– Senedd Cymru am 4:10 pm ar 25 Chwefror 2020.
Felly, eitem 5 yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru—Strategaeth dulliau modern o adeiladu ar gyfer Cymru. Dyna ni. Felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i symud y datganiad. Julie James.
Diolch yn fawr i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am strategaeth Llywodraeth Cymru o ran dulliau modern o adeiladu, 'Ail-ddychmygu adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru', a sut y bydd y strategaeth hon yn cefnogi ein huchelgais i ddarparu mwy o dai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd uchel ledled Cymru.
Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, mae'r Llywodraeth hon wedi parhau i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy, gan ddarparu gwerth £2 biliwn o arian yn ei thymor cyfredol, ond rydym yn awyddus i adeiladu mwy ac rydym yn awyddus i adeiladu'n well. Fe fydd cartrefi cymdeithasol Cymru yn cael eu hadeiladu i safonau uchel o ran lle a harddwch, yn anwesu egwyddorion cadarn o ran creu cynefin, ac, wrth gwrs, braidd dim allyriadau o garbon. Fe fydd adeiladu cartrefi gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern yn chwarae rhan hanfodol wrth wireddu hyn.
Fe gafodd y strategaeth yr wyf i'n ei rhannu â chi heddiw ei chynhyrchu mewn ymateb i argymhellion yn dilyn yr adolygiad o gyflenwad tai fforddiadwy, a oedd yn nodi dulliau modern o adeiladu, neu MMC (modern methods of construction) fel y'i gelwir, yn ffordd o gynyddu'r cyflenwad tai yn gyflymach. Dros y flwyddyn ddiwethaf, fe wnaethom ni ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid allweddol ac arbenigwyr blaenllaw yn y sector tai, y diwydiant adeiladu a'r byd academaidd i gydgynhyrchu a phrofi dull gweithredu ein strategaeth MMC. Fe gawsom ni gefnogaeth aruthrol i'n cyfeiriad arfaethedig ni a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Mae eich cyfraniad amhrisiadwy chi wedi helpu i sicrhau bod ein strategaeth ni'n un gadarn, gyda chefnogaeth dda iddi a'i bod yn rhoi'r cyfle gorau inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle a gyflwynir gan MMC i adeiladu tai cymdeithasol ac i'n heconomi ni yng Nghymru.
Er mai megis dechrau y mae hyn, mae yna gydnabyddiaeth yng Nghymru a ledled y DU y gall defnyddio MMC ein helpu ni i adeiladu cartrefi o ansawdd gwell yn fwy cyflym na'r dulliau traddodiadol i ddiwallu'r angen am dai. Rydym ni'n ystyried MMC yn derm trosfwaol sy'n cynnwys dulliau adeiladu amrywiol, o ddeunyddiau a thechnolegau newydd hyd at weithgynhyrchu oddi ar y safle, sydd naill ai'n disodli neu'n ategu dulliau adeiladu traddodiadol.
Er y gallai rhai mathau o MMC fod yn fwy datblygedig na rhai eraill, yr hyn sy'n amlwg yw bod arloesedd yn y maes hwn wedi cynyddu'n ddirfawr dros y blynyddoedd. Rydym yn sicr wedi symud oddi wrth dai parod i dai hollol wych. Fe ddaeth y dyddiau i ben o ymhél â thai parod dros dro o ansawdd gwael; erbyn hyn, mae MMC yn adeiladu cartrefi fforddiadwy o safon uchel, sy'n ddymunol ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ac mae tenantiaid yn gallu ymfalchïo ynddyn nhw.
Mae ein dull ni o weithredu MMC yn cyd-fynd yn uniongyrchol â'r argymhellion eraill yn yr adolygiad o dai fforddiadwy. Fe fydd yn helpu cynghorau i adeiladu ar raddfa fawr ac ar gyflymder. Fe fydd ein system grantiau ni'n sicrhau nad yw cynlluniau MMC o dan anfantais o'u cymharu â rhai traddodiadol, ac mae safonau newydd arfaethedig o ran creu lleoedd yn sicrhau bod adeiladau traddodiadol ac MMC yn cael eu trin yn gydradd â'i gilydd.
Rydym yn cydnabod yr angen i feithrin dull cyson o fabwysiadu MMC gyda'n cymdogion. Mae hyn yn cynnwys alinio â dull y DU gyfan o warantau ac achredu cartrefi MMC ar gyfer rhoi hwb i hyder benthycwyr a defnyddwyr a defnyddio diffiniadau cydnabyddedig.
Mae cyfleoedd MMC yn mynd y tu hwnt i adeiladu tai. Mae'r strategaeth yn cefnogi ein huchelgais ni i symud tuag at economi gylchol, oherwydd fe allai adeiladu gan ddefnyddio MMC leihau gwastraff adeiladu gymaint â 70 i 90 y cant. Mae lleihau allyriadau o'r sector tai yn elfen allweddol o'n hymgais ni i liniaru newid hinsawdd ar frys.
Rydym yn ystyried y ffordd orau o nodi'r sgiliau newydd sydd eu hangen i wneud mwy o ddefnydd o MMC, sy'n cynrychioli newid sylweddol yn y diwydiant adeiladu. Mae angen sicrhau bod gan y gweithlu adeiladu presennol y sgiliau angenrheidiol i gyflawni ein huchelgeisiau ni, a denu pobl newydd ac amrywiol a grwpiau ar y cyrion fel troseddwyr, i archwilio cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant.
Mae ein cynlluniau'n rhoi cyfle gwirioneddol i gynhyrchwyr MMC Cymru, y mae llawer ohonyn nhw'n fusnesau bach a chanolig ac yn rhai sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, gan gefnogi busnesau Cymru wrth ddod o hyd i ddatrysiad o Gymru a chryfhau cyflenwyr Cymru. Yn gysylltiedig â hyn mae defnyddio pren o Gymru yn yr hirdymor i adeiladu tai.
Yn rhan o'r dull hwn o weithredu, rydym wedi dechrau ymarfer i ymgysylltu â holl ddarparwyr MMC Cymru er mwyn deall eu gallu, eu harbenigedd a'u cyfraniad nhw i'n nodau ni o ran tai cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ni'n ffodus fod gennym gyfoeth o gynhyrchwyr MMC profiadol yng Nghymru sydd eisoes yn cyflenwi cynnyrch o ansawdd uchel i gartrefi a datblygiadau masnachol ledled y DU. Mae'r cyfuniad o'u cynnyrch nhw, eu gweithlu profiadol nhw a'u cadwyn gyflenwi gynhenid nhw'n golygu eu bod ni mewn sefyllfa ddelfrydol ac yn barod i ymateb i'r cynnydd yn y galw am dai MMC. Rydym eisiau cefnogi'r busnesau hyn i elwa ar fwy o archebion ar eu llyfrau nhw a manteisio ar y buddion economaidd a chymdeithasol a ddaw yn sgil cynhyrchu MMC. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i hyrwyddo'r defnydd o MMC mewn tai cymdeithasol, a'r mis nesaf rydym yn cynnal uwch-gynhadledd i ddod â chynhyrchwyr MMC a landlordiaid cymdeithasol at ei gilydd ledled Cymru ar gyfer rhannu gwybodaeth a meithrin perthynas a chyfleoedd newydd rhwng pobl a'i gilydd.
Ar lawer ystyr, rydym ar flaen y gad yn barod o ganlyniad i lwyddiant ein rhaglen dai arloesol gwerth £90 miliwn sy'n cynnwys nifer o brosiectau MMC sydd ar y gweill eisoes. Er hynny, i gyflymu'r rhaglen eto, rwyf i am sicrhau y bydd £20 miliwn ar gael ar gyfer busnesau MMC a fydd, mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol Cymru, yn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o dai cymdeithasol. Rwyf i am sicrhau y bydd £25 miliwn arall ar gael ar gyfer rownd 4 y Rhaglen Tai Arloesol, sy'n canolbwyntio ar yr MMC yn arbennig.
Nid yw trosi'r strategaeth i fuddion gweladwy yn ymwneud yn unig â buddsoddiad ariannol. Dros y misoedd nesaf, fe fyddwn ni'n llunio'r nodau hyn mewn cynllun gweithredu a fydd yn darparu mwy o fanylion ynglŷn â'r modd y byddwn ni'n cyflawni amcanion y strategaeth MMC. Fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau cyn toriad yr haf, ond mae gwaith wedi dechrau o ddifrif eisoes. Mae mabwysiadu MMC ymhellach yn peri rhai heriau, ond nid yw'r rhain yn anorchfygol, ac rwy'n hyderus ein bod ni wedi dod o hyd i'r dull iawn a'r partneriaid iawn i fynd i'r afael â nhw. Mae'r strategaeth hon yn ein cadw ni ar flaen y gad o ran datblygiadau newydd ac arloesol, gan sicrhau bod tai cymdeithasol yn arwain y ffordd wrth godi safonau ar gyfer tai Cymru yn eu cyfanrwydd. Diolch.
A gaf i groesawu'r datganiad hwn ar ddulliau modern o adeiladu—MMC o hyn ymlaen? Mae Plaid Geidwadol Cymru drwy gydol y tymor Seneddol hwn wedi hybu'r math hwn o adeiladu, ac yn ein papurau gwyn ni ar ddylunio trefol ac ar dai, roeddem ni'n hyrwyddo'r syniad o ddefnyddio mwy ar MMC. Mae hwn yn llwybr yr ydym yn ei ffafrio yn hytrach nag yn un sy'n cael ei ysgogi gan anghenraid neu brinder, fel y bu yn y gorffennol. Mae hyn mewn gwirionedd, fel yr ydych chi wedi dweud, ar flaen y gad o ran adeiladu tai mewn dull modern. Felly, mae hwn yn rhywbeth y mae angen inni ganolbwyntio arno, ac rwyf i o'r farn, fel yr ydych chi wedi dweud, ei fod yn rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig a chwmnïau eraill fanteisio ar hyn. Rwyf i wedi ymweld â ffatri hefyd—yn y Pîl yr oedd hynny; rwy'n credu i chi ymweld ag un yng Nghastell-nedd—ond mae'n bwysig i weld y cyfleoedd sydd ar gael yno, ac fel yr ydych chi wedi dweud, mae'n cynnig manteision a chyfleoedd arbennig i ddiwydiant coed Cymru yn yr hirdymor.
Rwy'n credu bod MMC yn gofyn am hyfforddiant ac uwchsgilio, ond fe all hyn olygu dewis mwy deniadol o ran gyrfa—yn un peth, mae'r rhan fwyaf o'ch gwaith chi'n cael ei wneud dan do. Rwy'n credu mai'r anfantais yn hyn o beth—ac fe fydd yn denu pobl sy'n awyddus i gael y gyrfaoedd gorau o ran crefft oherwydd natur y gwaith—fel y nododd Cymdeithas Yswirwyr Prydain, mae angen gwaith manwl iawn, yn ystod y gweithgynhyrchu ac yna ar safle adeiladu cartrefi CCM, ac o ran y manteision, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni ac yna unrhyw waith atgyweirio sy'n cael ei wneud yn ystod oes y tai—gallwn golli llawer iawn o'r manteision. Felly, mae yna faterion gwirioneddol yn codi ynghylch hyfforddiant.
Mae gennyf ychydig o gwestiynau oherwydd, fel y dywedais i, rwy'n credu ein bod ni'n gytûn yn hyn o beth i raddau helaeth iawn. Yn ôl fy nghyfrifiad i, mae'r Gweinidog yn cyhoeddi buddsoddiad o £45 miliwn mewn MMC, ond a wnaiff hi gadarnhau hynny? Nid wyf i'n credu bod yna unrhyw orgyffwrdd rhwng y £20 miliwn yr ydych chi'n ei roi ar gyfer busnesau MMC ac yna'r rhan arall o rownd 4 y rhaglen tai arloesol, a fydd i'r MMC yn arbennig, fel y mynegwyd gennych chi'n glir iawn. Ond a wnewch chi gadarnhau hynny?
O ran y strategaeth sy'n cael ei chyflwyno, rwy'n edrych ymlaen at y datganiad pellach yn nhymor yr haf. A wnewch chi ein sicrhau ni eich bod chi wedi bod yn gweithio gyda—yn ogystal â'r gweithgynhyrchwyr a rhanddeiliaid eraill—Chymdeithas Yswirwyr Prydain? Maen nhw'n croesawu'r math hwn o adeiladu, ond maen nhw'n ymwybodol o'r risgiau yswiriant os nad yw'n cael ei wneud mewn modd sy'n gyflawn a phriodol. Efallai eich bod chi wedi gweld y nodyn a gyflwynwyd ganddyn nhw i'r Aelodau heddiw, a chredaf nad dim ond achos o bledio arbennig yw hyn; maen nhw'n gwneud pwyntiau pwysig iawn, ac rwy'n credu y dylem ni roi'r diwydrwydd dyladwy. Ond rwy'n cloi drwy groesawu'r datganiad.
Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna, David Melding. O ran y pwynt ynghylch yswiriant, fe wnes i'r pwynt yn fyr iawn yn y datganiad ein bod ni'n cydweithredu â chyfres o grwpiau diddordeb arbennig ledled y DU, a bod yswirwyr yn un o'r grwpiau hynny, oherwydd mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd y gall pobl gael morgeisi a bod y gwarantau yn briodol. Ac mae yna broblem fawr gyda safonau'r Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO) a'r angen i'w diweddaru ar gyfer dulliau modern o adeiladu. Felly, fe gafodd rhai o safonau'r ISO eu gwneud yn ôl yn y 1970au, pan nad oedd y pethau hyn yn bodoli. Ac, mewn gwirionedd, nid yw'r elfennau carbon-niwtral sydd yn hyn yn cydymffurfio â safonau'r ISO yn aml, am bob math o resymau da iawn. Felly, mae cryn dipyn o waith eto i'w wneud. A dyna pam y bydd strategaeth weithredu i ddilyn a bydd angen inni sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa iawn ar gyfer hynny, ac, yn ddigon amlwg, fe fyddem ni'n dymuno i bobl allu gweithio ledled y DU—ac, mewn gwirionedd, ledled Ewrop ac ati—o sylfaen weithgynhyrchu yng Nghymru. Ac felly mae'n bwysig iawn sicrhau ein bod ni'n gosod y safonau sy'n addas ar gyfer y sector. Felly, nid wyf i'n anghytuno â dim o hynny.
Rwy'n derbyn y pwynt am y gwaith manwl ynglŷn â chydosod ac adeiladu, ond un o'r pethau a wnaeth fy nharo i pan ymwelais â Hale Construction yn etholaeth Jeremy Miles ddoe—rwyf i wedi ymweld â nifer o'r ffatrïoedd hyn ac mae'r un peth ym mhob un ohonyn nhw—oedd, wrth gwrs, y ceir goruchwyliaeth lawer dwysach ar bob cam o'r adeiladu wrth iddo fynd yn ei flaen. Ac, yn anffodus, rydym wedi gweld, gyda dulliau traddodiadol o adeiladu a'r holl risgiau tân yr ydym ni wedi eu trafod sawl gwaith yn y Siambr hon, nad yw'r oruchwyliaeth honno'n bodoli ar y safle adeiladu traddodiadol—am bob math o resymau da, ond nid yw yno—ac felly, mewn gwirionedd, daeth llawer o namau yn amlwg wedyn, tra bod y broses hon mewn gwirionedd yn tynnu sylw at y namau hynny ar unwaith. Dangoswyd inni ddoe chwistrelliad o inswleiddio i mewn i banel, er enghraifft, ac mae'n amlwg iawn bod gwneud hynny dan do, lle mae'n sych, gan ddefnyddio system chwistrellu, yn golygu ei fod yn mynd i mewn i bob twll a chornel ac yn cael gwared â'r holl aer a phopeth arall, ond nid yw hynny'n wir pan mae'n cael ei wneud â system chwistrellu allan ar y safle. Felly, ceir llawer o fanteision. Ond ceir ambell i anfantais hefyd, siŵr o fod.
Y peth arall oedd ei bod hi'n tywallt y glaw bore ddoe, ac roedd—. Roedd y tywydd yn arw ofnadwy, fel y clywsom yn ystod y rhan gyntaf o fusnes y prynhawn yma, ac roedd y ffatri'n gweithredu'n llawn. Roeddwn i wedi mynd heibio sawl safle adeiladu ar y ffordd i'r ymweliad, a gwn fod tai cymdeithasol yn cael eu hadeiladu arnyn nhw, ac roedd pob un ohonyn nhw ar stop, oherwydd bod y tywydd yn drybeilig ac na allai dim ddigwydd yno. Ond roedd y ffatri hon yn gweithredu'n llawn, ac roedd pob aelod staff yno'n gynnes ac yn sych ac yn gwneud ei waith fel arfer. Felly, mewn gwirionedd, nid peth dibwys mo hynny mewn argyfwng hinsawdd ac mewn gwlad fel ein gwlad ni. Dangoswyd inni ddoe hefyd fod rhan helaeth o'r adeiladwaith yn dal dŵr ar unwaith. Felly, hyd yn oed os ydych chi'n ei gydosod ar y safle, mae'n parhau i ddal dŵr—mae'r paneli'n dal dŵr, ac yn y blaen. Felly, ceir llawer o fanteision i wlad fel hon.
A'r peth olaf y dymunaf ei groesawu yw eich bod wedi dweud bod cyfle i ddiwydiant coed Cymru, oherwydd credaf fod hwn yn bwynt pwysig o ran y broblem gyda llifogydd a oedd gennym ni'n gynharach. Mae'n amlwg bod angen plannu llawer mwy o goed—coed sy'n amsugno dŵr; mae angen eu plannu nhw ar flaenau dyfrffosydd ac yn y blaen. Maen nhw'n amsugno dŵr, maen nhw'n atal llawer o'r llifogydd hyn, maen nhw'n dal y pridd yn ei le, maen nhw'n atal mynyddoedd rhag symud ac yn y blaen. Ond fe allwch chi gynaeafu'r coed hynny hefyd oherwydd, os ydych chi'n gwneud hyn yn iawn, nid ydych chi'n torri'r cyfan i lawr—yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yw dethol rhywogaethau o goed i'w torri o goedwig sy'n bodoli eisoes, heb effeithio ar ddŵr ffo nac erydiad y pridd ac yn y blaen. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw bod yn llawer callach o ran sut y defnyddiwn ein coedwigoedd fel eu bod yn parhau i fod yn goedwigoedd, ond yn gnwd adnewyddadwy hefyd i'n diwydiant coed ni yng Nghymru. Fe fyddai hynny'n gynhaliaeth i lawer mwy o bobl oddi ar yr erwau hynny o dir na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.
Mae yna gonsensws wedi bod yn y Siambr hon fod angen inni gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn sylweddol, er y bu llai o gonsensws ynghylch a yw hi'n deg ystyried tai a werthwyd am dros £150,000 drwy Gymorth i Brynu yn dai fforddiadwy. Am y rheswm hwnnw, mae Plaid Cymru wedi dewis defnyddio'r term 'tai cymdeithasol' wrth sôn yn benodol am ein nodau ni ein hunain ar gyfer adeiladu tai, ac yn y fan honno, wrth gwrs, y ceir y brif broblem ynglŷn â chyflenwad. Felly, rydym yn croesawu'r strategaeth hon fel cam i'r cyfeiriad cywir, ac rydym yn cytuno y gall tai parod o'r math y tynnwyd sylw atynt yn y cyfryngau heddiw fod yn rhan ddefnyddiol o ddarpariaeth hynny, gyda'r rhybuddion arferol ynglŷn â rheoli ansawdd ac ati.
Felly, mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i chi, Gweinidog. Yn gyntaf, a ydych chi mewn sefyllfa i roi rhai ffigurau inni o ran y niferoedd yr ydych chi am eu gweld yn cael eu cyflenwi? Nawr, mae'r adroddiadau yn y cyfryngau, wrth gwrs, yn defnyddio'r ffigur o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ond fe wyddom ni fod y nod hwnnw'n cynnwys cartrefi nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, yn fforddiadwy, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, ac nad oes nod penodol ynddo ar gyfer tai cymdeithasol. Felly, pe gallech roi syniad inni faint o dai cymdeithasol yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cyflenwi yn sgil hyn, yna fe fyddai hynny'n ddefnyddiol iawn. Ac, yn ail, ar hyn o bryd mae'r system gynllunio'n cael trafferth yn barod i gyrraedd y lefel o dai fforddiadwy a ddylai drwy ddatblygiadau. Weithiau, mae hyn yn digwydd oherwydd bod datblygwyr yn dibynnu ar yr arolygydd cynllunio i wanhau ymrwymiadau tai fforddiadwy i warantu bod datblygiad yn dal i fod yn broffidiol, ac mae hwnnw'n rhywbeth nad yw'n bodoli mewn unrhyw ddiwydiant arall, ac yn rhywbeth y dylem ni roi ystyriaeth wirioneddol iddo. Ond dro arall, y rheswm syml yw nad yw adrannau cynllunio yn cyd-drafod yn dda iawn, neu eu bod nhw'n derbyn taliadau arian parod sy'n annigonol. Rwy'n ymwybodol o un datblygiad lle'r oedd y taliadau arian parod yn cyfateb i tua £50,000 fesul cartref, yr oedden nhw'n honni eu bod nhw'n gallu ei adeiladu, sy'n annigonol, yn amlwg.
Nawr, wrth gwrs, un fantais o dai parod yw bod y gost am bob uned yn llawer llai, ond, yn amlwg, yr hyn nad ydym ni'n ei ddymuno yw bod datblygwyr yn manteisio ar hynny ac yn lleihau eu taliadau arian parod nhw yn unol â hynny. Felly, yn lle'r sefyllfa honno, Gweinidog, a wnewch chi gryfhau'r system gynllunio fel ei bod yn ofynnol y bydd mwy o dai fforddiadwy yn cael eu cynnwys mewn datblygiadau i adlewyrchu'r ffaith y bydd hyn yn costio llai?
Mae'r ddau bwynt yna'n rhai da iawn. Ni cheir nod ar gyfer hyn ar yr adeg hon, gan ein bod ni'n parhau i fynd trwy'r ystadegau yn y rhaglen tai arloesol. Holl ddiben y rhaglen tai arloesol yw profi'r hyn y mae'r gweithgynhyrchwyr yn ei honni am y tai, a gwneud yn siŵr eu bod nhw mewn gwirionedd yn cynhyrchu'r hyn y maen nhw'n ei honni. Felly, mae pob un ohonyn nhw'n dweud wrthych eu bod yn lleihau biliau gan faint a fynnir o gannoedd o bunnoedd a bod y gost o'u hadeiladu nhw'n is ac yn y blaen, ond eu bod nhw'n brosiectau newydd ac arloesol iawn i gyd. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw eu monitro nhw dros flynyddoedd y prosiect, felly y rhai ym mlwyddyn 1, er enghraifft, o'r tair blynedd o fonitro.
Y gwir amdani yw bod llawer ohonyn nhw wedi cyflawni'r hyn y dywedasant y byddent yn ei wneud, ond nid yw eraill wedi gwneud hynny. Felly, rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio'r rhai sy'n gwneud fel y dywedasant ar y raddfa iawn, a bod y lleill yn cael cyfle i nodi'r hyn aeth o'i le a'i gywiro a rhoi hynny ar waith. Felly, nid wyf i'n barod i osod targed ar hynny, oherwydd rydym yn awyddus i wneud hyn yn iawn. Mae gwneud hyn yn iawn yn bwysig.
O ran y system gynllunio, nid strategaeth heddiw yw honno, ond mae'n amlwg yn bwynt cysylltiedig, ac rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i sefydlu rhywfaint o gynllunio a gymeradwyir ymlaen llaw. Yn fuan iawn, byddaf yn cyhoeddi rhai cynlluniau hunan-adeiladu yr ydym yn eu hystyried hefyd, ac yn y bôn, yr hyn yr ydym yn ei ddweud yw y bydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r cynllun ar waith cyn i'r tir gael ei ryddhau, ac yna fe fyddan nhw'n chwilio am ddatblygwyr partner neu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu'r tir. Felly, mae hynny'n goresgyn y broblem honno. Mae honno'n strategaeth gysylltiedig, ond nid y strategaeth hon heddiw mohoni.
A'r ail beth yw: fe fyddwch yn gwybod, rydych wedi fy nghlywed i'n siarad yn y Siambr hon yn aml am symud y math hwn o gynllunio i lefel cynllunio strategol ar bwynt rhanbarthol, ac mae hynny ar gyfer gwneud dau beth. Mae ar gyfer sicrhau ein bod ni'n lledaenu'r arbenigedd prin, fel bod awdurdodau sy'n negodi gyda'r sector preifat ar gyfer darnau mawr o dir yn gallu cael gafael ar arbenigedd priodol, oherwydd yn aml dyna'r unig dro y byddan nhw'n erioed yn gwneud hynny, ac fe fyddan nhw'n ennill sgiliau ac yna'n eu colli eto—felly, mae rhannu'r arbenigedd hwnnw mewn awdurdodau lleol yn bwysig iawn. Hefyd, fe fydd yn eu galluogi nhw i roi'r cynllun seilwaith strategol ar waith, fel y byddan nhw'n gwybod, pan fydd adeiladwr sector preifat yn dod yn ei flaen, pa seilwaith y disgwylir iddyn nhw gyfrannu ato, yn hytrach na swm mympwyol o arian yn seiliedig ar fforddiadwyedd y cynllun dan sylw. Felly, mae llawer o bethau eraill i'w gwneud.
Yr hyn y mae'r strategaeth yn ei wneud, serch hynny, yw caniatáu inni adeiladu'n gyflymach o lawer y math o dai y mae pobl yn awyddus i fyw ynddyn nhw. Fe wnaf i rannu un stori gyda chi o—o Rydaman, mewn gwirionedd, lle y gwnes i gyfarfod â Mr a Mrs Potter. Efallai eich bod chi wedi gweld fideo byr ar-lein gan Mr a Mrs Potter, a oedd wrth eu bodd yn y tŷ yr oedden nhw'n byw ynddo, a ddatblygwyd gan Coastal, landlord cymdeithasol cofrestredig. Dywedodd Mrs Potter wrthyf, ac mae hyn wedi aros gyda mi, 'Fe welsom ni'r hen garej yn cael ei dymchwel a'r tai'n cael eu codi ac roeddem ni'n meddwl, "O, datblygiad crand arall ar gyfer pobl grand. Rwy'n byw o hyd yn y fflat ofnadwy a neilltuwyd imi ac mae gan fy mab i bob math o broblemau". Ac yna fe ddywedodd, 'Fe gnociodd rhywun o'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig y drws a dweud, "A hoffech ddod i weld y tŷ yr ydym ni'n ystyried ei neilltuo i chi?", ac fe aethon nhw â fi i'r datblygiad crand hwn yr oeddwn i wedi bod yn lladd arno yn y siop leol gan nad oedd ar gyfer ein siort ni, a dyma ni nawr, yn byw ynddo.'
Dyna'r pwynt. Y rhain yw'r tai gorau yng Nghymru, nid y gwaethaf. Dyma'r tai y mae'r rhan fwyaf o bobl yn dymuno byw ynddyn nhw. Maen nhw'n dai o ddewis, nid tai o anghenraid, a chredaf mai dyna'r peth mwyaf hynod.
Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog. Rwy'n falch bod y Llywodraeth hon wedi ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn tai fforddiadwy, gan ddarparu £2 biliwn o gyllid yn y tymor Seneddol hwn, a'i hymrwymiad i adeiladu mwy ac adeiladu'n well.
Mae'n debyg eich bod chi wedi fy nghlywed i—rwy'n credu bod pawb arall wedi fy nghlywed i—yn sôn am bwysigrwydd adeiladu mwy o dai cyngor, ac ydw, rwy'n cytuno â'r hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud: rydym ni'n dymuno gweld adeiladau o ansawdd. Er ei bod hi'n debygol ein bod ni'n rhy ifanc i gofio, ond mae rhai ohonom wedi darllen am Parker Morris, ond tai cyngor oedd y rheini a oedd yn cael eu hadeiladu i safon y gallai pobl ei gael.
Rwyf wedi ymweld hefyd â datblygiad lle'r oedd y tai a adeiladwyd ar gyfer y landlord cymdeithasol cofrestredig yn fwy o faint ac o ansawdd uwch na'r rhai a werthwyd i'r sector preifat. Nid oes dim o'i le ar hynny. Rwy'n credu y dylem ddweud, 'Nid y mantra yw y dylai'r sector cyhoeddus fod o ansawdd is. Fe ddylai'r sector cyhoeddus fod cystal o leiaf, ond yn well os oes modd.'
Serch hynny, mae gennyf fy amheuon ond gellir fy argyhoeddi bod dulliau adeiladu modern yn ffordd o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn gyflym.
Fel y gŵyr y Gweinidog, ni wnaeth y dulliau adeiladu newydd yn y 1960au droi allan yn dda: tai dur yn Abertawe; sment â chyfradd uchel o alwmina yn Ysgol Olchfa; Ronan Point; tai anhraddodiadol yn Abertawe yn cael eu dymchwel ym Mlaen-y-Maes a'r Clâs a'u disodli gan dai a adeiladwyd yn draddodiadol gan landlord cymdeithasol cofrestredig; a'r tenement hefyd, a oedd yn fwy cyffredin yn yr Alban, ond roedd gennym ni ychydig ohonyn nhw yng Nghymru, ac roedd un yn Abertawe. Ni welwch hwnnw erbyn hyn ychwaith, gan iddo gael ei ddymchwel.
Mae llawer iawn o'r datblygiadau arloesol, modern iawn hyn yn y 1960au wedi diflannu. Felly, pam mae'r Gweinidog wedi ei darbwyllo na fydd problemau'n codi gyda'r genhedlaeth hon o dai a gaiff eu hadeiladu mewn ffordd anhraddodiadol? Oherwydd mae gan dai traddodiadol un fantais fawr: maen nhw'n sefyll am amser maith iawn.
Fel arfer, mae Mike Hedges yn gwneud pwynt da iawn yn gryno iawn, er hynny, fe ddywedaf i air o ganmoliaeth o ran y tai dur. Roedd fy mam-gu'n byw yn un o'r tai dur, fel y gŵyr ef—pedwar tŷ y tu allan i'm hetholaeth i, yn ei etholaeth ef. Ar y pryd, y tai hynny oedd y tai mwyaf ysblennydd yn Abertawe o bell ffordd. Unwaith eto, ni allai hi gredu ei bod yn byw yn un ohonyn nhw. Er nad yw'r cladin dur wedi sefyll prawf amser, mae'r tŷ'n parhau i fod yno, ac yn parhau i fod yn hardd ac yn parhau i fod yn helaeth, mewn gwirionedd. Felly, mae hyn yn bosibl.
Y rheswm pam rwyf i'n gwbl argyhoeddedig o'r dulliau hyn, serch hynny, yw oherwydd y rhaglen tai arloesol ac, fel roeddwn i'n dweud wrth ymateb i Delyth Jewell, ein bod ni'n rhoi prawf arni. Rydym yn cael ceisiadau gan y gweithgynhyrchwyr ac wedyn rydym yn eu gwthio nhw drwy raglen brofi i wneud yn siŵr bod yr honiadau yn cael eu gwireddu. Felly, mewn gwirionedd, nid ydym yn cyflwyno rhywbeth ar raddfa a chyflymder a fydd, rydym yn gobeithio, yn gweithio; rydym yn cyflwyno pethau yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw'n mynd i weithio ac sy'n cyflawni'r hyn y dywedwyd eu bod yn gallu ei gyflawni. Mae hwn yn bwynt pwysig iawn oherwydd nid ydym eisiau gwneud y camgymeriadau a wnaed yn y gorffennol.
O ran dylunio, rwy'n gwbl gytûn ag ef ynglŷn â mater dylunio. Rydym eisiau cael tai hardd, a gafodd eu dylunio'n hardd, sy'n dai am oes. Felly, ar gyfer y tai hyn, rydym yn chwilio am ddyluniadau a fydd yn caniatáu i rywun eu prynu fel cartref cychwynnol am y tro cyntaf, ac yna'n aros yn y tŷ hwnnw am weddill eu hoes, gan ychwanegu ystafelloedd gwely a hyd yn oed gael gwared ar ystafelloedd gwely. Felly, gall y tŷ dyfu gyda chi ac yna leihau gyda chi dros amser, gyda drysau llydan ar gyfer cadeiriau olwyn, pramiau a bygis, grisiau llydan, ystafelloedd ymolchi priodol ar y llawr gwaelod—yr holl bethau y mae eu hangen arnoch i gael profiad oes mewn un tŷ.
Mae'r dulliau adeiladu hyn yn caniatáu ichi wneud yn union hynny. Felly, nid yw pobl yn cael eu rhwygo o'u cynefin os oes ganddyn nhw anabledd yn y teulu, neu os oes ganddyn nhw unigolyn sy'n hŷn, neu os oes ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu. Fe all y tai gael eu haddasu yn y fan a'r lle.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Fel y gwyddoch chi'n iawn, rwyf wedi dadlau ers amser maith o blaid tai parod a modwlar i ateb y diffyg sydd gennym o ran tai cymdeithasol ac wedi bod yn dadlau o blaid y dull hwn ers imi gael fy ethol gyntaf. Fel rhywun a fagwyd mewn tŷ parod, mae gennyf i lawer o atgofion melys o'm cartref tŷ parod. Rwy'n sylweddoli na fyddai tai parod y gorffennol yn bodloni safonau modern, ond wedyn nid oes unrhyw un o'r cartrefi a godwyd yn yr adeg honno'n gwneud hynny.
Rwy'n croesawu strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol, sy'n derbyn na all dulliau adeiladu traddodiadol fynd i'r afael â'r angen dirfawr am dai cymdeithasol. Fel yr amlinellodd y Gweinidog yn ei datganiad hi, fe fydd dulliau modern o adeiladu ac adeiladu oddi ar y safle yn mynd i'r afael â'n prinder ni o gartrefi cymdeithasol drwy adeiladu mwy ohonyn nhw, a hynny'n gyflymach. Gweinidog, rwyf i'n cefnogi'r dull hwn yn llwyr ac yn gobeithio gweld ei ganlyniadau yn fuan iawn.
Fe ddywedwch chi y gallai adeiladu gan ddefnyddio MMC leihau gwastraff adeiladu hyd at 90 y cant. Ni ellir gorbwysleisio'r angen i ddatgarboneiddio'r diwydiant adeiladu. Gweinidog, o gofio bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chyrraedd ei thargedau o ran plannu coed, a fydd digon o gyflenwadau pren cynaliadwy ar gael i fodloni gofynion MMC yn y dyfodol? Gweinidog, sut ydych chi am sicrhau mai dim ond deunyddiau a ddaw o Gymru a ddefnyddir mewn cynhyrchion adeiladu yn y dyfodol?
Mae eich strategaeth chi'n nodi y bydd MMC a gweithgynhyrchu oddi ar y safle yn helpu i leihau biliau ynni. Felly, pa ystyriaeth a roddwyd i liniaru'r angen am oeri gweithredol wrth i'n hinsawdd ni gynhesu a mynd yn wlypach? Rydym wedi gweld y dinistr yn sgil effeithiau'r tywydd garw yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gweinidog, a wnewch chi gadarnhau y bydd cartrefi newydd sy'n cael eu hadeiladu gan ddefnyddio MMC, boed ar y safle ai peidio, yn cynnwys amddiffyniadau rhag llifogydd, megis falfiau unffordd a rhwystrau rhag llifogydd?
Ac yn olaf, Gweinidog, un o fanteision mwyaf cael fy magu mewn tŷ parod oedd bod â gardd a chymuned o'ch cwmpas. A wnewch chi sicrhau y bydd gardd i bob cartref cymdeithasol a gaiff ei adeiladu drwy MMC a gweithgynhyrchu oddi ar y safle? Mae bod â gardd yn hanfodol i deuluoedd a phlant, ond i bobl oedrannus hefyd, gan ei bod yn eu galluogi nhw i gadw anifeiliaid anwes. Felly, Gweinidog, a wnewch chi sicrhau y bydd tenantiaid cymdeithasol yn y cartrefi newydd hyn yn gallu cadw anifeiliaid anwes er mwyn helpu i fynd i'r afael ag unigedd ac unigrwydd? Diolch.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau a sylwadau. O ran cyflenwadau o goed, fel roeddwn i'n dweud wrth ymateb i David Melding, mae hyn yn gwbl gysylltiedig â thwf y diwydiant coed yng Nghymru. Felly, yn sicr nid oes gennym ddigon o bren o'r math cywir ar hyn o bryd; mae angen i ni blannu, ac mae angen i ni blannu hynny mewn ffordd sy'n sicrhau coedwig fioamrywiol. Felly, fe fydd hi'n goedwig sy'n edrych fel coedwig—i'r rhai ohonom ni a fyddai'n gwneud darlun o goedwig, fe fyddai'n edrych fel yna—ond mae'n bosibl ei thocio hi, a dyna'r pwynt. Felly, nid ydych chi'n ei thocio hi'n llwyr. Nid cnwd yn unig mohoni, ond coedwig. Ond fe allwch ei thocio hi mewn ffordd sy'n golygu bod y goedwig yn aros, ond mae gennych chi gnydau o un rhywogaeth o wahanol fathau yn rhedeg drwyddi. Dyna'r ffordd orau o wneud hyn. Fe wneir fel hyn mewn llawer man yn y byd ac nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni wneud fel hyn yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, yn anffodus, ni allaf ddweud mai dim ond deunyddiau o Gymru a ddefnyddir i hyn oherwydd ni fyddai hynny'n bosibl. Ond yn sicr y nod sydd gennym yw gwneud hynny. Rydym yn gweithio gyda'r holl weithgynhyrchwyr yn y maes hwn, ochr yn ochr â'r cynghorwyr busnes sydd gan Ken a Busnes Cymru, i edrych ar eu cadwyni cyflenwi a gweld beth allwn ni ei wneud ynghylch sicrhau eu bod nhw'n defnyddio, lle bo hynny'n bosibl, gynhyrchion o Gymru, a lle ceir bwlch yn y gadwyn gyflenwi, beth allwn ni ei wneud i ysgogi rhywun i ddod i'r adwy a sicrhau bod cynnyrch o Gymru ar gael. Felly, mae hynny'n wir yn mynd rhagddo, ac mae fy nghydweithiwr i, Lee Waters, gyda'r darn Swyddi Gwell yn nes at Gartref a'r darn economi sylfaenol, wedi bod yn gwneud yr un peth gyda ni, ynglŷn â gwneud yn siŵr bod y gadwyn gyflenwi yn dod at ei gilydd.
O ran diogelu rhag effeithiau'r tywydd, nid yw pob un o'r systemau modwlar a'r dulliau modern o adeiladu—nid modiwlau yw'r cyfan ohonyn nhw, mae'n rhaid imi ddweud—yn cael eu diogelu rhag llifogydd yn llwyr, oherwydd ni fwriedir i bob un ohonyn nhw gael eu hadeiladu ar orlifdir. Ond rydym yn rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud ar gyfer tai sy'n cael eu hadeiladu ar orlifdiroedd. A dweud y gwir, yr ateb gorau i hynny yw peidio â'u hadeiladu ar orlifdir yn y lle cyntaf. Ond fe fyddwn ni'n sicr yn rhoi ystyriaeth i'r hyn y gallwn ni ei wneud o ran diogelu rhag effeithiau'r tywydd. O ran gwres ac oeri, mae hynny'n gwbl annatod. Felly, mae pympiau sy'n tarddu o'r awyr a gwres o'r ddaear yn oeri ac yn cynhesu'r tŷ, yn dibynnu ar y tymheredd amgylchynol y tu allan, ac mae hwnnw'n bwynt pwysig iawn.
O ran gardd, fe fydd y safonau o ran gofod yn pennu gardd mewn rhai amgylchiadau, ond nid ym mhob un amgylchiad. Er enghraifft, weithiau fe fydd yn ddymunol ac yn wir yn hanfodol, oherwydd y boblogaeth sy'n tyfu, i gael adeiladau sy'n uchel ac o ddwysedd uchel. Nid yw hynny'n golygu diffyg ansawdd na ddiffyg dyluniad na ddiffyg manyleb. Ond wrth gwrs, os ydych chi ar y pumed llawr, ni fydd gennych ardd yn rhan o'ch fflat chi at eich defnydd chi eich hun. Yr hyn y gallwch ei gael yw seilwaith gwyrdd da o amgylch yr adeilad dwysedd uchel, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, cael seilwaith gwyrdd yn ein dinasoedd ni, a sicrhau bod dyluniad yr adeiladau preswyl dwysedd uchel yn addas, fel bod gan bobl fan awyr agored hanfodol i fynd iddo. Rwy'n cytuno â hynny. Ond nid yw hyn mor syml â dweud bod gan bobl ardd; mae'n llawer mwy cymhleth na hynny.
Y peth olaf rwyf eisiau ei ddweud yw—ac rwy'n ymddiheuro oherwydd dylwn fod wedi gwneud hyn mewn ymateb i sawl un—ydy, mae'r arian yn gronnol, ond nid yw'n hollol fodiwlaidd. Felly, nid yw dulliau modern o adeiladu yn fodiwlaidd i gyd, ac mae peth o'r stwff Rhaglen Tai Arloesol yn ymwneud â dulliau adeiladu modern nad ydyn nhw o reidrwydd yn cynhyrchu oddi ar y safle. Felly, nid yw mor syml â dweud bod £45 miliwn ar gyfer hynny, ond mae'r cyfan yn ymwneud â dulliau modern o adeiladu. Mae rhywfaint o'r Rhaglen Tai Arloesol yn ymdrin â'r dulliau o brofi'r hyn a gaiff ei honni hefyd; fe fydd rhywfaint o'r arian yn cael ei ddefnyddio i hynny.
A'r peth olaf yr wyf am ei ddweud wrth ymateb i Caroline Jones a nifer o bobl eraill a gododd hyn yw mai system yw hon a gaiff ei seilio ar gost oes yr adeilad i raddau helaeth. Felly, nid yw'n ymwneud â gostwng cost ymlaen llaw'r adeiladu hyd at yr enwadur cyffredin isaf—fe gododd Delyth y pwynt hwn gyda mi hefyd—mae hyn yn ymwneud â sicrhau, pan fydd yr awdurdod cynllunio a'r awdurdod lleol yn edrych ar gost y tŷ, y byddan nhw'n edrych ar gost oes y tŷ, gan gynnwys y gost o fyw ynddo ac ati, nid cost ei adeiladu yn y lle cyntaf yn unig.
Rwy'n cytuno gyda phopeth bron sydd wedi cael ei ddweud, felly rwyf am ganolbwyntio ar rai agweddau pellach. Fe hoffwn i ganolbwyntio ar y gair 'harddwch' yn eich datganiad chi, oherwydd rwyf i o'r farn fod honno'n uchelgais pwysig iawn. Pam rydym ni'n dymuno adeiladu adeiladau hyll? Mae cost enfawr i adeiladau hyll na ddylem ni fod yn ei chaniatáu.
Fe wnes i ymweld yn ddiweddar â Llys Ewenni yn Nhrelái, sydd yn etholaeth y Prif Weinidog, i weld y naw cartref sydd ag un neu ddwy ystafell wely y byddai unrhyw un yn falch o fod yn byw ynddyn nhw, oherwydd maen nhw'n bodloni'r meini prawf o ran harddwch yn ogystal â'r meini prawf ar gyfer creu lleoedd. Yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gynllunio yr ydym yn ei gynnal, rwyf wedi dod ar draws adroddiad y Comisiwn Building Better, Building Beautiful a gynhyrchwyd tua mis yn ôl, sydd â thri gofyniad ynddo, sef gofyn am harddwch, ymwrthod â hagrwch, a hyrwyddo stiwardiaeth. Mae hyn yn adleisio uchelgeisiau'r Gweinidog o ran creu lleoedd. Yn yr adroddiad hwnnw, maen nhw'n dyfynnu uwch arbenigwr adeiladu sy'n dweud:
Mae rhai adeiladwyr tai ... yn credu y gallan nhw adeiladu unrhyw hen sothach a'i werthu beth bynnag.
Ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir. Tybed beth allwn ni ei wneud i wahardd sbwriel sy'n costio symiau mawr i unioni'r broblem, a sicrhau bod gennym nid yn unig yr un safonau o ansawdd uchel ar gyfer tai preifat ag sydd gennym ni ar gyfer tai cymdeithasol, yn ogystal â sicrhau bod gan yr awdurdodau cynllunio y dewrder a'r gallu i wrthod cynigion gwael, sy'n gost i'r gymdeithas. Os byddwn ni'n codi adeiladau tila, yna mae'n rhaid eu rhwygo i lawr neu eu hailgodi nhw.
Felly, tybed a wnewch chi ymgorffori hynny yn eich adolygiad chi o'r rheoliadau adeiladu, yn ogystal ag yn eich cyfarwyddiadau chi i awdurdodau cynllunio, i wrthod cynigion adeiladu yn hollol nad ydyn nhw o safon a heb eu hintegreiddio yn llawn yn yr uchelgeisiau o ran creu lleoedd sydd gennym ni yn sgil y datganiad hwn.
Byddwn, fe fyddwn i'n cytuno â hynny, mae'n debyg. Y broblem gyda'r gair 'harddwch' yw mai rhywbeth goddrychol yw hynny, yn amlwg. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw ein bod ni'n ei ddefnyddio fel gair byrdymor am 'adeiladwyd yn ôl safonau da iawn a manwl iawn'. Efallai na fyddech chi'n edrych ar dŷ ac yn meddwl, 'Wel, am hardd', ond efallai y byddai unigolyn arall yn gwneud hynny; ond yr hyn y gallech ei ddweud yw, 'Fe gafodd hwn ei adeiladu i safon uchel, gydag ystafelloedd o faint da, golau da, a ffynonellau da o bopeth arall', ac ni fyddai'r ffaith nad ydych chi'n ei hoffi oherwydd ei fod yn binc neu'n las yn bwysig.
A dweud y gwir, un o'r pethau yr ydym ni'n ystyried eu gwneud gydag awdurdodau lleol sy'n datblygu rhan o hyn gyda ni yw cael llyfrau o batrymau, fel y gallan nhw gymeradwyo ceisiadau cynllunio o flaen llaw am setiau arbennig o dai sydd yn amlwg yn cydymffurfio â'r gofynion ansawdd dylunio uchaf—y DQR, fel y'u gelwir—ond maen nhw'n edrych yn wahanol i'w gilydd, mae'n amlwg. Oherwydd mae gan bobl wahanol syniadau ynglŷn â'r hyn y mae harddwch yn ei olygu. Ystyr harddwch i ni yw hardd o ran maint, lle, effeithlonrwydd ynni, a sut le ydyw i fyw ynddo, ac yna os ydych chi'n meddwl mai gwyrdd neu binc y dylai fod ar y tu allan, wel mater i chi ac i weddill y datblygiad fyddai hynny. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt hwnnw.
Ond rydym ni'n cynnwys hynny yn y dylunio, ac rydym ni'n prysur symud—yn ein hymgynghoriad ni ar Ran L a'r Papur Gwyn a fydd yn dilyn—tuag at fod â'r un safonau o ran lle a'r un safonau o ran harddwch ledled Cymru ar gyfer pob math o dai, ac nid yn wahaniaethol fel y maen nhw ar hyn o bryd. Fe ddywedodd Mike Hedges, rwy'n credu, ar hyn o bryd, os oes gennych chi dŷ cymdeithasol yng Nghymru, mae'n debyg eich bod chi mewn cartref o safon well na phe baech chi wedi prynu un yn ddiweddar. Ni wn a yw pawb yn gwybod hynny, ac nid oes gennyf i broblem â hynny o safbwynt tai cymdeithasol, ond mae gennyf broblem â hynny o ran cynaliadwyedd y sector preifat. Felly, rydym ni'n prysur anelu at gael yr un safonau drwyddi draw.
Roeddwn i'n hapus iawn o gael fy neffro'r bore yma gan eich llais hyfryd ar y teledu, yn cyhoeddi gyda gwên siriol eich bod chi am adeiladu mwy o dai yng Nghymru. A minnau'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar adeiladu, newyddion da iawn yw hynny.
Ond ar gyfer llwyddo wrth gyflawni'r uchelgais a nodir yn y strategaeth, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni fynd â llawer o bobl gyda ni ar y daith honno. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu a'r diwydiant ei hun yn awyddus i gefnogi'r strategaeth a gweithio gyda ni i gyflawni'r canlyniadau, ac fe fyddai'n arbennig o dda ganddyn nhw gael clywed rhagor o fanylion ynghylch nifer y cartrefi, yr amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu, a chyfran y tai fforddiadwy i'w hadeiladu gan ddefnyddio gweithgynhyrchu oddi ar safle.
Mae diddordeb ganddyn nhw—ac rwy'n siŵr fod gan bawb arall yn y fan hon—yn yr eglurder sydd ei angen i helpu i ddatblygu dull y sector o fuddsoddi yn y mathau newydd hyn o dechnolegau, ac felly'r sgiliau sydd eu hangen i'w bodloni. Felly, Gweinidog, maen nhw'n gobeithio am wybodaeth weddol fanwl a hawdd ei chael yn y dyfodol agos. Mae'n bwysig cydnabod y bydd y gofynion sgiliau ar gyfer darparu mwy o dai cymdeithasol drwy dechnolegau modern ychydig yn wahanol i'r sgiliau sydd eu hangen ar hyn o bryd, ac fe fydd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, y cyflogwyr a'r colegau yn dymuno eich helpu chi i gyflawni'r canlyniad a ddymunir gennych.
Gyda hynny mewn golwg, fe fydden nhw'n hoffi deall sut yr ydym ni'n bwriadu dysgu'r sgiliau hynny, ac a fyddem ni'n ystyried dysgu'r dulliau modern o adeiladu drwy gyfrwng yr wyth cymhwyster newydd a gaiff eu cyflwyno yn 2021, ac efallai gynnwys TGAU newydd, Lefel AS a Lefel A mewn adeiladu a'r amgylchedd adeiledig o fewn y cynnig hwnnw. Felly, byddai'n ddiddorol iawn cael gwybod a yw hynny'n rhan o'n hystyriaeth ni.
Ac yn olaf o'm rhan i, rwyf i ac eraill wedi gofyn, a byddai'n dda iawn gennym wybod, o ble y daw'r deunydd crai—y pren, mewn geiriau eraill. Ac fe wn i eich bod wedi ateb y cwestiwn hwnnw sawl gwaith heddiw, ond yr hyn yr wyf i'n arbennig o awyddus i'w gael gennych chi, Gweinidog, yw sicrwydd llwyr na fyddwn ni, yn ein huchelgais i adeiladu tai da ar gyfer rhai pobl, yn dinistrio cartrefi pobl eraill, oherwydd fe fyddai honno rywsut yn sefyllfa hurt iawn.
Diolch yn fawr iawn am hynny, Joyce Watson. O ran y pwynt ynghylch pren, hoffwn ei ailadrodd, oherwydd bod gwerth ei ailadrodd yn fy marn i. Nod y strategaeth yw creu marchnad ddomestig gref i goed Cymru, ac mae'n cysylltu â'n dyhead i fod yn genedl goedwig. Ac nid ydynt yn gwrthwynebu ei gilydd o gwbl. Ein huchelgais yw datblygu'r diwydiant coed ffyniannus hwnnw, ac mae hynny'n gofyn am ddull gweithredu cenedlaethol meddylgar o blannu a chynaeafu coed yn fasnachol. Felly, fel y dywedais, nid ydych yn clirio ochrau mynydd cnydau gan arwain at golled ddinistriol i'r pridd, a phopeth arall; rydych yn llunio strategaethau plannu a thyfu cnydau yn ofalus mewn coedwig fioamrywiol gynaliadwy. Mae hynny'n berffaith bosibl ac mae'n digwydd mewn llawer o leoedd yn y byd, ac nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni wneud hynny. Bydd angen i hynny harneisio ein hasedau naturiol a bydd yn helpu ein heconomi, a bydd yn helpu ein canlyniadau amgylcheddol ar gyfer hynny.
Ac yna, holl bwynt y rhaglen IHP—y rhaglen tai arloesol—yw treialu hynny er mwyn inni wybod beth fydd yn gweithio, er mwyn inni wybod ble i'w plannu, er mwyn inni wybod o ble mae'r pren yn dod ar hyn o bryd, a'n bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'n cynghorau i wneud yn sicr bod y pren yn dod o ffynonellau mewn modd cyfrifol. Fel y dywedais wrth ymateb i Caroline Jones, ni allwn wneud hynny i gyd o Gymru ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio'n galed iawn i blannu'r coed nawr a fydd yn ein galluogi i wneud hynny yn y dyfodol. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt da iawn wedi ei wneud yn dda; mae angen inni bwysleisio hynny. Nid yw'r ffaith eich bod yn defnyddio diwydiant coed yn golygu eich bod yn datgoedwigo, oherwydd yn bendant nid ydym yn awyddus i wneud hynny.
O ran y diwydiant adeiladu, rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r sector adeiladu. Rydym yn sicr yn croesawu eu hymateb i fod eisiau gweithio gyda ni i'n cynorthwyo i ddatblygu sgiliau, ac yn y blaen. Soniais yn y datganiad y byddwn yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y strategaeth. Ac yn rhan o'r cynllun gweithredu, byddwn yn sicr yn mynd i'r afael â'r sylfaen sgiliau sydd ei hangen yn y gweithlu, a sut yr ydym yn bwriadu integreiddio hynny â'r cymwysterau ac, yn wir, y rhaglen brentisiaeth y mae fy nghyd-Aelod Ken Skates yn ei hystyried ynghyd â'r cymwysterau newydd, Joyce, yr ydych chi eisoes wedi eu crybwyll.
Ac yna, y peth olaf i'w ddweud yn unig o ran blaenoriaethu, rydym yn awyddus iawn bod grwpiau agored i niwed yn cael cyflogaeth drwy'r llwybr hwnnw. Fe wnes i ddweud yn fyr yn y datganiad y byddwn yn edrych ar grwpiau fel carcharorion, ond rydym hefyd yn edrych ar bobl ddi-waith yn y tymor hir. Gall y ffatrïoedd hyn fod yn eithaf bach yn wir, felly gallan nhw fod yn lleol yn y man lle mae'r tai yn cael eu hadeiladu. Nid oes gennych chi un ffynhonnell fawr—ffatri enfawr yn defnyddio llawer iawn o dir yn rhywle ac yn dosbarthu pethau ar lori; mae gennych ffatrïoedd bach lleol sy'n adeiladu tai lleol ar gyfer pobl leol, trwy ddefnyddio cyflogaeth leol. Felly, mae'n creu cyflogaeth leol trwy ddefnyddio pobl leol.
Felly, mae llawer o enillion i bawb yn y strategaeth hon, ac rwy'n credu y byddwn yn gweithio arnyn nhw gyda'r diwydiant adeiladu a'r adeiladwyr tai BBaCh, yn benodol, i fwrw ymlaen â hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.