– Senedd Cymru am 4:17 pm ar 12 Tachwedd 2019.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â'r model cyflenwi arfaethedig ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol. Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn Weinidog yr economi, rwyf wedi bod yn glir erioed mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Nid yn unig maen nhw'n bwysig o ran nifer—o blith bron i 300,000 o fusnesau sy'n weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae mwy na 257,000 yn fusnesau micro, yn fach ac yn ganolig eu maint—maen nhw i gyd mor hanfodol i'r ffordd y mae ein heconomi a'r ffordd y mae ein cymunedau yn gweithredu.
Drwy'r gadwyn gyflenwi, ar y stryd fawr, yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae busnesau bach a chanolig yn rhan mor fawr o fywiogrwydd ac egni economi Cymru a chymunedau Cymru. Ac o'r cwmnïau technoleg newydd ifanc i'r bragwr crefftus sy'n ehangu, i'r cwmni adeiladu y mae rhywun lleol yn berchen arno neu i'r practis cyfraith teuluol, mae'r ffordd yr ydym ni fel cymuned o'u hamgylch yn cefnogi ac yn helpu'r cwmnïau hynny i dyfu, i gael cyllid ac i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, ynddo'i hun yn hanfodol i ddyfodol economi Cymru.
Rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod datganoli i gefnogi'r cwmnïau bach a chanolig hynny. Drwy Busnes Cymru, rydym ni wedi gallu llenwi'r bylchau a darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau o ansawdd uchel i gefnogi entrepreneuriaid a busnesau gyda'u cynlluniau i gychwyn a thyfu eu busnesau drwy bob cylch twf.
Ers 1999, a thrwy gwymp 2008 a thu hwnt, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi cwmnïau cymunedol a chwmnïau sydd mewn perchnogaeth leol ar bob cam o'r cylch bywyd busnes—o gynhyrchu syniadau, drwy'r blynyddoedd hynny sy'n aml yn anodd, ac ymlaen i gyflymu twf. Ac rwy'n falch fod Busnes Cymru, ers 2013, wedi ymdrin â mwy na 126,000 o ymholiadau drwy ei linell gymorth ac wedi cael dros 3 miliwn o ymweliadau â'i wefan. Mae wedi rhoi cyngor busnes i dros 71,000 o ddarpar entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig. Mae'n cefnogi busnesau bach a chanolig i greu dros 28,000 o swyddi ac mae wedi diogelu 45,000 arall. Ac mae wedi cefnogi entrepreneuriaid i greu 10,500 o fusnesau newydd.
Un o nodweddion ei waith yr wyf yn arbennig o falch ohono fu'r ysbrydoliaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arweinwyr busnes. Drwy'r 406 o esiamplau Syniadau Mawr ledled Cymru, ymgysylltwyd â thros 219,000 o bobl ifanc ar draws ein holl ysgolion, colegau a phrifysgolion er mwyn iddyn nhw ystyried sut y gallent ddechrau eu busnesau eu hunain neu sut i ddod yn entrepreneuriaid llwyddiannus. Dyma sydd wedi helpu 57 y cant—57 y cant—o bobl ifanc o dan 25 oed i feithrin uchelgeisiau i weithio iddyn nhw eu hunain a bod yn feistri arnyn nhw eu hunain, i ddechrau eu busnesau eu hunain.
Efallai fod effaith Busnes Cymru i'w weld yn fwyaf clir yn yr effeithiau cadarnhaol a gafodd ar ein heconomi. Am bob £1 a werir drwy wasanaeth Busnes Cymru, cynhyrchir £10 yn economi ehangach Cymru, gyda hyd at £17 yn y meysydd cymorth mwy penodol. Mae'r gyfradd oroesi o bedair blynedd ar gyfer busnesau newydd a gefnogir gan ei waith bellach yn 85 y cant ac mae hynny'n cymharu â 41 y cant ar gyfer y rhai nad ydynt yn cael cymorth. Caiff 20 y cant o'r swyddi a grëwyd gan gymorth Busnes Cymru eu llenwi gan bobl ddi-waith, gan gynyddu i 40 y cant ar gyfer swyddi mewn mentrau hunangyflogedig.
O ystyried y swm sylweddol o arian strwythurol y mae gwasanaeth Busnes Cymru wedi elwa arno dros nifer o flynyddoedd, mae'n bwysig nodi bod y manteision hyn i'n heconomi o ganlyniad uniongyrchol i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. A beth bynnag fydd yn digwydd dros y misoedd a'r wythnosau nesaf, rwyf eisiau talu teyrnged i'n partneriaid yn Ewrop sydd, drwy gefnogi Busnes Cymru, wedi ein helpu i gyflawni'r pethau pwysig hyn.
Ond drwy ein holl waith, rydym ni wastad wedi gofyn i'n hunain un cwestiwn pwysig: beth nesaf? Sut y gallwn ni sicrhau bod ein gwasanaethau, drwy Busnes Cymru, yn gliriach ac yn fwy addas i anghenion cwmnïau a busnesau ar hyd a lled Cymru? Dyma pam, yn 2017, roeddwn wrth fy modd o gael lansio Banc Datblygu Cymru, ein hymateb i fethiant y farchnad mewn cyllid cychwyn a meithrin busnes a welsom ni yma yng Nghymru. Sefydliad, rwy'n falch o ddweud, sydd bellach yn rheoli dros £1 biliwn o gyllid, yn cefnogi cwmnïau a phrosiectau Cymreig ledled y wlad.
Ond gan ystyried y cyflawniadau hyn ac wrth feddwl am heriau'r dyfodol, mae'n bryd i ni fel Llywodraeth Cymru weithio gyda chi fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru i helpu i roi Busnes Cymru ar sail gadarnach ar gyfer y dyfodol; i'w baratoi, ac o ganlyniad ein busnesau, ar gyfer sefyllfa ein heconomi ar ôl Brexit; er mwyn ei helpu i wynebu'r heriau ehangach a nodwyd gennym ni yn y cynllun gweithredu economaidd o baratoi ar gyfer amharu ar gysylltiadau digidol, gwella cynhyrchiant, cynyddu nifer yr achosion o waith teg, datgarboneiddio a hyrwyddo twf cynhwysol. Ac felly, yn ystod y misoedd diwethaf, bûm yn gweithio'n agos gyda'm swyddogion i ddechrau'r gwaith hwnnw: gwaith mae arnom ni eisiau i chi, fel aelodau o'n Senedd genedlaethol, ei gefnogi; gwaith sy'n gallu datblygu, esblygu a gwella gwasanaeth Busnes Cymru ar gyfer y dyfodol.
Yn ganolog i'r gwaith hwnnw fu'r nod pennaf o sicrhau mai Cymru yw'r lle gorau oll yn Ewrop i gychwyn a meithrin busnes cynhwysol a chynaliadwy. I wneud hynny, rydym ni wedi canolbwyntio ein gwaith ar dri maes allweddol. Y cyntaf yw'r maes allweddol o greu gwasanaeth Busnes Cymru yn y dyfodol sy'n adnodd cyngor ac ymchwil blaenllaw o ansawdd uchel; un sy'n adnodd cynhwysfawr ar gyfer cymorth digidol, llinell gymorth ac ymholi i bawb sy'n dymuno ei gael.
Yr ail elfen oedd canolbwyntio ar greu gwasanaeth sy'n gallu gwella capasiti a gallu ein heconomïau rhanbarthol yng Nghymru i gefnogi twf cynhwysol. Yn gryno, mae hynny'n golygu cael gwasanaeth cymorth i fusnesau sy'n gweithio gyda phartneriaid yn rhanbarthau a chymunedau Cymru, gyda llywodraeth leol, gyda'n prifysgolion, ein colegau a gyda'n banciau ar y stryd fawr; un sy'n gwneud cysylltiadau syml ond cryf rhwng partneriaid i wneud y lleoedd hynny yn fannau gwych i gychwyn a meithrin busnes.
Ac mae trydydd maes ein gwaith yn canolbwyntio ar dwf cynhwysol a chynaliadwy. Fel Gweinidog, rwyf wedi bod yn glir iawn fod cyfrifoldeb ar bob busnes i gefnogi twf cynhwysol, ac, yn ein tro, fel Llywodraeth, mae gennym ni ddyletswydd i greu'r amodau lle y gall mwy o ficrofusnesau a busnesau bach dyfu mewn ffyrdd cynhwysol a chynaliadwy, i fod yn fusnesau bach a chanolig ffyniannus, i gefnogi cynhyrchiant, proffidioldeb a chydnerthedd busnesau canolig presennol, i sicrhau eu perchenogaeth hirdymor yn y dyfodol ac i sicrhau bod gwaith teg yn cael ei hyrwyddo.
Fy mwriad yw y bydd Busnes Cymru yn parhau i gael ei gyflawni ar sail genedlaethol, ac i sicrhau effeithlonrwydd bydd hefyd yn adeiladu ar y ddarpariaeth bresennol i ddarparu cyfleoedd pellach ar gyfer rhanbartholi a fydd yn gyson â'r fframweithiau rhanbarthol sy'n cael eu datblygu gan y prif swyddogion rhanbarthol. Byddaf yn ceisio gwneud yn siŵr bod Llywodraeth Cymru yn chwarae ei rhan i sicrhau bod gan Busnes Cymru y buddsoddiad sydd ei angen i wneud y gwasanaeth yn llwyddiant.
Gyda'r cymorth a'r buddsoddiad iawn, credwn y gall Busnes Cymru gael effaith economaidd sylweddol, gan helpu busnesau i greu hyd at 6,000 o swyddi newydd y flwyddyn, drwy gynnal y gyfradd oroesi bedair blynedd drawiadol ar gyfer busnesau newydd a gefnogir a thrwy ychwanegu gwerth o tua £220 miliwn drwy nwyddau a gwasanaethau i'n heconomi yn flynyddol.
Ond er fy mod eisiau bod yn onest gyda'r Siambr am yr hyn y gallwn ni ei gyflawni, mae angen i mi hefyd fod yn onest ac yn blaen am y perygl a wynebwn, hefyd. Mae methiant Llywodraeth y DU i gadarnhau y bydd cyllid strwythurol newydd yn dod yn ôl i Gymru yn golygu bod gwasanaethau cyflenwi fel Busnes Cymru mewn perygl yn y dyfodol. Ar gyfer Busnes Cymru, mae hyn yn golygu bod £12 miliwn y flwyddyn mewn perygl, a chyfleoedd yn ei sgil na allwn fforddio i'n busnesau a'n cymunedau eu colli mewn economi ar ôl Brexit.
Byddaf yn gweithio'n agos iawn â'm cyd-Weinidog, sef y Gweinidog Cyllid, a gyda chydweithwyr ehangach yn Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn ailadrodd ein safbwynt clir a diamwys: dim ceiniog yn llai, dim pŵer wedi ei golli wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae fy ymrwymiad i adeiladu Busnes Cymru o ansawdd uchel yn absoliwt. Gobeithio na fydd Llywodraeth y DU yn rhwystro'r uchelgais honno.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwyf yn cefnogi i raddau helaeth ddyheadau'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn y rhan fwyaf o'i ddatganiad. Rwy'n sicr yn cytuno â dechrau ei ddatganiad heddiw, pan ddywedodd mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Ni allwn gytuno mwy â hynny. Mae'n debyg bod rhan olaf ei ddatganiad braidd yn negyddol efallai. Credaf y bydd rhai heriau gwirioneddol yn codi wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, ond ceir rhai cyfleoedd hefyd, a byddwn yn gobeithio y byddai cyllid yn y dyfodol, fel y byddai'n cytuno â mi, rwy'n siŵr, wedi'i deilwra'n well ac yn fwy addas ar gyfer anghenion Cymru, ac yn llai cyfyngedig.
Yn ysbryd araith y Gweinidog—. Rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddweud heddiw yw ei fod yn chwilio am awgrymiadau gan y Senedd hon ac aelodau'r Cynulliad, felly fe ofynnaf fy nghwestiynau yn ysbryd—rhof awgrymiadau iddo mewn ffordd ymholgar. O dan y model cyflawni arfaethedig ar gyfer Busnes Cymru yn y dyfodol, tybed pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i uno swyddogaethau Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru er mwyn sicrhau'r effaith economaidd fwyaf posibl a'i gwneud yn haws i fusnesau gael gafael ar gyllid. Os oedd hynny'n ystyriaeth, hefyd eich barn am gadw brandio'r ddau sefydliad, er eu bod efallai'n un corff. Rwy'n cynnig awgrym o'r newydd yn y fan yna, ac yn gofyn am farn y Gweinidog am hynny.
Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gwneud rhai argymhellion;
Wrth bennu gwerth am arian ledled y DU, dylai cymorth busnes symud y tu hwnt i... dargedau creu swyddi tuag at
—ac rwy'n dyfynnu'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn y fan yma— sgwrs economaidd ehangach. Gallai hyn gynnwys moderneiddio, targedau datgarboneiddio, enillion cynhyrchiant, a'r effaith gymdeithasol ar gymunedau.
Byddwn yn croesawu eich barn ar argymhellion y Ffederasiwn Busnesau Bach.
Tynnir sylw at faterion sy'n ymwneud ag ymwybyddiaeth isel o ffynonellau cyllid amgen yn adroddiad yr Athro Jones-Evans, ac mae hyn yn cyd-fynd â'm syniadau i o ran ymdrin â'm gwaith achos fy hun. Tybed sut y byddwch yn sicrhau y bydd unrhyw fodel cyflawni arfaethedig ar gyfer Busnes Cymru yn y dyfodol yn gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o frand ac i gyfleu'r ystod lawn o ffynonellau ariannol a dewisiadau sydd ar gael i fusnesau.
Mae rhai sydd wedi cael gwasanaeth gan Fusnes Cymru wedi dweud bod ansawdd y cyngor yn gallu amrywio, ac rwy'n tybio sut y gall unrhyw fodel cyflawni arfaethedig ar gyfer Busnes Cymru yn y dyfodol sicrhau bod y cyngor a roddir yn gyson ar draws y wlad. Beirniadaethau eraill o'r model presennol yw y gall perthynas banciau â Busnes Cymru fod braidd yn ad hoc o ran atgyfeirio neu gyfeirio busnesau i gael cymorth a chefnogaeth gan Busnes Cymru. Felly, sut y bydd unrhyw fodel cyflawni newydd, yn eich barn chi, yn meithrin perthynas waith agosach rhwng Busnes Cymru a'i bartneriaid allweddol o'r sefydliadau ariannol, ac rwy'n cynnwys yn hynny, wrth gwrs, Banc Cymunedol Cymru hefyd, a gafodd ei grybwyll, a darparwyr cyllid eraill i sicrhau bod gennym ni ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig?
A gaf i ddiolch i Russell George am nifer o awgrymiadau darbwyllol iawn ar gyfer gwella model Busnes Cymru wrth i ni symud ymlaen? Mae her fawr, fodd bynnag, wrth gynnal y cymorth ariannol i wasanaethau Busnes Cymru os na chaiff cyllid newydd ei warantu gan Lywodraeth y DU, ar ffurf sicrhau bod pob ceiniog yn cael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru i'w gwario ar wasanaethau cymorth busnes hanfodol. Mae'r her honno'n real iawn oherwydd byddwn, ar ôl 2021, yn wynebu gostyngiad yn y gyllideb o ryw 48 y cant ar gyfer Busnes Cymru os na sicrheir cyllid newydd yn lle'r ERDF. Byddai hynny, yn ei dro, â goblygiadau enfawr o ran nifer y busnesau y byddem yn gallu eu cefnogi a rhoi cyngor iddyn nhw, nifer y swyddi y gellid eu creu, a nifer y swyddi y gellid eu cynnal. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn egluro ei sefyllfa o ran cyllid newydd a bydd yn gwarantu y byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn ei gael.
Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnaed ynghylch y gwaith y mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn ei wneud gyda'i gilydd yn bwysig iawn. Mae'r awgrym i uno yn rhywbeth yr wyf i ac eraill wedi'i ystyried yn y gorffennol. Mae'n sicr yn rhywbeth yr wyf yn cadw meddwl agored yn ei gylch. Ond rwyf hefyd yn poeni am y berthynas waith agos sydd rhwng Busnes Cymru a Gyrfa Cymru. Unwaith eto, buom yn edrych ar sut y gallem NI wella'r berthynas waith rhwng Gyrfa Cymru a Busnes Cymru, ac rydym yn falch eu bod yn gweithio'n hynod o agos nawr. Nid wyf yn bwriadu awgrymu ar hyn o bryd y byddai uno llawn yn fanteisiol i'r defnyddiwr—y cwsmer, y busnes sy'n cael cymorth—ond mae'n rhywbeth y credaf y gellid ac y dylid ei ystyried yn rheolaidd.
O ran banciau'r stryd fawr, credaf fod Russell George yn gwneud pwynt hynod o bwysig. Roedd yn rhywbeth y cyfeiriais ato tua diwedd fy natganiad. Mae gwir angen sicrhau bod banciau'r stryd fawr yn cyfeirio busnesau i Busnes Cymru os ydyn nhw'n credu y gallai'r busnesau hynny elwa mewn unrhyw ffordd ar y cyngor a'r cymorth a gynigir. Y pwynt pwysig, fodd bynnag, i Busnes Cymru, yw bod angen iddyn nhw sicrhau bod pob cangen stryd fawr yn ymwybodol o wasanaeth Busnes Cymru. Bydd y math hwnnw o gydweithio'n hanfodol bwysig er mwyn codi ymwybyddiaeth brand Busnes Cymru hefyd, ac mae hyn yn rhywbeth y cyfeiriodd Russell George ato hefyd. Rwy'n credu bod ymwybyddiaeth o frand wedi bod yn anhygoel o dda yn ddiweddar, ond mewn oes pan gawn ni ein peledu â llu o negeseuon a brandiau bob eiliad o bob dydd, mae'n bwysig nad yw'r momentwm sydd wedi'i adeiladu gan Busnes Cymru yn cael ei golli.
Nawr, soniodd Russell George am adborth busnesau. Nawr, mae adborth busnesau ynghylch arolwg cwsmeriaid Busnes Cymru wedi creu argraff yn wir: roedd 90 y cant o fusnesau yn fodlon ar lefel gwybodaeth ac arbenigedd cynghorydd; roedd 89 y cant yn fodlon ar lefel proffesiynoldeb; a byddai 86 y cant yn argymell y gwasanaeth i eraill. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen sicrhau cysondeb llwyr ledled Cymru. Felly, wrth inni fwrw ati i ranbartholi gwasanaethau megis Busnes Cymru, ni fyddwn yn rhoi'r gorau i edrych ar sut y gallwn ni sicrhau gwasanaeth cyson o safon uchel ym mhob rhan o'r wlad.
Cyfeiriodd Russell George at adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr. Rwy'n credu na ellir gorbwysleisio pwysigrwydd creu lleoedd mewn ystyriaethau cymorth busnes. Roedd creu lleoedd wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, gyda'r pwyslais ar yr economi sylfaenol, gyda'r awydd i weld cymorth busnes yn peidio â chanolbwyntio ar brynu swyddi neu greu swyddi yn unig, ond yn cyfrannu at feysydd blaenoriaeth eraill, fel datgarboneiddio, megis cryfder a chydnerthedd y stryd fawr, ac, wrth gwrs, iechyd a lles y gweithlu. Felly, wrth i Busnes Cymru fwrw ymlaen i'r dyfodol, ac wrth i'w fodel gweithredu newydd gael ei ddatblygu a'i weithredu'n llawn, byddwn yn disgwyl i Busnes Cymru weithredu ar y sail y defnyddir y contract economaidd, ac y perchir yn llawn y cynllun gweithredu economaidd a flaenoriaethwyd.
Diolch am y datganiad ac am y copi ohono ymlaen llaw. Dwi'n sicr yn cytuno—sut allwn i ddim—ar bwysigrwydd busnesau micro, bach a chanolig i economi Cymru. Mae'r ffigurau, fel rydych chi wedi'u cyflwyno nhw heddiw, yn eithaf syfrdanol mewn difri, onid ydyn nhw: 259,000 o fusnesau, a 257,600 ohonyn nhw yn fusnesau micro, bach a chanolig. Felly, tanddatganiad ydy dweud eu bod nhw'n asgwrn cefn i'n heconomi ni.
Dwi wedi gweithio am sbel efo Busnes Cymru ac wedi cyfeirio nifer o fusnesau at Fusnes Cymru—yn sicr, mae yna staff sydd yn ymroddedig iawn, ond y pryderon sydd gen i yn aml iawn, ac mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o hyn, gan fy mod i wedi llythyru efo fo ar y mater ar nifer o achlysuron, ydy bod yna dangyllido yn aml, dim digon o adnoddau wedi cael eu rhoi iddyn nhw, ac mae yna bwysau gormodol yn cael ei roi ar rhy ychydig o staff, a'r canlyniad ydy eu bod nhw'n methu delifro weithiau. Mi fyddwn ni, wrth chwilio am fodel newydd, yn chwilio am flaenoriaethu o'r newydd, mewn ffordd, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr amcanion sydd gan y staff yn gweithio ar y llawr yn gallu cael eu gwireddu.
Dwi yn sicr yn cyd-fynd â phryderon y Gweinidog pan mae'n dod at impact ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydyn ni'n gwybod cymaint o gyllid Ewropeaidd sydd wedi cael ei roi dros y blynyddoedd at fentrau yn gysylltiedig â datblygu busnesau, ac rydyn ni'n gwybod ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser, o fewn ychydig fisoedd, o bosib, i fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn dal heb y math o sicrwydd, ar hyd yn oed lefel sylfaenol, ynglŷn â'r cyllid a fyddai'n dod yn y dyfodol i allu parhau â'r gwaith yma, sydd eto yn mynd i gynyddu'r pwysau ar yr adnoddau prin sydd gan y corff Busnes Cymru yn barod.
O ran y dyfodol yr ardal allweddol gyntaf a gafodd ei hamlinellu gan y Gweinidog, dwi'n cyd-fynd, yn sicr, fod yn rhaid inni ddatblygu ymhellach yr elfen one-stop shop yma. Mae'r ail elfen yn ymwneud â beth sydd angen ei wneud, dwi'n meddwl, sef gwreiddio mwy o fewn cymunedau ar draws Cymru. Mae yna newid wedi bod mewn fframweithiau gan Fusnes Cymru dros y blynyddoedd sydd wedi symud Busnes Cymru ymhellach oddi wrth fusnesau, yn sicr yn fy etholaeth i. Mae'n rhaid inni fod yn fwy sensitif i'r angen i gael gweithwyr Busnes Cymru ar y ddaear o fewn ein cymunedau ni, ymhob rhan o Gymru, er mwyn i bob un busnes, ble bynnag maen nhw, yn teimlo bod ganddyn nhw wirioneddol gyswllt â ffynonellau o gymorth.
O ran y drydedd ardal o waith y soniodd y Gweinidog amdano fo—twf cynaliadwy—mi fyddwn i'n croesawu rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog ynglŷn â'r uchelgeisiau sydd ganddo fo i fuddsoddi mewn mentrau cymunedol hefyd, sy'n gallu troi i mewn i fusnesau sydd yn gyflogwyr pwysig o fewn ein cymunedau ni, ac yn wirioneddol wedi'u gwreiddio o fewn y cymunedau hynny. Mi wnes i ymweld ag Ynni Ogwen yn ddiweddar ym Methesda, sy'n gwneud gwaith rhagorol yn amgylcheddol o ran y ffordd mae'n cynhyrchu ynni, ond hefyd o ran y gwaith mae o'n ei wneud fel hub ar gyfer datblygu economaidd yn yr ardal honno. Felly, mi fyddwn i'n croesawu rhagor o wybodaeth am hynny.
Hefyd, a fyddai modd cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r camau sydd angen eu gwneud er mwyn gwreiddio busnesau Cymreig yng Nghymru ar gyfer y dyfodol? Y broblem, fel rydyn ni'n gwybod yn aml, ydy pan mae busnes yn cyrraedd rhyw faint, mae yna demtasiwn yng Nghymru i werthu'r busnes hwnnw gan golli'r rheolaeth sydd gennym ni ar y busnesau hynny. Mi welsom ni hynny'n digwydd yn achos Marco Cable Management yn fy etholaeth i yn ddiweddar—yn union hynny: cwmni oedd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ond mi fethwyd â chael gafael ar y busnes hwnnw drwy sicrhau'r cymorth a fyddai wedi gallu ei wreiddio fo yn Ynys Môn. A beth sy'n digwydd rŵan—mae o wedi mynd, mae o'n symud i ganolbarth Lloegr, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n gresynu'n fawr ynglŷn â fo, a dwi'n teimlo bod yna'n dal ddiffyg ffocws ar y gwaith yna o gadw busnesau Cymreig yn gynhenid Gymreig, oherwydd dyna sut mae cadw eu helw nhw yng Nghymru heddiw, ond eu presenoldeb nhw a'u hymrwymiad nhw i Gymru ar gyfer y dyfodol.
Credaf fod Rhun ap Iorwerth yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn heddiw ac yn codi cwestiynau holl bwysig am y model cyflwyno wrth symud ymlaen, ond a gaf i ddiolch iddo, yn gyntaf, am fod mor garedig â chydnabod proffesiynoldeb y staff sy'n darparu gwasanaethau Busnes Cymru? Rwy'n cydnabod y cyfraniad enfawr a wnânt, yn aml mewn amgylchiadau anodd iawn, ac mae capasiti a gallu yn gwbl hanfodol—mae'n un o'r ddwy agwedd sy'n sail i'r model cyflenwi newydd, a bydd yr un mor bwysig i Busnes Cymru ei hun.
Nawr, rwy'n credu'n gryf y bydd gweithio'n agosach gyda'n timau rhanbarthol ledled Cymru yn helpu i wella capasiti a gallu yn sector y gwasanaethau cymorth i fusnesau, ond felly hefyd gweithio'n agosach gyda banciau'r stryd fawr a'r banc datblygu ac, fel soniais wrth Russell George, Gyrfa Cymru. Mae'n bwysig bod pawb yn cydweithio a chyd-dynnu er mwyn sicrhau bod gan ein holl fuddsoddiadau, ein holl wasanaethau cymorth, bwyslais manwl, ac, ni waeth pa fath o wasanaeth yr ydych chi'n gofyn amdano, pa fath o gymorth y mae arnoch chi ei angen, bod y system ei hun yn glir, nad oes unrhyw gymhlethdodau, nad oes angen i chi ymbalfalu o gwmpas—mae gennych chi un adnodd cynhwysfawr i droi ato, ac mae'r holl gapasiti a'r gallu sydd ei angen ar gael yn yr amrywiaeth eang o sefydliadau sy'n ffurfio'r system honno.
O ran twf cynaliadwy, dylwn ddweud, Dirprwy Lywydd, fod gan Busnes Cymdeithasol Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru ran bwysig hefyd o ran ysgogi twf economaidd cynaliadwy yng Nghymru, a bydd eu cyd-swyddogaethau yn eithriadol o bwysig yn y dyfodol, gan eu bod yn helpu i sbarduno twf yn nifer y busnesau sy'n eiddo i gymunedau.
Ac o ran gwreiddio busnesau yng Nghymru, ni ddylem ni anghofio swyddogaeth hanfodol bwysig y banc datblygu, yn enwedig wrth gefnogi cwmnïau canolig eu maint. Efallai nad yw'r Aelodau'n ymwybodol o hyd a lled y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, ond byddwn yn fodlon ysgrifennu at yr Aelodau, oherwydd ers lansio Dirnad Economi Cymru yn 2018, mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i edrych ar y canol coll yng Nghymru a sut y gallwn ni ateb y pwyntiau hynny a wnaeth Rhun ap Iorwerth yn ei gyfraniad.
Eisoes, mae Dirnad Economi Cymru a Banc Datblygu Cymru wedi cynnal rhywfaint o ymchwil feintiol i ddadansoddi cwmnïau canolig eu maint yng Nghymru. Roedd y canfyddiadau cychwynnol ar gael yn ôl ym mis Medi, a chaiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi'n fuan. Ond bydd cyfnod arall i'w gwaith, a'r cyfnod arall hwnnw fydd yr ymchwil ansoddol a wneir gan Fusnes Cymru i ganfod y math o gymorth sydd ei angen, a byddaf yn cyflwyno hynny i'r Aelodau yng ngwanwyn 2020.
Tynnodd Rhun ap Iorwerth sylw hefyd at y ffigurau eithaf syfrdanol o ran nifer y microfusnesau a busnesau bach yng Nghymru. Ond, yn yr un modd, mae cwmnïau canolig eu maint yn chwarae rhan hanfodol bwysig yng nghyfraniad cyffredinol refeniw i Gymru a hefyd o ran ffigurau cyflogaeth. Ac eisoes, mae Banc Datblygu Cymru yn cefnogi busnesau canolig eu maint yn benodol sy'n dymuno aros yng Nghymru gydag arian olyniaeth rheoli, sy'n hanfodol bwysig wrth helpu i atal gwerthu busnesau a allai gael eu difreinio yn y pen draw neu eu hadleoli y tu allan i Gymru. Mae cronfa olyniaeth rheoli £25 miliwn eisoes ar gael yng Nghymru, ac mae'r rhaglen hynod o uchelgeisiol hon o gadw a gwreiddio mwy o fusnesau yng Nghymru yn un o elfennau ein gwaith o ran darganfod sut y gallwn ni gefnogi a thyfu'r canol coll sydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Prin yw'r rhai yn y Siambr hon na fyddent yn cydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan dimau gwasanaeth Busnes Cymru, ac, fel Rhun ap Iorwerth a Russell George, a gaf i gymeradwyo'r ffaith bod y Gweinidog ei hun mewn gwirionedd yn iawn i nodi pwysigrwydd y sector microfusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru?
Gan ddod yn ôl at Busnes Cymru, mae gennyf gryn dystiolaeth anecdotaidd am gwmnïau bach newydd sydd wedi elwa ar gyngor a chefnogaeth ariannol a roddwyd neu a sicrhawyd ar eu cyfer gan Busnes Cymru. Mae'r ffigurau a ddyfynnir yn y datganiad yn drawiadol, felly mae'n hanfodol bwysig ein bod yn adeiladu ar waith Busnes Cymru. Yr hyn sy'n arbennig o drawiadol yn y ffigurau hyn yw'r nifer cynyddol o fusnesau newydd a oroesodd yn hwy na phedair blynedd ers i'r gwahanol gynlluniau o dan Busnes Cymru ddod i fodolaeth. Rhaid canmol hyn. Mae'n peri pryder mawr pan fydd gennych nifer o fusnesau yn cychwyn arni ond yna'n mynd i'r gwellt. Os yw hyn yn atal hynny rhag digwydd, ac mae'n amlwg nad yw'n digwydd yma yng Nghymru fel y bu yn y gorffennol, mae hynny, unwaith eto, yn ganmoladwy.
A minnau wedi bod ym myd busnes ers dros ddeugain mlynedd, gallaf ddweud yn onest fy mod yn dymuno y buasai sefydliad fel Busnes Cymru ar gael pan oeddwn yn dechrau'r nifer o fusnesau y bûm yn ymwneud â nhw dros y blynyddoedd. Rwy'n siŵr y buaswn wedi cael profiad busnes gwerthfawr gan sefydliad o'r fath.
Oherwydd bod banciau'r stryd fawr—os gallwn eu galw o hyd yn fanciau'r stryd fawr, hynny yw—wedi cefnu i bob diben ar gefnogaeth ariannol i'r sector busnesau bach, mae'n hanfodol bod Busnes Cymru ar gael i helpu i hwyluso cyllid drwy gyfeirio a chynorthwyo, gyda chyngor pellach drwy fanc datblygu Cymru. Fodd bynnag, gwelir bod un gwendid yn y system fenthyca bresennol, sef anallu'r banc datblygu i ariannu mwy na 50 y cant o'r cyllid y mae'n ei roi i gwmnïau, gan eu gadael i geisio'r gweddill gan y sector preifat. Er y gallaf ddeall awydd Llywodraeth Cymru i beidio â gorddefnyddio arian cyhoeddus, rwy'n teimlo bod angen i'r banc helpu i sicrhau'r cyllid ychwanegol hwnnw gan y sector preifat drwy feithrin cysylltiadau cryfach â chyllidwyr preifat. A wnaiff y Gweinidog edrych ar sut y gellid sicrhau'r cysylltiadau hyn?
Yn olaf, hoffwn ategu galwad y Gweinidog ar i Lywodraeth y DU sicrhau y ceir nid yn unig yr un faint â chyllid strwythurol yr UE ar ôl i ni adael yr UE, ond mwy fyth. Gallaf sicrhau'r Gweinidog y byddwn ni yn y Blaid Brexit yn cefnogi unrhyw fesurau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau'r arian hwnnw.
A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei eiriau caredig am y bobl sy'n darparu gwasanaethau Busnes Cymru? Rwy'n credu bod y ffaith y dywedodd 37 y cant o'r busnesau a ymatebodd i'r arolwg y byddent yn fodlon neu yn wir yn hapus i dalu am gymorth a chyngor Busnes Cymru yn dangos pa mor effeithiol yw gwasanaethau Busnes Cymru ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod ni mor awyddus i sicrhau bod y model gweithredu yn y dyfodol yn adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru.
Rwy'n credu bod David Rowlands yn gwneud y pwynt pwysig bod busnes sy'n ceisio ac sy'n sicrhau cyngor a chefnogaeth gan Busnes Cymru fwy na thebyg wedi dyblu'r siawns o oroesi pedair blynedd o'i gymharu â busnes nad yw'n gwneud hynny. Mae'r ffigurau'n gwbl anhygoel, ac mae'r ffigurau hynny wedi cyfrannu at y ffaith bod gan Gymru bellach fwy o fentrau gweithredol nag a fu ganddi ar unrhyw adeg arall yn ei hanes. Ac, unwaith eto, dyma stori lwyddiant y dymunwn adeiladu arni.
O ran y cymorth a ddarperir drwy Banc Datblygu Cymru, ein barn erioed yw, rhwng Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, yn cydweithio'n agos â'i gilydd, gall busnesau elwa nid yn unig ar gymorth ariannol ond ar gyngor hefyd. Mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn edrych yn ddiweddar, yn enwedig yng nghyd-destun gadael yr UE a'r cymorth y gallai fod angen ei ddarparu i fusnesau, ar y risg o fenthyg i fusnesau bach a chanolig. Mae hyn yn gwbl hanfodol, a hefyd gyda hyn daw'r angen i wneud penderfyniadau amserol a sicrhau y cedwir y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â sicrhau cymorth ariannol i'r lleiafswm lleiaf. Ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn llongyfarch Banc Datblygu Cymru ar ei gyflawni.
O ran y meini prawf cyllido a'r swm y disgwylir i fusnes ei sicrhau drwy ddulliau eraill, rwyf wastad yn fodlon adolygu'r trefniadau ariannu ar gyfer busnesau, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ymestyn buddsoddiad preifat cyn belled ag y gallwn ni.
Diolch yn fawr, Gweinidog.