5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Model Buddsoddi Cydfuddiannol

– Senedd Cymru am 5:07 pm ar 17 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:07, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar y model buddsoddi cydfuddiannol yw eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn gynharach eleni, croesawais adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ffynonellau cyllid cyfalaf a'i argymhellion ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol. Mae llawer wedi digwydd ers hynny. Mae pandemig wedi taro Cymru'n galed yn dilyn degawd o gyni a orfodwyd gan San Steffan, nad yw ein cyllideb gyfalaf wedi gwella ohono—bygythiadau dwbl y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy drwy gyflawni prosiectau a fydd yn hybu ein hadferiad economaidd, gan greu cyfleoedd o ran gwaith, hyfforddiant a'r gadwyn gyflenwi. Bydd y model buddsoddi cydfuddiannol yn ein helpu i wneud yr union beth hwnnw, gan gyflymu buddsoddiad mewn prosiectau na fydden nhw fel arall wedi bod yn fforddiadwy.

Mae ein dull gweithredu caeth o ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn aros yn ddigyfnewid. Rydym yn defnyddio cyfalaf confensiynol yn gyntaf i ariannu seilwaith cyhoeddus a byddwn yn defnyddio pob ceiniog ohono. Byddwn wedyn yn defnyddio ein pwerau benthyca cyfyngedig. Rydym ni hefyd wedi galluogi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i fenthyca er mwyn sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posib i'r anghenion brys y mae ein cymunedau'n eu hwynebu. Ond nid yw hynny hyd yn oed yn ddigon i ddiwallu'r anghenion brys hynny.

Rydym ni wedi datblygu model wedi'i gynllunio'n ofalus i ddiwallu'r anghenion hynny yn wyneb degawd o gyni, y mae'n rhaid inni gofio iddo ddechrau gyda thoriadau sylweddol i gyllidebau cyfalaf ar lefel y DU. Ac felly, heddiw, rwyf eisiau nodi sut y bydd y model yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd tra bydd yn sicrhau manteision cymunedol eang, heb roi mwy o straen ar ein cyllidebau cyfalaf cyfyngedig. Hoffwn ddweud ychydig eiriau hefyd am y modd y mae Banc Datblygu Cymru yn gweithredu fel y cyfranddaliwr cyhoeddus yng nghynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol, gan gynyddu tryloywder a gwella gwerth am arian ar gyfer y sector cyhoeddus.

Mae'n bleser gennyf adrodd ein bod, ddiwedd y mis diwethaf, wedi dyfarnu contract i gonsortiwm Cymoedd y Dyfodol i gwblhau adrannau 5 a 6 o brosiect deuoli'r A465. Bydd y cynllun hwn yn cwblhau'r gwaith o ddeuoli'r A465—ymrwymiad hirsefydlog gan Lywodraeth Cymru—ac yn sicrhau bod yr ystod lawn o fanteision yn cael eu gwireddu ar gyfer y rhanbarth. Bydd yn cwblhau ffordd barhaus o safon uchel amgen i’r M4, yn gwella'r cyswllt gogleddol hanfodol ar draws gogledd y Cymoedd ar gyfer metro de Cymru, yn darparu mynediad dibynadwy i'r canolfannau metro ac yn cyfrannu at newid dulliau teithio. Bydd y cynllun yn gwella hygyrchedd swyddi, gwasanaethau cyhoeddus allweddol a chyfleusterau ar gyfer teithio llesol yn y rhanbarth.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:10, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Mae cwblhau'r broses o gaffael y model buddsoddi cydfuddiannol arloesol hon yn llwyddiannus yn dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni mewn cyfnod anodd pan fyddwn yn mynd i'r afael â heriau gyda chreadigrwydd. Yn wir, dyma'r prosiect partneriaeth cyhoeddus-preifat cyntaf o'r raddfa hon i'w lofnodi yn y DU ers yr achosion cyntaf o COVID-19. A dyma'r prosiect cyhoeddus-preifat cyntaf ar y raddfa hon lle cwblhawyd trafodaethau o bell, ac mae'r datblygiadau arloesol hyn yn dangos Cymru'n arwain y ffordd.

Caiff ystod eang o fanteision cymunedol hefyd eu cyflawni drwy'r cynllun, gan gefnogi amcanion tasglu'r Cymoedd. Mae'r manteision hyn yn cynnwys targedau contractiol ar gyfer hyfforddiant a swyddi i bobl leol, a chyfleoedd o ran y gadwyn gyflenwi leol. Amcangyfrifir y bydd £400 miliwn o wariant prosiectau yng Nghymru, gyda £170 miliwn yn rhanbarth Blaenau'r Cymoedd, yn cynhyrchu gwerth rhagamcanol o £675 miliwn ar gyfer economi ehangach Cymru.

Mae sicrhau'r manteision gorau o ran cyflogi pobl ifanc a datblygu sgiliau yn allweddol i'n blaenoriaethau ar gyfer yr ymdrech ailadeiladu. Bydd ail-ddeuoli'r A465 yn darparu dros 120 o brentisiaethau, 60 o hyfforddeiaethau, dros 320 o interniaethau a thros 1,600 o gymwysterau cenedlaethol, gan adael gwaddol o sgiliau gwell. Adlewyrchir ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio hefyd yn y dyfarniad contract. Bydd carbon yn sgil adeiladu yn cael ei wrthbwyso drwy blannu 30,000 o goed ychwanegol. Bydd arolygon ecolegol cyn adeiladu a chlirio safleoedd yn dechrau bron ar unwaith, a bydd y gwaith adeiladu'n dechrau o ddifrif y gwanwyn nesaf. Disgwylir i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn canol 2025.

Gan droi nawr at ein rhaglen addysg: ddiwedd mis Medi, sefydlodd Llywodraeth Cymru Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru, a adwaenir fel WEPCo. Mae WEPCo yn fenter ar y cyd rhwng Meridiam, ein partner cyflenwi yn y sector preifat, a'r sector cyhoeddus. Bydd WEPCo yn gyfrifol am hwyluso'r gwaith o gynllunio a darparu hyd at £500 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn cyfleusterau addysgol newydd gan ddefnyddio'r contract model buddsoddi cydfuddiannol safonol. Ar hyn o bryd mae tua 30 o ysgolion a cholegau ar y gweill yn y rhaglen i'w cyflenwi dros y saith mlynedd nesaf—buddsoddiad hollbwysig yng nghenedlaethau ein dyfodol yn sgil cyni, a ddarperir yn ystod pandemig na fyddai wedi bod yn bosibl heb y model ariannu hwn. Caiff pob prosiect ei dendro'n gystadleuol gan WEPCo, drwy lwyfannau fel GwerthwchiGymru, gan ddarparu cyfleoedd i gontractwyr adeiladu a'r gadwyn gyflenwi ehangach gan sicrhau'r manteision gorau o ran cyfleoedd gwaith i bobl yng Nghymru. Mae'n ofynnol yn unol â'r contract i WEPCo ymrwymo i lefelau gofynnol o ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi leol ymhob prosiect.

Bydd model WEPCo yn canolbwyntio ar gyflawni yn unol â pholisïau ac agendâu allweddol y Llywodraeth, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Cwricwlwm Cymru, a'r ymgyrch i fod yn garbon niwtral, yn ogystal â chydymffurfio â'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol. Mae perfformiad ac amcanion WEPCo yn cael eu rheoli a'u monitro gan fwrdd partneriaeth strategol sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach. Caiff cyfres lawn o fanteision cymunedol hefyd eu cyflawni. Mae WEPCo eisoes wedi dechrau gweithio gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gyflwyno academi partneriaeth addysg Cymru, adnodd ar-lein i wella sgiliau a gallu yn y sector.

Mae gwaith wedi dechrau ar yr ysgol model buddsoddi cydfuddiannol gyntaf, ysgol gyfan newydd yn Sir y Fflint, a fydd yn cydleoli dwy ysgol bresennol ar un safle, gan sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n effeithlon ochr yn ochr â sicrhau manteision cymunedol. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i gefnogi Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre i ddarparu canolfan ganser newydd Felindre. Mae'r model clinigol hwn, a gynigir gan yr ymddiriedolaeth ar gyfer y cynllun, yn destun cyngor annibynnol ar hyn o bryd, a disgwylir canlyniad y cyngor erbyn diwedd mis Tachwedd. Wrth gwrs, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd.

Un enghraifft bwysig o arloesedd yn y model buddsoddi cydfuddiannol yw cyfranddaliad sector cyhoeddus o hyd at 20 y cant o'r cyfalaf risg ym mhob cynllun. Mae'r cyfranddaliad hwn yn darparu tryloywder gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cyfranogi mewn unrhyw elw ar fuddsoddiad. Mae Banc Datblygu Cymru yn defnyddio offerynnau ariannol i wneud cyfraniadau sylweddol mewn meysydd sy'n ymestyn y tu hwnt i gymorth busnes, gan gynnwys tai, ynni a thwristiaeth. Felly, o ystyried ei arbenigedd, penderfynodd Llywodraeth Cymru y byddai Banc Datblygu Cymru yn gweithredu fel cyfranddaliwr y sector cyhoeddus yng nghynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol, gan gynnal diwydrwydd dyladwy ar fuddsoddiadau arfaethedig a rheoli'r buddsoddiadau dros y tymor hir. Fel cyfranddaliwr y sector cyhoeddus, bydd y banc yn enwebu cyfarwyddwr i fwrdd pob cwmni prosiect y model buddsoddi cydfuddiannol. Bydd Banc Datblygu Cymru'n monitro perfformiad pob buddsoddiad, yn goruchwylio'n arbenigol ac yn sicrhau y rhoddir rhybudd cynnar ynghylch materion posibl a allai effeithio ar y gallu i adennill buddsoddiadau.

Felly, i gloi, mae defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn llwyddiannus yn gwneud cyfraniad pwysig i'n hymdrechion i roi hwb cychwynnol i'r adferiad economaidd. Bydd y model hefyd yn sicrhau manteision cymunedol eang, tra bo'n meithrin gwerth dros £1 biliwn o fuddsoddiad sydd ei angen ar frys mewn seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. Wrth lunio'r cytundebau arloesol hyn, mae Cymru ar flaen y gad o ran ymdrechion rhyngwladol i foderneiddio'r cysyniad o bartneriaeth cyhoeddus-preifat.

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:15, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma ac am groesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r model buddsoddi cydfuddiannol. Gwrandewais ar eich sylwadau agoriadol, ond credaf y byddai'n rhaid i chi hyd yn oed gyfaddef bod yr hyn a alwyd gennych yn 'gyni a orfodwyd gan San Steffan' yn sicr wedi dod i ben—wel, yn sicr yn ddiweddar eleni, pan edrychwch chi ar y symiau enfawr o fuddsoddiad ychwanegol sydd wedi dod o San Steffan i Lywodraeth Cymru i ymdrin ag argyfwng pandemig COVID.

Fe wnaethoch chi sôn am ddyfarnu'r contract i gonsortiwm Cymoedd y Dyfodol i gwblhau adrannau 5 a 6 o'r gwaith o ddeuoli'r A465. Rydym yn ymwybodol iawn, pob un ohonom ni, o rai o'r materion hirsefydlog sydd ar hyn o bryd wedi plagio rhan ceunant Clydach o'r prosiect hwnnw, mae wedi mynd dros y gyllideb yn sylweddol ac mae hefyd ar ei hôl hi. A allwch chi roi sicrwydd y bydd rhannau 5 a 6 yn cael eu rheoli'n well wrth i'r cynllun model buddsoddi cydfuddiannol hwn fynd rhagddo? Hefyd, a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y manteision cymunedol, gan fod etholwyr yn ardal Gilwern wedi gofyn imi am y rheini, ac maen nhw'n awyddus i wybod bod y manteision hynny'n dod i lawr gwlad, mewn da bryd ac yn cyflawni'r hyn a addawyd i ddechrau drwy'r contract.

Fe wnaethoch chi sôn am ddatgarboneiddio yn eich cyfraniad, ac yn benodol am blannu 30,000 o goed. Mae hyn yn newyddion gwych, gyda llaw—rwy'n hollol gefnogol i blannu coed, yn enwedig gyda phrosiectau ffyrdd—ond beth yw'r amserlen ar gyfer y plannu hwn, ac a allwch chi roi amcangyfrif ynghylch adferiad carbon i ni yn sgil y plannu coed hwnnw? Rydym yn sôn yn aml am yr angen i gynnwys cyllidebu carbon ym mhroses arferol y gyllideb, ond nid ydym ni yn aml yn clywed y ffigurau o ran yr adferiad carbon a ragwelir. Felly, os gallwch chi roi'r ffigurau hynny inni heddiw, neu os gall eich swyddogion eu cyfrifo—rwy'n credu y byddai llawer o Aelodau'n cytuno mai dalfeydd carbon yw'r ffordd ymlaen. Felly, mae angen inni weld rhai ffigurau ar gyfer hynny.

Fe wnaethoch chi sôn am addysg a thendro prosiectau gan ddefnyddio contractau model buddsoddi cydfuddiannol gan WEPCo. Mae hyn yn swnio'n gyfle da i gontractwyr. A fyddwch yn sicrhau y byddwch yn trin pob contractwr yn yr un modd o ran gwneud ceisiadau? Yn aml, yn y gorffennol, mae hyn yn swnio'n wych ar yr wyneb, ac rydym ni i gyd yn gweld pwysigrwydd caffael yn y sector cyhoeddus, ond yn rhy aml, yn ymarferol, nid yw contractwyr yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn yr un modd wrth wneud cais, neu y gallai'r broses fod yn well. Efallai ei fod yn ymwneud ag ymrwymiad i lefelau gofynnol o ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi, y sonioch chi amdanyn nhw, ond rydym ni eisiau anelu'n uwch na hynny, onid ydym ni? Nid yw hyn yn ymwneud â safonau gofynnol yn unig, mae hyn yn ymwneud â chyrraedd lefel uwch ac, wrth gwrs, bod ag uchelgais. Hyd yn oed os yw'r uchelgais hwnnw, ar y dechrau, yn ymddangos yn rhy uchel, mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn anelu ato.

Rwy'n falch bod Deddf cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chynnwys yn eich datganiad. Yn rhy aml, mae'n cael ei hystyried yn ychwanegiad, ac yn rhywbeth nad yw wedi'i hymgorffori ym mhob adran yn rhannau cynnar o'r broses o wneud penderfyniadau. Felly, rwy'n falch o weld hynny wedi ei chynnwys. Sut ydych chi'n sicrhau bod cyflawni'r Ddeddf honno'n ganolog i'r model buddsoddi cydfuddiannol? Gwn fod elfennau tebyg mewn mentrau cyllid preifat, rhai yn ddrwg, rhai yn dda, ond gwn fod gan y model buddsoddi cydfuddiannol sawl mantais dros hynny. Ond rwy'n credu os gallwn ni ymgorffori deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn llawn yn y broses model buddsoddi cydfuddiannol, yna bydd hynny o fudd i'r ffordd yr ydym ni'n bwrw iddi.

Rydych chi wedi sôn am adnoddau ar-lein. Nawr, yn y gorffennol, rwy'n credu y byddai hynny wedi bod yn llai arwyddocaol nag yw ar hyn o bryd, mae'n debyg, ond, yn amlwg, ar hyn o bryd mae adnoddau ar-lein yn hollbwysig gyda'r pandemig a'r cyfyngiadau symud. Felly, a wnewch chi ddweud mwy wrthym ni ynglŷn â sut mae proses y model buddsoddi cydfuddiannol wedi ei addasu i COVID-19, yn sicr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf?

Diolch am yr wybodaeth ddiweddaraf am ganolfan ganser Felindre. Parhewch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am hynny a phryd y caiff y cyngor annibynnol hwnnw ei dderbyn. Fe wnaethoch chi sôn am Fanc Datblygu Cymru a Llywodraeth Cymru yn penderfynu y byddai hwnnw'n gweithredu fel cyfranddaliwr cyhoeddus yng nghynlluniau'r model buddsoddi cydfuddiannol. Mae hynny'n swnio'n synhwyrol iawn i mi, ond a allwch chi roi sicrwydd inni y bydd diwydrwydd dyladwy'n cael ei arfer ac y bydd yn rhan annatod o ddefnyddio'r banc datblygu?

Yn olaf, pa sicrwydd allwch chi ei roi inni fod diwydrwydd dyladwy yn cael ei arfer yn briodol ar draws yr holl brosiectau model buddsoddi cydfuddiannol posibl hyn? Oherwydd rydym ni'n gwybod beth a ddigwyddodd gyda chynllun Blaenau'r Cymoedd—cynllun uchelgeisiol iawn, rhywbeth yr ydym ni i gyd yn ei gefnogi, ond yn y pen draw, a oedd ar ei hôl hi a thros y gyllideb, ac mae'n ymddangos bod diwydrwydd dyladwy wedi methu yn y fan yna. Felly, pa fesurau diogelu ydych chi yn eu cynnwys yn y system model buddsoddi cydfuddiannol i sicrhau nad yw hynny'n digwydd yn y rhannau nesaf?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:20, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn i Nick Ramsay am ei gwestiynau, a hefyd am ei ddiddordeb arbennig yn yr agenda hon. Wrth gwrs, ni allaf beidio â chyfeirio at sylwadau cyntaf Nick Ramsay am gyni, a'r ffaith bod y tapiau wedi'u hagor o'r diwedd o ran buddsoddi, ond mae'n anffodus ei bod wedi cymryd pandemig cyn i hynny ddigwydd, ac mae'n dangos mai dewis gwleidyddol oedd cyni ar hyd yr amser.

Ond o ystyried natur ddefnyddiol cwestiynau Nick, ni fyddaf yn gwthio hynny ymhellach, a byddaf yn troi nawr at y cwestiwn a oedd yn ymwneud â'r gwahaniaeth rhwng rhannau blaenorol yr A465 a pham mae'r cynllun hwn yn wahanol i'r hyn a'i rhagflaenodd. Y rheswm am hynny yw nad yw cynllun adran 2 yr A465, y cyfeiriodd ato, lle bu problemau o ran amserlennu'n arbennig, yn gynllun model buddsoddi cydfuddiannol. Cynllun cynnwys contractwyr cynnar yw hwnnw, ac felly mae rhai gwahaniaethau gwirioneddol arwyddocaol rhwng y ddau, ac ni ddylem ni weld y problemau hynny a welsom ni gyda chynllun adran 2 gyda'r model buddsoddi cydfuddiannol, oherwydd contract pris sefydlog yw model buddsoddi cydfuddiannol yn ei hanfod. Mae trosglwyddo risg da wedi'i gyflawni drwy gontractau, ac mae hynny'n golygu, gyda nifer fach o eithriadau, fod y rhan fwyaf o'r rhaglen a'r risg o ran costau yn cyd-fynd yn llawn â Chymoedd y Dyfodol. Cymoedd y Dyfodol, wrth gwrs, y cyfeiriais ato yn fy natganiad fel y sefydliad, os mynnwch chi, yr ydym ni wedi ymrwymo i'r contract gydag ef. Ni fydd Cymoedd y Dyfodol yn cael eu talu nes bydd y gwasanaeth yn weithredol, ac mae hynny, wrth gwrs, yn eu cymell i gyflawni eu rhaglen adeiladu. Mae'r contract yn cynnwys cyfyngiadau llym ar faint o reoli traffig a chau ffyrdd—gwn fod hynny'n bryder penodol yn lleol.

Mae cosbau ariannol llym am beidio â chydymffurfio â chyfyngiadau'r contract, ac eto, mae hyn i gyd yn wahanol iawn i'r dull gweithredu a'i rhagflaenodd. Yn ystod y cam tendro, cynhaliwyd dros £7 miliwn o arolygon, a datblygwyd cwmpas yr ymchwiliadau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r cynigwyr, gan gynnwys ymchwiliadau tir ac ymchwiliadau strwythurol ymwthiol i'r strwythurau presennol. Mae'r ymchwiliadau hynny wedi galluogi Cymoedd y Dyfodol i ddeall natur y safle'n well, ac felly i brisio'r risgiau'n gywir. Felly, credaf fod y cynllun hwn yn wahanol iawn i'r hyn a'i rhagflaenodd, ac mae'n dod â nifer o fanteision pwysig yn ei sgil.

Roedd gan Nick Ramsay ddiddordeb arbennig yn y manteision cymunedol, ac yn enwedig y rheini sy'n ymwneud â'r A465. Bydd y contract yn darparu dros 120 o brentisiaethau, 60 o hyfforddeiaethau, dros 320 o interniaethau a 1,600 o gymwysterau cenedlaethol. Mae hynny'n cyflawni ein blaenoriaeth o sicrhau'r manteision gorau o ran ein cyfraniad at gyflogi pobl ifanc a datblygu sgiliau, yn enwedig ar adeg mor bwysig. Bydd y prosiect hefyd yn ein helpu i unioni rhai o'r anghydraddoldebau sydd wedi'u gwaethygu gan y pandemig drwy ddarparu cyflogaeth lle mae ei angen fwyaf, a bydd hefyd, yn y cyfnod adeiladu yn unig, yn cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 59.6 mlynedd o waith i'r rhai sydd yn y categori NEET neu'n ddi-waith yn hirdymor, a 125 mlynedd o waith i weithwyr o gefndiroedd difreintiedig. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn o ran y manteision hynny. A bydd dros 80 y cant o gyfanswm y gwariant amcangyfrifedig ar nwyddau, gwasanaethau a gorbenion yn ystod y cyfnod adeiladu yn cael ei wario ar fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth, rwy'n credu, y byddwn i gyd eisiau ei groesawu.

Rwy'n ymwybodol iawn o bwysigrwydd cynlluniau adeiladu sy'n amgylcheddol gynaliadwy, a bydd y cynllun model buddsoddi cydfuddiannol yn sicr yn cael ei adeiladu gyda chynaliadwyedd hirdymor mewn golwg, yn unol â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Er enghraifft, er mwyn darparu cynaliadwyedd amgylcheddol, mae egwyddorion dylunio allweddol canolfan ganser Felindre yn cynnwys defnyddio adnoddau naturiol ac effeithlonrwydd ynni ym mhob rhan posibl. Bydd yr A465, er ei bod yn gwella diogelwch, cysylltedd a thagfeydd yr ardal leol hefyd yn gwella cydnerthedd ffyrdd eraill Cymru drwy ddod yn llwybr amgen yn ystod cyfnodau o dagfeydd, gwaith cynnal a chadw neu ddigwyddiadau mawr. Ac yn amlwg, bydd amgylcheddau dysgu newydd hefyd yn cael eu hadeiladu drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a rhaid iddyn nhw gyflawni sgôr A yn null asesu 'Yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad' a 'rhagorol' yn null asesu'r Sefydliad Ymchwil Adeiladu. Felly mae'r pethau hyn ar flaen ein meddyliau hefyd.

Ac yna, yn olaf, roedd cwestiynau'n ymwneud â monitro ein buddsoddiadau a pherfformiad Banc Datblygu Cymru. Wel, bydd cael cyfarwyddwr a enwebwyd gan y sector cyhoeddus ar y bwrdd o gwmnïau sy'n darparu'r asedau cyhoeddus yn rhoi cryn dryloywder. At hynny, bydd buddsoddiad cyhoeddus mewn cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol hefyd yn sicrhau llif o wybodaeth gan cyfranddalwyr ynglŷn â pherfformiad y cwmni yn ôl i Weinidogion Cymru. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi llunio cytundeb benthyca gyda Banc Datblygu Cymru mewn cysylltiad â'r buddsoddiad model buddsoddi cydfuddiannol sy'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r banc ddarparu adroddiadau chwarterol ar berfformiad cwmni'r prosiect, perfformiad y buddsoddiad ac unrhyw risgiau allweddol cyfredol. Credaf fod hynny'n bwysig o ran tryloywder a rheolaeth dda dros y prosiectau hefyd. Diolch.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:26, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am y datganiad yna. Gadewch i ni ddechrau gyda rhai pethau cadarnhaol a meysydd y byddem yn cytuno arnyn nhw. Rwy'n falch o'ch clywed yn dweud bod eich dull gweithredu llym o ddefnyddio model buddsoddi cydfuddiannol yn aros yn ddigyfnewid ac y dylid defnyddio cyfalaf confensiynol yn gyntaf, yna y byddech yn defnyddio pwerau benthyca cyfyngedig—'cyfyngedig' yw'r gair allweddol—ac yna, dim ond bryd hynny, yn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio model buddsoddi cydfuddiannol. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n credu bod gan fodel buddsoddi cydfuddiannol elfennau atyniadol. Ond mae ganddo ei anfanteision hefyd. Nid menter cyllid preifat mohono. Rydym yn falch iawn bod Cymru wedi gwneud llai o ddefnydd o fenter cyllid preifat, ond yn y pen draw mae'n bartneriaeth arall sy'n caniatáu elw ar rai pethau na ddylai fod angen i gwmnïau elwa arnyn nhw. Rwy'n siŵr y bydd Mike Hedges, pan fydd yn gwneud ei gyfraniad i'r ddadl yn nes ymlaen, yn dweud rhai pethau tebyg.

Clywsom y Gweinidog yn dweud bod cwblhau'r enghraifft o gaffael model buddsoddi cydfuddiannol arloesol ar ffordd Blaenau'r Cymoedd yn llwyddiannus yn dangos yr hyn y gall Cymru ei gyflawni mewn cyfnod anodd pan fyddwn yn mynd i'r afael â heriau gyda chreadigrwydd. Wel, na; yr hyn y mae'n ei wneud yw dangos beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud pan nad oes ganddi ddewis, pan fydd Trysorlys y DU yn penderfynu beth y gellir ei wario, beth y gellir ei fenthyg a phryd. Mae Llywodraeth Cymru yn anghydwedd—neu mae Cymru, dylwn i ddweud, yn anghydwedd—â'r hyn sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd eraill wrth fabwysiadu'r model buddsoddi cydfuddiannol hwn, ac rwy'n siŵr y byddai'n rhaid i'r Gweinidog gytuno, er enghraifft, y byddai Cymru annibynnol yn gallu ariannu drwy ddulliau mwy confensiynol, drwy fenthyca ar y lefelau isaf erioed. Felly dyna y dylem ni fod yn ei ddathlu, ond yn y cyd-destun yr ydym ni ynddo, mae hwn yn ddewis ychydig yn well na menter cyllid preifat a all fod yn ddefnyddiol.

Mae tryloywder, serch hynny, yn air a ddefnyddiodd y Gweinidog. Blaenau'r Cymoedd—oes, mae angen inni gael cadernid yn y ffordd honno ar draws Blaenau'r Cymoedd. Dywedir wrthyf y bydd yn costio tua £550 miliwn, ond er mwyn tryloywder, a allwn ni gael ffigur gan y Gweinidog heddiw ynghylch faint y byddwn yn ei dalu o goffrau Llywodraeth Cymru dros y degawdau ar gyfer y prosiect hwnnw?

Gan symud ymlaen at ysgolion, rwy'n anghyfforddus iawn bod Cymru'n genedl nad yw'n gallu ariannu ysgolion newydd drwy ddulliau confensiynol. Rwy'n siŵr bod Meridiam yn gwmni gwych sydd ag hanes byd-eang, ond mae gweithio gyda chwmni rhyngwladol ar ddarparu ysgolion yma yng Nghymru yn rhywbeth, fel y dywedais, yr wyf yn anghyfforddus yn ei gylch. Siawns nad yw hyn yn rhywbeth a ddylai ddigwydd drwy fenthyca confensiynol, ond nid ydym yn cael gwneud hynny, wrth gwrs. Dylai ddigwydd o gyllidebau cyfredol hefyd. Ond, unwaith eto, o ran tryloywder, a wnaiff y Gweinidog ddarparu dolen i safle lle gellir dod o hyd i'r cytundeb terfynol a wnaed gyda Meridiam fel rhan o'r cyfrwng newydd gyda WEPCo? Mae hwnnw'n gwestiwn a ofynnwyd gan Adam Price yn gynharach y mis hwn. Ateb y Gweinidog Addysg oedd:

Llofnodwyd y cytundeb ar 30 Medi 2020. Gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif ni fyddem yn bwriadu cyhoeddi'r ddogfen.

Ble mae'r tryloywder o ran y cytundebau yr ydym yn ymrwymo iddynt?

Ac ar brosiect arall rwy'n gefnogol iawn iddo, ysbyty newydd Felindre, rwy'n ymwybodol iawn o bryderon ynghylch a yw'r model clinigol cywir yn cael ei ddilyn ar gyfer darparu ysbyty newydd. A gaf i ofyn, er bod yr ymchwiliad hwnnw'n mynd rhagddo i briodoldeb dewis y model clinigol hwnnw, a yw'r Gweinidog cyllid wedi ystyried sicrhau nad yw penderfyniadau ar y model clinigol yn cael eu cymylu, na ddylanwadir arnyn nhw mewn unrhyw ffordd gan y cwestiwn beth fyddai'r fargen fasnachol orau neu'r fargen eiddo orau i'r partneriaid dan sylw—partneriaid sy'n ceisio gwneud elw o hyn, neu fel arall na fydden nhw'n rhan ohono? Diolch.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:30, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n ddiolchgar i Rhun ap Iorwerth am godi'r materion yna, ac rydym ni wedi siarad sawl gwaith o'r blaen am ddull Llywodraeth Cymru o fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus a manteisio i'r eithaf ar ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael i'r cyhoedd a'r mathau rhataf o gyfalaf cyn i ni ddefnyddio'r mathau mwy cymhleth a drutach hyn o fuddsoddiad. A gwn fod hyn yn rhywbeth y mae'r Pwyllgor Cyllid wedi nodi ei fod yn ei gymeradwyo o ran y ffordd ymlaen yn y gorffennol.

Mae Rhun yn gywir nad menter cyllid preifat yw model buddsoddi cydfuddiannol, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn i'w gydnabod. Mae'n ymgorffori'r gorau o fodel dosbarthu di-elw'r Alban, megis y dyraniad risg mwyaf ffafriol, costau gydol oes a thaliadau sy'n seiliedig ar berfformiad, gan sicrhau hefyd bod y buddsoddiad newydd yn cael ei ddosbarthu i'r sector preifat. A bydd yn ofynnol i bartneriaid preifat, fel yr wyf wedi dweud wrth Nick Ramsay, helpu'r Llywodraeth i gyflawni ein hamcanion yn Neddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Felly, bydd angen iddyn nhw sicrhau'r manteision cymunedol ehangach hynny, a bydd cosbau am beidio â darparu'r manteision. Bydd angen iddyn nhw hefyd ymrwymo i god cyflogaeth foesegol Llywodraeth Cymru, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn hefyd, yn ogystal ag adeiladu gan ystyried cynaliadwyedd hirdymor ac effeithlonrwydd amgylcheddol. Ac mae model buddsoddi cydfuddiannol yn wahanol i'r prosiectau menter cyllid preifat traddodiadol hefyd am na chaiff ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau meddal, megis glanhau ac arlwyo, a oedd, yn amlwg, yn bethau a arweiniodd at gontractau drud ac anhyblyg yn y model menter cyllid preifat hanesyddol, ac ni chaiff ei ddefnyddio ychwaith i ariannu offer cyfalaf.

Mae hefyd yn wahanol oherwydd bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ychydig o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau y bydd y sector cyhoeddus yn cyfranogi mewn unrhyw elw ar fuddsoddiad. A hefyd yn wahanol eto oherwydd bydd y cyfarwyddwr a benodir gan y sector cyhoeddus yn rheoli'r cyfranddaliadau cyhoeddus ac yn hybu budd y cyhoedd yn ehangach ar y trafodaethau hynny ar y bwrdd. Ac mae swydd cyfarwyddwr a benodir gan y sector cyhoeddus yn sicrhau bod tryloywder ynghylch costau a pherfformiad partneriaid preifat hefyd. Ond mae'r ffaith fod y model buddsoddi cydfuddiannol yn hybu llesiant, gwerth am arian a thryloywder yn amlwg yn ei wneud yn wahanol iawn, ac mae'n addysgiadol iawn, rwy'n credu, fod y Cenhedloedd Unedig, sydd â'i agenda ei hun ar gyfer hyrwyddo partneriaethau cyhoeddus-preifat pobl yn gyntaf, wedi cynnwys y model buddsoddi cydfuddiannol yn ei gompendiwm o gynlluniau o'r fath, gan hyrwyddo'r hyn yr ydym ni yn ei wneud yma yng Nghymru ar draws y byd.

Soniodd Rhun hefyd am elw. Wel, wrth gwrs, mae elfen o elw bob amser pan fyddwn yn caffael seilwaith, sut bynnag y caiff y seilwaith hwnnw ei gaffael. Fodd bynnag, bydd yr union elw yn cael ei bennu gan berfformiad y cwmni dros oes y contract. Rydym wedi cynnal prosesau caffael cadarn, ac mae contractau wedi'u dyfarnu i'r tendrau mwyaf manteisiol. At hynny, bydd dyrannu risg yn briodol, ochr yn ochr â rheoli contractau'n dda, yn sicrhau bod unrhyw elw a gynhyrchir yn rhesymol. Ac rydym ni hefyd yn buddsoddi, fel yr wyf wedi crybwyll, y gyfran honno o gyfalaf risg yn y cynlluniau model buddsoddi cydfuddiannol hynny i sicrhau y gallwn ni hefyd elwa, ar delerau cyfartal â buddsoddwyr ecwiti preifat, ar unrhyw enillion ar y buddsoddiadau hynny.

Gofynnodd Rhun hefyd am rai ffigurau, o ran faint. Felly, o ran cynllun yr A465, gwerth cost adeiladu cynllun yr A465 yw £550 miliwn, ac eithrio TAW na ellir ei hadennill. Bydd y taliad gwasanaeth blynyddol tua £38 miliwn y flwyddyn yn seiliedig ar brisiau cyfredol, ac eithrio'r TAW na ellir ei hadennill, am 30 mlynedd ar ôl ei hadeiladu. Ac mae'r taliad hwn yn gysylltiedig â pherfformiad, gyda didyniadau'n cael eu codi pe na bai Cymoedd y Dyfodol yn bodloni gofynion perfformiad y contract. Ac, wrth gwrs, mae Banc Datblygu Cymru wedi buddsoddi 15 y cant o'r cyfalaf risg gofynnol ar delerau cyfartal â'r buddsoddwyr eraill, a maes o law bydd yn ennill elw cymharol, a fydd wedyn, wrth gwrs, yn cael ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:34, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch hefyd i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i egluro i Rhun ap Iorwerth fod cyfraddau benthyca yn isel ym Mhrydain, dydyn nhw ddim yn isel yng ngweddill y byd? Yn Armenia, mae dros 6 y cant; yn yr Aifft, mae dros 10 y cant; yn yr Ariannin, mae dros 30 y cant. Felly, er bod gennym ni gyfraddau llog isel, nid yw'n isel ar draws y byd, oherwydd ystyrir bod economi Prydain yn eithaf sefydlog.

A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn amheus o'r model buddsoddi cydfuddiannol, yn enwedig ei gost refeniw yn nes ymlaen? Mae gennyf rai sylwadau cyffredinol am y model buddsoddi cydfuddiannol. I ddyfynnu o friff preifat, yr unig wahaniaeth yn ariannol rhwng model buddsoddi cydfuddiannol a menter cyllid preifat yw nad oes cyfran rheoli cyfleusterau i'r contract. Bydd cwmnïau'n benthyca ar 1.5 y cant i 2 y cant yn uwch na'r gyfradd sylfaenol ar y gorau. Bydd rhai'n benthyca ar 5 y cant neu fwy uwchben y gyfradd sylfaenol. Byddant hefyd yn ychwanegu elw, byddwn yn awgrymu, o 5 y cant neu 10 y cant o'r isafswm gofynnol. Mae hyn yn ychwanegu cost. Er mai'r nod yw trosglwyddo risg i'r sector preifat, yr hyn a fydd yn digwydd yw y bydd isafswm cwmni buddsoddi un pwrpas yn cael ei ffurfio, ac, os oes problem gyda'r contract, bydd yn ei ddiddymu a bydd y gwariant a ysgwyddir ar gyfer y gwaith a wnaed yn cael ei hawlio gan y diddymwr. Mae'r manteision cymunedol yn cael eu cynnwys yn y gost. Rydym yn talu amdanyn nhw mewn gwirionedd—neu mae Llywodraeth Cymru yn talu amdanyn nhw. Y cwestiwn sydd gennyf i yw: pryd y bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cael edrych ar y contractau hyn ac adrodd yn ôl?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:36, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am godi'r materion yna. Ac wrth gwrs rwy'n gyfarwydd ag amheuon Mike ynghylch y dull model buddsoddi cydfuddiannol, ac rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol cael y lefel honno o her, oherwydd rydym ni wedi cael rhai trafodaethau rhagorol yn y Pwyllgor Cyllid yn arbennig, ond hefyd sawl gwaith yma yn y Senedd, pan oeddem yn archwilio'r model buddsoddi cydfuddiannol.

Roedd cwestiwn penodol ynghylch benthyca a pham mae Llywodraeth Cymru—nid cwestiwn, mewn gwirionedd; sylw ynghylch benthyca. Ac mae rhai pobl wedi gofyn, 'Wel, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn benthyca i ddarparu'r A465 neu fwy o'r cynlluniau ysgol hyn?' Wel, fel y gŵyr Mike, mae'r terfyn benthyca'n fach iawn, dim ond £150 miliwn y flwyddyn, ac, yn amlwg, mae gennym ni gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol iawn eisoes: tai, iechyd, rhannau eraill o'n hagenda ysgolion, y metro, ymateb i adroddiad Burns, a fydd yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae angen benthyca mewn gwirionedd i sicrhau y gallwn ni gyflawni'r rhain, a dyma un o'r rhesymau pam rwyf yn ddiolchgar am y gefnogaeth drawsbleidiol a chefnogaeth y Pwyllgor Cyllid o ran ein hymdrechion i ymestyn neu ehangu ein gallu benthyca a chael y cytundeb hwnnw gan Lywodraeth y DU.

Dim ond ychydig eiriau am gost y prosiectau o ochr yr ysgol—rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu ysgolion a cholegau newydd sydd â gwerth cyfalaf o hyd at £500 miliwn drwy bartneriaeth addysg Cymru. Ni fydd cyfanswm y taliad gwasanaeth blynyddol ar gyfer hynny'n hysbys eto nes bydd y prosiectau ar waith, ac rydym yn disgwyl i'r prosiectau hynny gael eu cyflawni dros y saith mlynedd nesaf. Felly, pan fyddwn wedi cytuno ar ein contractau gyda Meridiam, yr hyn na fyddwn ni wedi'i wneud yw ymrwymo i gontract i un partner gyflawni'r prosiect, ond yn hytrach un partner i roi'r prosiect at ei gilydd. Felly, bydd cyfle bryd hynny i gontractwyr lleol wneud cais am y prosiectau hynny. Byddwn yn hysbysebu ar GwerthwchiGymru, ac wrth gwrs rydym eisiau i fusnesau lleol ddod at ei gilydd fel partneriaid ac fel grwpiau i wneud cais am y prosiectau hynny os ydyn nhw'n fusnesau rhy fach i wneud cais ar eu pennau eu hunain am y rheini. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig hefyd.

A bydd Banc Datblygu Cymru yn gyfranddaliwr ym mhob un o'r cwmnïau prosiect a sefydlwyd ar gyfer y prosiect ysgolion a cholegau. A bwriadwn—wel, rydym wedi darparu cyfleuster cyfalaf gweithio cymedrol iawn i sefydlu WEPCo, sy'n cyfateb i 20 y cant o anghenion ei gyfalaf gweithio. Felly, dyna egluro'r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd, ond wrth gwrs bydd cyfleoedd maes o law, unwaith y bydd pethau wedi datblygu ymhellach, ar gyfer y lefel fanwl honno o graffu.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:39, 17 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.