– Senedd Cymru am 4:03 pm ar 24 Medi 2019.
Rydym ni'n mynd i symud ymlaen nawr at eitem 4: datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—rheilffordd i Gymru. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch. Hoffwn ddiolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am adolygiad Williams Llywodraeth y DU ynghylch rheilffyrdd, i ailddatgan ein disgwyliadau o ran datganoli a hefyd i egluro ein gweledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru a fydd yn diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, yr wyf i hefyd yn ei chyhoeddi heddiw. Mae ein gweledigaeth yn disgrifio'r manteision y bydd datganoli'r rheilffyrdd yn llawn yn eu cynnig, yn esbonio beth y byddem yn ei wneud yn wahanol gyda setliad datganoli priodol, ac yn cyflwyno dyfodol amgen i'r rheilffyrdd yng Nghymru.
Ers lansio adolygiad rheilffordd Williams, yn dilyn methiannau clir a dybryd y model presennol o ddarpariaeth rheilffyrdd, rydym ni wedi amlinellu'n gyson ein disgwyliadau y dylai'r adolygiad gynnwys nifer o newidiadau. Un, dylai alluogi Cymru i fod yn berchen ar, rheoli a datblygu ein seilwaith ein hunain; dau, rhoi mwy o hyblygrwydd inni weithredu gwasanaethau o ansawdd uchel, rheolaidd ar draws y ffin, i fwy o gyrchfannau; i'n galluogi ni hefyd i ddewis o amrywiaeth o fodelau darparu gwasanaethau a seilwaith, gyda mwy o ran i'r sector cyhoeddus; a sicrhau bod y sefydliadau sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i deithwyr a'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru—gan gynnwys cwmnïau trenau, Network Rail a'r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd—yn atebol mewn modd priodol i Lywodraeth Cymru.
Ers i'r Cynulliad bleidleisio o fwyafrif llethol i gefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cyflwyno ein hymateb terfynol i adolygiad Llywodraeth y DU. Roedd hyn yn egluro sut y byddem ni, gyda'r pwerau a'r cyfrifoldebau newydd hyn, yn datblygu ein rheilffyrdd yng Nghymru i ddiwallu ein hanghenion a'n hamcanion ein hunain, ac yn cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau wedi caniatáu i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, ddatblygu dull arloesol o weithredu a fydd yn sicrhau newidiadau sylweddol i deithwyr ledled ardal Cymru a'r Gororau. Drwy ddatganoli, fe wnaethom ni greu sefydliad a oedd yn goruchwylio proses gaffael a oedd yn rhoi ein hamcanion ein hunain yn ganolog iddi, yn datblygu sgiliau ac arbenigedd yng Nghymru, ac yn darparu model i sicrhau'r manteision ehangach mwyaf posib. Yn syml iawn, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib pe bai Lywodraeth y DU wrth y llyw.
Mae'r broses o drosglwyddo a thrawsnewid llinellau craidd y Cymoedd i Lywodraeth Cymru yn dangos sut y gall datganoli grym a gwasanaethau ddatblygu atebion pwrpasol arloesol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig.
Mae'r gallu i neilltuo amser ac ymdrechu'n benodol i gyflawni canlyniadau sy'n diwallu anghenion lleol ac amcanion ehangach wedi arwain at fanteision ehangach o ran denu cyflogaeth, datblygu arbenigedd lleol, sicrhau manteision cymunedol, a hyrwyddo ein diwylliant ac iaith. Er enghraifft, bydd 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chymunedau i gael gwared ar yr agweddau gwirioneddol a thybiedig hynny sy'n rhwystro pobl rhag defnyddio trafnidiaeth, i annog y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ac i droi gorsafoedd trenau yn ganolfannau cymunedol bywiog.
Ond mae angen inni fynd ymhellach, i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb a phwerau i weddnewid y rheilffordd ledled Cymru, i ddarparu seilwaith a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol, ac i wella hygyrchedd ac atebolrwydd i gymunedau lleol, er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw'r rheilffordd o safon uchel y maen nhw'n ei haeddu. Yn amlwg, dim ond drwy setliadau datganoli lle mae prosesau gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar flaenoriaethau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol y gellir diwallu anghenion lleol amrywiol.
Rydym ni'n cydnabod y gallai hi fod yn fuddiol fod rhai swyddogaethau, fel safonau diogelwch, amserlenni trawsffiniol a'r gallu i gludo nwyddau ar y rheilffyrdd, yn parhau i gael eu rheoli'n ganolog ar lefel Prydain Fawr. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r system hon gydnabod amrywiaeth setliad datganoli yn y DU a bod yn seiliedig ar lywodraethu, tryloywder a chynrychiolaeth briodol o du'r Llywodraethau cenedlaethol ac awdurdodau sydd â phwerau datganoledig.
Rydym ni eisoes mewn sefyllfa gref i ymateb i'r heriau hyn. Yn Nhrafnidiaeth Cymru, mae gennym ni eisoes y strwythurau, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ymgymryd â'r cyfrifoldebau a'r pwerau newydd hyn. Cafodd materion trawsffiniol eu datrys ar y cyd ac mewn ffordd gynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU pan drosglwyddwyd cyfrifoldeb am fasnachfraint Cymru a'r Gororau. A heddiw cyhoeddwn ein gweledigaeth ar gyfer ein rheilffyrdd sy'n cyd-fynd â'n hamcanion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ehangach, ein blaenoriaethau trafnidiaeth, a'n hymrwymiad i genedlaethau'r dyfodol.
Mae gennym ni batrymlun felly ar gyfer cyflawni'r elfennau sy'n weddill o ddatganoli, mae gennym ni gefnogaeth drawsbleidiol fel na welwyd o'r blaen, ac mae gennym ni weledigaeth uchelgeisiol a chyraeddadwy a fydd yn gwrthdroi'r degawdau o danfuddsoddi yn ein rheilffordd. Rydym ni'n agosáu at gyfnod tyngedfennol o ran esblygiad y rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr, ac yn enwedig y cyfle i ddatblygu rhwydwaith sy'n diwallu'n well anghenion y bobl yng Nghymru sy'n ei ddefnyddio, a'r cymunedau sy'n dibynnu arno.
Rwyf hefyd heddiw yn amlinellu egwyddorion Llywodraeth Cymru ar gyfer cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol a fydd yn cynnig newid sylweddol o ran amlder, integreiddiad ac amserau teithiau. Dim ond gyda'r setliad datganoli a chyllido priodol y gellir cyflawni'r rhain drwy raglen a ddatblygwyd yng Nghymru.
Nawr, rwy'n croesawu'r trafod cadarnhaol a fu rhwng Llywodraeth Cymru a Keith Williams a'i dîm, sydd wedi dangos diddordeb mawr o ran sut yr aethom ni ati yng Nghymru i gaffael y fasnachfraint, integreiddio'r traciau a'r trenau, a'n hymagwedd tuag at yr heriau sy'n ein hwynebu o dan y setliad datganoli presennol. Mae gennyf bob rheswm i gredu bod ein hachos wedi cael gwrandawiad, ac y caiff rhagor o ddatganoli i Lywodraeth Cymru ei argymell. Rwyf bellach yn disgwyl i Lywodraeth y DU ystyried ein gofynion, bodloni ein disgwyliadau, a phennu trefn, amserlen a rhaglen glir ar gyfer datganoli ein rheilffyrdd yn llawn. Disgwyliaf i Lywodraeth y DU gyflawni ei hymrwymiad i gyhoeddi Papur Gwyn yr hydref hwn, ac rydym ni'n barod i weithio gyda nhw i'w weithredu.
Mae ein rheilffordd yn hanfodol i rwydwaith trafnidiaeth effeithiol ac effeithlon a dylai fod yn un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae ganddi'r potensial i wneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru at fywydau pobl, ein cymunedau, yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd ei datblygu a'i hehangu yn barhaus yn cyfrannu at ein huchelgais i ddatblygu economi gryfach, fwy cynhwysol a thecach, ac i sicrhau ffyniant i bawb drwy gysylltu pobl, cymunedau a busnesau â swyddi, gwasanaethau a marchnadoedd.
Mae gen i naw o bobl sy'n dymuno siarad, a'r un cyntaf fydd Russell George.
Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad o ran y weledigaeth ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru? Rwy'n cefnogi barn y Gweinidog ynglŷn â datganoli'r seilwaith rheilffyrdd—credaf ei bod hi'n bwysig dweud hynny. Roedd llawer o sôn, Gweinidog, yn eich datganiad am atebion arloesol, pwrpasol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig, gan drawsnewid y rheilffyrdd ledled Cymru a darparu'r rheilffordd o ansawdd uchel y mae pobl Cymru'n ei haeddu. Gallaf gytuno â hynny i gyd—mae pob un ohonyn nhw'n ddyheadau clodwiw, clodwiw iawn yn wir—ond ni allaf beidio â meddwl, os yw defnyddwyr y rheilffyrdd yn gwrando ar y datganiad hwn heddiw, byddant yn meddwl wrth eu hunain 'beth am nawr? Beth am gyflwr presennol y gwasanaeth rheilffordd? Rwy'n credu y byddan nhw'n falch o glywed y dyheadau, ond byddan nhw'n dal i ofyn y cwestiwn hwnnw.
Yn eich datganiad, rydych chi'n cyfeirio at benodi 22 o lysgenhadon Trafnidiaeth Cymru i annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ond nid yw pobl yn dewis defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd nawr gan fod y rhwydwaith rheilffyrdd mor annibynadwy. Nid wyf yn dweud hynny'n fyrbwyll—gallaf roi digon o dystiolaeth am hynny o'r ohebiaeth a gefais yn ystod yr haf. A byddwn yn gwneud y sylw hefyd fod gan y Llywodraeth, wrth gwrs, lawer dull at ei defnydd yn barod o ran profiad teithwyr, sydd wedi bod yn gyson is na'r disgwyl yn ddiweddar—rydym ni wedi gweld canslo trenau, trenau hwyr, prinder staff, gorlenwi, problemau signalau, trenau rhy fach, a diffyg gwybodaeth o ansawdd pan gyfyd problemau. Rhwng mis Hydref a mis Gorffennaf, gwelsom mai dim ond 73 y cant o wasanaethau ar linell y Cambrian a gyrhaeddodd ar amser. Felly, rwy'n ceisio peidio â bod yn negyddol o ran yr hyn sy'n ddyheadau da a chadarnhaol gennych chi, ac rwy'n cytuno â chi—.
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad bod gan Trafnidiaeth Cymru y strwythur, yr arbenigedd a'r prosesau ar waith i ysgwyddo cyfrifoldebau a phwerau newydd, ond rwyf mewn difrif calon yn ei chael hi'n anodd credu'r datganiad hwnnw, oherwydd fy mod yn gweld nad oes fawr o dystiolaeth o hynny hyd yn hyn. Felly, hoffwn ofyn i chi, efallai, Gweinidog, a ydych chi'n teimlo bod angen unrhyw adnoddau ychwanegol er mwyn i Trafnidiaeth Cymru gyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol ar hyn o bryd, ac yn sicr yn y dyfodol, o ran ymgymryd â'r cyfrifoldebau ychwanegol yr ydych chi wedi'u hamlinellu.
O ran honiad y Gweinidog y bu degawd o danfuddsoddi yn ein rhwydwaith rheilffyrdd, tybed a yw'r Gweinidog yn croesawu buddsoddiad Llywodraeth y DU o fwy na £2 biliwn yn llwybr Cymru rhwng 2019 a 2024, a fydd yn record o ran buddsoddi yn rheilffordd Cymru ac yn gynnydd o 28 y cant ar y cyfnod rheoli diwethaf. Byddwn yn ddiolchgar hefyd pe gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo perchenogaeth rheilffyrdd y Cymoedd, manylion y setliad ariannol sy'n cyd-fynd â'r trosglwyddiad, ac amserlen ar gyfer adeiladu'r rhwydwaith newydd. A tybed a allai'r Gweinidog hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru o ran datblygu gorsaf newydd, yn benodol pryd fyddwch yn disgwyl rhyddhau canlyniadau asesiad cam 2 ar gyfer gorsafoedd newydd yn swyddogol, y dyddiad dechrau disgwyliedig ar gyfer cam 3, a pha mor hir y rhagwelwch y bydd cam 3 yn para.
I gloi, Llywydd, cytunaf ei bod hi'n bwysig i'r Senedd hon gael y cyfle i graffu ar yr holl benderfyniadau a wneir ynghylch polisi rheilffyrdd yng Nghymru, a dylid mynd â mwy o'r penderfyniadau a wneir ynglŷn â pholisi rheilffyrdd Cymru, rwy'n credu, yn nes at bobl Cymru.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Russell George am ei gyfraniad, am ei gwestiynau? Rwy'n croesawu'n fawr y gefnogaeth drawsbleidiol sydd gan y Llywodraeth, yn ddiolchgar iawn, am ei safiad ar ddatganoli rheilffyrdd. Rwy'n credu bod yr Aelod yn cyflwyno achos pwysig dros integreiddio nid yn unig y cledrau a'r trenau, ond dulliau gwahanol o deithio hefyd, a dyna'n union beth yr ydym ni'n bwriadu ei wneud drwy ddatganoli rheilffyrdd i Gymru. Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn hefyd y bydd teithwyr ar hyn o bryd yn meddwl am y gwasanaethau y maen nhw'n eu defnyddio ar hyn o bryd.
Nawr, rydym ni ar daith, taith £5 biliwn—mae Russell George yn gywir yn nodi heriau diweddar sydd, yn rhannol, wedi digwydd oherwydd tanfuddsoddi hanesyddol yn y rhwydwaith rheilffyrdd. Ac mae Russell wedi nodi'n gywir, er enghraifft, methiannau yn y signalau, sy'n ganlyniad i ddiffyg buddsoddi diweddar. Byddwn yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario rhagor o adnoddau ledled rhwydwaith llwybr Cymru. Fodd bynnag, hoffwn atgoffa'r Aelodau hefyd o'r adnoddau sylweddol iawn y mae Llywodraeth Cymru wedi'u buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—na fu'n gyfrifoldeb inni; rydym ni wedi gwneud hynny beth bynnag. Ac, yn ddiweddar, rwy'n credu bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gallu cyfrifo bod Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu oddeutu £362 miliwn at wariant cyhoeddus ehangach ar reilffyrdd Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi £226 miliwn mewn prosiectau gwella seilwaith rheilffyrdd, gan gynnwys defnyddio cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Bu hyn yn hanfodol bwysig, o gofio, yn ddiweddar—y cyfnod rheoli diweddar—nid ydym ni wedi gweld y gwariant angenrheidiol ar rwydwaith llwybrau Cymru. Mae'r Adran Drafnidiaeth, mae'n dda gennyf ddweud, wedi ymrwymo nawr i ddatblygu'r achosion canlynol i'r cam nesaf o'r broses sydd ganddyn nhw ar y gweill: maen nhw wedi penderfynu bod angen gwella cyflymder ar arfordir y gogledd, bod gwelliannau o ran cyflymder ar y llinell yn angenrheidiol rhwng Caerdydd ac Abertawe, a bod angen uwchraddio'r llinell liniaru rhwng Cyffordd Twnnel Hafren a Chaerdydd hefyd.
Mae'n werth nodi, fodd bynnag, Llywydd, nad oedd dadl gref dros fwrw ymlaen i gynyddu cyflymder ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud y cytunwyd y bydd Network Rail yn ystyried a datblygu gwelliannau i'r llinell hon yng nghyd-destun cynllun ehangach sy'n ystyried dargludedd yr holl ffordd o Lerpwl i Wrecsam yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru. Nawr, mae'r ymrwymiadau hyn i'w croesawu, Llywydd; mae'r ymrwymiadau hyn yn rhai i'w croesawu'n fawr. Ac mae'n amlwg bod yn rhaid bwrw ymlaen â'r rhain yn gyflym iawn ac ymgysylltu'n llawer gwell â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid lleol.
O ran heriau diweddar eraill a wynebwyd gennym ni ar y llwybr, bydd Aelodau'n cofio yn ystod yr hydref y llynedd heriau yn sgîl y ffaith ein bod wedi etifeddu fflyd heb amddiffyniad rhag llithriad olwynion. Mae systemau diogelu rhag llithriad olwynion, rwy'n falch o ddweud, bellach wedi eu cynnwys ar y trenau hynny nad oedd ganddynt y systemau o'r blaen. Mae'n rhan o fuddsoddiad £14 miliwn yn y fflyd bresennol tra caiff y trenau newydd hynny eu hadeiladu.
Rwyf hefyd yn falch o ddweud bod gan Trafnidiaeth Cymru a Network Rail bartneriaeth ragorol a'u bod yn cyfathrebu'n wych, rhywbeth na fu wastad yn wir, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud. Ac mae Network Rail, rwy'n falch o ddweud, wedi gwario tua £3 miliwn yn ymdrin â llystyfiant ar hyd y rheilffyrdd. Mae hynny'n gwbl hanfodol. Roedd llinellau penodol yng Nghymru yn wynebu heriau y llynedd oherwydd llystyfiant gormodol.
Rwyf yn credu bod Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu gweithgarwch ac arbenigedd yn gyflym iawn, ond, wrth gwrs, wrth i swyddogaethau ychwanegol gael eu trosglwyddo i'r corff, bydd angen arbenigedd ac adnoddau dynol ychwanegol. Ar ddechrau'r daith 15 mlynedd, fe wnaethom ni ddweud y byddai Trafnidiaeth Cymru yn recriwtio ugeiniau o bobl newydd i swyddogaethau allweddol ac, hefyd, y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gofyn am arbenigedd, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau ychwanegol. Mae hynny'n rhywbeth sy'n parhau ac, wrth gwrs, os, a gobeithiwn, pan fydd datganoli cyfrifoldebau yn trosglwyddo i Lywodraeth Cymru, byddem yn disgwyl gweld Trafnidiaeth Cymru yn sicrhau arbenigedd ychwanegol.
O ran trosglwyddo asedau llinell graidd y Cymoedd, wel, mae'r trosglwyddiad i fod i gael ei gwblhau'n fuan yn y misoedd sydd i ddod, ac mae'r amserlen ar gyfer adeiladu'r metro, mae'n dda gennyf ddweud, yn parhau yn unol â'r weledigaeth a amlinellwyd pan lansiwyd y cytundeb fasnachfraint gennym ni. Mae trenau'n cael eu hadeiladu a bydd gwasanaethau'n dechrau yn ôl y disgwyl ac fel yr amlinellwyd yn y ddogfen wreiddiol a gyhoeddwyd yn ystod hydref 2018. Mae heriau enfawr, wrth gwrs, ledled y DU yn y sector o ran caffael cerbydau ar hyn o bryd, ond rydym ni'n hyderus y byddwn ni'n gallu bodloni'r newidiadau i amserlen mis Rhagfyr gyda'r fflyd sydd gennym ni a chyda cerbydau y gellir dod â nhw ar y cledrau mewn pryd.
O ran y gorsafoedd yr hoffem ni eu gweld yn cael eu datblygu, rwy'n falch o ddweud ein bod wedi nodi'r gorsafoedd hynny yn y ddogfen yr ydym ni wedi'i chyhoeddi, ond bydd angen i Lywodraeth y DU gytuno i'w hariannu. Un o'r problemau mawr a gawsom ni yn ddiweddar gyda chyllido seilwaith yn y DU yw bod Llyfr Gwyrdd y Trysorlys yn ei hanfod yn arwain at flaenoriaethu a chyfeirio buddsoddiad i'r ardaloedd hynny lle mae'r poblogaethau mwyaf dwys. Mae hynny'n golygu, ar y cyfan, de-ddwyrain Llundain. Rydym ni eisiau gweld model gwahanol yn cael ei fabwysiadu ledled y DU ac, yn sicr, yng Nghymru, rydym ni'n gwneud hynny'n union—yn ceisio buddsoddi yn fwy cyfartal ar draws pob rhanbarth er mwyn cydbwyso cyfleoedd am dwf a ffyniant a mynd i'r afael ag anghydbwysedd o ran cyfoeth a chyfleoedd gwaith.
Mi allwn i siarad, yn fan hyn, am yr heriau dŷn ni'n eu wynebu efo'r rheilffyrdd sydd gennym ni ar hyn o bryd, ac maen nhw'n heriau sylweddol a dwi'n gobeithio bod y Gweinidog yn ymwybodol ohonyn nhw. Hynny ydy, fydd pobl ddim yn amyneddgar am byth yn aros am y trenau newydd, lle mae'r amserlenni wedi bod yn llithro. Mae yna rwystredigaeth ynglŷn â diffyg toiledau ar drenau, mae yna rwystredigaeth ynglŷn ag arafwch cyflwyno dwyieithrwydd ar y trenau ac yn y blaen, ac mi wnawn ni barhau i ddal y Llywodraeth i gyfrif ar y materion hynny.
Ond sôn ydyn ni heddiw yma am gynlluniau strategol, hirdymor i gryfhau ein hisadeiledd rheilffyrdd ni yng Nghymru. Dwi'n croesawu'n fawr yr hyn sydd yn yr adroddiad sydd o'm blaenau ni heddiw yn amlinellu gweledigaeth i gymryd rhagor o gyfrifoldeb am ddatblygu'r isadeiledd hwnnw. Dwi'n ei groesawu fo, wrth reswm, oherwydd ein bod ni fel plaid wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd lawer. Mae o'n adlewyrchu'r hyn dŷn ni wedi bod yn ei ddweud, ac, wrth gwrs, fel dŷn ni wedi'i glywed gan y Gweinidog, mae'n adlewyrchu, bellach, y consensws sydd wedi datblygu o fewn y Cynulliad Cenedlaethol yma. Ond mi wyddwn ni, p'un ai efo trenau neu efo datganoli trethi teithwyr awyrennau, dydy consensws yn y lle yma ddim yn ddigon i berswadio Llywodraeth mewn lle arall i weithredu mewn ffordd sydd er budd Cymru.
Fel nodyn ychwanegol, yr ateb i fi ac i nifer cynyddol o bobl yng Nghymru ydy ein bod ni'n cymryd cyfrifoldeb drwy fod yn wladwriaeth go iawn, sydd yn gosod ein cyfeiriad ein hunain fel gwlad annibynnol. Ond, yn sicr yn fan hyn, mae gennym ni gynllun ar gyfer yr hyn y dylai'r Llywodraeth ei wneud ar unwaith i ddatganoli cyfrifoldeb am y rheilffyrdd yng Nghymru a'r cyllid i fynd efo fo. Dŷn ni'n gwybod bod yna danfuddsoddi dybryd wedi bod yng Nghymru—yr 1 y cant o'r arian sydd ar gael i wella rhwydwaith Prydain yn cael ei wario yng Nghymru, tra bod 11 y cant o'r rheilffyrdd yma—hynny ydy, gwella rheilffyrdd, nid dim ond cynnal a chadw, sy'n gorfod digwydd, beth bynnag. Mae'n rhaid inni gael y gallu yna i fuddsoddi mewn ymestyn ein rheilffyrdd ni. Mae'n rhyfeddol. Dŷch chi'n edrych ar y map a dŷch chi'n gorfod atgoffa'ch hunain—efo ffyrdd, dŷn ni'n meddwl sut i wella'r ffyrdd rhwng de a gogledd. Does yna ddim un rheilffordd—mae'n syfrdanol, dal—does yna ddim rheilffordd yn rhedeg o ogledd i dde Cymru heb ei bod hi'n mynd ar draws y ffin. Ac mae yna fodd i'w wneud.
Dwi yn falch o weld cyfeiriad yma at agor y coridor yna i lawr y gorllewin, at fuddsoddi, ie, o Amlwch drwodd i Fangor ac wedyn ar draws drwy Gaernarfon i lawr tuag at Aberystwyth, agor y llinell yna o Aberystwyth i Gaerfyrddin. Mae'n rhaid inni gael yr uchelgais yma. Ac ydy, mae pobl yn dweud, 'O, mae'r rhain yn fuddsoddiadau mawr,' ond edrychwch ar y buddsoddiad sy'n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd, lle mae gennych chi £56 biliwn yn mynd i HS2, £30 biliwn yn mynd i Crossrail 2, £70 biliwn yn mynd i Transport for the North. Pres mân ydy'r hyn dŷn ni'n sôn amdano fo er mwyn creu isadeiledd rheilffordd sy'n wirioneddol yn gallu ein huno ni fel gwlad.
Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod y ddogfen yn cyfeirio at ailagor y gorllewin yna, o Amlwch i Abertawe, os liciwch chi, a buaswn i'n gwerthfawrogi sylwadau ychwanegol gan y Gweinidog ar hynny, achos, fel mae'r Llywodraeth yn ei ddweud yn y datganiad yma, dyma rhai o'n hasedau mwyaf gwerthfawr ni yn gymdeithasol ac yn economaidd. Os oes yna linell sydd yno sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, mi ddylen ni fod yn gwneud popeth i wneud yn siŵr bod yr ased honno yn cael ei chwysu gymaint â phosib ar gyfer ein cymunedau ni.271
Yr unig gwestiwn arall—buaswn i'n gwerthfawrogi sylw ynglŷn â'r amserlen a fyddech chi'n ei rhagweld, Weinidog, ynglŷn â sut i symud hwn ymlaen o rŵan, gan gwmpasu adolygiad Williams. Pryd fyddech chi'n disgwyl ymateb gan Lywodraeth Prydain ac yn y blaen?
Diolch yn fawr iawn. Mae Rhun ap Iorwerth yn gwneud sawl sylw hollbwysig yn ei gyfraniad, yn bennaf yr angen i ystyried y symiau enfawr o arian sy'n cael eu buddsoddi dros y ffin—£150 biliwn—i wella'r seilwaith rheilffyrdd, a gallai dim ond ffracsiwn o'r arian hwnnw greu cyfleoedd enfawr. Mae'r Aelod yn sôn am y cysylltiadau gogledd-de sy'n bodoli ar hyn o bryd ac a allai fodoli. Nawr, mae'r gwasanaethau presennol rhwng y gogledd a'r de yn teithio dros y ffin; maen nhw'n adlewyrchu economi swyddogaethol ardal drawsffiniol gogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr ac economi weithredol y Canolbarth gyda gorllewin canolbarth Lloegr, ond ni ddylai hynny ein rhwystro rhag buddsoddi mewn seilwaith arall sydd yn cysylltu gogledd a de Cymru ymhellach i'r gorllewin, lle nad oes dwysedd twf y boblogaeth. Fy marn i yw y dylem ni fod yn nerthu'r rhanbarthau a grymuso'r rhanbarthau i fod yn fwy ffyniannus, ac mae hynny'n golygu buddsoddi yn yr ardaloedd hynny sy'n teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac sydd, mewn rhai achosion, wedi eu hesgeuluso yn wir wrth i ganolfannau trefol weld twf economaidd yn y cyfnod diweddar.
Mae'r amserlen ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth—ac rwyf yn diolch i'r Aelod am rannu a chefnogi ein gweledigaeth—yn dibynnu i raddau helaeth ar benderfyniadau Llywodraeth y DU ynglŷn â sut i ymateb i adolygiad Williams a'r amserlen sy'n seiliedig ar drosglwyddo pwerau a chyllidebau yn drefnus i Lywodraeth Cymru. Ond rwyf wedi dweud yn y ddogfen weledigaeth mai gweledigaeth 20 mlynedd yw hon ar gyfer gwella seilwaith a chynyddu gwasanaethau ac amlder gwasanaeth ar hyd llwybr Cymru.
Rwy'n credu bod consensws yn y Siambr yma sy'n dechrau dylanwadu ar Siambr mewn lle arall. Rwy'n teimlo y bu newid barn yn ddiweddar yn San Steffan o ran y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer rheilffyrdd. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi mwynhau sawl sgwrs gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros drafnidiaeth, Grant Shapps, yn ddiweddar, yn ymwneud yn bennaf, wrth gwrs, â'r her a wynebwyd gan gwymp Thomas Cook, ond un sgwrs benodol ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldebau am reilffyrdd a datganoli setliad ariannu priodol. Bydd y sgwrs honno yn un o nifer a fydd yn digwydd yn y misoedd nesaf, wrth iddo benderfynu sut i ymateb i adolygiad Williams, ac wrth i mi barhau i bwyso am ddatganoli. Dywedais yn fy natganiad hefyd fy mod yn ffyddiog nawr y caiff ein cyflwyniad i adolygiad Williams ei ystyried yn ffafriol, ac rydym yn aros yn eiddgar iawn i'r adolygiad llawn gael ei gwblhau, ei gyflwyno i Lywodraeth y DU, ac am ymateb yn unol â hynny.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, fel Russell George, yn gywir y bydd llawer o deithwyr yn ystyried y gwasanaethau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw ein bod ni nawr yn gwella gorsafoedd ledled rhwydwaith Cymru a'r Gororau. Erbyn y Nadolig, bydd 150 o orsafoedd ychwanegol wedi'u glanhau'n drylwyr. Rydym ni'n recriwtio'r llysgenhadon hynny, rydym ni'n creu mwy o gynlluniau partneriaeth cymunedol. Mae trenau'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn CAF yng Nghasnewydd. Mae gwasanaeth Tro Holton nawr yn gweithredu rhwng Lerpwl a Wrecsam.
Hoffwn wneud sylw bach iawn yn unig ynglŷn â thoiledau ar drenau tram. Yn ddiweddar, credaf y cyflëwyd rhywfaint o wybodaeth gamarweiniol i Aelodau'r Siambr hon ac i'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch toiledau ar drenau. Bydd tair llinell yn ardal y metro lle bydd trenau tram yn gweithredu. Mae'r llinellau hynny'n llinellau lle'r ydym ni'n dymuno gweld ymestyn, hynny yw, gwasanaethau'n ymestyn i gymunedau eraill—i ganol trefi, er enghraifft. Ac am resymau amlwg, ni allwch chi redeg trenau fel 'Pacers' ar ffyrdd. Ni allwch chi wneud hynny. Ac felly, mae'n rhaid i chi chwilio am ateb sy'n eich galluogi i redeg cerbydau ar ffyrdd ac ar yr un pryd ar draciau rheilffordd presennol. Ni chewch chi yn un man ar y blaned hon, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, system metro lle mae toiledau hefyd yn y cerbyd. Mae'r unig un sy'n gwneud hynny yn yr Almaen, ond nid yw'r toiledau hynny'n gydnaws â deddfwriaeth yn y wlad hon sy'n ymwneud â phobl â symudedd cyfyngedig. Felly, yn lle hynny, fe wnaethom ni'r penderfyniad i fuddsoddi'n helaeth iawn yn wir—mae £15 miliwn eisoes yn cael ei wario ar orsafoedd yn ardal Cymru a'r Gororau, ar y metro yn bennaf—i sicrhau bod gennym ni fynediad gwell, heb risiau, yn 99 y cant o orsafoedd y metro, a thoiledau sy'n hygyrch i deithwyr anabl a'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig. Mae'n golygu na fydd 95 y cant o deithwyr byth yn fwy na thua 10 munud i ffwrdd o doiled. Ac mae hynny'n hynod o bwysig i bendroni yn ei gylch, o ystyried y ddadl a gafwyd yn ddiweddar.
Rwy'n credu hefyd i'r Aelod wneud sylw pwysig iawn ynghylch ymdrechu'n barhaus, rwy'n credu, i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â hyn. Byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau wrth gyrraedd camau priodol gydag adolygiad Williams, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol ar yr adeg briodol i'r Siambr hon wneud cyflwyniad torfol arall, efallai pan fydd Llywodraeth y DU yn barod i ymateb i adolygiad Williams, fyddai'n dadlau, yn gynhwysfawr iawn, dros ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? Rydych chi'n dweud yn eich datganiad mai eich gorchwyl gyntaf yw mynd i'r afael â'r diffyg buddsoddiad hanesyddol mewn gwella'r rheilffyrdd yng Nghymru. Rydym ni'n eich cefnogi yn llwyr yn eich ymdrechion yn hyn o beth. Mae Cymru wedi dioddef erioed o ddiffyg cyllid angenrheidiol i wella'r seilwaith rheilffyrdd, felly mae'n iawn inni geisio rheoli ein tynged ein hunain o ran ein holl seilwaith rheilffyrdd. Dylem fod yn rhydd i greu system reilffyrdd sy'n addas i'w diben i wasanaethu pobl Cymru.
Ni allwn ni, wrth gwrs, sôn am y setliad datganoli a roddwyd i Gymru heb ei gymharu â'r hyn a roddwyd i'r Alban, ac nid yw datganoli'r rhwydwaith rheilffyrdd yn eithriad i hyn. Ni all hi fod yn iawn fod yr Alban wedi cael rheolaeth lwyr, ynghyd â'r cyllid angenrheidiol, ar gyfer ei holl rwydwaith rheilffyrdd, tra bod yn rhaid i Gymru fodloni â dull mor dameidiog gan Lywodraeth y DU. Gweinidog, rydych chi yn llygad eich lle'n dweud na allwn ni greu'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelir yn y cynlluniau metro a gwella gorsafoedd rhanbarthol, heb sôn am ddatblygiadau'r coridorau strategol, heb i'r cymwyseddau a'r cyllid angenrheidiol gael eu datganoli'n llawn, ac rwy'n ffyddiog y gallwn ni wella'n sylweddol ar gostau datblygu drud eithriadol Network Rail. Mewn geiriau eraill, gwario arian yn llawer mwy effeithlon nag a wneir ar hyn o bryd. Rydym ni eisoes yn gweld y gwelliannau sy'n bosib gyda phwerau datganoledig gyda'r gwelliannau o dan fasnachfraint newydd y Gororau, ac rwy'n ffyddiog y gwelwn ni'r un gwelliannau ar reilffyrdd craidd y Cymoedd o dan y rhaglen ddatblygu a amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru.
A yw hi'n deg felly i rannau eraill o rwydwaith rheilffyrdd Cymru fod ar ei hôl hi am nad oes gan Lywodraeth Cymru y cymwyseddau a'r cyllid i wneud y gwelliannau angenrheidiol? Rydym ni yn y Blaid Brexit yn cydnabod bod seilwaith y rheilffyrdd yn hanfodol i ddatblygiad economi Cymru, a byddwn yn eich cefnogi'n llawn yn eich ymdrechion i sicrhau y caiff y rhwydwaith rheilffyrdd a'i gydrannau eu datganoli'n llawn i Gymru gydag, wrth gwrs, yr holl gyllid angenrheidiol sydd ei angen i gyflawni uchelgeisiau Cymru o ran rheilffyrdd.
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gyfraniad a hefyd croesawu ei gefnogaeth i'n gweledigaeth a'n safbwynt ar ddatganoli cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd? Credaf fod David Rowlands yn gwneud sylw pwysig bod arnom ni angen system drafnidiaeth sy'n addas i'r diben, ac mae'r rheilffyrdd yn rhan annatod o hynny. Rydym ni eisiau bod yn gydradd â'r Alban. Mae'n eithaf amlwg. Mae rhannau eraill o'r DU yn mwynhau'r gallu i weithredu gwasanaethau a buddsoddi mewn seilwaith yn y ffordd y byddem yn ei dymuno yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud sylw pwysig am effeithlonrwydd gwariant a chanlyniadau buddsoddi. Un o'n rhwystredigaethau yn ystod y cyfnod diweddar oedd cost ormodol rhai gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd a'r ffaith bod rhai prosiectau wedi methu o ran canlyniadau. Er enghraifft, gallwn dynnu sylw at y gwelliannau o ran y gwasanaethau rhwng y gogledd a'r de a'r gorwario ar gostau'r gwaith a wnaethpwyd yn yr ymdrech i leihau amseroedd teithio. Ni wnaeth yr amseroedd teithio hynny, gyda llaw, leihau cymaint ag a ragwelwyd yn wreiddiol. Hoffem gymryd rheolaeth o waith o'r fath ac rwy'n credu y byddai hi'n gwbl briodol wedyn inni fod yn llwyr atebol pe na bai unrhyw waith yn bodloni disgwyliadau'r cyhoedd.
Ni ddylai unrhyw ran o Gymru lusgo y tu ôl i ran arall o Gymru oherwydd diffyg cyllid. Dyna pam yr ydym ni wedi bod yn glir iawn y dylid datganoli cyllid i gyd-fynd â datganoli cyfrifoldebau. Mae'r metro yn ne-ddwyrain Cymru yn cael buddsoddiad sylweddol yn rhan o'r cytundeb twf ar gyfer y rhanbarth. Ond, yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, byddwn yn gweld gwelliannau mewn ardaloedd metro eraill ac yn y meysydd hynny lle nad oes cynlluniau metro wedi'u dyfeisio eto. Yn arbennig, gallaf gyfeirio at fuddsoddiadau sydd ar y gweill yn y gogledd ddwyrain, lle'r ydym ni'n gweld buddsoddi mawr yng nghynllun parcio a theithio ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, mewn gwelliannau ar gyfer cyfleoedd cynlluniau treialu bysiau ledled Cymru, a'r arian yr ydym ni'n ei wario yn y de orllewin i ddatblygu ymhellach y weledigaeth ar gyfer cynllun metro y de orllewin—ardal Bae Abertawe—.
Ond, er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon ac er mwyn cyflawni'r holl nodau ac amcanion a nodwyd yn y datganiad ysgrifenedig yr wyf wedi'i amlinellu heddiw, bydd angen buddsoddiad sylweddol. Ond nid yw'n fuddsoddiad na ddylem ei ddisgwyl, yn seiliedig ar ein poblogaeth a thanfuddsoddi hanesyddol yn y seilwaith rheilffyrdd yn y cyfnod diweddar.
A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod i'n croesawu'n fawr y weledigaeth gyffredinol yr ydych chi wedi'i hamlinellu inni y prynhawn yma? Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud mai'r un peth sy'n uno pobl ar bob ochr y Siambr hon yw penderfyniad pendant bod pobl Cymru yn haeddu llawer gwell na'r hyn a gawsom ni o ran cyllid a phwerau dros reilffyrdd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Croesawaf yn fawr yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud a chroesawaf eich ffydd y daw adroddiad cadarnhaol yn sgil adolygiad Keith Williams yn ddiweddarach eleni. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi'r newyddion diweddaraf i ni ynglŷn â chynnydd ac amserlen ar gyfer cyhoeddi ei adolygiad ac yna unrhyw ddatganoli cyfrifoldebau yn sgil hynny. Nid wyf yn credu mai fi yw'r unig un sy'n teimlo rhwystredigaeth lwyr pan welaf y ffordd y mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn taflu arian at rai cymunedau gan lwgu cymunedau eraill o ran unrhyw fuddsoddiad o gwbl, ac yn sicr bu Cymru yn y sefyllfa honno flwyddyn ar ôl blwyddyn, waeth beth fo lliw'r Llywodraeth.
Rwy'n credu bod llinell Cwm Ebwy, yr ydym ni eisoes wedi clywed pobl yn siarad amdani'r prynhawn yma, yn enghraifft o fethiant y setliad hwn. Rydych chi wedi ateb cwestiwn yn gynharach y prynhawn yma, Gweinidog, ynglŷn â'r cyfrifoldeb datganoli dros reilffyrdd y Cymoedd, ond wrth gwrs ni ystyrir rheilffordd Cwm Ebwy yn llinell graidd i'r Cymoedd er ei bod yn gwasanaethu poblogaeth sydd yr un fath i raddau helaeth â'r rheilffyrdd sy'n gwasanaethu Merthyr, Rhymni, Aberdâr neu Dreherbert. Mae hynny'n dangos y cymhlethdod a'r darnio y sonioch chi amdano yn eich datganiad ym mis Chwefror sy'n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl heddiw. Nid sgwrs academaidd am ddamcaniaeth gyfansoddiadol yw hon, ond mae'n ymwneud â'r modd y gallwn ni fuddsoddi yn y seilwaith sy'n cynnal ein heconomi heddiw.
I ni yng Nglynebwy ac i ni ym Mlaenau Gwent, mae'r blaenoriaethau'n glir ar gyfer llinell Cwm Ebwy. Rydym ni eisiau gweld y cerbydau newydd yr addawyd inni. Mae angen pedwar trên yr awr arnom ni. Nawr, rwy'n deall, Gweinidog, ac rydym ni wedi cael sgyrsiau am hyn yn y gorffennol, bod eich swyddogion yn dal i weithio ar hyn, a gobeithiaf y gallwch chi ddweud wrthym ni pryd y byddech yn disgwyl gweld dau drên ar y llinell, yn y lle cyntaf, ac yna pedwar trên yr awr yn y pen draw. Rydym ni wedi cael gwybod y gallwn ni ddisgwyl hynny yn 2024. Yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn i ei weld yn cael ei gyflwyno ynghynt os yw'n bosib.
A'r sylw olaf yw hwnnw am Abertyleri. Byddai gorsaf yn Abertyleri yn cael effaith enfawr ar fywiogrwydd y dref honno ac ar allu pobl sy'n byw ym mhob rhan o Gwm Ebwy Fach i ddefnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a'r system Metro newydd. Mae hynny'n rhywbeth sydd yn bwysig. Fe wnaethoch chi sôn yn gynharach am y modelau y mae'r Adran Drafnidiaeth yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn Lloegr i benderfynu lle y caiff gorsafoedd newydd eu lleoli a lle i gynnig gwasanaethau newydd, ond wrth gwrs ni fydd y model hwnnw byth yn darparu gorsaf yn Abertyleri nac unrhyw le arall ym Mlaenau'r Cymoedd neu rwydwaith y Cymoedd gan nad yw'n bodloni'r maen prawf a bennir gan Lywodraeth y DU. Felly, mae angen model arnom ni a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru ac a fydd yn cyflawni ar gyfer pobl yng Nghymoedd y De, yn enwedig yn yr achos hwn, o ran darparu gorsafoedd newydd, ond hefyd o ran gwneud gwelliannau eraill i'r seilwaith a chyflwyno gwasanaethau newydd.
Mae'r cwestiwn olaf yr hoffwn i ei ofyn i chi o ran y materion penodol yn y de ddwyrain yn ymwneud â thrydaneiddio a gyriant. Nawr, dydw i ddim yn un o'r bobl hynny sy'n gwneud môr a mynydd ynghylch cael trenau trydan yn lle bynnag y mae eu hangen. Fodd bynnag, rydym ni yn gwybod eu bod yn cynnig profiad teithio llawer gwell ac rydym ni yn gwybod eu bod yn cael llawer mwy o effaith o ran newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio. Felly, mae arnaf i eisiau deall sut y gallech chi drydaneiddio lein Glyn Ebwy er mwyn sicrhau y gallwn ni fod yn rhan o'r system metro ac nid ar ei phwys. Llywydd, mae'r datganiad y prynhawn yma wedi rhoi cyfle i Aelodau drafod sut yr ydym ni eisiau bwrw ymlaen â hyn. Gobeithio y gallwn ni drafod y materion hyn yn fwy rheolaidd, ond rwyf hefyd yn gobeithio, drwy ddatganoli cyfrifoldeb a chyllidebau i Lywodraeth Cymru, y gallwn ni sicrhau bod gennym ni'r gallu yn y fan yma i fuddsoddi mewn rheilffyrdd ond hefyd i fuddsoddi mewn system drafnidiaeth amlfodd ac integredig sy'n cyflawni, naill ai drwy reilffordd neu fws neu dram, i bobl ar hyd a lled y wlad, a gallwn ddechrau gwireddu'r weledigaeth y mae'r Gweinidog wedi'i hamlinellu heddiw.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad, ei gwestiynau a'r sylwadau pwysig a wnaeth? Os caf i ymdrin â'r mater o fuddsoddi a'r model a fabwysiadwyd gan Lywodraeth y DU drwy Lyfr Gwyrdd y Trysorlys, sef, yn y bôn, cyfrifiad sy'n seiliedig ar y gymhareb budd-cost a fydd wastad yn arwain at fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny sydd eisoes yn gefnog a lle mae niferoedd mawr o bobl gyfoethog, oherwydd fe allwch chi wastad gyfrifo adenillion gwell os gallwch ddarparu ar gyfer y cymunedau hynny. Ac o ganlyniad, nid yw'n syndod bod pobl mewn cymunedau mwy difreintiedig, cymunedau sydd eisoes yn wynebu heriau difrifol, wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso yn y degawdau diwethaf. Fy marn i yw bod angen diwygio Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, y gyfres honno o reolau sy'n penderfynu sut y caiff arian ei fuddsoddi gan Lywodraeth y DU, ac mae'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu'n fawr iawn. Mae'n rhywbeth sydd yn nwylo'r Gweinidogion presennol, mae'n rhywbeth a allai fod yn nwylo Llywodraeth yn y dyfodol, ond rwy'n credu bod angen gwneud hynny er mwyn ail-gydbwyso economi'r DU.
Mae Alun Davies hefyd yn gwneud y sylw pwysig am swyddogaeth trenau trydan o ran gwella amseroedd teithiau. Mae trenau trydan yn cyflymu'n gynt ac felly gallant arwain at lai o amser aros mewn gorsafoedd, ond gallant hefyd arwain at amseroedd teithio byrrach rhwng gorsafoedd. Byddwn yn defnyddio trenau tri-dull a deuddull ar rwydwaith masnachfraint Cymru a'r Gororau. Efallai y byddwn yn defnyddio trenau hydrogen hefyd yn y dyfodol, a'm gobaith yw, wrth i ni ddarparu'r ganolfan ragoriaeth rheilffyrdd byd-eang yn y de, y byddwn yn gweld trenau hydrogen yn cael eu profi i'w cyflwyno'n dorfol yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym ni, yn wir, yn gweithio i ddarparu pedwar trên yr awr ar linell Cwm Ebwy erbyn 2024, ond fy ngobaith yw, os oes modd o gwbl y gallwn ni wneud hynny ynghynt, y gwnawn ni hynny ynghynt. Wrth gwrs, pe baem ni'n gallu cael y swm o arian y credwn y dylem ni fod yn gymwys i'w gael ar gyfer buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, byddem yn gweld gorsafoedd ychwanegol, gan gynnwys o bosib yn Abertyleri. Ond, ni fyddwn yn dymuno mabwysiadu'r un fformiwla ag y mae Llywodraeth y DU yn ei mabwysiadu. Rwyf eisiau mabwysiadu dull sy'n arwain at ddosbarthu cyfoeth yn decach, a chyfle i greu cyfoeth a ddosberthir yn decach ledled Cymru.
O ran y ffaith nad yw llinell Glynebwy wedi ei dynodi'n rheilffordd graidd i'r Cymoedd, rwy'n credu nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr i neb nad yw'n rhan o'r ased diffiniedig hwnnw yn y Cymoedd. Y rheswm, wrth gwrs, yw bod yn rhaid i wasanaethau redeg ar brif reilffordd de Cymru, nad yw wedi'i datganoli. Ond, mae peidio â chategoreiddio llinell Glynebwy fel rheilffordd graidd i'r Cymoedd, mae arnaf ofn, weithiau, yn rhoi'r argraff mai llinell gwasanaeth eilaidd ydyw. Nid yw hynny'n wir. Mae'n gwbl hanfodol i'n gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ac mae'n bendant yn fwriad gennym i ddarparu gwasanaethau'r metro ar linell Glynebwy, ac, wrth wneud hynny, rwy'n credu, ei hailddiffinio yn rhan o ardal graidd llinellau'r Cymoedd, hyd yn oed os nad oes gennym ni gyfrifoldeb am yr elfen lawn o'r llinell y mae trenau'n ei defnyddio ar hyn o bryd.
O ran amserlen adolygiad Williams, nid Llywodraeth Cymru sydd wedi gosod hon. Ychydig iawn o ddylanwad sydd gennym ni o ran pryd fydd Keith Williams yn cyflwyno adroddiad, a sut a phryd y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb, ond byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am unrhyw gynnydd ac unrhyw ddatblygiadau. Os yw'n bosib, byddaf yn gwneud hynny cyn i Keith Williams neu Lywodraeth y DU wneud unrhyw gyhoeddiadau.
Llywydd, roeddwn yn bwriadu dweud mewn ymateb i'r cyfrannwr cyntaf y bydd swyddogion Trafnidiaeth Cymru yma yfory, rhwng 11.00 y bore a 2.00 y pnawn i ateb unrhyw gwestiynau ynghylch gwasanaethau cyfredol.
Rwy'n cytuno â Russell George, ac ychydig bach â Rhun ap Iorwerth. Rwy'n croesawu'r drafodaeth drawsffiniol hon. Mae dyfodol y rheilffordd yn edrych yn ddiogel, ond mae angen inni ystyried y sefyllfa bresennol hefyd.
O gofio hynny, pa drafodaethau y mae'n eu cael â Trafnidiaeth Cymru o ran y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd, oherwydd rydym ni wedi gweld rhai diffygion gyda'r cynnydd yn y misoedd diwethaf? Mae cwynion am seddau, yn enwedig, wedi cynyddu, ac mae hynny'n siomedig o gofio'r gwaith ychwanegol y mae Trafnidiaeth Cymru wedi'i wneud i wella'r sefyllfa o ran seddi. Pa drafodaethau y mae wedi eu cael ynglŷn â hynny? Hefyd, a all gadarnhau, er gwaethaf y ddadl heddiw, y bydd toiledau ar y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd yn y system newydd?
A gaf i ddiolch i Hefin David am ei gwestiynau ac am ei gyfraniad heddiw? Gadewch imi fod yn gwbl glir ynghylch pa wasanaethau fydd yn dal â threnau â thoiledau, ac a fydd â thoiledau sy'n gydnaws â deddfwriaeth sy'n ymwneud â phobl sydd â symudedd cyfyngedig. O ran y rhwydwaith metro, bydd cyfleusterau tai bach yn dal i fod ar y gwasanaethau trên ar linell Rhymni, ar linell Maesteg, ar linell Glyn Ebwy ac ar linell Bro Morgannwg. Bydd trenau tram yn rhedeg ar dair llinell, fel y dywedais yn gynharach: byddant yn rhedeg ar linellau Treherbert, Merthyr ac Aberdâr. Gobeithio bod hynny'n ateb pob ymholiad ynghylch y mater hwn ynglŷn â thoiledau.
O ran capasiti ar y fflyd bresennol, rydym yn gwneud ein gorau i ddarganfod ffyrdd o ymdrin â materion capasiti ledled y rhwydwaith, ond rydym yn cydnabod bod problem benodol yn ardal y metro, a dyna pam yr ydym ni'n gwneud pob ymdrech i ganfod cerbydau lle bynnag y gallwn ni ledled y DU i'w defnyddio yma yng Nghymru cyn gynted â phosib.
Mae'r amser a neilltuwyd gan y Llywodraeth ar gyfer y datganiad hwn yn awr ar ben. Mae gen i nifer o siaradwyr sy'n dal eisiau siarad. Rhybudd rhag blaen, felly. Un cwestiwn o hyn ymlaen, a byddaf yn gweld a allaf alw'r holl siaradwyr sydd gennyf ar fy rhestr. John Griffiths, rhowch gynnig arni.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr eich uchelgais a'ch ymrwymiad i roi Cymru mewn sefyllfa fwy grymus, Gweinidog, o ran penderfynu ar y seilwaith a'r gwasanaethau sydd gennym yma yng Nghymru. Gan mai dim ond un cwestiwn sydd gennyf, fe'i cyfyngaf felly i fater gorsaf reilffordd gerdded Magwyr, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol, ac rwy'n credu ei bod yn cyd-fynd i raddau helaeth â'r hyn yr ydych chi'n sôn amdano o ran deall a diwallu anghenion lleol, ac â chynnwys budd cymunedol yn y datblygiad a fydd yn mynd rhagddo. Felly, dim ond tybio oeddwn i beth allech chi ei ddweud, Gweinidog, o ran y cynigion ar gyfer gorsaf gerdded Magwyr, a sut mae hynny'n cyd-fynd â'ch uchelgeisiau ar gyfer dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru.
Mae'r Aelod yn gwneud sylw pwysig iawn, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut yr ydym ni'n asesu ymhle y dylid buddsoddi arian ac, ar hyn o bryd, rhaid inni asesu hynny ar sail y fformiwla a'r meini prawf y mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU yn eu defnyddio. Yn y dyfodol, fel yr wyf wedi dweud, yn y ddogfen sydd wedi'i chyhoeddi heddiw ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig ac ochr yn ochr â'r datganiad llafar hwn, byddwn wedi dymuno mabwysiadu model gwahanol i bennu'r buddsoddiad mewn gorsafoedd ar draws y rhwydwaith, yn seiliedig ar rai o'r meini prawf unigryw yr ydym ni wedi'u datblygu yma yng Nghymru, gan gynnwys, er enghraifft, system arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru o ran arfarnu cyfleoedd buddsoddi.
Rwy'n credu bod gan gynnig gorsaf gerdded Magwyr botensial enfawr a bod cefnogaeth enfawr i hynny ar draws y Siambr ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd, mae'r model y mae Llywodraeth y DU wedi'i fabwysiadu ar gyfer buddsoddi mewn gorsafoedd yn ein cyfyngu, ond, wrth gwrs, pe baem yn datganoli'r cyfrifoldebau a'r cyllid, gallem fabwysiadu cyfres wahanol o feini prawf ar gyfer asesu rhaglenni. Yn wir, mae'n ddigon posib, pe bai adnodd o'r fath ar gael inni, y gallem ni gynnwys llawer mwy o brosiectau ar y rhestr yr wyf wedi'i chyhoeddi heddiw.
Rwyf hefyd yn croesawu'r uchelgais yn hyn o beth. Dyna yw hanfod datganoli; mae ynglŷn â chymryd y pwerau hynny a'r cyllid i gyd-fynd â'r pwerau hynny i drawsnewid y rhwydwaith rheilffyrdd ymhellach, ac i gael pobl i newid eu ceir am fathau eraill o drafnidiaeth. A gaf i ofyn dim ond un cwestiwn, Llywydd—un cwestiwn yn unig? A gawn ni'r newyddion diweddaraf, os gwelwch yn dda, ynghylch y dyddiad ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth Sul ar linell Maesteg, rhan o'r trawsnewidiad presennol, a'r dyddiad ar gyfer yr astudiaeth a wnaethpwyd gan Network Rail ynglŷn â chynyddu amlder y gwasanaethau ar y llinell honno hefyd?
Diolch i Huw Irranca-Davies am ei ddau gwestiwn. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf i'n ei wneud yw, byddaf mewn gwirionedd yn gofyn i swyddogion Trafnidiaeth Cymru yfory i ddarparu'r wybodaeth honno—yr wybodaeth ddiweddaraf bosib—ynghylch newid yr amserlen a dyddiad cau'r astudiaeth, y mae'r Aelod wedi tynnu sylw atyn nhw.
Rwyf i hefyd yn croesawu'r gwaith y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn y maes hwn, yn enwedig yn rhanbarth gogledd Cymru o ran y datblygiadau trawsffiniol, y datblygiadau ar Dro Halton a hefyd y gwelliannau ar ystad ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gweinidog, a fyddech yn cytuno â mi y gall trafnidiaeth, fel y trafodais mewn cynhadledd yng Nglannau Dyfrdwy ddydd Gwener diwethaf, y gall yr amcanion datblygu cynaliadwy, megis atal, integreiddio, cydweithio a chymryd rhan, fod wrth wraidd uchelgais y Llywodraeth hefyd, nid yn unig ar gyfer ein rheilffyrdd ond ar gyfer ein holl rwydwaith trafnidiaeth integredig?
Byddwn, yn wir, ac yn fy ymateb i John Griffiths cyfeiriais at Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, yr erfyn yr ydym ni'n ei fabwysiadu ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Mae'n ymwneud yn bennaf â seilwaith ffyrdd, ond gallai hefyd ymestyn y tu hwnt i ffyrdd i gynnwys pob math o seilwaith, gan gynnwys seilwaith cymdeithasol. Caiff hefyd ei ddefnyddio ar hyn o bryd wrth edrych ar ble yr ydym ni'n buddsoddi ein hadnodd gwerthfawr mewn seilwaith rheilffyrdd. Felly, oes, mae ystyriaeth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, ac mae'r broses honno eisoes wedi'i mabwysiadu ar gyfer rhai ystyriaethau seilwaith penodol, ond hoffwn weld hynny'n cael ei ymestyn ymhellach.
A gaf i groesawu sylwadau Jack Sargeant ynghylch llinell Tro Halton? Rwy'n falch o ddweud bod y gwasanaethau ar Dro Halton wedi denu mwy o nawdd na'r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol.
Rwyf i hefyd yn croesawu system drafnidiaeth integredig amlfoddol, uchelgeisiol ac ysbrydoledig i Gymru. Gweinidog, pa gyfleoedd y mae adolygiad rheilffordd Williams yn eu cynnig i Lywodraeth Cymru ysgwyddo cyfrifoldebau pellach dros greu gorsafoedd newydd ac ehangu gwasanaethau tram Cymru ar gyfer Cymru lanach, wyrddach?
Cyfleoedd enfawr. Pe bai gennym ni setliad a fyddai'n adlewyrchu ein hangen, yna, yn amlwg, yn seiliedig ar danariannu hanesyddol, byddai'r setliad hwnnw'n enfawr a byddai'n fodd inni allu buddsoddi, nid yn unig yn y seilwaith, ond hefyd o ran annog newid mewn arferion a allai arwain at newid sut mae pobl yn teithio hefyd. A boed hynny ar ffurf gorsafoedd newydd, rheilffyrdd newydd neu gynlluniau seilwaith cysylltiedig eraill megis cyfleusterau parcio a theithio, pe cai cyfrifoldebau eu datganoli gyda'r cyllid priodol, credaf y gallem ni greu newid sylweddol o ran cael pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle trafnidiaeth breifat.
Cyflymder rhagorol yn y pum munud diwethaf. Diolch, bawb, am fod yn gryno.
Diolch i'r Gweinidog.