5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cyllid ar gyfer Bysiau

– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 3:40, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Fe symudwn ni felly at eitem 5, sef datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â chyllid ar gyfer bysiau, ac rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod atal byr a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe yn ogystal ag ateb cwestiynau am y goblygiadau i'n dull cyffredinol ni o weithredu.

O ddydd Gwener ymlaen, rydym yn gofyn i bobl aros gartref. Fe fydd siopau manwerthu ar gau os nad ydyn nhw'n gwerthu nwyddau hanfodol, fe fydd disgwyl i bobl weithio o gartref lle bo hynny'n bosibl, ac fe fydd ymweliadau ag aelwydydd eraill yn cael eu gwahardd, ac eithrio mewn amgylchiadau prin. Oni bai fod gennym reswm hanfodol dros fynd allan, fe fydd angen i bob un ohonom chwarae ein rhan i dorri'r cadwyni sy'n trosglwyddo coronafeirws.

Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod bysiau a threnau'n parhau i redeg yn ystod oriau brig i alluogi gweithwyr allweddol fynd i'w gwaith, ond y tu allan i'r prif amseroedd cymudo, rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru a gweithredwyr bysiau leihau gwasanaethau yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud. Nid yw hyn yn syml oherwydd mae angen dadgofrestru llwybrau, trefnu staffio a rhyng-gysylltu gwasanaethau. Dyna pam y briffiwyd y gweithredwyr ddydd Gwener diwethaf ein bod ni'n ystyried cyflwyno mesurau. Fe wnaethom hynny'n hollol ddidwyll, ac rwy'n siomedig i hynny gael ei dorri.

Yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud, bydd y gwasanaethau yn debyg i rai mis Awst. Mae angen i deithwyr wybod y bydd canslo hwyr a newidiadau i wasanaethau a amserlennwyd yn debygol, ac fe ddylai'r rhai sy'n gorfod defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wneud ymholiadau gyda'r gweithredwyr yn uniongyrchol cyn teithio.

Ledled y byd, mae llai o bobl yn defnyddio trafnidiaeth dorfol. Yng Nghymru, rydym wedi gweld gostyngiad sydyn a difrifol na welwyd ei fath erioed o'r blaen o ran nifer y teithwyr ar fysiau, gan achosi colli bron pob refeniw o docynnau. Er bod y galw wedi dychwelyd yn raddol, bydd refeniw'n debygol o barhau i fod yn isel yn y dyfodol rhagweladwy o ganlyniad i ofynion cadw pellter cymdeithasol sy'n cyfyngu ar niferoedd y bobl sy'n gallu teithio. Mae'n amlwg y bydd hynny'n golygu goblygiadau sylweddol i hyfywedd cwmnïau bysiau, yn enwedig gan fod Llywodraeth y DU yn dod â'r cynllun ffyrlo i ben cyn ei amser.

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog am gyfnod atal byr, mae'r gronfa cadernid economaidd yn cael ei hatgyfnerthu. Fe fydd £300 miliwn ar gael i roi cymorth ariannol i fusnesau. Mae cwmnïau bysiau a cherbydau yn gymwys am y gronfa cadernid economaidd. Yn wir, mae llawer wedi elwa eisoes ar gamau blaenorol y gronfa. Rydym yn gweithio hefyd gyda nifer o weithredwyr ar ddatgarboneiddio a moderneiddio eu fflydoedd, ac rwy'n awyddus i weld mwy o bethau fel hyn yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i'r adwy i helpu gweithredwyr bysiau i ymateb i heriau coronafeirws. Yn ystod y don gyntaf o'r feirws, roeddem yn sybsideiddio pob teithiwr ar fws ar gyfradd o £30 y pen. Pe na fyddem wedi gwneud hynny, fe fyddai cwmnïau bysiau masnachol wedi mynd i'r wal a phobl wedi'u gadael heb unrhyw fodd o deithio. Mae ein cefnogaeth ni wedi bod yn hanfodol i sicrhau y gall gweithwyr allweddol deithio i'w gwaith, y gallai ysgolion ailagor, a bod pobl sy'n dibynnu ar ein rhwydweithiau bysiau wedi gallu mynd i siopa a chael gafael ar wasanaethau allweddol.

Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 78 y cant o bobl sy'n teithio ar y bysiau ddefnydd o gar preifat. Mae hyn yn cynnwys niferoedd anghymesur o uchel o blith pobl iau, pobl hŷn, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig, menywod, a'r rhai sydd ar incwm isel. Mae ein cefnogaeth ni i fysiau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.

Cyhoeddwyd pecyn cyllid o £84.6 miliwn yn ddiweddar i helpu i gynnal a datblygu lefelau gwasanaethau am weddill y flwyddyn ariannol hon. Eleni, fe fydd ein cymorth i wasanaethau bysiau yn gyfanswm o £140 miliwn. Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn adeg pan fo arian cyhoeddus dan bwysau na welwyd ei debyg o'r blaen. Fe fydd yn anodd cynnal hyn, ac felly mae'n rhaid inni ddiwygio'r drefn.

Mae'r ecosystem bresennol lle mae gwasanaethau bysiau yn cael eu hariannu, eu darparu, a'u rheoli yn cael ei chymhlethu gan farchnad sydd wedi cael ei dadreoleiddio a'i darnio, a chymhelliant masnachol sydd iddi hi. Mae ein cyllid ni yn cael ei dalu i tua 80 o gwmnïau bysiau mewn 22 o awdurdodau lleol drwy nifer o ffrydiau ariannu a mecanweithiau contractio, sydd wedi cynyddu o ran eu maint a'u cymhlethdod dros y 30 mlynedd diwethaf. Er bod y rhan fwyaf o'u hincwm nhw'n tarddu o'r sector cyhoeddus, gweithredwyr unigol sy'n pennu'r llwybrau, amlder teithiau a thocynnau, ac mae'r cwsmeriaid yn ymgodymu'n aml â gwasanaethau nad ydynt yn integreiddio â dulliau eraill, amserlenni nad ydynt yn cysylltu â llwybrau eraill, a thocynnau nad ydynt yn gweithio gyda chwmnïau eraill. Ni all pethau barhau fel hyn.

Yn gyfnewid am y cyllid hwn, rydym yn awyddus i daro bargen newydd i deithwyr. Fe hoffem wneud hynny mewn cydweithrediad â'r cwmnïau ac rydym yn gweithio gyda nhw i adeiladu partneriaeth sy'n cyflawni ein hamcanion ehangach ni—un sy'n rhoi mwy o ddylanwad i drethdalwyr dros lwybrau a safonau, ac sy'n caniatáu rheoli ac integreiddio gyda moddau amrywiol o drafnidiaeth, gan gynnwys tocynnau clyfar, llwybrau cydgysylltiedig, ac amserlennu integredig. Mae angen iddi fod yn fargen sy'n deg i deithwyr. Am ein buddsoddiad ni, rydym eisiau gallu sicrhau rhwydwaith amlddull sy'n cyflawni gwell cysondeb rhwng y cyflenwad â'r galw. Rydym eisiau sicrhau gwasanaethau hyblyg sy'n seiliedig ar angen y teithwyr ac wedi'u hysgogi gan ddata. Rydym eisiau i hyn gael ei gyflawni'n rhanbarthol, a'i lywio gan ein blaenoriaethau datgarboneiddio a chydraddoldeb.

Dyma'r ymyriad mwyaf radical yn y rhwydwaith bysiau ers y dadreoleiddio dros 30 mlynedd yn ôl. Rydym yn dal i fyw gyda gwaddol y prosiect preifateiddio cyfeiliornus hwn. Mae'r fframwaith deddfwriaethol sy'n aros yn parhau i fod yn rhwystr i sicrhau system drafnidiaeth gydgysylltiedig. Fel y mae'r Aelodau yn gwybod, roeddem wedi bwriadu cyflwyno Bil i'r Senedd i foderneiddio hyn, ond mae effaith coronafeirws yn golygu nad yw hynny'n bosibl mwyach. Rydym yn gobeithio y gall Llywodraeth nesaf Cymru ddatblygu hynny, ac yn y cyfamser, rydym yn ceisio manteisio i'r eithaf ar ein dulliau eraill ni o gyflawni ein hamcanion. Mae'r Aelodau ar draws y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae bysiau'n rhan allweddol o gyflawni'r nodau hyn, ac fe fyddaf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith a wnawn i roi system drafnidiaeth gyhoeddus deilwng i'n hetholwyr ni. Diolch.

Photo of Russell George Russell George Conservative 3:47, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ac am y copi o'r datganiad a gefais i ganddo ymlaen llaw hefyd, yr wyf i'n ddiolchgar amdano? Dirprwy Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud, rwyf i wedi fy siomi gan y datganiad y prynhawn yma, a hynny'n unig am fy mod i'n disgwyl cael mwy o fanylion. Nid oes llawer o fanylion pendant yn yr hyn yr amlinellwyd gennych y prynhawn yma. Maes yw hwn yr ydych chi wedi bod yn siarad amdano ers yr haf. Mae'n ymddangos bod y datganiad y prynhawn yma—mae'n sôn am ddyheadau, ac rydych wedi ailadrodd beth ydyn nhw a da o beth yw hynny, ond nid oes unrhyw gnawd pendant ar esgyrn yr hyn y byddem ni'n ei ddisgwyl y prynhawn yma. Felly, a gaf i ofyn pryd rydych chi'n disgwyl cyhoeddi'r math o fanylion y byddem ni'n eu disgwyl mewn datganiad fel hwn, fel y gellir craffu'n briodol ar hynny? Y math o fanylion yr hoffwn i fod wedi eu gweld y prynhawn yma—ac rwyf am eich holi am hynny nawr—yw pryd y cawn ni wybod beth yw'r dull newydd y byddwch chi'n ei ddefnyddio, sut y caiff ei weinyddu, a manylion am y strwythurau a'r dulliau o gynllunio ac ariannu gwasanaethau bysiau.

Roeddech chi'n sôn am gyllid y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac yn sôn am y cyllid sydd ar gael drwy'r gronfa cadernid economaidd, ond a wnewch chi fanylu ar unrhyw gyllid penodol sy'n mynd i'r diwydiant bysiau yn benodol yn ystod y cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol am bythefnos yng Nghymru? Ac yn ogystal â hynny, ar ba lefel y bydd taliadau i weithredwyr yn cael eu cynnal ar gyfer contractau ysgol yn arbennig? Hefyd, efallai y gallaf ychwanegu at hyn y dyhead arall hwn y gwn i eich bod chi wedi sôn amdano o'r blaen, o ran 30 y cant o bobl yn gweithio o gartref. Tybed a wnewch chi sôn, Dirprwy Weinidog, y prynhawn yma, am ganlyniadau'r dyhead hwnnw ar y diwydiant bysiau o ran sut y bydd hynny'n dylanwadu ar ddatblygiad a'r dull newydd o gynllunio ac ariannu gwasanaethau bysiau. A sut fydd y trefniadau newydd hynny yn sgil y dyhead o 30 y cant yn gweithio o gartref—sut y caiff y diwydiant gwasanaethau bysiau ei gefnogi, naill ai drwy golled ddichonol neu newid yn y galw, pa un bynnag sy'n berthnasol, yn eich barn chi. Ac yn olaf, Dirprwy Weinidog, a gaf i ofyn sut yr effeithiodd yr argyfwng ar ddatgarboneiddio gwasanaethau bysiau, a'r targed o bob bws i fod heb unrhyw allyriadau erbyn 2028. A oes arian ar gael gan y cwmnïau i fuddsoddi mewn bysiau newydd? Sut mae dull Llywodraeth Cymru o ariannu bysiau a datgarboneiddio trafnidiaeth yn ystyried y maes hwnnw'n benodol? 

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:50, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi. Nid wyf yn hollol siŵr pa fanylder ychwanegol y mae Russell George yn teimlo fy mod i'n ei gelu oddi wrth y Senedd. Mae gennyf sesiwn ddwy awr gerbron pwyllgor yr economi yn fuan, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny, felly fe fydd yna ddigon o gyfle i fynd drwy unrhyw gwestiynau manwl sydd ganddo ef bryd hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ymgais wedi bod, ar fy rhan i, i guddio unrhyw beth. Rydym wrthi'n gweithio drwy rywfaint o hyn, trwy ddiffiniad, mewn partneriaeth â'r diwydiant bysiau. Felly, nid ymgais yw hon i guddio unrhyw beth, dim ond ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth, fel y dywedais i, a'n bod ni'n dymuno dod at y manylion. Ond rydym wedi rhoi amlinelliad eglur iawn, ac rydym wedi egluro'r cyllid y gwnaethom ei roi hefyd, sef £140 miliwn eleni i wneud hynny, ac rydym yn awyddus i gyflawni hyn drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru ar sail ranbarthol. Ac rwyf i o'r farn fy mod wedi nodi yn y datganiad, y soniodd Russell George ei fod ef wedi cael golwg arno ymlaen llaw, yr egwyddorion a fyddai'n llywio'r dull hwnnw. Felly, efallai y cawn ni barhau â'r drafodaeth hon yn y pwyllgor, neu os hoffech chi ysgrifennu—fe fyddwn i'n hapus i geisio helpu cyn belled ag y gallaf.

O ran y cyllid i weithredwyr yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym yn parhau â'r cyllid sydd gennym yn ei le. Er ein bod yn disgwyl ac yn gofyn i'r gwasanaethau dorri i lawr ar eu gweithrediadau, ni fyddwn ni'n lleihau'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu ar eu cyfer. Rydym yn credu y byddai neges gwbl anghywir yn cael ei chyfleu os ydym yn gofyn i bobl aros gartref, a'r bysiau'n parhau i redeg yr un mor aml ag o'r blaen. Roeddem ni'n gwybod o'r cyfyngiadau symud cyntaf bod gweld bysiau gwag yn symud o gwmpas y strydoedd yn anfon neges anghyson, ac nid oeddem eisiau gweld hynny'n ailddigwydd.

Fe holodd am ganlyniadau gweithio gartref, a'r targed uchelgeisiol a osodwyd o 30 y cant yn gwneud hynny'n barhaol. Fel y crybwyllais i yn y datganiad, ledled y byd mae teithwyr yn pleidleisio gyda'u traed drwy ymwrthod â thrafnidiaeth dorfol oherwydd pryderon am y feirws. Nid yw hynny o ganlyniad i unrhyw benderfyniad gan Lywodraethau, ond, yn amlwg, mae gofynion Llywodraethau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ac yn wir y cyfyngiadau symud yn ychwanegu at hynny. Fe fyddem ni'n disgwyl, o dan y drefn gweithio o gartref y soniwyd amdani, mai hyblygrwydd fydd y normal newydd. Ac fe fydd hyblygrwydd, mewn rhai achosion, yn golygu gweithio o gartref, ac mewn achosion eraill, weithio o ganolfannau gweithio ar y cyd yng nghanol trefi cyfagos. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd yn ofynnol i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd i gyrraedd canol y trefi hynny, yn hytrach na mynd ar daith hir i gymudo i Gaerdydd neu Abertawe neu ddinasoedd cyfagos.

Felly, rydym yn dal i gredu bod swyddogaeth i system drafnidiaeth gyhoeddus gref, ac yn sicr ein bwriad ni yw parhau i ddatblygu'r metro a pharhau gyda buddsoddiadau eraill a nodwyd gennym. Ond, yn yr ysbryd hwn o hyblygrwydd, mae angen newid y ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio. Mae ein rhaglen fysiau ni sy'n ymateb i'r galw drwy fenter Fflecsi, sy'n cael ei threialu mewn sawl rhan o Gymru erbyn hyn, gan gynnwys ar raddfa gynyddol, yng Nghasnewydd, yn argoeli'n addawol iawn bod gwasanaeth bysiau sy'n fwy ystwyth ac sy'n gallu ymateb i alw mwy gronynnol, yn hytrach na dim ond y gwasanaeth ar yr amserlen, yn diwallu anghenion yr oes.

Rwy'n credu mai ei gwestiwn olaf oedd a fydd y diwydiant bysiau yn cael ei gefnogi drwy'r newid hwn yn y galw. Wel, yn wir, dyma un o'r paradocsau y cyfeiriais i ato yn fy natganiad i. Rydym yn clywed yn aml gan y diwydiant bysiau mai gweithredwyr masnachol ydynt, ond nawr rydym yn clywed y galwadau hyn am ragor o arian cyhoeddus, ac mae'n anodd setlo'r ddau beth. Maent yn fasnachol pan fydd hynny'n eu siwtio nhw, ac maen nhw'n barod iawn i gymryd mwy o'n harian ni pan fydd hynny'n eu siwtio nhw hefyd. Rwy'n credu bod angen y fargen newydd y siaradais amdani, sy'n cydnabod eu bod nhw'n darparu gwasanaeth cyhoeddus allweddol ac y bydd angen cymhorthdal parhaus am hynny, ond yn gyfnewid am y cymhorthdal parhaus hwnnw, mae angen i ni gael mwy o bartneriaeth strategol gyda nhw, i sicrhau bod ein blaenoriaethau allweddol ni'n cael eu cyflawni. A dyna'r sgwrs yr ydym ni'n ei chael gyda nhw ar hyn o bryd. Felly, fe fydd yna gefnogaeth barhaus, ond mae pris i'w dalu am hynny.

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:55, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad. Rwyf i am ddechrau drwy ddweud ein bod ni, yn y rhan hon o'r Siambr, yn credu bod yr ymateb i'r cyfnod atal byr o bythefnos yn gwbl briodol; mae'n ymddangos mai dyma'r peth cywir i'w wneud ac rydym ni'n hapus iawn i gynnig ein cefnogaeth ni i'r Gweinidog yn hynny o beth. Yn y cyd-destun hwn—ac nid ydym yn gwybod, wrth gwrs, a fydd angen camau o'r fath yn y dyfodol—a all y Dirprwy Weinidog gadarnhau y bydd darparwyr bysiau yn gymwys i wneud cais am y rownd newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd, hyd yn oed os ydyn nhw wedi derbyn taliadau eisoes o rowndiau blaenorol? Rwy'n cymryd o'i ddatganiad bod hynny'n wir, ond mae'n ymddangos fod yna rywfaint o ddryswch yn y sector.

Roeddwn i'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y gwaith ar ddatgarboneiddio. I ddilyn ychydig, efallai, ar gwestiwn Russell George, a wnaiff ef ddweud ychydig mwy wrthym am natur y gwaith hwn, sut mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi'n benodol? Yn amlwg, mae camau fel prynu fflydoedd cwbl newydd yn ddrud iawn, ac fe fyddwn i'n falch o gael gwybod pa gymorth a allai fod ar gael i'r sector, gan ystyried y pwynt y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn llawn, wrth gwrs, am wneud 'rhywbeth yn gyfnewid' yn yr achos hwn, ac os yw'r Llywodraeth yn cefnogi'r sector, mae angen i'r sector wneud ei ddyletswydd i'r cyhoedd.

Rwyf eisiau cytuno'n llwyr â sylwadau'r Dirprwy Weinidog mai mater o gyfiawnder cymdeithasol yw'r gefnogaeth i wasanaethau bysiau; yn aml y bobl nad ydyn nhw'n gallu fforddio mathau eraill o drafnidiaeth sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau bysiau ni. Fe fyddwn i'n cytuno hefyd nad yw'r dull presennol yn gynaliadwy, nad yw'r system bresennol yn ateb y diben ac na allwn ni barhau â'r sefyllfa o weithredwyr unigol yn pennu llwybrau yn seiliedig ar yr hyn sy'n addas iddyn nhw, yn hytrach na'r hyn sy'n addas i'r cyhoedd. Rwy'n siŵr y bydd gennym ni lawer o enghreifftiau o'n hetholaethau a'n rhanbarthau ni ein hunain. Yr wythnos hon, rwyf i wedi derbyn gohebiaeth, yr wyf yn credu y bydd y Dirprwy Weinidog yn gyfarwydd iawn â hi, ynghylch dileu'r bws uniongyrchol o Drimsaran i Gydweli, er enghraifft, sy'n gwneud pethau'n anodd iawn i bobl sy'n cael eu gofal meddygol yn y gymuned honno. Pethau fel llawer o gymunedau nad oes ganddyn nhw wasanaethau bysiau o gwbl ar ddydd Sul—mae Llangennech yn un o'r rhain, a gallaf roi nifer o enghreifftiau sydd wedi dod i fy mewnflwch i o Bowys a Sir Benfro dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Felly, mae'n amlwg y byddwn ni'n cefnogi dyhead y Gweinidog i newid hyn. Rwy'n gefnogol iawn, yn amlwg, i'r Dirprwy Weinidog yn gweithio ar hyn gyda darparwyr mewn dull cydweithredol. Ond, tybed a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni heddiw, os nad yw'r dull cydweithredol hwnnw'n llwyddiannus, ac o ystyried yr hyn a ddywedodd eisoes, sef ein bod ni'n byw gyda gwaddol preifateiddio cyfeiliornus difrifol, ac fe fyddwn innau'n cytuno â'i sylwadau ef yn hynny o beth—a wnaiff ystyried modelau amgen fel cydberchnogaeth, cwmnïau di-elw, gan edrych ar ble mae llywodraeth leol wedi gallu cynnal gwasanaethau bysiau y maen nhw'n berchen arnynt neu'n rhannol berchen arnynt? A wnaiff ef, o bosibl, ystyried ail-wladoli, os profir bod hynny'n angenrheidiol, gan geisio unrhyw bwerau ychwanegol gan Lywodraeth y DU pe byddai angen hynny?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:58, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae llawer iawn o ddiddordeb ar y cyd a chytundeb yn y sylwadau hynny gan Helen Mary, ac rwy'n croesawu hynny. O ran ei chwestiynau, bydd, fe fydd y rownd newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gael, fel mewn rowndiau blaenorol, a oedd yn helpu cwmnïau bysiau a cherbydau, yn amodol, wrth gwrs, ar feini prawf cymhwysedd. Ond, mewn egwyddor, dyna yw ein disgwyliad ni: y gall ac y bydd cwmnïau bysiau yn derbyn cymorth drwy honno.

O ran y datgarboneiddio, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr sydd wedi cael grantiau bysiau trydan gan yr Adran Drafnidiaeth, ac rydym yn sicr wedi helpu awdurdodau lleol gyda'r ceisiadau hynny, ac rydym wedi bod yn rhoi rhywfaint o gymorth, rwy'n credu, i Fws Caerdydd ar gyfer bysiau trydan. Credaf mai dyna un o'r meysydd lle'r ydym ni'n awyddus i wneud mwy, gan gydnabod mai un o'r heriau sydd gennym o fewn y Llywodraeth o ran cefnogi'r diwydiant bysiau yw iddi fod yn haws cael gafael, yn hanesyddol, ar gyllid cyfalaf gan yr Adran Drafnidiaeth nag ar gyllid refeniw. Felly, yn amlwg, o ran y ffordd y gallwn ni helpu i wella'r drafnidiaeth a gynigir drwy gyfalaf—helpu i brynu bysiau, yn hytrach na chyllid i redeg gwasanaethau—mae hynny'n haws.

Mae'r Aelod yn sôn am rai gwasanaethau yn fy etholaeth i fy hun—Llangennech a Thrimsaran. Mae hwn yn hanes cyfarwydd i'r Aelodau ledled y wlad: bod y gwaith o gynyddu gwasanaethau bysiau wedi bod yn broblem, yn amlwg, gyda gyrwyr bysiau yn dal i fod ar ffyrlo, gyda'r effaith y mae'r gofyniad o gadw pellter cymdeithasol yn ei chael ar hyfywedd gwasanaethau, a'r holl ystod o rwystrau ymarferol a roddwyd ar waith sydd gan awdurdodau lleol, o ran amser eu swyddogion nhw eu hunain, i wneud y newidiadau angenrheidiol. Felly, mae hwnnw'n ddarlun cyfarwydd, yn amlwg. Pan oeddem ni mewn hanner mesurau dros yr haf, ni fu'n bosibl—nac, yn wir, yn hyfyw—oherwydd y cwymp mewn refeniw tocynnau, i ddychwelyd i wasanaethau llawn. Yn amlwg, fel y byddwn yn symud o'r gaeaf at y gwanwyn a'r haf, byddem yn gobeithio cynyddu'r gwasanaethau hynny, fel y bydd cymaint o wasanaethau â phosibl yn dychwelyd eto.

Fe ofynnodd am wahanol fodelau o berchnogaeth—cydberchnogaeth a di-elw. Yn sicr, un o'r pethau yr oeddem wedi gobeithio ei gyflwyno yn y Bil ac y bu'n rhaid inni ei ohirio oedd caniatáu i awdurdodau lleol redeg eu cwmnïau bysiau nhw eu hunain, sy'n rhywbeth yr oeddem yn frwd iawn yn ei gylch. Felly, fel y dywedais, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth nesaf Cymru yn gallu parhau â hynny unwaith eto, oherwydd mae hwnnw, yn fy marn i, yn ddyhead cyffredin i ni.

Yn y cyfamser, rydym yn ystyried swyddogaeth bosibl Trafnidiaeth Cymru fel darparwr uniongyrchol. Nid oes unrhyw reswm pam, mewn egwyddor—. Mae gennym ni fodel, sef corff hyd braich, a allai redeg gwasanaethau yn uniongyrchol pe bai angen hynny, ac mae hwn yn rhywbeth yr ydym ni'n rhoi ystyriaeth iddo mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar sail ranbarthol. Felly, rwy'n gobeithio fy mod i wedi ymdrin â'r cwestiynau a ofynnwyd gennych yna.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:01, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog hefyd am y datganiad a wnaeth ef y prynhawn yma. Roeddwn i'n arbennig o ddiolchgar o'i glywed yn datgan mor glir bod cefnogaeth i fysiau yn fater o gyfiawnder cymdeithasol i'r Llywodraeth hon, ac rwyf i o'r farn fod hynny'n gwbl hanfodol, yn enwedig pan fyddwch chi'n ystyried rhai o'r cymunedau y mae llawer ohonom ni'n eu cynrychioli. Mae llawer o'r cymunedau yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, am rannau o'r dydd o leiaf, yn cael eu datgysylltu oddi wrth wasanaethau—oddi wrth wasanaethau cyhoeddus, oddi wrth gyfleoedd i siopa, er enghraifft. Mae angen inni sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gadarn, ac wrth hanfod hynny fod bysiau ar gael i bawb, ac sy'n gallu cysylltu pobl, eu cymunedau a'u gwasanaethau cyhoeddus a'r siopau a phopeth arall.

Mae'r Gweinidog yn ymwybodol y bydd ysbyty Grange yng Ngwent y mis nesaf. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n ei groesawu'n fawr, ond mae angen sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael i bobl allu cyrraedd y Grange, a hynny nid yn unig yn ystod y dydd, ond ar adegau ymweld gyda'r nos hefyd.

A gaf i ddweud hyn wrth y Gweinidog? Wrth fwrw ymlaen â'r materion hyn, rwy'n croesawu'r arian a gafodd ei wario—rwy'n credu mai £140 miliwn sy'n cael ei wario i gefnogi gwasanaethau. Rwy'n cytuno â'ch dadansoddiad chi bod 80 o weithredwyr mewn 22 o ardaloedd awdurdodau lleol yn amgylchedd polisi sy'n rhy gymhleth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae angen inni weld diwygiad hanfodol o hynny—diwygio o ran llywodraeth leol ac o ran sut yr ydym ni'n sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau bysiau angenrheidiol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog am hynny.

Ond hefyd, a gawn ni sicrhau bod gennym ni rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu ein holl gymunedau ni, yn cynnwys bysiau ond tacsis hefyd? Mewn rhai ardaloedd, nid yw'r niferoedd yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw'n fawr iawn, ond mae angen i ni gael gwasanaethau sy'n rhedeg yn aml hefyd. Felly, rwy'n credu fod yna ystod eang o faterion ynglŷn â hyn sy'n effeithio ar leoedd fel Blaenau Gwent, ond fe fydd ef yn eu cydnabod nhw yn Llanelli, ac fe fydd Aelodau yn cydnabod hyn yng Nglannau Dyfrdwy ac mewn mannau eraill hefyd.

Felly, rwy'n gobeithio y bydd y dull y mae'n ei gymryd drwy reoli'r materion hyn yn ystod y misoedd nesaf, wrth inni nesáu at etholiad, yn sicrhau y gallwn ddweud wrth bobl fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn ystyried yr hawl i gael defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yr hawl i gysylltedd, yr hawl i gysylltiad â gwasanaethau a manwerthu fel pethau y byddwn ni nid yn unig yn buddsoddi ynddynt, ond y byddwn ni'n sicrhau eu bod yn gweithio i bawb.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:04, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod bysiau wedi cael eu hesgeuluso fel rhan o'n system drafnidiaeth ni, ac maen nhw wir yn gwneud llawer iawn o waith cario. Y ffigur a grybwyllais i, i ailadrodd y pwynt am gyfiawnder cymdeithasol, yr wyf i'n credu ei bod hi'n werth ei ailadrodd—. Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru o ddefnyddwyr bysiau'n dangos nad oes car preifat ar gael i 78 y cant o bobl sy'n teithio ar fws. Rwy'n credu bod hwnnw'n ffigur syfrdanol, sy'n dangos pa mor bwysig yw'r rhwydwaith bysiau i bobl nad oes ganddyn nhw ddewis arall. Yn rhy aml rydym yn gwneud rhagdybiaethau pan fyddwn ni'n cynllunio gwasanaethau—ac fe soniodd Alun Davies am yr ysbyty newydd, y Grange, gynne—y bydd pobl yn neidio i'r car i fynd yno, ond fe wyddom fod yna rannau sylweddol o'n cymunedau ni nad yw hwnnw'n ddewis realistig iddyn nhw. Mae angen sicrhau bod dewis arall o safon ar gael i bobl, dewis sy'n ddymunol ac yn denu pobl allan o'u ceir i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Nid yw hwn yn rhywbeth sy'n unig ar gyfer pobl nad oes ganddynt ddewis arall, ond yn rhywbeth sy'n dod yn ffordd ddewisol i bobl ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau. Mae hynny'n gwbl normal mewn rhannau eraill o Ewrop ac mae angen iddo fod yn normal yn ein gwlad ni, ond rydym yn bell ohoni ar hyn o bryd.

Ar fater y Grange yn benodol, mae Alun Davies wedi crybwyll hyn wrthyf i o'r blaen: rwy'n falch o allu cadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi cadarnhau erbyn hyn y bydd gwasanaeth bws cyhoeddus i'r safle pan fydd yr ysbyty'n agor ym mis Tachwedd. Fe fydd bysiau'n gollwng ar arhosfa benodol yn yr ysbyty newydd. Fe fydd gwasanaeth bws rhwng Casnewydd drwy Gaerllion, Ponthir a Chwmbrân, a fydd yn aros yng Nghasnewydd a Chwmbrân hefyd. Ac yn ogystal â hynny, fel y soniais yn gynharach am y gwasanaeth sy'n ymateb i'r galw, y Fflecsi, rydym yn bwriadu cychwyn arni gyda hyn ym Mlaenau Gwent, gyda dwy ardal o wasanaeth yng Nglynebwy Fawr a Glynebwy Fach yn gyntaf—a fydd yn gallu ymateb hefyd i alwadau hyblyg pobl ar gyfer mynd i'r ysbyty. Felly, rwy'n credu bod mwy i'w wneud eto yn y fan honno, ond rwy'n credu ei fod o leiaf yn rhoi esgyrn gwasanaeth i sicrhau, pan fydd yr ysbyty'n agor ym mis Tachwedd, y bydd yno lwybr bws.

Yn olaf, mae'r pwynt am dacsis yn un pwysig, oherwydd rwy'n credu imi grybwyll yn y datganiad mai un o'r pethau yr ydym yn dymuno ei gyflawni yw rhwydwaith amlddull, strategol, wedi ei gynllunio. Yn amlwg, mae tacsis yn un o'r dulliau hyn—dewis o drafnidiaeth gyhoeddus y mae angen inni ei weld ochr yn ochr â bysiau, trenau a theithio llesol, i sicrhau eu bod nhw'n cysylltu â'i gilydd. Mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi bod yn anodd ei wneud, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n dymuno gwneud yn siŵr ei fod yn amlwg iawn ar restr gorchwylion Trafnidiaeth Cymru. Yn amlwg, unwaith eto, fe fu'n rhaid gohirio'r dyhead i gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio tacsis oherwydd COVID, ond mae hwnnw'n rhywbeth yr ydym ni'n parhau i weithio arno hefyd, pe byddai Llywodraeth nesaf Cymru yn dewis cyflwyno hynny.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 4:07, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru yn rhoi hen ddigon o arian i gwmnïau bysiau mewn amseroedd normal. Efallai y bydd angen cyllid ychwanegol oherwydd COVID, wrth gwrs, mewn sefyllfaoedd a dargedwyd. Er hynny, rwy'n teimlo bod gwastraff sylweddol yn yr adnoddau a ddyrennir i'r diwydiant bysiau, lle gwelwn ni nifer o fysiau, efallai dim ond munudau rhyngddyn nhw, ar yr un llwybrau'n union neu lwybrau ddigon tebyg, a phob un ohonyn nhw'n cludo nifer fach iawn o deithwyr. Efallai y dylem fynd ymhellach nag y mae'r datganiad hwn yn ei ragdybio.

Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog yn wir yn cadw meddwl agored o ran sut y caiff yr holl ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ei darparu, ac rwyf innau'n rhannu'r un pryderon mawr ynglŷn â holl fater dadreoleiddio, ac fe fyddwn i'n llwyr gefnogi cael rhwydwaith bysiau a gaiff ei redeg gan awdurdod lleol neu gan gorff cyhoeddus arall, ond rwy'n credu hefyd y dylem o ddifrif ystyried y posibilrwydd o system ddeialu am drafnidiaeth gyhoeddus. Yn rhy aml o lawer, hyd yn oed mewn amseroedd normal, rydym yn gweld bysiau â 50 i 60 sedd ar y ffordd gyda dim ond un neu ddau o deithwyr. Oni fyddai'n llawer mwy darbodus cyflwyno fflydoedd o fysiau mini a addaswyd yn arbennig, yn cludo pedwar i chwech o deithwyr, ar system ddeialu? Fe allai'r bysiau i gyd fod yn rhai trydanol, o ystyried eu maint a'r pellteroedd teithio cymharol fyr. Fe allai'r busnes bws cymunedol fod yn lasbrint ar gyfer y system drafnidiaeth arloesol hon.

Oni fyddai'r Gweinidog, ac yn wir y Dirprwy Weinidog, yn cytuno â mi na allwn ni barhau i ariannu'r drefn bresennol ar y bysiau, sy'n aneconomaidd, yn gostus ac yn niweidiol i'r amgylchedd? Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo'n llwyr i ddenu pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus—neu, mae'n debyg y dywedai ef, ar feiciau, yn well byth. Eto i gyd, o ystyried y ffaith nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn rhannu ei frwdfrydedd llwyr ef dros y dull arbennig hwnnw o deithio, rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom ni'n ffafrio system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n seiliedig ar gerbydau trydan. Felly, a wnaiff y Gweinidog ac, wrth gwrs, y Dirprwy Weinidog, archwilio'r dewis gwyrdd, rhad ac ymarferol hwn i'r system drafnidiaeth gyhoeddus yr ydym ni'n ei rhedeg heddiw?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:09, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Fe glywais i David Rowlands yn sôn am sawl bws yn dod yn fuan ar ôl ei gilydd ac yn cludo nifer fach o deithwyr. Mae hynny'n gwneud imi feddwl am yr holl bleidiau bach y mae ef wedi bod yn aelod ohonynt. Ond mae yna, wrth gwrs—. Mae'r sefyllfa y sonia amdani yn symptom o'r broblem sydd gennym gyda'n system trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn amgylchedd nad yw'n cael ei reoleiddio, wrth gwrs, fe all unrhyw un sefydlu cwmni bysiau ac fe allan nhw redeg y llwybrau sydd fwyaf proffidiol yn eu barn nhw. Felly, rydych chi'n tueddu i gael, ar nifer fechan o lwybrau, lawer o gystadleuaeth ar lawer o wasanaethau oherwydd bod elw i'w wneud, ond heb allu traws-sybsideiddio llwybrau eraill i lunio rhwydwaith cydlynol. A dyna'n union pam roeddem ni'n awyddus i gyflwyno'r ddeddfwriaeth, a dyna'n union pam rydym ni'n defnyddio'r cyfle a gyflwynir inni nawr i geisio defnyddio ein cyllid i gael y trosoledd gorau posibl i geisio cyflawni'r amcan hwnnw drwy ddulliau eraill. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn hynny o beth.

Yn yr un modd, o ran y system ddeialu ar gyfer bysiau, fel y sonia, fe all y termau amrywio, ond yr un peth sydd yma. Rydym yn sôn am drafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, sydd yr un peth. Ac rydym wrthi'n treialu hyn nawr, ar draws pum ardal, yng Nghasnewydd, Caerdydd, y Rhondda, Prestatyn a Dinbych, sef ein gwasanaeth Fflecsi ni, sy'n cael ei redeg drwy Drafnidiaeth Cymru gyda gweithredwyr lleol. Fe'i cefnogir gan wefan, ap a llinell ffôn, ac yn lle rhai gwasanaethau bysiau lleol a drefnwyd, cynigir gwasanaethau mwy hyblyg a all godi a gollwng mewn ardal yn ôl y galw, yn hytrach nag mewn arosfannau bysiau sefydlog ar adegau penodol, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol iawn lle cafodd hyn ei dreialu. Fel y dywedais, yng Nghasnewydd rydym yn ystyried ehangu hynny nawr, ac ym Mlaenau Gwent hefyd. Ac mae hwnnw'n rhoi rhywfaint o flas inni o'r model arbennig hwnnw y mae David Rowlands yn sôn amdano. Rwyf i o'r farn mai'r dyhead i gael rhwydwaith o fysiau mini trydan bach ac effeithiol, sy'n gwibio o gwmpas yn cludo pobl ar amseroedd sy'n addas iddyn nhw i leoedd y maen nhw'n awyddus i fynd iddynt, yw'r union beth yr ydym ni'n gweithio tuag ato. Felly, rwy'n gobeithio y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd iddo ef ein bod ni o leiaf yn cytuno ar hynny.

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 4:12, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, a mynegi fy ngwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i gynnal rhwydwaith hanfodol o wasanaethau bysiau yn ein cymunedau ni?

Y penderfyniad i osod cyfnod atal byr—rydym i gyd yn gwybod y bydd yr heriau hyn yn parhau am fisoedd lawer i ddod, ac, wrth gwrs, fel yr amlinellwyd gennych, yn y tymor byr, fe fyddwn ni'n mynd yn ôl at drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer gweithwyr a theithiau hanfodol yn unig. Ond hyd yn oed cyn y cyfnod atal byr hwn, roedd y pandemig eisoes wedi effeithio, fel y sonioch chi, ar sawl agwedd ar y rhwydwaith bysiau, gan gynnwys lleihad yn nifer y gwasanaethau. Ac fel eraill, rwyf i wedi gweld sefyllfaoedd tebyg yn fy etholaeth i yn Abercanaid ac Aberfan, a'r ffaith y gallwch gael bws i Ysbyty'r Tywysog Siarl ar ddechrau amser ymweld, ond 'does dim bws ar ddiwedd amser ymweld—pethau felly; ffrydiau refeniw a thybiaethau ariannol awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau, gan gynnwys taliadau am ymadael o orsafoedd bysiau, er enghraifft. Yn y darlun ehangach, ar ôl y cyfnod atal byr hwn, ni ddylem golli golwg, ychwaith, ar yr hyn y mae hynny'n ei olygu i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni, yn enwedig y bobl hŷn, y gwn fod bysiau yn hanfodol bwysig iddyn nhw, ac fe wn i eich bod chi'n ymwybodol iawn o hynny. Y sefyllfa wirioneddol, serch hynny, yw nad oes gwahaniaeth pa mor fawr yw'r cymhorthdal gan y Llywodraeth i'r cwmnïau bysiau—rydych chi wedi cyfeirio at hyn yn eich datganiad—cwmnïau preifat sy'n gweithredu er elw ydyn nhw yn y bôn, ac os nad oes elw i'w wneud, fe fyddan nhw'n troi eu cefnau gan adael y rhai sydd angen y gwasanaethau hynny arnynt yn ddiymgeledd, a dyna yw gwaddol preifateiddio'r 1980au i ni heddiw.

Felly, er fy mod i'n croesawu'r hyn a gyhoeddwyd gennych heddiw yn fawr iawn, a ydych chi'n hyderus y bydd y mesurau a gaiff eu hamlinellu yn ddigon i gynnal y gwasanaethau hanfodol hyn ac y bydd cwmnïau bysiau, yn fwy perthnasol, yn cydweithredu? Ac rwy'n dyfalu, yn unol â'r cwestiwn a ofynnodd Helen Mary Jones yn gynharach, os na wnân nhw gydweithredu, beth yw'r dewis arall i sicrhau y bydd gwasanaethau bysiau yn cael eu cynnal yn wasanaethau cyhoeddus er budd y gymuned ac nid er elw i gwmni preifat?

Roeddwn i'n mynd i ofyn ichi a oedd unrhyw gyfle, er enghraifft, i Drafnidiaeth Cymru ddarparu dyfodol mwy cynaliadwy o'r ansicrwydd presennol, ond rwy'n credu—

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour

(Cyfieithwyd)

—y gwnaethoch chi ateb hynny yn eich ateb i Helen Mary. Diolch.

Photo of David Melding David Melding Conservative

(Cyfieithwyd)

Cyn imi alw ar y Gweinidog i ymateb, rwy'n ceisio bod mor garedig â phosibl gyda'r Aelodau Llafur, oherwydd ei bod yn bwysig i feincwyr cefn gael eu galw, ond mae'r cwestiynau hyn yn troi'n sgyrsiau cil pentan, yn hytrach na bod yn gwestiynau penodol, ac nid oes angen inni glywed yr holl hanes am sut y ffurfiwyd eich barn—dewch yn syth at eich cwestiwn. Gweinidog.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, yn yr ysbryd hwnnw, Mr Melding, fe roddaf i'r bibell fygu o'r neilltu; ni fydd yna unrhyw sgyrsiau cil pentan yn y fan hon byth eto.

Dim ond i ateb hanfod pwynt Dawn Bowden—. Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged iddi am ei gwaith yn aelod o dasglu'r Cymoedd, gan gadeirio is-grŵp trafnidiaeth y tasglu, yn ein helpu ni i ddatblygu'r model sy'n ateb y galw, ac mae'r her a gyflwynodd i'r Llywodraeth yn y swydd honno wedi bod yn allweddol i'n galluogi ni i ddatblygu hynny. Ond mae hi'n iawn o ran bod y system bresennol wedi methu yn ei hamcanion. Mae'r system honno'n gofyn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol heb elw llawn ar fuddsoddiad y byddem ni'n ei ddisgwyl gan ein gwerthoedd cyhoeddus ni ac am wasanaethu ein cymunedau ni, a dyna pam rydym ni'n benderfynol o greu newid. Fel y dywedais, fe wrthodwyd ein llwybr cyntaf, ond mae yna ffyrdd eraill. Ac rwyf i o'r farn, os nad yw hynny'n gweithio, fod y dewis o roi mwy o swyddogaeth i Drafnidiaeth Gymru fel darparwr uniongyrchol bysiau, fel cwmni bysiau cenedlaethol embryonig i Gymru, ar gael yno'n sicr. Ond fe roddwn ni gynnig arni gyda'r llwybr partneriaeth yn gyntaf ac fe welwn ni ble'r aiff hynny â ni.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:16, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro. Rhai cwestiynau cryno, Gweinidog, yng ngoleuni sylwadau'r Llywydd dros dro am yr amser. Yn gyntaf, rwy'n croesawu'r cyfle hwn nawr am fwy o reoleiddio a chynllunio ar gyfer y gwasanaeth bysiau, ac rydym yn dymuno hynny'n fawr. Ni allaf i, er enghraifft, deithio o Donyrefail i Bontypridd heb orfod newid bysiau. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Os wyf eisiau mynd i Gaerdydd, mae'n rhaid imi fynd ar fws sy'n cymryd awr a hanner i gyrraedd yno—felly, ar adegau prysur, mae angen cael bysiau uniongyrchol, bysiau cyflym nad ydynt yn mynd o amgylch pob un arhosfan bosibl, i'ch cael chi i'r gwaith yn brydlon ac mor effeithlon ag sy'n bosibl.

A'r mater arall, wrth gwrs, fel y cafodd llawer o Aelodau'r Senedd, mae'n siŵr, yw'r sylwadau gan bobl ar eu ffordd i'r gwaith sy'n cael anawsterau i gael bysiau ar yr amseroedd iawn, sy'n mynd yn ddigon cynnar, ac yn gallu eu cludo nhw adref, i gyd-fynd â natur eu gwaith—llawer o waith lletygarwch, er enghraifft—sy'n gweithio ar oriau lletchwith iawn. Tybed beth fydd y mecanwaith ar gyfer ymdrin â'r enghreifftiau a'r sylwadau hynny gan gymunedau lle gwyddom y gellid cael gwasanaeth bws integredig gwell na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd. Beth fyddai'r mecanwaith ar gyfer sicrhau bod gan gymunedau lais gwirioneddol yn y mathau o wasanaethau bysiau y maen nhw'n dymuno eu cael?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 4:17, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, o ran y pwynt olaf hwnnw, rydym yn datblygu modelu soffistigedig o'r rhagolygon ac ar gyfer profi senarios i ganiatáu i ddyfarniadau sy'n seiliedig ar ddata gael eu rhoi o ran lle i gyfeirio buddsoddiadau a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth. Mae hwnnw'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio arno, a dyna pam rydym yn awyddus i symud ymlaen at ddarparu'r gwasanaethau hyn ar sylfaen ranbarthol, oherwydd mae hynny'n rhoi'r cyfle gorau am ddull gweithredu cydgysylltiedig ac i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Yn amlwg, mae cynnwys cymunedau yn hynny yn bwysig ac mae gan Trafnidiaeth Cymru gnewyllyn o weithwyr allgymorth cymunedol proffesiynol sy'n gyfrifol am wneud y cysylltiadau hynny. Ac mae hwnnw'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei glywed, drwy dasglu'r Cymoedd—yr angen i bobl deimlo bod y system yn gweithio er eu mwyn nhw. Ac, mewn llawer gormod o achosion, nid yw'n gwneud hynny.

Rwy'n credu fod yna—. Mae yna gwestiwn i bob Aelod yma, oherwydd rwy'n credu bod pob un ohonom yn dymuno cael mwy—mwy o bopeth—ac mae'r sefyllfa a wynebwn o ran cyllid cyhoeddus yn un ddifrifol ac nid yw'n debygol o wella'n fuan iawn. Rydym yn gweithio ar strategaeth drafnidiaeth i Gymru, rydym yn gobeithio ei chyhoeddi o fewn y chwe mis nesaf, ac mae angen i honno gyflawni'r agenda datgarboneiddio a nodwyd gennym. Ond mae hwn hefyd yn gwestiwn i bob un ohonom ni o ran ble rydym ni am rannu'r adnoddau sydd gennym rhwng y ffyrdd, y rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol. Beth yw rhaniad priodol y gwariant, ar sail y modd sydd gennym ni? Nawr, ar hyn o bryd, mae'r swm yr ydym ni'n ei wario ar fysiau yn llai na'r gyfran foddol. Hynny yw, pe byddech chi'n rhannu'r deisen yn dameidiau yn ôl niferoedd y teithwyr sy'n defnyddio darnau arbennig, ac yna pa ganran o'r deisen honno a roddir i bob dull, mae'r bysiau yn cael eu tanwasanaethu ar hyn o bryd ond mae'r rheilffyrdd yn cael eu gorwasanaethu, a hynny'n ddramatig. Wyddoch chi, mae'r rheilffyrdd yn rhywbeth—rydym ni i gyd yn frwd am gael system reilffyrdd sy'n fodern. Mae'r rheilffyrdd yn ddrud iawn ac yn cario nifer gymharol fechan o deithwyr, o'i gymharu â'r swm o arian a roddwn iddo. Yn yr un modd, rydym wedi bod yn gwario'n helaeth ar y ffyrdd ers blynyddoedd lawer, sydd wedi amddifadu mathau eraill o drafnidiaeth o'r buddsoddiad sydd ei angen arnynt ar gyfer rhoi dewis amgen i hynny sy'n realistig.

Felly, rwy'n credu bod angen i bob un ohonom, wrth inni wynebu datblygu'r strategaeth drafnidiaeth honno a gwneud penderfyniadau cyllidebol yn seiliedig arni wedyn, wynebu'r ffaith, os ydym ni'n dymuno gweld y math o system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Mick Antoniw yn sôn amdani, yna mae angen inni baratoi i wneud y dewisiadau ynghylch ble y dylai'r adnoddau fynd.

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd dros dro, a diolch, Gweinidog. Gweinidog, fel y gwyddoch, rwy'n angerddol iawn dros Lywodraeth Cymru yn cyflawni metro'r gogledd-ddwyrain, ac mae bysiau'n mynd i chwarae rhan annatod yn hynny. Mae fy nghymunedau eisiau cael bysiau er mwyn pobl, nid er mwyn gwneud elw. Felly, Gweinidog, sut y bydd eich rheolau newydd yn gwrthdroi'r rheini a osodwyd gan y Torïaid, a ddinistriodd ein cymunedau gwledig, ac yn sicrhau bod lleoedd fel Treuddyn a Phen-y-ffordd a Chaergwrle yn cael y bysiau a'r llwybrau bysiau y mae trigolion eu hangen i fyw eu bywydau bob dydd?

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, yn gryno, dyma'r trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda'r diwydiant nawr. Rwy'n credu, o naws y datganiad y prynhawn yma, ein bod yn anfon neges gref atynt nad yw'n ddigon da bellach i ofyn am fwy o arian a bob tro yr ydym yn gofyn am rywbeth yn gyfnewid am hynny, i ddweud wrthym i neidio i mewn i lyn, sydd wedi digwydd yn ystod rhai o'r sgyrsiau yr ydym wedi'u cael gyda rhai o'r gweithredwyr. Mae honno'n berthynas sydd wedi newid ac y mae angen iddi barhau i newid. Disgwyliwn i'n hamcanion gael eu cyflawni ar gyfer yr adnoddau a roddwn i mewn. Erys cymhlethdodau deddfwriaethol, oherwydd materion masnachol a yrrir gan y farchnad yw'r rhain o hyd, yn ôl y gyfraith, ac, er bod hynny'n dal i fod ar y llyfr statud, mae'n cyfyngu ar ein gallu i gyflawni popeth yr ydym eisiau ei gyflawni. Ond rydym yn benderfynol o ddefnyddio'r dulliau o ddylanwadu sydd gennym i gael y canlyniad gorau posibl ar gyfer yr amcanion a rannwn.