– Senedd Cymru am 2:49 pm ar 8 Rhagfyr 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar argymhellion Burns—y camau nesaf. Dwi'n galw ar y Gweinidog, felly, i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.
Diolch, Llywydd. Fe gyhoeddwyd adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ar 26 Tachwedd, gan gwblhau ei adolygiad manwl ac annibynnol o'r ffyrdd cynaliadwy o fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd. Fe hoffwn i roi ar gofnod fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm o gomisiynwyr am baratoi darn o waith rhagorol ar sail tystiolaeth.
I'r bobl leol y bu'n rhaid iddyn nhw ddioddef effaith andwyol y tagfeydd, ac i'r busnesau a'r unigolion sydd angen rhwydwaith trafnidiaeth mwy dibynadwy a chadarn, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhoi cynllun cydlynol a realistig i'r coridor hanfodol hwn yng Nghymru. Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi cael cyfle i roi ystyriaeth i'r adroddiad. I mi, y canfyddiad mwyaf trawiadol oedd ei ymchwiliad i'r egwyddorion cyntaf ar gyfer y defnydd a wneir o'r ffordd hon yn benodol. Mae'r rhan fwyaf o deithiau arni rhwng 10 a 50 milltir o bellter, yn cychwyn o Gasnewydd, Caerdydd, a Bryste neu'n diweddu yn un o'r lleoedd hynny. Felly, mae'r dystiolaeth yn dangos yn eglur mai her ranbarthol yw hon sy'n gofyn am ymateb ledled y rhanbarth. Mae cyfran uchel o'r teithiau yn cael eu gwneud gydag un unigolyn yn y car, ac mae'r tagfeydd ar eu mwyaf difrifol yn ystod oriau brig y bore a chyda'r nos. Mae'r dystiolaeth yn dangos mai mater i gymudwyr yw hwn, nid un a achosir gan deithiau lleol o gwmpas Casnewydd. Mae'r math o deithiau sy'n llenwi'r ffordd hon ac sy'n achosi tagfeydd yn rhai y gellid eu gwneud yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus pe bai hynny'n gystadleuol o ran y gost, amser y daith a chyfleustra. O ystyried daearyddiaeth a thopograffeg yr ardal, mae'n hanfodol bod gan y coridor pwysig hwn i Gymru system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol o ansawdd uchel sy'n rhoi gwasanaeth da ac yn cynnig dewisiadau gwirioneddol o ansawdd uchel i bobl ar draws yr holl ddulliau a fydd yn ysgafnu'r baich sydd ar y ffordd.
Rwyf i o'r farn fod ein strategaeth drafnidiaeth newydd ni i Gymru, 'Llwybr Newydd', yn ategu'r argymhellion sydd yn adroddiad Burns. Gyda'i gilydd, rwy'n credu y gallan nhw ail-lunio ein dull ni o ystyried sut y gall pobl deithio o gwmpas y de-ddwyrain ac, yn wir, y tu hwnt i'r fan honno. Mae'r strategaeth drafnidiaeth yn dadlau'n gryf o blaid newid. Mae argymhellion Burns yn lasbrint ar gyfer sut y gellir cyflawni'r newid hwnnw yn y de-ddwyrain, gan adeiladu ar y gwaith metro sylweddol sy'n mynd rhagddo eisoes. Mae Arglwydd Burns yn galw am wella prif lein de Cymru ac am chwe gorsaf newydd arni hefyd. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r seilwaith hwn, wrth gwrs, ac fe fydd angen iddyn nhw fod â rhan yn y drafodaeth y mae'n rhaid inni ei chael ynglŷn â gwireddu'r cynllun hwn. Ar 23 Tachwedd, fe gyhoeddais i fy natganiad ar adolygiad cysylltedd yr undeb, ac mae fy swyddogion i'n paratoi cyflwyniad sylweddol ar hyn o bryd i waith Syr Peter Hendy. Rwy'n credu y bydd hwn yn gyfrwng i Lywodraeth y DU ddarparu ymrwymiad cynnar i gyflawni argymhellion Burns mewn meysydd nad ydynt wedi eu datganoli.
Mae argymhellion Burns yn nodi rhesymau cadarn pam mae angen i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhanbarth hwn gael ei godi i fod ar lefel debyg i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Bu Cymru ar ei hôl hi'n llawer rhy hir wrth aros am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU mewn seilwaith rheilffyrdd, ac mae hwn yn gyfle cadarnhaol i Lywodraeth y DU wneud cyfiawnder am y tanfuddsoddiad a fu. Y tanfuddsoddiad hwnnw mewn gwirionedd sydd wedi achosi'r problemau a welwn ni yng Nghasnewydd nawr, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw i unioni'r cam hwnnw a chyflawni gweledigaeth Burns.
Mae Arglwydd Burns yn argymell gwella'r seilwaith bysiau a theithio llesol yn sylweddol yng Nghasnewydd a'r cyffiniau ac, yn drawiadol iawn yn fy marn i, mae dull yr adroddiad hwn o dynnu sylw at yr anghyfiawnder cymdeithasol sydd yng Nghasnewydd pan fo cyfran uchel iawn o deithiau mewn car preifat, ac eto yn y fan honno y mae rhai o'r cyfraddau isaf sydd i'w cael yn unman yn y wlad o ran bod yn berchen ar gar. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru yn nodi'r anghenion strategol, mae'n llawer gwell penderfynu ar y manylion yn lleol, wrth gwrs. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Chyngor Dinas Casnewydd i lywio'r ffordd ymlaen gyda'n gilydd ar gyfer mesurau teithio ar fysiau a theithio llesol yn y ddinas, gyda chefnogaeth Trafnidiaeth Cymru. Rydym wedi rhoi camau tymor byr ar waith i helpu i gefnogi unigolion, cymunedau a busnesau i ymdrin ag effeithiau uniongyrchol y coronafeirws. Er hynny, mae Arglwydd Burns, a hynny'n briodol, yn cyflwyno glasbrint ar gyfer y tymor hwy, sy'n ystyried y rhagolygon twf sylweddol sydd i'r rhanbarth hwn. Ac mae'r twf hwnnw, ynghyd â'n hamcanion ni i annog newid moddol, yn cyfiawnhau creu system teithio torfol sy'n gynaliadwy ledled y rhanbarth.
Fe fyddaf yn trafod yr argymhellion sy'n ymwneud â chynllunio defnydd tir gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i weld sut y gallwn ni gydweithio i'w cefnogi nhw. Mae integreiddio rhwng trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir yn hanfodol. Mae'n bwysig bod datblygiadau newydd yn cael eu hadeiladu yn y lleoliadau priodol, sydd â chysylltedd eang a hygyrchedd da o ran trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y rhan hon o Gymru lle mae datblygiad radical clasurol yn fwy heriol.
Mae'r argymhellion yn ymestyn ar draws pob agwedd ar bolisi a darpariaeth trafnidiaeth. Fe fydd angen cydweithio a chydweithrediad agos rhwng partneriaid, ac mae gwaith ar y gweill i sefydlu uned gyflawni, a fydd yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Casnewydd a Thrafnidiaeth Cymru i helpu i wneud cynnydd o ran argymhellion yr adroddiad, ac rwy'n disgwyl i'r uned honno gyfarfod am y tro cyntaf yn ystod y mis hwn. Fe fydd yr uned yn gyfrifol i ddechrau am adolygu pob un o 72 o argymhellion comisiwn Burns a phenderfynu pa gamau nesaf y bydd angen eu cymryd. Ar gyfer argymhellion newydd, fe fydd yr uned ddatblygu yn fy nghynghori i a'n partneriaid ni mewn awdurdodau lleol a Network Rail ynglŷn â'r ffordd orau o weithio i ddatblygu a llywio penderfyniadau pellach.
Mewn rhai ardaloedd, rydym wedi dechrau eisoes. Mae'r gorsafoedd rheilffordd newydd a argymhellir yn Llaneirwg, ar gyrion Caerdydd, ac yn Llanwern eisoes ar y camau cynllunio. Rydym wedi cymryd camau hefyd i ddod â'r rhwydwaith rheilffyrdd sydd gennym ni i Gymru a'r gororau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus. Fe gafodd y rhaglen i ddiwygio bysiau ei sefydlu mewn ymateb i effaith COVID-19, ac rydym yn datblygu cynlluniau tymor hwy ar gyfer diwygio'r ffordd y mae gwasanaethau bysiau yn cael eu cynllunio, eu hariannu a'u darparu. Rydym wedi rhoi'r buddsoddiad mwyaf a fu erioed i gyllid teithio llesol. Mae hynny'n creu llwybrau teithio diogel a gwell cysylltiadau yn ein trefi a'n dinasoedd ni, sy'n rhyngweithio â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, gan leihau'r ddibyniaeth ar geir. Mae mwy i'w wneud eto yng Nghasnewydd, nid oes unrhyw amheuaeth o hynny, ac, yn wir, ledled Cymru hefyd.
I gloi, rwyf i'n croesawu canfyddiadau adroddiad Burns yn fawr iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ein gweledigaeth graidd ni ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru: system drafnidiaeth hygyrch a chynaliadwy sydd o fudd i bobl a chymunedau, o fudd i'r amgylchedd, o fudd i'n heconomi ac o fudd i fangreoedd. Rwyf i o'r farn y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad yn ein helpu ni i gyflawni'r uchelgais hwnnw. Ond ni ddaw hynny, wrth gwrs, oni bai i'r adroddiad hwn fod yn rhywbeth mwy na dogfen ddisglair sy'n cael ei gadael ar y silff. Mae'n rhaid i'r adroddiad arwain at newid gwirioneddol a deinamig, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y DU ymysg eraill i helpu i wireddu hynny.
Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma ac a gaf innau hefyd, fel y gwnaethoch chi, ddiolch i Arglwydd Burns a'i gydweithwyr ef am gynhyrchu'r adroddiad hwn a gwneud argymhellion yn y fath fodd? Fe hoffwn i ddiolch i Arglwydd Burns hefyd am iddo ef ei hunan roi briff i mi yn ddiweddar. Rwy'n croesawu'r argymhellion yn gyffredinol. Rwyf i o'r farn ei fod yn ddarn o waith gloyw, ac argymhellion da ynddo. Yn amlwg, mae angen rhoi ystyriaeth bellach i rai o'r argymhellion hynny, ond fe geir rhai argymhellion ynddo yr wyf i'n sicr yn teimlo y gallaf eu cefnogi nhw ar unwaith, o ran, er enghraifft, cydlynu amserlenni bysiau a rheilffyrdd mewn cyfnewidfeydd allweddol. Mae hwnnw, wrth gwrs, yn argymhelliad synhwyrol iawn.
Gweinidog, fe ddaeth eich datganiad chi i ben drwy sôn am beidio â chaniatáu i hon fod yn ddogfen ddisglair sy'n cael ei gadael ar y silff, i bob pwrpas. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig inni gael rhywfaint o'r cyd-destun ynghylch y cwestiynau'r prynhawn yma. Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru ddogfen ddisglair ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac fe adawyd honno ar y silff am gyfnod maith iawn, yn hel llwch, ac yna, wrth gwrs, fe daflodd y Prif Weinidog y ddogfen ddisglair honno i'r bin, ac roedd gennym ni Lywodraeth yng Nghymru a oedd wedi cyflwyno ei chynigion ei hun ar gyfer ffordd liniaru'r M4, yr edrychwyd arnyn nhw'n annibynnol, ac ar ôl gwario miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr fe ddilëwyd y cynigion hynny, a dyma'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw. Nawr, o'm safbwynt i, rwy'n credu bod diffygion ffordd liniaru bresennol yr M4 o amgylch Casnewydd yn amlwg i bawb eu gweld. Fe gynlluniwyd y ffordd gyntaf yn y 1950au, nid fel traffordd ond fel ffordd osgoi i Gasnewydd, ac mae'n ddiffygiol iawn yn ôl safonau traffyrdd modern, gyda lonydd yn lleihau, lleiniau caled bob hyn a hyn, aliniad anfoddhaol, a chyffyrdd mynych. Dyna fy marn bendant i. Rwy'n gwybod mai honno yw eich barn chithau hefyd oherwydd rwyf newydd ddefnyddio eich geiriau chi, fel y gwnaethoch chi ynghynt.
Nawr, yn y cyd-destun hwnnw, tybed a wnewch chi, Gweinidog, efallai roi ychydig mwy inni nag a wnaethoch yn eich datganiad o ran eich barn gychwynnol am yr argymhellion. Ni wnaethoch ddweud llawer iawn am hynny yn y datganiad ei hun. Ond, er enghraifft, pa feysydd ydych chi'n barnu y gallwch chi gytuno arnyn nhw? Rwyf wedi amlinellu rhai argymhellion yr wyf i o'r farn y gallwn ni eu cefnogi. Pa argymhellion y gallwch chi eu cefnogi nhw'n llwyr, ac a oes yna unrhyw argymhellion yr ydych yn cael mwy o anhawster gyda nhw? Nid wyf yn gwybod a allwch chi roi ychydig mwy i ni'r prynhawn yma o ran y canfyddiadau cychwynnol.
Rydych wedi siarad eto am yr uned ddatblygu. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy am sut y bydd hynny'n gweithio yn ymarferol. Hefyd, o ran yr adroddiad, gan roi'r argymhellion o'r neilltu efallai ac ystyried y casgliadau eu hunain, o fewn yr adroddiad, a pha wybodaeth newydd a gasglwyd o'r adroddiad hwnnw na chafodd ei chyflwyno efallai drwy gynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ac yn ystod y cam hwnnw o ymchwiliad cyhoeddus? Pa bethau newydd sydd wedi digwydd o ran y casgliadau hynny? Er enghraifft, rwy'n gwybod ichi sôn am y man cychwyn o 10 i 15 milltir sy'n diweddu yng Nghasnewydd, Caerdydd neu Fryste. Pa eitemau newydd eraill a gasglwyd o'r adroddiad, ac nid o gynigion gwreiddiol Llywodraeth Cymru ar gyfer ffordd liniaru'r M4? Rydych chi eich hun wedi dweud bod y cyfnod arfarnu 60 mlynedd yn dod â mwy na £2 o fuddiant am bob punt a gaiff ei gwario ar gynllun ffordd liniaru'r M4. Felly, a ydych chi'n rhagweld yr un gyfradd o elw yn dod o fuddsoddiad o'r argymhellion? Ac os nad ydych chi'n gwybod yr ateb i hynny, a yw'n rhywbeth y bydd yr uned ddatblygu yn ei ystyried?
Nawr, rwyf wedi dweud fy mod i'n croesawu'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyffredinol. Mae yna un argymhelliad sy'n peri pryder imi, ac nid wyf yn teimlo y gallaf ei gefnogi. Mae'n ymwneud â'r ardoll ar barcio yn y gweithle. I mi, y ffordd i newid patrymau teithio pobl yw sicrhau bod gennym drafnidiaeth gyhoeddus hwylus am brisiau rhesymol, a'n bod ni'n gwneud hynny yn hytrach na threthu pobl. Felly, gyda'r pandemig, wrth gwrs, yn cael cymaint o effaith ar yr economi, tybed, Gweinidog, a ydych chi o'r farn ei bod yn briodol inni godi trethi yn y ffordd y mae'r adroddiad yn ei nodi? Ac os na allwch chi warantu bod—. Neu, yn hytrach, a allwch chi warantu na fydd yna ardoll ar barcio yn y gweithle yn cael ei gweithredu dan eich gwyliadwriaeth chi, Gweinidog? Diolch.
A gaf i ddiolch yn fawr iawn i Russell George nid yn unig am ei gyfraniad heddiw, ond am ei gyfraniadau adeiladol yn ystod y broses dan arweiniad Arglwydd Burns? Ac yn wir, fe hoffwn i ddiolch i bob Aelod o'r Senedd am fod mor adeiladol, parod a brwdfrydig o ran y drafodaeth ag Arglwydd Burns a'r comisiwn, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi teimlo eu bod nhw'n hyddysg yn y mater o ganlyniad i barodrwydd Arglwydd Burns i ymgysylltu â nhw'n uniongyrchol. Rwy'n falch iawn bod Russell George yn croesawu'r adroddiad, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n credu fod yna laweroedd o argymhellion y mae ef a minnau'n cytuno arnyn nhw, yn enwedig o ran cydgysylltu, gwell cydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau a thocynnau. Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni'n creu system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n ddymunol, sy'n hygyrch ac yn cynnig dewis arall sy'n well na'r car, ac mae integreiddio gwasanaethau yn allweddol wrth wneud yr union beth hwnnw.
Un o atebion ddoe oedd y cynnig am ffordd liniaru i'r M4. Ateb oedd hwn yn yr oes cyn i'r argyfwng hinsawdd gael ei ddatgan gan y Senedd. Mae'r dyfodol bellach yn golygu trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel a theithio llesol gwell, llai o ddibyniaeth ar ddefnyddio ceir, a chymunedau mwy bywiog sy'n cael eu gwasanaethu gan ganolfannau gweithio o bell ac economi sylfaenol gryfach o ganlyniad i gadw cyfleoedd ar gyfer ffyniant o fewn cymunedau.
O ran fy marn gychwynnol i, mae'n rhaid imi ddweud y bydd yr uned gyflawni, yn gyntaf oll, yn asesu'r argymhellion i gyd, ac fe fydd yr uned gyflawni honno, os hoffech chi, yn gwbl unplyg fel roedd Arglwydd Burns yn awyddus i'w hyrwyddo, sy'n cynnwys yr holl asiantau cyflawni a'r cyrff gwneud penderfyniadau allweddol. Ond fe fydd yr uned gyflawni yn cynnal asesiad o'r argymhellion i gyd. Serch hynny, o ran fy meddyliau cyntaf i ynglŷn â rhai o'r argymhellion allweddol, fe fyddwn i'n gefnogol iawn i wella seilwaith y rheilffyrdd a theithio llesol, a'r defnydd o wasanaethau bysiau hefyd, drwy gyflwyno mwy o goridorau pwrpasol. Yn benodol, rwyf i o'r farn fod yr angen i uwchraddio prif lein de Cymru i gynnig cyfle am fwy o wasanaethau cymudo yn rhywbeth y byddai pawb, bron iawn, yn y de-ddwyrain yn ei groesawu.
Yr hyn a nododd yr adroddiad oedd bod tagfeydd ar yr M4 yn broblem i gymudwyr, a'r datrysiad gorau i gymudwyr yw darparu trafnidiaeth gyhoeddus fel sydd gan y gwledydd gorllewinol mwyaf datblygedig eisoes, a hynny drwy systemau metro datblygedig. Nawr, fe fydd ein gweledigaeth ni o'r metro sy'n werth £700 miliwn a mwy yn cyflawni hynny, ond mae hwnnw'n seiliedig ar deithio o'r gogledd i'r de i raddau helaeth. Yr hyn a ychwanegwyd gan Arglwydd Burns yw gweledigaeth ar gyfer teithio o'r dwyrain i'r gorllewin hefyd, gan gyfuno pob math o symudiad ar draws y de-ddwyrain. Fe fyddwn i'n gefnogol iawn i ychwanegu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y metro at y weledigaeth arall ar gyfer teithio llorweddol rhwng y dwyrain a'r gorllewin rhwng ein dinasoedd allweddol ni ac, yn wir, Bryste.
O ran rhai o'r canfyddiadau allweddol a ddaeth i'r amlwg yn yr adroddiad, fe gefais i fy nharo'n arbennig—ac roedd hynny'n mynd yn ôl at egwyddorion cyntaf gwaith Arglwydd Burns—gan ganfyddiadau sy'n ymwneud â'r hyn sy'n brif achos y tagfeydd yn ystod oriau brig, sef y bobl sy'n teithio rhwng 10 a 50 milltir. Cyn cyhoeddi'r adroddiad hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i wedi clywed nifer o bobl yn rhagdybio mai achos y broblem yng Nghasnewydd a'r cyffiniau oedd teithiau lleol a phobl leol. Yr hyn sy'n amlwg nawr yw nad yw hynny'n hollol wir. Teithiau pellach yw'r rhai sy'n achosi tagfeydd.
Wrth gwrs, fe fydd gwerth am arian yn ystyriaeth allweddol. Dim ond heddiw fe gefais i e-bost gan y Gweinidog Cyllid yn fy atgoffa i fod yn rhaid i werth am arian fod yn rhan annatod o'n proses ni o wneud penderfyniadau. Er hynny, fe hoffwn i ychwanegu hefyd, os ydym eisiau ysbrydoli newid moddol a chynnig cyfleoedd i bobl wneud defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, yna mae'n rhaid inni fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, yn awr ac i'r dyfodol, o ran y seilwaith sydd ei angen, ond hefyd o ran y cymhorthdal sydd ei angen er mwyn iddo fod yn ddewis amgen cost-effeithiol i ddefnyddio ceir preifat.
Ac yna, yn olaf, at y pwynt pwysig a gododd Russell George, sef y cynigion ar gyfer yr ardoll ar barcio yn y gweithle a gaiff eu gweinyddu a'u pennu gan awdurdodau lleol. Rwy'n credu mai'r pwynt hollbwysig i'w wneud yma yw bod Arglwydd Burns dim ond yn awgrymu'r ardoll hon ar y sail bod y gwelliannau hynny i ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus amgen eisoes wedi eu cyflwyno. Felly, rwy'n credu ei fod yn awgrym defnyddiol iawn, ond mae'n amlwg ei fod yn seiliedig ar yr angen i weithredu'r argymhellion eraill i ddechrau o ran darparu dewisiadau amgen deniadol a chost-effeithiol yn hytrach na defnyddio ceir preifat.
Helen Mary Jones.
Delyth Jewell.
O, iawn. Nid dyna sydd gen i, ond, ie, Delyth Jewell.
Mae'n flin gen i, Llywydd.
Popeth yn iawn. Delyth Jewell.
Diolch. Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a mynegi ar goedd hefyd fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm ef am eu gwaith nhw wrth gwblhau'r adroddiad. Mae cymudwyr ar yr M4 a'r cymunedau o amgylch y rhan hon o'r M4 yn haeddu gweld camau gweithredu ar ôl blynyddoedd o drafod a ddechreuodd, wrth gwrs, yn y 90au.
Nawr, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu argymhellion yr adroddiad hwn. Ers cryn amser, mae Plaid Cymru wedi dweud mai'r ateb i ddatrys problem tagfeydd Bryn-glas yw buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus o amgylch Casnewydd. Ni fyddai cael ffordd newydd yn datrys y mater, ac rwy'n falch o weld cynifer o argymhellion yn adlewyrchu hyn yn yr adroddiad. Fe fyddai unrhyw un sydd ag unrhyw ddealltwriaeth o alw a ysgogwyd yn gwerthfawrogi hyn.
Rydym yn byw, wrth gwrs, yng nghanol argyfwng hinsawdd hefyd. Os ydym o ddifrif wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hwnnw, y casgliad rhesymegol o ran trafnidiaeth yw buddsoddi mewn dulliau cynaliadwy o drafnidiaeth gyhoeddus. Fe ellid gweithredu argymhellion ar gyfer datrys problemau tagfeydd ar yr M4 ar unwaith, wrth gwrs, pe bai gan Gymru bwerau dros seilwaith y rheilffyrdd. Mae comisiwn Burns wedi argymell, fel y nodwyd, y gellid targedu materion tagfeydd gyda buddsoddiad o tua £600 miliwn i £800 miliwn mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Fel yr amlinellwyd gennych chi, Gweinidog, fe allai hyn gynnwys adeiladu chwe gorsaf drenau newydd, uwchraddio cledrau sy'n bodoli eisoes, ac yn y blaen, ond ni chafodd seilwaith y rheilffyrdd ei ddatganoli, sy'n golygu y byddai rhai o'r prif argymhellion hyn yn gofyn am gytundeb a chefnogaeth gan Lywodraeth y DU i'w gweithredu, fel yr ydych chi newydd ei fynegi. Nawr, mae hyn yn peri pryder i mi. Fe ddangosodd adolygiad diweddar o wariant Llywodraeth y DU ostyngiad enfawr yn y cyllid trafnidiaeth cymharol a gaiff Cymru o San Steffan, gan fod HS2 wedi ei ddynodi'n brosiect ar gyfer Cymru a Lloegr, sy'n awgrymu nad yw gwella rhwydwaith rheilffyrdd Cymru yn flaenoriaeth i Lywodraeth y DU.
Gadewch inni gofio bod y buddsoddiad gofynnol a nodwyd gan Burns yn fach iawn o'i gymharu ag HS2 ac ar gyfradd lai nag 1 y cant o gost y prosiect hwnnw ac, yn wir, mae'n llai na swm y cynnydd sydd wedi bod yng nghost HS2 ers mis Medi diwethaf. Ac mae'n cynrychioli gwerth rhagorol am arian, gan ddarparu trafnidiaeth a manteision amgylcheddol ehangach i ranbarth sydd wedi cael ei esgeuluso i'r fath raddau ers llawer gormod o amser.
Nawr, Gweinidog, yn drist iawn, y realiti yw hyn. Pe bai Llafur a'r Torïaid wedi cefnogi datganoli'r rheilffyrdd yn rhan o'r broses Dydd Gŵyl Dewi, fe allai Llywodraeth Cymru fod wedi dechrau ar y gwaith o weithredu'r argymhellion hyn ar unwaith. Ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, mae'n rhaid inni obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn, sy'n sefyllfa ansicr iawn i fod ynddi hi, a dweud y lleiaf. Felly, mae cymudwyr yr M4, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno, yn haeddu gweld camau gweithredu ar ôl cymaint o drafod â hyn. Fe fyddwn i'n annog Llywodraeth y DU, fel y gwnaethoch chi ddweud, i gwrdd â chi a Llywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl i drafod sut y byddan nhw'n gweithredu'r argymhellion, oherwydd os byddan nhw'n gwrthod gwneud hynny, fe fyddai hynny'n brawf eto nad yw San Steffan byth yn gweithio i Gymru. Ond Gweinidog, rwyf i am orffen drwy ofyn i chi: pa mor hyderus ydych chi y bydd Llywodraeth y DU yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, a pha gynlluniau wrth gefn sydd gennych chi y gallwch eu rhoi ar waith os nad ydyw San Steffan yn awyddus i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r argymhellion hyn?
A gaf i ddiolch i Delyth Jewell am ei chwestiynau hi? Rwy'n hynod o falch yn wir fod croeso wedi bod i adroddiad Arglwydd Burns gan y llefarydd a chan Blaid Cymru. Yn amlwg, pan edrychwn ni yn ôl ar y dadleuon a gynhaliwyd droeon yn y Siambr ynghylch y cynigion ar gyfer ffordd liniaru, fe gefnogodd rhai pleidiau'r llwybr glas, fe gefnogodd pleidiau eraill y llwybr du. Rwyf i'n gobeithio nawr, Llywydd, y bydd pob plaid yn cefnogi llwybr Burns ar gyfer lleddfu tagfeydd ar yr M4, sy'n cynnig dewis amgen dichonadwy a chynaliadwy yn hytrach na defnyddio ceir preifat ar lwybr sy'n llawn tagfeydd ar amseroedd brig. Ac rwy'n credu bod Delyth Jewell yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at yr angen i ni naill ai godi un lefel gwirioneddol yn uwch o ran buddsoddi mewn rheilffyrdd neu, ac yn ddelfrydol, gael cyfrifoldebau datganoledig ar gyfer seilwaith rheilffyrdd a model ariannu teg ar ei gyfer a allai fod yn seiliedig ar fethodoleg ariannu'r Alban.
Nawr, o ran y gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd gan Syr Peter Hendy—ac mae hwnnw'n waith pwysig iawn, oherwydd mae'n cynnig cyfrwng ar gyfer hyrwyddo argymhellion Burns i Lywodraeth y DU—rwyf i wedi cyfarfod â Syr Peter Hendy eisoes. Rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod adroddiad Burns yn cael ei ystyried yn ofalus ganddo ef yn rhan o adolygiad cysylltedd yr undeb. Ac mae Delyth Jewell yn llygad ei lle i dynnu sylw at y symiau cymharol fach o fuddsoddiad y byddai eu hangen gan Lywodraeth y DU i gyflawni argymhellion Burns yn llawn, yr amcangyfrifir eu bod rhwng £390 miliwn a £540 miliwn, ar gyfer meysydd cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn unig. Mae hynny, wrth gwrs, yn ymwneud â'r seilwaith rheilffyrdd. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â'r tangyllido hanesyddol sydd wedi bod yn digwydd am nifer o flynyddoedd—ac nid pwynt gwleidyddol pleidiol yw hwn, ond tynnu sylw at ffaith—drwy Lyfr Gwyrdd y Trysorlys, mae ardaloedd y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr wedi bod dan anfantais ers degawdau ar ddegawdau hyd at rywbeth tebyg i £2.1 biliwn rhwng 2000 a 2030.
Felly, mae yma gyfle gyda'r adolygiad o'r Llyfr Gwyrdd, gydag adolygiad cysylltedd yr undeb, gyda phenderfyniad cyhoeddus Llywodraeth y DU i godi lefel yn uwch, iddyn nhw ddefnyddio adroddiad Burns yn gyfle cyntaf efallai i fuddsoddi y tu allan i'r de-ddwyrain mewn ffordd sy'n decach ac yn fwy cyfiawn ac, wrth wneud hynny, i ddatrys y broblem yn ne-ddwyrain Cymru sydd wedi bod gyda ni ers degawdau. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU eisoes. Fel y dywedais, rwyf wedi cyfarfod â Syr Peter Hendy hefyd. Rwy'n synhwyro bod diddordeb mawr iawn yn argymhellion Arglwydd Burns, a pharodrwydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru i weithredu nid yn unig ar yr atebion i'r tymor byr a'r tymor canolig, ond yr atebion i'r tymor hwy. Yn y pen draw, parodrwydd Llywodraeth y DU i godi lefel yn uwch, a pharodrwydd i fuddsoddi mewn ffordd sy'n mynd yn groes i gyfyngiadau traddodiadol Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, fydd yn pennu pa mor llwyddiannus y gall argymhellion Arglwydd Burns fod. Ond rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn eu croesawu yn hytrach na'u gwrthod nhw.
Diolch i chi am eich datganiad chi heddiw, Gweinidog. Mae adroddiad comisiwn Burns yn rhoi amlinelliad o'r sefyllfa yng Nghasnewydd fel un o dagfeydd a llygredd. Mae hynny'n hawdd i'w adnabod i'r rhai ohonom ni sy'n byw yma ac yn teimlo effaith yr M4 sy'n llifo drwy ganol ein dinas ni. Ers llawer gormod o amser, mae Casnewydd a'r cyffiniau wedi gweld dewisiadau gwael o ran trafnidiaeth gyhoeddus.. Mae'r cynlluniau a amlinellwyd gan Burns yn bendant yn gyffrous i Gasnewydd, ac fe fyddan nhw'n trawsnewid ein system drafnidiaeth gyhoeddus ni yn wasanaeth sy'n addas i'r diben, yn gynaliadwy ac yn gyfeillgar â chymudwyr.
Fe fydd cynnydd dramatig yn nifer y trenau sy'n defnyddio'r lleiniau rhyddhad presennol, gyda nifer o orsafoedd ychwanegol ar draws y ddinas mewn ardaloedd fel Maesglas a Pharc Tredegar, ynghyd â chysylltiadau deniadol, sy'n gweithio ac yn integredig â Chaerdydd a Bryste—mae i'w groesawu yn fawr. Mae hon yn system y profwyd ei bod hi'n gweithio mewn dinasoedd ledled y byd, ac fe all hi weithio yn y fan hon. Hon yw'r system drafnidiaeth gyhoeddus y mae Casnewydd yn ei haeddu. Fel y gŵyr y Gweinidog, ers gwneud y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r ffordd, rwyf i wedi galw drwy'r amser ar y Prif Weinidog ac yntau fod yn rhaid dod o hyd i ateb. Nid yw gwneud dim byd yn ddewis. Rydym ni, yng Nghasnewydd, wedi bod yn y fan hon o'r blaen. Mae angen gwneud cynnydd, ac mae angen gwneud hynny ar fyrder. Yr hyn sy'n allweddol i'w lwyddiant yw gwireddu'r weledigaeth. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r amserlen gyntaf? Pryd ydym ni'n mynd i ddechrau gweld newidiadau gwirioneddol a fydd yn dechrau gwneud gwahaniaeth?
Fe fydd neilltuo ardaloedd ar gyrion dinasoedd ar gyfer dewisiadau amgen i yrru ceir yn hanfodol i lwyddiant cyffredinol y datrysiad. Er fy mod i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ailsefydlu'r cyswllt rheilffordd hanesyddol rhwng Glynebwy a Chasnewydd, rwyf i wedi bod yn ymgyrchu am hynny ers amser maith, ac mae angen inni weld hynny'n digwydd. Mae Casnewydd wedi cael ei hanwybyddu ers gormod o amser. Fe allaf i sicrhau'r Gweinidog y byddaf i'n parhau â'm galwadau ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu gorsaf a gwasanaeth rheilffordd yng Nghaerllion. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd ef yn edrych dros y gwaith a wnaed dros y blynyddoedd, a chomisiwn Burns, ynglŷn ag ailsefydlu'r gwasanaeth hwn yng Nghaerllion?
Rwy'n llwyr sylweddoli nad Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y newidiadau hyn, ond rwy'n annog Llywodraethau Cymru a'r DU i fwrw ati. Mae'r adroddiadau yn nwylo'r ddwy Lywodraeth. Ni ellir anwybyddu hynny. Mae angen troi geiriau teg yn weithredoedd. Y cyfan sydd angen inni ei wneud yw bwrw ymlaen â hyn, ac fe wnaf innau'r cyfan a allaf i i'w gefnogi. Mae angen gwireddu hyn.
Wel, a gaf i ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiynau hi ac am ei sylwadau ynglŷn â'r adroddiad a'r problemau hanesyddol sy'n gysylltiedig â'i hetholaeth a'r heriau y mae ei hetholwyr yn eu hwynebu bob dydd? Mae Jayne Bryant wedi bod yn dadlau yn gryf dros fuddsoddi mwy yng nghymuned Casnewydd a'r cylch, ac rwy'n croesawu ei chyfraniad hi heddiw'n fawr iawn. Mae'n rhaid imi ddweud bod Arglwydd Burns, mewn cyfnod byr iawn, wedi saernïo gweledigaeth o drafnidiaeth integredig ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer y de-ddwyrain, a'n penderfyniad ni nawr yw symud ymlaen i weithredu'r argymhellion ar yr un cyflymder. Mae hynny'n ofynnol ar gyfer diwallu anghenion a gofynion a dyheadau a gobeithion y bobl sy'n byw yn etholaeth Jayne Bryant a'r bobl hynny sy'n byw ledled rhanbarth y de-ddwyrain.
Nawr, o ran rhai o'r heriau a wynebodd Arglwydd Burns yn ystod ei waith ef, un ohonyn nhw oedd y dybiaeth a amlinellais i ychydig amser yn ôl, fod y rhan fwyaf o'r tagfeydd yn cael eu hachosi gan deithiau lleol. Nid yw hynny'n wir, ac mewn gwirionedd mae mwy na 90 y cant o'r teithiau ar yr M4 yn deithiau sy'n mynd o un awdurdod lleol i un arall, sy'n amlygu pam mae angen ateb rhanbarthol, ac mai dyna pam mae'n rhaid inni feddwl yn unplyg, yr uned gyflenwi honno, sy'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd, a fydd yn cyfarfod y mis hwn i sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol, pob partner allweddol, yn cydweithio i'r un perwyl. Ac o ran rhai o'r enillion cynnar, wel, mae Jayne Bryant yn ymwybodol bod rhaglen ddatblygu i wella prif lein de Cymru ar y gweill eisoes, ein bod ni'n datblygu'r coridorau beicio bws a chymudwyr cyflym eisoes, bod treialon yn cael eu cynnal ynghylch gwasanaethau bysiau cyflym a dewisiadau amgen i wasanaethau traddodiadol, ein bod ni'n ystyried coridorau beicio i gymudwyr hefyd, ac yn ogystal â hynny, wrth gwrs, mae'r gwaith hwnnw ynglŷn â datblygiad cyfnewidfa canol dinas Casnewydd yn cael ei wneud ar garlam.
Nawr, o ran gwaith cynnar hefyd, fe fydd cynlluniau teithio i'r gweithle yn cael eu gwneud i liniaru tagfeydd ar yr M4. Ac o ran gwasanaeth Glynebwy a chynyddu amlder y teithiau sydd arno, wel, mae Trafnidiaeth Cymru, fel y gŵyr yr Aelod rwy'n siŵr, wedi datblygu cynnig ar gyfer gwasanaeth ychwanegol dros dro fesul awr i fod ar waith rhwng Pont-y-cymer a Chasnewydd, ac o bosibl y tu hwnt i Gaerloyw, tra byddwn ni'n aros am y gwaith seilwaith na chaiff ei gwblhau tan 2023. Nawr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru i ddatblygu'r cynnig hwn ymhellach a galluogi'r gwasanaeth i fod yn weithredol o'r flwyddyn nesaf a pharhau i redeg hyd nes y gellir cyflwyno'r gwasanaeth llawn, fel y dywedais i, yn 2023. Rydym ni'n ceisio cyflwyno hyn cyn gynted ag y bo modd, a hynny'n amlwg yn amodol ar newidiadau i'r amserlen reolaidd y mae'n rhaid iddynt ddigwydd. Yn amlwg, ar gyfer cynyddu capasiti eto ar reilffordd Glynebwy, fe fydd angen cyllid arnom hefyd oddi wrth Lywodraeth y DU, sy'n gyfrifol am y seilwaith ar reilffordd Glynebwy a phrif reilffordd de Cymru. Ac rydym wedi cyflwyno cais eisoes i gronfa syniadau carlam Adfer Eich Rheilffordd o eiddo Llywodraeth y DU i sicrhau'r cyllid i ddatblygu'r gwaith o ailagor cangen Abertyleri. Felly, rydym ni'n aros am benderfyniad ar y cais arbennig hwnnw.
O ran Caerllion, wel, roeddwn wrth fy modd fod Arglwydd Burns wedi cefnogi ein cynigion hir sefydlog ni i gael gorsaf yng Nghaerllion, ac, wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn i ddatblygu'r gorsafoedd posibl a argymhellodd Arglwydd Burns, rwyf am ofyn i Drafnidiaeth Cymru sicrhau y rhoddir yr ystyriaeth briodol i orsaf newydd yng Nghaerllion. Ond mae'n rhaid imi bwysleisio hefyd y bydd datblygu a gweithredu hyn yn dibynnu ar gefnogaeth ac ymrwymiad gan Network Rail.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Fe hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Arglwydd Burns a'i dîm am yr adroddiad cynhwysfawr hwn ac am yr argymhellion arloesol, yn aml, a gynhwysir ynddo. Mae pob un ohonom ni'n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw'r M4 nid yn unig i'r de-ddwyrain, ond fel mynedfa i'r de i gyd, o gofio bod yr M4 yn cysylltu pob un o dair dinas fawr y rhanbarth. Rydym ni'n ymwybodol hefyd bod angen dybryd am ymateb i'r problemau difrifol oherwydd y tagfeydd yn nhwneli Bryn-glas.
O gofio nad yw ffordd liniaru newydd yn ddewis mwyach, mae'n rhaid inni dderbyn bod yn rhaid dod o hyd i ateb strategol a chyfannol newydd. Rwyf i o'r farn fod y dull a ddefnyddir gan Arglwydd Burns yn ddewis realistig i ffordd newydd, ac wrth galon yr adroddiad mae'r dyhead i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na'r car preifat. Mae awduron yr adroddiad yn credu y bydd hyn yn ysgafnhau'r tagfeydd ym Mryn-glas, o gofio mai ceir, o bell ffordd, yw'r elfen fwyaf yn y problemau o ran tagfeydd. Ond mae'n rhaid inni dderbyn bod hyn yn galw am uno nifer o wahanol foddau trafnidiaeth â'i gilydd, ac mae'n rhaid i'r trosglwyddiad o un modd i'r llall fod yn un llyfn.
I hyn fod yn bosibl, fel y dywed yr adroddiad, mae'n rhaid cael un rhanbarth, un rhwydwaith ac un tocyn. Fe wyddom ni i gyd fod y dechnoleg ar gael i wneud i hyn ddigwydd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n rhaid i hon fod yn flaenoriaeth wrth wireddu'r rhwydwaith trafnidiaeth newydd hwn. A wnaiff y Gweinidog roi amcan inni o unrhyw gynnydd sydd wedi bod i wireddu'r elfen bwysig hon?
I ymdrin â'r argymhellion ynglŷn â rheilffyrdd yn gyntaf, mae'r adroddiad yn nodi'r angen am orsafoedd ychwanegol ar reilffordd liniaru'r de rhwng cyffordd twnnel Hafren a Chasnewydd, ac un arall yn Llaneirwg. A gaf i, yn awr, grybwyll a llongyfarch Grŵp Gweithredu Magwyr ar Reilffyrdd, sydd eisoes wedi datblygu cynlluniau ar gyfer gorsaf ym Magwyr? Eto i gyd, o gofio bod y llinell hon yn parhau i fod dan reolaeth Network Rail, gwaetha'r modd, pa mor hyderus y mae'r Gweinidog, hyd yn oed o ystyried addewidion Chris Grayling ar ôl canslo trydaneiddio'r rheilffordd hyd Abertawe, a datganiad Network Rail bod y materion hyn yn flaenoriaeth, y byddan nhw'n cyflawni a hynny yn ôl yr amserlen a gaiff ei rhagweld? Y datrysiad gorau, wrth gwrs, fyddai i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth o'r lein hon, ac rwy'n annog y Gweinidog i barhau i bwyso am hynny.
Nodir bod bysiau hefyd yn ddarn pwysig o'r jig-so trafnidiaeth. Fe fyddai'r argymhellion manwl o ran rhwydweithiau bysiau, gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio newydd yn ymyl go'n gyfan gwbl. Nid yw trên yn gadael gorsaf Casnewydd bum munud cyn i fws cymudo gyrraedd o'r Coed Duon yn dderbyniol mwyach.
Un o'r dyheadau eraill yn yr adroddiad yw ceisio cael pobl i ystyried y beic yn ddull dewisol o deithio. Rwyf i'n sicr o'r farn fod hyn yn yn bosibl mewn ardaloedd dinesig gyda pharhad ehangu lonydd beicio diogel, er y bydd yn llawer llai hwylus i'r rhai sy'n byw yn ardaloedd y Cymoedd gymudo i'r gwaith. Un ateb posibl i hyn fyddai sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hwylus ar gyfer beiciau a hynny mewn ffordd sydd mor syml a fforddiadwy â phosibl. Fe ellir cyflawni hyn drwy gael parciau beiciau diogel, sy'n cael eu gwarchod, mewn gorsafoedd rheilffordd a bysiau. Fe ddylid cael ardaloedd dynodedig hefyd ar drenau yn arbennig, ond, os oes modd, ar fysiau hefyd, fel y gellid defnyddio'r beic ar y naill ben neu'r llall o'r daith i'r gwaith. A all y Gweinidog ddweud a yw rhai o'r materion hyn yn cael eu hystyried?
Fe ddywedais i ar ddechrau fy nghyflwyniad, Llywydd, fod hwn yn adroddiad cynhwysfawr, ac rwyf i o'r farn ei fod yn amlinellu dull gwirioneddol gyfannol, ond mae llawer o elfennau ynddo y bydd yn rhaid eu hintegreiddio'n llwyr er mwyn iddo weithio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wneud ei rhan i helpu i ariannu'r prosiect uchelgeisiol hwn. Diolch, Llywydd.
Llywydd, a gaf i ddiolch i David Rowlands am ei sylwadau a'i gwestiynau? Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd David am yr adroddiad a'r argymhellion amrywiol sydd ynddo ef yn fawr iawn, a'r angen i Lywodraeth y DU fod â rhan weithredol ac, yn wir, yr angen i wahanol grwpiau, gan gynnwys grŵp gweithredu Magwyr, fod â rhan wrth gynllunio datrysiadau yn y gymuned o ran trafnidiaeth. Fe ddywedais i yn fy natganiad y bydd angen gwneud rhyw gymaint o'r penderfyniadau yn lleol, ac rwy'n credu y bydd gan grwpiau fel grŵp gweithredu Magwyr, yr wyf i wedi cyfarfod â nhw yn y gorffennol, gyda John Griffiths a Jessica Morden, swyddogaeth hollbwysig wrth helpu i gynllunio datrysiadau i'r problemau sy'n wynebu Casnewydd a'r cyffiniau.
Wrth gwrs, mae David Rowlands yn gwneud y pwynt pwysig bod yr M4 yn wythïen allweddol i economi'r de, ond ni all honno fod yn unig wythïen, a bod angen gwythïen trafnidiaeth gyhoeddus i ategu'r M4 ac, yn wir, i gynnig dewis amgen effeithiol i ddefnyddio'r M4, yn enwedig mewn cerbyd preifat. Mae integreiddio, fel y nododd David Rowlands yn briodol, yn hollbwysig. I sicrhau hyn, rydym yn bwriadu sefydlu'r uned gyflenwi honno, rydym wedi ymrwymo i femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda'r awdurdod lleol, ac mae gan Drafnidiaeth Cymru swyddogaeth fwy o ran integreiddio trafnidiaeth bysiau a theithio llesol a rheilffyrdd hefyd. Yn wir, mae Trafnidiaeth Cymru, yn gyfredol eleni, yn cynnal ymarfer mapio mawr o ran darparu gwasanaethau bysiau wrth inni geisio cyflwyno, yn y tymor Seneddol nesaf, ddeddfwriaeth i gymryd mwy o reolaeth dros ddarparu gwasanaethau bysiau fel y gallwn ni eu hintegreiddio nhw'n wirioneddol gyda gwasanaethau rheilffyrdd a darparu seilwaith o ran teithio llesol.
Mae cyflawni o ran datganoli seilwaith a chyllid rheilffyrdd yn eithriadol o bwysig. Rwy'n cytuno'n llwyr â David Rowlands mai'r ateb delfrydol i hyn fyddai datganoli seilwaith rheilffyrdd a'r cyllid teg i gyd-fynd â hynny. Yn absenoldeb y parodrwydd i wneud hynny, rydym y disgwyl i adolygiad cysylltedd yr undeb ac adolygiad Williams gynnig cyfryngau i Lywodraeth y DU gyflawni ar agenda codi lefel sy'n gofyn am fuddsoddiad ychwanegol a sylweddol yng Nghymru, yn enwedig o ran uwchraddio prif leiniau, yn y de ac yn y gogledd.
Rwy'n credu bod David Rowlands yn gywir hefyd i amlinellu pwysigrwydd hygyrchedd o ran datrysiadau trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig o ran sicrhau eu bod nhw â chysylltiadau addas â seilwaith teithio llesol. Rwy'n falch o ddweud fod yna arwydd eglur iawn yn deillio o'r adolygiad. Pe caiff yr holl argymhellion eu cyflawni a'u gweithredu yn gymwys, fe fyddai 90 y cant o bobl y rhanbarth yn byw o fewn un filltir yn unig i goridor bysiau neu ganolfan reilffordd. Fe fyddai hwnnw'n newid enfawr o ran cyflwyno hygyrchedd llawn i boblogaeth y de-ddwyrain, ac, wrth gwrs, fe wyddom y gall y filltir olaf honno fod yn hanfodol bwysig o ran annog pobl i ymgymryd â theithio llesol er mwyn eu hiechyd a'u lles nhw. Felly, rwy'n croesawu'r pwynt a wnaeth David Rowlands ynghylch hygyrchedd yn fawr iawn.
Ac, yn olaf, rwy'n cytuno â'i bwynt ef hefyd fod angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio'n agos iawn â'i gilydd i gyflawni ar adroddiad ac argymhellion Burns, ac rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU.
Wel, Gweinidog, cytunaf â'r Aelod dros Orllewin Casnewydd fod angen gweithredu arnom ni, nid posibiliadau, oherwydd gwyddom fod hon yn broblem wirioneddol ddifrifol, ac mae llawer o bethau fydd yn mynd â'n sylw, yn enwedig y cwest nodedig i farwolaeth Ella Kissi-Debrah, a allai ganfod mai llygredd aer oedd prif achos ei marwolaeth. Ac mae gennym ni lefelau anghyfreithlon tebyg o lygredd aer yn fy etholaeth i, a dyna pam mae gwir angen inni fwrw ymlaen â darparu dewisiadau amgen difrifol i'r car modur ar gyfer cymudo bob dydd i'r ysgol ac i'r gwaith
Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i lwybr Burns. Rwyf wedi awgrymu ers tro mai un o'r allweddi i liniaru'r tagfeydd hyn ar y ffordd ar hyn o bryd yw'r pedair rheilffordd rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt. Ac, felly, hoffwn ganolbwyntio yn fy sylwadau ynglŷn â sut y cawn ni'r cynnydd hwnnw nawr ar yr agweddau canolog hynny o gynigion Burns. Rwy'n sylweddoli eich bod yn gobeithio y bydd adolygiad syr Peter Hendy o gysylltedd yn rhoi terfyn ar y ffordd gwbl annheg bresennol o ariannu trafnidiaeth ledled y Deyrnas Unedig. Gadewch inni atgoffa ein hunain na fyddwn yn cael dim o'r £2 biliwn sydd i'w fuddsoddi yn HS2, er y bydd yn cael effaith andwyol ar economi Cymru. Ni fyddwn yn cael dim i wella ein rheilffyrdd o hynny, felly mae angen i hynny newid. Ond ni allwn ni aros tan adroddiad Hendy i siarad â Network Rail am yr hyn y gallem ni fod yn ei wneud nawr i ryddhau dwy o'r pedair rheilffordd hynny i sicrhau y gallwn ni wneud cynnydd sylweddol yn barod, gan adeiladu ar Laneirwg a Llanwern a'r gorsafoedd lleol eraill. Oherwydd mae'r sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Julie James ynglŷn â pheidio â chaniatáu i bobl adeiladu tai mewn ardaloedd nad ydynt wedi'u cysylltu yn gynigion hirdymor, ond rwy'n credu bod angen i ni wneud pethau nawr er mwyn sicrhau bod pobl yn sylweddoli ein bod yn gwneud rhywbeth ynghylch (a) y tagfeydd hyn, a (b) yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gael pobl allan o'u ceir. Felly, tybed a allwch chi ddweud pa sgyrsiau yr ydych chi wedi'u cael gyda Network Rail ynglŷn â hyn. Rwy'n sylweddoli bod a wnelo hyn ag arian, ond nid yw o'r un cymhlethdod â cheisio rhyddhau tir i greu llinellau cangen, ac ati.
[Anghlywadwy.]
Allaf i ddim clywed, yn anffodus. Mae ei feicroffon wedi ei dawelu.
Ni allwn ni eich clywed chi, Gweinidog. Rydym ni wedi colli dechrau eich cyfraniad, Gweinidog. A wnewch chi ddechrau eto? Rhowch gynnig arall arni, dywedwch rywbeth.
Allwch chi fy nghlywed i nawr, Llywydd?
Gallwn, fe allwn ni. Ewch ymlaen. Dechreuwch eto.
Diolch. Ymddiheuriadau. Croesawaf yn fawr y datganiad a wnaethpwyd gan Jenny Rathbone, yn enwedig ei sylwadau am fioamrywiaeth ac ansawdd aer. Ar dudalennau 79 ac 80 o'r adroddiad, gwneir rhai datganiadau cryf iawn ynghylch manteision gweithredu'r argymhellion o ran ansawdd aer a bioamrywiaeth, yn enwedig ar dudalen 80, a dyfynnaf:
Byddai ein hargymhellion yn helpu i liniaru'r problemau hyn ac yn cyfrannu at gydymffurfio â'r safonau ansawdd aer yn yr ardaloedd allweddol hynny lle mae lefelau nitrogen deuocsid wedi bod yn ormodol. Ac, wrth gwrs, os ydym ni eisiau hyrwyddo'r newid tuag at fathau eraill o drafnidiaeth, byddem hefyd yn gweld rhai o'r ceunentydd carbon hynny, fel y cyfeirir atyn nhw yn aml, yng Nghaerdydd ei hun, gyda chrynodiadau llai o allyriadau a gronynnau gwenwynig. Ac, felly, mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn cyflwyno achos grymus iawn dros weithredu'r argymhellion, ar sail nid yn unig lliniaru tagfeydd, ond hefyd o ran gwella ansawdd aer.
Ac o ran bioamrywiaeth, unwaith eto, mae paragraff 366, ar dudalen 80, yn nodi:
Nid ydym yn rhagweld y byddai unrhyw un o'n hargymhellion yn amharu ar unrhyw un o'r safleoedd amgylcheddol dynodedig yn y rhanbarth.... I'r gwrthwyneb, dylai lleihau effaith ceir ac allyriadau cerbydau ar yr ardaloedd hyn ddod â manteision i fioamrywiaeth a'r amgylchedd dŵr.
Fy marn i yw bod yr adroddiad yn cyflawni'n dda o'i gymharu â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, o ran y ffyrdd o weithio, o ran yr angen i gydnabod arwyddocâd yr amgylchedd, yr angen i sicrhau ein bod yn gwneud ein cyfraniad llawn at herio'r argyfwng hinsawdd. Ac yn ogystal, mae'r adroddiad hefyd yn cyflwyno sawl dadl rymus iawn o ran mynd i'r afael ag anghyfiawnder cymdeithasol yn y rhanbarth, drwy fuddsoddi mwy mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
O ran y rheilffordd, fel y disgrifiodd Jenny Rathbone—ac mae'n ddisgrifiad addas iawn—mae hyn eisoes wedi'i grybwyll droeon wrth Network Rail. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt, a byddaf yn sôn bod angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn yr argymhellion ar gyfer ei huwchraddio yn ddiweddarach yr wythnos hon, pan fyddaf yn cymryd rhan yn y cyfarfod pedairochrog gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU a chyda chymheiriaid o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Fel y dywedais wrth siaradwyr eraill, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi derbyn yr adroddiad hwn a'r argymhellion gyda diddordeb mawr. Fy mhenderfyniad i yw bod y diddordeb hwnnw'n cael ei droi'n ymrwymiad, ymrwymiad i fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd yn y de-ddwyrain ac i alluogi'r pedair llinell drac hynny i wasanaethu nid yn unig teithiau hir sy'n cysylltu dinasoedd â'i gilydd, ond hefyd gwasanaethau cymudo rhwng Caerdydd, Casnewydd a Bryste.
Mae ein hamser ar ben ar gyfer yr eitem hon. Bydd angen cyfraniadau byrrach arnaf o ddim mwy na munud gan y siaradwyr sy'n weddill, os ydw i am gynnwys pawb sydd wedi gofyn am gael siarad. Nick Ramsay.
Diolch. Wna i ddim cymryd hynny'n bersonol, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi cyfraniad cryno gennyf. Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, a diolch hefyd i'r Arglwydd Burns am y darn gwerthfawr hwn o waith. Nid oes amheuaeth o gwbl fod angen ateb i'r tagfeydd ar hyd coridor yr M4 arnom ni o amgylch Casnewydd, ac, fel y dywedoch chi, buom angen un ers peth amser. A gaf i ddweud, Gweinidog, fy mod yn credu bod yr amser ar gyfer adolygiadau a chomisiynau—er bod croeso iddyn nhw—yn amlwg ar ben nawr, a bod pobl Casnewydd a'r de-ddwyrain eisiau gweld gweithredu argymhellion yr adroddiad hwn cyn gynted â phosib? Felly, a gaf i ofyn ichi wneud hynny?
Mae'r seilwaith bysiau a rheilffyrdd yn y rhan honno o'r byd wedi bod yn is na'r safon ers amser maith, ac yn sicr nid yw'n cyfateb i safon dinas-ranbarth. Felly, a allwch chi ddweud ychydig mwy am sut yr ydych chi'n bwriadu gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, a hefyd i ddatblygu'r system metro? Gwn eich bod, yn y gorffennol, wedi siarad am y posibilrwydd o ganolfan metro yn y Celtic Manor. Gyda Chanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru bellach wedi'i chwblhau, credaf fod nawr yn gyfle da i ailedrych ar hynny, a gweld a allwn ni gael y ganolfan honno, gyda breichiau'n mynd allan tua'r gorllewin i orsaf Casnewydd a hefyd hyd at Drefynwy yn fy etholaeth i, fel y gallwn ni wella'r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus hynny.
Ac yn olaf, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi safbwynt Llywodraeth Cymru o ran ffordd liniaru, ac rwyf hefyd yn sylweddoli bod yr argymhellion hyn yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf braidd yn bryderus, wrth ddatblygu ceir trydan—yn enwedig gyda therfynau amser y Llywodraeth nawr o ran diddymu ceir petrol yn raddol erbyn 2030—y byddwn yn gweld cynnydd mewn ceir trydan, ac mae hynny'n golygu y bydd y ceir yn dal i gael eu defnyddio am flynyddoedd i ddod. Felly, credaf y byddai'n anghywir anghofio am welliannau i goridor presennol yr M4. Oes gennych chi unrhyw gynlluniau i ystyried ffyrdd y gellir gwella'r rhan honno o'r ffordd, efallai y gellid ei throi'n draffordd glyfar? Efallai fod lle i wella yn nhwneli Bryn-glas eu hunain—gwn y bu rhai gwelliannau i oleuadau a gwelliannau i gamerâu dros y misoedd a'r blynyddoedd. Ond rwy'n credu bod angen trafnidiaeth gyhoeddus ac ateb arnom i'r rhan bresennol o'r M4 sy'n ystyried y mater o ran peirianneg, gan gydweithio i geisio gwella'r problemau trafnidiaeth yn y de-ddwyrain.
A gaf i ddiolch i Nick Ramsay am ei gyfraniad ac am y cwestiynau a gododd? Byddwn yn cytuno â'i sylw olaf na allwn ni ystyried yr ateb trafnidiaeth gyhoeddus ar ei ben ei hun, ond rhaid i ni hefyd gydnabod bod angen ymyraethau ar yr M4 ei hun. A dyna pam, yn y gyfres gyntaf o argymhellion, yr argymhellodd yr Arglwydd Burns nifer fach o'r hyn a ddisgrifiwyd fel 'enillion cyflym', i geisio gwella llif y traffig ar hyd yr M4, ac roedd hynny'n cynnwys arwyddion ychwanegol, er enghraifft. Hoffem flaenoriaethu ein buddsoddiad mewn ffyrdd drwy gynnal yr ased, sy'n un sylweddol iawn ledled Cymru, sy'n werth tua £17 biliwn. Mae heriau o ran traffyrdd clyfar. Ni fyddwn i byth yn diystyru datblygu traffordd o'r fath, ond rhaid inni ddysgu o rai o'r damweiniau ofnadwy, ofnadwy sydd wedi digwydd yn Lloegr wrth ddatblygu'r cylch cynnar o draffyrdd clyfar. Collwyd bywydau o ganlyniad i'r ymyrraeth benodol honno. Felly, mae'r defnydd o arwyddion digidol, defnyddio gwybodaeth fyw am draffig, defnyddio systemau monitro o bell i gyd yn dda iawn, ond rhaid i ddiogelwch ddod yn gyntaf—diogelwch y cyhoedd sy'n teithio. Ac, felly, er fy mod yn parhau i fod yn agored iawn i ddefnyddio technoleg uwch i sicrhau bod traffig yn llifo'n esmwyth, ni fyddwn eisiau dilyn yr hyn a ddigwyddodd yng nghamau cynnar datblygu traffyrdd clyfar yn Lloegr, lle collwyd bywydau, yn anffodus.
Gallai ceir trydan, fel y dywedodd Nick Ramsay, arwain at gyfaint tebyg o draffig ar hyn o bryd. Wrth gwrs, mae technoleg uwch sy'n destun ymchwil ynghylch cerbydau sy'n gyrru eu hunain a allai, yn y dyfodol, ymhell yn y dyfodol, arwain at gerbydau sydd angen llai o le o bosibl. Yn y gyfres gyntaf o gerbydau sy'n gyrru eu hunain mae'n debygol y byddai angen mwy o le arnyn nhw. Ond, wrth gwrs, ein prif bryder yw sicrhau, drwy gyflawni argymhellion Burns, ein bod yn cynnig dewis amgen i ddibynnu ar y car, a'n bod yn darparu dewis arall sy'n gost-effeithiol, a bod hynny'n gynaliadwy a bod hynny'n hygyrch.
A chredaf, o ran yr adroddiad, fod pobl yng Nghasnewydd a'r tu allan iddi, ac ar draws y de-ddwyrain, yn eithaf sicr mai'r adroddiad yw'r ateb i'r broblem hon sydd wedi ein herio ers degawdau lawer. Ac, wrth gwrs, mae Nick Ramsay yn gywir y bydd defnyddio gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd ei hun yn eithriadol o bwysig. Rydym ni eisoes wedi arbrofi gyda'r gwasanaeth Fflecsi, yn hytrach na gwasanaethau traddodiadol wedi eu hamserlennu. Mae'r adroddiad ei hun yn amlinellu argymhellion sy'n ymwneud ag integreiddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus â'r ddarpariaeth o deithio llesol, ac rydym yn awyddus i sicrhau y caiff y gwaith ei ddatblygu mor gyflym â phosib, gan weithio drwy'r uned gyflenwi sydd wedi'i sefydlu ac, wrth gwrs, sicrhau ein bod yn parhau i ddefnyddio technoleg uwch, wrth iddi ddatblygu ac wrth iddi ddod i'r amlwg, i wella'r ddarpariaeth o drafnidiaeth gyhoeddus a pha mor rhwydd yw ei defnyddio.
Croesawaf yn fawr eich datganiad heddiw, Gweinidog, a gwaith y comisiwn ar gyfer y system drafnidiaeth integredig, hygyrch a chynaliadwy hon ar gyfer Casnewydd a'r cyffiniau. Mae wedi bod yn hirddisgwyliedig ac mae'n rhaid i ni nawr ei wireddu. Mae'r uned gyflawni yn hanfodol i hyn, Gweinidog, ac mae'n dda clywed y bydd yn cyfarfod y mis hwn. Tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a fydd gan yr uned gyflawni honno gyllideb benodol, a gaiff ei harwain gan rywun penodol ac a fydd ganddi gylch gwaith wedi'i nodi'n fanylach nag yr ydych chi wedi'i grybwyll heddiw.
O ran bysiau, fel y dywedwch chi, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn rhan bwysig iawn o'r hyn y mae angen inni ei weld yn digwydd yng Nghasnewydd, a byddai unrhyw enillion cynnar ynghylch llwybrau bysiau, coridorau bysiau pwrpasol, yn bwysig iawn. A fyddai'n bosib efallai cael cynllun arbrofol gyda theithio am ddim ar fysiau, a fyddai'n helpu gyda'r hygyrchedd hwnnw ac yn rhoi sylfaen dda iawn i ddefnyddio mwy ar fysiau?
Clywais yr hyn a ddywedoch chi am Fagwyr. Mae'n galonogol iawn, Gweinidog, yn enwedig cynnwys y grŵp wrth gynllunio'r hyn sy'n digwydd. Byddwch yn gwybod eu bod wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd gyda Llywodraeth y DU o ran y gronfa gorsafoedd newydd, a chlywaf yr hyn a ddywedoch chi neu beth sydd yn y datganiad am Laneirwg a Llanwern yn y camau cynllunio. Mae cryn dipyn wedi digwydd eisoes o ran mynd drwy gyfnodau Llywodraeth y DU gyda Magwyr, felly tybed a allech chi ychwanegu hynny at y ddau arall o ran datblygiadau cynnar y gallem eu gweld.
O ran teithio llesol, mae'r datganiad yn dweud bod mwy i'w wneud yng Nghasnewydd, sy'n sicr yn wir. Tybed, unwaith eto, pe gallech chi ddweud ychydig mwy am sut y gallem ni gael rhai enillion cynnar o ran teithio llesol. Mae'n rhan mor bwysig a chyffrous o'r agenda gyffredinol, sy'n cyflawni cymaint o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, o ran iechyd a ffitrwydd, yn ogystal â'r manteision trafnidiaeth ac amgylcheddol.
Yn olaf, o ran Glynebwy, hoffwn ategu yr hyn a ddywedodd Jayne Bryant. Rydym ni wedi aros cyhyd i weld cynnydd ar y rheilffordd honno yng Nglynebwy, ac mae pobl yn ddiamynedd iawn, iawn a byddai'n weithred enfawr o ewyllys da pe gellid cyflymu'r broses o sefydlu'r rheilffordd honno i deithwyr.
Diolch i John Griffiths am ei gwestiynau. Bydd yr uned gyflawni honno'n hanfodol bwysig, fel yr amlinellodd John Griffiths, ac mae costau llywodraethu a rhaglenni'n cael eu hystyried ar hyn o bryd. O ran gwasanaethau bysiau yng Nghasnewydd a thu hwnt, mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnal ymarfer mapio ledled Cymru, a bydd hynny'n hysbysu Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru ynghylch lle y gallai fod angen llwybrau a gwasanaethau ychwanegol a mathau newydd o wasanaethau. Wrth gwrs, rydym yn awyddus i sicrhau bod Casnewydd yn cael ei hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer cyflwyno gwasanaethau newydd o'r fath. Bydd integreiddio'n gwbl hanfodol wrth ddarparu atebion trafnidiaeth fforddiadwy i'r cyhoedd. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn datblygu systemau tocynnau sy'n debyg i'r systemau datblygedig iawn sy'n bodoli yn rhannau eraill o'r DU a thu hwnt, gan gynnwys, er enghraifft, yn Lerpwl, lle mae mathau fforddiadwy iawn o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael i'r cyhoedd. Rwy'n gwybod bod grŵp gweithredu Magwyr wedi gweithio'n ddiflino i hyrwyddo gorsaf newydd yn eu cymuned, ac rydym ni yn awyddus i fynd ati i weithio gyda nhw drwy'r broses ddatblygu i sicrhau bod y darn hwnnw o seilwaith ar waith fel yr argymhella'r Arglwydd Burns. Ac o ran teithio llesol, ar dudalen 82 o'r argymhellion, bydd yr Aelodau'n gweld y gallai cyflwyno adroddiad Burns yn gynnar arwain at gyflwyno cynllun llogi beiciau Casnewydd. Byddwn yn croesawu cynllun o'r fath yn fawr, gan y byddai'n rhoi cyfle i bobl logi beiciau yn yr un modd ag y mae dinasoedd eraill ledled Cymru a'r DU wedi'u mwynhau yn ddiweddar.
Hoffwn weld adeiladau ffordd liniaru'r M4 fel yr addawyd, ond canolbwyntiaf yn fy sylwadau ar yr adroddiad. Mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau gwahanol yma drwy'r gyfraith, ond tybed a yw'n ddull gwell i gael tîm prosiect ar y cyd, lle mae'r ddwy ochr yn ariannu hynny ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ateb y cytunwyd arno, fel gyda Crossrail, lle gwelsom yr Adran Drafnidiaeth a Transport for London? Oni ddylem ni edrych ar y model ar y cyd hwnnw yn hytrach na dim ond rhannu cyfrifoldebau? Soniodd y Gweinidog ar y dechrau am y 10 i 50 milltir a Chaerdydd, Casnewydd a Bryste, ac yna dywedodd fod angen ateb rhanbarthol. Ond roedd y sylwadau'n canolbwyntio ar ranbarth de-ddwyrain Cymru. Beth gaiff ei wneud i gysylltu hyn a chael dull sy'n cynnwys y galw i deithio yn ôl a blaen i Fryste o'r rhannau hyn o'r de hefyd? Pan oeddwn yn siarad â Ted Hand a grŵp Magwyr, yr wyf yn eu llongyfarch hefyd, rwyf wedi pwysleisio sut y maen nhw yn ategu'r hyn sy'n digwydd ym mharcffordd Caerdydd, neu Laneirwg, a hefyd yn Llanwern, oherwydd os oes gennych chi dair neu erbyn hyn chwe gorsaf newydd o bosib, yna bydd hynny i gyd yn newid y ffordd y mae trafnidiaeth yn gweithio, ac mae llawer mwy o fudd o gael y rheini i gyd yn hytrach na dim ond un. Ond ar y ffigur o 4.4 yn yr adroddiad, y pedwar trên yr awr sy'n teithio drwy'r chwe gorsaf hynny, ni ddangosir bod yr un ohonyn nhw yn mynd ymlaen i Fryste. Ai dyna sut yn union y cafwyd y ffigur penodol, ynteu a yw hynny'n awgrymu, mewn gwirionedd, na fydd yr un o'r gwasanaethau hynny sy'n aros mewn sawl gorsaf yn gwasanaethu cymudwyr sy'n teithio i Fryste?
A gaf i ddiolch i Mark Reckless a dweud mai'r olaf sy'n gywir? Mae'r gwasanaethau ychwanegol hynny wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r anghenion a'r galw presennol yn ardal dinas Casnewydd. Ond hefyd, fel y mae'r adroddiad yn ei wneud yn glir, o ran y crynodeb, hoffem weld mwy o wasanaethau dros y ffin. Mae llawer o'r adroddiad wedi'i neilltuo mewn gwirionedd i drafnidiaeth drawsffiniol ac mae'n gwneud argymhellion ynghylch darparu gwasanaethau rheilffyrdd yn well rhwng de-ddwyrain Cymru a de-orllewin Lloegr ac, yn wir, i dde-ddwyrain Lloegr. O ran y cynnig ar gyfer tîm prosiect ar y cyd, wel, mae'r uned gyflawni yn dîm prosiect ar y cyd, sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Ond, wrth gwrs, o ystyried y swyddogaeth arwyddocaol y bydd gan Network Rail a Llywodraeth y DU yn hyn o beth, yna byddai hi yn sicr yn bosib iddyn nhw gyfrannu at uned gyflenwi o'r fath i sicrhau y darperir y buddsoddiad hwnnw y mae ei angen ar fyrder o ran seilwaith rheilffyrdd yn y de-ddwyrain cyn gynted â phosib. Felly, byddwn yn croesawu'n fawr petaen nhw'n cyfrannu yn gynnar at uned o'r fath, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn dwyn sylw'r Gweinidogion ato eto yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Arglwydd Burns a'r comisiwn ac i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mae'r Gweinidog, wrth ateb y cwestiynau, wedi cyfeirio at ddatblygiadau ar reilffordd cwm Ebwy, ac yn enwedig seilwaith newydd yn Abertyleri a'r cyffiniau. Byddwn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf yn amlinellu beth yn union yw'r buddsoddiadau hynny a pha fath o ymrwymiad y mae'n ei weld yn y datblygiadau hynny dros y blynyddoedd nesaf.
Ond y sylw yr hoffwn ei wneud yn y cyfraniad hwn y prynhawn yma yw pwysigrwydd y dull rhanbarthol ehangach hwnnw. Mae'r ddadl ynghylch yr M4 wedi canolbwyntio'n ormodol ar ardal denau iawn ar draws coridor yr M4 ei hun, neu'r 5 km i'r gogledd ohono. Yr hyn yr hoffai llawer ohonom ni ei weld—ac mae hwn yn un peth yr oeddwn yn falch iawn o'i weld yn yr adroddiad—yr ymagwedd ranbarthol ehangach honno, fel bod pobl sy'n dymuno teithio i Gasnewydd, neu drwy Gasnewydd i Gaerdydd, yn gallu gwneud hynny, a gwneud hynny gyda dewis o wasanaethau trafnidiaeth ar gael iddyn nhw, fel bod gennych y rheilffordd sy'n darparu'r cyswllt o Flaenau'r Cymoedd i ddinasoedd y de, a hefyd gwasanaethau bysiau a fydd yn gwasanaethu cymunedau ar draws de-ddwyrain y wlad.
Y sylw olaf y byddwn yn ei wneud yw hyn: wrth gynllunio gwasanaethau newydd, mae angen inni gadw mewn cof bob amser ddiben y gwasanaethau hyn. Cynlluniwyd rheilffordd cwm Ebwy nid fel gwasanaeth cymudo i ddinasoedd a chymunedau coridor yr M4, ond fel gwasanaeth rhyngdrefol, gan gysylltu Blaenau'r Cymoedd â chanol y ddinas yma. Ac mae perygl bob amser—ac nid wyf yn beio neb am hyn; y byddwn i gyd yn ymgyrchu dros ein hetholaethau ein hunain—wrth inni ychwanegu mwy o arosfannau yn rhan ddeheuol y llwybr hwnnw, ein bod yn arafu'r gwasanaeth ac nad ydym yn ei wneud yn wasanaeth dichonadwy i bobl Blaenau Gwent. Felly, mae'n bwysig, o ran sicrhau ein bod yn datblygu ac yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu cymunedau dwyrain Caerdydd, Casnewydd a'r gweddill, nad ydym yn gwneud hynny ac yn amddifadu pobl Blaenau'r Cymoedd yn anfwriadol o'r gwasanaeth a gynlluniwyd er mwyn cysylltu'r gymuned honno â'r cymunedau yma yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei sylwadau ac am y cwestiynau a holodd? Os caf i, fe roddaf grynodeb o rai o feysydd gwario Llywodraeth Cymru ers 2001 o ran seilwaith rheilffyrdd. Mae rheilffordd Bro Morgannwg yn ailagor, rheilffordd cwm Ebwy yn ailagor, ac mae gorsafoedd newydd yn cael eu datblygu neu eu hadeiladu ar hyn o bryd yn cynnwys Bow Street, tref Ebwy a Pye Corner—mae rhai wedi'u cwblhau, wrth gwrs. Rydym ni wedi buddsoddi mewn trenau amlach ym Merthyr, ac wrth gwrs, rydym ni wrthi yn buddsoddi yn natblygiad gwelliannau rhwng Wrecsam a Chaer ar y lein yn y gogledd. Ac, wrth gwrs, rydym ni yn buddsoddi'n helaeth iawn mewn trawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd. Felly, fel yr amlinellodd Alun Davies, ni ellir amau ein buddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd. Yr hyn y mae arnom ni ei angen nawr yw cyflawni argymhellion Burns, ac, er mwyn cyflawni hynny, buddsoddiad Llywodraeth y DU.
Mae Alun Davies yn llygad ei le bod yn rhaid cael dewisiadau amgen fforddiadwy a deniadol yn lle defnyddio'r car preifat, ac o ran gwneud dewisiadau amgen yn ddeniadol, rhaid iddyn nhw fod yn rheolaidd, rhaid iddyn nhw fod yn gyflym a rhaid iddyn nhw fod yn ddibynadwy. A dyna pam mae'r pedwar trên yr awr ar reilffordd Ebwy yn nod mor bwysig i Lywodraeth Cymru, a dyma pam yr ydym ni mor benderfynol o sicrhau y caiff pedwar trên yr awr eu darparu. Derbyniaf yn llwyr y sylw y dylid lleihau nifer yr arosfannau er mwyn sicrhau bod gwasanaeth yn gyflym ac y gall bobl deithio o A i B mewn llai o amser nag y bydden nhw wrth ddefnyddio eu cerbyd eu hunain, ond, yn amlwg, mae'r cydbwysedd hwnnw y mae angen ei gyflawni hefyd o ran sicrhau bod gan bobl ar draws rhanbarth cyfan drafnidiaeth gyhoeddus sy'n hygyrch iddyn nhw, a'n bod yn gallu derbyn digon o arian drwy werthu tocynnau er mwyn gwneud y gwasanaethau hynny'n gynaliadwy.
O ran y gwelliannau yng Nglynebwy sy'n ofynnol, yn amlwg, i ddarparu pedwar trên yr awr, bydd angen buddsoddiad eithaf sylweddol gan Network Rail, ond rydym ni yn gweithio tuag at sicrhau y gall hynny ddigwydd. Oherwydd bod pobl yn rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig a phellennig yng Nghymru, fel yn y DU gyfan, wedi cael eu gwasanaethu'n wael gan fuddsoddiad rheilffyrdd, y tu allan i dde-ddwyrain Lloegr, yn rhy hir o lawer. Mae angen mynd i'r afael â hynny fel rhan o'r agenda gydraddoldeb ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog. Yr eitem nesaf, felly, yw'r toriad. Fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr tra bod newidiadau yn cael eu gwneud yn y Siambr. Felly, byddwn ni nôl mewn ychydig funudau.