2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Rhagfyr 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at gwestiynau’r llefarwyr, a llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mantra'r Torïaid ar gyfer yr etholiad hwn yw eu bod yn mynd i gael Brexit wedi'i wneud. Gwyddom fod hynny'n gelwydd, ac yn fwy na hynny, mae'n amlwg bellach fod y bygythiad o 'ddim cytundeb' ar ddiwedd 2020 hyd yn oed yn fwy. Weinidog, a ymgynghorodd Boris Johnson neu Michael Gove â Llywodraeth Cymru cyn dweud wrth y wasg nad oes ganddynt unrhyw fwriad i ymestyn y cyfnod pontio?
Nid wyf yn ymwybodol fod hynny wedi digwydd, a chredaf y bydd hi'n gwybod mai un o'n pryderon mwyaf ynghylch telerau'r cytundeb a gyflwynodd Prif Weinidog y DU i'r Senedd—a gwn ei bod yn rhannu'r pryder hwnnw—yw'r ffaith, fel y dywedodd yn ei chwestiwn, nad oes unrhyw obaith o gwbl mewn gwirionedd y bydd trefniadau y byddem yn eu hystyried yn dderbyniol mewn unrhyw fodd yng nghyd-destun gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu rhoi ar waith erbyn diwedd y cyfnod pontio.
Ie, sefyllfa druenus iawn yn wir. Weinidog, fe fyddwch yn gwybod y bydd ein Senedd, y prynhawn yma, yn trafod cynnig Plaid Cymru ar breifateiddio'r GIG. Yng ngwelliannau eich Llywodraeth i'r cynnig, nid ydych wedi dileu cymalau sy'n nodi y gallai cytundeb masnach ôl-Brexit yn y dyfodol rhwng y DU a'r UDA yn hawdd fod yn drychinebus i GIG Cymru. Felly, rwy'n cymryd bod y Llywodraeth yn cytuno â'r pwynt hwnnw, ond nid ymddengys y byddwch yn cefnogi ein hateb, sef, yn rhannol, diddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Nawr, mae'r adran honno'n caniatáu i Lywodraeth y DU anwybyddu datganoli i bob pwrpas mewn perthynas â chytundebau masnach. Rwy'n sylweddoli nad yw masnach yn rhan o'ch portffolio, ond rydych wedi siarad yn y gorffennol ynglŷn â sut y mae angen edrych ar adran 82 eto gan iddo gael ei ddrafftio cyn Brexit. Pam na fyddech yn cefnogi ei diddymu?
Gwn y bydd yr Aelod yn gyfarwydd â gwaith yr Institute for Government a'u hadolygiad trylwyr o'r trefniadau a wnaed gan nifer o gyfansoddiadau, nifer o wladwriaethau, hyd yn oed y rheini sy'n meddu ar gyfansoddiadau ysgrifenedig ffederal, o ran y modd y maent yn ymdrin â chwestiynau ynghylch effaith cytundebau rhyngwladol ar yr hyn y byddem yn ei ddisgrifio yma fel cymhwysedd datganoledig. Rwy'n gwbl glir ei bod hi'n llygad ei lle'n dweud bod gennyf bryderon sylweddol ynglŷn â'r hyn y gwyddom ei fod wedi codi o'r ddogfen a wnaed yn gyhoeddus yn ddiweddar a'r mandad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth yr UDA mewn perthynas â'u dyheadau ynghylch cytundeb masnach gyda'r DU. Mae'n gwbl amlwg o hynny mai eu bwriad yw ceisio cael mynediad at y GIG, a'i fasnacheiddio, ei farchnadeiddio a'i ddefnyddio i godi costau meddyginiaethau er budd eu cwmnïau fferyllol eu hunain. Felly, rhannaf ei phryderon difrifol ynghylch yr hyn yr ymddengys ei fod dan ystyriaeth.
Ond y math o drefniant y mae hi a chynnig Plaid Cymru o'i blaid yw feto, yn y bôn, ar gytundebau rhyngwladol, a'n barn ni—a chredaf ei bod wedi'i mynegi yn glir iawn, yn fwyaf diweddar yn y ddogfen a gyhoeddodd y Prif Weinidog am ddiwygio'r cyfansoddiad yn gyffredinol—yn gyson â phob cyfansoddiad ffederal arall, rwy'n credu, nid fy mod yn honni bod ein cyfansoddiad ni'n ffederal, ar wahân i gyfansoddiad Gwlad Belg, yw mai'r mecanwaith priodol ar gyfer ymdrin â hynny yw sefydlu mecanwaith i wladwriaethau nad ydynt yn cyfateb i'r wladwriaeth ffederal yn y cyfansoddiadau hyn i ddylanwadu'n wirioneddol ar fandad a negodiadau'r cytundebau hynny. A chredaf fod honno'n ffordd well inni fwrw ymlaen mewn perthynas â'r cwestiwn hwn.
Diolch am eich eglurhad, Weinidog. Nid wyf yn synnu eich bod yn rhannu ein pryder ynglŷn â'r sefyllfa, a buaswn yn eich annog, os gwelwch yn dda, i ailystyried cefnogi ein hateb i hyn hefyd yn y ddadl y prynhawn yma. Ond rydych wedi sôn eisoes fod rhan arall o’r cynigion a gyflwynwyd gennym yn ein cynnig yn ymwneud â chael feto ar gytundebau masnach, ac rydych hefyd wedi cyfeirio at y ffaith bod cynsail i hyn yn Walonia yng Ngwlad Belg. Rhanbarth o Wlad Belg yw hwnnw. Weinidog, os caf ofyn i chi: os oes gan ranbarth Walonia yng Ngwlad Belg hawl i amddiffyn ei ddinasyddion drwy gael feto ar gytundebau masnach, ac unwaith yn unig y maent wedi'i defnyddio; nid yw'n rhyw fath o fesur rhwydd y maent yn ei ddefnyddio drwy'r amser, ond os oes gan un o ranbarthau Gwlad Belg yr hawl honno, pam, Weinidog, nad ydych yn credu y dylai cenedl Cymru gael yr un peth?
Oherwydd nad wyf o'r farn fod unrhyw fodd cymharu trefniadau cyfansoddiadol Gwlad Belg â chyfansoddiad y Deyrnas Unedig. Ac mae'r safbwynt y mae'n dadlau o'i blaid yn gyson â'r cwestiwn ynghylch annibyniaeth, a dyna lle mae'r cwestiwn yn dechrau ac yn gorffen, ac mae hi'n gwybod nad yw'r meinciau hyn yn cefnogi'r amcan cyfansoddiadol hwnnw.
Hoffwn dynnu ei sylw at y ffaith mai'r enghraifft a nodir amlaf fel esiampl o gyfranogiad Llywodraethau is-wladwriaethol, fel y'u gelwir yn aml, wrth negodi trefniadau gyda'r Undeb Ewropeaidd, yw enghraifft Canada, lle bu rhai o daleithiau Canada yn rhan uniongyrchol o'r trafodaethau hynny i bob pwrpas. Nid yw cyfansoddiad Canada, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn adlewyrchu'r egwyddorion y mae hi'n dadlau o'u plaid, ac mae Plaid Cymru yn dadlau o'u plaid yn eu cynnig heddiw, ond serch hynny, roedd y taleithiau yn yr enghraifft honno'n rhan o'r trafodaethau hynny. A dyna'r mathau o drefniadau y credwn eu bod yn effeithiol o ran eu sylwedd, a dyna ddylem ganolbwyntio arno. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i roi set bragmatig a synhwyrol o drefniadau ar waith a fyddai’n caniatáu inni gymryd rhan arwyddocaol yn y gwaith o gytuno ar y mandad.
A dywedaf hefyd, o safbwynt ein partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd, eu bod yn cydnabod bod goblygiadau i'w cael o ran sut y caiff cynnwys unrhyw berthynas yn y dyfodol ei weithredu a'i wireddu yng nghyfansoddiad datganoledig y Deyrnas Unedig. Felly, ein dadl ni yw ei bod o fudd i Lywodraeth y DU, a'i hygrededd yn y trafodaethau hynny, i'n Llywodraeth ninnau gael llais wrth drafod y mandadau a'r trafodaethau hynny.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, yn gywir, rwy'n credu, iddo ef a minnau drafod y mater diwethaf hwnnw gyda Llywodraeth Fflandrys ym Mrwsel.
Wythnos cyn etholiad cyffredinol y DU, mae'n ddealladwy y byddech yn cyfeirio'n ddilornus, fel y gwnaethoch ychydig eiliadau yn ôl, at faniffesto Ceidwadwyr y DU. Ond serch hynny, a wnewch chi o leiaf groesawu’n ofalus y datganiad a geir ynddo y bydd cronfa ffyniant gyffredin y DU yn cael ei defnyddio i ddod â'r Deyrnas Unedig gyfan ynghyd, ac na fydd unrhyw gyllid cyfatebol yn cael ei golli yng Nghymru?
Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud gormod o ddatganiadau a heb wneud digon o weithredu. Ac rydym wedi dweud yn glir dro ar ôl tro ein bod am weld cyflawniad, nid geiriau teg. Ac mae Llywodraeth y DU yn gweithredu o dan y camsyniad, mewn perthynas â'r gronfa ffyniant gyffredin, fod yr hyn y maent wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn (a) yn ymgysylltu'n briodol â Llywodraeth Cymru a buddiannau Cymru yn y broses o gynllunio hynny, a (b) yn parchu'r setliad datganoli mewn unrhyw fodd. Felly, er i mi ddarllen y llinell honno yn y maniffesto, nid oedd hi ronyn yn fwy credadwy na'r nifer o achlysuron eraill y cafodd ei defnyddio, heb unrhyw ganlyniad.
Wel, fe ddywedaf wrthych beth y mae'r Blaid Geidwadol wedi rhoi manylion yn ei gylch: byddwn yn gwarantu na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid; byddwn yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer amaethyddiaeth drwy gydol Senedd nesaf y DU; ac yn bwysicaf oll, byddwn yn cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac y maent yn parhau i'w gefnogi.
Mae eich maniffesto ar gyfer y DU yn dweud wrthym sut nad ydych am i gyllid gael ei ddyrannu, ond nid yw'n rhoi unrhyw syniad inni sut y byddech yn dyrannu cyllid—Llafur yn cymylu'r dyfroedd yn y gobaith na fydd pobl Cymru yn sylwi eich bod yn bradychu Brexit am nad ydych eisiau ei gyflawni. Felly, os na fyddai ots gennych ddarparu manylion, o'ch safbwynt chi, pa gynigion sydd gennych chi a'ch plaid yn lle'r ffordd y caiff cyllid ei ddyrannu ar ôl i'r DU adael yr UE?
Wel, fe'i cyfeiriaf at gynnwys y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ar ddiwedd 2017, sy'n disgrifio ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyllid rhanbarthol yng Nghymru a gwaith y grŵp llywio a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, sef pwnc ein trafodaeth flaenorol ac sydd wedi arwain at gynigion interim diddorol iawn yn fy marn i. Rydym wedi dweud yn glir iawn beth yw'r blaenoriaethau yr hoffem eu gweld fel Llywodraeth yn sgil buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol—sef cefnogi cymunedau cynaliadwy, busnesau cynhyrchiol, economi ddi-garbon, a hyrwyddo cydraddoldeb ledled Cymru, a gwneud hynny ar sail lle mae'r cenedlaethol, y rhanbarthol a'r lleol yn gweithio gyda'i gilydd yn y ffordd fwyaf effeithiol i gyflawni hyn ar lawr gwlad.
Hoffwn ddweud fy mod yn clywed enghreifftiau dro ar ôl tro gan Lywodraeth y DU o sut y mae polisi rhanbarthol wedi gweithio’n effeithiol yn Lloegr. Mae arnaf ofn os mai dyna’r model sydd gan Lywodraeth y DU mewn golwg ledled y DU, gan y daethpwyd i'r casgliad dro ar ôl tro—yn enwedig gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd—fod y ffordd y mae’r cwmnïau menter lleol, er enghraifft, ledled Lloegr wedi ymdrin â'r cwestiwn ynghylch buddsoddiad rhanbarthol yn druenus o annigonol. Ac rwy'n ofni mai dyna sydd gan y Ceidwadwyr mewn golwg ar gyfer Cymru.
Wel, roeddwn yn cyfeirio at faniffesto eich plaid ar gyfer y DU, nad yw’n rhoi unrhyw syniad sut y byddent yn dyrannu’r cyllid. Felly, ymddengys naill ai nad ydynt wedi darllen eich dogfen neu nad ydynt yn cytuno â hi.
Ond fe ddywedoch chi'n gwbl gywir na ddylai Cymru golli unrhyw gyllid cyfatebol o ganlyniad i adael yr UE a bod yn rhaid parhau i wneud pob penderfyniad ynghylch y cyllid hwn yng Nghymru, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'n ofynnol mewn perthynas â phob dyfarniad cyllid Ewropeaidd fod prosiectau'n gallu darparu tystiolaeth lawn i gefnogi eu holl wariant a gweithgarwch y prosiect. Felly, mae angen i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru gasglu a dadansoddi'r wybodaeth a'r ystadegau a gasglwyd o brosiectau unigol, gan fod y cyllid Ewropeaidd hwnnw'n arian cyhoeddus, ac mae'n rhaid i bob prosiect wynebu lefel o archwilio a dilysu i sicrhau cymhwysedd gwariant a gweithgarwch, gyda gwiriadau yn erbyn canllawiau rhaglenni a dyfarniadau grantiau a chontractau unigol, a hyd yn oed y posibilrwydd y gellid hawlio arian yn ôl.
Felly, pan fyddwn yn gadael yr UE, pa gynigion sydd gennych ar waith, i sicrhau bod system newydd yn barod i fynd, gyda swyddfa cyllid y DU yng Nghymru a fydd yn gallu darparu tystiolaeth lawn i gefnogi'r holl wariant a gweithgarwch prosiectau yn unol â rheolau marchnad sengl y DU y bydd y pedair Llywodraeth wedi cytuno arnynt erbyn hynny, gobeithio?
Wel, rwy’n canmol yr Aelod am ymwneud â manylion hyn mewn ffordd yr ymddengys bod ei gyd-Aelodau seneddol yn San Steffan wedi gwrthod ei wneud â Llywodraeth Cymru.
Fe'i cyfeiriaf at y ddau edefyn o waith rydym wedi'u trafod yn y Siambr hon ar sawl achlysur. Un yw'r gwaith, unwaith eto, sef gwaith y grŵp llywio a gadeirir gan Huw Irranca-Davies, sy'n cael sylwadau gan bob sector yng Nghymru. A'r ail faes gwaith sy'n berthnasol i hyn yw adolygiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a gomisiynodd y Prif Weinidog pan oedd yn Weinidog Cyllid, adolygiad y bwriedir iddo lywio'r ffordd y datblygwn ac y defnyddiwn y cronfeydd rhanbarthol yn y dyfodol, gan ddefnyddio arferion gorau o rannau eraill o'r byd.
Rydym wedi ymrwymo'n llwyr, fel y mae ei gwestiwn yn ein herio, i ddarparu system sy'n ymatebol, yn hyblyg, yn integreiddiadwy ac sydd hefyd yn rhoi'r pwysigrwydd cywir i'r cwestiwn ynghylch archwilio a thryloywder, sef yr hyn y mae ei gwestiwn yn ei nodi. Ac rydym yn gobeithio y bydd y gwaith hwnnw'n ein harwain i allu ymgynghori yn fwy manwl yn y flwyddyn newydd mewn perthynas â'r rheini. Ond mae set ddatblygedig iawn o ffrydiau gwaith, sy'n ymdrin â'r un math o gwestiynau y mae'n eu codi yn ei gwestiwn, a'r unig beth y buaswn yn ei ddweud yw y buaswn yn ailadrodd y cais a wneuthum i Lywodraeth y DU i ymgysylltu â ni ar hyn. Rydym wedi datblygu ein hystyriaethau yma i raddau pell iawn ac rydym yn awyddus iddynt ymgysylltu â ni'n briodol ar y cwestiwn hwn yn hytrach na pharhau i roi'r addewidion y maent wedi methu eu cadw hyd yn hyn.