1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 4 Tachwedd 2020.
Cwestiynau nawr gan lefarywr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn ôl Macmillan, gallai bron i 3,000 o bobl yng Nghymru fod yn byw gyda chanser na wnaed diagnosis ohono o ganlyniad i’r pandemig. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r storm ddieflig hon sydd ar y ffordd i'r GIG yng Nghymru?
Rydym yn gweithio gyda'n clinigwyr a'n gwasanaethau i ailgychwyn ystod o wasanaethau canser. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi ailgychwyn gwasanaethau sgrinio. Fe fyddwch yn ymwybodol fod atgyfeiriadau canser yn ôl i fyny at y lefelau arferol. Yr heriau i ni yw ein bod bellach yn gweld mwy o bobl yn mynd at feddyg hyd yn oed yn hwyrach nag o'r blaen, a chyn y pandemig, rhan o’n pryder oedd bod pobl, yn enwedig yn ein cymunedau tlotach, yn fwy tebygol o fynd at feddyg gyda symptomau canser yn hwyrach, ac o fod angen opsiynau triniaeth mwy radical, ac yn llai tebygol o gael canlyniadau cadarnhaol.
Pan fyddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth rwyf wedi nodi y byddwn yn ei chyhoeddi, byddwn yn parhau i gyhoeddi, er enghraifft, y llwybr canser sengl rydym yn ei gyflwyno, sef yr unig fesur y byddwn yn ei ddefnyddio yn y flwyddyn newydd, yn hytrach na'r mesurau hŷn a llai cywir sydd gennym ar hyn o bryd. A bydd hynny'n rhoi arfarniad gonest i bobl o’n sefyllfa ar hyn o bryd, ac yn wir, gan fod angen i ni gynllunio ar gyfer ailgychwyn gwasanaethau ar ôl y pandemig. A’r hyn a fydd yn allweddol i'r hyn rydym yn ei ddweud yma heddiw, a bob dydd wrth i ni ddod yn ôl at hyn, yw’r angen i ystyried sut mae pob un ohonom yn ymddwyn er mwyn lleihau niwed o ganlyniad i’r coronafeirws a chydnabod, os bydd y coronafeirws yn mynd allan o reolaeth unwaith eto, y byddwn yn gweld effaith uniongyrchol ar ofal nad yw'n gysylltiedig â COVID, a bydd hynny'n amlwg yn effeithio ar wasanaethau canser, yn union fel sy’n digwydd dros y ffin hefyd, mae arnaf ofn.
Weinidog, ers dechrau'r pandemig yng Nghymru mae marwolaethau yn y cartref o achos dementia a chlefyd Alzheimer ymhlith menywod wedi cynyddu 92 y cant yn erbyn y cyfartaledd pum mlynedd. Mae marwolaethau yn y cartref o achos clefyd y galon ymhlith dynion yng Nghymru wedi cynyddu 22 y cant uwchlaw'r cyfartaledd pum mlynedd. Roedd y rhan fwyaf o farwolaethau ychwanegol yn y cartref yn farwolaethau nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r marwolaethau ychwanegol hyn?
Wel, fel y gŵyr yr Aelod, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol eu hadroddiad wythnosol diweddaraf yr wythnos diwethaf, ac mae'n nodi bod y marwolaethau ychwanegol ym mhob gwlad yn y DU, ond yn sicr y manylion am Gymru a Lloegr, yn cyfateb yn eithaf taclus i nifer y marwolaethau a welwn sy'n gysylltiedig â COVID. Ac felly, mae'n dangos yr effaith sylweddol y mae COVID yn ei chael ar bob maes. Felly, mae ymdrin â'r pandemig COVID yn hynod bwysig ar gyfer rheoli marwolaethau ychwanegol ym mhob maes.
Unwaith eto, fel y gŵyr yr Aelod, mae gennym sylfaen gofal critigol o 152 o welyau. Cleifion coronafeirws yw oddeutu un rhan o dair o'n capasiti presennol, ac rydym dros hwnnw eisoes. Nawr, golyga hynny ein bod eisoes yn gweld nifer uchel o bobl ag achosion nad ydynt yn gysylltiedig â COVID. Rydym yn awyddus i gynnal y gweithgarwch hwnnw drwy'r gaeaf, er mwyn sicrhau bod y dewisiadau angenrheidiol sy'n rhaid inni eu gwneud i gadw rheolaeth ar y pandemig yn peri cyn lleied o niwed â phosibl. Ac unwaith eto, rwyf am apelio ar bawb ym mhob rhan o Gymru i barhau i feddwl am yr hyn y dylem ei wneud i leihau niwed yn sgil COVID, yn niwed uniongyrchol yn ogystal â'r niwed anuniongyrchol y bydd COVID yn ei achosi.
Weinidog, yn 2019 cyflawnodd GIG Cymru 35,700 o lawdriniaethau orthopedig. Mae data hyd at ddiwedd mis Awst yn dangos mai ychydig dros 8,000 o lawdriniaethau yn unig a gyflawnwyd yng Nghymru. Ar yr un pryd y llynedd, roedd y GIG yng Nghymru wedi cwblhau 24,000 o lawdriniaethau. Beth yw eich cynllun i fynd i'r afael â'r bom iechyd cyhoeddus hwn a fydd yn dod i chwalu’r GIG?
Fel rwyf wedi nodi, mae'n rhaid inni fynd i’r afael â phandemig y coronafeirws, gan y bydd peidio â mynd i’r afael ag ef, peidio â chymryd camau effeithiol, yn tanseilio ein gallu i drin pobl â chyflyrau iechyd nad ydynt yn gysylltiedig â COVID yn effeithiol. Y cynllun yw sicrhau bod gennym fframwaith gweithredu sy'n ein galluogi i barhau i drin cleifion nad ydynt yn gleifion COVID. Nid wyf am weld ein gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei droi’n wasanaeth COVID a dim byd arall o ran gweithgarwch ysbytai. Byddai hynny'n dangos bod ein system ar fin cael ei gorlethu, a gwyddom y byddai hynny'n arwain at niwed gwirioneddol i bobl ym mhob un o'r cymunedau y mae'n fraint gennym eu cynrychioli yn Senedd Cymru.
Mae'r dyfodol yn ymwneud â chynllun adferiad y dyfodol, felly mae'n ddull deuol o weithredu: rheoli'r sefyllfa nawr, cynnal gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID, fel y mae ein fframwaith gweithredu yn nodi, a bod yn awyddus i barhau i gynyddu lefel y gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID, os oes modd, ond yn sicr, ceisio amddiffyn y gweithgarwch rydym wedi'i ailgychwyn. Ac yna, pan fydd y pandemig ar ben, bydd angen inni allu cwblhau'r cynllun y mae gwaith yn mynd rhagddo arno eisoes i wella o'r sefyllfa rydym ynddi ym mhob maes gweithgarwch sydd wedi bod o dan bwysau eithriadol yn y cyfnod eithriadol hwn rydym yn byw drwyddo.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn. Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, Weinidog, dywedwch y bydd profion i staff cartrefi gofal asymptomatig bellach yn cael eu cynnal drwy borth sefydliadau’r DU a’r labordai goleudy, yn hytrach na chaniatáu profion drwy labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. O ystyried y problemau gyda'r labordai goleudy, bydd hwnnw’n benderfyniad siomedig a braidd yn rhyfedd i lawer o bobl. Nid ydych hyd yn oed yn dweud bod y problemau gyda’r labordai goleudy wedi'u datrys eto. Dywed eich datganiad fod y materion yn cael sylw. A ydych yn cydnabod eich bod mewn perygl o danseilio hyder yn y system brofi i sector y gŵyr pob un ohonom ei bod yn dal i fod yn fregus tu hwnt?
Rwyf wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r dystiolaeth o'r sector cyfan—gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel darparwyr a chomisiynwyr, yn ogystal â’r darparwyr eu hunain. Rydym wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr undebau llafur hefyd. Felly, mae hwn yn safbwynt y daethpwyd iddo ar ôl gweithio gyda'r sector.
Rydym yn agosáu at sefyllfa lle mae labordai goleudy, o ran eu gwaith mewn perthynas â chartrefi gofal, yn cyflymu’r broses. Mae heriau mwy yn bodoli o hyd mewn perthynas â chynnal profion personol. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant; rydym am weld hynny’n gwella ymhellach. Ac mae hyn yn darparu cysondeb o ran y ddarpariaeth, gan fy mod yn llwyr ddisgwyl y bydd partneriaid lleol, wrth inni weld cyfraddau uchel ar hyn o bryd, yn awyddus i newid i’r profion wythnosol mwy rheolaidd yn hytrach na’r profion bob pythefnos roeddem yn gallu symud atynt pan oedd gennym gyfraddau achosion a throsglwyddo isel yn yr haf. Golyga hynny wedyn y gellir defnyddio capasiti Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi achosion o drosglwyddiad cymunedol, gan y gwyddom eu bod wedi cynyddu a gwyddom ein bod yn debygol o orfod ymdrin â hwy wrth inni fynd drwy'r gaeaf.
Hoffwn atgoffa pob Aelod ein bod mewn sefyllfa lle mae gennym raglen ar y cyd gyda phrofion Iechyd Cyhoeddus Cymru a seilwaith sylweddol wedi'i greu drwy raglen y telir amdani ac a arweinir gan y DU. Nid ydym mewn sefyllfa i optio allan o'r rhaglen honno a darparu capasiti yn lle’r holl gapasiti hwnnw ein hunain. Mae'n ymwneud ag arian, mae'n ymwneud ag offer, mae'n ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â’n gallu i ddarparu system a fydd yn gweithio mor dda â phosibl i bawb ohonom. Felly, nid wyf yn hunanfodlon ynghylch heriau yn rhaglen y labordai goleudy, ond rwy'n cydnabod ac yn credu mai dyma'r dewis iawn i'w wneud er mwyn darparu rhywfaint o sicrwydd. Ac yn wir, daw hyn yn sgil darlun sy'n gwella o ran y ffordd y mae’r labordai goleudy yn ymdrin â phrofion mewn cartrefi gofal.
Rydych yn sôn am wella, ac am symud at sefyllfa lle gallant ddarparu gwasanaeth addas, ond byddai'n well gennyf aros hyd nes y gallant brofi y gallant ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen arnom. Ac nid wyf yn dweud na ddylid defnyddio’r labordai goleudy o gwbl—credaf y gall y labordai goleudy fod yn hynod bwysig ac y byddant yn hynod bwysig—ond does bosibl na ddylai fod gennym yr un faint o reolaeth dros yr hyn sydd, o bosibl, o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.
Gwyddom o atebion i gwestiynau ysgrifenedig a gyflwynais yn ystod yr wythnosau diwethaf mai eich polisi yw gadael pethau i Lywodraeth y DU i raddau helaeth o ran brechu hefyd. Ceir optimistiaeth gynyddol ynghylch y gobaith y bydd brechiad coronafeirws mawr ei angen ar gael yn y dyfodol agos. A allwch ddweud wrthyf beth yw eich syniadau diweddaraf ynglŷn â hyn, a beth fydd rôl Llywodraeth Cymru wrth gaffael a chynnal rhaglen frechu yng Nghymru?
Credaf fod dweud ein bod yn gadael pethau i Lywodraeth y DU yn gamarweiniol braidd o ran y ffordd y mae'r system yn gweithio. Mae un neu ddau o bethau i sôn amdanynt o ran eglurder. Felly, y cyntaf yw bod Llywodraeth y DU, fel y mae’n ei wneud gydag ystod o raglenni eraill, gan gynnwys y ffliw tymhorol er enghraifft, yn caffael y brechlyn ar ran y DU gyfan. Yna, rydym yn cymryd ein cyfran o hynny yn ôl poblogaeth. Felly, byddwn yn cael y brechlynnau sydd ar gael pan fyddant ar gael, ar yr un pryd ac ar yr un gyfradd briodol, os mynnwch, â phob rhan arall o'r DU.
O ran y cyngor a gawn ynglŷn â sut i gyflenwi'r brechlyn, mae gennym fecanwaith ledled y DU a fydd yn rhoi cyngor ar frechiadau, ar gymeradwyaeth, ac yn benodol, y pwynt ynghylch blaenoriaethu pobl. Oherwydd pryd bynnag y bydd brechlyn ar gael, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, bydd angen i ni ystyried sut rydym yn ei ddarparu i'r boblogaeth fwyaf agored i niwed yn gyntaf—y bobl a fyddai'n cael y budd mwyaf. Serch hynny, bydd hynny’n amodol ar y cafeat pwysig fod angen inni ddeall priodoleddau'r brechlyn hwnnw. Efallai y bydd rhai brechlynnau’n fwy neu'n llai effeithiol i bobl â gwahanol gyflyrau iechyd, ystodau oedran, ac mae angen inni sicrhau bod y brechlyn yn effeithiol i’r grŵp o bobl rydym yn bwriadu ei gynnig iddynt.
Rydym eisoes yn cynllunio ein rhaglen ein hunain ar gyfer sut y byddem yn cyflwyno rhaglen frechu yma yng Nghymru, a phe bai gennym frechlyn cynnar ar gael cyn diwedd y flwyddyn galendr, mae ein cynlluniau mewn sefyllfa i allu rhoi hynny ar waith ar gyfer y grŵp cyfyngedig o bobl y credwn y gallai’r brechlyn fod ar gael ar eu cyfer. Felly mae hyn yn ymwneud â chynllunio, gallu ymdopi â brechlyn cynnar, os cawn un, yn ogystal ag ymdopi â'r posibilrwydd mwy realistig y bydd nifer fwy o frechlynnau ar gael i bob gwlad yn y DU ar yr un pryd ar ryw adeg yn y flwyddyn newydd. Ond ni allaf roi'r math o sicrwydd i bobl yr hoffent hwy a minnau ei gael ynghylch pryd y bydd y brechlynnau hynny ar gael.
Rwy’n edmygu eich ymddiriedaeth yn Llywodraeth y DU. Fy ofn i, fel gyda phrofi a gwahanol elfennau eraill o'r hyn rydym wedi’i weld dros y saith neu wyth mis diwethaf, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol ac ati, yw eich bod yn ofni cymryd cymaint o reolaeth ag y gallech. Rwyf wedi eich canmol yn y gorffennol, a byddaf yn gwneud hynny eto, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru, mewn sawl ffordd, wedi bod ar ei gorau pan mae hi wedi penderfynu, 'Gwrandewch, ar gyfer hyn, mae angen inni wneud pethau'n iawn drwy wneud pethau ein hunain', gyda'r elfennau priodol a'r lefelau priodol o gydweithredu a rhannu syniadau, ac ati. Nawr, drwy beidio â bwrw iddi hyd eithaf eich gallu, mae perygl y gallai Cymru fod mewn sefyllfa lle na allech fwrw ymlaen â rhaglen mor gyflym â rhannau eraill o'r DU. Roedd yn dda darllen ddoe yn y cylchgrawn meddygon teulu, Pulse, er enghraifft, am gynlluniau ar gyfer ei gyflwyno yn Lloegr cyn y Nadolig, a byddai hynny’n wych. A chan fod ymddiriedaeth—a dof i ben gyda hyn—mor hanfodol i annog pobl i gael y brechlyn, gyda phobl yn ymddiried i raddau mwy yn Llywodraeth Cymru nag yn Llywodraeth y DU yn y mater hwn—gallech ddadlau nad yw hynny'n dweud llawer—oni fydd strategaeth a chyfathrebu clir ac eglur iawn gan Lywodraeth Cymru yn arf gwerthfawr wrth hybu ymddiriedaeth ac annog pobl i gael y brechlyn, fel y bydd angen inni ei wneud dros y misoedd nesaf?
Mae dau beth y byddwn yn eu dweud mewn ymateb i hynny. Y cyntaf yw ein bod yn defnyddio'r un dull â phob gwlad yn y DU o ran caffael a chyflenwi brechlyn. Nid oes unrhyw beth yn anarferol yn hynny. Ac a dweud y gwir, er y gallaf ac y byddaf yn parhau, heb os, i fod yn feirniadol o Lywodraeth y DU lle rwy'n anghytuno â hwy, ar fater caffael a chyflenwi brechlynnau, ni chredaf fod sail i awgrymu y byddai Llywodraeth y DU rywsut yn ffafrio un rhan o'r DU dros ran arall. Dyma pam nad Llywodraeth Lafur Cymru yn unig sy’n rhan o raglen gaffael ar gyfer y DU gyfan; dyna pam fod Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, dan arweiniad cyfuniad o unoliaethwyr a gweriniaethwyr, a Llywodraeth genedlaetholgar yr Alban hefyd yn rhan o'r un trefniadau ar gyfer caffael a chyflenwi brechlyn.
Lle pob un o'r pedair gwlad yw rhoi’r trefniadau ar waith ar gyfer darparu’r brechlyn hwnnw. Ac fel y dywedais, mae gennym gynlluniau'n cael eu datblygu a’u llunio yma eisoes ar gyfer dosbarthu brechlyn, a byddai hynny'n cynnwys cyflwyno rhaglen frechu yn ystod y flwyddyn galendr hon, o bosibl, os bydd brechlyn ar gael. Ac os ydym am wneud hynny, ac os bydd gennym frechlyn ar gael i'n galluogi i wneud hynny, yn sicr, gallwch ddisgwyl y bydd y Llywodraeth a’n gwasanaeth iechyd gwladol yn cyfathrebu’n uniongyrchol ac yn glir ynghylch yr hyn rydym yn ei wneud a pham, pa grwpiau o'r cyhoedd rydym yn disgwyl iddynt gael budd o hynny, a sut rydym yn bwriadu cyflawni hynny mewn termau ymarferol. Mewn sawl ffordd, mae’r gwaith o gynnal ymgyrch y ffliw tymhorol yn rhagflaenydd defnyddiol i wneud hynny, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod mwy o bobl wedi cael y brechlyn ffliw eleni nag ar yr adeg hon y llynedd, a dylai hynny ddarparu amddiffyniad i'r boblogaeth. Rwy'n mawr obeithio bod hyn yn un o effeithiau mwy hirdymor y pandemig hwn—y bydd mwy o bobl yn mynd ati i amddiffyn eu hunain rhag y ffliw tymhorol yn y dyfodol.