5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Strategaeth Unigrwydd ac Ynysigrwydd

– Senedd Cymru am 4:04 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:04, 11 Chwefror 2020

Y datganiad nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd. Dwi'n galw ar y Dirprwy Weinidog i wneud y datganiad—Julie Morgan.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch Llywydd, a diolch am y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am lansio strategaeth gyntaf Cymru i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Yn gynyddol, rydym yn deall effaith bosib bod yn unig a/neu yn gymdeithasol ynysig ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, ac felly pwysigrwydd y berthynas sydd gennym ni gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymdogion o ran rhoi inni ein hymdeimlad o berthyn a lles.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:05, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Fel Llywodraeth, fe wnaethom ni ymrwymiad i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn 'Symud Cymru Ymlaen'. Cadarnhawyd pwysigrwydd mynd i'r afael â'r materion hyn hefyd ym mis Rhagfyr 2017 yn yr adroddiad gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Canolbwyntiodd yr adroddiad hwnnw ar brofiadau pobl hŷn yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod y gall llawer o bobl eraill hefyd brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Roedd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr adroddiad hwnnw ym mis Chwefror 2018 yn dangos cefnogaeth drawsbleidiol glir ar gyfer datblygu strategaeth i Gymru. Mae'n bleser gennyf hysbysu'r Aelodau y cyhoeddwyd 'Cymunedau Cysylltiedig: strategaeth ar gyfer mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach' yn gynharach heddiw.

Y strategaeth hon yw'r cam cyntaf i'n helpu i newid sut rydym ni'n meddwl am unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Mae'n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer Cymru gysylltiedig—un lle mae pawb yn cael y cyfle i ddatblygu cydberthnasau cymdeithasol ystyrlon a lle caiff pobl eu cefnogi ar yr adegau tyngedfennol hynny mewn bywyd pan fyddant fwyaf agored i niwed, a hefyd yn un lle mae pobl yn teimlo y gallant ddweud, 'rwy'n unig', a pheidio â theimlo cywilydd na stigma.

Mae goblygiadau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn llwm. Mae ymchwil wedi dangos y gallant gael effaith ar ein hiechyd corfforol, gyda chysylltiadau â pherygl cynyddol o glefyd coronaidd y galon, strôc a phwysedd gwaed uchel. Gallant hefyd effeithio ar ein hiechyd meddwl, gan gynyddu'r risg o iselder, diffyg hunan-barch a straen. Mae goblygiadau economaidd i'w hystyried hefyd. Er enghraifft, mae Prosiect Eden yn amcangyfrif y gallai cymunedau digyswllt fod yn costio tua £2.6 biliwn y flwyddyn i ni yng Nghymru drwy fwy o alw ar wasanaethau iechyd a phlismona, a chost i gyflogwyr oherwydd straen a diffyg hunan-barch.

Mae ffigurau diweddar wedi dangos graddau'r materion hyn. Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 fod 16 y cant o'r boblogaeth dros 16 oed yn dweud eu bod yn teimlo'n unig, gyda'r rhai 16 i 24 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na'r rheini sy'n 75 oed neu'n hŷn. Fodd bynnag, gwyddom y gall unrhyw un o unrhyw oedran ac o unrhyw gefndir brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, o'r person ifanc sy'n symud o'i gartref i ddechrau yn y brifysgol i rywun â chyflwr iechyd hirdymor, neu berson hŷn sy'n gofalu am anwylyd. Yn wir, mae'n debyg ein bod i gyd wedi profi'r teimladau hyn ar ryw adeg yn ein bywydau. Pan fyddan nhw'n dod yn rhai tymor hir ac yn bwrw gwreiddiau, dyna pryd maen nhw'n dod yn broblemus.

Yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar ddulliau sy'n lleihau, neu yn atal y risg o unigrwydd a/neu ynysigrwydd cymdeithasol i bobl o bob oedran, neu sy'n ymyrryd yn gynnar cyn i'r teimladau hyn ymwreiddio. Mae'n cynnwys nifer o bolisïau ac ymrwymiadau cynhwysfawr i fod o fudd i gymdeithas gyfan ac i geisio darparu'r sail i bobl gael mwy o gyfleoedd i gael cysylltiadau cymdeithasol ystyrlon. Mae hefyd yn dynodi'r bobl hynny sydd mewn mwy o berygl o brofi unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, a'r angen i leihau'r stigma sy'n gysylltiedig â'r materion hyn fel bod pobl yn teimlo eu bod mewn sefyllfa well i siarad am eu teimladau.

Mae'n sefydlu pedair blaenoriaeth ar gyfer gweithredu: cynyddu cyfleoedd i bobl gysylltu â'i gilydd; gwella'r seilwaith cymunedol i helpu pobl i ddod at ei gilydd; sefydlu a chynnal cymunedau cydlynus a chefnogol; ac yn olaf codi ymwybyddiaeth a lleihau stigma. Seiliwyd y blaenoriaethau hyn ar ein hymgynghoriad cyhoeddus, ein digwyddiadau ymgynghori ac ar ymgysylltu sylweddol â phob rhan o'r Llywodraeth ac â rhanddeiliaid allanol, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae'n gwbl glir o'r ymateb i'r ymgynghoriad na all y Llywodraeth ddatrys y materion hyn ar ei phen ei hun, er y gall feithrin yr amodau priodol er mwyn i gysylltiadau mewn cymunedau ffynnu. Mae'r strategaeth felly'n galw ar i bob rhan o gymdeithas wneud ei rhan. Mae angen i ni newid y ffordd rydym yn meddwl ac yn gweithredu ar unigrwydd ac ynysigrwydd yn y Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, cymunedau ac fel unigolion er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn.

I gefnogi hyn, rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau am ein cynllun i lansio, yn ddiweddarach eleni, cronfa unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol dros dair blynedd gwerth £1.4 miliwn. Bydd y gronfa yn cefnogi sefydliadau yn y gymuned i ddarparu ac arbrofi gyda, neu gynyddu, dulliau arloesol o fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. A byddwn yn defnyddio'r prosiectau hyn i helpu i gynyddu ein gwybodaeth a chyfrannu at y sail dystiolaeth.

Mae ein gwaith o ddatblygu'r strategaeth hon wedi dangos yn glir bod gan bob rhan o'r Llywodraeth ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd. Rydym ni eisiau cryfhau ein dull trawslywodraethol o weithio a mynd ati i sicrhau ein bod yn ystyried y materion hyn wrth lunio polisïau. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, byddwn yn sefydlu grŵp cynghori trawslywodraethol, a fydd yn cynnwys partneriaid allanol hefyd, i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r strategaeth, mynd i'r afael â materion sy'n dod i'r amlwg ac ystyried beth arall y gellir ei wneud. Byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd ynglŷn â'r cynnydd o ran cyflawni ein hymrwymiadau. Gobeithio y bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar y gwaith rhagorol rwyf yn gwybod sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru ac yn gymorth i'n symud ymlaen. Dim ond y dechrau yw hyn; dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, rydym ni eisiau cynyddu ein dealltwriaeth o unigrwydd ac ynysigrwydd, ymateb yn well iddynt a sicrhau ein bod yn gwneud popeth angenrheidiol i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol ac i Gymru fwy cysylltiedig, ac edrychaf ymlaen at roi'r diweddaraf i'r Aelodau wrth i ni wneud cynnydd i gyflawni hyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 4:11, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad yma heddiw. Mae tua 29 y cant o'r boblogaeth yn dweud eu bod yn teimlo'n unig yn gymdeithasol, mae 91,000 o bobl yn teimlo'n unig yn gyson ac mae'r sefyllfa ar ei gwaethaf ymhlith ein pobl hŷn. Mae dros hanner y bobl rhwng 60 a 74, ac ychydig dan hanner y bobl dros 75 oed, yn dweud eu bod yn teimlo'n unig. Mae hynny'n eithaf trist, mewn gwirionedd, onid yw e? Mae unigrwydd yn gysylltiedig â phroblemau cysgu, ymateb yn annaturiol i straen, pwysedd gwaed uchel, ansawdd bywyd gwael, eiddilwch, iselder a mwy o berygl o drawiad ar y galon, strôc, iselder a dementia. Yn wir, mae Age UK wedi dweud y gall unigrwydd fod yr un mor niweidiol i'n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd.

Nawr, fel y dywedodd y comisiynydd pobl hŷn yn yr adroddiad 'Cyflwr y Genedl', mae Cymru'n llithro i fod ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Cyflwynodd Llywodraeth y DU Weinidog dros unigrwydd ym mis Ionawr 2018. Lansiodd yr Alban ei strategaeth unigrwydd ym mis Rhagfyr 2018. Ac er ein bod yn croesawu cyhoeddi'r strategaeth heddiw, byddwn i'n gwerthfawrogi rheswm, mewn gwirionedd, pam fu cymaint o oedi ar yr un yma yng Nghymru.

Hoffwn ddweud, serch hynny, fy mod yn cytuno â chi mai dim ond y dechrau yw'r strategaeth. Mae'r Groes Goch Brydeinig yn amcangyfrif y gallai pob person hŷn sydd angen gwasanaethau o ganlyniad i unigrwydd ac ynysigrwydd gostio £12,000 y pen dros y 15 mlynedd nesaf. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y strategaeth yn cael ei chefnogi gan gronfa unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol gwerth £1.4 miliwn a chronfa cyngor sengl newydd o £8.4 miliwn.

Un cwestiwn sydd gennyf i chi, Gweinidog, sef hyn: gwyddom y gellir helpu i drechu ynysigrwydd cymdeithasol pan fo pobl yn gallu symud o gwmpas, yn gallu dal bws, i fynd i weld siopau mewn tref arall, i fynd i weld eu meddyg, ac mae'r gwasanaeth bws cymunedol yn hanfodol iawn, ac eto, yng Nghymru, rydym ni wedi gweld dileu cynifer o'n gwasanaethau bysiau cymunedol, felly tybed beth yr ydych chi'n ei wneud i weithio gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy i weld sut y gallwn ni mewn gwirionedd bwysleisio'r ffaith nad yw cael gwared ar rywbeth fel yna yn cyfrannu o gwbl at yr agenda atal ac ymyrryd. Mae'n wirion ac nid yw'n fenter sy'n gosteffeithiol. Beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod tystiolaeth gref i'r dulliau newydd, arloesol y byddwch yn buddsoddi ynddynt i sicrhau eu bod yn llwyddo?

Rwy'n cytuno â'r pedair blaenoriaeth, ond mae gennyf rai cwestiynau am yr ymrwymiadau allweddol. Blaenoriaeth 3, mae angen system iechyd a gofal cymdeithasol ar bobl sy'n darparu lles ac ymgysylltu â'r gymuned: nid oes ond rhaid inni edrych ar fy mwrdd iechyd fy hun i weld sut, mewn rhai ffyrdd—. Rwy'n gwybod, pobl sy'n dod i mewn drwy ddrws fy swyddfa, yn aml maen nhw'n teimlo eu bod wedi'u siomi'n fawr iawn gan y gwasanaeth iechyd, ac weithiau, y broses o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a oedd yn rhan sylfaenol o'r Ddeddf gofal cymdeithasol a lles y buom ni i gyd yn craffu arni drwy 2014, a ddaeth i rym yn 2016—. Mae llawer o bryderon yn y gymuned o hyd ynglŷn â diffyg cydgysylltu, yn enwedig pan fydd angen i rywun adael yr ysbyty a bod angen iddynt gael eu rhyddhau; yn aml iawn, gall gymryd wythnosau i wneud yr union atgyfeiriad hwnnw fel y gall pobl fynd adref a pheidio â bod yn yr ysbyty.

Dau, a fydd eich strategaeth yn ceisio sicrhau bod mwy o arian ar gael i helpu ymdrin â'r cyfyngiadau ar ymweliadau gofal cartref er mwyn sicrhau bod mwy o amser ar gyfer rhyngweithio rhwng gofalwyr a chleientiaid sy'n gaeth i'r tŷ? Roeddwn yn falch o weld blaenoriaeth 3 yn rhoi sylw amlwg i'r fenter Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif. Mae Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru wedi ysgrifennu ataf yn datgan eu bod yn credu y gellir gwneud mwy o waith ynghylch yr agenda benodol honno. Rwy'n cytuno, ac roedd y sawl a ymatebodd i'ch ymgynghoriad yn tynnu sylw at y ffaith y dylai'r gwaith pellach i feithrin gallu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddeall yr amgylchiadau tyngedfenol a'r cymorth effeithiol sydd ar gael fod yn flaenoriaeth allweddol.

Cwestiwn arall: yn ogystal ag archwilio'r potensial ar gyfer datblygu hyfforddiant penodol, pa gamau gweithredu clir y gallwch eu disgrifio heddiw a fydd yn helpu i rymuso gwasanaethau iechyd a staff awdurdodau lleol i gydnabod y swyddogaeth sydd ganddynt o ran cynorthwyo trigolion i wneud newidiadau cadarnhaol i'w hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol? Fel y gwyddoch chi, rydych chi wedi dweud o'r blaen fod pobl iau yn debygol iawn o ddweud eu bod yn teimlo'n unig. Tynnodd eich ymgynghoriad sylw at y ffaith bod llawer yn teimlo bod gan ysgolion ran allweddol i'w chwarae. Mae hyn wedi cyfrannu at y strategaeth sydd ger ein bron heddiw, gan gynnwys blaenoriaethau 1 a 4. 

Fodd bynnag, galwyd hefyd am gyflwyno sesiynau bugeiliol i gwricwlwm yr ysgol gan ganolbwyntio ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol. Ar ôl astudio'r maes dysgu iechyd a lles yn y cwricwlwm, credaf y gallai ysgolion ystyried gwneud ambell beth i helpu mynd i'r afael ag unigrwydd. Beth wnewch chi i sicrhau bod pob ysgol yn cynnal sesiynau bugeiliol sy'n canolbwyntio ar unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol?

Yn olaf, rydych chi'n gywir bod angen dull trawslywodraethol o fynd ati, a hoffwn feddwl, ac mae gennych fy nghefnogaeth yn sicr, y dylai fod yn fenter drawsbleidiol. Rwyf yn pryderu nad yw portffolios eraill o bosib yn cyfrannu at yr agenda gymaint ag yr ydych chi. Byddwch yn sefydlu grŵp cynghori i oruchwylio gweithredu'r strategaeth, felly tybed a ydych chi wedi ystyried gofyn i'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru ymgynghori â'r grŵp ar bob cynnig deddfwriaethol perthnasol a gyflwynir i'r Cynulliad hwn, oherwydd, yn aml iawn, gall y cynigion deddfwriaethol hynny, mewn gwirionedd, er eu bod yn gwneud daioni mewn rhai rhannau, effeithio'n negyddol ar feysydd eraill. Felly, yr hyn yr wyf yn chwilio amdano yw meddylfryd mwy cydgysylltiedig rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r strategaeth benodol hon. Diolch.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:17, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chyfraniad a hefyd am ei chefnogaeth i'r strategaeth, a byddaf yn hapus iawn inni weithio gyda'n gilydd ar y strategaeth. Dywedodd y gall pawb deimlo'n unig waeth beth fo eu hoed, ac rwy'n credu bod hwnnw'n sylw pwysig iawn—na allwn ni ddweud mai dim ond pobl hŷn sy'n teimlo'n unig, gan fod Janet Finch-Saunders wedi rhoi'r ffigurau ar gyfer pobl iau. Rwy'n cytuno'n llwyr fod unigrwydd ac ynysigrwydd mor niweidiol ag ysmygu, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders.

Cyfeiriodd at wledydd eraill, a chrybwyllodd fod Gweinidog dros unigrwydd yn Llywodraeth San Steffan. Y ffordd rydym ni eisiau mynd ati yn y fan yma, mewn gwirionedd, yw ein bod eisiau i bawb berchnogi hynny. Felly, yn hytrach na chael Gweinidog dros unigrwydd, rydym ni eisiau sicrhau bod pob adran yn derbyn bod ganddyn nhw gyfrifoldeb dros fynd i'r afael ag unigrwydd.

Mae'n crybwyll oedi o ran llunio'r strategaeth. Rwy'n falch ei bod yn ei chroesawu, nawr ei bod wedi ei chyhoeddi, ond cawsom 230 o ymatebion i'r ymgynghoriad, a oedd yn ymateb sylweddol iawn i ymgynghoriad. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd i randdeiliaid hefyd. Felly, mewn gwirionedd, roedd llawer iawn i'w ystyried, ac rwy'n credu bod yr amser y mae hyn wedi cymryd wedi golygu bod gennym ni ymateb mwy ystyriol heddiw.

Rwy'n falch ei bod yn croesawu'r arian. O ran trafnidiaeth, mae'n amlwg mai dyna un o'r materion pryd yr ydym yn gobeithio gweithio gyda'r Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd rwy'n cytuno'n llwyr fod cael cysylltiadau—mae angen cludiant arnoch chi, weithiau, ac mae angen cludiant hygyrch arnoch chi.

O ran y gwasanaeth iechyd, roedd dod ag iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd, yn amlwg, yn un o'r materion allweddol yn y Ddeddf, fel y dywedodd hi. Credaf y bu cynnydd drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol a thrwy'r gronfa gofal canolraddol—cafwyd prosiectau ar y cyd. Wyddoch chi, mae'n amlwg yn cymryd amser i hyn ddigwydd, ond rwyf yn credu y gwnaed cynnydd.

Gwneud i bob cyswllt gyfrif, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n gwbl hanfodol, oherwydd bod cymaint o adegau hanfodol y gallwch eu defnyddio i hyrwyddo'r agenda hon. Ac, wrth gwrs, mae'r ysgolion, unwaith eto, yn faes pwysig iawn, ac rwy'n gwybod y bydd yn ymwybodol o'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer y cwnsela sy'n cael ei ddarparu mewn ysgolion, a hefyd, wrth gwrs, rydym yn gweithio tuag at gyflwyno'r dull ysgol gyfan. Y grŵp cynghori, byddaf yn sicrhau bod y Siambr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y grŵp cynghori wrth iddo gael ei ddatblygu.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:20, 11 Chwefror 2020

Diolch i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad yma. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor iechyd yn ôl ddwy flynedd ac ychydig yn ôl pan wnaethom ni gyhoeddi’r adroddiad. Roeddech chithau, Ddirprwy Weinidog, yn rhan o’r pwyllgor ar y pryd, ac mi roedd o’n ymgynghoriad ganddom ni fel pwyllgor wnaeth greu argraff arnaf fi, mewn difrif, pan fydd rhywun yn sylweddoli, p’un ai’r effaith ar iechyd, fel glywsom ni yn fan yna, yr effaith yn debyg i smocio ac yn y blaen, ond mi wnaeth o hefyd ei gwneud hi’n glir i mi fod yna gamau y mae’r Llywodraeth yn gallu eu cymryd. Wrth gwrs, mae’r camau sydd yn cael eu cymryd yn rhai dwi’n eu croesawu. Beth rydw i wastad eisiau ei weld ydy oes yna fwy mae’n bosib i wneud.

Rhyw bedwar, dwi’n meddwl, o gwestiynau sydd gennyf i yn fan hyn. Mae’r ffigyrau, onid ydynt, yn drawiadol iawn, y clywsom ni ganddoch chi yn fan yna? Mae yna fwy o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn debyg o adrodd eu bod nhw’n unig na phobl dros 75 oed. Mae hynny’n mynd yn groes, rhywsut, i’r canfyddiad fyddai ganddom ni. Ond o ystyried hynny, rydym ni’n gwybod bod y grŵp oedran hwnnw neu gyfran ohonyn nhw’n wynebu pwysau mawr i lwyddo mewn addysg, yn fwy tebyg o wynebu problemau fel bwlio ar-lein na chenedlaethau eraill, maen nhw hefyd yn wynebu dyfodol o ran newid hinsawdd a Brexit na wnaethon nhw ddewis eu hunain. Felly, mae yna bob mathau o bwysau. Felly, does yna ddim syndod, o bosib, eu bod nhw’n adrodd eu bod nhw’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Rydw i’n meddwl, tybed ydy’ch cynllun chi’n bwriadu mynd i’r afael â hyn yn benodol, er enghraifft, drwy weithio efo colegau addysg bellach, efo prifysgolion ac yn y blaen, er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gallu gwneud beth y gallan nhw fel sectorau i helpu.

Yn ail, o ran tai, a fyddai’r Llywodraeth yn derbyn, pan rydym ni’n sôn am adeiladu tai, y dylem ni fod yn sôn mewn difrif am adeiladu cymunedau? A fyddai’r Gweinidog felly’n cytuno efo fi y dylai datblygiadau tai gynnwys adnoddau cymunedol hefyd, ac a fyddai hi’n barod i siarad efo ei chyd-Aelodau o’r Cabinet i sicrhau bod deddfau cynllunio, er enghraifft, yn cael eu cryfhau er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd?

Symud ymlaen at gwestiwn arall. Pa bynnag oedran rydych chi’n sôn amdano fo, pa bynnag genhedlaeth, mae yna ryw eliffant yn yr ystafell yn fan hyn hefyd, o ran un broblem fawr sydd wedi bod ydy’r toriadau dwfn iawn mewn cyllidebau llywodraeth leol dros y ddegawd ddiwethaf. Rydym ni wedi gweld toriadau i ganolfannau dydd, i drafnidiaeth gyhoeddus y mae llawer o bobl yn dibynnu arnyn nhw, a mwy o gostau neu bris uwch yn cael ei godi am ddefnyddio adnoddau hamdden neu chwaraeon, ac yn y blaen. Felly, rydw i’n gofyn: ydy £1.4 miliwn dros dair blynedd go iawn yn mynd i hyd yn oed gwneud dent yn y broblem yma? Onid beth ddylem ni fod yn ei wneud mewn difrif ydy sicrhau bod llywodraeth leol yn cael ei chyllido’n iawn fel bod nhw’n gallu gwneud penderfyniadau gwell er mwyn taclo unigrwydd ac unigedd?

Ac yn olaf, mae yna grŵp cynghori newydd yn cael ei sefydlu yn fan hyn a gofyn i hwnnw adrodd yn ôl ar ei gynnydd bob dwy flynedd. Rŵan, rhaglen tair blynedd ydy’r arian yma sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, felly erbyn i’r adroddiad cyntaf gael ei gyhoeddi, llai na blwyddyn fydd yna ôl i roi ffocws ar adnabod y cynlluniau sy’n gweithio’n dda ac o bosib 'scale-io' y rheini i fyny. Felly, ai drwy'r math yma o grŵp cynghori mae’r ffordd orau o sicrhau arfer da mewn delifro canlyniadau go iawn yn y maes yma?

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:24, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi a diolch am eich cefnogaeth i'r strategaeth. Yn sicr, yr effaith ar iechyd yr oeddech yn ei chydnabod yn glir—cynddrwg ag ysmygu sigaréts. Hynny yw, mae'n llwm iawn, ac rwy'n falch iawn eich bod yn croesawu'r camau.

O ran pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithio i helpu i nodi'r bobl ifanc hynny, ac felly, rwy'n sicr yn rhagweld y gallem ni weithio gyda'r colegau addysg bellach a'r prifysgolion. Rwy'n credu ei bod hi'n ffaith bwysig iawn hefyd bod gennym ni wasanaeth ieuenctid wedi'i ail-lansio a mwy o arian y mae'r Llywodraeth wedi'i roi i'r gwasanaeth ieuenctid. Oherwydd rwy'n credu bod y gwasanaeth ieuenctid yn faes lle gall pobl ifanc golli'r teimlad o fod yn ynysig, ac rwy'n credu y gall gweithwyr ieuenctid, gyda'u sgiliau penodol, weithio'n agos iawn gyda phobl ifanc a mynd i'r afael â'r materion hyn. Felly, rwy'n credu bod y gwasanaeth ieuenctid yn bwysig iawn, ac rwy'n falch iawn bod y Llywodraeth wedi gallu cynyddu'r cyllid ar gyfer y gwasanaeth ieuenctid.

Tai, do, fe gefais gyfarfod â llawer o Weinidogion y Llywodraeth, a dweud y gwir, am y strategaeth hon oherwydd ei bod yn hanfodol inni ei gweld fel strategaeth Llywodraeth gyfan a bod angen cynnwys pob adran. Euthum, y bore 'ma, i Gasnewydd, lle'r oeddwn ar safle—Pobl—lle mae canolfan gymunedol wedi ei darparu ynghyd â fflatiau yn yr adeilad, a lle ceir byngalos bychain hefyd y tu allan. Ac roeddem yn gallu cwrdd â'r preswylwyr a hefyd cwrdd â'r Theatr Realiti sy'n gweithio i geisio mynd i'r afael â stigma, ac roedd yn drawiadol iawn. Gallech weld bod y datblygiad tai hwn mewn difrif calon wedi cynnwys y pethau y mae eu hangen ar bobl i gael bywydau da o ran cael rhywle i gyfarfod, rhywle lle gallant rannu profiadau. Felly, rwy'n credu bod tai yn gwbl hanfodol, a gallwn wneud llawer mwy, rwy'n credu, o ran datblygu tai addas.

Yna, toriadau mawr ym maes Llywodraeth Leol, wrth gwrs, mae hynny'n fater enfawr a gwyddom fod llawer o gyfleusterau wedi'u colli, ond rydym ni wedi gallu darparu rhywfaint o arian, drwy'r Gronfa Gofal Integredig, ar gyfer canolfannau lleol, a chredaf eu bod yn sicr yn datblygu mewn ffordd sydd yn darparu cymorth i bobl yn y gymuned. A dim ond 'dent' yw £1.4 miliwn, fel y dywedoch chi, o'i gymharu â'r hyn sydd ei angen, ond yr hyn yr ydym yn ei ddweud, mewn gwirionedd, yw bod y strategaeth hon ar gyfer pob adran ac ar gyfer yr holl wariant a wneir. A'r holl wariant a'r holl fentrau sy'n digwydd, rydym ni eisiau bod yn sicr bod unigrwydd ac ynysigrwydd yn rhan o'r gwariant hwnnw. Felly, mae'r £1.4 miliwn i ddarparu ar gyfer rhai prosiectau bach arbrofol, y byddwn yn amlwg yn eu gwerthuso yn y grŵp cynghori newydd hwn. Hynny yw, bydd gan y grŵp cynghori newydd bobl allanol arno a fydd yn dod â pheth arbenigedd o weithio yn y maes, a chredaf y bydd yn rhaid inni weld sut mae'r grŵp hwnnw'n datblygu.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 4:28, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf yn wirioneddol groesawu eich datganiad heddiw, ond rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc 16 i 24 oed ac unigrwydd, a chydnabod, fel y dywedir yn eich datganiad, fod 60 y cant o'r boblogaeth honno'n dioddef rhywfaint o unigrwydd ar ryw adeg yn ystod eu bywyd. Mae diweithdra, wrth gwrs, yn un o brif achosion hynny, ac mae yna bethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o ran hyfforddiant ac addysg a fydd yn helpu i gadw pobl ifanc yn rhan o'r gweithle neu unrhyw gyfleoedd a phosibiliadau eraill sydd ganddynt. Ac efallai bydd rhai o'r rheini yn gwirfoddoli, mewn gweithgareddau cymunedol yn arbennig, yn y lleoedd y maen nhw'n byw ynddyn nhw.

Dywedwyd eisoes bod awdurdodau lleol, drwy fuddsoddi mewn darpariaeth gymunedol i bobl ifanc, wedi gweld, dros y blynyddoedd, rai toriadau cyllideb oherwydd yr agenda cyni, a bod hynny, unwaith eto, yn cyfrannu at yr ynysigrwydd a'r unigrwydd hwn, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel yr ardal yr wyf i'n ei chynrychioli.

Ond un maes lle mae'n debyg bod gweithgarwch cymunedol yn hynod o amlwg yw chwaraeon, ac mae hynny'n wych, yn bennaf, ar gyfer dynion ifanc yn arbennig, ond gwyddom i gyd fod y dystiolaeth yn dangos i ni—ac mae digon o dystiolaeth wedi'i chyflwyno—bod menywod ifanc oddeutu 15 neu 16 oed, ar y cyfan, yn rhoi'r gorau i gymryd rhan mewn chwaraeon. Felly, tybed a allai'r grŵp hwn edrych, efallai, ar ryw ffordd o ymgysylltu, neu gadw merched ifanc yn rhan o hynny.

Croesawaf yr £1.4 miliwn y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w fuddsoddi yn ystod y tair blynedd nesaf, ac rwyf yn croesawu'r grŵp cynghori a fydd yn gweithio gyda phob rhan o'r Llywodraeth. Byddwn yn nodi—ac mae Rhun eisoes wedi nodi—bod seiberfwlio mae'n siŵr yn rhan fawr o ynysigrwydd. Pan fydd pobl ifanc, neu unrhyw un, ond rwy'n sôn yn arbennig am bobl ifanc, yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio hyd yn oed yn eu cartref, pryd yn y gorffennol byddai pobl ifanc wedi gallu cau'r drws a gwybod eu bod yn teimlo'n eithaf diogel, mae seiberfwlio yn effeithio mewn gwirionedd arnyn nhw hyd yn oed yn y fan lle maen nhw'n bodoli a sut y maen nhw'n byw. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mawr i weld a oes unrhyw waith yn cael ei wneud yn hynny o beth a pha un a wnaiff y Llywodraeth edrych ar unrhyw gynlluniau posib a fyddai'n annog cyfnewid syniadau neu efallai hyd yn oed rhywfaint o offer a fyddai'n caniatáu i bobl ifanc gael cyfleoedd i roi cynnig ar rai gweithgareddau na fyddai fel arall efallai ar gael iddynt oherwydd tlodi.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:31, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Joyce Watson am y sylwadau defnyddiol iawn yna. Unwaith eto, pwysleisiodd bobl ifanc 16 i 24 oed, sy'n faes hollbwysig yn fy marn i. Yn amlwg, bydd rhai o'r bobl ifanc hynny yn dal i fod yn yr ysgol ac felly credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn parhau â'n gwaith o ran iechyd meddwl mewn modd sy'n rhoi sylw i'r ysgol gyfan, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei drafod gyda'r grŵp gorchwyl a gorffen. Fel y dywedais yn fy ymateb i Rhun ap Iorwerth, mae'r gwaith gyda cholegau hyfforddi ac addysg yn hollbwysig.

Soniodd am wirfoddoli, ac rwy'n credu bod hwnnw'n faes yr ydym ni'n sicr wedi'i nodi fel rhywle lle gall pobl golli'r teimlad o unigrwydd ac ynysigrwydd yn ogystal â gwneud cyfraniad enfawr i gymdeithas. Felly, mae'r Llywodraeth yn ariannu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i annog a hyfforddi gwirfoddolwyr ac i ddarparu arbenigedd ar y pwnc hwn. Yn sicr, mae gwirfoddoli yn faes yr wyf yn ei weld yn hanfodol fel ffordd ymlaen.

Soniodd Joyce Watson am ardaloedd gwledig hefyd, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig, oherwydd credaf nad yw'r ymchwil a wnaethpwyd i unigrwydd ac ynysigrwydd mewn ardaloedd gwledig, o gymharu ag ardaloedd dinesig, wedi dangos fawr o wahaniaeth, ond yr hyn a wyddom ni yw, wrth gwrs, mai cyswllt yw'r broblem mewn ardaloedd gwledig, yr wyf eisoes wedi sôn amdano—pa mor bwysig yw sicrhau bod y drafnidiaeth ar gael. Felly, ceir y mater penodol hwnnw yn yr ardaloedd gwledig.

A nawr chwaraeon: mae chwaraeon yn amlwg yn gyfle gwych o ran iechyd, a mwynhad, ac rwy'n credu bod yr ymchwil yn dangos ei fod yn eich helpu i ymdrin ag iselder, unigrwydd ac ynysigrwydd. Felly, yn sicr, mae chwaraeon yn rhywbeth y byddwn yn gweithio'n agos iawn arno gyda Chwaraeon Cymru ac yn gobeithio cynnwys cwestiwn am unigrwydd ac ynysigrwydd ar yr holiaduron y maen nhw'n eu llunio ac yn yr ymchwil y maen nhw'n ei wneud. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr bob pawb o bob rhan o gymdeithas yn manteisio ar chwaraeon ar draws pob rhan o gymdeithas. Mae'n gwneud y pwynt pwysig iawn ynglŷn ag ennyn a chadw diddordeb menywod ifanc. 

Ac yna yn olaf, roedd y pwynt olaf, rwy'n credu, yn cyfeirio at seiberfwlio. Mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn ynglŷn â phobl yn teimlo'n ynysig ac yn unig yn eu cartrefi eu hunain, a chredaf fod hwn yn faes y byddem yn sicr eisiau rhoi sylw iddo.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 4:34, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Fel y gwyddoch chi mae'n siŵr, bu mynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd yn un o'm prif flaenoriaethau ac rwy'n falch eich bod chithau hefyd wedi'i wneud yn un o'ch rhai chi. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ar y mater hwn. Roeddwn hefyd yn falch o fod yn rhan o'r pwyllgor iechyd, ac fe roesom ni dystiolaeth helaeth, y tu mewn a'r tu allan i'r Cynulliad. Felly, roeddwn i'n falch o'm rhyngweithio bryd hynny. Gydag oddeutu traean ein cenedl yn profi unigrwydd, mae'n amlwg bod yn rhaid i ni weithredu.

Fel y dywedwch chi, Gweinidog, mae unigrwydd ac ynysigrwydd yn gallu effeithio'n helaeth ar ein lles corfforol a meddyliol. Mae astudiaethau tystiolaethol wedi dangos mwy o risg o drawiad ar y galon, strôc a dementia yn sgil ynysigrwydd cymdeithasol yn ogystal ag achosion uchel o iselder, gorbryder a phatrymau cysgu annarferol.

Yn anffodus, mae llu o resymau pam y gall rhywun deimlo ynysigrwydd ac unigrwydd cymdeithasol. Rhaid inni wneud popeth a allwn ni i liniaru cynifer o ffactorau ag y gallwn ni. Nid yw unigrwydd ac ynysigrwydd yn cael eu diffinio yn ôl oedran, ac er bod y cyfryngau cymdeithasol yn gallu gwella rhyngweithio cymdeithasol, gall hefyd arwain at fwlio a phobl yn encilio o weithgarwch o'r fath.

Felly, Gweinidog, prif flaenoriaeth eich cynllun gweithredu yw cynyddu'r cyfleoedd i bobl gysylltu. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidogion a llywodraeth leol ynghylch gwrthdroi ac atal cau llyfrgelloedd, canolfannau dydd a chyfleusterau hamdden? Mae'r cyfleusterau cymunedol hyn yn achubiaeth i lawer iawn iawn o bobl, yn enwedig yr henoed, ac maen nhw'n allweddol i atal ynysigrwydd.

Sylwaf o'r strategaeth eich bod yn canolbwyntio ar fynd i'r afael ag allgáu digidol. Er bod hyn i'w groesawu a bod cysylltedd digidol yn gallu chwarae rhan wrth fynd i'r afael ag unigrwydd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn hyn o beth. Gall mwy o ddigideiddio atal llawer o bobl hŷn rhag cael cysylltiad dynol ystyrlon. Felly, Gweinidog, beth wnewch chi i liniaru'r perygl yma? Gan aros gyda chynhwysiant digidol, Gweinidog, pa swyddogaeth ydych chi'n credu bydd i gynorthwywyr llais digidol yn eich strategaeth?

Mae gan grwpiau cymunedol swyddogaeth hanfodol wrth fynd i'r afael ag ynysigrwydd. Mae'r Sied Merched gwych ym Maesteg, sydd yn fy rhanbarth i, yn enghraifft ardderchog o sut y gall grwpiau gwirfoddol fod ar flaen y gad o ran ein dull gweithredu. Felly, Gweinidog, beth all eich Llywodraeth ei wneud i gefnogi grwpiau fel siediau merched a siediau dynion? A ydych chi neu'ch cydweithwyr wedi siarad â'r Trysorlys i drafod pa gymorth ariannol y gellir ei gynnig megis eithrio rhag TAW ac ardrethi busnes ac ati?

Yn olaf, Gweinidog, mae eich strategaeth yn rhestru seilwaith cymunedol fel ei hail flaenoriaeth. Ar wahân i deithio am ddim ar drenau i'r rhai dan 16 oed sy'n teithio â rhywun arall, prin yw'r sôn am drafnidiaeth gyhoeddus. Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da fod yn flaenoriaeth wrth fynd i'r afael ag ynysigrwydd? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog trafnidiaeth ynghylch mesurau i wella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru? Diolch. Diolch yn fawr.

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 4:38, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Caroline Jones am ei chyfraniad, ac rwy'n cydnabod y buom ni ar y pwyllgor iechyd gyda'n gilydd, ynghyd â Rhun ap Iorwerth, ac mae'r Cadeirydd yma bellach hefyd—ac fe gyflwynodd yr adroddiad rhagorol hwnnw, rwy'n credu, am unigrwydd ac ynysigrwydd, yn enwedig mewn cysylltiad â phobl hŷn. Felly, mae Caroline Jones yn cydnabod y risgiau i iechyd, ac mae'n dweud bod llawer o resymau pam mae pobl yn dioddef o unigrwydd ac ynysigrwydd. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cofio bod adegau tyngedfennol pan fydd hi'n llawer mwy tebygol y bydd pobl yn dioddef fel hyn, megis ymddeol—mae ymddeol yn achosi ynysigrwydd ac unigrwydd—a phrofedigaeth. Ac mae llawer o adegau tyngedfennol, y credaf ei bod hi'n bosib inni fod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw, sy'n golygu y byddwn yn gallu mynd i'r afael â'r materion hynny'n well.

Un o'r pethau yr ydym ni'n awyddus iawn i'w wneud yw ceisio cael gwared â'r stigma sy'n ymwneud ag unigrwydd ac ynysigrwydd, gan ei gwneud hi'n bosib i bobl allu dweud, 'rwy'n unig', heb iddo ymddangos fel rhywbeth y dylai fod yn gywilydd ei gyfaddef. Felly, rwy'n credu mai dyna un o'r pethau—cymaint ag y gallwn ni siarad am unigrwydd ac ynysigrwydd. Ac rydym ni'n defnyddio Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cael sgwrs am les, i weld beth y gallwn ni ganfod am yr hyn y mae'r cyhoedd yn ei feddwl ac yn ei ddweud am y pethau hyn er mwyn codi ymwybyddiaeth.

Ac yna, wrth gwrs, rwyf wedi cyfarfod â'r rhan fwyaf o'm cyd-Weinidogion i drafod sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion hyn. Oherwydd, unwaith eto, mae'n rhaid i mi ailadrodd bod hwn yn ddull trawslywodraethol, ac yn sicr nid yw'n rhywbeth y gall y Llywodraeth ei wneud ar ei phen ei hun—mae hwn yn fater ar gyfer y gymdeithas gyfan, felly yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud yw ceisio arwain y ffordd a chodi ymwybyddiaeth, ond ni allwn ni ei ddatrys. Felly, mae hynny'n bwysig iawn, rwy'n credu, i'w gofio.

Mae'r mater ynghylch cau cyfleusterau lleol wedi codi'n gynharach yn y ddadl hon, ac mae'n amlwg ei fod yn golled enfawr i lawer o bobl y mae eu bywydau o bosib yn troi o amgylch canolfan gymunedol leol neu lyfrgell leol. Ond fel y dywedais, rydym ni yn helpu i ariannu'r broses o greu canolfannau, sydd yn sicr yn digwydd yng Nghaerdydd, lle mae llyfrgelloedd yn troi'n ganolfannau, a lle mae lleoedd i bobl ddod i gael gwybodaeth a chymysgu a chael dosbarthiadau garddio ac amrywiaeth eang o bethau. Rwy'n credu mai dyna'r math o beth y mae'n rhaid i ni ei ddatblygu mewn gwirionedd.

O ran allgáu digidol, ydym, rydym yn gweithio i helpu pobl i gael eu cynnwys yn fwy digidol, ac un o'r prosiectau pontio'r cenedlaethau a gawsom ni, sydd mor bwysig, yw pryd y mae pobl ifanc yn mynd i helpu pobl hŷn i allu defnyddio dulliau digidol i gadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd, ac i ddefnyddio Skype i siarad â'u teuluoedd a allai fod yn byw ym mhen draw'r byd. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwneud hynny, ond gan gofio bob amser, fel y dywedodd, bod rhai pobl sydd ag angen dulliau eraill, mwy traddodiadol, o gael cyswllt.

Mae'n sôn am bwysigrwydd y grwpiau gwirfoddol—siediau merched, siediau dynion, mae'r holl rai y gwyddom ni amdanyn nhw yn gwneud cymaint o waith er mwyn cadw cysylltiad rhwng pobl a chadw pobl ynghyd. Yn amlwg, maen nhw'n rhan allweddol o'n strategaeth wrth inni symud ymlaen, fel yn wir maen nhw'n rhan allweddol o strategaeth y Llywodraeth. Ac unwaith eto, mae'r seilwaith cymunedol a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da yn un o'r materion hollol allweddol y byddwn yn mynd i'r afael â nhw. 

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:42, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Weinidog.