– Senedd Cymru am 4:30 pm ar 6 Hydref 2020.
Datganiad gan y Gweinidog Cyllid yw eitem 5: Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer y gyllideb yn y dyfodol. Galwaf ar Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd dros dro. Heddiw, rwyf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am effeithiau cyllidol pandemig COVID-19 a'r rhagolygon ar gyfer ein cyllideb yn y dyfodol. Mae ein hymdrechion yn canolbwyntio ar ymateb i effeithiau'r pandemig a gosod y sylfeini ar gyfer ailadeiladu gyda chymorth newydd ar gyfer swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd.
Mae penderfyniad y Canghellor i ganslo cyllideb hydref y DU, yr ansicrwydd ynghylch adolygiad cynhwysfawr o wariant y DU a'r diffyg gwybodaeth am gyllido fydd yn disodli cronfeydd yr UE i gyd yn cyfrannu at wneud ein gwaith yn anoddach. Ynghyd â'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd hefyd yn gwneud datganiadau i'w deddfwrfeydd priodol heddiw, rydym yn cyflwyno ein ceisiadau ar y cyd i Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd ariannol, cyfle i gymryd rhan ystyrlon yn yr adolygiad o wariant a bargen deg o ran cronfeydd fydd yn disodli cronfeydd yr UE.
Rydym bellach wedi dyrannu bron i £4 biliwn mewn ymateb i effaith y pandemig. Tynnwyd hyn o symiau canlyniadol o Lywodraeth y DU yn ogystal â £0.5 biliwn o gronfa ymateb COVID-19 a grëwyd gennym ni drwy gyllidebau a addaswyd at ddibenion gwahanol. Ers y gyllideb atodol, rydym ni wedi dyrannu £260 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol a chyllideb sefydlogi ychwanegol o £800 miliwn ar gyfer y GIG, yn ogystal â chymorth ar gyfer blaenoriaethau ehangach yn amrywio o drafnidiaeth gyhoeddus i'r celfyddydau a diwylliant.
Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi pecyn sylweddol arall o gyllid sy'n dod i gyfanswm o £320 miliwn i helpu pobl a busnesau i oroesi'r cyfnod heriol sydd o'n blaenau. Rydym yn buddsoddi yn y blaenoriaethau ailadeiladu a amlinellwyd gynnau gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gefnogi adferiad sy'n seiliedig ar werthoedd. Ynghyd â'r buddsoddiad mawr mewn busnesau a sgiliau o fewn y gronfa cadernid economaidd, mae'r mesurau hyn yn fuddsoddiad sylweddol yn ein hymdrechion ailadeiladu.
Bydd fy nghyd-Weinidogion yn nodi rhagor o fanylion yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf, ond gallaf gadarnhau y bydd y camau y byddwn yn eu cymryd i gefnogi plant a phobl ifanc yn cynnwys £15 miliwn i helpu mwy o fyfyrwyr mewn addysg bellach gyda'r offer digidol sydd eu hangen arnyn nhw, ar yr un pryd â hybu capasiti cofrestru i gefnogi pobl ifanc drwy'r ergyd economaidd. Bydd £9.5 miliwn arall yn helpu'r rheini ym mlynyddoedd 11, 12 a 13 gyda chymorth dal i fyny ychwanegol ar yr adeg dyngedfennol hon yn eu haddysg.
Caiff £60 miliwn arall ei neilltuo i gefnogi cynnydd yn y gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol. Bydd y cam gweithredu hwn yn helpu i hybu swyddi, gyda buddsoddiad mewn tai carbon isel, mwy o effeithlonrwydd ynni ac ymdrechion i leihau tlodi tanwydd. A bydd £14 miliwn yn cefnogi mesurau i ymateb i'r argyfwng hinsawdd drwy ddilyn ein hagenda datgarboneiddio gref, rheoli ein tir er budd cymunedau gwledig a chenedlaethau'r dyfodol, a diogelu adnoddau naturiol. Mae'r buddsoddiad mawr hwn yn dangos sut y bydd ein hymagwedd at ailadeiladu yn cael ei lywio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn arbennig, y pwysigrwydd a roddwn ar ymyrraeth gynnar i atal problemau yn y dyfodol.
Er bod y gweithredu hwn yn hanfodol i'n hadferiad, dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i ailgynnau'r economi. Rwy'n dal yn bryderus iawn bod y cynllun cefnogi swyddi'n cynnwys diffiniad mympwyol o beth yw swydd hyfyw, ac y bydd dim ond yn gwaethygu'r anawsterau i'r rheini sy'n cael eu taro galetaf. Ynghyd â chymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, rwyf heddiw'n annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi'r busnesau a'r sectorau sy'n cael eu taro galetaf; gwneud mwy o ran sgiliau a mwy i greu swyddi i bobl ifanc; a pharhau â chredydau cyffredinol ychwanegol, sydd i ddod i ben ym mis Mawrth, sydd wedi helpu rhai o'r teuluoedd tlotaf i oroesi'r storm. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU hefyd wneud mwy i roi cymorth ychwanegol i unigolion a busnesau mewn ardaloedd dan gyfyngiadau symud lleol.
Mae ansicrwydd o hyd ynghylch faint o gyllid y gallwn ei ddisgwyl eleni. Er imi groesawu gwarant Llywodraeth y DU y gellais ei negodi ym mis Gorffennaf, ers hynny cafwyd nifer o gyhoeddiadau am gyllid pellach yn Lloegr heb eglurder ynglŷn â'r goblygiadau i ni yma yng Nghymru. Rydym yn disgwyl, yn gwbl briodol, ein cyfran deg o gyhoeddiadau cyllid newydd gan Lywodraeth y DU, ond nid oes gennym ni ffordd o farnu ar hyn o bryd a ydym yn ei gael ai peidio.
Mae'r cefndir hwn yn gwneud yr achos dros fwy o hyblygrwydd ariannol yn bwysicach o lawer. Mae tair enghraifft allweddol o hyblygrwydd newydd sydd eu hangen arnom: (1) y gallu, os oes ei angen arnom, i orwario eleni, hyd at derfyn y gallwn gytuno arno gyda Llywodraeth y DU; (2) y gallu i gario mwy ymlaen yng nghronfa wrth gefn Cymru ar ddiwedd y flwyddyn ariannol; a (3) gwell mynediad at yr adnoddau yng nghronfa wrth gefn Cymru yn 2021-22 ar gyfer refeniw a chyfalaf. Ynghyd â'm cymheiriaid, rydym gyda'n gilydd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw ddarparu'r gyfres lawn o hyblygrwydd sydd ei hangen arnom ni i reoli'r heriau sy'n ein hwynebu.
Mae diddymu cyllideb hydref y DU a'r ansicrwydd ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn arwain at oblygiadau mawr i'n proses gyllidebol. Ar hyn o bryd, bwriadaf gyhoeddi ein cynigion ar gyfer y gyllideb ddrafft ar 8 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 2 Mawrth 2021. Fodd bynnag, mae'r amserlen hon yn dibynnu'n drwm ar bryd y cawn ni fanylion ein setliad ar gyfer y blynyddoedd i ddod a chasgliad yr adolygiad o wariant. Er fy mod yn parhau i fwrw ymlaen â'n paratoadau ar gyfer y gyllideb ddrafft, heb gyllideb gan Lywodraeth y DU, mae'n rhaid i mi wneud rhagdybiaethau ynghylch y grant bloc a defnyddio gwybodaeth dros dro am yr addasiadau i'r grant bloc. Felly, ynghyd â'm cymheiriaid, rydym ar y cyd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw am eglurder brys ynghylch cwmpas ac amseriad yr adolygiad o wariant.
Rydym ni hefyd yn wynebu'r ansicrwydd parhaus ynghylch dull gweithredu Llywodraeth y DU o ran diwedd cyfnod pontio'r UE. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o eglurder ynghylch sut y bydd yn cyflawni addewidion na fydd Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i Brexit ac y caiff datganoli ei barchu'n llawn. Bydd cronfeydd newydd yn rhan annatod o'n hadferiad, felly rhaid datganoli eu darpariaeth yn llawn fel y gallwn eu targedu i ddiwallu anghenion penodol pobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru.
Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn tanseilio hyn, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wrthsefyll yr ymgais hon i hawlio grym a'r ras i'r gwaelod y mae'n eu cynrychioli. Am y rheswm hwn, ynghyd â'm cymheiriaid, rydym ar y cyd yn gofyn i Lywodraeth y DU heddiw am sicrwydd y bydd yn darparu cyllid llawn a fydd yn disodli rhaglenni'r UE heb amharu ar y setliadau datganoli. Mae angen cyfran deg o'r cyllid arnom ni ar gyfer swyddogaethau newydd a fydd yn dod i Gymru a bydd hynny'n ein helpu i gefnogi cyfnod pontio llyfn wrth inni adael yr UE.
Felly, i gloi, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn gweithredu ar y galwadau cyfunol yr ydym yn eu gwneud heddiw i ddarparu'r hyblygrwydd a'r cyllid sydd eu hangen i'n galluogi i ymateb i'r heriau'n effeithiol. Yn y cyfamser, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n ddiflino i adeiladu dyfodol mwy llewyrchus, mwy cyfartal a gwyrddach i Gymru, ac ategir hyn gan y buddsoddiad sylweddol yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw.
Diolch, Weinidog, am y datganiad.
Wel, ble i ddechrau? Rwy'n credu ein bod o leiaf yn unedig yn yr awydd i gefnogi swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd, ac i 'dyfu'n ôl yn wyrddach', i ddefnyddio'r ymadrodd newydd sy'n cylchredeg. Ond, rhaid i mi ddweud, Gweinidog, rwy'n siomedig braidd â'r datganiad heddiw. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i ailgynnau'r economi, ond wrth gwrs rhaid ichi gydnabod hefyd fod gennych chi ddulliau eithaf pwerus ar gael ichi yma hefyd. Credaf mewn gwirionedd fod angen inni beidio â rhygnu ar yr un hen dant mai 'Ar San Steffan y mae'r bai am hyn i gyd', sydd fel petai'n treiddio i gynifer o ddadleuon a datganiadau yn y Siambr hon.
Dywedwch yn eich datganiad fod £4 biliwn wedi'i ddyrannu i liniaru'r pandemig—mae hynny'n wir. Ond, fel y dywedwch chi hefyd, onid yw cyfran fawr o'r arian hwnnw'n dod o symiau canlyniadol gwariant Llywodraeth y DU beth bynnag, sy'n sicr yn enghraifft wych o gymorth macro-economaidd i Gymru? O ran ailflaenoriaethu'r gyllideb y sonioch chi amdani, byddai'n dda cael ychydig mwy o fanylion—gwn ichi sôn am rai prosiectau—ynghylch yr hyn y mae ailflaenoriaethu'r gyllideb honno'n ei gynnwys ac, yn wir, pa gyllidebau sy'n cael eu lleihau i ganiatáu i'r ailflaenoriaethu hwnnw ddigwydd.
Croesawaf yr hyn a ddywedasoch chi am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol a'r angen, wrth inni ailadeiladu'n well ac yn wyrddach, i sicrhau y cydymffurfir â'r ddeddfwriaeth honno, ond pa mor aml ydym ni'n sôn am hynny, ond wedyn, yn ymarferol, nid yw'n digwydd ar lawr gwlad mewn gwirionedd? Roedd ein diweddar gyd-Aelod Steffan Lewis bob amser yn codi hyn yn y Siambr hon ac yn y pwyllgor. Mae'r syniadau hyn yn wych mewn egwyddor, ond a ydynt yn gweithio'n ymarferol mewn gwirionedd? Oherwydd os nad ydyn nhw, yna gall hynny fod yn gamarweiniol.
Rwy'n deall yn iawn eich galwadau am fwy o hyblygrwydd cyllidebol ac mae hynny'n beth da, fodd bynnag, nid yw'n ateb i bopeth, nac ydy? Rydym yn croesawu'r sicrwydd a roddodd Llywodraeth y DU ichi ynglŷn â chyllid, ond o ran eich pryderon ynghylch eglurder, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellid darparu mwy o dryloywder i Lywodraeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol pan wneir dyraniadau cyllid? Er hynny, rwy'n amau y gallai'r tryloywder hwnnw dynnu sylw at y ffaith bod y dyraniadau presennol wedi bod yn eithaf hael, mewn gwirionedd, felly nid wyf yn siŵr y byddem yn clywed gormod yn y Siambr hon amdanynt ar hyn o bryd.
Gan droi at gefnogi materion cynllunio a chyllid yr UE, wel, iawn, rydych yn gorfod gwneud rhagdybiaethau ynghylch y grant bloc—deallaf fod hwn yn gyfnod heriol i'ch swyddogion—ond onid oes yn rhaid i Lywodraethau ledled y byd wneud rhagdybiaethau ynghylch pob math o bethau ar hyn o bryd, yn y cyfnod digynsail hwn? Mae'r sefyllfa ledled y DU yn newid yn gyflym. Fel y dywedasoch chi, mae ganddynt gymhellion macro-economaidd ar gael iddynt, felly nid wyf yn credu ei bod hi'n gwbl deg taflu beirniadaeth at Lywodraeth y DU; rwy'n credu bod yn rhaid inni dderbyn bod hwn yn gyfnod digynsail.
O ran cyfnod pontio'r UE, ydym, rydym yn edrych ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r UE, ac mae'n bwysig parchu'r setliad datganoli. Mae gennych gefnogaeth i hynny.
I gloi, Cadeirydd, gadewch inni beidio ag anghofio mai Llywodraeth glymblaid y DU a gyflwynodd fwy o bwerau cyllidol i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd hon, gan gynnwys rhai pwerau trethu eithaf sylweddol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar hynny, ac, ydy, mae hyblygrwydd yn dda, ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn am fwy o arian, mae ganddi lawer o arfau ar gael iddi yma eisoes i godi cyllid, benthyca ac ymgorffori hyblygrwydd yn y system. Felly, gadewch i ni gofio hynny yn y dyfodol. A Gweinidog, a allwn ni weithio gyda'n gilydd, bwrw ymlaen â thyfu economi Cymru, tyfu sylfaen drethi Cymru, ailadeiladu'n well, ailadeiladu'n wyrddach a sicrhau bod economi Cymru yn y dyfodol yn gryfach nag y bu yn y gorffennol?
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd y Ceidwadwyr am y sylwadau yna y prynhawn yma. Rwyf yn ei sicrhau ein bod yn defnyddio'r holl gymhellion sydd ar gael inni o ran ein hymateb i bandemig y coronafeirws, ac felly hefyd, y gwaith y mae Jeremy Miles wedi'i amlinellu y prynhawn yma o ran ein hymdrechion i ganolbwyntio ar yr ailadeiladu.
Rwy'n credu y gallwn ddangos hynny, yn enwedig yn y gwaith yr ydym wedi'i wneud i ailgyhoeddi cyllidebau ar draws y Llywodraeth. Felly, mae'r gronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn yn enghraifft dda iawn o sut y bu inni addasu cyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd at ddibenion gwahanol er mwyn inni allu rhoi'r cymorth cyflym hwnnw ar waith i fusnesau. A gwyddom faint o fusnesau sydd wedi elwa ar hynny—mae dros 60,000 o fusnesau wedi elwa. A gwyddom ein bod wedi sicrhau dros 100,000 o swyddi a chredaf fod hynny'n gyflawniad anhygoel, ond rydym yn cydnabod, wrth gwrs, y cyfnod anodd sy'n ein hwynebu o ran yr economi a'r angen i wneud mwy, a dyna pam mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd honno ar agor ar hyn o bryd.
Mae'n dda clywed Nick Ramsay yn siarad am y warant y gwnaethom lwyddo i'w negodi gyda Llywodraeth y DU. Deallwn nawr ein bod ar ben uchaf y warant honno. Roedd Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai'n rhoi manylion cynhwysfawr inni am symiau canlyniadol Barnett y cyfeiriodd y warant honno atynt. Yn anffodus, nid ydym ni hyd yma wedi cael cysoniad manwl yr wybodaeth honno, felly mae'n ei gwneud hi'n anodd i ni ddeall i ba raddau y mae'r cyllid a gawsom yn ymwneud ag eitemau y mae Llywodraeth y DU wedi gwario arnynt. Er enghraifft, ni allwn weld lle y byddai arian ychwanegol a allai fod wedi'i wario ar ysbytai maes dros y ffin yn dod o fewn y warant honno ac ni allwn weld cyllid ychwanegol ar gyfer peiriannau anadlu, er enghraifft. Mae'n anodd iawn meddwl y gallai adran iechyd Llywodraeth y DU fod wedi ariannu'r rheini o gyllidebau presennol. Felly, mae llawer o waith i'w wneud, rwy'n credu, eto, o ran cael y tryloywder hwnnw ar draws y cyllidebau, y credaf y byddem ni'n cydnabod ei fod yn hanfodol.
O'm safbwynt i, rwyf eisiau bod mor dryloyw â'r Senedd ag y gallaf. Felly, rwyf wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr amser a dreuliodd gyda mi yn trafod sut y gallwn wneud cyllideb atodol dros dro dryloyw, os mynnwch chi, a chyflwyno hynny cyn diwedd y mis. Dylai hynny fod yn gyfle inni gau pen y mwdwl o ran y cyllid yr ydym ni eisoes wedi'i wario yn ymateb i COVID, er mwyn i'r gyllideb atodol, y byddwn i fel arfer yn ei chyflwyno ym mis Chwefror, ganolbwyntio mwy ar yr ymdrech ailadeiladu. Felly, rwy'n awyddus iawn i gael cymaint o wybodaeth â phosib i gyd-Aelodau, a bod mor dryloyw â phosib, oherwydd rwy'n cydnabod bod y symiau yr ydym yn sôn amdanynt yn sylweddol iawn, iawn.
Wrth gwrs, nid yw hyblygrwydd yn ateb i bopeth, ond bydd yn sicr yn helpu llawer, yn enwedig yn y cyd-destun hwnnw o beidio â deall ein cyllideb yn llwyr. Nid ydym yn gofyn am arian ychwanegol yn hyn o beth; rydym yn gofyn am y gallu i ddefnyddio ein cyllid sydd gennym ni eisoes mewn ffordd fwy ystwyth. Mae maint cronfa wrth gefn Cymru yn fach iawn beth bynnag, felly mae cael mynediad ychwanegol at hynny er mwyn rheoli ein cyllidebau dros flynyddoedd yn bwysig iawn. Mae Nick Ramsay a minnau wedi siarad o'r blaen am y ffaith nad yw COVID yn cydnabod blynyddoedd ariannol, felly mae'r angen i symud yn esmwyth ac yn ddi-dor o'r naill i'r llall, rwy'n credu, yn bwysig. Mae'r hyblygrwydd yr ydym yn galw amdano yn arf rheoli cyllideb synnwyr cyffredin, mewn gwirionedd.
Gofynnodd Nick Ramsay hefyd pa drafodaethau ydym ni wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU. Rwyf eisiau bod yn gwbl deg a dweud bod ymgysylltu â Llywodraeth y DU wedi gwella'n sylweddol ers dechrau'r argyfwng. Yr wythnos nesaf byddwn yn cael ein hwythfed neu nawfed cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid; rwy'n credu y bu'r rheini yn ddefnyddiol iawn drwy gydol yr argyfwng, ac mae angen inni barhau â'r lefel honno o ymgysylltu cynyddol nawr wrth inni symud drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.
Hoffwn gloi drwy ddweud fy mod yn croesawu'n fawr yr hyn yr oedd Nick Ramsay wedi'i ddweud am bontio Ewropeaidd a'r angen i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewidion o ran sicrhau nad yw Cymru geiniog yn waeth ei byd ac nad yw hi'n colli pwerau o ganlyniad i hyn.
Diolch i’r Gweinidog am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn cyfnod o bwysau digynsail ar gyllid, a dwi’n sicr yn cytuno bod diffyg eglurder gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymylu pethau ymhellach, a dwi’n gobeithio y byddai llefarydd y Ceidwadwyr yn cytuno bod angen yr eglurder yna. Mae’n rhaid i ni yng Nghymru fod yn gallu gwneud ein dadansoddiad ynglŷn ag a ydy’r arian sydd yn dod yn dilyn y rheolau presennol ar ddyrannu arian rhwng gwledydd y Deyrnas Unedig, ac ar hyn o bryd, dydy hi ddim yn bosib gwneud hynny.
Mi fydd y Gweinidog yn gwybod fy mod innau wedi rhoi’r achos droeon am ragor o hyblygrwydd ffisgal wrth inni symud ymlaen. Mae’n gwestiwn dwi wedi ei ofyn droeon yma yn y Senedd. Dwi’n cyd-fynd hefyd bod angen, yn sicr, i lais Llywodraeth Cymru gael ei glywed yn glir fel rhan o adolygiad gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mi ddywedodd y Gweinidog wrthym ni yn fanna bod natur y berthynas wedi gwella, bod y trafod yn digwydd ar lefel uwch nag y bu yn gynharach yn y pandemig, ond un peth ydy cynnal wyth neu naw o quadrilaterals; peth arall ydy cyrraedd at bwynt ar ôl y trafod hynny lle byddai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y Trysorlys heb roi ystyriaeth go iawn a heb roi llais go iawn i Lywodraeth Cymru. Ac, wrth gwrs, dwi a Phlaid Cymru wedi dadlau yn gyson am yr angen i ddod â chyllid cadarn iawn i gymryd lle cyllid Ewropeaidd. 'Fyddai Cymru’n cael dim ceiniog yn llai' oedd yr addewid, wrth gwrs, a dydyn ni ddim yn agos at sefyllfa lle mae hynny yn debyg o gael ei wireddu.
O ran yr arian sydd wedi cael ei wario yn ychwanegol, mi gafwyd cyfeiriad at y £4 biliwn yna a’r £320 miliwn yn ychwanegol. Dwi’n croesawu arian ychwanegol, wrth gwrs, i amrywiol feysydd. Rydw i'n siŵr y bydd fy nghyd Aelodau i yng Nghabinet yr wrthblaid Plaid Cymru yn eiddgar i fynd i'r afael â sawl elfen o'r hyn gafodd ei gyhoeddi a'i gyhoeddi'n gynharach gan y Cwnsler Cyffredinol hefyd, ond mae yna ambell i faes yma lle byddwn i'n licio mwy o wybodaeth. Er enghraifft, roedd llywodraeth leol yn un oedd ar goll yn y cyhoeddiad yma heddiw. Rydyn ni'n gwybod bod yna becynnau ychwanegol o arian wedi cael eu clustnodi ar gyfer llywodraeth leol, ond rydyn ni ar bwynt o hyd lle mae'r cynghorau sydd wedi bod mor allweddol yn y frwydr yn erbyn COVID, yn yr ymateb i COVID, yn dal yn wynebu pwysau ariannol difrifol, ac mi hoffwn i wybod yng nghyd-destun y cyhoeddiad heddiw pa fath o lefel o gymorth ychwanegol mae'r Llywodraeth yn debyg o allu ei gynnig. Yn hynny o beth hefyd, tybed fyddai'r Gweinidog yn gallu cadarnhau wrthym ni beth ydy'r bwriad o ran cyhoeddi cyllideb atodol arall. Mi roddwyd dyddiad inni yn fanna ar gyfer cyhoeddi'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ond mae'n bosib ein bod ni mewn lle rŵan lle bydd angen cyllideb atodol arall, ac mi fyddai cadarnhad o hynny yn ddefnyddiol.
Yr un elfen arall yr hoffwn i eglurhad arno fo ydy o gwmpas ymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Rydyn ni'n agos iawn at adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn. Dydy'r rhagolygon ddim yn dda i lefydd fel Caergybi yn fy etholaeth i, porthladd Abergwaun, siroedd fel Ynys Môn a Cheredigion sydd ar y frontier Ewropeaidd a'r pwysau ychwanegol sy'n debyg o ddod yn sgil gadael yn ddi-drefn—cymaint o drefn ag sy'n bosib dychmygu ei chael ar y pwynt yma. Felly, pa gronfeydd sydd gan y Llywodraeth wrth gefn—ar ben, wrth gwrs, y gwasgu sydd yna oherwydd COVID—i ddelio â'r argyfwng hwnnw hefyd, sydd yn prysur agosáu tuag atom ni?
Gweinidog.
A gaf i, Llywydd?
Mae'n ddrwg gennyf Gweinidog, roeddwn i wedi'ch galw, ond mae'n amlwg ein bod yn brwydro gyda'r dechnoleg.
Ymddiheuriadau, Llywydd dros dro, ni chlywais chi.
Diolch yn fawr iawn i Rhun am y cwestiynau yna, ac, fel arfer, am gefnogaeth Plaid Cymru i alwadau Llywodraeth Cymru am hyblygrwydd ychwanegol. Cydnabyddir y gefnogaeth honno hefyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, Canolfan Llywodraethiant Cymru a hyd yn oed, wrth gwrs, ein Pwyllgor Cyllid ein hunain, sy'n bwyllgor trawsbleidiol yma yn y Senedd. Felly, rwy'n credu bod cydnabyddiaeth eang mai yr hyn yr ydym yn galw amdano yw dim byd mwy na synnwyr cyffredin o ran caniatáu i ni reoli cyllidebau'n dda, ac rwy'n hapus iawn i gydweithio ag unrhyw un sy'n rhannu'r uchelgais hwnnw o ran cynyddu'r pwysau ar Lywodraeth y DU yn hynny o beth, a dyna pam y bu'n gymaint o bleser gweithio gyda'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar y mater penodol hwn. Heddiw, mae'r tri ohonom ni yn gwneud datganiadau i'n deddfwrfeydd unigol ein hunain ar y mater penodol hwn, pob un yn atgyfnerthu'r un pwyntiau am bwysigrwydd hyblygrwydd, a chredaf fod cydweithio ar y materion hyn yn bwysig iawn hefyd.
O ran cyllideb atodol, byddech wedi fy nghlywed yn dweud wrth lefarydd y Ceidwadwyr mai fy mwriad yw cyflwyno cyllideb atodol dros dro ym mis Hydref, felly yn ddiweddarach y mis hwn, ac yna byddwn yn sicrhau ei bod yn bodloni holl ofynion y Rheolau Sefydlog ac, wrth gwrs, yn rhoi tair wythnos i'r Pwyllgor Cyllid eistedd i graffu arni hefyd. Mae hynny, rwy'n credu, yn bwysig iawn, oherwydd mae'n caniatáu'r lefel honno o dryloywder i'r Senedd ac mae hefyd yn dwyn ynghyd yr holl gamau yr ydym ni wedi'u cymryd i ymateb i agweddau mwy difrifol, os hoffech chi, pandemig y coronafeirws. Bydd yn amlinellu'r gefnogaeth yr ydym ni wedi'i darparu ar gyfer llywodraeth leol, y gwn fod gan Rhun ap Iorwerth ddiddordeb arbennig ynddi, ar ôl crybwyll hynny wrthyf o'r blaen.
Rydym ni wedi darparu bron i £500 miliwn o gyllid ychwanegol i lywodraeth leol drwy gronfa galedi ar gyfer awdurdodau lleol. Mae hynny'n cynnwys £292 miliwn i roi cymorth ariannol cyffredinol i awdurdodau lleol i'w helpu i dalu baich y costau ychwanegol y maent yn ei wynebu o ganlyniad i bandemig y coronafeirws; £78 miliwn yn lle'r incwm a gollwyd gan awdurdodau lleol o ganlyniad i'r pandemig—mae llawer yn cynnal gwasanaethau megis arlwyo, meysydd parcio, canolfannau hamdden, gwasanaethau diwylliannol ac ati, sydd wedi cael eu taro'n galed, felly mae hynny i'w helpu gyda'r golled honno o ran incwm; £62 miliwn i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, oherwydd gwyddom am y pwysau ychwanegol y maent yn ei wynebu o ganlyniad, unwaith eto, i'r pandemig; £38 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim; a £10 miliwn o gyllid ychwanegol i gefnogi pobl ddigartref gyda'r nod penodol o sicrhau nad oes neb yn cysgu ar y stryd yn ystod y pandemig.
Felly, rydym ni wedi sicrhau bod pecyn ariannu ychwanegol sylweddol ar gael i awdurdodau lleol, ac wedi gwrando ar awdurdodau lleol pan oeddent yn dymuno gweithio gyda ni i sicrhau ei bod hi'n symlach, yn gyflymach ac yn rhwyddach cael cymorth o'r gronfa honno drwy, er enghraifft, newid y ffordd yr ydym yn darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol i un sy'n darparu swm ychwanegol am bob person, os mynnwch chi, i'r bobl y maent yn eu cefnogi, yn hytrach na gorfod gwneud cais mwy beichus i'r gronfa. Felly, rydym yn cynnal trafodaethau cyson ag awdurdodau lleol ynglŷn â'r cymorth sydd ei angen arnynt, a'r gefnogaeth sydd ar gael, a'r nod yw i hynny eu diwallu hyd at ddiwedd y flwyddyn, ond wrth gwrs rydym yn trafod yn gyson a fyddai angen cymorth ychwanegol.
O ran y cyhoeddiad a wnaethpwyd heddiw am y £340 miliwn ychwanegol ar gyfer ailadeiladu, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy natganiad—ac mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cyfeirio'n ôl at eitemau yn ei ddatganiad hefyd—am gyllid ychwanegol i gynyddu'r gwaith o adeiladu tai cyngor a thai cymdeithasol yn ychwanegol at y cyllid a gyhoeddais pan wnes i fy mhenderfyniad ynghylch cyfraddau'r dreth trafodion tir ychydig wythnosau'n ôl, a chyllid ychwanegol i gefnogi pobl ifanc mewn addysg bellach yn benodol, a'r bobl ifanc hynny y gallai fod angen cymorth dal i fyny ychwanegol arnynt. Fodd bynnag, dyma'r prif ffigurau, os mynnwch chi, a bydd Gweinidogion unigol yn gwneud cyhoeddiadau am y materion penodol hynny sy'n rhan o'u portffolios yn y dyfodol agos. Wrth gwrs, sefyllfa gyffredinol y gyllideb o ran lle yr ydym ni arni ar hyn o bryd—. Felly, fel y soniais yn yr ymateb blaenorol, credwn ein bod ar ben uchaf y warant honno o £4 biliwn, ond rydym yn ceisio eglurder ychwanegol ar hynny gan Lywodraeth y DU.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Fe'm calonogwyd pan welais y teitl, 'Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19'. Rwyf wedi bod yn pwyso arni am rywbeth tebyg i hynny ers cryn amser. Rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig yn y cynnwys. Roeddwn wedi gobeithio y gallem roi amcangyfrifon neu ddiweddariadau am yr effaith, er enghraifft, ar dreth trafodion tir yn sgil y cyfyngiadau ar y farchnad dai a oedd yn llymach ac am gyfnod hwy yng Nghymru nag yn Lloegr, ond ni chafwyd dim o'r fath.
Tybed hefyd: a oes perygl bod Llywodraeth Cymru yn arfer pŵer heb gyfrifoldeb? A yw'r fframwaith cyllidol yn golygu y gall, fel y broliodd y Prif Weinidog yn gynharach, osod cyfyngiadau'n gynharach ac yn llymach ac yn hwy am a wn i nag y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar gyfer Lloegr, ar y sail bod yn rhaid i Lywodraeth y DU dalu wedyn am effaith economaidd hynny yng Nghymru? Ai dyna'r strategaeth? I ba raddau y byddwn yn teimlo unrhyw effeithiau drwy gyfraddau treth incwm Cymru, o gofio'r compact cyllidol a sut y mae hynny wedi'i negodi i liniaru newidiadau i hynny, o leiaf yn y tymor agos?
Credaf hefyd ei bod hi'n beryglus troi eto at ddweud mai dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r cymhellion macro. Dywedodd y Gweinidog hynny, ond cytunodd llefarydd y Ceidwadwyr hefyd, ac yna ymffrostiodd ynghylch datganoli pwerau codi trethi, ar ôl addo'n gyntaf i beidio â gwneud hynny heb refferendwm, na chafodd ei grybwyll. Ond dywedir wrthym nad yw Llywodraeth Cymru eisiau defnyddio'r pwerau hynny. A ydych yn disgwyl i Lywodraeth y DU ddefnyddio'r pwerau hynny? Os felly, a fyddech yn credu y dylent godi trethi neu dorri trethi yn sgil yr hyn sy'n digwydd?
Gwnaethom fenthyg, fel gwlad—y Deyrnas Unedig—£36 biliwn ym mis Awst 2020. Rhoddodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ei rhagolygon—roedd hyn yn ôl ym mis Gorffennaf; gallai fod yn fwy nawr, wn i ddim—ond dywedasant eleni y byddem yn benthyca tua £322 biliwn. Dyna ddwywaith yr hyn a fenthycodd Gordon Brown ar waethaf y dirwasgiad diwethaf yn 2009-10. A yw hynny'n gynaliadwy? Rydych chi'n dweud bod gan Lywodraeth y DU y cymhellion, ond mewn gwirionedd benthyca'r arian yn unig y mae hi. Ar hyn o bryd, mae'n llwyddo i gael y Swyddfa Rheoli Dyledion i werthu'r giltiau hynny, ond yn bennaf ar y ddealltwriaeth y bydd Banc Lloegr yn argraffu swm tebyg o arian i'w prynu'n ôl gan fuddsoddwyr. Ar hyn o bryd, mae chwyddiant yn sefydlog ac yn gallu cynhyrchu'r goeden arian hud honno, fel petai, ond a fydd hynny'n parhau? Ac os bydd sefydlogrwydd chwyddiant yn dod i ben, beth sy'n mynd i ddigwydd? A ydych chi eisiau gweld Banc Lloegr annibynnol yn codi cyfraddau llog, neu'n rhoi'r gorau i argraffu'r arian hwnnw er mwyn atal chwyddiant rhag codi, neu a ydych chi eisiau gweld Llywodraeth y DU yn eu gorfodi—a chredaf y byddai angen Senedd y DU, nid Llywodraeth y DU yn unig i wneud hynny—i roi'r gorau i'r targed chwyddiant hwnnw neu o leiaf ei atal dros dro? Mae'r rhain yn gwestiynau gwirioneddol ddifrifol, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n ddigon da dweud, 'A wel, mae gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro' ac i ni beidio â'u hystyried.
Un neu ddau o gwestiynau cyflym penodol iawn, os caf i. Fe wnaethoch chi sôn am swm canlyniadol o £4 biliwn o gymharu â £0.5 biliwn ar gyfer addasu at ddibenion gwahanol. Ai dyna'r cydbwysedd cywir a'r maint cywir yn llai na'r hyn yr ydym yn ei wneud yma, o'i gymharu â'r hyn sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth y DU? Ac fe sonioch chi am £320 miliwn ychwanegol, ond nid ydych chi wedyn yn rhoi manylion unrhyw raniad o ran pa un a yw hynny drwy addasu at ddibenion gwahanol neu'n gyllid ganlyniadol, neu'n gyfuniad ac, os felly, beth ydyw. Fe sonioch chi am £15 miliwn ar gyfer dysgu digidol. Mae hwnnw'n swm cymharol fach o ystyried maint addysg a'r hyn sydd wedi digwydd. Fe sonioch chi am £60 miliwn yn fwy ar gyfer adeiladu, gan gynnwys effeithlonrwydd ynni. Credaf mai effeithlonrwydd ynni yw un o'r ffyrdd gorau o gyfyngu allyriadau carbon o ran yr effaith a gewch am y swm o arian a wariwch, ond aethoch ymlaen wedyn i ddweud eich bod yn gwario £14 miliwn ar ddatgarboneiddio. A yw hynny'n ychwanegol at yr hyn yr ydych wedi'i ddweud am effeithlonrwydd ynni ac ar wahân iddo, ac oni ddylid rhoi sylw manylach i'r ddau beth yna yn eu holl agweddau?
Diolch i Mark Reckless am ei sylwadau. Nid yw byth yn mwynhau fy natganiadau, felly nid wyf yn synnu, heddiw, nad oedd unrhyw newid yn hynny o beth. Ond dywedaf ar fater treth trafodiadau tir, oherwydd gwn inni gael cyfle i ailadrodd y pwyntiau hyn adeg cwestiynau'r Gweinidog ychydig wythnosau'n ôl, ein dealltwriaeth ni yn y bôn, a chredaf ein bod yn gywir yn hyn o beth, yw y bydd lefel y newid y byddem yn disgwyl ei weld i'r grant bloc o ganlyniad i gau'r farchnad dai, os hoffech chi, am fwy o amser yma yng Nghymru yn un ymylol, ac nid ydym yn disgwyl gweld unrhyw newid mawr yng nghyllideb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny. Oherwydd, wrth gwrs, mae'r fframwaith cyllidol yn ein diogelu rhag ergydion economaidd cyffredinol, ac mae'r sefyllfa hon wedi bod mor anodd yn Lloegr ag y bu yng Nghymru, a byddem yn disgwyl i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol roi rhagolygon wedi'u diweddaru inni, y byddwn yn eu cyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft yn ddiweddarach eleni. Felly, bydd gennym ddarlun llawer cliriach bryd hynny. Ond nid wyf yn credu y bydd yr effaith ar dreth trafodion tir neu dreth gwarediadau tirlenwi yn sylweddol o ran ein cyllideb gyffredinol.
Ac yna aeth Mark Reckless ymlaen hefyd i siarad am gyfraddau treth incwm Cymru ac archwilio pam nad yw Llywodraeth Cymru yn codi treth incwm ar hyn o bryd. Gwnaethom ymrwymiad ar ddechrau'r Senedd hon na fyddem yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod tymor y Senedd hon ac, o ystyried ein bod mewn sefyllfa economaidd mor anodd, nid wyf yn credu mai nawr fyddai'r adeg priodol i wneud hynny. Rhaid inni gydnabod, rwy'n credu, faint y cyllid y gellid ei ddwyn i Drysorlys Cymru o ganlyniad i newidiadau, a dim ond £200 miliwn y byddai cynnydd o 1c ar y 10c sylfaenol yn ei gyflwyno. Felly, yn y blynyddoedd arferol, byddai £200 miliwn yn swm sylweddol o arian, ond rydym yn sôn y prynhawn yma am fod ar ben uchaf ein gwarant ychwanegol o £4 biliwn gan Lywodraeth y DU. Felly, credaf fod angen inni roi pethau yn eu cyd-destun hefyd.
Mae polisïau cyni cyllidol a weithredwyd gan Lywodraeth glymblaid y DU yn 2010 a'u parhau gan y Llywodraethau Ceidwadol dilynol wedi gohirio a niweidio adferiad economaidd, sef yr un gwannaf erioed. Ac, yn amlwg, gadawodd hynny wasanaethau cyhoeddus heb ddigon o adnoddau i ymdrin â'r galw arferol am wasanaethau arferol, heb sôn am ymdopi â'r achosion o'r coronafeirws. Ac, wrth gwrs, mae'r economi bellach yn dioddef un o'r dirwasgiadau llymaf o fewn cof, felly mae'n gwbl resymol, rwy'n credu, i ddiogelu incwm aelwydydd a busnesau o dan yr amgylchiadau hyn. A'n barn ni yw y dylai Llywodraeth y DU barhau i fenthyca tra bod cyfraddau llog yn is nag yr oeddent cyn yr argyfwng, a'u bod mewn gwirionedd yn is na chyfradd chwyddiant ar hyn o bryd. Dyma'r unig ffordd o ddiogelu gallu'r economi i gynhyrchu'r nwyddau a'r gwasanaethau y bydd eu hangen arnom i ddod allan o'r argyfwng. Felly, yn amlwg, byddai cyflwyno rhagor o gyni nawr yn broblem fawr, ac mae Prif Weinidog Prydain wedi dweud na fyddai'n dychwelyd at gyni, felly, yn amlwg, byddem eisiau ei ddal at ei air.
Ac yna o ran ail-lunio'r gyllideb, y £500 miliwn y cyfeiriais ato'n gynharach yn fy ymateb i Nick Ramsay o ran y cyllid yr ydym wedi gallu ei ddarparu i gefnogi busnesau—roedd hwnnw'n gyllid a gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol ar draws y Llywodraeth a chyllid yr UE a gafodd ei addasu at ddibenion gwahanol, ond nid yw hynny'n golygu nad yw Gweinidogion unigol yn gwneud penderfyniadau bron bob dydd mewn cysylltiad â'r cyllid sy'n mynd drwy eu hadran, sy'n canolbwyntio'n fanwl ar ein hymateb i'r pandemig. Credaf mai dim ond rhan o'r darlun y mae'r cyllid sydd wedi ei addasu at ddibenion gwahanol yn ei ddarparu ac, wrth gwrs, mae'r arian ychwanegol sydd wedi'i gyhoeddi heddiw yn ychwanegol at yr holl gyllid arall sydd wedi'i gyhoeddi yn y meysydd hyn.
Ac, yn olaf, cwestiwn gan Aelod sydd bob amser yn mwynhau datganiadau'r Gweinidog—Alun Davies. [Chwerthin.]
Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd dros dro, er efallai na fyddaf yn dangos y diolchgarwch hwnnw yn fy sylwadau. Gweinidog, mae un peth y byddwn ni bob amser yn cytuno arno, a hynny yw na allwch chi ymddiried yn y Torïaid. Allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid gyda Chymru ac ni allwch ymddiried yn y Torïaid o ran buddiannau Cymru. Rwyf bob amser yn poeni pan fydd Gweinidogion yn dibynnu gormod ar haelioni Llywodraeth Geidwadol nad yw hi erioed i bob diben, yn hanesyddol na heddiw wedi, poeni botwm corn am y bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Ac fe hoffwn ofyn dau gwestiwn fwy neu lai i chi. Yn gyntaf oll, yn y fframwaith cyllidol rydych chi wedi sôn am y gwaith yr ydych chi wedi'i wneud gyda Gweinidogion cyllid eraill a'r Trysorlys ledled y Deyrnas Unedig. Mae gen i bryderon gwirioneddol am y ffordd y mae'r fframwaith cyllidol yn gweithio ar hyn o bryd. Rydych chi wedi sôn am hyblygrwydd ychwanegol y teimlwch fod ei angen arnoch, ac rwy'n cytuno â chi, rwy'n credu eu bod i gyd yn angenrheidiol, ond yn y bôn, yn ei hanfod, nid yw'r fframwaith cyllidol yn gweithio yn y ffordd y mae angen iddo weithio, a chredaf fod angen i ni feddwl yn galed ynghylch sut y mae strwythur cyllid y DU yn gweithio. Nid ydynt yn gweithio ar hyn o bryd, ac nid wyf yn credu, heb ddiwygio strwythurol, y byddant byth yn gweithio. Felly, byddwn yn ddiolchgar, Gweinidog, pe baech yn dweud a ydych yn gweithio ar rywbeth i ddisodli'r fframwaith cyllidol a sut y byddech yn gweld unrhyw newid strwythurol yn cael ei ddatblygu, ac a ydych chi wedi dechrau cael unrhyw un o'r sgyrsiau hyn gyda'ch cydweithwyr mewn Llywodraethau eraill.
Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw hwn: mae pwerau ariannol sylweddol ar gael inni yn y fan yma. Roedd Nick Ramsay yn llygad ei le yn ei ddadansoddiad o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi a'r pwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac i'r Senedd. Ac mae hi'n iawn ac yn briodol ein bod yn ystyried y pwerau hynny ac yn archwilio'r defnydd o'r pwerau hynny. Rydych chi wedi cyfeirio at bwerau treth; rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn anghywir ynghylch trethiant, a dweud y gwir. Rwyf wedi gwneud y pwynt hwnnw o'r blaen a byddaf yn ei wneud eto: nid wyf yn credu y gallwn wireddu ein huchelgeisiau a'r weledigaeth a amlinellwyd yn dda iawn gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach gyda lefelau trethiant y Torïaid, sef yr hyn sydd gennym ni yn y bôn. Ac felly rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl yn galed ynghylch sut yr ydym yn strwythuro hynny a sut yr ydym yn bwrw ymlaen â hynny. Ond ym mha ffordd arall, Gweinidog, ydych chi wedi archwilio'r defnydd o bwerau cyllidol a'r dulliau ariannol sydd ar gael i chi i sicrhau bod gan ein cymunedau sy'n dioddef yn affwysol ar hyn o bryd, yr adnoddau, a bod gan Lywodraeth Cymru yr adnoddau i newid dyfodol ein gwlad yn sylfaenol? Diolch.
Diolch i Alun Davies am godi'r ddau fater yma, a chredaf mai'r broblem wirioneddol gyda'r fframwaith cyllidol yw nid y fframwaith ei hun ond yn hytrach y datganiad o bolisi ariannu sy'n sylfaen iddo. Dyna'r maes yr ydym ni'n fwyaf pryderus amdano, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ei gymhwyso. Bydd cyd-Aelodau wedi fy nghlywed yn siarad yn y Siambr o'r blaen am y pryderon a oedd gennym ni ynghylch y £1 biliwn ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon—heb warafun ceiniog i Ogledd Iwerddon ond gan gydnabod bod hynny'n torri'r datganiad o bolisi ariannu, pryd y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi cael cyfran deg o hynny. A hefyd y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU mewn cysylltiad â phensiynau athrawon, a gafodd effeithiau canlyniadol unwaith eto ar gyllideb Llywodraeth Cymru, ond nid oedd cyllid ynghlwm wrth hynny. Unwaith eto, roedd hynny'n torri'r datganiad o bolisi ariannu. Felly, credaf fod hyn i gyd, yn rhannol, yn gysylltiedig â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar gysylltiadau rhynglywodraethol, o ran sut y gallwn ni wella'r strwythurau sy'n cyd-fynd â'r berthynas sydd gennym ni â Llywodraeth y DU.
Ond o ran y datganiad penodol o bolisi ariannu, rydym yn bwriadu gwneud—. Wel, hoffwn wneud rhai newidiadau i hynny fel rhan o'r gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Felly, dyna'r amser priodol i fanteisio ar y cyfleoedd hynny i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu. Mae'r adolygiad hwnnw wedi dechrau ar lefel swyddogol, ond credaf fod y cynnydd yn arafach nag y byddem wedi'i hoffi. Ond, yn sicr, mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau, a hoffwn wneud rhywfaint o gynnydd drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant.
A gwn fod Alun Davies wedi mynegi ei farn wahanol ar sut y dylem ni fod yn defnyddio ein dulliau treth ar hyn o bryd, ond hoffwn dynnu sylw at y cynllun gwaith polisi treth, a gyhoeddais yn ystod yr wythnosau diwethaf, sy'n nodi ein blaenoriaethau o ran archwilio trethi Cymru a sut y gallem eu defnyddio wrth nesáu at etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf. Yna, wrth gwrs, mater i bob un ohonom ni fydd nodi ein cynigion ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru yn dilyn hynny.
Diolch, Gweinidog.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, bydd y pedwar cynnig o dan eitemau 6, 7, 8 a 9—Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020—yn cael eu grwpio i'w trafod, ond gyda phleidleisiau ar wahân. Nid wyf yn gweld wrthwynebiad.