i chi, cewch eich gwerthfawrogi, a bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio i amddiffyn eich hawliau. Bob wythnos, rydym ni'n trafod yn y Siambr hon y peryglon i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus yn sgil Brexit, a dyma ni eto'n trafod newidiadau enfawr a gynigiwyd gan Lywodraeth San Steffan, y tro hwn ym maes ymfudo, a allai o bosib greu niwed difrifol. Ar ôl paratoi cyn y datganiad hwn, fe'm calonogir gan y ffaith bod y Gweinidog wedi sylwi ar yr un peryglon ag a wnes i o ran bygythiad cynigion Llywodraeth y DU i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r gwaith ardderchog a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wrth ddarparu dadansoddiad trylwyr o'r materion dan sylw.
Rhaid imi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi sôn am unrhyw beth rhagweithiol y mae'n bwriadu ei wneud. Ar ôl cyfaddef bod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu pryderon Llywodraeth Cymru yn llwyr hyd yn hyn, dywed nad oedd dim trafod blaenorol—a ddylai fod yn syfrdanol, ond nid yw felly, oherwydd dyma sut y mae San Steffan wedi trin Cymru erioed. Nid yw'n ddigon da dweud nawr ei fod yn gobeithio y byddant yn gwrando yn y dyfodol. Mae'n gwybod na fyddan nhw; rwy'n gwybod na fyddan nhw; mae pob Aelod synhwyrol yn y Siambr hon yn gwybod na fyddan nhw. Mae'r amser wedi dod i fynnu mwy o bwerau i Gymru, Gweinidog, fel y gallwn ni fynd ati ein hunain i amddiffyn yr economi yn hytrach na gwneud ceisiadau mynych sy'n cael eu hanwybyddu.
Caiff miloedd o ddinasyddion yr UE nad ydyn nhw'n ddinasyddion y DU eu cyflogi'n uniongyrchol yng ngwasanaeth iechyd gwladol Cymru ac maen nhw'n treulio eu bywydau gwaith yn gofalu am iechyd pobl sy'n byw yng Nghymru ac rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hymdrechion. Mae GIG Cymru yn wynebu'r posibilrwydd brawychus o gael ei werthu gan Lywodraeth y DU ar un llaw, a gweld ei weithlu posib yn edwino ar y llall. Wrth gwrs, gellid osgoi'r ddau bosibilrwydd pe baem yn cael refferendwm ac yn penderfynu aros yn yr UE, sef yr hyn y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn ei gefnogi.
Mae nifer anghymesur o weithwyr mudol hefyd yn y sector gofal cymdeithasol, sy'n bryder enfawr, gan fod newidiadau demograffig yn golygu y bydd y gymhareb o bobl hŷn o gymharu â gweithwyr iau yn cynyddu, sy'n golygu y gallwn ni o bosib fod mewn sefyllfa lle bydd mwy o bobl sydd angen gofal a llai o bobl o oedran gweithio i'w cefnogi, sy'n bryder difrifol.
Gweinidog, cred Plaid Cymru na ddylai fisâu addysg fod yn rhan o unrhyw gwotâu mewnfudo fel na fydd ein prifysgolion dan anfantais. Felly, dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau dros reolau mewnfudo ar gyfer staff academaidd a myfyrwyr. Mae rhannau eraill o economi Cymru, yn enwedig gweithgynhyrchu, arlwyo a'r sector bwyd a diod, yn dibynnu'n helaeth ar weithwyr mudol a byddwn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru ein sicrhau ni ei bod yn gwneud popeth priodol i ddiogelu eu buddiannau.
Mae Plaid Cymru yn anghytuno â Llywodraeth Lafur Cymru y dylai rhyddid i symud ddod i ben. Mae rhyddid i symud yn foesol gywir ac yn gwneud synnwyr economaidd. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn arno, cytunaf â'r Gweinidog na ddylai'r trothwy incwm arfaethedig o £30,000 fod yn berthnasol i Gymru, ac rwyf i, o leiaf, yn falch o glywed bod unfrydedd yn hynny o beth ar bob ochr i'r Siambr, gan fod cyflogau cyfartalog is yma yn golygu na fyddwn ni'n gallu denu'r gweithwyr sydd eu hangen arnom ni. Bydd nyrsys, meddygon iau, milfeddygon a llawer o rai eraill yn ei chael hi'n llawer anoddach dod i Gymru oni chaiff y cynigion hyn eu diystyru. Rydym ni eisiau Cymru sy'n croesawu pobl o bob cefndir, nid dim ond y rheini sy'n ddigon ffodus i allu ei fforddio. O ran yr hyn y carai Plaid Cymru ei weld, yn gyntaf oll, dylai Llywodraeth Cymru fod yn galw am ddatganoli polisi mewnfudo er mwyn inni allu rheoli'r broses o bennu'r cwotâu sydd yn fwyaf synhwyrol i'n heconomi. Ac, yn olaf, dylem yn sicr fod yn rheoli ein cyfran boblogaeth o fewnfudo i'r DU, sef 5 y cant, ac fe ddylem ni hefyd fod â'r hyblygrwydd i gynyddu hyn gyda newidyn canrannol os bydd angen hynny ar ein heconomi, neu os yw ein poblogaeth yn tyfu'n rhy araf. A wnewch chi gefnogi Plaid Cymru nawr wrth alw am hyn, Gweinidog?
Rwyf hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru greu cofrestr swyddi lle mae prinder sgiliau i nodi lle mae gennym ni fylchau sgiliau nawr, gan geisio rhagweld hefyd lle maen nhw'n debygol o ymffurfio mewn sectorau gwahanol, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cael y staff sydd eu hangen arnynt. Lle mae'r prinder yn ddifrifol, dylai Llywodraeth Cymru roi cynlluniau ar waith ar unwaith i hyfforddi gweithwyr ychwanegol gartref i atal diffygion niweidiol yn y dyfodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo o'r diwedd i wneud hyn?
Diolch i'r Aelod, yn benodol, am y ffordd y cychwynnodd ei chwestiwn gyda'r croeso i ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bwysig, ar adegau anodd fel y rhain, i hynny gael ei ailadrodd mor aml â phosib yn y Siambr hon, er mwyn i bobl gael sicrwydd o'n hymrwymiad i'w lles a'u croeso yng Nghymru.
Gofynnodd beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ynglŷn â hyn. Rydym ni wedi, ac rydym ni yn gwneud sawl peth penodol. Gellid cyflawni'r math o bolisïau a ddisgrifir yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn bennaf, hyd yn oed yng nghyd-destun parhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, felly mae hynny'n gyfraniad at y ddadl ar bolisi sydd yn ein tyb ni yn dal i fod yn bwysig ac sy'n dal yn werth ei ystyried a myfyrio yn ei gylch.
Rhoesom dystiolaeth, fel mae hi'n gwybod, i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo yn benodol o ran y sylw a wnaeth tua diwedd ei chwestiynau ynglŷn â'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer swyddi lle mae prinder penodol. Rhoesom dystiolaeth o ran gofal cymdeithasol, cynhyrchu bwyd—lle mae dibyniaeth ar y milfeddygon a hyfforddwyd yn yr Undeb Ewropeaidd yn uchel iawn, iawn, o ran gweithgynhyrchu, addysg uwch a'r gwasanaeth iechyd ac, yn wir, rhai sectorau eraill. Rhoesom y dystiolaeth honno i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo a bydd hi hefyd yn gwybod bod adroddiad y pwyllgor oddeutu wythnos yn ôl wedi argymell, mewn egwyddor, rhestr swyddi lle mae prinder ar gyfer Cymru. Rhoddwyd ystyriaeth i'r sylwadau a wnaethom ni yn arbennig ynghylch milfeddygon yn y sector cynhyrchu bwyd, ond cydnabuwyd bod y prinderau hyn yn gyffredin ledled y DU, ac felly, am y tro o leiaf, mae'r pwyllgor wedi penderfynu diwygio'r rhestr o swyddi lle mae prinder ar gyfer y DU neu Gymru a Lloegr. Rydym ni'n amlwg yn croesawu'r posibilrwydd o gael rhestr ar wahân ar gyfer Cymru o swyddi lle mae prinder, ond y gwir amdani yw, i ddweud y gwir, nad dyna'r prif ateb i'r heriau sy'n ein hwynebu. Y prif ateb yw edrych ar bolisi ymfudo sy'n adlewyrchu'r gwahanol anghenion cyflog a'r gwahanol anghenion sgiliau yn economi Cymru. Felly, er ei fod yn rhywbeth i'w groesawu, rwy'n credu bod angen i ni fod yn wyliadwrus ynglŷn â dim ond edrych ar drefniadau gweinyddol ar wahân, pan, mewn gwirionedd, yr hyn mae arnom ni ei eisiau yw newid sylweddol sy'n effeithio ar economi Cymru.
Rydym ni wedi cyllido, drwy gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, fel y gŵyr hi, efallai, wasanaeth cyngor mewnfudo i ddinasyddion yr UE, sy'n helpu, yn enwedig, dinasyddion yr UE sy'n agored i niwed, a allai fod yn oedrannus neu'n byw ar eu pen eu hunain, neu sydd mewn ffyrdd eraill yn anodd eu cyrraedd, fel petai, drwy ddulliau mwy confensiynol. Mae'n darparu gwasanaeth cynghori penodol i'r unigolion hynny ac yn ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'u hawliau fel dinasyddion yr UE. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgymryd ag ymarfer cydgysylltu fel bod yr amrywiol sefydliadau yng Nghymru sydd wedi'u comisiynu i ddarparu gwasanaethau cynghori o'r math hwnnw, naill ai wedi'u hariannu gennym ni neu gan Lywodraeth y DU, yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd sy'n osgoi dyblygu ac yn gwneud yn siŵr bod bylchau'n cael eu hosgoi lle bynnag y bo hynny'n bosib. A bydd y fforwm hwnnw, gobeithio, yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau y caiff y cyngor a'r gefnogaeth hynny eu cydgysylltu ar gyfer dinasyddion yr UE ledled Cymru.
Fel y crybwyllais hefyd yn fy natganiad, rydym ni wedi bod yn lobïo, ar lefel gweinidogol a swyddogion, o ran cyfarfodydd Gweinidogion unigol, ond hefyd mewn trafodaethau bord gron lle bu cynrychiolaeth o'r Swyddfa Gartref a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Byddwn yn parhau i wneud hynny, a byddwn yn gwneud hynny ar sail tystiolaeth, sef y sefyllfa lle mae gennym ni—lle'r ydym ni wedi gallu newid safbwynt Llywodraeth y DU ym maes Brexit, gwnaed hynny drwy eiriol yn gref o safbwynt tystiolaeth, a bydd hynny'n parhau, gobeithio, o ran ymfudo hefyd. Mae llawer o'r cynnydd yr ydym ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn wedi ei wneud ar y cyd â Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, ac mae'r maes ymfudo yn un lle mae gennym ni nifer o ddiddordebau a phryderon cyffredin, er, efallai, bod pen draw yr hyn y mae'r ddwy Lywodraeth yn ei geisio o'r amcan polisi hwn yn wahanol.
A gaf i ddweud wrth y Gweinidog fod y pryderon a amlinellodd heddiw yn y diweddariad a'r datganiad hwn, sydd i'w croesawu, yn cael eu hategu gan lawer o'r hyn y bydd wedi ei glywed gan y grŵp ymgynghorol Ewropeaidd, y rhanddeiliaid hynny sy'n cynrychioli diwydiant, sy'n cynrychioli'r trydydd sector, sy'n cynrychioli trawstoriad eang o gymdeithas yng Nghymru ac sy'n gyfrwng gwerthuso gwych i Lywodraeth Cymru? Felly, nid yw hyn yn dod yn ddirybudd, ac nid oedd yn dod yn ddirybudd pan alwyd y cyfarfod bord gron tua deufis yn ôl, fe gredaf, ym Mharc Cathays, pan anfonodd Llywodraeth y DU eu cynghorwyr i ddod i wrando ar bryderon Cymru, ac fe wnaethom ni fynegi'r pryderon hynny a oedd gan Gymru, fel y mynegwyd nhw yma, ynghylch y ffigur mympwyol o £30,000, ynghylch y mater a ddisgrifiwyd drwy ddefnyddio'r ymadrodd erchyll hwnnw—'gwaith sgiliau isel' a'r effaith y byddai hynny'n ei gael ar bethau fel y sector gofal cymdeithasol, lle'r oedd gennym ni lawer—roedd dadansoddiad Llywodraeth Cymru ei hun a gynhaliwyd dros y gaeaf a'r gwanwyn yn dangos i ba raddau yr oedd y sector gofal yng Nghymru, yn y cartref a gofal preswyl, yn agored i'r union gynigion hyn.
Ond hefyd, yr hyn sy'n peri pryder i mi yn y datganiad heddiw yw'r hyn sy'n ymddangos fel diffyg dealltwriaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rydym ni'n gweld yn glir iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rhai awgrymiadau adeiladol, diriaethol ac ystyrlon ynghylch sut y mae anghenion Cymru, o ran mewnfudo—nad ydynt yn wahanol iawn i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei wneud, yn hytrach na dinistrio eu cynigion, ond chwilio mewn gwirionedd am rywfaint o hyblygrwydd a fyddai'n adlewyrchu anghenion Cymru yn y cynllun cenedlaethol. Ond anwybyddwyd hynny, does dim wedi cael ei wneud, ac mae hynny'n siomedig iawn, mae'n rhaid i mi ddweud. Nid yw'n argoeli'n dda ar gyfer trafodaethau ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, yr ydym ni i gyd yn disgwyl clywed yn ei chylch hefyd.
Felly, un neu ddau o gwestiynau, Gweinidog. Un yw: a gaf i ei annog i beidio ag ildio'r ddadl, y drafodaeth â Gweinidogion y DU? Oherwydd ar rai o'r meysydd hyn na fu penderfyniad terfynol yn eu cylch eto, megis y terfyn £30,000, os ydym yn dal i bwyso, efallai y bydd y diffyg dealltwriaeth hynny'n peidio a bydd gennym ni rywfaint o hyblygrwydd yn hynny o beth. Oherwydd y mae arnom ni angen cynllun cenedlaethol ar gyfer y DU, nid cynllun ar gyfer y fan yma, cynllun ar gyfer y fan acw, cynllun i bobman arall; mae arnom ni angen cynllun cenedlaethol ar gyfer y DU a all adlewyrchu'r hyn y mae'r Llywodraethau datganoledig yn gofyn amdano.
A gaf i ofyn hefyd beth mae hyn yn ei olygu, yn y dyfodol, o ran y trafodaethau ynghylch diwygio trefniadau rhyngweinidogol, rhynglywodraethol y DU? Oherwydd siawns nad yw'r diffyg dealltwriaeth yma o du Llywodraeth y DU, unwaith eto, yn argoeli'n dda, nid yn unig o ran y gronfa ffyniant gyffredin, ond o ran agweddau cyffredinol ynglŷn â thrafodaethau masnach yn y dyfodol ar amrywiaeth eang o bethau. Siawns bod yn rhaid iddyn nhw wrando ar yr hyn y mae'r Alban a Gogledd Iwerddon a Chymru'n ei ddweud. Byddai o fantais inni. Mae rhai, rwy'n sylweddoli, a fydd yn dweud bod hyn yn cyfateb, mewn un ystyr, i'r hyn yr wyf wedi clywed rhai Brexitwyr brwd yn ei ddadlau ynghylch sector cig oen Cymru, sef, 'Does dim ateb iddo. Os byddwn mewn sefyllfa o 'ddim cytundeb', bydd marchnad cig oen Cymru'n cael ei dinistrio, yn syml iawn. Ond, hei, wyddoch chi, mae e'n bris gwerth ei dalu.' Ymddengys ein bod ni mewn sefyllfa debyg yn y fan hon, gyda Llywodraeth y DU yn dweud, 'Wel, rydym ni'n deall eich pryderon, ond nid ydym yn mynd i wrando arnoch chi.' Felly, mae angen inni fynd y tu hwnt i hynny. Beth mae hyn yn ei olygu i'r cysylltiadau rhynglywodraethol hynny?
Felly, y ddau gwestiwn hynny: a wnewch chi barhau i ddadlau dros hyn ac, yn ail, sut mae hyn yn argoeli ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol?
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Gallaf roi ymateb pendant i'w gwestiwn cyntaf: y byddaf yn parhau ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyn o beth. Mae'n gywir yn dweud, wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, nad ydyn nhw wedi gwrando ar y sefyllfa yr oeddem ni'n ei hargymell—yn wir, o ran lefelau cyflog, ond hefyd o ran y cynllun gweithwyr dros dro 12 mis hwnnw a'r union syniad o gael cynllun integredig ar gyfer yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac un arall ar gyfer mannau y tu hwnt i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sydd yn amlwg yn mynd at wraidd—. Rydym ni bob amser wedi cefnogi cynllun gwahaniaethol, sy'n galluogi cyfatebiaeth agosach gyda'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd.
O ran y pwynt y mae'n ei wneud—a dylwn fod wedi cydnabod hyn yng nghwestiwn Delyth Jewell hefyd—am y cwestiwn hwn o ryw fath o ddimensiwn gofodol, os mynnwch chi, dimensiwn sy'n benodol i Gymru, byddai'n well gennym ni weld cynllun sy'n adlewyrchu anghenion economi'r DU yn ei chyfanrwydd, gan gydnabod mor integredig yn enwedig yw economi Cymru i rannau o economi Lloegr yn benodol. Ond fe ddylwn i fod yn hollol glir; os na fydd gennym ni gynllun o'r fath, byddwn yn pwyso am ddimensiwn gofodol i gydnabod y trefniadau sy'n gweithio i Gymru. Ond y gwir amdani yw, er enghraifft, ar fater lefel cyflog, mewn gwirionedd, nid yw £30,000 yn gweithio i unrhyw ran o'r DU mewn gwirionedd heblaw am dde-ddwyrain Lloegr. Felly, mewn gwirionedd, mae gennym ni lawer mwy yn gyffredin â rhannau eraill o'r DU ar wahân i dde-ddwyrain Lloegr.
O ran yr ail gwestiwn hwnnw a ofynnodd, am y cysylltiadau rhynglywodraethol a beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am hynny, credaf ei fod yn dweud rhywbeth eithaf pwysig wrthym ni am hynny, sef bod sefyllfa lle gallwn ni ystyried pethau fel rhai neilltuedig neu ddatganoledig yn cael ei hesgeuluso gan Brexit. Yr hyn sy'n gynyddol amlwg yw bod gennym ni fuddiannau cyffredin mewn nifer o'r meysydd hyn pa un a yw'r setliad cyfansoddiadol yn dweud wrthym ni fod mater yn un neilltuedig neu wedi'i ddatganoli. Felly, mae ymfudo'n berthnasol i hynny i gyd, onid yw, fel y buom ni'n trafod heddiw. Mae darparu'r gwasanaeth iechyd, darparu gofal cymdeithasol, darparu addysg uwch yn dibynnu, i raddau helaeth, ar y polisi ymfudo. Felly, nid yw'n bosib, ar un ystyr, gwahanu'r ddau gwestiwn hynny, a chredaf fod hynny'n mynd at wraidd y ffordd y mae angen inni fwrw ymlaen â'r trafodaethau yr ydym ni'n eu cael mewn cysylltiad â'r adolygiad rhynglywodraethol, er enghraifft, un sy'n cydnabod hynny er na fyddem ni efallai'n disgwyl, yn y realiti cyfansoddiadol yr ydym ni'n ei wynebu, fod gennym ni feto ar y materion hynny, y dylem ni bob amser fod yn ceisio, fel pedair rhan o'r Deyrnas Unedig—y dylem ni bob amser geisio, o leiaf, cael dealltwriaeth ar y cyd o'r modd y dylai'r polisïau hyn weithredu ym mhob un o bedair rhan y DU. Nid felly y bu hi hyd yma o ran ymfudo, ond byddwn yn parhau i ddadlau'r achos yn glir ac yn gadarn ar ran Cymru.
Cwnsler Cyffredinol, onid yw hi'n wir fod y cyfan o'ch datganiad yn cadarnhau i'r sefydliad hwn ac i bobl Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i bolisi drws agored ar fewnfudo? Nid yw'n cyfrif sut y byddwch yn ei addurno gyda chyfeiriadau megis gostwng sylfaen gyflog cynigion Papur Gwyn Llywodraeth y DU neu beidio â chwtogi ar hawliau gweithwyr yr UE. Byrdwn llwyr y ddogfen hon yw bod y Llywodraeth hon, Llywodraeth bresennol Cymru, eisiau gweld mewnfudo torfol yn parhau. A gadewch i ni ddiffinio'r busnes hwn o fewnfudo. Nid oes neb ohonom ni yn y naill na'r llall o'r ddwy blaid yr wyf i erioed wedi eu cynrychioli, wedi siarad am ddim mewnfudo. Nid ydym ni wedi sôn erioed ond am fewnfudo torfol: y math o fewnfudo torfol sydd yn caniatáu cam-fanteisio ar fewnfudwyr sy'n dod i mewn i'r wlad, y math o fewnfudo torfol sydd yn caniatáu i bobl ddod i mewn i'r wlad hon nad oes ganddyn nhw unrhyw gyfle na phosibilrwydd o gael swydd, y math o fewnfudo torfol sy'n caniatáu i bobl sydd ond â dyheadau troseddol ddod i mewn i'r wlad hon. Dyna beth yr ydym ni'n sôn amdano—mewnfudo torfol, nid mewnfudo fel y cyfryw. Rydym ni wastad wedi dadlau y dylem ni adael i'r bobl sydd eu hangen arnom ni, ddod i mewn i'r wlad hon.
Yn ôl eich datganiad eich hun, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n dweud y bydd sylfaen gyflog o £30,000 yn effeithio ar Gymru'n fwy na gweddill y DU. Onid yw hyn yn gyfaddefiad llwm bod gormodedd o weithwyr di-grefft a lled-grefftus, sef y sefyllfa yng Nghymru ers cynyddu gwledydd yr UE sydd â mynediad digyfyngiad i'n marchnad lafur, wedi cyfrannu at gadw cyflogau gweithlu cynhenid Cymru yn annerbyniol o isel? Yn wir, mae eich datganiad yn llawn sôn am gyflogau isel, ac rydych chi hefyd yn anwybyddu'n llwyr y ffaith bod gennym ni 68,000 o bobl ddi-waith yng Nghymru o hyd, a'r rhan fwyaf mewn ardaloedd sgiliau isel.
Unwaith eto yn y ddogfen hon rydych chi'n dadlau yn erbyn system fewnfudo a fydd yn dileu rhyddid i symud a thriniaeth ffafriol i ddinasyddion y DU. Cwnsler Cyffredinol, onid yw hynny eto'n gyfaddefiad noeth bod eich Llywodraeth yn erbyn unrhyw gyfyngiadau ar ymfudwyr economaidd, pa un a oes eu hangen ar yr economi neu beidio? Rydych chi'n sôn am ganiatáu i ymfudwyr ddod i'r wlad os oes ganddyn nhw swydd, neu os byddant yn cael swydd yn y dyfodol agos. A allwch chi egluro wrthym sut ar y ddaear y byddid yn cadw golwg ar hyn? A sut fyddech chi'n mynd ati i alltudio'r rhai nad oedd yn dod o hyd i waith? Sefyllfa eithaf torcalonnus.
Ni allwch chi wadu, Cwnsler Cyffredinol—. Mae'n ddrwg gennyf i. Ar ddechrau'r datganiad hwn fe wnaethoch chi sôn am gynnal hawliau dinasyddion sy'n hanu o'r UE. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd diamwys y byddai eu hawliau yn cael eu gwarchod, ond onid yw'n wir mai'r Undeb Ewropeaidd sy'n gwrthod rhoi'r un hawliau i ddinasyddion y DU sy'n byw yn yr UE, ac mai dim ond hynny sy'n destun anghydfod? Unwaith eto, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sôn am yr un hen gân, sef bod arnom ni angen meddygon a nyrsys tramor a gweithwyr gofal i redeg ein gwasanaeth iechyd. Wel, y gwir amdani yw bod y rhan fwyaf o'r rhain yn dod o wledydd y trydydd byd, nid yr UE, ac am sefyllfa yw honno. Oherwydd penderfyniad Llywodraeth Blair i dorri 50 y cant o'r lleoedd hyfforddi meddygon a nyrsys mae angen o hyd inni ysbeilio'r economïau trydydd byd hyn i gael gafael ar eu clinigwyr y mae eu dirfawr angen.
Ni allwch ni wadu, Cwnsler Cyffredinol, fod y ddogfen hon i gyd yn dyst i Lywodraeth sy'n gwadu'r gwir. Sy'n gwadu'r dystiolaeth lethol bod pobl Cymru eisiau gweld mewnfudo torfol yn dod i ben, yn gwadu canlyniad y refferendwm, yn gwadu canlyniad yr etholiad Ewropeaidd diweddaraf—a dweud y gwir, yn gwadu bron iawn bopeth mae etholwyr Cymru wedi pleidleisio drosto yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Yn olaf, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n dweud bod cefnogaeth eang i'ch cynigion. A allech chi egluro o ble y daw'r gefnogaeth eang honno? Efallai mai dyna'r achos yn y fan yma ond yn sicr nid yw'n wir o ran pobl Cymru y tu allan i'r sefydliad hwn. Ond wrth gwrs mae'n ymddangos un ai nad yw eu barn yn bwysig, neu ei bod i'w chyfrif fel rhywbeth sy'n seiliedig ar anwybodaeth.
Cwnsler Cyffredinol, byddwch yn sylwi bod amser wedi cael y gorau arnom ni hefyd, felly efallai y gallech chi ateb dim ond yr un cwestiwn yna.
Byddaf yn fyr, Dirprwy Lywydd. Awgrymaf i'r Aelod, yn hytrach na threulio'i amser yn paratoi ei rethreg o negeseuon cudd sy'n ymhonni bod yn gwestiwn, y gallai dreulio ychydig mwy o amser yn gwrando ar y datganiad a'r cyfraniadau blaenorol yn y Siambr, sy'n gwrthbrofi'n llwyr y rhethreg ddifrïol a gwahaniaethol y bu ef yn ymroi iddi dros y pum munud diwethaf.
Diolch yn fawr iawn.