– Senedd Cymru am 3:37 pm ar 3 Gorffennaf 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau - 'Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol' a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ategu sylwadau'r Dirprwy Weinidog gyda fy sylwadau fy hun. Credaf fod pob un ohonom wedi ein tristáu gan y digwyddiad trasig gyda’r gweithwyr rheilffyrdd y bore yma, ond rwy'n siŵr y byddai pob Aelod yma yn awyddus i gydymdeimlo â'r teuluoedd.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cyflwyno'r cynnig yn fy enw i. Ar ôl adrodd ar y fasnachfraint rheilffyrdd a metro de Cymru ym mis Mehefin 2017, y cam nesaf naturiol i'r pwyllgor oedd edrych yn fanylach ar drefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru. Yn ôl yn 2017, roeddem wedi dweud yr adeg honno, er bod y trefniadau'n briodol ar y pryd, y byddai angen iddynt newid yn y dyfodol. Felly, yn yr ymchwiliad hwn, edrychasom ar sut roedd cyrff trafnidiaeth eraill yn gweithio a gwrando ar bryderon rhanddeiliaid Cymru. Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at y ffordd anarferol y sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru—fel is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru—a bod y penderfyniad hwn wedi peri rhywfaint o ddryswch i randdeiliaid.
Rhoddaf enghraifft i chi o hyn. Yn fuan wedi i ni ddechrau ein hymchwiliad, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus. Ond Trafnidiaeth Cymru a ymgysylltodd yn uniongyrchol â’r rhanddeiliaid ar ddatblygu'r Papur Gwyn, nid Llywodraeth Cymru. Felly mae'r llinellau cyfrifoldeb ar gyfer datblygu polisi ac ar gyfer cyflawni gweithredol wedi ymddangos yn aneglur, ac ar ôl y dryswch, credaf fod rhywfaint o ddryswch yno, ac ni chredaf fod hynny'n syndod o gwbl. Dywed Llywodraeth Cymru wrthym fod Trafnidiaeth Cymru yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Gweinidogion Cymru, ond ar yr un pryd, fod gwahaniad clir rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, sy’n galluogi Trafnidiaeth Cymru i wneud penderfyniadau gweithredol annibynnol. Mae'n nodedig fod gennym, o'n blaenau heddiw, ymateb gan Lywodraeth Cymru i rai o'n hargymhellion, ac ymateb ar wahân gan Trafnidiaeth Cymru i eraill.
Roedd yr adroddiad penodol hwn yn canolbwyntio ar y gwaith o lywodraethu Trafnidiaeth Cymru, nid ar berfformiad gwasanaethau rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru. Er gwaethaf rhai anawsterau a rhai problemau cychwynnol a arweiniodd at darfu ar y rheilffyrdd yn yr hydref, y mae'r pwyllgor wedi adrodd arnynt ar wahân, ymddengys bod llawer o randdeiliaid trafnidiaeth wedi’u calonogi gan ymgysylltiad cychwynnol Trafnidiaeth Cymru â hwy ar sail un i un, a chredaf fod hynny'n gadarnhaol. Fodd bynnag, roedd yr angen am dryloywder ac ymgysylltu llawer gwell, a llinellau atebolrwydd cliriach, yn argymhellion allweddol. Er bod rhanddeiliaid trafnidiaeth yn datblygu gwell dealltwriaeth o Trafnidiaeth Cymru drwy gyswllt uniongyrchol â hwy, nid oedd hynny’n cael ei gyfleu'n ddigon clir i'r cyhoedd.
Mae llawer i'w groesawu, yn fy marn i, yn ymateb Trafnidiaeth Cymru i'r adroddiad, megis yr ymrwymiad i greu panel cynghori i roi cyfle i gwsmeriaid, rhanddeiliaid a grwpiau â buddiant gynghori Trafnidiaeth Cymru ar eu gweithgarwch. Dywed Trafnidiaeth Cymru hefyd y byddant yn cyhoeddi crynodeb lefel uchel o’u cynllun cyfathrebu ar gyfer 2019-20, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod pryd y gallem ddisgwyl gweld y cynllun hwnnw.
Hefyd, gwnaethom nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â chyhoeddi siart sefydliadol; bod yn gliriach ynglŷn â rôl ymgynghorwyr; sicrhau bod eu bwrdd yn gynrychioliadol ac yn amrywiol; cyhoeddi cofrestr gyflawn o fuddiannau aelodau eu bwrdd a’u cyfarwyddwyr; a dangos dull partneriaeth cryf ac agored o ymgysylltu ag undebau llafur. Roedd y pwyllgor yn pryderu am dystiolaeth dau undeb llafur ynglŷn â diffyg gweithio mewn partneriaeth. Gwnaeth prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru ymrwymiad i wrando ar bryderon yr undebau, ac mae'r ymateb i argymhelliad 11 yn disgrifio dyhead Trafnidiaeth Cymru i weithio gyda'r holl bartneriaid a ffurfioli unrhyw gytundebau cyn gynted â phosibl.
Nid yw hyn, wrth gwrs, yr un fath â dweud bod cytundebau ar waith. Felly, credaf fod angen cynnydd pellach yn hynny o beth.
Mae ymateb Trafnidiaeth Cymru i argymhelliad 3, yn anffodus yn fy marn i, yn methu'r pwynt. Gofynnodd y pwyllgor am gael gweld siart sefydliadol yn cael ei chyhoeddi ar gyfer y sefydliad cyfan, nid y bwrdd yn unig. Dywed Trafnidiaeth Cymru fod cyhoeddi manylion eu huwch dîm yn unol ag arferion mewn mannau eraill, gan gynnwys Transport for London. Ond mae strategaeth dryloywder Transport for London yn ymestyn yn llawer pellach na chyhoeddi bywgraffiadau aelodau'r bwrdd. Mae hefyd yn cyhoeddi siart sefydliadol lawer mwy sylweddol gyda manylion am rolau staff a bandiau cyflog ar gyfer staff uwch, yn ogystal ag aelodau bwrdd Transport for London. Gallai cynigion Trafnidiaeth Cymru i gyhoeddi manylion contractau sy’n werth mwy na £25,000 bob chwarter helpu i raddau, rwy'n credu, i ddeall rôl ymgynghorwyr, ond yng ngoleuni pryderon ynglŷn â’r defnydd sylweddol o ymgynghorwyr, nid wyf yn credu bod yr ymateb yn mynd yn ddigon pell.
Rydym yn croesawu'r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru ac ymrwymiad y Gweinidog i sicrhau y bydd cadeirydd nesaf Trafnidiaeth Cymru yn ddarostyngedig i wrandawiad gyda'r pwyllgor cyn eu penodi. Nid yw'r argymhelliad, wrth gwrs, yn adlewyrchiad o addasrwydd y cadeirydd presennol, ond mae'n cydnabod rôl bwysig y pwyllgor o ran craffu.
Edrychaf ymlaen yn fawr at glywed barn fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma, yn ogystal, wrth gwrs, ag ymateb y Dirprwy Weinidog. Ac wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo ein hadroddiad i'r Cynulliad.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon, gan y credaf mai ychydig iawn o gyfle a roddwyd i randdeiliaid gael unrhyw fewnbwn i'r broses ar adeg y caffael, ac roedd hynny am resymau masnachol da, ond fe wnaeth atal rhanddeiliaid lleol, sy'n amlwg yn bobl sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus gan mwyaf, rhag roi eu barn ar beth yn union oedd ei angen. Ac felly rwy'n obeithiol y byddwn yn clywed gan y Gweinidog sut y bydd llawer mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd bellach o ran yr hyn y mae pobl yr effeithir arnynt gan y sefyllfa drafnidiaeth bresennol—beth y maent yn awyddus i'w gael o'r broses hon. Yn benodol, yn amlwg, mae'r bobl rwy'n eu cynrychioli yng Nghanol Caerdydd yn arbennig o awyddus i weld system drafnidiaeth gydgysylltiedig sy'n cyplysu system y rheilffyrdd â'r system fysiau, gyda systemau tocynnau integredig a fydd yn galluogi pobl i drosglwyddo o un dull trafnidiaeth i un arall; yn amlwg, rheseli beiciau da a llwybrau cerdded da i gyrraedd gorsafoedd rheilffordd, gan ei bod yn amlwg nad ydynt yn mynd i fod ar ben draw pob stryd, ac felly mae pobl angen dull trafnidiaeth i gyrraedd yr orsaf drenau mewn gwirionedd. Felly, credaf ei bod yn ddefnyddiol iawn gweld yr adroddiad gan y pwyllgor, ond credaf fod angen i ni wneud mwy o lawer i sicrhau y gall teithwyr cyffredin ddweud eu barn ynglŷn â'r math o system drafnidiaeth y maent am ei gweld.
Diolch i'r Cadeirydd am arwain ar yr agenda hon. Roedd gwaith hwn yn ddiddorol iawn i mi, y syniad ein bod yn ceisio llunio dyfodol Trafnidiaeth Cymru, gan ystyried ei fod yn sefydliad mor ifanc. Ac er ein bod wedi dod i’r casgliad fod rhai problemau cychwynnol wedi bod—yn enwedig yn ein hadroddiad arall ar y tarfu yn yr hydref—gwyddom mai amser a ddengys pa mor ymgysylltiol a pha mor gadarnhaol fydd y berthynas y gall Trafnidiaeth Cymru ei datblygu, nid yn unig gyda ni ond gyda’r cyhoedd yn gyffredinol. Felly, credaf y daw hynny oll i’r amlwg yn y dyfodol.
Credaf mai'r hyn sy'n hollbwysig i bob un ohonom fel gwleidyddion yw deall beth yn union fydd Trafnidiaeth Cymru a'i rôl. Cafwyd peth—nid wyf am ddefnyddio'r geiriau 'anghydfod' na 'dryswch' ynglŷn â phwy oedd yn gyfrifol yn y pen draw. Pan ofynnais i Ken Skates, 'Ai chi sy’n gyfrifol?', dywedodd 'Ie'; mewn sesiynau blaenorol, efallai nad oedd hynny mor glir, pan oeddem yn holi Trafnidiaeth Cymru pwy oedd yn gyfrifol yn y pen draw am unrhyw fethiannau neu am unrhyw broblemau yn y system. Felly, beth bynnag sy'n digwydd o ran y strwythur, mae'n rhaid i ni wybod mai'r Llywodraeth fydd yn gyfrifol yn y pen draw am yr hyn sy'n digwydd, neu os nad hi sy’n gyfrifol, fod y llinellau pŵer ac ymwrthod â phŵer yn glir i bawb eu gweld, fel y gwyddom, ac yn bwysicach, fel y gŵyr y cyhoedd, os oes rhywbeth yn mynd o'i le, os ydynt am gwyno, os ydynt am gael iawndal, eu bod yn gwybod yn union ble i fynd. A hyd yn hyn, nid wyf yn siŵr ein bod yn gwybod beth yw'r ateb.
Er enghraifft, mae gennym y cyd-awdurdodau trafnidiaeth. A ydym am gael system ranbarthol, neu a ydym am gael system genedlaethol, neu a ydym am gael y ddwy system? Yn reddfol, ac nid wyf yn siarad ar ran pawb eto, gan nad ydym wedi trafod hyn fel plaid eto, buaswn yn dweud mewn gwirionedd, a oes angen i ni gael dwy system wahanol? Oni allwn gael un system glir y gall pobl droi ati? Efallai y gall y Papur Gwyn roi mwy o atebion i ni ynglŷn â hynny.
Roedd hi braidd yn eironig a braidd yn drist gweld bod yr undebau llafur wedi gorfod codi'r mater nad oedd Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â rhai o'r undebau llafur o gwbl, a bod yn rhaid inni godi hynny gyda hwy yn y sesiynau pwyllgor hyn i ddweud wrthynt, 'Edrychwch, os ydych am drosglwyddo staff yn unol â’r Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth), os ydych am drosglwyddo pobl i Trafnidiaeth Cymru o gyrff eraill, mae angen iddynt ddeall beth yn union sy'n digwydd ac mae'n rhaid rhoi rôl iddynt ar y bwrdd hwnnw hefyd,’ Rwy'n falch o weld, yn dilyn y pryderon cyhoeddus hynny, fod Trafnidiaeth Cymru bellach wedi ymgysylltu â'r holl undebau llafur. Credaf mai Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol oedd â'r pryder mwyaf ar y pryd, ond maent bellach yn rhan o'r sgwrs honno. Ond ni ddylai fod yn ôl-ystyriaeth; dylent fod yno o'r cychwyn cyntaf fel rhan o'r bartneriaeth gymdeithasol, ac ni ddylem weld hynny'n digwydd eto yma yng Nghymru.
Yn y pen draw, credaf fod yn rhaid i unrhyw system lywodraethu fod yn ddigon cadarn i fod yn sicr fod yr hyn a ddarperir i'r cyhoedd yn ddigonol ac yn gryf. A chredaf mai dyna lle mae angen i bethau wella, o bosibl. Yn ein hadroddiad, dywedwn fod Trafnidiaeth Cymru yn fwy adweithiol na rhagweithiol: nid oedd pobl yn gwybod beth oedd yn digwydd, nid oeddent yn gwybod pwy oedd yn rhedeg y gwasanaeth bellach, ni allent ddod o hyd i wybodaeth ar y wefan ac nid oeddent yn gwybod am gynlluniau ar gyfer tocynnau integredig. Felly, yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw bod angen i Trafnidiaeth Cymru gynnal ymgyrch eang ar draws Cymru i ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â’r hyn y maent am ei weld yn digwydd a sut. Os yw Trafnidiaeth Cymru am ymestyn i fysiau ac i ddulliau trafnidiaeth eraill, sut y gellir defnyddio'r cyhoedd fel rhan o'r sgwrs honno, yn hytrach na dweud wrthynt beth sy'n mynd i ddigwydd yn unig? Dyna maent am ei weld yn digwydd bellach mewn perthynas â hyn.
Un sylw arall y credaf inni ei drafod yn yr ymchwiliad, ac un y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymateb iddo efallai, oedd y diffyg arbenigedd gan y rheini yn y diwydiant rheilffyrdd ar y bwrdd. Rwy'n derbyn na ellir llenwi'r bwrdd ag arbenigwyr ac anoracs rheilffyrdd yn unig—ni all olygu'r bobl hynny'n unig, er mor angerddol ydynt—rhaid iddo gynnwys pob rhan o gymdeithas. Ond os nad oes gennych unrhyw un a chanddynt y sgiliau hynny, onid yw hynny’n dipyn o broblem? Rwy'n gwerthfawrogi'r arbenigedd hwnnw gan nad wyf yn arbenigwr ar reilffyrdd—ni fuaswn yn gallu gwneud y gwaith hwnnw—felly os gwelwch yn dda, a gawn ni weld sut y gellir eu cynnwys, a sut y gallwn ddefnyddio’r agenda newid hinsawdd y mae pawb ohonom yn sôn amdani ar hyn o bryd i ffocysu gwaith Trafnidiaeth Cymru ar edrych ar sut y gallant integreiddio gwahanol ddulliau trafnidiaeth i'w gwaith, ond hefyd annog pobl allan o'u ceir.
Hoffwn ddiolch i dîm y pwyllgor am eu holl waith caled yn cefnogi'r gwaith hwn, ond credaf mai dyma yw dechrau ein gwaith craffu ar Trafnidiaeth Cymru, ac yn sicr nid y diwedd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad y prynhawn yma ar ddatblygiad Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Diben yr adroddiad hwn yw sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn addas i’r diben. I'r perwyl hwnnw, mae'r pwyllgor yn gwneud 13 argymhelliad. Mae'n dda nodi bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 13 argymhelliad, a bod Trafnidiaeth Cymru eu hunain wedi croesawu'r adroddiad.
Hoffwn gyfyngu fy sylwadau heddiw i rai o'r egwyddorion allweddol pwysig a amlygwyd gan y pwyllgor. Y pryderon cyntaf yw: tryloywder ac eglurder o ran gweithrediadau, rôl a llywodraethu. Daeth hyn i'r amlwg fel mater allweddol yn ystod yr ymchwiliad, gydag amrywiaeth o safbwyntiau'n cael eu mynegi. Mynegwyd pryderon nad oes eglurder, ar hyn o bryd, ynghylch ble mae swyddogaethau Trafnidiaeth Cymru’n gorffen a swyddogaethau Llywodraeth Cymru’n dechrau. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ddiffinio cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru yn glir i fodloni cyfranddalwyr a chwsmeriaid. Edrychaf ymlaen at glywed gan y Gweinidog sut y mae'n bwriadu cyflawni hyn yn ei ateb.
Fel y dywed yr adroddiad,
'mae trafnidiaeth yn bennaf oll yn ymwneud ag anghenion y defnyddiwr… Rhaid i Trafnidiaeth Cymru ddangos ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr.'
Er i'r pwyllgor gydnabod bod Trafnidiaeth Cymru wedi mynegi parodrwydd i fod yn agored, mynegwyd pryderon fod argaeledd gwybodaeth i'r cyhoedd wedi bod yn araf ac yn anghyflawn. Yr argraff a roddwyd oedd fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn darparu gwybodaeth ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar sail adweithiol yn hytrach na rhagweithiol, fel y crybwyllwyd eisoes gan Bethan. Fel sefydliad cymharol newydd, nid yw'r problemau hyn yn syndod. Mae’n rhaid i Trafnidiaeth Cymru weithio’n gyflym i sefydlu grŵp cynghori ffurfiol i ymgysylltu â chyrff rhanddeiliaid a gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o'i gyfrifoldebau a’i swyddogaethau. Byddai ystod eang o fecanweithiau i ymgynghori â rhanddeiliaid a theithwyr yn dangos ymrwymiad cryfach i ddiwallu anghenion cwsmeriaid a gwella profiad teithwyr.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, ewch yn eich blaen.
A gaf fi ofyn: a oes safbwynt gan y Blaid Geidwadol bellach ar gyd-awdurdodau trafnidiaeth?
Gadewch i mi orffen fy araith a rhoddaf yr ateb i chi mewn munud.
Byddai corff gweithredol trafnidiaeth strategol yn cydgysylltu’r ddarpariaeth o brofiad teithio di-dor i ddefnyddwyr. Byddai hyn yn darparu swyddogaeth cefn swyddfa ar gyfer tocynnau integredig ar draws pob dull trafnidiaeth, a phob dull talu a ffefrir. Bydd tocynnau integredig ac opsiwn teithio clyfar yn gwneud gwahaniaeth enfawr i deithwyr yng Nghymru, ac yn gwella eu profiad yn sylweddol. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach pan fo'r teithwyr yn bobl hŷn, yn anabl neu angen defnyddio cadeiriau olwyn.
Fel Gweinidog sgiliau'r wrthblaid ar ran fy mhlaid, mae gennyf ddiddordeb arbennig—nawr, dyma fy ateb i Hefin David—yn y cyfleoedd a gynigir yn sgil datblygu Trafnidiaeth Cymru i adeiladu a chadw sgiliau a gallu o ran arbenigedd trafnidiaeth yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu prentisiaethau. Nodwyd bod gan Transport for Greater Manchester a’r Liverpool City Region Combined Authority ffocws cryf ar gaffael lleol a chreu gwaddol o swyddi a hyfforddiant. Croesawodd y pwyllgor nod y Gweinidog o greu sefydliad arbenigol a all gynorthwyo a datblygu sgiliau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r gwaith o ddatblygu Trafnidiaeth Cymru arwain at gynnydd sylweddol mewn sgiliau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth a chynhyrchu prentisiaethau. Mae’n rhaid i ni hefyd ddilyn arweiniad Manceinion a Lerpwl ac alinio arferion caffael er mwyn cefnogi gwaddol o sgiliau a hyfforddiant yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, credaf y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i ddatblygu fel sefydliad sy'n addas i’r diben ac sy'n gwasanaethu pobl Cymru yn dda. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r holl staff ar y pwyllgor am eu cefnogaeth mewn ymchwiliad a fu’n hynod ddefnyddiol. Wrth godi i siarad heddiw, hoffwn ddechrau drwy nodi'r canmlwyddiannau pwysig sy'n cael eu dathlu eleni mewn perthynas â datblygu polisi trafnidiaeth yn y DU. Pan oeddwn yn athrawes, roeddwn bob amser yn dweud wrth fy myfyrwyr fod hanes yn berthnasol yn y byd modern, a chredaf bod yr enghreifftiau hyn yn dangos hynny.
Ym 1819, agorodd rheilffordd Mansfield a Pinxton. Y rheilffordd hon, sy’n dathlu ei deucanmlwyddiant ar hyn o bryd, yw’r rheilffordd fasnachol hynaf yn y DU sy'n rhedeg yn barhaus. Ac yn bwysicach, yng ngoleuni'r sylwadau y byddaf yn eu gwneud yn y man ac y mae Aelodau eraill eisoes wedi'u gwneud, roedd y rheilffordd honno'n gysylltiedig â datblygiad economaidd, ac roedd yn rhan o ymgais radicalaidd i integreiddio seilwaith trafnidiaeth, sef rheilffyrdd a chamlesi yn yr achos hwnnw.
Gan neidio ymlaen 100 mlynedd, ym mis Mai 1919, penodwyd y Gweinidog trafnidiaeth cyntaf erioed yn San Steffan. Penodwyd Eric Geddes gan Lloyd George i oruchwylio'r adran newydd, lle roedd y rheilffyrdd yn gyfrifoldeb allweddol, ac roedd ffurf y rhwydwaith yn y dyfodol yn ddadl allweddol, sydd unwaith eto'n rhywbeth a fydd yn taro tant gyda ni heddiw. Felly, mae'n ddiddorol nodi bod y math o flaenoriaethau roeddem yn edrych arnynt fel gwlad 100 mlynedd yn ôl, 200 mlynedd yn ôl, yn dal i adleisio gyda ni heddiw.
Neidiwn ymlaen 100 mlynedd arall, ac yma mae gennym yr adroddiad gan y Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr ydym yn ei ystyried heddiw. Ac rwy'n ofni, Gadeirydd, y gallai fod yn ormod disgwyl y bydd llunwyr polisi yn nodi ei ganmlwyddiant ymhen 100 mlynedd, ond er hynny, credaf fod negeseuon allweddol yn yr holl feysydd hyn—yr economi, integreiddio a ffurf y rhwydwaith, ac rwyf am gymryd peth amser i'w harchwilio.
Hoffwn ddechrau gydag argymhelliad 13. Credaf y gallai'r math hwnnw o ffocws ar gaffael, sgiliau a hyfforddiant ddarparu hwb economaidd pwysig iawn. Mae'n gyfle gwych i bobl sy'n byw mewn ardaloedd fel fy un i gael gwaith o ansawdd da. Mae'n gyfle gwych i fusnesau bach a chanolig sicrhau contractau o ansawdd da. Ac fel y dywedodd y dystiolaeth a gawsom o Fanceinion a Lerpwl wrthym, mae’n rhaid i gefnogi cyflogaeth a phrentisiaethau fod wrth wraidd unrhyw fodel gweithio rhanbarthol neu genedlaethol. Gyda hynny mewn golwg, mae'n dda gweld yr amrywiaeth o ddulliau a amlinellwyd yn yr ymateb gan Trafnidiaeth Cymru i'r argymhelliad hwn.
Gan droi'n fyr at argymhelliad 11, er mwyn i Trafnidiaeth Cymru ddangos eu hymrwymiad i'w gweithlu a'u lles, mae'n bwysig eu bod yn ymrwymo i gytundeb partneriaeth gymdeithasol gyda’r undebau llafur perthnasol. Gwn fod gwefan Trafnidiaeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gael cynrychiolydd undeb ar eu bwrdd. Felly, byddai'n dda gweld cynnydd ar y pwynt hwn.
Am y rhan fwyaf o fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar argymhellion 5 i 8. Mae pob un ohonynt yn ymwneud â’r pwyntiau ehangach ynghylch integreiddio a rhwydwaith a nodais yn fy sylwadau agoriadol. Mae gan bob un ohonynt rôl bwysig yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni'r newid trawsnewidiol yr hoffem ei weld ganddynt. O'r herwydd, mae'n dda fod pob un o'r argymhellion hynny wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dda darllen yr ymateb cadarnhaol gan Trafnidiaeth Cymru, lle bo'n briodol.
Er mwyn cyflawni'r nodau hyn fodd bynnag, mae gwasanaethau bysiau'n gwbl hanfodol yn fy marn i, ac i wireddu'r weledigaeth o fetro de Cymru fel system drafnidiaeth wirioneddol integredig, mae’n rhaid inni sicrhau prif lwybrau iach—prif lwybrau sydd, drwy wasanaethau bysiau neu gysylltiadau teithio llesol o bosibl, yn cysylltu’r cymunedau tlotaf a mwyaf ynysig yn aml â'r prif lwybrau trafnidiaeth.
O fy mag post etholaethol, yn enwedig mewn perthynas â'r gwasanaethau bysiau hynny, mae llawer gennym i’w wneud o hyd i gyflawni hyn ac i wireddu uchelgais lawn metro de Cymru. Byddai gwneud hynny’n cyd-fynd â'r nodau llesiant ac yn cynnig ymyrraeth go iawn o ran hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, ac wrth gwrs, byddai angen system docynnau gydgysylltiedig ac integredig ar wasanaeth cydgysylltiedig, a hoffwn weld gwasanaeth nad yw’n cosbi rhai nad ydynt yn teithio'n aml. Mae un o fy nghanghennau Cymru Egnïol lleol wedi galw mewn modd tebyg am ymestyn teithio rhatach ar fysiau i gynnwys gwasanaethau trenau a hoffwn weld rhagor o waith ar hyn.
Yn ystod ein hymchwiliad, cafwyd tystiolaeth gymhellol gan sawl un o'n tystion hefyd ynghylch rôl bosibl i Trafnidiaeth Cymru o ran y rhwydwaith priffyrdd, a chredaf y byddai hwn yn gyfle gwirioneddol gadarnhaol i newid asiantaeth cefnffyrdd nad yw'n ymatebol iawn yn fy marn bersonol i. Cafodd fy etholaeth ei heffeithio'n wael gan lifogydd ar ran o'r A465 ger y Rhigos yn gynharach eleni, ac roedd gweithredoedd Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru yn broblemus. Defnyddiwyd arwyddion anghywir ganddynt, a methwyd dod o hyd i offer pwmpio y gallodd yr awdurdod lleol gael gafael arno’n gyflym. Achosodd eu llanast rwystredigaeth i gymudwyr a thrigolion lleol, gan wneud sefyllfa wael yn waeth. Rwyf hefyd wedi cael problemau cyson mewn perthynas â hyn gydag Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru dros y tair blynedd diwethaf o ran arwyddion cau ffyrdd, methiant i drwsio tyllau yn y ffyrdd, amseru goleuadau traffig, a gwelededd peryglus o wael ar gyffyrdd allweddol oherwydd methiant i dorri gwair. Ym mhob achos, mae'r materion hyn, sydd wedi achosi oedi ac wedi effeithio ar ddiogelwch defnyddwyr ffyrdd, wedi cael eu datrys yn y pen draw, ond dim ond ar ôl lobïo personol gennyf i neu gan Aelodau Cynulliad eraill. Felly, yn y dyfodol, byddai rôl fwy i Trafnidiaeth Cymru, gyda llinellau atebolrwydd clir, yn ddim byd ond gwelliant.
Yn gyntaf, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi gyfleu fy nghydymdeimlad mwyaf i a fy mhlaid i deuluoedd a ffrindiau'r ddau weithiwr a laddwyd ar reilffordd Caerdydd i Abertawe y bore yma?
Yn ei chynllun economaidd 'Ffyniant i Bawb', pwysleisiodd Llywodraeth Cymru bwysigrwydd cysylltedd yng Nghymru fel rhywbeth sy'n hanfodol i lwyddiant economaidd. Bydd gan Trafnidiaeth Cymru rôl allweddol i'w chwarae yn y gwaith o gyflawni'r agwedd seilwaith ac amserlennu trafnidiaeth mewn perthynas â'r cysylltedd hwn. Hoffwn gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed gan y pwyllgor i gynhyrchu'r adroddiad hwn. Mae'n arwyddocaol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad. Credaf fod hyn yn dangos aeddfedrwydd y pwyllgor, ac mae'n rhaid ei ystyried bellach yn gyfaill beirniadol yn hytrach na phwyllgor craffu yn unig.
Gwn o fy nghyfnod ar y pwyllgor fod yno gonsensws trawsbleidiol i wella perfformiad economaidd a chymdeithasol Cymru. Mae un achos pryder wedi'i gynnwys yn argymhelliad 5. Dywed ei bod yn:
'anodd argymell ar ba ffurf y dylai’r corff trafnidiaeth fod hyd nes bod eglurder ynghylch ei swyddogaethau.'
Nodaf efallai y dylai hyn fod wedi bod y ffordd arall, lle rydych yn penderfynu ar ei swyddogaethau ac yna'n creu'r model sydd ei angen arnoch i gyflawni'r swyddogaethau hynny. Yn sicr, ymddengys bod consensws rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, a Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i sicrhau y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gymwys i gyflawni rôl corff trosfwaol a fydd yn gallu cydgysylltu pob rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth a rhoi cyfeiriad, rhywbeth a fu'n brin yn y gorffennol.
Nid oes amheuaeth fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i greu'r seilwaith trafnidiaeth gorau posibl i Gymru, ond dywedaf mai cyflawni, cyflawni, ac unwaith eto, cyflawni fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw nodau'r Llywodraeth yn cael eu cyrraedd. Felly, mae'n rhaid i ni beidio â rhoi gormod o le i droi i Trafnidiaeth Cymru ar yr agwedd hon.
Mae'n werth nodi bod Trafnidiaeth Cymru yn y broses o ddefnyddio amser teithwyr a gollir fel eu hofferyn perfformiad newydd—y cyntaf i'w ddefnyddio yn y DU. Er y bydd hyn yn gwella adborth data, gweithredu camau cywiro fydd y gwir brawf o allu Trafnidiaeth Cymru i wella ar ddisgwyliadau teithwyr. I grynhoi, Lywydd: 600 o swyddi newydd, 30 o brentisiaethau bob blwyddyn, trenau newydd wedi'u harchebu, gwaith cynllunio a dylunio manwl yn mynd rhagddo ar y prosiect metro, a gwaith eisoes ar y gweill ar wella gorsafoedd—mae'r dyfodol yn sicr yn edrych yn ddisglair i'r cyhoedd sy'n teithio yng Nghymru, ac rwy'n yn hyderus y bydd y gwaith craffu parhaus yn sicrhau bod yr holl addewidion a rhwymedigaethau'n cael eu cyflawni, ac ar amser gobeithio, fel ein trenau.
Hoffwn gytuno â'r sylwadau am y drychineb ym Margam a grybwyllwyd gan y Gweinidog ac eraill.
Yn ôl ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion, nod hirdymor Trafnidiaeth Cymru yw
'cyflenwi system trafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi mynediad haws i bawb i fysiau, trenau a theithio llesol ar gyfer siwrneiau pob dydd.'
Gŵyr y Siambr fy mod wedi gwneud llawer o gwyno am ymagwedd y Llywodraeth—nid y Llywodraeth, mae'n debyg, ond yr ymagwedd at adeiladu tai a welwyd yn fy etholaeth, ac yn enwedig yn y rhan ddeheuol, gan adael y Llywodraeth yn aml heb unrhyw ddewis ond caniatáu i'r gwaith adeiladu hwnnw fynd rhagddo oherwydd y galw. Ond mae'r tai hynny'n cael eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae'r cysylltiadau trafnidiaeth yn wael iawn. Ac—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Does bosibl mai rôl yr awdurdod lleol yw penderfynu a yw datblygiad tai penodol yn gynaliadwy ai peidio.
Ie, ac mae'r awdurdod lleol yn ei wrthod ar y sail honno, yna ceir apêl ac mae'r Arolygiaeth Gynllunio yn gwrthdroi’r penderfyniad ar apêl, ac yna mae'r Gweinidog yn cymeradwyo'r apêl am fod y Gweinidog yn poeni, os nad yw'n ei gymeradwyo ar apêl, y bydd yn destun adolygiad barnwrol a barn yr arolygydd cynllunio fydd drechaf yn yr amgylchiadau hynny. Dyna'r anhawster sydd—. A gallaf roi enghraifft benodol i chi yn Hendredenny. Y broblem gyda Hendredenny, lle bydd Redrow yn adeiladu tai, yw nad yw'n cysylltu'n dda iawn, ac mae'r amcangyfrifon trafnidiaeth yn awgrymu y bydd mwy o geir—mai chwe char y dydd yn unig fydd ar y ffordd o ganlyniad i adeiladu'r ystâd honno. Mae'n gwbl hurt, gan nad yw'r system drafnidiaeth yn darparu ar gyfer y meintiau traffig a gaiff eu creu mewn gwirionedd. Felly, mae dyfodol Trafnidiaeth Cymru yn hynod bwysig er mwyn lleihau’r angen am y math hwnnw o ystâd dai ac i gysylltu'n well, a defnyddio'r system drafnidiaeth i gysylltu trafnidiaeth yn well ar draws etholaeth Caerffili, yn enwedig wrth adeiladu mewn ardaloedd o angen.
Mae'n galonogol fod y Gweinidog yn derbyn argymhelliad 7, a dywed argymhelliad 7 y dylai Trafnidiaeth Cymru
‘ddarparu tystiolaeth glir o sut y mae’n cydymffurfio ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.’
Dyna'n union y siaradwn amdano pan fyddwn yn sôn am gysylltedd ac ystadau newydd.
Mae argymhelliad 6 yn cyfeirio at rywbeth sydd o ddiddordeb mawr i'r pwyllgor, sef creu cyd-awdurdodau trafnidiaeth, fel y nodais wrth Mohammad Asghar. Credaf fod diffyg eglurder yno p'un a oes angen cyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol arnom, a oes angen cyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol, ac mae angen i'r Llywodraeth fod yn glir ynglŷn â hyn a pha rolau y byddant yn eu chwarae. A fydd y cyd-awdurdodau trafnidiaeth ond yn ailadrodd yr hyn y mae corff Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud? Ac edrychwn ymlaen at eglurder ynglŷn â hynny'n arbennig.
Un peth y buaswn yn ei ddweud mewn ymateb i Bethan Jenkins, a gododd bryderon ynglŷn â chyfrifoldeb am agweddau ar yr hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud: yn fy mhrofiad i, mae James Price, fel prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, wedi bod yn agored iawn wrth ateb cwestiynau'n onest iawn yn y pwyllgor, ac weithiau ar draul ei enw da, o bosibl, yn yr ystyr fod llawer o bethau na all eu gwneud, ond mae hefyd yn fwy na pharod i wahodd Aelodau'r Cynulliad sydd â diddordeb i weld beth y maent ei wneud, yn enwedig yn y depo yn Nhreganna, a gweld beth y maent yn ei wneud i roi trenau newydd ar y rheilffyrdd.
Erbyn hyn, ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd, mae gennym wasanaethau a dynnir gan locomotif a cherbydau ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i Trafnidiaeth Cymru. Mae bodolaeth Trafnidiaeth Cymru wedi arwain at gerbydau ychwanegol ar y rheilffordd sy'n rhedeg drwy fy etholaeth, ac mae hynny'n wirioneddol bwysig. Mae hwnnw’n ateb dros dro wrth i’r trenau newydd gael eu hadeiladu, ac mae'n rhywbeth sy'n berthnasol iawn yn fy marn i i'r ffaith bod gennym y fasnachfraint hon bellach, ym mherchnogaeth Cymru ac yn cael ei rhedeg gan Gymru. A bydd y newidiadau yn y dyfodol yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith bod y fasnachfraint yn cael ei goruchwylio gan Weinidogion yn y Senedd hon.
Yn olaf, o ran tocynnau, mae arnom angen y gwasanaeth tocynnau di-dor hwn—soniodd Vikki Howells amdano—a’r gallu i olrhain tocynnau. Cefais brofiad dros y penwythnos: euthum â fy mhlant ar daith ddwyffordd o Hengoed i Aber. Euthum i Ffiliffest yng nghastell Caerffili ac yna i Barc Morgan Jones a'r pad sblasio yno—rwy’n annog pawb i ymweld â hwnnw, mae'n anhygoel—ond prynais fy nhocyn gan ddefnyddio fy ap Trafnidiaeth Cymru ar fy ffôn. Felly, prynais fy nhocyn cyn i mi adael y tŷ. Ni wiriodd neb fy nhocyn ar y trên. Rhaid bod yna dechnoleg a fyddai'n galluogi i'r tocynnwr ar y trên wybod a yw tocynnau wedi cael eu prynu ai peidio, gan wneud bywyd yn haws i'r tocynnwr. Roedd y cerbyd yn llawn, felly nid oedd modd i’r tocynnwr symud o un cerbyd i'r llall i wirio fy nhocyn, ond roeddwn wedi prynu'r tocyn. Ond byddai'n demtasiwn—ac mae'n debyg na fydd fy etholwyr yn diolch i mi am hyn—i beidio â phrynu tocyn; dyna’r natur ddynol. Credaf fod angen inni gael technoleg sy'n galluogi'r tocynnwr i wybod, heb fod yn ymwthiol, fod tocynnau wedi’u prynu. Credaf fod honno'n ystyriaeth bwysig ar gyfer y dyfodol.
Y peth cyntaf yr hoffwn innau ei wneud yw cydymdeimlo â theuluoedd y ddau ddyn a laddwyd heddiw, a chytuno â phopeth a ddywedwyd yn gynharach o ran y ffordd y teimlwn yma heddiw—fod pobl sy'n mynd i'r gwaith yn disgwyl dod adref o'r gwaith.
Hoffwn ddweud—ac i barhau â'r hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod—fy mod yn croesawu menter Trafnidiaeth Cymru, gan ei fod yn golygu'n amlwg iawn y ceir ffocws ar drafnidiaeth yn ei chyfanrwydd yng Nghymru, ac mae hynny'n amlwg yn beth cadarnhaol, ac rydym yn gweld pethau cadarnhaol yn codi eisoes o hynny. Ond hoffwn ganolbwyntio i ddechrau ar symud ymlaen, yn enwedig pan fyddwn yn edrych ar yr argyfwng hinsawdd sydd wedi'i ddatgan. Rydym yn sôn am aer glanach ac rydym hefyd yn sôn am ddatgarboneiddio yn y system drafnidiaeth. Felly, mae yna resymeg—ac mae wedi'i derbyn—fod yn rhaid inni alinio'r polisïau trafnidiaeth â phob agwedd ar gynllunio, ac unwaith eto, soniodd Hefin am hynny ar gyfer ei ranbarth. Ond mae'n rhaid i ni siarad am y peth mewn perthynas â phob ardal—[Torri ar draws.] Iawn, o'r gorau, nid oes ganddo ranbarth; mae gennyf i ranbarth. Ond mae'n rhaid i ni siarad am hyn yn ei gyfanrwydd, gan fod trafnidiaeth—. Os ydym am adeiladu—ac rwy'n gobeithio ein bod—mwy o lawer o dai i bobl, ac os ydym am siarad yn benodol am dai fforddiadwy o fewn hynny, mae'n rhaid i ni ganiatáu i'r unigolion hynny, ni waeth pwy ydynt na lle maent yn byw, gael cyfle i deithio naill ai ar drafnidiaeth gyhoeddus neu i gerdded neu feicio.
Yn rhy aml yn y gorffennol—mae pob un ohonom wedi gweld hyn, ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi sôn am hyn o'r blaen ar y meinciau cefn—rydym wedi gweld ystadau'n cael eu hadeiladu heb unrhyw fynediad nac unrhyw ystyriaeth i'r ffordd y bydd pobl yn teithio o gwmpas y tai hynny. Gellir dweud yr un peth pan fyddwn yn adeiladu ysgolion, ysbytai, neu unrhyw beth arall o ran hynny. Oherwydd, os ydym am fynd ati o ddifrif, mae'n rhaid i ni fod o ddifrif o'r cychwyn cyntaf, yn y cyfnod cyn cynllunio. Mae gennyf bob hyder y bydd y Dirprwy Weinidog yn canolbwyntio ar yr agenda honno, ac mae hynny'n beth da, ond mae angen inni fod yn siŵr fod hyn yn digwydd ar lawr gwlad. A oes arnom angen—pan fyddwn yn edrych ar gynllun cenedlaethol, a chynllun rhanbarthol a chynllun lleol, a ydym yn cael sgyrsiau gyda'r awdurdodau lleol a fydd yn llunio'r cynlluniau hynny'n lleol, gan sicrhau bod yr aelodau ar y pwyllgorau cynllunio'n deall yn iawn beth y dylent fod yn edrych arno yn ei gyfanrwydd wrth benderfynu ar gais? Oherwydd er ein bod ni yma yn trafod hyn, ac wedi cynnal ymchwiliad pwyllgor i hyn, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd y bobl y gofynnir iddynt ei roi ar waith ar lawr gwlad yn deall hyn mor glir â ninnau. Felly, mae'n debyg mai dyna fy nghwestiwn go iawn i chi. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am y ffordd ystyriol y cynaliasant eu hymchwiliad ac am eu hadroddiad? Mae rôl Trafnidiaeth Cymru yn esblygu, ac mae'n ddefnyddiol i'r pwyllgor wneud y gwaith hwn ar y pwynt hwn yn y cylch. Roeddwn yn awyddus, fel aelod o'r pwyllgor hwn pan oedd yn drafftio'i raglen waith, i'r pwyllgor roi ei drwyn i mewn yn y ddadl hon yn gynnar, ac rwyf yr un mor awyddus yn awr, fel Gweinidog, i dderbyn cyngor a syniadau'r pwyllgor ynglŷn â sut y dylid llunio hynny. Credaf fod hyn yn enghraifft bwysig o bwyllgor yn cyflawni ei rôl o ran craffu a dylanwadu ar bolisi. Dyna un o'r rhesymau pam fod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, ac wedi egluro'r camau y bwriadwn eu cymryd a'r camau y bwriadwn i Trafnidiaeth Cymru eu cymryd yn glir. Mae gennym weledigaeth am system drafnidiaeth garbon isel integredig o'r radd flaenaf yng Nghymru i yrru ein heconomïau a'n cymunedau tuag at fwy o ffyniant. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru i'n cynorthwyo i gyflawni'r weledigaeth honno. Mae gan y cwmni rôl bwysig yn sbarduno'r broses o integreiddio ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth cyfan, gan sicrhau bod y teithiwr wrth wraidd popeth a wna.
Wrth i ni ddechrau ar ein taith gyda Trafnidiaeth Cymru i newid rhwydwaith Cymru, mae cymhlethdod ac anwadalrwydd y ffactorau sy'n sbarduno newid y mae angen i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn ddigynsail. Bydd dyfodiad technolegau newydd a datblygol yn y sector trafnidiaeth yn trawsnewid y modd y mae pobl yn defnyddio trafnidiaeth yn eu bywydau bob dydd dros y degawd nesaf. Y bore yma, Ddirprwy Lywydd, bûm yn lansio fflyd newydd o fysiau ar gyfer TrawsCymru ac yn myfyrio ar fy mhrofiad fy hun, fel myfyriwr yn Aberystwyth yn gwneud y daith erchyll ar y bws ar hyd lonydd troellog canolbarth Cymru, gyda gyrwyr yn mynd yn llawer rhy gyflym, a minnau’n teimlo'n swp sâl ar ôl noson allan y noson cynt—ac ystyried y profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Ac yna, 25 mlynedd yn ddiweddarach, bydd y profiad o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn wahanol iawn. Mae'r syniad o Uber ar gyfer bysiau bellach yn rhywbeth rydym wrthi'n ei dreialu drwy'r Cymoedd ac yn Wrecsam, ac mae hwnnw’n rhywbeth a oedd yn gwbl annirnadwy pan oeddwn yn fyfyriwr. Felly, mae'r technolegau newydd hyn, os cânt eu rheoli'n gywir, yn gyfleoedd i economi Cymru elwa o swyddi newydd, medrus, ac yn gyfle i brofiad y teithiwr newid hefyd, ac i ddenu mwy o bobl i newid eu dulliau trafnidiaeth i'n helpu i ymateb i'r argyfwng newid hinsawdd.
Mae'r model presennol, lle mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am strategaeth yr holl ffordd hyd at gyflawni prosiectau a gweithrediadau, yn arwain at ddull tameidiog o weithredu o ran ymdrech a ffocws, gan newid yn anochel o ddatblygu polisi effeithiol i ymdrin â’r gwaith uniongyrchol o gyflawni. Yn y cynllun gweithredu economaidd, rydym wedi nodi ein dyhead i weld Trafnidiaeth Cymru yn manteisio ar y cyfle sydd ganddo fel ein hintegreiddiwr trafnidiaeth—i alluogi'r cwmni i ymgymryd ag ystod ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth. Wrth wneud hynny, byddwn yn cynyddu gallu, arbenigedd a chapasiti staffio Trafnidiaeth Cymru i gyflawni nodau polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhai camau uniongyrchol tuag at integreiddio trafnidiaeth: grymuso Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n rhoi mynediad haws i bawb at fysiau, trenau a theithio llesol ar gyfer teithiau bob dydd; creu model cynllunio trafnidiaeth i Gymru, gan alluogi penderfyniadau gwell o ran cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth; rhoi technoleg tocynnau clyfar ar waith i greu gallu i ryngweithredu a defnydd ar draws dulliau trafnidiaeth; a chydgysylltu gwybodaeth ar draws dulliau trafnidiaeth i helpu i lywio’r gwaith o gynllunio llwybrau.
Yn y tymor canolig, rydym wedi cyfarwyddo swyddogion i gynllunio ar gyfer symud gweddill y swyddogaethau cyflawni trafnidiaeth, fel gweithrediadau a gwelliannau priffyrdd, o Lywodraeth Cymru i Trafnidiaeth Cymru. Bydd gwneud hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar yr heriau polisi sy'n deillio o ddatgarboneiddio, ansawdd aer, cerbydau awtonomaidd a cherbydau trydan ac yn y blaen er mwyn datblygu fframwaith polisi a rhaglen ddeddfwriaethol aml-dymor a fydd yn ein helpu i wireddu'r uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Fel rhan o'r gwaith o ddiwygio bysiau, rydym yn cynnig y dull cyd-awdurdodau trafnidiaeth, lle mae awdurdodau lleol yn rhanbarthau Cymru yn cydweithio i ddarparu canlyniadau trafnidiaeth lleol a rhanbarthol. Hoffwn ymateb i her Hefin David—nid y rhan lle datgelodd ei hoffter o osgoi talu am docynnau, ond y rhan arall—lle dywedodd fod yna ddiffyg eglurder ynglŷn ag a ddylai Trafnidiaeth Cymru fod yn gorff cynllunio trafnidiaeth cenedlaethol neu'n un rhanbarthol. Dyma'r ddadl rydym am ei chael, a buaswn yn gwahodd yr Aelodau i fewnbynnu hyn i awdurdodau lleol hefyd.
Ein safbwynt ar hyn o bryd—ac mae hwn yn wahoddiad gwirioneddol i'n helpu i'w lunio—wrth weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, a'r gwaith y mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ei wneud ar greu ôl-troed rhanbarthol ar gyfer cydweithredu, yw y dylai trafnidiaeth fod yn rhan fawr o hynny, nid fel datblygiad annibynnol, ond wedi'i integreiddio'n llwyr i'r cyrff cydweithredol rhanbarthol y mae'r Gweinidog yn eu creu. Yn union fel y gall Llywodraeth Cymru gomisiynu Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd i wneud gwaith ar ein cyfer, mae'n gwbl bosibl, yn unol â'r hyn rydym am ei weld, y gallai awdurdodau lleol eu comisiynu yn yr un modd i wneud gwaith ar eu cyfer hwy, gan nad oes gan bob awdurdod lleol gapasiti ac arbenigedd, fel y bu ganddynt ar un adeg, i wneud hyn. Felly, nid oes unrhyw reswm pam na all gwahanol haenau o lywodraeth arfer y ffordd weithredol a democrataidd honno o wneud penderfyniadau, a gall Trafnidiaeth Cymru sefyll ochr yn ochr â hwy fel partneriaid i ddarparu'r arbenigedd hwnnw. Fel hynny, fel cenedl fach, glyfar, gallwn wneud y gorau o'n harbenigedd, a gwneud hynny mewn ffordd gydweithredol.
Dyna yw ein cynllun. Dyna rydym yn gweithio tuag ato, a byddem yn croesawu rhywfaint o her ar hynny os yw'r Aelodau'n credu y byddai cyfeiriad gwahanol yn well. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n darparu rhywfaint o eglurder, i ateb pwynt Hefin David ar ein cyfeiriad teithio. Fel sefydliad sy'n canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu atebion trafnidiaeth, gall Trafnidiaeth Cymru adeiladu gweithlu trafnidiaeth medrus iawn gyda phwyslais ar sgiliau technegol, rheoli ac arwain a fydd yn creu gwerth a chanlyniadau gwell i bobl, i leoedd ac i Gymru. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf fi alw ar Russell George yn awr i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae Trafnidiaeth Cymru a'r Gweinidog wedi datgan eu hymrwymiad i fod yn agored a thryloyw, ond buaswn yn dweud bod eu record ar hyn yn amherffaith. Cafwyd bylchau yn y fframiau amser a gwmpesir yn llythyr cylch gwaith Trafnidiaeth Cymru, ac nid ydym eto wedi gweld yr achos busnes hirddisgwyliedig ar gyfer ei lywodraethu yn y dyfodol.
Nawr, siaradodd Hefin David am beth amser ynglŷn â chyd-awdurdodau trafnidiaeth. Fel pwyllgor, rydym yn cydnabod bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gyda llywodraeth leol ac eraill ynglŷn â'r cyd-awdurdodau trafnidiaeth arfaethedig, a gallai hwnnw effeithio ar sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithredu yn y dyfodol wrth gwrs. Felly, dylwn ddweud fy mod yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i gyhoeddi achos busnes Trafnidiaeth Cymru a'u cylch gwaith yn y dyfodol yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynigion cyd-awdurdodau trafnidiaeth. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y Gweinidog yn datgan ei fwriad cyn bo hir fel y gall pawb ddeall sut y bydd cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth integredig yn y dyfodol.
A ydw i'n iawn i feddwl bod y dystiolaeth a gawsom wedi dweud y byddai cyd-awdurdodau trafnidiaeth cenedlaethol a chyd-awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol yn gam yn rhy bell, ac y byddent yn dyblygu eu hunain?
Credaf eich bod yn iawn. Roeddwn am sôn ychydig am hynny hefyd, efallai, yn dilyn eich cyfraniad.
O'r dystiolaeth a gasglwyd—. Fe ddychwelaf at y cyd-awdurdodau trafnidiaeth. O'r dystiolaeth a gasglwyd gennym, ni chredaf y gallwn ddod i'r casgliad y byddai un model llywodraethu penodol yn berffaith addas i Gymru, ond credaf y dylid dewis a dethol cymysgedd o'r arferion gorau. Clywsom dystiolaeth gan yr arbenigwr trafnidiaeth, yr Athro Iain Docherty, a ddywedodd wrthym y dylid cael cyn lleied ag sydd eu hangen o gyrff trafnidiaeth, a dim mwy.
Mae cynrychiolwyr llywodraeth leol wedi dweud wrthym eu bod am weld mecanweithiau cydgysylltu tynn ar gyfer gwneud penderfyniadau trafnidiaeth pwysig yng Nghymru. Er eu bod yn croesawu'r cydweithredu rhanbarthol, maent yn cwestiynu'r angen am gyd-awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol. Mae rhai rhanddeiliaid hefyd o’r farn y dylai Trafnidiaeth Cymru ysgwyddo'r rôl gydgysylltu genedlaethol honno, er ei fod yn gwmni cyfyngedig wrth gwrs sy'n eiddo i'r Llywodraeth, yn hytrach nag awdurdod trafnidiaeth â phwerau statudol. Felly, mae'r pwyllgor yn edrych ymlaen at weld manylion y cynigion ar gyfer cyd-awdurdodau trafnidiaeth a rôl Trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol i ddeall sut y byddant yn cydblethu.
Soniodd Jenny Rathbone a Vikki Howells a Hefin hefyd am docynnau integredig yn eu cyfraniadau. Nawr, bydd y cylch gwaith a roddir i Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cynllunio defnydd tir a theithio llesol yn bwysig ar gyfer datblygu rhwydwaith integredig, gan fod ein hymchwiliad wedi dangos pwysigrwydd model llywodraethu sy'n gweithio ar draws meysydd polisi, fel iechyd, addysg a chynllunio. Wrth gwrs, nid yw siwrneiau teithwyr yn cydnabod y ffiniau hynny, a chredaf fod yn rhaid i anghenion teithwyr ddod yn gyntaf.
Rydym yn awyddus i weld tystiolaeth hefyd fod gwaith Trafnidiaeth Cymru ar docynnau integredig a chyfathrebu ac ymgysylltu â theithwyr yn dwyn ffrwyth. Rydym am weld hynny'n digwydd. Nodaf yr ymateb i argymhelliad 8 ein hymchwiliad, sy'n cyfeirio at eu gwefan am fanylion eu rhwymedigaethau mewn perthynas â thocynnau integredig, ond credaf fod angen cyflwyno llawer mwy o fanylion yn y cyswllt hwnnw. Diolch hefyd i Vikki am ei chyfraniad—Vikki Howells—a roddodd wers hanes i ni. Dysgais rai pethau heddiw nas gwyddwn o'r blaen. Ni fuaswn yn disgwyl unrhyw beth arall gan gyn-athrawes.
Diolch i Bethan Sayed, a ymunodd â'n pwyllgor wrth inni ddechrau ar y gwaith hwn. Buaswn yn adleisio sylwadau terfynol Bethan ein bod, fel pwyllgor, yn mynd i barhau i graffu ar Trafnidiaeth Cymru. Rwyf hefyd yn adleisio sylwadau Hefin, yn yr ystyr fy mod yn credu bod Trafnidiaeth Cymru yn gwerthfawrogi ein gwaith craffu a herio ac maent bob amser wedi bod yn agored iawn i ddod i'r pwyllgor ac i ymgysylltu â ni fel Aelodau hefyd.
Diolch i Oscar Asghar, nad oedd ar y pwyllgor, ond sy’n aelod newydd o'r pwyllgor ar ôl ymuno â'n pwyllgor yn fwy diweddar. Rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau yntau hefyd. A diolch i Joyce Watson am ei chyfraniad, a David Rowlands am ei gyfraniad. Roedd David yn aelod o'r pwyllgor ar y pryd, ond nid yw’n aelod o'r pwyllgor bellach, felly fel y dywedais yn y pwyllgor—nid oedd yno i glywed hyn—ond diolchais i David am ei gyfraniad ar y pwyllgor yn ystod ei amser gyda ni.
Rydym bob amser yn ddiolchgar i'r rheini sy'n rhoi tystiolaeth i'n hymchwiliad, ac yn sicr, rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn ein rhanddeiliaid trafnidiaeth. Diolchwn hefyd—credaf fod Vikki Howells wedi crybwyll hyn—i’n staff ar y pwyllgor a'r tîm integredig am eu cymorth hefyd. Ein prif neges yw bod teithwyr yn haeddu'r gorau ac mae'n rhaid iddynt fod wrth wraidd popeth y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud o hyn ymlaen.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.