5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau Nyrsio Cymunedol ac Ardal

– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 4 Rhagfyr 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:27, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Eitem 5 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: gwasanaethau nyrsio cymunedol ac ardal. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—Dai Lloyd.

Cynnig NDM7210 Dai Lloyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Awst 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:27, 4 Rhagfyr 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Dyma'r pedwerydd yn y gyfres o ymchwiliadau byr a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y pwyllgor.

Cynhaliodd y pwyllgor ymchwiliad undydd i waith timau nyrsio cymunedol a arweinir gan nyrsys ardal ac i ansawdd y gofal nyrsio a ddarperir i bobl yn eu cartrefi. Ar y pwynt hwn, hoffwn gydnabod y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth, gan mai drwy eu gwaith nhw y daeth yr ymchwiliad hwn i fod, a chydnabod arweiniad David Rees.

Mae natur newidiol y ddarpariaeth gofal iechyd a'r symudiad i ddarparu mwy o ofal y tu allan i ysbyty yn golygu bod rôl nyrsys cymunedol wedi dod yn fwyfwy heriol. Mae yna gydnabyddiaeth y gallai'r timau nyrsio cymunedol hyn gyfrannu at wasanaethau gofal iechyd yn y dyfodol, ond prin yw'r wybodaeth am y gwasanaeth hwnnw. Does dim darlun cywir o nifer y timau nyrsio na beth yw eu sgiliau. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl sy'n derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain, na lefel y gofal sydd ei angen arnyn nhw. Nid yw'n glir chwaith sut mae gwaith timau nyrsio cymunedol yn cael ei fesur a'i gofnodi, na sut mae ansawdd a diogelwch y gwasanaethau hyn yn cael eu monitro. Yn wir, cawsom ein dychryn o glywed nyrsys cymunedol yn disgrifio'u hunain fel y 'gwasanaeth anweledig'.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:28, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol wrthym fod dwy ran o dair o'i aelodau'n gweithio yn y gymuned, yn diwallu anghenion cleifion oedrannus, anabl ac agored i niwed a allai, fel arall, ei chael hi'n anodd ymweld ag ysbyty. Mae'r symudiad tuag at ddarparu mwyfwy o wasanaethau iechyd yn y gymuned wedi cynyddu disgwyliadau pobl o allu cael mynediad at driniaeth yn y modd hwn, ac mae datblygiadau mewn meddygaeth wedi gwireddu hyn. Dywedodd tystion wrthym fod pobl eisoes yn disgwyl gallu cael triniaeth gymhleth iawn yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r galw'n debygol o gynyddu o ganlyniad i ryddhau pobl o'r ysbyty yn gynharach, cadw pobl gartref i osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, a bod mwy o bobl yn dioddef o gyflyrau cymhleth a lluosog.

Mae timau nyrsio cymunedol yn gweithredu fel cyswllt gwerthfawr rhwng gwasanaethau acíwt a gofal sylfaenol ac maent yn hyrwyddo byw'n annibynnol. Felly, mae clywed bod nyrsys yn ei chael yn fwyfwy anodd ateb y galwadau cynyddol hyn arnynt yn destun pryder. O'r herwydd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod rôl hanfodol nyrsio cymunedol wrth ddarparu gofal iechyd yn y dyfodol yn cael ei chydnabod yn briodol wrth gynllunio gweithlu, recriwtio nyrsys ac mewn hyfforddiant, a dyna argymhelliad 1.

Gan droi at nyrsys cymunedol i blant: y neges gan dystion yw fod yn rhaid cael cynnydd yn nifer y nyrsys cymunedol i blant. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ardal o faint cyfartalog sydd â phoblogaeth o 50,000 o blant angen o leiaf 20 o nyrsys cymunedol i blant, cyfwerth ag amser llawn, i ddarparu gwasanaeth nyrsio cymunedol cyfannol ar gyfer plant. Mae hyn yn rhannol oherwydd y nifer cynyddol o blant ag anghenion cymhleth sy'n derbyn gofal gartref. Mae clywed felly nad oes gennym ddarlun clir o nifer y nyrsys plant sy'n gweithio yn y gymuned ar hyn o bryd yn destun pryder. At hynny, mae clywed bod plant yn llai tebygol o dderbyn gofal gartref ar ddiwedd eu hoes nag oedolion oherwydd prinder nyrsys cymunedol sydd â'r sgiliau addas yn destun pryder mawr iawn.

Gan droi at ofal lliniarol a diwedd oes, er gwaethaf y rôl hollbwysig y mae nyrsys cymunedol yn ei chwarae yn galluogi cleifion sydd ag anghenion gofal lliniarol i aros gartref, clywsom nad yw'r cynllun cyflawni ar gyfer darparu gofal lliniarol a diwedd oes yn cyfeirio llawer atynt. Heb ddealltwriaeth well o bwy sy'n derbyn gofal a lle, a chan bwy, mae'n amhosibl pennu lefel yr angen am ofal lliniarol sydd heb ei ddiwallu. Rydym yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi diweddariad ar gynnydd a wnaed ar ddatblygu'r cynllun gweithredu hwn yn awr—argymhelliad 3 yw hwnnw—a gwahoddaf y Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar y pwynt hwn heddiw.

Gan droi at staffio nyrsys ardal, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod yn parhau'n ymrwymedig i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys lleoliadau ychwanegol. Fodd bynnag, ar gyfer nyrsys ardal, nid yw'n debygol y bydd offeryn priodol ar gyfer cynllunio'r gweithlu, sy'n ofynnol o dan y Ddeddf i gyfrifo'r lefel staff nyrsio sydd ei hangen, yn barod am rai blynyddoedd. Felly, rydym yn argymell bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys pob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, ac argymhelliad 4 yw hwnnw.

Gan droi at forâl staff, daeth rhywfaint o'r dystiolaeth fwyaf trawiadol a gafodd y pwyllgor gan nyrsys a oedd yn gweithio yn y gymuned, a ddywedodd wrthym, ac rwy'n dyfynnu:

'Gadewais nyrsio ardal ar ôl 18 mlynedd gan na allwn i ymdopi mwyach â’r straen. Cynyddodd y llwyth gwaith, roedd mwy o alw am waith papur, dim digon o staff ac ni allai cleifion gael y gofal yr oeddent yn ei haeddu.'

A dyfyniad arall:

'Mae’r pum mlynedd diwethaf wedi gweld llai o adnoddau mewn gwasanaethau rheng flaen. Nyrsys yn gadael a phroblemau recriwtio. Nid ydym bob amser yn gofalu am ein staff yn dda iawn, rydym yn disgwyl mwy a mwy ganddyn nhw.'

Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol wrthym fod morâl yn eithaf isel, yn enwedig ar lefelau uwch, oherwydd y pwysau aruthrol sydd wedi bod ar nyrsys cymunedol ers amser maith. Yn ddiddorol, nid oedd hwn yn ddarlun roedd cynrychiolwyr y byrddau iechyd y buom yn siarad â hwy wedi ei nodi yn eu hardaloedd, ac roedd clywed safbwyntiau mor wahanol yn peri pryder.

Yn olaf, hoffwn droi at seilwaith TGCh a thechnoleg, gan mai un o'r prif faterion a godwyd gan nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned oedd eu hanallu i ddefnyddio'r dechnoleg fwyaf priodol i'w galluogi i gyflawni eu rolau'n effeithiol. Dywedodd hanner y nyrsys ardal a'r nyrsys cymunedol y gofynnwyd iddynt am eu profiadau o gymorth TG eu bod yn defnyddio amrywiaeth o offer, gan gynnwys gliniaduron a dyfeisiau 'Blackberry'. Nododd yr hanner arall nad oedd ganddynt ddyfais symudol o gwbl at eu defnydd. Dywedodd un tyst wrthym:

'Does gennym ni ddim system gyfrifiadurol ar gyfer dogfennaeth - mae’n bapur i gyd.'

Mater arall a godwyd gan y nyrsys oedd eu hanallu i gael mynediad at galendr a negeseuon e-bost y swyddfa. Nid yn unig y mae diffyg technoleg briodol yn effeithio ar nyrsys, mae hefyd yn effeithio ar gleifion sy'n ceisio cysylltu â'u gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Os nad ydym yn darparu'r dechnoleg ddiweddaraf i nyrsys, sut yn y byd y gallwn ddisgwyl iddynt gyfathrebu â'u cleifion a rhoi'r cymorth gorau posibl iddynt?

Daeth Suzy Davies i’r Gadair.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:33, 4 Rhagfyr 2019

Mae'n annerbyniol nad yw nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned yn gallu cael mynediad at wybodaeth am gleifion, apwyntiadau neu negeseuon e-bost ar ddyfeisiau llaw, a'u bod nhw'n dal i ddibynnu ar systemau papur a thechnoleg sydd wedi dyddio. Arhosaf i glywed sylwadau eraill yn y ddadl hon. Diolch yn fawr.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 3:34, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i gael cymryd rhan yn y ddadl hon ar adroddiad y pwyllgor. A'r peth cyntaf, mewn gwirionedd, yr hoffwn ei wneud yw talu teyrnged enfawr i'r holl nyrsys ardal a nyrsys cymunedol sydd yng Nghymru. Rwy'n siarad o brofiad personol pan ddywedaf, ar ôl genedigaeth fy merch gyntaf, mai'r nyrs ardal a helpodd fi i gadw fy mhwyll, oherwydd, yn sicr, nid oedd gennyf syniad beth oeddwn i fod i'w wneud ar ôl i mi gyrraedd adref. Maent yn arwyr nad ydynt yn cael digon o glod, ac mewn gwirionedd, mae ein hadroddiad yn eu disgrifio fel 'y gwasanaeth anweledig'. Ac rwy'n credu ei bod yn werth i bawb ohonom gofio nad oes darlun cywir, ar lefel genedlaethol, o nifer a chymysgedd sgiliau timau nyrsio, y niferoedd yn ein timau na lefelau aciwtedd y cleifion y maent yn gorfod ymdrin â hwy. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn effeithio ar gynllunio'r gweithlu, ar recriwtio a chadw staff. A chredaf fod Cadeirydd y pwyllgor wedi nodi'n glir iawn y lefelau straen y mae nyrsys ardal a nyrsys cymunedol yn eu hwynebu, a sut y mae hyn yn gwneud i bobl adael proffesiwn rydym ei angen yn daer, yn enwedig, Weinidog, os ydych yn bwriadu parhau â chyfeiriad teithio rydym i gyd yn ei gefnogi, sef trin pobl gartref, yn y gymuned, yn eu cartrefi, yn hytrach na'u hanfon i ysbytai neu gyfleusterau eraill.

Ac rwy'n canfod—. Ac rwyf eisiau siarad yn benodol am argymhellion 6, 7 ac 8. Mae 6 yn ymwneud â data, a 7 ac 8 yn ymwneud â hyfforddiant a recriwtio. Oherwydd gwelaf fod argaeledd data am wasanaethau nyrsio yn wael tu hwnt. Rwy'n cydnabod bod byrddau iechyd yn deall hynny, ond mae'n rhaid bod peidio â gwybod yn sicr faint o nyrsys yn y gymuned sy'n nyrsys ardal, neu beidio â gwybod faint o nyrsys ardal sy'n ymarferwyr nyrsio, yn rhwystro'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau yn ddifrifol. Ac mae cydnabod bod heriau sylweddol o ran data a datblygu'r seilwaith TGCh yn y dyfodol yn gam ymlaen. Ond mae'n rhaid i mi nodi bod hwn yn gam y mae Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd wedi bod yn sefyll arno ers blynyddoedd. Felly, hoffwn wybod pryd y bydd system wybodaeth gofal cymunedol Cymru yn cael ei chyflwyno. Nid yw'r system ond ar waith mewn un bwrdd iechyd ar hyn o bryd, a Phowys yw hwnnw.

Hoffwn ddarllen ychydig o ddarnau sydd wedi'u hamlygu yn yr adroddiad hwn. Dyma'r hyn y mae'n rhaid i'r bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cymunedol ymdopi ag ef—ac rydych yn meddwl am yr holl dechnoleg sy'n ein hamgylchynu yma i'n helpu i wneud ein gwaith—

'Mae gennym ni ffonau symudol heb fynediad at ddyddiadur nac e-bost, er bod cydweithwyr yn yr awdurdod lleol yn meddu ar system electronig weithredol ar gyfer cofnodion iechyd.'

Ond nid oes gan nyrsys ardal, nyrsys cymunedol, fynediad at y pethau hyn.

'Ychydig iawn o TG sydd gennym i gefnogi integreiddio a gwaith Timau Adnoddau Cymunedol. Mae Nyrsys Ardal ar bapur; mae rhai staff therapi ar Therapy Manager; cydweithwyr gofal cymdeithasol ar WCCIS.'

'Mae gan y rhan fwyaf o’r tîm ddyfeisiau ‘blackberry’, ond tydyn nhw ddim yn gweithio’n ddigon da.... Does gennym ni ddim system gyfrifiadurol ar gyfer dogfennaeth—mae’n bapur i gyd.'

Ac un o'r pryderon sydd gennyf—ac mae'n rhedeg ar draws amrywiaeth eang o'r gwasanaeth iechyd mewn gwirionedd—yw fy mod yn ysgrifennu atoch yn aml iawn, Weinidog, i ofyn am ddata ar amrywiaeth o bynciau, ac fe ddowch yn ôl ataf yn eich ateb ysgrifenedig, a dweud , 'Ni chedwir unrhyw ddata yn ganolog'. Iawn, rwy'n derbyn hynny. Byddaf yn cyflwyno cais rhyddid gwybodaeth wedyn ar bob bwrdd iechyd, yn dilyn eich ateb, a dyfalwch beth y maent yn ei ddweud? 'Ni chedwir unrhyw ddata yn ganolog. Nid oes unrhyw ddata wedi'i gofnodi. Nid yw'r data hwn yn hysbys; nid yw'n cael ei dorri a'i rannu yn y ffordd hon.' Os nad oes gennym y data hanfodol hwn, sut y gallwn ni reoli a chynllunio'r gweithlu, sut y gallwn fynd ati o ddifrif i dargedu recriwtio a chadw staff? Onid ydym yn sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru i fethu, oherwydd, os na allwn gael gafael ar y data, ac yn amlwg nid yw'r data gan y Gweinidog, nid wyf yn tybio am un eiliad fod y data gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru chwaith.

Hoffwn wybod hefyd pwy fydd yn gwerthuso llwyddiant cynllun peilot meddalwedd Malinko yng Nghwm Taf. Byddai diddordeb gennyf mewn gwybod pwy fydd yn ei werthuso, pryd rydych yn disgwyl i'r gwerthusiad ddigwydd. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, os yw'n gwneud popeth y dywed y mae'n ei wneud, byddai'n beth da iawn i'w gyflwyno ar draws ein holl fyrddau iechyd. Ond hoffwn iddo gael ei werthuso'n annibynnol, o ystyried sefyllfa bresennol Cwm Taf.

A'r pwynt olaf a therfynol yr hoffwn ei wneud, sydd yn yr adroddiad hwn i raddau ond sy'n ategiad iddo—mae pawb yn gwybod bod gofal sylfaenol yn seiliedig ar y model tîm amlddisgyblaethol. Fodd bynnag, mae'n cael ei lesteirio ar adegau gan linellau adrodd, ac mae hynny'n berthnasol i nyrsys ardal a nyrsys cymunedol, oherwydd, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn adrodd yn ôl i fyrddau iechyd, yn hytrach na chlystyrau neu bractisau meddygon teulu. Nawr, rwyf wedi cael un neu ddau o achosion lle roedd gennym etholwyr difrifol wael—canser angheuol, mae'r meddyg teulu wedi mynd allan, mae angen cefnogaeth nyrs ardal arnynt. Ond gan nad oes ffurflen 13 tudalen wedi'i llenwi, nid yw eu meddyg, sy'n dweud, 'Rhaid i nyrs ardal nyrsio'r person hwn a gofalu amdano yn ei gartref', wedi gallu ei wneud, oherwydd bod yn rhaid iddynt ddychwelyd i'r bwrdd iechyd a dilyn llwybr troellog iawn er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth hwnnw. Felly, a gawn ni edrych ar hynny a'i dynhau? Oherwydd maent yn rhan annatod o'r tîm gofal sylfaenol, ac mae angen iddynt fod o dan adain y rhai sy'n arwain y swyddogaeth gofal sylfaenol.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:39, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ychwanegu fy llais at yr hyn y mae siaradwyr eraill eisoes wedi'i ddweud—diolch i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad. Hoffwn dalu teyrnged i'n Cadeirydd. Rwy'n credu bod yr ymchwiliadau undydd, byr a sydyn hyn yn fodel defnyddiol iawn sy'n ein galluogi i fynd at wraidd pethau'n gyflym iawn. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r staff nyrsio a ddarparodd dystiolaeth.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:40, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Y peth a arhosodd yn fy mhen ar ôl yr ymchwiliad hwn oedd y term 'gwasanaeth anweledig', ac mae hynny eisoes wedi cael ei grybwyll gan eraill—y ffaith nad yw'r gwaith y mae'r nyrsys hyn yn ei wneud yn cael ei weld, i raddau helaeth, oni bai eu bod yn peidio â'i wneud neu oni bai fod rhywbeth yn mynd o'i le—a hefyd y dystiolaeth a roesant am lefel cyfrifoldeb nyrs ar ei phen ei hun mewn cartref teuluol, mewn cartref nyrsio, efallai, lle nad oes ganddynt rwydwaith o gymorth gan staff nyrsio sydd ar gael i staff nyrsio sy'n gweithio mewn ysbytai.

Nawr, fel llawer o bobl eraill, rwy'n siŵr, roeddwn yn falch iawn o weld y Gweinidog yn derbyn naw o'r 10 argymhelliad, nes i mi ddarllen yn fanwl yr hyn a ddywedodd mewn ymateb i'r argymhellion hynny. Ac rwy'n ofni mai'r hyn a ddywedodd wrthym oedd fod llawer o'r hyn y gofynnem amdano, yr hyn y gofynnai'r staff nyrsio amdano, eisoes yn digwydd. Wel, fel y dywedodd Dai Lloyd, mae'n anodd weithiau pan fydd gennych dystiolaeth sy'n gwrthdaro, ond pan fo gennyf nyrsys o fy mlaen a phan fo gennyf uwch reolwyr o fy mlaen, rwy'n dueddol o gredu'r staff rheng flaen, sy'n gwybod yn well beth sy'n digwydd ar lawr gwlad.

Roeddwn yn pryderu'n benodol nad yw ymateb y Gweinidog ond yn tynnu sylw at adnoddau ychwanegol, neu adnoddau ychwanegol posibl, ar gyfer un o'r argymhellion y mae'n eu derbyn. Oherwydd os ydym am wireddu ei ddyhead—dyhead, rwy'n credu, a rennir ar draws y Siambr hon a ledled Cymru—i weld mwy o wasanaethau'n cael eu symud i'r gymuned, bydd yn rhaid inni gael gweithlu mwy, gyda mwy o gefnogaeth, gyda gwell adnoddau, ac ni chawn hynny yn rhad ac am ddim.

Hoffwn droi'n fyr at yr argymhelliad y penderfynodd y Gweinidog ei wrthod, sef argymhelliad 4, sy'n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth ar gyfer ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys pob lleoliad, gan gynnwys gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Nawr, er fy mod yn derbyn ei bod yn anos gwneud hynny—. Mae'n gymharol hawdd canfod faint o nyrsys, gyda pha lefel o sgiliau, sydd eu hangen i gefnogi set benodol o gleifion mewn ward benodol oherwydd ei bod yn gymharol hawdd canfod beth yw lefel eu hangen—lefel angen y cleifion. Ac mae wedi bod yn anodd gwneud hynny, ac mae hyn, wrth gwrs, yn bwydo i mewn i'r pwyntiau y mae Angela Burns eisoes wedi'u gwneud am y problemau gyda gwybodaeth.

Ond os ydym o ddifrif ynglŷn â thrin gwasanaethau cymunedol gyda'r un parch ag y byddwn yn trin gwasanaethau a ddarperir mewn ysbytai, os ydym o ddifrif ynglŷn â darparu'r un lefel o barch a'r un lefel o gymorth i staff nyrsio cymunedol, does bosibl nad oes rhaid inni wneud yr asesiadau hynny, canfod aciwtedd a salwch y cleifion y maent yn ymdrin â hwy a'r sgiliau y maent eu hangen a'r amser y maent ei angen, ac felly, nifer y nyrsys cymunedol a'r nyrsys ardal sy'n ddiogel ar gyfer y boblogaeth benodol honno. Ac ni allaf ddeall pam nad yw'r Gweinidog yn cytuno. Buaswn wedi bod yn berffaith hapus i'w weld yn dweud y byddai hyn yn cymryd mwy o amser, efallai, nag y gofynnem amdano fel pwyllgor, ond mae awgrymu nad yw'n angenrheidiol yn peri pryder gwirioneddol.

Hoffwn dynnu sylw at un agwedd benodol y credaf efallai fod y Gweinidog yn rhoi camau ar waith i fynd i'r afael â hi, sef materion yn ymwneud â thelerau ac amodau ar gyfer nyrsys a gyflogir gan bractisau meddygon teulu yn hytrach nag yn uniongyrchol gan y byrddau iechyd. Mae'n amlwg iawn i mi fod y telerau a'r amodau i rai o'r nyrsys hynny yn llusgo ar ôl telerau nyrsys a gyflogir yn uniongyrchol. Un pryder penodol a godwyd gyda mi gan nyrsys unigol yn fy rhanbarth yw nad oes ganddynt amser ar gyfer dysgu yn aml. Nawr, rydym yn gwybod bod honno'n broblem ar draws y sector cyfan, ond os ydych yn nyrs ar eich pen eich hun, efallai, wedi'ch cyflogi gan bractis meddyg teulu gwledig, gall fod yn anhygoel o anodd i chi gael eich rhyddhau i wella eich sgiliau. Rwy'n credu y gallai'r gwaith a amlygwyd gan y Gweinidog y diwrnod o'r blaen o ran gwneud yn siŵr fod practisau meddygon teulu yn adrodd ar y lefelau staffio sydd ganddynt helpu gyda hynny, ond rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig ein bod yn diogelu telerau ac amodau'r grŵp pwysig hwnnw o staff nyrsio.

Rwy'n credu bod yna elfen o gytundeb ynglŷn â'r materion sy'n ein hwynebu. Y cwestiwn yn awr yw pa mor gyflym a pha mor effeithiol y gallwn fynd i'r afael â'r materion hynny. Mae'n air rwy'n ei ddefnyddio dro ar ôl tro, ac nid yw'n un rwyf eisiau ei ddefnyddio fel y cyfryw, ond ofnaf fod elfennau o ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn sy'n ymddangos yn hunanfodlon ac yn fwy difrifol, maent yn ymddangos yn hunanfodlon i'r gweithlu nyrsio. Mae staff ein gweithlu nyrsio yn haeddu gwell na hynny. Mae ein gweithlu nyrsio cymunedol yn haeddu gwell na hynny gan bawb ohonom, ac yn bwysig iawn, mae eu cleifion yn haeddu gwell na hynny hefyd.

Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno â'r Gweinidog fod angen inni ddatblygu ein gwasanaethau cymunedol, ond oni bai ein bod yn rhoi adnoddau a pharch priodol i'n gweithlu nyrsio cymunedol, ni fyddwn yn gallu gwneud hynny.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:45, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ei adroddiad ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Mae nyrsio cymunedol yn wasanaeth hanfodol sy'n helpu i gadw cleifion allan o'r ysbyty ac yn caniatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain. Wrth i'n demograffeg newid, wrth i ni gyd fyw'n hwy gyda salwch cronig mwyfwy cymhleth, mae'r gwasanaethau a ddarperir gan nyrsys ardal a nyrsys cymunedol yn dod yn fwy hanfodol.  

Dros y ddau ddegawd diwethaf, rydym wedi colli dros 5,000 o welyau ysbyty'r GIG, er bod ein poblogaeth wedi cynyddu dros 200,000. Heb nyrsys ardal a nyrsys cymunedol, byddai ein GIG yn boddi. Er gwaethaf hyn, nid yw'r gwasanaeth yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol o hyd. Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, disgrifiodd nyrsys cymunedol eu hunain fel y 'gwasanaeth anweledig', ac mae hyn yn drist iawn i'w glywed. Felly, rwy'n croesawu argymhellion y pwyllgor, sydd wedi'u hanelu at wella'r ddarpariaeth, ond yn bwysicach, rwy'n cydnabod y rôl gwbl hanfodol y mae ein nyrsys ardal a'n nyrsys cymunedol yn ei chwarae wrth ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.  

Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn naw o'r 10 argymhelliad. Yr hyn nad wyf yn ei ddeall yw rhesymeg y Gweinidog dros wrthod argymhelliad 4. Ymestyn y Ddeddf lefelau staff nyrsio i gynnwys pob lleoliad yw'r peth iawn i'w wneud. Rwy'n derbyn na fydd yn hawdd ac na fydd yn bosibl ei wneud dros nos, ond nid yw hynny'n rheswm dros wrthod yr argymhelliad ar unwaith. Dylai Llywodraeth Cymru dderbyn, mewn egwyddor o leiaf, fod angen dechrau ar y gwaith o sicrhau lefelau staffio diogel yn awr, nid ar ryw ddyddiad amhenodol yn y dyfodol.  

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn pob un o'r 10 argymhelliad a gweithredu arnynt yn gyflym os ydym am sicrhau dyfodol y gwasanaeth. Mae morâl yn is nag erioed, ac eto fel gwlad rydym yn mynd yn fwy dibynnol ar y gwasanaethau a ddarperir gan ein nyrsys ardal a nyrsys cymunedol ymroddedig a gweithgar. Mae'n rhaid inni ddangos ein bod yn gwerthfawrogi ein nyrsys cymunedol; byddai derbyn a gweithredu pob un o'r 10 argymhelliad yn ddechrau da. Diolch.    

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:47, 4 Rhagfyr 2019

Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei ymchwiliad a'i adroddiad ar wasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal yng Nghymru. Rwy'n falch o ddweud bod yr argymhellion yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru yn fras o ddarparu mwy o ofal yn nes at adref, fel y'i nodwyd yn ein gweledigaeth 'Cymru Iachach'. Fel rhan o ddull amlddisgyblaethol o gyflawni'r nod hwn, gwyddom y bydd nyrsys cofrestredig yn parhau i chwarae rhan ganolog.  

Mae'r rhan fwyaf o'r argymhellion yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gweithlu cymunedol o ran cynllunio, recriwtio a hyfforddi. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud eisoes ar gynyddu'r gweithlu nyrsio yma yng Nghymru gyda chanlyniadau cadarnhaol. Fodd bynnag, nid ydym byth yn hunanfodlon ac rydym yn cydnabod bod heriau'n gysylltiedig â recriwtio a chadw nyrsys mewn nifer o leoliadau. Dyna pam fy mod, unwaith eto, wedi cynyddu'r cyllid ar gyfer addysg iechyd 13 y cant ar gyfer y flwyddyn nesaf, o'i gymharu â'r flwyddyn hon. Aethom drwy'r ffigurau ddoe mewn perthynas â'r cynnydd sylweddol mewn addysg a hyfforddiant i nyrsys yma yng Nghymru dros y chwe blynedd diwethaf.  

Gyda sefydliad Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym bellach mewn gwell sefyllfa—sefyllfa well nag erioed—i sicrhau dull strategol cenedlaethol o ddeall ein gweithlu a chynhyrchu cyflenwad cynaliadwy o staff nyrsio ar gyfer y dyfodol. Mae cyfarwyddwr gweithlu a datblygu sefydliadol Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos ag Arolygiaeth Iechyd Cymru, wrth iddynt ddatblygu eu strategaeth ar gyfer y gweithlu yn y dyfodol, a bydd hynny'n sicrhau bod argymhellion 1 i 3 a 6 i 8 yn ffactor yn y gwaith hwnnw.  

Rwy'n cydnabod, wrth gwrs, y rôl hollbwysig y mae technoleg yn ei chwarae mewn nyrsio cymunedol, rhywbeth y cyfeiriwyd ato gan nifer o Aelodau yn y ddadl. Dyna pam fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd i gefnogi buddsoddiad mewn dyfeisiau modern. Rwy'n cyfarfod â nyrsys ardal yn fy etholaeth a ledled y wlad ac maent yn disgrifio rhai o'r rhwystredigaethau y mae rhai Aelodau wedi cyfeirio atynt. Unwaith eto, mae'n rhan o'r her rwy'n ei disgrifio'n rheolaidd am ddal i fyny â'r hyn sy'n fywyd normal bellach a'n gallu i wneud pethau ar ddyfeisiau symudol. Mae hyn yn cynnwys y gwaith a ddisgrifiais o fewn y Llywodraeth—blaenoriaethu dyfeisiau symudol ar gyfer nyrsys cymunedol ac eraill nad ydynt wedi'u lleoli mewn ysbyty. Gwnaethom ymrwymo yn 'Cymru Iachach' i gynyddu'r buddsoddiad mewn technoleg ddigidol yn sylweddol fel ffactor allweddol sy'n galluogi newid, ac ategir hynny gan bwyslais cynyddol ar safonau cenedlaethol cyffredin ar draws dyfeisiau a chymwysiadau digidol.

Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod wedi cymeradwyo egwyddorion y prif swyddog nyrsio ar gyfer nyrsio ardal yn 2017. Mae'r rhain yn gam hanfodol yn y paratoadau i gyflwyno Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ymhellach. Mae'r wybodaeth a ddarperir o hynny, a'r monitro y mae fy swyddogion o swyddfa'r prif nyrs yn ei wneud yn rheolaidd, yn gam pwysig, a deallaf fod cynnydd yn digwydd ar lawr gwlad.

O ran gwaith pellach ar sut y dylai'r model edrych, rydym yn cynnal gwerthusiad o'r model nyrsio ardal seiliedig ar gymdogaeth. Yn amodol ar werthusiad llwyddiannus, byddaf wedyn yn ystyried opsiynau ar gyfer dechrau ei gyflwyno ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf fel rhan o'n hymateb i'r cylch cyllideb nesaf.

Mae'n ddrwg gennyf na allwn dderbyn holl argymhellion y pwyllgor, a deallaf fod Aelodau wedi cyfeirio'n arbennig at yr un na wneuthum ei dderbyn. Argymhelliad 4 oedd hwnnw, sy'n ymwneud ag ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Mae adran 25A o'r Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) eisoes yn berthnasol i bob lleoliad lle mae gofal nyrsio naill ai'n cael ei ddarparu neu ei gomisiynu. Mae'r ddyletswydd hon yn nodi cyfrifoldeb trosfwaol byrddau iechyd i sicrhau bod digon o nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif, ac mae byrddau iechyd yn ymrwymedig i gyflawni'r cyfrifoldeb hwnnw.

O ran ymestyn adran 25B, C ac E o'r Ddeddf i gynnwys pob lleoliad, y gwir plaen yw na fyddai'n bosibl mynegi gweledigaeth strategol gydag unrhyw fanylder y gellid ei ystyried yn werthfawr ac yn fuddiol ar hyn o bryd. Mae gwahaniaethau sylweddol a sylfaenol i'r gwahanol leoliadau lle mae nyrsys yn darparu gofal, ac mae'n rhy gynnar i ddechrau deall y cymhlethdod sydd ynghlwm wrth yr amrywioldeb ar draws pob lleoliad.

Bydd angen i raglen staff nyrsio Cymru wneud gwaith mapio sylweddol cyn y gellir ystyried strategaeth genedlaethol, ond mae rheolwr y rhaglen wedi dechrau ar gamau cynnar y gwaith hwnnw. Tanlinellir hynny gan realiti'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ac sydd wedi bod yn sail i gam cyntaf y broses gyflwyno, y gwaith sydd eisoes ar y gweill ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, y gwaith a wnaed cyn fy natganiad ysgrifenedig heddiw, lle roeddwn yn cadarnhau fy mod wedi dechrau'r broses ddeddfwriaethol i ymestyn y Ddeddf i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig, gyda'r nod o sicrhau y bydd yr estyniad ymarferol yn ei le erbyn Ebrill 2021. Wrth gwrs, byddaf yn ysgrifennu at y pwyllgor yn nodi'r cynnydd cyfredol ar draws holl ffrydiau gwaith y rhaglen staff nyrsio.

Credaf fod yna bwynt terfynol sy'n werth ei grybwyll o ran y ddadl, sef y ffaith bod adroddiad y pwyllgor wedi cael ei gyhoeddi ym mis Awst. Yna, cyhoeddodd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, y rheoleiddiwr proffesiynol, ei fod yn bwriadu cynnal adolygiad llawn o gymwysterau cofnodadwy ar ôl cofrestru, ac mae wedi nodi cymwysterau ymarfer arbenigol yn benodol. Gallai hynny arwain at oblygiadau sylweddol o bosibl i rolau yn y gymuned a'r ffordd y cânt eu diffinio. Mae rolau o'r fath yn cynnwys, yn benodol, nyrsys practis, nyrsys cymunedol i blant, a nyrsys ardal yn enwedig. Fodd bynnag, byddaf yn sicrhau bod y Cynulliad—drwy'r pwyllgor—yn ymwybodol o ganlyniad yr adolygiad hwnnw a'r ffyrdd y gallai hynny effeithio ar weithrediad ymarferol polisi Llywodraeth Cymru.          

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:53, 4 Rhagfyr 2019

Diolch yn fawr. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr, Dirprwy Ddirprwy Lywydd. Yn yr ychydig funudau prin, gallaf grynhoi'r ddadl yma gan ddiolch i bawb am eu sylwadau. Angela Burns yn olrhain heriau technoleg, IT a phrinder data; a Helen Mary Jones a Caroline Jones yn olrhain yr angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau staffio i nyrsys yn y gymuned. Dwi'n clywed ymateb y Gweinidog i hynny o beth. Ond, i grynhoi, felly, mae'n hanfodol bod rôl a gwerth nyrsio cymunedol yn cael ei gydnabod yn iawn, a bod ein nyrsys cymunedol a'n nyrsys ardal yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddarparu gofal o'r ansawdd uchaf i'n cleifion ni yng Nghymru heddiw. Diolch yn fawr iawn.  

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:54, 4 Rhagfyr 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.