– Senedd Cymru am 3:07 pm ar 19 Tachwedd 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog—[Torri ar draws.]
Mae'n ddrwg gen i. [Chwerthin.]
—a fydd yn cyflwyno ei datganiad dramatig ei hun ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad, Julie James.
Diolch, Llywydd. Ymddiheuriadau am golli dŵr, gynnau.
Llywydd, rwy'n falch iawn o gyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Cynulliad. Mae'r Bil hwn yn cynnwys darpariaethau sydd wedi bod yn destun ymgynghori helaeth, gyda'r cyhoedd a llywodraeth leol. Bydd yn cyflwyno cyfres sylweddol o ddiwygiadau i'r ffordd y caiff etholiadau datganoledig eu cynnal ac i fframwaith llywodraethu llywodraeth leol.
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cynnig ymestyn y bleidlais ar gyfer etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Bydd y Bil yn caniatáu i'r prif gynghorau ddewis eu systemau pleidleisio ar gyfer etholiadau. Bydd hefyd yn pennu'r cylch etholiadau ar gyfer llywodraeth leol i bob pum mlynedd, yn unol â'r hyn a geir yn Senedd Cymru.
Mae'r Bil yn rhoi'r grym i sefydlu cronfa ddata gyfun o wybodaeth ar gyfer Cymru gyfan ynglŷn â chofrestru etholiadol a bydd yn galluogi swyddogion cofrestru etholiadol i gofrestru pobl yn awtomatig gan ddefnyddio ystod ehangach o ddata dibynadwy. Mae'r Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r cymhwyster ar gyfer bod yn, ac anghymhwyso rhag bod yn, aelod o awdurdod lleol ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau etholiadol arbrofol. Mae hefyd yn rhoi eglurder ar wariant swyddogion canlyniadau a hygyrchedd dogfennau etholiad.
Mae Llywodraeth Cymru yn newid y fframwaith llywodraethu ar gyfer llywodraeth leol er mwyn galluogi arloesedd, tryloywder a pherchnogaeth leol gyda'r bwriad o wella canlyniadau a safonau cyflenwi gwasanaethau ledled Cymru. Bydd y Bil, felly, yn cyflwyno pŵer cymhwysedd cyffredinol a system newydd ar gyfer gwella perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygiadau gan gymheiriaid, gan gynnwys cydgrynhoi pwerau cymorth a phwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru. I gefnogi hyn, rwy'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu dull cydgysylltiedig newydd, wedi'i arwain gan y sector, ar gyfer gwella a chefnogi llywodraeth leol. Mae'r Bil hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am eu gwella eu hunain. Mae yna bwerau wrth gefn i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru os yw perfformiad yn llai na boddhaol.
Un o nodweddion y Bil hwn yw ein bod yn ceisio grymuso awdurdodau lleol, gan roi dewisiadau lle nad ydynt yn bodoli ar hyn o bryd. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol wneud cais i uno'n wirfoddol. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau gan ddefnyddio gwahanol systemau i gydweithio mewn meysydd gwahanol. Un o argymhellion allweddol y gweithgor ar lywodraeth leol oedd yr angen am systemau a strwythurau mwy cyson i gefnogi cydweithio a gweithio rhanbarthol. Bydd y Bil felly yn darparu ar gyfer hyn drwy gynnwys pwerau i hwyluso systemau gweithio rhanbarthol mwy cyson a chydlynol o'r enw cydbwyllgorau corfforaethol.
Rydym ni wedi cydweithio'n agos iawn â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr llywodraeth leol, drwy is-grwp llywodraeth leol y cyngor partneriaeth, i ddatblygu'r cynigion hyn. Rwy'n ystyried y pwyllgorau hyn yn arf pwysig i lywodraeth leol ei ddefnyddio i gefnogi cydweithredu, trawsnewid a chynaliadwyedd tymor hwy gwasanaethau cyhoeddus. Byddant yn gyrff corfforaethol, wedi'u ffurfio o aelodaeth y prif gynghorau, wedi'u sefydlu mewn statud ac yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol, dal asedau a rheoli cyllid.
Bydd awdurdodau lleol yn gallu gofyn am greu cydbwyllgor corfforaethol ar gyfer unrhyw wasanaeth a ddymunant. Dim ond mewn nifer gyfyngedig o feysydd swyddogaethol a nodir yn y Bil y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu creu cydbwyllgor corfforaethol: gwella addysg, cynllunio strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir a'r elfen o baratoi strategaeth cynllun datblygu, trafnidiaeth a datblygu economaidd. Y nod yw gwneud pethau'n llai cymhleth i gynghorau sy'n defnyddio gwahanol fathau o drefniadau gwaith rhanbarthol, a sicrhau y gwneir y penderfyniadau'n mor agos at y bobl leol ag sy'n bosib ar gyfer democratiaeth effeithiol ac effeithlon.
Nid yw llywodraethu da'n ymwneud â strwythurau effeithiol yn unig, mae'n ymwneud hefyd â thryloywder. Felly, ymhlith mesurau eraill a gynhwysir yn y Bil sydd â'r nod o gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol a gwella tryloywder, bydd yn ofynnol i brif gynghorau baratoi, ymgynghori ar, cyhoeddi a pharhau i adolygu strategaeth cyfranogiad y cyhoedd. Bydd hefyd yn ofynnol iddynt gyhoeddi canllaw i'w cyfansoddiad sy'n egluro cynnwys eu cyfansoddiad mewn iaith gyffredin. Gwneir darpariaeth ar gyfer darlledu cyfarfodydd cyngor sy'n agored i'r cyhoedd. Er mwyn annog amrywiaeth a, gobeithio, galluogi mwy o aelodau etholedig sydd mewn swyddi a'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i allu sefyll mewn etholiad, mae'r Bil yn diwygio'r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chymryd rhan mewn prif gyfarfodydd cyngor o bell.
Mae'r Bil hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i gynghorau cymuned baratoi adroddiad blynyddol am flaenoriaethau, gweithgareddau a chyflawniadau'r cyngor yn ystod y flwyddyn. Roedd hwn yn argymhelliad yn yr adolygiad annibynnol ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref yng Nghymru ac yn allweddol i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.
Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr ac mae'n gwneud darpariaeth ynghylch eu swyddogaeth. Mae hwn yn disodli'r term 'pennaeth gwasanaeth cyflogedig' ac yn diweddaru'r swyddogaeth i adlewyrchu arferion rheoli modern. Er mwyn hyrwyddo amrywiaeth ymhellach mewn democratiaeth, mae hefyd yn golygu bod modd penodi aelodau yn gynorthwywyr i'r weithrediaeth ac i aelodau gweithredol ac arweinwyr allu rhannu swyddi. Mae hefyd yn diweddaru'r ddarpariaeth ynghylch hawl aelodau i absenoldeb teuluol ac yn rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau'r grŵp.
Mae'r Bil yn cynnwys nifer o fesurau sydd â'r nod o leihau'r cyfleoedd i ymddygiad osgoi sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig a dileu'r pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer carcharu pobl y mae'r dreth gyngor yn ddyledus ganddynt.
Gan fanteisio ar y cyfle a gynigir gan y Bil, caiff darpariaethau amrywiol sy'n ymwneud ag amrywiaeth o faterion sy'n ceisio cryfhau a moderneiddio'r ffordd y mae llywodraeth leol yn gweithredu eu cynnwys yn y Bil. Mae'r rhain yn cynnwys rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru, diddymu pleidleisiau cymunedol a chyflwyno cynllun deisebu yn eu lle, proses newydd ar gyfer penodi prif weithredwr y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, a phwerau i alluogi'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus i gyfuno a dadgyfuno.
Fel yr amlinellais yn y cyfarfod llawn y mis diwethaf, rydym ni'n gweithio i alluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa, sydd â dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd, i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae hyn yn dilyn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Hawliau Pleidleisio i Garcharorion'. Ein nod yw y bydd carcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa ac sy'n gymwys i bleidleisio yn gallu gwneud hynny yn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf, sydd i fod yn 2022.
Bydd hwn yn grŵp bach iawn o etholwyr newydd, ond mae ganddyn nhw amgylchiadau penodol sy'n cwmpasu llawer o'r trefniadau hirsefydledig ar gyfer cofrestru i bleidleisio a bwrw pleidlais. Yn syml iawn, ni fu digon o amser i Lywodraeth y DU, Gwasanaeth Carchardai EM a swyddogion cofrestru etholiadol weithio drwy hyn a phrofi'r holl ofynion cyfreithiol a gweinyddol newydd i'n galluogi i gael darpariaethau yn barod mewn pryd ar gyfer y cyflwyniad hwn. Byddaf yn hysbysu'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol am y datblygiadau hyn ac yn gobeithio rhannu darpariaethau ynglŷn â charcharorion yn pleidleisio gyda'r pwyllgor ymhell cyn Cyfnod 2.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed sylwadau'r Aelodau ar y Bil heddiw ac ystyriaeth y Cynulliad o'r Bil dros y misoedd nesaf. Diolch.
Yn amlwg, mae gormod yn y Bil hwn a'ch datganiad i mi ymdrin ag ef yn ei gyfanrwydd, felly fe wnaf i geisio dewis a dethol.
Dywedwch y bydd hi'n ofynnol i'r prif gynghorau baratoi strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, ymgynghori yn ei chylch, ei chyhoeddi a'i hadolygu, ond yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn amharod yn aml i weithredu agenda hawliau cymunedol Deddf Lleoliaeth 2011, a fyddai'n helpu'r cyhoedd i gymryd rhan, gan gynnwys yr hawl i gymunedau herio; yr hawl i sefydliadau cymunedol gyflwyno datganiadau o ddiddordeb mewn rhedeg gwasanaethau awdurdodau lleol; a hawl y gymuned i wneud cais am asedau o werth cymunedol, lle byddai cynghorau'n cadw rhestr o asedau cymunedol a enwebwyd gan grwpiau cymunedol ac, os gwerthir yr ased, byddai'r grŵp yn cael amser i gynnig amdano. A fyddai hyn yn hwyluso'r diffygion hyn ai peidio?
Mae eich datganiad yn cyfeirio at gynghorau cymuned a'r angen i baratoi adroddiad blynyddol, ac mae'n dweud bod hwn yn un o argymhellion yr adolygiad annibynnol ar ddyfodol cynghorau cymuned a thref yng Nghymru a'i fod yn allweddol i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd. Ym mis Ionawr, holais ynghylch adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, gan ddweud:
Mae safon bresennol rheoli ariannol a llywodraethu yn parhau i beri siom i ormod o Gynghorau Tref a Chymuned.
Fe wnaethoch chi ymateb drwy ddweud eich bod yn eich swydd ers chwe wythnos yn unig a dweud nad oeddech chi wedi cael cyfle eto i ddarllen yr adroddiad yn fanwl. Felly, unwaith eto, sut, os o gwbl, y bydd y Bil hwn yn mynd i'r afael â hynny? Rydych chi'n cyfeirio at y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref yng Nghymru sydd hefyd wedi galw, ymysg pethau eraill, ar i bob cyngor cymuned a thref fod yn gweithio tuag at fodloni'r meini prawf i allu arfer y pwerau cyffredinol o ran cymhwysedd ac argymell y dylai cynghorau cymuned a thref, pob un sy'n eu cynrychioli, gael gwahoddiad statudol i fod yn rhan o bob bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Unwaith eto, sut fydd y Bil hwn yn ymdrin â hynny?
Rydych chi'n cyfeirio at alluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa ac sydd â dedfryd o lai na phedair blynedd o garchar i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Wrth gwrs, roedd yr arolwg YouGov yn 2017 yn gofyn i bobl yng Nghymru a ddylid caniatáu i unrhyw garcharorion bleidleisio: dim ond 9 y cant a ddywedodd y dylen nhw gael pleidleisio. Felly, mae'n ymddangos bod ychydig o ddiffyg cysylltiad rhwng ewyllys y bobl a Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Fodd bynnag, y cymhelliad, rydym yn ei gefnogi, sef adsefydlu, sy'n rhoi cyfle i droseddwyr fyfyrio am eu troseddau a chymryd cyfrifoldeb amdanynt a'u paratoi ar gyfer bywyd sy'n parchu'r gyfraith pan gânt eu rhyddhau.
Sut ydych chi'n ymateb i'r dystiolaeth yn yr adroddiad y cyfeiriasoch ato, adroddiad y pwyllgor, o garchar y Parc, pan glywsom ni mai ychydig o garcharorion a fyddai naill ai'n arfer yr hawl i bleidleisio, neu'n ei gweld fel cymhelliad i adsefydlu, a lle cyfaddefodd adroddiad y pwyllgor fod y dystiolaeth ddiymwad i gefnogi'r ddamcaniaeth oedran pleidleisio yn cyfrannu at ailsefydlu yn gyfyngedig? Yn wir, deallwn y caiff hawl carcharorion i bleidleisio ei chyflwyno yng Nghyfnod 2 oherwydd yr anawsterau a gafodd Llywodraeth Cymru yn canfod nifer y carcharorion a gaiff eu cynnwys yn y meini prawf cymhwysedd. Sut mae hynny'n mynd i'r afael â'r diffyg craffu, pan fo craffu yng Nghyfnod 1 yn y pwyllgor yn hanfodol i graffu manwl priodol ar bob elfen? Os yw'r wybodaeth honno o bapur briffio Llywodraeth Cymru yn gynharach heddiw yn gywir, mae'n codi pryderon mawr.
Rwyf wedi bod yma'n ddigon hir i gofio sut y dechreuodd y ddadl ar bleidleisiau yn 16 oed, a dechreuodd oherwydd nad oedd 80 y cant o bobl ifanc Cymru yn pleidleisio dros unrhyw un ac mae wedi datblygu ers hynny. Yn eich memorandwm esboniadol, rydych chi'n cyfeirio at ffigurau'r Alban, a dywedwch fod 89 y cant o'r bobl ifanc 16 a 17 oed cymwys hynny yn yr Alban wedi cofrestru, o gymharu â 97 y cant ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, a chredaf yr amcangyfrifir bod 75 y cant wedi pleidleisio, o gymharu ag 85 y cant ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Ond y cymharydd go iawn, onid yw, yw etholiad Senedd yr Alban yn 2016, pan oedd y ganran a bleidleisiodd yn gyffredinol yn ôl i lawr i 55.6 y cant ar gyfer yr etholaeth a 55.8 y cant ar gyfer y bleidlais ranbarthol—hyd yn oed yn is yng Nghymru ar 45.4 y cant? Felly, pa dystiolaeth sydd gennym ni i ddangos y byddai etholiad seneddol yn golygu y byddai canlyniad y refferendwm hwn yn cael ei ailadrodd o ran ymgysylltu?
Rydych chi'n sôn am ddiwygiadau i wella trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw'r memorandwm esboniadol yn rhoi unrhyw enghreifftiau o unrhyw wlad neu genedl arall sy'n rhoi'r bleidlais i bobl nad ydynt yn ddinasyddion mewn etholiadau lleol a'r effaith y mae hyn wedi'i chael. Felly, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda llywodraethau cenedlaethol eraill am effaith caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio mewn etholiadau lleol? A pha astudiaethau achos y mae Llywodraeth Cymru wedi'u defnyddio i asesu effaith caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio? Dywedir wrthyf nad oedd Llywodraeth Cymru, yn ei briff yn gynharach, yn gwybod am unrhyw ymchwil a gynhaliwyd ar effaith cyflwyno'r hawl i bleidleisio i'r rhai nad ydynt yn ddinasyddion a lle mae egwyddor democratiaeth gynrychioliadol wedi'i seilio erioed ar hawl dinasyddion i bleidleisio yn gofyn am y budd hwnnw a ddaw yn sgil dinasyddiaeth.
Rwy'n credu y byddaf yn dod i ddiwedd fy amser cyn bo hir, felly fe wnaf i orffen—
Byddwch, fe fyddwch chi. Rwy'n gwylio, ydw—ewch ymlaen yn gyflym. [Chwerthin.]
—cyn i chi dynnu sylw'n gwrtais at hynny.
Mae'r Bil yn caniatáu i rai swyddogion cyngor sefyll mewn etholiad yn eu hawdurdodau lleol, sut fyddwch chi'n rheoli materion sy'n ymwneud â gwrthdaro buddiannau a allai godi mewn amgylchiadau o'r fath? Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i gost bosib rhaglen addysgol i hysbysu pobl leol am unrhyw newidiadau posib i systemau etholiadol a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yn eich asesiad effaith rheoleiddiol?
Diolch, Mark Isherwood, am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau. O ran y strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, nid ydym yn copïo'r Ddeddf Lleoliaeth, gan fod ein deddfwriaeth eisoes yn caniatáu ar gyfer nifer o bethau nad ydynt yn gyfredol yn Lloegr, a, beth bynnag, nid ydym ni mewn sefyllfa lle'r ydym ni eisiau efelychu Lloegr. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn hyn o beth, ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yw datblygu system ar gyfer Cymru. Felly, rwy'n falch iawn o'r strategaeth cyfranogiad y cyhoedd, mae'n ategu nifer o bethau eraill, fel trosglwyddo asedau cymunedol ac yn y blaen. Nid yw'n cwmpasu pob un ohonynt. Ond rydym yn awyddus iawn y dylai pob awdurdod lleol ddatblygu ei strategaeth ei hun ar gyfer ei bobl ei hun, oherwydd credwn yn y ddemocratiaeth leol a ddaw yn sgil hynny.
O ran cynghorau cymuned, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod gan rai cynghorau ledled Cymru nifer o faterion archwilio ac yn y blaen. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod yn gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud datganiad am eu sefyllfaoedd a beth yw eu gweithgareddau, sy'n dryloyw ac yn agored. Rydym ni hefyd yn cyfyngu ar bŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer y cynghorau cymuned hynny lle nad ydynt wedi cael archwiliadau cymwys, lle mae ganddynt staff galluog a chymwys yn eu gweinyddu, a'r syniad yw eu hannog i gyrraedd safon dda o atebolrwydd. Os nad yw hynny'n ddigonol, yna byddwn yn adolygu'r sefyllfa, ond rwy'n ffyddiog y bydd sicrhau bod cynghorau cymuned yn gweithredu yn ddigon i—mae'n ddigon o abwyd i'w galluogi i wneud hynny.
O ran y nifer o faterion a gododd ynghylch y trefniadau pleidleisio, mae gennym ni anghytundeb gwleidyddol sylfaenol yn y fan yma. Anghytunaf yn sylfaenol â bron popeth a ddywedodd yn ei gyfraniad ar bleidleisio. Cafodd y system bleidleisio o ran carcharorion ei thrafod yn helaeth yn y pwyllgor. Fel y crybwyllir yn adroddiad y pwyllgor, roedd yn adroddiad mwyafrifol, roedd ef yn y lleiafrif nad oedd yn ei gefnogi. Rydym ni yn ei gefnogi, a dyna pam yr ydym ni yn y sefyllfa sydd ohoni.
O ran pleidleisio yn 16 oed, rwy'n credu'n gadarn y dylai pobl ifanc gael lleisio barn am y ffordd y caiff eu gwlad ei llywodraethu, y ffordd y caiff eu hawdurdodau lleol eu rhedeg ac am y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. Rydym ni wedi trafod, fel rhan o Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru), y mesurau y byddwn yn eu rhoi ar waith o ran ein cwricwlwm i wneud yn siŵr bod pobl yn deall yr hawliau a'r cyfrifoldebau sy'n dod yn sgil pleidleisio. Rwy'n credu bod y ddadl os nad yw pobl yn defnyddio eu pleidlais felly ni ddylen nhw gael un yn un eithriadol, ac rwy'n siŵr y bydd gan bobl ddiddordeb mawr o ddeall bod y Ceidwadwyr yn credu hynny.
O ran gwladolion tramor, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud nifer o bethau ynghylch dinasyddiaeth sydd wedi tynhau hynny, ac mae hynny'n golygu nad yw nifer o bobl sy'n byw ac yn cyfrannu at waith a bywyd diwylliannol yng Nghymru yn gallu lleisio'u barn am y ffordd y caiff eu cynghorau lleol a'u gwasanaethau eu darparu. Credaf yn syml fod hynny'n anghywir, ac mae'r Llywodraeth eisiau cywiro hynny. O ran cymhwysedd, rydym ni'n dweud y dylai unrhyw un sydd â'r hawl i aros, byw, preswylio, gweithio a chyfrannu at y gymdeithas hon fod â llais ynghylch sut y caiff ei hethol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? A gaf i, mewn gwirionedd, groesawu'r datganiad a chroesawu'r sefyllfa gyffredinol yr ydym ni'n symud tuag ati? A gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am drefnu'r cyfarfod briffio gan swyddogion yn gynharach heddiw? Roedd hwnnw'n werthfawr iawn.
Yn amlwg, mae'n Fil helaeth iawn, ac ni af ati i nodi rhestr faith o ddyfyniadau a phwyntiau trafod, ond roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio ar y systemau pleidleisio, yn benodol y bleidlais sengl drosglwyddadwy o gymharu â'r cyntaf i'r felin. Ac, yn amlwg, rwy'n nodi'r cynnig, rydym ni wedi ei drafod o'r blaen, ynglŷn â pheidio â chael arweiniad strategol o'r fan hon i ddweud, 'Gwrandewch, bobl, rydym ni'n mynd i gael pleidlais sengl drosglwyddadwy ym mhob etholiad lleol, yn union fel yn yr Alban.' Rydych chi wedi datganoli'r penderfyniadau i'n hawdurdodau lleol, a fydd o bosib yn gwneud—o blith y 22 awdurdod lleol, yn amlwg, bydd rai ohonyn nhw eisiau'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, eraill y cyntaf i'r felin, gydag awdurdodau drws nesaf i'w gilydd â systemau pleidleisio hollol wahanol yn hynny o beth. Nawr, rwy'n credu ei bod hi'n bosib y bydd rhyw elfen o ddryswch yn y fan yna, a byddai'n well gennyf pe bai arweiniad strategol o'r fan hon i ddweud, 'Gwrandewch, bobl, dyma yr ydym ni'n ei ddewis, y bleidlais sengl drosglwyddadwy fydd hi, a bydd pawb yn cael y bleidlais sengl drosglwyddadwy.
Rwyf wedi cefnogi ers tro byd, fel y mae fy mhlaid, gynrychiolaeth gyfrannol, yn amlwg, oherwydd, o leiaf wedyn, bydd pob pleidlais yn cyfrif, a, gobeithio, bydd yn mynd i'r afael â'r nifer isel o bleidleiswyr a sefyllfaoedd o ddifetha pleidleisiau. Yn y bôn ni fu hi'n ddiwedd byd yn Yr Alban sydd â'r bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn llywodraeth leol ers rhai blynyddoedd bellach. Yn benodol, rwyf bob amser wedi credu bod y cyfuniad o wardiau y cyntaf i'r felin ac adrannau aml-aelod ar lefel awdurdod lleol yn arbennig o annemocrataidd. Rydych chi a minnau'n adnabod ward Y Cocyd yn benodol yn Abertawe, lle bûm yn gynghorydd sir fy hun o'r blaen; mae 12,500 o etholwyr yn Y Cocyd yn Abertawe, ac mae pedwar cynghorydd sir. Yna, yn amlwg, mae'r holl etholwr yn teimlo bod ganddynt bedair pleidlais ac maen nhw i gyd yn mynd i bleidleisio yr un ffordd, felly mae angen grŵp o bedwar ymgeisydd arnoch chi. Gallaf weld yn amlwg y bu Mike mewn ward aml-aelod arall yn Abertawe, ond gallwn gymharu profiadau os hoffem wneud hynny. Ond, beth bynnag, hyd yn oed, os caf fentro dweud, pan oedd y pedwar cynghorydd ward hynny yn Y Cocyd yn rhai Plaid Cymru 15 mlynedd yn ôl, dim ond tua 60 y cant o'r bleidlais a gawsom ni. Ni chawsom gant y cant o'r bleidlais, felly hyd yn oed yn yr oes aur honno pan drodd Y Cocyd at y Blaid, nid oeddem ni'n haeddu hynny. Dylid bod wedi cael dau o'r Blaid, un Llafur, un Democrat Rhyddfrydol, i fod yn deg. Gwelaf bellach fod pedwar cynghorydd Llafur yn y ward honno ar ganran debyg o'r bleidlais, felly mae'r un ddadl yn dal yn berthnasol o ran chwarae teg: ni phleidleisiodd trigolion Y Cocyd erioed gant y cant dros ba bynnag blaid sydd â'r pedwar cynghorydd sir.
Ond byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy, welwch chi, yn ateb y pos hwnnw, oni fyddai? Hynny yw, os oes rhaid inni gael wardiau aml-aelod, beth am gael y bleidlais sengl drosglwyddadwy, felly?
Fel y dywed Dai Lloyd yn huawdl iawn, mae'r system ward aml-aelod bresennol gyda'r drefn cyntaf i'r felin mewn grym yn esgor ar rhai canlyniadau rhyfedd a rhyfeddol, ac ni fydd yn synnu darganfod fy mod yn credu bod y canlyniad presennol yn dipyn o oes aur ond nad oedd y canlyniad blaenorol yn gymaint o oes aur o'n safbwynt ni. Ond mae'n gwneud pwynt da ac effeithiol iawn. Yn amlwg, nid cant y cant o bobl a bleidleisiodd—. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi'r cyfle i lywodraeth leol edrych eto i weld a ydyn nhw eisiau newid y system. Os gwnânt hynny, byddant yn gallu ymgynghori â phobl leol a byddant yn gallu gwneud hynny drwy roi'r pŵer hwnnw iddynt.
Cyn gynted ag y bydd gennym ni ddau gyngor sydd wedi penderfynu gwneud hynny, ac rwy'n siŵr y byddant yn gallu ei ystyried o ddifrif, yna byddwn yn gallu cymharu'r hyn y mae hynny'n esgor arno â'r hyn y mae system y cyntaf i'r felin yn esgor arno, ac mae'r Bil hefyd yn sefydlu system adolygu cymheiriaid fel y bydd gennym ni'r gallu i gymharu a chyferbynnu. Un o'r pethau sydd wedi'i ddweud am y bleidlais sengl drosglwyddadwy yw ei bod yn cynyddu amrywiaeth a chyfranogiad. Byddwn yn gallu gweld, bron mewn arbrawf dan reolaeth, os mynnwch chi, ai dyna fydd yn digwydd mewn gwirionedd.
Diolch am y cyfle i siarad yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, gan y byddwn wrth gwrs yn craffu ar y Bil hwn yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad. Mae hwn yn Fil pwysig iawn ac yn wir yn sylweddol a byddwn yn craffu'n drylwyr ar y darpariaethau amrywiol maes o law. Ond ar hyn o bryd hoffwn holi'r Gweinidog am ddwy ddarpariaeth nad ydynt wedi eu cynnwys yn y Bil fel y'i cyflwynwyd. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag ymestyn yr etholfraint i garcharorion yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod ein pwyllgor wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i hawliau pleidleisio ar gyfer carcharorion, ac roeddem yn argymell, fel y clywsom yn gynharach, fod Llywodraeth Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i roi i'r holl garcharorion hynny sydd â dedfryd o garchar o lai na phedair blynedd yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau datganoledig yng Nghymru. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn. Mewn llythyr i'r pwyllgor ar 18 Medi, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru yn:
ceisio cyfrwng deddfwriaethol priodol i gyflwyno darpariaeth cyn gynted â phosibl er mwyn galluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ar yr un telerau â'r rhai fydd yn berthnasol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.
Felly, gan nad yw darpariaeth o'r fath wedi'i chynnwys yn y Bil sydd ger ein bron, byddwn yn ddiolchgar i'r Gweinidog am unrhyw ddiweddariad y gall hi ei rhoi heddiw i gadarnhau ei bwriad yn hyn o beth. A hoffwn hefyd ofyn i'r Gweinidog am yr ymrwymiad a wnaeth i'r pwyllgor ar 17 Hydref mewn cysylltiad â rhoi sylw dyledus i'r hawl i dai addas. Awgrymodd y Gweinidog y gallai'r Bil hwn gynnwys hawl o'r fath, ond nid oes darpariaeth ar gyfer hyn, ac, unwaith eto, byddwn yn ddiolchgar o gael yr wybodaeth ddiweddaraf am fwriadau Llywodraeth Cymru.
Yn sicr, John. O ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, fel y dywedais yn fy natganiad, nid ydym ni wedi cael amser i weithio drwy hynny ers derbyn argymhelliad y pwyllgor. Rydym ni'n bwriadu cyflwyno, neu weithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno, gwelliannau yng Nghyfnod 2 er mwyn i adroddiad y pwyllgor ddod i rym. Ac erbyn hynny—ymhell cyn Cyfnod 2—bydd y swyddogion wedi cael y cyfle i weithio drwy'r amryfal gymhlethdodau o ran sut y caiff hynny ei weinyddu. Felly, rwy'n hollol sicr y byddwn yn gallu gweithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno hynny ymhell cyn Cyfnod 2, felly mae gennych chi gyfle da i edrych arno ac yn wir i weld a yw'r pwyllgor ei hun eisiau gwneud hynny.
Ac yna, o ran rhoi sylw dyledus i'r hawl i gael tai addas, rwy'n credu mai'r hyn yr wyf wedi'i ddweud yn y pwyllgor yw y byddem yn edrych i weld a allem ni gynnwys hynny yn y canllawiau statudol ynghylch y fframwaith perfformiad ar gyfer yr awdurdodau lleol. Felly, mae'r Bil hwn yn nodi'r ffordd y cai'r canllawiau eu cyhoeddi, ac wedyn byddai'r canllawiau eu hunain yn cynnwys y gwahanol ddarpariaethau ynddynt. Felly, byddai'r math hwnnw o ddarpariaeth, a nifer o bethau ynglŷn â'r ffordd y caiff gwahanol wasanaethau eu cyflawni, yn y canllawiau statudol. Ac, fel y gŵyr John Griffiths, mae'r canllawiau statudol yn rhywbeth y mae'n rhaid i'r awdurdod eu dilyn—nid yw'n rhywbeth y gall roi sylw dyladwy iddynt.
Nid ydym yn cytuno â'r newid yn yr etholfraint, ond mae Mark Isherwood eisoes wedi siarad am y rheini, ac felly byddaf yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar feysydd lle rwy'n credu ein bod yn cytuno â'r Llywodraeth, mewn egwyddor o leiaf. Y bleidlais sengl drosglwyddadwy—hoffem weld diwygio etholiadol, ac rwy'n meddwl bod gan y bleidlais sengl drosglwyddadwy lawer o atyniadau, ac mewn gwirionedd rwy'n credu ei bod yn eithaf cyffrous bod Llywodraeth Cymru yn caniatáu i wahanol awdurdodau lleol fynd eu ffordd eu hunain a gwneud eu dewisiadau eu hunain. Rydym yn cymeradwyo datganoli lleol, a hoffem eich cefnogi yn hyn o beth, er ei bod hi'n amlwg bod risgiau ac ansicrwydd yn perthyn i hyn, a chawn weld sut y bydd yn datblygu. Tybed i ba raddau y mae'r Gweinidog yn disgwyl i gynghorau lleol ddewis hyn. Beth yw ei disgwyliadau? Os yw cynghorau'n dewis y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a yw'r drefn yn debygol o barhau felly? Os oes gennych chi bobl wedi'u hethol o dan y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a fydd hi'n anoddach gwrthdroi'r broses honno nag ydyw yn y lle cyntaf? Yn amlwg, fydd hi ddim yn gwybod yn bendant beth sy'n mynd i ddigwydd, ond rwy'n credu bod rhesymau y mae'n rhaid i ni feddwl amdanynt ynghylch beth fydd y raddfa. Mae gennym ni Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol i Gymru. A fydd gwaith ychwanegol i'r corff hwnnw, os yw cynghorau yn troi at y bleidlais sengl drosglwyddadwy, i ail-lunio ffiniau wardiau i fod yn fwy priodol ar gyfer y system etholiadol honno, neu a allai fod lle i rai cynghorau gadw at fapiau wardiau presennol, yn enwedig lle mae mwy o wardiau sydd â thri neu bedwar aelod? A gaf i ofyn hefyd beth fydd yn digwydd o ran addysg leol i helpu pobl i ddeall y gallai'r system fod yn wahanol yn eu hardal nhw, a yw plant 16 oed yn gallu pleidleisio mewn ysgolion, neu'n fwy cyffredinol i'r etholwyr, y gallai hyn fod yn ffordd newydd o bleidleisio o'i chymharu â San Steffan a'r Cynulliad?
I symud ymlaen, rwy'n croesawu ymestyn y pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol. Mae'r Gweinidog yn dweud nad oedd hi eisiau efelychu Lloegr, ond onid ai dyma beth rydych chi'n ei wneud yn y maes hwn, dim ond wyth mlynedd yn hwyr? Pan ddaeth y Ddeddf Lleoliaeth i rym yn 2011 yn y DU, ac roedd rhai agweddau'n ymestyn i Gymru yn ogystal ag i Loegr—er enghraifft, credaf fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y polisi cyflogau uwch—pam na wnaethom ni ar y pryd geisio cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol i ehangu'r pŵer cymhwysedd cyffredinol drwy gyfrwng San Steffan? Ac, os felly, pam nad ydym ni wedi ceisio cyfrwng arall ar unrhyw adeg yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf i gyflwyno'r diwygiad hwnnw, sy'n gadarnhaol iawn, rwy'n credu?
A gaf i hefyd ofyn am y cydbwyllgorau corfforaethol? A wyf yn gywir y bydd hyn yn ddewis ychwanegol i gynghorau lleol? Mae gwahanol gynghorau a chyrff eraill wedi dod o hyd i ffyrdd da o weithio, yn rhanbarthol neu ar y cyd yn lleol, a phan yw'r ffyrdd hynny'n gweithio ac wedi bod yn llwyddiannus, a oes gwir angen eu newid? Rwy'n gwybod y bydd y cyrff corfforaethol hyn yn endidau cyfreithiol eu hunain ac yn gallu cyflogi staff, er enghraifft, ac maen nhw'n sicr yn ychwanegiad cadarnhaol i'w cael, ond ai dewis fydd hynny i gynghorau, yn hytrach na rhywbeth a gaiff ei orfodi arnyn nhw?
Ni wnaf ailadrodd y materion yn ymwneud â phleidleisio chwaith. O ran y mater ynghylch pan fo awdurdod lleol, prif gyngor, yn penderfynu y dylid newid y system bleidleisio, ac y byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweddu'n well i angen y bobl leol, mae angen iddo gytuno ar y newid gan fwyafrif o ddwy ran o dair o seddau'r cyngor, ac mae'n rhaid i'r system newydd aros yn ei lle am o leiaf ddau gylch etholiadol, am y rhesymau a amlinellwyd gan Mark Reckless. Ac yna byddai'n rhaid mynd drwy'r broses eto i'w newid yn ôl, pe bai'n dymuno. Felly, mae system ar waith sy'n caniatáu iddo ei newid a'i newid yn ôl. Ac mae dau gylch etholiadol llawn—felly 10 mlynedd, i bob pwrpas—rhyngddynt. A'r rheswm am hynny yw nad ydym ni eisiau gweld newid a newid yn ôl, ac rydym ni hefyd eisiau cael—os caiff y system ei rhoi ar waith, rydym ni eisiau gadael iddi ymsefydlu a gwneud yn siŵr bod ganddi ail gylch etholiadol. Er mwyn gwneud hynny, byddai'n rhaid i'r awdurdod lleol weithio gyda'r comisiwn ffiniau lleol er mwyn newid ei holl wardiau i wardiau aml-aelod. Felly, mae proses wedi'i nodi yn y Bil er mwyn hwyluso hynny a gweithio gyda'r comisiwn. Ac ydy, mae hynny'n waith i'r comisiwn, ond rydym ni yn y broses o ail-wneud y system ffiniau gyfan ar hyn o bryd, ac, erbyn i'r Cynulliad hwn ddod i ben, byddant wedi cwblhau'r broses honno ac yn barod i ddechrau'r broses nesaf beth bynnag.
O ran y pŵer cymhwysedd cyffredinol, y rheswm yr ydym ni'n ei wneud nawr yw oherwydd ei fod yn rhan o ad-drefnu'r ffordd yr ydym ni'n rheoli perfformiad awdurdodau lleol yma yng Nghymru. Felly, caniateir iddyn nhw gael y pŵer cymhwysedd cyffredinol—mae'n rhywbeth yr wyf wedi credu ynddo'n bersonol ers amser hir iawn—ond mae'n eistedd law yn llaw â'r dull hunan-wella o adolygu gan gymheiriaid, a chredaf fod angen y ddau i awdurdodau lleol allu manteisio i'r eithaf arni, a dyna'r rheswm pam na wnaethom ni hynny ar y pryd, oherwydd nad oedd gennym ni'r system honno ar waith.
Ac, o ran y cydbwyllgorau corfforaethol, mae'n rhaid iddyn nhw gael y cyd-bwyllgorau corfforaethol ar gyfer y pedwar maes gwaith a amlinellir yn y Bil, a amlinellais yn fy natganiad, ac yna gall awdurdod lleol neu awdurdodau lleol yn yr ardal ychwanegu unrhyw beth arall ato y dymunant ei wneud. Bydd rhai ohonynt yn dewis newid eu trefniadau, oherwydd bydd yn gweddu'n well iddynt. Bydd eraill yn dewis glynu wrth y trefniadau sydd ganddynt ar waith, ac nid ydym ni'n gosod unrhyw fath o un ateb i bopeth yng Nghymru. Felly, bydd yn rhaid i'r pwyllgorau fodoli ar gyfer y pedwar maes gorfodol yn y Bil; fel arall, caiff yr awdurdod lleol ei rymuso'n gyfan gwbl i ychwanegu neu beidio, fel y gwêl yn dda.
A gaf i fynegi fy siom na chawn ni'r hawl i dai addas wedi ei hysgrifennu yng nghyfraith Cymru? Rwy'n credu mai dyma'r cyfle i wneud hynny yn y Cynulliad hwn. Rwy'n credu bod yr achos cyferbyniol, nad oes gan bobl hawl i dai addas, yn eithriadol o warthus, ac mae'n debyg nad ydym ni erioed wedi derbyn hynny fel norm cymdeithasol ers o leiaf yr ail ryfel byd. Felly, byddai rhoi hawl a allai gael ei gweithredu gan bobl sy'n teimlo nad ydynt wedi cael y sylw y dylent fod wedi ei gael gan y gwahanol gyrff statudol sy'n gyfrifol am ddarparu hawl o'r fath yn hwb pendant, a byddai hefyd yn codi'r flaenoriaeth o dai i bawb. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bryd, ac rwy'n credu ei bod hi'n siomedig iawn eich bod yn cuddio y tu ôl i ryw fath o sylw dyledus yn y canllawiau. Dyma'r amser i roi hyn ar wyneb y Bil. Ac, wrth gwrs, mae'r llysoedd yn dehongli hynny o ran yr hyn sydd ar gael, yr hyn y gallwn ni ei wneud, ond y pwynt sylfaenol yw y dylai pawb gael eu cartrefu, ac rwy'n credu y dylai hynny fod yn ein cyfraith sylfaenol ni.
Yn ail, o ran hawl carcharorion i bleidleisio, mae hwn yn faes pwysig iawn lle mae gan gyfraith ryngwladol lawer i'w ddweud, sy'n unigryw iawn o ran hyd y dedfrydau y mae carcharorion yn eu cael—mae amrywiaeth enfawr—ac mae yna broblem gyffredinol ynghylch pobl iau hefyd, o gofio y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio. Felly, rwy'n credu bod angen archwilio'r maes hwn. Ond rwyf yn ei chael hi'n rhwystredig iawn, Dirprwy Lywydd, fod y Llywodraeth unwaith eto yn cyflwyno Bil heb adran wirioneddol bwysig o'r Bil hwnnw ar gael ar gyfer y broses ddeddfwriaethol gyfan. Nawr, mae ein proses ddeddfwriaethol yn cymryd, ar bob cyfnod, wythnosau. Mae'r broses gyfan yn cymryd misoedd. Ac eto rydych chi'n dweud wrthym ni nad oes gennych chi'r cynigion yn barod o hyd, ond mae'n rhaid i chi gyflwyno gweddill y Bil am wahanol resymau eraill. Ac, mewn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor llywodraeth leol a thai, fe ddywedoch chi eich bod chi'n dal i weithio drwy'r manylion a'r cymhlethdodau, ond byddwch yn ceisio ei roi iddo rywbryd ar ôl Cyfnod 1—wyddoch chi, ni ddylem ni ddeddfu fel hyn. Mae'n wael iawn, mewn gwirionedd.
Wel, o ran yr hawl i dai addas, clywaf yr hyn y mae David Melding yn ei ddweud, ac rwy'n cytuno i raddau helaeth ag ef. Ond yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn rhoi sylw i'r hawl i gael tai addas. Bydd yn gwybod i'r Ceidwadwyr wrthod yn llwyr roi hynny yn Neddf Tai 2004 ar lefel y Deyrnas Unedig. Pe baent wedi gwneud hynny, ni fyddem yn cael y sgwrs hon. Felly, nid wyf yn mynd i gymryd unrhyw wersi am hynny o feinciau'r Ceidwadwyr. Byddwn yn rhoi'r sylw dyledus hwnnw yn y canllawiau statudol a bydd yn rhaid i awdurdodau lleol lynu wrtho, dim ond er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth.
O ran carcharorion yn pleidleisio, rwy'n cytuno ag ef. Rydym ni eisiau sicrhau bod y rhan o'r Bil hwn sy'n ymwneud ag etholiadau yn gweld golau dydd er mwyn galluogi awdurdodau lleol i sicrhau bod y newidiadau y maen nhw eu heisiau yn eu lle. Ond roeddwn i hefyd eisiau i'r pwyllgor wneud ei waith pwysig yn edrych ar y mater hwn, ac fe'i gwnes hi'n glir iawn yn y pwyllgor fy mod yn aros am adroddiad y pwyllgor i fwrw ymlaen ag ef. Rydym ni wedi derbyn yr argymhellion, a byddaf yn gweithio gyda'r pwyllgor i gyflwyno hynny mor gyflym ag y gallwn ni.
Diolch. Ac, yn olaf, Mike Hedges.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad? A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sydd ei angen fwyaf ar lywodraeth leol yw setliad ariannol sy'n eich galluogi i ddiwallu anghenion y cymunedau a wasanaethir? A beth bynnag sydd gan y Bil—ac mae llawer o bethau da iawn yn y Bil—y setliad ariannol yw'r gwir sbardun i lywodraeth leol.
Tri datganiad cadarnhaol iawn am y Bil: mae'n ddigon posib y bydd rhoi'r bleidlais mewn etholiadau llywodraeth leol i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn sicrhau bod pob un ohonom ni wleidyddion yn rhoi mwy o sylw i farn pobl ifanc 16 a 17 oed nag a wnaethom ni hyd yma—ac nid wyf yn eithrio fy hun rhag hynny, nid wyf yn eithrio aelodau eraill yma chwaith, ac yn sicr nid awdurdodau lleol.
Yn ail, galluogi ychwanegu pobl i'r gofrestr etholiadol heb gais os yw'r swyddog cofrestru etholiadol yn fodlon bod ganddo wybodaeth ddibynadwy fod yr unigolyn yn gymwys i gofrestru: mae a wnelo hyn nid dim ond â'ch gallu i bleidleisio, ond â'r holl bethau eraill sy'n ymwneud â bod ar y gofrestr etholiadol.
Caniatáu i brif weithwyr a swyddogion cynghorau sy'n dymuno sefyll mewn etholiad ymddiswyddo ar ôl iddynt gael eu hethol, yn hytrach nag wrth ddatgan ymgeisyddiaeth: rwy'n credu bod hynny'n gam mawr ymlaen. Ac mae'r ddau ohonom ni'n adnabod pobl sydd wedi rhoi'r gorau i'w swyddi ac yna sydd wedi methu cael eu hethol wedyn. Ond pryd ddylid ymddiswyddo—pan ddaw'r datganiad ei fod wedi ei ethol, neu cyn iddo lofnodi'r datganiad fel aelod etholedig? Gall fod pedwar neu bum diwrnod rhwng y ddau ddyddiad hynny.
Mae gennyf bryderon am y cylch pum mlynedd. Fe wnaethom ni gyflwyno cylch pum mlynedd ar gyfer y Cynulliad, ond gan edrych ar gylch pum mlynedd ar gyfer llywodraeth leol—. Ac roedd hynny i gyd-fynd â Senedd San Steffan, lle byddai tymor sefydlog, pum mlynedd—wel, aeth hynny'n dda, onid do? [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod pum mlynedd yn rhy hir. Rwy'n credu bod pedair blynedd yn iawn. Rwy'n credu bod tair blynedd yn well na phump, mae'n debyg, ond rwy'n credu bod pum mlynedd yn ymestyn elastig democratiaeth yn rhy bell, ac rwy'n gobeithio'n wir y byddem yn troi etholiadau'r Cynulliad, nad ydych chi'n gyfrifol amdanynt, ac etholiadau awdurdodau lleol, ill dau yn ôl i gylch pedair blynedd. Oherwydd nid oes angen i ni boeni am San Steffan; ymddengys eu bod yn gweithredu ar gylch dwy flynedd ar hyn o bryd. [Chwerthin.]
Rwy'n croesawu'r ddarpariaeth arfaethedig i'r prif gynghorau a'r cynghorau cymuned cymwys gael pŵer cymhwysedd cyffredinol. Yr unig ofid oedd gennyf, ac rwyf wedi ymgyrchu dros y pŵer cymhwysedd cyffredinol drwy gydol fy mywyd gwleidyddol, yw bod rhai o gynghorau Lloegr yn ne Lloegr wedi troi'r pŵer cymhwysedd cyffredinol yn allu i brynu stadau a chanolfannau siopa drwy Brydain benbaladr. Ac rwy'n credu y gallai fod angen rhywfaint o reolaeth dros y lefel gyffredinol honno o gymhwysedd—bod yn gymwys i wneud unrhyw beth yn eich ardal eich hun, nid yn gymwys i fynd a benthyg £30 miliwn i fynd a phrynu canolfan siopa yn rhywle. Nid wyf yn credu bod unrhyw un ohonom ni sydd wedi dadlau dros bŵer cymhwysedd cyffredinol yn y gorffennol wedi meddwl erioed mai ar gyfer hynny y byddai pobl yn defnyddio eu pŵer cymhwysedd cyffredinol.
A oes cynnig i'w gwneud hi'n haws i awdurdodau lleol gael gwared â'r tri swyddog gwarchodedig—y prif swyddogion cyllid, y swyddog monitro a phennaeth y gwasanaeth cyflogedig? Pe cawn i ei alw'n broblem Caerffili—. Oherwydd bod yr anhawster, neu'r amhosibilrwydd bron, o gael y tair swydd hynny wedi'u diogelu yn golygu, oni wneir rhywbeth, y byddai unrhyw awdurdod lleol arall a oedd â phrif weithredwr nad oedd yn barod i ymddiswyddo yn yr un sefyllfa'n union â Chaerffili ac fe allai yn wir wynebu mwy o broblemau yn y dyfodol.
O ran ymddygiad a rhoi arweinwyr grŵp yn gyfrifol am ymddygiad—syniad gwych. Yr unig broblem yw, fel y gwyddoch chi a minnau, mae'r bobl sy'n ymddwyn waethaf yn tueddu i beidio â bod yn perthyn i grwpiau. Maen nhw'n tueddu i fod yn unigolion, annibynwyr o wahanol liwiau. Nhw yw'r rhai sy'n tueddu i ymddwyn waethaf, yn fy mhrofiad i o lywodraeth leol ac, os meiddiaf ddweud, mannau eraill. Ac, mewn gwirionedd, a oes gennym ni gyfle i allu gweithredu rhywfaint yn erbyn y rheini, oherwydd os nad oes ganddyn nhw arweinydd plaid, yna wrth bwy ydych chi'n cwyno?
Ac, yn olaf, o ran systemau etholiadol, rwy'n credu bod honno'n ddadl gyfan yn ei rhinwedd ei hun. Os gallaf ddweud fy mod yn anghytuno'n sylfaenol â phob un gair y dywedodd Dai Lloyd amdano. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn gwastraffu mwy o bleidleisiau nag unrhyw system arall. Canlyniad mawr etholiad mewn cyngor yn yr Alban: tair sedd—y nifer mwyaf o bleidleisiau oedd 1,700, yn ail roedd 1,500, cafodd y trydydd person ei ethol gyda 354 o bleidleisiau, oherwydd bod gan y ddwy blaid fwyaf ofn rhoi dau ymgeisydd rhag ofn na châi neb ei ethol, a'r llall—. Felly, mae gwir angen inni ddechrau trafod hyn. A chredaf—. A hefyd—wel, yn olaf, fe ddywedaf y byddwn yn hoffi petai Dai Lloyd yn iawn wrth ddweud bod pobl yn pleidleisio mewn blociau pleidiol, oherwydd fy mhrofiad i yn Nhreforys yw eu bod yn tueddu i ddewis a dethol pan oedden nhw'n dewis pobl i'w cynrychioli a, diolch byth, y rhan fwyaf o'r amser fe wnaethon nhw fy newis i.
Wel, nid wyf yn siŵr sut i ddilyn y sylw olaf hwnnw. Gwnaeth Mike Hedges gyfres o bwyntiau sy'n adlewyrchu ei ddiddordeb gydol oes mewn llywodraeth leol, a chytunaf i raddau helaeth â'r pwyntiau a wnaeth ef.
Dim ond i ddewis rhai o'r pethau, mater y tri swyddog gwarchodedig, rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o'r trefniadau ar gyfer gwarchod uwch-swyddogion sydd â rolau penodol yn yr awdurdod. Bydd ef yn gwybod ein bod yn gwneud hynny o ganlyniad i'r sefyllfa a ddigwyddodd yng Nghaerffili. Felly, byddwn yn edrych ar yr adolygiad unwaith y bydd yn adrodd ym mis Ionawr ac yn ystyried hynny, rwy'n siŵr. Fy marn benodol i yw bod angen cael cydbwysedd rhwng swyddogion na ddylen nhw fod yn destun unrhyw fath o ddiswyddo mympwyol gan eu bod yn rhoi cyngor anodd ei glywed i aelodau etholedig, a rhywun sy'n cadw ei swydd am saith mlynedd, neu chwech, neu bump, neu dair, neu faint bynnag, tra bydd ganddo anghydfod â'r Cyngor. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid cael gwell cydbwysedd, ond arhoswn am ganlyniad hynny.
O ran pŵer cymhwysedd cyffredinol, mae rhai awdurdodau yn Lloegr wedi mynd â gweithgareddau masnachol i lefel gwbl newydd. Bydd y gwahanol bwerau, systemau rheoli perfformiad, ac ati, sy'n gysylltiedig â'r Bil hwn hefyd yn cynnwys cyfresi o ganllawiau cysylltiedig, a bydd un o'r setiau o ganllawiau yn ymwneud â'r benthyca darbodus a'r darpariaethau ariannol y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu dilyn. Rydym wrthi'n ymgynghori ar hyn ar hyn o bryd.
Wrth inni fynd drwy'r Pwyllgor, byddwn yn sicrhau bod y Pwyllgor yn cael golwg lawn ar ddrafftiau'r gwahanol reoliadau a chanllawiau sy'n cyd-fynd ag ef, er mwyn cael mewnbwn llawn gan y Pwyllgor wrth inni fwrw ymlaen â hynny. Ac rydym yn datblygu'r canllawiau a'r rheoliadau statudol sy'n cyd-fynd â'r Bil hwn, ac am y tro cyntaf mae hynny'n cael ei gynhyrchu ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Felly, maen nhw'n cael eu cyd-gynhyrchu gydag awdurdodau lleol yng Nghymru, er mwyn iddyn nhw fod yn addas at y diben wrth i ni eu cynhyrchu. Felly, rwy'n derbyn ei bwynt, ond rwy'n credu bod yna ffyrdd o sicrhau nad yw awdurdodau lleol yn mynd yn rhy bell gyda defnyddio pŵer cymhwysedd cyffredinol yn y modd hwnnw.
O ran y cylch, rydym yn cyfateb â chylch y Senedd bresennol. Rwy'n credu bod angen inni wneud hynny oherwydd fel arall rydym yn symud yn barhaus. Rwyf newydd wneud y Gorchymyn i symud yr etholiadau llywodraeth leol am flwyddyn oherwydd fel arall maen nhw'n gwrthdaro â'n rhai ni, felly mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael ag ef. Os yw'r cylch yn newid, yna mae'n amlwg y bydd yn rhaid inni ailystyried y cylch, ond nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr eu bod yn gwrthdaro yn y modd hwnnw.
Cytunaf i yn llwyr ag ef ynglŷn â'r setliad llywodraeth leol. Bydd yn gwybod cystal â minnau ein bod ar hyn o bryd yn nwylo Llywodraeth Geidwadol sydd wedi'i hysgogi gan gyni ac nad yw'n cymryd fawr o gyfrifoldeb, mae'n ymddangos i mi, am ddinistrio gwasanaethau cyhoeddus ar draws y DU yn gyfan gwbl. Rydym wedi gwneud yr hyn a allwn ni i amddiffyn llywodraeth leol yma yng Nghymru, ond hoffwn i hefyd weld diweddglo i'r gyfundrefn gyni.
O ran yr ymddygiadau ac ati, yn amlwg mae Aelodau unigol yn dal i fod yn ddarostyngedig i'r cod ymddygiad. Mae hyn yn ddyletswydd ychwanegol ar arweinwyr grwpiau, fel bod yr arweinydd grŵp yn gweithredu fel esiampl ac yn gorfodi set benodol o ymddygiadau. Ond nid wyf i'n anghytuno â'i sylwadau am bobl nad ydyn nhw'n perthyn i unrhyw grŵp, ac maen nhw wrth gwrs yn ddarostyngedig i'r cod ymddygiad, fel y maen nhw ar bob lefel o Lywodraeth.
Ac yna roedd y peth olaf yn ymwneud â'r newid yn y systemau pleidleisio. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw caniatáu i'r awdurdod lleol ddewis drosto'i hun a yw'n gwneud hynny ai peidio. Felly, os yw'r boblogaeth leol neu'r awdurdod lleol ei hun yn awyddus i wneud hynny, yna byddwn ni'n hwyluso hynny. Os na, yna ni fyddwn yn ei hwyluso. Mae gan bob system bleidleisio ei chyfnodau da a drwg. Byddai'n rhaid inni gael awr a hanner arall, Dirprwy Lywydd, i gael dadl ar hynny, felly, nid wyf yn bwriadu gwneud hynny nawr.
Diolch yn fawr iawn.