5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019)

– Senedd Cymru am 2:31 pm ar 10 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:31, 10 Mawrth 2020

Ac, felly'r eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr wybodaeth ddiweddaraf am coronafeirws. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething. 

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau i esblygu ac erbyn hyn mae gennym chwe achos pendant. Fe fydd mwy o achosion yn cael eu cadarnhau yma ac mewn mannau eraill yn y DU yn ystod y dyddiau nesaf. Mewn ymateb i'r sefyllfa gyfnewidiol, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu ar y cyd â Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig cenedlaethol eraill. Mae hyn yn adeiladu ar ein profiad o drin clefydau heintus ac ar ein cynlluniau ni ar gyfer ffliw pandemig.

Mae'r cynllun gweithredu yn ymdrin â'r hyn a wyddom ni am y feirws ar hyn o bryd ac am y clefydau a achosir ganddo; sut rydym ni wedi cynllunio ar gyfer achosion o glefydau heintus fel coronafeirws; y camau a gymerwyd gennym hyd yn hyn wrth ymateb i'r achosion  presennol; yr hyn y bwriadwn ei wneud nesaf, gan ddibynnu ar gyfeiriad yr achosion presennol; ac, wrth gwrs, yr hyn y gall y cyhoedd ei wneud i gefnogi'r ymateb hwn, yn awr ac yn y dyfodol.

Rwyf wedi gofyn i brif weithredwr GIG Cymru sefydlu tîm cynllunio ac ymateb o blith GIG Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol i ddefnyddio'r arbenigedd priodol a bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â phroblemau ymateb wrth inni symud drwy gamau'r achosion hyn. Fe fydd y tîm hwn yn rhoi cymorth parhaus, yn cydgysylltu ac yn integreiddio'r ymateb o ran y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol. Fe fyddan nhw'n cydgysylltu eu gwaith nhw â chylch gwaith ehangach Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau Llywodraeth Cymru. Fe geisiwyd sicrwydd ar unwaith ac fe gafwyd cadarnhad gan bob bwrdd iechyd sydd ag ysbytai acíwt eu bod nhw'n barod i dderbyn cleifion i'w cyfleusterau ynysu.

Y penwythnos hwn, fe roddais i ganiatâd i gyflenwi cyfarpar diogelu personol i bob practis meddyg teulu ledled Cymru. Fe gaiff cyflenwadau o offer amddiffynnol personol i fferyllfeydd cymunedol eu hanfon yn nes ymlaen yr wythnos hon. Rydym yn rhoi ein cyflenwadau pandemig ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ar waith, fel bod y stôr hon yn barod i gael ei dosbarthu yn ôl yr angen.

Rydym yn parhau i gymryd camau i ganfod achosion cynnar, a mynd ar drywydd cysylltiadau agos, ac atal y clefyd rhag ymsefydlu yn y wlad hon am gyhyd ag sy'n bosibl yn ymarferol. Pe byddai'r clefyd yn ymsefydlu yn y DU ac yng Nghymru, fe fyddai angen inni ystyried mesurau pellach i leihau cyfradd a maint ei ledaeniad.

Fe fyddwn ni felly'n ceisio ennill pwerau newydd i Gymru drwy Fil Coronafeirws y DU gyfan sydd i'w gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin, i helpu systemau a gwasanaethau i weithio'n fwy effeithiol wrth fynd i'r afael â'r achosion. Fe fydd y Bil yn cryfhau pwerau o ran cwarantin a thorfeydd o bobl, ac fe fydd yn caniatáu i ysgolion a cholegau gau, pe byddai angen, i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws. Mae pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU wedi cytuno mai un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer y DU gyfan yw'r dull cywir. Serch hynny, rwy'n awyddus i ailadrodd y pwynt, yn yr un darn hwnnw o ddeddfwriaeth i'r DU gyfan, y bydd disgwyliad clir bod yr holl bwerau hynny sydd wedi eu datganoli ar hyn o bryd yn parhau i fod yn gyfrifoldebau i Weinidogion mewn Llywodraethau cenedlaethol datganoledig.  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:35, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Fe fydd yn rhaid i'n GIG ni yma wneud rhai newidiadau i'r ffordd y mae'n gweithredu. Mae hynny'n cynnwys gofal a chyngor dros y ffôn a thechnoleg gwybodaeth. Rwyf wedi penderfynu y bydd system feddalwedd newydd ar gael ledled Cymru i alluogi pobl i ymgynghori â'u meddygon teulu drwy gyfrwng fideo. Rydym eisoes wedi cyflwyno gwiriwr symptomau ar-lein, y gellir ei ddefnyddio ar ein gwefan ni, Galw Iechyd Cymru. Wrth gwrs, mae'r wybodaeth ddiweddaraf bob dydd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd. Fe ddylai hyn helpu i leihau'r pwysau ar y staff rheng flaen, a chefnogi pobl drwy roi mwy o wybodaeth a chyngor iddynt.

Rydym eisiau gweld cydbwysedd rhwng cadw pobl yn ddiogel a lleihau'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd. Fe fydd ein penderfyniadau ni'n adlewyrchu'r dystiolaeth wyddonol, ac yn ystyried y cyfaddawdu sy'n gysylltiedig â hynny. Mae'r camau y byddwn ni'n eu hystyried yn cynnwys annog mwy o bobl i weithio gartref, ymatal rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a mesurau ymddygiadol eraill y gall pobl eu cymryd yn wirfoddol i arafu ymlediad y clefyd. Fe fyddwn ni'n ystyried a ddylai'r rhai sydd â symptomau llai amlwg eu hynysu eu hunain, ond fe gaiff hyn ei lywio gan gyngor arbenigol ar epidemioleg yr achos, ac nid ydym wedi cyrraedd y sefyllfa honno heddiw.

Mae'n werth inni atgoffa ein hunain a'r cyhoedd, er hynny, na ddylai pobl sydd â symptomau tebyg i'r ffliw fynd i'r gwaith, na mynd i weld eu meddyg teulu, na mynd i adrannau damweiniau ac argyfwng. Nid cyngor newydd yw hwnnw—dyna'r cyngor cyfredol ar hyd y flwyddyn.

Mae rhai digwyddiadau cyhoeddus mawr y tu allan i Gymru, fel y gwelsom ni, wedi cael eu canslo neu eu gohirio er mwyn cyfyngu ar y perygl o drosglwyddo coronafeirws. Mae nifer o ysgolion wedi cau mewn gwledydd eraill am resymau tebyg. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn bosibl i ninnau hefyd yn y dyfodol. Eto i gyd, nid ydym yn y sefyllfa honno ar hyn o bryd. Fe ddylai'r ysgolion aros ar agor, ac nid oes sail resymegol i ganslo digwyddiadau chwaraeon mawr ar hyn o bryd.

Ond mae rhai o'r mesurau mwyaf effeithiol yn cynnwys pob un ohonom ni—nid y Llywodraeth neu'r GIG yn unig. Er enghraifft, fe all gweithdrefnau hylendid personol syml gyfyngu'n sylweddol ar ledaeniad y feirws, fel y gall hunan ynysu darbodus i'r rhai sy'n wynebu risg arbennig. Fe all cyflogwyr gefnogi eu staff i gymryd camau o'r fath, ac fe ddylen nhw wneud hynny, heb godi braw yn ormodol. I liniaru'r effaith ar fusnesau, mae Llywodraeth Cymru wedi cofrestru COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Fe fydd hyn yn helpu cwmnïau i geisio iawndal drwy eu polisïau yswiriant os bydd yn rhaid iddyn nhw ganslo unrhyw beth o ganlyniad i ymlediad y feirws.

Rydym yn symud tuag at drefniadau monitro gwell ym maes awyr rhyngwladol Caerdydd. Fe fydd hyn yn golygu y bydd angen i bob awyren sy'n glanio yma o ranbarth a nodir gan ddiffiniad yr achos, ddatgan unrhyw deithwyr sy'n arddangos symptomau gerbron timau iechyd porthladdoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn iddyn nhw ddod oddi ar yr awyren.

Y tu allan i'r DU, mae'r risg yn newid yn feunyddiol. Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn diweddaru ei chyngor i deithwyr yn rheolaidd hefyd. Ac fe ddylai pobl sy'n bwriadu teithio dramor edrych ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y cyngor diweddaraf o ran teithio cyn iddyn nhw fynd dramor. Y cyngor diweddaraf i deithwyr sy'n dychwelyd o'r rhannau o'r byd sydd â'r risg uchaf yw aros yn y tŷ, ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill, a ffonio 111. Mae hynny'n wir hyd yn oed os nad oes symptomau ganddyn nhw. A'r ardaloedd hynny yw: Iran, talaith Hubei yn Tsieina a'r Eidal. I deithwyr sy'n dychwelyd o ardaloedd a ystyrir yn llai o risg, y cyngor yw aros yn y tŷ ac osgoi cysylltiad â phobl eraill os ydych chi'n datblygu symptomau. Bellach, mae hyn yn cynnwys yr Eidal gyfan y tu allan i'r ardaloedd dan glo yr wyf i wedi eu crybwyll nhw eisoes.

Mae rhagor o gyngor ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl nad ydyn nhw wedi teithio ond sydd, serch hynny, yn bryderus. Fe fydd hwnnw'n newid hefyd wrth i batrwm yr achosion newid ac wrth i'n dealltwriaeth ninnau dyfu. Ond mae dilyn cyngor o'r fath yn well bob amser na gwrando ar sibrydion a dyfalu sy'n aml yn anwybodus. Yn arbennig, fe fyddwn i'n annog pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael cyn mynd i geisio diagnosis, sydd, wrth gwrs, yn achosi'r risg o wastraffu adnoddau cyfyngedig y GIG. Rydym yn parhau i gynnig profion cymunedol i bobl yn eu cartrefi nhw eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae 111 ar gael ledled Cymru erbyn hyn i gael cyngor ar y coronafeirws.

Mae'r Prif Weinidog a minnau'n parhau i fynd i gyfarfodydd COBRA. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda Gweinidogion y DU, llywodraethau'r Alban a Gogledd Iwerddon, ein prif swyddogion meddygol ni, ac asiantaethau iechyd cyhoeddus, ledled y pedair gwlad.

Ni ddylai unrhyw un fod dan unrhyw gamargraff am y bygythiad y mae'r coronafeirws yn ei ymgorffori. Mae risgiau amlwg a difrifol i iechyd pobl, gan gynnwys, yn enwedig, bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Ac mae achosion ehangach hefyd yn achosi'r risg o amharu ar gymdeithas a'r economi ar raddfa fawr.

Ni fydd yr achosion hyn yn diflannu yn gyflym ac fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu cyn iddo wella. Ond, ar yr un pryd, rydym wedi hen baratoi ar gyfer achosion fel hyn, ac rydym yn dysgu mwy am y feirws penodol hwn bob dydd. Mae'r wybodaeth honno, ynghyd ag ymroddiad ein gweithwyr iechyd proffesiynol ni ac eraill ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a'r sector annibynnol, yn ein galluogi i leihau'r risgiau gymaint ag y gallwn ni. Fe fyddaf i, wrth gwrs, yn parhau i roi'r wybodaeth lawn i'r Aelodau a phobl Cymru am unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd yma yn y Llywodraeth.  

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 2:40, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog, ac am fod mor barod i roi diweddariadau i mi, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, yn ystod y sefyllfa sydd ohoni. Gan fynd trwy eich datganiad chi, mae gennyf i nifer o gwestiynau. A wnewch chi gadarnhau ar ba lefel y bydd aelodau'r GIG yng Nghymru a thimau cynllunio ac ymateb y gwasanaethau cymdeithasol—mewn geiriau eraill, a oes ganddyn nhw'r awdurdod i sicrhau y bydd pethau'n digwydd yn y GIG? A wnewch chi gadarnhau nifer y gwelyau ynysu a fydd ar gael inni ar hyn o bryd drwy'r GIG yn ei gyfanrwydd? Oherwydd rwy'n tybio bod ynysu yn bur wahanol i ofal dwys, gan mai nhw yw'r rhai sydd o fewn y muriau gwydr, felly roeddwn i eisiau eglurhad ar hynny.

Roeddwn i'n falch iawn o weld y cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu i feddygfeydd a fferyllfeydd. Tybed pa bryd y gallech chi ystyried eu rhoi nhw i weithwyr gofal cartref a gweithwyr gofal mewn cartrefi preswyl, a pha gyngor a fyddech chi'n ei roi i berchnogion cartrefi preifat o ran pa ragofalon y dylen nhw fod yn eu cymryd.

Roeddech chi'n sôn am y dechnoleg i ategu hyn, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y gwiriwr symptomau yn un da iawn, oherwydd fe roddais i gynnig ar ei ddefnyddio, ac rwy'n credu ei fod yn glir iawn ac rwy'n eich cymeradwyo chi ar hynny. Wrth gwrs, ni fydd gan lawer iawn o bobl hŷn o reidrwydd y modd i ddefnyddio technoleg gwybodaeth na'r gallu i'w ddefnyddio, felly tybed beth y gallech chi ei roi ar waith, neu pa gyfarwyddiadau y byddech chi'n eu rhoi i bobl hŷn nad ydyn nhw'n gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau a'r hyn y dylen nhw ei wneud. Rwy'n tybio y byddwch chi'n dweud '111' wrthyf i, ac, unwaith eto, hoffwn i gael rhywfaint o eglurhad yn hynny o beth. Fe fues i mewn cyfarfod o staff Ysbyty Wrecsam Maelor yr wythnos diwethaf, a chyfarfod ag un neu ddau o bractisau meddygon teulu hefyd, ac roedden eu neges nhw i mi am effeithlonrwydd 111 yn y Gogledd yn un eithaf amwys. Fe ddywedodd rhai fod y rhif 0845 yn cael ei ddargyfeirio ac nad oedden nhw'n argyhoeddedig bod 111 ar gael yn gyffredinol. Felly, efallai y gallech chi gadarnhau hynny, er mwyn inni allu symud ymlaen gyda'r mater hwnnw.

Ac, unwaith eto, wrth inni sôn am bobl hŷn, rwy'n sylweddoli nad rhywbeth ar gyfer nawr yw hyn, ond yn ystod yr wythnosau nesaf, a wnewch chi siarad gyda sefydliadau fel arweinyddion archfarchnadoedd neu a ydych chi wedi cynnal unrhyw drafodaethau â nhw o bosibl i sefydlu rhyw fath o ffordd i bobl hŷn, sy'n gorfod aros gartref oherwydd bod ganddyn nhw risgiau iechyd difrifol fel clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, neu oherwydd eu bod nhw'n boblogaeth risg uwch, i allu archebu nwyddau o'r archfarchnad dros y ffôn a'u cael wedi'u hanfon atyn nhw? Oherwydd, unwaith eto, gwn fod nifer sylweddol o bobl hŷn yn fy etholaethau i nad ydyn nhw'n gallu defnyddio offer technoleg gwybodaeth i archebu o un o'n hoff archfarchnadoedd ni.

Mae gen i gwestiwn penodol yr hoffwn ei ofyn ynglŷn â'r gweithlu. Mewn datganiad blaenorol, fe wnaethoch chi ddweud eich bod yn bwriadu defnyddio gwirfoddolwyr a staff sydd wedi gadael y GIG yn ddiweddar. Felly, fe fydd ganddyn nhw wybodaeth sy'n gyfredol. A wnewch chi gadarnhau y bydd meddygon locwm yn cael cynnig contractau a fydd yn eu hamddiffyn nhw a'u teuluoedd pe bai yna salwch difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pe byddent yn digwydd marw wrth roi gwasanaeth fel hyn? A fyddwch chi'n rhoi ystyriaeth i hynny wrth symud ymlaen? Un peth yw gofyn i feddyg teulu sydd wedi ymddeol neu ymgynghorydd sydd wedi ymddeol neu nyrs sydd newydd ymddeol ddod yn ôl i mewn i weithio shifft, ac fe fyddem yn gallu cael tystysgrif addasrwydd i ymarfer iddyn nhw'n gyflym—rwy'n deall hynny i gyd ac fe fydd hynny yn digwydd, mae'n siŵr—ond hefyd mae angen inni eu hamddiffyn pe bai'r gwaethaf yn digwydd. Felly, a wnewch chi gadarnhau y byddwch chi efallai'n ystyried y maes hwn?

Rydych chi hefyd wedi siarad am y cyfle i bobl ymgynghori drwy fideo, sy'n gam pwysig iawn ymlaen yn fy marn i. Ond, unwaith eto, a ydych chi'n rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ba gynlluniau a allai fod ar waith ar gyfer yr ardaloedd hynny lle nad oes cysylltedd fideo, oherwydd nad yw'r seilwaith ar gael, ac a gaf i roi rhestr i chi o sawl man gwan yn fy etholaeth i lle na fyddai hynny'n bosibl mewn gwirionedd?

Mae llawer o gwestiynau i'w holi ynglŷn â'r coronafeirws, ac nid wyf yn mynd i gymryd llawer mwy o'ch amser chi. Fy nghwestiwn olaf i yw, wrth gwrs, fod De Korea o'r farn fod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, a'u bod nhw am weld gostyngiad nawr; maen nhw'n dawel hyderus. Maen nhw wedi bod yn effeithiol iawn yn y ffordd y maen nhw wedi ymdrin â'r sefyllfa. Mae ganddyn nhw strwythur cymdeithasol sy'n wahanol, a diwylliant sy'n wahanol, ond un o'r pethau a wnaethant oedd defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i helpu i olrhain cleifion y nodwyd bod ganddynt y coronafeirws. Yn amlwg, nid wyf yn gwybod—rwy'n cymryd eu bod wedi cael caniatâd—ond roeddent yn olrhain eu hynt nhw, ac yna gallent geisio defnyddio'r math hwnnw o dechnoleg i ganfod pwy arall a allai fod mewn perygl. A wnewch chi ddweud wrthym a oes gennych unrhyw syniadau neu beidio yn yr wythnosau nesaf? Fel y dywedaf i, nid nawr—rwy'n sylweddoli nad yw hyn ar waith ar hyn o bryd—ond rydym i gyd yn cydnabod y bydd y feirws hwn yn ymledu. Fe fydd y sefyllfa'n gwaethygu ac mae'r pethau a grybwyllais i'n bethau y gallem ni eu gwneud efallai i helpu i olrhain neu liniaru, ac roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi wedi bod yn edrych ar rywle fel De Korea, sy'n credu bod y gwaethaf drosodd iddyn nhw, er mwyn dysgu'r arfer gorau ar gyfer ein helpu ni i reoli'r sefyllfa, neu o leiaf i sefydlogi'r sefyllfa, yn ein gwlad ni.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:46, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Eich pwynt cyntaf chi ynglŷn â'r tîm newydd yr wyf i wedi cyfeirio ato o fewn y Llywodraeth: y ffaith fy mod i wedi cyfarwyddo prif weithredwr GIG Cymru i sefydlu hwn, fe ddylai fod yno ddigon o statws uchel o fewn staff y GIG i wneud yn siŵr bod pobl yn ymateb gyda lefel briodol o awdurdod. Mae'n ymwneud â chydlynu'r gwaith o fewn y Llywodraeth yn ogystal â'r rhyngwyneb â'r gwasanaeth iechyd. Ac ynglŷn â'ch pwynt chi am fesurau ynysu, gan fynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wnaeth y Prif Weinidog mewn cwestiynau hefyd, mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â sut y dylem ni gynyddu ein capasiti i gwrdd â phobl, ond mae angen inni drin pobl mewn modd gwahanol hefyd. Y bobl a fyddai fel arfer yn dod i mewn i ysbyty i gael eu gofal—efallai y bydd angen inni drin mwy o'r bobl hynny yn eu cartrefi eu hunain mewn modd gwahanol. Felly, mewn gwirionedd, nid wyf i'n credu y dylem fod ag obsesiwn o ran nifer y gwelyau sydd gennym ni ar hyn o bryd ond o ran ein gallu ni ar draws y system gyfan, mewn gwirionedd, i allu trin mwy o bobl, a beth y mae hynny yn ei olygu, a'r dewisiadau amrywiol o ran triniaethau y bydd angen inni eu darparu, a'r hyn y bydd angen inni ei wneud wedyn mewn gwirionedd, er enghraifft, ynghyd â rheoleiddwyr a cholegau brenhinol hefyd.

O ran y cyfarpar diogelwch personol ar gyfer meddygfeydd teulu a fferyllfeydd, a'r hyn y gallai hynny ei olygu i bobl eraill sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â grwpiau risg—mae hynny'n rhan o'r sgyrsiau yr ydym yn eu cael, nid yn unig gyda'r staff sy'n gweithio mewn gofal cartref a gofal preswyl, ond hefyd yn un o'ch pwyntiau diweddarach chi am y gwaith gydag archfarchnadoedd. Rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion eisoes i gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â chael nwyddau i bobl a allai fod yn eu cartrefi eu hunain am gyfnod maith, ond mae'n ymwneud hefyd â'r gwaith y bydd angen i lywodraeth leol yn benodol ei wneud, o ran cynllunio ar gyfer newid yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu, ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n darparu gwasanaethau yng nghartrefi pobl eisoes, naill ai oherwydd eu bod nhw'n darparu'r gofal hwnnw'n uniongyrchol, neu'n comisiynu gofal, a sut y bydd angen iddyn nhw gynllunio ar gyfer dull arall o ddarparu gwasanaethau—unwaith eto, gyda llai o staff o bosib rywdro, ond o bosibl hefyd gyda chynnydd yn y galw a ddaw drwy eu drysau nhw hefyd.

O ran eich pwynt chi ynglŷn â defnyddio TG, mae'r camau a gymerwyd gennym i ddarparu darn o feddalwedd sy'n gyson ledled y system yn gam mawr ymlaen, ond nid yw hynny'n golygu bod pawb yn gallu ei ddefnyddio. Rydych chi'n iawn i nodi bod yna rai pobl sydd naill ai heb offer TG neu nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio'n effeithiol am nifer o resymau. Felly, mae pethau hefyd—[Anghlywadwy.]—pobl eraill hefyd. Ac eto, her yw honno sydd nid yn unig yn wynebu'r gwasanaeth iechyd, ond yn wynebu amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus eraill hefyd.

Ac o ran eich pwynt chi ynglŷn â gallu defnyddio'r gwiriwr symptomau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi darparu amrywiaeth o bosteri eisoes sy'n rhoi cyngor ac yn sôn am y symptomau, felly nid fforwm ar-lein yn unig yw hyn. Rwyf wedi gweld ar fy nhaith ddiweddar i'r gogledd yr hyn y mae hynny'n ei olygu, ac ym Maes Awyr Caerdydd—lle maen nhw'n weladwy; credaf eu bod nhw'n glir iawn—ond mae amrywiaeth o fusnesau wedi defnyddio'r un posteri gwybodaeth hefyd. Ac mae hynny'n mynd yn ôl at y pwyntiau a wnaed yn flaenorol ynglŷn â chyngor clir a chyson wrth ddefnyddio cyngor o ffynhonnell wybodaeth y gellir ymddiried ynddi. Felly rwyf i wedi fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae'r cyngor syml a chlir iawn hwnnw'n cael ei ddefnyddio mewn ystod eang o feysydd.

Ac rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt ynglŷn ag 111. Gwasanaeth i Gymru gyfan yw hwn—gwasanaeth i Gymru gyfan ar gyfer coronafeirws. Felly, os yw pobl yn gofidio, fe allan nhw ffonio'r rhif hwnnw o unrhyw ran o Gymru i gael cyngor ac arweiniad.

O ran yr adroddiad am indemniad ar gyfer pobl sy'n staff locwm, rwy'n hapus i archwilio'r maes hwnnw ymhellach i weld a oes angen newid unrhyw un o'n trefniadau presennol ni ar gyfer sicrhau bod y niferoedd iawn o staff gennym yn y mannau iawn i ddarparu gofal a thriniaeth a hefyd i roi sicrwydd i bobl.

Ac o ran eich pwynt olaf chi ynglŷn â dysgu oddi wrth wledydd eraill, nid oddi wrth Dde Korea yn unig, ond drwy'r holl fyd—roedd hynny'n rhan o'r drafodaeth yn COBRA yr wythnos hon. Mae'n rhan o'r trafodaethau yr wyf i wedi eu cael yn rheolaidd gyda'r prif swyddog meddygol, gan fod cyngor, a ymddengys yn amrywio ychydig, yn cael ei roi mewn gwahanol rannau o'r byd, ond mae'n golygu dysgu oddi wrth bobl hefyd am wahanol gamau'r achosion. Yn wir, fe fydd gwaith Sefydliad Iechyd y Byd yn bwysig iawn yn hyn o beth. Ond yn sicr rydym am gael ein cysylltu â'r cyngor gorau posib, nid yn unig ledled y DU, ond yn rhyngwladol hefyd, ynglŷn â gwersi y gallwn ni eu dysgu—ac rydym ychydig ar ei hôl hi o'i gymharu â rhannau eraill o'r byd gyda'r achosion hyn—i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud dewisiadau gwell yma, neu y gallwn ni ddeall yn well y dewisiadau y byddwn ni'n anochel yn eu hwynebu. Felly, ydy, mae hyn yn bwysig yn y sefyllfa sydd ohoni nawr. Fe fydd yn bwysig wedi hynny hefyd. Felly, pan fydd yr achosion o'r coronafeirws wedi cyrraedd ei anterth yn y DU ac ar draws y byd, mae angen inni ddysgu o'r hyn sydd wedi digwydd a deall beth fydd angen ei wneud yn well yn y dyfodol.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:50, 10 Mawrth 2020

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad a diolch am y briffio sy'n cael ei roi i fi a llefaryddion eraill yn ystod y mater yma?

Gaf i ddweud hanesyn wrthoch chi am feddyg wnaeth gysylltu efo fy swyddfa i i gwyno ynglŷn â llinell 111, oherwydd ei bod hi wedi delio efo claf a oedd wedi gorfod talu £10 i ffonio'r rhif 0845 achos bod 111 ddim yn gweithio, a doedd y claf ddim yn gallu defnyddio ffôn landline ar y pryd? Mi oedd y claf arbennig yma a'i gŵr wedi dod yn ôl o'r Eidal yn ddiweddar, lle'r oedden nhw wedi bod ar wyliau efo cyfeillion. Ar ôl dod adref, mi wnaeth y cyfeillion hynny, a oedd yn byw yn Lloegr, gael eu profi a'u profi'n negyddol am COVID-19. Mi gafodd y cleifion yng Nghymru wedyn annwyd a chur pen a ffonio'r rhif 0845, ond mi ddywedwyd wrthyn nhw nad oedden nhw yn debygol o fod mewn risg ac nad oedd angen iddyn nhw gael eu profi. Ond oherwydd bod y cyfeillion yn Essex wedi cael eu profi, mi deimlon nhw y dylen nhw gymryd camau pellach eu hunain. Mi benderfynon nhw yrru i Ysbyty Gwynedd, siarad efo nyrs yn y fan honno a wnaeth roi triage iddyn nhw ar y ffôn. Mi wnaeth y meddyg wedyn wisgo ffedog a menig a mynd allan i'r car i sicrhau bod profion neu ddiagnosis yn gallu cael ei roi iddyn nhw. A beth rydyn ni wedi'i glywed oedd bod yna ddiffyg dealltwriaeth hyd yn oed ymhlith staff mewn ysbyty, mewn gofal meddygol y tu allan i oriau, er enghraifft, ynglŷn â beth yn union i'w wneud mewn achosion fel hyn. Mae hynny'n fater o bryder, wrth gwrs, os ydy'r staff eu hunain ar y llinell flaen yn teimlo nad ydy'r cyngor ganddyn nhw i'w roi i bobl, na chwaith y dillad addas i'w hamddiffyn eu hunain, er dwi'n nodi, ac yn ddiolchgar, o'r datganiad fod meddygfeydd teulu yn cael dillad addas erbyn rŵan.

Mae yna nifer o gwestiynau yn codi o'r mater yma i fi. Yn gyntaf, os ydy pobl yn methu â ffonio 111 am ryw reswm, ac yn methu â fforddio talu wedyn i ffonio'r rhif 0845, oes yna beryg ein bod ni'n methu rhai achosion? Beth ydy'r camau fydd yn cael eu gwneud er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth 111 yna ymhellach?

Os ydy staff mewn ysbytai yn teimlo nad oes ganddyn nhw'r offer angenrheidiol i'w gwarchod eu hunain, oes yna ddisgwyliad y byddan nhw'n cael y dillad yna? Hefyd, pa gamau sydd yn cael eu gwneud i gryfhau'r ddarpariaeth mewn ysbytai ar gyfer y bobl hynny sydd yn mynd yn groes i'r cyngor sy'n cael ei roi iddyn nhw ac yn mynd i'r ysbyty beth bynnag? Oherwydd mae pobl yn mynd i wneud hynny, yn anffodus. Gobeithio mai ychydig iawn fydd yn gwneud, ond mae o'n mynd i ddigwydd. Beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau bod ysbytai yn barod am hynny?

Os caf i hefyd wneud apêl am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chapasiti gofal mwy dwys. Mae'n allweddol, dwi'n meddwl, ein bod ni ar y pwynt yma mewn amser yn sicrhau bod y capasiti yna ar gyfer gwelyau gofal mwy dwys yn cael eu darparu mewn ysbytai. Dwi'n meddwl ei bod hi'n deg i ddweud bod ein profiad ni o wledydd eraill, o edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwledydd eraill, yn dweud wrthym ni fod y math o ofal sy'n cael ei roi i bobl ar y pwynt lle mae eu hafiechyd nhw'n troi'n ddifrifol, p'un ai ydy'r gofal yn briodol iddyn nhw ac yn ddigon da iddyn nhw ar y pryd, yn gallu gwneud y gwahaniaeth pan mae'n dod at ydyn nhw'n mynd i oroesi yr afiechyd yma. Felly, beth sydd yn cael ei wneud rŵan i sicrhau bod y capasiti yna yn cael ei adeiladu ar gyfer yr anghenion allai godi yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf ar gyfer gofal dwys yn yr ysbyty?

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:55, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Fe hoffwn i ddiolch i chi am y sylwadau a'r cwestiynau. Rwy'n credu bod eich stori chi am brofiad gwirioneddol yn y gorffennol diweddar yn ystyrlon i bob un ohonom. Ynglŷn â 0845, yr hen rif 0845, mae honno'n gost y mae'r darparwyr ffôn eu hunain yn ei chodi ac nid ydym ni'n rheoli hynny. Mae'n rhwystredig iawn, ond rydym wedi cymryd y cam i gael gwasanaeth 111 ledled Cymru er mwyn iddo fod yn rhif sy'n gyson, fel nad ydym yn gofyn i bobl mewn gwahanol rannau o Gymru orfod gwirio pa rif y dylen nhw fod yn ei ddefnyddio. Rwy'n credu bod y pwyntiau hynny am eglurder a chysondeb yn bwysig iawn yn y neges sydd gennym ni.

Rwy'n hollol glir, os oes angen mwy o adnoddau arnyn nhw, fe fyddwn ni'n dod o hyd i fwy o adnoddau fel bod ganddynt fwy o gapasiti i ymdrin â phobl. Mae yna rywbeth wedyn am ein system GIG gyfan ni yn deall beth i'w wneud, o ran a oes angen iddyn nhw ddefnyddio dillad neu gyfarpar amddiffynnol, ond i sicrhau bod pobl hefyd yn deall eu hunain, yn syml a chlir, sut y dylent ymddwyn gyda'r cyhoedd. Rwy'n credu bod eich pwynt chi ynglŷn â'r ffaith eu bod nhw wedi gorfod gyrru i'r ysbyty pan rydym yn gofyn i bobl beidio â gwneud hynny, a'n her ni wrth bwysleisio y dylai pobl ddilyn y cyngor i'w cadw nhw ac eraill yn ddiogel—mae'n ymwneud â'u cadw nhw'n ddiogel, eu teuluoedd nhw, eu hanwyliaid nhw, ond pobl nad ydyn nhw wedi cyfarfod â nhw erioed hefyd. Mae hon yn sefyllfa ddifrifol iawn.

Mae'n bosib iawn mai'r dewisiadau y byddwn ni'n eu hwynebu fydd dewisiadau sy'n amherffaith, yn yr ystyr ein bod ni efallai'n gwneud dewisiadau ynghylch gohirio gweithgarwch yn y gwasanaeth iechyd er mwyn blaenoriaethu'r gweithgarwch mwyaf difrifol; efallai y byddwn yn gofyn i bobl ddarparu triniaeth mewn ffordd na fyddech yn ei disgwyl nawr oherwydd y capasiti ac oherwydd y galw y byddwn o bosib yn ei weld yn dod drwy ein drysau ni. Fe ddylai'r sefyllfa yn yr Eidal ddweud rhywbeth wrthym am y dewisiadau y gallen ni fod yn eu hwynebu.

Nid gwlad sy'n datblygu yw'r Eidal. Mae ganddi system iechyd dda yn y byd datblygedig, ac eto mae ei system gofal iechyd yn cael ei gorlethu ar hyn o bryd. Mae'r holl gapasiti gofal dwys wedi ei orlethu, gan gynnwys yr uwchraddio a wnaed drwy adleoli staff, ac mae'n gorfod gwneud rhai o'r dewisiadau a ddisgrifiodd y Prif Weinidog hefyd. Maen nhw'n siarad am drin pobl mewn ysbytai, nid yn y math o sefyllfa y bydden nhw wedi dymuno i'r bobl hynny fod ynddi fel arall, mewn gwely gofal dwys, ond efallai nad yw'r gwelyau hynny ar gael oherwydd eu bod nhw'n llawn; maen nhw'n sôn am bobl y gallai fod angen cymorth anadlu arnyn nhw, ac nid ydyn nhw'n cael hynny, maen nhw'n meddwl am ddewisiadau eraill. Fel y dywedais i sawl gwaith, efallai y byddwn ni'n trin pobl yn eu cartrefi eu hunain pan fyddem ni'n dweud heddiw, yn bendant, 'Fe ddylai'r unigolyn hwn fod mewn ysbyty, mewn gwely gyda lefel benodol o gynnydd yn ei driniaeth feddygol.' Nid dewisiadau dibwys yw'r rhain yr ydym yn ystyried gorfod eu gwneud.

Hyd yn oed os byddwn ni'n defnyddio ein holl gapasiti ni, os byddwn ni'n atal meysydd eraill o weithgarwch, os byddwn ni'n adleoli ein holl staff ni, mae'n bosib o hyd, os na fyddwn ni'n cymryd camau, os na fyddwn ni'n cymryd mesurau effeithiol, y gallem gael ein gorlethu. Mae'n bosib hefyd, o wneud popeth o fewn ein gallu dynol, gyda chyflwr newydd nad oes gennym ni frechlyn ar ei gyfer, nad oes gennym ni driniaeth gwrthfeirws effeithiol ar ei gyfer—mae'n bosib pan edrychwch ar y sefyllfa waethaf posib, y gallai amrywiaeth o'n gwasanaethau ni gael eu gorlethu. Dyna'r her sy'n ein hwynebu ni, felly mae difrifoldeb yr holl ddewisiadau a wnawn yn rhai gwirioneddol. Fel y dywedaf, mai graddfa'r hyn sy'n digwydd yn yr Eidal nawr yn atgyfnerthu hynny, nid dim ond y cynnydd yn nifer y marwolaethau, ond yn nifer y bobl sy'n ddifrifol wael hefyd ar hyn o bryd yn yr Eidal heddiw ac maen nhw'n gorfod gofalu amdanynt.

Felly, fe fyddaf yn fodlon ymdrin â'r holl bwyntiau hynny wrth inni ddod atyn nhw a gorfod gwneud dewisiadau, ynghylch y dewisiadau yr ydym ni'n eu gwneud, ynghylch newid yn y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn gweithio, ond hefyd ynghylch y dewisiadau yr ydym yn dweud nad oes angen inni eu gwneud. Unwaith eto, rydym yn gofyn i'r cyhoedd ddilyn y cyngor yr ydym yn ei roi a ddaw o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, sef y Llywodraeth a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n dilyn y cyngor hwnnw ac nid y cyngor arall sy'n dod gan sylwebwyr eraill sy'n dweud eu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion a gaiff eu darlledu. Fe welais i gyfweliad â Rory Stewart—cyn-Weinidog yn y Cabinet—ac roedd ef yn awgrymu y dylai'r Llywodraeth anwybyddu'r cyngor gwyddonol a gweithredu'n gynnar, a hynny cyn yr hyn y mae'r wyddoniaeth yn ei ddweud wrthym ni. Nid dyna'r peth iawn i'w wneud. Roeddwn i'n siomedig iawn oherwydd roedd yn anghyfrifol iawn dweud hyn, ac felly fe fydd y Llywodraeth hon yn gwneud dewisiadau hyd yn oed os ydynt yn ymddangos yn groes i'r graen. Rwy'n mynegi'r sicrwydd eto ein bod ni'n bendant, yn bendant yn gwrando ar y pedwar prif swyddog meddygol ledled y DU ac rydym yn bendant yn edrych ar y cyngor gwyddonol gorau sydd gennym i seilio ein penderfyniadau arno.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 3:00, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod ein meddyliau ni i gyd yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill gyda phawb sy'n dioddef ar hyn o bryd oherwydd y feirws hwn a'r rhai sy'n credu y gallen nhw fod ond sy'n aros am ddiagnosis efallai, yn ogystal â theuluoedd y rhai a fu farw eisoes. Rwyf i o'r farn mai hwn yw un o'r bygythiadau mwyaf dychrynllyd inni ei weld i bobl ac i'r gymdeithas, yn sicr yn fy oes i. Ni allaf gofio unrhyw achlysur y bu clefyd fel hwn yn ymledu ar draws y byd ac yn heintio cynifer o bobl ac yn achosi cymaint o ddioddefaint mewn cymdeithasau ledled y byd hwn yn ei gyfanrwydd.

Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar arbenigwyr, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor y mae ein gwyddonwyr a'n meddygon yn ei roi i ni. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni, wrth ymateb i'r argyfwng hwn, yn dilyn y cyngor a'r dadansoddiad gwyddonol gorau sydd ar gael ar ein cyfer ni. Rwy'n falch iawn hefyd o weld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda'r llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau ein bod ni'n cael y math o ymateb holistaidd sydd ei angen arnom ni. Fe fyddwn i'n dweud fy mod i o'r farn mai Llywodraeth Cymru yw'r unig weinyddiaeth, os hoffech chi, yn y wlad hon a all gydlynu'r holl ymatebion sy'n ofynnol ar draws ein holl wasanaethau cyhoeddus ni ac ar draws yr holl wahanol wasanaethau y bydd eu hangen nhw arnom ni fel gwlad i ddod drwy'r feirws hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog—ni wnaeth sôn am hyn yn ei ymateb cychwynnol, ond rwy'n hyderu bod y Gweinidog yn gweithio'n agos gyda'i gydweithiwr sy'n eistedd wrth ei ymyl, y Gweinidog, rwy'n credu, sy'n gyfrifol am argyfyngau sifil, ac efallai y byddai ef yn egluro'r strwythurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau'r ymateb wrth gefn llawn, sifil y bydd ei angen arnom ni.

Ond rwy'n credu y bydd llawer ohonom yn meddwl am y bobl hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a fydd yn dwyn baich y feirws hwn a chanlyniadau hyn i bobl. Mae llawer ohonom wedi bod yn gweld ac yn clywed ac yn darllen am yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gwasanaeth meddygol a'r gwasanaeth iechyd yn yr Eidal a'r effaith y mae'n ei chael ar y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn yr Eidal sy'n gorfod gwneud penderfyniadau ar fywyd a marwolaeth, sy'n gweithio oriau hir dan bwysau anghyffredin i ymdrin ag effaith y feirws ar bobl. Yn fy mhrofiad i, un o'r argyfyngau sifil anoddaf yr ydym ni wedi ymdrin ag ef ledled y Deyrnas Unedig oedd hwnnw yn Salisbury, a'r gwenwyno a ddigwyddodd yno rai blynyddoedd yn ôl. Un o'r gwersi a ddysgwyd yno oedd yr effaith ddofn a'r dylanwad a gaiff ymateb i'r argyfyngau hyn ar bobl dros gyfnod estynedig o amser. Yn amlwg, roedd y digwyddiad yng Salisbury yn ddigwyddiad unigol, ynysig; mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i ddigwydd ym mhob cymuned yn y wlad hon am gyfnod estynedig o amser.

Rwy'n gobeithio—. Ac efallai y bydd y Gweinidog yn egluro wrthym y math o fesurau y mae'r Llywodraeth yn eu rhoi ar waith i amddiffyn gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sicrhau y gallwn ni gefnogi pobl sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr eu bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, ond i edrych hefyd y tu allan i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i wneud yn siŵr bod y gofal ar gael i bobl sy'n agored i niwed, i bobl a allai fod yn byw ar eu pennau eu hunain, i bobl a allai fod yn byw gyda chyflyrau sy'n cyfyngu ar fywyd ar hyn o bryd, ar gyfer sicrhau eu bod nhw'n cael eu cadw'n ddiogel yn eu cartrefi ac yn eu cymunedau, ond cymorth i fusnesau bach hefyd. Mae hyn yn ymestyn y tu hwnt, efallai, i gyfrifoldebau'r Gweinidog hwn, ond mae'n haws i gwmni rhyngwladol wrthsefyll hyn na'r siop gornel, ac mae angen i ni sicrhau bod busnesau bach y wlad hon yn cael eu gwarchod hefyd. Mae hynny'n ein harwain ni at sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw hefyd. Fe fydd Llywodraeth Leol, ymysg eraill, gydag addysg ac mewn mannau eraill, ar y rheng flaen o ran ymdrin â llawer o effaith y feirws hwn, ac mae angen sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus ni'n cael y cymorth a'r cydgysylltu sydd ei angen arnyn nhw hefyd.

Yn olaf, Gweinidog, yn eich datganiad chi, roeddech chi'n amlinellu deddfwriaeth pedair gwlad sy'n mynd i gael ei phasio gan San Steffan i ddarparu'r pwerau i Weinidogion yn y fan hon sydd eu hangen arnoch chi i ymdrin â hyn, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Ond a wnewch chi ein sicrhau ni y bydd y pwerau y byddwch yn eu cael yn ddarostyngedig i gymalau machlud fel na fydd y pwerau hyn yn aros ar y llyfr statud ar ddiwedd yr argyfwng hwn, fel na fyddwn ni, bron ar hap, yn rhoi pwerau parhaol i'r Llywodraeth i reoli ein bywydau ni wedi i'r argyfwng hwn redeg ei gwrs?  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:05, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwy'n credu y byddaf i'n dechrau gyda rhai o'ch pwyntiau cynnar chi—fe fyddaf yn ceisio eu cymryd nhw yn eu trefn. Nid wyf i'n cytuno â Matt Hancock bob amser, ac yn sicr nid wyf i'n cytuno â Boris Johnson bob amser, ond yn ystod ein galwadau COBRA, fe gafwyd ymgais wirioneddol ddifrifol ac aeddfed i ymdrin â'r materion ac i ddod i gytundeb ynghylch canfod y ffordd orau ymlaen. Yn wir, mae'r Prif Weinidog wedi dweud, ac rwy'n cytuno ag ef yn hyn o beth, mai'r perygl mwyaf yw panig ac ymateb amhriodol ac fe gaiff hynny ei ysgogi'n aml gan alwadau gwleidyddol sy'n groes i wyddoniaeth a thystiolaeth. Felly, mae ein hymateb ni'n seiliedig ar yr wyddoniaeth ac ar y dystiolaeth.

O ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth, rwyf wedi cyfarfod eisoes â Julie James ar ddechrau'r cyfarfodydd COBRA sy'n rheolaidd iawn erbyn hyn. Rydym wedi cael sgwrs, ac rwyf wedi cwrdd â'i swyddog arweiniol hi sy'n cydlynu llawer o'r gwaith argyfyngau sifil. Rydym ni, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi ffurfio grŵp gweinidogol craidd hefyd—os mynnwch chi, grŵp o Weinidogion COBRA Cymru—ac rydym yn cyfarfod bob wythnos. Fi oedd cadeirydd cyfarfod cyntaf y grŵp hwnnw'r wythnos diwethaf. Rydym yn cyfarfod eto yfory, felly fe fydd sgyrsiau rheolaidd yn digwydd rhwng Gweinidogion fel y caiff Gweinidogion eu hysbysu am wahanol ddewisiadau sy'n cael eu gwneud, ond, yn yr un modd, fel y gall Gweinidogion gydgysylltu dewisiadau o fewn meysydd eu portffolios eu hunain, gan fod pob grŵp o'r rhanddeiliaid sy'n gweithio i bob grŵp o Weinidogion yn cael eu heffeithio gan hyn mewn rhyw ffordd, fel yr ydych chi wedi dweud.

Ac nid y dewisiadau hyn yw'r unig beth yr ydym ni'n ei wneud yno, oherwydd mae eich dewisiadau penodol chi ynghylch busnesau bach, rwy'n credu, yn bwysig iawn. Gan fod yna amrywiaeth o fesurau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd, ond, mewn gwirionedd, gyda llawer mwy o'r rhain, mae camau y bydd angen i Lywodraeth y DU eu cymryd ar sail y DU gyfan. Rwy'n gobeithio y bydd y gyllideb yfory'n nodi rhai o'r rhain. Dyna pam roedd y Gweinidog cyllid yn Llundain ar ddechrau'r dydd i gael y sgwrs honno. Daeth hynny, unwaith eto, yn sgil cyfarfod blaenorol COBRA, lle cafwyd cytundeb y dylid cynnal y cyfarfod hwnnw gyda Gweinidogion cyllid ym mhob un o'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig.

Yna, fe fydd angen inni weld pa fesurau gaiff eu cymryd yfory, ond wrth i'r achosion o'r feirws ddatblygu bydd angen sicrhau bod y Llywodraeth yn ymateb yn y fan a'r lle ledled y DU hefyd. Yn amlwg, mae Gweinidog yr economi wedi gofyn eisoes i'w swyddogion edrych ar y mesurau y gallem ni eu cymryd yma i gefnogi busnesau bach yn benodol. Fe allai hynny, o bosib, fod o ganlyniad i'r cyngor a roddwn ni ar iechyd y cyhoedd. Os gofynnwn i bobl aros gartref—os gofynnwn ni i fwy o bobl aros gartref—fe allai hynny effeithio naill ai ar weithgarwch cyffredinol y busnesau, ond ar y bobl sy'n mynd allan i weithio eu hunain hefyd. Gyda busnes bach sydd â phump o weithwyr, dyweder—wel, os gofynnir i ddau o'r bobl hynny aros gartref, fe all hynny wneud gwahaniaeth mawr iawn i'r ffordd y caiff y busnes hwnnw ei redeg.

Mae eich pwynt chi ynglŷn ag effaith hyn ar bobl, rwy'n credu, yn bwysig iawn hefyd, oherwydd rydym yn trafod gyda'r Colegau Brenhinol a'r rheoleiddwyr am effeithiau posibl gwneud gwahanol ddewisiadau a gwneud pobl yn atebol i safonau ar y pryd. Ond mae yna effaith ar bobl, os yw pobl yn gweld niferoedd mawr o bobl sâl iawn, yn peidio â gwneud dewisiadau y bydden nhw'n eu gwneud fel arall, ac yn teimlo na allan nhw fod mewn rheolaeth, fel y bydden nhw fel arfer yn disgwyl bod yn y gwaith o ddarparu iechyd a gofal. Mae hynny'n rhywbeth y gwnaethom ni ei ganfod yn y fforwm partneriaeth, yn fforwm partneriaeth y GIG, rhwng y Llywodraeth, y cyflogwyr a'r undebau llafur ddydd Iau yn y gogledd, pan oeddwn i yno.

Unwaith eto, rydym yn ceisio gweithio drwy gyngor cyson, felly ni fyddwn ni'n gweld dull sy'n amrywio'n fawr iawn yn cael ei fabwysiadu gan wahanol sefydliadau'r GIG yma yng Nghymru. Mae yna bwynt ehangach ynglŷn â gwasanaethau cyhoeddus hefyd, oherwydd nid dim ond gweithwyr y GIG fydd yn cael eu hunain mewn sefyllfa anodd iawn, fel yr ydych chi'n ei nodi. Mae hwnnw'n fater a drafodais i gyda chydweithwyr gofal cymdeithasol o lywodraeth leol yn y Cabinet ddoe. Felly, ar draws pob plaid, maen nhw'n cydnabod bod angen iddyn nhw ystyried sut maen nhw'n rhedeg eu gwasanaethau nhw, ac, yn amlwg, fe fydd angen i arweinyddion pob sefydliad llywodraeth leol roi ystyriaeth i hynny hefyd.

Rwy'n falch eich bod chi wedi gwneud y pwynt am ynysu cymdeithasol—os ydym yn gofyn i bobl aros gartref, a'r hyn y mae hynny'n ei olygu, beth bynnag fyddo'r proffil oedran. Rydym yn deall bod ynysu cymdeithasol ac unigrwydd yn her wirioneddol i lawer o bobl. Ond os ydym wedyn yn gofyn i'r bobl hynny beidio â chael y rhyngweithio cymdeithasol hwnnw, yna mae dewis eto gan y Llywodraeth, y gwasanaeth iechyd, ond hefyd llywodraeth leol, ynghylch pa fath o ryngweithio cymdeithasol y gall y bobl hynny ei gael i sicrhau eu bod nhw'n dal i gael cysylltiad â phobl ac nid yn cael eu hanwybyddu. Rydym y gofyn i bobl osgoi'r hyn a fyddai fel arall yn gyswllt cymdeithasol arferol sy'n helpu pobl i gadw'n ddedwydd ac yn iach. Felly, nid yw'n fater syml o ddweud, 'Cymerwch un cam ac fe fydd hynny'n cadw pawb yn ddiogel.'

Y pwynt olaf yr wyf yn ei wneud yw rhoi tawelwch meddwl i chi am y Bil pwerau brys. Mae pob Gweinidog yn ymwybodol o'r ffaith, wrth ofyn i'r deddfwrfeydd ledled y DU ymddiried mewn Gweinidogion sydd â phwerau, y dylid cael rhai camau diogelwch, ac mae hynny'n bendant yn cynnwys cymalau machlud i'r pwerau. Felly, gydag unrhyw ddeddfwriaeth, fe fyddech chi'n disgwyl gweld cymalau machlud ynghylch nid yn unig sut y caiff pwerau eu deddfu ond sut y caiff pwerau eu terfynu wedyn hefyd, oherwydd rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn llwyr.  

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:10, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich diweddariad diweddaraf, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n staff GIG rhagorol ni'n eu cymryd i'n hamddiffyn ni rhag lledaeniad firws COV-2 SARS. Fe fydd rhai o'r mesurau, fel y feddalwedd newydd i alluogi pobl i ymgynghori drwy fideo, yn gwella ein gwasanaeth iechyd ni y tu hwnt i'r argyfwng hwn, ac mae'n rhaid inni fanteisio ar y gwasanaeth hwn sydd, yn yr achos hwn, yn disodli'r angen am gyfarfod wyneb yn wyneb ac yn gwbl angenrheidiol ar yr adeg hon.

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig pwysleisio i'r cyhoedd fod yn rhaid i bob un ohonom ni geisio bod mor ddigynnwrf ag y bo modd, ac er ei bod yn briodol inni baratoi ar gyfer pob posibilrwydd, nid oes angen i'r cyhoedd newid y ffordd y maen nhw'n mynd o gwmpas eu gweithgareddau o ddydd i ddydd, ar wahân i ochel rhag afiechydon anadlol, gan olchi dwylo'n rheolaidd a pheidio â chyffwrdd eich wyneb â dwylo heb eu golchi. Ond fe ddylai'r canllawiau hyn fod yn arfer cyffredin, ac mae'n rhaid nodi bod y ffliw yn lladd dros 0.5 biliwn o bobl y flwyddyn, felly mae'n bwysig cadw hynny mewn golwg.

Mae'n bwysig hefyd gwirio'r wybodaeth sydd ar gael yn hawdd i'r cyhoedd a sicrhau y caiff ei diweddaru, a sicrhau hefyd y bydd y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn gallu cael yr holl wybodaeth hon ac y bydd ein cymunedau anghysbell yn ei chael hi'n haws hefyd, fel y gallan nhw ryngweithio a chael gwybodaeth am y feirws hwn.

Mae chwe unigolyn hyd yn hyn wedi cael eu heintio â SARS COV-2, ac mae hynny'n golygu 0.0001 y cant o boblogaeth Cymru: chwech o bobl allan o 3.2 miliwn. Felly, mae'n galonogol nodi, ledled y DU, mai tua 320 o achosion sydd wedi bod o gyfanswm poblogaeth o 70 miliwn. Mae'n bwysig nodi hefyd ein bod ni'n cadw ein pennau, yn paratoi ond nid yn gorymateb, a'r bygythiad mwyaf gydag unrhyw achos o feirws yw'r panig ymhlith y cyhoedd. Sibrydion yw ein gelyn pennaf ni ar hyn o bryd ac mae'r cyfryngau cymdeithasol yn rhemp gydag achosion ffug a meddyginiaethau ffug, a phopeth o yfed dŵr cannu hyd at sniffian cocên. Mae hyn wedi arwain at brynu ar banig, ac wedi arwain at brinder yn y byrdymor wrth i'r archfarchnadoedd ailstocio, gan ychwanegu ymhellach at y sibrydion.

Felly, Gweinidog, pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU a'r cyfryngau cymdeithasol ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â lledaenu camwybodaeth, a sut i hyrwyddo gwybodaeth o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw megis Iechyd Cyhoeddus Cymru? Hoffwn i ddiolch ichi unwaith eto am y dull gweithredu doeth gan Lywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer effeithiau achosion o COVID-19.

Mae gen i un neu ddau gwestiwn yn unig am y paratoadau yma yng Nghymru. Gweinidog, y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru baratoadau ar gyfer Brexit 'heb gytundeb' drwy sicrhau lle mewn ystordai a chadw stôr o rai meddyginiaethau. Gweinidog, pa ran, os o gwbl, fydd gan y mesurau hynny wrth baratoi ar gyfer achosion ar raddfa ehangach?

Ac, yn olaf, Gweinidog, fe gafwyd adroddiadau y bydd feirws COV-2 SARS yn effeithio ar y cynhwysion fferyllol a fydd ar gael o India. Mae'r gadwyn gyflenwi hon yn hanfodol i'r fasnach meddyginiaethau generig. Felly pa drafodaethau yr ydych chi wedi'u cael â'r diwydiant fferyllol ynghylch y ffyrdd gorau o liniaru unrhyw fygythiadau a gaiff y feirws hwn ar gyflenwad cynhyrchion fferyllol? Diolch.  

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:14, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Ynglŷn â'ch cwestiynau chi, mae tîm o'r GIG eisoes yn cymryd—. Fe gafwyd cyhoeddiad—efallai eich bod chi wedi gweld cyhoeddusrwydd ynglŷn â hyn ddoe—o ran rhai o'r pwyntiau am chwilotwyr a pha dermau a ddaw ar frig y canlyniadau a'r chwiliadau hynny i sicrhau eu bod nhw'n tarddu o ffynonellau y gellir ymddiried ynddyn nhw, ond hefyd o ran ceisio gwrthbrofi ar y cyfryngau cymdeithasol rai o'r theorïau cynllwyn mwy cynhyrfus ond yr amrywiaeth o wybodaeth a chamwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, ac mae honno'n broblem wirioneddol i ni.

Fe fydd ein paratoadau 'heb gytundeb' ni'n ein rhoi ni mewn sefyllfa gymharol dda, o ran rhanddeiliaid sydd ag ystod o fesurau ganddyn nhw i ymdrin ag ymyriadau yn eu cyflenwad nhw, ond hefyd y stôr yr oeddech chi'n sôn amdani. Fe wnaethom ni brynu hynny mewn gwirionedd, ac felly mae gennym ni rywfaint o gydnerthedd ychwanegol. Ond mae'r her yn dod, fel yr oeddech chi'n dweud yn eich cwestiwn chi, o ran meddyginiaeth generig. Mae angen inni fod yn agored am yr hyn y gallwn ni ei wneud, ond hefyd, os oes camau na allwn ni eu cymryd, mae angen inni fod yn glir hefyd na allwn ni gymryd y camau hynny. Felly, rydym ni'n ceisio gwybodaeth gan y diwydiant fferyllol ei hun, sy'n cynhyrchu ac yn mewnforio'r meddyginiaethau hynny, er mwyn deall a oes unrhyw risgiau i'w cyflenwad ac a oes unrhyw ddewisiadau eraill neu beidio.

Ac rwy'n credu mai'r pwynt olaf y byddwn i'n ei wneud yw, gyda'r ffliw lefel isel sy'n mynd o amgylch yma, gyda'r lefel isel o bobl sydd â'r coronafeirws yng Nghymru heddiw, rydym ni'n disgwyl y bydd mwy o bobl yn cael diagnosis o'r coronafeirws yn ystod y dyddiau nesaf. Felly, ni ddylid cymryd y nifer cymharol isel o achosion heddiw fel arwydd bod dim gennym i boeni amdano ac nad oes angen gwneud unrhyw beth yn ei gylch. Mae hwn yn bryder gwirioneddol. Mae trosglwyddo cymunedol eisoes yn digwydd mewn rhai rhannau o Loegr; fe fydd hynny'n digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad.

Felly, mae'n rhaid inni ddeall yn glir y bydd gennym fwy o achosion o'r coronafeirws yng Nghymru; fe fydd pobl yn mynd yn sâl. Yr hyn na allwn ei ragweld yn union yw nifer y bobl hynny a'r effaith  ar ein gwasanaethau ni. Nid yw hwn yn dymor ffliw ysgafn arall sy'n digwydd y tu allan i'r gaeaf. Nid oes gennym frechlyn ar gyfer y coronafeirws, COVID-19; nid oes gennym  driniaeth wrthfeirysol effeithiol iddo. Felly, os aiff hwn ar gerdded yn eang, fe fydd yn cael effaith wirioneddol ar iechyd llawer iawn o bobl sydd eisoes yn agored i niwed. Dyna pam yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth mor ddifrifol i hyn; dyna pam rydym ni'n cymryd camau eithriadol; dyna pam y mae cymaint o gydweithredu rhwng pedair Llywodraeth a fyddai, fel arall, â digon o bethau i anghytuno arnynt ar frig eu hagendâu.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 3:16, 10 Mawrth 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog.

Eitem 6: Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020, ac eitem 7: Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2020. Cynigiaf, oni bai bod unrhyw Aelod yn gwrthwynebu, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, fod y ddau gynnig a ganlyn wedi'u grwpio ar gyfer dadl.