8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Deintyddiaeth yng Nghymru

– Senedd Cymru am 4:34 pm ar 2 Hydref 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:34, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Dai Lloyd.

Cynnig NDM7150 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Dechrau Ffres: Ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:34, 2 Hydref 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma heddiw am adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Dyma ail adroddiad y pwyllgor mewn cyfres o ymchwiliadau sy’n taflu goleuni ar faterion iechyd sy'n hanfodol bwysig i bobl Cymru.

Cytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i daflu goleuni ar wasanaethau deintyddol ac orthodonteg yng Nghymru, ynghyd â materion gweithlu ehangach yn y proffesiwn deintyddol, gan gynnwys lleoedd hyfforddi a recriwtio. Cyhoeddwyd ein hadroddiad ym mis Mai eleni, a oedd yn gwneud chwech o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Dwi’n falch bod y Gweinidog wedi derbyn pob un ohonyn nhw, ac rwy’n edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog heddiw, a fydd, rwy’n siŵr, yn rhoi rhai manylion ynghylch sut y bydd yn unioni’r problemau sy’n parhau o ran mynediad gan gleifion at wasanaethau deintyddol ac anfodlonrwydd hirsefydlog y proffesiwn gyda'r system gontractau.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:35, 2 Hydref 2019

Daeth contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y gwasanaeth iechyd i rym yn 2006 yng Nghymru a Lloegr. Mae'r contract yn talu swm blynyddol i ddeintyddion am eu gwaith gwasanaeth iechyd drwy system uned o weithgaredd deintyddol. Mae'r system hon yn cynnwys tri band sy'n pennu faint mae’n rhaid i glaf dalu am ei driniaeth a faint sydd wedyn yn cael ei dalu i’r practis deintyddol. Mae'r taliad yr un peth p'un ai yw deintydd yn gwneud un neu fwy o driniaethau tebyg. Clywodd y pwyllgor nad oes cymhelliant i ddeintyddion gymryd cleifion ag anghenion uchel, felly, gan y byddent yn cael yr un swm am wneud mwy o waith. Mae gan hyn oblygiadau clir o ran mynediad at ddeintyddiaeth yng Nghymru. Dŷn ni'n pryderu y gallai'r system uned o weithgaredd deintyddol fod yn annog deintyddion i beidio â chymryd cleifion ag anghenion uchel, yn enwedig lle mae mynediad at wasanaethau deintyddol eisoes yn waeth yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud newidiadau yn y gorffennol i'r model unedau gweithgaredd deintyddol, gan ddefnyddio cynlluniau peilot i brofi gostyngiad yn nhargedau’r unedau i roi mwy o hyblygrwydd a lle i ddeintyddion wneud gwaith ataliol. Fodd bynnag, fe wnaethon ni glywed pryderon clir gan ddeintyddion eu hunain nad yw'r newidiadau i gontractau deintyddol dros y ddegawd diwethaf wedi cael llawer o effaith. Dyna pam mai argymhelliad cyntaf y pwyllgor yw disodli system gyfredol y targedau unedau gweithgaredd deintyddol, a gosod system fwy priodol a hyblyg yn ei lle ar gyfer monitro canlyniadau. Bydd y system newydd hon yn canolbwyntio ar ansawdd triniaeth ac atal problemau. Rwy’n edrych ymlaen at gael y diweddaraf gan y Gweinidog ym mis Tachwedd am y maes gwaith hwn.

Fel rhan o'r contract deintyddol, mae deintyddfeydd yn cael eu gwerthuso ar yr unedau gweithgaredd deintyddol y maen nhw’n eu cyflawni yn erbyn eu lwfans dan gontract o unedau sy’n cael eu dyrannu gan eu bwrdd iechyd. Mae'r contract yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd dalu practisau deintyddol 100 y cant os ydynt wedi cyflawni o leiaf 95 y cant o'u gweithgaredd cytundebol, fel sy’n cael ei fynegi yn eu hunedau gweithgaredd deintyddol. Dyma ganran y gweithgaredd y mae'n rhaid ei gyflawni os nad yw’r practis am weld y bwrdd iechyd yn bachu arian yn ôl. Clywodd y pwyllgor dystiolaeth nad yw'r byrddau iechyd yn ail-fuddsoddi’r holl arian sy’n cael ei fachu yn ôl mewn gwasanaethau deintyddiaeth. Rydym yn credu bod modd gwella gwasanaethau deintyddiaeth yng Nghymru ymhellach trwy ail-fuddsoddi’r arian hwn, ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i sicrhau a monitro bod pob bwrdd iechyd yn ail-fuddsoddi’r arian nes bod system newydd ar waith ar gyfer monitro canlyniadau, fel y mae’r pwyllgor hwn wedi’i argymell.

Mae nifer o'r llwybrau gyrfa sydd ar gael yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant deintyddol sylfaenol, hyfforddiant deintyddol craidd a hyfforddiant arbenigol, bellach yn rhan o waith recriwtio ledled y Deyrnas Unedig. Roeddem yn falch o glywed nad oes unrhyw broblemau mawr o ran recriwtio i ysgolion deintyddol yng Nghymru, ond rydym yn ymwybodol bod y ffigurau hyn yn gallu bod yn isel yn achos myfyrwyr sy'n hanu o Gymru. Fe wnaeth y pwyllgor glywed tystiolaeth hefyd am yr heriau o ran cadw deintyddion yn gweithio yng Nghymru yn dilyn eu cyfnod hyfforddi. Rydym yn ymwybodol mai rhai o'r rhwystrau yw’r gwahaniaeth mewn cyflog yng Nghymru o'i gymharu â'r cyflog yn Lloegr, ynghyd â pha mor agos yw’r byrddau iechyd at yr ysgol ddeintyddol. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried mentrau llwyddiannus sy'n cael eu defnyddio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i fynd i'r afael â materion recriwtio a chadw. O ganlyniad, ein trydydd argymhelliad yw bod Llywodraeth Cymru yn gwerthuso cynllun recriwtio y Deyrnas Unedig gyfan i benderfynu a yw'n effeithiol o ran cynyddu myfyrwyr sy'n hanu o Gymru a chadw myfyrwyr yn dilyn hyfforddiant. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog i'n hadroddiad yn derbyn bod angen gwerthusiad ac y bydd yn trafod gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru sut i fwrw ymlaen â hyn. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy o fanylion am hyn heddiw.

I droi at orthodonteg, clywodd y pwyllgor fod atgyfeiriadau amhriodol at wasanaethau orthodonteg yn gallu rhoi straen ar wasanaethau ac arwain at amseroedd aros hirach. Er ein bod yn cydnabod mai materion recriwtio sy’n achosi amseroedd aros hir yn bennaf, rydym yn pryderu am y ffordd y caiff cleifion eu hatgyfeirio a’u blaenoriaethu. Fe wnaethom glywed fod rhai ymarferwyr deintyddol gofal sylfaenol yn atgyfeirio cleifion yn rhy gynnar oherwydd bod yr amseroedd aros yn hir iawn. Mae hyn yn anochel yn ychwanegu at y broblem. Rydym yn nodi bod system rheoli atgyfeiriadau electronig wedi cael ei chyflwyno, ac, er ein bod yn cydnabod ei bod yn bosibl na fydd y system yn arwain at fwy o gapasiti, rydym yn disgwyl y bydd yn cael effaith gadarnhaol o ran sicrhau atgyfeiriadau priodol, blaenoriaethu cleifion a lleihau amseroedd aros. Felly, mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i ddatblygu strategaeth glir i sicrhau bod y system e-atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau orthodonteg yn cael effaith gadarnhaol o safbwynt sicrhau atgyfeiriadau priodol, blaenoriaethu cleifion a gostwng amseroedd aros.

I droi yn ôl at y Cynllun Gwên, mae'r pwyllgor yn cydnabod effaith gadarnhaol y Cynllun Gwên, sef y rhaglen genedlaethol ar gyfer gwella iechyd i blant yng Nghymru. Dŷn ni’n croesawu’r ffaith bod y rhaglen yn cael ei hymestyn i gynnwys plant ifanc iawn. Fodd bynnag, clywodd y pwyllgor bryderon am y ffocws newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y rhaglen hon, gan roi mwy o bwyslais ar blant dim i bump oed, a’r posibilrwydd y bydd yn symud i ffwrdd o blant dros yr oedran hwnnw. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ariannu'r rhaglen Cynllun Gwên yn ddigonol i sicrhau bod plant dros bump oed yn cael budd ohoni. Mae ymateb ysgrifenedig y Gweinidog yn cyfeirio at gamdybiaethau honedig bod y ffocws newydd hwn yn golygu nad yw plant chwech neu saith oed yn gallu cael budd o’r rhaglen. Rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy ganddo ar y mater yma y prynhawn yma.

Fe wnaethon ni glywed tystiolaeth gref fod problemau o ran iechyd y geg ymhlith plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau cynnar yn gallu arwain at golli dannedd parhaol. Mewn rhai achosion, caiff llawer o ddannedd eu colli, ac mae'r pwyllgor yn disgwyl gweld camau effeithiol yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â hyn. Mae'r pwyllgor yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu astudiaeth epidemiolegol gyda'r nod o asesu a deall anghenion y grŵp oedran 12 i 21 ac i helpu i lywio’r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol i fodloni anghenion y grŵp oedran hwn. Dwi’n edrych ymlaen at glywed y diweddaraf gan y Gweinidog am y maes gwaith hwn. Diolch.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:41, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am gael siarad am adroddiad y pwyllgor. Rwyf wrth fy modd, mewn gwirionedd, ein bod wedi gwneud yr adroddiad undydd hwn, gan ei fod yn amlygu rhan o'r GIG yma yng Nghymru sydd mor hanfodol i iechyd hirdymor pobl ac eto, weithiau, caiff ei anwybyddu mewn gwirionedd. Ac rwy'n falch fod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, er bod gennyf sylwadau ar hynny. 

'Dylai pawb gael mynediad at wasanaethau deintyddol o ansawdd da yn y GIG'. Dyma'r pennawd ar dudalen gwefan Iechyd yng Nghymru y Llywodraeth ar sut i ddod o hyd i ddeintydd. Nawr, mae hynny'n eithaf anodd mewn llawer rhan o Gymru. Nid yw tua 45 y cant o'r boblogaeth—sef bron 1.5 miliwn o unigolion—wedi gweld deintydd GIG ar y stryd fawr yn y ddwy flynedd diwethaf. Ac rwy'n poeni am y ffordd y mae'r ffigurau hyn yn dynodi diffyg cynnydd mewn gwirionedd, oherwydd, naw mlynedd yn ôl, roedd 55 y cant o'r boblogaeth yn cael eu trin o fewn gwasanaeth deintyddiaeth y GIG. Heddiw, mae 55 y cant o'r boblogaeth yn cael eu trin yng ngwasanaeth deintyddiaeth y GIG. Mae hynny'n swnio fel newyddion da, onid yw, ond wrth gwrs, mae ein poblogaeth wedi tyfu bron i 200,000, felly mewn gwirionedd, rydym yn dechrau mynd tuag yn ôl, ac yn hytrach na mynd tuag yn ôl neu sefyll yn llonydd, mae angen i ni wella.

Felly, Weinidog, buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech ddweud wrthym sut y credwch y gallwn fynd i'r afael â hyn a chynyddu nifer y bobl sy'n cael mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG. Oherwydd, yn fy etholaeth i, nid oes unrhyw bractis deintyddol yn derbyn cleifion GIG newydd o gwbl, yn oedolion neu'n blant. Dim ond 15.5 y cant o bractisau'r GIG ledled Cymru sy'n derbyn cleifion GIG sy'n oedolion ar hyn o bryd, a dim ond 27 y cant sy'n derbyn plant newydd, ac mae hynny, mewn gwirionedd, yn newyddion drwg iawn am ddau reswm. Un rheswm yw ei fod yn dechrau negyddu holl waith cadarnhaol y Cynllun Gwên, oherwydd ni cheir anogaeth i'w barhau. Dau, bob tro y byddwch yn mynd i ysbyty, gofynnir i chi am gyflwr eich dannedd. Mae'n gwbl hanfodol a chaiff ei gydnabod gan y proffesiwn meddygol. Maent yn hyrwyddo'r ffaith eich bod yn gwneud eich hun yn agored i bob math o heintiau a thueddiadau o ran methiant y galon a'r gweddill i gyd oni bai fod gennych ddannedd da ac iach. Felly, oni bai fod gennym ddannedd gwirioneddol dda a'n bod yn cadw ein dannedd yn iach, rydym yn gwneud ein hunain yn agored i salwch pellach. Rydym yn paratoi i fethu'n syth os na allwn gynnig mynediad at ddeintyddiaeth dda i bobl.  

Ac nid ciplun mewn amser yw hwn. Nodais yn eich ymateb eich bod wedi dweud mai ciplun ydoedd, ond cafodd hyn ei fonitro dros ddwy flynedd wahanol. Felly, beth yw'r broblem go iawn? Wel, y broblem go iawn yw nad oes unrhyw arian newydd. Rydych wedi derbyn yr holl argymhellion, sy'n wych, ond nid oes unrhyw oblygiadau ariannol o gwbl ynghlwm wrth yr argymhellion, sy'n golygu nad oes unrhyw arian newydd. Yn 2017-18 mae gwerth y gyllideb ddeintyddol gyfan 15 y cant yn llai mewn termau real o'i chymharu â'r gyllideb chwe blynedd yn ôl, ond gallaf eich sicrhau bod costau cyfalaf wedi cynyddu yn y chwe blynedd diwethaf, mae costau staff wedi cynyddu, mae popeth arall wedi cynyddu. Felly, wrth gwrs, yr hyn sy'n digwydd yw bod y claf yn cael ei wasgu, mae gwasanaethau i'r claf yn cael eu gwasgu. Dylai gwariant o £186.7 miliwn yn 2012-13, sef yr hyn a wariwyd gennym, gyfateb i £216.57 miliwn yn awr, a hynny i gyd-fynd â chwyddiant yn unig. Roedd ein diffyg dros chwe blynedd ar gyfer y llynedd dros £29 miliwn, ac mae £29 miliwn mewn rhan fach o'r sector GIG fel hyn yn llawer iawn o arian a allai wneud llawer iawn o wahaniaeth mewn gwirionedd. Felly, rwy'n pryderu'n fawr am y ffaith nad oes gennym unrhyw arian newydd.

Mae'r pwynt arall sydd hefyd yn peri pryder i mi, ac sy'n berthnasol i'n hargymhelliad 1, yn ymwneud â'r ffaith bod yna bractisau peilot o hyd—neu mae'r prif swyddog deintyddol yn dal i ddymuno rhoi practisau peilot newydd ar waith i brofi sut y dylem ailedrych ar yr uned gweithgarwch deintyddol. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall am hyn yw fy mod wedi bod yn ddigon ffodus, rai blynyddoedd yn ôl, i fynd i weld cynlluniau peilot a oedd yn cael eu rhedeg gan Lywodraeth Cymru yn Abertawe, ac fe fu un mewn man arall—llwyddiannus iawn. Edrychai ar yr unigolyn cyfan, ac edrychai ar y ffordd gyfannol o allu mesur eu hiechyd deintyddol. Yr anfantais oedd ei fod yn ataliol iawn, felly byddent yn gweld ychydig llai o gleifion, ond yn y tymor hir roedd y budd i Gymru, i'r gwasanaeth deintyddol, yn gwbl eithriadol. Buaswn yn ddiolchgar iawn, Weinidog, pe gallech egluro pam nad ydych wedi bwrw ymlaen ag unrhyw un o'r cynlluniau peilot hynny a brofwyd ac y gwelwyd eu bod yn rhai cadarnhaol, ond yn lle hynny, ein bod yn aros ac yn aros ac yn aros, ac yn treulio mwy fyth o amser yn ceisio ailgynllunio'r olwyn a llunio dewis arall eto fyth, pan ymddengys bod gennym rai llwyddiannus iawn a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth chi heb fod mor bell yn ôl â hynny.    

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:47, 2 Hydref 2019

Fe fydd Aelodau yn ymwybodol fy mod i wedi bod yn holi am y sefyllfa ddeintyddol yn fy etholaeth i yn Arfon ar sawl achlysur, ac mae hi yn sefyllfa ddifrifol iawn. Mae yna chwech ymarferwr yn yr etholaeth, ond does yr un ohonyn nhw yn derbyn cleifion ar yr NHS. Dydyn nhw ddim yn derbyn oedolion ar yr NHS, dydyn nhw ddim yn derbyn plant ar yr NHS, a dydyn nhw ddim yn derbyn plant a phobl ifanc efo anableddau ar yr NHS. Felly, mae nifer fawr ohonyn nhw'n gorfod mynd allan o'r ardal i chwilio am driniaeth ddeintyddol ar yr NHS—cyn belled â Dolgellau i rai ohonyn nhw, sydd awr a chwarter i ffwrdd mewn car, ac yn bellach, wrth gwrs, ar fws.  

Beth mae hynny yn ei olygu yn ymarferol yn aml iawn ydy bod y cleifion yn disgwyl tan fod pethau wedi mynd i'r pen, ac yn gorfod mynd i glinig brys drwy NHS Direct ar ôl i'r broblem waethygu. Ac mae'r clinig hwnnw, yn aml iawn, o leiaf hanner awr mewn car i ffwrdd o lle mae pobl yn Arfon yn byw. Neu, os nad ydyn nhw yn gallu cyrraedd y clinig, beth sy'n digwydd nesaf ydy eu bod nhw'n troi fyny yn Ysbyty Gwynedd efo problemau difrifol iawn. Dwi'n clywed straeon yn rheolaidd ynglŷn â'r sefyllfaoedd yma; mae o'n digwydd yn gynyddol. Felly, dydy'r gwaith ataliol cychwynnol cymharol rhad jest ddim yn digwydd, a beth sy'n digwydd ydy ei fod o'n troi yn achos lle mae angen triniaeth aciwt a drud. Beth sy'n rhwystredig iawn i'r ymarferwyr deintyddol yn Arfon ydy bod ganddyn nhw le; mae ganddyn nhw'r amser i weld cleifion. Mae eu hanner nhw yn derbyn cleifion preifat, felly mae ganddyn nhw'r adnoddau, ond dydyn nhw ddim yn gallu cymryd cleifion NHS newydd ymlaen oherwydd bod y cytundeb yn rhoi cap ar y nifer o gleifion NHS fedran nhw eu derbyn. Dydyn nhw ddim yn cael eu talu os ydyn nhw'n mynd tu hwnt i'r terfyn hwnnw.

Dydy'r sefyllfa ddim wedi newid ers dwy flynedd. Mae'n anghywir i ddweud mai snapshot ydy'r darlun dwi'n ei osod gerbron, fel sydd wedi cael ei honni pan dwi wedi codi'r mater yma o'r blaen. Mae'r sefyllfa'n debyg iawn i beth oedd o ddwy flynedd yn ôl. Felly, dwi'n siomedig ofnadwy na fydd yna unrhyw gyllid ychwanegol ar gael, a dwi'n siomedig ofnadwy bod y symudiad tuag at well cytundebau ar gyfer deintyddiaeth ar yr NHS—bod y symudiad yna'n un araf tu hwnt. Dyna beth mae'r ymarferwyr yn ei ddweud wrthyf i yn Arfon hefyd. Felly, mae'r sefyllfa sy'n wynebu cleifion newydd a phlant yn fy ardal i yn mynd i barhau, er gwaethaf ymdrechion clodwiw'r pwyllgor a'r ymchwiliad undydd yma rydych chi wedi'i gynnal. Mae'n ymddangos eich bod chi wedi bod yn gwastraffu'ch amser, achos dydy'r Llywodraeth ddim yn bwriadu gwneud fawr ddim yn wahanol i beth maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, ac fe fydd yr argyfwng deintyddol yn parhau.

Dwi'n falch o glywed fod yna werthusiad yn mynd i fod o ran recriwtio a chadw deintyddion ac yn edrych ymlaen i weld beth fydd casgliadau hwnnw. Hoffwn i ofyn heddiw a fyddwch chi'n edrych yn benodol ar ddiffyg deintyddion yn y gogledd ac a oes yna achos dros hyfforddi deintyddion yn y gogledd, ym Mangor, yn union fel sydd wedi digwydd efo meddygon. Oherwydd yr un ydy'r dadleuon: os ydych chi'n hyfforddi pobl mewn ardal benodol, maen nhw'n tueddu i aros yn yr ardal yna ac yn y ffordd yna yn llenwi'r bylchau sydd yna mewn nifer o ardaloedd ar draws y gogledd. Felly, dwi'n siŵr eich bod chi wedi fy nghlywed i'n gwneud y dadleuon ynglŷn â meddygon. Wel, dwi'n credu bod yr un ddadl yn wir am ddeintyddion hefyd. Diolch. 

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:52, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am yr adroddiad ar ddeintyddiaeth yng Nghymru. Mae deintyddiaeth y GIG yng Nghymru mewn argyfwng. Mae llai nag un o bob pum practis yng Nghymru yn derbyn cleifion newydd sy'n oedolion, ac ychydig dros chwarter y practisau sy'n cynnig apwyntiadau i gleifion newydd sy'n blant. Rydym yn clywed yn rheolaidd am gleifion sy'n teithio 100 milltir i weld deintydd ac yn ôl adref. Nid yw'n anarferol gweld ciwiau 10 awr o hyd y tu allan i ddrysau practisau sy'n agor i gleifion newydd a gwelwyd achosion eithafol hefyd o bobl yn gwneud deintyddiaeth arnynt eu hunain am na allant weld deintydd GIG ac yn sicr, ni allant fforddio triniaeth breifat.

Fel y mae'r pwyllgor yn ei amlygu'n briodol iawn, y prif beth sydd ar fai yw'r contract deintyddol, sy'n gosod targedau a chwotâu afrealistig, gan atal deintyddion rhag trin mwy o gleifion. Mae contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol y GIG hefyd yn atal deintyddion rhag derbyn cleifion sydd ag anghenion mawr, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle mae mynediad at wasanaethau deintyddol eisoes yn wael. Nid yn unig nad yw'r system unedau gweithgarwch deintyddol yn addas i'r diben, mae hefyd wedi gwneud niwed go iawn iechyd y geg yng Nghymru.  

Rwy'n falch, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar y pwyllgor ac wedi cytuno i roi'r gorau i'r system darged yn hytrach na'i haddasu fel y gwnaethant yn 2011 a 2015. Hoffwn fynd ymhellach ac annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trefniadau unedau gweithgarwch deintyddol newydd hefyd yn atal practisau deintyddol rhag mynnu gwneud archwiliadau bob chwe mis a glynu wrth ganllawiau NICE. Dywedodd prif swyddog deintyddol Lloegr nad oes angen archwiliadau'n amlach na phob 12 neu 24 mis yn y rhan fwyaf o achosion, a bydd hyn nid yn unig yn sicrhau na chaiff cleifion eu gorfodi i dalu am driniaeth ddiangen, ond bydd hefyd yn caniatáu i bractisau dderbyn cleifion ychwanegol yn sgil rhyddhau amser. Felly, gobeithio y bydd y gwelliannau a gyflwynwyd gan y pwyllgor yn rhoi diwedd ar deithiau hir, arosiadau hwy a phobl yn tynnu eu dannedd eu hunain â phleiars. Diolch.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:54, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r pwyllgor am ei adroddiad a'i ymchwiliad i ddeintyddiaeth yng Nghymru ac i'r Aelodau a gyfrannodd at y ddadl heddiw. Mae'r argymhellion yn adlewyrchu'n fras beth yw polisi Llywodraeth Cymru ac yn cydnabod rhywfaint o'r cynnydd a wnaed hyd yma, gan nodi lle mae angen gwneud rhagor o waith. Rydym yn cydnabod bod angen diwygio'r contract deintyddol presennol, fel y nodwyd gan bob Aelod yn y ddadl. Ni ddylai unedau gweithgarwch deintyddol fod yn unig fodd o fesur perfformiad contract. Nid ydynt yn adlewyrchu nac yn cymell ymagwedd ataliol nac ymagwedd tîm tuag at ofal. Fodd bynnag, mae galwadau i gael gwared ar yr unedau gweithgarwch deintyddol yn rhy syml ac nid ydynt yn cynnig dewis arall.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:54, 2 Hydref 2019

(Cyfieithwyd)

Mae newid i'r system gyfan eisoes ar y gweill ym maes deintyddiaeth yng Nghymru. Mae arnom angen timau clinigol mewn byrddau iechyd i gytuno ar yr hyn y dylid ei gyflawni a sut i fesur rhagoriaeth ym maes deintyddiaeth gofal sylfaenol. Mae dulliau newydd o gontractio gyda ffyrdd mwy ystyrlon o fesur eisoes yn caniatáu i ni ddeall yn well beth yw anghenion cleifion, ansawdd lefel practis, gweithlu tîm a mynediad. Mae hyn yn golygu mwy na gwneud ychydig o newidiadau bach i'r contract. Mae deintyddion, gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol, byrddau iechyd ac academyddion yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni a sicrhau trawsnewid yn unol â 'Cymru iachach' drwy ddileu datgymhelliad ariannol fel y gall timau deintyddol ganolbwyntio ar atal a gwneud defnydd o sgiliau'r tîm cyfan.

Mae'r rhaglen ddiwygio deintyddol yn canolbwyntio ar ansawdd, atal a mynediad. O'r mis hwn ymlaen, mae 36 o bractisau eraill yn ymuno â'r 94 o bractisau deintyddol sy'n cymryd rhan yn y broses o ddiwygio contractau. Mae hynny'n golygu bod oddeutu traean o'r holl bractisau deintyddol yng Nghymru yn cymryd rhan. I gyferbynnu â hynny, yn Lloegr, ychydig dros 1 y cant o bractisau deintyddol sy'n cymryd rhan yn eu rhaglen ddiwygio contractau. Fodd bynnag, rydym am weld y newid yn cyflymu ymhellach er mwyn i fwy o bractisau deintyddol allu gweithio mewn ffyrdd newydd. Rwy'n disgwyl i dros hanner yr holl bractisau fod yn rhan o'r rhaglen ddiwygio erbyn mis Hydref 2020, gan arwain at gyflwyno'r diwygiadau contract yn llawn yn 2021. Bydd y set ehangach o fesurau monitro a dileu unedau gweithgarwch deintyddol gwerth isel o dan y diwygiadau contract yn helpu i leihau'r angen i fyrddau iechyd adennill cyllid gan gontractwyr deintyddol. Rwyf wedi gofyn i'r byrddau iechyd gyflwyno adroddiadau ar unrhyw adnoddau a adenillir, a disgwyliaf iddynt ddarparu cymorth drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr deintyddol sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd targedau.

Gwyddom fod recriwtio a chadw staff yn y gweithlu deintyddol yn achosi anhawster mewn sawl ardal yng Nghymru. Mae mwy i'w wneud i fynd i'r afael â'r materion aml-ffactor dan sylw. Felly, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn edrych ar y niferoedd sy'n hyfforddi, ffyrdd o helpu i ddatblygu'r gweithlu, ac maent yn ystyried modelau amgen ar gyfer y gweithlu i gefnogi'r ddarpariaeth, gwella recriwtio a chymell staff i aros yn y proffesiwn ar ôl hyfforddi. Yn ogystal, bydd Cyfadran Cymru Gyfan ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol sy'n cael ei sefydlu ym Mhrifysgol Bangor, ac y disgwyliaf ymweld â hi yn y flwyddyn newydd, yn cyfrannu at gyfleoedd gyrfaol i'r gweithlu gofal deintyddol proffesiynol.

Mae'r system reoli e-atgyfeirio deintyddol a grybwyllwyd ddoe yn cwmpasu pob arbenigedd deintyddol, gan gynnwys orthodonteg, ac fe'i cyflwynwyd yn llwyddiannus yn genedlaethol. Ni yw'r wlad gyntaf yn y DU i weithredu system gwbl electronig ar gyfer pob atgyfeiriad deintyddol ym mhob arbenigedd clinigol deintyddol. Mae hynny'n golygu bellach y bydd y byrddau iechyd yn gwybod beth yw ffynhonnell, cymhlethdod, a nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer arbenigeddau deintyddol. Yn ei dro, mae hynny'n cefnogi gwaith ar gynllunio'r gweithlu ar sail tystiolaeth ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer ailgynllunio gwasanaethau, gan symud allan o ofal eilaidd ar gyfer triniaethau y gellid ac y dylid eu darparu mewn gofal sylfaenol. Ac wrth gwrs, bythefnos yn ôl, buom yn dathlu dengmlwyddiant Cynllun Gwên, ein rhaglen wella lefel poblogaeth ar iechyd y geg i blant. Mae hon wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau lefelau clefyd deintyddol, ac mae'n parhau i wneud hynny, ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r rhaglen.

Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud. Byddaf yn falch o ymateb eto i'r pwyllgor gydag ystod o'r pwyntiau a wnaed nad oes amser i ymateb iddynt heddiw, ond cymerwyd camau sylweddol eisoes i ddiwygio gwasanaethau deintyddol a gwella iechyd y geg i'r aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Rwy'n gobeithio y bydd y rhaglen eglur o ddiwygiadau i'r contract deintyddol y cynlluniais iddi gael ei chwblhau erbyn 2021 yn rhoi'r sicrwydd y mae'r Aelodau yn chwilio amdano. Ond byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd wrth ymdrin â'r holl argymhellion a wneir yn yr adroddiad.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am eu cyfraniadau? Rwyf am grynhoi'n fyr yn yr amser sydd gennyf ar ôl. Yn amlwg, mae'r ddadl wedi rhoi pwyslais sydd i'w groesawu'n fawr ar ddeintyddiaeth a phryderon cydweithwyr deintyddol, nad yw'n rhywbeth a wnawn bob dydd yma yn y Senedd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau—Angela Burns, Siân Gwenllian, Caroline Jones a'r Gweinidog?

Ceir heriau sylweddol, yn amlwg, fel y canfuom yn y dystiolaeth a gymerwyd gennym fel pwyllgor, oherwydd roedd hi'n glir i'r pwyllgor nad yw trefniadau contract cyfredol y GIG ar gyfer deintyddion yn gweithio. Nid yw talu'r un faint i rywun ddarparu triniaeth i glaf beth bynnag fo maint y gwaith sydd ei angen yn gwneud fawr o synnwyr.

Nid yw'n dderbyniol o gwbl y dyddiau hyn mai dim ond 14 y cant o bractisau deintyddol yn hen ardal Abertawe Bro Morgannwg sy'n derbyn cleifion GIG newydd sy'n oedolion. Yn sicr, nid yw'n dderbyniol ychwaith nad oes un practis deintyddol yn derbyn cleifion GIG yn ardal gyfan bwrdd iechyd Hywel Dda. Felly, mae'r Gweinidog wedi dechrau ar daith, ond mae angen i'r Llywodraeth roi llawer mwy o gamau ar waith a gwneud hynny'n gyflym. Nid yw gwneud dim yn ddewis o gwbl. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:00, 2 Hydref 2019

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.