– Senedd Cymru am 3:28 pm ar 27 Tachwedd 2019.
Eitem 5 ar yr agenda yw dadl ar Gyfnod 4 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Llywydd i wneud y cynnig—Lywydd.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gyflwyno'r cynnig yma heddiw i gymeradwyo'n derfynol y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), dwi eisiau cymryd y cyfle i gloriannu yn fyr hanes y Mesur yma a'i gynnwys.
Mae i'r Bil sawl agwedd: ailenwi y Cynulliad yn 'Senedd', newid yr etholfraint, newid y categorïau o bobol sy'n anghymwys i sefyll etholiad i'r Cynulliad neu i wasanaethu fel Aelod. Heddiw, byddwn yn pleidleisio ar Fil sydd angen o leiaf 40 pleidlais i basio. Bil cyfansoddiadol yw hwn, a'r pwerau i ni greu deddfwriaeth o'r math yma ond wedi eu datganoli i'r Cynulliad yma yn 2017. Dyma un o’r ychydig achlysuron yn ein Senedd pan fo angen uwchfwyafrif i basio deddfwriaeth. Yr achlysur diwethaf oedd pleidlais ar refferendwm 2011 ar bwerau deddfu cynradd. Dan Reol Sefydlog 6.21, bydd gan y Dirprwy Lywydd a minnau’r cyfle i bleidleisio ar y Bil yma, ac mi fyddaf i a'r Dirprwy Lywydd, mae'n debyg, yn defnyddio ein hawl i bleidleisio y prynhawn yma.
Heddiw, felly, mi fyddwn yn pleidleisio ar roi'r bleidlais i bobol ifanc 16 ac 17 yn etholiadau'r Senedd yma yn 2021. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 1969 a ostyngodd yr oedran pleidleisio o 21 i 18, ac felly mae’r ddarpariaeth i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 oed yn un hir ddisgwyliedig i rai. Ym Mai 2013, pleidleisiodd mwyafrif clir o Aelodau’r Senedd yma o blaid gostwng yr oedran pleidleisio unwaith eto. Mi gymerodd 10,000 o bobl ifanc ran mewn ymgynghoriad gan y Comisiwn yn 2014 ar yr oedran pleidleisio. Mae'r rhan fwyaf o'r bobol ifanc hynny yng nghanol eu 20au erbyn heddiw. Dyma gyfle i wireddu eu dymuniad nhw bryd hynny, ac i wneud y bleidlais yn realiti i bobl ifanc heddiw.
Fe ddaeth yr argymhelliad i newid y ddeddfwriaeth ar anghymwyso o waith y pwyllgor cyfansoddiadol yn y pedwerydd Cynulliad, ac fe ddaeth y dymuniad i ailenwi y Cynulliad i adlewyrchu ein cyfrifoldebau seneddol gan bleidlais ganddom ni yma yn 2016. Ffrwyth y gwaith a'r penderfyniadau yma sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth yma heddiw.
Diolch i banel arbenigol Laura McAllister am y gwaith a'r argymhelliad ar bleidleisio 16 ac 17 hefyd, a diolch hefyd i bwyllgorau'r Cynulliad yma am waith sgrwtini manwl i ddylanwadu ar y Bil sydd ger ein bron heddiw. Gair o ddiolch personol a phenodol wrthyf i i'r tîm staff arbennig sydd wedi cyd-weithio gyda fi ar ddatblygiad y Mesur yma. Gallwn fod yn hyderus fod gan y Comisiwn bobl o'r safon uchaf posib yn rhoi cefnogaeth i ni fel Aelodau ar ddeddfwriaeth, a dwi'n hynod o ddiolchgar i'r tîm brwd a phroffesiynol o staff a weithiodd gyda fi ar y ddeddfwriaeth yma. Hefyd, yn yr un modd, i'r staff o fewn y Llywodraeth a gyfrannodd at agweddau o'r Mesur hefyd; diolch iddyn nhw yn yr yn modd.
Wrth gwrs, mae'r Bil yr ydym heddiw, ym mis Tachwedd, yn pleidleisio arno yn wahanol i'r Bil a gyflwynais i ym mis Chwefror eleni, mewn amryw o ffyrdd. Yn gyntaf, enw swyddogol yn y Gymraeg a’r Saesneg fydd i'r Senedd—Senedd Cymru a Welsh Parliament. Hefyd, bydd yr etholfraint yn cynnwys gwladolion tramor cymwys. Bydd cynghorwyr yn anghymwys i fod yn Aelodau o’r Senedd, a bydd y Comisiwn Etholiadol yn cael ei gyllido gan ac yn atebol i’r Cynulliad am etholiadau Cymreig.
Gwn nad yw pob grŵp gwleidyddol yn fodlon gyda phob un o’r elfennau yma. Grŵp Plaid Cymru a rhai Aelodau eraill, gan gynnwys minnau, fel mae'n digwydd, yn anfodlon gyda'r newid i enw dwyieithog; y grŵp Torïaid yn fodlon gyda'r newid hwnnw, ond yn anfodlon gyda chyflwyno pleidleisiau i wladolion tramor cymwys. Mae Bil yn newid dros gyfnod sgrwtini a byddwn yn gofyn i Aelodau, wrth bleidleisio, i gadw mewn cof y cyfanwaith yr ydym yn creu heddiw. Bil sy'n rhoi enw ar ein deddfwrfa sy’n adlewyrchiad gwirioneddol o’i statws cyfansoddiadol, ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o gyfrifoldebau’r Senedd. Bil hefyd sy’n creu Senedd sy’n fwy cynhwysol, amrywiol ac effeithiol, ac a fydd yn cryfhau ein democratiaeth ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'n wir fod angen mwy o newidiadau ar ein Senedd, a bydd hynny angen deddfwriaeth eto yn y dyfodol agos gobeithio. Ond, am heddiw, dewch i ni gymryd y cam pwysig yma i bleidleisio dros gryfhau sail ein democratiaeth seneddol yma yng Nghymru.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn siomedig iawn nad wyf yn gallu pleidleisio dros y Bil, ac yn wir, yn siomedig i fod yn pleidleisio yn ei erbyn? A'r rheswm am hynny yw oherwydd bod pethau sydd i'w croesawu'n fawr yn y Bil, fel yr amlinellodd y Llywydd. Er bod gennym bleidlais rydd ar fater estyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed, mae'n rhywbeth rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w gefnogi ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n credu bod ei amser wedi dod ac y byddai'n ailffurfio llawer o'n trafodaeth wleidyddol pe bai gennym bobl ifanc 16 ac 17 oed ar y gofrestr etholiadol. Ac mae'n wirioneddol ddinistriol i mi na fyddaf yn cael cyfle, am resymau y byddaf yn eu hamlinellu yn y man, i bleidleisio dros y cam gwirioneddol bwerus hwnnw i ymestyn yr etholfraint.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig ein bod yn cydnabod y sefydliad hwn fel Senedd, ac fel 'Parliament' yn y Saesneg. Rwy'n credu bod hwn yn gam mawr ymlaen. Fel y dywedodd—wel, mae llawer o bobl yn honni eu bod wedi dweud hyn; efallai mai Ron Davies a wnaeth—proses yw datganoli, nid digwyddiad. Ond rydym wedi cael rhyw fath o gonfensiwn cyfansoddiadol ers bron i 20 mlynedd i geisio canfod pa fath o ddatganoli roeddem ei eisiau mewn gwirionedd. A dechreuasom fel rhyw fath o gyngor sir ar stiltiau—er mae'n rhaid i mi ddweud bod ein Llywydd ar y pryd bob amser wedi gwneud yn siŵr ein bod yn ymddwyn yn llawer mwy fel Cynulliad go iawn. Ond rydym wedi datblygu i fod yn sefydliad clasurol, buaswn yn ei ddweud, sy'n dilyn patrwm San Steffan, ac mae'r enw Senedd, neu 'Parliament', yn gydnabyddiaeth briodol o hynny.
Rwyf hefyd yn croesawu'r Bil am ei fod yn egluro ac yn symleiddio'r rheolau mewn perthynas ag anghymhwyso. Ac efallai y bydd yr Aelodau'n cofio imi gadeirio'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn y pedwerydd Cynulliad, pan ddrafftiwyd yr adroddiad hwnnw.
Fodd bynnag, o ran cyflwyno'r hawl i wladolion tramor bleidleisio, mae'r Bil hwn, yn ein barn ni, yn anghynaliadwy. Mae'n newid mawr i Fil Comisiwn nad oedd y Comisiwn ei eisiau. Ac rwy'n atgoffa pobl nad yw'r syniad newydd hwn yn arfer cyffredin yn unman arall, hyd y gwn i, ac mae hefyd yn cyflwyno'r hawl i sefyll etholiad i'r sefydliad hwn, a dal swydd ynddo mae'n debyg. Nid yw wedi bod yn destun craffu o gwbl, ac fe'i cyflwynwyd gan y Llywodraeth heb waith craffu yng Nghyfnod 2. Mae'n beth syfrdanol i'w wneud mewn Bil cyfansoddiadol sy'n galw, fel y dywedodd y Llywydd, am uwchfwyafrif. Mae'n eithaf sarhaus, a bod yn onest, i'r rheini sydd â phryderon diffuant ynghylch y diffyg craffu.
Felly, ni fydd y grŵp Ceidwadol, wrth bleidleisio yn erbyn y Bil hwn, yn pleidleisio yn erbyn Bil Comisiwn blaenorol, ond yn hytrach Bil sydd, yn anffodus, wedi cael ei herwgipio gan Lywodraeth Cymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Lywydd, credaf eich bod wedi cael eich gwasanaethu'n hynod wael gan y Llywodraeth ar yr achlysur hwn.
Mae'r bleidlais hon heddiw yn garreg filltir bwysig. Ugain mlynedd ar ôl cael ei sefydlu fel Cynulliad, prin iawn ei bwerau, rydyn ni'n pasio Deddf heddiw, gobeithio, sydd yn nodi yn ffurfiol flodeuo y Cynulliad hwnnw i mewn i Senedd genedlaethol i'n gwlad, ond sydd hefyd yn gwahodd mwy o'n dinasyddion ni—ein dinasyddion ifanc ni—i fod yn rhan o'r prosesau gwleidyddol a democrataidd sy'n sylfaen i'n bodolaeth ni fel sefydliad.
Drwy ymestyn yr hawl i bleidleisio i'n dinasyddion 16 a 17 oed, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ymddiried yn ein pobl ifanc ni, yn barod i wrando ar eu barn, yn cymryd eu dyheadau nhw o ddifrif. Dwi’n hyderus y gwnaiff o hefyd newid y ffordd rydyn ni’n cyfathrebu ein negeseuon ni efo yr etholwyr yn gyffredinol, ac, yn fwy na hynny, yn newid y ffordd rydyn ni’n llunio polisi ac yn dod i benderfyniadau ynglŷn â deddfwriaeth yn y lle yma.
Mae wedi bod yn destun balchder i fi—a dwi'n siarad ar ran pawb ohonom ni, dwi'n siŵr—o weld y modd mae’n Senedd Ieuenctid newydd sbon ni wedi creu cymaint o argraff yn ei blwyddyn gyntaf. Mae'n brawf, os oedd unrhyw un angen y prawf hwnnw, fod gan ein pobl ifanc ni gyfraniad enfawr i’w wneud tuag at lunio byd a siapio dyfodol sydd, wedi’r cyfan, yn eiddo iddyn nhw.
Mae yna elfennau eraill pwysig i’r Bil, o ran gwaith y Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd, er enghraifft, ynglŷn â chymhwysedd i sefyll mewn etholiadau. Mae o'n Fil sy’n un technegol bwysig yn hynny o beth, wrth i ni gymryd cyfrifoldeb am ein trefniadau etholiadol ein hunain.
Ond gadewch i fi droi at yr elfen arall yna sydd wedi bod yn destun cryn drafod dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, ac elfen sydd wedi fy siomi i a'm cyd-Aelodau ar y meinciau yma'n arw iawn o ran agwedd Llywodraeth Lafur Cymru. Sôn ydw i am enw y sefydliad yma.
Mi egluraf i eto nad am y disgrifiad dwi'n sôn. Mae'r Bil yn disgrifio y Senedd yma—y sefydliad yma—am y tro cyntaf fel 'Senedd' yn Gymraeg, 'Parliament' yn Saesneg. Mae hynny yn bwysig achos mi roddwyd yr enw 'Cynulliad' i ni er mwyn ein gosod ni yn israddol i'r Senedd newydd agorwyd yn yr Alban yr un pryd. Mi ellwch chi ddadlau bod dim ots, nad enw sy'n bwysig ond beth rydyn ni'n ei wneud ac, wrth gwrs, mae hynny'n wir. Ond mae o'n bwysig. Mae canfyddiad yn bwysig ac mae dod yn Senedd, yn Parliament, yn adlewyrchu'r ffaith bod hwn yn sefydliad gwahanol iawn bellach—yn ddeddfwrfa efo pwerau trethu.
Ond cyfle oedd yna yn fan hyn i wneud pwynt arall o egwyddor, i ddweud wrth y byd nad jest unrhyw senedd, nid unrhyw parliament, ydym ni, ond corff neilltuol Cymreig. Y cynnig oedd ein galw ni yn 'Senedd' yn swyddogol fel enw. Enw i bawb, enw Cymraeg ei iaith, dwyieithog yn ei ddefnydd. Fel cymaint o eiriau eraill, fel ein hanthem genedlaethol ni, modd i ddangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ein bod ni'n hyderus yn ein treftadaeth, yn unedig yn ein dyfodol ac yn dathlu'r hyn sy'n ein gwneud ni yn unigryw fel gwlad.
Dwi a Phlaid Cymru'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cydweithio efo nifer o Aelodau Llafur y meinciau cefn ar hyn. Ond dyna ni, colli wnaethom ni wrth i'r Llywodraeth Lafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol bleidleisio fel bloc i atal hynny ac i fynd, yn hytrach, am Senedd Cymru/Welsh Parliament.
Doedd yna ddim rhwystr gyfreithiol. Mae pob cyngor yn cadarnhau hynny. Diffyg hyder oedd o, efallai. Rhyw ofn, tybed? Ofn beth neu bwy, dwi ddim yn siŵr, gan fod arolwg barn wedi dangos yn wythnos y trafod ar Gyfnod 3 fod pobl Cymru yn cefnogi yr enw 'Senedd.' Llywodraeth sy'n barod i anelu am 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ond sydd, hyd yn oed yn y ffordd fach yma, yn amharod i roi un platfform bach i'r Gymraeg er mwyn ei normaleiddio i bawb mewn deddfwriaeth.
Mi ydym ni wedi ennill drwy default, mewn ffordd, achos mewn ateb ysgrifenedig yr wythnos yma mi gadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol eto mai y 'Senedd' fyddai Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio, gan cynnwys mewn peth deddfwriaeth. 'Aelod o'r Senedd' a 'Member of the Senedd' fydd ein teitlau ni fel Aelodau. Felly, Senedd fyddwn ni.
Ie.
Gwyddoch fod gennyf rywfaint o gydymdeimlad—. Diolch am dderbyn yr ymyriad. Gwyddoch fod gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r enw 'Senedd' ac rwy'n credu ei fod yn enw priodol iawn i'r Senedd hon mewn gwirionedd. O ran yr arolwg barn rydych newydd gyfeirio ato, efallai fod y rhan fwyaf o'r bobl a ymatebodd ar y diwrnod hwnnw wedi dweud y byddai'n well ganddynt enw uniaith Gymraeg yn hytrach na Saesneg, ond roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Comisiwn yn dangos canlyniad gwahanol, lle roedd llawer o bobl eisiau enw dwyieithog mewn gwirionedd. Felly, onid yw llawer o hynny'n dibynnu ar y cwestiwn rydych yn ei ofyn?
Fe rannaf y cwestiwn a ofynnwyd, ac roedd yn gwestiwn syml iawn a ofynnwyd a daeth yn ôl gydag ateb syml iawn iddo hefyd. Ac rwy'n digwydd gweld, ar lawer o faterion, fod dewisiadau pobl a barn pobl ar bethau pwysig iawn yn newid dros amser ac felly gorau po fwyaf cyfredol y gallwn fod wrth fesur barn pobl.
Y siom, yn fan hyn, wrth gloi, ydy bod y Llywodraeth wedi penderfynu bod yr enw 'Senedd' yn ddigon da i'w ddefnyddio o ddydd i ddydd, ond ddim yn ddigon da i'w ddefnyddio yn y darn o ddeddfwriaeth sy'n rhoi i'r Senedd ei enw newydd. Gofyn am arweiniad mae Cymru, ac ar y mater hwn mi fethodd y Llywodraeth a'i gynnig o.
Ond yma yn ein Senedd ni y prynhawn yma, mi bleidleisiwn ni dros y Bil yma. Mi bleidleisiwn ni i ddathlu dod yn Senedd yn unrhyw iaith, ac mi bleidleisiwn ni efo balchder dros ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 a 17 oed. Senedd i bawb o bobl Cymru ydy hon a'n pobl ifanc ni fwy na neb ydy dyfodol y Gymru honno.
Roeddwn yn credu bod gwahaniaeth addysgiadol rhwng y ffordd roedd y ddau siaradwr blaenorol yn disgrifio'r hyn roedd y sefydliad yn datblygu i fod. Dywedodd Rhun ein bod yn blodeuo i fod yn Senedd genedlaethol, tra dywedodd David ein bod yn datblygu i fod yn sefydliad clasurol ar batrwm San Steffan. Yn y naill achos neu'r llall, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn galw ein hunain wrth ein henw, a chan fod gennym bellach bwerau deddfu sylfaenol a phwerau i godi trethi, mae'n briodol i'n henw newid o Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Senedd Cymru/Welsh Parliament ac rydym yn cefnogi hynny.
Rydym yn gwrthwynebu'r newidiadau i'r etholfraint. Fodd bynnag, hoffwn ddweud fy mod yn credu bod nifer o'r Aelodau wedi gwneud areithiau grymus ynglŷn â hawl pobl ifanc 16 oed i bleidleisio. Mae fy rhai i'n dal i fod yn agored ar y mater. Nid yw ein grŵp wedi'i argyhoeddi o'r achos dros wneud hynny, ac rydym yn ei wrthwynebu. Fodd bynnag, fe edrychaf gyda diddordeb mawr ar y modd y mae ysgolion yn datblygu, yn y byd addysg, a phriodoldeb y modd yr ymdrinnir â hynny a'r modd y byddwn ni, fel gwleidyddion, yn ymateb o ran ymgyrchu a chanfasio a chynnwys myfyrwyr ysgol o dan 18 oed yn ein prosesau. Rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio'n dda, er nad ydym wedi ein hargyhoeddi.
Rydym hefyd yn gwrthwynebu'r syniad o garcharorion yn pleidleisio. Rwy'n cydnabod bod gan Weinidogion Cymru, a'r Llywydd, gellid dadlau, fel cadeirydd y Comisiwn, fel awdurdodau cyhoeddus, rwymedigaeth gyfreithiol ar wahân mewn perthynas â dyfarniadau gan Lys Hawliau Dynol Ewrop, er nad yw'n un y mae disgwyl i ni, fel Aelodau Cynulliad unigol, bleidleisio drosti.
Serch hynny, yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, fel y mae David Melding wedi'i nodi'n fedrus, yw bod Llywodraeth Cymru yn herwgipio'r Bil Comisiwn hwn i fwrw ymlaen a defnyddio Cymru fel man profi, fel mochyn cwta, ar gyfer polisi a gyhoeddwyd prin ddeufis yn ôl yng nghynhadledd Llafur Cymru i ymestyn rhyddid i symud o leiaf, yn ôl y gynhadledd, i lawer o'r byd a rhoi hawliau pleidleisio fwy neu lai yn uniongyrchol i wladolion tramor. Mae'r gair 'cymhwyso' yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â gwladolion tramor, ond nid wyf yn siŵr bod llawer i rwystro cymhwysedd. Mae'n ymddangos ei fod yn cynnwys yr holl wladolion tramor sy'n breswylwyr, neu'n cael eu hystyried i fod yn breswylwyr, heb gyfnod cymhwyso penodol. Credaf fod hynny'n anghywir. Ac mae'r ffordd y cafodd ei wneud wedi bod yn arbennig o anghywir. Fe'i gwnaed heb ymgynghori. Fe'i gwnaed heb graffu difrifol. Fe'i gwnaed heb sicrhau hawliau cyfatebol i bobl o Gymru bleidleisio yn unrhyw un o'r gwledydd rydym yn rhoi'r hawliau pleidleisio hyn iddynt, ac nid wyf wedi gweld unrhyw enghraifft yn unman arall yn y byd lle mae hyn yn digwydd.
Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r Llywydd o ran y modd y mae'r Bil wedi cael ei herwgipio. Fodd bynnag, mae hi a'i dirprwy bellach yn wynebu'r dewis rhwng caniatáu i Fil a lywiwyd ganddi fethu, neu gefnogi Bil sy'n cynnwys cymalau hynod ymrannol a phleidiol ynghylch caniatáu i wladolion tramor bleidleisio. Rwyf wedi siarad o'r blaen ynglŷn â pha mor bwysig yw hi i'r sawl sydd yn y gadair fod yn ddiduedd; bydd y cofnod pleidleisio heddiw'n dangos a yw'n ddiduedd mewn gwirionedd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth ofyn i Aelodau bleidleisio o blaid y Bil hwn, hoffwn i ddechrau drwy dalu teyrnged i'r Llywydd yn ei rôl fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil am ddod â ni at y pwynt hwn. Bu'r broses o ddatblygu’r Bil yn un hir a chymhleth ac mae arweiniad y Llywydd wedi bod yn gwbl hanfodol ar y daith honno, ac mae ein dyled ni yn fawr iddi am hynny.
Yn ail, hoffwn i bwysleisio, mewn sawl ffordd, fod y Bil hwn yn cynrychioli cyfaddawd rhwng safbwyntiau cryf iawn. I'r perwyl hwnnw, rwyf o'r farn ei fod yn deilwng o gefnogaeth gan Aelodau yn gyffredinol.
Mae gwahanol farn wedi cael ei mynegi ar enw'r sefydliad hwn. Er enghraifft, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth sôn am hynny yn ei gyfraniad. Cafwyd trafodaeth ar hynny yng Nghyfnod 3 yn benodol, ar y testun y gwnaeth e godi. Ond trwy'r Bil hwn, byddwn ni'n rhoi teitl i'r sefydliad sy'n gweddu ar gyfer ei bwerau newydd erbyn hyn, sef pwerau corff seneddol go iawn. Mae'r enw statudol yn adlewyrchu safbwyntiau'r cyhoedd yn ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad cyn i'r Bil gael ei gyflwyno. Wrth gwrs, o ran defnydd bob dydd, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r enw byrrach, Senedd, ac yn gobeithio gweld eraill yn gwneud yr un peth.
Rydym hefyd wedi cael cyfaddawd rhwng safbwyntiau cystadleuol ar sut y dylid ariannu'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â'i waith ar etholiadau datganoledig. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad a'r Comisiwn Etholiadol i sicrhau y gall y trefniadau newydd weithio'n effeithiol, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddant yn dod i rym pan allwn fod yn hyderus o hynny ac mae'r trefniadau newydd hyn yn elfen bwysig o ddatblygiad datganoli.
O ran y darpariaethau sy'n ymwneud ag anghymhwyso, rwy'n talu teyrnged i David Melding a gadeiriodd y pwyllgor yn y Cynulliad diwethaf a argymhellodd ein bod yn gwahaniaethu rhwng anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd ac anghymhwyso rhag bod yn Aelod o'r Senedd. Rydym wedi dilyn yr argymhelliad hwnnw, er, unwaith eto, cafwyd safbwyntiau gwahanol ynglŷn â sut yn union y dylid cymhwyso'r gwahaniaeth hwnnw mewn achosion penodol.
Mae'r Bil hefyd yn cynnig estyn etholfraint y Senedd i bobl ifanc 16 ac 17 oed ac i ddinasyddion tramor cymwys. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o blaid cynnwys pobl ifanc yn y broses ddemocrataidd ers amser, a chredwn fod hynny'n hanfodol er mwyn sicrhau democratiaeth fywiog. Yn yr un modd, credwn y dylai pobl, beth bynnag fo'u dinasyddiaeth, sy'n cyfrannu at fywyd economaidd a diwylliannol ein cymuned allu lleisio barn ar ddyfodol y gymuned honno, a dyna pam y gwnaethom gyflwyno gwelliannau i ymestyn etholfraint y Senedd i ddinasyddion tramor cymwys ac roeddem yn falch fod hynny wedi denu cefnogaeth y tu hwnt—ymhell y tu hwnt—i feinciau Llywodraeth Cymru. Ac yn wir, gan gyfeirio'n ôl at sylwadau a wnaed mewn cyfraniadau cynharach, bydd yr Aelodau'n cofio, pan ofynnwyd iddynt a ddylid caniatáu i holl drigolion cyfreithiol Cymru bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ni waeth beth fo'u cenedligrwydd neu eu dinasyddiaeth, roedd 66 y cant o'r ymatebwyr yn cytuno y dylent. Mae darpariaethau cyfatebol ar yr etholfraint ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Rydym yn credu ei bod yn briodol fod yr etholfraint yr un fath ar gyfer pob etholiad datganoledig yng Nghymru.
Ddirprwy Lywydd, mae hwn yn Fil pwysig. Credaf ei bod yn iawn ein bod yn defnyddio'r pwerau newydd a roddwyd i ni gan Ddeddf Cymru 2017 i wneud ein democratiaeth yn fwy hygyrch a dealladwy, a'n bod yn ei hagor i fwy o bobl yn ein cymdeithas. Dyna y mae'r Bil yn ei gyflawni ac wrth ailadrodd fy niolch i'r Llywydd fel yr Aelod cyfrifol ac ategu ei diolch yn wir i'r holl swyddogion a chyfreithwyr sydd wedi gweithio ar y Bil hwn, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o'i blaid.
Diolch. A gaf fi alw ar y Llywydd yn awr i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd, a dim ond i ymateb i ambell i bwynt a gododd yn ystod y drafodaeth. A gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am y cydweithio ar hyd yr amser ar ddatblygiad y Mesur yma, ac a gaf i hefyd gydnabod y cyfraniad gan David Melding a gan Mark Reckless? Ac er y bydd nifer o Aelodau yn pleidleisio yn erbyn y Bil heddiw, roeddwn i'n falch o glywed yr Aelodau a siaradodd yn cadarnhau bod yna ambell agwedd o fewn y Bil y maen nhw, hyd yn oed wrth bleidleisio yn erbyn, yn eu ffafrio—pleidleisio yn 16 ac 17 mewn ambell i esiampl, a hefyd ein henwi ni fel 'Senedd' o'r diwedd. Felly, diolch ichi am gydnabod hynny a rhoi hynny ar y record.
I'r cofnod hefyd, os caf i jest dweud, dwi ddim o'r farn bod y Bil yma wedi cael ei 'hijack-o' gan y Llywodraeth. Os caf i ddweud, fe bleidleisiodd y Siambr yma o blaid newidiadau i'r Bil yn ystod y cyfnod sgrwtini, felly pleidlais ddemocrataidd oedd hynny, nid hijack, pa un ai ydych chi hapus â'r canlyniad neu beidio.
Ac i gloi, felly, ac yn unol â Rheolau Sefydlog ein Cynulliad ni yma, fe fydd hi'n bleser gen i i ddefnyddio fy hawl brin i bleidleisio y prynhawn yma o blaid cryfhau ein Senedd.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4, a phenderfynodd y Pwyllgor Busnes y bydd y bleidlais ar yr eitem hon yn cael ei chynnal ar unwaith.
Yn unol ag adran 111A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 26.50A, rwyf wedi gwneud datganiad ar faterion sy'n ymwneud â phynciau gwarchodedig a gofyniad y Bil hwn mewn perthynas ag uwchfwyafrif. Gan fod y Bil yn cynnwys materion sy'n ymwneud â phynciau gwarchodedig, mae'r cynnig yn ei gwneud yn ofynnol i sicrhau cefnogaeth isafswm o 40 o Aelodau i'r Bil er mwyn iddo basio. Ac oni bai fod rhywun yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, hoffwn fynd ymlaen yn syth i'r bleidlais. Felly, agor y bleidlais. A chau'r bleidlais. 41 o blaid Cyfnod 4, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, mae'r Bil wedi'i dderbyn.