– Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig—Darren Millar.
Cynnig NDM7241 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn cydnabod y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
4. Yn cydnabod y manteision posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
a) llunio cytundebau masnach rydd newydd;
b) creu system fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod;
c) sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.
Diolch, Lywydd. Ar 23 Mehefin 2016, er mawr syndod i’r sefydliad Cymreig a llawer yn y Siambr hon, pleidleisiodd mwyafrif o bleidleiswyr Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd yn fandad i gyflawni Brexit. Yn refferendwm 2016 gwelwyd y nifer uchaf a bleidleisiodd erioed mewn unrhyw bleidlais yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 1997, gydag 854,572 o bobl ledled y wlad yn pleidleisio dros adael yr UE. Mae hynny bron i deirgwaith cymaint â’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad a gynhaliwyd ychydig wythnosau ynghynt.
Nawr, ni all gwleidyddion ddewis pa bleidlais gyhoeddus y penderfynant ei pharchu. Rhoddodd y Senedd y pŵer i'r cyhoedd benderfynu a oedd ein dyfodol yn yr UE neu allan ohono, ac mae'n hanfodol i'n democratiaeth fod canlyniadau etholiadau a refferenda bob amser yn cael eu gweithredu. Felly, dyna pam rwyf wrth fy modd, yr wythnos hon, am 11 o’r gloch ddydd Gwener—er gwaethaf ymdrechion gorau’r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel y’u gelwir—y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o’r diwedd, a bydd Boris Johnson wedi gwireddu ei addewid i gyflawni Brexit, gan wireddu’r addewid i bleidleiswyr yn Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr, De Clwyd, Ynys Môn, Dyffryn Clwyd, Delyn, Brycheiniog a Sir Faesyfed, a nifer o seddi eraill ledled Cymru.
A gwnawn hynny gyda chytundeb da, cytundeb da sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE, ac sy'n sicrhau nad oes ffin galed ar ynys Iwerddon, cytundeb a sicrhawyd gan Brif Weinidog yn erbyn y disgwyl a chan herio'r holl broffwydo gwae ar ran y gwrthwynebwyr. Ac wrth gwrs, pan fyddwn yn gadael yr UE, bydd y DU o'r diwedd yn gallu adfer rheolaeth ar ei deddfau, ei ffiniau a'i harian. Byddwn yn gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn ogystal ag awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop a bydd gennym bolisi masnach annibynnol sy'n gallu manteisio ar y 90 y cant o dwf economaidd byd-eang sy'n digwydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd.
Byddwn yn parhau, wrth gwrs, i fasnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd, heb dariffau, heb gwotâu, heb daliadau, gan ddal i allu mynd ar drywydd cytundebau masnach ym mhob cwr o'r byd, ac agor marchnadoedd newydd, cyffrous i nwyddau a gwasanaethau o Gymru. Ac mae marchnad y DU, wrth gwrs, yn hanfodol i'r Undeb Ewropeaidd, yn yr un modd ag y mae ein perthynas fasnachu â'r UE yn bwysig i ni. Dyna pam ei bod o fudd i’r ddwy ochr—[Torri ar draws.]. Fe gymeraf yr ymyriad mewn eiliad. Dyna pam ei bod o fudd i’r ddwy ochr gael cytundeb gweddus, yn enwedig i economïau mawr fel Ffrainc a'r Almaen sy'n dibynnu ar lawer o fasnach gyda'r wlad wych hon sydd gennym. Rwy’n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Roeddwn am ofyn i Darren Millar a allwn ni edrych ymlaen at ymddangosiad cyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion a driniwyd â hormonau yn y wlad hon.
Rwy'n credu fy mod am wneud ychydig mwy o gynnydd gyda fy araith.
Bydd cytundeb masnach yn sicrhau, wrth gwrs, y gall busnesau yng Nghymru gael perthynas fasnachu esmwyth a mynediad llawn at farchnad yr UE, ond mae Boris Johnson wedi nodi’n glir hefyd, hyd yn oed wrth negodi’r cytundeb masnach hwnnw, nad yw mynediad at wasanaethau cyhoeddus—ac mae hyn yn wir mewn cytundebau masnach â gwledydd eraill yn y dyfodol hefyd—nad yw mynediad at wasanaethau cyhoeddus fel y GIG yn agored i’w drafod wrth negodi’r cytundebau masnach hynny.
Nawr, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn tua £5 biliwn o gronfeydd strwythurol yr UE, ac eto mae Cymru wedi parhau i fod yn gymwys i gael cymorth am fod y cynnyrch domestig gros wedi aros yn is na 75 y cant o gyfartaledd yr UE. A hyn er ein bod wedi gweld cyn-wledydd comiwnyddol gydag economïau tlotach yn dod yn aelodau yn nwyrain Ewrop.
Ddirprwy Lywydd, ni chafodd cymaint ei wario erioed gyda chyn lleied i ddangos amdano. Mae hyd yn oed y prosiectau y bwriadwyd iddynt adael gwaddol parhaol yng Nghymru, megis deuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd, flynyddoedd ar ei hôl hi, ac maent ddegau o filiynau o bunnoedd dros y gyllideb. Penderfyniadau gwariant gwael ynghylch cymorth yr UE—[Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad mewn eiliad; fel rwyf bob amser yn ei wneud, yn raslon.
Penderfyniadau gwariant gwael ynghylch cymorth yr UE a gyfrannodd at bleidlais Brexit, gyda chymunedau'r Cymoedd yn pleidleisio’n gryfach na neb dros adael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd, er gwaethaf y biliynau a wastraffwyd, ni welwyd bod aelodaeth o'r UE yn eu helpu hwy na'u cymunedau. Fe gymeraf yr ymyriad.
Darren, Pontypridd yw un o'r trefi sy’n adfywio fwyaf yn ne Cymru gyfan yn ôl pob tebyg. Arian Ewropeaidd a alluogodd bedestreiddio; arian Ewropeaidd a'i gwnaeth yn bosibl i'r lido ddigwydd; arian Ewropeaidd sy'n eu galluogi i adfywio hen ganolfan siopa Taf. A ydych yn dweud mai gwastraff arian yw hynny? A wnewch chi ddweud hynny wrth yr holl bobl sy'n cael y swyddi a ddaw i mewn i ardal Pontypridd erbyn hyn?
Yr hyn rwy'n ei ddweud yw ei fod wedi methu cyflawni'r hyn yr addawodd ei gyflawni, sef cael y cynnyrch domestig gros i fyny’n uwch na 75 canradd. A chredaf y dylech gydnabod methiant Llywodraethau Llafur olynol i gyflawni'r hyn yr oeddent i fod i'w gyflawni mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe wnaeth Pontypridd ddal i bleidleisio dros adael, er gwaethaf yr arian a wariwyd oherwydd nad yw wedi cyflawni ar gyfer pobl Pontypridd.
Felly, yma, mae Brexit yn rhoi cyfle newydd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa ffyniant gyffredin newydd, a gynllunnir i leihau anghydraddoldebau ar draws y pedair gwlad. Bydd yn cymryd lle system or-fiwrocrataidd y cymorth Ewropeaidd, sydd wedi methu cyflawni ar gyfer pobl Cymru, ac mae Boris Johnson wedi dweud yn glir iawn y bydd Cymru’n derbyn o leiaf cymaint o arian o dan y trefniadau newydd ag a gawn o gronfeydd strwythurol yr UE. A bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn rhoi cyfle inni wneud gwahanol fuddsoddiadau strategol sy'n gadael gwaddol barhaol—yn gadael gwaddol barhaol go iawn—i gymunedau ledled Cymru sydd mewn angen. Ac wrth gwrs, bydd yn fwy hyblyg na'r trefniadau presennol sy'n methu mynd i'r afael ag unrhyw un o'r pocedi o amddifadedd y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.
Nawr, mae gadael yr UE hefyd yn gyfle i gael Brexit gwyrdd. Mae'n rhoi cyfle inni ailosod a gwella ein rhwymedigaethau amgylcheddol a pharhau i arwain y ffordd fel rydym wedi'i wneud yn y DU ar fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae gadael yr UE yn golygu y gallwn adael y polisi amaethyddol cyffredin aflwyddiannus nad yw wedi cydnabod y gwaith y mae cymaint o ffermwyr eisoes yn ei wneud, a dweud y gwir, i amddiffyn yr amgylchedd. Ac wrth gwrs, fe gawn bontio sefydlog oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd y cyllid yn parhau tan 2022. Wrth gwrs, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod system newydd rheoli tir ac amgylchedd Cymru yn cynnwys cydnabyddiaeth i waith cymaint o ffermwyr fel ceidwaid y tir a'r amgylchedd y maent yn ei reoli.
Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn gadael y polisi pysgodfeydd cyffredin—sy'n destun dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma—gan ein galluogi i adfer rheolaeth ar ein dyfroedd ac adennill y pŵer i gael mynediad at foroedd sydd wedi'u gorbysgota tra'n glynu at safonau uchaf cadwraeth forol.
Pwynt difrifol go iawn, y tu hwnt i'r dadwrdd gwleidyddol ac ati, pwynt dilys, a chyn y ddadl y prynhawn yma: a fyddai’n cytuno bod angen i unrhyw bolisi yn y dyfodol ar bysgodfeydd, y tu hwnt i’r sloganau ynghylch adfer ein rheolaeth ar ein pysgodfeydd, gydymffurfio â’r dystiolaeth wyddonol ar gynnyrch cynaliadwy mwyaf? Hoffwn awgrymu mai’r rheswm am hynny yw y byddwn yn dihysbyddu stociau ein pysgodfeydd fel arall. Felly, a fyddai’n cynnwys yn realiti’r slogan wleidyddol fod angen iddynt fod yn bysgodfeydd cynaliadwy?
Rydych chi ar ei hôl hi. Mae’r Bil Pysgodfeydd, a gyhoeddwyd heddiw yn San Steffan, yn rhoi sylw i’r union bryderon hynny ac yn mynd i’r afael â hwy. Felly, hoffwn pe baech yn rhoi ychydig bach mwy o sylw i'r hyn y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei wneud ar Brexit mewn gwirionedd yn hytrach na beirniadu'n ddigyfeiriad, fel y gwnewch yn aml, o'r meinciau cefn.
Felly, fe gawn gyfle hefyd i gael ein system fewnfudo ein hunain. Mae Boris Johnson wedi ymrwymo i gyflwyno system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau yn debyg i system Awstralia—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn anghwrtais iawn yn gadael y Siambr yn ystod y ddadl ar ôl gwneud cyfraniad. [Torri ar draws.] Mae hynny'n anghwrtais iawn. Rwy'n siŵr fod y Dirprwy Lywydd yn nodi hynny.
Mae Boris Johnson wedi ymrwymo i gyflwyno system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau yn debyg i system Awstralia sy'n ystyried pobl yn seiliedig ar eu sgiliau yn hytrach nag o ble y dônt yn y byd. Bydd yn caniatáu inni ddenu'r disgleiriaf a'r gorau i'n gwlad, ni waeth o ble yn y byd y dônt gan sicrhau bod ymfudo, ymfudo net, yn gostwng i lefelau cynaliadwy.
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
Mae'n ddrwg iawn gennyf, nid oes gennyf lawer o amser ar ôl.
Bydd system fewnfudo fyd-eang newydd y DU yn mynd i’r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch mewnfudo gan barhau i ddiwallu anghenion ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.
Ac wrth gwrs, pan fyddwn wedi cyflawni canlyniad y refferendwm, ar ôl dydd Gwener, mae'n golygu y gallwn ddechrau canolbwyntio, yn cynnwys yma yng Nghymru, ar flaenoriaethau pobl, sef ysgolion, y GIG, a mynd i'r afael â throseddu. Ac mae hyn yn cynnwys recriwtio cyfran Cymru o'r 20,000 o swyddogion heddlu newydd sy'n mynd i fod yn ymuno â'n heddluoedd yma yn y DU. Ac rydych wedi gweld hwb mawr i gyllideb Llywodraeth Cymru—dros £600 miliwn yn y grant bloc y gallwn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r diffygion sylweddol a welsom yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, a thrafodwyd rhai ohonynt y prynhawn yma, a'r ffaith mai ein system addysg yw'r waethaf yn y DU yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr.
Ar ben yr arian hwnnw, wrth gwrs, rydym wedi cael tua £700 miliwn ychwanegol ar ffurf bargeinion twf. Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig—yr unig wlad—sy'n genedl bargeinion twf. Mae pob rhan o'r wlad yn rhan o fargen twf.
Felly, wrth inni adael yr UE ddydd Gwener, mae'n digwydd yn erbyn y cefndir hwn, cefndir nid yn unig o fuddsoddiad ychwanegol, ond o gyflogaeth uwch nag erioed, gyda diwydiannau allweddol fel Airbus yng ngogledd-ddwyrain Cymru eisoes yn cadarnhau eu bod yn gweld y potensial i ehangu ar ôl Brexit. Felly, fy neges yw hon: mae'n bryd i Lywodraeth Cymru symud ymlaen o gwyno am Brexit, i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, i fanteisio ar y cyfleoedd—ac rwyf wedi disgrifio llawer ohonynt y prynhawn yma—ac i roi'r gorau i ymladd Brexit, ei dderbyn a bwrw ati i gyflawni'r manteision er mwyn pobl Cymru.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.
2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.
4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 'Diwygio ein Hundeb' a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ffurfiol.
Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn llai gwleidyddol, mewn un ystyr, na'r hyn rydym newydd ei glywed. Rwy'n croesawu'r cyfle i ystyried effaith cyrraedd y terfyn amser sef 11 yr hwyr amser cymedrig Greenwich ddydd Gwener 31 Ionawr. Bydd fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, sy'n eistedd wrth fy ymyl, yn teimlo'n anesmwyth ar y dyddiad hwnnw gan ei fod yn bwynt allweddol ar gyfer penderfynu a ddaeth digon o bobl i mewn i'r Swans i allu cyrraedd y gemau ail-gyfle, gan fod y terfyn amser trosglwyddo am 11 yr hwyr nos Wener—[Chwerthin.] Nawr, nid yw honno'n ymgais i fychanu'r digwyddiadau arwyddocaol eraill, ond i'n hatgoffa ni i gyd na fydd pob llygad yn canolbwyntio ar y digwyddiad penodol hwnnw. Nawr, bydd llawer o bobl o'n cwmpas yn edrych ar bethau eraill mewn gwirionedd, er na fydd sylw'r newyddion ar ddim byd arall.
A bydd llawer o rai eraill yn ei weld fel adeg pan na fyddwn yn ddinasyddion yr UE mwyach a'r cyfan y mae hynny yn ei olygu i ni—adeg gadarnhaol yng ngolwg rhai; negyddol yng ngolwg eraill. Nawr, rwy'n llwyr gydnabod canlyniad pleidlais y mwyafrif o'r etholwyr a oedd â phleidlais yng Nghymru ym mis Mehefin 2016 a bod y DU yn gadael yr UE, ond unwaith eto, rwy'n pwysleisio bod y ffordd rydym yn gadael a'r llwybr rydym yn ei ddilyn yn hollbwysig i'n dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol disglair, a byddaf bob amser yn gweithio tuag at hynny, ond mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn rhoi prawf ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraethau, ein bod yn dadansoddi'n feirniadol y strategaeth ar gyfer economi gref a bywiog yn y dyfodol a'n bod yn craffu ar y ddeddfwriaeth a gyflwynir i sicrhau bod y gyfraith sy'n effeithio ar y bobl rydym yn eu cynrychioli yn gyfraith dda, nid yn un wallus nac wedi'i rhuthro er mwyn darparu ateb poblyddol yn unig.
Rydym i gyd yn gwybod y bydd y potensial ar gyfer gadael yr UE yn dod drwy'r cysylltiadau masnachu y mae'r DU yn eu meithrin gyda gwledydd eraill. Nid oes amheuaeth na fydd pryderon ynglŷn â sut y bydd mandadau'r DU ar gyfer cytundebau o'r fath yn cael eu creu a'r rôl a fydd gan genhedloedd datganoledig ar gyfer cytundebau o'r fath wrth bennu'r mandad hwnnw. Mae nifer ar draws y Siambr wedi mynegi barn ei bod yn bwysig fod pob gwlad ddatganoledig yn rhan o'r tîm sy'n gosod y mandad a hefyd y tîm sy'n cyflawni negodiadau. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i sefydlu'n dda yn y Senedd hon.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith ffurfiol i sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru na'r Senedd hon yn cael unrhyw lais wrth negodi a chadarnhau'r cytundebau hyn, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle maent yn ymwneud â chymhwysedd datganoledig. Dylem fod yn rhan o'r broses o bennu cyfeiriad y negodiadau a chael ein cynnwys yn y broses o sefydlu'r mandad ar gyfer y negodiadau hynny. Dylem fod yn yr ystafell pan fydd negodiadau'n trafod cymwyseddau datganoledig neu faterion sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn digwydd yn aml ymhlith ein cymdogion Ewropeaidd ac mewn mannau eraill yn y byd, felly pam ddim yma?
Nawr, rwy'n deall y bu cyfarfod o fforwm y gweinidogion ar fasnach, ond nid yw'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi eto, ac mae eglurhad ar ein rôl yn y broses yn dal i fod yn ymylol. Rwy'n croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i symud yr agenda yn ei blaen o ran sut y gallwn newid y setliad cyfansoddiadol presennol ac rwy'n cefnogi ei safbwynt fel y'i nodir yn y ddogfen, 'Diwygio ein hundeb: cyd-lywodraethu yn y DU' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'n amlwg mai dyma'r dull o weithredu sy'n gweddu i fudd Cymru a'n dinasyddion, gallu dylanwadu ar unrhyw gytundeb masnach er mwyn iddo fod o fudd i Gymru a'i dinasyddion.
Nid oes ond angen inni edrych ar ddigwyddiadau'r wythnos hon i ystyried y risgiau a all ddigwydd mewn negodiadau masnach o'r fath ac felly, pam y mae'n rhaid gwrando ar ein llais a rhoi ystyriaeth briodol iddo. Ddoe er enghraifft, clywsom gan Lywodraeth y DU eu bod yn mynd i dderbyn Huawei fel rhan o ddyfodol y rhwydweithiau 5G, ond dros y dŵr, gwelsom seneddwyr Gweriniaethol yn trydar sut y byddai hyn yn effeithio ar eu hystyriaeth o unrhyw gytundeb masnach DU-UDA—gan geisio blacmelio'r DU i bob pwrpas i ildio i benderfyniadau eu Llywodraeth a'u buddiannau hwy, nid ein buddiannau ni. Mae'n bwysig nad yw ein buddiannau yn cael eu haberthu er mwyn cyd-fynd â buddiannau gwleidyddol un grŵp yn unig. Bydd anawsterau'n codi o hynny.
Y tro diwethaf inni drafod cytundebau masnach yn y Siambr hon, cyflwynodd y Ceidwadwyr welliant sy'n gwadu ein pryderon dilys ynghylch safbwynt negodi masnachol presennol Llywodraeth y DU. Yn hytrach, mae'n well ganddynt eu cau o feddyliau pobl. Roedd eu gwelliannau hwy'n datgan na ddylem gymryd rhan mewn negodiadau masnach am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl. Rwy'n gobeithio eu bod yn newid eu meddwl yn awr. Ond beth y mae hynny'n ei ddweud am uchelgeisiau'r Ceidwadwyr Cymreig? Maent yn fwy na pharod i'w adael i San Steffan a pheidio â'n cynnwys ni—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe gymeraf eich ymyriad, Darren.
Ar yr union bwynt hwnnw. Rydym wedi dweud yn gwbl glir ein bod o'r farn fod angen trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru mewn unrhyw drefniadau a chytundebau masnach yn y dyfodol. Rydym wedi dweud hefyd er hynny fod Llywodraeth y DU yno i weithredu er budd gorau'r DU gyfan a hi fydd y corff a fydd yn arwyddo ar y llinell fel petai, gyda'r cytundebau masnach hynny, ac felly mae'n amhriodol rhoi feto i Gymru neu unrhyw ran arall o'r DU.
Diolch i chi am ddangos eich bod chi'n symud eich cefnogaeth i'r cyfeiriad rydym ni yn ei feddwl. Ni ddywedais feto erioed ac rwyf bob amser wedi dadlau yn erbyn feto. Hyd yn oed yn y ddadl ddiwethaf, dadleuais yn erbyn feto. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r trafodaethau gael eu gosod gan fandad y cytunwyd arno gyda'r holl wledydd datganoledig oherwydd mae'n hanfodol oherwydd bod buddiannau'r gwledydd datganoledig yn bwysig.
Ddirprwy Lywydd, gallaf weld yr amser felly fe ddof i ben gydag un pwynt arall sef y pwynt am ein gweithlu a mewnfudo, a'r rôl bwysig y mae dinasyddion yr UE yn ei chwarae yn darparu gwasanaethau mewn materion cyhoeddus a phreifat ledled Cymru. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi cyhoeddi ei adroddiad, yn dilyn y cais gan y Swyddfa Gartref, ar ddyfodol y system ac nad oeddent yn llwyr gefnogi system sy'n seiliedig ar bwyntiau. Nodwyd ganddynt eu bod yn dal i gredu y dylid cael cap ar lefel cyflog. Roeddent wedi'i ostwng i £25,600, ond roedd busnesau'n dal i fod eisiau cap is na £20,000, ac roeddent yn teimlo na fyddai system yn seiliedig ar bwyntiau yn cyflawni ar gyfer anghenion gweithlu'r DU, a Chymru'n enwedig yn fy marn i. Mae angen inni edrych ar anghenion gweithlu Cymru a sut y byddai'r system honno'n gweithio i ni. Mae'n bwysig ein bod yn cael hynny er mwyn inni allu craffu'n ofalus ar y Bil mewnfudo pan ddaw. Nid wyf wedi cael fy argyhoeddi eto y bydd y system bwyntiau arfaethedig yn cyflawni dros Gymru mewn gwirionedd. Felly, credaf fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol disglair; byddaf yn gweithio dros ddyfodol disglair, ond hefyd, byddwn yn craffu'n ofalus iawn i sicrhau bod unrhyw beth sy'n cael ei gyflwyno yn diwallu anghenion pobl Cymru.
Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, pleidleisiodd Cymru i adael, ac fe wnaeth hynny eto yn etholiadau Ewrop y llynedd. Yn etholiad cyffredinol y DU fis diwethaf, pleidleisiodd pobl gogledd Cymru o blaid cyflawni Brexit. Ac eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi gwrthod dilyn cyfarwyddyd y bobl ar hyn a nifer gynyddol o faterion eraill dro ar ôl tro.
Gan ddyfynnu busnesau yng ngogledd Cymru, dywedodd y Daily Post fis Hydref diwethaf,
Mae ansicrwydd yn tanio ansicrwydd... Mae angen diwedd ar... ansicrwydd Brexit.
Fis Tachwedd diwethaf, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain,
Mae cymaint o fusnesau yma yng Nghymru yn llawn optimistiaeth a brwdfrydedd. Maent eisiau siarad am gryfderau Cymru—a gweithredu arnynt. Er mwyn dangos bod Cymru ar agor i fusnes. Ond maent yn daer am roi terfyn ar ansicrwydd.
Ac eto, mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi bwydo'r ansicrwydd ar bob cyfle. Maent yn codi bwganod ynghylch dyfodol y GIG. Fodd bynnag, roedd maniffesto 2019 y Ceidwadwyr yn gwbl glir nad yw ein GIG ar werth. Mae'n dweud:
Pan fyddwn yn trafod cytundebau masnach, ni fydd y GIG yn rhan o'r drafodaeth. Ni fydd y pris y mae'r GIG yn ei dalu am gyffuriau yn rhan o'r drafodaeth. Ni fydd y gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu yn rhan o'r drafodaeth.
Maent yn codi bwganod am gronfa ffyniant gyffredin y DU—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe gymeraf un ymyriad, gwnaf.
Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ond y gwir amdani yw bod y rheini'n dal yn i fod yn amcanion negodi clir gan Lywodraeth yr UDA.
Mewn unrhyw drafodaethau, mae'r ddwy ochr yn dechrau gyda rhestrau hir o ddymuniadau, ond rhaid i gytundeb ddod allan ar y diwedd ac mae honno'n llinell goch i Lywodraeth y DU.
Maent yn codi bwganod ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU, pan oedd ein maniffesto Ceidwadol yn y DU yn datgan yn glir y bydd Cymru'n cael o leiaf yr un lefel o gymorth ariannol ag a gaiff ar hyn o bryd gan yr UE. Roedd Llywodraeth Geidwadol y DU hefyd yn gwarantu y bydd yn rhoi arian cyfatebol i amaethyddiaeth drwy gydol y Senedd hon yn y DU ac yn bwysicaf oll, bydd yn cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac y maent yn parhau i'w gefnogi.
Maent yn codi bwganod am ddyfodol cynllun Erasmus+ sy'n ariannu cyfleoedd i bobl ifanc hyfforddi ac astudio ar draws Ewrop. Fodd bynnag, dywedodd Llywodraeth y DU, wrth inni ddechrau negodi gyda'r UE ar y berthynas yn y dyfodol, ein bod am sicrhau y gall myfyrwyr y DU ac Ewrop barhau i elwa ar systemau addysg ei gilydd, systemau addysg sy'n arwain y byd, a'i bod yn anghywir dweud y bydd y DU yn rhoi'r gorau i gynllun Erasmus.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod na fydd y DU yn derbyn plant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain o Ewrop ar ôl iddi adael yr UE. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw ei pholisi ar blant sy'n ffoaduriaid wedi newid, ac y byddant yn parhau i wneud popeth yn eu gallu i alluogi plant i hawlio lloches a chael eu haduno â'u teuluoedd—[Torri ar draws.] Os yw'n fyr.
Fe fydd yn fyr. Rwy'n derbyn yr hyn rydych newydd ei ddweud. Felly, pam y credwch fod Llywodraeth y DU wedi tynnu'r rhannau hynny allan o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael) ar ôl iddynt gael eu mewnosod gan yr Arglwyddi? Fe wnaethant eu gwrthod yn llwyr. Nid oedd angen eu gwrthod.
Mae'n debyg i dderbyn cyngor ar chwarae pocer gan gamblwr sydd wedi colli ei arian i gyd.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod am y trafodaethau masnach sydd i ddod gyda'r UE. Fodd bynnag, mae Cymru'n elwa o berthyn i farchnad sengl ac undeb tollau'r DU, lle mae'r rhan fwyaf o economi Cymru'n cael ei masnachu. Fel y dywedodd cyn-lysgennad y DU yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, yr hyn sydd ar goll o gymaint o'r dadansoddiadau yw ymwybyddiaeth y gallai gwarged masnach yr UE gyda'r DU o £94 biliwn gael ei beryglu, ac mae hynny'n rhoi mantais enfawr i'r DU.
Mae arolwg hyder prif swyddog ariannol Deloitte yn ddiweddar yn dangos y naid fwyaf erioed yn hyder busnesau, a dylai'r Aelodau gyferbyn roi'r gorau i geisio rhoi ergyd i'w hyder. Yr wythnos diwethaf, rhagwelodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol y bydd economi'r DU yn tyfu'n gyflymach nag ardal yr ewro eleni, gan gymryd y bydd Brexit a phontio esmwyth i berthynas newydd yn digwydd mewn modd trefnus, sef yr hyn y mae pawb ohonom yn ei ddymuno. Canfu arolwg prif weithredwr rhyngwladol PricewaterhouseCoopers fod prif weithredwyr Ewropeaidd o'r farn fod y DU yn farchnad allweddol ar gyfer twf a buddsoddiad, yn ail i'r Unol Daleithiau, Tsieina a'r Almaen yn unig yn rhyngwladol.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod ynghylch colli arian yr UE er mai arian y DU wedi'i ailgylchu ydyw mewn gwirionedd, ac mae Canghellor y DU wedi datgan y bydd yn defnyddio ei gyllideb gyntaf ar ôl i'r DU adael yr UE i bwmpio £100 biliwn i mewn i brosiectau seilwaith ledled y DU i helpu rhannau o'r DU sydd wedi'u gadael ar ôl a rhyddhau potensial y DU.
Mae Prif Weinidog Cymru yn honni bod Deddf yr UE (Cytundeb Ymadael) yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 heb gydsyniad y Senedd hon. Eto i gyd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi datgan yn glir nad yw'r Ddeddf hon yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiwygio'r setliad datganoledig ac y bydd yn arwain at fwy o bwerau i'r Cynulliad mewn gwirionedd wrth i feysydd polisi o'r UE gael eu trosglwyddo i'r Llywodraethau datganoledig.
Wrth i Boris Johnson gyflawni ei addewid i gyflawni Brexit erbyn 31 Ionawr, gadewch i ni adeiladu Cymru sy'n edrych tuag allan mewn Teyrnas Unedig fyd-eang.
Bydded i'r iacháu ddechrau, meddai Boris Johnson ar ôl ennill yr etholiad cyffredinol, ac a barnu yn ôl y cyfraniadau ers hynny, mae'r broses iacháu yn mynd yn dda iawn. [Chwerthin.] Mae cymodi ac iacháu yn galw am rywfaint o estyn dwylo ar ran y ddwy ochr yn y ddadl. Fel arall, gwelwn ymorchestu aflednais ar ran y buddugwyr, a chwerwder ac anobaith dwfn ar ran y rhai a drechwyd. Prin fod rhwbio ein trwynau yn ein gorchfygiad dro ar ôl tro—'Fe golloch chi'—yn arwydd o estyn allan mewn ysbryd o gydgymodi ac iacháu.
Fodd bynnag, rydym yn y fan lle rydym. Mae pawb ohonom yn gadael yn awr, fel y dywedodd Adam Price yr wythnos hon. Mae iacháu yn golygu ei bod yn bryd dechrau meddwl yn gadarnhaol, er gwaethaf popeth, mae'n bryd symud o gipio pŵer i ennill pŵer, a manteisio ar rywfaint o'r hyblygrwydd a roddir i Gymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd—hyblygrwydd sy'n cynnwys gallu Banc Datblygu Cymru i ganiatáu benthyca heb gyfyngiadau rheolau cymorth gwladwriaethol; datganoli pŵer dros dreth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf ar eiddo, ardoll prentisiaethau, toll teithwyr awyr a TAW; hyblygrwydd fel datblygu rheolau caffael newydd i gefnogi ein heconomi sylfaenol; hyblygrwydd i greu porthladdoedd rhydd Cymreig mewn porthladdoedd a meysydd awyr allweddol; hyblygrwydd i ddatblygu trwyddedau gwaith Cymreig fel rhan o system fudo Gymreig. Draig goch Cymru yn adfer rheolaeth. Gadael i Gymru a'i phobl gael eu rhyddhau i wireddu eu potensial llawn, dilyffethair.
Ond mae Cymru a'i bodolaeth yn wynebu bygythiad gwirioneddol oherwydd y ffordd y pleidleisiodd Cymru yn y refferendwm. Pleidleisiodd Cymru dros adael—fe wnaeth cyni a'r ffaith bod pobl yn teimlo wedi'u gadael ar ôl sicrhau'r canlyniad hwnnw. Nawr, credaf y dylid parchu canlyniadau refferenda, ond mae hynny'n golygu pob refferendwm, gan gynnwys yr un blaenorol yng Nghymru yn 2011 am ragor o bwerau i'r Senedd, gan fod digwyddiadau diweddar yn awgrymu bod canlyniad y refferendwm yn 2016 rywsut yn curo canlyniad refferendwm 2011.
Rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei rhewi allan o'r negodiadau Brexit ers iddynt ddechrau yn 2016—nid yw yn yr ystafell hyd yn oed. Rydym wedi gweld fframweithiau cyffredin, cyd-lywodraethu honedig, heb fawr o dystiolaeth o'r 'cyffredin'. Gwelsom Lywodraeth Cymru'n cael dim cydnabyddiaeth mewn trafodaethau masnach, fel y dywedodd David Rees, a chyda'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'r manylion ynglŷn â ble mae cyllid Ewropeaidd yn mynd bob amser wedi cael ei benderfynu yma yn y Senedd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr mae Boris am benderfynu. Rydym yn wynebu ymgais i gipio pŵer.
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Dai. Mae'n anghywir dweud bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yn y Senedd—bu'n rhaid eu cymeradwyo ym Mrwsel yn gyntaf o dan yr amlen saith mlynedd o arian a oedd ynghlwm wrth y cronfeydd ailddatblygu hynny. Felly, rhaid i chi gydnabod bod partneriaeth i ddatblygu yma, ac rydym am weld y bartneriaeth honno'n datblygu gyda statws cyfartal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ond ni allwch ddweud mai yma'n unig y câi'r penderfyniadau hynny eu gwneud dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Nid yma'n unig. Nid oedd yn cynnwys Llywodraeth y DU.
Ac rydym wedi gweld gyda'r Bil cytundeb ymadael y tair gwlad ddatganoledig yn pleidleisio yn ei erbyn, ac mae'n dal i fynd drwodd. Felly, beth am gydsyniad? Ein cydsyniad ni yma—a yw'n golygu unrhyw beth mewn gwirionedd? A chymal 36 o'r Bil cytundeb ymadael—mae Senedd San Steffan yn sofran. Beth a ddigwyddodd i'r rhan 'gyffredin'? Mae ein pwerau'n cael eu cipio'n ôl.
Nawr, byddai'r meinciau gyferbyn yn cyfiawnhau hyn ar sail canlyniad yr etholiad cyffredinol, ac ni allwch ddadlau â 365 o ASau Torïaidd—345 ohonynt yn Lloegr. Mae'r tirlithriad Ceidwadol hwn yn digwydd yn Lloegr, ac eto mae ein trwynau ni'n cael eu rhwbio ynddo yng Nghymru hefyd, gan eich 14 o Aelodau Seneddol—[Torri ar draws.] Rydym wedi clywed digon oddi wrthych chi, Darren.
A ydych chi'n derbyn ymyriad?
Felly, yn gyfansoddiadol, beth am Gymru? Mae gan Iwerddon achos i ddod yn Iwerddon unedig. Mae'n ddigon posibl y bydd yr Alban yn mynd am annibyniaeth. Beth am Gymru? Cymru wedi'i weldio fwyfwy wrth Loegr a'i hanwybyddu a'i gwthio i'r cyrion a'i chymhathu, neu Gymru'n creu ei llwybr ei hun tuag at annibyniaeth, gan iacháu canrifoedd o loes?
Fel y dywedodd y diweddar Winston Churchill yn 1947, ceir teimlad cyffredinol yn ein gwlad y dylai'r bobl reoli, rheoli'n barhaus, ac y dylai barn y cyhoedd, a fynegir gan bob dull cyfansoddiadol, siapio, arwain a rheoli gweithredoedd Gweinidogion sy'n weision iddynt, nid yn feistri arnynt.
Dyma eiriau doeth iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi'u clywed. Er bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gadewch i mi ddechrau arni. Rydych wedi ymgyrchu dros aros yn yr UE. Rydych wedi cynnig y dylai'r Senedd ddeddfu ar gyfer refferendwm gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Rydych wedi gweld y Prif Weinidog yma—ac nid wyf yn cyfeirio ato fel Mark Drakeford, er bod pawb yn y Siambr hon, ar y meinciau acw, yn cyfeirio at Brif Weinidog y DU fel 'Boris Johnson' neu 'Johnson' hyd yn oed—gyda Phrif Weinidog yr Alban, yn galw am refferendwm pellach. A'r wythnos diwethaf, fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn y Bil cytundeb ymadael.
Nid yw Plaid Cymru'n ddim gwell chwaith pan ddaw'n fater o barchu democratiaeth pleidleiswyr. Cyflwynodd Plaid Cymru gynnig yn galw ar y Cynulliad i ddatgan ei gefnogaeth ddigamsyniol i refferendwm cadarnhau ar unrhyw gynnig gan y Prif Weinidog i fynd â'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Mae wedi cymryd tan yn awr, yr wythnos hon, i arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gydnabod ei bod yn bryd canolbwyntio ar y cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil Brexit.
Yn ddiddorol, credaf fod Plaid Cymru wedi deall o'r diwedd, a'u bod yn sylweddoli bellach na ellid cael y fath beth â Chymru annibynnol o fewn yr UE. Cofiwch chi, efallai ei fod yn deillio mwy o'u sylweddoliad fod yr etholiadau ar y gorwel, a'u bod wedi gweld yr arolygon barn diweddar.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio, er gwaethaf anogaeth eraill yn ei phlaid.
Fe ddyfynnodd Winston Churchill. A yw hi hefyd yn cytuno â'r hyn a ddywedodd ar 19 Medi 1946 yn Zurich pan alwodd am unol daleithiau Ewrop?
Wel, ni chlywais hynny, felly—. Nid oeddwn yn bodoli bryd hynny.
Ond o'i roi'n syml, mae'r UE yn sugno sofraniaeth oddi wrth ein Llywodraeth genedlaethol ac yn ei rhoi yn nwylo comisiynwyr anetholedig, ac mae i wadu democratiaeth, a lladd refferenda ei ganlyniadau ei hun. Dywedodd Winston Churchill yn gwbl gywir mai'r bobl a ddylai reoli ac mai eu gweision yw Gweinidogion, nid eu meistri. Mae'r bobl wedi dwyn gwleidyddion Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gyfrif, gan ddychwelyd y nifer uchaf o ASau Ceidwadol o Gymru ers 1983 yn ogystal â fy AS fy hun, Robin Millar, gyda mwyafrif llawer mwy o faint. Mae fy nghydweithwyr yn cadw at ymrwymiadau ein maniffesto, ac rwyf wrth fy modd y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn gadael yr UE am 11 o'r gloch ar 31 Ionawr.
Mae'n bryd i chi ymrwymo yn awr i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr UE. Mae'n bryd manteisio i'r eithaf yn awr ar y manteision a ddaw yn sgil Brexit. Ac a wyddoch chi beth sy'n drist i mi fel Aelod Cynulliad? Pan glywaf bobl ar y meinciau acw'n dweud, 'O, alla i ddim aros nes bod y cyfan yn mynd o chwith a gweld beth fyddwch chi'n ei ddweud wedyn.' [Torri ar draws.] Clywais hynny'n cael ei weiddi ar draws y Siambr.
Bydd y DU yn gallu creu cytundebau masnach newydd am y tro cyntaf mewn bron i hanner canrif. Mae'n ymwneud â chreu Prydain fyd-eang ac rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny. Eisoes, cytunwyd ar tua 20 o gytundebau parhad, sy'n cynnwys 50 o wledydd neu diriogaethau. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol hefyd o sicrhau perthynas agos â'r UE. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf. Nid wyf yn gweld pam y mae'n rhaid iddo fod yn naill ai/neu. O gofio ein bod eisoes wedi ein cysylltu a bod ein diffyg masnach gyda'r UE yn £64 biliwn yn 2017, rwy'n hyderus y bydd cytundeb masnach rydd newydd wedi ei sicrhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae Llywodraeth y DU yn gofalu am fusnesau ac yn creu platfform y gallant ffynnu ohono. Er enghraifft, mae ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cynyddu cymorth i ariannu allforion, wedi adeiladu platfform newydd i helpu busnesau bach a chanolig eu maint gyda chontractau dramor, ac wedi datblygu strategaeth i helpu i gynyddu allforion Prydain i 35 y cant o'r cynnyrch domestig gros.
Rydym yn gofalu am ein ffermwyr hefyd, gan fod ymrwymiad clir na fyddwn yn rhoi'r gorau i'n safonau bwyd rhagorol. Rhaid i unrhyw gynhyrchion newydd sy'n dymuno dod i mewn i farchnad y DU gydymffurfio â'n safonau uchel o ran lles anifeiliaid a diogelwch bwyd.
Pleidleisiodd Cymru i adael, pleidleisiodd y bobl i adael, felly rwy'n falch ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud popeth posibl i gefnogi buddiannau gorau pob rhan o'n gwlad. Mae'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cadarnhau y bydd yr un faint o arian yn dod i Gymru ag sy'n dod o'r UE ar hyn o bryd, a bydd y gronfa ffyniant gyffredin newydd yn cynnig cyfle i fynd i'r afael ag amddifadedd a chodi safonau byw yn rhai o'r rhannau tlotaf o Gymru. Gall Brexit fod, ac mae Brexit, yn olau disglair i Gymru, felly, yn bersonol, byddaf yn dathlu ei gyflawniad nos Wener a dechrau Prydain fyd-eang, Cymru fyd-eang. A byddaf yn gwneud bongs San Steffan am 11 o'r gloch ar ei ben.
Hyderaf y bydd yr Aelod yn mwynhau ei pharti a'i bongs. Roeddwn yn siarad ddoe â Phrif Weinidog Cymru am y gwahanol ffyrdd y byddem yn nodi diwrnod Brexit, ac rwy'n falch o weld y Ceidwadwyr yn cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Clywaf leisiau o wahanol ochrau yn dweud y dylem ddod ynghyd, a chredaf fod hwnnw'n deimlad clodwiw. Rwy'n siomedig nad yw'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr, oherwydd mae'n fy nharo i na ddylai fod yn wrthun iddynt, ac rwy'n credu y byddai hynny wedi helpu i greu tir cyffredin ar draws y Siambr.
Siaradodd David Rees—a chlywais Aelodau Llafur eraill yn dweud pethau tebyg—a dywedodd ei fod yn llwyr gydnabod ac yn derbyn canlyniad y refferendwm. Rwy'n ei gofio'n dweud hynny yn 2016 hefyd, a phan oeddwn yn gwasanaethu ar ei bwyllgor, fe gyfeiriai ar y dechrau at, 'Pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd', ac yna trodd yn 'Os', ac yna, gyda'i blaid, ymgyrchodd am ail refferendwm i roi'r canlyniad hwnnw i'r naill ochr a chael un arall. [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad.
Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Yn amlwg, un o'r problemau a welsom yn 2016 i 2019 oedd yr anhrefn llwyr a gafodd ei roi ar yr holl broses gan y Llywodraeth Geidwadol. Gwelsom fethiant ar ôl methiant ar ôl methiant i'w gyflawni mewn gwirionedd a chael cytundeb a fyddai'n fuddiol i Gymru. Onid ydych yn cytuno, yn y sefyllfa honno, na allwch gefnogi rhywbeth nad yw'n cyflawni dros bobl Cymru?
Na, nid wyf yn cytuno. Rwy'n derbyn rhan gyntaf datganiad yr Aelod, yn enwedig y cyfeiriad at Lywodraeth Theresa May a'r ffordd y gweithredodd. Nid fy lle i yw amddiffyn Llywodraeth Theresa May, ond hoffwn nodi mai ymddygiad y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin a arweiniodd at y sefyllfa a gawsom. Ac rwy'n ofni fy mod yn amau didwylledd llawer o'r ASau a geisiodd rwystro Brexit i bob pwrpas drwy bleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb, gan fwriadu pleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb—hyd yn oed pan gawsant bopeth y gwnaethant ofyn amdano, gan gynnwys undeb tollau, fe wnaethant fynnu mwy. Ac roeddent yn gamblo ar geisio rhwystro Brexit, ethol Llywodraeth Corbyn, a chael ail refferendwm ac ennill, a bod pleidlais dros aros, fel ein bod yn aros yn yr UE. Nawr, gallwn farnu pa mor synhwyrol neu fel arall oedd y gambl, a chredaf mai dyna oedd y cyfeiriad at y gamblwyr a gollodd bopeth y clywsoch amdanynt—[Torri ar draws.]—yn gynharach.
Ond—ond—mewn ysbryd mawrfrydig, hoffwn dderbyn didwylledd yr hyn a ddywedoch chi heddiw, David, oherwydd credaf ei bod o fudd i bob un ohonom geisio symud ymlaen a gwneud y gorau o Brexit o ble bynnag y daethom fel unigolion. Ac rwy'n derbyn fod y rhai—. Rwy'n credu bod pum rhan o chwech o'r Siambr wedi pleidleisio dros aros o gymharu â'r un rhan o chwech ohonom a bleidleisiodd dros adael. Nid wyf yn bychanu gwladgarwch y rhai a wnaeth asesiad gwahanol o'r manteision i'r hyn a wneuthum i, a byddwn yn awr yn ceisio symud ymlaen gyda'n gilydd a chael y gorau a allwn i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig.
Ar y nodyn hwnnw, symudaf ymlaen at araith Dai Lloyd. Roeddwn yn meddwl ei bod yn ddadlennol iawn, y ddadl a gafodd gydag Andrew R.T. Davies. Ni wnaeth wrthwynebu a dweud bod y DU yn cymryd mwy o bwerau na'r UE; y ffaith mai Llywodraeth y DU yn hytrach na'r UE ydoedd a wrthwynebai. Ac rwy'n mabwysiadu ymagwedd bragmatig ar hyn ac yn cefnogi 4c o'r cynnig hwn,
'sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol', oherwydd mae'n bwysig cydnabod bod yr arian hwnnw, boed yn benodol ar gyfer cronfeydd datblygu rhanbarthol neu i lenwi'r bwlch cyllidol o £15 biliwn sydd gennym yng Nghymru, yn dod o weddill y Deyrnas Unedig ac o Loegr yn bennaf. A nod datblygu rhanbarthol yw ceisio gwella ardaloedd sy'n llai cefnog ar yr adeg pan fyddant yn cael yr arian hwnnw. Ac rwy'n credu bod rôl i Lywodraeth y DU, a rôl lawn iawn i Lywodraeth Cymru hefyd. A bydd y rolau hynny'n wahanol i'r hyn oeddent o fewn strwythurau'r UE. Ac yn gyffredinol, buaswn yn falch o weld rhywbeth lle nad yw pwerau a dylanwad cymharol Llywodraeth y DU ar wario arian datblygu rhanbarthol sy'n dod o'r DU yng Nghymru yn fwy na'r hyn a gymerwyd gan yr UE, ond credaf y dylem gael ymagwedd bragmatig i geisio gwneud i hynny weithio.
Cyfeiria Dai at refferendwm 2011 ac at refferendwm 2016, a chredaf mai un mater sy'n codi, oherwydd y tair blynedd a hanner diwethaf a sut y mae'r Cynulliad hwn wedi gweithredu, a'r cynnig ar ôl cynnig ar ôl cynnig, yn benodol neu o ran eu heffaith, i atal Brexit, er bod Cymru wedi pleidleisio dros adael, i lawer o bleidleiswyr mae hynny wedi gostwng eu hasesiad o'r lle hwn a'u hymlyniad i'n Cynulliad Cenedlaethol. Ac rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ac mae hynny wedi digwydd eto. Beth bynnag fo'r rhesymeg a roddwyd adeg y bleidlais, mae pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwnnw a dweud wedyn pa mor ofnadwy yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen er bod y tair deddfwrfa neu weinyddiaeth ddatganoledig wedi pleidleisio yn ei erbyn ac yn ei wrthwynebu, yn anwybyddu'r ffaith bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r cytundeb. Nid yw'n gytundeb y mae fy mhlaid yn meddwl ei fod yn un arbennig o wych, ond dyna'r cytundeb. Mae'n llawer gwell na chytundeb Theresa May. Rydym yn gadael, rydym yn mynd i gael Brexit—
Nid oes ganddo amser; nid oes ganddo amser ar ôl.
—gadewch i ni ei wneud yn llwyddiant. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd.
Wel, rwy'n codi i gefnogi'r cynnig a gafodd ei gyflwyno mor gadarn gan Darren Millar y prynhawn yma. Ac i mi, dydd Gwener fydd penllanw gwaith oes, gan i mi ymuno â'r gynghrair a wrthwynebai'r farchnad gyffredin ym mis Gorffennaf 1967 yn fachgen ysgol yn Rhydaman, a bu'n elfen sydd wedi rhedeg drwy fy holl fywyd gwleidyddol, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi wynebu troeon annisgwyl yn fynych, ac nid yn lleiaf yr un a ddaeth â mi yma.
Ond yr hyn a barodd y syndod mwyaf oedd pan gefais fy mhenodi i Gyngor Gweinidogion yr UE gan John Major i gynrychioli'r DU ar faterion y farchnad fewnol. Ar hyd fy oes, ac yn wir, wrth wneud y swydd honno, nid wyf erioed wedi gwyro yn fy nghred y byddai Prydain—ac mae hynny'n cynnwys Cymru, yn amlwg—yn cael ei llywodraethu'n llawer gwell pe bai'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol am ein cyfreithiau yn cael eu hethol gan, ac yn atebol i'r bobl. Ac mae'r dechnocratiaeth anetholedig ym Mrwsel, sy'n cael ei haddoli i'r fath raddau gan gynifer o'r rhai sydd am aros, bob amser wedi bod yn destun syndod braidd yn anhygoel i mi. Nid wyf erioed wedi deall yn iawn pam y byddai unrhyw un yn cymeradwyo hynny fel y ffurf orau ar lywodraeth.
Soniodd Carwyn Jones am Winston Churchill yn gynharach. Dywedodd Churchill y geiriau cyfarwydd mai democratiaeth yw'r gwaethaf o bob system wleidyddol nes i chi ystyried y dewisiadau eraill. Ac wrth gwrs, camgyhuddiad yw dweud bod araith Zurich Churchill yn 1946 yn cymeradwyo'r Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd, oherwydd dywedodd Churchill—[Torri ar draws.] Na, ond dyma'i ragflaenydd, rhagflaenydd y mudiad Ewropeaidd, a sefydlwyd, rwy'n credu, yn y flwyddyn ganlynol.
Fel y dywedodd Churchill yn enwog:
Rydym ni gydag Ewrop, ond nid ohoni. Rydym wedi ein cysylltu, ond heb ein cyfaddawdu.
A gwelai Ewrop fel undod ar y cyd â'r ymerodraeth Brydeinig, a oedd yn dal i fod gennym bryd hynny—gyda'i gilydd fel y ddau rym mawr er daioni yn y byd. Ond ni welai Brydain fel rhan o'r endid Ewropeaidd hwnnw mewn gwirionedd.
Ac yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wedi brwydro i gyflawni'r hyn y byddwn yn ei gyflawni ddydd Gwener. Felly, mewn gwirionedd mae'n foment deimladwy iawn i mi, a mater i ni yn llwyr, wrth gwrs, yw'r hyn a wnawn ohono. Mae cenedl yn llwyddo neu'n methu yn y pen draw yn ôl cryfder a phenderfyniad ei phobl ei hun.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
O ystyried yr ehangder a'r rhychwant hanesyddol sydd ganddo heddiw, tybed a fyddai'n difaru unrhyw beth, wrth edrych yn ôl, am ei rôl ei hun yn pleidleisio dros gytuniad Maastricht?
Wel, rwy'n ofni bod yr Aelod—[Torri ar draws.] Rwy'n ofni bod yr Aelod yn camgymryd yn arw, oherwydd er mai chwip y Llywodraeth oeddwn i ar y pryd, treuliais gymaint o amser yn ceisio perswadio Teresa Gorman i bleidleisio dros y Llywodraeth nes i mi fethu'r bleidlais ei hun. [Chwerthin.] Ac felly fi oedd yr unig aelod o'r Llywodraeth na phleidleisiodd dros gytuniad Maastricht. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ganiatáu i mi nodi cymwysterau mwy trawiadol byth, ond—. Ac fe wneuthum oroesi.
Felly, mater i ni yn llwyr yw'r hyn a wnawn o Brexit. Ac rwy'n pryderu braidd, felly, fod Sajid Javid wedi dweud yr wythnos diwethaf:
y flaenoriaeth gyntaf yw... cael y cytundeb â'r UE, sydd, yn fy marn i, yn dacteg negodi ffôl, oherwydd dywedodd Steve Mnuchin, Ysgrifennydd Trysorlys America, y diwrnod o'r blaen fod yr Unol Daleithiau yn barod i neilltuo llawer o adnoddau ar gyfer sicrhau cytundeb masnach gyda'r DU eleni, a dywedodd mae gan y DU a'r UDA economïau tebyg iawn gyda ffocws mawr ar wasanaethau, ac rwy'n credu y bydd hon yn berthynas bwysig iawn.
[Torri ar draws.] Gwnaf, fe ildiaf eto.
Diolch i'r Aelod. A yw hefyd yn dderbyniol, yn eich barn chi, mai'r rheswm y mae'r UDA am lunio cytundeb cyflym gyda'r DU yw er mwyn gwanhau cytundeb ac felly gryfhau eu dadl yn erbyn yr UE drwy ein cael mewn sefyllfa wannach fel y gallant ddadlau â'r UE fod y DU eisoes wedi derbyn y safonau is a bod yr UE felly am ofyn i wneud yr un peth? Felly, er eu budd hwy y mae, nid ein budd ni.
Wel, mae'n amlwg fod Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gorfod gofalu amdani ei hun, ac fe wnaiff, ond mae ein buddiannau'n digwydd cyd-daro yn yr enghraifft benodol hon. Bydd ein llaw yn gryfach gyda'r UE os byddwn wedi dod i gytundeb gyda'r Unol Daleithiau, ac mae digonedd o wledydd eraill yn ciwio i wneud y cytundebau hynny hefyd. Rwyf braidd yn siomedig felly nad yw Llywodraeth Boris Johnson fel pe bai'n gweld bod tacteg Theresa May o seboni'r UE yn siŵr o fethu, oherwydd byddant yn cymryd beth bynnag a gynigir iddynt a gofyn am ragor. Mae'r Unol Daleithiau yn cynnig rhywbeth i ni ac yn awr gallent ystyried eu bod yn cael eu hanwybyddu.
Mae adfer rheolaeth dros ein ffiniau, yn yr un modd, yn hanfodol bwysig. Rydym wedi ychwanegu 6.7 miliwn o bobl at ein poblogaeth yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ac ni ellir cynnal y gyfradd hon o gynnydd. Yn awr, mae gennym gyfle, fel y dywed y cynnig, i gael polisi mewnfudo nad yw'n gwahaniaethu, a fydd, o'i ddefnyddio yn ôl y cyfleoedd, yn mynd i'r afael â rhai o'r rhesymau pam y pleidleisiodd pobl dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y lle cyntaf o bosibl. Roedd mewnfudo'n rhan enfawr o'r ymgyrch honno.
Yn anffodus, mae fy amser yn brin. Felly, rwy'n credu y dylem i gyd longyfarch Boris Johnson, beth bynnag yw'r diffygion yn ei gytundeb, ac mae llawer ohonynt—yn enwedig y llinell ym môr Iwerddon. Mae wedi cyflawni'r hyn yr aethom ni ati i'w wneud, sef gadael yr UE yn gyfreithiol, ddydd Gwener.
Ddydd Iau diwethaf, 23 Ionawr 2020, cyhoeddodd Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin fod y Bil cytundeb ymadael wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Bydd aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben am 11 o'r gloch nos Wener. Mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi gwireddu'r addewid a wnaed i bobl Prydain i gyflawni Brexit.
Mae dros dair blynedd a hanner ers i bobl Prydain bleidleisio'n glir ac yn bendant dros Brexit. Yng Nghymru, roedd maint y fuddugoliaeth dros adael hyd yn oed yn fwy na chanran y Deyrnas Unedig—llawer mwy, er enghraifft, na maint y fuddugoliaeth yn refferendwm datganoli Cymru yn 1997.
Mae pasio'r Bil cytundeb ymadael wedi'i gyflawni er gwaethaf gwrthwynebiad y Blaid Lafur. Mae Llafur a'i chynghreiriaid wedi ceisio gohirio, rhwystro ac atal Brexit ar bob cyfle. Ni wnaeth yr un AS Llafur—ni wnaeth unrhyw AS Llafur—bleidleisio dros y Bil cytundeb ymadael. Dengys hyn nad ydynt wedi dysgu dim o'u methiant dinistriol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Hyd at yr eiliad olaf—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. Fy ymddiheuriadau.
Hyd y funud olaf, maent wedi ceisio gwrthdroi canlyniad y refferendwm ac anwybyddu ewyllys pobl Prydain. Ar ôl addo parchu canlyniad refferendwm 2016, mae safiad Llafur ar Brexit wedi bod yn amwys ac yn brin o hygrededd: ail-drafod y cytundeb unwaith eto fyth wedi'i ddilyn gan refferendwm arall, refferendwm lle dywedodd aelodau blaenllaw o'r blaid Llafur y byddent yn ymgyrchu yn erbyn eu cytundeb ymadael eu hunain er mwyn aros yn yr UE. Yn wir, profodd Mr Jeremy Corbyn yn analluog neu'n amharod i ddweud—[Torri ar draws.]—yn analluog neu'n amharod i ddweud beth fyddai ei safbwynt mewn refferendwm newydd. Ac yn awr pensaer yr annibendod polisi yw'r un sydd ar y blaen yn y ras i gymryd lle Mr Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur.
Gwelodd pob un ohonom ganlyniad y datgysylltiad hwn rhwng arweinyddiaeth y blaid Lafur a'i phleidleiswyr traddodiadol yng nghanlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf. Dioddefodd Llafur ei gorchfygiad gwaethaf ers 1935, gan ennill llai o seddi nag yn 1983. Roedd y canlyniad yr un mor ddramatig yng Nghymru—mae cyfres o enillion Ceidwadol yn golygu ei bod yn awr yn bosibl teithio o'r Fenni i Aberconwy heb adael etholaeth a ddelir gan y Ceidwadwyr.
Yng Nghymru, pleidleisiodd pobl i sicrhau bod Brexit yn digwydd. Nid diwedd Brexit yw hyn, ond efallai mai dyma ddiwedd y dechrau. Rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod pontio i baratoi ar gyfer ein perthynas newydd â'r UE. Er y byddwn wedi gadael, bydd ein perthynas fasnachu yn aros yr un fath nes bod negodiadau newydd yn digwydd. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir ein bod am gael cytundeb i barhau i fasnachu gyda'r UE heb unrhyw dariffau, cwotâu na rhwystrau eraill ar waith. Gydag ewyllys da ar y ddwy ochr, rwy'n hyderus y gellir cyflawni hyn erbyn diwedd y flwyddyn. Yn wir, ym mis Rhagfyr, dyfynnwyd uwch swyddog o Lywodraeth yr Almaen yn dweud:
Mewn perthynas â'r cytundeb masnach, credaf ei bod yn amlwg fod modd negodi'r hyn a adwaenir ym Mrwsel fel cytundeb oddi ar y silff—mewn geiriau eraill, cytundeb safonol sydd eisoes wedi'i negodi mewn cyd-destun arall—yn gymharol gyflym â'r Deyrnas Unedig.
Gallwn sicrhau manteision Brexit wedyn, gan dynnu Prydain allan o gyfreithiau'r UE, llunio ein cytundebau masnach rydd ein hunain o gwmpas y byd, rhoi terfyn ar awdurdodaeth y llysoedd Ewropeaidd, rheoli ein trethi a'n ffiniau ein hunain, ac yn y blaen. Ddirprwy Lywydd, nawr yw'r amser i roi'r chwerwder a rhaniadau'r gorffennol y tu ôl inni. Nawr yw'r amser i ganolbwyntio ar sicrhau dyfodol disglair a chyffrous i Brydain, yn gryf ac yn rhydd. Rwy'n cefnogi'r cynnig. Credaf fod dau Brif Weinidog o'n plaid yn olynol, sef Mr David Cameron a Theresa May, wedi aberthu eu swydd anrhydeddus i gyflawni hyn dros ewyllys y wlad wych hon, a bydd y wlad wych hon yn goroesi ac yn ffynnu, a bydd yn sicr o ddod yn Brydain Fawr unwaith eto.
A gaf fi alw ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?
Ddirprwy Lywydd, rwyf wrth fy modd o weld bod ymdeimlad iach o eironi yn fyw ac yn iach ar feinciau'r Ceidwadwyr. Wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, wrth i mi a fy nghyd-Aelodau yma ar feinciau'r Llywodraeth gyflwyno datganiadau ar Brexit neu ddadleuon ar Brexit, mae Darren Millar wedi dweud y drefn wrthyf ar draws y Siambr, gan ddweud, 'Beth sy'n newydd? Beth sy'n newydd?' Ac eto, heddiw, rwy'n edrych ar y papur trefn ac rwy'n gweld cynnig yn enw'r un Darren Millar ar bwnc Brexit. Ac rwy'n siŵr y bydd digon o Aelodau yn y Siambr yn gwrando gyda pharch ar ei araith, ac yn dweud, 'Beth sy'n newydd?'
Ond heddiw—gobeithio y gwnaiff yr Aelodau faddau i mi—rwyf am edrych ymlaen nid yn ôl. Nid ydym am ailchwarae dadleuon y tair blynedd diwethaf. Felly, fel canllaw i'n hymagwedd yn y dyfodol at y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd, rydym newydd gyhoeddi dogfen sy'n nodi ein dull o weithredu. Yn y ddogfen honno, rydym yn gwbl glir ein bod yn derbyn, o gofio mai Llywodraeth y DU sydd â'r prif gyfrifoldeb dros gysylltiadau rhyngwladol, fod gan y Prif Weinidog fandad o'r etholiad i ddilyn y llwybr yr oedd yn ei argymell. Felly, rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon ac yn anelu at berthynas economaidd sy'n seiliedig ar gytundeb masnach rydd.
Rydym ni, fel Llywodraeth, yn derbyn nad yw ein gweledigaeth o fodel tebyg i'r un Norwy a mwy, a welai'r DU yn cymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yn gynaliadwy mwyach. Felly, ni fyddwch yn ein clywed yn dadlau o blaid y cynnig hwnnw yn y dyfodol, ond parhawn i ddadlau ar sail y dystiolaeth ac er budd y dyfodol mwyaf llewyrchus i Gymru ar ôl Brexit, dros roi'r flaenoriaeth uchaf i berthynas economaidd gyda'r UE, ac i'r berthynas fod yn seiliedig ar leihau'r rhwystrau nad ydynt yn rhai tariff yn ogystal â dileu tariffau a chwotâu. Ac oni bai bod negodiadau'n profi fel arall, mae'n debygol y bydd angen i reoleiddio gyd-fynd yn agos â'r Undeb Ewropeaidd, o leiaf o ran nwyddau a bwydydd-amaeth.
Y mater arall y bydd angen rhoi sylw iddo yn awr yw dyfodol confensiwn Sewel. Roedd y ffaith bod y Senedd wedi gwrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn arwyddocaol iawn, ac roedd penderfyniad Senedd y DU yr un mor arwyddocaol wrth fwrw ymlaen â'r Bil cytundeb ymadael heb ei ddiwygio, er bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi pleidleisio yn yr un modd. Felly, ble mae hynny'n gadael confensiwn Sewel?
Creadigaeth datganoli yw Sewel; ymgais i gysoni damcaniaeth ynghylch sofraniaeth seneddol ddilyffethair â chydnabyddiaeth o gyfreithlondeb democrataidd y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r math hwn o dŷ hanner ffordd cyfansoddiadol yn gynnyrch cyfansoddiad anysgrifenedig a thensiwn gwleidyddol nad yw wedi'i ddatrys, lle mae pragmatiaeth yn bwrw egwyddor i'r cysgod mewn perthynas â materion cyfansoddiadol.
Rydym am weld diffiniad llawer cliriach a thynnach o Sewel. Ond heb ailwampio ein trefniadau cyfansoddiadol yn drylwyr, mae'n rhaid inni gydnabod y posibilrwydd y gallai Senedd y DU weithredu'n ymwybodol mewn ffordd sy'n herio ewyllys y deddfwrfeydd datganoledig. Hyd nes y daw diwygio o'r fath, ni ddylid defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio pan fetho popeth arall. Felly, er ein bod yn gresynu na wnaeth Llywodraeth y DU fwy i ateb ein pryderon dilys ynghylch effaith bosibl y Bil ar gymhwysedd y Senedd hon, croesawn ei chydnabyddiaeth fod bwrw ymlaen heb gydsyniad yn yr achos hwn yn gwbl eithriadol, a byddwn yn eu dwyn i gyfrif am hynny ac yn gweithio gyda hwy, gobeithio, i geisio cryfhau Sewel er mwyn gwneud yn siŵr mai'r tro hwn yw'r tro olaf.
Felly, Dirprwy Lywydd, beth rŷm ni ei eisiau? Hoffwn i bwysleisio dau beth. Yn gyntaf, rŷm ni eisiau rôl ystyrlon yn y negodiadau ar y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, ac yn wir yn y negodiadau ar gytundebau masnach rydd eraill a all effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Dylai hyn adlewyrchu egwyddor 'not normally' Sewel. Hynny yw, pan fo cymhwysedd datganoledig o dan sylw, ni ddylai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel arfer gyflwyno safbwyntiau negodi heb gytuno arnyn nhw yn gyntaf gyda'r sefydliadau datganoledig.
Yng nghyfarfod y cydbwyllgor gweinidogol ar negodiadau'r Undeb Ewropeaidd ddoe, er y bu rhywfaint o gynnydd ar y broses i gynnwys y sefydliadau datganoledig, dyw'r egwyddor ganolog honno ddim wedi cael ei derbyn. Ni allaf ddweud wrthych fy mod i'n hyderus y caiff ei derbyn, ond rŷm ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn symud nawr ar hyn, a hynny cyn cyfarfod nesaf y cydbwyllgor gweinidogol.
Yn ail, hoffwn weld sylw o ddifrif yn cael ei roi i ddiwygio'r cyfansoddiad, i sicrhau nad yw'r Deyrnas Unedig yn cael ei chwalu yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd canlyniad refferendwm 2016, i raddau helaeth iawn, yn fynegiant o gynddaredd gan gymunedau am y diffyg rheolaeth ganddyn nhw dros eu tynged eu hunain. Byddai'n drychineb pe bai hynny'n arwain at grynhoi pŵer yn fwy fyth yn y filltir sgwâr o amgylch Big Ben.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru ill dau am i Undeb y Deyrnas Unedig lwyddo, a Llywodraeth Cymru yn credu bod angen ei ddiwygio er mwyn iddo oroesi. Rŷm ni wedi cyflwyno cynllun synhwyrol i ymwreiddio datganoli wrth ddiwygio'r cyfansoddiad yn ehangach, a hynny yn ein dogfen 'Diwygio ein Hundeb'. Hefyd, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ymrwymiad maniffesto i sefydlu comisiwn ar y cyfansoddiad, ac rŷm ni'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd y sefydliadau datganoledig yn cael eu cynnwys yn llawn yn hwnnw.
Dyna pam, Dirprwy Lywydd, yn ein gwelliant, wrth gydnabod y cyfleoedd y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig, gan gynnwys y potensial i sicrhau perthynas agosach gyda chenhedloedd eraill sy'n masnachu, a chydnabod yn glir ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, rŷm ni wedi canolbwyntio yn y gwelliant hwn ar yr heriau cyfansoddiadol sydd i ddod. Mae'n rhaid i ni gyd nawr droi ein sylw at y rheini. Felly, gofynnaf i'r Senedd hon gefnogi'r gwelliant ac i wrthod y cynnig.
Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a chreu dadl rymus, a dweud y lleiaf. Rwyf am ddweud rhywbeth, os caf, am y weithdrefn. Rwy'n credu ei bod yn anffodus, pan fydd rhywun yn ymyrryd ar araith, ei fod yn cerdded yn syth o'r Siambr. Pwynt y ddadl, yn amlwg, yw ymgysylltu—
Mae hynny eisoes wedi'i gynnwys yn sylwadau Darren Millar, a byddaf yn cymryd camau pellach. Nid oes angen ei ailadrodd eto.
Wel, rwy'n derbyn hynny, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu bod gennyf hawl i ddweud yr hyn rwy'n ei feddwl. Ac rwyf am—
Wel, rydych chi'n mynd dros hen dir a dweud y gwir.
—dynnu sylw pobl ato. [Torri ar draws.] Rwyf am dynnu sylw pobl at y ffaith honno.
Rwyf hefyd am ystyried sylwadau David Rees a Dai Lloyd. Rwy'n credu eu bod wedi gwneud sylwadau perthnasol iawn, yn yr ystyr mai dydd Gwener, i lawer o bobl, fel y pwysleisiodd Neil Hamilton, fydd penllanw gwaith oes mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Ond i lawer o bobl sydd â safbwyntiau gwahanol, bydd ganddynt deimlad gwahanol iawn nos Wener. Os ydym am ddod â'r wlad hon at ei gilydd, nid yw'n ymwneud ag ymorchestu. Mae'n ymwneud â derbyn yr hyn a roddodd y refferendwm i ni yn 2016—cyfarwyddyd clir—i gyflawni'r cyfarwyddyd a rhyddhau'r cyfleoedd.
Ac rwy'n credu bod y pwyntiau hynny wedi cael eu gwneud yn dda yma heddiw, oherwydd mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn mynd â'r wlad gyda ni. Ac un peth yr hoffwn ei ddweud am y Llywodraeth newydd yn San Steffan—ac rwy'n derbyn y gallwn wynebu gwawd y pleidiau gwleidyddol eraill—mae pob aelod o'r Llywodraeth honno y cyfarfûm â hwy ers yr etholiad wedi ymrwymo i sicrhau bod y wlad hon yn symud ymlaen fel un, yn hytrach na gosod un grŵp yn uwch na'r llall. A gallai hynny swnio fel areithio gwleidyddol nawddoglyd, ond mae'n ffaith mai'r hyn rydym am wneud yn siŵr ohono yw bod y wlad yn symud ymlaen fel un, a bod camweddau'r gorffennol yn cael eu cywiro fel bod pobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl yn gallu teimlo'n rhan o'r broses. [Torri ar draws.] Rwy'n falch o dderbyn yr ymyriad gennych chi, Joyce, os ydych chi eisiau gwneud ymyriad. Byddaf yn falch o dderbyn yr ymyriad, oherwydd gallaf eich clywed yn cwyno.
Tynnodd y Gweinidog Brexit sylw ar ddechrau ei araith 'Beth sy'n newydd?' Beth sy'n wahanol yn y cynnig hwn sydd gerbron y tŷ y prynhawn yma? A'r hyn sy'n newydd yw ein bod ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd. Am dair blynedd bron, cafwyd dadl, trafodaeth gyson, rhoddwyd rhwystrau ar waith i geisio ei atal. I agor y ddadl, cyfeiriodd Darren Millar yn ei araith: dro ar ôl tro, defnyddiwyd y broses i geisio atal yr hyn a oedd yn ymarfer hollol ddemocrataidd, ymarfer a gafodd ei roi ger bron y bobl, gan ddweud y byddai'n refferendwm sy'n rhwymo—nid refferendwm cynghorol ydoedd, roedd yn refferendwm rhwymol—ac y dylai Llywodraethau, pwy bynnag oeddent, weithredu ar y penderfyniad hwnnw. A rhoddodd Cymru, yn amlwg, fel y clywsom gan lawer o bobl—cyfeiriodd Mark Reckless at y pwynt—gyda'i gilydd, rhoddodd Cymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig bleidlais fwyafrifol i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ac mae hyn yn ymwneud â gwneud pethau'n wahanol. Mae hyn yn ymwneud, fel y nododd Mark yn ei gyfraniad, â dweud, lle arferai'r Undeb Ewropeaidd benderfynu ar gynlluniau a allai gael eu cyflwyno—y cynllun datblygu gwledig, er enghraifft, cronfeydd strwythurol—fod gan y Deyrnas Unedig a'r gweinyddiaethau datganoledig rôl i'w chwarae yn y broses gwneud penderfyniadau honno a siapio'r dyfodol.
Ac rwy'n meddwl ei fod yn sylw teg gan fainc y Llywodraeth a meincwyr cefn eraill sydd yma heddiw fod cryn waith i'w wneud ar wella'r setliad cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hwnnw'n bwynt teg iawn, oherwydd rydym yn symud i diriogaeth sydd heb ei fapio, gawn ni ddweud, oherwydd, yn amlwg, rydym wedi bod mewn tiriogaeth gyda'r Undeb Ewropeaidd yn penderfynu'n derfynol ar lawer o'r gwaith a wna'r sefydliad hwn dros y 45 mlynedd diwethaf. Dylai hynny greu teimlad o gyffro, ymdeimlad o her i ni yma mewn bywyd cyhoeddus i estyn allan a bachu'r cyfleoedd hynny.
Fel y pwysleisiodd Janet Finch-Saunders, Mohammad Asghar, Mark Isherwood yn eu cyfraniad heddiw—mae'r cyfleoedd yn ddiderfyn os gwnawn eu bachu a'n bod yn dechrau eu gweithredu o ddifrif yn hytrach na dim ond meddwl, 'Dyma oedd yn arfer bod gennym. Dyma sy'n rhaid i ni ei ddiogelu.' Wel, gallwn ddysgu o'r gorffennol—cywir—ond gallwn siapio'r dyfodol, a dyna'n sicr y mae pawb ohonom yn mynd i fywyd cyhoeddus i'w wneud. A dyna beth sy'n gyffrous am fwrw ymlaen yn awr ar ôl dydd Gwener. Mae'r dogfennau cyfreithiol yn eu lle, mae'r dyddiad wedi'i bennu'n derfynol, a byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'n berffaith deg a rhesymol i nodi bod llawer o ddŵr i fynd o dan y pontydd hyn o hyd, yn enwedig o ran negodiadau masnach a thrafodaethau masnach—mae pawb yn derbyn hynny—ond yn y pen draw, nid oedd a wnelo'r refferendwm Brexit â chael mantais i un ar draul y llall. Yn bersonol, rwyf am weld perthynas mor gryf ag y gallwn ei chael gyda'n cyfeillion ar gyfandir Ewrop, ond rwyf am weld y penderfyniadau yn y wlad hon yn cael eu gwneud yn y wlad hon, boed hynny yma yng Nghaerdydd neu yn y Senedd yn San Steffan. A dyna i mi yw'r hyn sy'n rhwymo'r Deyrnas Unedig hon gyda'i gilydd.
A chyda'r teimlad a fynegir yn awr, gyda'r mandad newydd sydd ar waith, rwy'n gobeithio y byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a amlinellwyd y prynhawn yma ac y byddwn yn symud ymlaen drwy drafodaeth gadarnhaol i wneud yn siŵr ein bod yn y pen draw yn cyflawni'r hyn yr oedd llawer o bobl yn y refferendwm hwnnw yn ei deimlo—nad oedd eu llais, ar ôl 45 o flynyddoedd, wedi cael ei glywed, a'u bod am ailosod y cloc a newid cyfeiriad.
Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn fuddugoliaethus, nid yw hyn yn ymwneud â gosod un sector o gymdeithas yn erbyn sector arall o gymdeithas—mae hyn yn ymwneud â democratiaeth. Siaradodd democratiaeth, fe gaiff ei ddeddfu. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir i ni yn awr. A dyna pam y buaswn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn tynnu eu gwelliant yn ôl ac yn derbyn y cynnig sydd gerbron y tŷ heno, fel y nododd arweinydd Plaid Brexit, oherwydd rwy'n methu gweld, ac ni chlywais y Gweinidog Brexit yn gwrthddweud unrhyw beth yn y cynnig, neu'n tynnu sylw at unrhyw beth a oedd ar fai gyda'r cynnig. A buaswn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn ailystyried ac yn cefnogi'r cynnig hwn, gan eu bod dro ar ôl tro wedi galw am gefnogaeth i gynigion sy'n cryfhau'r sefydliad hwn pan fydd yn siarad ag un llais.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi felly'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.