– Senedd Cymru am 3:17 pm ar 17 Gorffennaf 2019.
Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar flaenoriaethau Brexit. Dwi'n galw ar y Cadeirydd i wneud ei ddatganiad. David Rees.
Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cyflwyno'r datganiad hwn heddiw er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ein blaenoriaethau ar gyfer Brexit dros y misoedd sydd ar ôl o 2019, a gobeithio y byddwn yn tynnu rhywfaint o'r wleidyddiaeth allan o hyn hefyd. Efallai y bydd yr Aelodau wedi clywed hyn yn cael ei ddweud sawl gwaith o'r blaen ar adegau gwahanol yn ystod proses Brexit, ond serch hynny rydym yn dechrau ar gyfnod tyngedfennol rhwng yn awr a 31 Hydref eleni. Bydd y penderfyniadau a wneir dros y misoedd nesaf yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol a fydd yn dylanwadu ar ein gwleidyddiaeth am sawl blwyddyn i ddod, ac er y bydd llawer o'r penderfyniadau hyn yn digwydd yn San Steffan, mae nifer o feysydd o hyd lle y byddwn ni fel pwyllgor yn canolbwyntio ein hymdrechion ar ran Cymru.
Ddoe, clywsom ddatganiad eto gan y Gweinidog Brexit, ac rwy'n gwerthfawrogi'r diweddariadau parhaus rydym yn eu cael gan y Gweinidog. Ond fel y clywsom ddoe, roedd pethau'n ddisymud iawn yn San Steffan gan nad oes llawer yn digwydd yno. Lywydd, yn fy natganiad heddiw, hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar dri maes blaenoriaeth sydd, yn ein barn ni, yn bwysig i Gymru: paratoi ar gyfer Brexit, yn enwedig o ran y goblygiadau i'n heconomi; y risg i ddatganoli a dyfodol undeb y Deyrnas Unedig o ganlyniad i'r hyn a allai ddod; ac effaith Brexit ar wladolion yr UE a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n byw yng Nghymru.
Yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf, rydym wedi edrych yn rheolaidd ar barodrwydd sectorau allweddol er mwyn tynnu sylw at y materion sy'n arbennig o bwysig i Gymru. Rydym bob amser wedi canolbwyntio ar y materion sy'n berthnasol i Gymru, ac mae'n bwysig fod yr Aelodau yn atgoffa eu hunain o hynny. Mae hyn wedi cynnwys edrych ar oblygiadau Brexit i borthladdoedd Cymru; edrych ar sut y mae gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn paratoi; ac archwilio rhai o'r goblygiadau ar gyfer sectorau allweddol o'r economi. Er bod llawer o'r gwaith hwn wedi'i wneud, mae'n rhaid nodi na ellir ystyried ein gwaith yn y maes hwn, yn enwedig mewn perthynas â gadael heb gytundeb, yn rhestr gynhwysfawr o'r risgiau a'r manteision posibl. Yn fwyaf arbennig, mae'n dal i fod yn wir y gallai goblygiadau gadael yr UE heb gytundeb amlygu eu hunain mewn ffyrdd niweidiol na ellir eu rhagweld.
Daw hynny â mi at heriau'r tri neu bedwar mis nesaf. Ac mae'n bwysig ein bod yn trafod hyn heddiw, oherwydd byddwn yn cael toriad ddydd Gwener, bydd Prif Weinidog newydd yn dod i rym yr wythnos nesaf, bydd yn ffurfio Llywodraeth newydd, ac ni fyddwn yn dychwelyd tan ganol mis Medi. Gall llawer ddigwydd yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid oes gan fusnesau yng Nghymru ddigon o eglurder ynghylch ein trefniadau masnachu yn y dyfodol, ac ar hyn o bryd maent yn ymgodymu â pharatoadau ar gyfer Brexit 'dim bargen' niweidiol. Mae'r risgiau i'r diwydiant bwyd a diod, yn enwedig y sector cig coch, yn sylweddol. Gwyddom fod 88 y cant o allforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd ar hyn o bryd ac y gallai'r tariffau a fyddai'n cael eu gosod ar yr allforion hyn os na cheir cytundeb ac o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd fod yn llethol. Ac ar ben hynny, byddai effeithiau rhwystrau di-dariff ac archwiliadau glanweithdra a bioddiogelwch ar ein ffiniau ac yn ein porthladdoedd yn fygythiad arwyddocaol i economi Cymru a llif nwyddau a gwasanaethau gyda'n marchnadoedd agosaf. Ac er ein bod wedi cael sicrwydd, i ryw raddau, ynglŷn â gwaith cynllunio Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r materion hyn, byddwn yn parhau i graffu ar eu gweithgareddau yn y meysydd hyn yn ystod y misoedd nesaf, ac mae'n rhaid dweud nad oes unrhyw fesur o gynllunio—unrhyw faint o gynllunio—a all ein paratoi ar gyfer senario o'r fath yn llawn.
Gan droi at ein hail flaenoriaeth, mae gadael yr UE yn golygu bod angen i Lywodraethau a deddfwrfeydd gwledydd cyfansoddol y Deyrnas Unedig drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio gyda'i gilydd, a sicrhau bod buddiannau eu gwledydd yn cael eu rheoli'n deg wrth i ni fynd o gyrraedd ystod yr UE o fframweithiau polisi cyffredin. Yn y bôn, ymddengys bod consensws yn dod i'r amlwg gan bawb, ar wahân i Lywodraeth y DU, fod yn rhaid i strwythurau rhynglywodraethol presennol newid er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ein dyfodol y tu allan i'r UE. Rydym ni, a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi tynnu sylw o'r blaen at y ffaith bod mecanweithiau rhynglywodraethol o fewn y DU yn annigonol. Mae hwnnw'n air caredig, oherwydd roeddem yn defnyddio geiriau cryfach yn rhai o'n condemniadau eraill ohonynt. Ac annigonolrwydd y mecanweithiau hyn sy'n debygol o achosi'r straen cynyddol yn y berthynas rhwng y DU a'r llywodraethau datganoledig yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod. O ran craffu, ceir dwy her newydd y mae'n rhaid i ni fel Cynulliad roi sylw iddynt ar frys, sef fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan ac effaith cytundebau rhyngwladol y DU ar ddatganoli.
Lywydd, rwy'n falch o nodi'r camau gweithredu y gwnaeth fforwm y Cadeiryddion sylwadau arnynt yr wythnos diwethaf. Maent wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r gwaith ar y fframweithiau, a bydd Cadeiryddion eu pwyllgorau yn ei basio ymlaen gyda'u pwyllgorau. Rwy'n gwerthfawrogi'r ffaith honno'n fawr. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr a phwyllgorau eraill y Cynulliad wrth i ni ymateb i'r heriau a ddaw yn sgil y tasgau craffu newydd hyn. A chwestiwn difrifol iawn y mae'n rhaid i ni ei ofyn i'n hunain yw: sut y craffwn ar y rhain? Ac, efallai, sut y mae gwneud hynny gyda deddfwrfeydd eraill hefyd. Wrth wneud hynny, mae'n rhaid i ni gadw mewn cof y bydd penderfyniadau ar fframweithiau a chytundebau rhyngwladol yn cael effaith ddofn ar ein gallu i weithredu polisïau ar gyfer pobl Cymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, sy'n amlwg yn bwysig. Er enghraifft, polisi amaethyddol, diogelu'r amgylchedd, ac agweddau ar bolisïau gofal iechyd a thrafnidiaeth—gall cytundebau rhyngwladol effeithio arnynt i gyd, a byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru drafod gweithredu'r rheini drwy ei pholisïau.
Mae'r drydedd flaenoriaeth yn ymwneud â'r rhyddid i symud a pharhad hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Ac er bod consensws eang y dylid cael gwarant gyfatebol ar hawliau dinasyddion ar ôl Brexit, mae yna feysydd polisi mawr ar gyfer y dyfodol y mae angen eu hystyried a chytuno arnynt o hyd. Ac am y rheswm hwnnw, rydym wedi lansio ymgynghoriad ar oblygiadau Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ddyfodol rheolau mewnfudo ar ôl Brexit. Byddwn hefyd yn lansio sgwrs ar-lein drwy'r ap Dialogue yn ystod yr wythnosau nesaf, ac yn cynnal sesiynau grŵp ffocws gyda'r rhai sy'n fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newidiadau i'r rheolau hyn yn ystod tymor yr hydref. Ni allwn fethu â gwneud hynny. Mae'n hanfodol ein bod yn cefnogi dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, oherwydd drwy gydol y broses hon, y peth pwysig i ni fel pwyllgor yw datgan yn glir i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, 'Bydd croeso i chi yma bob amser. Rydym yn gwerthfawrogi'r cyfraniad rydych yn ei wneud, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i fyw eich bywydau yma yn rhan o'n cymunedau ar hyd a lled y wlad wych hon.'
Dyma'r neges a gyflëwyd gennyf yn ystod ymweliad diweddar Ei Ardderchogrwydd, llysgennad Rwmania â'r DU. Mewn trafodaeth answyddogol a gawsom gydag ef a'r grŵp a ddaeth gydag ef o'r conswl anrhydeddus yng Nghymru, roedd yn frawychus eu clywed yn sôn am y ffordd roedd pobl yn dal i ddweud wrthynt hwy fel teulu, neu wrth eu plant, am fynd adref—ac roeddent yn blant a oedd yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae'n neges rwyf am barhau i'w hailadrodd dros y misoedd sydd o'n blaenau. Mae'n neges rwy'n credu y bydd pob Aelod yn y Siambr hon yn dymuno ei hailadrodd hefyd—sef y bydd Cymru bob amser yn gartref i bobl sydd eisiau byw yma a gweithio yma ac sydd, mewn gwirionedd, yn ein helpu i wasanaethu ein pobl. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i David Rees am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor? Credaf ei bod yn dasg anferthol mewn cyfnod hynod ryfeddol o'n hanes gwleidyddol, ac mae gennym ni ran angenrheidiol iawn i'w chwarae yma yng Nghymru, ac mae arweinyddiaeth David wedi bod yn allweddol i sicrhau bod y pwyllgor hwnnw'n gweithio'n anhygoel o effeithiol a chyda chytundeb dwfn iawn ar lawer o faterion, sydd, o gofio'r safbwyntiau angerddol sydd gan bobl, yn gamp ryfeddol.
Mae'n rhaid i mi ddweud, ar ôl dechrau ar y nodyn cadarnhaol hwnnw, rwy'n siomedig iawn ynglŷn â phresenoldeb gwael Llywodraeth Cymru ar gyfer y sesiwn hon. Rwy'n credu y dylai'r holl Weinidogion sydd â'r cyfrifoldeb perthnasol yma fod wedi ei mynychu. Nid wyf yn siŵr pam nad ydynt wedi gwneud hynny, oherwydd, er mwyn cydbwyso fy sylwadau, cafwyd cyfranogiad rhagorol gan Lywodraeth Cymru yng ngwaith y pwyllgor a thystiolaeth ddidwyll, ddoeth o ansawdd uchel gan Weinidogion y Llywodraeth. Felly, unwaith eto, credaf ei fod yn anarferol o ran y ffordd y maent wedi ymddwyn hyd yn hyn yn ein rôl yn craffu ar eu heffeithiolrwydd fel Llywodraeth. Ond rwy'n credu ei bod yn briodol cofnodi'r sylwadau hynny.
Credaf y byddai canlyniad 'dim bargen' yn risg ddifrifol. Ni allaf weld sut y gallai unrhyw berson rhesymegol ddod i unrhyw gasgliad arall. Hyd yn oed pe bai Brexit yn datblygu i fod yn fwy sefydlog yn y tymor canolig i'r tymor hir—ac mae hynny'n bosibl; gallwch wneud y rhagfynegiadau hynny—byddai'r cythrwfl tymor byr yn ddifrifol. Nid oes gennym unrhyw hawl i wneud penderfyniadau sy'n gwneud y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn agored i'r peryglon hynny, ar wahân i'r hyn y gallem ei wneud mewn capasiti economaidd mwy hirdymor yn y wlad hon. Felly, rwy'n credu bod angen sylwi ar hynny. Ac mae wedi bod yn broblem wirioneddol i'r rhai sydd, y tu hwnt i rethreg, wedi ymrwymo i ganlyniad 'dim bargen', fel posibilrwydd o leiaf. Oherwydd mae'r ochr arall yn ei weld fel rhywbeth sydd â fawr iawn o hygrededd yn perthyn iddo o ystyried y niwed y byddai'n ei achosi i'r rhai sy'n ei argymell.
Mae perygl o achosi dirwasgiad gyda 'dim bargen', a dirwasgiad difrifol o bosibl hyd yn oed. Yr hyn sy'n sicr yn wir yw y byddai unrhyw ddirwasgiad, mae'n debyg, yn taro Cymru galetaf. Ni yw'r rhan fwyaf agored o economi Prydain. Mae llawer o ddadansoddwyr yn rhagweld y bydd y bunt yn disgyn i lefel y ddoler. Os clywodd unrhyw un newyddion ariannol Radio 4 y bore yma, nid oedd yn ffordd braf o ddechrau eich diwrnod. Byddai honno'n lefel nas gwelwyd ers y dirwasgiad ar ddechrau'r 1980au. Byddai'n cael effaith fawr ar lefelau incwm effeithiol yn y wlad hon gan fod cymaint o'r economi fyd-eang yn cael ei chyfrif mewn doleri. Byddem yn gweld ein cyfraddau cyflog yn gostwng yn eithaf sylweddol i bob pwrpas. Fel y dywedodd y Cadeirydd, mae'r sectorau cig oen, dur, modurol ac awyrenegol yn wynebu heriau penodol, ac rwy'n cymeradwyo'r gwaith a wnaethpwyd yn y meysydd hyn yn arbennig ac ymateb Llywodraeth Cymru wrth geisio paratoi cymaint ag y gall i leddfu'r effaith yn y meysydd hynny.
Ac yn y byd ar ôl Brexit, bydd angen diwygio strwythurau rhynglywodraethol y DU, diwygio sy'n cryfhau'r undeb ac sy'n caniatáu i fframweithiau cyffredin weithio'n effeithiol. Unwaith eto, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru am ei hymagwedd gytbwys. Mae wedi nodi'r meysydd lle mae'n ystyried bod Llywodraeth y DU wedi bod yn adeiladol iawn, ac mae hefyd, yn anochel, wedi tynnu ein sylw at feysydd y mae'n eu hystyried yn ddiffygiol. Ond rwy'n credu bod yna lefel o ewyllys da gwirioneddol ar y ddwy ochr—Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru—o ran llywio drwy'r cyfnod hwn a sicrhau bod gennym strwythurau cadarn ar gyfer y dyfodol.
Ond rwy'n credu y gallai'r sefyllfa ganlynol, neu'r amgylchiadau a allai ddod i'r amlwg yn ystod y tri mis nesaf, fod yn arbennig o niweidiol i'r undeb ac i Gymru. Mae angen i ni fod yn ymwybodol y bydd y tri mis nesaf yn gwbl wahanol i unrhyw gyfnod arall o heddwch yn ein hanes gwleidyddol dros y 100 mlynedd diwethaf. A bod rhaid i ni sylweddoli—. Nid yw hon yn sefyllfa arferol; mae wedi cymryd tair blynedd i gyrraedd y cam hwn, ond gallai'r hyn sy'n digwydd nesaf ddigwydd yn gyflym a gall fod yn ddramatig iawn.
Credaf y dylem ddiystyru Brexit heb gytundeb yn awr a gwneud hynny'n glir ar draws y Siambr. Sut y mae wedi dod yn sefyllfa ddiofyn y gallem oddef Brexit heb gytuneb? Pwy yn y byd a bleidleisiodd dros hynny? Faint ohonom a glywodd "Brexit 'dim bargen'" yn ymgyrch y refferendwm? Dim gair, a digon o dystiolaeth ymysg y rhai a argymhellai ein bod yn dirwyn ein perthynas â'r UE i ben nad dyna'r ffordd y byddai'r ysgariad yn cael ei drefnu.
Gohirio'r Senedd—wel, mae gennym gymeriad poblogaidd, neu gymeriad sy'n cael ei ystyried yn boblogaidd gan lawer o leiaf, a chyfeirir ato fel yr aelod o'r ddeunawfed ganrif. Wel, mae'n ymddangos i mi y byddai gohirio'r Senedd yn ddull o weithredu o'r ail ganrif ar bymtheg. Dull Siarl I o ymdrin â'r Senedd. Ond—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n ofni na allaf ar ddatganiad.
Datganiad yw hwn.
Ond y Senedd yw fforwm cenedlaethol y wladwriaeth Brydeinig. Nawr, rwy'n gwybod nad yw rhai ohonoch yn cytuno'n llwyr â hynny, ond yn yr un modd â'n bod yn fforwm cenedlaethol Cymru, y Senedd yw fforwm cenedlaethol y wladwriaeth Brydeinig, ac ar yr adeg hon o argyfwng domestig mawr, mae hyd yn oed goddef i eraill gynnig gohirio’r Senedd fel opsiwn i fynd â chi dros linell Brexit heb gytundeb yn gwbl hurt a dylai pob gwleidydd cyfrifol ddiystyru hynny.
Peth arall y dylid ei ddiystyru yw unrhyw sefyllfa, unrhyw ymagwedd, sy'n arwain at gysylltiadau chwerw ar unwaith â'r UE. Rydym yn gadael. Mater i ni yw eu hargyhoeddi hwy ein bod yn ei wneud mewn perthynas â’r holl ystyriaethau a buddiannau allweddol sydd ar gael gyda'n partneriaid a gyda ni. Ac rwy'n ofni ffurf hyll iawn ar genedlaetholdeb sy’n datblygu, mewn rhai mannau beth bynnag, sy'n sydyn yn troi unrhyw fethiant ar ran Llywodraeth y DU yn fai ar yr Ewropead estron rywsut, ac mae angen ymdrin â hyn. Mae arnom angen cysylltiadau cadarnhaol gyda'r UE o'r diwrnod cyntaf. Sut y cawn ni byth y math o berthynas fasnachu sydd ei hangen arnom?
Os caf ddod i ben, y canlyniad gorau o’r cychwyn yw cytundeb. Anogaf bawb i fod mor hael â phosibl wrth geisio sicrhau cytundeb. Rhaid iddo fod yr hyn sydd yno, yn y bôn. Nid cytundeb Mrs May yw’r hyn sydd yno; cytundeb yr UE a argymhellwyd gyda'r wladwriaeth Brydeinig ydyw. Mae'n fwy nag unrhyw wleidydd penodol. Rwy'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru rai amheuon, ond rydym yn wynebu'r posibilrwydd o 'ddim bargen', neu’r cytundeb presennol efallai wedi'i addasu ychydig drwy ddatganiad gwleidyddol. Dyna lle rydym ni. A byddai'r cytundeb presennol hwnnw’n parchu refferendwm Brexit a byddai hefyd yn parchu'r realiti economaidd a masnachol sy'n bodoli ar hyn o bryd, ac sy'n debygol o fodoli am lawer o flynyddoedd i ddod. Ac mae mynd yn groes i hwnnw ac esgus ein bod yn byw yn yr ail ganrif ar bymtheg, lle mae goruchafiaeth Prydain dros fasnach y byd yn datblygu, yn hurt ac mae angen rhoi diwedd ar hynny yn awr.
A gaf fi ddiolch i David am ei gyfraniad, ac yn arbennig am ei eiriau caredig ar y dechrau? I bawb gael gwybod, rwyf wedi derbyn ymddiheuriadau gan y Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n cytuno efallai fod Gweinidogion wedi cael digon ar Brexit i raddau, ond mae'n faes pwysig ac mae'n rhaid inni sicrhau—. Ac i fod yn deg â hwy, mae'n hollol iawn nad yw Gweinidogion erioed wedi cilio rhag dod i’r pwyllgor a bod yn drwyadl ac yn onest gyda'r pwyllgor, ac mae ambell un o Weinidogion y DU wedi gwneud hynny hefyd.
Tynnodd sylw hefyd at bryderon eto fod y tri mis nesaf yn dri mis allweddol—Awst, Medi, Hydref. Y pedwar a phum mis nesaf mewn gwirionedd, gan fy mod yn credu y bydd Tachwedd a Rhagfyr, ar ôl i ni adael, os byddwn yn gadael heb gytundeb, yr un mor ddrwg, a byddwn yn wynebu cyfnod heriol. Ond mae yna amser tyngedfennol o’n blaenau. Mae hefyd wedi tynnu sylw at y dasg ryfedd o hawlio democratiaeth, ond gohirio’r Senedd hefyd, sy'n gwadu democratiaeth ar un ystyr. Felly, yn anffodus, nid yw’n rhywbeth y cawn fynegi barn yn ei gylch am na allwn atal hynny, ond mae'n effaith y dylem fod yn gwbl ymwybodol ohoni, oherwydd mae canlyniadau hynny’n ddifrifol i ni, oherwydd os ydynt yn gohirio’r Senedd, yn amlwg ni fydd dim yn cael ei wneud yn San Steffan dros y misoedd hynny. Mae'n effeithio ar yr hyn a wnawn—nid ydym yn gwybod i ble y byddwn yn mynd. Mae'n amlwg na fyddem yn deall un peth sy'n ddiben iddo sef gadael heb gytundeb, ac mae hynny'n rhywbeth y byddem yn amlwg yn gorfod derbyn ei fod yn mynd i ddigwydd. Ond mae'r canlyniadau y tu hwnt i hynny yn rhywbeth nad ydym yn ei ddeall o gwbl. Oherwydd, fel y pwysleisiodd David, yr hyn sy'n bwysig yw cryfhau'r undeb drwy ddiwygio, ac os ydych chi'n gohirio'r Senedd, rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y bydd hynny'n cryfhau'r undeb drwy ddiwygio. Felly mae'n gwestiwn difrifol iawn sy'n rhaid i ni ei wylio.
Mae wedi gwneud yn hollol glir eto yr heriau y byddai 'dim bargen' yn eu creu i'r DU gyfan, a'r risgiau y byddem yn eu hwynebu. Ac mae'n hollol iawn ar baredd y bunt; darllenais y bore yma eu bod yn rhagweld y bydd y bunt yn gostwng i $1. Rwy'n cofio'r adeg pan oedd yn $4 a rhywbeth i’r bunt; mewn gwirionedd, rwy'n cofio $2.50 i'r bunt yn dda iawn. Rwy'n gwybod ei bod wedi gostwng yn ddramatig, ond nid wyf erioed wedi ei weld yn $1 i’r bunt—mae hynny'n gwbl wallgof. A dyna'r ffigurau y maent yn sôn amdanynt. Felly mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o'r canlyniadau, oherwydd mae llawer o gynhyrchion byd-eang yn cael eu prynu yn y broses drwy ddoleri—mae olew yn enghraifft berffaith o hynny—a bydd hynny'n effeithio ar bopeth a wnawn, oherwydd mae'n effeithio ar gostau cludiant popeth a gyflenwn. Felly, mae cyfnod heriol o'n blaenau os yw hynny'n digwydd o ganlyniad.
Hoffwn innau hefyd ddiolch i David Rees am y modd ardderchog y cadeiriodd y pwyllgor, a'r swyddogion sy'n gwneud gwaith mor wych yn cynorthwyo ein gwaith. Rwy'n credu ei bod yn fraint fy mod yn gallu chwarae rhan mewn pwyllgor sy'n gwneud y gwaith pwysig hwn mewn perthynas â Brexit, ar yr adeg hollbwysig a rhyfedd hon yn ein gwleidyddiaeth, a chyda phobl o wahanol bleidiau sydd am ymdrin yn ddifrifol â'r materion yr ydym yn eu hwynebu, ac eisiau gweithio'n adeiladol, er mwyn craffu ar benderfyniadau, a chyflwyno awgrymiadau ar gyfer y dyfodol. Ac yn hynny o beth, hoffwn gysylltu fy hun â llawer o'r hyn y mae David Melding wedi'i ddweud.
Gadeirydd, mae'r rhain yn amseroedd pryderus, a rhywbeth y siaradais amdano o'r blaen yw'r gost cyfle sydd wedi deillio o’r holl gynllunio ar gyfer Brexit heb gytundeb, a'r holl adnoddau y gallem fod wedi eu gwario fel arall ar ddatblygu ein cenedl a gwella gwasanaethau. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, rwy'n gwybod, yn effro i hyn—rhoesant dystiolaeth i ni ar hyd y llinellau hynny. Pan gyrhaeddwn yr ochr arall, boed yn gytundeb neu'n ‘ddim bargen’ neu ‘aros’—beth bynnag sy'n ein hwynebu—a ydych chi’n cytuno y bydd hwnnw'n waith mawr i ni edrych arno?
Rydych chi hefyd wedi siarad am y rôl gwbl hanfodol y bydd ein pwyllgor yn ei wneud wrth siarad â dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru, a'r effaith y mae'r ansicrwydd yn ei chael arnynt hwy. Ychydig wythnosau yn ôl, cyfarfûm ag un o fy etholwyr sy'n un o wladolion yr UE, a chyflwynodd i mi lyfr o dystebau Brexit, o'r enw In Limbo. Mae'r enw'n dweud y cyfan, onid yw? Mae bywydau cymaint o bobl ar stop ar hyn o bryd oherwydd yr ansicrwydd hwn. Ac fe gyfeirioch chi, Gadeirydd, at y ffaith bod un person yr oeddem yn siarad â hwy’n ddiweddar wedi siarad ynglŷn â sut y dywedwyd 'Ewch adref' wrth eu plentyn. Wel, mae rhai etholwyr sy'n wladolion yr UE wedi dweud pethau tebyg iawn wrthyf innau hefyd. Nid yw'n iawn, a hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaethoch i holl ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru—hoffem i chi wybod bod croeso i chi, ein bod yn gwerthfawrogi’n fawr eich cyfraniad i'n heconomi a'n cymdeithas, ac mae’n cyfoethogi'r wlad hon yn fawr.
Nawr, rwy’n hynod o falch y byddwn ni, fel pwyllgor, yn ystyried dyfodol yr undeb fel rhan o'n rhaglen waith yn y dyfodol. Mae angen dybryd inni graffu ar strwythurau rhynglywodraethol, ac i sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn y dylai ei wneud o ran yr egwyddorion drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o gofio, hyd yn hyn, nad ydynt wedi rhoi unrhyw arwydd eu bod yn bwriadu newid eu ffyrdd haerllug o fynd ati. Edrychaf ymlaen at graffu ar y fframweithiau polisi cyffredin, ac at weithio i sicrhau nad yw San Steffan yn cael rhwydd hynt i lofnodi cytundebau rhyngwladol sydd â'r potensial i ddiraddio gwasanaethau datganoledig heb i Gymru gael llais.
Ar adegau fel hyn, gyda chwyldro yn yr awyr bron, dyletswydd y lle hwn, a'r Llywodraeth, yw paratoi at y dyfodol. Ydy, mae hyn yn golygu paratoi ar gyfer pob math o bosibiliadau Brexit gwahanol, ond mae hefyd yn golygu paratoi'r wlad hon ar gyfer gwahanol bosibiliadau cyfansoddiadol. Dywedodd y Prif Weinidog ei hun wrth y pwyllgor fod rhannau symudol i'r undeb hwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn rheoli'r rhain, ac y gallai fod yn bosibl y bydd angen i Gymru ystyried ei dyfodol cyfansoddiadol yn fuan iawn, pe bai'r Alban yn dod yn annibynnol, er enghraifft. Felly, mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi'r sylfeini ar gyfer y posibilrwydd hwn—ac rwy'n derbyn ei fod y tu allan i gylch gwaith ein pwyllgor.
Felly, rwy'n ailadrodd fy ngalwad—gan siarad fel aelod unigol o'r pwyllgor yn hytrach nag ar ran y pwyllgor yn ei gyfanrwydd—i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth ar frys i gynnull confensiwn cyfansoddiadol i ystyried y gwahanol opsiynau cyfansoddiadol sydd ar gael i Gymru. Nid oes unrhyw bwynt galw am gonfensiwn o'r math hwn ar gyfer y DU gyfan. Treuliodd y cyn Brif Weinidog flynyddoedd yn ceisio ei orau i gyflawni hyn heb gyrraedd unman. Mae'r Alban ar eu llwybr cyfansoddiadol eu hunain ac nid oes gan Loegr unrhyw fwriad i chwarae'n deg. Cyn belled ag y gwelwn, mae hyn yn rhywbeth sy'n rhaid i ni ei wneud drosom ein hunain.
Dylai'r confensiwn hwn, a allai fod yn debyg o ran ei gwmpas i gomisiwn Kilbrandon a gynullwyd gan Lywodraeth Lafur Wilson, ystyried y gwahanol bosibiliadau sydd ar gael i Gymru a sut y byddai'r rhain yn gweithredu'n ymarferol: o hunanlywodraeth i 'devo max'; o ffederaliaeth i gydffederaliaeth; ac, ie, annibyniaeth hefyd. Os na wneir y gwaith hwn, mae'n bosibl y gwelwn ein bod yn suddo'n rhan o long wladol gamweithredol ac anghytbwys Cymru a Lloegr, yn llawn edifeirwch na wnaethom adeiladu bad achub pan gawsom gyfle. Mae gennym ddyletswydd i'n dinasyddion a chenedlaethau'r dyfodol i roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r mater hwn. Nawr yw'r amser i baratoi ar gyfer y dyfodol.
Diolch i Delyth am ei chyfraniad a'r pwyntiau a wnaeth. Rwy'n credu bod y costau cyfle yn rhywbeth y dylem fod yn edrych arno, oherwydd ni chlywaf unrhyw rai sydd o blaid Brexit yn herio'r costau a glustnodwyd ar gyfer gadael yr UE, heblaw'r bil ysgariad. Ond mae costau ychwanegol y tu ôl i hynny. Siaradodd pawb ohonom yn y refferendwm am gostau bod yn yr UE, ond nid ydym yn cael unrhyw ffigurau ar gyfer faint y mae'n ei gostio i ni yn awr mewn gwirionedd, yr arian sy'n cael ei wario, yr aflonyddwch adrannol a achosir, a'r ffigurau hynny. Dyna rywbeth y byddwn am ei ofyn i Lywodraeth Cymru ar ryw bwynt o bosibl, ynglŷn â’r math o ffigurau y maent yn eu gwario ar hyn, ar wahân i'r gronfa drawsnewid, Weinidog, oherwydd gwelaf chi’n edrych yno, ond y swm o arian rydych yn ei wario ar weithgareddau eraill yn ogystal.
Buaswn yn cytuno â Delyth ynglŷn â ddinasyddion yr UE hefyd—maent yn dal i fod mewn limbo. Nid ydym yn genedl o Donald Trumps, lle mae pobl yn dweud, 'Ewch adref.' Mae pobl yn dod yma ac mae croeso iddynt yma ac maent eisiau bod yn rhan o fywyd yma, ac rydym am iddynt fod yn rhan o fywyd yma. Rwy'n credu ein bod bob amser wedi bod yn gymdeithas amlddiwylliannol. Daw fy mam o Wlad Belg. Daeth hi drosodd ar ôl yr ail ryfel byd. Rydym yn genedl o bobl sydd bob amser wedi croesawu eraill, ac ni ddylem byth, byth, byth newid o hynny. Os oes unrhyw un eisiau efelychu Donald Trump, rwy'n awgrymu eich bod yn mynd oddi yma i America.
Mae dyfodol yr undeb yn beth cryf iawn. Efallai fod gennym farn wahanol ar yr hyn y dylai confensiwn cyfansoddiadol fod, ond ar ryw adeg, mae angen i ni fynd i'r afael â: sut olwg fydd ar yr undeb? Ac os na wnawn hynny, sut olwg a allai fod arno? Mae angen inni gyrraedd y fan honno, gan fy mod yn ofni bod yna estrysod yn San Steffan sy'n dal ati i gladdu eu pennau, heb fod eisiau gwybod a heb fod eisiau edrych ar sut y gallai edrych os nad ydym yn gweithredu yn awr.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei ddatganiad. Mae'n dda gweld bod y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yma bellach hefyd. Roeddwn i'n meddwl bod ei ddatganiad yn un ystyriol iawn mewn gwirionedd, ac yn llai pleidiol a mwy cytbwys na'r cyfraniadau a glywsom hyd yma o'r llawr. Hefyd, roedd yn well na'r hyn a welais yn ei bwyllgor ddydd Llun, rwy’n credu, lle'r oedd y flaenraglen waith yn cynnwys adran ar gael blaenraglen waith ar Fil refferendwm, fel pe na bai Cymru a'r DU eisoes wedi pleidleisio dros adael, ac roedd wedi'i lliwio’n wyrdd ar gyfer mis Medi a mis Hydref ar gyfer casglu tystiolaeth. [Torri ar draws.] Nid dadl yw hon; datganiad yw hwn, David, ac roeddwn i’n credu bod y sylwadau a glywsom gennych chi, David Melding, yn fwy addas ar gyfer dadl na datganiad, ond datganiad yw hwn ac fe geisiaf ateb yn briodol.
Ac yna mae'n debyg, byddwn yn cael adroddiadau coch ym mis Tachwedd ar Fil refferendwm. Pleidleisiasom dros adael, a hyd yma, rydych chi wedi bod yn dda iawn ynglŷn â hynny a chydnabod bod angen i ni adael, David. Ond prin ei fod yn syndod mai dyna'r cyfraniad o feinciau'r Ceidwadwyr, pan fo cymaint o gonsensws ar y pwyllgor.
Nid wyf yn credu bod yr hyn a welwn am hyn yn gyfraniad cytbwys. Nid ydym erioed wedi gweld paredd â'r ddoler ac mae awgrymu bod dirwasgiad yr 1980au cynnar wedi arwain at baredd â'r ddoler mor groes i hanes ac anghywir. Yn ystod y dirwasgiad yn yr 1980au cynnar, gwelsom uchafbwynt o $2.40 neu $2.45 yn y gyfradd gyfnewid sterling/doler. Mae llawer yn ei feio am gau llawer o'r diwydiant trwm ledled Cymru. Cyfradd gyfnewid uchel, nid cyfradd gyfnewid isel oedd y broblem gyda'r dirwasgiad hwnnw. Yn 1986-7 y gwelsom yr isafbwyntiau yn yr arian cyfred gyda'r cwymp ym mhris olew.
Rydych chi'n siarad am ohirio, ond mewn gwirionedd, mae'n beth eithaf arferol yng ngwleidyddiaeth rhai o'r gwledydd eraill sydd â'n system ni. Canada, er enghraifft—nid ydych yn ymwybodol o'r sefyllfa yng Nghanada, gyda Stephen Harper, y Prif Weinidog yno? Gohiriodd yn 2008, ac fe ohiriodd eto yn 2010, ac yna am dri mis yn 2013—i gyd i'w helpu i ddod drwy sefyllfa wleidyddol—[Torri ar draws.] Ond nid yw'n ddigynsail, nid yw'n ddigynsail. [Torri ar draws.] Cawn weld beth fydd eich arweinydd newydd yn ei ddweud, David, ac rwy'n credu mai dyna fydd yn gyrru llawer o'r hyn sy'n digwydd mewn gwleidyddiaeth dros y misoedd nesaf. Ond rwy'n credu mai'r hyn a glywn—[Torri ar draws.] Rwy'n credu bod hynny'n hollol deg, Lywydd. Yr hyn sydd gennym, o ran y datganiad hwn a'r paratoi ar gyfer 'dim bargen', yw sylwadau synhwyrol iawn yn fy marn i, a chytunaf â'r hyn y mae'r Cadeirydd wedi'i ddweud am hynny.
O ran edrych ar y sector cig, hoffwn ddweud ein bod yn sôn llawer am gig oen, ac rwy'n credu ei bod yn iawn i wneud hynny, oherwydd mae'n sector a fydd yn wynebu rhai o'r heriau anoddaf os byddwn yn gadael heb gytundeb. Ond tybed oni ddylid gwneud llawer mwy i farchnata cig oen o fewn y Deyrnas Unedig? Cofiaf y rhyfel cig eidion a gafodd John Major, a gwelsom gynnydd mewn gwirionedd yn y galw domestig am gig eidion, yn enwedig y darnau gorau. Pe baem yn gweld yr anawsterau hynny i ffermwyr cig oen, does bosibl na ddylech fod yn gweithio i geisio dweud wrth y mwyafrif o bleidleiswyr yn y DU a bleidleisiodd dros adael, 'Mewn gwirionedd, dyma un sector sy'n dioddef anawsterau—os prynwn fwy o gig oen Cymru ledled y DU, bydd yn helpu i liniaru'r anawsterau hynny.' A beth am y sector cig eidion? Clywsom yn gynharach am Iwerddon a phrisiau cig eidion yn disgyn. Wel ydynt, oherwydd eu bod yn ofni y gallai fod tariff yn erbyn eu hallforion i mewn i'r DU. Gobeithio na fydd mor uchel ag y gwelwn, o ran y tariff uchaf posibl y gallai fod, ond pe bai mor uchel â hynny, byddai prisiau cig eidion yma'n codi. Beth ydym yn ei wneud i helpu ffermwyr Cymru i elwa o hynny, cynyddu eu cynhyrchiant a lliniaru'r cynnydd hwnnw yn y prisiau i ddefnyddwyr?
Nid yw saernïaeth sefydliadol y DU—nid yw Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sylw i hyn. Mae'n llawer o bwysau eraill—gwn fod yr Aelod yn deall hynny hefyd. Ond hoffwn eu gweld yn gwneud mwy, ac i'r graddau fod Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban yn cytuno â ni, beth am weithio gyda hwy ar y mater hwn? Yr unig adegau y mae'n ymddangos ein bod yn gweithio gyda hwy yw pan fo cynghrair gwrth-Brexit am geisio atal canlyniad y refferendwm, fel pe bai Cymru wedi pleidleisio dros aros ac am adael y DU. Nid yw hynny'n wir. Ond pam nad ydym yn gweithio'n fwy adeiladol gyda Senedd yr Alban ar y fframweithiau? [Torri ar draws.] Pam nad ydych chi'n gwrando ar yr hyn rwy'n ei ddweud, Lee? Rwy'n siarad am y fframweithiau hyn, a pham y mae'n rhaid i ni gydweithio ar draws y DU. Os ydym yn cytuno â'r Alban, beth am i ni weithio gyda hwy a cheisio gwneud rhywbeth ar y cyd, er mwyn cael sylw Llywodraeth y DU, i wneud yn siŵr fod pethau'n cael eu gwneud yn briodol yn y maes hwn?
Ac yn olaf gennyf fi, hoffwn gysylltu fy hun a fy mhlaid yn llwyr â'r sylwadau olaf a wnaed gan David fod croeso i bobl o'r Undeb Ewropeaidd a'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd yng Nghymru, rydym am iddynt aros—[Torri ar draws.]—a dylai'r neges honno fynd allan o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol. A phan fydd rhai pobl yn heclo, a phan fydd rhai pobl yn awgrymu bod ein plaid ni'n arddel unrhyw safbwynt arall ond hynny, nid yw'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mae'n mygu'r—[Torri ar draws.] Mae'n mygu—[Torri ar draws.] Mae'n mygu'r neges honno.
Gadewch i'r Aelod orffen ei gyfraniad.
Rydych yn mygu'r neges honno, a ddylai fynd allan gan bawb ar draws y Siambr hon, gan bob plaid a grŵp gwleidyddol, ein bod am i'r bobl hynny aros. Mae croeso iddynt yng Nghymru: arhoswch os gwelwch yn dda. [Torri ar draws.]
Lywydd, rwy'n croesawu'r pwynt olaf a wnaethpwyd gan arweinydd Plaid Brexit yn y Cynulliad, oherwydd mae'n bwysig i bobl ddeall, gobeithio—pawb—a phan fyddant yn defnyddio iaith mewn dadleuon, eu bod yn parhau i ddefnyddio'r un iaith fod croeso i bobl, nad ydynt yn estroniaid, eu bod yn unigolion sydd yma ac sydd yma i helpu a gweithio gyda ni. Felly, rwy'n croesawu'r safbwyntiau hynny a wnaed gan yr Aelod.
Rwy'n siomedig ei fod wedi defnyddio ein blaenraglen waith, lle roeddem yn tynnu sylw at y cysyniad o refferendwm, ond oherwydd nad ydym yn gwybod beth sy'n dod, a'n bod am sicrhau bod hyn ar gael yn ein blaenraglen waith fel posibilrwydd. Ac roedd yn bwysig felly nad oeddem yn ei hepgor, fel ein bod mewn sefyllfa, fel un o bwyllgorau'r Cynulliad hwn, i fod yn barod i fynd i'r afael â materion os a phan fyddant yn codi. Roedd yn amlwg fod hyn yn dal yn bosibilrwydd, oherwydd ni wyddom beth a allai ddigwydd yn y dyfodol, boed yn ohirio'r Senedd, a beth fyddai canlyniadau hynny? Gallai fod yn etholiad cyffredinol, o ganlyniad i hynny—pwy sy'n gwybod beth sy'n digwydd wedyn, ar wahân i hynny. Nid ydym yn gwybod a fydd etholiad cyffredinol yn cael ei alw cyn y sefyllfa honno, lle gall plaid ennill a chyflwyno refferendwm arall mewn gwirionedd. Nid ydym yn gwybod, ac roedd angen i ni gynnwys sefyllfa yn ein rhaglen waith ar gyfer y posibilrwydd y byddai angen i ni fynd i'r afael â hyn pe bai'n digwydd. A dyna pam ei fod yno, nid oherwydd bod y pwyllgor neu aelodau'r pwyllgor o'r farn ei fod yn syniad gwych. Dyma bwyllgor yn bod yn gyfrifol yn y ffordd y mae'n datblygu pethau, ac mae hynny'n bwysig. Mae'n siomedig fod yr Aelod wedi ceisio bychanu'r cyfrifoldeb hwnnw. [Torri ar draws.]
Ar y gyfradd gyfnewid—wel, roedd yn ddiddorol clywed ei fod yn credu bod cyfraddau cyfnewid isel yn dda, oherwydd yn amlwg mae hynny'n rhoi ein hallforion o dan anfantais, ond dyna ni. Ac fe heriodd fod gohirio'n dderbyniol am ei fod yn digwydd mewn mannau eraill. I mi'n bersonol, ac i'r sefydliad hwn rwy'n credu, pe bai rhywun yn ceisio dweud wrthym, 'Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n mynd i'ch atal rhag eistedd am y ddau neu dri mis nesaf', er mwyn iddynt allu cael deddfwriaeth drwodd, ni fyddem yn hapus. Byddem yn ei weld fel methiant democratiaeth ac felly, nid yw'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn mannau eraill yn golygu ei fod yn dderbyniol neu y dylai gael ei ddefnyddio gan Lywodraeth y DU. Ac i unrhyw un sy'n meddwl felly—a chlywais, er mai si yw hi, rwy'n derbyn hynny, ond clywais sibrydion fod y rhai sy'n cefnogi Boris Johnson yn awyddus i weld y Senedd yn cael ei gohirio, a chredaf y byddai hynny'n gamgymeriad mawr i'r Prif Weinidog newydd, os daw'n hynny, ond gadewch i ni aros i weld, a gobeithio y daw i ryw synnwyr yn y swydd honno.
Heblaw hynny—o, y farchnad gig oen. Rwyf am dynnu sylw at un peth: soniwn yn aml am ein marchnadoedd a'n hallforion, ac mae ein cig oen yn mynd dramor, mae cyfrannau mawr yn mynd dramor, ond rydym i gyd yn derbyn, mewn gwirionedd, fod un o'r marchnadoedd mwyaf drws nesaf i ni, sef Lloegr. Deallwn hynny, ond deallwn hefyd fod yn rhaid inni fynd i mewn i'r farchnad honno a bod yn gystadleuol yn ogystal. Ac os ydych yn mynd i senario 'dim bargen' a beth bynnag sy'n digwydd, os ewch i reolau Sefydliad Masnach y Byd a'ch bod yn penderfynu cael gwared ar dariffau, byddwch yn agor y marchnadoedd ar gyfer allforion o wledydd eraill ar draws y byd, a fyddai wedyn yn heriol o ran y cig oen y byddwn ni'n ei roi i mewn hefyd. Felly, mae'n rhaid i chi edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y bydd y marchnadoedd hynny'n dderbyniol ar ei gyfer a sut y gallwch gyrraedd y marchnadoedd hynny hefyd, a phenderfyniadau Llywodraeth y DU i ganiatáu i hynny ddigwydd. Felly, rwy'n credu ei bod yn mynd i fod yn fwy heriol na dweud yn syml, 'Gadewch i ni fynd i Loegr i werthu ein cig oen.' Mae ychydig yn fwy cymhleth na hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iddo am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor, ac i'r ysgrifenyddiaeth, sy'n rhoi cymorth i'r pwyllgor. Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r amrywiaeth eang o faterion y mae'r pwyllgor yn ceisio eu cynnwys yn ei amser, ac rwy'n ystyried bod fy amser ar y pwyllgor wedi rhoi cipolwg i mi ar y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i ymdrin â Brexit, ond hefyd o ran gallu craffu ar waith y Llywodraeth ar draws ystod eang o'i gweithgareddau.
Nawr, nid fy nod y prynhawn yma yw ailadrodd dadleuon ynghylch Brexit ei hun. Roeddwn wedi bwriadu gwneud pwynt yn y datganiad fod angen inni ganolbwyntio'n galed ar hawliau a sefyllfa dinasyddion yr UE yn ein gwlad. Roeddwn yn falch o glywed bod y pwynt hwnnw eisoes wedi'i ailadrodd heddiw. Ond fe ddywedaf wrth arweinydd Plaid Brexit fod ei blaid wedi cyflwyno iaith i'r Siambr hon ac i'n dadl nad wyf erioed wedi ei chlywed o'r blaen. Nid wyf erioed wedi clywed Aelodau o'n cymdeithas, ein cymunedau, yn cael eu galw'n 'estroniaid' cyn i chi ddod yn Aelodau o'r Siambr hon. Ni chlywais elfen o unrhyw ddadl a gawsom erioed o unrhyw ran o'r Siambr yn cynnwys y geiriau 'estroniaid' a 'mewnfudwyr' yn ein dadl. Yn y blynyddoedd y bûm yn Aelod yma, mae pawb sy'n byw yng Nghymru wedi cael eu trin yn gyfartal nes i chi gyrraedd y Siambr hon. Eich iaith chi ydyw, eich cywair chi ydyw, a'ch agwedd chi sy'n arwain yn uniongyrchol—yn uniongyrchol—at ymosodiadau ar bobl yn y wlad hon ac sy'n gwneud i bobl deimlo nad oes croeso iddynt yn eu cartrefi eu hunain, a dylai fod cywilydd arnoch am hynny. A dylai fod cywilydd arnoch am yr hyn rydych wedi'i wneud i ddiraddio'r ddadl wleidyddol yn y lle hwn ac yn y wlad hon.
Gadewch imi ddweud hyn: o ran bwrw ymlaen â gwaith y pwyllgor, cytunaf â'r rhai a siaradodd yn y datganiad am rai o'r datganiadau rhyfeddol a glywsom am ein democratiaeth yn y Deyrnas Unedig. Beth bynnag fo'n teimladau ynghylch natur democratiaeth y DU a Phrydain, ein democratiaeth ni ydyw ac mae'n perthyn i bob un ohonom. Nid rhywbeth sy'n eiddo i arweinwyr y Blaid Geidwadol ydyw na'r bobl sy'n ceisio am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol. Nid oes ganddynt hawl i geisio tanseilio ein democratiaeth seneddol, na defnyddio'r ddemocratiaeth seneddol honno i gyflawni pwrpas nad oes cefnogaeth iddo na mwyafrif o'i blaid. Efallai fod gohirio Senedd y DU yn dderbyniol mewn rhai mannau, ac efallai ei fod yn dderbyniol i rai pleidiau gwleidyddol, a hynny am fod barn seneddwyr yn anghyfleus i'w diben gwleidyddol, ond ni chredaf mai dyna oedd pobl yn ei gredu pan oeddent yn awyddus i adfer rheolaeth. Nid wyf yn cofio unrhyw sgwrs nac unrhyw ddadl yn cael ei gwneud—'Os pleidleisiwch dros adael yr UE yn y refferendwm, wyddoch chi beth fyddwn ni'n ei wneud? Byddwn yn canslo democratiaeth seneddol, byddwn yn gohirio'r Senedd, byddwn yn atal Aelodau Seneddol rhag pleidleisio.' Ni ddywedodd neb hynny erioed, a dylai unrhyw un sy'n gwneud y ddadl honno fod â chywilydd mawr o'r modd y maent yn twyllo pobl y wlad hon, ac nid wyf eisiau unrhyw ran o gwbl yn hynny.
Gwelwyd byrbwylltra, diofalwch a diffyg gofal nad yw'n Brydeinig am bobl y wlad hon yn y ddadl a gawsom dros Brexit heb gytundeb. Rwy'n poeni'n fawr am bobl ym mhob un o gymunedau'r wlad hon, nid y gymuned a gynrychiolaf yn unig. Ac nid yw'n ddigon da i bobl ddweud yn syml, 'Fe gawn adael heb gytundeb ac i'r diawl â'r costau, i'r diawl â'r canlyniadau, ac i'r diawl â bywydau'r bobl yr ydym yn eu difetha.' Nid yw hynny'n ddigon da mewn unrhyw ddadl ar unrhyw adeg. Gadewch imi ddweud nad yw hyn yn nodweddiadol o Brydain—[Torri ar draws.] Nid dim ond esgeulustod troseddol ydyw, mae eich ymagwedd yn gwbl annodweddiadol o Brydain. Felly, rwy'n poeni'n fawr am ddyfodol amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu. Rwy'n poeni'n fawr am y cymunedau sy'n cael eu cynnal gan y diwydiannau hynny. Rwy'n poeni'n fawr am y teuluoedd sy'n cael eu cynnal gan y gwaith hwnnw, ac ni fyddaf byth yn defnyddio fy mhleidlais a fy lle i yn y lle hwn er mwyn tanseilio eu dyfodol.
Ond a gawn ni ddweud hefyd fod angen i ni gael dadl go iawn am ddyfodol y Deyrnas Unedig. Rwy'n ddiolchgar fod y Gweinidog wedi gallu ymuno â ni ar gyfer y sgwrs hon y prynhawn yma, ac rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei sylwadau a'i ddidwylledd wrth fynychu'r pwyllgor, ac nid dim ond ateb cwestiynau ond ceisio cael sgwrs, dadl a thrafodaeth gyda'r pwyllgor mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymagwedd.
Ond rydym yn gweld newid mawr iawn yn natur y Deyrnas Unedig, creu strwythurau newydd lle na chredaf fod gennym sicrwydd o'r didwylledd, y tryloywder a'r atebolrwydd sydd eu hangen arnom. Rwy'n croesawu llawer o'r newidiadau a welir, a fydd yn creu Teyrnas Unedig lawer mwy cyfartal gyda seneddau ymreolaethol, yn enwedig yma ac yng Nghaeredin, yn gwneud penderfyniadau a fydd yn llywio bywydau pobl yn ein gwledydd, ond gan weithio gyda'r Senedd yn San Steffan er mwyn sicrhau bod gennym drefniant cyfartal lle gall pob un ohonom gyfrannu at ddyfodol y DU hon.
Rwy'n gobeithio y bydd goruchwyliaeth a chraffu democrataidd yn rhan o hynny, ac mae angen inni weithio'n galed—ac rwyf am gyfeirio rhai o fy sylwadau at y Gweinidog yma. Credaf fod angen i bob un ohonom, Lywydd, a chi fel Llywydd, o bosibl, hyd yn oed, sicrhau bod yna atebolrwydd democrataidd sefydliadol o fewn y Deyrnas Unedig sy'n dwyn y strwythurau a grëir gan y fframweithiau cyffredin i gyfrif am eu penderfyniadau.
Gadewch imi wneud un sylw olaf, a gwn fy mod yn profi amynedd y cadeirydd, os nad Aelodau eraill. Gwyn Alf Williams, wrth gwrs, a ofynnodd y cwestiwn enwog, 'Pa bryd oedd Cymru?', ac rwy'n credu bod rhaid i ni yn awr ofyn cwestiwn tebyg, sef 'Beth fydd Cymru?' I mi, mae'r wlad hon bob amser wedi bod yn wlad sydd wedi edrych tuag allan ac wedi edrych ar y byd ac wedi cofleidio'r byd. Bu inni brofi globaleiddio cyn i neb fathu'r ymadrodd. Deallasom beth yw rhyngwladoldeb, ac yma yn y lle hwn, ym Mae Caerdydd, y gwelwyd un o'r cymunedau metropolitanaidd, cosmopolitanaidd cyntaf yn y byd. Ac mae gennym gyfrifoldeb, rwy'n credu, nid yn unig i chwarae ein rhan yn llawn o fewn y Deyrnas Unedig a strwythurau eraill, ond mae gennym gyfrifoldeb i weithio law yn llaw â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn parhau i gael ei chynrychioli mewn prifddinasoedd rhyngwladol ac mewn materion rhyngwladol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU ac eraill i sicrhau ein bod yn cryfhau statws Cymru yn rhyngwladol ar y llwyfan rhyngwladol, a'n bod yn cryfhau cynrychiolaeth Cymru ledled y byd.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar ichi am ganiatáu'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod pwyllgorau'n gallu dod â'r datganiadau hyn i'r Siambr, a chyda rhai eithriadau, rwy'n credu ein bod wedi cael dadl gadarnhaol iawn ar y datganiad hwn.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau? Hoffwn hefyd ganmol y profiad y mae'n ei ddwyn i'r pwyllgor wrth ddeall y gwaith, yn enwedig ochr y berthynas rynglywodraethol i faterion sy'n codi a'r ffordd y mae angen inni fynd i'r afael â'r gwendidau sy'n dechrau ymddangos o ganlyniad i Brexit, a gwireddu'r hyn y mae datganoli yn ei olygu yn awr mewn gwirionedd, heb yr UE. Oherwydd rydym bob amser wedi gweithredu datganoli o dan y cysyniad o UE, ac yn awr mae'n rhaid inni edrych arno mewn strwythur gwahanol, felly gwerthfawrogir ei fewnbwn i'r gwaith hwnnw'n fawr iawn yn yr ystyr hwnnw. Mae hefyd, unwaith eto, yn tynnu sylw at bwysigrwydd dinasyddiaeth a phwysigrwydd pobl sy'n dod i'r wlad hon sydd am fod yn rhan o'r wlad hon, pobl sy'n weithgar ac yn dod â bywyd i'r wlad hon, a dylem groesawu hynny bob amser.
Lywydd, roeddwn yn meddwl mewn gwirionedd fy mod wedi dweud yn flaenorol y dylai unrhyw un fynd i America—rwy'n credu na ddylwn fod wedi dweud hynny. Rwy'n meddwl nad ydym eisiau gweld neb yn mynd o reidrwydd, ond nid ydym eisiau'r agweddau meddwl hynny yn y wlad hon. Ac mae angen cael gwared ar yr agweddau hynny, ac felly dylai pawb fod mor groesawgar â phosibl.
A gaf fi—? Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw Aelodau eraill yn siarad.
Na. Yn bendant, nac oes. [Chwerthin.]
Os felly, a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? A gaf fi hefyd gofnodi fy ngwerthfawrogiad o'r tîm clercio, gan eu bod yn gwneud gwaith aruthrol, ac mae hyn wedi bod yn gymhleth iawn—nid dim ond y tîm clercio; y tîm sy'n cynrychioli'r Cynulliad ym Mrwsel hefyd, y tîm ymchwil. Maent yn gwneud llawer iawn o waith, a phan fyddwch yn ystyried yr holl fynd a dod sy'n digwydd, eu gallu i gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan, yng Nghaerdydd ac ym Mrwsel—credaf eu bod yn gwneud gwaith gwych ar ran y Cynulliad wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd, ac rwy'n canmol eu hymdrechion yn fawr.
Mae wedi bod yn gyfres ddiddorol o gyfraniadau, ond rwy'n meddwl mai'r hyn sy'n glir yw bod gwaith y pwyllgor yn hanfodol i ddeall y goblygiadau i Gymru. Rwy'n gwerthfawrogi Gweinidogion—pob un ohonynt, a gwn fod Gweinidog Brexit yno—am eu trafodaethau gonest ac agored â ni, ac mae'n rhaid i hynny barhau oherwydd, os ydym am wasanaethu pobl Cymru, mae'n rhaid inni gael yr atebion a'r drafodaeth honno. Ac mae bob amser wedi bod yn dda yn y pwyllgor fod Gweinidogion wedi dod i wneud hynny drosom. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn parhau i wneud hynny, ac edrychaf ymlaen at eu gweld yn atgoffa eu cymheiriaid yn y DU y gallant hwy ddod i wneud hynny hefyd, oherwydd weithiau nid yw mor hawdd eu cael hwy i ddod hefyd. Diolch.
Diolch i’r Cadeirydd.