– Senedd Cymru am 4:03 pm ar 26 Tachwedd 2019.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig—Vaughan Gething.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n fodlon cynnig y cynnig sydd ger ein bron heddiw a'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a gyflwynais ar 17 Mehefin eleni.
Hoffwn ddiolch ar goedd i'r holl randdeiliaid ac aelodau'r cyhoedd a fu'n ymgysylltu â ni ac a gyfrannodd at ein syniadau. Mae'r Bil yn adlewyrchu canfyddiadau'r adolygiad seneddol o 2017, a ganfu fod angen pwyslais parhaus ar ansawdd yn gyffredinol a llais cryfach i'r dinesydd. Mae'n atgyfnerthu ein blaenoriaethau a nodir yn 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'n amlinellu sut y bydd ansawdd yn allweddol i wneud y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol ac yn un sy'n cyflawni gwerth. Mae amcanion y Bil yn mynd i'r afael â phedwar mater a ddyluniwyd i sicrhau bod dinasyddion Cymru wrth wraidd gwasanaethau o ansawdd uchel.
Y cyntaf yw'r ddyletswydd ansawdd. Mae hyn yn mynd at wraidd yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei gyflawni. Mae'r ddyletswydd yn fwy na newid diwylliannol yn unig. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG a Gweinidogion Cymru feddwl a gweithredu'n wahanol drwy gymhwyso'r cysyniad o ansawdd a chanlyniadau gwell, nid yn unig i'r gwasanaethau a ddarperir, ond i'r broses gyfan ac ym mhob un o'r swyddogaethau, yng nghyd-destun anghenion iechyd a lles ein poblogaeth.
Mae'r Bil yn cyflwyno dyletswydd gonestrwydd a fydd yn cefnogi mwy o ddidwylledd, tryloywder, a datblygiad parhaus diwylliant dysgu ledled ein GIG. Mae'r Bil hefyd yn moderneiddio ac yn cryfhau'r ffordd y caiff llais y dinesydd ei glywed. Bydd corff newydd llais y dinesydd yn cymryd lle cynghorau iechyd cymuned presennol a bydd hwn, am y tro cyntaf, yn gweithredu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ill dau. Ac yn olaf, mae'n cyflwyno pŵer i Weinidogion Cymru benodi is-gadeiryddion i ymddiriedolaethau'r GIG, gan eu gosod ar yr un sail â byrddau iechyd lleol.
Mae pedair elfen y Bil yn gwneud cam ymlaen tuag at wella a chefnogi ansawdd gwell, gweithio mwy integredig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a gwella ymgysylltu â dinasyddion. Rwy'n ddiolchgar i aelodau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith craffu ar y Bil hyd yn hyn, ac am eu hargymhellion. Ond, yn benodol, rwyf eisiau diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil a nodir yn eu hadroddiad.
Rwyf eisiau troi nawr i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a godwyd yn adroddiadau'r pwyllgorau. Yn gyntaf, mae'r pwyllgor iechyd yn argymell y dylid cael canllawiau statudol ar ddyletswydd ansawdd. Nawr, rwyf eisoes wedi nodi y byddai canllawiau ar y ddyletswydd. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y byddai ei wneud yn statudol yn ychwanegu at y pwyslais, a byddaf yn cyflwyno gwelliant i wneud hynny.
Mae nifer o argymhellion ynghylch manylion y ddyletswydd ansawdd, beth ddylai pwyslais y ddyletswydd fod a sut y dylid ei weithredu. Unwaith eto, rwyf wedi bod yn glir byddai llawer o'r rhain, yn fy marn i, yn cael eu trin yn well yn y canllawiau, ac rwyf bellach yn cynnig gwneud rheini'n statudol, yn hytrach na chael rhestr hir ar wyneb y Bil. Dylai'r dull hwn sicrhau y rhoddir ystyriaeth lawn i'r holl faterion hynny sy'n fodd o gyflawni'r ddyletswydd. Byddwn mewn gwell sefyllfa i ddisgrifio amrywiaeth o amgylchiadau mewn ffordd enghreifftiol a bod yn llawer cliriach ynghylch yr hyn a olygir wrth wahanol amgylchiadau.
O ran y dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd, byddwn yn disgrifio ac yn esbonio yn y canllawiau statudol beth fydd canlyniadau diffyg cydymffurfio. Mae angen i ni sicrhau cydbwysedd rhwng eglurder ynghylch yr hyn a fydd yn digwydd os nad yw sefydliad yn cydymffurfio â'r ddyletswydd a'r gallu i weithredu'n briodol a chymesur. Hoffwn feddwl am yr amgylchiadau, ac, yn bwysig, sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddysgu a gwella.
Wrth gwrs, bu cryn ddiddordeb yn y cynigion sy'n ymwneud â chorff newydd llais y dinesydd, gyda nifer o argymhellion, yn fwyaf nodedig ynglŷn â rhoi hawl i'r corff allu ymweld â safleoedd y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; sicrhau nad yw'r corff yn gorff cenedlaethol anghysbell sy'n anhygyrch ac nad yw'n gallu cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru gyfan; a gofyniad bod cyrff y GIG ac awdurdodau lleol yn ymateb i sylwadau a gyflwynir gan y corff hwnnw.
Rwy'n cytuno bod angen i'r corff allu ceisio barn pobl ar yr adeg y darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Credaf mai'r ffordd orau o gyflawni hynny yw drwy god ymarfer o ran ymweld â safleoedd iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Un o brif fanteision y dull gweithredu hwn yw ei hyblygrwydd i fod yn berthnasol i'r amrywiaeth enfawr o leoliadau lle darperir gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Darperir mathau tra gwahanol o ofal, cymorth a thriniaeth yn y lleoliadau hyn, sy'n ymateb i anghenion a dymuniadau unigolion.
Mae'r cod hefyd yn elwa ar fod yn ddogfen fyw, sy'n gallu ymateb i newidiadau mewn arferion a phrofiad pobl o ddefnyddio'r cod. Bydd yn cynnwys y pwyslais angenrheidiol i sicrhau bod pob parti yn cyflawni ei gyfrifoldebau priodol. Wrth gwrs, bydd yn destun ymgysylltu ac ymgynghori wrth ei baratoi er mwyn sicrhau ei fod, fel dogfen, yn addas i'r diben a bod pawb y bydd angen iddynt ei ddefnyddio yn ei ddeall yn glir. Rydym ni wedi mynd ati fel hyn wrth ddatblygu a chyhoeddi codau ymarfer o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2016, ac rwy'n credu mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o symud ymlaen gyda hyn mewn golwg.
Cytunaf hefyd fod angen i'r corff newydd allu cynrychioli buddiannau pobl ledled Cymru a bod yn hygyrch i bobl ym mhob rhan o Gymru, felly byddaf yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i fynd i'r afael â'r pryder ynghylch gallu'r corff i gynrychioli pobl o Gymru benbaladr ac o ran ymweld â safleoedd.
Nodaf sylwadau'r pwyllgor iechyd ar y sylwadau y bydd corff llais y dinesydd yn eu cyflwyno a'r hyn y gellir ei wneud i sicrhau nid yn unig fod rhywun yn gwrando arnynt, ond y gall y corff a'r cyhoedd weld bod rhywun yn gwrando arnynt. Mae'r adroddiad yn argymell y dylid cynnwys ar wyneb y Bil gofyniad i roi sylw i sylwadau a gyflwynir. Nawr, rwy'n credu bod y geiriad presennol eisoes yn ei gwneud hi'n ofynnol i gyrff y GIG ac awdurdodau lleol roi sylw i sylwadau, ac mae hynny o bwys mawr. Fodd bynnag, rwyf wedi ystyried yr hyn y mae'r pwyllgor wedi'i ddweud, ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i'w gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol eto ynglŷn â sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol.
Unwaith eto, ar ôl gwrando ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ar y pwnc, mae'n amlwg y bydd angen i gorff llais y dinesydd gael gwybod yn gyson sut mae awdurdod cyhoeddus yn ymdrin â'i sylwadau, ac, yn bwysig, canlyniad y sylwadau hynny. Bydd cyhoeddi canllawiau statudol yn ein galluogi i ddisgrifio sut y dylai hyn ddigwydd mewn ffordd gymesur sy'n adlewyrchu'r gwahanol fathau o sylwadau y gellir eu cyflwyno.
Rwyf wedi darllen yr hyn sydd gan y pwyllgor iechyd i'w ddweud am annibyniaeth y corff newydd, yn ogystal â pheth o'r dystiolaeth a ddefnyddiwyd i lunio barn. Mae angen inni fod yn glir wrth sôn am benodi aelodau—mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru benodi aelodau bwrdd y corff newydd. Wrth benodi aelodau'r bwrdd rhaid cadw at reolau'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Mae hynny'n gofyn am gystadleuaeth agored a theg am swyddi. Er hynny, dywedais yn ystod fy ymddangosiad gerbron y pwyllgor iechyd fy mod yn fwy na pharod i gynnwys cam ychwanegol i randdeiliaid yn y broses benodi.
Yn wahanol i'r sefyllfa bresennol gyda chynghorau iechyd cymuned, lle mae Gweinidogion Cymru yn penodi 50 y cant o'r aelodau gwirfoddol, o dan y trefniadau newydd yn y Bil, bydd corff llais y dinesydd ei hun yn gallu recriwtio ei holl wirfoddolwyr yn uniongyrchol, sy'n cynyddu yn hytrach na lleihau ei annibyniaeth ar y Llywodraeth. Mae digon o fesurau diogelu ar wyneb y Bil hefyd i sicrhau bod y corff yn annibynnol ar y Llywodraeth, megis gofyniad i gynhyrchu cynllun blynyddol sy'n cynnwys blaenoriaethau ac amcanion y corff ar gyfer y flwyddyn, a gynhyrchir ar ôl ymgynghori a heb fod angen caniatâd na chymeradwyaeth gan y Llywodraeth.
Gan droi nawr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, rwy'n hapus i dderbyn argymhellion y pwyllgor. Mae'r holl elfennau, ac felly ystyr dyletswydd gonestrwydd, wedi'u gosod ar wyneb y Bil. Mae'r Bil yn glir y daw'r ddyletswydd i rym pan fo mwy nag ychydig o niwed. Caiff esboniad o hyn ei nodi yn y canllawiau statudol y byddwn yn eu datblygu ar y cyd â chlinigwyr a'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae hynny'n bwysig gan y bydd yn ein galluogi i roi arweiniad i staff gofal iechyd, cleifion a defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn â sut mae'r ddyletswydd yn gweithio mewn ffordd hygyrch a hawdd ei defnyddio. Rwy'n deall sylw'r pwyllgor ynghylch yr angen am esboniad clir o'r hyn yw ystyr y ddyletswydd gonestrwydd, ac y dylai hynny fod yn hygyrch i'r cyhoedd. Rwy'n meddwl mai canllawiau statudol, unwaith eto, sy'n cynnig y ffordd orau o wneud hynny. Mae'r memorandwm esboniadol gyda'r Bil, ar dudalennau 19 a 20, yn cynnwys esboniad clir o'r hyn a olygir wrth ddyletswydd gonestrwydd a pham yr ydym ni'n cyflwyno dyletswydd o'r fath.
O ran eu hail argymhelliad, gallaf ddweud yn awr nad oes gennyf i unrhyw fwriad ar hyn o bryd i ddefnyddio'r pwerau yn adran 26 o ran diwygio deddfwriaeth sylfaenol. Mae'r pŵer yno i sicrhau y gallwn ni ymateb yn briodol i unrhyw ddatblygiadau annisgwyl yn y dyfodol, fel deddfwriaeth gan Lywodraeth y DU. Mae hon yn ddarpariaeth safonol ym Miliau'r Cynulliad. Pe bai'r Llywodraeth yn cyflwyno gwelliannau i ddeddfwriaeth sylfaenol, byddai'r rheoliadau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a gwaith craffu gan y Cynulliad.
Rwyf wedi myfyrio ar y drafodaeth yn y pwyllgor ynglŷn â'r defnydd o'r gair 'hwylus' yn y Gymraeg a'r Saesneg, a byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i roi'r gair 'priodol' yn lle'r gair 'hwylus'. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Cyllid am eu hargymhellion adeiladol a defnyddiol. Byddaf yn cyflwyno asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig a chryfach i adlewyrchu'r adroddiad lle y bo'n briodol, gan gynnwys dadansoddiad sensitifrwydd ar gyfer rhai rhannau o'r Bil ac ystod o gostau sy'n cwmpasu gwahanol amgylchiadau.
Yn olaf, hoffwn ailadrodd fy sylwadau cynharach a diolch unwaith eto i'r holl bwyllgorau am eu sylwadau hyd yma a'u hymgysylltiad drwy gydol Cyfnod 1 y gwaith o graffu ar y Bil. Credaf ein bod ni, ddinasyddion Cymru, yn wirioneddol ffodus i fwynhau rhai o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gorau wedi eu darparu gan staff ymroddedig a thosturiol ar bob lefel. Bydd llwyddiant hynt y Bil hwn yn helpu i ddiogelu'r gwasanaethau hyn am y cenedlaethau i ddod. Fel y mae adroddiad y pwyllgor iechyd yn cydnabod, mae cryn gefnogaeth gan ystod eang o randdeiliaid i amcanion y Bil, a gobeithio y bydd yr Aelodau'n ei gefnogi heddiw.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon mewn perthynas â'r Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2019.
Cynhaliodd y pwyllgor ymarfer ymgynghori cyhoeddus dros yr haf, a chymerodd dystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu ar y Bil hwn. Mae'r Bil yn un elfen o gyfres o fesurau sydd â'r nod o wella a gwarchod iechyd, gofal a llesiant poblogaeth Cymru. Byddai'n anodd anghytuno â'i brif nodau, sef: sicrhau bod ansawdd yn dod yn sbardun i ffordd systematig o weithio yn y gwasanaeth iechyd; ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau iechyd fod yn agored ac yn onest pan aiff pethau o chwith; a chryfhau llais dinasyddion ar draws y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Ar y cyfan, rydym ni'n croesawu’r cynigion yn y Bil yn fras, ac o’r farn ei fod yn cynrychioli cam pwysig tuag at ragor o dryloywder ac atebolrwydd ar draws iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Gan hynny, mae'r pwyllgor yn argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Dyna argymhelliad 1.
Fodd bynnag, rydym wedi pwyso a mesur y dystiolaeth gan randdeiliaid ac wedi gwneud nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r Bil. Dwi'n clywed y geiriau mae'r Gweinidog wedi'u dweud ynglŷn â hynny a buaswn yn annog y Gweinidog i roi ei ystyriaeth lawn i'r argymhellion hyn yn ystod hynt y Bil.
Yn gyntaf, y ddyletswydd ansawdd. Mae'r Bil yn cyflwyno dyletswydd eang newydd i'w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y gwasanaeth iechyd arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd gyda'r bwriad o sicrhau gwelliant yn ansawdd gwasanaethau iechyd. Mae ansawdd yn cynnwys effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny’n unig; diogelwch gwasanaethau iechyd; a phrofiad unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddynt.
Dywedodd llawer o ymatebwyr wrthym, er eu bod yn croesawu nod y Bil ac yn cydnabod yr angen i wella ansawdd, y dylid egluro a chryfhau’r ddyletswydd ansawdd, a bod angen diffinio ansawdd yn fwy penodol ar wyneb y Bil, ac y dylid cael darpariaeth ar gyfer cosbau am beidio â chydymffurfio.
Fel pwyllgor, rydym yn cefnogi’n llwyr unrhyw fesur sy'n ceisio gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gan y gwasanaeth iechyd i'w gleifion. I'r perwyl hwn, rydym yn cefnogi'r newid ffocws, a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru drwy'r Bil hwn, i ffordd o weithio ar draws y system a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y gwasanaeth iechyd arfer eu holl swyddogaethau gyda'r nod o sicrhau gwelliant yn ansawdd y gwasanaethau iechyd.
Roeddem yn siomedig, felly, o glywed gan randdeiliaid, yn enwedig cyrff y gwasanaeth iechyd, nad oedd y Bil yn ddigon cryf o ran nodi sut byddai ansawdd y ddarpariaeth gwasanaethau yn cael ei asesu, sut byddai sefydliad yn dangos canlyniadau gwell, a sut byddai methiant i gyflawni gwelliannau o ran ansawdd gwasanaethau yn cael sylw. Mae'r rhain yn faterion mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddelio â nhw. I'r perwyl hwn, nodwn fwriad y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau ynghylch y ddyletswydd ansawdd i gefnogi a chynorthwyo cyrff y gwasanaeth iechyd i roi'r ddyletswydd hon ar waith, a'i fod wedi darparu amlinelliad drafft o'r canllawiau hynny. Rydym ni'n derbyn ei ddadl mai canllawiau yw'r cyfrwng mwyaf priodol ar gyfer y lefel o fanylder mae'n bwriadu ei ddarparu ar y mater hwn.
Fodd bynnag, credwn fod y canllawiau i gyd-fynd â'r darpariaethau dyletswydd ansawdd yn y Bil yn ganolog i lwyddiant y darpariaethau hyn ac, o'r herwydd, dylai’r canllawiau feddu ar awdurdod statudol. Ar hyn o bryd nid oes darpariaeth yn y Bil i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau yn benodol ar y ddyletswydd ansawdd. Eto, dwi'n clywed geiriau'r Gweinidog heddiw.
Gan hynny, rydym yn argymell bod y Bil yn cael ei wella i wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau statudol a dwi'n croesawu beth mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn ymwneud â’r ddyletswydd ansawdd. Dylai'r canllawiau hyn nodi'n glir sut bydd y ddyletswydd ansawdd wrth ddarparu gwasanaeth yn cael ei hasesu a sut byddai sefydliad yn dangos canlyniadau gwell. Dylai hefyd gynnwys manylion am sut bydd arloesiadau a gwelliannau a ddyluniwyd mewn un ardal yn cael eu lledaenu a'u graddio ledled Cymru gyfan. Dyna argymhelliad 2.
Clywsom dystiolaeth gref am yr angen am gysylltiad clir rhwng ansawdd gwasanaeth a’r gweithlu. Rydym yn ategu'r farn hon. Yn ein barn ni, mae'n amhosibl gwahanu mater ansawdd a darparu lefelau staffio priodol—mae cysylltiad annatod rhyngddynt. Er mwyn cyflawni ansawdd o ran darparu gwasanaethau, rhaid cael y lefel angenrheidiol o staff. Gan hynny, dylid gwella’r Bil i wneud darpariaeth benodol ar gyfer lefelau staffio a chynllunio’r gweithlu yn briodol fel rhan o'r ddyletswydd ansawdd. Dyna argymhelliad 4.
Ymhellach, credwn fod cysylltiad annatod rhwng gwella ansawdd gwasanaethau a lleihau anghydraddoldebau iechyd, a rhaid darparu ar gyfer y cyswllt hwn yn gliriach ar wyneb y Bil. Dyna argymhelliad 5.
Mewn perthynas â sancsiynau, clywsom dystiolaeth gref o'r angen am arwydd cliriach o sut yr eir i'r afael â methiant i ddarparu gwelliannau i wasanaethau. I'r perwyl hwn, credwn y dylid bod canlyniadau clir yn sgil diffyg cydymffurfio â'r ddyletswydd ansawdd, ac y dylid darparu ar gyfer hyn ar wyneb y Bil. Ni ddylai sancsiynau o'r fath gael effaith niweidiol ar sefyllfa ariannol y sefydliad. Rydym yn cytuno â'r Gweinidog fod trefniadau uwchgyfeirio ac ymyriadau’r gwasanaeth iechyd yn fecanwaith priodol.
Gan symud ymlaen nawr at y ddyletswydd gonestrwydd. Rydym yn llwyr gefnogi amcan polisi dyletswydd gonestrwydd, a'r symudiad diwylliannol tuag at fod yn fwy agored a thryloyw yn y gwasanaeth iechyd a ddylai ddeillio o hynny. Pan aiff pethau o chwith mewn lleoliadau iechyd, dylai cleifion a'u teuluoedd allu disgwyl cael eu trin mewn ffordd agored ac onest. Mater yr un mor bwysig yw bod gan sefydliadau ddiwylliant ar waith sy'n annog ac yn ategu’r egwyddor o ddysgu o gamgymeriadau ac sy’n creu'r amodau priodol i hyn ddigwydd.
Er bod y Bil yn nodi'r amodau i'w bodloni er mwyn sbarduno'r ddyletswydd gonestrwydd, bydd cymaint o'r manylion am weithredu hyn yn ymarferol yn fater i reoliadau a chanllawiau. Y rheoliadau fydd yn nodi'r broses i'w dilyn unwaith y bydd y ddyletswydd wedi ei sbarduno. O'r herwydd, rydym yn croesawu'r ymrwymiad gan y Gweinidog i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y rheoliadau a darparu canllawiau statudol ategol.
Yn yr un modd â'r ddyletswydd ansawdd, clywsom dystiolaeth gref o'r angen am sancsiynau am beidio â chydymffurfio â'r ddyletswydd gonestrwydd hon. Clywsom bryderon real iawn gan randdeiliaid ynghylch rhwystrau o ran datgelu ac ofnau dilys staff y gwasanaeth iechyd ynghylch codi llais. Mae'n hanfodol bwysig wrth gyflawni'r math o newid diwylliannol a hyrwyddir gan y Bil hwn fod gan staff amgylchedd diogel i fod yn agored ac yn dryloyw, heb ofni gwrthgyhuddo. Er ein bod yn cefnogi'r camau hyn, nid ydym wedi ein hargyhoeddi’n llawn eu bod yn ddigonol. Credwn fod rhinwedd mewn archwilio ymhellach system gymorth fwy annibynnol a chadarn i staff sy'n eu galluogi i deimlo'n ddiogel wrth godi pryderon a chwythu'r chwiban.
Mewn perthynas â chorff llais y dinesydd, mae nifer o heriau o ran y fframwaith statudol presennol. O'r herwydd, mae angen diwygiadau yn y maes hwn ac felly rydym yn cefnogi'r cynnig i ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned gyda'r corff llais y dinesydd newydd a fydd yn cwmpasu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod y rôl amhrisiadwy mae'r cynghorau iechyd cymuned wedi ei chwarae dros y 45 mlynedd diwethaf wrth adlewyrchu barn a chynrychioli buddiannau eu cymunedau lleol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rhaid peidio â cholli cryfderau'r cynghorau iechyd cymuned, gan gynnwys eu gallu i gynrychioli llais pobl leol, mewn unrhyw strwythur newydd, ond adeiladu arnynt a'u datblygu. Awgrymodd nifer o dystion y dylai penodi aelodau corff llais y dinesydd fod yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru ac, fel pwyllgor, rydym yn cytuno.
Clywsom bryderon hefyd am allu corff llais y dinesydd i gynnal ymweliadau cyhoeddedig a dirybudd, ac rydym yn cefnogi hynna. Mae hyn wedi bod yn ffordd werthfawr a rhad o wirio ansawdd a darpariaeth gwasanaethau. Rydym yn cydnabod bod problemau o ran mynediad pan fydd pobl yn derbyn gwasanaeth gartref, yn enwedig lle mae hyn mewn lleoliad gofal preswyl. Fodd bynnag, nid ydym yn cynnig mynediad dilyffethair at ystafelloedd preifat pobl. Dylai cyflawni gwiriadau rhesymol a chymesur fod yn gyfan gwbl bosibl i'w wneud.
Gan dynnu at y diwedd, a diolch am eich amynedd, er ein bod yn cytuno ei bod yn annhebygol y byddai Gweinidogion Cymru yn anwybyddu sylwadau corff llais y dinesydd, byddai sefydlu'r hawl i ymateb mewn deddfwriaeth yn rhoi digon o bwerau i'r corff fel bod y cyhoedd yn hyderus y gall wneud gwahaniaeth. Gan hynny, rydym yn argymell ei fod yn y Bil.
Mae yna nifer eraill o argymhellion a sylwadau y buaswn i'n licio eu gwneud ond, wrth gwrs, mae amser wedi cerdded ymlaen. I derfynu, dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud heddiw. Mae yna nifer o welliannau sydd yn angenrheidiol i'r Bil yma i'w wneud. Dwi'n clywed beth mae'r Gweinidog wedi ei ddweud eisoes, ei fod yn mynd i gyflwyno rhai gwelliannau, buaswn i'n gofyn iddo wrando ar yr holl areithiau y prynhawn yma. Dwi'n croesawu bwriad y Gweinidog i gyflwyno rhai gwelliannau ac, eto, mae angen gwelliannau sy'n dilyn trywydd adroddiad y pwyllgor iechyd i wneud yn siŵr bod hwn yn Fil sy'n addas i'r bwriad. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl yma. Mae'r Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, wedi gwneud naw argymhelliad. Fe glywodd y pwyllgor gan y Gweinidog fod y Bil yn ymwneud ag arwain newid diwylliannol ac mae’n ofynnol iddo gyflwyno cyfres o ddiwygiadau i gryfhau gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Dywedodd nad oedd yn bosibl rhoi gwerth ariannol ar bob rhan o’r newid.
Nawr, mae'r Pwyllgor Cyllid yn derbyn y gallai buddion y Bil fod yn amrywiol ac yn anodd eu mesur, ond rydyn ni wedi tynnu sylw ar sawl achlysur at y pwysigrwydd y dylai asesiadau effaith rheoleiddiol gynnwys yr amcangyfrif gorau posibl ar gyfer costau a buddion Bil er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn gallu craffu'n llawn ar y goblygiadau ariannol cyffredinol. Felly, rydyn ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith pellach yn dadansoddi ac yn amcangyfrif buddion y Bil, a nodir fel ysgogwyr allweddol ar gyfer gweithredu'r ddeddfwriaeth, ac rwy'n cydnabod y sylwadau wnaeth y Gweinidog i'r perwyl yna wrth agor y ddadl yma.
Mae'r pwyllgor yn falch bod y sector iechyd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu deunyddiau hyfforddi ar ddyletswydd gonestrwydd, ac rydyn ni'n credu y bydd hyn yn cynorthwyo'r newid diwylliannol y mae'r Bil yn edrych i'w gyflawni.
Fodd bynnag, rydyn ni'n pryderu bod y Gweinidog o'r farn ei bod yn ymarferol i gyrff y gwasanaeth iechyd cenedlaethol amsugno'r costau ychwanegol a gaiff eu gosod arnyn nhw o ganlyniad i'r Bil, yn enwedig gan nad ydy'r asesiad effaith rheoleiddiol yn meintioli'r holl gostau i syrthio ar gyrff y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Rydyn ni'n argymell, felly, y dylid cynnwys rhagor o wybodaeth am y costau ychwanegol yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, unwaith eto.
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, disgrifir canlyniad andwyol fel un sydd wedi, neu a allai, arwain at fwy nag ychydig o niwed a lle'r oedd darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod yr amcangyfrif o gostau parhaus ar gyfer y ddyletswydd gonestrwydd newydd yn adlewyrchu nifer y digwyddiadau a osodwyd yn y dosbarth cymedrol. Os yw'r diffiniad o 'fwy nag ychydig o niwed' i adlewyrchu niwed bychan, yna mae'n debygol, wrth gwrs, y gallai'r gost fod yn sylweddol uwch. Rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn paratoi dadansoddiad sensitifrwydd i ddangos effaith newidiadau yn nifer y digwyddiadau ar y costau parhaus sy'n deillio o gyflwyno dyletswydd gonestrwydd. Unwaith eto, rwy'n cydnabod datganiad cynharach y Gweinidog yn hynny o beth.
Nawr, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn meintioli'r gwasanaethau cyfreithiol sy'n deillio o'r ddyletswydd gonestrwydd fel £30,000 i gyrff y GIG, sy'n seiliedig ar y costau cyfreithiol presennol ar gyfer Gweithio i Wella—yr ymgyrch a ddefnyddiwyd, wrth gwrs, i lansio gweithdrefn gwyno newydd y GIG yn ôl yn 2011. Mae hyn yn cyfateb, ar gyfartaledd, i gost flynyddol o £3,000 ar gyfer pob bwrdd iechyd lleol a'r Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dweud wrth y Pwyllgor Cyllid droeon am ei bryder ynglŷn â nifer y cwynion iechyd a wneir i'w swyddfa. Felly, rydym ni'n pryderu y gallai'r costau cyfreithiol fod yn sylweddol uwch ac rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rhagor o waith, gan gynnwys dadansoddiad sensitifrwydd unwaith eto, i ddangos ystod o gostau.
Yn olaf, mae'r rhan fwyaf o gyfanswm cost y Bil, sef £6.1 miliwn, yn gysylltiedig â chost sefydlu a chynnal corff newydd llais y dinesydd, gan gynnwys, wrth gwrs, costau pontio sylweddol gyda thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Bydd corff llais y dinesydd yn disodli'r saith cyngor iechyd cymuned yng Nghymru a chaiff ei sefydlu i gynrychioli buddiannau'r cyhoedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Caiff yr amcangyfrif o'r gost TGCh yn yr asesiad effaith rheoleiddiol ei adlewyrchu yng nghost net y Bil, sef £2.13 miliwn. Fodd bynnag, mae'r wybodaeth ategol yn cynnwys costau sy'n amrywio o £2.13 miliwn hyd at £3.12 miliwn. Er ein bod yn cydnabod y gall TGCh alluogi a hwyluso arferion gweithio hyblyg, nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi digon o dystiolaeth i ddangos hyn. Felly, nid ydym ni'n cefnogi defnyddio'r amcangyfrifon cost isel wrth asesu'r goblygiadau ariannol. Rydym yn argymell y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol adlewyrchu'r ystod bosib o gostau TGCh yn hytrach na'r amcangyfrif cost isel. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod bwriad y Gweinidog i ddarparu llawer o'r wybodaeth ychwanegol—gwybodaeth ariannol—yr ydym ni wedi gofyn amdani fel pwyllgor, ac rydym ni'n edrych ymlaen at weld hynny maes o law.
Hoffwn gloi fy sylwadau'n fyr yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru, oherwydd bydd y Gweinidog yn gwybod bod cefnogaeth gref i Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf ac effeithiol dros gleifion a dinasyddion yng Ngogledd Cymru dros y blynyddoedd. Mae wedi bod ar flaen y gad yn y dadleuon ar sgandal Tawel Fan; ar y llanast mesurau arbennig; ac ar golli'r unedau gofal arbennig i fabanod, y daethpwyd â nhw'n ôl yn y pen draw, wedi hynny, ar ôl ymgyrch eithaf hir. Gwnaeth 500 o ymweliadau dirybudd â wardiau ar draws gogledd Cymru y llynedd, gan helpu i ddwyn y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i gyfrif a sicrhau bod cleifion yng ngogledd Cymru yn cael y gwasanaethau y maent yn eu haeddu.
Mae'r Bil hwn, fel y gwyddom ni, yn cynnig cael gwared ar Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru. Bydd yn lleihau llais cleifion gogledd Cymru a bydd yn canoli'r swyddogaeth graffu bwysig honno i gorff, o bosib, fydd ymhell i ffwrdd a mwy anghysbell, fydd, siŵr o fod, wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Os caiff corff newydd ei sefydlu, fe hoffwn i, yn un, ei weld yn cael ei leoli yn y gogledd. Felly, rwy'n eich annog, Gweinidog, i roi'r gorau i'ch cynnig, i gadw Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ac i sicrhau bod gan gleifion a dinasyddion yn y gogledd yr eiriolaeth a'r llais cryf ac annibynnol y mae pob un ohonom ni yn ei haeddu.
A gaf i alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw?
Cyflwynwyd adroddiad ar y Bil ar 15 Tachwedd. Fe wnaethom ni dri argymhelliad. Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r diffiniad 'dyletswydd gonestrwydd'. Mae rhan 3 o'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer ac ynghylch dyletswydd gonestrwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd. Er bod y Bil yn nodi'r gweithdrefnau i'w dilyn pan ysgogir dyletswydd gonestrwydd, nid yw'n diffinio ar wyneb y Bil beth mae dyletswydd gonestrwydd yn ei olygu. O ganlyniad, daethom i'r casgliad na fyddai dinasyddion sy'n anghyfarwydd â therminoleg o'r fath yn deall sut y byddai'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt, felly fe wnaethom ni argymell y dylai'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i egluro pam nad yw'r diffiniad o 'ddyletswydd gonestrwydd' yn ymddangos ar wyneb y Bil, ac, yn ei absenoldeb, lle gallai dinasyddion ddod o hyd i wybodaeth am ei ystyr. Rwy'n croesawu'n fawr y sylwadau a wnaeth y Gweinidog ynglŷn ag wyneb y Bil a chyflwyno ymrwymiad i fater canllawiau statudol yn y maes hwn.
Mae ein dau argymhelliad arall yn ymwneud ag adran 26. Mae'n rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i wneud darpariaethau atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, neu ddarpariaethau darfodol, trosiannol neu arbedol. Fe wnaethom ni fynegi pryder ynglŷn ag ehangder y pwerau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu harddel o dan adran 26, yn enwedig pan ellir defnyddio pwerau o'r fath i ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol, ac nid oes eglurder ynghylch os neu sut y cânt eu defnyddio. O dan amgylchiadau o'r fath, nid yw cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i'r pwerau hyn yn dilysu eu defnydd. Ni ellir diwygio rheoliadau ac nid ydym o'r farn y dylai rheoliadau sy'n gallu gwneud newidiadau sylweddol ond amhenodol i ddeddfwriaeth sylfaenol fod yn destun penderfyniad 'ie' neu 'na' i'w cymeradwyo neu eu gwrthod.
Ar y sail honno, ein hail argymhelliad oedd y dylai'r Gweinidog ddefnyddio'r ddadl hon i nodi'n glir ac yn fanwl sut y bwriada ddefnyddio'r pwerau a geir yn adran 26, a nodaf sylwadau'r Gweinidog nad yw'n bwriadu defnyddio'r pwerau hyn i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, er ein bod yn gofyn am eglurder o ran sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu defnyddio'r pwerau, mae un newid yr hoffem ei weld hefyd, sef o dan 26(1), lle gellir arfer y pŵer i wneud rheoliadau pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod hi'n hwylus neu'n angenrheidiol i ddiben y Ddeddf. Nawr, fel Pwyllgor, rydym ni wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro ynglŷn â'r defnydd o'r term 'hwylus' a defnyddio termau tebyg o ran pwerau gwneud rheoliadau, a thynnwyd sylw at rai o'n hadroddiadau blaenorol a oedd wedi gwneud hynny. Ein safbwynt ni o hyd yw y dylai Gweinidogion Cymru fabwysiadu dull sydd wedi'i dargedu'n well, yn hytrach na chymryd y pwerau ehangaf sydd ar gael iddynt. Felly, credwn y dylid cymryd pŵer i wneud rheoliadau at ddiben clir; wrth dynnu pwerau'n rhy eang mae risg bob amser y cânt eu defnyddio yn y dyfodol mewn ffyrdd na fwriadwyd yn wreiddiol nac a ragwelwyd pan gyflwynwyd y Bil. Felly, rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliant i'r Bil i ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus' o adran 26(1).
Nodaf fwriad y Gweinidog i gyflwyno rhywbeth arall yn ei le i ddefnyddio'r term 'priodol'. Nawr, mae'n ymddangos bod y term 'priodol' yn 'hwylus yn hytrach nag yn briodol', ac felly yn 'amhriodol', ac yn ein barn ni, mae'n ddiangen, ac mai'r ffordd briodol o fwrw ymlaen fyddai ei ddileu'n llwyr fel bod yr adran dim ond yn dweud bod gan y Gweinidogion y pŵer i wneud rheoliadau pan fyddant o'r farn bod hynny'n angenrheidiol at ddibenion y Ddeddf. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Diolch. Angela Burns.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn falch o gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil sydd ger ein bron. Fodd bynnag, mae yna feysydd yr hoffem eu gweld yn cael eu hychwanegu, eu diwygio neu eu gwella, a hoffwn grybwyll tri maes penodol.
Fe hoffwn i ddechrau gyda'r ddyletswydd ansawdd. Gweinidog, mae angen mwy o eglurder o ran sut y caiff y ddarpariaeth ansawdd ei mesur. Dywed y datganiad fod y ddyletswydd ansawdd yn un cyffredinol iawn o ran effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd, diogelwch gwasanaethau iechyd a phrofiadau unigolion y darperir gwasanaethau iechyd iddyn nhw, ac rwy'n pryderu y gellid dehongli'r ddyletswydd ansawdd fel un a gafodd ei llunio drwy roi prosesau meintiol ar waith, megis methodoleg sicrwydd ansawdd, ond yr hyn sydd ei angen mewn gwirionedd yw mesurau meintiol i ategu'r ddyletswydd ansawdd honno: a yw pobl yn teimlo eu bod yn cael y gwasanaeth y maent yn ei haeddu a'i eisiau? Ydyn nhw'n teimlo'n dda am y peth? Ydyn nhw'n teimlo'n ddiogel? Ydyn nhw'n teimlo y cânt eu trysori? Ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael gofal da? Mae llawer o randdeiliaid wedi mynegi pryderon ynghylch hyn. Yn wir, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu hunain fod adroddiad blynyddol ar wella ansawdd yn ymddangos yn rheolaeth gymharol wan, ac roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo nad yw'r ansawdd a ddisgrifiwyd ar hyn o bryd yn ddigon cadarn. Felly, Gweinidog, byddwn yn gofyn dros y cyfnodau nesaf ein bod yn mynd i'r afael â hyn mewn gwirionedd a chael y maen i'r wal.
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, credaf fod hwn yn gam diddorol iawn ymlaen gennych chi, Gweinidog. Hynny yw, gadewch i ni fod yn onest, byddech yn meddwl y byddai ein GIG yn ddigon gonest, ond oherwydd bod gan y rhan fwyaf ohonom ni waith achos sy'n dangos nad yw hynny'n wir, mae angen dyletswydd gonestrwydd arnom ni oherwydd mae'n ymwneud ag ymddiriedaeth a gonestrwydd gyda chleifion, yn enwedig os yw defnyddiwr gwasanaeth wedi dioddef niwed annisgwyl neu anfwriadol a lle y gallai darpariaeth gofal iechyd fod wedi bod yn ffactor yn y canlyniad andwyol hwnnw.
Ac, unwaith eto, Gweinidog, mynegodd rhanddeiliaid bryderon ynghylch sut y caiff y ddyletswydd ei diffinio. A gaiff ei derbyn? Sut fydd yn plethu gyda gofal iechyd darbodus? A fydd yn cysylltu â phrosesau sefydliadol ehangach? Beth am gymesuredd? Beth am hyfforddiant ac integreiddio rhwng iechyd a gofal neu drefniadau partneriaeth eraill, fel meddygon teulu? Pam mae gymaint o oedi ynghylch y ddyletswydd hon o ran sefydliadau? Ble mae'r ddyletswydd unigol? Oherwydd os nad oes unrhyw wers arall i'w dysgu o Gwm Taf, y wers honno yw bod unigolion wedi methu â gweithredu'n agored a thryloyw.
Nid yw'r ddyletswydd ansawdd a'r ddyletswydd gonestrwydd fel y'u disgrifir nhw ar hyn o bryd yn rhoi fawr o fanylion o ran sut y cânt eu mesur, eu monitro a'u hadolygu, ac, a dweud y gwir, nid yw adroddiad blynyddol naill ai yma nac acw. Rwy'n falch iawn, Gweinidog, o glywed y byddwch yn gwneud y canllawiau'n statudol, ond rwy'n credu bod angen inni gael proses gynnwys o ran yr hyn a gaiff ei gynnwys yn y canllawiau hynny. Mae angen ymgynghoriad ac fe hoffwn ichi ein sicrhau y bydd hynny oll yn digwydd er mwyn i'r canllawiau a gyflwynir sy'n rhoi rheidrwydd statudol ar y sefydliadau hyn i ddarparu dyletswydd gonestrwydd a dyletswydd ansawdd fod yn dderbyniol gennym ni y Cynulliad ac i randdeiliaid yn fwy cyffredinol.
Hoffwn droi at gorff llais y dinesydd. Rwy'n cytuno bod angen rhai diwygiadau ar y cynghorau iechyd cymuned presennol. Fodd bynnag, nid ydym ni'n gweld tystiolaeth sy'n ddigon i'n symud i ffwrdd o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig sef bod yn rhaid i gyrff llais y dinasedd fod yn annibynnol. Ac nid dim ond ni a'r sefydliad cynghorau iechyd cymuned presennol sydd, yn amlwg, yn credu y dylent fod yn annibynnol, ond hefyd y saith bwrdd iechyd, y tair ymddiriedolaeth GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, a nifer o sefydliadau eraill sydd hefyd yn awyddus iawn y dylai corff cenedlaethol newydd gael cynrychiolaeth leol.
Gweinidog, mae argymhellion yr adolygiad seneddol yn glir: dylid rhoi lle hollol greiddiol a chanolog i lais y dinesydd yn y gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal. Ac mae eich dyheadau yn 'Cymru Iachach' yn adleisio'r uchelgais hon, ond heb os nac oni bai, nid yw ymgysylltu â'r cyhoedd yn ymwneud â llenwi ffurflenni ond mae a wnelo fo â dod â phobl at ei gilydd lle caiff polisïau eu llunio neu eu hadolygu.
Mae gan gorff llais y dinesydd lawer i'w ychwanegu at y drafodaeth, ar yr amod bod eu canghennau cenedlaethol wedi'u gwreiddio'n gadarn yn y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Mae pryder gwirioneddol y caiff corff llais y dinesydd sydd wedi ei wladoli a'i redeg gan y Llywodraeth, ei staffio gan bobl sy'n amharod i siarad yn ddi-flewyn ar dafod, yn amharod i sefyll dros hawliau pobl, yn amharod i wyro oddi wrth broses y Llywodraeth, yn amharod i herio byrddau iechyd, yn amharod i drin a thrafod pryderon lleol. Gweinidog, rwy'n gofyn, felly: a fyddech chi'n fodlon diwygio'r Bil gyda hynny mewn golwg? Fe glywais yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud. Rwy'n falch iawn o rai o'r sylwadau a wnaethoch chi. Fe wnes i dderbyn eich pwynt, oherwydd bydd yn gorff ehangach, bydd mwy i bobl dynnu ohono, ond, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, nid yw'n ddigon i fod yn annibynnol. Mae angen i bawb weld eich bod yn annibynnol.
Dirprwy Lywydd, mae gennyf un pwynt cyflym pwysig iawn i'w wneud—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwybod fod amser wedi mynd yn drech na mi—rwyf o'r farn na ddylai'r Bil fod yn fud a pheidio â sôn am y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cefnogi ac yn amddiffyn y rhai sy'n codi pryderon gwirioneddol. Rwyf wedi cyfarfod â gweithwyr proffesiynol o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol o bob cwr o Gymru sydd wedi bod yn dyst i arferion gwael, arferion drwg, arferion amhriodol, ac wedi adrodd am hynny a herio'r fath arferion, ond ni wrandawyd ar lawer o'r gweithwyr gofal iechyd hynny. Yn hytrach, cawsant yn aml eu beio. Cawsant eu herlid, eu difrïo, eu gwthio i'r cyrion ac maen nhw wedi teimlo y llesteiriwyd eu gyrfaoedd. Mae gormod ohonynt yn dioddef llawer gormod o straen am geisio gwneud y peth iawn. Dechreuais godi'r pryder hwn tua wyth mlynedd yn ôl, a hoffwn ofyn i chi, Gweinidog, a dweud wrthych chi, os ydych chi o ddifrif eisiau gweld dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd yn trawsnewid y sefyllfa yn ein GIG, rhaid ichi roi sylw'n llwyr i'r mater hwn ar wyneb y Bil. Os ydych chi'n mynd i arwain newid diwylliant, sef yr hyn yr ydych chi'n dweud eich bod eisiau ei wneud, mae'n rhaid i ni amddiffyn mewn difrif calon y rhai hynny sy'n datgelu pryderon a rhoi'r llais iddyn nhw a sicrhau eu bod yn gwybod y gallan nhw leisio eu pryderon. Rydym ni wedi gweld cynifer o achosion lle cawsant eu hanwybyddu. Diolch.
Codaf i gymryd rhan yn y ddadl hon mewn cyfyng gyngor, braidd. Mae llawer i'w ganmol yn yr hyn y mae'r Bil hwn yn ceisio ei gyflawni: cryfhau llais y dinesydd, cyflwyno dyletswydd gonestrwydd, dyletswydd ansawdd. Ond fel y mae adroddiad y pwyllgor yn tynnu sylw ato, ac fel y mae adroddiad arall y pwyllgor yn cyfeirio ato, ac mae'n glir mewn tystiolaeth gan randdeiliaid, fel y mae wedi'i ddrafftio mewn gwirionedd ar hyn o bryd, mae'n gyfle a gollwyd. Mae yna berygl, rwy'n siŵr, yn anfwriadol, y bydd yn gwanhau llais y dinesydd drwy ganoli corff sy'n cyflenwi'n lleol ar hyn o bryd, drwy ddileu neu gyfyngu'n afresymol ar yr hawl i gael mynediad i leoliadau y gwyddom sydd wedi bod yn allweddol. Mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio at Tawel Fan. Pobl yn gallu dod i mewn i weld beth sy'n digwydd heb orfod gofyn—mae hynny'n gwbl hanfodol, a thrwy leihau'r annibyniaeth â'r cyngor iechyd cymuned presennol. Os caiff y bobl hyn eu penodi gan y Llywodraeth, fel y dywedodd Angela Burns, mae perygl, hyd yn oed os ydynt yn wirioneddol annibynnol, na chânt efallai eu gweld felly, ac efallai na fydd pobl yn ymddiried ynddynt.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. A dim ond i bwysleisio cais rhesymol, os mynnwch chi, y bwrdd iechyd cymuned yn y gogledd, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn dadlau yn erbyn peidio â'i ddileu fel endid ynddo'i hun. Yr hyn y maen nhw'n awyddus i'w wneud yw diogelu'r swyddogaethau y mae'n eu darparu mor dda, mor annibynnol, a'i allu i ymateb, heb rybudd, i bryderon ar lawr gwlad yn y gogledd.
Mae Rhun ap Iorwerth yn llygad ei le yn yr hyn y mae'n ei ddweud, a dyma, wrth gwrs, pam mae'r pwyllgor yn argymell y dylai fod, ar wyneb y Bil, yn nodi sut y bydd y sefydliadau hyn yn gweithredu'n rhanbarthol. Nid wyf yn credu bod neb yn y pwyllgor yn dadlau na ddylai fod newid, ond nid ydym ni eisiau taflu'r llo a chadw'r brych. Ac er nad dyna yw bwriad y Gweinidog o bosibl, dyna'r risg fel y mae pethau ar hyn o bryd.
Rwy'n cydnabod bod y Gweinidog wedi dweud y bydd yn cytuno â rhai o'r gwelliannau y mae'r pwyllgor yn eu hargymell, ac rwy'n croesawu hynny. Ond yr hyn nad yw wedi'i wneud o gwbl yw mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn adran 7 o adroddiad y pwyllgor am yr holl bethau y gellid bod wedi'u cynnwys yn y ddeddfwriaeth hon ond na wnaed. Mae Angela Burns eisoes wedi cyfeirio at yr hyn y mae chwythwyr chwiban yn ei wynebu yn rhy aml yn ein GIG. Mae angen cryfhau, prosesau chwythu'r chwiban rhyngwladol gwirioneddol annibynnol sydd yn gyfan gwbl y tu allan i'r cyrff iechyd y mae pobl yn gweithio ynddynt, ac nid yw'r Bil hwn yn cynnig hynny inni. Unwaith eto, mae rhai o'r pethau hyn yn cael sylw yma. Un arolygiaeth iechyd a gofal cymdeithasol annibynnol, wedi'i chryfhau—gellid bod wedi cynnwys hynny yn y ddeddfwriaeth hon. Gallem fod wedi cynnwys cysoni gweithdrefnau cwynion iechyd a gofal cymdeithasol. Gallem fod wedi edrych ar reoleiddio rheolwyr anghlinigol y GIG a chodau ymddygiad a hyfforddiant diwygiedig ar gyfer datblygu'r gweithlu rheoli hwnnw. Ac ni wnaed unrhyw agwedd ar hynny.
Pan drafododd y pwyllgor hyn a dod i'w gasgliadau y dylem ni argymell y dylid caniatáu i'r Bil hwn fynd yn ei flaen, cytunais â'r argymhelliad hwnnw. Ac, unwaith eto, fel yr wyf wedi'i ddweud, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn rhai o'n pryderon. Ond rwyf wedi myfyrio ar y cytundeb hwnnw. Rwyf wedi trafod eto gyda rhanddeiliaid, ac rwyf wedi dod i'r casgliad, ac mae fy ngrŵp wedi dod i'r casgliad, bod y Bil hwn yn ormod o lanast a bod gormod wedi'i hepgor i ganiatáu iddo fynd yn ei flaen fel y mae. Byddwn yn ymatal ynghylch a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen; ni fyddwn yn ei wrthwynebu. Ond byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ystyried tynnu'r Bil yn ôl, gan ystyried yr holl sylwadau y mae'r rhanddeiliaid wedi'u gwneud, gan gymryd i ystyriaeth y dystiolaeth gan y gwahanol bwyllgorau, a chyflwyno rhywbeth llawer mwy cynhwysfawr, llawer mwy cynhwysol. Nawr, pe bai'n gwneud hynny, gallaf roi sicrwydd iddo y byddai Plaid Cymru yn ei gefnogi yn hynny o beth ac yn gweithio gydag ef i geisio mynd i'r afael â'r bylchau a welwn ni yn y ddeddfwriaeth bresennol, oherwydd credaf fod rhywfaint o gonsensws ynghylch cefnogi'r hyn y mae deddfwriaeth y Gweinidog yn ceisio ei gyflawni, ond nid yw'n gwneud hynny.
Nawr, os na fydd y Gweinidog yn tynnu'r Bil yn ôl, ac rwy'n siŵr na fydd, wrth gwrs, byddwn yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r bylchau hyn drwy symud ymlaen gyda diwygiadau i'r ddeddfwriaeth, os na fydd yn ei dynnu'n ôl. Ond nid yw hyn yn ddigon da mewn gwirionedd. Mae'n gyfle sydd wedi'i golli. Gallai hyn fod wedi bod yn arloesol yn rhyngwladol, ac mae rhai pethau da iawn ynddo—mae dyletswydd gonestrwydd yn beth gwirioneddol dda; y ddyletswydd ansawdd, nawr rwy'n ei ddeall. Pan glywais am y peth y tro cyntaf, meddyliais, wel, beth yw hyn i gyd? Ond ar ôl i hynny gael ei egluro gan y Gweinidog a'i swyddogion, gallaf weld gwerth hynny. Ond mae yna gymaint o fylchau. Gallem arwain y byd ar hyn, Dirprwy Lywydd, ac, yn lle hynny, rydym ni'n rhyw hanner gwneud pethau. Nawr, rwy'n credu'n wir nad yw hynny'n ddigon da, ac rwyf hefyd yn pryderu ei fod yn digwydd yn rhy aml—caiff darn annigonol o ddeddfwriaeth ei gyflwyno gan y Llywodraeth hon y mae wedyn angen ei ddiwygio'n helaeth, ac nid yw hynny'n arfer seneddol da.
Felly, fel y dywedaf, os na fydd y Gweinidog yn tynnu'r ddeddfwriaeth yn ôl ac yn dechrau eto, a chredwn y dylai wneud hynny, byddwn yn ceisio ei diwygio. Ond, mewn gwirionedd, mae'r Senedd hon, ein Senedd ni, staff ein gwasanaethau iechyd a gofal, ac, yn bwysicach, cleifion a dinasyddion Cymru, yn haeddu gwell na hyn. Gallwn wneud yn well na hyn.
Rwyf wedi gwrando gyda diddordeb ar amheuon Angela Burns a Helen Mary Jones, a gobeithiaf y gallwn ni ddatrys unrhyw anghysonderau a materion fel Cynulliad cyfan, gan ei bod hi'n ymddangos i mi fod iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth y mae'n rhaid inni geisio cytuno yn ei gylch, oherwydd eu bod yn agweddau pwysig iawn, ac mae'n gwestiwn o wneud pethau'n iawn. Mae'n hawdd iawn rhoi dyletswydd ansawdd fel geiriau ar y dudalen, ond rwy'n credu mai'r brif elfen yw sut allwn ni sicrhau'r ansawdd hwnnw.
O ran y ddyletswydd gonestrwydd, fy marn i yw, oni chaiff y system gwynion ei hintegreiddio'n llawn yn y cynlluniau i wella datblygiad proffesiynol yn barhaus, yna mae hi'n hollol anaddas i'w diben, ac rydym ni wedi clywed storïau arswydus dirifedi ym mhob cwr o'r DU lle na ddigwyddodd hynny.
Un o'r pethau pwysicaf am y cynghorau iechyd cymuned presennol yw eu hawl i archwilio, eu hawl i ymweld â safle, safleoedd iechyd, ac i weld beth yw profiad y claf yno. Felly, mae'n rhaid i beth bynnag a ddaw yn lle'r cyngor iechyd cymuned fod â'r gallu hwnnw i sefyll dros y dinesydd, ac fe allwn ni i gyd gytuno bod angen newid diwylliant, gan fod gormod ohonom ni'n ymdrin â materion yn ein hetholaethau lle nad yw pobl wedi cael gwybod yn iawn am yr hyn fydd yn digwydd iddyn nhw.
Nid wyf ar unrhyw un o'r pwyllgorau lle mae Cadeiryddion y pwyllgorau wedi siarad, felly rwyf eisiau holi sut mae'r Bil hwn yn grymuso rhanddeiliaid i ail-lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yn well, yn unol â gofal iechyd darbodus, yn amlwg, oherwydd, fel arall, byddwn yn parhau i gael pwll diwaelod o'n gwasanaethau iechyd. Mae'n dda iawn darllen yn y memorandwm esboniadol bod yn rhaid i ni gael system
'lle dylai gofal a chymorth ganolbwyntio ar y person a bod yn ddi-dor; heb rwystrau artiffisial' a
'lle nad yn unig ddiben cyrff GIG yw rheoli neu ddarparu gofal, ond ei wella bob dydd. ac mae angen inni sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed yn glir.
Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gennyf ddiddordeb arbennig yn Buurtzorg fel ffordd newydd radical o weithio i ddiwallu anghenion dinasyddion yn well. Nid wyf yn gwybod os ydych i gyd wedi gweld yr adroddiad a gyhoeddwyd yn un o'r papurau newydd cenedlaethol yr wythnos diwethaf am y ffordd y mae Buurtzorg wedi'i gymhwyso i wasanaethau cymdeithasol plant yn Lloegr, a lle bu gwelliant dramatig iawn o ran faint o amser y gall gweithwyr cymdeithasol ei dreulio gyda theuluoedd—felly, yn hytrach na bod ychydig yn fwy nag 20 y cant o'u hamser, yn hytrach na llenwi ffurflenni a thasgau biwrocrataidd eraill, maen nhw bellach yn gallu gwario o leiaf 60 y cant o'u hamser gyda theuluoedd, ac mae'n rhaid bod hynny'n gwella'r canlyniadau i'r teuluoedd hynny. Felly, mewn cysylltiad ag anghenion gofal iechyd ac anghenion gofal cymdeithasol yr henoed, ymddengys i mi fod hyn yn ffordd hollbwysig o edrych ymhellach ar sut yr ydym ni'n diwallu anghenion ein henoed yn well tuag at ddiwedd eu hoes.
Felly, rwyf eisiau holi sut mae'r bil hwn yn mynd i wella cyfleodd i lais y dinesydd gael ei glywed, a sut y bydd yn galluogi gweithwyr proffesiynol i allu newid y ffordd y maen nhw'n gweithio heb orfod ymladd â biwrocratiaid. Beth mae'r tri chynllun treialu Buurtzorg yn ystod y 12 mis diwethaf yn ei ddweud wrthym ni am eu gallu i sicrhau bod llais y dinesydd yn llawer mwy canolog? Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf, sy'n un o'r tri chynllun treialu Buurtzorg, yn dweud bod yr arbrawf yn mynd rhagddo'n dda. Mae'n rhy gynnar i ddweud, ond yr arwyddion calonogol yw y bydd hyn yn ein galluogi i newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio gofal heb ei drefnu. Mae cleifion a nyrsys yn dweud eu bod yn teimlo bod natur y sgwrs y maen nhw'n ei chael yn newid, a bod y sgwrs bellach yn canolbwyntio ar yr hyn y mae'r claf eisiau ei gyflawni a sut y gall y claf a'r nyrs gydweithio i gyflawni hynny. Mae'r sgyrsiau'n dod yn fwy cydgynhyrchiol ac mae perthnasoedd yn cael eu hailstrwythuro.
Felly, mae honno'n neges gadarnhaol iawn sy'n dod o Gwm Taf, ond byddai'n dda iawn gwybod beth sy'n digwydd yn y ddau gynllun treialu arall. Beth yw'r potensial i'r ddau gynllun treialu arall nodi—ar gyfer boddhad swydd well a gallu gweithwyr proffesiynol i fynd ati o'u pen a'u pastwn eu hunain i ddiwallu anghenion cleifion yn well? Sut mae'r Bil hwn yn dileu'r rhwystrau rhag cyflwyno'r ffordd hon o weithio—er enghraifft, trosglwyddo data o un asiantaeth i'r llall, fel nad yw cleifion yn gorfod adrodd eu hanes drosodd a throsodd? Ac a yw'r Bil yn dyrannu digon o adnoddau ar gyfer y datblygiad proffesiynol parhaus sydd ei angen ar gyfer timau sy'n rheoli eu hunain? A yw uwch reolwyr yn mynd i lacio tipyn ar y ffrwyn i alluogi hynny ddigwydd?
Bydd fy mhlaid yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), gan fod angen dirfawr am agweddau ar y ddeddfwriaeth arfaethedig. Fodd bynnag, bydd angen llawer o ddiwygio ar y Bil cyn iddo fod yn gwbl dderbyniol. Mae angen dyletswyddau gonestrwydd ac ansawdd, ac mae'n hen bryd eu cael. Bydd y dyletswyddau hyn yn meithrin diwylliant gonest o fod yn agored ac yn dryloyw ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rhaid i chwythwyr chwiban gael yr hyder i wneud hynny pan na fydd pethau fel y dylent fod—ym mha ffordd arall allwn ni wella neu gywiro camgymeriadau? Rwyf wedi siarad droeon am yr angen am ddiwylliant o beidio â beio ym maes iechyd, diwylliant lle'r ydym ni'n derbyn y gall camgymeriadau ddigwydd, ac, yn hytrach na'u cuddio, ein bod yn dysgu oddi wrthynt.
Gall dyletswydd ansawdd helpu i sicrhau gwelliannau parhaus yn ansawdd y gofal, ym maes iechyd ac ym maes gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, fel y'i drafftiwyd, mae llawer o ansicrwydd ynghylch sut y bydd y ddyletswydd yn gweithio'n ymarferol. Mae Cydffederasiwn y GIG wedi gofyn am fwy o eglurder ar ystyr 'ansawdd', nid yn unig ym maes iechyd ond hefyd ym maes gofal cymdeithasol. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi beirniadu'r pwyslais y mae'r Bil yn ei roi ar berfformiad y GIG. Mae rheolwyr y GIG wedi datgan bod angen eglurhad pellach ynghylch dyletswydd gonestrwydd.
Bu cryn feirniadu ar y Bil. Mae'n syniad da, ond mae diffyg cyfeiriad iddo. Mae'r pwyllgor iechyd wedi gofyn i'r Llywodraeth ddiwygio'u Bil yn sylweddol er mwyn rhoi mwy o eglurder a mwy o rym i'r dyletswyddau. Os gall Llywodraeth Cymru gryfhau'r agwedd hon ar y Bil, yna bydd fy mhlaid yn ei gefnogi. Fodd bynnag, mae un rhan o'r Bil na allaf ei chefnogi fel y mae, sef y penderfyniad i ddiddymu'r cynghorau iechyd cymuned a rhoi corff newydd llais y dinesydd yn eu lle. Hoffwn wybod a fydd gan y corff hwn gynrychiolaeth leol, oherwydd mae hyn yn eithriadol o bwysig, ac mae materion lleol yn bwysig, oherwydd yr unig beth y gall tryloywder ei wneud yw helpu i sicrhau'r arferion gorau. Rwy'n cefnogi'n llwyr yr ymdrechion i gryfhau llais y dinesydd ac yn derbyn yn llwyr fod y cynghorau iechyd cymuned ymhell o fod yn berffaith. Fodd bynnag, teimlaf fod angen eu diwygio ac nid eu disodli. Gellid bod wedi diwygio'r cynghorau iechyd cymuned i'w galluogi i weithio ym maes gofal cymdeithasol yn ogystal â'r GIG. Fel y mae ar hyn o bryd, bydd y corff newydd yn colli cynrychiolaeth leol, ac, yn bwysicaf oll, yn colli'r hawl i gynnal ymweliadau dirybudd a mynnu ymateb gan gyrff cyhoeddus. Gyda'r cyfansoddiad arfaethedig, bydd llais y dinesydd yn ddim ond sibrwd ac ni fydd ganddo unrhyw rym o gwbl i gefnogi hynny.
Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn argymhellion y pwyllgor iechyd ac yn cyflwyno gwelliannau sylweddol yng Nghyfnod 2. Mae gennym ni gyfle i sicrhau gwelliannau gwirioneddol i ansawdd iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae'r Bil hwn yn gychwyn da, ond mae gennym ni ffordd bell i fynd cyn y gallwn ni gyflwyno darn o ddeddfwriaeth sy'n wirioneddol drawsnewidiol. Rwy'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob plaid yn y Siambr hon i wella'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon. Diolch yn fawr.
Diolch. A gaf i alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, ond, yn fwy na hynny, fel y dywedaf, at y broses graffu barhaus dros gyfnod o amser.
Dylwn ddechrau, efallai, gyda'r sylwadau a wnaed gan lefarydd Plaid Cymru wrth ddweud bod eu grŵp cyfan wedi newid ei feddwl ar ôl cael adroddiad y pwyllgor. Mae hynny'n amlwg yn siomedig, ond rydych chi'n cael newid eich meddwl a chymryd safbwynt gwahanol a bwrw pleidlais yn y ffordd honno. Nid wyf yn cytuno â'i sylwadau bod y Bil yn annigonol neu'n rhyw hanner gyflawni pethau—rwy'n credu y bydd hyn yn gam sylweddol a materol ymlaen i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
O ran rhai o'r pwyntiau a wnaed gan nifer o Aelodau am gynghorau iechyd cymuned, dylwn nodi nad wyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol i fudiad y cynghorau iechyd cymuned siarad am un cyngor iechyd cymuned y dylid ei achub. Mae hynny bron fel lladd pawb arall â phluen, ac mae'n werth nodi hefyd—[Torri ar draws.] Mae'n werth nodi hefyd bod y cynghorau iechyd cymuned presennol dan adain Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae'r awgrym bod eu symud i sefyllfa lle mae'r bwrdd cyfan yn mynd drwy broses penodiadau cyhoeddus annibynnol, yn lleihau eu hannibyniaeth rywsut, yn un nad yw, yn fy marn i, yn gydnaws â'r dystiolaeth.
Byddaf yn derbyn yr ymyriad, ond bydd angen iddo fod yn fyr.
Bydd. Dim ond eisiau cyfeirio yr oeddwn i at Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, oherwydd fe'i gwerthfawrogir yn fawr, ac rwy'n credu mai'r broblem yn ein mudiad cyngor iechyd cymuned, os caf ei alw'n broblem, yw bod anghysondeb rhwng ansawdd a manylder y gwaith mewn rhai cynghorau iechyd cymuned o'u cymharu ag eraill. Felly, er enghraifft, mae'r gwerth a briodolir i Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn ganlyniad i'r gwaith rhagorol y mae'n ei wneud ar eiriolaeth, ar siarad dros gleifion, a bod yn gorff gwarchod cleifion effeithiol iawn. Yn ystod fy mlynyddoedd yn Weinidog iechyd yr wrthblaid—rwy'n gwybod y bydd eraill yn y Siambr hon yn cytuno—gwelais fod anghysondeb mawr yn y ffordd roedd cynghorau iechyd cymuned yn ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, a'r ffordd yr oeddent yn eu cefnogi wrth iddynt fynegi eu pryderon. A, phan fo gennych chi fodel da, rydych chi eisiau i'r model hwnnw fod ar gael i bawb—does arnoch chi ddim eisiau ei ddileu.
Wel, rwy'n credu bod hynny'n atgyfnerthu dau bwynt. Y cyntaf yw nad wyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol ceisio dweud bod y fath beth â chyngor iechyd cymuned da ac eraill nad ydynt cystal. Rwy'n credu bod hynny'n broblem. Nid yw'n farn y mae bwrdd cenedlaethol y cynghorau iechyd cymuned eu hunain yn ei harddel.
A'r ail, wrth gwrs, yw, wrth sôn am fod eisiau gwahanol ffyrdd o weithio, fod pwynt ynghylch a ydych chi eisiau model cenedlaethol, pryd yr ydych chi'n dweud bod arnoch chi eisiau rhywfaint o gysondeb yn genedlaethol gyda statws lleol, neu pa un a ydych chi eisiau ffyrdd gwahanol o weithio ar draws y rhanbarth ai peidio. Y ffordd yr ydym ni'n mynd ati mewn gwirionedd yw dweud ein bod eisiau model cenedlaethol sy'n gyson, gyda statws lleol a chynrychiolaeth leol. Rwyf wedi dweud y byddaf yn cyflwyno gwelliannau i egluro hynny. Ac, unwaith eto, i danlinellu annibyniaeth y corff newydd, bydd yn llawer mwy annibynnol na'r cynghorau iechyd cymuned presennol, ac nid wyf yn credu y bydd yn ynysig.
Cadarnhaf, yn fyr, o ran pwynt Angela Burns, y bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad—cynhelir ymgynghoriad ac fe gaiff ei gyhoeddi, yn ogystal â'r mater arferol o weithio, ar y canllawiau statudol yr wyf wedi'u nodi.
O ran eich pwynt am ddiogelu chwythwr chwiban, nid wyf yn credu mai wyneb y Bil yw'r lle i wneud hynny, mewn gwirionedd. Rydych chi'n sôn am hawliau cyflogaeth yn rhywfaint o'r newid diwylliannol. Mae'n bwysig, fodd bynnag, fod y dyletswyddau o ran ansawdd a gonestrwydd yn ein symud i sefyllfa pryd y bydd pobl yn fwy tebygol o godi pryderon ac y bydd ymateb y sefydliad mewn gwirionedd yn gwireddu'r hawliau presennol sydd i fod gan bobl. Ac rwy'n dweud hynny fel rhywun a arferai fod yn gyfreithiwr cyflogaeth ac a oedd yn ymdrin â realiti pobl a chwythodd y chwiban a'r ffordd yr ymdriniwyd â nhw yn eu gweithle, yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Rwy'n gobeithio imi ddangos yn yr agoriad fy mod wedi gwrando ar yr hyn y mae'r pwyllgorau wedi'i ddweud, ac mae gennyf ddiddordeb gwirioneddol mewn datblygu'r darn gorau posibl o ddeddfwriaeth. Wrth gwrs, efallai nad yw pobl eraill yn cytuno, ac mae hynny'n rhan o ddiben y broses graffu a'r pleidleisiau a fwriwyd yn y fan yma. Ond rwyf yn gobeithio y bydd gennym ni'r darn gorau posibl o ddeddfwriaeth, yr ymateb i'r argymhellion a'r dull gweithredu yr wyf wedi'i amlinellu ar gyfer canllawiau statudol, ac edrychaf ymlaen at barhau â'r ddadl hon yng Nghyfnod 2, a gobeithiaf y gallwn ni gael darlun cywir, modern a deddfwriaeth addas i'r diben ar y llyfr statud yma yng Nghymru.
Diolch. Y cynnig yw cytuno ar y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.